John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Cystudd a Marwolaeth
| ← Gweithiau—Oriau Haf | John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith gan Isaac Foulkes |
→ |
Cystudd a marwolaeth
Yr oedd ei enw fel beirniad ar restr testynau Eisteddfod Genedlaethol Llundain, y flwyddyn hon; ond efe, "o flaen yr wyl fel hyn 'raeth"; a phenodwyd Gwyneddon i gyflawni y gwaith yn ei le.
Cyn terfynu ein hymgais i ddodi ar gôf a chadw yr hyn a wyddem oddiar 29ain mlynedd o gydnabyddiaeth, ac a feddyliem yn onest am Ceiriog fel dyn a bardd, dylem wneud ychydig sylwadau yn rhagor ar ei Ganeuon, gan mai fel awdwr y cyfryw geinion, mae'n ddiau, yr adwaenir ef oreu yn y dyfodol, ac y cofir ac yr anwylir ei enw hwyaf. Y mae tua thri chant ohonynt yn y chwe' llyfr a gyhoeddodd; ac o'r nifer hwnw tros gant wedi eu cyfansoddi ar gyfer hen Alawon Cymreig.
Nid ydym yma wedi cyfrif yr haner cant caneuon a gyfansoddodd i Mr. B. Richards, ar gyfer y Songs of Wales, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1873-dair blynedd ar ol ei lyfr olaf ef ar wahan. Y mae yn mysg y rhai hyny ganeuon odiaeth o dlysion, megys, yr un ganlynol ar y dôn Gogerddan:—
"I B'las Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef;
Dos yn dy ol i faes y gâd,
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It' golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorph y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.
"I'r neuadd dos ac yno gwel
Arluniau'r Prysiaid pur;
Mae tân yn llygad llym pob un
Yn goleu ar y mur:
"Nid fi yw'r mab anmharcha'i fam
Ac enw tŷ ei dad;
Cusenwch fi, fy mam," medd ef,
Ac aeth yn ol i'r gâd.
Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, "O fy mab! fy mab!
O, maddeu im' O Dduw!"
Ar hyn atebai llais o'r mur:-
"Trwy Gymru tra rhêd dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr,
Na byw yn fachgen llwfr!"
Gan nad oedd efe yn gerddor yn ystyr fanylaf y gair, a bod llawer o'r tonau yn hen a dyeithr, costiodd ei ganeuon drafferth ddirfawr iddo, fel y tystia ef ei hun fwy nag unwaith. Yr oedd yn rhaid cyfaddasu y geiriau i gywair a natur y dôn; ac os gofynai hi yn ei henw am rhyw destyn neillduol yn gydmar cymhwys iddi, rhaid oedd i'r bardd eu huno mewn glân briodas; os amgen rhaid fyddai iddo chwilota am destyn arall. Ceir engraifft o'i ffawd neillduol yn y modd cyntaf yn y dull hapus yr unodd ei gân brydferth â'r hen alaw "Bugeilio'r Gwenith Gwyn," ac o'i ddawn a'i hapusrwydd yn y cyfwng olaf pan yn cyfansoddi yr "Eneth Ddall," a "Dringo'r Wyddfa," ar gyfer yr hen alaw leddf, gwynfanus, Toriad y Dydd. Yn y naill amgylchiad a'r llall, pâr i ni gofio am Gwydion ab Don yn llunio gwraig i Lew Llaw Gyffes o flodeu tecaf y coed, y maes, a'r ardd.
Y mae rhai o'r alawon yn sionc a digrifol, eraill yn alarus; rhai yn oddaith o yspryd rhyfel, rhai yn addfwyn fel chwibanogl bugail, tra eraill yn cwynfanu traserch fel y durtur. Trefnu geiriau ar gân a mydr ganadwy ydoedd gorchest y gwaith hwn; ac efe a lwyddodd y tu hwnt i'r un bardd Cymraeg arall a fu o'i flaen, neu a ddaw, ofnwn, ar ei ol Cyffelyb gymwynas ag a wnaeth Moore a Burns i gerddoriaeth genedlaethol Iwerddon a Scotland a wnaeth Ceiriog yntau i'r eiddo Cymru. P'run oedd y goreu o'r tri? meddai rhywun. Wel, ac imi ateb fel Cymro, Ceiriog o ddigon. A pha Gymro bynag a ddywed yn amgen, naill ai ni chollodd ddeigryn erioed uwchben barddoniaeth, neu ni ddarllenodd erioed waith y tri bardd godidog,
Cawn ganddo hefyd tua 25 o ganeuon yn perthyn i'r dosbarth a elwir yn gysegredig. Cyfansoddodd y rhai hyn yn benaf ar gais ac at wasanaeth Ieuan Gwyllt ac Owain Alaw; ac y mae o leiaf un ohonynt yn dwyn nodau yr eneiniad hwnw sydd ar yr emyn a wthia ei hun bob amser i gof a serch y bobl, sef yw hono, "'Rwy'n llefain o'r anialwch," &c.
