Neidio i'r cynnwys

John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith

gan Isaac Foulkes

I'w darllen pennod wrth bennod gweler John Ceiriog Hughes: ei Fywyd, ei Athrylith, a'i Waith
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Isaac Foulkes
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Ceiriog Hughes
ar Wicipedia

Gyfaill im mynych gofiaw
Hwda lun ar gledr dy law
Gwylia rhag colli'r gwawl-lun
A hwda fy llaw gyda fy llun —J. C. H.


JOHN CEIRIOG HUGHES:


Ei Fywyd, ei Athrylith, a'i waith.


GAN

LLYFRBRYF.


Ni chenaist ti linell raid wrth eglurhad,
Ond cenaist i'r galon ar lafar dy wlad.—CEIRIOG.



Liverpool:
CYHOEDDWYD GAN ISAAC FOULKES, 18, BRUNSWICK STREET.
1887.

RHAGYMADRODD.

Yr oedd yn mhlith cyfeillion y Bardd ymadawedig luaws cymhwysach na ni i ysgrifenu y byr-gofiant canlynol; ond yr ydym yn sicr nad oedd yr un ohonynt yn meddu syniadau uwch am ei athrylith na pharch mwy diffuant i'w goffadwriaeth. Daeth y gorchwyl i'n rhan ni yn y modd damweiniol a ganlyn: Yn fuan ar ol marwolaeth CEIRIOG, cawsom lythyr oddiwrth Mr. VINCENT EVANS, ar ran Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, Llundain, yn gofyn a darllenem ni Bapur o flaen y Gymdeithas hono, ar "J. CEIRIOG HUGHES:" yn nghydag Adgofion am dano. Wedi peth petrusder parth ein digonolrwydd i'r gwaith, atebasom yn gadarnhaol. Cymerodd y cyfarfod le, tan lywyddiaeth STEPHEN EVANS, Ysw., yn ystafelloedd y Gymdeithas, ar y 23ain o Fai, bedair wythnos union i'r diwrnod y claddwyd y Bardd. Fe welir fod yr amser yn rhy fyr i wneud dim ond sylwadau brysiog ac arwynebol; ond derbyniwyd hwynt yn groesawgar; a gobeithio ein bod yn ddigon henffel i wybod mai teilyngdod y gwrthddrych, ac nid dim yn y Papur, a barai hyny. Awgrymodd y Parch. J. ELIAS HUGHES, M.A., y dymunoldeb ini ei helaethu a'i argraffu; cymeradwyai amryw y cynygiad a chan roddi mwy o hyder yn marn eraill nag yn yr eiddom ein hunain, darfu ini gydsynio.

Ar ol ymgymeryd fel hyn â'r gwaith, penderfynasom ei gyflawni goreu gallem, trwy ddweyd yr hyn a wyddem eisoes am y Bardd, a chynull at hyny gymaint yn rhagor ag oedd yn ddichonadwy mewn amser byr a phrysur; ond ni fwriadwyd ac ni fwriedir yn awr i'r llyfryn hwn fod y Bywgraffiad o Ceiriog. Gan wybod gymaint ydyw dylanwad golygfeydd ar ffurfiad meddwl dyn, yn enwedig ar feddwl bardd (hen ddamcaniaeth a nodir gyntaf yn Nghymraeg gan Gutyn Padarn yn nghofiant John Blackwell), ymwelsom â Dyffryn Ceiriog, bro enedigol y bardd, Mehefin 4ydd. Gwelsom ei frawd, Mr. DAVID HUGHES, a chawsom ganddo aml i gofnodiad dyddorol, cystal a chan ei berthynasau caredig sydd yn preswylio Penybryn yn bresenol. Pigasom rai awgrymiadau ar fin y ffordd wrth ymgomio gyda hen gymydogion yr hwn y ceisiem hanes ei ieuenctyd yn eu mysg. Gyda llaw, nid ydym yn gwybod i ni gyfarfod erioed yn un man â phobl mwy deallgar a synwyrol a thrigolion y cwm tawelgain hwn. Dywedant eu meddyliau mewn Cymraeg lân loyw, yn ddirodres ond yn gwbl foneddigaidd.

Ail ymwelasom â'r fangre drachefn, Mehefin 21, yn nghwmni ein cyfaill Mr. LLEW WYNNE; gwelsom y brodorion yn mwynhau dydd gwyl Jubili ein Brenhines; a chredem nad oedd gan ei Mawrhydi yn ei holl deyrnas ddeiliaid a dreulient eu gwyl yn fwy gweddus, llawen a rhesymol. Dygodd y Gwyn ei daclau photograffio gydag ef, a thynodd lun Penybryn; a thrwy ddyfais Meisenbach, yr ydym yn rhoddi copi ohono yn y llyfr hwn. Buom yn gohebu cryn lawer hefo Mrs. HUGHES, gweddw alarus y Bardd; a chawsom bob cymhorth a chefnogaeth ganddi gyda'r gwaith. Yn niwedd Awst, ymwelasom â Chaersws, lle y bu CEIRIOG farw; â Llanwnog, lle y mae efe yn "cysgu cwsg y bedd"; ac â Mr. BENNETT, yr ymddiriedolwr, i'r hwn y rhoes efe ofal ei amgylchiadau a'i ysgrifau.

Dyna ein trwydded.

Am y Darlun o'r Bardd, gweler tudal. 85.

Hyderaf y ca fy nghydwladwyr llengarol gymaint o bruddbleser wrth darllen y llyfr, er ei holl ddiffygion, ag y gefais i wrth gasglu ei ddefnyddiau a'u hysgrifenu i lawr.

Medi 14, 1887.

CYNWYSIAD

COFIANT PERSONOL

Ei achau Gorlafur
Ei hynafiaid Ei briodas
Ei enedigaeth Teula serchus
Ei dad Ei Ddarlun yn y llyfr hwn
Ei fam Fel dyn a Christion
Ei frodyr a'i chwiorydd Symud i Lanidloes
Ei uchelgais Jane, ei chwaer
Yn yr ysgol Ei anrhegu â'i ddarlun
Gartref, ar y fferm Symud i Dowyn
Ei "Gorn Hirlas" Gorphwyso
Yn dysgu argraffu Symud i Drefeglwys
Yn myned i Fanchester Symud i Gaersws
Yn grocer Ei unigrwydd yno
Yn ngorsaf London Road Ei ddiwydrwydd yno
Yn efrydu'n galed Ei rag-gynlluniau
Yn dechreu barddoni Fel Beirniad
Ei wobr gyntaf Fel Bardd Caneuol
Enill yn Nantglyn ac yn Llundain Croesaw yn Llundain
Diffyg gwreiddioldeb Ei afiechyd
Ei gyfeillion Ei hoffder o fiwsig
Ei athrylith Ei farwolaeth
Rheolau wrth gyfansoddi Ei gladdedigaeth
Yn son am ei Ganeuon Ei ddymuniadau olaf
Fel rhyddieithwr Ei feddargraff iddo'i hun
Y golled am dano a'r galar ar ei ol


EI LYFRAU A'I WAITH

Alun Mabon Cerddorion a roisant ei waith ar gân
Awdl y Môr Cist-goffa Mynyddog
Awgrymiadau Cynyrchion heb eu hargraffu
Bardd a'r Cerddor, Y Cyfoedion Cofiadwy a chyfieithiad
Beirniad, fel Cywydd Llanidloes
Brwydr Crogen Chwedlau am hen Gerddorion
Cadlef Morganwg Dull o gyfansoddi
Caneuon Merthyr Dyddiau mawr Taffi
Cantawd Harlech Enwau Hen Alawon
Cantawd Tywysog Cymru Fodrwy Briodasol, Y
Cant o Ganeuon Gareg Wen, Y
Carnfradwyr Geiriau'r Songs of Wales
Catrin Tudur Gemau'r Adroddwr
"God bless the Prince" Oriau'r Bore
Gogerddan Oriau Eraill
Gohebu i'r Faner Oriau'r Haf
Herwheliwr, Yr Oriau'r Hwyr
Hwian-Gerddi Owain Wyn
Jona, pryddest Penillion y Misoedd
Lisi Fach Rhys ab Tomos (Syr)
Meurig Grynswth, Syr- Vord Gron, Y
Myfanwy Fychan Ysgrifenu i'r Traethodydd


PERSONAU A GRYBWYLLIR YN Y LLYFR

Ab Ithel Dafydd Morganwg
Alafon Daniel Ddu o Geredigion
Alaw Ddu Davies, David, YH, Llanddinam
Alaw Trefor Davies, W Cadwaladr
Ap Vychan Derfel, R J
Bardd Alaw Dewi Wyn o Eifion
Bardd Nantglyn Don Quixote
Bardd y Brenin Dungannon, Arglwydd
Bardd y Gwagedd Dyfed
Bennett, Nicholas Eben Fardd
Beranger Elen, Gwilym
Borrow, George Elias, John
Blackwell, John Edwards, Moses
Bleddyn ap Cynfyn Edwards, Mrs Phoebe
Burns, Robert Edwards, Roger
Caledfryn Edwards, Capt R Ll
Carleton, William Einion Efell
Carn Ingli Elen Egryn
Catrin o Ffrainc Elfyn
Cawrdaf Eliot, George
Charles o'r Bala Elis Bryncoch, a'i arluniau
Christmas Evans Emrys
Clarke, Isaac Estyn
Clwydfardd Evans, D Emlyn
Corrigan, P W Evans, David
Coleridge Evans, John, Tynyfedwen
Cranogwen Evans, Stephen, YH
Creuddynfab
—Ei arabedd, &c
—(Barddoniadur)
Father Jones
Cynddelw-
Ei fedd, ei waith,
—ei gywydd Berwyn
Francis, John
Dafydd ab Einion Fychan, Rowland
Dafydd ap Gwilym Ffraid, I D
Dafydd ap Siencyn Games, Dr
Dafydd Ddu Eryri Glan Alun
Dafydd Gam, Syr Glan Llyfnwy
Dafydd Ionawr Glasynys
Goronwy Owen Morgan, Tregynon
Gwallter Mechain Moore, Thomas
Gwalchmai Morris, Dafydd
Gwilym Eryri Morris, E. R.
Gwilym Gwent Morris, Richard
Gwilym Tawe Morys, Edward
Gwyneddon Morys, Huw
—ei ddylanwad ar Ceiriog,
—ei ganeuon serch,
—ei barch, ei Gadair
Harri, ii Myfanwy Fychan
Henry, John Myfyr Morganwg
Hickman, Mrs Mynyddog
Hiraethog, Gwilym Nefydd
Hughes, Catherine Newton, Syr Isaac
Hughes, David Nicander
Hughes, Mri, Gwrecsam Owain Alaw
Hughes, Parch J Owen Glyndwr
Hughes, Richard, o Sarffle Owen Gwynedd
Hughes, R. S. Owen, Huw o Fronyclydwr
Hywel ab Einion Owain Meirion
Idris Vychan Owen, Parch Elias
Ieuan Ddu Owen, Syr Hugh
Ieuan Fychan Owen Tudur, Syr
Ieuan Glan Geirionydd Parry, Dr J, Mus Doc
Ieuan Gwyllt Parry, D. S.
Ieuan Ionawr Parry, John, Riwabon
Ioan Arfon Parry, Parch D
Ioan Tegid Pencerdd Gwalia
Iorwerth Glan Aled Pedr Mostyn
Isaled Montaigne
Jenkins, D. Mus. Bac. Phennah, Dr
Jenkins, Edward Phylip, William
Jones, J D o Rhuthyn Poe, Edgar A
Jones, Mrs Catherine Pope, Alexander
Jones, J. O. Llanygors Powell, Gomer
Jones, J. R. Ramoth Pughe, Dr W. O.
Jones, Llewelyn Pym ab Ednyfed
Jones, Mrs Maria Quellyn
Jones, Parch Owen Rendel, Stuart, AS
Lawrance, Mr o Ferthyr Rhuddenfab
Lewis, D, Llanrhystyd Rhydderch o Fon
Llew Llaw Gyffes Rhys ab Tomos, Syr
Llew Llwyfo Richards, Brinley
Lewys Morys Mon Richards, Ystradmeurig
Linley, George Risiart Ddu o Wynedd
Longfellow Roberts, Ellis, y Telynor
Lubbock, Syr John Roberts o'r Drefnewydd
Roberts, Parch. Peter Tennyson, Arglwydd
Roberts, Syr William Thomas, J., Llanwrtyd
Roberts, Thomas Tottenham, Col
Scott, Syr Walter Trebor Mai
Shakespeare Tudno
Shenstone Tudwal
Sims, G. R. Twmni Dimol
Smith, Horace Twm o'r Nant
S. R. Virgil
Stephen, E. Watcyn Wyn
Stephen, Thos., Whalley, G. H..
Swift, Deon Wordsworth
Talhaiarn Williams, Miss, o Ynyslas
Taliesin o Eifion Williams, T. Marchant, B.A.
Tanad Williams, Thomas
Tegai, Huw Wynniaid, Peniarth

HANESION, ADGOFION, &c.

Caersws Syniad am ddedwyddwch
Ceiriog fel Arweinydd Dydd cyntaf o haf
Cerydd cariadus Dyffryn Dysynni
Corn Hirlas, y Eisteddfod Fawr Llangollen, 1858
Cyfarfod Rivington Pike Gallt y Padi
Cyhoeddi Eist. Llundain Glanyrafon
Dolwen a Sarffle HUWSIAID PENYBRYN,
DYFERYN CEIRIOG—— Llanarmon D.C.
—Dyfodiad y Methodistiaid Llanwnog
—Erledigaeth Nodiadau ar Feirdd
—Pregeth hynod PENYBRYN
—Pregeth hynotach —Y Pen Pres
—Y Creyr Glas, &c. —Olion llosgfynydd
—Brwydr Crogen —Ffarwel Ned Puw
—Pontymeibion

PENYBRYN, LLANARMON DYFFRYN CEIRIOG,

(O Photograph, gan Mr. LLEW. WYNNE, a dynwyd Ddiwrnod y Jubili, Mehefin 21ain, 1887).[1]


CEIRIOG:
EI FYWYD, EI GYFEILLION, EI WAITH.

Y TRO cyntaf i lawer o gydwladwyr a chyfeillion llenyddol CEIRIOG ei weled oedd yn Eisteddfod fawr Llangollen, yn 1858; a'r tro olaf yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, yn mis Tachwedd, 1886, pan y cymerai ran yn y cyfarfod brwdfrydig a gynelid mewn cysylltiad â Chyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn ddiau oedd arwr y cynulliad hwnw; mynai'r dorf ei gael i ffrynt yr esgynlawr, a rhoddwyd iddo fanllefau o groesaw, teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu cenedl ; a chroesaw na chafodd yr un bardd, hyd y gwyddom, erioed ei gyffelyb. Aethai 27ain mlynedd heibio rhwng y ddau gyfarfod a nodwyd; a pha faint bynag a ddadblygodd ac a gynyddodd yr hen sefydliad cenedlaethol yn y cyfnod hirfaith, rhoddes CEIRIOG bob gymhorth i ddwyn hyny oddiamgylch. Mewn ystyr lenyddol, plentyn yr Eisteddfod ydoedd, a ffynai anwyldeb mawr rhyngddynt o'r "bore gwyn tan y nos."

Yr oedd JOHN CEIRIOG HUGHES o deulu uchel-dras; ar ochr ei dad, gallai olrhain ei hynafiaid hyd at Fleddyn ab Cynfyn—y

Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun bioedd hen Bowys.

Dyma achau Huwsiaid, Penybryn, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, fel y ceir hwynt yn History of Powys Fadog, cyf. iv., t.d. 261:—


Yr Ieuan Fychan o Foel Iwrch a nodir uchod, yn ol Powys Fadog mewn lle arall, a ddisgynai o Einion Efell, arglwydd Cynllaith; ac Einion o Fadog ab Maredydd, tywysog Powys Fadog; a mab oedd Maredydd i Fleddyn ab Cynfyn.

Ac er na ddichon i bob aelod o deulu tywysogaidd fod yn dywysog, a bod amser yn ei dreigliad yn chwareu ystranciau rhyfedd hefo gwehelyth pendefigion, gan ostwng yr uchel a dodi yr iselradd yn ei le, cafodd y teulu hwn o genedlaeth i genhedlaeth ei gadw ar y naill law rhag tra dyrchafiad, ac ar y llall rhag tra darostyngiad. Cyn belled ag y medrwn ni ddeall, llanwent eu cylchoedd anrhydeddus ar hyd yr oesau mewn modd anrhydeddus; ac y maent yn parhau felly hyd y dydd hwn. Cymeriad y teulu yn y wlad ydyw, "Pobl garedig, foesgar, foesol; deiliaid gwladgar, gwyrda (yeomen) grymus o gorph a meddwl." Rhai felly fuont, rhai felly ydynt, a hir hir y parhaont felly, gan gynysgaeddu eu cenedl yn awr ac eilwaith âg awenydd melusber fel y bardd enwog yr ydym, gyda llawer o bryder, wedi ymgymeryd fel hyn âg ysgrifenu cofiant byr ohono.

Yn Methodistiaid Cymru, i., 539, sonir am Richard Hughes, hen daid i Ceiriog, yr hwn oedd yn byw yn Sarffle, ffermdy tua milldir yn uwch i fynu yn y cwm na Llanarmon. Pan aeth cenadon cyntaf yr enwad hwnw i'r ardal, gwrthwynebwyd hwynt gan ragfarn cryf a chwerw; ac nid oedd Mr. Hughes o Sarffle yn eithriad i'w gymydogion yn hyn o beth. Ond ei wraig, Mrs. Catherine Hughes, a dueddai'r ffordd arall. Byddai hi ambell dro hyd yn nod yn myned i'w cyfarfodydd, ac nid oedd dim a barai gymaint o gythryfwl yn Sarffle ag i'r wraig fyned i wrando ar y "Pengryniaid." Codai gwrychyn y gwr yn ddychrynllyd, a bygythiodd ei wraig unwaith mai y tro nesaf yr elai hi at y "geriach ragrithiol," yr elai yntau yn syth at y meistr tir i roddi'r fferm i fynu. Cynelid yr oedfeuon y pryd hwnw mewn tŷ o'r enw Megen; ac yn fuan ar ol y bygythiad, cyhoeddwyd cyfarfod yno drachefn. Er maint y dondio, aeth Catherine Hughes i'r oedfa; a Richard Hughes, yn ol ei air, a gyfrwyodd y ceffyl i fyned at y meistr tir. Yr oedd ei ffordd yn arwain heibio Megen; ac wedi dyfod at y tŷ, gorchfygwyd ef gymaint gan ei chwilfrydedd fel ag i ddisgyn oddiar ei geffyl a myned i wrando beth oedd yn myned yn mlaen yno. Cerddodd yn llechwraidd i'r cefn, lle yr oedd y bondo yn cyfarfod llechwedd y bryn, a gorweddodd ar y tô gwellt gan glustfeinio ei oreu. Wrth wrando felly, clybu ddigon i arafu ei wylltineb ac i beri iddo droi yn ol tuag adref. Ac yn mhellach, ychydig wedi hyny, pan oedd erledigaeth yn cau y naill ddrws ar ol y llall yn erbyn y Methodistiaid, caniataodd R. Hughes iddynt bregethu tan fasarnen gysgodfawr a dyfai wrth ei dŷ, ac hefyd iddynt ddyfod i'r tŷ ar dywydd garw. Nid hir y bu y meistr tir heb glywed am hyn, a daeth "rhybudd i ymadael" yn brydlawn i Sarffle; canys yr oedd peth fel hyn yn un o'r troseddau gwaethaf ar ddeddfau'r tir y pryd hwnw, Pa hawliau bynag oedd gan denant, nid oedd cynwys crwydriaid crefyddol i hel lol dduwiol tan eu cronglwyd bethbynag yn eu mysg. Felly, yn lle i denant Sarffle roi notis i'r arglwydd tir, o achos y Methodistiaid, fe chwythodd y dymhestl o gyfeiriad gwahanol, a'r meistr a roddes y notis o'u hachos i'r tenant. Ac ymadael fu raid iddo, ond cynelid y moddion yn mlaen yno hyd ei ymadawiad. Yn wir, nid oedd dim i'w enill trwy beidio.

Crybwylla awdwr Methodistiaeth am un bregeth neillduol a draddodwyd gan Dafydd Morris, o'r Deheudir, yn y ffermdy, yn fuan wedi derbyniad y notis "Y testyn ydoedd, 'Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth.' Dan y bregeth hono, torodd pawb yn mron i wylo, a llawer i lefain; rhai i weddio, eraill i folianu. Golygfa oedd hon na welsid erioed o'r blaen ei chyffelyb yn Llanarmon. Nid rhyfedd fod yno ambell un yn barod i dybied fod y bobl wedi gwallgofi; a gwaeddodd un hen wreigan allan, 'Bobl bach, anwyl! peidiwch myn'd o'ch cof.' Adeg flin a helbulus fu ar yr enwad wedi ei erlid o Sarffle ond fe dorodd gwawr ar ei nos ddu o'r diwedd ac yn benaf trwy ddychweliad dau fab a dwy ferch i Richard a Catherine Hughes yn ol i'r gymydogaeth, fel penau teuluoedd yn rhai o brif ffermydd y cwm, ac y mae eu gwehelyth yn aros yno hyd y dydd hwn."

"Yn aros yno hyd y dydd hwn;" ydynt yn ddiau. A barnu oddiwrth gipymweliad â'r ardal, gallem dybied fod tua haner plwyfolion Llanarmon yn berthynasau agos neu bell i Huwsiaid Penybryn; a diau fod yma wirio'r dybiaeth wyddonol am "oroesiad y cymhwysaf." Nid oes yn Nghymru ond ychydig deuluoedd luosoced a hwn; canys y mae canghenau ohono wedi gwreiddio ac ymganghenu yn Adwy'r Clawdd, Gwrecsam, Clocaenog, &c., ac hyd yn nod mewn mwy nag un man yn y Deheudir.

Ganwyd JOHN CEIRIOG HUGHES, yn hen dreftadaeth y teulu, Penybryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Medi 25, 1832—yr un diwrnod, fel y dywedai ef mewn ysmaldod ambell waith, ag y claddwyd Syr Walter Scott. Ei rieni oeddynt Richard a Phœbe Hughes. Yr oedd Richard Hughes yn ŵyr i'r gwron a nodwyd o Sarffle. Dyn uniawn, syrten, ydoedd, parchus neillduol gan ei gymydogion. Cyfeiria'r bardd yn fabaidd a serchog ato yn ei waith. Mewn nodiad o flaen "Y Fenyw fach a'r Beibl mawr," argraffedig yn Oriau'r Hwyr, dywed:—"Mae y gân hon yn un a gerir genyf fi tra byddaf byw; am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a'r 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Bore dranoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn ar y dydd a'r awr grybwylledig." Gan mai desgrifiad grymus o dad yn marw ydyw'r gân hono, mae'n sicr fod y cyd-darawiad yn un tra hynod, yn enwedig pan gofier mai marwolaeth ddisyfyd o'r parlys ydoedd; cwympo yn nghanol nerth ac iechyd, ac nad oedd o ran oedran ond 59 mlwydd. Dywed y bardd mewn lle arall am ei dad wrth yr allor deuluaidd:—

"Ar godiad haul yn Nghymru,
Ces lawer bore gwiw,
Pan blygai'm tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw."

Phœbe Evans oedd enw morwynol y fam. Merch Tynyfedwen ydoedd, ffermdy ar fin yr afon ychydig. yn is i lawr yn y cwm na'i chartref dyfodol. Yr oedd tipyn o natur prydyddu yn nheulu Tynyfedwen, yn enwedig yn John Evans, ewythr Ceiriog frawd ei fam. Treuliodd hi rai o flynyddau ei hieuenctyd yn Lloegr, pan y dysgodd Saesneg yn dda; ac nid oedd yr iaith hono yn anhysbys ar aelwyd Penybryn. Yr oedd yn ddynes llawer mwy ddeallgar a gwybodus na'r cyffredin, yn gyfarwydd mewn llysiau, ac yn hysbys o'u natur a'u rhinweddau. Gwasanaethai hefyd ar alwad yn dra charedig fel meddyges; ac o ganlyniad mewn plwyf mynyddig ac annghysbell fel Llanarmon, a'r meddyg agosaf yn byw saith milldir oddiyno, yr oedd yn gymydoges werthfawr. Estynwyd iddi oes hir a defnyddiol; goroesodd ei phedwar ugain mlwydd; a chasglwyd hi at ei phobl yn Ionawr, 1884. Tua saith mlynedd yn ol, gwelais yr hen Gymraes radlon yn myned ar gefn ei merlyn trwy bentref Glynceiriog; a chredwn y buasai aml i fam bendefigaidd yn rhoddi ei sidanau, ei modrwyau, a'i thlysau, yn gyfnewid am wisg wladaidd yr amaethwraig ddysyml o Benybryn, a bod hefyd yn achlysur caniad, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Yr oedd Richard a Phœbe Hughes yn aelodau ffyddlawn o eglwys y Bedyddwyr Albanaidd yn Nglynceiriog, lle y mae achos cydmarol lewyrchus er dyddiau J. R. Jones o Ramoth; ac er fod tua phum' milldir rhyngthynt a'r capel, anfynych y byddent yn absenol nac yn anmhrydlon. Gwnaed cais o leiaf unwaith i godi achos yn Llanarmon. Rhoed y gair allan y byddai hen lefarydd o'r enw Moses Edwards yn pregethu yn nghegin Penybryn ar noson arbenig; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yr ystafell fawr hono yn orlawn. Wrth weled cynulliad mor luosog, cyhoeddodd Richard Hughes ar y diwedd y byddai oedfa yno drachefn bythefnos i'r un noson. Ond yr wchw fawr! pan ddaeth yr oedfa, nid oedd yno neb ond gwr a gwraig y tŷ a'r pregethwr, druan; o'r farn, mae'n debyg, fod un waith am byth yn ddigon i eistedd tan weinidogaeth Moses, yr hwn a gysurai ei hun trwy ddywedyd, "Wel, wel, 'does dim ond eu gadael nhw yn eu calongaledwch." Ac felly y terfynodd yr ymgais y y tro hwnw. Hen gymeriad hynod oedd Moses Edwards. Yr oedd yn hen wr da, a goleu yn yr Ysgrythyrau, ond braidd yn hoff o lymed. Efe oedd yn arolygu chwarel galch Lord Dungannon, yn y Waen; ac yr oedd eisiau rhywbeth i ryddhau y llwch a sugnai i'w ddwyfron. Yr oedd y Lord yn ddychrynllyd yn erbyn diod; a phan gafodd ef ei arolygydd wedi gorwedd yn lluddedig un diwrnod poeth, ceryddodd ef yn lled lym, gan anmheu beth oedd gwir achos y lludded. Parodd hyn i'r lludd- edig gwyno ei dynged flin. "Dyma fi," ebai ef, "yn ngwasanaeth dau arglwydd; wiw imi gymeryd llymed ar y Sul, neu mi ddigiaf yr Un Mawr; nac yn yr wythnos, neu mi dynaf wg Lord Dungannon." Pa fodd bynag, nid oedd pawb yn neadell Albanaidd Glynceiriog mor hanerog eu proffes a'r hen frawd a nodwyd. Glynodd sel Phœbe Hughes hyd y diwedd, ac yr oedd ei ffyddlondeb a'i dyfalbarhad crefyddol yn destyn edmygedd ei holl gymydogion. Tra y daliodd ei nherth, elai ar gyfrwy neu cerddai, o Sabbath i Sabbath, yn ol a blaen yn rheolaidd; a phan ballodd ei chryfder gan henaint, defnyddiai gerbyd at y daith.

Bu i Richard a Phœbe Hughes wyth o blant, o'r rhai y mae pedwar yn awr yn fyw; sef, Mrs. Maria Jones, yn America; Mrs. Catherine Jones, Cwmeigia, a Mrs. Phœbe Edwards, Ty'ntwll, y ddau le yn Llanarmon; a Mr. David Hughes, yr hwn oedd yn byw gyda'i fam yn Penybryn, ac ar ei marwolaeth hi, a roes y fferm i fynu, gan fyned i breswylio at nith iddo i'r Nant Swrn, ffermdy rhwng Pontymeibion a Thregeiriog. CEIRIOG oedd yr ieuengaf o'r wyth; ac nid rhyfedd ei fod yn anwylun ei fam, a bod ei chalon yn dywedyd pethau angerddol wrtho, yn arbenig pan ar gefnu arno wrth "safle'r gerbydres," a'i adael yn ddifamddiffyn yn y ddinas fawr.

Fel na thybier fod holl dalent y teulu hwn wedi ei chyfyngu yn gwbl i'r plentyn ieuengaf, dyma ramant fechan a glywsom ar ol un o'i frodyr pan oeddym ar ymweliad â'r Dyffryn yn nechreu Mehefin diweddaf. Gelwir hi:—

Y GATH, Y CREYR GLAS, A'R FIEREN.

ER's llawer byd o amser yn-ol, aeth y Gath, y Creyr Glas (heron), a'r Fieren i gadw fferm cydrhyngddynt; ond gwelsant yn fuan nad oedd yn talu, a phenderfynasant ei rhoddi i fynu, a rhanu'r eiddo. Cymerodd y Gath yr holl wenith fel ei chyfran hi o'r yspail; a chan fod y farchnad yn isel ar y pryd, hi a'i cadwodd nes y codai yn ei bris; ond yn y cyfamser, llwyr ddifawyd yr oll ohono gan lygod. A byth er hyny, y mae euogrwydd yn peri ofn y gath ar y llygod, ac y mae hithau am eu dyfetha am iddynt ddifa ei gwenith.

Y Creyr Glas a'r Fieren a werthasant weddill yr eiddo, gan ranu yr arian rhyngddynt. Yna'r Creyr Glas a rwymodd ei drysor ef am ei wddf, ac a aeth wed'yn i rodiana a swmera at fin afon; ac wrth lygadrythu ar ei lun yn y dwfr a dotio at ei degwch, syrthiodd ei arian i'r dyfn, ac nis gwelodd ddimai ohono mwy. A byth er hyny, y mae'r Creyr Glas yn crwydro hyd fin yr afon, gan lygadu yn ddiorphwys i'r dwfr, ac estyn ei wddf hir i chwilio am ei drysor yn y gwaelod.

Y Fieren, gan dybied y byddai hi yn gallach na'r ddau arall, a roes fenthyg ei harian i rhyw ddyn dyeithr na welodd mohono erioed na chynt na chwedyn. Annghofiodd hyd yn nod ofyn iddo ei enw, na lle ei breswylfod. A byth er hyny, pan elo unrhyw ddyn yn agos ati, hi a gymer afael ynddo, gan dybied mai iddo ef y rhoddes fenthyg ei harian.

A dyma fel y cafodd y tri hyn eu hanian.

Ai un o feibion Penybryn ydyw gwir awdwr yr aralleg hon, nis gwyddom. Hyn sydd sicr, na chlywsom ac na welsom ni mohoni o'r blaen; a bod yn resyn na buasai genym ragor o'i chyffelyb yn y Gymraeg. Gymaint rhagorach ydyw barddoniaeth rydd, ystwyth, fel hyn, na llawer o'n hawdlau llafurfawr a'n pryddestau hirwyntog.

Ei fro

Wedi taflu golwg frysiog tros hanes tylwyth y bardd, y dylanwad nesaf, o ran pwysigrwydd yn ffurfiad ei gymeriad llenyddol, ydoedd golygfeydd bro ei enedigaeth, ei thraddodiadau a'i hanes, a nodweddiad y bobl y dygwyd ef i fynu yn eu mysg. Saif Dyffryn Ceiriog yn nghwr de-ddwyreiniol sir Ddinbych; un pen iddo yn ymylu ar sir Amwythig a'r llall yn ymgolli yn nghanol Berwyn. Y mae tua 14eg milldir o hyd; ac efallai mai y lle tebycaf iddo yn Nghymru ydyw Cwm Rhondda, yn Morganwg, ond fod Dyffryn Ceiriog yn gulach; yn wir, y mae mor gul mewn manau fel y gellid myned ar ei draws ar hwb, cam a naid. Ar ei waelod, rhuthra ei afon gref a thrystiog, ac ymuna â'r Ddyfrdwy yn Nyffryn Maelor yn fuan ar ol gadael ei Dyffryn ei hun. Ymladdwyd llawer brwydr gynt rhwng y Cymry a'r Saeson yn ei gwr isaf, yn enwedig yn ardal Castell y Waun (Chirk Castle), canys saif hwnw ar gyffiniau y ddwy wlad. Y fwyaf gwaedlyd ohonynt oll oedd Brwydr Crogen, a gymerodd le yn 1165, rhwng lluoedd Harri II. ac Owain Gwynedd. Y mae dau lechwedd, un bob ochr i Ddyffryn Ceiriog, yn dwyn yr enw hyd y dydd hwn; gelwir un yn Grogen Iddon a'r llall yn Grogen Wladus. Yr oedd y gâd hono ar faes yn un gyndyn a chreulon, a bu ei thynged yn y fantol am ddyddiau lawer, gan i'r Cymry yn ystrywgar gymeryd arnynt gilio i fynyddoedd y Berwyn. Cymerodd y gelyn yr abwyd; rhuthrodd y Saeson i'w hymlid; ond wedi eu cael yn ddigon pell, trodd y Cymry arnynt, a bu lladdfa fawr; a da i'r ychydig a arbedwyd fod traed danynt, ac nad oedd Lloegr nepell oddiwrthynt. Dyma orchest filwrol ddisgleiriaf Owain Gwynedd; ac am rai blynyddau ar ol hyny, cafodd Cymru lonydd gan frenin Lloegr. Gallesid disgwyl y buasai Ceiriog yn canu i'r fuddugoliaeth Gymreig ysplenydd hon, gan iddi ddigwydd mor agos i'w gartref, ac iddo, pan yn blentyn, mae'n ddiau, glywed llawer o son am dani; ac yn ol y disgwyliad, dyma benawd "Maes Crogen bore tranoeth," yn y Cant o Ganeuon, a'r prydydd yn perori ei hanes ar hen dôn y Fwyalchen:—

"Fe ganai mwyalchen er hyny,
Mewn derwen ar lanerch y gâd,
Tra'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad:
Gorweddai gwr ieuanc yn welw;
Fe drengodd bachgenyn gerllaw,
Tra'i dad wrth ei ochr yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law!


Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon yn nghyd;
Agorwyd y ffos, ac fe'i ceuwyd,
Ond canai'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn-fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y marw—
Y bore ddilynodd yr hwyr."

Dichon y bydd ambell un gorfeirniadol yn methu dirnad paham y dewisodd Ceiriog fesur mor wisgi a'r Fwyalchen i ganu am y fath drychineb, a phaham y dug aderyn mor yswil a diniwed i'r gân o gwbl; mai aderyn mwy a hyfach—y gigfran waedlyd, fuasai cydymaith maes y gyflafan. Ond yr oedd hyn yn un o neillduolion arbenig awen ein bardd bob amser: lliniaru yr echryslawn a'r aruthr gyda'r tlws a'r tyner, fel yr arlunydd celfydd yn cuddio gerwinder a noethlymynder y graig hefo mwsogl ac ambell flodeuyn. Ond i'r darllenydd sylwi, fe wel luaws o engreifftiau yn ei waith o ymylwaith llon i ddarlun prudd; o'r graith yr ochr bellaf i'r gwyneb; o ddodi prydferthwch i wrthweithio effaith gorhacrwch. Ai nid yw hyn yn nod angen pob gwir fardd? Ugain mlynedd yn ol, clywais ef yn gresynu fod llenor adnabyddus yn gwastraffu ei alluoedd i ddweyd hanes hen wiberod ac annghenfilod annhymig o'r fath.

Y mae agos i saith milldir rhwng Castell y Waun a phentref Glynceiriog; a'r Dyffryn, er yn gul, yn hynod o brydferth—y bythynod a'r ffermdai gwynion sydd yn brithro'r llechweddau yn gwneud y coed a'r caeau yn lasach i'r llygad. Dywedir fod y meusydd bychain yma mor gynyrchiol a dim tir yn Nghymru; ac y mae'r coed preiffion, brigog, a welir mewn llawer man yn dystion o ffrwythlonder. Gerllaw ffermdy o'r enw Cilcochwyn, saif hen dderwen gau (hollow), anferth o faintioli; ac y mae rhigol yn ei hochr i fyned i mewn i'w cheuedd. Rai blynyddau yn ol, meddir, collwyd tarw Cilcochwyn, a buwyd am ddiwrnodau heb ei gael, ac yn mha le y cafwyd ef ond yn ngheuedd y dderwen.

