John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Ei fro
| ← Ei deulu | John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith gan Isaac Foulkes |
Ysgol a chychwyn gwaith → |
Ei fro
Wedi taflu golwg frysiog tros hanes tylwyth y bardd, y dylanwad nesaf, o ran pwysigrwydd yn ffurfiad ei gymeriad llenyddol, ydoedd golygfeydd bro ei enedigaeth, ei thraddodiadau a'i hanes, a nodweddiad y bobl y dygwyd ef i fynu yn eu mysg. Saif Dyffryn Ceiriog yn nghwr de-ddwyreiniol sir Ddinbych; un pen iddo yn ymylu ar sir Amwythig a'r llall yn ymgolli yn nghanol Berwyn. Y mae tua 14eg milldir o hyd; ac efallai mai y lle tebycaf iddo yn Nghymru ydyw Cwm Rhondda, yn Morganwg, ond fod Dyffryn Ceiriog yn gulach; yn wir, y mae mor gul mewn manau fel y gellid myned ar ei draws ar hwb, cam a naid. Ar ei waelod, rhuthra ei afon gref a thrystiog, ac ymuna â'r Ddyfrdwy yn Nyffryn Maelor yn fuan ar ol gadael ei Dyffryn ei hun. Ymladdwyd llawer brwydr gynt rhwng y Cymry a'r Saeson yn ei gwr isaf, yn enwedig yn ardal Castell y Waun (Chirk Castle), canys saif hwnw ar gyffiniau y ddwy wlad. Y fwyaf gwaedlyd ohonynt oll oedd Brwydr Crogen, a gymerodd le yn 1165, rhwng lluoedd Harri II. ac Owain Gwynedd. Y mae dau lechwedd, un bob ochr i Ddyffryn Ceiriog, yn dwyn yr enw hyd y dydd hwn; gelwir un yn Grogen Iddon a'r llall yn Grogen Wladus. Yr oedd y gâd hono ar faes yn un gyndyn a chreulon, a bu ei thynged yn y fantol am ddyddiau lawer, gan i'r Cymry yn ystrywgar gymeryd arnynt gilio i fynyddoedd y Berwyn. Cymerodd y gelyn yr abwyd; rhuthrodd y Saeson i'w hymlid; ond wedi eu cael yn ddigon pell, trodd y Cymry arnynt, a bu lladdfa fawr; a da i'r ychydig a arbedwyd fod traed danynt, ac nad oedd Lloegr nepell oddiwrthynt. Dyma orchest filwrol ddisgleiriaf Owain Gwynedd; ac am rai blynyddau ar ol hyny, cafodd Cymru lonydd gan frenin Lloegr. Gallesid disgwyl y buasai Ceiriog yn canu i'r fuddugoliaeth Gymreig ysplenydd hon, gan iddi ddigwydd mor agos i'w gartref, ac iddo, pan yn blentyn, mae'n ddiau, glywed llawer o son am dani; ac yn ol y disgwyliad, dyma benawd "Maes Crogen bore tranoeth," yn y Cant o Ganeuon, a'r prydydd yn perori ei hanes ar hen dôn y Fwyalchen:—
"Fe ganai mwyalchen er hyny,
Mewn derwen ar lanerch y gâd,
Tra'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad:
Gorweddai gwr ieuanc yn welw;
Fe drengodd bachgenyn gerllaw,
Tra'i dad wrth ei ochr yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law!
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon yn nghyd;
Agorwyd y ffos, ac fe'i ceuwyd,
Ond canai'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn-fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y marw—
Y bore ddilynodd yr hwyr."
Dichon y bydd ambell un gorfeirniadol yn methu dirnad paham y dewisodd Ceiriog fesur mor wisgi a'r Fwyalchen i ganu am y fath drychineb, a phaham y dug aderyn mor yswil a diniwed i'r gân o gwbl; mai aderyn mwy a hyfach—y gigfran waedlyd, fuasai cydymaith maes y gyflafan. Ond yr oedd hyn yn un o neillduolion arbenig awen ein bardd bob amser: lliniaru yr echryslawn a'r aruthr gyda'r tlws a'r tyner, fel yr arlunydd celfydd yn cuddio gerwinder a noethlymynder y graig hefo mwsogl ac ambell flodeuyn. Ond i'r darllenydd sylwi, fe wel luaws o engreifftiau yn ei waith o ymylwaith llon i ddarlun prudd; o'r graith yr ochr bellaf i'r gwyneb; o ddodi prydferthwch i wrthweithio effaith gorhacrwch. Ai nid yw hyn yn nod angen pob gwir fardd? Ugain mlynedd yn ol, clywais ef yn gresynu fod llenor adnabyddus yn gwastraffu ei alluoedd i ddweyd hanes hen wiberod ac annghenfilod annhymig o'r fath.
