John Jones (Ioan Eifion) Cymru 1896
| ← | John Jones (Ioan Eifion) Cymru 1896 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
Y Parch. John Jones (Ioan Eifion).
"YM mhob gwlad y megir glew," medd y ddiareb, ond er hynny, y mae rhai gwledydd, a rhai parthau a rhanbarthau o wledydd, yn fwy toreithiog of enwogion, plant athrylith,—na'u gilydd. Y mae rhywbeth yn fwy hynod yng NgharnDolbenmaen, canolbarth Eifionnydd,— mewn llawer o bethau nag sydd yn y parth uchaf a'r isaf. Pan y byddwn, megis o ddamwain, ambell dro, yn cael y fraint o sangu ar hen ddaear gysegredig y Garn, byddwn yn teimlo fel yn barod i dynnu fy esgidiau oddiam fy nhraed. Cofiwn am yr enwogion a gysegrasant lwybrau y lle â'u Thodiad santaidd; cofiwn am y rhai a gyfodasant yno; Elis Wyn, A.M.; Thomas Ellis, A.M., awdwr o gryn nod; John Williams a'i frawd O. A. Williams, M.A., D.D.; Griffith Jones; Moses Jones; Richard Jones; William Evans, &c. Cofiwn am yr ugeiniau o wŷr celf a godwyd yno o bryd i bryd; a chofiwn fod yr awen hithau wedi hoffi y parth hwn yn hynod, oblegid ganwyd yno lawer o feirdd naturiol,—mor naturiol yn rheoliad yr awen ag yw yr afonydd Dwyfor a Dwyfach, megis y Parch O. Griffith, (Giraldus), cyhoeddydd a golygydd y Wawr, yn America, yng nghyda'i frawd—Ieuan Dwyfach; Myfyr o'r Coed,—awdwr y llyfryn a elwir "Gwlith Eifion.". Yma, mewn bwthyn bychan, llwyd, o'r enw Tan yr Ogof, y ganwyd yr awenyddol Bedr Fardd; ac o fewn ergyd carreg iddo, mewn bwthyn o'r enw Bryn Moel, Tachwedd 6, 1839, y ganwyd gwrthrych yr ysgrif hon—Ioan Eifion, yr hwn y bu i'w rieni, Dafydd a Margaret Jones, ofalu am iddo gael yfed o elfennau dysg yn dra ieuanc, drwy ei anfon i ysgol Dolbenmaen at Mr. Owen Griffith,—athraw da a llafurus iawn. Fel arfer y gymydogaeth lle y ganwyd ac y magwyd ef, dechreuodd Ioan ei yrfa drwy ddilyn ei dad i Chwarel Gorseddau, o gylch y flwyddyn 1856, i ddysgu gwaith gof—crefft gyhyrog iawn; ac felly amddifadwyd ef o fanteision addysg uwchraddol yng nghyfnod ei ddadblygiad; ond dysgodd ei grefft yn rhagorol. Y tro cyntaf i mi ei weled oedd yn Chwarel Hendref Ddu, o gylch un mlynedd ar bymtheg ar hugain yn ol. Edrychai y pryd hwnnw yn ddyn ieuanc syml, dirodres, a ferchog; hoffais ei ymddanghosiad, a ffurfiais sarn ffafriol am dano yr adeg honno, ac fe ddyfnhawyd yr argraffiadau ffafriol hynny gan adnabyddiaeth cyflawnach, a chyfeillgarwch cynnes blynyddoedd dilynol i hynny.