Am y rhelyw o'i Ganeuon, y maent wedi eu priodi bron i gyd hefo miwsig gan yr offeiriaid cerddorol canlynol:
J. D. JONES, Rhuthyn.
OWAIN ALAW.
GWILYM GWENT.
D. LEWIS, Llanrhystyd.
ALAW DDU.
J. THOMAS (Pencerdd Gwalia),
Telynor ei Mawrhydi.
BRINLEY RICHARDS.
Dr. JOSEPH PARRY. Mus. Doc.
D. EMLYN EVANS.
JOHN THOMAS, Llanwrtyd.
EDWARD STEPHEN.
IEUAN GWYllt.
D. JENKINS, Mus. Bac.
R. S. HUGHES.
JOHN HENRY.
Ac un o leiaf ohonynt gan Alaw Trevor, Gomer Powell, Ellis Roberts (Eos Meirion), a D. S. Parry, Llanrwst, yr olaf mor ddiweddar ag Eisteddfod Llundain. Fe welir mai ychydig o'i blant caneuol ef sydd yn ddibriod.
Ac yn awr, er mwyn cylymu y ddolen gyntaf yn y dalaith o fythwyrddion y buom yn ceisio ei gwau a'i dodi am arleisiau teilwng y bardd clodfawr, ni a ail-ddywedwn yma yr hyn a welir yn tudal. 5:— "Ei ymddangosiad cyhoeddus olaf oedd yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, ddydd Iau, Tachwedd 11, 1886, pan y cymerodd ran yn y cynulliad brwdfrydig i ddathlu cyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn sicr oedd arwr y cyfarfod hwnw. Mynodd y dorf ei gael i ffrynt y llwyfan, a rhoddi iddo groesaw teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu gwlad; a chroesaw ydoedd na chafodd yr un bardd Cymreig erioed o'r blaen, hyd y gwyddom, ei debyg."
Yr oedd yn amlwg y pryd hwnw fod rhyw afiechyd cyndyn wedi cymeryd gafael yn ei gyfansoddiad cadarn; er fod cyfarfod cynifer o'i hen gyfeillion yn ei sirioli am y tro, edrychai yn swrth, blinedig, a dwysfyfyriol. Lletyai tua 25 o lenorion, o Ddehau a Gogledd, yn yr un gwesty ag ef; ac yn ol arfer y frawdoliaeth hono, cynalient bob nos fath o noswaith lawen, i siarad ac ymgomio am farddas eu gwlad; ond efe, mor wahanol i'w arferiad, a giliai yn gynar i'w wely, gan ddewis gorphwysdra yn hytrach nag hyd yn nod gymdeithas ei gyfeillion llenorol—yr hon oedd mor amheuthyn ganddo. Ar ei gais, cysgem ein dau yn yr un ystafell; ac nid oedd Clwydfardd a Gwilym Eryri yn nepell. Penderfynodd ddychwelyd gyda'r trên oedd yn gadael Gorsaf Euston rhwng unarddeg a haner, nos Wener. Ceisiais fy ngoreu ei gymhell i aros tan dranoeth, gan y buasai'r daith yn fwy cysurus iddo yn y dydd nag yn yr oriau trymaidd hyny. Pa fodd bynag, adref y mynai fyned. Aethum i'w hebrwng i'r Orsaf; ac ychydig feddyliwn pan yn ysgwyd llaw âg ef wrth ymadael, ac y dywedai, "Rhaid i mi fyned y mae genych chwi ragor i'w wneud yma,' mor awgrymiadol oedd ei eiriau, ac mai dyna y tro diweddaf y gwelwn ef ac y clywn ei lais.
