Neidio i'r cynnwys

John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Ei deulu

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith

gan Isaac Foulkes

Ei fro


PENYBRYN, LLANARMON DYFFRYN CEIRIOG,

(O Photograph, gan Mr. LLEW. WYNNE, a dynwyd Ddiwrnod y Jubili, Mehefin 21ain, 1887).[1]


CEIRIOG:
EI FYWYD, EI GYFEILLION, EI WAITH.

Y TRO cyntaf i lawer o gydwladwyr a chyfeillion llenyddol CEIRIOG ei weled oedd yn Eisteddfod fawr Llangollen, yn 1858; a'r tro olaf yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, yn mis Tachwedd, 1886, pan y cymerai ran yn y cyfarfod brwdfrydig a gynelid mewn cysylltiad â Chyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn ddiau oedd arwr y cynulliad hwnw; mynai'r dorf ei gael i ffrynt yr esgynlawr, a rhoddwyd iddo fanllefau o groesaw, teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu cenedl ; a chroesaw na chafodd yr un bardd, hyd y gwyddom, erioed ei gyffelyb. Aethai 27ain mlynedd heibio rhwng y ddau gyfarfod a nodwyd; a pha faint bynag a ddadblygodd ac a gynyddodd yr hen sefydliad cenedlaethol yn y cyfnod hirfaith, rhoddes CEIRIOG bob gymhorth i ddwyn hyny oddiamgylch. Mewn ystyr lenyddol, plentyn yr Eisteddfod ydoedd, a ffynai anwyldeb mawr rhyngddynt o'r "bore gwyn tan y nos."

Yr oedd JOHN CEIRIOG HUGHES o deulu uchel-dras; ar ochr ei dad, gallai olrhain ei hynafiaid hyd at Fleddyn ab Cynfyn—y

Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun bioedd hen Bowys.

Dyma achau Huwsiaid, Penybryn, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, fel y ceir hwynt yn History of Powys Fadog, cyf. iv., t.d. 261:—


Yr Ieuan Fychan o Foel Iwrch a nodir uchod, yn ol Powys Fadog mewn lle arall, a ddisgynai o Einion Efell, arglwydd Cynllaith; ac Einion o Fadog ab Maredydd, tywysog Powys Fadog; a mab oedd Maredydd i Fleddyn ab Cynfyn.

Ac er na ddichon i bob aelod o deulu tywysogaidd fod yn dywysog, a bod amser yn ei dreigliad yn chwareu ystranciau rhyfedd hefo gwehelyth pendefigion, gan ostwng yr uchel a dodi yr iselradd yn ei le, cafodd y teulu hwn o genedlaeth i genhedlaeth ei gadw ar y naill law rhag tra dyrchafiad, ac ar y llall rhag tra darostyngiad. Cyn belled ag y medrwn ni ddeall, llanwent eu cylchoedd anrhydeddus ar hyd yr oesau mewn modd anrhydeddus; ac y maent yn parhau felly hyd y dydd hwn. Cymeriad y teulu yn y wlad ydyw, "Pobl garedig, foesgar, foesol; deiliaid gwladgar, gwyrda (yeomen) grymus o gorph a meddwl." Rhai felly fuont, rhai felly ydynt, a hir hir y parhaont felly, gan gynysgaeddu eu cenedl yn awr ac eilwaith âg awenydd melusber fel y bardd enwog yr ydym, gyda llawer o bryder, wedi ymgymeryd fel hyn âg ysgrifenu cofiant byr ohono.

