Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Chwedlau ac Ofergoelion
| ← Y Dull o Fyw | Llen Gwerin Sir Gaernarfon gan John Jones (Myrddin Fardd) |
Argoelion → |
PENNOD IV.
CHWEDLAU AC OFERGOELION.
"Gelwais i'm cof, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd,
Ganfod o rai hergod hyll,
Du annillyn dân ellyll;
Drychiolaeth, ddugaeth ddigorff,
Yng ngwyll yn dwyn canwyll corff."
"Ni cherdd y nos chwerw ddyn iach,
Y baban! rhag ofn bwbach;
E wyl y berth olau ei bon,
Was brwd, yn llawn ysbrydion."
WRTH chwedlau ac ofergoelion yr ydym yn deall y gred, neu'r goel ofer a disail ag sydd gan ddynion am ddylanwadau galluoedd a gwybodaeth, personau dynol ac ysbrydol, yr hon sy seiliedig ar draddodiad yn gyffredin, heb unrhyw ffaith neu dystiolaeth safadwy o'i phlaid, yn groes i'r gwyddorau, ac heb ei chadarnhau gan ddatguddiad. Fel rheol, nid oedd dim yn fwy ffodus i'r hen bobl na'u hanwybodaeth am yr hyn oedd yn eu haros yn y dyfodol. Er hyny, awydd cryf oedd mewn llaweroedd i edrych yn mlaen i lyfr eu tynged; ac ni fynent gael gwaredigaeth oddiwrtho—yr oedd yn hyfrydwch gwirioneddol iddynt hwy fyned drwy y cyflawniadau hyny ag oeddynt berthynol i oraclau yr hen oesoedd, yn gystal a'u hoes hwy eu hunain. Os edrychwn cyn belled a'r unfed ganrif ar bymtheg, a'r ddau ganrif ganlynol, yr oedd y tybiau ofergoelus am reibio, consurio, neu ddewino, mor gyffredin fel y meddyliai llawer nad oeddynt un amser yn ddiogel. Yr oedd llawer o'r dynion mwyaf duwiol eu hymarweddiad, y rhai na chymmerent y byd am fod yn euog o ddyweyd celwydd ar unrhyw achos, yn haeru yn y modd mwyaf syml eu bod wedi gweled ysbrydion, wedi ymddiddan â hwynt, ac wedi cael eu cyfarwyddo ganddynt at bethau a gollasid rai oesoedd cyn hyny. Nid yw yn rhesymol i ni gredu fod yr holl ddynion hyn yn Yr rhuthro i ddywedyd anwiredd gwirfoddol. oeddynt hwy mor sicr o'u cred, yn eu meddwl eu hunain, ag oedd bosibl, ac yn ddifrifol. Credent fod y cythraul yn eu haflonyddu yn eu gwelyau, a chrynent fel dail yr aethnen rhag yr epil ddu a fodolent mewn cwn a chathod. Yr oedd hyd y nod eu hanfod yn gyd-gorffoledig ag amryw ddrychiolaethau a gwag eulunod rhyfeddol, a drosglwyddid o dad i fab, ac yn effeithio ar eu meddyliau, yn fwy neu lai, yn ol dyfnder yr argraff ac yn ol eu tueddfryd; canys yr oedd trigolion pob gwlad fugeiliol a mynyddig yn gyffredin yn fwy coel—grefyddol na'r cyfryw a gyfanneddent yn y gwastadedd a'r broydd gwrteithiedig.
I glywed hanes ac achau bwbachod o bob math nid oedd eisiau ond gofalu bod yn y gegin yn nhymor hirnos gauaf, pan fyddai teulu gwan eu cynhyrau yn ffurfio hanner cylch gerllaw y tân, wrth oleu canwyll frwyn yn crogi oddiwrth fantell y simdde; a buasai yn dda genym gael cyfleusdra i ymddiddan â rhai o honynt, er mwyn eu holi yn neillduol, ac i gael gwybodaeth mwy neillduol yn ngylch ymddangosiad goruwch-naturiol a berthynai i rai o ysbrydion di-gorff tragwyddoldeb, ond y mae y cyfleusdra i hyny yn y byd yma wedi ei golli am byth.
Mae yn hysbys i bawb mai yn y nos yn gyffredin yr ymddengys ysbrydion, ellyllon, drychiolaethau, a'r rhan arall o'r teulu hyn; ond paham y dewisant y nos mwy na'r dydd sydd anhysbys. Rhwng hanner nos ac un yw awr hoffusaf ysbrydion, pryd y byddont yn dyfod allan o'r beddau, ac yn rhodianna hyd y mynwentydd, neu chware fel plant o gylch y coed yw. Byddai pob ysbryd hefyd arferol o dyfu fwy—fwy, nes o'r diwedd gyrhaedd rhyw faintioli anferthol. Pan welid ef, teimlid y galon yn llesmeirio gan fraw, deuai chwys oer dros yr holl gorff, a chrynid bob gronyn, llifai y gwaed i'r wyneb, safai y gwallt yn union—syth ar y pen; fel mai hawddach oedd credu mil o'r chwedlau na chymmeryd calon i chwilio i wirionedd un o'r mil; ac os mewn ystafell a chanwyll yn oleu ynddi, llosgai y ganwyll yn wyrddlas bob amser pan fyddai ysbryd yn agos, ac arogl brwmstanaidd a lanwai yr ystafell; fel prin y gallai dyn. gael ei wynt. Gŵyr pawb hefyd na wnai ysbryd un amser ddywedyd y gair cyntaf, ac nad rhyw foesol a diogel i deimlad dyn droi drach ei gefn i edrych ar ei fawrhydi yn myned ymaith. Darlunid ef bob amser braidd ar ddull rhyw greadur neu beth sylweddol ag y byddai y sawl a'i gwelai yn gyfarwydd ag ef; canys gallai ymrithio a chymmeryd pob rhyw iun, oddieithr dafad a cholomen.
Nid oedd na gwas na meistr, na morwyn na meistres, na mab na merch, na gŵr na gwraig, nad oeddynt, yn eu tro, wedi gweled yr Un drwg mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yr oedd un wedi ei weled ar lun ci mawr, yn neidio dros y gamfa o flaen drws y tŷ; un arall wedi ei weled fel boneddiges anrhydeddus, mewn gwisg o sidan gwyn; un arall wedi ei weled heb ben, neu â dau gorn iddo; un arall wedi clywed plentyn yn llefain, a rhyfyg mawr fuasai annghoelio ei eiriau; un arall wedi cael ei arwain ar gyfeiliorn ganddo, pan yn croesi y mynydd adre o'r ffair; un arall wedi ei glywed yn nghydol y nos yn chwyrn-dreiglo ceryg dros drwyn y graig i lawr ar hyd llethr y bryn. Byddai ysbryd yn fynych yn cael ei anfon i gadw meddiant o dŷ dros lawer o flynyddoedd, oherwydd i hen wreigan cyn marw guddio ychydig sylltau ynddo; neu bod yno werth ceiniog neu ddwy o hen haiarn, oblegyd yr oedd fod mewn lle felly ddarn o haiarn cuddiedig mor sicr o dynu ysbryd i'r fan ag yw tynfaen (loadstone) o dynu nodwydd cwmpawd y morwr ato ei hun. Yr oedd yn rhaid cael ysbryd fel ag i fod wrth law bob amser, ysbryd ag y gallesid ei alw i foddloni mympwy: y naill i gynnorthwyo, a'r llall i rwystro gweithwyr i fyned yn mlaen â'u â'u gwaith. Gellir meddwl fod llawer o ddiniweidrwydd yn perthyn i amryw o honynt, tra y rhoddid chware teg iddynt, ac y cedwid rhag troseddu eu deddfau.
Arferol oedd i ysbrydion gynniwair i nentydd, coedydd, neu gilfachau neillduol. Nid oedd odid blwyf lle ni ddywedid am ryw goed, neu dŷ, neu le tywyll, i lange wrth ddyfod o garu weled ynddynt ysbryd; ac ofn mawr fyddai ar blant a gwragedd, a dynion llawn oed, gyrchu iddynt yn y tywyllwch. Weithiau clywid i law anweledig gydio yn nhroed y forwyn a'i llusgo o'i gwely; a mynych iawn y byddai i ysbryd hen gybydd ymddangos, i nodi yn mha le y cuddiasai ei arian, gan deilwng ystyried na ddeilliai unrhyw lesad oddiwrthynt yn y fath le; mai gwell eu troi at rhyw fudd yn mhlith ei olafion.
Megis yn y corff, yn gyffredin o ran natur, yr ymddygai ysbryd allan o'r corff: os yn frwnt, brwnt wedi'n: os yn lled agored ei enau, felly wedi'n; fel yr ymddengys oddiwrth anianawd hirbarhaol "Ysbryd Coed y Faenol," yn llefain ei dynged mor resynol ar nosweithiau ystormus, yn y geiriau,
"Gwae i mi erioed,
Ro'i esgid am fy nhroed
I ladd yn nghoed
Y Faenol."
Bu hwn yn ddychryn i'r ardaloedd am oesau, ac ni ynganid ei enw ond gydag arswyd. Yn ol tystiolaeth llu o etifeddion tir anghof, ysbryd dyn a gafodd ei grogi ar un o'r croesffyrdd am ladradau a llofruddiaethau ydoedd. Yn ol ereill, ysbryd dyn a gafodd ei ladd yn nghoed y Faenol ydoedd ; a'r llinellau cyfeiriedig ato, fel hyn:
"Gwae fi erioed
Ro'i bwyell mewn troed,
I ladd yn nghoed y Faenol."
Ysbryd hynod iawn oedd yr un a aflonyddai breswylwyr Cae-llwyn-grydd, Llanllechid, yr oedd yn curo pawb o'i amgylch! Efe a darawai ddyn yn ei wegil â chareg, pan y byddai yn sefyll a'i gefn ar bared, hyd nes y disgynai ar ei wyneb! Pa mor uchel bynag ydoedd y gwalch hwn yn ei fedrusrwydd i luchio ceryg, yr oedd yn ei fryntwch yn gyfartal ddigon, fel yr ymddengys oddiwrth ei ymddygiadau isel a chreulawn. Hefyd, yn ol hen gerdd, argraffedig yn Nhrefriw, yn y flwyddyn 1784, cawn ddarfod i wr a gwraig, yn mhlwyf Llanllechid, gael cryn fraw oddiwrth anfadwch bwgan a ymddangosai yn rhith mochyn, gan chwalu, tyrfu, dymchwelyd, tori dodrefn, &c.
Marwodd gŵr cyfoethog yn Mhlas Hen, plwyf Llanystumdwy, a daeth ei ysbryd, yn ol arfer gyffredin ysbrydion y pryd hyny i aflonyddu y teulu, fel na chaffent hûn i'w hamrantau. Ar brydiau, byddai'r hen blasdy yn crynu hyd i'w seiliau dan effeithiau ei alluoedd rhyfeddol, megis dan fflangell ambell wthwm ar ol gwthwm o wynt nerthol, y ffenestri yn clecian, a'r piseri dŵr adewid wrth ddrws y cefn yn llenwi yr ardal a'u swn.
Fel yr elai yr amser heibio, ac y cryfhai y brawychdod, bernid gyda dwysder neillduol, mai doeth ymofyn â dewin ar y fath achlysur difrifol, ac efe, fel y gweddai i bwysigrwydd urddas ei swydd ar y pryd, a ymddygodd yn hynod o uniawn yn ngwyneb yr amgylchiad, drwy alltudio yr ysbryd ansyber ac afreolus i'r pantle llawn dyrysgoed ag sydd a'i orweddle rhwng y Plas Hen a'r Gwynfryn; ac fel mae'n hysbys, yr oedd yn rhaid i ysbrydion gwasanaethgar o'r fath gael gwaith parhaus, onide deuent yn ol i aflonyddu drachefn; a'r gwaith a gafodd yr ysbryd hwn oedd, cario ymaith ddwfr yr afon gerllaw â rhidyll, nes cael o hono ei gwely yn sych; a chan fod mwy o dyllau yn ngwaelod y rhidyll nag o ddim arall, cafodd yn ddiau orchwyl digon anhawdd ei gyflawni ; ac fel yr ymddengys, gwaith lled anghysurus ydoedd i ysbryd hen foneddwr ag oedd wedi arfer byw mewn llawnder, seguryd, a phob moethau o'r fath! Gan nad arferol i neb roddi rhyw lawer o groesaw i ysbrydion eu perthynasau, diau nad oedd neb o deulu yr hen foneddwr hwn yn cwyno nac yn gofidio dim dros ei alltudiaeth yntau.
Yn Nghastellmarch, hen balas godidog yn Lleyn eisteddle boneddion cyfrifol yn deilliaw o gyff âch prif fonedd Cymru, y cyflawnid bron bob math o ystranciau rhwysgfawr, gan amryw ysbrydion ag oedd hoff ganddynt waith; a'r canlyniad o hyn, fu eu hanfon i lan y môr i wneyd rhaff o dywod, yr hwn orchwyl, ni chlybuwyd hyd yn hyn, ddarfod iddynt ei gyflawni, eithr tebygol eu bod yn glynu wrth y gwaith yn ddiwyd, gan nad oes y fath eiriau a "rhoddi heibio waith heb ei orphen" yn ngeirlyfr ysbrydion, hyd y gwyddom; er nad oes i lygad o gnawd unrhyw argoel o wneuthuriad rhaff yn y lle; eto eu henciliad a'u harosiad o'r hen balas am ugeiniau o flynyddau a ddengys rywbeth ; ond anaml y canfyddir hen balasdy, hyd y nod anghyfanedd, yn awr, yn cael ei aflonyddu gan ysbryd.