Yn mynwent fechan Glynceiriog y mae bedd Cynddelw, a cholofn hardd o ithfaen Berwyn yn dynodi y lle. Y mae yn anhawdd cyffwrdd âg enw Cynddelw gofus, ddifyrus, ddeallus, heb fanylu. Er ei eni mewn ardal ddiwybodaeth, er na chafodd pan yn blentyn erioed awr o ysgol, er ei fod yn ugain oed cyn medru ysgrifenu; eto, trwy ei ddoniau naturiol ysblenydd, daeth yn un o brif-lenorion y genedl ; yn un a ddeallai Gyfrinion Barddas ac a wyddai fwy am hen feirdd nag odid Gymro byw neu farw; a drefnodd werslyfr galluog o'r enw Tafol y Beirdd; ac a gyfansoddodd Esboniad ar y Testament Newydd gyda'r mwyaf synwyrol sydd yn yr iaith. Efe a dreuliodd ddeng mlynedd o ddechreu ei oes weinidogaethol yn bugeilio eglwys y Bedyddwyr, Glynceiriog; symudodd oddiyno i Sirhowy, a thrachefn i Gaernarfon. Bu farw, pan ar daith, Awst 19, 1875, yn y Gartheryr, Llangedwyn, cartref ei wraig. Gan fod hon yn fynwent rydd, yma y mynai ei gladdu; ac y mae bod ei fedd man y mae, a'r ceryg hyn arno, yn gyflawniad o'i ddeisyfiad dwys yn ei "Gywydd Berwyn," yr hwn a ymddangosodd gyntaf yn y Traethodydd, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth:

"Gwedi f'oes, a gloes y glyn,
O! am orwedd ym Merwyn;
Od oes byth gael dewis bedd,
I Ferwyn af i orwedd;
Tua'r lle bu dechreu'r daith
Af yn ol i fy nylaith:
Gan Ferwyn caf gynfawredd,
Ei graig fawr yn gareg fedd;
A'i stormydd, tragywydd gân,
I ffysgiaw fy ngorphwysgan;
Ac o Ferwyn cyfeiriaf
I lawen ŵyl teulu Naf."

Er ei fod bumtheg mlynedd yn hŷn na Cheiriog, yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol, nid yn gymaint am eu bod yn frodorion o'r un ardal-" eu hynafiaid," fel y dywedir, "yn planu tatws yn yr un cae a'u gilydd," ond am y syniadau uchel oedd gan y naill am dalent y llall. Yn gynar yn 1875, cefais lythyr oddiwrth Ceiriog yn dywedyd ei fod newydd dderbyn gair oddiwrth Ioan Arfon, "fod Cynddelw yn bur gwla-ofnid y cancer-ac os byddai Robert Ellis yn myned, na waeth ini fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Pan ddaeth i Lerpwl ychydig ddyddiau ar ol hyny, meddwn wrtho, "Mae'n dda genyf eich gweled yn edrych cystal; clywais ddweyd eich bod yn lled wael." Nis gwyddwn ar y pryd fod ganddo wrthwynebiad dirfawr i neb feddwl felly; ac efe a atebodd braidd yn chwyrn, "Tydw i ddim yn sâl ond fy mod yn ffaelu bwyta. Pwy ddywedodd 'mod i'n sâl?" "Ceiriog," meddwn; ac fel tipyn o eli ar y briw oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn, dyfynais y geiriau am "fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Chwarddodd yn galonog, wrth feddwl, mae'n debyg, y byd gwag fyddai hwn wedi i gynifer o fodau defnyddiol fyned ohono. "Beth," ebai, "y Vord Gron" a'r cwbl! Dywedwch wrth bawb fydd yn holi nad oes dim byd arnaf i, ond fy mod yn ffaelu bwyta." Parhaed ei goffadwriaeth yn hwy na'r ithfaen sydd ar ei fedd.

Filldir a haner yn uwch i fynu na Glynceiriog, neu fel y dylem ei alw hwyrach, Llansantffraid Glyn Ceiriog, saif ffermdy Pontymeibion, a'i fuarth yn taro ar y ffordd sydd yn arwain i Lanarmon. Y mae'r enw hwn yn adnabyddus i bob llenor Cymreig mewn cysylltiad âg enw y bardd clodfawr Huw Morys (Eos Ceiriog). Yn y tŷ hwn y ganwyd ef yn 1622; yma y treuliodd ei oes; ac yma y bu farw yn 1709, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 87 mlwydd. Y mae'n amlwg fod y tŷ wedi ei adeiladu ar ol ei amser ef; ond dangosir careg yn y mur uwchben yr ystabl, ac arni yn gerfiedig, "M. I. 1701,"[2] a dianmheu fod yr hen fardd 80ain oed yn gwylio'r seiri meini yn codi'r adeilad hon. Fel mwyafrif amaethwyr glanau'r Ceiriog yn yr oes hono, yr oedd tad Huw Morys yn byw yn lân a dedwydd ar ei dir a'i foddion ei hun; a gadawodd y lle yn ei ewyllys i'w fab hynaf, ac i'r bardd, ei ail fab; a chyda'r brawd hwnw, a'i fab ar ei ol, y gwnai Eos Ceiriog ei gartref yn y fangre dawel, hudolus hon, a than amgylchiadau oedd yn ei ryddhau oddiwrth ofalon bydol. Gwisgwyd coron Lloegr gan chwe' phen yn ystod ei oes faith; ac er mai breninolwr rhonc ydoedd, aeth trwy enbydrwydd y Werinlywodraeth yn bensych. Nid felly ei gydfeirdd, Rowland Fychan, o Gaergai, tŷ yr hwn a losgwyd; a Wiliam Phylip o Ardudwy, yr hwn a fu am wythnosau yn ffoadur yn y mynyddoedd.

Treuliodd Huw Morys ei oes yn ddibriod, er na chanodd yr un bardd Cymreig, oddieithr Dafydd ab Gwilym, gymaint o "Fawl i Ferch." Y mae yn anhawdd cyfrif am y ddau brydydd trylen hyn yn dweyd mor aml ac mor ddoniol am rinweddau a theleidion y rhyw deg, a hwythau yn aros ar hyd eu hoes yn llwyrymwrthodwyr proffesedig oddiwrthynt, ond gyda'r syniad mai rhan o swyddogaeth y bardd yn mhob oes a gwlad ydyw canmol ac arddangos prydferthwch. Yr oedd bardd Pontymeibion yn nodedig hefyd am ganiadau moeswersol (didactic), llawn o addysg, wedi eu gwisgo â syniadau tra barddonol, ond mewn iaith seml, hawdd i'r werin ei deall. Felly y goleuai ef ei gydoeswyr, ac yn enwedig y Ceiriogiaid hoff o'i amgylch, ac ni bu ardalwyr erioed yn coleddu syniadau uwch am eu bardd na'r bobl hyny. Dewisent ei garolau yn eu heglwysi, ei gerddi yn y ffair a'r gwylmabsant, a'i ganiadau ar eu haelwydydd, o flaen cynyrchion cyffelyb undyn arall.

A phan anrhegwyd yr un ardal, yn mhen chwech ugain mlynedd wedi cynull Eos Ceiriog at ei dadau, â phlentyn y gellid "bardd ohonaw," taniai y canmol oedd ar ei ragflaenydd ei holl uchelfrydedd i'w efelychu, a rhagori arno, os oedd y fath orchest yn ddichonadwy, fel y deuai yntau hefyd yn enwog, a'i gartref yntau yn gyrchfa lluaws ymwelwyr. Ac ond ini sefyll yn ystyriol uwchben gwaith y ddau, y mae yr un arogl esmwyth arnynt-yr un dinc hyfryd o naturioldeb; eu goleuni o eiliw yr un mor ddymunol, ond fod bardd y 17eg ganrif yn rhagori cymaint ar fardd y 19eg, ag y rhagora goleuni celfyddydol y naill ganrif ar y llall.

Ai tybed hefyd mai wrth wrando rhyw gymydog difyr yn adrodd hanes Bardd a Freeholder dedwydd Pontymeibion y cafodd J. Ceiriog Hughes afael gyntaf yn yr idea, a ddaeth wedi hyny yn grediniaeth gref yn ei feddwl, am ddedwyddwch? neu a redai y syniad yn ei waed, fel disgynydd o linach hir o rydd-ddeiliaid diardreth a boddlawn? Canys wrth ddarllen ei waith, ac adgofio lluaws o'i ddywediadau, nid oes genyf anmheuaeth nad ei farn ef am uchafnod hapusrwydd daearol ydoedd y boneddwr Cymreig hen ffasiwn-yn trin ei dir ei hun, ac yn bwyta o'i ffrwyth; yn ceffogaeth ei feirch nwyfus ei hun; yn mwynhau anadl iach ac yn yfed llaeth maethlawn ei wartheg ei hun; yn adnabod gwynebau ei braidd, a'i wisg wedi ei gwneud o'u cnu; yn pysgota yn ei bysgodlyn, ac yn hela ar ei dir, ei hun; yn cynal ac yn cadw iaith, defodau, ac arferion, yr hen Gymry gonest gynt, heb annghofio'r bardd teulu; yn garedig i bawb, yn anrhydeddu'r brenhin, ac yn ofni ei Dduw. Dyna oedd sefyllfa mwyafrif tirddeiliaid Cymru cyn i raib drachwantus gydio maes wrth faes, a'r wlad syrthio'n ysglyfaeth i etifeddiaethau mawrion cyfoethogion ac estroniaid; a'r math yma o ddeiliaid a gefnogai yr hen gyfraith Gymreig a elwid Gafael (gavel-kind). Dyna'r bywyd hefyd, ni a gredwn, a ystyriai Ceiriog yn ddringeb uwchaf dedwyddwch yn y byd hwn. Pwy wêl fai arno? Y mae'r dymuniad yn llawn o'n hen ysbryd annibynol a chenedlaethol.

Cyn gadael Pontymeibion, aethom i weled "Cadair Huw Morys," yr hon tua 14eg mlynedd yn ol a symudwyd o fin y ffordd, er mwyn dyogelwch, i ardd yr Erw Geryg, ffermdy gerllaw hen gartref y bardd. Gwneir hi i fynu o amryw geryg go fawr, ac ar yr un sydd yn gwasanaethu fel cefn, y mae'r llythyrenau "H.M." yn ddigon gweladwy, er fod amser wedi treulio llawer arnynt. Dywedir y byddai'r bardd yn mwynhau ynddi aml i awr dawel ddwysfyfyriol, yn nghysgod y coed a dadwrdd yr afon islaw. Rhoddir darlun ohoni yn yr argraffiad o waith Eos Ceiriog, a gyhoeddwyd 1823, o tan olygiaeth Gwallter Mechain; a gŵyr pob un a ddarllenodd Wild Wales am wynfydedd George Borrow, awdwr chwilboeth y llyfr hynod hwnw, pan gafodd y fraint o eistedd yn yr hen grair wladaidd. Fel "Pulpud Huw Llwyd" yn nghanol rhaiadrau Cynwal, daw lluaws o bell i'w gweled.

Ddydd Sadwrn, y pedwerydd o Fehefin, gyrwyd ni gan fath o reddf anorchfygol ar bererindod i Ddyffryn Ceiriog, fel y gwelem am unwaith hen fangre a chartref un oedd mor gu ac anwyl genym fel dyn, ac mor gymeradwy yn ein golwg fel bardd; a'n dyddordeb yn y lle wedi cynyddu'n ddirfawr trwy ei fod ef, yr hwn a achlysurodd y dyddordeb ynom, wedi huno yn yr angau er's chwech wythnos union i'r dydd Sadwrn hwnw. Yr oedd yn un o ddyddiau ardderchocaf y flwyddyn, ie, y blynyddau; y dydd cyntaf o haf eleni. Wedi hir oediad o wlybaniaith ac oerni, esgynasai teyrn y tymhorau i'w orsedd, than ei swynlath neidiai pobpeth ond y marw prudd yn ol i fywyd. Nid oedd odid i dwmpath na brigyn heb ei gantor; pob aelod yn y côr mawr asgellog â'i holl egni yn chwyddo'r gydgan gyforiog, heb eithrio y cerddorion dyeithr hyny a ddeuant trosodd i'r wlad hon, o flwyddyn i flwyddyn, i helpu ein cantorion ein hunain i ddechreu canu ha'; a'r holl gwm yn diaspedain gan gogau y naill yn ateb y llall. Canai un ceiliog bronfraith ar ben pawl yn min y ffordd mor eofn fel yr aethom i'w ymyl; ond yr oedd wedi ymgolli mewn gwynfydedd i'r fath raddau, fel na syflai nes y gorphenodd ei dôn felus-daliai ati, ac edrychai yn myw ein llygaid, er ein bod yn siarad âg ef ac o fewn hyd gafael iddo, nes o'r braidd na chododd arswyd ynom rhag mai un o awenyddion ymadawedig yr ardal ydoedd, wedi dyfod ar ymweliad i Roesawu Haf i odreu Berwyn." Cofiem ini ddarllen yn ngwaith Montaigne am goel sydd mewn rhai gwledydd fod y meirw gwynfydedig yn ymrithio ar lun creaduriaid heirdd a swynol, ac mai ar ffurf adar caniadgar y gwelir hwy fynychaf.

Y mae Llanarmon yn un o'r manau mwyaf anhygyrch yn Nghymru; nid yw ar y ffordd i unman ond i ganol mynydd. Eu tref farchnad yno ydyw Croesoswallt, ac y mae hono 14eg milldir oddiyno; eu gorsaf reilffordd ydyw'r Waun (Chirk), 11eg milldir; a'r dref fechan agosaf atynt ydyw Llangollen, yr hon sydd wyth milldir o ffordd, a Gallt y Padi yn rhan bwysig ohoni. Tystia pawb a fu ar hyd yr Allt hono, na ddylai dyn byth ei dringo ond hefo ysgol, ac na fwriadwyd i'r un creadur ei theithio ond cath neu wiwer. Clywsom Cynddelw, yn un o'i yspeidiau difyr, yn dweyd yr hen draddodiad rhamantus a ganlyn am darddiad Gallt y Padi:Yr oedd hen wr crintachlyd yn byw er's talm yn Glynceiriog, a'i waith oedd cludo nwyddau o Langollen-pellder, y pryd hwnw, o tua dwy filldir, a'r ffordd cyn wastated a'r geiniog. Ac yn ngwasanaeth yr hen grintach, yr oedd hogyn o Wyddel, math o brentis plwy'! Hen gono caled, creulawn oedd y cariwr, yn haner llwgu ei was bach ac yn ei guro yn ddidrugaredd. O'r diwedd, penderfynodd ddianc o'i gaethiwed; ac wedi cynull ei dipyn dillad yn nghyd, gwynebodd tua Llangollen. Ar y ffordd, meddyliai am greulondeb yr hen Pharo o Lynceiriog; a mwyaf a feddyliai, ffyrnicaf yn y byd oedd ei gasineb tuag ato, a'i awydd am ddyfeisio rhyw lwybr i ddial arno. Ac wedi hir ddyfalu, eisteddodd ar ochr y ffordd, tynodd goes pibell o'i boced, rhoes un pen i hwnw yn y ddaear a chwythodd yn y pen arall, a chwythu y bu nes y codai y gwastatir o tan ei draed. Daliai ef i chwythu, a daliai'r ddaear i godi, nes aeth y gwastadedd yn fynydd mawr a serth; ac o hyny allan, bu raid i'r hen gariwr gael chwe' phen o ychain i dynu llwyth a gludid o'r blaen yn rhwydd gan un, a syrthiodd i dylodi, a bu farw ar y plwy'; a dyna fel y daeth y mynydd uchel sydd rhwng Llangollen a'r Glyn i fod, a thyna paham y galwyd y ffordd flin sydd yn arwain trosto, er cof am y Gwyddel dialgar, yn Allt y Padi.

Ond ni a ddychwelwn o fro hud a lledrith i ardal y darllenir ynddi bob Sul y "deg gair deddf," set Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Saif y dreflan fechan gryno yn min yr afon, lle yr ymleda'r Dyffryn i tua haner milldir ar ei draws; ac o fewn ychydig rydau iddo y mae pentref Nantyglog. Yn y blaenaf, y mae Eglwys y plwyf, a'i mynwent o'i hamgylch; ac yn yr olaf, y mae'r ddau gapel Ymneillduol sydd yno, sef eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd a'r Trefnyddion Wesleyaidd. Y Parch. Peter Roberts, awdwr The Chronicle of the Kings of Britain, oedd yr offeiriad yma o 1810 hyd 1814; a chymeriad hynod am ei sel a'i ffraethineb gyda'r Methodistiaid yn Nantyglog oedd Richard Morris (o Lanarmon, fel yr adwaenid ef oddicartref), hanes bywyd yr hwn a welir yn y Traethodydd am 1878.

Cyfyd Mynydd y Glog o ymyl y Llan i uchder go fawr; ac yn union ar ei gyfer, yr ochr arall i'r dyffryn, y mae llechwedd lled serth ond nodedig o ffrwythlawn, â'i wyneb ar haul canol dydd, ac yn gwenu (pan fo llechweddau yn gwenu) mewn mil o geinion. Tua chwarter milldir o'r afon ar y llechwedd hyfryd hwn, dacw ffermdy Penybryn, a'r allt o'r tu cefn iddo yn ei gysgodi rhag oerwynt y gogledd, a llwyn o goed brigog ar y tu arall yn ei warchod rhag y dwyreinwynt gwenwynllyd.

Y mae'r adeilad yn hen iawn-hwyrach fod rhanau ohono rhwng tri a phedwar cant oed. Ond nid yw oll o'r un oedran; y rhan bellaf, a'r nesaf i'r ystabl, &c., ydyw'r chwanegiad diweddaraf, er fod hwnw hefyd mewn henaint teg. Yn ol pob golwg, bwriedid iddo fod yn gastell cystal a thŷ anedd, gan fod ei furiau tros lathen o drwch; ac fel hen ffermdai Cymru yn gyffredin, nid yw ei drefniant oddifewn fawr o glod i'r cynllunydd. Gyda haner y defnyddiau, gallesid gwneud palas a pharadwys o dŷ. Trefn cynllunwyr yr hen amaethdai Cymreig oedd annrhefn: dodi y gwahanol ystafelloedd yn rhywle, rhywle, ond cymeryd gofal mawr eu bod yn rhywle digon anhwylus-dodi y llaethdy yn lle y pobty, a'r gegin yn nanedd y gwynt oeraf, a'i gwneud yn hongol ddigon o faint. Nid annghofient ychwaith gysylltu yr holl adeiladau â'u gilydd; fel pe digwyddai tân rywbryd, y byddai yn hawdd iddo losgi y cyfan yn lludw. Yn yr ystyr yma, nid yw Penybryn lawn cyn waethed a rhai manau a welsom; efallai ei fod yn well; ond ceir yma hefyd lawer o le i wella. Y mae y llaethdy yn y seler o tan y tŷ; ac ni bu erioed le cymhwysach at gadw yr hylif yn oer a thymherus. Rhed ffrwd o ddwfr gloywglir, yr hwn sydd yn tarddu o fynwes y graig, trwy yr ystafell haf a gauaf; a chlywsom am y Richard Morris a nodwyd yn gwneud defnydd effeithiol, yn un o'i anerchiadau mewn cyfarfod misol yn Nghorwen, o ffynon seler Penybryn, rhiniau yr hon ydynt yn parhau yr un fath, boed haf sych neu auaf rhewllyd, ac yn ei chydmaru i " Allor yn y Tŷ.” Y mae traddodiad hefyd ar gôf a chadw fod un o hen denantiaid y lle yn y dyddiau gynt wedi derbyn gweledigaeth, yn ei hysbysu os gallai wneud llun pen o bres, a gweithio arno yn ddiorphwys heb roddi hunell i'w lygaid am saith mlynedd, y byddai yn anfarwol (ni ddywedir pa un ai'r pen ynte'r gweithiwr). Pa fodd bynag, cymerodd y breuddwyd afael mor dyn yn y truan, fel y dechreuodd ar y gorchwyl yn ddioedi; ac yn y seler hon y bu wrthi ddydd a nos am chwe' blynedd, un mis ar ddeg, a phedwar diwrnod ar hugain, pan y daeth ato rhyw syrthni anorchfygol, y cysgodd yn drwm; ac yn ol telerau yr anfarwoldeb, aeth ei holl lafur a'i anhunedd yn ofer.

Wrth dalcen y tŷ rhed afonig fechan ar hyd ymyl y ffordd sydd yn arwain yn uwch i fynu i'r wlad; ac ar fin y ffrwd hono, y mae'r " Gareg Wen," testyn y gân gyntaf yn llyfr cyntaf y bardd. Math o ithfaen ydyw, ac y mae yn y man y mae er's oesoedd, yn ol pob tebyg. Cynwysa'r gân hono amrai ddarluniau bychain ydynt yn delweddu yn dra chywir fanau yn ymyl ei hen gartref, megys y penill hwn:—

"Mae nant yn rhedeg ar ei hynt,
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn bàn,
A choed afalau ar làn
Yn edrych ar y lli'."

Ac eto:—

"Pan ddeuai'r Gwanwyn teg ei bryd,
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:

Yn afon fawr ä'i 'r gornant fach,
Pysgotwn ar ei glenydd iach,
A phin blygiedig oedd fy mâch
Yn grog wrth edau lin."

Ymestyna tir Penybryn o'r afon i grib y mynydd; ac ar ben y mynydd hwn, gwelir ol y gwersyll y cyfeirir ato yn Cant o Ganeuon, t.d. 60, mewn cysylltiad â brwydr Crogen. Dywed yr awdwr mewn nodiad yno: "Y mae ol ei wersyll [Harri II.] mewn amryw fanau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin,. &c., ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy lle y'm ganwyd ac y'm magwyd i." Y mae cylch y gwersyll mor eang, a'r ffosydd a'r cloddiau mor fawrion,—“ yn fawr anferthol mewn adfeilion," fel y tueddir fi i gredu mai hwn yn hytrach ydoedd prif gadlys Owain Gwynedd, yn yr ymgyrch hono. Pa fodd bynag, y mae yn bigwrn mor serth o bob ochr, ond tua'r gefnen fynydd sydd yn rhedeg at y Waun, fel na feiddiasai Owain byth ymladd brwydr Crogen, a gwersyll gan y gelyn yn y lle hwn o'r tu cefn iddo.

A cherllaw yr hen wersyll, ceir olion hynotach fyth, a hynach o filoedd o flynyddau, olion mynydd tanllyd a grychlosgai hwyrach cyn i'r afon Geiriog ddechreu rhedeg. Pant crwn ydyw, tua chanllath ar ei draws a phen uwchaf y foel yn gwasanaethu fel un ochr iddo; a'i ymylon wedi llithro iddo fel y gwelir weithiau hen odyn galch mewn adfeilion. Nid oes dwfr un amser i'w weled ar waelod ei gafn; ac felly rhaid ei fod yn ei leibio ei hun. Pwy a wyr nad oddiwrth yr Etna hwn y galwyd y mynydd ar y cyntaf yn BERW-WYN?

Rhwng y foel hon a'r dyffryn, y mae'r disgyniad yn serth iawn, ac yn llanw'r edrychydd âg arswyd wrth weled gwagle mor fawr yn union odditano. Gorchuddir un rhan o'r llechwedd hwn gan goed; ar ran arall pora defaid yn y clytiau bychain o laswellt. melus sydd draw ac yma ar hyd ei wyneb; ar y drydedd ran nid ymddengys fod dim yn tyfu ond creigiau a cheryg o gryn faint. Y rhan goediog a elwir y Coed Cochion; ac y mae'r allt yn y fan hono yn dra thebyg i amgylchoedd Careg y Gwalch, rhwng Llanrwst a Bettws y Coed; ac o'r ddwy olygfa, hon ydyw'r fwyaf fawreddog. Y mae ganddi hithau ei hogof, a'r ogof ei thraddodiad; canys onid i Ogof Coed Cochion yr ymdeithiodd yr Edward Puw hwnw tan chwareu ei bibgorn, ac ni welwyd ef mwy; ond cofiwyd yr alaw a chwareuai, a rhestrwyd hi yn mhlith yr Alawon Cymreig o hyny allan, tan yr enw "Ffarwel Ned Puw." Dichon fod y chwedl hon hefyd yn rhagori mewn perseinedd ar y traddodiadau synfawr sydd ar lafar gwlad am wrhydri ac ogof Dafydd Grach ab Siencyn o Nant Conwy.

Yn ngodreu y llechwedd, ac yn ei gŵr pellaf o Lanarmon, y mae hen amaethdy neillduol o hynafol; yr hynaf, meddir, yn yr holl ddyffryn. Dolwen y gelwir ef; ond myn traddodiad mai llygriad ydyw Dolwen o Dolowen; mai eiddo Owen Glyndwr ydoedd unwaith, ac y byddai'r gwron enwog yn tario. yma ar brydiau pan ar ei daith o Sycharth yn nghwm Llansilin, i'w lys arall gerllaw Corwen, yn Nglyn Dyfrdwy.

Ac ychydig yn is i lawr ar yr ochr arall i'r afon, ac yn ngenau nant ddofn sydd yn troi o'r dyffryn i'r mynydd, dyma Sarffle, lle y soniasom eisoes am dano mewn cysylltiad â thaid Ceiriog, a'i droad allan oblegyd ei Fethodistiaeth. Rai blynyddau yn ol, cyfarfyddodd aelodau y Cambrian Archæological Society yn Llangollen, ac yn eu mysg y Dr. Phennah, olrheinydd dyfal y seirphaddolwyr Phoeniciaidd yn y wlad hon. Wedi clywed am yr enw arwyddocaol hwn, aeth yr holl ffordd i Sarffle, gan ddisgwyl cael yn yr ardal rhyw ateg newydd i'w ddamcaniaeth a dywedai ar ol hyny na siomwyd ef ychwaith. Gan nad allai ymddyddan gyda'r brodorion uniaith, ofnai unwaith mai dychwelyd yn ol fel y daeth a fuasai raid; ond yn ffodus, cyfarfyddodd â Mrs. Phœbe Hughes o Benybryn. Hi a'i cynysgaeddodd â llawer iawn o wybodaeth leol; ac wedi dychwelyd yn yr hwyr i Langollen, tystiai na welodd erioed hen wreigan fwy deallgar, ei bod yn gwybod pobpeth am hanes a hynafiaeth yr ardal, a'i Saesneg yn rhemp o dda.

Yn y llanerch lonydd, ramantus a neillduedig y ceisiwyd ei desgrifio, y treuliodd Ceiriog gyfnod dedwydd ei ieuenctyd-lle yr oedd prydferthwch dyffryn tlws a mawredd mynyddoedd geirwon yn cydgyfarfod; mewn tŷ ac iddo hanes hen; ogof, hen wersyll, ac olion llosgfynydd, i'w gweled ar dyddyn ei dad; tan ofal mam neillduol am burdeb ei hegwyddor a chryfder ei hamgyffredion; yn mysg cymydogion gwladaidd, uniaith gan mwyaf, unplyg, ond wedi eu breintio yn mhell uwchlaw gwladwyr, cyffredin â meddyliau bywiog ac â chôf llwythog hanes a choelion eu cyndadau a gwroniaid eu gwlad yn y dyddiau gynt.

Ysgol a chychwyn gwaith

Prif ddiffyg y cwm ydoedd absenoldeb addysg. Mae'n wir fod yno ysgol gwlad yn Nantyglog, a bu Ceiriog yn mwynhau hyny o fendithion oedd ganddi i'w cyfranu; ond fel y gellid disgwyl, mewn ardal mor wasgaredig ei thrigolion a Llanarmon, a dim i'r ysgolfeistr yn dâl ond ceiniocach y plant, dyfroedd digon prinion a ddarperid i'r sychedig am wybodaeth yn Nantyglog. Am ysgol ramadegol, fel y dywedir, nid oedd yr un yn nes at y fan na Chroesoswallt. Mae'n ddianmheu y gallasai ei rieni o ran moddion bydol ei ddanfon yno, er ei bod yn fyd digon caled ar amaethwyr y pryd hwnw fel yn bresenol; ond y caswir yw mai ychydig oedd nifer rhieni Cymreig, o ddeugain i driugain mlynedd yn ol, a gredent fod addysg plant yn ddaioni digymysg Tybient fod tuedd ynddo i wneud plentyn yn segur a diddefnydd, ac mai gwell o lawer iddo ddibynu ar ei alluoedd naturiol; yr hyn oedd mor rhesymol a disgwyl iddo amddiffyn ei hun yn well hefo'i ddyrnau moelion na chydag arfau priodol yn ei ddwylaw. Y cyfeiliornad andwyol hwn ydyw y prif reswm fod mor ychydig, mewn cydmariaeth, o wyr dysgedig yn ein gwlad yn yr oes hon, rhagor yn yr amser a fu, ac, ni a hyderwn, yn yr amser a ddaw.

Yn ol tystiolaeth un o'i gydysgolheigion yn Nantyglog, dysgai yn gyflym; ond tra ragorai mewn gramadeg. Safai ar ben yr ysgol fel gramadegydd; ac y mae yr achos o hyny yn rheswm cryf i bob Cymro tros gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dysgodd Ceiriog Ramadeg Saesneg yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gramadeg Cymraeg a ddysgai gartref. Darfu i'r tad gamddeall cyfarwyddyd yr ysgolfeistr, a phrynu Gramadeg Tegai i'r bachgen yn lle un Lindlay Murray. Ymroddodd yntau ar unwaith i ddysgu hwnw, ac yr oedd ganddo grap pur dda arno yn mhen tua phythefnos. Tra yr oedd y plant eraill yn pendroni gyda thermau na wyddent ar faes medion y ddaear beth oedd eu hystyron, ac yn anmheu hwyrach a oedd ystyr iddynt o gwbl, yr oedd mab Penybryn wedi deall y rhwyfau, ac yn gadael ei gydymdeithion yn yr ymdrech yn mhell bell ar ol. Pa hyd tybed yr erys Cymru yr unig wlad wareiddiedig tan goron Prydain, lle y rhoddir pob rhwystrau ar ffordd y bobl i ddysgu ac arfer eu hiaith eu hunain? Pe treuliasai brenhinoedd a seneddwyr Lloegr, yn y canrifoedd a aethant heibio, haner cymaint o'u hamser i ddifodi gorthrymderau yn y Dywysogaeth deyrngarol hon ag a wastraffwyd ganddynt i geisio dileu ei hiaith, Cymru fuasai y wlad ddedwyddaf dan haul.

Wedi derbyn ei ddogn o ysgol, dychwelodd y llanc at y bywyd amaethyddol; ond ychydig flas a gai arno, nac o bleser ynddo. Amlach llyfr yn ei law na ffust; gwell oedd ganddo ddilyn ei fyfyrdod na chanlyn y wêdd, ac unigedd y mynydd na chymdeithas haid o fedelwyr. Braidd na chredwn mai ei brofiad ef ei hun ydyw'r englyn canlynol, yr hwn a rydd yn ngenau'r Morwr, yn ei awdl i'r Mor:—


"Druan gwr! nis medrwn gau—ar ochr
Y gwrychoedd a'r cloddiau;
Aethus son-mi fethais hau,
A ffaeliais drin ceffylau."

Ond ni bu mab fferm erioed, meddai un a'i hadwaenai yn dda, gymaint ei ofal am fod pedolau y ceffylau mewn cywair priodol; ac mor barod i alw sylw at unrhyw ddiffyg ynddynt, a chynyg ei wasanaeth i fyned â'r anifail cefnesmwyth at y gôf i gael carnwisg newydd. Dengys hefyd y dyfyniad canlynol o un o'i lyfrau ei fod yn llawn afiaeth a direidi diniwaid, fel pob bachgen, yn enwedig os bydd rhywbeth ynddo fo":—

YR wyf yn cofio i fy nhad wneud Corn Hirlas o gorn tarw, a'i alw yn "gorn cinio," a byddwn yn hoff iawn o fyned âg ef ar fy mant ar ben clawdd y "Wern Fach," pan gawn archiad o'r tŷ, i alw fy mrodyr a'r gweision i'w prydau bwyd-yr oeddwn yn meddwl bob amser fod rhyw nôd yn y corn hwnw tebyg iawn i frefiad llo, os na chenid ef yn iawn. "Y mae hyny yn beth digon naturiol, ebai fy nhad, "o achos y mae pob corn tarw wedi bod yn gorn llo; ond barnai Dafydd, fy mrawd, fod achos mwy uniongyrchol i'r corn swnio fel brefiad llo, hyny oedd am fy mod i yn ei ganu. Blinodd yr holl gymydogaeth yn fuan ar yr oernadau chwithig oedd yn d'od o fy nghorn, ac mi flinais inau arno gyda bod newydd-deb y tegan yn darfod, ac mi roddais waelod o ystyllen yn ei ben praff, a chorcyn potel bop yn ei ben main, ac fe'i gelwais drachefn yn gorn powdwr." Cymerais ef gyda mi i "dŷ'r crydd" i chware powdwr ac i saethu gwellt efo fy nghyfeillion. Rywsut neu gilydd, pan oedd y corn ar fainc y crydd, aeth gwreichionen o dân iddo, a bu agos iawn i un llanc, yr hwn oedd yn meddwl ei hun yn rhy dda i fod yn gobler, gael dyrchafiad trwy gorn y simdde. Fe gofiaf byth am y tro hwnw, ac am yr ymwared gwyrthiol a gawsom. Llosgodd un bachgen ei wyneb, nes crychodd ei dalcen fel "hen drigain. Diengais inau gyda llosgi fy nghlust, colli fy aeliau, a chyrlio fy ngwallt. Byth er y tro hwnw, y mae ynof arswyd greddfol yn erbyn powdwr gwn. Yr hanes diweddaf a gefais am y corn cinio a wnaeth fy nhad, yr hwn a wnes i yn gorn powdwr," ydyw ei fod yn awr ar fainc crydd, ac yn ol tynged y corn buelin, i newid ei enw, gelwir ef yn awr yn "gorn pâst; a dyna y defnydd a wneir ohono.

Erbyn 1848, gwelid yn bur amlwg y byddai galwedigaeth arall yn fwy cydnaws â'i chwaeth nag amaetha; a chan ei fod mor hoff o lyfr, pa grefft mor gyfaddas iddo a'r un o wneud llyfrau? Cafwyd lle iddo fel egwyddorwas gydag argraffydd yn Nghroesoswallt; a bu yno ar brawf am dri mis, ond deuai gartref o nos Sadwrn tan fore dydd Llun i dreulio'r Sul. Ar ddiwedd cyfnod y prawf, pan aed i hwylio ei rwymo, cafodd ef a'i rieni allan fod yn rhaid iddo wasanaethu am saith mlynedd. Meddylid fod hyny yn rhy hir o amser, ac yn wir nid oedd ei serch yntau at y gelfyddyd ychwaith yn angherddol. Felly, gadawodd hi; a da hyny, canys deg i un na chollasem y bardd melusber yn yr argraffydd. Ychydig o feirdd da a fagwyd yn mysg pigwyr llythyrenau; Cawrdaf, mae'n debyg, oedd y goreu yn mysg y Cymry.

Yn nechreu y flwyddyn ganlynol (1849), aeth i Fanchester, at gâr iddo o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd yn cadw siop grocer yn Oxford Street, Dyma ei fynediad cyntaf gwirioneddol oddicartref, canys yn Nghroesoswallt yr oedd megys o fewn cyrhaedd galw. Y mae wedi costrelu ei brofiad ei hun, a phryder ei fam, yn y cyfwng pwysig hwn ar ei fywyd mewn cân nodedig o effeithiol, yr hon a welir yn yr Oriau Eraill:

"Mae John yn myn'd i Loeger,
A bore foru'r ä,
Mae gweddw[3] fam y bachgen
Yn gwybod hyny'n dda;
Wrth bacio'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi
Fel arch yn myn'd i ffwrdd.