Y mae agos i saith milldir rhwng Castell y Waun a phentref Glynceiriog; a'r Dyffryn, er yn gul, yn hynod o brydferth—y bythynod a'r ffermdai gwynion sydd yn brithro'r llechweddau yn gwneud y coed a'r caeau yn lasach i'r llygad. Dywedir fod y meusydd bychain yma mor gynyrchiol a dim tir yn Nghymru; ac y mae'r coed preiffion, brigog, a welir mewn llawer man yn dystion o ffrwythlonder. Gerllaw ffermdy o'r enw Cilcochwyn, saif hen dderwen gau (hollow), anferth o faintioli; ac y mae rhigol yn ei hochr i fyned i mewn i'w cheuedd. Rai blynyddau yn ol, meddir, collwyd tarw Cilcochwyn, a buwyd am ddiwrnodau heb ei gael, ac yn mha le y cafwyd ef ond yn ngheuedd y dderwen.
Yn mynwent fechan Glynceiriog y mae bedd Cynddelw, a cholofn hardd o ithfaen Berwyn yn dynodi y lle. Y mae yn anhawdd cyffwrdd âg enw Cynddelw gofus, ddifyrus, ddeallus, heb fanylu. Er ei eni mewn ardal ddiwybodaeth, er na chafodd pan yn blentyn erioed awr o ysgol, er ei fod yn ugain oed cyn medru ysgrifenu; eto, trwy ei ddoniau naturiol ysblenydd, daeth yn un o brif-lenorion y genedl ; yn un a ddeallai Gyfrinion Barddas ac a wyddai fwy am hen feirdd nag odid Gymro byw neu farw; a drefnodd werslyfr galluog o'r enw Tafol y Beirdd; ac a gyfansoddodd Esboniad ar y Testament Newydd gyda'r mwyaf synwyrol sydd yn yr iaith. Efe a dreuliodd ddeng mlynedd o ddechreu ei oes weinidogaethol yn bugeilio eglwys y Bedyddwyr, Glynceiriog; symudodd oddiyno i Sirhowy, a thrachefn i Gaernarfon. Bu farw, pan ar daith, Awst 19, 1875, yn y Gartheryr, Llangedwyn, cartref ei wraig. Gan fod hon yn fynwent rydd, yma y mynai ei gladdu; ac y mae bod ei fedd man y mae, a'r ceryg hyn arno, yn gyflawniad o'i ddeisyfiad dwys yn ei "Gywydd Berwyn," yr hwn a ymddangosodd gyntaf yn y Traethodydd, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth:
"Gwedi f'oes, a gloes y glyn,
O! am orwedd ym Merwyn;
Od oes byth gael dewis bedd,
I Ferwyn af i orwedd;
Tua'r lle bu dechreu'r daith
Af yn ol i fy nylaith:
Gan Ferwyn caf gynfawredd,
Ei graig fawr yn gareg fedd;
A'i stormydd, tragywydd gân,
I ffysgiaw fy ngorphwysgan;
Ac o Ferwyn cyfeiriaf
I lawen ŵyl teulu Naf."
Er ei fod bumtheg mlynedd yn hŷn na Cheiriog, yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol, nid yn gymaint am eu bod yn frodorion o'r un ardal-" eu hynafiaid," fel y dywedir, "yn planu tatws yn yr un cae a'u gilydd," ond am y syniadau uchel oedd gan y naill am dalent y llall. Yn gynar yn 1875, cefais lythyr oddiwrth Ceiriog yn dywedyd ei fod newydd dderbyn gair oddiwrth Ioan Arfon, "fod Cynddelw yn bur gwla-ofnid y cancer-ac os byddai Robert Ellis yn myned, na waeth ini fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Pan ddaeth i Lerpwl ychydig ddyddiau ar ol hyny, meddwn wrtho, "Mae'n dda genyf eich gweled yn edrych cystal; clywais ddweyd eich bod yn lled wael." Nis gwyddwn ar y pryd fod ganddo wrthwynebiad dirfawr i neb feddwl felly; ac efe a atebodd braidd yn chwyrn, "Tydw i ddim yn sâl ond fy mod yn ffaelu bwyta. Pwy ddywedodd 'mod i'n sâl?" "Ceiriog," meddwn; ac fel tipyn o eli ar y briw oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn, dyfynais y geiriau am "fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Chwarddodd yn galonog, wrth feddwl, mae'n debyg, y byd gwag fyddai hwn wedi i gynifer o fodau defnyddiol fyned ohono. "Beth," ebai, "y Vord Gron" a'r cwbl! Dywedwch wrth bawb fydd yn holi nad oes dim byd arnaf i, ond fy mod yn ffaelu bwyta." Parhaed ei goffadwriaeth yn hwy na'r ithfaen sydd ar ei fedd.