Dychwelodd adref i fynwes ei deulu yn ddyogel; a dychwelodd yr afiechyd gydag ef, gan enill nerth a gafael arno o ddydd i ddydd. Cafodd gystudd maith a phoenus. Gweinyddid arno yn ddyfal a gofalus gan ddwylaw tyner ei briod hoff a'i ddwy ferch. Ceisiwyd cymhorth y meddygon goreu; a daeth y meddyg enwog, Syr Wm. Roberts, yr holl ffordd ac yn un swydd o Fanchester i Gaersws i'w weled. Ond ni thyciai dim. Yr oedd ei afiechyd o natur ddyrys iawn, yn codi i ddechreu oddiar ryw anhwyldeb yn yr afu (liver), ac wedi cael ei ben yn mlaen cyn i neb dybied fod perygl. Treuliodd ei ddeufis olaf megys yn y "porth," ystafell ddifrif cystudd, a'i boenau ar brydiau yn arteithiol. Ond hyd yn nod yn ystod yr amser hwn, deuai ei hen serch at ganu. Un diwrnod, galwodd yr hen delynor, Roberts o'r Drefnewydd, a'i fab, i edrych am dano; a gofynodd iddynt chwareu ei hoff hen alaw, "Toriad y Dydd," ac un arall o'i anwyliaid, "Home, sweet home," tra yr ymunai ei ddwy ferch yntau ar y berdoneg a'r crwth. Felly fu; ac ymddangosai wrth fodd ei galon yn gwrando arnynt. Dyma'r tro olaf iddo glywed acenion yr offeryn a ganmolodd gymaint, ac a garai mor fawr, "Telyn fy Ngwlad;" ac felly, yn ei eiriau am Ddafydd y Garreg Wen, "Roedd pob tant yn chwareu'i ffarweliad ei hun."
Tystiolaetha pawb yn unfryd iddo oddef ei gystudd trwm a hirfaith fel Cristion ffyddiog, yn gyflawn amynedd a gostyngedig barch i'r Drefn Fawr. Yr oedd hyn yn galettach gorchwyl i ddyn o'i anianawd ef, pan gofion mor hoff o natur ydoedd, ac mor anhawdd oedd ymadael â'r ddaear hawddgar hon yn ngwanwyn y flwyddyn pan ddisgynai cân y gog a phrydyddion y dail ar ei glust, a phan oedd dolydd yr Hafren yn glasu i fywyd gerbron ei lygaid—ac y gorfodid ef i ymsynio, "'Rwyf fi yn dechreu marw, a chwithau'n dechreu byw." Ond yn ymostyngar, yn yspryd yr ymadrodd, "Gwneler Dy ewyllys," ac yn y gobaith gwynfydedig fod byd ar ol hwn, lle y mae prydferthwch, purdeb a daioni yn cartrefu, ehedodd ei enaid i'w helfen ei hun, ddydd Sadwrn, Ebrill 23, 1887.
Gan fod adroddiad mor gryno a destlus wedi ymddangos am yr angladd yn Gwalia, am Mai 4, nis gallwn wneud dim gwell na'i ddyfynu:
CYMERODD claddedigaeth y bardd enwog a chlodfawredig John Ceiriog Hughes le am haner awr wedi dau o'r gloch brydnawn ddydd Mawrth diweddaf, yn mynwent Llanwnog, sir Drefaldwyn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. D. Parry, M.A., ficer y plwyf. Yr oedd trefn y claddedigaeth fel y canlyn:-Cyfeillion a chymydogion, yr elor-gerbyd, galar-gerbydau, perthynasau. Wedi cyrhaedd eglwys Llanwnog, yr hon sydd tua dwy filldir o Gaersws, chwareuwyd anthem briodol ar yr amgylchiad gan Mrs. Arthur Hickman. Darllenodd y ficer y gwasanaeth agoriadol yn Saesneg, a'r Parch. J. Hughes, y curad, a ddarllenodd I COR. xv. yn Nghymraeg. Wrth y bedd gwasanaethwyd yn Saesneg gan y ficer. Yr oedd yr arch yn un hardd iawn, wedi ei gwneud o dderw cadarn, caboledig, ac ynddi hi y gollyngwyd y bardd mawr a'r cyfaill diragrith i'r bedd. Yr oedd nifer fawr o goron-blethi ar yr arch wedi eu gwneud i fyny yn gywrain o'r blodau prydferth y canodd Ceiriog mor anwyl am danynt. Dyma y cyfan a dorwyd ar gauad yr arch:-"John Ceiriog Hughes. Bu farw Ebrill y 23ain, 1887. Oed 54ain.' Yr oedd Cymdeithas y Cymrodorion, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Rhyddseiri yn cael eu cynrychioli yn yr angladd. Derbyniwyd pellebron a llythyrau yn amlygu eu cydymdeimlad â'r teulu, a'u gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol, oddiwrth Mri. Stuart Rendel, A.S., D. Davies, Llandinam; D. Evans, M.R.C.V.S., Haverfordwest; P. W. Corrigan, Cymdeithas Freiniol Dublin; T. Marchant Williams., B.A.; Stephen Evans, Llundain; E. Rowley Morris, Llundain; W. Cadwaladr Davies, Bangor, &c.
