Neidio i'r cynnwys

John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Gweithiau—''Oriau'r Bore''

Oddi ar Wicidestun
Gweithiau—Oriau'r Hwyr John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith

gan Isaac Foulkes

Gweithiau—Cant o Ganeuon

Gweithiau—Oriau'r Bore

Yn 1862, ddeunaw mis ar ol ymddangosiad Oriau'r Hwyr, cyhoeddwyd ail lyfr Ceiriog, sef Oriau'r Bore. Prynwyd yr hawl i'r argraffiad cyntaf o hwn hefyd gan Mr. Clarke, am y swm, os ydym yn cofio'n iawn, o £15, a £5 yn ysgil hyny am ail argraffiad o'r llyfr cyntaf. Cynwysa y llyfryn hwn luaws o ddarnau neillduol o dlysion, ac yn eu mysg gerdd i'r "Herwheliwr," yr hon a enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 1861. Gofynid yn y testyn am gerdd duchan; ond ei chaniatai greddf naturiol y Bardd iddo fod yn llawdrwm iawn ar blentyn anneddfol natur o fath yr Herwheliwr. Dichon ei fod yn cofio am y difrod a wnai'r pryfetach ar gnydau ei dad er's talm, a bod eu dinystrydd yn haeddu ei ganmol yn hytrach na'i duchanu. Yn wir, ni welsom ni yn ngwaith unrhyw fardd gerydd llymdost iawn ar y dosbarth hwn o "blant y nos." Diau fod rhyw reswm am hyn, ac mai gwaith hawdd fyddai ei esbonio yn y man a'r lle priodol. Ond er nad ydyw yr "Herwheliwr" yn gerdd duchan yn ystyr fanylaf y gair, y mae ynddi ddarnau cryfion o farddoniaeth, yn enwedig ei phenillion chwareus cyntaf, a'i haddysg yn y diwedd.

Ceryddodd Ceiriog lawer ar anwladgarwch rhai o'i gydgenedl, ond ni cheir ei gasineb at y giwaid ysgymun wedi ei grynhoi ac mor angherddol yn ei ddigofaint yn un man ag yn y pennillion i "Garnfradwyr ein Gwlad," y rhai a welir yn Oriau'r Bore. Rhydd y bardd ei eiriau miniog, llymion, yn ngenau hen foneddwr Cymreig, ar aelwyd mewn hen balas Cymreig, pan y mae rhew-wyntoedd y gauaf yn curo'n drwm ar wydr y ffenestr, a'r drychin wedi gyru luaws o gyfeillion am ddiddosrwydd ac ymgom tan gronglwyd yr ysgwier pybyr a gwladgar.

"Trioedd carnfradwyr!" medd ef yn syn,
"Bu mwy na thrioedd o'r dynion hyn,
Yn lladd ein dewrion, yn gwerthu'n gwlad;"
A'i wefus grychodd ar "Drioedd Brad."

"Canoedd, gyfeillion, ac nid tri
O'r cyfryw Gymry fu genym ni;
Pa beth yw hanes ein hanwyl wlad,
Ond brad a dichell, dichell a brad?"

Y mae darllen y draethodl hon yn gyru dyn er ei waethaf i yspryd F'ewyrth Robert, pan y codai ei ffon yn fygythiol wrth wrando ar hanes Legree. Sylwer ar y gair "grychodd " yn niwedd y penill cyntaf, a dych'myger gymaint o ddigllonedd cymysgedig â dirmyg sydd yn gynwysedig ynddo. Dyma un o'r geiriau adeiniog hyny a welir mor fynych yn ngwaith Ceiriog, a phob pencampwr yn y gelfyddyd o fathu ymadroddion barddonol, geiriau sydd yn awgrymu mwy nag ellir ddywedyd. Ac ebe ef yn mhellach, a'i lygad ar dân gan lidiowgrwydd:—

"Nid pendro'r 'menydd, na balchder chwaith,
Sy'n blino'r Cymro a wado'i iaith;
Egwyddor brad yn ffurfio'i hun
Mewn dull diweddar sydd yn y dyn.

"Bradwyr fy nghenedl, da i chwi
Nad ydyw barn yn eiddo i mi!"
Ac fel pe'n teimlo dagr fawr
Yn nghil ei ddwrn, eisteddai i lawr.

Y mae cryn wahaniaeth rhwng y twmbren a ddefnyddia'r bardd yn y geiriau uchod at falu esgyrn carnfradwyr ei wlad, a'r wialen fedw frigog sydd yn ei law i geryddu "Tom Bowdwr yr Herwheliwr," un o bechodau trymaf yr hwn oedd "rhoddi cig y goes i'r ci a'r asgwrn coes i'w fachgen."