Mae ef yn hel ei lyfrau
I'r gist sydd ar y llawr,
Yn llon, gan feddwl gweled
Gwychderau'r trefydd mawr;
Nis gwel er deigryn dystaw
Ar rudd y weddw drist,
Na'r Beibl bychan newydd,
A roddwyd yn y gist."

Tua cyhyd o amser ag y bu yn brinter y bu hefyd yn grocer, canys rhoes ei gâr a'i feistr y fasnach i fynu; a chafodd le wedi hyny fel ysgrifenydd yn ngorsaf nwyddau London Road, Manchester. Arosodd yma am un mlynedd ar bumtheg, a dringodd o ris i ris yn y gwasanaeth nes bod ganddo cyn ymadael haner cant o glercod tano. Yr oedd y cyfnod hwn y pwysicaf, ar lawer ystyr, yn ei holl fywyd; oblegyd cynwysai nid yn unig y drydedd ran o'i oes, ond dadblygwyd ynddo adnoddau cyfoethog ei alluoedd meddyliol. Cyrhaeddodd Fanceinion yn fachgen ieuanc gwladaidd a hawddgar, newydd adael ei ddwyar-bumtheg oed, a gwrid y bryniau ar ei ruddiau, ac awen burwen yn berwi" yn ei ysbryd nwyfus. Yr oedd wedi ei fendithio gan natur â'r ddawn werthfawr o benderfyniad cryf; ac efe a benderfynodd. Nid i fod yn gyfoethog, nac yn un o brif farsiandwyr y ddinas fawr hono, onide goludog ac un o brif farsiandwyr Manchester a fuasai; canys ychydig iawn o'r sawl a enillasant gyfoeth a feddent ei gymhwysderau a'i gyneddfau ef at y cyfryw lwyddiant. Yn ffodus, nid yw cyfoethogion yn brinion, ond yn anffodus y mae beirdd fel Ceiriog yn neillduol o brinion. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu hefo synwyr cryf; ac fel y prawf cynlluniau cywrain llawer o'i gynyrchion, yr oedd yn gryn athronydd heblaw bod yn fardd. Y gallu hwn a barodd iddo sylwi yn fuan ar ol gadael cartref fod lleoedd gweigion yn ystafelloedd ei feddwl, a phenderfynu mai goreu bo'r cyntaf eu dodrefnid â gwybodaeth a dysg. I lanc o'i anianawd ef yr oedd meddwl gwag yn fater annhraethol fwy difrifol na logell wag. Parodd hyn iddo ymroi yn ddioedi i ddarllen ac efrydu, ac i gyflwyno pob awr hamddenol ar ei elw i hunan-ddiwylliant; nes y daeth llafur meddyliol yn ail natur iddo ac yn wir bleser. Dywed un a'i hadwaenai yn dda am dano yn y cyfnod hwn:-" Wedi darfod â'i oruchwylion y dydd, ceid ef bob amser gartref-o'r adeg y deuai adref hyd amser gorphwys, a'r amser hwnw yn hwyr iawn fynychaf. Darllen, cyfansoddi, ysgrifenu, oedd ei fwyd a'i ddiod. . . . . Y mae yma wers dda i ieuenctyd ein gwlad i'w hefelychu, o gymeryd rhywbeth gwerth i ymdrechu ato yn eu horiau hamddenol. Nid llawer o ddaioni a geir o un bachgen ieuanc os bydd efe allan yn barhaus. Gellir dweyd am fywyd Ceiriog Hughes mai bywyd o lafur meddyliol ydoedd, os llafur hefyd iddo ef. Dyna bleser ei fywyd; a thrwy ei fywyd ymroddgar, efe a wnaeth lawer o les. Anfynych y bydd cyngherdd Cymreig heb gan o'i waith ef yn gwefreiddio y dyrfa; a bydd y cyrddau hyn fynychaf wedi eu paratoi at rhyw achosion daionus, megys tynu dyled capelau ac ysgolion, neu rhyw elusenau i'r weddw a'r amddifad."—IDRIS VYCHAN yn y "Darlunydd."

Dechrau barddoni

Fe welir oddiwrth y dystiolaeth uchod fod y llanc yn ddigon craff eisoes i ddeall fod eisio "cyfansoddi ac ysgrifenu" cystal a "darllen," wrth ddysgu; ac nad yw darllen yn unig ond haṇer yr oruchwyliaeth; y mae cynull y cnwd i'r ydlan yn waith angenrheidiol, ond byddai ei adael yno i fraenu ar ei gilydd yn gwneud y llafur cyntaf yn anfuddiol.

Pa bryd y dechreuodd efe gyfansoddi barddoniaeth, a pha ddernyn oedd blaenffrwyth ei awen, nis gwyddom. Efallai iddo ddechreu yn union wedi cartrefu yn Manchester, efallai cyn hyny; pa fodd bynag, enillodd ei wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol a gynelid yn nghapel Grosvenor Square. Yr oedd wedi meistroli y cynghaneddion, ac yn ymgeisydd buddugol mewn Eisteddfod fechan a gynelid yn Nantglyn, erbyn 1853. Y testyn ydoedd, "Coffadwriaeth y Doethawr William Owen Pughe"; ac fel y bu chwithaf y tro, enillodd dyfodol briffardd telynegol Cymru ei lawryf cyntaf oddicartref am ddau englyn; ac yn mhellach, un a ddaeth ar ol hyny gyda'r mwyaf gwreiddiol o'n holl feirdd, wedi benthyca y prif ddrychfeddwl sydd yn yr englynion hyny o waith Pope, sef, "God said let Newton be, and there was light." Dyma yr englynion:

"Pan ydoedd niwloedd a nos—ar iaith yr
Hil Frython yn aros;
'Cyfod, Puw,' ebai Duw, 'dos
I ddwyn eu hiaith o ddunos.'

Ac yna goleuni canaid—a roed
Ar iaith ein henafiaid;
A'n llên oedd fel gem mewn llaid,
Hwn a'i dygai'n fendigaid."

Dair blynedd yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1856, cynygid gwobr am y "Chwe' Englyn goreu i John Elias," a chawn ef yn ymgeisydd. Yr oedd yn gystadleuaeth mor ragorol, fel y penderfynodd y ddau feirniad, Eben Fardd a Hiraethog, ddewis y chwe' englyn goreu o waith yr amrywiol ymgeiswyr; a dyma'r un a ddewiswyd o restr Ceiriog:

"Ei law arweiniai luoedd—i weled
Ymylon y nefoedd;
Nerth fu i'n hareithfaoedd,
A gloew sant ein heglwys oedd."

Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar y chwe' phenill er cof am "Etifedd Nanhoron," Cadben R. Lloyd Edwards, yr hwn a laddwyd mewn brwydr o flaen Sebastopol, yn ystod y nos. Y mae'r chwe' phenill ar yr un mesur, ac yn yr un cywair, a'r Death of Sir John Moore; ac er nad oes yr un drychfeddwl yn y ddwy gân yr un fath, eto wrth ddarllen y naill anhawdd ydyw peidio meddwl am y llall. Y mae yn glod nid bychan i'r Cymro ieuanc, tan ei 24ain oed, ei fod yn gallu cyfansoddi cân hafal i un o'r caneuon tlysaf yn yr iaith Saesneg, er i hono fod o ran ei hanian yn fath o efelychiad. Prawf y ddau benill canlynol fod y bardd eisoes, er ieuenged ydoedd, yn gallu bathodi brawddegau barddonol teilwng ohono ei hun mewn oedran addfetach:

"Yn mlaen!' medd ein Cadben-'yn mlaen!' oedd ei lef;
Aem ninau ar warthaf y gelyn:
Ychydig feddyliem mai marw 'roedd ef,
Pan oedd yn anadlu'r gorchymyn.

Wrth ini ddychwelyd, canfyddem y lloer
Trwy hollt yn y cwmwl yn sylwi,
Gan ddangos ein Cadben â'i fynwes yn oer-
Mor oer a'r bathodyn oedd arni."

Fel lluaws o wir feibion athrylith Cymru, dechreuodd Ceiriog fel gweithiwr haiarn wedi ei godi o fwngloddiau eraill. Nid oedd ei ddarnau boreuaf yn nodedig am wreiddioldeb, nac yn cynwys unrhyw arbenigrwydd nodweddiadol ohono ef ei hun; ond yr oeddynt mor gelfyddgar o ran ymadroddion cymen a dillyn a dim a wnaeth yn ol llaw. Yn raddol yr agorodd efe ei fwnglawdd goludog ei hun; a pho dyfnaf y treiddiai yn hwnw, goreu oll oedd y mŵn. Yn nghyntaf gweithiwr celfydd, cywrain; wedi hyny, yn codi y defnyddiau o'i dir ei hun. Darllen llawer ar waith y pencampwyr llenyddol yr oedd yn y cyfnod hwn ar ei fywyd; a'r drychfeddyliau mawrion a welai wrth ddarllen felly yn aros yn ei gôf, nes dyfod yn rhan ohono; wedi hyny, ac yn raddol, y daeth yn feddyliwr gwreiddiol, ac yn ddarfelydd annibynol. Credwn fod hyn yn nodwedd arbenig lluaws o athrylithiau pob gwlad a phob oes. Cyhuddir Shakespeare o arwynebedd ac anwreiddioldeb yn ei gynyrchion cyntaf; a dyna un o'n prif feddylwyr ninau, Christmas Evans, pe buasid yn cospi am dori yr wythfed gorchymyn mewn ystyr lenyddol, yn ngharchar Aberteifi y cawsid ef ar ol ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Yr oedd Ceiriog yn ddigon dieuog o ddim yn ymylu ar lên yspeiliad; cydnebydd ei ddyled am y syniad o eiddo Pope; a'n hunig esgusawd am grybwyll y sylw ydyw ceisio dangos fod hyd yn nod ei wendidau bychain yn nodweddiadol o athrylith uchelryw.

Tynodd sylw yn fuan yr amryw lenorion a llengarwyr Cymreig oeddynt yn trigianu yn Manchester; ac enynwyd cyfeillgarwch rhyngddo â hwynt nas gallodd dim ond angau ei enhuddo. Yn eu mysg yr oedd Creuddynfab, R. J. Derfel, Pedr Mostyn, Idris Fychan, Parch. O. Jones (Meudwy Mon), Mr. J. Francis (Mesuronydd), Gwilym Elen, Tanad, ac eraill. Bu Ab Ithel hefyd am dymhor yn byw yn Middleton, ger y ddinas, a'r adeg hono y daeth y ddau gyntaf i gydnabyddiaeth â'u gilydd. Yr oedd gan Gymry llengar Manchester Gymdeithas Lenyddol deilwng yn eu mysg—Cymdeithas y Cymreigyddion y gelwid hi, a'i llywydd ydoedd Mr. Francis; dyn mawr, penwyn, rhadlon, bodlon, oedd Mr. Francis, ac yn Gymro gwladgar o'i goryn i'w sawdl. Yr oedd yn Lerpwl hefyd ar yr un pryd Gymdeithas o Gymreigyddion, llywydd yr hon ydoedd Dr. Games, disgynydd o Syr Dafydd Gam; a phe buasai eisiau dangos dwy engraifft o ddau hen Gymro gewynog, nerthol, deallgar, anhawdd fuasai cael gwell y ddau lywydd hyn. Llanwai Mr. Francis y swydd bwysig o City Surveyor Manchester; ac yr oedd y Dr. Games, heblaw bod yn feddyg galluog, yn ddyn neillduol o wybodus ac yn siaradwr campus. Penderfynodd y ddwy Gymdeithas gydgynal eu gwyl flynyddol ar Rivington Pike, moel gerllaw Bolton, wrth odreu yr hon y mae cronfeydd dwfr tref Lerpwl. Cyrhaeddasai mintai Manchester yno yn nghyntaf, ac yr oeddynt wedi dringo llechwedd y foel yn lled uchel cyn i gwmni Lerpwl ddyfod o hyd iddynt. Wrth weled yr ymwelwyr cyntaf, daethai bechgyn o'r amaethdai gerllaw atynt i werthu llaeth; ac wedi ini eu goddiweddyd, gwelem Ceiriog yn yfed o dyn anferth, a than ddylanwad y llaeth enwyn yn clecian cynghaneddion: meddai

"Y mae'n braf yn mhen y bryn,
A thyniad o laeth enwyn."

Yna prysurodd i gydnabyddu gwahanol aelodau y ddwy gymdeithas â'u gilydd. Wrth gyflawni y gwasanaeth hwnw, daeth at lencyn a eisteddai ar y glaswellt, yntau hefyd yn tori ei syched o dyn llawn cymaint a'r llall, ac fel hyn y dywedodd y bardd wrthym pwy ydoedd:

"Dyma Dwini Dimol,
Llawen ei fyd, yn llanw ei fol."

O'r Cymreigyddion a nodwyd, Creuddynfab, mae'n ddiau, oedd y galluocaf; yr helaethaf ei wybodaeth lenyddol; miniocaf ei amgyffredion; a'r un a ddylanwadodd ddyfnaf ar nodwedd farddonol Ceiriog. Am ddonioldeb i ddarnodi cymeriad, ni ddigwyddodd i ni daro ar ei fath na chynt nac wedyn. Clywsom ef un tro yn desgrifio hen lenor hynod, fel "Genius wedi cael stroke"; a bardd ac offeiriad Cymreig adnabyddus ond anffodus, fel "Person wedi 'ei witsio." Pan y cydgerddem âg ef un diwrnod ar hyd Heol Mostyn, Llandudno, yr oedd dau aelod o German Band yn chwareu fel math o guro tabwrdd ar ganol yr heol, y lleill o'r seindorf wedi myned oddiamgylch i gasglu; trodd y darnodwr brathog ei lygad bychan haner cam tuag atynt, gan ddywedyd, "Mae rhai'n fel pe byddent yn godro miwsig, onid ydynt?"—[swn godro ar waelod tŷn, ydych chwi'n ddeall]. A phan oedd rhyw lolyn siaradus yn brolio mewn cwmni nifer a gwychder ei ddodrefn-gan fanylu ar ei hyn a hyn o gadeiriau, rhifedi mawr o fyrddau, &c., a diweddu trwy ddweyd fod ganddo ddau ar bumtheg o welyau plu. "Tom!" ebe Creu,. "fyddai ddim gwell i chwi ddweyd wrthym pa sawl pluen sydd yn mhob gwely?"

O tan yr ysmaldod cellweirgnowawl hwn, meddai Creuddynfab y teimladau tyneraf a'r galon lanaf. Beirniadai yn graffus, a phan fyddai achos yn galw, yn llym. Tynodd lawer o drybini ar ei ben trwy gyhoeddi y Barddoniadur, beirniadaeth ddidderbynwyneb ar Caledfryn fel beirniad; ond gwnaeth yr ysgrafelliad hwnw les i'r oracl, a bu o fendith i lenyddiaeth Gymreig yn gyffredinol. Oddiwrth y llyfr hwnw, credai rhai fod yr awdwr yn ddyn sarug a chwerw; ond ni bu erioed fwy camgymeriad. Yr oedd yn bobpeth i'r gwrthwyneb. Os ysgythrai gangau crinion y dderwen gadarn; meithrinai â. llaw dyner y blaguryn ieuanc gobeithiol. Yr oedd yn hyfrydwch ganddo gael y fraint o gynorthwyo y bardd ieuanc addawol John Hughes, neu fel yr ymgyfenwai y pryd hwnw, Ioan Ceiriog; a phrin y rhaid dweyd fod yn dda gan y llanc gael ei hyfforddiant yntau. Addfedodd y cysylltiad rhyngddynt,o athraw a dysgybl, yn fuan yn gyfeillgarwch diragrith. Yr oeddynt yn myned i'r un addoldy; a threulient lawer o amser yn nghymdeithas eu gilydd, gartref ac oddicartref. Er fod Creuddynfab ddeunaw mlynedd yn hynach na'i ddysgybl, yr oedd ysbryd un mor nwyfus. ac ieuengaidd, a chyneddfau y llall mor addfed, a'r ddau o'r fath gyffelyb chwaeth, fel nad oedd y gwahaniaeth oedran yn gwneud dim gwahaniaeth yn eu serch at eu gilydd. Rhwng y blynyddau 1855 ac 1860, anfynych y cyhoeddai yr un o'r ddau ddim byd heb ei ddangos i'w gyfaill. O dipyn i beth, ysgrifenent i'r cyhoeddiadau fel cyd-awduron (confrères). Yn yr Arweinydd, newyddiadur a gyhoeddid yn wythnosol yn Mhwllheli, ac a olygid gan Huw Tegai, o tua 1856 i 1859, yr ymrithiodd gyntaf y bodau dychymygol hyny, Syr Meurig Grynswth a Bywbothfardd, a llythyrau doniol y ddau yn desgrifio eu Peirianau Barddoni. Yr oedd eu gwatwareg finiog yn gwneud gwawd difaol o hoced penuchel y sawl a dybient mai cleciadau cydseiniaid ydyw barddoniaeth, a buont bron mor llwyddianus i ladd cocosfeirdd, crachfeirdd, a chwilod o'r fath yn Nghymru, ag y bu Don Quixote i wawdio o fodolaeth goeg farchogwriaeth yr Yspaen gynt.

Y mae rhai o'r llythyrau wedi eu danfon o'r Lleuad. Y modd a'r dull yr aeth y ddau i'r blaned oer oedd neidio iddi oddiar Drwyn y Fuwch, neu fel y gelwir ef yn awr, Little Orme's Head, pan yr oedd hi yn myned heibio'r ddaear ar ei thaith i'r Llwybr Llaethog. Mae'n wir nad hwy oeddynt y daearolion cyntaf a dalodd ymweliad â thiriogaethau brenhines y nos; canys y mae'n dra thebyg fod dau mor graff wedi gweled yno ôl traed Baron Munchausen y Deon Swift, a Hans Pfaal y dychymygfawr Edgar Allan Poe; ac os gwelsant, tybed nad oedd berygl iddynt gamgymeryd eiddo'r Barwn a Hans am ôl carnau yr anghenfil ysprydol hwnw a ddesgrifir gan Hiraethog, yn ei awdl ar Job, fel yn gorphwys ar un o gyrn y lloer, pan ar ei daith ysbiol gyntaf i wlad y ddaear? Cafodd ef anwyd wrth eistedd ar lecyn mor oer, a dechreuodd "echrys disian," "nes aeth yn agos, weithian, i'r d—l roi'r lloer ar dân." Ond rhaid cydnabod fod rhai o lythyrau Meurig a Byw mor hedegog a dim o waith eu rhagflaenoriaid lloeraidd. Dyma eu hail lythyr a argraffwyd yn yr Arweinydd, am Mawrth 4, 1858, wedi ei godi o'r copi sydd yn y British Museum, gan Mr. Jenkins, Gwalia House:

MEIRIG GRYNSWTH, AT DRIGOLION Y BLANED DDAEAROL.

WEL, Mr. GOL.,—Ddarfu chwi feddwl fy mod i wedi anghofio fy hen ffryndiau yn "Ngwlad y ddaear" yna. Nid felly; peidiwch chwi a meddwl fath beth. Yr wyf fi a "Byw." mor ddaeargarol a phan oeddym ni yna yn bwyta tatws llaeth. Yr achos i mi fod dipyn yn hwy nag arferol yn ysgrifenu atoch y mis hwn, oedd disgwyl am newydd da i'w yru i chwi, ac y mae yn hyfryd genyf allu eich hysbysu bod genyf un o'r newyddion goreu a gafodd beirdd gwlad y ddaear yna erioed. Y mae "Byw." wedi dyfeisio peiriant newydd at fwrw cynghaneddion, ac y mae arno eisiau goruchwylwyr yn mhob ardal, lle mae "Beirdd braint a defawd," i werthu ei nwyddau cynghaneddol. Yr wyf yn deall ei fod ef yn gwerthu dros ben rheswm o rad. Y mae ganddo linellau am dri a chwech y cant, y rhai cyn y panic diweddaf yn y drafnidiaeth gynghaneddol, fuasent y costio pumtheg swllt y cant. Nid yw yn gwerthu llai na chan' sypyn gyda'u gilydd o'r sefydliad, ond y mae ganddo oruchwylwyr ar y ddaear yn gwerthu wrth dwsin-nid ydynt hwy wrth gwrs yn gwerthu mor rhad ag yn ol tri a chwech y cant. Yr ydych chwi yna yn bobl gydwybodol, ac am hyny chwi a wyddoch yn dda fod yn rhaid i bawb fyw, neu o leiaf, fel y dywedodd y pregethwr gynt, "fod yn rhaid i bawb fyw neu farw." Dyna hen bregethwr yn arfer dweyd y gwir.

Pe gwyddwn i na chodech bris hysbysiad am fy ysgrif, mi roddwn engraifft o'r gorchestion i chwi; o ran hyny, gellwch ofyn faint fyd fynoch chwi, mi dalaf inau y peth welaf yn dda fy hun. Heblaw yr hen gynghaneddion adnabyddus yna, y mae "Byw." wedi dyfeisio cant a deg o rai newyddion, ac y mae y peiriant, ar ol gwneud y patrwm, yn eu bwrw yn gyflymach nag iar yn bwyta rhynion.

Y mae ganddo linellau rhagorol am geiniog a dimai yr ugain, y rhai a eilw efe, yn ei ddull smala ei hun, "Câs gan Sais." Gelwir hwy felly am nad oes yr un Sais a all ystumio ei geg atynt, megys, Garychell grechell at grochan." Fe wyr pob Bardd Braint a Defawd fod prynu llinellau fel yna am geiniog a dimai yr ugain yn llawer rhatach yn y diwedd na cholli amser i'w gwneud hwy, gyda dwylaw moelion.

Y mae ganddo stoc helaeth o Gynghaneddion "Câs gan Feddwyn." Ei reswm meddai ef dros eu henwi felly yw, eu cymhwysder i brofi dyn a dybir ei fod yn feddw, canys ni all un dyn meddw blethu ei dafod am danynt. Dyma nhw:

Y groesffagl carddagl cerddawdd—gwttern
Y creigiau a'i crygawdd;
Gyr biser, gwyrder gwerdawdd,
Ogfaenlliw bais, rhwd clais, clawdd.

Crwth crothlost—coelffrost culffriw—cwthr enfys
Cog oerfrys cig irfyw;
Copr bryd rhwng y rhyd a'r rhiw,
Caiff lemiloes y ci fflamliw.

"Byw." yn disgwyl y bydd galwad mawr, yn enwedig gan Gymdeithas Cymedroldeb am y cynghaneddion yna, yn enwedig pan gofir nad ydynt yn costio ganddo ond llai na'r degwm yr hyn oeddynt amser yn ol. Y mae ganddo, mi debygwn i, ddigon o linellau "hoewlon a gwiwlon" i ddiwallu y wlad am ddeng mlynedd, wedi eu gwneud yn barod. Dywedodd wrthyf na fu y peiriant ddim dros awr yn gwneud y domen fawr i gyd. Y mae yma ganoedd o englynion at gòr Eisteddfodau, a chyfarfodydd llenyddol, yn dechreu,

Eisteddfod hyglod yw hon.
Eisteddfod hynod yw hon.
Eisteddfod hynod o enwog, &c.

I'w cael wedi eu gorphen yn daclus, am lawer llai ọ bris nag y medr neb brynu y defnyddiau yn Nghymru.

Y mae ganddo englynion cymhwys i Ffarmwyr, ardderchog, sef rhai at wasanaeth y tŷ, y meistr, y feistres, y plant y gweision, y morwynion, y meirch, y cerbydau, y gwartheg, y lloi, y moch, y defaid, a phob peth arall ellir feddwl am dano perthynol i ffarm, am haner coron, a thalu.y cludiad.

Fe ellir cael digon o englynion campus, wedi eu gorphen yn dda, at wasanaeth ffarm fawr, y tŷ ac allan, am ddeng mlynedd, am dri a chwech.

Er engraff wele englyn i drol eithaf llithrig, ac heb un math o wall gynghaneddol ynddo:

Trol lariaidd, fwynaidd, feinwych,—trol hynaws,
Trol anwyl, trol glodwych;
Trol lasliw, eurwiw, orwych,
A throl i waith, a throl wych.

Eto i Ful—

Mul mwynlan, gwiwlan, gwelir,—ac anwyl
Ful ceinwych ganfyddir;
Ei ber lef gloyw-lef glywir
Yn fwynaidd, weddaidd, yn wir.

Cewch esiamplau o gynghaneddion wrth y llath yn fy llythyr nesaf. Rhai a diwedd y naill yn dechreu y llall.

Yr oeddynt yn ohebwyr rheolaidd i'r Pwnsh Gymraeg, ond cyn i'r wythnosolyn hwnw ddirywio a myned yn fraddug pen ffair. Ni roddid enwau'r awduron wrth yr ysgrifau ynddo, ond y mae'n hawdd adnabod ol llaw y celfyddydwyr o Fanceinion. Creu, oedd yn cael y gair o ysgrifenu y gyfres o lythyrau llymfeirniadol a ymddangosent yn Pwnsh tan y penawd, "Yr Arddangosiad Farddol," gan y Barnum Cymreig; ond yr oedd gan ei ddysgybl hefyd law yn y gwaith. Crafu yn drwm iawn y byddai Barnum; a chanfod rhai o'r beirdd mor groendeneu, gwingent yn erwin tan y driniaeth, a bygythient bob math o ddialeddau, heblaw cyfraith athrod, ar yr awdwr.

O flaen y llythyrau hyn, ar ben y ddalen, yr oedd llun y gwrthddrych y sonid am dano, wedi ei gerfio ar bren, gan yr "Artist Cymreig," fel yr adwaenid ef, sef Elis Bryncoch. Trigianai Elis mewn bwthyn bychan cysurus yn heol Phythian, Lerpwl; ac y mae'r bwthyn hwn yn sefyll yr un fath hyd yr awr hon, er cynifer o gyfnewidiadau a gymerasant le o'i amgylch. Yn y caban glanwaith hwnw y cerfiodd Elis Bryncoch holl cuts, chwedl yntau, y Pwnsh Cymraeg. Cuts hynod oeddynt hefyd; hynotach am wreiddioldeb y drychfeddwl, nag am fedrusrwydd ei weithiad allan. Yr ydym yn cofio un ohonynt yn dda. Y testyn ydoedd, "Claddedigaeth. y Genhadaeth Iuddewig." Yn Mon y codasai y gwrthwynebiad iddi ar y cyntaf; ac yn Arfon yn nesaf. Tynid yr elorgerbyd gan fochyn yn mlaen y wedd a gafr yn y bôn; ac ar ben y cerbyd yr oedd hen wr tew boliog yn eistedd fel gyriedydd, gan gynrychioli Sion Gorph, a chloben o fflangell yn ei law chwith-pa un ai yn amryfus ynte o fwriad y cerfiwr, y mae yn anhawdd dweyd. Cwynai pobl y drychfeddyliau fod gan y Bryncoch ddawn i ddyfetha eu cynlluniau gyda rhyw chwithdod fel hyn yn fynych. Ond pan gofier mai asiedydd oedd y cerfiwr wrth ei alwedigaeth, ei fod yn gweithio'n galed bob dydd am ei fywiolaeth, ac yn cerfio pan fyddai asiedyddion eraill yn gorphwys neu yn cysgu, yr oedd ei gerfiadau yn rhyfeddol o dda. Gwaith mawr oes Elis Bryncoch oedd darlun o'r enw Oriel y Beirdd, am yr hwn y gwrthododd £200 un tro;. ond ar ol ei farwolaeth ef a werthwyd am £100 i Mr. Wm. Morris (Gwilym Tawe).

Byddai Creu. a Ceiriog yn dyfod trosodd i Lerpwl yn fynych ar nos Sadwrn, i ymgynghori âg oracl y cuts parth rhai yr wythnosau dilynol; ac ar un o'u hymweliadau hyn y gwelsom ni y ddau gyntaf. Yr oedd Ceiriog y pryd hwnw tua phump ar hugain oed, yn ddyn ieuanc hardd a golygus, ac yn gwisgo yn drwsiadus, hwyrach braidd yn ffasiynol; ac heb i chwi fyned yn agos ato, ac ymgomio âg ef, yr oedd yn anhawdd i chwi amgyffred eich bod yn mhresenoldeb bardd, gan mor debyg ydoedd i ddyn arall.

Wedi crwydro oddiar ein llwybr yn y dull uchod er mwyn son ychydig am ddau o hen gyfeillion y bardd yn ei ieuenctyd, ni a ddychwelwn i olrhain ei lwybr yntau yn mhellach. Yr un flwyddyn ag y gwobrwywyd ef yn Llundain am yr englyn i John Elias, ac am ei farwgan i Etifedd Nanhoron, enillodd yn Eisteddfod Merthyr hefyd, tan feirniadaeth Eben Fardd, wobr o£10 am ei fugeilgerdd, "Owain Wyn"; ac ymddengys nad dyna'r gystadleuaeth gyntaf y bu'r gân hon ynddi. Mewn nodiad ar ei diwedd, dywed yr awdwr:-"Flwyddyn cyn hyny, bu yr un Fugeilgerdd air yn air yn cystadlu am ddeg swllt,” ond ataliwyd y wobr, am na thybiai'r beirniad fod un o'r amryw ymgeiswyr yn ei theilyngu." Wele, hai, hai! Rhaid fod syniad y beirniad hwnw am werth cydmarol deg swllt a gwerth bugeilgerdd mewn cyflwr echrydus o ddrwg. Byddai yn anhawdd cael undyn na ddywedai mai dyma'r fugeileg oreu yn yr iaith o ddigon. Ac ini roddi y pris isaf ar farddoniaeth ac uwchaf ar arian, y mae yn Owain Wyn linellau unigol sydd yn werth yr holl wobr haelionus hon ddengwaith drosodd. Beth fyddai gwerth y llinellau canlynol yn y farchnad fawr lenyddol tybed?

Bywyd Bugail:—

Weithiau tan y creigiau certh,
Yn nghanol y mynyddoedd;
Dim i'w wel'd ond bryniau serth,
A thyner lesni'r nefoedd.

Y Ceunant:—

Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.


Y Llaw fawr anweledig:—

Llawer craig fygythiol sydd
Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
Ac nid oes maen yn syflyd.

Olwen, cariadferch y Bugail:—

Ei gwddf oedd fel y lili wen,
A nos o wallt oedd ar ei phen.

Bywyd ac Angau:—

Y dydd dywynodd gyntaf
Ar ruddiau'r mab di nam,
Fu'r dydd dywynodd olaf
I lygad pur ei fam.

Llanarmon Dyffryn Ceiriog mewn mydr:—

Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd yn nghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu penau'n fud.
***
Dacw'm cartref is y goedwig,
Groesaw hen arwyddion hedd;
Dacw'r fynwent gysegredig,
Wele'r ywen, dyna'r bedd!

Hyawdledd dystaw:—

A welaist ti deimladau dyn
Yn selio ei wefusau?
Neu ddeigryn bychan mud yn dweyd
Yr hyn na fedr geiriau?

Dychweliad Owain Wyn o'i grwydriadau:—

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais,
Ond cofio Gwyllt Walia oedd loes;
O wagedd ieuenctyd yr yfais,
Nes chwerwais felusder fy oes:
Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,-
Chwi wledydd goruchel eich bri,
Yn mhell byddoch byth o fy llygad,-
Mynyddau'r hen Ferwyn i mi.


A'i ddeisyfiad olaf:—

Mae gobaith cael eto cyn angau
Ail ddringo llechweddau fy mro,
I gasglu y praidd i'w corlanau
Hyd lwybrau cynefin i'm co':
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw'n fynyddwr, .
A beddrod y bugail i mi.

Fyth o'r fan yma! yr oedd y beirniad a ataliasai. wobr o gan' punt, chwaithach deg swllt, oddiwrth awdwr cân yn cynwys llinellau fel yr uchod, yn haeddu cael ei fflangellu trwy gynffon y Sarph Dorchog, a'i orfodi wedi hyny i yslotian yn goesnoeth bennoeth yn nghorsydd a siglenod Dolydd Ceiriog "am un dydd a blwyddyn;" a chosb rhy fach arno a fuasai'r cyfryw, pe na adawsai, fel iawn am ei gamwri, y gân swynol o'i waith," Bedd y dyn tylawd," yn gynysgaeth i'w genedl. A bedd dyn tylawd fuasai bedd pob bardd, a thylawd iawn. hefyd, wedi atal gwobrau rhyfygus fel hyn oddiwrth yr hwn a hunai ynddo.

Dichon fod y bardd, yn Owain Wyn, wedi defnyddio mwy o olygfeydd ei ardal nag yn yr un darn arall o'i waith. Eistedd ar gribyn y clogwyn anwyl, taflu careg i'w gi; yr afon glir islaw, a'r ffordd tu draw i'r afon, a dynion yn ei theithio, "fel nant yn myned heibio.' "Dringo pen y bryn, hyd risiau craig ddaneddog; gwel'd y nant, y cwm, a'r glyn, y ddôl, y gors, a'r fawnog." Clywed "llais y dymhest gref, a chwiban y corwyntoedd, rhuad croch daranau'r nef," ond "huno wna'r mynyddoedd," &c., &c. Credwn fod golygfeydd Llanarmon a darluniau y gân mor debyg i'w gilydd, fel y buasai meddwl dyn hyd yn nod go gyffredin yn cyfeirio oddiwrth y naill at y llall, yn ddiarwybod fod dim cysylltiad rhyngddynt. Wedi i ni ym weled â Dyffryn Ceiriog, cawsom flas pereiddiach nag erioed ar farddoniaeth Ceiriog Hughes; canys darllenem lawer o hono yn ngoleuni esboniad newydd. Y mae dosbarth neillduol o feirdd, delweddwyr natur y gelwir hwynt, nas gall neb ond y sawl fo yn gydnabyddus â'r un golygfeydd a hwythau gyflawn fwynhau eu gwaith. Yr oedd Ceiriog yn un o'r cyfryw; a Scott a Wordsworth yn arbenig. Y tyrfaoedd lluosog a gyrchant o flwyddyn i flwyddyn i Grasmere a Windermere ac i Abbotsford, er mwyn ymgydnabyddu â'r manau a bortreadwyd mewn iaith mor fyw gan y naill a'r llall o'r enwogion hyny! Ac nid oes angen dawn brophwydoliaeth i ddweyd y telir yr un warogaeth cyn bo hir i Lanarmon Dyffryn Ceiriog ar gyfrif y Bardd Cymreig.

Yn gynar yn 1857, penderfynodd nifer o lenorion gwladgar roddi symbyliad a chyffro yn nghorph marwaidd llenyddiaeth Gymreig y dyddiau hyny, trwy gynal Eisteddfod fawreddog yn Llangollen. Blaenor y symudiad oedd y tawelfwyn Ab Ithel; a chynorthwyid ef gan wyr llên a lleyg, o'r rhai nid oes yn aros ond yr Estyn. Dewisasant restr o destynau ragorol iawn i Eisteddfod, am eu bod mor Gymreig; megys, Maes Bosworth, Cymeriad Rhufain, Darganfyddiad Amerig gan Fadog ab Owain Gwynedd, Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Bran, &c. Yr oedd y testyn olaf yn sicr o swyno y bardd ieuanc o Fanchester am ddau reswm; sef yn nghyntaf, am ei fod mor gydnaws â'i chwaeth; ac yn ail, am fod y wobr i'w rhoddi yn y dref agosaf i'w gartref, ac y buasai ei henill felly, yn nghanol ei gyfeillion, yn mwyhau ei gwerth. Y canlyniad ydoedd enill, er fod beirdd telynegol goreu y genedl yn cydymdrechu âg ef am y gamp, a chynyrchu rhiangerdd ag sydd mor anfarwol ag un dernyn barddonol yn yr iaith Gymraeg.