Filldir a haner yn uwch i fynu na Glynceiriog, neu fel y dylem ei alw hwyrach, Llansantffraid Glyn Ceiriog, saif ffermdy Pontymeibion, a'i fuarth yn taro ar y ffordd sydd yn arwain i Lanarmon. Y mae'r enw hwn yn adnabyddus i bob llenor Cymreig mewn cysylltiad âg enw y bardd clodfawr Huw Morys (Eos Ceiriog). Yn y tŷ hwn y ganwyd ef yn 1622; yma y treuliodd ei oes; ac yma y bu farw yn 1709, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 87 mlwydd. Y mae'n amlwg fod y tŷ wedi ei adeiladu ar ol ei amser ef; ond dangosir careg yn y mur uwchben yr ystabl, ac arni yn gerfiedig, "M. I. 1701,"[1] a dianmheu fod yr hen fardd 80ain oed yn gwylio'r seiri meini yn codi'r adeilad hon. Fel mwyafrif amaethwyr glanau'r Ceiriog yn yr oes hono, yr oedd tad Huw Morys yn byw yn lân a dedwydd ar ei dir a'i foddion ei hun; a gadawodd y lle yn ei ewyllys i'w fab hynaf, ac i'r bardd, ei ail fab; a chyda'r brawd hwnw, a'i fab ar ei ol, y gwnai Eos Ceiriog ei gartref yn y fangre dawel, hudolus hon, a than amgylchiadau oedd yn ei ryddhau oddiwrth ofalon bydol. Gwisgwyd coron Lloegr gan chwe' phen yn ystod ei oes faith; ac er mai breninolwr rhonc ydoedd, aeth trwy enbydrwydd y Werinlywodraeth yn bensych. Nid felly ei gydfeirdd, Rowland Fychan, o Gaergai, tŷ yr hwn a losgwyd; a Wiliam Phylip o Ardudwy, yr hwn a fu am wythnosau yn ffoadur yn y mynyddoedd.
Treuliodd Huw Morys ei oes yn ddibriod, er na chanodd yr un bardd Cymreig, oddieithr Dafydd ab Gwilym, gymaint o "Fawl i Ferch." Y mae yn anhawdd cyfrif am y ddau brydydd trylen hyn yn dweyd mor aml ac mor ddoniol am rinweddau a theleidion y rhyw deg, a hwythau yn aros ar hyd eu hoes yn llwyrymwrthodwyr proffesedig oddiwrthynt, ond gyda'r syniad mai rhan o swyddogaeth y bardd yn mhob oes a gwlad ydyw canmol ac arddangos prydferthwch. Yr oedd bardd Pontymeibion yn nodedig hefyd am ganiadau moeswersol (didactic), llawn o addysg, wedi eu gwisgo â syniadau tra barddonol, ond mewn iaith seml, hawdd i'r werin ei deall. Felly y goleuai ef ei gydoeswyr, ac yn enwedig y Ceiriogiaid hoff o'i amgylch, ac ni bu ardalwyr erioed yn coleddu syniadau uwch am eu bardd na'r bobl hyny. Dewisent ei garolau yn eu heglwysi, ei gerddi yn y ffair a'r gwylmabsant, a'i ganiadau ar eu haelwydydd, o flaen cynyrchion cyffelyb undyn arall.