Yn Mrynllyngedwydd, plwyf Aber—erch, nodir cae a fu yn fynwent cyn gwneyd y fynwent ag sydd yn Aber—erch yn bresenol. Tua chwarter milltir i'r gogledd o'r cae a nodwyd, dywedir y safai Pont y Gwr Drwg, neu Pont Un—nos, yr hon a adeiladwyd mewn un noswaith gan y Gwr Drwg;" a thua milldir o gae y fynwent, yr oedd Camfa Angharad, lle y cloddiwyd careg o'r ddaear, ac arni gerf-ysgrif, yr hon nis gallai neb ei ddarllen ond Dic Aberdaron. Lle nodedig oedd Camfa Angharad am fwgan, yr hwn a welwyd gan lawer mewn amryw ddulliau, weithiau yn null nifer o ddynion mewn gwisgoedd claer—wynion yn symud yn gyflym drwy eu gilydd, yna yn cyfnewid i ddull milgwn yn llamu dros y clawdd i gae cyfagos. Mae yr hen Gamfa" yn hysbys iawn trwy froydd Llanarmon, Llangybi, a Llanhaiarn. Pawb yn gwybod am" Gamfa Angharad," a'r arswyd i fyned trosti bron cyn i'r nos ymddangos, yn dod i lawr o genedlaeth i genedlaeth ar blant a phobl weiniaid.
Yn nghymdogaeth Llyn-Nad-y-Forwyn yr oedd deuddyn ieuangc wedi eu dyweddio i briodi; ond yr oedd y mab wedi rhoddi ei serch ar ferch arall; a'r noson cyn y briodas rhoddodd hwth i'w ddyweddi i'r llyn uchod, er mwyn bod yn rhydd oddiwrhi i gael priodi y llall. Byth ar ol hyny yr oedd y gymmydogaeth yn cael ei haflonyddu gan ysbryd. Ambell dro ceid ei weled yn dyfod i lawr ar hyd yr afon Golwyn fel olwyn o dân; bryd arall gwelid boneddiges yn rhodio oddeutu yr afon, mewn gwisg o sidan; dro arall byddai cwynfanau dolefus yn dyrchafu o'r llyn; ac ambell dro gwelid merch ieuangc yn dyfod i fyny o'r llyn yn hanner noeth, a'i gwallt gwlyb yn hongian i lawr dros ei hysgwyddau; ac yn cwynfan yn chwerw a thorcalonus uwchben y llyn, yr hwn, ar ol hyny, a elwid "Llyn-Nad-y-Forwyn."
Yn y Waen Fawr, mor ddiweddar ag oes Dafydd Ddu Eryri, yr oedd ysbryd yn ymhyfrydu bod ar ben coeden yn nyddu troell fach, &c., a chanodd y bardd awenber iddo fel hyn :
"Mi glywais i ers dyddiau
Fod bwgan yn y Pentre'
Weithiau'm mrig y coed yn dân
Yn chware'r mân ganghenau.
Mae'n well gan ambell gythrel
Gael gwneyd ei sedd yn uchel;
Rhoed pawb eu gweddi tra bo chwyth
Na ddelo byth yn isel."
"Yr oedd rhywbeth pur ddychrynllyd weithiau i'w weled, ac yn fynych iawn i'w glywed, yn y coed yn nghymmydogaeth Boduan, yn Lleyn. O ran ffurf nid annhebyg ydoedd i lwynog, ond ei fod yn fwy ei faint, ac ysmotiau mawrion draw ac yma ar hyd-ddo. Yr oedd ei oernadau yn y nos, medd llên y werin, yn ddigon i yru arswyd drwy gilfachau y galon ddewraf. Er bod yr olwg arno i raddau yn debyg i lwynog, eto yr oedd y swn a wnelai yn debycach i fref asyn nag i gyfarthiad cadnaw. Os dynwaredai un ei oernadau, atebai yntau ef yn gyson, a dynesai ato hyd o fewn ychydig; ond ni ddeuai braidd un amser mor agos ag y gallai dyn ei weled. Nis clywid son am dano yn yr haf nac yn gyffredin yn ystod y dydd; ond ar nosweithiau yn y gauaf, yn enwedig os byddai hi yn barugo, yr oedd yr oernadu yn ofnadwy iawn. Un o'i nodweddion ydoedd ei elyniaeth tuag at gathod; cipiai hwynt pa le bynag y cai gyfle arnynt ac ni welid mohonynt mwy. Bu yn ardal Boduan, ac oddi yno i goed y Plas Hen, yn Eifionydd, am rai blynyddoedd; ond bellach nid oes son am dano yn un o'r parthau hyn. Bernir gan rai o ddoethion Lleyn, mai rhyw fwystfil tramor ydoedd; ac mai diangc a wnaethai o ryw long a ddygwyddai fod yn angori yn angorfa St. Tudwal neu ryw le arall yn y cwmpasoedd. Ac os felly mae Bwystfil Boduan yn cyfateb i gryn raddau i Gath Balug yr hen Chwedlau Cymreig.'
Er ys llawer o flynyddau yn ol, ni cheid na thawelwch na llonyddwch yn Gellewig, plwyf Bryncroes, gan ymyriadau ysbryd dyreidus, yr hyn a barodd i'r teulu dybio mai gwell fyddai myned i geisio Mr. Williams, Ebrwyad Llanengan, gŵr a chanddo allu "i godi ac i ostwng cythreuliaid" fel y mynai, yn ol llafar gwlad a gwerin; ond bu agos i'r ysbryd hwn gael ei law yn uchaf arno, oherwydd, medd yr hanes, daeth yr hen Ficer allan o'r ystafell, lle buasai ef a'r ysbryd yn ymgodymu, â'i ddillad yn garpiau, a'r fath arogl ddrewedig arno, fel y gorfuwyd golchi pob cerpyn oedd yn ei gylch, a'i rwbio yntau â sebon meddal o'i goryn i'w sawdl. Mynai y gwr eglwysig fod i'r ysbryd aros dros ysbaid hanner can' mlynedd mewn twll ebill, wedi ei dori yn un o dylathau y tŷ, yn gauedig â thopyn digon tyn, fel ag i'w ddiogelu rhag aflonyddu o hono neb yn nghorff yr amser appwyntiedig; eithr yr ysbryd a wrthwynebai y fath benyd a hyny, drwy ymladd a dadlu yn egniol fod deng mlynedd yn llawn ddigon o gosp arno, yn ngwyneb cyfartaledd ei droseddau; a'r diwedd fu, iddynt gyttuno ar i'r ysbryd lochesu yn y twll pennodol dros yr ysbaid o ugain mlynedd; a dyna derfyn ei hanes fel yr ymddengys hyd yn hyn.
Llawer gŵr syber a moesol, uniawn ei ymddygiad, a chredadwy ei air, a glywodd ac a welodd bethau rhyfedd o bob lliw a llun yn y nos ar hyd "Lon-ceryg-bychain " a "Lôn-nant-Iago," yn mhlwyf Llanbedrog. Meddiannid yr holl ardal ar fachludiad haul y gauaf gan breswylwyr byd yr ysbrydoedd, fel nad gwiw oedd i neb o breswylwyr cyfreithlon yr ardal fyned allan ar ol iddi nosi heb gael ei aflonyddu gan fodau o'r byd anweledig, naill ai preswylwyr hudoliaethus byd tanddaearol y Tylwyth Teg, ai cenadau oddiwrth ei fawrhydi brwmstanaidd, neu o'r ardal dawel lonydd lle y peidia y trigolion a'u cyffro. Yr oedd bwgan yn llechu yn sawdl pob clawdd, canwyll gorff yn goleuo pob Eglwys, ladi wen yn gwylio pob croesffordd, a drychiolaethau mor aml a llwyni eithin.
Mae lle neillduol o'r enw yr Efail Bach, yn mhlwyf Aber—erch, yn Eifionydd, yn cael ei nodi fel llecyn ag yr oedd pobl yn gweled y gwrthddrychau hyn ar amserau pennodol iddynt ymddangos. Bu y bardd parod a medrus ei awen, Sion Cawrdaf, neu Sion Owen y Garddwr, fel yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin, yn byw yn y lle yma, ac fel yr oedd efe a'i briod unwaith yn digwydd dyfod adref o Bwllheli, a throi o honynt i westy yn Abererch, a digwydd i'r bardd ymloni a chael blas ar ymdroi, er cryfed rhesymau ac esgusodion teg y wraig i geisio ei ddenu adref, yn ngwyneb ei awgrymiadau ef dros iddi fyned ei hunan; ond o'r diwedd, yn ol ei hen arfer naturiol, torodd y bardd allan fel y canlyn:
"Mae Hannah heno yn ei chrwth
Yn bygwth gweled bwgan,
Yr hen Rahel Penarth Bach
Yn rorio am yr arian.'
Dywed hen draddodiad y byddai yr Un drwg yn ymddangos i ddynion, yn eu harwain i ffosydd yn hirnos gauaf, a pheri iddynt golli y ffordd yn y tir ag sydd a'i orweddle rhwng Broom Hall a Rhedynog; ac yn ngwyneb hyny, nad oedd dim yn well i ddyn wneyd na throi ei logell y tu gwrthwyneb allan, yna byddai y gwr drwg yn cilio ymaith, neu, yn fwyaf tebygol, y dyn yn dyfod ato ei hun ar ol ymddyrysu, drwy gymmeryd amser i droi ei logell, yr hyn oedd yn tynu ei sylw oddiar y cyfeiriad oedd ganddo mewn golwg pan gollodd y llwybr.
Yr oedd rhyw ysbryd neu ddrychiolaeth yn Mhenfarth Fawr, fel yn mhob lle ag y byddai hen adeilad yn bodoli, yr hwn oedd yn arswydo braidd bawb a elent heibio i lidiard y buarth os byddai yn hwyr. Y Ladi Wen oedd cynllun ysbrydol y bwgan hwn, yn arddull o ferch ieuangc hynod brydferth o bryd a gwedd a ymgartrefai yn y lle, yr hon ag yr oedd balchder ac uchder yn elfen ryfygus yn ei chyfansoddiad, a charu yn achos hoff ganddi, ond byddai raid iddi gael boneddwr o waed uchel i'w rheoli, onide gwrthodedigaeth fyddai y canlyniad, ac felly yr oedd ei sylfaen garwriaethol yn ei phrydferthwch, a disgwyliai i foneddwr trwyadl ei hoffi o'r herwydd. Ond un tro yn lled hwyr, wele yr eneth yn dyfod adref ar gefn ceffyl, wedi ymwisgo mewn dillad claer-wynion yn ol ei dull arferol. Ond pwy ddaeth o hyd iddi cyn cyrhaedd y tŷ ond gŵr bonheddig o ran golwg, ar farch fel hithau, rhoes ei serch arni, aeth yn garwriaeth; ond diwedd yr ymdrafodaeth oedd i'r carwr ysbrydol fyned yn olwyn o dân drwy'r simdde; ymaflodd braw yn ei chyfansoddiad o'r herwydd, a bu farw mewn ychydig ddyddiau.
Eto, y mae genym hanes am ysbryd a breswyliai dros amser maith yn Mrynbachau, plwyf Llanarmon, yr hwn bob amser a ymddygai yn hynaws, tosturiol a charedig wrth y tlawd. Pan y delai gardotyn at y drws, pa hwyl bynag fyddai ar deulu y tŷ, gofalai ef, nid oes achos i ddywedyd ar draul pwy, am daflu iddo dorth o fara, heb nag edliw na grwgnach dim yn ngwyneb amledd ymweliadau y cardotwyr, &c. Ond teulu y ty, yn teimlo yn ddwys oddiwrth yr hyfdra a gymmerai efe ar eu llafur a'u heiddo hwy, a aethant, heb yn wybod iddo, at hen gymmeriad hynod o ddewin dygn yn ei oes, a chasglwr llyfrau annghyffredin, a gyfenwid Sion y Llyfrwr, o Lanarmon, i edrych a allai ef agor rhyw ddrws o ymwared iddynt oddiwrtho, a'r canlyniad fu, offrymu yr hen ysbryd elusengar a rhinweddgar dros drwyn Penychain i'r môr.
