John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith/Ysgol a chychwyn gwaith
| ← Ei fro | John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith gan Isaac Foulkes |
Dechrau barddoni → |
Ysgol a chychwyn gwaith
Prif ddiffyg y cwm ydoedd absenoldeb addysg. Mae'n wir fod yno ysgol gwlad yn Nantyglog, a bu Ceiriog yn mwynhau hyny o fendithion oedd ganddi i'w cyfranu; ond fel y gellid disgwyl, mewn ardal mor wasgaredig ei thrigolion a Llanarmon, a dim i'r ysgolfeistr yn dâl ond ceiniocach y plant, dyfroedd digon prinion a ddarperid i'r sychedig am wybodaeth yn Nantyglog. Am ysgol ramadegol, fel y dywedir, nid oedd yr un yn nes at y fan na Chroesoswallt. Mae'n ddianmheu y gallasai ei rieni o ran moddion bydol ei ddanfon yno, er ei bod yn fyd digon caled ar amaethwyr y pryd hwnw fel yn bresenol; ond y caswir yw mai ychydig oedd nifer rhieni Cymreig, o ddeugain i driugain mlynedd yn ol, a gredent fod addysg plant yn ddaioni digymysg Tybient fod tuedd ynddo i wneud plentyn yn segur a diddefnydd, ac mai gwell o lawer iddo ddibynu ar ei alluoedd naturiol; yr hyn oedd mor rhesymol a disgwyl iddo amddiffyn ei hun yn well hefo'i ddyrnau moelion na chydag arfau priodol yn ei ddwylaw. Y cyfeiliornad andwyol hwn ydyw y prif reswm fod mor ychydig, mewn cydmariaeth, o wyr dysgedig yn ein gwlad yn yr oes hon, rhagor yn yr amser a fu, ac, ni a hyderwn, yn yr amser a ddaw.
Yn ol tystiolaeth un o'i gydysgolheigion yn Nantyglog, dysgai yn gyflym; ond tra ragorai mewn gramadeg. Safai ar ben yr ysgol fel gramadegydd; ac y mae yr achos o hyny yn rheswm cryf i bob Cymro tros gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dysgodd Ceiriog Ramadeg Saesneg yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gramadeg Cymraeg a ddysgai gartref. Darfu i'r tad gamddeall cyfarwyddyd yr ysgolfeistr, a phrynu Gramadeg Tegai i'r bachgen yn lle un Lindlay Murray. Ymroddodd yntau ar unwaith i ddysgu hwnw, ac yr oedd ganddo grap pur dda arno yn mhen tua phythefnos. Tra yr oedd y plant eraill yn pendroni gyda thermau na wyddent ar faes medion y ddaear beth oedd eu hystyron, ac yn anmheu hwyrach a oedd ystyr iddynt o gwbl, yr oedd mab Penybryn wedi deall y rhwyfau, ac yn gadael ei gydymdeithion yn yr ymdrech yn mhell bell ar ol. Pa hyd tybed yr erys Cymru yr unig wlad wareiddiedig tan goron Prydain, lle y rhoddir pob rhwystrau ar ffordd y bobl i ddysgu ac arfer eu hiaith eu hunain? Pe treuliasai brenhinoedd a seneddwyr Lloegr, yn y canrifoedd a aethant heibio, haner cymaint o'u hamser i ddifodi gorthrymderau yn y Dywysogaeth deyrngarol hon ag a wastraffwyd ganddynt i geisio dileu ei hiaith, Cymru fuasai y wlad ddedwyddaf dan haul.
Wedi derbyn ei ddogn o ysgol, dychwelodd y llanc at y bywyd amaethyddol; ond ychydig flas a gai arno, nac o bleser ynddo. Amlach llyfr yn ei law na ffust; gwell oedd ganddo ddilyn ei fyfyrdod na chanlyn y wêdd, ac unigedd y mynydd na chymdeithas haid o fedelwyr. Braidd na chredwn mai ei brofiad ef ei hun ydyw'r englyn canlynol, yr hwn a rydd yn ngenau'r Morwr, yn ei awdl i'r Mor:—
"Druan gwr! nis medrwn gau—ar ochr
Y gwrychoedd a'r cloddiau;
Aethus son-mi fethais hau,
A ffaeliais drin ceffylau."