A phan anrhegwyd yr un ardal, yn mhen chwech ugain mlynedd wedi cynull Eos Ceiriog at ei dadau, â phlentyn y gellid "bardd ohonaw," taniai y canmol oedd ar ei ragflaenydd ei holl uchelfrydedd i'w efelychu, a rhagori arno, os oedd y fath orchest yn ddichonadwy, fel y deuai yntau hefyd yn enwog, a'i gartref yntau yn gyrchfa lluaws ymwelwyr. Ac ond ini sefyll yn ystyriol uwchben gwaith y ddau, y mae yr un arogl esmwyth arnynt-yr un dinc hyfryd o naturioldeb; eu goleuni o eiliw yr un mor ddymunol, ond fod bardd y 17eg ganrif yn rhagori cymaint ar fardd y 19eg, ag y rhagora goleuni celfyddydol y naill ganrif ar y llall.
Ai tybed hefyd mai wrth wrando rhyw gymydog difyr yn adrodd hanes Bardd a Freeholder dedwydd Pontymeibion y cafodd J. Ceiriog Hughes afael gyntaf yn yr idea, a ddaeth wedi hyny yn grediniaeth gref yn ei feddwl, am ddedwyddwch? neu a redai y syniad yn ei waed, fel disgynydd o linach hir o rydd-ddeiliaid diardreth a boddlawn? Canys wrth ddarllen ei waith, ac adgofio lluaws o'i ddywediadau, nid oes genyf anmheuaeth nad ei farn ef am uchafnod hapusrwydd daearol ydoedd y boneddwr Cymreig hen ffasiwn-yn trin ei dir ei hun, ac yn bwyta o'i ffrwyth; yn ceffogaeth ei feirch nwyfus ei hun; yn mwynhau anadl iach ac yn yfed llaeth maethlawn ei wartheg ei hun; yn adnabod gwynebau ei braidd, a'i wisg wedi ei gwneud o'u cnu; yn pysgota yn ei bysgodlyn, ac yn hela ar ei dir, ei hun; yn cynal ac yn cadw iaith, defodau, ac arferion, yr hen Gymry gonest gynt, heb annghofio'r bardd teulu; yn garedig i bawb, yn anrhydeddu'r brenhin, ac yn ofni ei Dduw. Dyna oedd sefyllfa mwyafrif tirddeiliaid Cymru cyn i raib drachwantus gydio maes wrth faes, a'r wlad syrthio'n ysglyfaeth i etifeddiaethau mawrion cyfoethogion ac estroniaid; a'r math yma o ddeiliaid a gefnogai yr hen gyfraith Gymreig a elwid Gafael (gavel-kind). Dyna'r bywyd hefyd, ni a gredwn, a ystyriai Ceiriog yn ddringeb uwchaf dedwyddwch yn y byd hwn. Pwy wêl fai arno? Y mae'r dymuniad yn llawn o'n hen ysbryd annibynol a chenedlaethol.
Cyn gadael Pontymeibion, aethom i weled "Cadair Huw Morys," yr hon tua 14eg mlynedd yn ol a symudwyd o fin y ffordd, er mwyn dyogelwch, i ardd yr Erw Geryg, ffermdy gerllaw hen gartref y bardd. Gwneir hi i fynu o amryw geryg go fawr, ac ar yr un sydd yn gwasanaethu fel cefn, y mae'r llythyrenau "H.M." yn ddigon gweladwy, er fod amser wedi treulio llawer arnynt. Dywedir y byddai'r bardd yn mwynhau ynddi aml i awr dawel ddwysfyfyriol, yn nghysgod y coed a dadwrdd yr afon islaw. Rhoddir darlun ohoni yn yr argraffiad o waith Eos Ceiriog, a gyhoeddwyd 1823, o tan olygiaeth Gwallter Mechain; a gŵyr pob un a ddarllenodd Wild Wales am wynfydedd George Borrow, awdwr chwilboeth y llyfr hynod hwnw, pan gafodd y fraint o eistedd yn yr hen grair wladaidd. Fel "Pulpud Huw Llwyd" yn nghanol rhaiadrau Cynwal, daw lluaws o bell i'w gweled.