Yn ffodus, yr ydym yn hysbys o liaws o enwau yn Lleyn ag Eifionydd, ac ydynt yn dwyn arnodion cofiannol o gyflwr ein gwlad yn yr oesoedd hyny, megis y rhai canlynol:—Cae'r Bwgan, yn Mhwlldefaid, Aberdaron; Cae Bodwiddan, yn Ngafelan Fawr, plwyf Llangwnadl; Cae'r Bwgan, yn Nhrefgwm, plwyf Myllteyrn; Nant y Widdan, yn agos i Fadryn, yn mhlwyf Llaniestyn; Perthen Bwbach, yn Nyffryn, plwyf Llaniestyn; Careg y Bwgan, ger Pigstryd, yn mhlwyf Llanbedrog; Cae'r Bwgan, yn Motacho Ddu, plwyf Nefyn; Lleiniau'r Bwgan, yn Hobwrn, plwyf Nefyn; Cae Pwll y Widdan, yn Mhlas Boduan; Cae Pwll y Widdan, yn Hendref, Boduan; Erw'r Bwgan, yn Mathan Isaf, Boduan; Cae Pwll Bwbach, yn y Gwynfryn, plwyf Llanor; Cae'r Widdan a Chae'r Widdan Uchaf, yn Hendrefeinws, plwyf Abererch; Pwll yr Wyll, neu Pwll y Gwyll, yn Nhy'n Lôn, Fourcrosses, plwyf Abererch; Pwll yr Ellyll, yn nhir Murgwt Lloer, plwyf Llanarmon; Cae Pant y Bwgan, yn Nhyddyn y Berth, plwyf Llanarmon; Camfa'r Bwbach, ar y terfyn rhwng Hen Inn a Thŷ'n y Coed Uchaf, yn mhlwyf Llanystumdwy; Gallt y Widdan, yn Nhyddyn Madog Goch, plwyf Llanystumdwy; Nant y Widdan, yn Mhen. stumllyn, plwyf Criccieth; Pant y Gwylliaid, yn nhir Pant Glas, yn y Cenin, plwyf Llanfihangely—Pennant; Ffynnon y Cythraul, yn ymyl Llanfihangel-y-Pennant; yr Ellyll, yn Nghwmtrwsgwl, plwyf Llanfihangel-y-Pennant; Beddau'r Dewiniaid, yn agos i Ddinas Emrys, yn mhlwyf Beddgelert; Cader (neu Gastell) Ellyll, sy graig fechan yn agos i'r Wyddfa.
Y TYLWYTH TEG
Yn nhraddodiadau gwahanol genedloedd yr hen fyd yr ydym yn fynych iawn yn dyfod ar draws y Tylwyth Teg, a lliosog yw y chwedlau a adroddir am danynt. Er eu bod yn myned o dan wahanol enwau yn mhlith y gwahanol genhedloedd, eto y mae y chwedlau am danynt mor debyg i'w gilydd fel y mae yn amlwg eu bod wedi tarddu o'r un gwreiddyn. Ond yr hyn sy ddirgelwch yw y modd y daeth y chwedlau hyn i fodolaeth. Tybia rhai mai perthyn yn neillduol i'r Celtiaid y maent, ac mai oddiwrthynt hwy y trosglwyddwyd y cyfryw i blith y llwythau Ellmynaidd. Gallai hyny fod yn wir, oblegid fod y Celtiaid wedi gwladychu yn Ewrop o flaen yr Ellmyn. Ymddengys hefyd fod Tylwyth Teg y Celtiaid yn fodau mwy diniwed nag Elffod yr Ellmyn a'r Llychlynwys, a dichon y gellir priodoli hyny i'r ffaith nad oedd y Celtiaid yn oresgynwyr mor greulawn a gwaedlyd a'r Ellmyn, ac felly nad oeddynt yn cynhyrfu dialedd y rhai a oresgynid ganddynt i'r un graddau o gynddaredd.
Prin iawn yw ein gwybodaeth am y llwythau a gyfanneddent yn Mhrydain tuag amser dyfodiad y Rhufeiniaid i'r Ynys. Os oedd rhai o'r hen frodorion cyntaf, a ragflaenorent y Celtiaid yn rhanau aros y pryd hwnw, gellid disgwyl eu bod yn pellaf y wlad, neu y rhanau mwyaf mynyddig o honi, lle y gallent amddiffyn eu hunain oreu rhag eu gelynion. Cawn ar ddeall fod yn amser y goresgyniad Rhufeinig lwyth o bobl o'r enw Cangi, neu Ceangi, yn preswylio mynyddoedd Eryri a'r ardaloedd cylchynol; a lle a fu wedi hyny yn amddiffynfa gref i'r Cymry yn ystod rhuthriadau aml y Saeson arnynt. Yr oedd hefyd lwyth o'r un enw yn cyfaneddu yn y rhan fwyaf gorllewinol o'r Iwerddon, yn gyfagos i aber y Shannon. Cyfanneddai y llwythau yna yn y manau lle buasai yn naturiol disgwyl fod rhai o weddillion y cynfrodorion yn aros. Heblaw hyny y mae genym brofion fod y Cangi yn enwog fel mwngloddwyr, yr un fath a'r Ffiniaid a'r Basciaid. Yr ydys wedi cael yn Mhrydain amryw farau o blwm wedi eu cloddio yn amser y Rhufeiniaid, ac mor gynnar a'r ganrif gyntaf, ac argraff Rufeinig arnynt, yn dangos pa ymerawdwr oedd yn teyrnasu ar y pryd, ac y mae enw y Cangi, neu y Ceangi, ar rai o honynt, yn arwyddo eu bod wedi eu cloddio a'u toddi gan y llwyth hwnw. Cloddiwyd a thoddwyd hwy yn Ngogledd Cymru, yn nghyffiniau y llwyth hwnw, ond dywed Pennant fod argraff yr un llwyth ar farau a gloddiwyd yn mynyddau y Peak, swydd Derby.
Ffaith arall sy'n tueddu i gysylltu y Tylwyth Teg â llwyth y Cangi, hen fwngloddwyr Gwynedd, yw y ffaith a goffeir gan Pennant, sef fod dognau bychain o petroleum, neu greig-olew, i'w gael yn nghreigiau Gogledd Cymru, a'i fod yn cael ei alw gan y mwnwyr yn ei amser ef wrth yr enw "ymenyn y Tylwyth Teg;" mewn cyfeiriad mae'n lled debyg at ryw hen draddodiad am y cyfryw fel mwngloddwyr yn Ngwynedd.
Y mae traddodiadau gwahanol genedloedd yn priodoli medruswydd dirfawr mewn hud, lledrith, a swynion i'r Tylwyth Teg; ac y mae'n deilwng o sylw fod yr hen draddodiadau Cymreig yn priodoli yr un peth i breswylwyr gwlad y Cangi.
Yma y preswyliai Gwydion ab Don, yr hwn, yn ol y rhamantau Cymreig oedd y medrusaf o bawb mewn hud a lledrith, ac hefyd Gwyn ab Nudd, yr hwn a elwid yn frenin y Tylwyth Teg.
Bellach, awn yn mlaen at y drefn neillduol a berthynai i'r Tylwyth Teg Cymreig. Credid eu bod yn fodau goruwchnaturiol, braidd yn fychain o gorffolaeth, o wynebpryd prydferth, tebyg i ddyn, ac yn ymwisgo mewn gwyrdd. Ymddengys fod eu cymmeriad yn gymmysg o ddrwg a da, mwy o'r blaenaf, yn debygol; ond nad oeddynt wedi ymlygru digon i haeddu uffern, nac mor rydd oddiwrth ddrwg ag i gael mynediad i'r nefoedd. Tybid eu bod yn tueddu i fod yn garedig i bawb fyddent rinweddol, ond eu bod yn casau pechod, ac yn neillduol celwydd ac aflendid â chasineb perffaith. Darlunir hwynt weithiau fel yn eiddigus wrth ddynion, ac yn gwneuthur castiau difrifol â hwy, megis lladratta plant, rhai heb eu bedyddio yn fwyaf cyffredin, gorfodi y rhai elai i'w cylchoedd aros gyda hwynt drwy nerth eu swynion; ac yn ol y llyfr a elwir "Cas gan Gythraul," byddai y rhai arferol o'u canlyn yn cael eu curo ganddynt nes byddent yn gleisiau.
Gosodid hwy allan fel teuluoedd yn preswylio yn rhywle o dan wyneb y ddaear, a'u bod yn mwynhau yn eu cilfachau rywfath o gysgod o ddedwyddwch, a rhith o orwychder, yr hwn er hyny a gyfnewidient yn dra ewyllysgar am fwynderau mwy sylweddol marwolion. Llywodraethid hwy gan frenin a brenines—Oberon a Titania. Byddai y Penaethiaid yn marchogaeth ar geffylau cyn wyned a'r llaeth, ac yn arfer gwisgo y tu hwnt i ddarluniad o ran prydferthwch. Yr oedd eu gwlad yn annghyffredin o gyfoethog a phrydferth, yn llawn o ystafelloedd godidog, gwleddoedd gorwych, gwinoedd melusion, a rhianod harddach na merched dynion. Ond os digwyddai i rhyw weledydd goruwchnaturiol edrych arnynt, canfyddai nad oedd yr holl arddangosfa ond twyll; yr aur a'r perlau yn ddim amgen na llechau neu geryg; na phydferthwch eu cyrff yn ddim ond gwrthuni i'r eithaf; ac y mae yn ymadrodd cyffredin hyd heddyw am un fyddo'n byw mewn modd hynod ac annghyffredin, heb neb yn gwybod o ba le y mae yn cael ei gynnaliaeth ei fod yn byw ar dir y tylwyth teg," h.y., trwy foddion anadnabyddus.
Hen bobl a ddywedent eu bod i'w clywed yn chware eu hofferynau cerdd fin nos hir-ddydd-haf, nes byddai y bryniau yn dadseinio eu melysber gerddoriaeth, a thybid y gwelid ol eu traed bychain yn y cylchau lle yr arferent gorelwi ar hyd y dolydd, y caeau gwair, a'r bryniau; ac oddiwrth hyny y cawsant yr enw Cylchau neu Fodrwyau y Tylwyth Teg. Pe digwyddasai i ddyn fyned heibio iddynt ar adeg gwledd o lawenydd a dawns buasai yr atyniad yn gymaint fel mai anmhosibl fyddai iddo fyned oddiwrthynt heb gael ei gipio i mewn i'r cylchau, ac nid oedd modd yn y byd gael dyn allan oddiwrthynt, heb gael dyn arall ag oedd yn gyfarwydd â'u harferion, i ddyfod i'r lle, a bod yn ofalus am gadw allan o'r cylch, a dal ffon hir estynedig tua chanol y cylch, ac ar eu gwaith yn myned oddiamgylch yn y dawns gyda'r dyn, y gwnelai y dyn arall gyffwrdd â'r ffon, ac yna y delai ato ei hun i weled y ddaear a'i gydddyn, yr hyn oedd dywyll iddo tra oddifewn i gylch y Tylwyth Teg; a phe na ellid cael gafael ar ddyn ag oedd adnabyddus â ffyrdd y Tylwyth yma, byddai raid i'r dyn a gipid aros yno dros ystod un dydd a blwyddyn, neu yn hytrach hyd nes y byddai yr orymdaith yn newid ei sefyllfa. Y mae traddodiad yn aros hyd y dydd heddyw am ddigwyddiad a gymmeroedd le ar gydiad Lleyn ac Eifionydd, i'r Tylwyth Teg fod yn dawnsio, pryd y canlynid hwy gan beroriaeth felusach nag a ddaeth erioed o enau dyn, ar ddôl deg islaw i amaethdy lled enwog, a bod un o ferched ieuaingc y ty wedi myned i'w gweled, a digwydd iddi fyned yn rhy agos i'r cylch lle y corelwent nes oedd hi wedi ei hennill i fyned gyda hwynt. Cymmerodd hyn le heb yn wybod i'r teulu, medd y chwedl, a bu y ferch ieuangc ar goll am flwyddyn, a'i brawd, yn ol cyfarwyddyd dewin, a'i cafodd yn yr un man, gyda'r Tylwyth Teg. Yr oedd ei brawd i sefyll wrth gwrr y cylch, tra hithau yn mhlith y "teulu bach" yn d'od yn ei thro yn y cylch, ac yntau i ymaflyd ynddi heb fyned i'r cylch ei hunan.
Yn Lleyn yr oedd dyn a fyddai yn arfer gweled y teulu dedwydd yma braidd bob nos. Pan byddai yr haul yn myned dan ei gaerau, a'r niwl yn gorwedd yn isel ar y pantiau, byddai y dyn yn canfod y Tylwyth Teg yn dawnsio a'u holl egni ; ni fyddai yn canfod dim ond eu penau yn ysboncio allan o'r niwl; a phan geisiai fyned atynt, byddent hwythau yn pellhau oddiwrtho. Ryw dro yr oedd brodor o Nefyn ar ei daith adref o ffair Bwllheli, ac wrth yr Efail Newydd gwelai dafarn fawreddog, a chan y gwyddai nad oedd yno y pryd hyny yr un dafarn i fod, gofynodd i un o'r gweision os oedd ganddynt ystabl a roddent ei farch i fewn? Atebwyd yn gadarnhaol. Rhoddwyd y march yn yr ystabl ac aeth yntau i'r ty; gofynodd am beint o gwrw ac ni chafodd ei well erioed. Yn mhen ychydig gofynodd am gael myned i orphwys, a chafodd hyny. Aeth i'w orweddle, yr hwn ydoedd o ran gwychder yn deilwng o'r brenin; ond wchw fawr! erbyn iddo ddeffro, cafodd ei hun yn gorwedd ar ei hyd—gyd mewn tomen o ludw, a'r ceffyl wedi ei rwymo wrth bolyn clawdd gwrysg.