Mae yr awen yn llinell amlwg yn nodweddu ei dylwyth,—deilliodd o hen deuluoedd parchus iawn. Y mae yn ddisgynnydd o ochr ei dad o deulu Ioan Madog; Beuno; Alafon; Llifon; Geraint; y Parch. Humphrey Williams, Ffestiniog, &c. O ochr ei fam, disgynna o deulu Eben Fardd; Griffith Jones y Garn; Robert Williams, Bwlchderwin, &c. Ac y mae yntau yn meddu gradd uchel o'r ddawn angenrheidiol i wneuthur bardd o'r iawn ryw, fel y dengys ei lyfr, "Y Blaguryn, sef Rhyddiaeth a Barddoniaeth," a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1868. Heblaw hwn, nid ydwyf yn gwybod pa faint o farddoniaeth ysgrifennodd, ond y mae yr hyn sydd ar glawr yn ddigon i ddangos fod ganddo dant ei hun i ganu arno—tant effeithiol, llawn o'r teimlad cynhesaf a goreu. Y fath yw ei gof fel y gall adrodd ar ei dafod y rhan fwyaf o waith beirdd Eifionnydd, hen a diweddar, fel y bo yn bleser i bawb o'r un archwaeth fod yn ei gyfeillach. Ei hoffusion, er hynny, yw Robert ab Gwilym Ddu, Dewi Wyn, Pedr Fardd, ac Eben Fardd. Heblaw bod yn fardd, y mae efe wedi llanw y swydd feirniadol droion yn y cyfarfodydd lleol, ac wedi rhoddi boddlonrwydd i bawb yn ol dim a glywais. Ystyrrir ef mor ragorol fel llywydd cyfarfodydd llenyddol, dirwestol, neu gyfeillachol, nes achosi i'r bardd Hywel Cefni ddweyd am dano ei fod y "doniolaf dan heulwen." Medda anianawd fywiog, ffraethder awchus, pertrwydd boneddigaidd, ac os bydd eisieu taro y mae min ar ei gledd. Derbyniodd argraffiadau crefyddol pan yn lled ieuanc, a chynhyrchwyd ynddo awydd dwfn i roddi ei hun i'r Iesu ac i'w bobl, a phan yn ddwy ar bymtheg oed gwnaeth broffes gyhoeddus o hynny, pryd y gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd arno gan y Parch. John Williams, gweinidog y Garn y pryd hynny. Y mae efe yn fedyddiwr oddiar ymchwiliad a dwfn argyhoeddiad, a chanddo farn o'i eiddo ei hun—nid eilun o farn ei gymydog. Ymhlith ei frodyr crefyddol, adnabyddir ef fel cyfaill diamheuol, caredig, rhwydd ei galon, egwyddorol dda ei fucheddiad; a sicr yw ei fod yn ddyn o wybodaeth eang iawn, yn ddarllennwr mawr, ac wedi prynnu llawer o lyfrau, nid i fod yn addurn yn ei dŷ, nac yn bethau i edrych arnynt, ond i'w darllen a'u chwilio. Trwy hyn casglodd lawer o wybodaeth, yn neilltuol yn y cylch y mae yn troi ynddo. Y mae ei gof yn eithriadol o gryf, fel y gellir dweyd am dano ei fod yn fath o gofnodydd o holl deuluoedd y cymydogaethau, a hefyd o'r gweithiau poblogaidd y bu yn gweithio ynddynt; ac nid gwybod rhyw bethau am y cyfryw leoedd, ond yn meddu ar adnabyddineth bersonol o'r rhan fwyaf o'r trigolion, ynghyda gwybodaeth fanwl am eu perthynas a'u gilydd, a gellir dweyd, nid yn unig ei fod ef yn adnabod y bobl, ond fod y bobl yn ei adnabod yntau, yr hyn a ddengys fod ganddo ryw allu neilltuol i ennill eu hymddiried, rhyw swyn serch a agora galonnau i roddi lle cynnes iddo. Pa le bynnag y cyfarfyddir ag ef, amhosibl cael difyrrach cydymaith, a diau nad oes neb yn fyw heddyw yn cofio mwy o chwedlau diniwed, ac hanesion difyr, nag efe; ac iechyd i ysbryd y pruddglwyfus fydd bod am ychydig yn ei gwmni.
Wedi bod yn crwydro i weithio o le i le, sefydlodd o'r diwedd yn hon ardal enwog Tal y Sarn, ac yn y flwyddyn 1880, symudodd ef a'i deulu yno i fyw. Symudiad pwysig oedd hwn iddo ar amryw ystyron. Yma, yn fwyaf neilltuol, y daeth i'r amlwg helaethrwydd ei ddefnyddioldeb, ac amldra ei weithredoedd. Gweithiodd yn egnïol gyda gwaith yr Arglwydd mewn gwahanol swyddau. Mae yn ddiacon, yn drysorydd, ac ymddiriedolwr y Bedyddwyr yn y lle ers pymtheng mlynedd; ac ymroddodd mewn amser ac allan o amser i gyflawni yn onest a ffyddlon yr ymddiriedaeth a roddes yr eglwys arno. Llinellau amlwg yn ei gymeriad ydyw cyfeillgarwch, prydlondeb, ffyddlondeb, a gwresogrwydd ysbryd. Danghosodd lawer iawn o ffyddlondeb i'r cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddiau, ac yn neilltuol i'r cyfarfodydd dirwestol a'r Ysgol Sul, ac nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneuthur er hyrwyddo eu llwyddiant. Anhawdd cael neb i fyned tuhwnt iddo mewn defnyddioldeb; y mae yn gynghorwr medrus, yn geryddwr effeithiol, ac yn ddisgyblwr gonest. Llawer o'r areithiau a'r anerchiadau pwrpasol a draddodid ganddo yn y cyfarfodydd dirwestol a'r Ysgol Sul, a ddarperid ganddo ymlaen llaw; ysgrifennai hwy yn ei dŷ ei hun, a thraddodai hwy yn hwylus gyda gwres, egni, ac eglurdeb yn nhŷ Dduw. Y mae ei fywyd diargyhoedd yn cysylltu y ddau do â'u gilydd, a chrefydd y naill yw crefydd y llall.