Ddydd Sadwrn, y pedwerydd o Fehefin, gyrwyd ni gan fath o reddf anorchfygol ar bererindod i Ddyffryn Ceiriog, fel y gwelem am unwaith hen fangre a chartref un oedd mor gu ac anwyl genym fel dyn, ac mor gymeradwy yn ein golwg fel bardd; a'n dyddordeb yn y lle wedi cynyddu'n ddirfawr trwy ei fod ef, yr hwn a achlysurodd y dyddordeb ynom, wedi huno yn yr angau er's chwech wythnos union i'r dydd Sadwrn hwnw. Yr oedd yn un o ddyddiau ardderchocaf y flwyddyn, ie, y blynyddau; y dydd cyntaf o haf eleni. Wedi hir oediad o wlybaniaith ac oerni, esgynasai teyrn y tymhorau i'w orsedd, than ei swynlath neidiai pobpeth ond y marw prudd yn ol i fywyd. Nid oedd odid i dwmpath na brigyn heb ei gantor; pob aelod yn y côr mawr asgellog â'i holl egni yn chwyddo'r gydgan gyforiog, heb eithrio y cerddorion dyeithr hyny a ddeuant trosodd i'r wlad hon, o flwyddyn i flwyddyn, i helpu ein cantorion ein hunain i ddechreu canu ha'; a'r holl gwm yn diaspedain gan gogau y naill yn ateb y llall. Canai un ceiliog bronfraith ar ben pawl yn min y ffordd mor eofn fel yr aethom i'w ymyl; ond yr oedd wedi ymgolli mewn gwynfydedd i'r fath raddau, fel na syflai nes y gorphenodd ei dôn felus-daliai ati, ac edrychai yn myw ein llygaid, er ein bod yn siarad âg ef ac o fewn hyd gafael iddo, nes o'r braidd na chododd arswyd ynom rhag mai un o awenyddion ymadawedig yr ardal ydoedd, wedi dyfod ar ymweliad i Roesawu Haf i odreu Berwyn." Cofiem ini ddarllen yn ngwaith Montaigne am goel sydd mewn rhai gwledydd fod y meirw gwynfydedig yn ymrithio ar lun creaduriaid heirdd a swynol, ac mai ar ffurf adar caniadgar y gwelir hwy fynychaf.
Y mae Llanarmon yn un o'r manau mwyaf anhygyrch yn Nghymru; nid yw ar y ffordd i unman ond i ganol mynydd. Eu tref farchnad yno ydyw Croesoswallt, ac y mae hono 14eg milldir oddiyno; eu gorsaf reilffordd ydyw'r Waun (Chirk), 11eg milldir; a'r dref fechan agosaf atynt ydyw Llangollen, yr hon sydd wyth milldir o ffordd, a Gallt y Padi yn rhan bwysig ohoni. Tystia pawb a fu ar hyd yr Allt hono, na ddylai dyn byth ei dringo ond hefo ysgol, ac na fwriadwyd i'r un creadur ei theithio ond cath neu wiwer. Clywsom Cynddelw, yn un o'i yspeidiau difyr, yn dweyd yr hen draddodiad rhamantus a ganlyn am darddiad Gallt y Padi:Yr oedd hen wr crintachlyd yn byw er's talm yn Glynceiriog, a'i waith oedd cludo nwyddau o Langollen-pellder, y pryd hwnw, o tua dwy filldir, a'r ffordd cyn wastated a'r geiniog. Ac yn ngwasanaeth yr hen grintach, yr oedd hogyn o Wyddel, math o brentis plwy'! Hen gono caled, creulawn oedd y cariwr, yn haner llwgu ei was bach ac yn ei guro yn ddidrugaredd. O'r diwedd, penderfynodd ddianc o'i gaethiwed; ac wedi cynull ei dipyn dillad yn nghyd, gwynebodd tua Llangollen. Ar y ffordd, meddyliai am greulondeb yr hen Pharo o Lynceiriog; a mwyaf a feddyliai, ffyrnicaf yn y byd oedd ei gasineb tuag ato, a'i awydd am ddyfeisio rhyw lwybr i ddial arno. Ac wedi hir ddyfalu, eisteddodd ar ochr y ffordd, tynodd goes pibell o'i boced, rhoes un pen i hwnw yn y ddaear a chwythodd yn y pen arall, a chwythu y bu nes y codai y gwastatir o tan ei draed. Daliai ef i chwythu, a daliai'r ddaear i godi, nes aeth y gwastadedd yn fynydd mawr a serth; ac o hyny allan, bu raid i'r hen gariwr gael chwe' phen o ychain i dynu llwyth a gludid o'r blaen yn rhwydd gan un, a syrthiodd i dylodi, a bu farw ar y plwy'; a dyna fel y daeth y mynydd uchel sydd rhwng Llangollen a'r Glyn i fod, a thyna paham y galwyd y ffordd flin sydd yn arwain trosto, er cof am y Gwyddel dialgar, yn Allt y Padi.