Mangre hyfryd a thra deniadol i anianawd y Tylwyth Teg ydoedd Aber Soch, a llawer gwaith y gwelodd hen wr Melin Soch hwy yn dawnsio yn ymyl yr odyn; a hynod amrywiol oedd ffurfiau a chyfnewidiadau y ddawns—rhai yn dyfod i fyny, ereill yn myned ar eu hol, ac ereill drachefn yn myned megis ar gylch. Yr hen wraig hefyd a arferai ddywedyd y byddai lliaws o foneddigesau y Tylwyth Teg yn dyfod ati, a hyny bob amser ar dywydd tawel, gan amlaf ar geffylau gwynion bychain, dim mwy na chwn, i ofyn benthyg padell bobi at grasu bara gwyn, ac iddi ugeiniau o weithiau ei rhoddi iddynt; a phob tro wrth ei dychwelyd, iddynt ddyfod a thorth wen braf yn dal am ei benthyg; ac y mae yr hen badell yno i'w gweled hyd heddyw.
Adroddai Williams Evans, gôf, yn mhlwyf Llanbedrog, fel y daeth llu o'r Tylwyth Teg ato un noswaith at ei efail gyda lliaws o ferlynod eisiau eu pedoli. Ni welsai erioed y fath ferlynod o'r blaen. Disgynodd y merched bach prydferth oedd yn eu marchogaeth gan orchymyn iddo hwylio at ei waith tra y buasent hwythau yn dawnsio tro neu ddau ar lecyn glas yn ymyl; ond erbyn i William dd'od o'r efail gyda'i ger pedoli, yr oedd y cwbl wedi diflanu o'r golwg.
Ar noswaith loer-gan, tra Sion Ellis, Pigstryd, yn dyfod adref oddiwrth ei waith o'r Wern Fawr, gwelodd oddeutu tri dwsin o honynt yn dawnsio ar faes glas yn ymyl Caehwsni, i sain telynorion o'r fath fwyaf soniarus a glywsai erioed.
Adroddir yr hanesyn canlynol fel ffaith anwadadwy a gymmerodd le lawer gwaith yn Ystumcegid, plwyf Llanystumdwy:—Byddai y Tylwyth Teg yn arfer myned yno i ofyn benthyg gradell i grasu bara ceirch, ac wedi ei chael yn myned ymaith gan ymsuddo i lecyn ar yr afon Ddwyfor, a adnabyddir wrth yr enw Llyn y Gwragedd. Bob tro yr ymwelent â'r ty i geisio y radell, sibrydai y plant wrth eu rhieni na welent mo y radell byth mwyach; ond yn ol y deuid â hi gyda'r gofal mwyaf, a thorth geirch yn gydnabyddiaeth am ei benthyg, a hyny bob amser wedi yr elai teulu y ty i "hun a heddwch."
Ty'r Dewin, ty o hynafiaeth cyntefig, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, ydoedd hefyd hoff drigle iddynt. Dywed traddodiad fod gweision y lle hwn rywbryd ar y gorchwyl o dynu pytatws, ac er maint a dynent nad oeddynt yn cael gafael ond ar ychydig o honynt i'w dodi yn y cawell, a sylwai un o honynt ar y peth, pryd y chwanegai un arall, gan ofyn, a wyt ti ddim yn gwel'd y gweilch bach yna yn eu cario i ffwrdd mewn basgedi o hyd?" Ar hyny, gofynodd un o'r Tylwyth Teg i'r gwr hwn â pha lygad yr ydoedd yn eu gweled hwy. "Efo hwn," meddai'r dyn. Ac ar darawiad cymmerodd babwyren ag a'i tynodd allan. Yn y ffordd islaw, o fewn ergyd careg i'r ty, tarewir ar swn dieithr—swn yn cael ei achosi gan wagle odditanodd; a thaenid y gair allan yr ymgartrefent yn y lle, ac fod yno, hyd heddyw, drysorau anhybris yn nghadw.
Yr oedd Trewen, amaethfa yn mhlwyf Llandegwning, yn nodedig am y byddai y "teulu bach" yn ymweled ag ef. Byddent yn dod i'r afon gerllaw i ymolchi, ac ambell dro croesent y dwfr mewn cychod wedi eu gwneyd o risg criafol neu fedw, ac elent i'r ty i dalu eu hardreth am eu bod yn arfer mathru o amgylch y lle. Rhoddent ddernyn o arian o dan gunog bob amser, a'r canlyniad fu i'r bobl oedd yma yn byw dd'od yn gyfoethog annghyffredin. Ond rywfodd, ar ol llawer o flynyddoedd, perchenog y lle a'u digiodd, drwy ddangos sarhad tuag atynt, ac ebrwydd y dechreuodd y byd droi yn ei erbyn, ac nid hir y bu heb syrthio i gyflwr isel o ran amgylchiadau. Troes pobpeth megis i'w erbyn; a chredai pawb mai oblegid iddo sarhau y Tylwyth Teg y daeth hyn oll i'w ran.
Yr oedd dyn yn byw yn Nant y Golchi, plwyf Llanfihangel Bachellaeth, a fyddai arferol o ganlyn y Tylwyth Teg. Dechreuodd, yn ol cyfaddefiad ei wraig wedi ei farw ef, drwy gysgu allan ryw noswaith wrth ddyfod o'r dafarn, a pharhaodd i'w ddilyn unwaith yn y mis drwy ystod ei oes. Byddent yn galw arno i godi o'i wely atynt wrth ei enw, ac yn ei gymmeryd allan drwy'r simdde, yn ol barn ei wraig, am na byddai y drws yn cael ei agor un amser ar gefn trymedd nos, oddieithr ar yr adeg y byddai efe arferol o ddyfod adref oddiwrthynt hwy, a hyny drwy i'r wraig godi o'i gwely i'w ddatgloi iddo. Nid boddlawn f'ai ganddynt iddo roddi cyhoeddusrwydd i'r hyn oeddynt yn amlygu iddo, ond cyfaddefai iddo un noswaith pan yn cyfeirio tuag adref, a baich ganddo yn ei ddwyn ar ei ysgwydd, iddynt ei gymmeryd ef gyda hwy, ac na chafodd ganiatad ganddynt i roddi ei faich i lawr drwy gydol yr holl
Yr oedd ei wraig yn dyweyd y gwyddai ef y dydd y byddai farw—fod y Tylwyth Teg yn alluog i ragfynegi digwyddiadau, y byddent weithiau yn gwahodd pobl i'w gwlad, y byddent yn rhoddi dail i iachau cleifion, ac y byddai enaid un yn cael myned i'w gwlad hwy ar ol marw.
Yn Ngarth Dorwen, plwyf Llandwrog, rhyw gyfnod maith yn ol, yr oedd gwr a gwraig yn byw, y rhai a aethant i Gaernarfon i gyflogi morwyn ar ddydd ffair G'langauaf. Yr arferiad gan feibion a merched y pryd hyny oedd, i'r rhai a safent allan am leoedd aros ar ben y Maes presenol wrth boncan ydoedd yn y fan lle y saif y Llythyrfa (Postoffice) presenol; ac aeth yr hen wr a'r hen wraig i'r llannerch yma, a gwelent eneth landeg gyda gwallt melyn, yn sefyll ychydig o'r neilldu i ereill. Aeth yr hen wraig ati a gofynai iddi a oedd arni eisieu lle, tra yr atebai hithau fod. Felly cyflogwyd hi, ac aeth i'w lle ar yr amser penodedig. Byddai yn arferiad y pryd hyny i nyddu ar ol swper, oriau hirnos gauaf, ac arferai y forwyn a myned i'r weirglodd i nyddu wrth oleu y lleuad, a deuai y Tylwyth Teg ati i ganu a dawnsio. Ond rhywbryd yn y gwanwyn diangodd Eilian (canys dyna oedd ei henw) ymaith gyda'r Tylwyth Teg, ac ni welwyd mohoni mwyach. Y mae y cae y gwelwyd hi ddiweddaf yn cael ei alw hyd heddyw yn Cae Eilian, a'r weirglodd yn Weirglodd y Forwyn. Arferai hen wraig Garth Dorwen a rhoi gwragedd yn eu gwelyau, a chyrchai pawb ati o bob cyfeiriad i'r diben hyny. Rhyw dro wele foneddwr yn dyfod at ei drws, ar noson lloergan i'w chyrchu at ei briod, tra yn gwlawio ychydig, a braidd yn niwliog; ac felly aeth yn ysgil y gwr dieithr hyd at Rhos y Court. Yr oedd poncan lled uchel y pryd hyny ar ganol y Rhos, yn debyg i hen amddiffynfa, a llawer o geryg ar yr ochr ogleddol iddi, yr hon sydd i'w gweled hyd heddyw dan yr enw Bryn y Pibion. Pan gyrhaeddwyd y lle, aethant i ogof fawr, yna i ystafell lle yr oedd y wraig yn ei gwely, yr hwn le oedd yr harddaf a welodd yr hen wraig erioed yn ei bywyd. Rhoes y wraig yn ei gwely ac aeth at y tân i drin y baban; ac ar ol gorphen, wele y gwr yn dyfod â photel i'r hen wraig i iro llygaid y baban, gan ei rhybuddio i ochelyd rhag iro ei llygaid ei hun. Ond rhywfodd wedi rhoi y botel heibio, fe ddaeth ysfa ar ei llygad, a rhwbiodd yr hen wraig ei llygad â'i bys, sef y bys â'r hwn yr eneiniai lygaid y maban, a gwelai a'r llygad hwnw y wraig yn gorwedd ar dwmpath o frwyn a rhedyn crinion, mewn ogof fawr, a cheryg mawrion o bobtu iddi, ac ychydig bach o dân mewn congl yno, a gwelodd mai Eilian ei hen forwyn oedd hi, tra â'r llygad arall y gwelai fan y lle ardderchocaf a welodd hi erioed. Yn mhen amser ar ol hyny aeth i farchnad Caernarfon, a gwelodd y gwr dieithr, a gofynai iddo, "Sut yr oedd Eilian?" "O! y mae hi yn bur dda," oedd yr atebiad, gan ofyn iddi, "â pha lygad yr ydych yn fy ngweled i?" A hwn," ebai hithau, gan ei nodi iddo. Cymmerodd yntau babwyren, ac mewn eiliad tynodd ei llygad allan oi phen. Priodolir y chwedl hon hefyd, gyda pheth gwahaniaeth, megis wedi digwydd yn Mhencoed, plwyf Llanarmon, yn gysylltiol â marchnad Pwllheli.
Priodas ag un o'r Tylwyth Teg.—Dywedir yr arferai y Tylwyth Teg ymgynnull i ymgipris a dawnsio ar nosweithiau pan fyddai yn lloergan teg, yn un o weirgloddiau perthynol i fferm Ystrad, Bettws Garmon. Yr oedd gwr ieuangc y fferm un prydnawn wedi myned i lechu gerllaw y fan y byddent yn ymgynnull; ac yn ol eu harfer deuent yno yn llu, a phan oeddynt yn nghanol eu dawns, neidiodd yntau yn mlaen i'w canol, a daliodd un o'r rhyw deg. Brawychwyd y lleill, a diflanasant, yn y fan. Cymmerwyd yr un a ddaliwyd i'r Ystrad ac yno yr ymddygwyd ati yn hynod garedig nes o'r diwedd y daeth i ymfoddloni gweinyddu fel llawforwyn i'r etifedd ieuangc a'i daliasai, er yr ymddengys iddi omedd mynegi ei henw wrth y teulu. Yn fuan iawn ar ol hyn, canfyddai y gwr ieuangc y Tylwyth Teg yn myned trwy eu campau yn yr un fangre ag o'r blaen, ac wedi dynesu atynt yn llechwraidd, efe a glywodd un yn dywedyd,"Y tro diweddaf y bu'm yma y cipiwyd ein chwaer Penelope oddiarnom gan un o'r marwolion." Achosodd hyn gryn lawenydd yn mynwes y gwr oherwydd cael allan enw yr un a gaethgludasai, ac yna dychwelodd yn ddioedi, a chynygiodd ymbriodi â'r rhian deg, oherwydd yr oedd yn fenyw mor hynod hawddgar, ac ynddi gymhwysderau i wneyd gwraig dda. Anhawdd iawn oedd cael ganddi gydsynio â'r cais; ond trwy ddyfalbarhad a thaerni yn gwasgu y cais, fe lwyddwyd i gael ganddi gydsynio ar yr amod a ganlyn: "Os byth ei tarewai â haiarn ei gadawai ef, ac na ddychwelai ato mwyach." Ffurfiwyd yr undeb rhyngddynt, ac am lawer o flynyddau buont yn cydfyw yn dra dedwydd a llwyddiannus, oblegid fe ddywedir iddo (y gwr ieuangc) dd'od yn un o'r gwŷr cyfoethocaf yn y wlad.
Ond fe ddaeth dydd i wirio yr amod, ac y diflanodd Penelope, ac nas gwelwyd hi mwyach, oherwydd fe ddigwyddodd, fel yr oedd hi a'i gwr un diwrnod yn ceisio dala ceffylau yn un o'r meusydd, i'r gwr daflu y ffrwyn oedd yn ei law at yr anifail, ond yn anffodus ar y wraig y disgynodd, ac nis gwelwyd hi mwyach; ond fe ddywedir iddi ymrithio i ffenestr yr ystafell un noson, a dymuno ar i'w dau blentyn gael gofalu am danynt yn y modd canlynol:
Rhag bod anwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gob ei dad;
Rhag bod anwyd ar liw'r càn,
Rhoddwch arni bais ei mam.