Ond y dernyn mwyaf gorchestol sydd yn y llyfr hwn, ac yn marn lluaws o gyfeillion Ceiriog, campwaith fawr ei oes ydyw Alun Mabon. Gan fy mod i o'r un farn â'r lluaws a grybwyllwyd, bu llawer dadl gyndyn rhyngwyf â'r awdwr ar wahanol adegau parth rhagoriaethau cydmariaethol Myfanwy a'r gân hon. Daliai ef yn dyn tros I; ond ni phrawf hyny ddim ond nad oes fawr ymddiried i'w roddi yn marn awdwr am ei gyfansoddiadau ei hun. Oni chredai Milton fod Paradise Regained yn llawer gwell na Paradise Lost! I'm tyb i, y mae Alun Mabon yn fwy gwreiddiol, ac o ganlyniad yn perchen mwy o hunaniaeth (individuality) yr awdwr, sef y nodweddion hyny sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth eraill. Wedi'r cyfan, gwreiddioldeb meddyliol ydyw gogoniant bardd. Gallu ailraddol ydyw yr un efelychiadol neu ddynwaredol; nis gall yr eco byth ragori ar y llef a'i cynyrchodd, mwy na chyfieithiad ar y gwreiddiol. Caniatawn yn rhwydd fod darnau cystal yn Myfanwy ac yn A. Mabon, ond yno y mae'r awen yn fwy oriog ac anwadal—" un gynes ac oer ydyw hi,”—a'r meddyliau yn fwy cyffredin neu gyffredinol. Wrth ddarllen Myfanwy, gelwir arnom i roddi nòd o adnabyddiaeth flaenorol ar fwy nag un meddwl a ddaw ger ein bron; ond y mae newydd-deb yr olaf yn bur fel anadl y boreu. Sylwai un llenor mai "Pren afalau tan ei flodeu ydyw Myfanwy, a phren afalau tan ei flodeu a'i ffrwyth ydyw Alun Mabon." Y mae rhagoriaeth yr olaf ar y flaenaf yn hollol gyson â deddf cynydd a dadblygiad; canys rhaid i fywyd fyned rhagddo nes cyrhaedd ei lawn faint. Yr oedd Ceiriog yn tynu at ei 29ain oed pan ganai y fugeileg hon i ymdrechfa Aberdar, ac felly yn anterth ei ddawn awenyddol.

Yr wyf yn barod i gydnabod mai Myfanwy ydyw y Rhiangerdd oreu yn yr iaith, ac mai Owain Wyn ydyw y Fugeilgerdd oreu, ond credaf yn ddiysgog fod Alun Mabon yn gyfuniad hapus o'r fugeileg a'r rhiangerdd.

Cyfres o 26ain o ganeuon byrion ydyw Alun Mabon ar wahanol fesurau, ac am hyny y gelwir hi yn Delynegol. Cysylltir y naill gân wrth y llall gan dreigliad yr hanes. Yn y pum' cân gyntaf, desgrifir yr arwr, Alun y Bugail, ac y mae dwy ohonynt wedi eu dodi yn ngenau y Bugail ei hun. Yna dygir ger bron Menna Rhen, y rhian deg sydd wedi enill ei serch. Yn y garwriaeth a ddilyna, cymer yr awdwr y cyfleusdra i gydnabyddu darllenwyr yr oes hon â hen arferiad garwriaethol oedd yn mysg ei teidiau a'u neiniau, sef rhoddi canghen fedwen yn arwydd o serch a changhen gollen o anserch. Bu cryn lawer o ymgipris rhwng y Cyll. a'r Bedw yn ystod y serch-ymgyrch hon, ond y fedwen o'r diwedd a enillodd y dydd. Ymdrinia'r bardd â'r hanes mewn rhyw haner alegori a chyffyrddiadau tyner a llednais, megys yn y ddyri brydferth a ganlyn:

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon,

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gynta' rioed.

Mi dro'is yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y 'deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren:
Ac yno'r oedd y gwcw
Yn canu wrth fy mhen!


O diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd-
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.

Y mae'r delyneg yna fel y friallen syml yn rhagarwyddo dyfodiad gogoniant Mai. Wedi ychydig yn rhagor o ymboeni gydag anhawsderau "ciaru," chwedl y Meirionwys, sylweddolir gobeithion y Bugail ei fyfyrion y dydd a'i freuddwydion y nos -trwy iddo gael ganddi newid ei henw wrth yr allor "Nes aeth yn Menna Mabon, â modrwy ar ei bys."