Ond ni a ddychwelwn o fro hud a lledrith i ardal y darllenir ynddi bob Sul y "deg gair deddf," set Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Saif y dreflan fechan gryno yn min yr afon, lle yr ymleda'r Dyffryn i tua haner milldir ar ei draws; ac o fewn ychydig rydau iddo y mae pentref Nantyglog. Yn y blaenaf, y mae Eglwys y plwyf, a'i mynwent o'i hamgylch; ac yn yr olaf, y mae'r ddau gapel Ymneillduol sydd yno, sef eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd a'r Trefnyddion Wesleyaidd. Y Parch. Peter Roberts, awdwr The Chronicle of the Kings of Britain, oedd yr offeiriad yma o 1810 hyd 1814; a chymeriad hynod am ei sel a'i ffraethineb gyda'r Methodistiaid yn Nantyglog oedd Richard Morris (o Lanarmon, fel yr adwaenid ef oddicartref), hanes bywyd yr hwn a welir yn y Traethodydd am 1878.
Cyfyd Mynydd y Glog o ymyl y Llan i uchder go fawr; ac yn union ar ei gyfer, yr ochr arall i'r dyffryn, y mae llechwedd lled serth ond nodedig o ffrwythlawn, â'i wyneb ar haul canol dydd, ac yn gwenu (pan fo llechweddau yn gwenu) mewn mil o geinion. Tua chwarter milldir o'r afon ar y llechwedd hyfryd hwn, dacw ffermdy Penybryn, a'r allt o'r tu cefn iddo yn ei gysgodi rhag oerwynt y gogledd, a llwyn o goed brigog ar y tu arall yn ei warchod rhag y dwyreinwynt gwenwynllyd.
Y mae'r adeilad yn hen iawn-hwyrach fod rhanau ohono rhwng tri a phedwar cant oed. Ond nid yw oll o'r un oedran; y rhan bellaf, a'r nesaf i'r ystabl, &c., ydyw'r chwanegiad diweddaraf, er fod hwnw hefyd mewn henaint teg. Yn ol pob golwg, bwriedid iddo fod yn gastell cystal a thŷ anedd, gan fod ei furiau tros lathen o drwch; ac fel hen ffermdai Cymru yn gyffredin, nid yw ei drefniant oddifewn fawr o glod i'r cynllunydd. Gyda haner y defnyddiau, gallesid gwneud palas a pharadwys o dŷ. Trefn cynllunwyr yr hen amaethdai Cymreig oedd annrhefn: dodi y gwahanol ystafelloedd yn rhywle, rhywle, ond cymeryd gofal mawr eu bod yn rhywle digon anhwylus-dodi y llaethdy yn lle y pobty, a'r gegin yn nanedd y gwynt oeraf, a'i gwneud yn hongol ddigon o faint. Nid annghofient ychwaith gysylltu yr holl adeiladau â'u gilydd; fel pe digwyddai tân rywbryd, y byddai yn hawdd iddo losgi y cyfan yn lludw. Yn yr ystyr yma, nid yw Penybryn lawn cyn waethed a rhai manau a welsom; efallai ei fod yn well; ond ceir yma hefyd lawer o le i wella. Y mae y llaethdy yn y seler o tan y tŷ; ac ni bu erioed le cymhwysach at gadw yr hylif yn oer a thymherus. Rhed ffrwd o ddwfr gloywglir, yr hwn sydd yn tarddu o fynwes y graig, trwy yr ystafell haf a gauaf; a chlywsom am y Richard Morris a nodwyd yn gwneud defnydd effeithiol, yn un o'i anerchiadau mewn cyfarfod misol yn Nghorwen, o ffynon seler Penybryn, rhiniau yr hon ydynt yn parhau yr un fath, boed haf sych neu auaf rhewllyd, ac yn ei chydmaru i " Allor yn y Tŷ.” Y mae traddodiad hefyd ar gôf a chadw fod un o hen denantiaid y lle yn y dyddiau gynt wedi derbyn gweledigaeth, yn ei hysbysu os gallai wneud llun pen o bres, a gweithio arno yn ddiorphwys heb roddi hunell i'w lygaid am saith mlynedd, y byddai yn anfarwol (ni ddywedir pa un ai'r pen ynte'r gweithiwr). Pa fodd bynag, cymerodd y breuddwyd afael mor dyn yn y truan, fel y dechreuodd ar y gorchwyl yn ddioedi; ac yn y seler hon y bu wrthi ddydd a nos am chwe' blynedd, un mis ar ddeg, a phedwar diwrnod ar hugain, pan y daeth ato rhyw syrthni anorchfygol, y cysgodd yn drwm; ac yn ol telerau yr anfarwoldeb, aeth ei holl lafur a'i anhunedd yn ofer.