Dywedir bod llinach y teulu yn adnabyddus wrth y llysenw Pelling, ac fod amryw ddisgynyddion ohonynt yn adnabyddus hyd yn ddiweddar iawn yn nghymmydogaeth Bettws Garmon a'r Waenfawr. Tybir mai llygriad o'r enw Penelope ydoedd y llysenw hwn.
O'r holl helyntion rhyfedd ag oeddynt gyssylltiol â'r Tylwyth Teg, y rhai pwysicaf, yn gyffredin fyddent yn nglyn â phlant. Ni fyddai wiw ceisio gan blant fyned i unman fin nos, neu ar niwl, rhag ofn i'r Tylwyth Teg ddyfod o hyd iddynt oblegyd yr oeddynt yn hynod am ladratta plant a rhoddi rhai o'u plant eu hunain yn eu lle, fel y gallent drwy hyny, dalu teyrnged i'w meistriaid, yn gystal a chadw eu plant eu hunain, a chael iddynt fammaethod daearol, yr hyn a ystyrid yn werthfawr yn eu golwg. Pan y gwnelent hyny, bernid mai y ffordd oreu tuag at gael y gwir blant yn ol fyddai bod yn greulawn wrth y rhai a adewid yn eu lle, eu rhostio a ystyrid y ffordd fwyaf effeithiol.
Cymmerasant ddau o blant o gwrr mwdwl gwair o gae Bachellyn, yn mhlwyf Llanbedrog, a rhoddasant yn gyfnewid yn eu lle ddau o'u plant eu hunain. Yn ngwyneb yr amgylchiad, yn ol arfer gwlad y pryd hyny, aeth eu mam at ddewin i ofyn cynghor, er mwyn cynllunio tuag at gael ei phlant yn ol rywsut. Wedi peth ystyriaeth, dywedai y dewin wrthi am wneuthur rhyw orchwyl mwyaf hynod y gallai hi feddwl am dano, a'i wneyd yn ngolwg y plant dieithr. Hithau a aeth at y gorchwyl o dynu allan gynnwysiad wy iar, pryd y gofynai y plant iddi beth oedd yn fwriadu wneyd efo'r cibyn wy iar? "Darllaw," ebai hithau. Ar ol i'r ddau blentyn syllu yn syn ar eu gilydd am beth amser, dywedasent fod yn gofus ganddynt weled mesen cyn gweled derwen, gweled cneuen cyn gweled collen, ond na ddigwyddodd iddynt erioed o'r blaen weled neb yn bwriadu darllaw mewn cibyn wy iar. Ar ol i'r wraig orphen â gorchwyl y darllaw, yr oedd, yn ol y cynghor, yn rhwym o fyned â'r ddau blentyn at ryw bont a'u taflu tros y ganllaw i'r afon. Aeth hithau a hwy at Bont Rhyd John, llecyn sydd yn ffinio rhwng plwyfydd Llanbedrog a Phenrhos, gan daflu i'r dwfr y naill o flaen y llall, pryd y gwaeddai hwnw ar ei gydymaith oedd yn ymyl ei ddilyn, megis o ddialedd ar y wraig,
"Dyro grap ar y wrâch,
Mae'n rhy hwyr crafaglach."
Erbyn i'r wraig—"y wrach"—gyrhaedd adref yr oedd ei dau blentyn yno o'i blaen, er ei mawr lawenydd yn iach a dianaf. Ymddengys fod y plant hyn i'r Tylwyth Teg yn oedranus hynod, pan y cyfeirient eu bod yn cofio y fesen cyn derwen, &c.
Aflonyddwyd teulu Dol Penrhyn, plwyf Llanor, un noson gan dwrw mawr o amgylch y ty. Dychrynwyd pawb trwy'r ty, ond o'r diwedd magodd y gwr ddigon o wroldeb i ofyn, "Pwy sydd yna?" a "Beth sydd yn eisiau arnoch?" "Eisio lle i drin plant," oedd yr ateb. Cafwyd agoriad, ac wele gryn ddwsin o'r Tylwyth Teg yn myn'd i mewn am y cyntaf. Ymolchi ac ymdrwsio buont am rai oriau, a phan dorodd y dydd ymadawsant gan dalu yn dda am y caredigrwydd a dderbyniasant. Talodd y Tylwyth Teg ymweliadau mynych a'r lle wedi hyny, a rhyw dro cawsant blentyn tlws yn gorwedd yn ei gryd yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymmerasant ef i ffwrdd gan adael rhyw lun o beth bach gwrthun yn ei le, na anadlodd y fath griwr erioed ag ef. Effeithiodd hyn yn fawr iawn ar y fam, a bu farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Wedi colli'r fam, torodd y plant ereill eu calon a buont feirw yr un modd, ac felly gadawyd y gwr a'r plentyn bach dilun yn ddiymgeledd a digysur.
Lle nodedig am y Tylwyth Teg ydoedd amaethfa hynafol o'r enw Glan-llynau, yn mhlwyf Llanystumdwy, ar dir yr hon y mae llyn o'r enw "Llyn Annwn," ac ychydig yn ddwyreiniol, yr oedd bryncyn (cyn ei gludo ymaith i lenwi pant—leoedd ar linell y Cambrian) a elwid "Bryn Annwn." Tra hen wr gwledig, syml, ar noswaith oleu-leuad mewn llafur yn casglu i gyfarchwyl ychydig danwydd gogyfer ag angenion cyfyng ei fywoliaeth, yn ddisymwth, daeth un o'r Tylwyth Teg ato gyda'r moes-gyfarchiad o "Hwyr da iddo, atebai yr hen wr, gan ymsythu oddiwrth ei waith ac edrych arno, ac os yswiliodd ychydig wrth sylwi ar ei wisg wael ei hun mewn cymhariaeth i wisg y dieithr-ddyn bychan. Wedi peth ymddiddan a rhodiana ychydig o amgylch, dangosodd y dieithr-ddyn iddo ddrws ei breswylfod ei hun, yr hwn oedd dan gwrr careg fawr yn sawdl "Bryn Annwn," ac aeth a'r hen wr i fewn. Ond mor fuan ag y gosododd yr hen wr ei draed yno, heidiodd mintai o'r Tylwyth Teg o'i gwmpas a chodasant eu dwylaw bychain hen i fyny, ac edrychasant yn bur syn fel pe wedi hurtio. Felly yr hen wr a ddymunodd "noswaith dda" iddynt oll, ac allan ag ef. Ni chlywyd dim o'i hanes mewn cyssylltiad â'r lle ar ol y noson hono, ond am rai dyddiau, ni welai ef ddim yn mlaen, ni chofiai ddim yn ol, gan ei ddychryndod.
Er's oddeutu can mlynedd yn ol aethai gwraig o gymmydogaeth Pen-carth i'r amaethfa grybwylledig—Glan-llynau, i "gynnull," a'i phlentyn bychan blwydd oed ar ei braich. Y pryd hwnw, byddai y tai bach yn cael eu cau i fyny; y gwr, y wraig, a'r plant ar hyd y meusydd, canys byddai y fferm-wragedd yn rhoddi bwyd i'r plant ar gyfrif bod eu rhieni wrth y cynhauaf, ond ofer fuasai i neb feddwl i'r plentyn bychan blwydd oed fod yn mhell oddiwrth ei fam, gan hyny, nis gellid dim yn well ag ef na'i adael i ymdaro oreu y gallai wrth sawdl ystwe ŷd, a mynych fyned i'w ddiddanu â llaeth bron y fam. Fodd bynag, daeth un o'r "Tylwyth bach" heibio gan fyned a'r plentyn ymaith, a dodi ei blentyn ei hun yn ei le, yr hwn, yn ngwyneb yr amgylchiad a wylai yn hidl a thorcalonus, a mam y plentyn a ddygid a gychwynai ato, gan feddwl ei gymmeryd adref i'w feithrin a'i fagu yn lle ei phlentyn ei hun, eithr yr amaethwr, yr hwn a wyddai yn lled dda am arferion y Tylwyth Teg, a archodd i'r wraig droi yn ol, a gadael iddo, y deuai ei berchenog i ofalu am dano yn y man, ac y caffai hithau ei phlentyn yn ol, ac felly fu.
Mewn man arall cyfagos, yn yr un plwyf, yr oedd henafgwr yn byw ag y dywedid ddarfod iddo gael ei ladrata gan y Tylwyth Teg; ond gan fod dewin nodedig yn byw nid yn neppell oddiwrth y rhieni, yr hwn, drwy ei gyfathrach â'r cyfryw fodau anelwig, a lwyddodd i gael y bychan yn ol i ddiogelwch—dan gysgod coeden lydan-fawr yn yr ardd wrth ei enidfan. Er hyn, credai ei fam na byddai fawr o lewyrch arno byth—na welwyd na rhad na bendith" erioed ar blentyn wedi bod yn mysg y "teulu mân" fod yr oll a fu, yn ymdebygu i'w gilydd.
Tua dwy filldir, mwy neu lai efallai, yn nghyfeiriad y de-orllewin, bu iddynt breswylfa leteugar dros hirfaith amser yn nglan y môr wrth gwrr dwyreiniol trwyn Penychain, lle y cynnyrchir edmygedd yn y meddwl o'r dyddiau gynt—edmygedd wedi ei gyfuno â Llys Einion—Llys Engan y dyddiau hyn—hen balasdy dewrion gwlad—hiliogaeth y cedyrn, a mangre hyfryd y Tylwyth Teg, lle y cyflawnent eu rhiniawl gampau a'u dawnsiau sidyll, ac y gwelid ol eu traed bychain hyd y traeth ac ar finion eu ffrwd eu hunain—"Frwd y Tylwyth Teg," yn ol traddodiad gwastadol llafar gwlad. Yma, o fewn cylch y llecyn hwn, y mynych roddent chwe' cheiniog cam dan gareg drws hen wreigan o'r enw Sian Jones, ac elai hithau i nol pob un yn ofalus, gan eu dodi un ac oll dan glo yn ei choffr, ond dyna, bu mor frac ei thafod ag adrodd y ffaith wrth forwynion Penychain, mewn gwedd a barai drallod i'r cyfranwyr, yr hyn a barodd iddynt gymmeryd ymaith yr oll o honynt o'i choffr heb yngan wrthi gymmaint a gair am y peth. Teulu tawel, tyner-byr eu rheswm, heb fawr o gleber oeddynt, fel rheol.
Rhyw foreu, ar awr gynnarol, o gylch y flwyddyn tair caib (1777, nis gwyddis yn iawn pa un ai cynt ai gwedi, tra dyn yn dynesu "o dipyn i beth" at Allt-yr-Un-gwys, yn mhlwyf Aber Erch, gwaeddai rhywun ar ei ol—"Y dyn diofal a'i ddwylaw ar ei gefn, a wnai di ddweyd wrth Franco Huws y Teiliwr fod Megan Sion wedi marw?" Yna, un o'r Tylwyth Teg, yr hwn a lochesai dan gareg yr aelwyd yn Ngallt yr Un-gwys a ofynai, A ydyw Megan Sion wedi marw?" O ran dim a wyddom, aeth "y dyn diofal " heibio yn gwbl ddi-lafar; ond os cafwyd atebiad ganddo, nid ymddengys fod y cyfryw ar gof a chadw.
Oddiwrth blisgyn o hanes, cawn enw a sefyllfa lle, yn cadarnhau y traddodiad canlynol:Rhwng Cae'r Mab a'r Ty Hir, yn mhlwyf Llanarmon, dan lwybr troed tros bontbren gynt (ond tros lech-faen lwyd yn bresenol) croesid ffrwd fechan a elwid "Ffrwd teulu rhif y gwlith" a "Ffrwd y teulu mân," sef y Tylwyth Teg. Erbyn hyn mae yr oll o hanesyddiaeth a digwyddiadau y llecyn a'i breswylwyr wedi myned yn llwyr ar goll. Byddent hefyd arferol o dalu ymweliadau â Rhyd Gynnhwr'-terfyn rhwng plwyf Bryncroes a Myllteyrn, ac i'w gweled, weithiau, yn marchogaeth dros y bryniau cyfagos ar geffylau wedi eu haddurno â chlychau arian.
Nid yw dros gof gan rai am hen ddynyn o'r enw Sion Olfyr, a deithiai Leyn ac Eifionydd o ben bwygilydd i drwsio gograu. Argraffesid arwyddion henaint ar ei wyneb, dechreuai penwyni ar ei goryn, a chrogai ei wallt yn gedenog dros ei glustiau. Bygythid ei ofn ar blant er mwyn ceisio eu heddychu a'u harwain at y ddyledswydd o ufudddod; ac os gwelid dynion dibris ac afler yn eu gwisgiad, buan yr edliwid iddynt hwythau eu bod yn gymhwys gymdeithion i Sion Olfyr. Ni wyddai neb o ba ran o Gymru yr oedd yn enedigol, ond byddai son ei fod yn perthyn i'r Tylwyth Teg o ochr ei fam.