Ond nid gwynfyd oll oedd ei fywyd ar ol mwy na chyn priodi; a daeth pwys a thrafferthion y byd i bwyso'n fuan ar ei ysgwyddau; gelwid am

Ychwaneg o fwyd i rai bach,
Ychwaneg o lafur a thrael,
Er hyny yn nghwmni fy Men.
Yr oedd imi gysur i'w gael.

Tra y daliodd Menna i'w gysuro, nid oedd mor ddrwg arno nad allasai fod yn waeth. Ond yr achlod i'r hen fyd brwnt yma! cododd ystorm o'r cŵr hwnw hefyd. Y fam-yn-nghyfraith oedd yn cael y bai o beri'r gynen yn yr achos hwn fel bob amser. Yr oedd Menna, fel yr ymddengys, yn bur hoff o roi tro i weled ei mham tros y bryn; ac edliwiodd Alun iddi unwaith pe na buasai ei theithiau yn y cyfeiriad hwnw lawn mor aml, y cawsent fwy o lonyddwch gan y crydd. Torodd hyn holl argaeau hyawdledd Menna Mabon, tywalltodd ddiluw o ymadroddion llosgawl am ben y truan gwr; a phan ballodd geiriau, dechreuodd wylo, a dweyd mai at ei thad yr elai hi, ac nad oedd undyn ychwaith allai ei rhwystro. "Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwrdd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd," nes yr aeth trefn yn annhrefn yn y tŷ ac allan, ac y daeth bywyd i Alun yn faich anhawdd ei ddwyn; yn ei eiriau ef ei hun:—

Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd i mi'n bwn,
A gyrais efo'r hogyn
I Menna'r llythyr hwn.

Y llythyr" hwnw ydyw'r gân boblogaidd, a adwaenir wrth yr enw "Bugail Aberdyfi," wedi ei dodi ar gerddoriaeth gan Gomer Powell, o Wrecsam. Dychwelodd yr hogyn gyda'r genadwri sydd yn profi fod Ceiriog yn "sciamer" celfyddgar. Gwrthodai Menna yn bendant gydsynio â'r cais, ac awgrymai fod iddi hi gael y bechgyn i'w magu ac i'r genethod aros lle yr oeddynt yn ngofal eu tad:— 'Roedd hi yn ymwahanu, ac felly'n canu'n iach, Ond-hoffai roddi cusan ar wefus Enid fach.

A thranoeth hi ddychwelodd i ddwyn y rhwyg i ben;
Ond O! fe dorodd dagrau o eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan fe'n hail gymododd ni.

Dyna ddarlun y buasai beirdd goreu yr oesau yn falch o'i arddel; y mae ei dlysni mor hawdd ei weled, ac o'i weled mor hawdd ei edmygu, fel y rhaid ini ofyn maddeuant y darllenydd am alw ei sylw ato. Yn fuan ar ol yr amgylchiad gofidus a nodwyd, daeth afiechyd i'r teulu gwledig i selio'r cymod a'i gadarnhau. Tarewir Alun gan glefyd peryglus; ac yn ei ing a'i gyfyngder arteithiol, y mae serch Menna a'i gofal diorphwys am dano yn werthfawr yn ei olwg, ac awgrymir mai ei dyfalwch cariadlawn hi a arbedodd ei fywyd:—

Fel y graig, safai'm gwraig anwyl yn eon,
Ac i'r nef gweddi gref yrodd o'i chalon;
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd yn yr awr ddua',
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

Erbyn y gân nesaf, y mae'r perygl drosodd; y claf yn hybu drachefn i fywyd, ac yn datgan y profiad nas gwyr undyn am ei felusder ond y sawl a'i mwynhaodd:—

Ar ol fy hir gystudd,
'Rwy'n cofio'r boreuddydd
Y m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:
Ac ar fy ngwyn dalcen
Disgynodd yr heulwen,
Ac awel o'r mynydd ac awel o'r môr.

Trwy wenlas ffurfafen
Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a'i gwynebais ac yfais y gwynt:
A'r adar a ddeuent
I'm hymyl a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt
Fy ngeneth ieuengaf
Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw:
A daeth fy nghi gwirion,
Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fynu a llyfodd fy llaw!