Yn Methodistiaid Cymru, i., 539, sonir am Richard Hughes, hen daid i Ceiriog, yr hwn oedd yn byw yn Sarffle, ffermdy tua milldir yn uwch i fynu yn y cwm na Llanarmon. Pan aeth cenadon cyntaf yr enwad hwnw i'r ardal, gwrthwynebwyd hwynt gan ragfarn cryf a chwerw; ac nid oedd Mr. Hughes o Sarffle yn eithriad i'w gymydogion yn hyn o beth. Ond ei wraig, Mrs. Catherine Hughes, a dueddai'r ffordd arall. Byddai hi ambell dro hyd yn nod yn myned i'w cyfarfodydd, ac nid oedd dim a barai gymaint o gythryfwl yn Sarffle ag i'r wraig fyned i wrando ar y "Pengryniaid." Codai gwrychyn y gwr yn ddychrynllyd, a bygythiodd ei wraig unwaith mai y tro nesaf yr elai hi at y "geriach ragrithiol," yr elai yntau yn syth at y meistr tir i roddi'r fferm i fynu. Cynelid yr oedfeuon y pryd hwnw mewn tŷ o'r enw Megen; ac yn fuan ar ol y bygythiad, cyhoeddwyd cyfarfod yno drachefn. Er maint y dondio, aeth Catherine Hughes i'r oedfa; a Richard Hughes, yn ol ei air, a gyfrwyodd y ceffyl i fyned at y meistr tir. Yr oedd ei ffordd yn arwain heibio Megen; ac wedi dyfod at y tŷ, gorchfygwyd ef gymaint gan ei chwilfrydedd fel ag i ddisgyn oddiar ei geffyl a myned i wrando beth oedd yn myned yn mlaen yno. Cerddodd yn llechwraidd i'r cefn, lle yr oedd y bondo yn cyfarfod llechwedd y bryn, a gorweddodd ar y tô gwellt gan glustfeinio ei oreu. Wrth wrando felly, clybu ddigon i arafu ei wylltineb ac i beri iddo droi yn ol tuag adref. Ac yn mhellach, ychydig wedi hyny, pan oedd erledigaeth yn cau y naill ddrws ar ol y llall yn erbyn y Methodistiaid, caniataodd R. Hughes iddynt bregethu tan fasarnen gysgodfawr a dyfai wrth ei dŷ, ac hefyd iddynt ddyfod i'r tŷ ar dywydd garw. Nid hir y bu y meistr tir heb glywed am hyn, a daeth "rhybudd i ymadael" yn brydlawn i Sarffle; canys yr oedd peth fel hyn yn un o'r troseddau gwaethaf ar ddeddfau'r tir y pryd hwnw, Pa hawliau bynag oedd gan denant, nid oedd cynwys crwydriaid crefyddol i hel lol dduwiol tan eu cronglwyd bethbynag yn eu mysg. Felly, yn lle i denant Sarffle roi notis i'r arglwydd tir, o achos y Methodistiaid, fe chwythodd y dymhestl o gyfeiriad gwahanol, a'r meistr a roddes y notis o'u hachos i'r tenant. Ac ymadael fu raid iddo, ond cynelid y moddion yn mlaen yno hyd ei ymadawiad. Yn wir, nid oedd dim i'w enill trwy beidio.

Crybwylla awdwr Methodistiaeth am un bregeth neillduol a draddodwyd gan Dafydd Morris, o'r Deheudir, yn y ffermdy, yn fuan wedi derbyniad y notis "Y testyn ydoedd, 'Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth.' Dan y bregeth hono, torodd pawb yn mron i wylo, a llawer i lefain; rhai i weddio, eraill i folianu. Golygfa oedd hon na welsid erioed o'r blaen ei chyffelyb yn Llanarmon. Nid rhyfedd fod yno ambell un yn barod i dybied fod y bobl wedi gwallgofi; a gwaeddodd un hen wreigan allan, 'Bobl bach, anwyl! peidiwch myn'd o'ch cof.' Adeg flin a helbulus fu ar yr enwad wedi ei erlid o Sarffle ond fe dorodd gwawr ar ei nos ddu o'r diwedd ac yn benaf trwy ddychweliad dau fab a dwy ferch i Richard a Catherine Hughes yn ol i'r gymydogaeth, fel penau teuluoedd yn rhai o brif ffermydd y cwm, ac y mae eu gwehelyth yn aros yno hyd y dydd hwn."

"Yn aros yno hyd y dydd hwn;" ydynt yn ddiau. A barnu oddiwrth gipymweliad â'r ardal, gallem dybied fod tua haner plwyfolion Llanarmon yn berthynasau agos neu bell i Huwsiaid Penybryn; a diau fod yma wirio'r dybiaeth wyddonol am "oroesiad y cymhwysaf." Nid oes yn Nghymru ond ychydig deuluoedd luosoced a hwn; canys y mae canghenau ohono wedi gwreiddio ac ymganghenu yn Adwy'r Clawdd, Gwrecsam, Clocaenog, &c., ac hyd yn nod mewn mwy nag un man yn y Deheudir.