Ryw ysbaid o fisoedd cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, aeth gwraig o fwthyn llwydlwm a safai yn mharth dwyreiniol y llechwedd-dir a elwir Mynytho, i amaethfa gyfagos o'r enw Bodwrog, yn mhlwyf Llanbedrog, "i roi diwrnod yn y gwair," a'i phlentyn bychan gyda hi, yr hwn a ddodasai i gysgu yn nghwr un o'r mydylau. Yn mhen encyd o amesr, clywai ei phlentyn, fel y tybiai, yn wylo'n dorcalonus, a rhedai tuag ato yn llygad ac yn glust i gyd, ond erbyn cyrhaeddyd ato, gwelai er ei chyffro nad ei phlentyn hi ydoedd, eithr plentyn perthynol i'r Tylwyth Teg, tra y tad a haerai mai gwedi cyfnewid dan effaith cysgu yn y gwair yr ydoedd, drwy yr hyn y darbwyllwyd y wraig, rhwng dau feddwl, i'w gymmeryd gyda hi adre i'w fagu, ond un amser ni ynganid gair o serch ganddi tuag ato, am y credai ei fod yn fam rhy dda i blentyn Tylwyth Teg. Dyna hefyd dyb llaweroedd tra'n siarad am dano, a mynych y dywedid gan dafod gwlad mai "Ar ol ei deulu y mae . . . yn tynu." Er pob magwraeth a gofal, rhyw goryn bychan, dilewyrch fu ef ar hyd ei oes, gan droi yn feddwyn rheglyd, yr hyn a ddihysbyddodd ran fawr o fwyniant oes yr hon a'i magodd. Awgryma hynyna, y gellir coelio fod llawer o blant ar ol troi yn afiach a nychlyd, wedi cael eu trin yn greulawn dan y dybiaeth eu bod yn blant y Tylwyth Teg.
Y mae ar dir Carnguwch Fawr, yn mhlwyf Carnguwch, gareg wastad, lydan-fawr, a mynedfa oddi tani, ag y dywed traddodiad yr ardal y byddai y Tylwyth Teg yn arfer cynneu tân dani, ac yn dawnsio ar ei chlawr. Gellir gweled y gareg mewn cae a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae'r Tylwyth Teg." Dosbarth llariaidd yr ystyrid y rhai hyn, yn byw yn hollol fugeiliol, gan gefnogi yn oestad bob rhinwedd a haelioni. Dywedid mai yn y ddaear yr oeddynt yn byw, ac yn cadw eu llysoedd,—mai trwy lynau o ddwfr yr oeddynt yn myned iddynt ac allan o honynt, a thra chyfnawsaidd â'u natur, yn ol yr hen goel, y cyfrifid llynau Ystumllyn, Afon Wen, a Glasfryn, at yr hwn, yn fwyaf neillduol, yr ymgyrchent yn finteioedd—nid yn ddibwrpas, ond i nyddu â'u troellau bach, gan symud ol a blaen a thrwy eu gilydd, fel "bendith y mamau" yr hen chwedlonau, a chlywid eu swn o bell. O ba le y caffent wlan at eu nyddu, ofer ceisio hysbysebu, eithr tebygol nad oedd bugeiliaid sircynog y mynyddau yn fyr o dalu ymweliadau mynych â hwynt, a phwy wyr nad allasai hyny fod. Cafodd un o'u plant—lodes, y gair ar dafod gwlad o fod yn gwasanaethu yn Nglasfryn, yr hon, fel y gweddai i forwynig fod oedd ddiarebol o dda—yn ei ffordd yn hen ffasiwn allan o bob rheswm—yn fywiog, ofalus, a di-hepian efo'i gwaith. Talai sylw mawr i'r droell fach—nyddai bob cyfle gaffai, a phwy warafunai iddi: a phob amser wrth nyddu, sisialai ganu mewn tawelwch—ond tawelwch gafodd lais—
"Bychan ŵyr fy meistres i,
Mai Jili Ffrwtan ydw' i."
Ofer fyddai cofnodi yr holl enghreifftiau sydd ar hyd a lled y wlad o'r hanesion hyn, er eu bod bob amser yn swynol i'r meddwl dynol o'r plentyn i'r hynafgwr. Ond pwy nas gwyr fod o'r Tylwyth Teg ddau ryw—un o foesau addfwyn, ac o ymddygiad da tuag at yr hil ddynol, a'r llall o dueddiad maleisus, yn llawn o ddifyrwch niweidiol, sef yr Ellyllon, y rhai ag y troai eu rhoddion o arian a bwydydd, o'u cadw dros ychydig ddyddiau, yn dameidiau o fadarch, ysglodion a thail ceffylau.
Cytuna traddodiad y tadau i ddal i'r lan fod y Tylwyth Teg yn rhai cyfoethog iawn—yn hynod ofalus am dalu eu ffordd, ac yn ddiarebol am wobrwyo glendid. Arferai yr hen bobl ddyweyd wrth y merched, os gadawent yr aelwyd a' buarth yn lân, a'r cunogau yn llawn o ddwfr wrth fyned i'w gwelyau, y deuai y Tylwyth Teg yno yn y nos i wledda ac i ddawnsio, ac y canent yr hen dôn a elwir "Toriad y Dydd," gan adael arian ar y pentan "O lwyr glod am lawr glân."
Gwedi cyrhaeddyd yn draddodiadol drwy gydol olyniad maith o oesau, y maent wedi cefnu'n llwyr ar y byd hwn a'i bethau yn ddistaw a dirodres, ac o ddilyn hen hanes, cawn mai ar fynydd y Cenin, yn y sir hon, y cafwyd yr olwg ddiweddaf arnynt. Fodd bynag am hyny, er nad oes llathen o dir yn mron o fewn y wlad heb fod rywbryd Dylwyth Teg neu fwgan arno, y mae y cyfnod hwnw wedi myned heibio. Aeth y Tylwyth Teg ymaith, ac aeth yr ysbrydion i dalu ymweliadau mwy anfynych nes peidio dod o gwbl. Ac yn wir, dechreuodd cyfnod newydd. Nis gwyddys pa ddydd, pa fis, na pha flwyddyn, ond yn lled ddiweddar, fodd bynag. Yn lle bod ysbryd a bwgan wrth bob llidiard, ar bob camfa, ac yn mhob hen dŷ, y mae pethau wedi newid—wedi darfod, cyn i neb allu cadarnhau unrhyw dystiolaeth benderfynol phendant am eu tarddiad dechreuol. Felly mae
yr holl o wir hanes yn eu cylch yn ymylu ar fod tu hwnt i brofion. A goelio, coelied; a beidio, peidied.
GWRACH Y RHIBYN.
Tybir mai yn y niwl tew y preswyliai, ac mai anfynych, os byth, yr oedd yn cael ei gweled, eithr yn cael ei chlywed yn ysgrechain yn uchel, ac yr oedd ei hysgrech bob amser yn cael ei hystyried fel argoel o ryw ddrwg ar ddisgyn i ran y sawl a'i clywai. Ymddengys ei bod yn cynnrychioli yr Andras, y Fall, Mam y Drwg, y Wrach, &c., fel rhyw enw mwy cyffredinol. Yr oedd yr Andras yn dduwies a addolid gan yr hen Gymry, ac i'r hon yr aberthent ebyrth dynol. Dengys yr enwau a roddid arni mai un i'w harswydo yn fwy nag i'w charu ydoedd, ac mai nid yn ddiachos y gelwid hi gan rai yn ellyll hedegog, &c. Yr oedd hon yn ofnadwy yr olwg arni—ei breichiau gieulyd, ei hewinedd hirion, ei gwallt attwf, ei danedd duon, a gwelwder marwol ei holl wedd yn ei gwneuthur yn bob peth hagr a dychrynllyd. Y mae yr enw yn amcan—ddesgrifiad o'i llef hir—llaes, yr hon oedd yn ddigon arswydus i rewi gwythenau pawb a'i clywent. Anfynych y gwelid y wrach ei hunan, ond ar groesffordd neu wrth aberoedd, lle y byddai yn curo y dwfr â'i dwylaw—clywid hi yn seinio galarnad am rai ar farw. Os syrthiai y geiriau "Fy ngwraig, fy ngwraig" ar glustiau gwr priod, byddai yn sicr o golli ei gymhar yn fuan, ac yn udo cyn hir yn yr un dôn; ac os clywid ysgrech heb eiriau yr oedd yn debyg mai y gwrandawr ei hunan a rag-rybuddid o'i farwolaeth. Y wrach hon oedd yn troi gwelyau yr afonydd, drwy daflu meini mawrion iddynt pan yn ehedeg o'r naill fynydd i'r llall. Mae yn Hendref Ddu, plwyf Dolbenmaen, gae yn dwyn yr enw "Andras Bach"; ac yn Nanhwynan, ar lan yr afon islaw y ffordd o Fedd Gelert i Gapel Curig, hen adfeilion mawrion a elwir "Caer Andras." Gelwir dyn drwg yn andras, a gofynir weithiau, "Pa andras sydd ar y dyn?" Ai yr andras a welaist?" &c. Dywed rhai mai Gwrach-yr-oer-boen y dylid ysgrifenu yr enw; ond ereill a farnant mai llygriad o Wrach-yr-ubain yw Gwrach-y-rhibin, am mai ubain, wbian neu ybain yn ofnadwy iawn y byddai.
YR WYLL.
Dywedir mai bod anweledig, ag sydd yn marchogaeth ceffylau ieuainc yn y nos, ac yn eu gyru nes y byddont allan o wynt, ac yn dyferu gan chwys ydyw hwn. Byddent hefyd yn crynu drostynt, ac erbyn y borau byddai y mwng wedi ei ddyrysu drwyddo, a chyffelybrwydd gwrthaflau wedi eu cordeddu ynddo. Mae ebolion yn agored i gael eu poeni gan fath o afiechyd ag sydd yn naturiol o dori allan yn y wedd yma, felly dyma effaith ac achos gwirioneddol yn llechu dan y goeldyb yna, fel llawer o bethau ereill, ag ydynt, fe allai, heb dd'od i'r amlwg. Rhwyll y seinir yr wyll ar lafar gwlad, fel pe yn cymmeryd yr ystyr oddiwrth yr Wyll ag y mae y Beibl yn son am dani yn Esaiah xxxiv. 14, lle y proffwydir dinystr dinasoedd gelynion yr Eglwys, ac y dywedir am eu hannghyfanleoedd hwynt, "Ac anifeiliaid, &c., yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orphwys yno, ac a gaiff orphwysdra ynddi."
Y CYHYRAETH.
Yr hyn a olygir wrth Cyhyraeth ydyw ysbryd neu ddrychiolaeth angladd, claddedigaeth, neu gynhebrwng. Ar hyd llawer o oesau ni fu ben draw ar ymddiddanion a gwahanol dybiau yr hen bobl am ddull, a pha fath lais oedd gan y Cyhyraeth, yn nghydag o ba le yr oedd yn dyfod, ac i ba le yr oedd yn myned. Wrth edrych i'r Geirlyfrau ceir mai Cyfundrefn y gewynau feddylir wrth y gair Cyhyraeth; ond am y llais, ymddengys mai hurtrwydd a dim arall ydyw.
Y FORFORWYN.
Y mae llawer yn haeru mai creaduriaid dychymmygol yw y rhai hyn, ac nad oes dim o honynt mewn bod; ond sircha ereill ddarfod iddynt eu gweled mewn amryw barthau o'r byd.
Y mae rhai pobl gall gyfrifol, yn awr yn fyw, yn tystiolaethu ddarfod iddynt weled amryw o honynt, o dro i dro, ar benau ceryg, uwchlaw gwyneb y môr, wrth y gorchwyl o gribo a threfnu eu gwallt. Darlunir y Forforwyn o liw gwineu tywyll, a'i gwyneb yn debyg i wyneb dyn, safn fawr, trwyn llydan, talcen uchel, llygaid bychain, heb un ên na chlustiau, ei breichiau yn fyrion a di-blyg, a'i dwylaw fel dwylaw dyn, ond fod ei bysedd wedi eu huno â math o groen teneu, ac o'i gwregys i lawr yn bysgodyn, a'i rhai bach yn sugno fel plant dynol. Cyfarfyddir yn aml ar hyd glanau y môr â math o wymon, neu chwyn y môr, yr hwn bob amser a adnabyddir wrth yr enw "Esgid Morforwyn"; hefyd â chragen a adnabyddir wrth yr enw "Het Morforwyn." Er fod bys hanesiaeth yn cyfeirio at wrryw yn gystal a benyw o'r rhywogaeth yma, ni cheir gan lên gwerin unrhyw grybwylliad ond am y rhyw fenywaidd yn unig. Yn yr hen chwedlau Cymreig ceir fod un yn dwyn yr enw Gwenhidwy, fod y tonau brigwynion yn ddefaid iddi, ac mai'r nawfed dòn oedd ei hwrdd.
ADERYN CORFF.
Clywid ef yn fynych o flaen marwolaeth perthynasau neu gymmydogion: tebygid ei lais yn dra chywir drwy seiniau y gair pewitt. Arferai ysgrechain yn erchyll yn y nos yn agos i'r ty lle byddai rhyw un claf ynddo, neu gerllaw ffenestr ystafell y claf. Ei adlais ysgrechlyd ydoedd yn llenwi pawb â sobrwydd, canys yr oedd "aderyn corff," blaen-genad anffaeledig angau, gyda'i wichlais arswydus, yn ddigon effeithiol i ddifrifoli pawb, a pheri iddynt ddymuno diwedd da.
CANWYLL GORFF.