Ond ni bu mab fferm erioed, meddai un a'i hadwaenai yn dda, gymaint ei ofal am fod pedolau y ceffylau mewn cywair priodol; ac mor barod i alw sylw at unrhyw ddiffyg ynddynt, a chynyg ei wasanaeth i fyned â'r anifail cefnesmwyth at y gôf i gael carnwisg newydd. Dengys hefyd y dyfyniad canlynol o un o'i lyfrau ei fod yn llawn afiaeth a direidi diniwaid, fel pob bachgen, yn enwedig os bydd rhywbeth ynddo fo":—
YR wyf yn cofio i fy nhad wneud Corn Hirlas o gorn tarw, a'i alw yn "gorn cinio," a byddwn yn hoff iawn o fyned âg ef ar fy mant ar ben clawdd y "Wern Fach," pan gawn archiad o'r tŷ, i alw fy mrodyr a'r gweision i'w prydau bwyd-yr oeddwn yn meddwl bob amser fod rhyw nôd yn y corn hwnw tebyg iawn i frefiad llo, os na chenid ef yn iawn. "Y mae hyny yn beth digon naturiol, ebai fy nhad, "o achos y mae pob corn tarw wedi bod yn gorn llo; ond barnai Dafydd, fy mrawd, fod achos mwy uniongyrchol i'r corn swnio fel brefiad llo, hyny oedd am fy mod i yn ei ganu. Blinodd yr holl gymydogaeth yn fuan ar yr oernadau chwithig oedd yn d'od o fy nghorn, ac mi flinais inau arno gyda bod newydd-deb y tegan yn darfod, ac mi roddais waelod o ystyllen yn ei ben praff, a chorcyn potel bop yn ei ben main, ac fe'i gelwais drachefn yn gorn powdwr." Cymerais ef gyda mi i "dŷ'r crydd" i chware powdwr ac i saethu gwellt efo fy nghyfeillion. Rywsut neu gilydd, pan oedd y corn ar fainc y crydd, aeth gwreichionen o dân iddo, a bu agos iawn i un llanc, yr hwn oedd yn meddwl ei hun yn rhy dda i fod yn gobler, gael dyrchafiad trwy gorn y simdde. Fe gofiaf byth am y tro hwnw, ac am yr ymwared gwyrthiol a gawsom. Llosgodd un bachgen ei wyneb, nes crychodd ei dalcen fel "hen drigain. Diengais inau gyda llosgi fy nghlust, colli fy aeliau, a chyrlio fy ngwallt. Byth er y tro hwnw, y mae ynof arswyd greddfol yn erbyn powdwr gwn. Yr hanes diweddaf a gefais am y corn cinio a wnaeth fy nhad, yr hwn a wnes i yn gorn powdwr," ydyw ei fod yn awr ar fainc crydd, ac yn ol tynged y corn buelin, i newid ei enw, gelwir ef yn awr yn "gorn pâst; a dyna y defnydd a wneir ohono.
Erbyn 1848, gwelid yn bur amlwg y byddai galwedigaeth arall yn fwy cydnaws â'i chwaeth nag amaetha; a chan ei fod mor hoff o lyfr, pa grefft mor gyfaddas iddo a'r un o wneud llyfrau? Cafwyd lle iddo fel egwyddorwas gydag argraffydd yn Nghroesoswallt; a bu yno ar brawf am dri mis, ond deuai gartref o nos Sadwrn tan fore dydd Llun i dreulio'r Sul. Ar ddiwedd cyfnod y prawf, pan aed i hwylio ei rwymo, cafodd ef a'i rieni allan fod yn rhaid iddo wasanaethu am saith mlynedd. Meddylid fod hyny yn rhy hir o amser, ac yn wir nid oedd ei serch yntau at y gelfyddyd ychwaith yn angherddol. Felly, gadawodd hi; a da hyny, canys deg i un na chollasem y bardd melusber yn yr argraffydd. Ychydig o feirdd da a fagwyd yn mysg pigwyr llythyrenau; Cawrdaf, mae'n debyg, oedd y goreu yn mysg y Cymry.
Yn nechreu y flwyddyn ganlynol (1849), aeth i Fanchester, at gâr iddo o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd yn cadw siop grocer yn Oxford Street, Dyma ei fynediad cyntaf gwirioneddol oddicartref, canys yn Nghroesoswallt yr oedd megys o fewn cyrhaedd galw. Y mae wedi costrelu ei brofiad ei hun, a phryder ei fam, yn y cyfwng pwysig hwn ar ei fywyd mewn cân nodedig o effeithiol, yr hon a welir yn yr Oriau Eraill:
"Mae John yn myn'd i Loeger,
A bore foru'r ä,
Mae gweddw[1] fam y bachgen
Yn gwybod hyny'n dda;
Wrth bacio'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi
Fel arch yn myn'd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau
I'r gist sydd ar y llawr,
Yn llon, gan feddwl gweled
Gwychderau'r trefydd mawr;
Nis gwel er deigryn dystaw
Ar rudd y weddw drist,
Na'r Beibl bychan newydd,
A roddwyd yn y gist."