Wrth dalcen y tŷ rhed afonig fechan ar hyd ymyl y ffordd sydd yn arwain yn uwch i fynu i'r wlad; ac ar fin y ffrwd hono, y mae'r " Gareg Wen," testyn y gân gyntaf yn llyfr cyntaf y bardd. Math o ithfaen ydyw, ac y mae yn y man y mae er's oesoedd, yn ol pob tebyg. Cynwysa'r gân hono amrai ddarluniau bychain ydynt yn delweddu yn dra chywir fanau yn ymyl ei hen gartref, megys y penill hwn:—
"Mae nant yn rhedeg ar ei hynt,
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn bàn,
A choed afalau ar làn
Yn edrych ar y lli'."
Ac eto:—
"Pan ddeuai'r Gwanwyn teg ei bryd,
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:
Yn afon fawr ä'i 'r gornant fach,
Pysgotwn ar ei glenydd iach,
A phin blygiedig oedd fy mâch
Yn grog wrth edau lin."
Ymestyna tir Penybryn o'r afon i grib y mynydd; ac ar ben y mynydd hwn, gwelir ol y gwersyll y cyfeirir ato yn Cant o Ganeuon, t.d. 60, mewn cysylltiad â brwydr Crogen. Dywed yr awdwr mewn nodiad yno: "Y mae ol ei wersyll [Harri II.] mewn amryw fanau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin,. &c., ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy lle y'm ganwyd ac y'm magwyd i." Y mae cylch y gwersyll mor eang, a'r ffosydd a'r cloddiau mor fawrion,—“ yn fawr anferthol mewn adfeilion," fel y tueddir fi i gredu mai hwn yn hytrach ydoedd prif gadlys Owain Gwynedd, yn yr ymgyrch hono. Pa fodd bynag, y mae yn bigwrn mor serth o bob ochr, ond tua'r gefnen fynydd sydd yn rhedeg at y Waun, fel na feiddiasai Owain byth ymladd brwydr Crogen, a gwersyll gan y gelyn yn y lle hwn o'r tu cefn iddo.
A cherllaw yr hen wersyll, ceir olion hynotach fyth, a hynach o filoedd o flynyddau, olion mynydd tanllyd a grychlosgai hwyrach cyn i'r afon Geiriog ddechreu rhedeg. Pant crwn ydyw, tua chanllath ar ei draws a phen uwchaf y foel yn gwasanaethu fel un ochr iddo; a'i ymylon wedi llithro iddo fel y gwelir weithiau hen odyn galch mewn adfeilion. Nid oes dwfr un amser i'w weled ar waelod ei gafn; ac felly rhaid ei fod yn ei leibio ei hun. Pwy a wyr nad oddiwrth yr Etna hwn y galwyd y mynydd ar y cyntaf yn BERW-WYN?
Rhwng y foel hon a'r dyffryn, y mae'r disgyniad yn serth iawn, ac yn llanw'r edrychydd âg arswyd wrth weled gwagle mor fawr yn union odditano. Gorchuddir un rhan o'r llechwedd hwn gan goed; ar ran arall pora defaid yn y clytiau bychain o laswellt. melus sydd draw ac yma ar hyd ei wyneb; ar y drydedd ran nid ymddengys fod dim yn tyfu ond creigiau a cheryg o gryn faint. Y rhan goediog a elwir y Coed Cochion; ac y mae'r allt yn y fan hono yn dra thebyg i amgylchoedd Careg y Gwalch, rhwng Llanrwst a Bettws y Coed; ac o'r ddwy olygfa, hon ydyw'r fwyaf fawreddog. Y mae ganddi hithau ei hogof, a'r ogof ei thraddodiad; canys onid i Ogof Coed Cochion yr ymdeithiodd yr Edward Puw hwnw tan chwareu ei bibgorn, ac ni welwyd ef mwy; ond cofiwyd yr alaw a chwareuai, a rhestrwyd hi yn mhlith yr Alawon Cymreig o hyny allan, tan yr enw "Ffarwel Ned Puw." Dichon fod y chwedl hon hefyd yn rhagori mewn perseinedd ar y traddodiadau synfawr sydd ar lafar gwlad am wrhydri ac ogof Dafydd Grach ab Siencyn o Nant Conwy.