Ystyrid fod Canwyllau Cyrff bob amser yn rhagflaenu, a'u bod yn myned yn union ar hyd y ffyrdd a'r llwybr y byddai i'r cyrff gael eu cludo ar hyd-ddynt i'r mynwentau. "Nid oedd pawb yn gallu cydweled yn nghylch yr amser y byddai i farwolaeth gymmeryd lle ar ol ymddangosiad y Ganwyll; ond y farn gyffredin ydoedd y byddai raid i hyny gymmeryd lle cyn diwedd y flwyddyn, yn nghylch yr hon y gwelid yr argoel, er fod ereill yn cwtogi neu yn hwyhau yr amser. Ond nid oedd un gwahaniaeth yn nghylch fod lliw a maintioli y Ganwyll bob amser yn dynodi oedran a rhyw y sawl yr argoelid ei ddiwedd. Lliw coch fyddai i fflam y ganwyll a ragflaenai angladd mab, a lliw llwyd-oleu i'r un a ragflaenai angladd merch; a chanwyll fawr o flaen person mewn cyflawn faint, ac un fechan o flaen plentyn, ac yn gwahaniaethu yn gymmesur i wahaniaeth oed a maint plentyn bychan a pherson llawn twf. Byddai y dyn a dorid i lawr yn llawn nerth ei yni, yn cael ei ragflaenu gan fflam anferth a disglaer; a hen wr neu hen wraig, wedi hir ddihoeni gan afiechyd a henaint, yn cael argoel o'u diwedd gan oleuni salw a gwelw, ond o faintioli cyffredin. Y rheol oedd fod y Canwyllau hyn yn dyfod o ystafelloedd y personau ag y byddai eu marwolaeth yn cael ei ragfynegi gan eu hymddangosiad. Gwelid y ganwyll yn y nos yn myned ar hyd y ffyrdd y byddai cynhebrwng wedi myned ar hydddynt y diwrnod cynt.
TAN ELLYLL,
neu hudlewyn. Gelwir hwn yn Saesonaeg, Willwith-a-wisp neu Jack-with-a-Lantern.
Math o dân neu oleuni gwanaidd ydyw, ag sydd yn ymddangos yn y nos, yn fynychaf mewn lleoedd corsiog a siglenog, ac yn agos i afonydd a ffosydd dyfrllyd. Y mae weithiau yn rhoddi goleuni disgleiriol, brydiau ereill yn fwy aneglur, ac o liw coch-las. Gwelir y tân hwn weithiau yn canlyn anifail neu ddyn am gryn ffordd, a phan fo rhyw un yn ceisio nesau ato, fe'i canfyddir yn cilio oddiwrtho fel pe b'ai bywyd a gwybodaeth ynddo; a bernir mai yr achos o hyn ydyw ei fod yn cael ei wthio gan yr awyr fo yn cael ei yru gan y sawl fo yn nesau ato, ac mai dyna sail y dyb ei fod yn cael y gair o arwain dynion i byllau a lleoedd diffaeth. Y mae ar dir Cwm Trwsgwl, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, lecyn o'r enw "Ellyll."
YR HUNLLEF.
Pan y byddo yr Hunllef ar ddyn y mae yn teimlo pwysau mawr a gorthrwm ar ei ddwyfron neu ei galon, ac yn cael ei wasgu yn y fath fodd nes ydyw yn ymdrechu am ei fywyd; ac weithiau y mae yn gallu lleisio, a hyny yn y cyffredin yn y modd mwyaf wylofus. Y mae y meddwl yn ei gyffro a'i derfysg yn dychymygu, megis rhwng cysgu ac effro, ei fod yn gweled dyn neu ryw fath o greadur yn ffoi oddiarno gyda ffrwst. Y cynghor, gan yr hen bobl, i gael ymwared oddiwrth arteithiau yr Hunllef oedd, tynu bysedd y dwylaw drwy fysedd y traed, ac yna eu gosod hwy wrth y trwyn, a thynu yr arogl i fewn yn gryf am oddeutu dau funyd; ac ystyrid y feddyginiaeth yn anffaeledig.
BREUDDWYDION.
Y mae llawer wedi ei ddywedyd a'i ysgrifenu am athroniaeth breuddwydion, ond ychydig, os dim, doethach ydym wedi gwrandaw a darllen y cwbl. Yr oedd y grediniaeth o barthed i freuddwydion a gweledigaethau y nos yn hynod boblogaidd yn yr hen amser, ac nid oes eto ond ychydig heb ryw gymmaint o ffydd ynddynt, ac heb gael eu dylanwadu ganddynt i ryw raddau. Yr oedd y trigolion yn gymmaint caethion i hyn ag oeddynt i ddewiniaeth yn ei ffurf o ragfynegi tynged, rheibio, dadreibio, codi a gostwng cythreuliaid, &c. Yr oeddynt oll o'r hynaf i'r ieuengaf yn ferw o freuddwydion rhyfedd, anhygoel, os nid goruwch-naturiol. Yn eu cwsg gwelent, meddent hwy, bethau presennol, mynedol, a dyfodol yn ddiwahaniaeth, a hyny mewn rhithiau breuddwydion digon cyffrous i ferwino clustiau dyn wrth eu clywed yn eu hadrodd. Gweled nadredd a arwyddai elynion a digofaint llidiog, ond os mewn dwfr eu gwelid, gelyn heb allu'ch niweidio; meirch a ddynodent gyfeillion ffyddlawn; tân, colled a gofid; beddau, cyfoeth ar ol perthynasau; syrthio i ddwfr o liw tywyll budr, cystudd ac afiechyd; bwyta cig moch, angau a marwolaeth! Rhai, os breuddwydient am "ddwfr llwyd," a ofnent ryw afiechyd am wythnosau, ac a elent yn glaf, ond odid, gan faint eu hofn. Ereill, os breuddwydient am nadredd, ni wnelent nemawr o gyfeillach â neb yn hir ar ol hyny, rhag eu bradychu gan ryw elyn! Tra y clywid ereill yn brolio fod rhyw "lwc" i ddyfod iddynt hwy yn sicr gan iddynt freuddwydio dair gwaith yn olynol eu bod yn rhodio yn mysg y beddau, &c.
DEWINIAETH.
Gweithred ffugiol yw dewiniaeth, yn dynodi amrywiol gelfyddydau a arferid i ddarganfod neu i ragddangos y dyfodol. Mae y gred fod rhai personau yn feddiannol ar alluoedd goruwch-naturiol, a'r rhai a elwid dewiniaid, yn hen iawn, ac yn gred ag a fu yn ffynu ymhlith agos yr oll o genedloedd y byd. Bernid eu bod yn feddiannol ar alluoedd mawrion, eu bod drwy offerynoliaeth y diafol, yn gallu achosi tymestloedd ar dir a môr; deifio cnwd y ddaear, a niweidio anifeiliaid, dwyn afiechyd corfforol ar unrhyw berson a ddigwyddai fod yn wrthddrych eu malais; a'u bod yn gallu cyfnewid eu hunain ar lun cathod, ysgyfarnogod, neu greaduriaid ereill, yn ol eu mympwy eu hunain. Ymhonent eu bod yn gallu gwneuthur i'r ysbrydion drwg ymddangos, ac y gwnelent iddynt gwblhau y gorchwylion hyny a orchymynent hwy iddynt. Y mae amryw enwau arnynt, megis Astronomyddion, Breuddwydwyr, Cyfareddwyr, Daroganwyr, Gaubroffwydi, Hudolion, Rhinwyr, &c. Yr oedd ganddynt lawer o seremoniau i'w cyflawni. Weithiau gwnelent arwyddion drwy ddwfr y môr, drwy gynhyrfu dwfr mewn ffynnon, drwy ddangos rhyw wyneb dieithr yn y gwydrddrych, drwy goluddion anifeiliaid, breuddwydion, ffigyrau, dyfod â rhyw gerdyn pennodol i law, symudiadau gograu, awyr, tân, mwg, ehediad adar, allwedd-goel, geiriau neu leisiau neillduol, ceryg, llusernau, y meirw a'u hesgyrn, wyau, y fwyell, y ganwyll, llestraid o ddwfr, a llawer o bethau ereill. Haerent ddarfod i Dduw roddi eglurhad mewn natur, beth oedd i ddyfod i ran dyn, ac yna gwnelent sylw mawr ar ddull y corff, lliw y gwallt, &c. Iddynt hwy y perthynai symud afiechyd a melldithion o deulu a fyddai wedi cael ei ddarostwng danynt; hwynt-hwy oedd biau datguddio trysorau cuddiedig, a dangos gwynebau lladron yn eu drychau. Pan gollid dernyn o arian o'r gôd, neu ddodrefnyn o'r ty, pan fyddai rhyw aflwydd yn siomi rhyw amcan bydol, neu afiechyd yn syrthio ar ddyn neu anifail, at bwy y rhedai llaweroedd am gynghor a nodded? At bwy amgen nag at y gŵr neu y wreigan ddoeth, neu berchenog rhyw ffynnon dewiniaeth? Gan y rhai, tybygid, yr oedd gwybodaeth am bethau i ddyfod, a dirgel waith y lleidr dan orchudd y nos a welid ganddynt hwy, megis yn ngoleuni canol dydd. Hwynt-hwy oedd biau wella y ddannodd, ereill ddefaid gwylltion, y trydydd symud ymaith bob math o anhwyldeb, a'r pedwerydd i "roddi yr ysbryd neu yr ysbrydion i lawr." byddai i ambell i wr boneddig o offeiriad yn feistr ar ysbrydion a holl ellyllon y pwll diwaelod—yn gallu eu hoffrymu dros fil o flynyddoedd rhwng y rhisglyn a'r pren, neu i waelod y Mor Coch. Byddai ambell un yn gallu ffrwyno'r swynwyr eu hunain, a gyru ymaith eu melldith oddiar ddynion ac anifeiliaid; ac yn rhoddi nôd arnynt hwythau. Weithiau byddai cyrn yn tyfu ar ben ambell un o honynt, a mawr y gred a'r cyrchu fyddai at y gwyr hyn ar wahanol achosion. Pan elid atynt yn nghylch colli anifail neu arian, neu rywbeth arall; byddent hwythau yn darlunio yn mha fath le y byddai y pethau; ac wrth chwilio am le tebyg i'r darluniad, ceid yr eiddo weithiau, a byddai eu cael unwaith o gant yn ddigon i ganu eu clod drwy'r holl wlad. Rhaid oedd i'r rhai fyddai yn myned atynt ddwyn hwyaden neu wydd dew, neu ddarn bras o gig da; ac yna y gwyr da a gymmerent y rhoddion, ac mewn lle dirgel hwy a'u llosgent yn lludw, ac a roddent y lludw yn ol i'r gwirion druan, i'w ddiogelu rhag yr hudolwyr byth mwyach. Ond mae yn ddigon gwir mai bwyta yr hwyaid a'r gwyddau, &c., yr oedd y llwynogod cyfrwys, a rhoddi yn ol ludw y coed a losgid i'w trin.
Y mae olion sêr-ddewiniaeth yn ganfyddadwy yn ein gwlad eto. Clywn yn fynych fod un wedi ei eni dan blaned ffodus. Cafodd yr athrawiaeth hon ei gosod yn nghyfundraeth dduwinyddol yr hen bobl drwy eu bod yn duwio holl ranau a galluoedd natur, yn neillduol y bodau wybrenol, ac yn priodoli i'r rhai hyn, nid yn unig fywyd a gwybodaeth, ond hefyd symudiadau rhagddirnadol, a dylanwadau llywyddol ar bob peth isod. Rhanent y wyddor yn ddwy ran naturiol a daroganol. Yr oedd y flaenaf yn rhagddangos digwyddiadau naturiol, megis cyfnewidiad y tywydd a'r gwynt, tymestloedd, taranau, &c., fel pe byddent dan ddylanwad y ser. Bernid fod comedau yn darogan drygfyd dirfawr i genedlaethau y byd, a bernid y drygau yn ol ffurf y comed. Os byddai yn gron, clir, a disglaer, daroganai enedigaeth rhyw dywysog enwog yn ei awdurdod ar y cenedloedd; os ffurf hir-gul a gymmerai, tybid y daroganai golledion mawrion drwy dân, a goresgyniadau anocheladwy o'r fath; os ymddangosai yn dywyll, ddyfrllyd, a'i barf yn ysgwydawl, a thonog, daroganai fradwriaeth yn mhlith y bobloedd, a llifogydd mawrion; os ymddangosai fel corn, daroganai oresgyniad rhyfelgar; felly hefyd os byddai ar lun udgorn. Bernid fod trawsiad planed dros wyneb yr haul yn arwyddo blinfyd, a bod yr oll o'r pethau hyn yn dwyn rhyw argraff o weithredoedd goruwch-naturiol; a gellir hefyd grybwyll diffygiadau, taranau, mellt, daeargrynfäau, y rhai a briodolid unwaith i weithredoedd y diafol.