Ganwyd JOHN CEIRIOG HUGHES, yn hen dreftadaeth y teulu, Penybryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Medi 25, 1832—yr un diwrnod, fel y dywedai ef mewn ysmaldod ambell waith, ag y claddwyd Syr Walter Scott. Ei rieni oeddynt Richard a Phœbe Hughes. Yr oedd Richard Hughes yn ŵyr i'r gwron a nodwyd o Sarffle. Dyn uniawn, syrten, ydoedd, parchus neillduol gan ei gymydogion. Cyfeiria'r bardd yn fabaidd a serchog ato yn ei waith. Mewn nodiad o flaen "Y Fenyw fach a'r Beibl mawr," argraffedig yn Oriau'r Hwyr, dywed:—"Mae y gân hon yn un a gerir genyf fi tra byddaf byw; am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a'r 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Bore dranoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn ar y dydd a'r awr grybwylledig." Gan mai desgrifiad grymus o dad yn marw ydyw'r gân hono, mae'n sicr fod y cyd-darawiad yn un tra hynod, yn enwedig pan gofier mai marwolaeth ddisyfyd o'r parlys ydoedd; cwympo yn nghanol nerth ac iechyd, ac nad oedd o ran oedran ond 59 mlwydd. Dywed y bardd mewn lle arall am ei dad wrth yr allor deuluaidd:—

"Ar godiad haul yn Nghymru,
Ces lawer bore gwiw,
Pan blygai'm tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw."

Phœbe Evans oedd enw morwynol y fam. Merch Tynyfedwen ydoedd, ffermdy ar fin yr afon ychydig. yn is i lawr yn y cwm na'i chartref dyfodol. Yr oedd tipyn o natur prydyddu yn nheulu Tynyfedwen, yn enwedig yn John Evans, ewythr Ceiriog frawd ei fam. Treuliodd hi rai o flynyddau ei hieuenctyd yn Lloegr, pan y dysgodd Saesneg yn dda; ac nid oedd yr iaith hono yn anhysbys ar aelwyd Penybryn. Yr oedd yn ddynes llawer mwy ddeallgar a gwybodus na'r cyffredin, yn gyfarwydd mewn llysiau, ac yn hysbys o'u natur a'u rhinweddau. Gwasanaethai hefyd ar alwad yn dra charedig fel meddyges; ac o ganlyniad mewn plwyf mynyddig ac annghysbell fel Llanarmon, a'r meddyg agosaf yn byw saith milldir oddiyno, yr oedd yn gymydoges werthfawr. Estynwyd iddi oes hir a defnyddiol; goroesodd ei phedwar ugain mlwydd; a chasglwyd hi at ei phobl yn Ionawr, 1884. Tua saith mlynedd yn ol, gwelais yr hen Gymraes radlon yn myned ar gefn ei merlyn trwy bentref Glynceiriog; a chredwn y buasai aml i fam bendefigaidd yn rhoddi ei sidanau, ei modrwyau, a'i thlysau, yn gyfnewid am wisg wladaidd yr amaethwraig ddysyml o Benybryn, a bod hefyd yn achlysur caniad, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Yr oedd Richard a Phœbe Hughes yn aelodau ffyddlawn o eglwys y Bedyddwyr Albanaidd yn Nglynceiriog, lle y mae achos cydmarol lewyrchus er dyddiau J. R. Jones o Ramoth; ac er fod tua phum' milldir rhyngthynt a'r capel, anfynych y byddent yn absenol nac yn anmhrydlon. Gwnaed cais o leiaf unwaith i godi achos yn Llanarmon. Rhoed y gair allan y byddai hen lefarydd o'r enw Moses Edwards yn pregethu yn nghegin Penybryn ar noson arbenig; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yr ystafell fawr hono yn orlawn. Wrth weled cynulliad mor luosog, cyhoeddodd Richard Hughes ar y diwedd y byddai oedfa yno drachefn bythefnos i'r un noson. Ond yr wchw fawr! pan ddaeth yr oedfa, nid oedd yno neb ond gwr a gwraig y tŷ a'r pregethwr, druan; o'r farn, mae'n debyg, fod un waith am byth yn ddigon i eistedd tan weinidogaeth Moses, yr hwn a gysurai ei hun trwy ddywedyd, "Wel, wel, 'does dim ond eu gadael nhw yn eu calongaledwch." Ac felly y terfynodd yr ymgais y y tro hwnw. Hen gymeriad hynod oedd Moses Edwards. Yr oedd yn hen wr da, a goleu yn yr Ysgrythyrau, ond braidd yn hoff o lymed. Efe oedd yn arolygu chwarel galch Lord Dungannon, yn y Waen; ac yr oedd eisiau rhywbeth i ryddhau y llwch a sugnai i'w ddwyfron. Yr oedd y Lord yn ddychrynllyd yn erbyn diod; a phan gafodd ef ei arolygydd wedi gorwedd yn lluddedig un diwrnod poeth, ceryddodd ef yn lled lym, gan anmheu beth oedd gwir achos y lludded. Parodd hyn i'r lludd- edig gwyno ei dynged flin. "Dyma fi," ebai ef, "yn ngwasanaeth dau arglwydd; wiw imi gymeryd llymed ar y Sul, neu mi ddigiaf yr Un Mawr; nac yn yr wythnos, neu mi dynaf wg Lord Dungannon." Pa fodd bynag, nid oedd pawb yn neadell Albanaidd Glynceiriog mor hanerog eu proffes a'r hen frawd a nodwyd. Glynodd sel Phœbe Hughes hyd y diwedd, ac yr oedd ei ffyddlondeb a'i dyfalbarhad crefyddol yn destyn edmygedd ei holl gymydogion. Tra y daliodd ei nherth, elai ar gyfrwy neu cerddai, o Sabbath i Sabbath, yn ol a blaen yn rheolaidd; a phan ballodd ei chryfder gan henaint, defnyddiai gerbyd at y daith.