Yn ngodreu y llechwedd, ac yn ei gŵr pellaf o Lanarmon, y mae hen amaethdy neillduol o hynafol; yr hynaf, meddir, yn yr holl ddyffryn. Dolwen y gelwir ef; ond myn traddodiad mai llygriad ydyw Dolwen o Dolowen; mai eiddo Owen Glyndwr ydoedd unwaith, ac y byddai'r gwron enwog yn tario. yma ar brydiau pan ar ei daith o Sycharth yn nghwm Llansilin, i'w lys arall gerllaw Corwen, yn Nglyn Dyfrdwy.
Ac ychydig yn is i lawr ar yr ochr arall i'r afon, ac yn ngenau nant ddofn sydd yn troi o'r dyffryn i'r mynydd, dyma Sarffle, lle y soniasom eisoes am dano mewn cysylltiad â thaid Ceiriog, a'i droad allan oblegyd ei Fethodistiaeth. Rai blynyddau yn ol, cyfarfyddodd aelodau y Cambrian Archæological Society yn Llangollen, ac yn eu mysg y Dr. Phennah, olrheinydd dyfal y seirphaddolwyr Phoeniciaidd yn y wlad hon. Wedi clywed am yr enw arwyddocaol hwn, aeth yr holl ffordd i Sarffle, gan ddisgwyl cael yn yr ardal rhyw ateg newydd i'w ddamcaniaeth a dywedai ar ol hyny na siomwyd ef ychwaith. Gan nad allai ymddyddan gyda'r brodorion uniaith, ofnai unwaith mai dychwelyd yn ol fel y daeth a fuasai raid; ond yn ffodus, cyfarfyddodd â Mrs. Phœbe Hughes o Benybryn. Hi a'i cynysgaeddodd â llawer iawn o wybodaeth leol; ac wedi dychwelyd yn yr hwyr i Langollen, tystiai na welodd erioed hen wreigan fwy deallgar, ei bod yn gwybod pobpeth am hanes a hynafiaeth yr ardal, a'i Saesneg yn rhemp o dda.
Yn y llanerch lonydd, ramantus a neillduedig y ceisiwyd ei desgrifio, y treuliodd Ceiriog gyfnod dedwydd ei ieuenctyd-lle yr oedd prydferthwch dyffryn tlws a mawredd mynyddoedd geirwon yn cydgyfarfod; mewn tŷ ac iddo hanes hen; ogof, hen wersyll, ac olion llosgfynydd, i'w gweled ar dyddyn ei dad; tan ofal mam neillduol am burdeb ei hegwyddor a chryfder ei hamgyffredion; yn mysg cymydogion gwladaidd, uniaith gan mwyaf, unplyg, ond wedi eu breintio yn mhell uwchlaw gwladwyr, cyffredin â meddyliau bywiog ac â chôf llwythog hanes a choelion eu cyndadau a gwroniaid eu gwlad yn y dyddiau gynt.
Ysgol a chychwyn gwaith
Prif ddiffyg y cwm ydoedd absenoldeb addysg. Mae'n wir fod yno ysgol gwlad yn Nantyglog, a bu Ceiriog yn mwynhau hyny o fendithion oedd ganddi i'w cyfranu; ond fel y gellid disgwyl, mewn ardal mor wasgaredig ei thrigolion a Llanarmon, a dim i'r ysgolfeistr yn dâl ond ceiniocach y plant, dyfroedd digon prinion a ddarperid i'r sychedig am wybodaeth yn Nantyglog. Am ysgol ramadegol, fel y dywedir, nid oedd yr un yn nes at y fan na Chroesoswallt. Mae'n ddianmheu y gallasai ei rieni o ran moddion bydol ei ddanfon yno, er ei bod yn fyd digon caled ar amaethwyr y pryd hwnw fel yn bresenol; ond y caswir yw mai ychydig oedd nifer rhieni Cymreig, o ddeugain i driugain mlynedd yn ol, a gredent fod addysg plant yn ddaioni digymysg Tybient fod tuedd ynddo i wneud plentyn yn segur a diddefnydd, ac mai gwell o lawer iddo ddibynu ar
Nodiadau
[golygu]- ↑ Prif lythyrenau enw yr adeiladydd, meddir.