Tua cyhyd o amser ag y bu yn brinter y bu hefyd yn grocer, canys rhoes ei gâr a'i feistr y fasnach i fynu; a chafodd le wedi hyny fel ysgrifenydd yn ngorsaf nwyddau London Road, Manchester. Arosodd yma am un mlynedd ar bumtheg, a dringodd o ris i ris yn y gwasanaeth nes bod ganddo cyn ymadael haner cant o glercod tano. Yr oedd y cyfnod hwn y pwysicaf, ar lawer ystyr, yn ei holl fywyd; oblegyd cynwysai nid yn unig y drydedd ran o'i oes, ond dadblygwyd ynddo adnoddau cyfoethog ei alluoedd meddyliol. Cyrhaeddodd Fanceinion yn fachgen ieuanc gwladaidd a hawddgar, newydd adael ei ddwyar-bumtheg oed, a gwrid y bryniau ar ei ruddiau, ac awen burwen yn berwi" yn ei ysbryd nwyfus. Yr oedd wedi ei fendithio gan natur â'r ddawn werthfawr o benderfyniad cryf; ac efe a benderfynodd. Nid i fod yn gyfoethog, nac yn un o brif farsiandwyr y ddinas fawr hono, onide goludog ac un o brif farsiandwyr Manchester a fuasai; canys ychydig iawn o'r sawl a enillasant gyfoeth a feddent ei gymhwysderau a'i gyneddfau ef at y cyfryw lwyddiant. Yn ffodus, nid yw cyfoethogion yn brinion, ond yn anffodus y mae beirdd fel Ceiriog yn neillduol o brinion. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu hefo synwyr cryf; ac fel y prawf cynlluniau cywrain llawer o'i gynyrchion, yr oedd yn gryn athronydd heblaw bod yn fardd. Y gallu hwn a barodd iddo sylwi yn fuan ar ol gadael cartref fod lleoedd gweigion yn ystafelloedd ei feddwl, a phenderfynu mai goreu bo'r cyntaf eu dodrefnid â gwybodaeth a dysg. I lanc o'i anianawd ef yr oedd meddwl gwag yn fater annhraethol fwy difrifol na logell wag. Parodd hyn iddo ymroi yn ddioedi i ddarllen ac efrydu, ac i gyflwyno pob awr hamddenol ar ei elw i hunan-ddiwylliant; nes y daeth llafur meddyliol yn ail natur iddo ac yn wir bleser. Dywed un a'i hadwaenai yn dda am dano yn y cyfnod hwn:-" Wedi darfod â'i oruchwylion y dydd, ceid ef bob amser gartref-o'r adeg y deuai adref hyd amser gorphwys, a'r amser hwnw yn hwyr iawn fynychaf. Darllen, cyfansoddi, ysgrifenu, oedd ei fwyd a'i ddiod. . . . . Y mae yma wers dda i ieuenctyd ein gwlad i'w hefelychu, o gymeryd rhywbeth gwerth i ymdrechu ato yn eu horiau hamddenol. Nid llawer o ddaioni a geir o un bachgen ieuanc os bydd efe allan yn barhaus. Gellir dweyd am fywyd Ceiriog Hughes mai bywyd o lafur meddyliol ydoedd, os llafur hefyd iddo ef. Dyna bleser ei fywyd; a thrwy ei fywyd ymroddgar, efe a wnaeth lawer o les. Anfynych y bydd cyngherdd Cymreig heb gan o'i waith ef yn gwefreiddio y dyrfa; a bydd y cyrddau hyn fynychaf wedi eu paratoi at rhyw achosion daionus, megys tynu dyled capelau ac ysgolion, neu rhyw elusenau i'r weddw a'r amddifad."—IDRIS VYCHAN yn y "Darlunydd."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Defnyddia'r bardd y gair gweddw yma, er mwyn cryfhau, a hwyrach ddyeithrio y darlun; gan nad oedd ei fam yn weddw ar y pryd yn ystyr gyffreddin y gair.