Neidio i'r cynnwys

Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Chwedlau Arian Cudd

Oddi ar Wicidestun
Lleoedd yn Nghyda'u Henwau Llen Gwerin Sir Gaernarfon

gan John Jones (Myrddin Fardd)

Hen Gawri

PENNOD VIII.
CHWEDLAU ARIAN CUDD.

LLAWER O chwedlau digrif a dyddorol sydd yn nglŷn a hen drysorau neu arian cudd, y rhai ag y credid mor gryf ynddynt yn yr amser gynt—credid y byddai crochan yn llawn o aur yn y fan y gwelid blaen yr enfys ar y ddaear, wedi ei guddio yno gan hen gybyddion, ac y byddai crocheneidiau o aur yn nghudd mewn ogofau ac o dan geryg mawrion ar hyd a lled y wlad, a rhoddid ar ddeall i'r werin hygoelus y byddai ellyllon yn eu gwylio, gan godi ystormydd peryglus os aflonyddai neb arnynt, eithr er maint y dirgelwch a'r perygl oedd gyssylltiedig â hwy, yr oedd gan yr hen bobl gyfarwyddiadau cyfatebol i hyny tuag at gael gafael arnynt, megis y rhai canlynol:—"I gaffael arian cuddiedig, ysgrifenwch y marciau isod ar bapyr gloew, ar awr y bo y lleuad yn llawn, ar ddydd Sadwrn, a rhowch o yn y fan lle bo chwi yn meddwl bod arian; ac os bydd, fe gymmer y papyr dân o hono ei hun. (Yna y canlyn nifer o farciau). Eto, os ydych chwi wedi colli rhywbeth y byddai o bwys genych gael gafael arno yn ddiffael, dod y llythyrenau hyn ar dy glust pan elych i gysgu, a thi gei weled cyn y boreu y fan y bo y peth a gollech, nid amgen na rhai hyn—i—u—f-y-c—y—ll—z—o—phules—e."

"Mewn cyssylltiad â Chlogwyn yr Ogof a Chareg y Gwalch, yn Nant Conwy, adrodda Giraldus Cambrensis chwedl hynod yn nghylch y dyn a gollodd ei ffordd yn y niwl, ac a grwydrodd i Ogof Dafydd Siencyn, lle y gwelodd y crochanaid aur berwedig, a lliaws o ryfeddodau ereill nad oes neb yn y dyddiau hyn wedi bod yn ddigon ffodus i'w darganfod. Y mae gan Mr. Wright, hefyd, yn ei Scenes in South Wales, chwedlau dyddorol am ryw ddynion penchwiban a gloddiasant i mewn i'r Ogof hono, ac ar ol iddynt fyned i mewn mor bell ag y cymhellai eu dewrder hwy, gwelsant gist dderw fawr wedi ei chylchu yn gryf â haiarn, a bwch gafr anferth yn sefyll ar ei cheuad, ac yn troi ei ben oedranus i ddilyn symudiadau yr ymchwilwyr. Mae y gist yno eto, ac nid oes debygolrwydd i neb gael ei gynhyrfu ag awydd neillduol i fyned yno i'w chwilio, gan y lled awgrymir fod y Bwch hwnw yn perthyn i ryw ddosbarth o fodau nad yw y natur ddynol yn caru eu presenoldeb."

"Traddodiad a ddywed ddarfod i ddau frawd —bugeiliaid defaid, fyned i Giltwllan, plwyf Llanllechid, i fyny i'r Benglog, i edrych am eu defaid. ac yno mewn lle annghysbell, canfu yr ieuengaf dwll yn arwain i ogof ardderchog, yn nghanol yr hon yr oedd bwrdd crwn, ac ar y bwrdd bentyrau rheolaidd o aur ac arian, ond ni feiddiai fyned i mewn i'w cyrchu, am fod yn sefyll yn eu hymyl filgi â llygaid tanllyd yn tremio arno, ac yn barod i ruthro iddo, os meiddiai fyned i mewn. Ar hyn aeth y bachgen yn ol at ei frawd, ac wedi ei oddiweddyd adroddodd iddo yr hyn a welodd, a throdd y ddau yn ol i chwilio am yr ogof; ond er cymaint eu hawydd a'u hymdrech, methasant a'i chael.