Nid yn fynych, hefyd, y cyfarfyddir ag un a fedda gymhwysder a thalent mor neilltuol i ymwneyd â phlant a phobl ieuainc. Gall gael ganddynt wneuthur yn rhwydd yr hyn, feallai, a fyddo yn gryn gamp i eraill. Pan byddo yr holi dipyn yn sych a di-fywyd mewn ambell i gyfarfod, dim ond galw ar Ioan Eifion, a bydd y lle yn ferw ar unwaith—y plant mewn hwyl fawr, a phawb wrth eu bodd yn gwrando.
Y mae efe yn ddyn hollol ar ei ben ei hun—neb yn y fintai grefyddol yn debyg iddo; a phan y dywedaf ei fod bob Sul a phob cyflychwyr drwy'r wythnos ymron yn "myned o amgylch ogylch" i wneyd daioni, trwy areithio dirwest, darllen a gweddio, dywedaf ddigon i brofi yr haeriad; ac nid yw ychwaith wedi cyfyngu ei dalent a'i lafur i'r cylch hwnnw yn unig, eithr safodd i fyny yn fynych i "gynghori tipyn," fel y byddai yr hen bobl yn galw pregethu, gan fod yn fath o genhadwr cartrefol di-dal yn y cylch; ac er bod yn Fedyddiwr selog, y mae yn ddigon mawr i allu byw a chydweithio mewn corlannau ereill, a'i galon a'i law yn agored i wneyd cymwynas i ddyn mewn cyfyngder ac angen, beth bynnag fyddo ei farn a'i gredo. Yn y cymeriad hwn rhoddodd ei droed ar yr ysgol, esgynnodd o ris i ris gan chwerthin anhawsderau yn darth, fel erbyn heddyw y mae wedi cyrraedd y pinacl—wedi ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Pregethwr o waith natur yn gyfangwbl yw efe, wedi ei fendithio a chyfansoddiad cryf a chadarn, llawn nwyf a bywyd cymhwys i waith caled a diarbed. Ni wyr am ddiogi a seguryd, gan na chawsant erioed fantais i wneyd eu nyth yn ei gyfansoddiad. Wni ddim a ŵyr efe beth yw gwir lonyddu oddiwrth waith pan yn gorffwys. Bydd mewn ysgogiad drachefn fel ambell beiriant cyn llwyr lonyddu, wedi darfod un gorchwyl, yn dechreu ar un arall. Canfyddir y nodweddau hyn yn ei holl gylch-fywyd. Ar ei oreu yr arfera wneyd popeth—areithia, gweddia, a phregetha a'i holl egni, ac y mae hynny yn dweyd llawer wrth y rhai a wyddant am adnoddau ei fywyd. Medda ar lais soniarus, a thipyn bach o'r hen dinc Gymreig felodaidd ynddo; ond y mae ei lond o'r tân Cymreig, ac ar allor eglwys a chynulleidfa dipyn yn gynnes gall danio'r allor mor naturiol a chyfodiad gwlithyn ar foreu tesog o haf.
Am ei nodweddau yn gyffredinol yn ystod ei gylch-fywyd, gallaf ddweyd ei fod yn ddyn o ysbryd tanllyd, yn agored i gyffroadau sydyn, yn wrol a phenderfynol, yn ddadleuydd chwim er gwrthwynebu yr hyn a ystyria yn gyfeiliornus; ei fod yn nodedig am burdeb a phwysau cymeriad fod ei farn yn gywir a diogel, ei argyhoedd iadau yn gryfion, a'i ffyddlondeb i'w cario allan yn ddi-droi-yn-ol.
Gwynebodd fyddin o rwystrau yn ei anturiaethau, ond gorchfygodd hwy un ac oll. Heddyw y mae haul llwyddiant yn tywynnu ar ei amgylchiadau tymhorol, a'm dymuniad cywir ydyw ar i haul mawr y cyfiawnder dywys y ffordd iddo i lawr glyn nawn-ddydd einioes.
PHILOS.[1]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Mae'n debyg mae Philos Phillip Charles Davies, yw'r gohebydd, mae'n bosib mae Philos o'r Cwm Phillip David Phillips, ydoedd (roedd Philos o'r Cwm yn hepgor yr o'r cwm yn aml). Roedd y ddau yn gyfranwyr toreithiog i gylchgronau Cymru yn ail hanner y 19G, ond prin yw'r wybodaeth fywgraffiadol am y naill na'r llall
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.