Yna newidia'r bardd gywair y dôn—disgyna o'r llon a'r chwareus i'r prudd-swynol, ac yn y dull sydyn ac annisgwyliadwy a nodir ganddo tan y penawd "Digwyddiad Damweiniol," t.d. 59. Cyll gydmares anwyl ei fywyd; a cherdd allwyn o'i eiddo, yn ei alar a'i anhunedd, ydyw'r delyneg nesaf. Y mae ymadroddion y gân hon, a'r fyfyrdraith ysplenydd i'r Fodrwy Briodas sydd yn ei dilyn, mor llawn o deimlad dwys—effeithiol, fel mai annichon bron credu iddynt gael eu hysgrifenu hefo inc cyffredin, ond mai â gwaed calon yr awdwr y dodwyd hwynt ar bapur:

Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau'r haul;
'Rol gadael gwely gwaeledd.

A llawer tywydd garw
Fu er yr amser hwnw,
Mae'm plant yn wragedd ac yn wŷr,
A Menna wedi marw!

Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ond ch'ododd Menna byth mo'i phen
'Rol ini gladdu'r baban.


'Rwy'n cofio'r Sul y Blodau
Yr aeth i wel'd eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai myn'd i'r bedd 'roedd hithau!

Penliniodd dan yr ywen,
A phlanodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri'r coed,
A brig o droed y g'lomen.

Y blodeu gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gwywo 'roedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a'i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw'r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
Yw'r unig drysor fedda'.


Y FODRWY BRIODASOL.

Mae Menna'n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw'r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd 'rwy'n cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae'm calon yn troi—
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
'Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy'r adduned yn oer ac yn fud!

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
'Roedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwên,
Y clychau yn canu, a'r byd fel yn ffol—
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di'n ol!
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi:
O! fodrwy'r adduned, nes gwywo'r llaw hon,
Fe'th gadwaf di'n loew, fe'th gadwaf di'n gron

A therfynir gyda dau benill adfyfyriol, sydd yn dweyd llawer ac yn awgrymu mwy—hen wirionedd mewn gwisg newydd yn gweddu yn dda iddo:—

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt:
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd
Ogylch traed y graig a'r bryn:
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.


Nid oes yn y fugeilgerdd benigamp hon ddim ffug-geiriau bombast, teimladau "gwneud," gorchestion anhygoel, ymddyddanion ffol, a siaradach rhodresgar. Yr holl gelfyddyd sydd yma ydyw'r gelfyddyd i arddangos natur yn naturiol. Yr ydym wrth ei ddarllen megys yn gweled ei golygfeydd ac yn adnabod y cymeriadau. Yr oedd bugeiliaid Virsil, a Shenstone yn rhyw fodau clasurol, oerion, i ni amddifad o gig a gwaed; yn byw yn y gor uchelderau pell; yn ddelwau teg, ac er wedi eu llunio'n gelfydd o'r marmor puraf, neu o bres, ie, neu o aur coeth os mynwch—delwau oeddynt er hyny. Ac nid oedd ein beirdd bugeiliol ninau, os yn byw yn agosach atom—Edward Richards o Ystradmeurig a Glasynys—nemawr gwell. Ond y mae amlinellau y darluniau sydd yn Alun Mabon wedi eu tynu mor naturiol, fel y gallwn, ac yr ydym, yn eu llanw gyda ein dychymyg ein hunain. Yr ydym fel yn byw tan-yr-un-tô â'r arwr; yr ydym yn adwaen ei lais a swn ei droed. Ni a'i gwelsom ef ganwaith yn ei hugan liain, a'r ci wrth ei sawdl, yn cerdded llechwedd y mynydd; clywsom Menna yn "dweyd y drefn" yn y ffrae fythgofiadwy hono; edrychasom arni yn myned tros y bryn at ei thad, yn ei gwisg Gymreig drwsiadus hen-ffasiwn o "bais a becwn," a'i het binaclog yn bygylu gan yr ystorm o ddigofaint oedd yn dygyfor islaw. Buom yn llygaid-dystion o'r "penlinio tan yr ywen," a gwyliasom y rhosynau cochion ar fedd y plant a gruddiau'r fam yn cydedwino. Nid creadigaethau rhamantus ydynt i ni, nid hyd yn nod hanes a ddarllenir mewn newyddiadur, ond rhan o gylch ein cydnabyddiaeth. Y mae tros 25ain mlynedd wedi myned heibio er pan ddarllenasom Alun Mabon gyntaf; ac o hyny hyd yr awrhon ni welsom mewn argraff ddim mor angerddol a goddeithiol o deimladwy â'r fugeilgerdd hon, yn enwedig tua'i ddiwedd, oddigerth efallai diwedd Amos Barton gan George Eliot, neu ddyddiau olaf F'ewyrth Rhobert gan Hiraethog.

Nodiadau

[golygu]