Cynaliwyd Eisteddfod fythgofiadwy Llangollen yn Medi, 1858, ar faes rhwng y gamlas a'r afon Ddyfrdwy, ac mewn pabell o lian. Y mae yn anmheus os oedd yn ngweledigaeth Pedr fwy o amrywiaeth cymeriadau, nag oedd yn y babell ridyllog hono. Yr oedd pob dyn od yn Nghymru wedi dyfod yno; hyny ydyw, os wedi ei bigo rhyw dro gan y wenynen a elwir Awen. Yn eu mysg, Myfyr Morganwg (Archdderwydd Ynys Prydain a'i rhagynysoedd, fel y gelwir ef), a rhyw wy cyfrin wrth linyn ar ei fynwes. Ni welsom erioed sobrwydd digrifach na'r hwn oedd ar wyneb y Myfyr; a bu yr wy yn gyff cler i'r beirdd trwy yr Eisteddfod. Bod arall rhyfedd iawn oedd rhyw grachuchelwr o'r enw Pym ab Ednyfed, a'i odrwydd ef yn tori allan mewn gwisgiadau liwiau yr enfys. Eto, Caradog, fel bardd wrth ei enw, a Father Jones fel offeiriad Pabaidd; sant pygddu a rhyfedd oedd yntau. George Hammond Whalley a Colonel Tottenham; bu agos i'r ddau foneddwr hynod hyn fyned i ymryson ymladd ar yr esgynlawr. [Awgrymai un cenaw dichellddrwg ai ni fuasai tipyn o fatel yn awr ac yn y man mewn ambell Eisteddfod, dyweder rhwng dau fardd, neu ddau foneddwr, neu gwell fyth rhwng dau gerddor, yn chwanegiad pwysig at amrywiaeth y gweithrediadau? ac y cymerai ef lw, pe hyny'n weddus, y buasai yn annrhaethol fwy dyddorol gan ganoedd o fynychwyr gwagsaw yr hen sefydliad hybarch na gwrando beirniadaeth hyd yn nod ar awdl y gadair, yn cael ei thraddodi gyda holl hyawdledd y prif feirniad. Gwobr, dyweder, o bum' punt i'r goreu, a deg punt i'r ail]. Hyn o awgrym anfuddiol rhwng cromfachau; i fyned yn mlaen gyda'r rhestr: Thomas Stephen o Ferthyr, yr hanesydd hyglod; Nefydd; Carn Ingli, dyn mawr yn gwisgo ei wenwisg fel ar y Sul yn ei eglwys; gwasanaethai fel arweinydd neu ostegwr y cyfarfodydd, gan waeddi yn awr ac eilwaith mewn llais cryf, "Go-osteg," nes byddai'r holl gwm yn diaspedain; Morgan, Tregynon, awdwr Hanes y Kymry, a'r offeiriad pigog; Cynddelw; Eben Fardd; Creuddynfab; Nicander; Huw Tegai; Gwalchmai; Rhuddenfab; Ceiriog; Taliesin o Eifion; &c., &c. Y fath gynulliad o ddoniau cymysgryw; a'r fath "dori i lawr" a fu yn eu mysg, mewn llai na 30ain mlynedd, fel nad oes ond pedwar ohonynt yn awr yn fyw.

Danfonodd natur hefyd ddau o'i chenadon i fod yn "erwynebol" yn yr Eisteddfod hono, sef comed danbaid yn y ffurfafen, a gwlaw na welwyd ond anfynych ei gyffelyb hyd yn nod yn Llangollen, ar y ddaear. Pistylliai yr olaf trwy y tô rhidyllog, fel na welid dim ond gwlawleni trwy yr holl babell, ac na chlywid dim am yspeidiau hirion ond tabyrddiad y curwlaw, rhu y llifeiriant yn yr afon, ac ebychiad ambell i linell oddiar y llwyfan, megys, "Wel, broliwch yr ymbrelos."

Yr oedd yno wobr i'r bardd hynaf yn yr Eisteddfod, a safai rhes o brydyddion, henafol a derwyddol eu hymddangosiad, o flaen y dorf i gystadlu am dani. Cynygid tlws am yr englyn byrfyfyr goreu, —yr ymgeisydd i sefyll ar ei ben ei hun yn nghanol yr esgynlawr, ac i gael pum' mynud rhwng rhoddiad y testyn ac adroddiad yr englyn. Methodd Father Jones yn lân â gwneud dim ohoni; safai yn y lle penodedig, gan ymddangos mewn gwewyr dirfawr, nes y gwaeddodd un o'r beirdd o ganol eu difyrwch arno, "Y bardd mud ar y bwrdd mawr," a diflanodd yr ymgeisydd o'r golwg ar ol ei awen. Cystadleuaeth ddigrif iawn arall oedd hono ar "Ddatganu Pen Pastwn," yr ymgeisydd yn dyrnu'r llawr â phastwn, ac yn canu i swn ei ergydion ansoniarus, fel y gwneir i dinciadau tànau'r delyn. Er mor ogleisiol oedd y gystadleuaeth bastynol ar y dechreu, yr oedd yn dda gan bob pen yn y lle glywed ei diwedd.

Fe wêl y darllenydd bellach fod digon o "fyn'd," beth bynag, yn Eisteddfod Llangollen-digon o amrywiaeth; ond, yr hyn sydd yn annrhaethol werthfawrocach, cynyrchodd o leiaf bedwar o gyfansoddiadau gorchestol; sef, "Brwydr Maes Bosworth," gan Eben Fardd, yr hon a enillodd y gadair, ac o ran cynllun sydd yn rhagori hwyrach ar bob awdl yn yr iaith; arwrgerdd glasurol a gorphenedig Nicander, ar "Gymeriad Rhufain gan Bran a Brennus;" traithawd galluog Thos. Stephens ar "Ddarganfyddiad Amerig gan Madog ab Owain Gwynedd," yn yr hon y gwedid y dybiaeth hono; a rhiangerdd swynol y "bardd newydd," ar "Myfanwy Fychan."

Rhoes Myfanwy dant newydd yn nhelyn Cymru. Cyn ei hymddangosiad hi, ychydig riangerddi oedd genym yn y Gymraeg. Caneuon Huw Morys o Bontymeibion, ac ambell ddyri o waith beirdd Bro Gwyr a Morganwg, ac eraill, oeddynt ein holl drysorau yn y math yma ar gyfansoddiad. Am y gweddill y tybid eu bod yn meddu teithi rhiangerdd, naill ai yr oeddynt wedi fferu yn nghloffrwymau a hualau y Mesur Triban, neu yn rheffynau pen ffair llawn serthedd a maswedd. Y mae hyd yn nod caneuon Huw Morys yn rhy ffurfiol a chelfyddydol i swyno a difyru Cymro cyffredin yr oes hon. Ond dyma gân na raid i'r gwladwr symlaf wrth eiriadur er deall ystyron ei geiriau. Ni ddigwyddodd i mi erioed gyfarfod âg undyn a ddarllenodd Riangerdd Llangollen, fel y gelwir hi, heb gael ei foddhau, pa faint bynag o gèn rhagfarn fyddo ar ei feddwl, neu pa mor ddiawen bynag y bo. Y mae ynddi rywbeth i foddio pob chwaeth ond yr anmhur; symlrwydd i'r syml; cywreinrwydd ei chynllun i'r cywrain; harddwch i edmygydd harddwch; hen draddodiadau, hen arferion a defodau Cymru Fu, i'r hwn sydd yn hoffi henafiaeth; ac y mae ei thestyn, Cariad, yn ei gwneud o ddyddordeb cyffredinol i bob rhyw, gradd, ac oedran. Y nodwedd hwn-gallu i "blesio pawb," ydyw ei gwendid a'i chryfder; canys o'i hamrywiaeth y daw ei hanwastadrwydd. Fel cyfanwaith cyfluniaidd a gorphenedig, y mae amryw o gyfansoddiadau diweddarach y bardd yn rhagori ar Myfanwy; ond nid oes yn yr un o'r cyfryw benillion mor llawn o dlysni gwyryfol. Ceir rhanau yma ac acw ohoni na buasai ei hawdwr mewn oedran addfetach byth yn eu gollwng o'i law; a rhanau eraill nas gallai byth gyfansoddi eu gwell. Anhawdd ydyw credu y buasai Ceiriog, wedi i'w farn addfedu, yn ysgrifenu i lawr fod y rhian foneddig o Gastell Dinas Brân, yn llechian trwy'r prydnawn mewn bwthyn fel yr eiddo Hywel ap Einion Llygliw, er mwyn gwylio y "lolyn hwnw o fardd" yn colli arno ei hun, ac yn ymddynghedu y boddai ei hun oni ddeuai hi (Myfanwy), yn ol ei haddewid, i ymofyn y beithynen. O'r ochr arall, ni chanodd efe cyn nac ar ol hyny ddim mor angherddol o dda a'r gân serch hono a ddyry yn ngenau Hywel; yn enwedig y penillion canlynol, y rhai a ddaliant i'w dyfynu eto, hyd yn nod pe byddai y ganfed waith:

Myfanwy 'rwy'n gweled dy rudd!
Mewn meillion, a briall, a rhos!
Yn ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos:
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe'i cerir gan ddaear a nen.
I fenaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti!
Mil lanach, mil mwynach i mi!


Fe dd'wedir fod beirddion y hyd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe b'ai anfarwoldeb yn awr
Yn cynyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr,-
Ddymunwn i mo'ni, fe'i mathrwn os na chawn i di,
Myfanwy, os na chawn i di!
***


O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i'th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae'r awel yn droiog a blin-
Un gynes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy'n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nil troiog fy serch atat ti,
Tragwyddol yw'm serch atat ti.

Gosodwyd ei dyfais (plot) i orphwys ar ddull yr hen Gymry yn cyfleu eu meddyliau, sef mewn peithynen. Dyma ddywed Dr. Pughe yn ei Eiriadur ar y gair Peithynen:

A FRAME of writing which consisted of a number of four-sided or three-sided sticks written upon, which was put together in a frame so that each stick might be turned round for the facility of reading.

Cuddia'r bardd ei englynion serchglwyfus mewn hollt hen geubren derw oedd gerllaw y Castell, ac ar un o rodfeydd beunyddiol y rhian. Y mae hithau, yn ol gobaith y danfonwr, yn ei chanfod; yn ei darllen; ac yn myned i ddeisyf ar Hywel, y bardd, i wneud peithynen arall a cherdd serchlawn arni yn ateb i'r llall. Dyna'r ddau bellach mewn dyryswch; Myfanwy yn methu dyfalu pwy oedd ei hedmygydd awenyddol dienw, a'r bardd pa fodd i wneud cerdd ateb iddo ei hun. Ond llwydda'r awdwr cyn bo hir i'w dadrys o'u trybini, a diwedda yn hapus. iawn trwy ddangos ini yr ail beithynen o waith Ap Einion; a Myfanwy a

Ganfyddai ddwy galon gyfymyl,
Mewn cerfiad celfyddgar di wall;
"Myfanwy" yn nghanol y gyntaf,
A "Hywel " yn nghanol y llall.

Er nad yw y gân yn rhifo llawn bedwar cant o linellau, y mae yn anmheus a oes mewn iaith riangerdd odidocach o waith dyn ieuanc tan ei 26ain oed. Yr oedd amryw feirdd galluog yn cydystadlu âg ef (Glasynys oedd yr ail); ond Ceiriog a enillodd yn rhwydd a phe amgen, buasai yn hen bryd difodi Eisteddfodaeth oddiar wyneb y ddaear. Cyhoeddwyd yr eiddo Glasynys a'r fuddugol gyntaf yn y Taliesin, am 1860.

Yn 1859, cynaliwyd Eisteddfod fechan yn Llangernyw, sir Ddinbych, a chynygid gwobr am y bryddest oreu ar Jona." Cystadleuodd Ceiriog, ac enillodd. Yr oedd hwn yn faes newydd iddo ef; y cymeriadau yn estronol, a'r golygfeydd yn ddyeithr. Rhaid oedd iddo ddybynu cryn lawer ar ei ddarfelydd, er llanw'r bylchau yn yr hanes. Er hyny, ceir yma brofion dianmheuol o'i allu i gyfaddasu ei hun at yr amgylchiadau. Y mae pregeth y prophwyd, Deugain niwrnod eto fydd, a Ninife a gwympir," a ddodir fel byrdwn ar ddiwedd deuddeg o benillion nerthol annghyffredin, yn treiddio fel taran follt ofnadwy uwchlaw dadwrdd cableddus y ddinas fawr a phoblog, nes arswydo'r dinasyddion, o'r brenin ar ei orsedd aur i'r tylottaf o'i ddeiliaid, a pheri iddynt edifarhau mewn sachlian a lludw. Yna amlygir yr "Hen Drugaredd," yr hyn a bâr i'r hen brophwyd llym ac ystyfnig ddigio yn aruthr, am na ddaethai'r dinystr yn ol ei air ef:

A d'wedai, "Oni dd'wedais hyn,
Pan yn fy ngwlad y trigwn?
A ffois i Tarsis o dy ŵydd,
Oherwydd mi a wyddwn
Dy fod hwyrfrydig yn dy wg,
Ac edifeiriol iawn am ddrwg.

Ac wedi desgrifio, yn fywiog neillduol soriant, trafferth, a siomedigaeth Jona gyda'r cicaion, dyfera y foes-wers haner ysbrydoledig a ganlyn o ysgrif bin y bardd:

O! gyd-bechadur trist! a ddaeth i'th glyw
Erioed beroriaeth fel "Arbedaf" Duw?
Mae yma lanw o dosturi'r nef
Yn llifo allan dros ei wefus Ef;
"Arbedaf finau," dyna furmur môr
Diderfyn gariad yr anfeidrol Ior!
I fynwes oer y byd, fy Rhi,
Dyfered gwlithyn o dy gariad Di;
Dylifed cariad i'th ddelw'th hun,
A dyn, O! Arglwydd, fo eto'n ddyn.


Yn y bryddest brydferth hon, ceir tri dernyn yn y foelodl (blank verse), fel math o adroddawd; ac hyd y gallwn gofio, dyma yr unig dro iddo arferyd y mesur, a diolch am hyny.

Gweithiau—Oriau'r Hwyr

Gan ein bod wedi dechreu mabwysiadu'r drefn amseryddol, ni waeth ini fyned yn mlaen ar y cynllun hwnw ychydig yn mhellach. Yn 1860, ymddangosodd gyntaf fel awdwr llyfr o'i waith ei hun, canys yn haf y flwyddyn hono y cyhoeddodd Mr. Isaac Clarke, Rhuthyn, Oriau'r Hwyr, o'i waith. A rhag i ryw Philistiad eiddigus dybied fod yr awdwr wedi prynu cerbyd a phâr o geffylau yn union deg ar ol hyny, dylem ddweyd mai £10 a gafodd efe am hawlysgrif yr argraffiad cyntaf; ac hefyd i rywun arall feddwl fod Mr. Clarke wedi symud i fyw i Gastell Rhuthyn, bydded hysbys mai 2,000 o gopiau a argraffwyd o'r llyfr, a chymerodd ddeunaw mis i'w gwerthu. Y mae'n wir fod £10 yn bris y farchnad, ac yn bris da yn ol prisiau y farchnad hono, ie, hwyrach y pris mwyaf a dalwyd erioed cyn hyny am gopyright argraffiad o lyfryn swllt yn y Gymraeg; ac yr oedd gwerthu 2,000 o lyfr bardd newydd, heb ganddo drwydded pregethwr gydag unrhyw enwad i'w "hoccan o'r sêt fawr," yn gylchrediad pur dda, mewn ystod deunaw mis o amser; ac y mae yn anmheus a fuasai yn llawer gwell yn bresenol. Galwyd am ail argraffiad yn 1862, yr hwn hefyd a gyhoeddwyd gan Mr. Clarke; a phan roddes ef ei fasnach i fynu, prynwyd ei holl hawlysgrifau gan Mri. Hughes, Gwrecsam, a hwn yn eu mysg. Ymddangosodd y pumed argraffiad ohono yn 1872; a pha nifer o argraphiadau a gyhoeddwyd wedi hyny, nis gwn, ac ni'm dawr. Pa fodd bynag, amcangyfrif cymedrol fyddai dweyd fod o 25,000 i 30,000 wedi eu gwerthu o gwbl; ac amcangyfrif cymedrol arall fyddai tybied fod o chwech i saith o bersonau ar gyfartaledd wedi darllen pob un o'r copiau hyny, a bod felly o gant a haner o filoedd i ddau can' mil wedi eu dyddori ganddo. Ond pwy all ddyfalu neu ddyfeisio pa sawl chwerthiniad iachus a fu uwchben "Ymddyddanion y Felin," "Boneddwr mawr o'r Bala," "Evan Benwan, "Syr Meurig Grynswth," "Caru'r Lleuad," &c.; neu pa sawl deigryn melus a syrthiodd yn ddistaw ar y llyfr wrth ddarllen "Claddasom di, Elen," "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," "Y fenyw fach a'r Beibl Mawr," "Dafydd y Gareg Wen," &c.; neu yn mhellach, pwy all fesur y nerth adnewyddol a gafodd ysbryd llesg llawer Cymro oddiwrth ysbryd gwrol y caneuon ar "Ddyngarwch," "Gwladgarwch,' "Charles o'r Bala," "Meddyliau am y Nefoedd," &c. Pe na buasem yn son am lyfr y mae cynifer o Gymry wedi ei ddarllen ac mor gydnabyddus âg ef, prin y gallasem siarad mor gryf am ei ragoroldeb heb ddyfynu yn helaethach ohono; yn enwedig gohebiaethau "Syr Meirig Grynswth," yn eu crynswth. Ond rhag ofn y daw y llyfryn hwn i law rhywun na ddarllenodd lyfr cyntaf Ceiriog, ni a godwn ychydig linellau ohono, gan anog ar yr un pryd y "rhywun na ddarllenodd" i ddanfon at Mri. Hughes, Gwrecsam, am y gwaith i gyd. Yma daw y barwnig doniol ger ein bron yn y cymeriad o arwerthwr, a'i sale gyntaf oedd ar eiddo bardd yr hwn a roddai'r fasnach i fynu oherwydd y gostyngiad dirfawr oedd yn mhrisiau awdlau, englynion, &c. Dyma rai o'r taclau a gynygid ar werth:-

I. Myrddiwn a haner o linellau Cynghaneddol, yn anfarwol i gyd, ac yn barod ar unrhyw foment ddifyfyr i'w dethol allan i wneud yr awdl odidocaf yn ein hiaith, ar unrhyw bwnc neu destun a ddymuno y prydydd ei ddefnyddio.

2. Deunaw mil o englynion ar haner eu gwneud—oll ond un yn cael eu gwarantu gan y gwerthwr i fod yn anfarwol.

3. Cywydd bychan a wnaeth yr awdwr pan yn ieuanc, o'r un hyd ag ysgol Jacob. Bwriedir gwerthu hwn wrth y llath, neu fel y bo prynwyr yn dewis.

6. Un cant ar bymtheg o fedalau a llawryfon, oll yn arian pur, wedi eu gwneud o blwm.

7. (Yn yr ystorfa o dan y siop). Pymtheg cant o farilau yn cynwys pyg cynghanedd. Y mae hwn o'r fath oreu; ni wyddis am un linell erioed a ddatododd ar ol ei gludio â'r pŷg rhagorol hwn.

8. Pedair hogsied ar ddeg o ddyfroedd Marah, i wneud galarnadau ar ol enwogion Cymru, am wobrwyon a thlysau; ac i bobl ddinod, na chlywsom ac na welsom eu henw cyn ei gysylltu â swm gwobr eu marwnad.

9. Tri ugain ffurcyn o sebon meddal i lithrigio brawddegau, ac i rwbio beirniaid a phwyllgorau eisteddfodol.

Cododd Oriau'r Hwyr yr awdwr i res flaenaf awenyddion ei wlad. Adolygwyd y llyfr gan y Wasg Gymreig, a'r cyhoeddiadau Cymreig-Seisnig gyda chanmoliaeth ddigymysg. Dywedai y gochelgar Ieuan Gwyllt:—

Ni ddygwyddodd i mi ddarllen llinellau Cymraeg yn cynwys mwy o wir farddoniaeth na y rhai hyn er's amser maith. Yn wir y mae yn gwestiwn genym a oes llawer o'r cyfryw yn ein hiaith. Y neb sydd am gael ateb i'r hen ofyniad—Beth yw Barddoniaeth? —darllened a theimled y llinellau hyn ar Ddyngarwch.'

Ac yn y Carnarvon and Denbigh Herald, tystiolaethai un a wyddai gymaint am y math yma o farddoniaeth ag un o'i gydoeswyr, ac un a ddeallai y grefft ei hun i berffeithrwydd, sef Talhaiarn:—

CEIRIOG has made rapid strides in popularity, and deservedly so, for he is unquestionably a genuine poet. His book contains many sweet flowers and pretty gems, although there may be here and there a simplicity bordering on childishness: this is far better than puffy, inflated obscurity, swelling into bombast. Most Welsh poets become religious instead of loving, in their love. Whereas Ceiriog is delicately and intensely loving, without cant or hypocrisy. I doubt if there is anything in the Welsh language on the subject of love that are equal to the verses quoted. "Myfanwy" though irregular and unequal has a glorious burst towards the middle, that takes the shine out of the poem "Owain Wyn," and most other Welsh poems.

Yn 1860, cynygiodd Cymrodorion Merthyr Tydfil saith o wobrau am saith o Ganeuon Dirwestol ar wahanol destynau yn dwyn cysylltiad â'u hoff bwnc hwy, gan benodi Ieuan Gwyllt yn feirniad. Buasai llawer prydydd yn teimlo yn bur gwmfforddus am chwe' mis ped enillasai un o'r saith gwobr hyny; ped enillasai ar ddwy buasai yn credu mai efe oedd prif-fardd ei oes; a phe ar dair, credasai fod pawb arall yn credu hyny. Ond daliodd Ceiriog y brofedigaeth o enill y saith, er fod o naw i unarbumtheg yn cydgystadlu âg ef ar bob testyn. Ysgubodd yr holl yd i'w ffetan ei hun, fel y darfu i Thomas Stephens hefyd unwaith hefo holl wobrau traethodol un o Eisteddfodau mawrion y Fenni. Y ffugenwau wrth y caneuon hyny oeddynt:

Cadell, wrth "A laeswn ni ddwylaw?"
Einion, wrth "Serch Hudol."
Idwal, wrth y Deryn Pur."
Roderick, wrth y "Gwenith Gwyn."
Ifor Ifanc, wrth" Merch y Melinydd."
Oswald, wrth Bardd yn ei awen,' a
Gwaith Wythnos, wrth y "Fwyalchen."

Fe welir fod llythyrenau cyntaf y ffugenwau yn gwneud trwy groesgyniad ffugenw yr awdwr. Argraffwyd y saith cân yn Oriau'r Bore.

Cyn y fuddugoliaeth yn Merthyr, cydnabyddid ei fod ef y goreu yn Nghymru am gân, oddieithr efallai Talhaiarn. Na thybied neb ychwaith fod yr olaf yn mhlith y gorchfygedig yn y gystadleuaeth hono —buasai'n well gan Tal ddyoddef y gowt yn ei bedion am dair wythnos na gwneud cân i ganmol Dirwest, ac yr oedd yn hyn, fel mewn llawer o'i ymddygiadau eraill, yn gwbl ddiragrith. Ieuanc, mewn cydmariaeth, ydyw'r Gân yn marddas Cymru, er fod y Ddyri a'r Gerdd genym er's canrifoedd. Huw Morys a'i gyfaill Edward Morris, o'r Perthi Llwydion, oeddynt ein dyrifwyr a'n cerddorion cyntaf o nod; a dilynwyd hwy gan oleuadau gwanach, ac i raddau mwy neu lai, gan efelychwyr, hyd oni chododd Lewys Morys Môn, ac yn enwedig Thomas Edwards o'r Nant, ac wrth ei ysgil yntau, Robert Davies, Nantglyn. Ni ddylem ychwaith ar un cyfrif annghofio crybwyll John Jones o Lanygors, ffrwyth awenydd yr hwn sydd bron yn gwbl gyfyngedig i gerddi; a cherddi nad oes genym mo'u hail na'u cymhar am ddonioldeb a ffracthineb. Y mae cerddi Glanygors yn gerddi yn ol y darnodiad cyffredin o'r gair, canys cynwysa pob un dreigliad rhyw hanes, ac fe swniai yn dra chwithig i'r glust pe dywedid cân "Dic Sion Dafydd" neu cân y 'Sesiwn yn Nghymru," a'r un modd dweyd cerdd "Pictiwr fy mam," neu cerdd "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Ac eto y mae'r ddau rywiogaeth mor debyg i'w gilydd a dau efell, ac nid all ond y cyfarwydd a'r cynefin â hwynt wahaniaethu rhyngddynt. Pe dywedid mai yr un peth ydyw yr hyn a elwir yn gerdd yn y gegin ac yn gân yn y parlwr, neu yn gerdd yn y dafarn ac yn gân yn y capel, fe ddywedid ychydig ond nid yr holl wir. Dyma ddarnodiadau eraill: Cân ydyw cerdd wedi tori ei hewinedd; cân ydyw cerdd wedi dysgu manners; caneuon ydynt ddillad Sul, cerddi dillad gwaith. Cymered y ddarllenydd ei ddewis, neu gwnaed un gwell ei hun.

Tua thriugain mlynedd yn ol, dechreuodd y beirdd Cymreig, o dipyn i beth, adael y gerdd, yn ol fel y ceisiwyd deongli y gair, ar yr heol i faledwyr fel Richard Williams (Bardd y Gwagedd), Owen Meirion, a'u cyffelyb. Gyda'r rhai cyntaf ohonynt, cawn Dafydd Ddu Eryri yn lleddf—drydar " Fy anwyl Fam fy hunan"; ac yn union wrth ei sawdl y tri offeiriad trylen, nid amgen Ieuan Glan Geirionydd, Ioan Tegid a John Blackwell (Alun). Yr oedd mwy o fywyd a theimlad yn nghaneuon pob un o'r tri nag yn eiddo Dafydd Ddu; ac nid oes gymaint perygl ini ddechreu dylyfu gên a myned i gysgu tan eu gweinidogaeth. Yn wir ni chyfansoddodd yr un o'u holafiaid pencerddol ganeuon a gymerasant afael cryfach yn nghof a serch y genedl nag, er engraifft, Bugail Cwmdyli," Geirionydd; "Ymweliad y Bardd," Tegid; a "Chân Gwraig y Pysgotwr,' Blackwell; a rhai caneuon eraill o waith y tri.

Eu bai hwythau ydoedd bod yn rhy leddf a chwynfanus; meddent ddigon o deimlad ac o fywyd; ond teimlad drylliedig ydoedd a bywyd gofidus. Yr oedd yn anmhosibl i genedl yn cael ei swyno gan eu cyfaredd athrist hwy fod yn wyneb lawen a sionc ei hysbryd. Dyna "Gyflafan Morfa Rhuddlan," er engraifft, yn llawn o syniadau gwladgarol cryfion, ond y mae'r testyn yn seiliedig ar un o frwydrau trychinebus y Cymry yn lle bod ar un o'i rhai buddugoliaethus.

Pan oedd y trioedd hybarch a nodwyd wedi darfod claer lewyrchu a thanbeidio, ond heb fyned tros y gorwel, cododd bardd caneuol arall i ddifyru ei gydwladwyr â'r math yma o farddoniaeth, sef Talhaiarn. Mewn ystyr farddol, mab oedd ef i Fardd Nantglyn, ac felly ŵyr, yn yr un ystyr, i Twm o'r Nant. Yr oedd yn well ysgolhaig na'r un o'r ddau -yn Sais da, ac wedi darllen llawer ar waith y beirdd Seisnig yn ei ieuenctyd; ac ar ol tyfu i fynu, dysgodd y Ffrancaeg, ac ymgydnabyddodd â gwaith y beirdd caneuol Ffrengig, yn enwedig Beranger. Treuliodd y rhan hwyaf o'i oes rhwng Llundain a Ffrainc; a chafodd gyfle felly i weled a gwrando prif ganeuon y byd; yn fynych fantais i adnabod eu hawdwyr yn bersonol; a gofynid iddo ambell dro eu cynysgaeddu â geiriau cyfaddas i rhai o'u tônau. Yr oedd hefyd wrth natur yn llawn afiaeth a hoff o ddifyrwch yn enwedig difyrwch y delyn, ac yn gallu canu yn soniarus a medrus i swn y tannau. Meistrolodd ddeddfau mydr, hyseinedd a chynghanedd. pan yn hoglanc ieuanc; ac y mae ffrwyth yr efrydiadau hyny i'w weled yn amlwg yn nghoethder a melodedd ei holl waith. Efe, mae'n ddiau, oedd prif-fardd y Gân yn Nghymru rhwng y blynyddoedd 1850 ac 1860. Cyfansoddodd ugeiniau o ganeuon penigamp ar gais ac at wasanaeth prif gerddorion Cymreig ei oes, megys Pencerdd Gwalia, Brinley Richards, Owain Alaw, &c.

Ond cyn diwedd y cyfnod a nodwyd, clywid llais newydd yn dadseinio yn "Ngwlad y Gân," a'r llais hwnw ydoedd yr eiddo Ceiriog. Swynodd newydd-deb a melusder ei acenion glust a sylw ein cydwladwyr ar unwaith. Yr oedd ganddo ef fwy o dannau i'w delyn nag oedd gan Talhaiarn-gallai fyned yn uwch ac yn is-ei ddigrifwch yn ddigrifach a'i ddifrifoldeb yn fwy difrifol. Yr oedd ei awen yn fwy sionc, chwareus, ac ysgafndroed, ei ysbryd yn fwy nwyfus, er nad mor goeth a chymesurol a'r eiddo ei gyfaill a'i gydfardd. Deallai un gerddoriaeth yn well, a'i llall farddoniaeth. Gan Tal. yr oedd y glust deneuaf, a chan Ceiriog y llygad craffaf. Yr oedd Ceiriog yn deall ac yn adnabod ei genedl i drwch y blewyn; gwyddai am ei hanes boreuol, ei thrallodion oddiwrth elynion oddifewn ac oddiallan; yr oedd yn gydnabyddus iawn â'i hen ddefodau, ei harferion, ei halawon, ei chwedlau, ei thraddodiadau, ei llenyddiaeth hen a diweddar, ei hangenion gwladwriaethol a'i dymuniadau crefyddol. Gallai ddweyd ei feddwl yn eglur a nerthol; a dywedai ef, nid mewn ymadroddion bombastaidd a chwyddedig, ond coeth a gorphenedig; ac mewn iaith y gallai'r darllenydd cyffredin ei deall a'i mwynhau.

Os byddai arno eisiau cydmariaeth i addurno neu egluro ei feddwl, benthyciai hi o faes dihysbydd chwedl a rhamant ei genedl ei hun, ac nid mewn mursendod coeg ddysgedig, o diriogaethau clasuro1 Groeg neu Rufain, neu yn rhith grefyddol o hanesiaeth yr Ysgrythyr Lân. Os cân Gymreig, bydded felly o ran iaith, teimlad a chydmariaeth; os cân glasurol, defnyddier cydmariaethau clasurol; a'r un modd gydag un Ysgrythyrol. Bu beirdd Cymru am oesau yn droseddwyr anfad ar y ddeddf hon. Wedi i lencyn o fardd ddarllen gwaith Pope, neu gael tipyn o amser mewn coleg, Sol, a Luna, Mars, Mercury, &c., fyddai bellach ar flaen ei ysgrifbin, fel y gwelai ei ddarllenwyr safnrwth anfeidroledd ei ddysgeidiaeth; a chymaint oedd awydd y llall—y bardd-ddifein—i ddangos mor llwyr yr oedd wedi ei drwytho mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, fel nas gallai feddwl am debygoli undyn ond i un o enwogion y Beibl. Darganfu Ceiriog yn gynar briodoldeb y rheol hon mewn chwaeth, a gwnaeth hi yn ddeddf bendant iddo ei hun. Yr oedd ei destynau ef, ei fesurau, ei arddull, a'i gydmariaethau, y cwbl yn gwbl Gymreig. Yr oedd yn dra chydnabyddus a'r natur ddynol yn gyffredinol. Ond Cymro ydoedd, ac yn y dull bywiog Cymreig y meddyliai, mewn Cymraeg lân loyw y dywedai ei feddwl; ac aralleirio ychydig ar ei brophwydoliaeth ef ei hun am brif-fardd dyfodol Cenedl y Cymry, "Dyn oedd ef a gynrychiolai galon ei genedl, a berthynai i bob enwad, a anwylid gan bob dyn, a pha le bynag yr elai cai gymundeb rhydd."

Wrth sylwi ar naturioldeb y caneuon, a'u darlleniad mor llithrig ac esmwyth, gallai ambell un dybied fod y bardd yn eu cyfansoddi yn hollol ddidrafferth, ac heb gynllun o fath yn y byd o'i flaen; dim ond eistedd i lawr, cymeryd y pin yn ei law, a dyna'r awen yn eu sisial yn ei glust. Ond camgymeriad yw hyny; costiodd pob cân iddo lafur a phryder meddwl ag y byddai yn anhawdd i ddyn difeddwl eu hamgyffred. Fel pob celfyddydwr medrus a chywrain, tynai'r portread allan, a dilynai hwnw mor gaeth a manwl ag oedd modd. Yr oedd ganddo ddeddfau i'w farddas ei hun, a byddai tori un o'r cyfryw yn gwneud ei feddwl yn anesmwyth trwyddo. Rhaid oedd gofalu fod y meddyliau yn gweddu i'r testyn, a'r iaith yn gweddu i'r ddau. Gwyddom iddo fod yn myfyrio uwchben ambell un o'i ganeuon byrion am ddiwrnodiau, os nad wythnosau, gan drwsio drychfeddyliau, llyfnhau llinellau, caboli geiriau, a chelu pob ol celfyddyd gyda gofal a manylder.

Yn y rhagymadrodd i'r Bardd a'r Cerddor, ceir tua 36 tudal. o "Awgrymiadau ynghylch ysgrifenu Caneuon a Geiriau i Gerddoriaeth;" ac fel y caffo'r darllenydd rhyw gipolwg ar weithdy y bardd, ni a ddyfynwn ychydig frawddegau yma ac acw o'r ysgrif hono. Trinir y pwnc tan wahanol benau, a dyma'r cyntaf:—

GEIRIAU CYNTAF Y GAN.

DYLAI geiriau y frawddeg neu y llinell gyntaf, cyn eu gollwng i'r wasg neu i'r cerddor, gael eu hastudio a'u trwsio yn ofalus. Mewn caneuon newyddion, y geiriau cyntaf yn y penill cyntaf sydd yn rhoi enw ar y dôn y rhan amlaf.

YCHYDIG O GYNGHANEDD,

Os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth. Gellir gwneud hebddi yn fynych, ond gyda rhai o'r tonau rhaid ei chael. Ni wiw meddwl am fod yn annibynol arni. Hi yw prif nodwedd genedlaethol ein barddoniaeth. Camgymeriad dybryd fyddai uno yr hen alawon cenedlaethol â chaneuon hollol ddigynghanedd. Gadawer yr hen win melus yn yr hen gostrelau hyny sydd wedi ei gadw mor hir.

DIGWYDDIAD DAMWEINIOL.

DYNA'r hyn a'i gwna yn effeithiol i'r darllenydd neu'r gwrandawydd. Machluded y lleuad, ni ddychrynwn ddim. Yr oeddym yn disgwyl hyny. Ond syrthied seren fechan ar draws y nefoedd, a dyna ni yn neidio. Os bydd y darllenydd neu'r gwrandawydd yn disgwyl ffraethineb, bydd yn gwisgo tarian rhag saeth y difyrwch, ac yn plethu ei freichiau fel nas gellir ei oglais. Dyna'r achos penaf fod cyfansoddi caneuon difyr mor anhawdd mewn cydmariaeth i fathau eraill. Ond i gyfarfod â'r disgwyliad, y ffordd i'w chymeryd yw dweud pethau annisgwyliadwy, ac hollol groes iddo. Os bydd yr hyn a ddywedir y pryd hyny yn slic a naturiol, dyna ni yn cael drychfeddwl damweiniol.

CYDSEINIAID CERDDOROL.

TRWY sylwi ychydig ar fyrdonau neu gydganau poblogaidd, gwelir yn eglur fod cerddoriaeth yn hoffi rhai o'r cydseiniaid yn fwy na'r lleill. Y flafret fwyaf ydyw yr Mae y cerddor yn ei lawn hwyliau gyda'r la la la. Y cydseiniaid eraill ag sydd nesaf at ei wefus ydyw, d, dd, f, ff, m, n, r, s, a t. Pe bai rhywun yn gofyn paham nad yw b, c, ch, g, ng, 11, p ac th mor berorawl a'r cydsein. iaid eraill, elai yr awgrymiadau hyn braidd yn faith i roi esboniad priodol. Ond dyna ydyw "athroniaeth y llythyrenau.' Os nad

oes gofod yma i brofi y pwnc yn gadarnhaol, treiwn linell neu ddwy o resymeg negyddol. Yn lle canu la la la bwriwch fod y cerddor-. ion yn canu ba ba ba-ca ca ca-cha cha cha-ga ga ga-nga nga nga-lla lla lla-pa pa pa-neu, tha tha tha. Ni waeth hyna nag ychwaneg. Y mae mwy neu lai o fiwsig yn yr holl lythyrenau. Hefyd, y mae rhai o'r cydseiniaid mor fwyn a pheraidd ag ydyw y llafariaid. Os nad ŵyr dyn ei hun, y mae yn gysur meddwl fod ei glust yn gwybod.