Dro arall, aeth gwr ieuangc o'r un ardal i geseiliau y mynyddoedd, yn nghymmydogaeth Llyn Ogwen, a darfu iddo yntau ganfod ogof, ac o'i mewn gyflawnder o lestri pres, o bob ffurf, ac yn ei lawenydd, neidiodd i gymmeryd gafael yn un o'r llestri i'w dwyn ymaith, ond Och! yr oedd yn rhy drwm i un dyn allu ei symud; gan hyny, gyda'r bwriad o fyned yno dranoeth gyda chyfaill i'w gynnorthwyo, efe a gauodd enau yr ogof, a phan orphenodd daeth i'w feddwl fod ereill fel yntau, wedi dod o hyd i ogofau, ond ddarfod iddynt hwy, druain, drwy eu diffyg gofal, eu colli drachefn; a rhag i'r fath anffawd ddigwydd iddo yntau hefyd, meddyliai am roi ryw farc neu nod ar y fan, er ei gynnorthwyo i'w chael drachefn, ond bu yn hir yn methu cael dim a'i boddlonai ar fater mor bwysig; o'r diwedd daeth i'w feddwl naddu ffon oedd yn ei law, a chymmeryd ei hasglodion yn arwyddion ffordd iddo ddyfod yno drachefn. Boreu dranoeth ddaeth, a chychwynodd ef a'i gyfaill i'r mynydd yn hyderus i geisio y trysorau o'r ogof. Ond gyda eu bod yn y lle ag yr oedd y llwybr asglodion i ddechreu, ni welai gymmaint ag un asglodyn, oblegid, meddir, yr oedd y Tylwyth Teg wedi bod yno yn eu casglu bob un! Ac felly aeth y cais hwn eto yn ofer.

Mae traddodiad yn dyweyd mai Gwyddel gaiff y trysorau hyn ryw dro, ac fel hyn, meddir y bydd:—Fe ddaw Gwyddel yn fugail defaid i'r gymmydogaeth, ac ar ei waith yn myned i'r mynydd i fugeilio, ar un o'i deithiau, pan welo ffawd yn dda, fe red llwdn du, penfrych o'i flaen, ac fe red rhag ei flaen i'r ogof, a'r bugail a red i mewn ar ei ol, a phan ar ei ddyfodiad i mewn, er ei fawr syndod, efe a genfydd y trysorau ac a'u cymmer. Fel hyn, meddir, y dychwelir eiddo y Gwyddelod iddynt eto mewn rhyw oes.

Oddeutu can' mlynedd yn ol, yr oedd Meillionen yn mhlwyf Beddgelert yn cael ei chyfaneddu gan ddau hen langc o Leyn. Un dechreunos, yn nghanol y gauaf, tra yr oedd yr hen langciau a'u gweision yn llawen ymgomio yn nghyd wrth eirias o dân mawn. "Ust,"meddai un o honynt, "mae yna rywun yn y drws," a chyda hyny daeth dieithrddyn i mewn gan ddywedyd,—"Bendith Duw yn y ty hwn," yn ol dull yr hen bobl dda er ys talm; rhoddwyd lle i eistedd iddo wrth y tân, ac estynwyd bwyd iddo. Wedi gwneyd yr hyn a allent i'r gwr dieithr, aed yn mlaen gyda'r chwedleua ond pur ychydig o sylw oedd y gwr dieithr yn ei wneyd o ddim a ddywedid ganddynt, ac ymddangosai fel pe buasai rhywbeth pwysig ar ei feddwl; o'r diwedd aeth yn adeg myned i orphwys, ond cyn myned erfyniodd y dieithrddyn am gael dweyd ei neges, "oblegid heb hyny," meddai, "nis gallaf gysgu munud yn fy ngwely." Caniatawyd ei gais yn rhwydd, ac yntau a ddywedodd mai gwr o Fon oedd efe, a'i fod yn cael ei flino fyth a hefyd gan freuddwydion yn nghylch rhyw drysorau gwerthfawr oedd yn nghudd mewn rhyw hen furddyn. "Yn fy mreuddwyd," meddai, "gwelwn hen wr bychan yn dod ataf, gan erfyn yn daer arnaf ddod gydag ef at yr hen furddyn, y cawn i a'm tylwyth ddigon o fodd i fyw os y deuwn." Gofynwyd iddo a wyddai yn mha le yr oedd y murddyn, a pha enw oedd arno; atebai yntau y gwyddai—fod yr hen wr a welsai efe yn ei freuddwyd wedi dweyd mai Hafod Ernallt oedd enw y murddyn, a'i fod ar dir Meillionen, ac fod y trysor dan gareg mewn rhyw gornel neillduol o hono. Gofynodd un o'r hen langciau iddo a allai efe adnabod y lle pe dangosid ef iddo.

"O gallaf yn sicr," meddai yntau. "Y mae yn dda genyf hyny," meddai yr hen langc, "oblegyd nid ydwyf yn gwybod am furddyn o'r enw yna ar y tyddyn yma, ond gwn am furddyn tebyg i'ch darluniad ar fferm o'r enw Meillionen, yn mhlwyf Ceidio yn Lleyn. Ai tybed eich bod wedi camgymmeryd y ddau le?" Taflodd hyn y gwr o Fon i gryn benbleth, a chydsyniodd y gallai ei fod wedi camgymmeryd. Boreu dranoeth cyn caniad y ceiliog, cyfododd yr hen langciau a chyfarwyddasant y gwr dieithr i fyned tua Lleyn, ac aethant hwythau eu dau i'r hen furddyn, ac wedi chwilio ychydig daethant o hyd i gareg, ac o dani caed y trysor, fel y dywedwyd. Yn mhen deuddydd neu dri dychwelodd y breuddwydiwr o Leyn, wedi ffaelu dod o hyd i'r murddyn, a phan oedd yn dyfod drwy'r bwlch at Meillionen adnabu Hafod Ernallt, ac aeth yno, canfu y gareg, ac wedi iddo ei chodi canfu, er ei alar, fod rhyw rai wedi bod yno o'i flaen "