Bu i Richard a Phœbe Hughes wyth o blant, o'r rhai y mae pedwar yn awr yn fyw; sef, Mrs. Maria Jones, yn America; Mrs. Catherine Jones, Cwmeigia, a Mrs. Phœbe Edwards, Ty'ntwll, y ddau le yn Llanarmon; a Mr. David Hughes, yr hwn oedd yn byw gyda'i fam yn Penybryn, ac ar ei marwolaeth hi, a roes y fferm i fynu, gan fyned i breswylio at nith iddo i'r Nant Swrn, ffermdy rhwng Pontymeibion a Thregeiriog. CEIRIOG oedd yr ieuengaf o'r wyth; ac nid rhyfedd ei fod yn anwylun ei fam, a bod ei chalon yn dywedyd pethau angerddol wrtho, yn arbenig pan ar gefnu arno wrth "safle'r gerbydres," a'i adael yn ddifamddiffyn yn y ddinas fawr.

Fel na thybier fod holl dalent y teulu hwn wedi ei chyfyngu yn gwbl i'r plentyn ieuengaf, dyma ramant fechan a glywsom ar ol un o'i frodyr pan oeddym ar ymweliad â'r Dyffryn yn nechreu Mehefin diweddaf. Gelwir hi:—

Y GATH, Y CREYR GLAS, A'R FIEREN.

ER's llawer byd o amser yn-ol, aeth y Gath, y Creyr Glas (heron), a'r Fieren i gadw fferm cydrhyngddynt; ond gwelsant yn fuan nad oedd yn talu, a phenderfynasant ei rhoddi i fynu, a rhanu'r eiddo. Cymerodd y Gath yr holl wenith fel ei chyfran hi o'r yspail; a chan fod y farchnad yn isel ar y pryd, hi a'i cadwodd nes y codai yn ei bris; ond yn y cyfamser, llwyr ddifawyd yr oll ohono gan lygod. A byth er hyny, y mae euogrwydd yn peri ofn y gath ar y llygod, ac y mae hithau am eu dyfetha am iddynt ddifa ei gwenith.

Y Creyr Glas a'r Fieren a werthasant weddill yr eiddo, gan ranu yr arian rhyngddynt. Yna'r Creyr Glas a rwymodd ei drysor ef am ei wddf, ac a aeth wed'yn i rodiana a swmera at fin afon; ac wrth lygadrythu ar ei lun yn y dwfr a dotio at ei degwch, syrthiodd ei arian i'r dyfn, ac nis gwelodd ddimai ohono mwy. A byth er hyny, y mae'r Creyr Glas yn crwydro hyd fin yr afon, gan lygadu yn ddiorphwys i'r dwfr, ac estyn ei wddf hir i chwilio am ei drysor yn y gwaelod.

Y Fieren, gan dybied y byddai hi yn gallach na'r ddau arall, a roes fenthyg ei harian i rhyw ddyn dyeithr na welodd mohono erioed na chynt na chwedyn. Annghofiodd hyd yn nod ofyn iddo ei enw, na lle ei breswylfod. A byth er hyny, pan elo unrhyw ddyn yn agos ati, hi a gymer afael ynddo, gan dybied mai iddo ef y rhoddes fenthyg ei harian.

A dyma fel y cafodd y tri hyn eu hanian.

Ai un o feibion Penybryn ydyw gwir awdwr yr aralleg hon, nis gwyddom. Hyn sydd sicr, na chlywsom ac na welsom ni mohoni o'r blaen; a bod yn resyn na buasai genym ragor o'i chyffelyb yn y Gymraeg. Gymaint rhagorach ydyw barddoniaeth rydd, ystwyth, fel hyn, na llawer o'n hawdlau llafurfawr a'n pryddestau hirwyntog.

Nodiadau

[golygu]
  1. Jiwbilî aur (50ml) Teyrnasiad Brenhines Victoria