YN NGHYLCH TESTYNAU.

Y MAE cipolwg ar y caneuon mwyaf poblogaidd a feddwn ni a chenedloedd eraill, yn profi uwchlaw pob anmheuaeth mai y testyn a dyn sylw fwyaf ydyw cariad. Nid oes nebo bymtheg oed i ganmlwydd, nad all fwynhau rhiangerdd o ddyfnder ei galon. Y mae pob mab a merch yn deall i berffeithrwydd bob sill a ddywedir ar y pwnc hwnw, ac yn cael goglais eu calonau gan y swyn. Yr un modd gyda y gŵr a'r wraig ganol oed.* * * Dyna yr hen ŵr a'r hen wraig hynaf yn y plwyf. Ni fethodd cân serch erioed ei ffordd i'w calonau. Maent yn teimlo yn blant yn eu holau, a chofion mebyd yn ail ddeffroi i ganu. Rhodres i gyd ydyw hwtian testynau carwrol allan o ramadegau barddoniaeth. Yn sicr, y mae mwy o burdeb yn y serchiadau hyn, ac y maent mor barhaus a dynoliaeth ei hun. Ofer ydyw athronydda wrth ben y ffaith, a cheisio cyfeirio chwaeth boblogaidd oddiar ei llwybr naturiol. Pan y mae gwely yr afon wedi ei wneud mor ddwfn, gwaeth na ffolineb fyddai disgwyl i'r llif gymeryd rhediad arall i foddhau ffugddoethineb a ffugathronyddiaeth.

PEIDIO CRAMIO GORMOD O DDRYCHFEDDYLIAU.

YR wyf yn cydnabod mai athrawiaeth ddigrif ydyw cynilo drychfeddyliau mewn cân leisiol. Os yw y rheol yn iawn, mae eithriadau Iluosog oddiwrthi. Mewn paentyddiaeth, y rheol gyffredin ydyw gadael gwagle neu background i'r darlun, ond mae miloedd o ddarluniau da, ac heb fawr o wagle arnynt. Ond ni wnaiff un gŵr celfydd, yn ein dyddiau ni, gramio ei ddarlun â gormodedd o wrthddrychau, ac ni wnaiff gŵr wrth gerdd mo hyny ychwaith os bydd yn deall ei fusnes yn drwyadl.

CADW'R PETHAU GORAU YN OLAF.

Os oes eisieu corws i'r gân, ysgrifener y corws yn gyntaf peth Pan y bydd hwnw wedi ei wneud yn darawiadol, yn hwyliog ac wrth fodd clust, pen, a chalon, bydd haner y gân wedi ei gwneud. Bydd y pwynt wedi ei osod o flaen y llygad, a gellir anelu ato fel at dargyd. * * 4 Os gwelwch gân fer, a'r llinellau goreu ynddi yn rhywle heblaw diwedd y penillion a diwedd y gerdd, gellwch benderfynu fod y bardd hwnw yn ifanc, neu fod arno eisieu cadach gwlyb am ei goryn yn blygion ar blygion fel tyrban Twrc. Os na bydd ganddo ddigon o synwyr i ddiweddu yn y lle iawn, ni ddylasai ddechreu o gwbl.

POBPETH YN HARDD A PHOBPETH YN SERCHUS.

Ni ddylai geiriau o erchylldod byth gael eu defnyddio i arddangos gwrthrychau naturiol os na bydd rhyw drychineb neu ysgelerdra ar gael ei ddysgrifio. Rhaid i lofrudd fod ar ein llwybr i wneud y nos yn erch-rhaid i long fyned yn ddrylliau ac i ddyfrllyd fedd agor ei safn i gynddeiriogi y môr mawreddus—ar ryw euogddyn ar ffo yr ysgyrnyga'r creigiau—rhyw garnlladron fydd yn clywed y gwynt yn crochruo, ac felly yn y blaen. I ddarllenwyr a chanwyr barddoniaeth, llawer iawn mwy pleserus ganddynt hwy fydd cael y nos yn serenog, y môr mawr yn murmuru, a'r gwynt, "that grand old harper smote his thunder-harp of pines," y creigiau yn "wyllt garegog, muriau dedwydd Cymru odidog, a'r rhaiadr yn pynciaw, a gwres eiliaw wrth ei ddwfr grisialog. Nid yn unig y greadigaeth sydd yn cael ei desgrifio yn erchyll heb achos, ond rhai creaduriaid hefyd. Y mae yn anmheus iawn a oes y fath beth a chreadur hyll yn bod. Druan o'r mul, y penbwl, y ddalluan, y llyffant a lluaws eraill o greaduriaid prydferth yr ynys hon. Mynwes angharedig, tymher ddrwg, a chalon waeth, sydd gan y bardd hwnw fydd yn priodoli erchylldra i wrthrychau naturiol, pan na bydd amgylchiadau neu ffigyrau iaith yn ei orfodi i wneud hyny. Hyd y gellir, creder fod pobpeth yn hardd, pobpeth yn anwyl, a phob dyn yn dda.

A thra yn son am ganeuon ac yn dyfynu o waith y bardd ei farn ef ei hun am danynt, dymunem wneud un dyfyniad pellach, o'r Cant o Ganeuon. Trem ar ei weithdy a gafwyd uchod; dyn yn dangos ei waith sydd i'w weled yn yr hyn a ganlyn:

GODDEFER imi grybwyll yn y fan yma, nad oes genyf fawr o bleser gydag ysgrifenu un math o farddoniaeth, heblaw caneuon bychain o'r fath hyn; ac wrth ymgymeryd â Chyfres fel honyma nid meddwl yr wyf fod ar fy nghyfeillion angen nac eisieu am danynt, ond teimlad mwy hunangar o lawer sydd wrth wraidd yr hen galon gnawd yma,—mi fy hun sydd eisieu y pleser o'u gwneud, ac os digwydd imi roi i eraill asgwrn i'w grafu ac afal i'w fwyta, mi fy hun fydd wedi cael brasder y wledd. Os oes yma rywbeth a ddaw a gwên ar y wyneb, a gynesa y galon, a wneiff gripian tros un, neu a ddwg ddeigryn o gydymdeimlad neu o alar i gongl llygad y darllenydd, fe allai fod, ac fe allai nad oes, ond y mae yr holl bethau hyny wedi bod yn yr ystafell hon, yn llawer mwy nag y gallaf ddisgwyl iddynt fod ar aelwydydd fy nghyfeillion a'm cydwladwyr. Fy mhlant fy hun ydyw'r Caniadau, a byddwn yn dâd annaturiol pe na bawn yn teimlo trostynt, ac yn ymhyfrydu gyda hwynt yn ddwysach a dedwyddach na'm cymydogion. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fynu yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i'r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer ohonynt gadw carwriaeth, ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff y bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gâd yn galw, fe'u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw'n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cânt garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a'u cenedl. Credaf mai y diweddar Mr. J. D. Jones o Ruthyn oedd y cyntaf i briodi caneuon Ceiriog gyda cherddoriaeth, ac Owain Alaw yn nesaf. Ni bu Cymro. erioed mwy llygadgraff i weled talent na Mr. Jones, na pharotach i'w nhoddi a'i chefnogi. Ysgolfeistr tra llwyddianus ydoedd; a thra yr hoffid ef yn fawr gan yr holl blant dan ei ofal, ei anwyliaid ef yn eu plith oeddynt, nid epil y cyfoethogion, ond bechgyn meddylgar ac yn dwyn blagur athrylith. Efe oedd rhagflaenydd yr adfywiad cerddorol a gymerodd le yn Nghymru tua 35ain mlynedd yn ol, efe a'i bwydai â cherddoriaeth seml yn ei fabandod, megys, “Beth sy'n hardd?" a "Bedd y Dyn Tlawd," ac â chanigau ac anthemau hynod o brydferth, swynol a hawdd eu dysgu; a'r amser hwnw, efe oedd y cerddor mwyaf poblogaidd o lawer yn y Dywysogaeth. Chwibienid ei donau prydferth ar y ffordd, ar y maes, ac ar hyd llechweddau'r mynyddoedd; cenid ei ranganau ar aelwydydd y dref a'r wlad; ac ni byddai yr un cyfarfod cystadleuol yn gyflawn heb rhyw dernyn o waith y cerddor o Ruthyn. Ac heblaw bod yn cerddor rhagorol, ac ystyried mai hunan-ddysgedig ydoedd, ac nad oedd yn offerynwr, anfynych y cyfarfyddid â dyn mwy gwybodus gyda llenyddiaeth yn gyffredinol—yr oedd yn awdwr caneuon tlysion ac yn llenor gwych ei hun, yn ddyn neillduol o synwyrol, caredig a dirodres; pawb a'i hadwaenai yn ei garu; a thrwy orlafur efe a gyrhaeddodd ei fedd yn gynar-cyn bod yn llawn 42ain oed. Ac er hyn oll, bron yr unig fan y gwelir ei enw yn bresenol ydyw ar wynebddalen ei gasgliad o Salm-donau, a elwir "Llyfr Stephens a Jones;" ac eithrio hyny, y mae wedi myned mor ddi-son-am-dano a rhedynen y mynydd. Mor fuan yr annghofiwn ein cymwynaswyr! ac am ei goffadwriaeth ef gellid troi y ddihareb o chwith, a dweyd "A fyno glod bid fyw."

Yr oedd Mr. Jones gyda'r cyntaf i weled teilyngdod barddoniaeth Ceiriog. Efe a gyfansoddodd fiwsig i'r gân, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," ac i'r "Fenyw fach a'r Beibl mawr;" a bu llawer byd o ganu arnynt am amser maith, a chollwyd llawer o ddagrau boddhaus wrth eu gwrando gan luaws sydd erbyn hyn wedi dilyn y ddau awdwr hoff i wlad y gân ddiddagrau.

Y cerddor nesaf i "wau y gerdd â'r gân" gyda chaneuon ein bardd oedd Owain Alaw. Yr oedd perthynas agosach rhwng y ddau nag a ffyna'n gyffredin rhwng bardd a cherddor, gan eu bod yn gyfeillion mynwesol am lawer o flynyddau. Dyn rhadlon, boneddigaidd, oedd Mr. Owen; a cherddor a chantor poblogaidd. Yr oedd ei glywed yn canu, gan ddilyn ei hun ar y berdoneg, y "Boneddwr mawr o'r Bala," "Y Trên," ac eraill o'i donau ar eiriau o waith Ceiriog, yn wledd gwerth myned bellder o ffordd er ei mwynhau; a chan ei fod ef tua'r pryd hwn yn casglu ei Gems of Welsh Melody, cafodd gyfleusdra i ddefnyddio caneuon ei fardd-gyfaill yn helaeth.

Yn mhen amser byr, ymledodd clod Ceiriog fel bardd caneuol, a gofynid am ei wasanaeth gan ein cerddorion Cymreig yn Llundain—Pencerdd Gwalia a Mr. Brinley Richards; a dygir ni gan y crybwylliad hwn i gyrhaedd yr ymdrafodaeth a fu yn nghylch geiriau y gân, "God bless the Prince of Wales." Ceisiwyd yspeilio y bardd Cymreig o bob anrhydedd perthynol i'r gân boblogaidd hono oddigerth fel cyfieithydd. Honai George Linley, awdwr y penillion diawen Seisnig, mai efe oedd tad y drychfeddwl, tra yr oedd y geiriau Cymreig yn cael eu canu ar y don ddau fis cyn iddo ef gyfansoddi ei benillion; a rhaid dweyd y caswir, bu ein cydwladwr enwog, awdwr y gerddoriaeth, yn pocedu ar y mwyaf o'r clod, os nad ychydig mwy na'i ran deg o'r enillion. Hyny ydyw, mae'n debyg, fod Mr. Richard, yn ei falchder diniwed, yn meddwl mai efe oedd biau bobpeth. Gan fod cymaint o siarad ar draws ac ar hyd wedi bod yn y wlad ar y pwnc hwn, ni a ddyfynwn, yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef, eiriad gwylaidd Ceiriog ei hun am y drafodaeth, y rhai a welir yn Oriau'r Haf, tud. 14:—

THE National Eisteddvod held in Carnarvon Castle, August 26th to 30th, 1862, was brought to a close by performing Owen Alaw's "Prince of Wales Cantata." I had written this Cantata at the request of the General Council of "Yr Eisteddfod," to commemorate the birth of the first Prince in that castle, referring to the coming of age of His Gracious Majesty Albert Edward, our present illustrious Prince. On the morning following the Eisteddvod Mr. Brinley Richards and myself happened to call at the same time at the offices of the Carnarvon and Denbigh Herald, to obtain that day's paper containing a full report of the National Festival and the evening concerts. He congratulated me for having written the words of the Cantata, which he stated had given him some satisfaction. I replied that my share of honor could be but small, and attributed the immense success of its performance, firstly to the composer of the music, secondly to the enthusiasm then existing generally throughout the United Kingdom on the advent of the coming of age of His Royal Highness the Prince of Wales. The ability of the choir and the historical associations of the place where the Cantata was performed were also referred to. This led to further conversation, during which one of us said that His Royal Highness was not only coming of age, but was reported in the papers to be married shortly to the Princess Alexandra of Denmark. The Principality, since its union with England, had no appropriate National Anthem, but the high tide of overwhelming enthusiasm was approaching, and we decided to have something to launch, for there was a tide for songs as well as fortunes. I then expressed a wish that Mr. Richards would kindly compose music to suitable words for a national song, which I would endeavour to furnish him. The words were forwarded in due course, and were shortly returned to me with the music. Llew Llwyfo and several friends of mine sang them in public concerts for two months before the English version was written. In fact the song was intended to be purely a Welsh one, and the idea of obtaining an English version was an after-thought which naturally suggested itself to the composer when he was about arranging with the publishers to buy the copyright.

Mr. Brinley Richards and myself had many English versions to select from, before we decided upon Mr. Geo. Linley's, and I believe Mr. Richards himself wrote the whole of the chorus part, commencing:

"Among our ancient mountains," &c.


A writer in the "South London Press" February, 1870, asserts "The amende" has to be made to Mr. Geo. Linley, the real author of the words, or rather the gentleman who “did them out of the Welsh," and hence the reason I have entered into these details showing that the song existed for some time purely as a Welsh one, and was becoming popular in the Principality before the English version was composed.

The third verse was written at the request of the Publishers, and has only appeared in their latest editions of the music.

Deg punt a gafodd Mr. Richard ar y cyntaf am ei hawl i'r gân; ond gwerthwyd cynifer o filoedd ohoni, a throdd yr anturiaeth y fath lwyddiant, fel yr anrhegwyd ef â'r swm o £100 gan y cyhoeddwyr, ac anrhegodd yntau Ceiriog â modrwy, a dyna'r oll a gafodd.

Gweithiau—Oriau'r Bore

Yn 1862, ddeunaw mis ar ol ymddangosiad Oriau'r Hwyr, cyhoeddwyd ail lyfr Ceiriog, sef Oriau'r Bore. Prynwyd yr hawl i'r argraffiad cyntaf o hwn hefyd gan Mr. Clarke, am y swm, os ydym yn cofio'n iawn, o £15, a £5 yn ysgil hyny am ail argraffiad o'r llyfr cyntaf. Cynwysa y llyfryn hwn luaws o ddarnau neillduol o dlysion, ac yn eu mysg gerdd i'r "Herwheliwr," yr hon a enillodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 1861. Gofynid yn y testyn am gerdd duchan; ond ei chaniatai greddf naturiol y Bardd iddo fod yn llawdrwm iawn ar blentyn anneddfol natur o fath yr Herwheliwr. Dichon ei fod yn cofio am y difrod a wnai'r pryfetach ar gnydau ei dad er's talm, a bod eu dinystrydd yn haeddu ei ganmol yn hytrach na'i duchanu. Yn wir, ni welsom ni yn ngwaith unrhyw fardd gerydd llymdost iawn ar y dosbarth hwn o "blant y nos." Diau fod rhyw reswm am hyn, ac mai gwaith hawdd fyddai ei esbonio yn y man a'r lle priodol. Ond er nad ydyw yr "Herwheliwr" yn gerdd duchan yn ystyr fanylaf y gair, y mae ynddi ddarnau cryfion o farddoniaeth, yn enwedig ei phenillion chwareus cyntaf, a'i haddysg yn y diwedd.

Ceryddodd Ceiriog lawer ar anwladgarwch rhai o'i gydgenedl, ond ni cheir ei gasineb at y giwaid ysgymun wedi ei grynhoi ac mor angherddol yn ei ddigofaint yn un man ag yn y pennillion i "Garnfradwyr ein Gwlad," y rhai a welir yn Oriau'r Bore. Rhydd y bardd ei eiriau miniog, llymion, yn ngenau hen foneddwr Cymreig, ar aelwyd mewn hen balas Cymreig, pan y mae rhew-wyntoedd y gauaf yn curo'n drwm ar wydr y ffenestr, a'r drychin wedi gyru luaws o gyfeillion am ddiddosrwydd ac ymgom tan gronglwyd yr ysgwier pybyr a gwladgar.

"Trioedd carnfradwyr!" medd ef yn syn,
"Bu mwy na thrioedd o'r dynion hyn,
Yn lladd ein dewrion, yn gwerthu'n gwlad;"
A'i wefus grychodd ar "Drioedd Brad."

"Canoedd, gyfeillion, ac nid tri
O'r cyfryw Gymry fu genym ni;
Pa beth yw hanes ein hanwyl wlad,
Ond brad a dichell, dichell a brad?"

Y mae darllen y draethodl hon yn gyru dyn er ei waethaf i yspryd F'ewyrth Robert, pan y codai ei ffon yn fygythiol wrth wrando ar hanes Legree. Sylwer ar y gair "grychodd " yn niwedd y penill cyntaf, a dych'myger gymaint o ddigllonedd cymysgedig â dirmyg sydd yn gynwysedig ynddo. Dyma un o'r geiriau adeiniog hyny a welir mor fynych yn ngwaith Ceiriog, a phob pencampwr yn y gelfyddyd o fathu ymadroddion barddonol, geiriau sydd yn awgrymu mwy nag ellir ddywedyd. Ac ebe ef yn mhellach, a'i lygad ar dân gan lidiowgrwydd:—

"Nid pendro'r 'menydd, na balchder chwaith,
Sy'n blino'r Cymro a wado'i iaith;
Egwyddor brad yn ffurfio'i hun
Mewn dull diweddar sydd yn y dyn.

"Bradwyr fy nghenedl, da i chwi
Nad ydyw barn yn eiddo i mi!"
Ac fel pe'n teimlo dagr fawr
Yn nghil ei ddwrn, eisteddai i lawr.

Y mae cryn wahaniaeth rhwng y twmbren a ddefnyddia'r bardd yn y geiriau uchod at falu esgyrn carnfradwyr ei wlad, a'r wialen fedw frigog sydd yn ei law i geryddu "Tom Bowdwr yr Herwheliwr," un o bechodau trymaf yr hwn oedd "rhoddi cig y goes i'r ci a'r asgwrn coes i'w fachgen."

Ond y dernyn mwyaf gorchestol sydd yn y llyfr hwn, ac yn marn lluaws o gyfeillion Ceiriog, campwaith fawr ei oes ydyw Alun Mabon. Gan fy mod i o'r un farn â'r lluaws a grybwyllwyd, bu llawer dadl gyndyn rhyngwyf â'r awdwr ar wahanol adegau parth rhagoriaethau cydmariaethol Myfanwy a'r gân hon. Daliai ef yn dyn tros I; ond ni phrawf hyny ddim ond nad oes fawr ymddiried i'w roddi yn marn awdwr am ei gyfansoddiadau ei hun. Oni chredai Milton fod Paradise Regained yn llawer gwell na Paradise Lost! I'm tyb i, y mae Alun Mabon yn fwy gwreiddiol, ac o ganlyniad yn perchen mwy o hunaniaeth (individuality) yr awdwr, sef y nodweddion hyny sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth eraill. Wedi'r cyfan, gwreiddioldeb meddyliol ydyw gogoniant bardd. Gallu ailraddol ydyw yr un efelychiadol neu ddynwaredol; nis gall yr eco byth ragori ar y llef a'i cynyrchodd, mwy na chyfieithiad ar y gwreiddiol. Caniatawn yn rhwydd fod darnau cystal yn Myfanwy ac yn A. Mabon, ond yno y mae'r awen yn fwy oriog ac anwadal—" un gynes ac oer ydyw hi,”—a'r meddyliau yn fwy cyffredin neu gyffredinol. Wrth ddarllen Myfanwy, gelwir arnom i roddi nòd o adnabyddiaeth flaenorol ar fwy nag un meddwl a ddaw ger ein bron; ond y mae newydd-deb yr olaf yn bur fel anadl y boreu. Sylwai un llenor mai "Pren afalau tan ei flodeu ydyw Myfanwy, a phren afalau tan ei flodeu a'i ffrwyth ydyw Alun Mabon." Y mae rhagoriaeth yr olaf ar y flaenaf yn hollol gyson â deddf cynydd a dadblygiad; canys rhaid i fywyd fyned rhagddo nes cyrhaedd ei lawn faint. Yr oedd Ceiriog yn tynu at ei 29ain oed pan ganai y fugeileg hon i ymdrechfa Aberdar, ac felly yn anterth ei ddawn awenyddol.

Yr wyf yn barod i gydnabod mai Myfanwy ydyw y Rhiangerdd oreu yn yr iaith, ac mai Owain Wyn ydyw y Fugeilgerdd oreu, ond credaf yn ddiysgog fod Alun Mabon yn gyfuniad hapus o'r fugeileg a'r rhiangerdd.

Cyfres o 26ain o ganeuon byrion ydyw Alun Mabon ar wahanol fesurau, ac am hyny y gelwir hi yn Delynegol. Cysylltir y naill gân wrth y llall gan dreigliad yr hanes. Yn y pum' cân gyntaf, desgrifir yr arwr, Alun y Bugail, ac y mae dwy ohonynt wedi eu dodi yn ngenau y Bugail ei hun. Yna dygir ger bron Menna Rhen, y rhian deg sydd wedi enill ei serch. Yn y garwriaeth a ddilyna, cymer yr awdwr y cyfleusdra i gydnabyddu darllenwyr yr oes hon â hen arferiad garwriaethol oedd yn mysg ei teidiau a'u neiniau, sef rhoddi canghen fedwen yn arwydd o serch a changhen gollen o anserch. Bu cryn lawer o ymgipris rhwng y Cyll. a'r Bedw yn ystod y serch-ymgyrch hon, ond y fedwen o'r diwedd a enillodd y dydd. Ymdrinia'r bardd â'r hanes mewn rhyw haner alegori a chyffyrddiadau tyner a llednais, megys yn y ddyri brydferth a ganlyn:

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon,

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gynta' rioed.

Mi dro'is yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y 'deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren:
Ac yno'r oedd y gwcw
Yn canu wrth fy mhen!


O diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd-
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.

Y mae'r delyneg yna fel y friallen syml yn rhagarwyddo dyfodiad gogoniant Mai. Wedi ychydig yn rhagor o ymboeni gydag anhawsderau "ciaru," chwedl y Meirionwys, sylweddolir gobeithion y Bugail ei fyfyrion y dydd a'i freuddwydion y nos -trwy iddo gael ganddi newid ei henw wrth yr allor "Nes aeth yn Menna Mabon, â modrwy ar ei bys."

Ond nid gwynfyd oll oedd ei fywyd ar ol mwy na chyn priodi; a daeth pwys a thrafferthion y byd i bwyso'n fuan ar ei ysgwyddau; gelwid am

Ychwaneg o fwyd i rai bach,
Ychwaneg o lafur a thrael,
Er hyny yn nghwmni fy Men.
Yr oedd imi gysur i'w gael.

Tra y daliodd Menna i'w gysuro, nid oedd mor ddrwg arno nad allasai fod yn waeth. Ond yr achlod i'r hen fyd brwnt yma! cododd ystorm o'r cŵr hwnw hefyd. Y fam-yn-nghyfraith oedd yn cael y bai o beri'r gynen yn yr achos hwn fel bob amser. Yr oedd Menna, fel yr ymddengys, yn bur hoff o roi tro i weled ei mham tros y bryn; ac edliwiodd Alun iddi unwaith pe na buasai ei theithiau yn y cyfeiriad hwnw lawn mor aml, y cawsent fwy o lonyddwch gan y crydd. Torodd hyn holl argaeau hyawdledd Menna Mabon, tywalltodd ddiluw o ymadroddion llosgawl am ben y truan gwr; a phan ballodd geiriau, dechreuodd wylo, a dweyd mai at ei thad yr elai hi, ac nad oedd undyn ychwaith allai ei rhwystro. "Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwrdd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd," nes yr aeth trefn yn annhrefn yn y tŷ ac allan, ac y daeth bywyd i Alun yn faich anhawdd ei ddwyn; yn ei eiriau ef ei hun:—

Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd i mi'n bwn,
A gyrais efo'r hogyn
I Menna'r llythyr hwn.

Y llythyr" hwnw ydyw'r gân boblogaidd, a adwaenir wrth yr enw "Bugail Aberdyfi," wedi ei dodi ar gerddoriaeth gan Gomer Powell, o Wrecsam. Dychwelodd yr hogyn gyda'r genadwri sydd yn profi fod Ceiriog yn "sciamer" celfyddgar. Gwrthodai Menna yn bendant gydsynio â'r cais, ac awgrymai fod iddi hi gael y bechgyn i'w magu ac i'r genethod aros lle yr oeddynt yn ngofal eu tad:— 'Roedd hi yn ymwahanu, ac felly'n canu'n iach, Ond-hoffai roddi cusan ar wefus Enid fach.

A thranoeth hi ddychwelodd i ddwyn y rhwyg i ben;
Ond O! fe dorodd dagrau o eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan fe'n hail gymododd ni.

Dyna ddarlun y buasai beirdd goreu yr oesau yn falch o'i arddel; y mae ei dlysni mor hawdd ei weled, ac o'i weled mor hawdd ei edmygu, fel y rhaid ini ofyn maddeuant y darllenydd am alw ei sylw ato. Yn fuan ar ol yr amgylchiad gofidus a nodwyd, daeth afiechyd i'r teulu gwledig i selio'r cymod a'i gadarnhau. Tarewir Alun gan glefyd peryglus; ac yn ei ing a'i gyfyngder arteithiol, y mae serch Menna a'i gofal diorphwys am dano yn werthfawr yn ei olwg, ac awgrymir mai ei dyfalwch cariadlawn hi a arbedodd ei fywyd:—

Fel y graig, safai'm gwraig anwyl yn eon,
Ac i'r nef gweddi gref yrodd o'i chalon;
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd yn yr awr ddua',
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

Erbyn y gân nesaf, y mae'r perygl drosodd; y claf yn hybu drachefn i fywyd, ac yn datgan y profiad nas gwyr undyn am ei felusder ond y sawl a'i mwynhaodd:—

Ar ol fy hir gystudd,
'Rwy'n cofio'r boreuddydd
Y m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:
Ac ar fy ngwyn dalcen
Disgynodd yr heulwen,
Ac awel o'r mynydd ac awel o'r môr.

Trwy wenlas ffurfafen
Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a'i gwynebais ac yfais y gwynt:
A'r adar a ddeuent
I'm hymyl a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt
Fy ngeneth ieuengaf
Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw:
A daeth fy nghi gwirion,
Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fynu a llyfodd fy llaw!

Yna newidia'r bardd gywair y dôn—disgyna o'r llon a'r chwareus i'r prudd-swynol, ac yn y dull sydyn ac annisgwyliadwy a nodir ganddo tan y penawd "Digwyddiad Damweiniol," t.d. 59. Cyll gydmares anwyl ei fywyd; a cherdd allwyn o'i eiddo, yn ei alar a'i anhunedd, ydyw'r delyneg nesaf. Y mae ymadroddion y gân hon, a'r fyfyrdraith ysplenydd i'r Fodrwy Briodas sydd yn ei dilyn, mor llawn o deimlad dwys—effeithiol, fel mai annichon bron credu iddynt gael eu hysgrifenu hefo inc cyffredin, ond mai â gwaed calon yr awdwr y dodwyd hwynt ar bapur:

Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau'r haul;
'Rol gadael gwely gwaeledd.

A llawer tywydd garw
Fu er yr amser hwnw,
Mae'm plant yn wragedd ac yn wŷr,
A Menna wedi marw!

Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ond ch'ododd Menna byth mo'i phen
'Rol ini gladdu'r baban.


'Rwy'n cofio'r Sul y Blodau
Yr aeth i wel'd eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai myn'd i'r bedd 'roedd hithau!

Penliniodd dan yr ywen,
A phlanodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri'r coed,
A brig o droed y g'lomen.

Y blodeu gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gwywo 'roedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a'i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw'r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
Yw'r unig drysor fedda'.


Y FODRWY BRIODASOL.

Mae Menna'n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw'r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd 'rwy'n cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae'm calon yn troi—
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
'Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy'r adduned yn oer ac yn fud!

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
'Roedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwên,
Y clychau yn canu, a'r byd fel yn ffol—
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di'n ol!
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi:
O! fodrwy'r adduned, nes gwywo'r llaw hon,
Fe'th gadwaf di'n loew, fe'th gadwaf di'n gron

A therfynir gyda dau benill adfyfyriol, sydd yn dweyd llawer ac yn awgrymu mwy—hen wirionedd mewn gwisg newydd yn gweddu yn dda iddo:—

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt:
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd
Ogylch traed y graig a'r bryn:
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.


Nid oes yn y fugeilgerdd benigamp hon ddim ffug-geiriau bombast, teimladau "gwneud," gorchestion anhygoel, ymddyddanion ffol, a siaradach rhodresgar. Yr holl gelfyddyd sydd yma ydyw'r gelfyddyd i arddangos natur yn naturiol. Yr ydym wrth ei ddarllen megys yn gweled ei golygfeydd ac yn adnabod y cymeriadau. Yr oedd bugeiliaid Virsil, a Shenstone yn rhyw fodau clasurol, oerion, i ni amddifad o gig a gwaed; yn byw yn y gor uchelderau pell; yn ddelwau teg, ac er wedi eu llunio'n gelfydd o'r marmor puraf, neu o bres, ie, neu o aur coeth os mynwch—delwau oeddynt er hyny. Ac nid oedd ein beirdd bugeiliol ninau, os yn byw yn agosach atom—Edward Richards o Ystradmeurig a Glasynys—nemawr gwell. Ond y mae amlinellau y darluniau sydd yn Alun Mabon wedi eu tynu mor naturiol, fel y gallwn, ac yr ydym, yn eu llanw gyda ein dychymyg ein hunain. Yr ydym fel yn byw tan-yr-un-tô â'r arwr; yr ydym yn adwaen ei lais a swn ei droed. Ni a'i gwelsom ef ganwaith yn ei hugan liain, a'r ci wrth ei sawdl, yn cerdded llechwedd y mynydd; clywsom Menna yn "dweyd y drefn" yn y ffrae fythgofiadwy hono; edrychasom arni yn myned tros y bryn at ei thad, yn ei gwisg Gymreig drwsiadus hen-ffasiwn o "bais a becwn," a'i het binaclog yn bygylu gan yr ystorm o ddigofaint oedd yn dygyfor islaw. Buom yn llygaid-dystion o'r "penlinio tan yr ywen," a gwyliasom y rhosynau cochion ar fedd y plant a gruddiau'r fam yn cydedwino. Nid creadigaethau rhamantus ydynt i ni, nid hyd yn nod hanes a ddarllenir mewn newyddiadur, ond rhan o gylch ein cydnabyddiaeth. Y mae tros 25ain mlynedd wedi myned heibio er pan ddarllenasom Alun Mabon gyntaf; ac o hyny hyd yr awrhon ni welsom mewn argraff ddim mor angerddol a goddeithiol o deimladwy â'r fugeilgerdd hon, yn enwedig tua'i ddiwedd, oddigerth efallai diwedd Amos Barton gan George Eliot, neu ddyddiau olaf F'ewyrth Rhobert gan Hiraethog.

Gweithiau—Cant o Ganeuon

Trydydd llyfr Ceiriog ydyw y Cant o Ganeuon, a'i ragymadrodd wedi ei ysgrifenu yn "9, Parker Street, Hyde Road, Manchester, Ionawr 17, 1863." Y mae ynddo fwy o amrywiaeth nag sydd yn y ddau lyfr arall, a mwy o ddarpariaeth i chwaeth y cerddor. Cynwysa 34 o ganeuon ar gyfer hen alawon Cymreig, heblaw caneuon eraill a darnau annghanadwy. Erbyn hyn, ceir lluaws o'r caneuon ar gof a llafar y wlad, eu hymadroddion ar flaen ei thafod ac yn eigion ei chalon, a llinellau ohonynt fel diarhebion. yn llywodraethu ei hymddygiadau. Rhwng cromfachau megys, bu "Llongau Madog," cân a argraffwyd gyntaf yn y llyfr hwn, yn achlysur cynghaws cyfreithiol pwysig yn Llundain rhwng dau gerddor er gwybod pa un ohonynt biau yr hawl ar ei chanu; ac fel y bu'r anffawd, collodd y blaid a gollodd, a'r unig enillwyr oedd gwyr y gyfraith. O flaen pob cân, rhydd y bardd ychydig o hanes yr alaw, ei tharddiad a'i threigliad; ac fel y dywed ef ei hun yn tudal. 55—"Ceisiais hyd eithaf fy nghallu addasu y geiriau i yspryd y dôn, a chadw mewn golwg fod i'r syniadau weddu i fab a merch fel eu gilydd, ac hefyd fod iddynt weddu i gôr a chydgan yn gystal ag i un llais, ond gadewais i'r rheolau hyn gael ychydig eithriadau Yn fwy na dim, ymdrechais anadlu syniadau pur, a goleddir gan hen ac ieuanc, y proffeswr a'r dibroffes, y dirwestwr a'r cymedrolwr." Cyflwynir adran o'r llyfr i roddi byr hanes am rai o'r hen gerddorion Cymreig a fuont yn offerynol i gadw rhag difancoll ein hen donau cenedlaethol, megys Bardd y Brenin, John Parry Rhiwabon, Bardd Alaw, Miss Williams o'r Ynys Las, Ieuan Ddu, &c.

Gadewch ini yn y fan yma droi ychydig oddiar ein llwybr. Tra y parheir i gyfoethogi llenyddiaeth Gymreig hefo caneuon tlysion tebyg i "Ddringo'r Wyddfa," "Yr Eneth Ddall," Wele goelcerth," "Drws y nefoedd," "Peidiwch byth a d'wedyd hyny," "Y fynwent yn y coed," &c., y rhai oll a welir yn y Cant o Ganeuon, nid oes berygl y bydd farw'r iaith Gymraeg. Ychydig mewn cydmariaeth o ieithoedd y byd, os oedd ganddynt lenyddiaeth, sydd wedi marw; a cholled i lenyddiaeth y byd oedd eu marwolaeth; a cholled fwy i'r cenedloedd oedd piau hwynt. Ni ddylem ychwaith annghofio mai y dosbarth mwyaf arwynebol, difeddwl a diwerth o genedl y Cymry sydd yn trydar ar hyd yr oesau mai anfantais a cholled ini ydyw y Gymraeg. Pe difodid hi yfory nesaf, pwy fyddai ar ei enill? Nid nyni ein hunain; canys y mae'r Cymry hyny a'i collasant hi eisioes tua'r Gororau, ar gyffiniau Lloegr, wedi myned mor baganaidd ac anwybodus fel y danfonir cenhadon ar eu holau gan eu brodyr Cymreig, fel pe byddent drigolion canolbarth Affrica. Pwlpud ac awen Cymru sydd wedi cadw'r iaith yn fyw er's canrifoedd, a phan y daw diffyg ar y ddau oleuad mawrion hyn, daw gwir berygl am ei bodolaeth hithau. Os oes rhywun yn anmheu hyn, gofyned i Gymro dysgedig, cwbl hyddysg yn y ddwy iaith, pa un ai pregeth Gymraeg neu Saesneg (y ddwy yn gyfartal o ran nerth a hyawdledd) fyddai goreu ganddo; neu pa un a afaela dynaf yn ei serchiadau, darn o waith Tennyson neu o gyfansoddiad John Ceiriog Hughes. Yn ffodus, nis gellir dadwreiddio iaith fel y diwreiddir pren. Dyledswydd pob Cymro ydyw chwanegu ei wybodaeth; ac y mae dysgu iaith arall yn chwanegiad pwysig at wybodaeth pob dyn; ond y mae'r hwn a ddysgo iaith arall ar y draul o esgeuluso ei iaith ei hun mor ddireswm a hurtyn arall a dorai yn wirfoddol ei aelod ymaith er mwyn cael coes bren.