Y mae yn Mryn y Ffynnon, plwyf Llanystumdwy, gareg fawr, a thraddodiad yn mynegi fod crochanaid o aur yn nghadw dani; ond hyd yn hyn ni welodd ffawd yn dda ganiatau i neb gyffwrdd â hi, oblegyd mor fuan ag y cynygid ymyryd â'r gareg gyda'r bwriad o'i threiglo ymaith, gwgai y ffurfafen, a deuai yn ystorm o fellt a tharanau mor hynod, fel mai hawdd i bawb wybod am ba beth.

Er ys oddeutu 60 mlynedd yn ol, tra yr oedd hen wr o'r enw Ifan Tomos, yn tori tywyrch yn Mynydd Tin-y-Cwmmwd, plwyf Llanbedrog, llithrodd ei haiarn gwthio ar hyd gwyneb careg fawr, wastad: ceisiodd ei chodi, ond yr oedd y gareg yn rhy fawr; heblaw y dechreuai y wybr glir geulo a brochi, fel ag i ymbarotoi at amddiffyn y gareg a'r hyn oedd dan ei hachles. Aeth yr hen wr adref i geisio cynnorthwy, ond wedi dychwelyd drachefn at y llecyn yr oedd y gareg,. nid oedd yno olwg arni i'w gael, ac ni welwyd mo honi mwy; ond barn doethion yr ardal am dani yw, mai cuddio crochanaid anferth o aur o tani y mae hi hyd yn hyn.

Digwyddodd un tro i Robert Williams, Bodlas, ganfod Padell Bres yn guddiedig gan gareg fawr yn ochr Carn Fadryn; ac yna aeth tua chartref i ymofyn cynnorthwy rhai o'i gymmydogion i'w chodi o'i chuddfan, gan naddu mân asglodion o'i ffon â'i gyllell, o ymyl y gareg nes cyrhaeddyd adref. Ond wrth fyned yn ol, a cheisio darganfod yr asglodion a naddasid ganddo ar hyd y ffordd, er mwyn nodi allan y llwybr, ni welid dim un o'r asglodion, ac, yn ganlynol, ni welwyd byth mo'r Badell Bres.

Yr ol llên y werin, hen greiriau tra hynod oeddynt selerydd yr hen gestyll, y meini hirion, a'r cromlechau—cydbwys yn eu gwerth cyssegredig â'r crochaneidiau aur, oblegyd os ymyrid â'u seiliau hwythau, parod oedd magnelau yr awyr i'w hamddiffyn ar y cyffyrddiad lleiaf; byddai y taranau yn bygynad nes braidd hollti y creigiau, a'r bryniau cyfagos yn ymddangos fel pe ar ymarllwys draws eu gilydd; a'r mellt yn plethu mor agos a mynych fel y gallai un lled gyflym ac eofn danio ei bibell yn rhwydd yn y fflam; a dyna, mae'n debyg yw y rheswm na aflonyddwyd arnynt hyd yr oes oleu hon, pryd y mae rhyddid i bob un wneyd a fyno â hwy, drwy orthrechiad plaid geidwadol hen bethau, yn senedd yr elfenau, gan blaid y chwilfriwio a gwneyd pobpeth o'r newydd; a dyna, fel yr ymddengys, yw yr achos eu bod yn cael eu dinystrio yma ac acw ar hyd a lled y wlad heb i'r gofal lleiaf gael ei arddangos tuag atynt.

O berthynas i gyfnod yr "Arian Cudd," mae yn briodol sylwi fod eu bathiad a'u hamseriad yn profi rhywbeth, oblegyd y mae yn fynych fwy o hanes mewn geiriau a rhifnodau nag y mae yr amlaf—rif o bobl wedi ei ddychymmygu.

"Yr oedd y Cymry yr adegau hyny yn llawn helbul, gelynion i'w gorthrymu, a'u tywysogion yn ymryson pa'r un a gai dreisio ei wladwriaeth greulonaf; coroni un heddyw, y llall yfory yn annghyfanneddu ei derfynau, gan losgi a lladd â thân a chleddyf y cwbl o'i flaen. Yr oedd y dyn a anrheithiai ei gymmydog o'i arian neu ei ddâ, yn deilwng o uchel swydd yn y fyddin am ei wrolder. Oferedd oedd i wr wrth hau ddisgwyl ffrwyth ei lafur; a dyna'r achos y mae cymmaint o hen fathau o ddarnau arian wedi eu cael amryw weithiau yn y ddaear, canys gwell a fyddai gan y naill blaid guddio eu cyfoeth mewn ogofeydd a llochesau, nag iddo ddigwydd i ddwylaw y blaid arall."

Nodiadau

[golygu]