Ar y cyntaf, dymunai yn ei ewyllys gael ei gladdu yn ymyl ei rieni yn mynwent Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac i'r "angladd fod yn un preifat." Ewyllysiai hefyd, "Gwell genyf wasanaeth Eglwys Loegr; a dymunaf yn mhellach, ar fod caniatad yr awdurdodau priodol yn cael ei ofyn i blanu ywen Wyddelig wrth ben fy medd." Yn ddiweddarach, newidiodd y dymuniad blaenaf, gan ddewis yn hytrach gael gorwedd yn mynwent y plwyf y treuliasai ei flynyddau olaf ynddo—Llanwnog. Saif y Llan bychan prydferth ddwy filldir o Gaersws, ac mewn cwm bychan, neillduedig, yn ngwaelod gallt fawr o goed, a elwir 'Glyn Mytton.' Adgyweiriwyd yr adeilad tua 25ain mlynedd yn ol, ond cadwyd yr hen oriel dderw a ddefnyddid gynt fel côr ganu, a dodwyd hi yn ol ar draws yr eglwys rhwng y darllenfa a'r ganghell. Pan ymwelsom â'r lle fore y Sul diweddaf yn Awst, ni chlywsom fawr erioed mewn eglwys fechan wladaidd ganu melysach na phregeth amgenach. Ac islaw yr eglwys mae'r bedd hwnw a dyn ddynion ato am ganrifoedd lawer; y llecyn wedi ei dewis ar y fynwent, fel os gwel goroeswyr y bardd yn dda godi colofn i ddynodi y fan, gall ymdeithwyr ar linell y Cambrian ei gweled wrth fyned heibio. A dianmheu o hyn allan y bydd llawer Cymro wrth drafaelu heibio Caersws yn dodi ei ben allan o'r trên er mwyn cael golwg ar y "tŷ lle bu farw Ceiriog," ar y naill ochr; ac ar "Lanwnog, anenwog hyd yn hyn," fel man sydd yn cynwys llwch "prif-fardd telynegol y Cymry," ac un a dreuliodd ei fywyd i'w difyru, eu dyddanu, eu haddysgu a'u lleshau.
Yn ei gystudd diweddaf, cyfansoddodd yr englyn canlynol, gan ei fwriadu, meddir, yn feddargraff iddo ei hun:
Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol:
Dyma ei lwch, a dim lol.
Clywsom aml un yn gofyn, "Tybed mai Ceiriog a'i gwnaeth? tybed mai yn ei gystudd y gwnaeth ef? ac ai tybed y bwriadai ef yn feddargraff iddo ei hun?" Pa'm? meddwn. Y mae'n wir i gyd; a'r dymuniad ar y diwedd yn gwbl gyson à natur ddihoced yr awdwr. Beth sydd gasach i ddyn gonest a geirwir na meddwl y bydd ei lwch yn gorwedd tan weniaith anwir? Gwelir ynddo hefyd wyleidd-dra cysefin y bardd wrth son am dano ei hun; cyfeiria yn y tair llinell gyntaf at y gorphenol-yr hyn a wyddai; nid oes air am y dyfodol, am yr hwn nis gwyddai ond trwy weithrediad ffydd; ac nid ar gareg fedd y dylid cyffesu ffydd, am y rheswm mai arall yno fydd yn gwneud y gyffes trosom.
Gwnaeth ei farwolaeth fwlch pwysig yn rhengau awenyddion Cymru; ac yr oedd ei golef, ar ol cynifer o feirdd a llenorion penigamp yn ystod y deng mlynedd diweddaf, yn golled drom iawn i lenyddiaeth Gymreig. Syrthiodd yn anterth ei rwysg, wedi i'w athrylith ymddadblygu, ac, ar ol rwysg, medr mawr a phrofiad helaeth; pan oedd maes ei feddwl wedi ei wrteithio a'i drin yn gampus, a phan y gallesid disgwyl ffrwyth addfed gwerthfawr oddiarno am o leiaf ugain mlynd yn rhagor. Traethwyd ar hyn yn helaeth ac yn deimladwy gan holl newyddiaduron Cymru, Cymraeg a Saesneg, ar y pryd. Datganodd y beirdd eu colled am dano. a'u galar ar ei ol, megys Clwyd fardd, Dyfed, Tudno, Dafydd Morganwg, Watcyn Wyn, Isaled, Alafon, Elfyn, Ieuan Ionawr, Glan Llyfnwy, Tudwal, Idris Vychan, &c. Traddododd Mr. Marchant Williams anerchiad dyddorol arno yn nghyfarfod y Cymmrodorion yn Llundain, yr un noson ag y darllenwyd sylwedd y llyfr hwn; ac ymddangosodd erthygl ragorol gan y llenor profiadol Llew Llwyfo ar "Fywyd ac Athrylith Ceiriog" yn y Geninen am Gorphenaf diweddaf. Nid yw hyn ond dechreu; y mae awduron heb eu geni eto a darllenant, a edmygant, a glorianant, ac a drysorant bob chwedl, bob traddodiad, a phob siw a miw, am y bardd trylen JOHN CEIRIOG HUGHES.