Y mae yn Cant o Ganeuon un darn y bu aml i ddadl rhyngom â'r awdwr parth ei syniadau. Gelwir ef, "Caethwasiaeth, neu ymgom ar yr heol rhwng y ddau S. R. [S. R. o Lanbrynmair ac S. R. o Tennessee]." Ceir ynddo lawer o ddigrifwch ffraeth ac o wawdiaith lem. Ond nid dyn i'w oganu oedd Samuel Roberts, gan ei fod, i'n tyb ni, yn ddyn da od ond od o dda. Perthynai i'r dosbarth hwnw o ddynion sydd yn rhy ddifrifol a chydwybodol i wneud cyff cler ohonynt. Chwi ellwch annghytuno â hwynt a'u gwrthwynebu, eu condemnio, ie, eu merthyru; ond y mae saethau dychan rywfodd yn mennu arnynt. A chyhuddo yr hen S. R. o bleidio'r gaethfasnach! —dyn a dreuliodd ei holl oes yma a thu draw i'r Werydd yn dadleu hawliau y ddynoliaeth orthrymedig. Na, y mae digonedd o destynau gogan i'r beirdd yn mysg plant dynion heb iddynt anelu eu saethau at wroniaid penwyn, y rhaid hyd yn nod i'w gwrthwynebwyr gydnabod eu bod yn onest os nad ydynt yn gywir. Os digiodd S. R. yn aruthr wrth y bardd, ac os bu yn lluchio ato trwy y wasg am y gweddill o'i oes, nid yw hyny unrhyw esgusawd tros yr ymosodiad. Dywedir mai un o neillduolion gwroniaid ydyw eu bod yn dra anfaddeuol. Pa fodd bynag, buom yn gresynu ganwaith fod Ceiriog erioed wedi rhoddi achlysur digofaint i awdwr "Yamba, y Gaethes Ddu."

Y cyfansoddiad meithaf yn y llyfr hwn ydyw Cantawd Tywysog Cymru. Ysgrifenwyd hono ar gais pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1862, mewn pryd fel y cai'r cerddorion amser i gystadlu ar y miwsig, ac y byddai'r gantawd fuddugol wedi ei hargraffu ac yn barod i'w chanu yn yr Eisteddfod. Yr oedd y penodiad yn un cwbl annisgwyliadwy iddo, ac yn anrhydedd i graffder y pwyllgor yn ei ddewis at y gwaith. Nid gormodiaith ydyw dweyd mai dyma y libretto oreu yn y Gymraeg. Cystadleuodd saith ar y gerddoriaeth, ac Owain Alaw oedd y buddugol. Yr oedd ei datganiad yn un o hits yr Eisteddfod lwyddianus hono; a bu llawer o ganu arni ar ol hyny.

Ond am bertrwydd Celtaidd, nid ydym yn meddwl fod yn holl waith Ceiriog ddim mor hapus a "Penillion y Misoedd," y rhai sydd ar ddiwedd y Cant o Ganeuon. Cyfansoddwyd hwynt ar y cyntaf. i wasanaethu fel penawdiau i'r misoedd mewn Almanac a gyhoeddid yn 1860, '61, a '62. Y mae yn anhawdd dweyd pa un ai mewn dwysder neu ynte ffraethineb y rhagorant. Crynhoir synwyr ynddynt i gylch mor fychan a phe buasent wedi eu cyfansoddi yn y gynghanedd gan y cywreiniaf yn y gelfyddyd. Dyma rai ergydion ohonynt:—

Prophwydi'r tywydd:—

Mae brutwyr gwlaw yma a thraw,"
Mewn goleu'n cael eu cau:
A blwydd 'rol blwydd yn claddu
Ein holl brophwydi gau.

Gwyliwch Ebrill:—

Os gwyn fydd yr haul, os glas fydd y nen,
Os na bydd un cwmwl yn hongian uwchben-
O cofiwch mai Ebrill yw'n awr.
Os elwch o'r tŷ, rhybuddio 'ry'm ni
Fod cawod pur wleb, heb ofyn i neb,
Yn sicr o ddisgyn i lawr.

Nid i weision ffermwyr:—

Wrth olchi defaid, nid di les
Yw scrwb go dda i groen sydd nes.

Llafur a segurdod:—

Sut bynag hauir llafur ei egin welant ddydd,
Ond braenu byth wna'r segur a llygru'r man lle bydd.

Diwedd blwyddyn:—
Mae ia yn yr awel, ac ias yn y tarth,
Rhaid gadael y meinciau yn nghanol y barth.
Tyn ymaith dy 'sgidiau, os nad ydynt lân,
A thyred i'r aelwyd at ochr y tân:
Ac os yw'th 'sguboriau yn llawnion o ŷd,
Tydi yw'r dedwyddaf o bobol y byd.


Alegori brydferth ydyw'r penillion i 1861: y flwyddyn ar gyffelybiaeth pendefiges,—" gwlaw Ionawr ylch ei gwyneb, a'r gwynt a sigla'i chryd." Yn Chwefror, "Dilladwyd hi mewn gwrthban, o eira, cynes tew, a chap â bordor llydan, a startsiwyd gan y rhew." Yn Mawrth y mae yn cropian efo'r coed." Yn Ebrill, "gwisga'r llances, os na fydd ryw an hap flaguryn ar ei mynwes, a blodyn yn ei chap.”

Daw Mai â llon'd ei breichiau o'r ceinion tlysaf wnaed
Gan wlith, a gwlaw, ac haulwen, a thafl hwy wrth ei thraed.

Erbyn Gorphenaf:—

Yn awr mae'r eneth fechan òrweddai yn ei chryd,
Yn ddynes gyflawn oedran gynefin gyda'r byd.

Yn Awst, ar fil o faesydd ei bryd ar gasglu roes,
Ar gyfer dyddiau cystudd a llesgedd diwedd oes.

Yn Medi:—

Hi wisga'i phen â thwysen, o haidd a gwenith gwyn,
A bonet wellt bleth-felen yw'r ffasiwn y pryd hyn.
Yn Hydref ddail-angladdol i'w chader wellt yr ä,
Fel pob hen wreigan siriol, i feddwl am yr ha'.
Hi drefna'i thŷ yn Nhachwedd, a selia'r 'wyllys rôl,
Gan adael ei holl gyfoeth i'w chwaer sydd ar ei hol.

Ond mae'r hen flwyddyn wedi myn'd,
Yn oer a gwyw ei gwedd;
Hi gloddiodd fedd i lawer ffrynd—
Mae hithau yn y bedd.

Nodweddion y misoedd a geir drachefn yn y penillion i'r flwyddyn 1862, yn nghydag addysg neu ffraetheb yn codi'n naturiol oddiar hyny:—

Elusengarwch (Ionawr):—

Mis oer yw hwn i'r trwyn a'r traed,
A'r dwylaw sydd heb fenyg;
Os hoffech ei gynesu ef,
O, rhowch i'r tlawd galenig.

Awgrym lednais:

Afreidiol dweyd i'r ystlen deg,
A'r llanciau sydd yn caru,
Fod y pedwerydd dydd ar ddeg
Yn ddydd i'r adar baru.


Ergyd lawchwith (Ebrill):—

Y cyntaf eto o'r mis hwn
Yw diwrnod yr ynfydion;
Gan fod y Sais mor dlawd o wyl,
Fe roddwn hon i'r Saeson.

Llawchwith ergyd (Awst):—

Y mae amaethwyr Cymru wen
Yn edrych ar eu cnydau;
Os ânt i'r capel ar y Sul,
Mae'r galon efo'r ydau.

Digwyddiad damweiniol" (gwel tudal. 59):—

Anadla'r Hydref ar y byd,
A'r ddeilen werdd dry'n felen;
Ac O mae ambell gyfaill gwan
Yn cwympo efo'r ddeilen.

Tachwedd:—

Mae gwynt y gauaf yn rhoi bloedd,
I alw ei fyddinoedd,
A breichiau'r dderwen eto'n noeth
I ymladd â'r tymhestloedd.

O ddydd i ddydd, o nos i nos,
Daeth Rhagfyr ar ein gwarthaf;
A dolen ydyw ef sy'n dal
Dolenau'r flwyddyn nesaf.

Y llyfr olaf o'i waith ei hun yn unig a gyhoeddodd pan yn Manchester oedd Y Bardd a'r Cerddor; gyda Hen Ystraeon am danynt. Fel hanesydd a chofnodydd traddodiadau yr ymddengys yn y llyfryn hwn, ac nid fel bardd, oddigerth yn y dechreu, pan y cawn ganddo y rheolau at gyfansoddi caneuon y dyfynwyd ohonynt eisoes; ac yn y diwedd, lle y ceir tair cân mewn perthynas â Thywysog Cymru. Yr oedd yn mryd Ĉeiriog er's blynyddau wneud casgliad helaethach nag yr un oedd genym cyn hyny o enwau yr hen Alawon Cymreig. Er dwyn hyn oddiamgylch, ysgrifenodd luaws o lythyrau at hen delynorion, datganwyr, a phobl o'r fath, yn gofyn eu cymhorth yn y gwaith; a rhoes hysbysiad mewn pedwar newyddiadur, wedi ei gyfeirio at y Cerddorion, i'r un perwyl, Gwelir ffrwyth yr ymchwiliadaeth ddyfal hon yn y Bardd a'r Cerddor, lle y ceir enwau agos i ddeuddeg cant o hen alawon, ac wedi eu trefnu yn ol y wyddor. Costiodd y rhestr hirfaith hon lafur mawr iddo; a diau y bydd yn dra gwasanaethgar i haneswyr cerddorol yn ol llaw.

Dilynir y rhestr gan yr "Hen Ystraeon," y rhai sydd wedi eu hysgrifenu mewn arddull boblogaidd, ac yn ddyddorol iawn; a phe buasai Ceiriog wedi ymroi i gynull ac adrodd chwedlau a thraddodiadau Cymreig, gallasai wneud llyfr llawn mor ddifyr a dyddorol a'r Tales of the Irish Peasantry, gan Wm. Carlton. Prawf y dull deheuig yr adroddir yr ystraeon hyn, fod yr adroddwr bron cystal rhyddieithwr ag oedd o fardd. Y mae dwy farn yn mhlith ysgrifenwyr; un a ddywed y dylai'r iaith fyned ar ol y bobl, a'r llall y dylai'r bobl fyned ar ol yr iaith. Coleddai Ceiriog y syniad cyntaf; a chan mai'r bobl a biau'r iaith, dichon mai dyna'r syniad cywiraf. Pa fodd bynag, defnyddia luaws o estron—eiriau wedi eu sillebu yn Gymreig; ac ambell waith, pan fo gair Cymraeg llawn mor ddealladwy wrth law. Ar ol y cyfan, cyfrwng i egluro meddwl y naill ddyn i'r llall ydyw iaith, a synwyr yr ysgrifenydd neu y llefarydd sydd i benderfynu pa un a ddywed ef ei feddwl mewn un iaith neu rhwng dwy neu ragor. Gwell ganwaith yn yr oes brysur hon ydyw dweyd y meddwl yn syml ac yn eglur nag arfer geiriau heglog, haner marw, yn tywyllu'r ymadrodd, ac yn peri i ddyn adgofio am ei daith trwy dwnel hir, heb ddim yn tori ar ei nos ddu ond ambell wreichionen o'r peiriant.

Heblaw y pedwar llyfr a nodwyd,—Oriau'r Hwyr, Oriau'r Bore, Cant o Ganeuon, a'r Bardd a'r Cerddor—bu ei ben yn feddylgar a'i bin yn ddiwyd gyda lluaws o orchwylion eraill tra yr oedd yn Manchester. Cyfansoddodd eiriau i gantawd ar "Warchae Harlech," i'r cerddorion gystadlu arni yn Eisteddfod Abertawe, ac ar yr un telerau ag y darparodd gantawd "Tywysog Cymru" i Eisteddfod Caernarfon. Mr. Lawrance, o Ferthyr, a enillodd ar y gerddoriaeth. Ymddangosodd y gantawd hon, flynyddau ar ol hyny, yn Oriau'r Haf, gyda chyfieithiad Seisnig gan yr awdwr. Efallai, ar y cyfan, nad yw mor groyw loyw ei hawenyddiaeth a'i chwaer flaenorol; ond cynwysa hithau rai darnau effeithiol. Darlunir cyfyngder y dewrddyn Dafydd ab Einion, amddiffynydd pybyr y gaer, yn rymus annghyffredin; ac y mae ei gŵyn wrth weled ei wyr yn trengu o'i amgylch gan newyn a syched yn deilwng o Ceiriog ar ei uchelfanau. Gan fod y cyfieithiad o'r gân hono bron cystal a'r Gymraeg, ni a'i dyfynwn, fel y gwelo'r darllenydd pa fath Sais oedd y bardd Cymreig:—

How many days, how many nights
And months is this to last!
My men, with famished sunken cheeks,
Their eyes upon me cast;
Oh God! how many days and weeks,
And months is this to last!

Must I not see her ever more
Who for a soldier prays?
And shall I ask my men to make
Their tombs within this place!
Grim Famine follows in their wake-
Death looks them in the face!

Ye clouds that rise in God's blue skies,
With water from the main:
Will you pass o'er my gallant corps,
Who die of thirsting pain.
For me the raven brings no food,
Nor even a cloud has rain!

Yn Manchester hefyd y trigianai pan yn casglu ac yn dethol y llyfryn swllt, Gemau'r Adroddwr: o bob lliw, o bob llun, ac o bob lle. Mewn ystyr lenyddol, nid oedd y llyfr hwn yn gymaint llwyddiant a'i lyfrau eraill. Yn wir, yr oedd yn anhawdd i Ceiriog ddethol dim o waith eraill a fyddai mor dderbyniol gan y wlad a'i waith ef ei hun. A braidd na thybiem fod rhywbeth yn sibrwd hyny yn ei glust pan wrth y gwaith o ddethol, canys o'r 53ain darn sydd yn y llyfr, y mae deg ohonynt yn dwyn enw y detholydd. Oddiwrth weddill y cynwysiad gellir gweled pwy oeddynt ei awdwyr anwylaf; neu yn hytrach, pa feirdd oeddynt yn rhagori, yn ol ei farn ef, fel awdwyr adroddiadau. Safant fel hyn:—

Roger Edwards, 6 darn; Dewi Wyn, 5; Glanygors, 4; Caledfryn, 3; Hiraethog, 3; Dafydd Ionawr, 2; Blackwell, 2; Derfel, 2; a cheir darn bob un gan 13 o awduron eraill; ac yn mysg y dosbarth olaf nid yw Dafydd ab Gwilym, Goronwy Owen, Lewys Morys, Bardd y Nant, Daniel Ddu o Geredigion, Eben Fardd, Nicander, ac amryw eraill allem enwi. Fe welir fod cylch y detholydd yn llawer rhy gyfyng; ac na ddeil y llyfr i'w gydmaru â detholion adroddiadol J. D. Jones a Rhydderch o Fon. Ond diau fod ganddo ef rhyw reswm neu ffansi tros yr hyn a wnaeth.

Yn fuan ar ol cychwyn Baner Cymru, yn 1857, penodwyd Ceiriog yn "Ohebydd Manchester " i'r newyddiadur hwnw; a llanwodd y swydd, o wythnos i wythnos, am flynyddau lawer. Os oedd rhyw fai ar ei lythyrau, rhy dda oeddynt i lenyddiaeth ddarfodedig fel papur newydd. Ac wedi rhoddi i fynu yr ohebiaeth leol, parhaodd i ysgrifenu i'r Faner ar wahanol bynciau hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Mewn llythyr a dderbyniais oddiwrtho yn Chwefror diweddaf, dywed, "This general dyspeptic debility has been hanging about me for two years; and there is no doubt, that with business and the Baner work (weekly) for 27 years, I have over-worked my nervous system." A thra yn son am y Faner, dylem grybwyll iddo ysgrifenu rhai erthyglau hefyd i'r Gwyddoniadur, a'i waith ef ydyw y llith gampus ar "Dafydd ab Gwilym," sydd yn y llyfr gwerthfawr hwnw.

Wedi treulio cymaint o'n gofod i son am fywyd y bardd trylen yn Manchester, ni ddylem annghofio dweyd mai yno y cyflawnodd un o weithredoedd callaf ei fywyd, sef ymuno mewn glân briodas gydag un o rianod teg ei wlad ei hun—Miss Roberts, merch Mr. Thomas Roberts, fferyllydd, o'r Lodge, treflan ar odreu Dyffryn Ceiriog, a cherllaw Castell y Waun. Cymerodd y briodas le Chwefror 22, 1861, wrth allor Eglwys St. Martin, Amwythig; ac yr oedd ei gyfaill, Owain Alaw, wedi myned yr holl ffordd o Gaerlleon i gymeryd rhan flaenllaw yn y seremoni. Trodd yr undeb allan yn un tra hapus. Seliwyd y fendith â phedwar o blant hawddgar, dau fab a dwy ferch. Clywsom ef yn tystio yn fynych na fendithiwyd dyn erioed gan ei wraig a'i blant â serch cryfach. Parhaodd y serch hwnw i dynhau tra parhaodd yr undeb; a phan dorwyd ef gan angau ar derfyn 26ain mlynedd, yr oedd y rhwygiad bron yn annyoddefol. Yr oedd eistedd wrth wely'r claf ddydd a nos am fisoedd, lliniaru ei boenau arteithiol, er yn ymwybodol fod bywyd o awr i awr yn graddol gilio, yn nefoedd mewn cydmariaeth i'r tawelwch gorlethol hwnw pan aeth y frwydr drosodd—pan safodd calon y priod serchus ac y tywyllodd llygaid y tad tirion.

Dichon mai dyma'r fan oreu i roddi rhyw amcan ddarluniad ohono fel dyn i'r darllenydd na chafodd erioed y pleser o edrych arno ond mewn dychymyg, na'r fraint o'i adnabod ond trwy ei waith. Ni welsom ni erioed ddarlun gwir foddhaol ohono; y photograph goreu o ddigon, i'n bryd ni, ydyw yr un o'r hwn y cymeryd yr arlun sydd ar ddechreu y llyfr hwn; ond tynwyd hwnw er's llawer blwyddyn yn ol, a'i ragoriaeth ar y rhai a gymerwyd yn ddiweddarach ydoedd ein hunig reswm tros ei ddewis. Yn y lleill a welsom, y mae rhyw osgo ac agwedd annaturiol arno, yswatia i'w blyf, y mae fel cefnder neu gyfyrder iddo ei hun, ac yn debygach i'r Ellmyn llydanrwth nag i'r Cymro cyfluniaidd. Er cystal portreadydd ydyw'r haul, metha'n fynych gael gafael ar neillduolion gwynebpryd rhai dynion. Yn yr arlun hwn a ddewisasom, daliwyd y bardd mewn mynyd o naturioldeb diofal a myfyrgar; a chredwn y dywed pawb a'i hadwaenent bumtheg mlynedd yn ol, ei fod yr un fath ag ef yn union y pryd hyny. Canodd Ceiriog benillion tlysion ar Godiad yr Haul, a rhoes ddarluniad ardderchog o'r weledigaeth a gafodd arno o Ben y Wyddfa, ac ni fuasai fawr iddo yntau am y tro droi'r gymwynas yn ol.

Yr oedd ein cyfaill yn ddyn lluniaidd cymesurol, tua phum' troedfedd a deng modfedd o daldra, ac yn ei flynyddau olaf braidd yn dewychus ac yn gwargrymu ychydig. Anfynych y cyfarfyddech â gwr o ymddangosiad mwy rhadlon, boddlon, serchus a boneddigaidd. Gwisgai ei wynebpryd gwelw fynychaf fath o brudd-der tawel, tyner; ond pan y cai ei ddifyru neu ei foddhau, deuai gwên hyfryd tros y cyfan. Yr oedd "Gwên Ceiriog" yn ddiarhebol o ddymunol yn mysg ei holl gyfeillion, a'i chwerthiniad iach ac uchel yn diaspedain calon lân. O tan dalcen uchel, ac aeliau braidd yn drymion, pefriai dau lygad dwysfyfyriol, mwynion; ac yr oedd yn hawdd i'r sylwedydd weled trwyddynt yr athrylith oedd megys am y gwydr âg ef.

Pe dywedem yr oll a wyddom am dano fel dyn teg, a chyfiawn, a chymwynasgar, yn ei fasnach, ofnem y tybiai rhai dyeithr iddo ef a ninau ein bod yn gwenieithio, ac yn gwyngalchu ei goffadwriaeth. Ond y gwir yw ni welsom erioed ddyn tecach ac uniawnach yn mhob trafodaeth; ac yr oedd yr un mor ddihoced yn ei gyfeillgarwch. Yr adyn ffieiddiaf o bawb yn ei olwg oedd y rhagrithiwr ffals—y bradwr dauwynebog:—

Yr hwn sy'n d'od yn fwyaf rhwydd,
I ganu'ch clod tra yn eich gwydd,
Yw'r un parotaf sydd drachefn
I blanu'r ddagr yn eich cefn.

Yr oedd llon'd ei galon o gydymdeimlad â'r tlawd, yr adfydus a'r gorthymedig; a llon'd ei yspryd o barch at yr arch, y drugareddfa, a'r Shecinah. Meddai deimladau tyner a meddwl defosiynol. Yr oedd yn ddyngarwr dilys, yn enwedig yn Gymrogarwr; yn caru daioni, a'r moddion a ddefnyddiodd ef i ddangos ei gariad ato ydoedd ei ganmol ar gân. Y mae'r hwn all ein difyru heb ein llygru yn werth cant o'r gau athrawon cibddall hyny na fedrant wahaniaethu rhwng difyrwch a serthedd. O'r holl filoedd llinellau a adawodd efe yn gymunrodd anmhrisiadwy i'w genedl, nid oes yn eu mysg yr un syniad atheistaidd, annuwiol, brwnt, na llygredig; tra y mae ei holl waith yn gyforiog o feddyliau tlysion, swynol, addysgiadol, ie ac adeiladol yn ystyr onestaf y gair. Ac eto, fel y dywed Trebor Mai am un arall:

"O! fel bu enllib filain—yn dadwrdd
Ei wendidau bychain;
Enllibiaeth, all hi ubain
Newydd i'r Ior faddeu 'rhai'n!"

Ac felly, fel llawer o'i flaen, aeth yntau i'r Cyfrif Mawr yn sain canmoliaeth y miloedd a chrawcian yr haner dwsin; gan deimlo'n ddigon sicr na thycia y naill mwy na'r llall i wyro y Cyfiawnder a geir yno.

Yn 1865, wedi trigiant o agos i ugain mlynedd yn "mhrifddinas y gwlaw a'r cotwm," rhoes ei fryd ar ddychwelyd i fyw i Gymru; gyrodd gais am y swydd o orsaf-feistr at gwmni y Cambrian Railway; a phenodwyd ef i gymeryd gofal gorsaf Llanidloes. Yr oedd hon yn swydd bwysig a thrafferthus, gan fod cwmni y Cambrian a'r Mid-Wales yn cyfarfod yn ngorsaf Llanidloes; ac felly yr oedd ganddo ddau feistr i'w gwasanaethu. Ac os mwy o lonyddwch a geisiai, trwy y symudiad, i ymhwedd â'r awen, y mae lle i ofni iddo "neidio o'r badell ffrio i'r tân;" ond dywed ei gyfaill Idris Fychan, yn ei erthygl ar y bardd a ymddangosodd yn y Darlunydd, mai "ffit o hiraeth am Gymru, ac am awyr iach y mynyddoedd i fagu ei blant," a barodd iddo adael Manchester. Pa fodd bynag, ni bu nemawr hwyl ar ei delyn awenyddol am fisoedd wedi'r symudiad. Gadawodd i'w alluoedd barddonol orwedd am yspaid yn fraenar ha'; tynodd bedolau ei Begasus, a throes hi i'r borfa; dychwelodd yr awen fel boneddiges i Gymru i fyw am dymhor ar ei henillion yn Lloegr. Ofnai ei gyfeillion iddo droi pen ar ei fwdwl, gan dybied oddiwrth y cnwd toreithiog a gawsai eisoes ar faes ei athrylith fod y cynhauaf weithian drosodd. Dywedai ambell un, heb fod yn gyfaill neillduol iddo, fod ei lyfrau yn myned yn wanach, wanach, o Oriau'r Hwyr hyd Gydymaith y Cerddor; a'i fod "wedi rhacio'r tân i gyd o'r grât." Ond pe gwybuasai y cyfryw, trwy brofiad, am drybini a helbulon meistr gorsaf lle cyferfydd buddianau dau gwmni; ac am yr ymenydd yn llosgi beunydd beunos gan bryder mân ofalon dirif, ac awyddfryd dyn cydwybodol i gyflawni ei ddyledswyddau yn drwyadl, yr ydym yn sicr y buasai eu beirniadaeth yn dynerach.

Yn ystod y cyfnod difarddoniaeth a ddaeth trosto ar ol ymsefydlu yn ei gartref newydd, cymerodd cyfnewidiad amlwg le yn ei chwaeth at y mesurau caethion. Cyn hyn, defnyddiai'r gynghanedd yn unig i wneud ambell i englyn, a "cloi synwyr mewn clysineb mewn llinellau yma ac acw yn ei ganeuon. Ond pan ddadebrodd ei awen o'i chyntun, un o'r profion cyntaf a roddes o hyny ydoedd canu cywydd i'w chartref newydd—Llanidloes. Estyna y cywydd hwnw i dros chwech ugain o linellau; ac y mae ynddo luaws o ddrychfeddyliau tlysion wedi eu gwisgo mewn iaith seml a chynghanedd ystwyth. Teimla'r awen yn sionc a nwyfus, fel un wedi ei rhyddhau o gaethiwed:

Diolch 'rwyf wedi dwad
I iawn le yn yr hen wlad;
O fy mro hardd, am ryw hyd,
Wele fi'n ol, f'anwylyd!
Mae byw gerdd yn mhob gwig;
O! goedydd bendigedig,
Yn ein hoes byw'n hoyw'n hir
Allan o'r Wlad ni ellir.

Ai dichonadwy rhagori ar y darn canlynol fel desgrifiad o orsaf-feistr awenyddol yn mwynhau yspeidyn o dangnefedd yn nghanol ei fywyd helbulus: Hyfryd yw min yr Hafren

I roi tro 'rol gyru'r trên
A dilyn hyd y dolydd,
Efo'n nhrwyn a'r afon rydd—
Rhoi llafn o bren ar y llif,
Ei gynllwyn i'r gwyn genllif;
A'i weled yn d'od eilwaith
Ar y dwfr i nofio'r daith-
Fel bardd yn ngafael y byd,
A buan donau bywyd.

Sonia am dano ei hunan yn ymneillduo i "gŵr y coed i greu cân," a'r adar yn ymrithio ger ei fron gan dynu oddiarno rhyw gyfarchiad neu ddarnodiad pert, cyn dlysed a dim a ymddangosodd yn yr iaith er pan ganodd Emrys ei awdl ar y "Greadigaeth":—

O dirion fron, daw'r Fronfraith
O gyll frig, ac Asgell Fraith ...

Un fedr wrando ac edrych
Yn lled graff yw Llwyd y Gwrych...

Ac o'r drain gwasgaru dros
Y llwyn wna nodau'r Llinos
Aderyn dau nodyn ydyw,
Greulon ei chalon i'w chyw;
Ond er ei thôn undonog,
Y wlad gâr glywed y Gog...

Onid hardd gwel'd Deryn Tô!
Rhyw grwtyn byr o gritig
Yw ef yn nghyngerdd y wig-
Un gwell am ganfod gwallau
Yn lleill, nag am eu gwellhau.


Ac un braf oedd y bardd i geryddu "Tom Bowdwr, yr Herwheliwr," yn y gân hono a nodwyd eisoes, pan y dywed ei hun yn mhellach yn mlaen yn y cywydd nwyfus hwn, mai eitha' peth

Yw cario gwn is craig hedd,
A lluchio tân i'r llechwedd;
Gweini angau i'r gwningod,
A'u gollwng yn llogell 'y nghôd.

Wedi cael blas ar y gynghanedd fel hyn, yn fuan ar ol ei sefydliad yn Llanidloes, daeth i'w law restr testynau Eisteddfod Genedlaethol Caerlleon, 1866, a thestyn y gadair ydoedd y “Môr." Penderfynodd Ceiriog ymdrechu am y gamp, a chyfansoddodd awdl o dros fil o linellau. Enillodd awdl waelach y gadair ddegau o weithiau; a phan ystyriom mai dyma ei ymgais gyntaf i gyfansoddi awdl, y mae'r ymdrech yn ymylu ar fod yn wyrth o allu yr awdwr i gyfaddasu ei feddwl at wahanol ddybenion. A phe buasai'r testyn y tro hwn yn ysgafnach, neu pe cynygiasai y bardd drachefn, nid oes anmheuaeth nad enillasai; ond yn anffodus iddo ef y tro hwn, yn ei ymgais gyntaf, gyda thestyn annghydnaws, a hen fardd grymus a phrofiadol fel Ap Fychan ar y maes yn ei erbyn, bu raid iddo gymeryd rhan ceffyl Plas y Maen, y sonia ei hun am dano,

Wrth redeg am y cwpan yn gyru'r llall o'i flaen.

Yn marn Gwalchmai, un o'r beirniaid, efe oedd yr ail oreu. Cyhoeddodd ei awdl erbyn dydd yr Eisteddfod, a gwerthwyd canoedd lawer ohoni yn y fan a'r lle; gyda'r rhagymadrodd canlynol:

NODYN I'M CYDFEIRDD.—Gan nas gallaf ddysgwyl enill, yr wyf yn cyhoeddi fy Awdl Wyryfol i'ch difyru ddydd yr Eisteddfod; ond pe b'ai yr anffawd nad wyf yn ddysgwyl yn dygwydd, gallaf brynu'r awdurfraint, a'i gwneud drachefn yn eiddo y Cyhoeddwr. Eisteddfod ddilwch ini.

Llanidloes, Awst 6ed, 1866.

J. C. H.

Ceir ynddi ddarnau na fuasai raid i'r prif-feirdd penaf gywilydd o'u harddel, megys y desgrifiad o'r "Hêd-bysgodyn," a thrigolion eraill y byd gwlybyrog; angladd yr un "a hunodd ar y waneg," a difrifoldeb yr olygfa yn "y fan y suddodd i fynwes heddwch;" a lluaws eraill. Cyffredinedd teyrnasiad Môr yn more amser a ddarlunir:

'N eglur iawn gwelir ol
Morfanau'n mru y faenol;
A gwelir ef, a'i glai rhydd,
A'i rô mân ar y mynydd.

A wado deued wed'yn—i chwilio
Uchelion y Berwyn,
Gwelir ei waith yn glaer wyn
Yn y creigiau mewn cregyn.

Wedi traethu yn hyawdl am fawredd a nerth yr eigion, terfynir yr awdl gyda'r drychfeddwl canlynol:—

Ond na falchia ychwaith,
O, Fôr erfawr a hirfaith!
Oherwydd o'th gymharu
A'r siriol haul, neu'r sêr lu,

Dyferyn o law Duw fwriwyd,—gronyn
Gryna ac a ysgwyd;
Toddlyn tywodyn ydwyd,
Dafn yw d'oll, er dyfned wyd.

Anhawdd yn wir rhoddi syniad mwy ofnadwy am anfeidroldeb nag sydd yn yr englyn hwn; ac y mae'r drychfeddwl wedi ei weithio allan mor weddus a pherffaith, fel na theimlir, wrth ei ddarllen, fod ynddo ddim yn eisiau. Dyferyn, gronyn, toddlyn tywodyn, dafn, ydyw o'i gymharu â'r Duw Hollalluog a'i bwriodd o'i law.

Y mae y ddau lyfr a gyhoeddodd y Bardd wedi ei symudiad i Gymru, er yn delweddu eu hawdwr, eto yn gwahaniaethu mewn amryw foddau oddiwrth eu rhagflaenoriaid. Fel cynyrch canghenau impiedig, nid yr un a'r unrhyw ydynt o ran blas. Y mae'r naill a'r llall yn beraidd odiaeth, ond nid o'r un pereidd-dra. Plant ydynt megys o ail briodas y Bardd a'r Awen.

Gweithiau—Oriau Eraill

Cynwysa yr Oriau Eraill yn enwedig, yr hwn a gyhoeddwyd rywbryd tua'r flwyddyn 1868, amryw emau a'u llewyrch yn ddisgleiriach bron na dim a geir yn ei lyfrau cynarach; ond, fel y dywedwyd, ni pherthynant i'r un dosbarth o dlysau. Y mae ardeb Ceiriog ar y naill a'r llall. Ond credwn fod un gwahaniaeth amlwg rhyngddynt, sef mwy o anian yn y llyfrau a ganwyd yn Manchester, a mwy o'r natur ddynol yn y rhai a gyfansoddwyd yn Nghymru. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys hyn yn annghysondeb, gan y gallesid meddwl mai yn y dref fawr, haner miliwn ei thrigolion, y buasid yn efrydu oreu ffyrdd dyrys y ddynoliaeth; ac mai glanau yr Hafren gwmpasog, dan eu gwahanol deleidion a thymhorau, a fuasai'r lle i dynu portreadau o anian. Ond yn y lle cyntaf, y mae myfyrdod awenyddol yn byw mwy ar adgofion nag ar yr hyn a wel ac a glyw o ddydd i ddydd; ac yn ail, y mae pob bardd, fel yr heneiddio, yn llyncu athrawiaeth y llinell, "The proper study of mankind is man." Longfellow, er engraifft, rhwng Ceiriog a'r hwn yr oedd llawer o debygolrwydd y mae cynyrchion ei flynyddau olaf ef yn llyfnach, yn ddyfnach, yn fwy dynol ac yn llai anianol.

Dechreua yr Oriau Eraill gydag arwrgerdd, fer mewn cydmariaeth, tua 500 llinell—" Syr Rhys ab Tomos," un o arwyr dewraf ein gwlad, yr hon oedd y fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1867. Y mae hon yn gerdd ardderchog, ac yn llawn tân gwladgarwch a thincian arfau buddugoliaethus y Cymry. Ynddi hi yr ymddengys y gân a elwir "Cadlef Morganwg"—y fwyaf gyffrous, fe ddichon, sydd yn yr iaith:

Clywch, clywch, hen gadlef Morganwg,
Wele Rhys a'i feirch yn y golwg,
I'w atal yn mlaen
'Dyw mynydd ond maen

Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,
Yn galw ar fynydd a dôl.
Wel, sefwch yn hyf gyda'ch Dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megys creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd
I godi'r hen wlad yn ei hol!

Mae breichiau myrdd yn caledu,
A ffroenau y meirch yn lledu;
A berwi mae gwaed
Gwyr meirch a gwyr traed,
I godi'r hen wlad yn ei hol.
Fry, fry, cyhwfan mae'r faner,
Trywanu mae'r cledd at ei haner;
Yn uwch, eto'n uwch gyda'r dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd,
I godi'r hen wlad yn ei hol!


Gwarchod ni! pe buasai dau neu dri o filwyr yn myned trwy Gymru i "listio" i'r fyddin, ac yn canu y gân hon ar y daith, hudasent haner ein gwyr ieuainc yn "sowldiwrs." Ac eto, ychydig dudalenau yn mhellach yn mlaen yn yr un llyfr, cawn y gân ganlynol, na chyfansoddodd hyd yn nod G. R. Sims, yn ei Dagonet neu ei Babylon Ballads ddim. byd tlysach a llawnach o deimlad:—

LISI FACH

EISTEDDAI gwraig benisel, mewn pentref bach di nôd,
Mewn cadair wrth y gornel lle byddai crŷd yn bod;
Tra'r plant o'i chylch yn chwareu, a gwenu arni'n llon,
Fe ysgrifenai hithau y gân hiraethus hon:—

Mae genyf bedwar bachgen, chwareugar, hoenus, iach,
A bu'm yn berchen geneth, fy anwyl Lizzie fach;
Fe'i ganwyd nos Nadolig, dydd ymgnawdoliad Duw,
Da cofiaf lais y meddyg yn d'wedyd—" geneth yw!

Hi sugnodd ac hi dyfodd nes daeth yn fisoedd oed,
Ac ni bu baban iachach na chryfach ar ei throed:
Hi wenai ar y goleu a chydiai yn fy mawd,
A hi oedd canwyll llygad ei thad a'i phedwar brawd.

Ychydig iawn o selni ga'dd Lizzie yn y byd,
Ond chware ar yr aelwyd a gwenu 'roedd o hyd;
Fe gododd un boreugwaith, ac ar ei gwyneb llon
'Roedd manwlith oer yn dyfod, ac ni chymerai'r fron.


"Mae Lizzie'n sâl," medd Arthur, a chriai iddo ei hun,
Teimladgar iawn yw Arthur, efe yw'r ie'ngaf un;
Daeth dau o blant y pentref i'w nôl i chware iâl,
Ond ni wnai Arthur chware a Lizzie fach yn sâl!

Fe ddaeth ei dad i'r aelwyd a safodd wrth y cryd:-
"Yw Lizzie fach yn gwla? ni fynwn ni mo'r byd
Am danat ti fy nghalon; wel edrych ar dy dad,
Yw'r eneth fach yn gwla yr oreu yn y wlad?"

Ar ol goleuo'r lampau a chau holl ddrysau'r lle,
O'r diwedd daeth y meddyg, a meddyg da oedd e';
Efe oedd wedi derbyn fy ngeneth anwyl wen,
Fe deimlodd ei harleisiau a phlygodd wrth ei phen.

Fe dd'wedai, pan yn canfod y chwys oedd ar ei hael,
"Nac ewch i'ch gwely heno, mae'r eneth fach yn wael;
Rhowch iddi bob llonyddwch, fe ddaw hi eto'n iach;
Ond myn'd yn waelach, waelach, a ddarfu'r eneth fach.

Am ddyddiau bu'n dihoeni a'i thalcen bach yn chwys,
Nes aeth ei breichiau crynion yn eiddil fel fy mŷs:
Eisteddai yn ei chader, gorweddai yn ei chryd,
Ond gwywo, gwywo, gwywo, 'roedd Lizzie fach o hyd!

Yr oedd hi'n llesg un diwrnod, a'i brodyr bach yn daer
Am ddyfod i'r ystafell i ofyn am eu chwaer;
Fe'i dodais ar y gwely, daeth rhosyn ar ei gwedd,
Fe'i dodais ar fy ngliniau a chysgodd gwsg y bedd!

Bu farw ar brydnawnddydd, yr olaf ddydd o'r ha',
Ni wyddwn i ei chlefyd, ac O, 'roedd hyny'n dda!
Daeth angel at fy ngeneth ac yn y nefoedd mae—
O Dduw mae cofio am dani yn wynfyd ac yn wae!

Pa fodd bu farw'r baban, pa fodd 'roedd Angau'n gwneud
Ei waith ar un na phechodd, nid mam na thad eill ddweyd;
Fel seraph ar fy ngliniau yn gwenu trwy ei hun,
Yn myned mewn breuddwydion yn ol i'w wlad ei hun!

'Roedd hedydd yn y ffenestr, a thra 'roedd Lizzie'n iach,
Hi syllai ac hi neidiai at gell y 'deryn bach;
Diangodd yr aderyn fry, fry, o'i wïail-gell,
Ac felly'r aeth fy mhlentyn i fyd ac awyr well.


Y mae'r llyfr yn llawn o gyffelyb dlysau; a dylai fod yn meddiant pob Cymro a Chymraes, ac ar eu tafodleferydd. Ni raid wrth ymdrech i gofio y caneuon hyn, canys os bydd côf y darllenydd yn werth ei alw'n gôf, fe lŷn y geiriau wrtho mor naturiol ag y glŷn dur wrth y tynfaen. Onibai ei fod yn nghyrhaedd pawb, ac mor rhad, carasem ddyfynu rhagor ohono, llawn o naturioldeb a thlysni, megys, "P'le 'rwyt ti, Marged Morgan?" "John Jones a John Bwl," "Beibl fy mam," "Pa le mae fy nhad?" "Huw Penri'r Pant," y "Fodrwy Briodasol," &c. Danfonwyd y gân olaf i gystadlu am wobr yn Eisteddfod Aberystwyth, 1865; enillodd Miss Rees (Cranogwen): nid dyna'r syndod, ond fod I. D. Ffraid, un o'r beirniaid, mor drwstan a dodi cân Ceiriog "yn isaf oll yn y dosbarth isaf." Naw wfft i'r fath fonglerwch; dyma, modd bynag, dipyn o gysur i'r rhai sydd bob amser tua chynffon y gystadleuaeth, sef fod CEIRIOG unwaith neu ddwy wedi ei ddyfarnu i'r un lle.

Credwn nad oes yn holl waith y bardd ddim mwy gogleisiol ac yn meddu mwy o "bertrwydd Celtaidd," na'r penillion sydd yn Oriau Eraill tan y penawd, "Dyddiau mawr Taffi; a dyma i'r darllenydd rai ohonynt:—

Diwrnod Golchi:—

Ffatio, slapio, a slopian,
Golchion a throchion, yn yr hen dwb crwn:
Sebon a soda, slwtian a slotian,
Yn mhell bo hanes y diwrnod hwn.

Diwrnod Pobi:—

Blawd ac heplas ac eithin,
Malcyn a thwymbren du bach;
Burum a lefain a dwbin,
Hei Iwc am fara iach.

Diwrnod Lladd Mochyn:—

Dwfr poeth a chambren,
Gwellt, gwrŷch, a blew;
A phawb yn rhyfeddu
Fod y mochyn mor dew.

Diwrnod Clwb:—
Y plant yn rhedeg, y band yn chware,
A'r drymar yn drymio o hwb i hwb:
Pawb â rybanau ar draws eu 'sgwyddau,
A phawb mewn stymog i ginio'r clwb.


Diwrnod Cneifio:—

Swn gwelleifiau mewn 'sgubor a buarth,
Hyrddod yn ymladd 'rol stripio'u gwlan:
Cŵn yn brefu a defaid yn cyfarth
A'r crochan pitch yn berwi i'r tân.

Diwrnod Eisteddfod:—

Corn gwlad yn llefaru a'r delyn yn deffro,
Nes gyru gwladgarwch yn chwilulw fflam:
Dynion synwyrol yn cael eu difyru,
A'r beirdd a'r cerddorion i gyd yn cael cam.

Diwrnod Ffair:—
Moch, bustych, deunawiaid, a heffrod,
Saeson a buswail, a theirw gwyllt:
Fferins, almanacs, Gwyddelod,
Asynod, a merlod, a myllt.

Diwrnod Gwyl:—
Pobol y dref yn nghanol y wlad,
Pobol y wlad yn nghanol y dre':
Bechgyn yn spowtio, plant yn adrodd,
A chorau'n canu mewn cyrddau tê.

Diwrnod Priodas:—

Dydd y briodas, dydd o bryder,
Mam briodferch braidd yn wael;
I'r ifanc diwyd a'r weddw unig
Y diwrnod goreu byth ellir gael.


Gweithiau—Oriau'r Haf

Yn 1870, ymddangosodd y llyfr olaf a gyhoeddodd, sef Oriau'r Haf. Yr ydym wedi ei grybwyll amryw weithiau eisoes ac wedi dyfynu ohono. Y mae tros haner cant o'r 128 tudal. sydd ynddo yn yr iaith Saesneg. Ni fynem draethu barn fympwyol ar y dosparth hwn o'i waith; ond er hyny, rhaid ini gydnabod nad ydynt agos mor flasus a'i farddoniaeth Gymreig, ac ni charem ar un cyfrif iddo gael ei farnu fel bardd Cymreig oddiwrth ei gynyrchion Saesnig. Collir y prydferthwch gweddaidd sydd yn ngwisg Gymreig y meddwl, fel pe trawsffurfid gwladwr gwridgoch, gewynog, a chydnerth o Gymro i osgo a gwisg dandi o Lundain.


Dyddan iawn ydyw'r casgliad helaeth o hen Hwian-Gerddi (Nursery Rhymes) Cymreig sydd yn yr Oriau hyn, a diau ddarfod i filoedd fwynhau Ilawer awr ddifyr wrth eu darllen. Bu Ceiriog wrthi hi yn ddiwyd yn eu casglu am yn agos i bumtheg mlynedd, gan i'r ysgub gyntaf ohonynt ymddangos yn yr Arweinydd, y rhifyn am Mawrth 26, 1856. I bawb sydd yn caru adgofio am y tymhor dedwydd ar ei oes pan ydoedd tan ofal ac addysg mam dyner, a morwyn garedig a chwedleugar, y mae'r casgliad hwn yn gadwen o berlau. Y rhai hyn oeddynt ein hawdlau a'n pryddestau cyn i Goronwy, Dewi Wyn, Hiraethog, ac Eben, ddechreu llewyrchu ar ein synwyrau. Diolch o galon i'r bardd am gynull a chadw teganau llenyddol plant ein gwlad rhag difancoll; a gwneud yr un gynwynas â hen Hwian-Gerddi Cymru ag a wnaethai eisoes âg enwau ei hen alawon. Yn gymysgedig â'r Hwian-Gerddi ceir aml wersdameg (charade) a fyddent gynt yn rhan o ddifyrion yr aelwyd Gymreig. Yr oedd gan Ceiriog hoffder neillduol at y math yma o gyfansoddiad a medr annghyffredin i'w cyfansoddi. Argraffwyd amryw o'i waith yn Nhrysorfa'r Plant, flynyddau yn ol.

Y darn olaf yn Oriau'r Haf ydyw "Cyfoedion Cofiadwy." Perthyna i ddosbarth o farddoniaeth gwahanol i bobpeth a gyfansoddasai ef o'r blaen. Y mae yn llai o'r ddaear yn ddaearol, yn fwy awyrol, ac yn debycach i'r uchelwydd (mistletoe); ac fel y cyfryw yn arwyddlun cymhwys i ddiweddu llyfr, fel y mae hwnw yn arddangos y Nadolig a diwedd blwyddyn. Fel aralleg, damheg neu alegori afaelgar, tebyga i Ancient Mariner Coleridge; a dywedai un beirniad craff ei fod llawn cystal a'r gerdd anfarwol hono, ac y mae hyny yn ddweyd mawr.

Dyma'r gân, a chyfieithiad ohoni i'r Saesneg a wnaed ar ein cais ac ar fyr rybudd gan Mr. Llew. Jones, Bromborough Pool:—

BREUDDWYDIODD y prydydd ei fod wrth y tân,
A chydag ef chwech o rai eraill;
Sef Iorwerth Glan Aled a'i wyneb hardd glân,
A Rhydderch o Fôn ei bur gyfaill.
A galwyd am delyn i loni y cwrdd,
A 'baco a diod—na wader:
Roedd Creu. a Glasynys a Thal. wrth y bwrdd,
Ac R. Ddu o Wynedd mewn cader.

Adroddodd Talhaiarn ei "Gywydd i'r Haul "
Ac englyn i'r "Lloer"-y gwyrdd gosyn:
Ac Iorwerth Glan Aled gyfododd yn ail,
I adrodd penillion "Y Rhosyn."
Adroddwyd ystraeon, siaradwyd mewn trefn,
A chanwyd penillion am 'goreu;
A nofiwyd yn nhônau 'r hen Gymry trachefn,
Rhwng haner ac un yn y boreu.

Ar gyfer tŷ'r prydydd 'roedd brenin yn byw,
A chanddo ferch fechan brydweddol:
Prinses Clod oedd ei henw, a d'wedid fod rhyw
Ysbryd drwg yn y palas breninol.
Pan glywodd y brenin fod beirddion y fro
Mor agos, medd ef, "nid anaddas,
F'ai danfon am danynt bob un yn ei dro
I wel'd beth sy'n blino fy mhalas."
 
Ac fel 'r oedd y beirddion yn nen eu hwyl fawr,
Cnoc bach ar y drws glybuasant,
Medd y prydydd gan edrych o'i ffenest' i lawr,
"Mae ysbryd rhyw ferch ar y palmant;
Mae ei gwisg fel yr amdo a'i gwyneb yn gudd,
Ac nis gall dyn marwol ei gweled:
Onage! nid ysbryd, ond Prinses Clod sydd
Yn holi am Iorwerth Glan Aled."

Ac Iorwerth mewn syndod, petrusder a braw,
Ufuddhaodd i'r llances foneddig;
Aeth gyda hi ymaith a ffon yn ei law,
Trwy y glyn tua'r palas mawreddig.
Pigasom i fyny ben-edau 'r ymgom,
Y munud o'r blaen a gollasom;
Ac er fod y noswaith yn hwyr ac yn drom,
Y bibell trachefn gyneuasom.

Ac eilwaith ni glywem gnoc bach ar y drws,
Gofynais yn hyf-pwy oedd yno;
Ac eilwaith beth welem ond gwyneb gwyn clws
Yn pelydru trwy'r gorchudd oedd arno:
"Y Brenin a'm gyrodd," medd llais peraidd, mwyn,
"Am R. Ddu o Wynedd a Rhydderch:
A Risiart a Rhydderch trwy 'r glyn a thrwy 'r llwyn
Ddilynasant odreuon y wenferch.

'R oedd amryw boteli o win ar y bwrdd,
A chododd Talhaiarn gan dd'wedyd,
Agorwn un arall, awn wed'yn i ffwrdd
Rhag ofn i ni ofer-gymeryd.
Daeth cnoc am Creuddynfab ac yntau fel bardd
Ufuddhaodd i'r alwad oedd arno:
Medd Tal, "Deuaf inau, does neb a'm gwahardd,
Dilynaf y llances lle 'r elo."

'D oedd neb ond Glasynys yn awr yn y cwrdd,
A theimlem yn brudd mewn unigedd;
Ond toc daeth cnoc arall, ac oddiwrth y bwrdd,
E alwyd Glasynys o'r diwedd!
A gwelwn ferch arall sef y Wawrddydd yn d'od;
Deffroais a gwelais yn union
Mai Merch Brenin Angau, ac nid Prinses Clod
Oedd wedi myn'd gyda'm cyfeillion!


THE Poet he dreamt that he sat by his fire,
And with him some six of his friends,
There was Iorwerth Glan Aled, and who need enquire
If Rhydderch, his comrade, attends?
Creuddynvab, Glasynys, Talhaiarn, were there,
And R. Ddu o Wynedd profound,
The harp strikes the strains of a weird plaintive air,
And the weed" and the wine are passed round.

Talhaiarn recited his Ode to the Sun
And some satire in rhyme and in prose,
Whilst Iorwerth Glan Aled his chaplet well won
With his beautiful lines to the Rose.
Penillion were sung, while the orators spoke,
And "yarns," grave and comical, spun,
Quaint songs of the Cymry, the quip and the joke,
Pass'd the time till 'twixt midnight and one.

Anigh to the Poet resided a King,
With his daughter so fair, tall, and young,
Princess Fame was she called, but 'twas said some vile thing,
Like a curse, to the King's palace clung.
When the Monarch was told that these bards were so near,
He exclaimed, "I will summon them all
One by one and perchance this dread mystery clear
That envelopes my house like a pall.

As the feast of the poets attained its full height
Came a light, gentle, tap on the ear;
And the host, as he peer'd out into the night,
Said, "A woman-like spirit is here:
She is clad in a shroud and her features unseen,
No mortal her fair face may see:
But, ah! 'tis no spirit, but the Princess, I ween,
And enquiring, friend Iorwerth, for thee."

And Iorwerth in wonder, in doubt, and in fear,
Obeyed the fair lady's command,
And followed her hence through the night dark and drear
O'er the vale to the King's unknown land.
The thread of our discourse we picked up anew,
Interrupted a moment before,
And although the small hours with rapidity flew
Our pipes were soon lighted once more.

Again at the door came a tap soft and light,
I dauntlessly asked who was there,
Again came the gleam of that face into sight
Through its covering snow-white and rare;
"I am sent by the King to bring Rhydderch with me
And R. Ddu of Wynedd as well."
So Rhydderch and Rhisiart obeyed the decree
And, following, bade us farewell.

Talhaiarn, uprising, said "One bottle more
Of rich wine and then let us away,
'Tis meet that our Bacchanal orgie were o'er:
Let us not be surprised by the day."
A knock for Creuddynvab, and he like a bard
Bowed low to his guide and obeyed,

When Tal. said, "I go, too, and who shall retard
My purpose. I'll follow the maid.”

And now there were left but Glasynys and I,
Our spirits with sadness o'ercast.
Once more came the knock, lo! the Princess is nigh:
Glasynys is summon'd at last!
Another fair maiden, Aurora her name,
I beheld and awoke, it was day:
'Twas the daughter of Death, and not Princess Fame,
That had taken my old friends away.


Cyffyrdda mor dyner â phrif nodweddion y "chwe' cyfoed," fel y dangosir eu neillduolion gydag un linell, weithiau hefo un gair; ac y mae'r cyfeiriadau mor gryno a chynwysfawr, fel y gellir yn briodol alw y gerdd yn fywgraffiad ar gân. A dyma yntau bellach, yr olaf o'r saith, wedi eu dilyn trwy'r glyn a thrwy'r llwyn." Byddai yn anhawdd yn bresenol yn Nghymru gynull yn nghyd gynifer o wyr doniol ag a gynullodd yr awdwr yn ei freuddwyd rhyfedd.

Tra yn preswylio yn Llanidloes, ymddangosodd pedwar cyfansoddiad o'i waith yn y Traethodydd y cyhoeddiad sydd wedi dylanwadu fwyaf ar feddwl ein cenedl er pan ddechreuodd ein llenyddiaeth; y rhan fwyaf ohono wedi ei ysgrifenu gan feddylwyr i feddylwyr; a gall yr hwn y mae'r Traethodydd ganddo o'i ddechreuad ymffrostio yn gyfiawn fod ganddo lyfrgell pe na byddai llyfr arall yn ei feddiant Yn 1866, gwelir dau ddernyn ynddo o'i waith, sef y "Fodrwy Briodasol," a fu mor anffodus, fel y nodwyd, yn Eisteddfod Aberystwyth; a math o barodi ar yr Eisteddfod, tan yr enw "Eisteddfod Genedlaethol Pen y Fan." Yn 1868, ceir ei farwnad i Glan Alun. Cynwysa'r gân hono rai penillion neillduol o dyner a theimladol yn cyfeirio at un o deulu yr awdwr ei hun. Wrth son am lyfr dyddorol Glan Alun a elwir Fy Chwaer, dywed y farwnad:—

Yn mynwent Llanarmon mae beddfaen tros dri,
A'r olaf roed yno fy chwaer ydyw hi,
Fu neb, anwyl gyfaill, mor debyg i
Dy "Chwaer" o Gefn G'ader a'm diweddar chwaer i.

Ac os yw dy chwaer, fel crybwyllodd ei hun,
Yn edrych o'r nefoedd ar breswyl fach dyn;
Mae Jane, fy chwaer inau, yn edrych yn gun:
Cwyd yma, Glan Alun, cei weled ei llun.

Ei llygaid o'r nefoedd! Jane! anwyl Jane,
Fel yna y byddai a'i llaw ar ei gên,
A'm calon chwareuai yn mhelydr ei gwên.
 
Yn y lloft mae ei llyfrau rhwng gwalbant a dist,
A chant o'i llythyrau, rhai llawen, rhai trist,
Rhai'n son am y byd, a rhai'n son am Grist,
Orweddant, Glan Alun, yn ngwaelod fy nghist!

Llythyrau'th chwaer dithau gyhoeddwyd oll in',
Teilyngaist ti'r enw o frawd gyda'th bin;
Minau a bwyswyd a chafwyd fi'n brin.


Yn y Traethodydd am 1870 hefyd, ymddengys ei dreithgan ar "Farwolaeth Picton," ac yn hono y digwydd y gyferbyniaeth (antithesis) gryfaf, fe ddichon, sydd yn ei waith:

Mae'r gelyn yn nesu ei luoedd aneiri'
Mae gynau'n cynesu a dynion yn oeri!

Ceir dau arall o gynyrchion ei ysgrifbin yn yr un cylchgrawn. Un, sef ei fugeilgerdd "Owain Wyn," mor gynar a'r flwyddyn 1857; a'r llall yn 1872, cân a ddarparwyd i gerddoriaeth gan Mr. B. Richards, ac a elwir y "Gadlef Gymreig." Gresyn na fuasai rhagor o'i waith yn addurno dalenau yr hen gyhoeddiad clodfawr.

Ar daer wahoddiad y pwyllgor, daeth i Liverpool yn Nadolig, 1869, i arwain Eisteddfod y Gordofigion. O'i anfodd yr ymgymerodd â'r swydd. Yn wir, diflas ganddo bob amser oedd ymddangos ar y llwyfan gyhoeddus; yr oedd rhyw wyleidd-dra a chwithdod yn ei luddias i deimlo'n hapus pan syllai mil neu ddwy o lygaid arno. Perthynai ef i'r dosparth hwnw y cyfeirir ato yn yr hen gyswynair, "Cared doeth yr encilion." Fel cant a mil o feirdd a meddylwyr eraill, dewisai ef y gil a'r gongl ddinod yn hytrach na'r cyhoeddusrwydd penaf. Bendithiwyd ef â'r ddawn i siarad â'i gyd-dynion gyda'r ysgrifbin ac nid gyda'i dafod. Dywedodd filoedd o ffraethebau, difyr eiriau, a doeth ymadroddion, wrthym; ond cawsom hwynt bron i gyd o'i ddeheulaw, ac nid o'i enau. Pan na fyddai'r hwyl gymdeithasgar arno, ymgollai yn nghanol yr ymgom, ac âi ei feddwl ar grwydr i fyd ei fyfyrdodau. Ond fel arweinydd Eisteddfod y Gordofigion, aeth trwy y gwaith yn well o lawer nag y disgwyliai. Cafwyd cryn hwyl gyda'r telynor-un o delynorion y dref, a ddaethai i mewn i lanw'r bwlch yn absenoldeb yr un arferol. Bernid fod y delyn a'r telynor wedi gwlychu; pa fodd bynag, gwnaent oernadau rhyfedd rhyngddynt ar yr esgynlawr, ac aeth y dyrfa i ysgrechain a chwerthin tros ben pob terfyn. Yn y cyfwng, daeth yr arweinydd yn mlaen yn hamddenol, ac wedi cael dystawrwydd, anogodd y cerddor i fyned â'i delyn at y tân i dwymo ei thraed -"bod yn rhaid ei bod wedi cael anwyd." Yn nghanol chwerthin y gynulleidfa, diflanodd yr offerynwr a'r offeryn, a phrysurwyd yn mlaen gyda'r rhaglen yn sobr a gweddus.

Ychydig tros bedair blynedd fu dyddiau ei drigiant yn Llanidloes; ac oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes am drafferthion ei swydd, yr oedd ganddo yno ddigon i feddwl am dano ddydd a nos. Ond yn ystod y cyfnod byr hwnw, enillodd barcha serch diragrith y trigolion, o'r ficer talentog, "Quellyn," hyd y mwyaf anwybodus yn y plwyf; y cyfoethog yn gystal a'r tlawd. Gwelem hyn yn amlwg pan yn cydgerdded âg ef trwy heolydd y dref yr oedd pawb yn ei adnabod, yn ei "syrio," ac yn dywedyd yn eu gwynebau siriol, "Dyna i chwi station-master sydd genym ni yn Llanidloes yma!" A phan deallwyd ei fod ef ar fedr ymadael, a chymeryd y swydd lai trafferthus o orsaf-feistr Towyn Meirionydd, penderfynodd gwyr y dref a'r wlad oddiamgylch ddangos eu hedmygedd ohono trwy ei anrhegu â'i ddarlun, wedi ei dynu yn y dull goreu gan feistr yn y gelfyddyd. Y mae'r oil painting hwnw yn aros yn un o greiriau anwylaf y teulu, ac yn brawf fod pobl Llanidloes yn adnabod ac yn gwerthfawrogi teilyngdod pan y delo i'w mysg.

Yn 1870, gadawodd lanau'r Hafren am dreflan dawel, lanwaith, Towyn, ar lanau'r Dysynni. Yr oedd yma fwy o yspryd llenoriaeth Gymreig o lawer nag yn Llanidloes, a llai o ofalon swyddol iddo yntau. Er fod y dyffryn yn llydan, a'r llecyn y saif Towyn arno yn wastadedd hirfaith, y mae digonedd o fanau a golygfeydd dyddorol a hanesyddol oddiamgylch; a'r awyr yno yn nerth ac iechyd i'r sawl a'i sugno. Cusenir y traeth hyfryd gerllaw gan y dòn sydd yn golchi tros adfeilion Cantref y Gwaelod. Yn y cyfeiriad arall, bedair milldir i fynu'r dyffryn, ymsaetha Craig y Deryn yn unionsyth bron o wely'r afon ganoedd o droedfeddi tua'r nwyfre las; a chan fod ei ehediaid mor amryfath, gallem dybied fod pob llwyth o fôr-adar sydd yn Ynys Prydain yn cael ei gynrychioli yn mysg y rhai a glwydant ynddi. Am yr afon a'r Graig aruthr hon, saif Peniarth, palas y Wynniaid, enwog am ei lyfrgell annghydmarol; ac, heb fod yn nepell, ar y tu arall, saif ffermdy Tynybryn, lle ganwyd Wm. Owain Pughe, ac yn Dolydd Cau, yn mhlwyf Talyllyn gerllaw, y bu farw y doethawr trylen. Ychydig uwchlaw hyny, y mae un o'r llanerchau mwyaf rhamantus, gwyllt, unig, a breuddwydiol sydd yn Nghymru, sef Llyn Talyllyn. Yr ochr ogleddol i Dowyn drachefn, am yr afon â'r dreflan, mewn hafn ar lun haner lleuad â'i wyneb ar y môr, wrth droed y mynydd, saif hen gartref y Puritan nefolaidd ei yspryd, Huw Owen o Fronyclydwr, coffadwriaeth yr hwn a bereneiniwyd gan awen y farddones Elen Egryn, mewn marwnad nad oes ei thlysach, efallai, mewn iaith. Fe welir fod yn ardal Towyn ddigonedd o olygfeydd, adgofion, a thestynau myfyrdod, i gynhyrfu galluoedd bardd o anianawd farddonol Ceiriog. Yr oedd yn mysg ei gymydogion hefyd amryw lenorion. adnabyddus, a dynion eraill annghyhoedd ond hynod o ddarllengar, cofus a gwybodus. Er hyn oll, credwn mai ystod ei arosiad yn Nhowyn oedd y cyfnod mwyaf awenyddol ddiffrwyth o'i holl fywyd. Gan na bu yno ond tua blwyddyn a haner, dichon fod yr amser yn rhy fyr iddo wneud gwaith pwysig; a dichon hefyd fod ei feddwl wedi ei orweithio gan bryder a gofalon ei fywyd trafferthus yn ngorsaf Llanidloes, fel yr hawliai orphwysdra dros amser, a gorwedd am dymhor yn "fraenar ha".

Yn 1871, penodwyd ef yn arolygydd ar y reilffordd oedd newydd ei hagor o orsaf Caersws, ar y Cambrian, i waith mŵn y Fan, yn mhlwyf Trefeglwys; a chan nad oedd y tŷ yn Nghaersws, a fwriedid iddo fel arolygydd, yn barod, bu am yspaid byr yn byw mewn tŷ arall perthynol i'r cwmni islaw Trefeglwys.

Daeth felly yn gymydog agos i'w gyfaill ffyddlon a thalentog Nicholas Bennett, Ysw., Glanyrafon, palasdy tua dwy filldir o Drefeglwys, a chwe' milldir naill ai o Lanidloes neu Gaersws. Gwelodd Mr. Bennett yn nghaneuon cynaraf Ceiriog addewid am fardd uchelryw. Darllenai bobpeth y gwelai ei enw wrtho; ac wedi darllen y gân a elwir yr "Eneth Ddall," sydd yn Oriau'r Bore, ysgrifenodd ato i'w longyfarch. Parodd hyn ohebiaeth rhwng y ddau, ac enynodd gyfeillgarwch a barhaodd hyd angau. Saif y drigfa ddedwydd hon (Glanyrafon) mewn cwm cul a ddyfrheir gan afonig o'r enw dyeithr Tranon. Y mae'r dreftadaeth yn meddiant y teulu, o dad i fab, er's tros dri chan' mlynedd, a'i thir yn ymestyn o waelod y cwm i grib y mynydd. Nid yw Mr. Bennett, megys y mae arfer rhai, yn gosod y saethu; ceidw y sport iddo ei hun a'i gyfeillion; ac y mae ganddo gŵn tan gamp at y gwaith. Prawf pob man o gylch y lle fod amaethyddiaeth yno yn ei goreu. Un o ddifyrion Mr. Bennett ydyw cadw gwenyn, o'r rhai y mae ganddo gycheidiau afrifed bron; efe a adnebydd eu tymhorau, eu harferion, ac y mae yn eu trin, fel y dywedir, ar scientific principles. Wrth fwynhau y pleser o'u magu, eu moethi, a'u hanwesu, gwna iddynt gynyrchu elw da am eu cadw. Byddai yn werth i Syr John Lubbock ddyfod yr holl ffordd o Lundain, er gweled y gofal a'r ddarbodaeth a roddir yn y llecyn anhygyrch hwn i'w hoff drychfilyn ef; ac yn ddiau, fe ddylai pob Cymro darbodus sydd yn byw o fewn ugain milldir i Glanyrafon, fyned yno i gael gwers pa fodd i fwynhau budd a gwir adloniant ar yr un pryd.

Yn y tŷ, y mae dwy delyn ysplenydd, un ohonynt yn chwaer i'r hon a chwery Pencerdd Gwalia, a medr Mr. Bennett "dynu mêl o danau mân;" a dau grwth oedranus a gwerthfawr-medr hefyd oglais miwsig o geudod y rhai hyny. Addurnir y muriau â darluniau cywrain, ac y mae rhai ohonynt o waith llaw y meddianydd. Y llyfrgell, wed'yn-hyd y gwyddom, nid oes yn Nghymru ei helaethach na'i gwerthfawrocach, yn llyfrau Cymreig ac mewn ieithoedd eraill yn dwyn cysylltiad â Chymru, ac o gynulliad un dyn; ac nid oes lyfr yn y casgliad enfawr nad yw'r perchenog yn gydnabyddus â'i gynwysiad.

Fe welir fod Mr. Bennett bron a dyfod i fynu â'r drychfeddwl hwnw am ddedwyddwch o eiddo Ceiriog y soniasom am dano yn tudal. 18. Heblaw hyn oll, y mae yn llenor ac yn fardd galluog; wedi rhoddi aml brawf o'i alluoedd, a'i wyleidd-dra naturiol yn peri iddo gadw oddiwrth y cyhoedd luaws ychwaneg o brofion i'r un perwyl. Gwelir darnau neillduol o dlysion o'i waith yn Ceinion Llenyddiaeth Gymreig, ac yno yr ymddangosodd ei gyfieithiad campus "Address to a Mummy," o waith Horace Smith. Gwelir hefyd gân dlos odiaeth o'i waith yn Gemau'r Adroddwr, o'r enw "Yr Eneth Amddifad," gyda'r rhagymadrodd byr canlynol gan y detholydd:— "Ganwyd yr awdwr, Nicholas Bennett, Ysw., Mai 8fed, 1823. Pe bai ef yn saethu ac yn pysgota ac yn cerfio coed dipyn yn llai, dichon y caem dipyn mwy o'i ganeuon." Mewn cysylltiad â'r gân hon, y mae un ffaith y dylid ei nodi, sef mai hi oedd anwylun llenyddol Ceiriog yn ei ddyddiau olaf. Adroddai ddarnau helaeth ohoni rhwng ei yspeidiau o boenau; ac nid yw hyn ychwaith yn rhyfedd, gan ei bod mor llawn o deimlad a syniadau coeth, wedi eu cyfleu yn y dull alegoriaidd.

Ac y mae yn anhawdd cyfarfod â difyrach ymgomiwr na'r gwr a biau nenbren Glanyrafon. Tuag ugain mlynedd yn ol, ar ein hymweliad cyntaf â'r ardal, yn nghwmni Ceiriog a'r Parch. Elias Owen, awdwr y Crosses of North Wales, sylwem wrth Mr. Bennett fod eu ffyrdd yn enbydus o ddrwg yn y wlad hono. Atebai yntau fod ffyrdd sir Drefaldwyn erioed yn ddiarhebol o ddrwg. Ac fel prawf o hyny, adroddai'r hanesyn canlynol:Fod dyn, er's talwm, yn myned ar hyd un ohonynt, ac iddo ddyfod yn ei daith at het â'i gwyneb yn isaf, ac wrth iddo geisio ei chodi, daeth llais odditani yn dweyd, " Rhowch help i mi ddwad oddiyma, da chwi." Brysiodd y teithiwr yn ei ddychryn i helpu un oedd wedi colli ei ffordd mor gynddeiriog fel ag i chwilio am dani o tan yr un iawn, a thra yn cydied yn y truan gerfydd gwallt ei ben i'w godi o'r trybini, "Howld on!" ebe'r claddedig drachefn, "byddwch yn dringar; gadewch i mi gael fy nhraed o'r gwrthaflau cofiwch fod yma geffyl o tani i." Ac felly yr oedd ffyrdd sir Drefaldwyn er's talwm mor ddiwaelod, yn ol y rhamant hon, fel y llyncent y march a'r marchog, a dianmheu yr het hefyd oni buasai fod iddi gantal lled lydan.

Daliodd y cyfeillgarwch a ffynai rhwng y ddau hyd y diwedd, ac i Mr. Bennett yr ymddiredodd Ceiriog ei ysgrifau annghyoeddedig (ac i bwy cymhwysach?) pan yn gorfod eu gadael heb eu cwbl drefnu i'r wasg.

Pan orphenwyd y tŷ yn Nghaersws, symudodd ef a'i deulu yno i fyw; ac yn y drigfa gyfleus hono o briddfeini cochion, yn sefyll wrthi ei hun, gerllaw y fan y rhed Aber Carno i'r Afon Hafren, ar fin llinell y Fan, a thua dau can' llath o linell y Cambrian, oddiallan i bentref Caersws, y treuliodd efe weddill ei oes. Saif y dreflan newydd-anedig bresenol ar fedd hen gaer Rufeinig, ffosydd ac olion eraill o'r hon sydd yn weladwy hyd heddyw. Fel llawer ardal arall yn nyffryn yr Hafren, y mae'r iaith Gymraeg wedi cilio yn raddol, a'i lle wedi ei gymeryd gan rhyw lun o Saesneg-egwan, mae'n wir, ond digon cymhwys, hwyrach, i feddyliau diyni y bobl sydd yn ei defnyddio. Daeth y cyfnewidiad hwn oddiamgylch nid gan unrhyw chwyldroad sydyn, ond yn raddol, raddol; galluoedd meddyliol y bobl yn gwanychu o dipyn i beth, a'u tafodiaith yn dyfod yn rhy gref iddynt ei harfer. Glynant er hyny wrth yr enwau Cymreig, megys Jones, Williams, &c., a rhai o enwau hen Gymry sir Drefaldwyn, megys Bebb, Gittins, Jarman, &c., yn eu plith; a phrawf eu pryd a'u gwedd eu tarddiad Cymroaidd. Enwau Cymreig sydd yn para ar yr amaethdai a'r meusydd, ond fod y sillebu weithiau yn chwithig; Pendree y galwant Pendre, a gwelsom y gair Wig wedi ei sillebu ar gareg fedd yn Weeg! Wrth wrando arnynt yn siarad â'u gilydd am yr heol â hwynt, pâr y dinc Gymreig sydd yn nhôn eu llais i chwi dybied mai iaith eu hynafiaid a lefarant. Chwibienir hen alawon Cymru ar y ffyrdd, a chyflwynant yr ychydig ddyddordeb a deimlir ganddynt at faterion cyhoeddus i symudiadau Cymreig, Y maent yn rhyw fath o Gymry clauar mewn pobpeth ond iaith. Ceir yn y lle dri chapel Ymneillduol, a chapel-eglwys perthynol i Lanwnog, eglwys y plwyf; ond nid oes yno achos. Cymraeg o fath yn y byd, ac, fel y gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, angen am dano ychwaith. Ni bu yn eglwys Llanwnog yr un gwasanaeth Cymraeg er's 25ain mlynedd.

Dyma y fath bobl oeddynt gymydogion y bardd yn Nghaersws. Neb gerllaw allai gydymdeimlo a'r pynciau y teimlai ef ddyddordeb ynddynt; undyn y gallai siarad âg ef ar y testyn oedd wedi llyncu ei holl feddylfryd; neb allai ddarllen llinell o'i waith, ac felly dderbyn dim mwynhad oddiwrtho. Dyn a 'styrio! mewn ystyr lenyddol yr oedd yn unig. Pa fodd y gallodd fyw am 17eg mlynedd yn y fath le a than y fath amgylchiadau sydd tu hwnt i'n dirnadaeth; a rhaid fod bywyd didranc yn ei awen a'i flas at lenoriaeth Gymreig i allu goroesi yr awyr drom, gysglyd, farwaidd a anadlent.

Ond byw yn effeithiol a ddarfu iddynt; a chyflawnodd Ceiriog waith a fuasai yn gosod ei enw yn uchel yn mysg llenyddion ei wlad hyd yn nod ar ol cartrefu yn Nghaersws. Yr oedd diwydrwydd myfyrgar yn un o'i nodweddau mwyaf arbenig, a'i feddwl mor ddiorphwys a rhediad yr afon Hafren. Byddai ganddo beunydd rhyw gynllun ar y wê; a phe rhoddasid ar bapur y ddegfed ran o'r drychfeddyliau a greodd a'r cynlluniau a dynodd, ni chynwysai y llyfr hwn hyd yn nod eu henwau. Weithiau, yn ei flynyddau olaf, gofynai lluaws o'i edmygwyr, "Beth mae Ceiriog yn ei wneud? Ni welsom ni ddim o'i waith er's talm. Rhaid ei fod yn segura." Segura yn wir! ni bu erioed awr segur yn ei fywyd. Breuddwydiai ddrychfeddyliau; a'r dydd, pan na byddai yn ngafaelion ei fasnach, rhodiana y byddai yn mroydd hudolus awenyddiaeth. Clywsom ef adeg cyhoeddiad Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl (Tachwedd, 1883), pan yr ymgomiem, gan oedi cwsg, hyd oriau mân y plygain, yn rhoddi braslinelliad o bryddest a gyfansoddai ar y pryd. Cyffelybai y ddaear i fferm, a'r Tri Pherson yn yr Undod, ei pherchenogion, yn dyfod y naill ar ol y llall, ar ymweliad â hi. Yn nghyntaf, goruchwyliaeth y Tad, yna'r Mab, yna'r Yspryd Glân; a chan fawredd ofnadwy a beiddgarwch y drychfeddwl, efe a wylai fel plentyn. Nis gwyddom a gwblhaodd efe y gwaith hwn ai peidio. Dichon mai do; ac iddo yn y diwedd fyned yn aberth i'r tân a gymerodd le yn y swyddfa beth amser yn ol, a llosgi gydag amryw ysgrifau gwerthfawr eraill. Pa fodd bynag, yr oedd yn ddrwg genym glywed nad yw yn mysg ei bapurau annghyoeddedig.

Prawf o'i ddiwydrwydd oedd y llafur a'r drafferth a gymerodd i sefydlu urdd y "Vord Gron," a'i ymdrechion gyda "Chist-goffa Mynyddog." Mathro frawdoliaeth gyfrin oedd y flaenaf, debyg o ran natur i Free Masonry, a'i haelodau i fod yn Gymry neu ewyllyswyr dai'r genedl Gymreig. Bwriedid trwyddi ffurfio undeb rhwng llenorion a dynion blaenllaw y wlad a'r trefi Saesnig, a gwneud trefn a dosparth ar ddygiad yn mlaen ein sefydliadau cenedlaethol, yn enwedig yr Eisteddfod. Mewn copi o'r "Rheolau Cynygiedig," yn awr o'n blaen, dywedir mai ei hamcan cyntaf ydoedd "cynyrchu yn mhob cymrawd gariad at wybodaeth, cyfiawnder, a heddwch, gwirionedd, parch, ac elusengarwch." Gelwid sylw at yr annrhefn gwarthus sydd yn nglyn â dewis testynau Eisteddfodau fyth a hefyd, trwy bwyso ar bwyllgorau y cyfryw i roddi sylw dyladwy i arholiadau yn yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg, ymchwiliad i hanesiaeth a bywgraffiaeth Gymreig a hynafiaeth Brydeinig, adroddiad mewn llaw fer o areithiau yn Nghymraeg, &c. Cynygid hefyd fod y frawdoliaeth yn ei chyfarfod blynyddol i dalu ymweliad â manau o ddyddordeb hanesyddol fyddai yn yr ardal hono. Buom yn synu ganwaith na fuasai pwyllgor "Yr Eisteddfod" wedi sefydlu y pleserdeithiau hyn; treulio un diwrnod, dyweder, yn nghanol yr wythnos, er mwyn cael tipyn o seibiant ac amrywiaeth. Yn ol Rheol 33, yr oedd y Vord i uniawni pob camddealltwriaeth ac ymrafael allai godi rhwng rhai o'i haelodau a'u gilydd; ond ofnwn ddarfod i hyn beri i rai cyfreithwyr gadw draw. Pa fodd bynag, yr oedd amcanu uno holl Genedl y Cymry mewn un frawdoliaeth fawr gyfeillgar yn ddrychfeddwl campus; a phwy a ŵyr na chyflawnir ef rhyw dro. Methiant, fel y mae'n ofidus adrodd, a fu y tro hwnw, er iddo gael ei gefnogi gan amryw wyr o ddylanwad. Y cyfarfod olaf y mae genym ni hanes am dano a gynaliwyd yn Ngwrecsam, yn mis Tachwedd, 1876, pan oedd Mr. (wedi hyny Syr) Hugh Owen yn y gadair. Yr anhawsderau mwyaf ar ffordd codi sefydliad o'r fath ydyw fod y Cymry mor wasgaredig, ac mor rhanedig gan wleidyddiaeth ynfyd a sectau.

Gyda Chist-Goffa ei frawd-fardd Mynyddog, bu Ceiriog yn fwy ffodus. Yn mysg testynau pob Eisteddfod Genedlaethol er's blynyddau bellach, gwelir gwobrau o £5 ac uchod am ramadegu yn Nghymraeg, ond yn benaf am gymeryd areithiau mewn llaw fer; ac o'r drysorfa a gynullasai diwydrwydd Ceiriog y deuai'r arian, o flwyddyn i flwyddyn, at y gwobrau hyny. Diffyg gwybodaeth o phonography ydyw un o'n prif ddiffygion cenedlaethol. Y mae pob cenedl ar y blaen i ni yn hyn. Tra y mae Ysgotiaid a Gwyddelod yn heigio swyddfeydd newyddiaduron, eithriad ydyw gweled Cymro o'u mewn. Gyda'i adnabyddiaeth eang o angenion ei gydgenedl, a'i wladgarwch gonest, ceisiodd Ceiriog lanw y diffyg trwy gyflwyno yr arian hyn yn wobrau am deilyngdod yn y gelfyddyd hon, a esgeulusid mor fawr. Y mae'r ffaith fod cymaint o wyntyllio parhaus ar angenion Iwerddon i'w briodoli i ffaith arall-fod cymaint o Wyddelod yn swyddfeydd y newyddiaduron.

Yr ydym wedi crybwyll fwy nag unwaith o'r blaen y fath gyfaill calon ydoedd i'r Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd ei oes. Ar wahoddiad megys eu testynau hwy y cyfansoddodd efe ei brif gynyrchion barddonol. Hyd y gwyddom, ei ymgais gyntaf o bwys ynddynt ydoedd gyda Myfanwy yn Llangollen, 1858; a'r olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1874, gyda'i riangerdd, "Catrin Tudur." Ni chyhoeddwyd yr olaf eto (treuliodd pwyllgor yr Eisteddfod hono eu gweddill tros ben i brynu botymau aur i'w gilydd), ond cawsom y mwynhad o'i darllen mewn ysgrifen. Y mae yn gân ysplenydd, wedi ei chynllunio yn gywrain a'i gorphen yn hapus. Pwy nad adnebydd ei hawdwr yn y llinellau canlynol, sydd fel rhagymadrodd iddi, ac yn codi cauad y blwch nardus nes yw'r perarogl yn llanw'r ystafell:—

FLODEUOG wlad y traserch mawr,
Gwlad deg y llwyni gwyrddion;
Y fro lle chwery heulog wawr,
Trwy ganol ei chysgodion!
A feiddiaf fi, ar ol goroesi
Fy nghalon ifanc, eto'th groesi!

A feiddiaf fi fyn'd yn fy ol
I boethder y cyhydedd,
Lle mae doethineb dyn yn ffol,
A cholli cwsg yn rhinwedd?
I'r wlad lle mae'r angherddol galon
Yn tori'i syched mewn ffrydiau poethion!

Y wlad mae gormod gwres yn iach
I'w merched ac i'w meibion;
Y wlad mae awyr glauar fach
Yn lladd ei holl drigolion:
Gwlad yr Efä-on a'r coed afalau,
Y seirph afrifed, a'r temptasiynau!


Tua chanol y gerdd, cawn ein cydwladwr o Benmynydd Mon, Syr Owen Tudur, yn Nghastell Windsor, yn ymheulo tan wenau a ffafrau ei gariadferch frenhinol Catrin o Ffrainc, a'i llaw-forwynion pendefigaidd-Marian Grey, Elizabeth o Gaen, ac eraill. Breuddwydion ydyw testyn ymddyddan y cwmni urddasol; apelir ato ef am ei farn arnynt; a dyma hi:—

"FE dd'wedir," meddai yntau, "fod holl helyntion oes,
Yn lle d'od fel breuddwydir, yn d'od yn hollol groes:
Ond mae athronwyr eraill, fel gwelsoch weithiau ffyn,
Yn hollol groes i'w gilydd yn nghylch y pethau hyn;
Yn d'wedyd fod Breuddwydion yn fath o fodau mân
O oleu-leuad caled, heb arnynt flew na gwlan,
Na phlyf nac unrhyw orchudd, oddigerth math o wê
A wnant o waith pryf copyn; a chanddynt hwy yn lle
Y synwyr i adgofio am bethau wedi bod,
Fod ganddynt hwy wybodaeth am bethau sydd i dd'od!
Dechreu'sant hwy eu gyrfa yn niwedd amser mawr,
A ninau o'r pen arall a'u cwrddwn hwynt yn awr,

Gan newid ein newyddion sydd genym mewn ystôr,
Tra'n croesi eigion amser fel llongau ar y môr;
A d'wedir fod eu clociau yn ardal Hud a Rhith,
Fel mae'n rhesymol iddynt-bob un yn troi o chwith!
*******
Mae llawer math ohonynt yn crwydro ar eu hynt,
Rhai'n marchog cefn yr afon, ac eraill wàr y gwynt;
Disgyna un ar hamoc y llongwr ar yr aig,
A dengys iddo'i gartref, a gwyneb hoff ei wraig;
Disgyna'r llall ar filwr gwsg ar yr eigion hallt,
A dengys iddo'r eneth sy'n cadw'i gudyn gwallt;
Gwna'r llall ei ffordd i'r fynwent, a dug eich plentyn gwyn
Gladdasoch er's blynyddau yn mhriddell oer y glyn,
I gydied am eich gwddwf â'i freichiau gwynion bach,
Gan edrych trwy eich llygad, fel pe b'ai'n fyw ac iach!
Gwneiff un ei ffordd i'r carchar trwy dyllau ugain clo,
A dyry ddwylaw rhyddion i lofrudd ambell dro.
Aiff un at wely'r Esgob sy'n tynu at ei gant,
A dug ef i Rydychain i chwareu gyda'r plant.

Breuddwydion! O, Breuddwydion yw'r lladron pena' 'rioed,
Ant tros y wal ddiadlam, fel brain tros lwyn o goed.
I'r gwan a'r cystuddiedig gorphwystra gwynfyd rônt:
A thros y wal ddiadlam yn ol trachefn dônt
I gipio rhyw hen gybydd ar wibdaith trwy ei hûn
At gist o aur a guddiwyd gan rhywun fel ei hun.

Chwi gredwch y gwirionedd os credu hyn a wnewch-
Yr hyn a gerwch fwyaf bob amser ganddynt gewch:
Os gwelodd fy Mrenhines myfi yn ardal wen
Breuddwydion pur ei chalon, gwyn fyd na buasai 'mhen
Yn nes i'r ardal hono, yn teimlo gwres y fron
Deyrnasa ar fy nghalon-heblaw y deyrnas hon."


Hyderwn fod yn mysg ysgrifau annghyhoeddedig y bardd luaws o gyfansoddiadau o gyffelyb deilyngdod i'r rhiangerdd uchod, ac yr argreffir hwynt oll yn ddioed; ac os felly, y mae gwledd yn aros y darllenydd Cymreig na ddodwyd ei melusach ger ei fron er's llawer blwyddyn. Bydd rhai yn synu, efallai, na buasai ef ei hun wedi eu cyhoeddi yn ystod ei fywyd; ond eu cadw yr ydoedd ar gyfer cael argraffiad newydd a chyflawn o'i holl waith. Gobeithiai yn gryf weled cyflawniad ei ddeisyfiad hwn, trefnodd a chynlluniodd lawer at ei ddwyn oddiamgylch; ond y swyn a dorwyd gan y dyryswr mawr.

A phan roddes i fynu ei gysylltiad â'r Eisteddfodau Cenedlaethol fel ymgeisydd, hawlid ei wasanaeth ynddynt fel Beirniad. Yr oedd ganddo bob cymhwysder i'r swydd. Adwaenai "nod angen cerdd " i fanyldeb; trwy ei ddarllenyddiaeth helaeth ar lenyddiaeth gyffredinol, deallai beth a ofynid gan y testyn; ac yr oedd ei ymlyniad cryf a dianmheuol bob amser wrth degwch a chyfiawnder yn peri na ofnai undyn cydnabyddus âg ef y byddai iddo byth wyro barn. Yn hyn yr oedd fel y mynai Cesar i'w wraig fod-uwchlaw anmheuaeth. Er Eisteddfod Birkenhead, yn 1877, credwn iddo o flwyddyn i flwyddyn eistedd ar y fainc farnol, ac y mae pob beirniadaeth o'r eiddo yn profi mor drwyadl a dilys y cyflawnai y gwaith. Ysgrifenai feirniadaethau. meithion weithiau ar wehilion y gystadleuaeth, ond y maent yn dra darllenadwy; gallai ef roddi dyddordeb hyd yn nod yn y math diflas hwn o gyfansoddiad, ac ireidd-der yn y sychdir llwm. Yn Nghaerdydd beirniadai gydag eraill ar y Fugeilgerdd, yr Englyn, a'r Diarhebion Cymreig; ac yn y tri İle rhydd ddeffiniad maith a manwl o'u teithi a'u hanhebgorion, nes y darllena'i feirniadaeth fel darn o ramant. Yn ei farn ar y bugeilgerddi, dywed am rai o'r ymgeiswyr " eu bod yn rhy gall i fod yn wirion, ac yn rhy wirion i fod yn gall." Sylwa, wrth son am yr englyn unigol:-"Y mae ei nod angen ef pan yn sefyll ar ei ben ei hun yn wahanol iawn i nod angen englyn cyffredin mewn awdl, neu mewn cyfres o englynion-fel y mae modrwyau neu ddolenau cadwen yn wahanol eu dosbarth a'u defnydd i fodrwyau priodas." Dyma hefyd fel y darnodai'r gair Diarhebion:

AM eu bod yn ebion [dywediadau] doethach a phwysicach na dywed. iadau cyffredin, gwthiwyd y blaenddodiad ar arnynt i fod yn arhebion, fel y mae Llywydd yr America yn cael ei alw yn Arlywydd, y dreth yn ardreth, cymhell yn argymhell, ac felly yn y blaen. Ar ol cadarnhau y gair unwaith gydag ar (sef yn arhebion), cadarnhawyd ef drachefn gyda'r arddodiad cyffredin arall, sef Dy. O ebion, arhebion, tyfodd i ddyarhebion. Fel y mae y geiriau barnu, gwedyd, noethi, llif, cymod, wedi eu cryfhau a'u gwneud yn ddyfarnu, dywedyd, dynoethi, dylif, a dygymod, yr un modd y prifiodd y gair diarhebion. Camsillebiad amlwg yw di yn lle dy, fel pe dywedem dinodi am ddynodi, neu ddifodiant (non-existence) am ddyfodiant (futurity). Y mae sillebiaeth Diarheb, fel llawer gair arall, yn mhob iaith ysgrifenedig, yn gyfeiliornus, ond wedi ei sefydlu yn ein holl eiriaduron, ac ofer heddyw fyddai ceisio ei gywiro.—Cyfansoddiadau Eisteddfod Caerdydd, t.d. 366

Cystudd a marwolaeth

Yr oedd ei enw fel beirniad ar restr testynau Eisteddfod Genedlaethol Llundain, y flwyddyn hon; ond efe, "o flaen yr wyl fel hyn 'raeth"; a phenodwyd Gwyneddon i gyflawni y gwaith yn ei le.

Cyn terfynu ein hymgais i ddodi ar gôf a chadw yr hyn a wyddem oddiar 29ain mlynedd o gydnabyddiaeth, ac a feddyliem yn onest am Ceiriog fel dyn a bardd, dylem wneud ychydig sylwadau yn rhagor ar ei Ganeuon, gan mai fel awdwr y cyfryw geinion, mae'n ddiau, yr adwaenir ef oreu yn y dyfodol, ac y cofir ac yr anwylir ei enw hwyaf. Y mae tua thri chant ohonynt yn y chwe' llyfr a gyhoeddodd; ac o'r nifer hwnw tros gant wedi eu cyfansoddi ar gyfer hen Alawon Cymreig.

Nid ydym yma wedi cyfrif yr haner cant caneuon a gyfansoddodd i Mr. B. Richards, ar gyfer y Songs of Wales, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1873-dair blynedd ar ol ei lyfr olaf ef ar wahan. Y mae yn mysg y rhai hyny ganeuon odiaeth o dlysion, megys, yr un ganlynol ar y dôn Gogerddan:—

"I B'las Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef;
Dos yn dy ol i faes y gâd,
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It' golli'th waed fel dwfr,
Neu agor drws i gorph y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.

"I'r neuadd dos ac yno gwel
Arluniau'r Prysiaid pur;

Mae tân yn llygad llym pob un
Yn goleu ar y mur:
"Nid fi yw'r mab anmharcha'i fam
Ac enw tŷ ei dad;
Cusenwch fi, fy mam," medd ef,
Ac aeth yn ol i'r gâd.

Daeth ef yn ol i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, "O fy mab! fy mab!
O, maddeu im' O Dduw!"
Ar hyn atebai llais o'r mur:-
"Trwy Gymru tra rhêd dwfr,
Mil gwell yw marw'n fachgen dewr,
Na byw yn fachgen llwfr!"

Gan nad oedd efe yn gerddor yn ystyr fanylaf y gair, a bod llawer o'r tonau yn hen a dyeithr, costiodd ei ganeuon drafferth ddirfawr iddo, fel y tystia ef ei hun fwy nag unwaith. Yr oedd yn rhaid cyfaddasu y geiriau i gywair a natur y dôn; ac os gofynai hi yn ei henw am rhyw destyn neillduol yn gydmar cymhwys iddi, rhaid oedd i'r bardd eu huno mewn glân briodas; os amgen rhaid fyddai iddo chwilota am destyn arall. Ceir engraifft o'i ffawd neillduol yn y modd cyntaf yn y dull hapus yr unodd ei gân brydferth â'r hen alaw "Bugeilio'r Gwenith Gwyn," ac o'i ddawn a'i hapusrwydd yn y cyfwng olaf pan yn cyfansoddi yr "Eneth Ddall," a "Dringo'r Wyddfa," ar gyfer yr hen alaw leddf, gwynfanus, Toriad y Dydd. Yn y naill amgylchiad a'r llall, pâr i ni gofio am Gwydion ab Don yn llunio gwraig i Lew Llaw Gyffes o flodeu tecaf y coed, y maes, a'r ardd.

Y mae rhai o'r alawon yn sionc a digrifol, eraill yn alarus; rhai yn oddaith o yspryd rhyfel, rhai yn addfwyn fel chwibanogl bugail, tra eraill yn cwynfanu traserch fel y durtur. Trefnu geiriau ar gân a mydr ganadwy ydoedd gorchest y gwaith hwn; ac efe a lwyddodd y tu hwnt i'r un bardd Cymraeg arall a fu o'i flaen, neu a ddaw, ofnwn, ar ei ol Cyffelyb gymwynas ag a wnaeth Moore a Burns i gerddoriaeth genedlaethol Iwerddon a Scotland a wnaeth Ceiriog yntau i'r eiddo Cymru. P'run oedd y goreu o'r tri? meddai rhywun. Wel, ac imi ateb fel Cymro, Ceiriog o ddigon. A pha Gymro bynag a ddywed yn amgen, naill ai ni chollodd ddeigryn erioed uwchben barddoniaeth, neu ni ddarllenodd erioed waith y tri bardd godidog,

Cawn ganddo hefyd tua 25 o ganeuon yn perthyn i'r dosbarth a elwir yn gysegredig. Cyfansoddodd y rhai hyn yn benaf ar gais ac at wasanaeth Ieuan Gwyllt ac Owain Alaw; ac y mae o leiaf un ohonynt yn dwyn nodau yr eneiniad hwnw sydd ar yr emyn a wthia ei hun bob amser i gof a serch y bobl, sef yw hono, "'Rwy'n llefain o'r anialwch," &c.

Am y rhelyw o'i Ganeuon, y maent wedi eu priodi bron i gyd hefo miwsig gan yr offeiriaid cerddorol canlynol:

J. D. JONES, Rhuthyn.
OWAIN ALAW.
GWILYM GWENT.
D. LEWIS, Llanrhystyd.
ALAW DDU.
J. THOMAS (Pencerdd Gwalia),
Telynor ei Mawrhydi.
BRINLEY RICHARDS.
Dr. JOSEPH PARRY. Mus. Doc.
D. EMLYN EVANS.
JOHN THOMAS, Llanwrtyd.
EDWARD STEPHEN.
IEUAN GWYllt.
D. JENKINS, Mus. Bac.
R. S. HUGHES.
JOHN HENRY.

Ac un o leiaf ohonynt gan Alaw Trevor, Gomer Powell, Ellis Roberts (Eos Meirion), a D. S. Parry, Llanrwst, yr olaf mor ddiweddar ag Eisteddfod Llundain. Fe welir mai ychydig o'i blant caneuol ef sydd yn ddibriod.

Ac yn awr, er mwyn cylymu y ddolen gyntaf yn y dalaith o fythwyrddion y buom yn ceisio ei gwau a'i dodi am arleisiau teilwng y bardd clodfawr, ni a ail-ddywedwn yma yr hyn a welir yn tudal. 5:— "Ei ymddangosiad cyhoeddus olaf oedd yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, ddydd Iau, Tachwedd 11, 1886, pan y cymerodd ran yn y cynulliad brwdfrydig i ddathlu cyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn sicr oedd arwr y cyfarfod hwnw. Mynodd y dorf ei gael i ffrynt y llwyfan, a rhoddi iddo groesaw teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu gwlad; a chroesaw ydoedd na chafodd yr un bardd Cymreig erioed o'r blaen, hyd y gwyddom, ei debyg."

Yr oedd yn amlwg y pryd hwnw fod rhyw afiechyd cyndyn wedi cymeryd gafael yn ei gyfansoddiad cadarn; er fod cyfarfod cynifer o'i hen gyfeillion yn ei sirioli am y tro, edrychai yn swrth, blinedig, a dwysfyfyriol. Lletyai tua 25 o lenorion, o Ddehau a Gogledd, yn yr un gwesty ag ef; ac yn ol arfer y frawdoliaeth hono, cynalient bob nos fath o noswaith lawen, i siarad ac ymgomio am farddas eu gwlad; ond efe, mor wahanol i'w arferiad, a giliai yn gynar i'w wely, gan ddewis gorphwysdra yn hytrach nag hyd yn nod gymdeithas ei gyfeillion llenorol—yr hon oedd mor amheuthyn ganddo. Ar ei gais, cysgem ein dau yn yr un ystafell; ac nid oedd Clwydfardd a Gwilym Eryri yn nepell. Penderfynodd ddychwelyd gyda'r trên oedd yn gadael Gorsaf Euston rhwng unarddeg a haner, nos Wener. Ceisiais fy ngoreu ei gymhell i aros tan dranoeth, gan y buasai'r daith yn fwy cysurus iddo yn y dydd nag yn yr oriau trymaidd hyny. Pa fodd bynag, adref y mynai fyned. Aethum i'w hebrwng i'r Orsaf; ac ychydig feddyliwn pan yn ysgwyd llaw âg ef wrth ymadael, ac y dywedai, "Rhaid i mi fyned y mae genych chwi ragor i'w wneud yma,' mor awgrymiadol oedd ei eiriau, ac mai dyna y tro diweddaf y gwelwn ef ac y clywn ei lais.

Dychwelodd adref i fynwes ei deulu yn ddyogel; a dychwelodd yr afiechyd gydag ef, gan enill nerth a gafael arno o ddydd i ddydd. Cafodd gystudd maith a phoenus. Gweinyddid arno yn ddyfal a gofalus gan ddwylaw tyner ei briod hoff a'i ddwy ferch. Ceisiwyd cymhorth y meddygon goreu; a daeth y meddyg enwog, Syr Wm. Roberts, yr holl ffordd ac yn un swydd o Fanchester i Gaersws i'w weled. Ond ni thyciai dim. Yr oedd ei afiechyd o natur ddyrys iawn, yn codi i ddechreu oddiar ryw anhwyldeb yn yr afu (liver), ac wedi cael ei ben yn mlaen cyn i neb dybied fod perygl. Treuliodd ei ddeufis olaf megys yn y "porth," ystafell ddifrif cystudd, a'i boenau ar brydiau yn arteithiol. Ond hyd yn nod yn ystod yr amser hwn, deuai ei hen serch at ganu. Un diwrnod, galwodd yr hen delynor, Roberts o'r Drefnewydd, a'i fab, i edrych am dano; a gofynodd iddynt chwareu ei hoff hen alaw, "Toriad y Dydd," ac un arall o'i anwyliaid, "Home, sweet home," tra yr ymunai ei ddwy ferch yntau ar y berdoneg a'r crwth. Felly fu; ac ymddangosai wrth fodd ei galon yn gwrando arnynt. Dyma'r tro olaf iddo glywed acenion yr offeryn a ganmolodd gymaint, ac a garai mor fawr, "Telyn fy Ngwlad;" ac felly, yn ei eiriau am Ddafydd y Garreg Wen, "Roedd pob tant yn chwareu'i ffarweliad ei hun."

Tystiolaetha pawb yn unfryd iddo oddef ei gystudd trwm a hirfaith fel Cristion ffyddiog, yn gyflawn amynedd a gostyngedig barch i'r Drefn Fawr. Yr oedd hyn yn galettach gorchwyl i ddyn o'i anianawd ef, pan gofion mor hoff o natur ydoedd, ac mor anhawdd oedd ymadael â'r ddaear hawddgar hon yn ngwanwyn y flwyddyn pan ddisgynai cân y gog a phrydyddion y dail ar ei glust, a phan oedd dolydd yr Hafren yn glasu i fywyd gerbron ei lygaid—ac y gorfodid ef i ymsynio, "'Rwyf fi yn dechreu marw, a chwithau'n dechreu byw." Ond yn ymostyngar, yn yspryd yr ymadrodd, "Gwneler Dy ewyllys," ac yn y gobaith gwynfydedig fod byd ar ol hwn, lle y mae prydferthwch, purdeb a daioni yn cartrefu, ehedodd ei enaid i'w helfen ei hun, ddydd Sadwrn, Ebrill 23, 1887.

Gan fod adroddiad mor gryno a destlus wedi ymddangos am yr angladd yn Gwalia, am Mai 4, nis gallwn wneud dim gwell na'i ddyfynu:

CYMERODD claddedigaeth y bardd enwog a chlodfawredig John Ceiriog Hughes le am haner awr wedi dau o'r gloch brydnawn ddydd Mawrth diweddaf, yn mynwent Llanwnog, sir Drefaldwyn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. D. Parry, M.A., ficer y plwyf. Yr oedd trefn y claddedigaeth fel y canlyn:-Cyfeillion a chymydogion, yr elor-gerbyd, galar-gerbydau, perthynasau. Wedi cyrhaedd eglwys Llanwnog, yr hon sydd tua dwy filldir o Gaersws, chwareuwyd anthem briodol ar yr amgylchiad gan Mrs. Arthur Hickman. Darllenodd y ficer y gwasanaeth agoriadol yn Saesneg, a'r Parch. J. Hughes, y curad, a ddarllenodd I COR. xv. yn Nghymraeg. Wrth y bedd gwasanaethwyd yn Saesneg gan y ficer. Yr oedd yr arch yn un hardd iawn, wedi ei gwneud o dderw cadarn, caboledig, ac ynddi hi y gollyngwyd y bardd mawr a'r cyfaill diragrith i'r bedd. Yr oedd nifer fawr o goron-blethi ar yr arch wedi eu gwneud i fyny yn gywrain o'r blodau prydferth y canodd Ceiriog mor anwyl am danynt. Dyma y cyfan a dorwyd ar gauad yr arch:-"John Ceiriog Hughes. Bu farw Ebrill y 23ain, 1887. Oed 54ain.' Yr oedd Cymdeithas y Cymrodorion, Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Rhyddseiri yn cael eu cynrychioli yn yr angladd. Derbyniwyd pellebron a llythyrau yn amlygu eu cydymdeimlad â'r teulu, a'u gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol, oddiwrth Mri. Stuart Rendel, A.S., D. Davies, Llandinam; D. Evans, M.R.C.V.S., Haverfordwest; P. W. Corrigan, Cymdeithas Freiniol Dublin; T. Marchant Williams., B.A.; Stephen Evans, Llundain; E. Rowley Morris, Llundain; W. Cadwaladr Davies, Bangor, &c.

Ar y cyntaf, dymunai yn ei ewyllys gael ei gladdu yn ymyl ei rieni yn mynwent Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ac i'r "angladd fod yn un preifat." Ewyllysiai hefyd, "Gwell genyf wasanaeth Eglwys Loegr; a dymunaf yn mhellach, ar fod caniatad yr awdurdodau priodol yn cael ei ofyn i blanu ywen Wyddelig wrth ben fy medd." Yn ddiweddarach, newidiodd y dymuniad blaenaf, gan ddewis yn hytrach gael gorwedd yn mynwent y plwyf y treuliasai ei flynyddau olaf ynddo—Llanwnog. Saif y Llan bychan prydferth ddwy filldir o Gaersws, ac mewn cwm bychan, neillduedig, yn ngwaelod gallt fawr o goed, a elwir 'Glyn Mytton.' Adgyweiriwyd yr adeilad tua 25ain mlynedd yn ol, ond cadwyd yr hen oriel dderw a ddefnyddid gynt fel côr ganu, a dodwyd hi yn ol ar draws yr eglwys rhwng y darllenfa a'r ganghell. Pan ymwelsom â'r lle fore y Sul diweddaf yn Awst, ni chlywsom fawr erioed mewn eglwys fechan wladaidd ganu melysach na phregeth amgenach. Ac islaw yr eglwys mae'r bedd hwnw a dyn ddynion ato am ganrifoedd lawer; y llecyn wedi ei dewis ar y fynwent, fel os gwel goroeswyr y bardd yn dda godi colofn i ddynodi y fan, gall ymdeithwyr ar linell y Cambrian ei gweled wrth fyned heibio. A dianmheu o hyn allan y bydd llawer Cymro wrth drafaelu heibio Caersws yn dodi ei ben allan o'r trên er mwyn cael golwg ar y "tŷ lle bu farw Ceiriog," ar y naill ochr; ac ar "Lanwnog, anenwog hyd yn hyn," fel man sydd yn cynwys llwch "prif-fardd telynegol y Cymry," ac un a dreuliodd ei fywyd i'w difyru, eu dyddanu, eu haddysgu a'u lleshau.

Yn ei gystudd diweddaf, cyfansoddodd yr englyn canlynol, gan ei fwriadu, meddir, yn feddargraff iddo ei hun:

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol:
Dyma ei lwch, a dim lol.

Clywsom aml un yn gofyn, "Tybed mai Ceiriog a'i gwnaeth? tybed mai yn ei gystudd y gwnaeth ef? ac ai tybed y bwriadai ef yn feddargraff iddo ei hun?" Pa'm? meddwn. Y mae'n wir i gyd; a'r dymuniad ar y diwedd yn gwbl gyson à natur ddihoced yr awdwr. Beth sydd gasach i ddyn gonest a geirwir na meddwl y bydd ei lwch yn gorwedd tan weniaith anwir? Gwelir ynddo hefyd wyleidd-dra cysefin y bardd wrth son am dano ei hun; cyfeiria yn y tair llinell gyntaf at y gorphenol-yr hyn a wyddai; nid oes air am y dyfodol, am yr hwn nis gwyddai ond trwy weithrediad ffydd; ac nid ar gareg fedd y dylid cyffesu ffydd, am y rheswm mai arall yno fydd yn gwneud y gyffes trosom.

Gwnaeth ei farwolaeth fwlch pwysig yn rhengau awenyddion Cymru; ac yr oedd ei golef, ar ol cynifer o feirdd a llenorion penigamp yn ystod y deng mlynedd diweddaf, yn golled drom iawn i lenyddiaeth Gymreig. Syrthiodd yn anterth ei rwysg, wedi i'w athrylith ymddadblygu, ac, ar ol rwysg, medr mawr a phrofiad helaeth; pan oedd maes ei feddwl wedi ei wrteithio a'i drin yn gampus, a phan y gallesid disgwyl ffrwyth addfed gwerthfawr oddiarno am o leiaf ugain mlynd yn rhagor. Traethwyd ar hyn yn helaeth ac yn deimladwy gan holl newyddiaduron Cymru, Cymraeg a Saesneg, ar y pryd. Datganodd y beirdd eu colled am dano. a'u galar ar ei ol, megys Clwyd fardd, Dyfed, Tudno, Dafydd Morganwg, Watcyn Wyn, Isaled, Alafon, Elfyn, Ieuan Ionawr, Glan Llyfnwy, Tudwal, Idris Vychan, &c. Traddododd Mr. Marchant Williams anerchiad dyddorol arno yn nghyfarfod y Cymmrodorion yn Llundain, yr un noson ag y darllenwyd sylwedd y llyfr hwn; ac ymddangosodd erthygl ragorol gan y llenor profiadol Llew Llwyfo ar "Fywyd ac Athrylith Ceiriog" yn y Geninen am Gorphenaf diweddaf. Nid yw hyn ond dechreu; y mae awduron heb eu geni eto a darllenant, a edmygant, a glorianant, ac a drysorant bob chwedl, bob traddodiad, a phob siw a miw, am y bardd trylen JOHN CEIRIOG HUGHES.

Nodiadau

[golygu]
  1. Jiwbilî aur (50ml) Teyrnasiad Brenhines Victoria
  2. Prif lythyrenau enw yr adeiladydd, meddir.
  3. Defnyddia'r bardd y gair gweddw yma, er mwyn cryfhau, a hwyrach ddyeithrio y darlun; gan nad oedd ei fam yn weddw ar y pryd yn ystyr gyffreddin y gair.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.