Cyfeirid at bob rhan o natur braidd, fel yn arddangos, mewn amgylchiadau pennodol, argoelion da, neu ddrwg, o dynged ddyfodol dyn; a daeth hygoeledd i edrych ar gydgyfarfyddiad damweiniol pethau, a flaenorent ryw ddigwyddiad yn mywyd un neu ddau ddyn, fel peth sicr a dieithriad o ganlyniadau cyffelyb achosion pawb. Mae yn amlwg wrth graffu ar ddaroganau, fel y gelwir hwy, mai nid proffwydo yr oedd y beirdd a elwid yn frudwyr, ond ysgrifenu yn fwriadol at eu gilydd, mewn ffordd dywyll ac annealladwy i'r werin, rhag iddynt ddeall eu meddyliau a'u bwriadau yn nghylch heddwch a rhyfel. Pan fu y rhyfel cartrefol rhwng yr Iorkiaid a'r Lancestriaid: Rhys Goch Eryri a ganodd ei ymddiddan rhyngddo a Charnedd Llewelyn, ac amryw frudiau ar yr un achos. Ac o hyny hyd yn hyn, tybia rhai o'r cyffredin mai dewiniaeth neu broffwydoliaeth yw y fath ganiadau, ac y daw cyflawniad i bob sill o honynt. Arferai y brud-feirdd enwau anifeiliaid y maes, ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid yr awyr, o'r wadd i'r llew, ac o'r gwybedyn i'r eryr, i ddynodi yr amrywiol ddynion a fyddent dan eu sylw. Nid oes i mi ddeall wrthynt ond lluniau y cyfryw bethau yn arfbeisiau yr ymrysonwyr ag y soniai y beirdd am danynt. Yr oedd yn rhy enbydus eu henwi wrth eu priodol enwau, dan fawr berygl ac ofnau am eu dâ ac am eu bywydau, ar yr achos. Ychydig oedd nifer y dosbarth yma o frudwyr yn y sir hon—dim ond dau neu dri, sef Adda Frâs a Robin Ddu, neu Robin ab Siencyn Bledrydd. Yn llyfr Gwerclys, dywedir am Adda Frâs fel yma:—"Yn amser Gruffydd ab Seisyllt, tywysog Cymru, yr oedd Brudiwr a elwid Adda Fras yn trigo yn y lle a elwid Aber Llechog, yn Is-Conwy; ac yno y peris ei gladdu mewn corlan defaid; i'r man y gwnaeth efe ganeuon i ddangos y byddai yno Fonachlog. Yr oedd yr Adda Fras yma yn byw o gylch y flwyddyn 1060." Ymddengys ei fod yn brudio gannoedd o flyneddau gwedi ei farwolaeth; canys tybid yn yr oesau tywyll iddo ragfynegi fel hyn am Harri IV.:
"Ac ynghastell y Folallt yr ymguddia.
Yn Hwnslo Heth y bydd cadarna
Ac yn Siring Cros yr ymgadarnha
I fyn'd i'r Bryn Gwyn i gael eisteddfa."
Amserir Robin Ddu o'r flwyddyn 1340 i'r flwyddyn 1370; hefyd o'r flwyddyn 1460 i'r flwyddyn 1560; a'i fod yn enedigol o Landdeiniolen, ac yr adnabyddid yn lled ddiweddar Furddyn Robin Ddu wrth Fryn Adda, yn mhlwyf Bangor, ger Aber-y-Felin, sef Porth Dinorwig fel y noda yn un o'i gywyddau Brut. Ymddengys mai dyn tlawd ydoedd, ond yn un disgleiriaf am awen a gwybodau a feddai ei wlad, a hawdd yw tynu allan o'i waith lawer o ansawdd a helynt yr oes yr oedd yn byw. Ystyrid ef yn ddewin cyfrifol, ac y mae llawer o'i ddaroganau yn aros hyd heddyw. Nid oes odid un hen balas na threflan yn Ngwynedd ar nad ydynt yn dwyn i gof ryw hen goel neu chwedl ddifyrus yn nglŷn â'u henwau, ag y dywedir mai efe a'u daroganodd, megis y bydd i fuwch goch redeg drwy Bwllheli ar ddiwrnod ffair, fel blaen-rybudd o syrthiad y dref i'r llynclyn; y byddai i darw fyned i ben clochdy Llandegwning; y byddai i wyfonen dyfu yn nghwr ffenestr orllewinol Llanbedrog, yr hyn a ddigwyddodd, yn debygol, drwy i awel o wynt chwythu hedyn o'r natur yma i'r lle, neu ynte i aderyn ei gario vn ei gylfin a'i ollwng yno. Priodolir i Robin Ddu gannoedd o chwedlau o gyffelyb natur, megis y llinellau,
"Dwy flynedd cyn daw aflonydd,
Pont ddifai ar Fenai fydd."
Dywedir iddo chwareu llawer o ystrangciau â'r diafol, ac iddo ei siomi a'i dwyllo lawer tro. Addawodd lawer gwaith i'r diafol gael ei gorff ef ar ol iddo farw, a chael ei gario allan drwy ddrws y bwthyn, a thrwy y porth i'r fynwent. Os twyllodd ef yn ei fywyd, credai yr arch-dwyllwr fod yn anmhosibl iddo ei dwyllo ar ol marw. Gwyliai y diafol yn ddyfal ar Robin yn treulio ei oriau diweddaf yn y byd, rhag iddo gael ei siomi y tro hwn eto. Ond ei siomi a gafodd, fel arferol. Yn ol y cyfarwyddiadau a roddodd Robin i gymmydog iddo fisoedd cyn ei farw pa fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu, yr oedd agen i gael ei thori yn mur y bwthyn, a'r arch i gael ei gario allan drwy hono, felly yr oedd y drws i gael ei ochelyd; ac er mwyn gochelyd porth y fynwent yr oedd i gael ei gladdu dan fur y fynwent hanner i mewn ynddi a hanner allan o honi. Gan na chariwyd y corff allan drwy ddrws y bwthyn, nac i borth y fynwent, yr oedd y diafol wedi colli ei hawl arno, ac nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dychwelyd yn siomedig a gwaglaw. Dywedir mai o'r chwedl hon y tarddodd y tair diareb ganlynol:
1. "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn hirion."
2. "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi."
3. "Paham y llyf y ci y maen? Am nas gall ei ysu."
Y dosbarth arall o frudwyr oeddynt rodreswyr a gymmerent arnynt egluro pethau tywyll, dirgel, a rhagfynegi digwyddiadau dyfodol, drwy gyflawni gwahanol ystrywiau i gyflawni eu rhodreswaith. Os byddai dyn yn meddu ychydig wybodaeth uwchlaw darllen ac ysgrifenu, neu ei fod yn perchen talent a dysgeidiaeth mwy na'i gyfoedion, a thrwy ei fyfyr a'i wybodaeth wedi cael dyfais newydd, ar na fedrent hwy amgyffred, priodolid y peth i'w gyfeillgarwch â Satan, a chredent ei fod mewn cynghrair â'r cythreuliaid, ei fod yn gallu gwneyd i'w ysbrydion ymddangos wrth ei ewyllys, i wneuthur iddo yr hyn oll a ddymunai, pa un bynag ai cyson ai annghyson â natur pethau, a'u halltudio pan fyddai galw am hyny, oddigerth un dosbarth o ysbrydion, yr hwn y byddai raid cymmeryd ei achos o flaen yr Eglwys, a thrwy ympryd a gweddi y gellid ei yru ymaith; a chan mai yr offeiriaid, oddigerth eithriad, oedd yr unig ddosbarth o ddynion dysgedig yn y wlad; arnynt hwy yr oedd y bobl yn ymddibynu am bob gwybodaeth, megis mewn cyfreithiau, cerddoriaeth, hanesiaeth, meddyginiaeth, &c.; a hwynt—hwy a dderbynient braidd yr holl glod am y gwrhydri o wneyd trefn ar ysbrydion; ond ymddengys nad oes enwau namyn ychydig o'r gwyr galluog hyn wedi glynu yn nghof y werin. Yn mhlith yr
ychydig hyny, cawn yn Llŷn un dan y cyfenw Dewin y Rhyllach, i'r hwn y priodolid amryw weithredoedd, yn ymylu ar fod yn wyrthiol, os nad yn wirioneddol felly, megis gallu i aredig a cheiliog hwyaden, gwneyd i gwpan bren nofio yn ngwrthwyneb y llif, &c. Priodolir iddo yr arferiad a'r gallu i fyned i'r Plas Hen, yn Eifionydd, eisteddle y Mostyniaid y pryd hyny, a dwyn oddiyno yr hyn a fynai, y pryd y mynai, a hyny heb yn wybod dim i neb, drwy rin y geiriau,
"Dros y drain a'r d'rysni,
Drwy y tew a'r tenau,
I Fwtri Mostyn ac adref."
Y mae ar lafar gwlad ddarfod i ereill ryfygu ymgiprys â'r un gyfrin-gamp orbwysig, ond iddynt ddyweyd "Drwy y drain a'r d'rysni" yn lle "Dros y drain a'r d'rysni," ac yn ngwyneb y fath amryfusedd, i'r gwr drwg eu cipio ymaith ar darawiad, "Drwy y drain a'r d'rysni," &c., fel na welwyd mo honynt mwyach. Cysyllta llawer y chwedl, gyda pheth priodoldeb â Phlâs y Ward, Pwllheli, yn hytrach na'r Plas Hen. Safai yr hen Blas y Ward yn agos i'r lle y mae Plas y Ward presennol; bu hefyd yn eisteddle i'r Mostyniaid, ac y mae yn aros hyd heddyw, yn y llecyn le yn dwyn yr enw Bwtri Mostyn, heblaw fod agosrwydd y Rhyllach a Phlas y Ward i'w gilydd yn mantoli, gyda llawer o reswm, i'r ochr olaf.
Hefyd, o herwydd i hen foneddion uchelwaed, ag oeddynt yn byw yn Nghefnllanfair, plwyf Llanbedrog; o anffawd neu amryfusedd, beri tramgwydd i'r hen ddewin dialgar hwn, bu iddo, yn ol ei ewyllys ar y pryd, eu cyfnewid o fod yn bobl cyflawn faint, i gyflwr a chyfnod plentynaidd eilwaith—i sugno, i gael eu siglo, &c. Gwyn fyd na tharawem wrth ei fath yn yr oes hon! Yr oedd ganddo awdurdod i gyfodi yr ysbrydion aflan a gwneuthur iddynt ymddangos, a gallu i'w llywodraethu; ac yr oedd y gallu a'r awdurdod hwn, meddir, naill ai ynddo ef ei hun, neu yn y geiriau a arferid ganddo, neu wedi eu derbyn oddiwrth Dduw. Y mae yn hen draddodiad er ys oesau, ddarfod ei gladdu yn Mwlch-Drws-Wnowl, yn ochr orllewinol yr Eifl, ac y byddai pawb, wrth fyned heibio ei fedd, yn taflu careg arno, nes o'r diwedd i'r fan gyfodi yn garnedd fawr.
Rowland Hughes, gwr cyfarwydd yn nghelfyddyd rhif a mesur, cymmeriad nodedig yn y wlad, enwog yn mysg y werin mewn cyssylltiad ag ofergoeledd, yn cael y gair o fod yn ddewin ac o fod yn gallu nol a danfon pob math o ysbrydion wrth ei ewyllys, oedd yn cadw ysgol ddyddiol yn Llan y Pistyl, lle y digwyddodd i un o'r bechgyn golli ei lyfr, a methu ei gael, er chwilio llawer, a holi y plant oll, ac i'r athraw fygwth nid ychydig, gan ddyweyd y byddai ef yn sicr o ddyfod i wybod pwy oedd wedi ei gymmeryd, ac mai gwae fyddai i hwnw, fod yn well iddo gyfaddef ei fai. Er yr holl fygythion nid oedd dim yn tycio i beri i neb gyfaddef. Ac felly aeth yr athraw i blith y creaduriaid pluog i ymofyn pwy gymmerodd y llyfr. Daeth a cheiliog iar, a chrochan, i'r Llan, a rhoddodd y ceiliog yn y crochan yn fyw, a'r cauad ar y naill ochr arno, gan adael lle i ben a gwddf y ceiliog i ddyfod allan. Gorfodid y plant i fyned bob yn un i rwbio eu dwylaw yn y crochan, a phan fyddai yr euog yn rhwbio ei ddwylaw, byddai y ceiliog yn sicr o ganu meddai yr athraw. Ymdrechai y ceiliog weithiau am ei ryddid, fel pe yn gwybod fod aml un o'i ryw wedi cael ei ferwi yn y crochan hwnw; a phan oedd bachgen tua phymtheg oed, yn ei dro, yn rhwbio ei ddwylaw hyd y crochan, digwyddodd i'r ceiliog fyned yn anesmwyth iawn, a'r athraw a gafael tyn am ei wddf, gwnaeth swn tebycach i geiliog yn tagu nag i un yn canu. Penderfynodd yr athraw, wrth hyny, mai y bachgen hwnw oedd yr euog. Holodd a chroesholodd ef, ond parhau i wadu wnaeth y bachgen, a churodd yr athraw ef yn ddidrugaredd â'i wialen fedw. Ar ol i'r ceiliog gael gollyngdod, a phob peth ddyfod i drefn, awd i chwilio am y llyfr eilwaith, a chafwyd ef mewn cilfach lle yr arferid taflu llyfrau i'w cadw; ond ni wnaeth yr hen athraw unrhyw esgusawd i'r bachgen am y camgyhuddiad a'r camdriniaeth a gafodd.
Yr oedd yn Eifionydd hefyd amryw o'r gwyr cyfarwydd a elwid dewiniaid, megis Huw Nannau, Dewin y Cenin, Isaac Morys, &c. Y blaenaf —Huw Nannau oedd yn byw yn y Gilfach, plwyf Penmorfa, ac yr oedd yn ddyn cyfrifol yn ngolwg y wlad, fel yr ymddengys, canys cawn yn Nghoflyfr Eglwys Dolbenmaen ei fod yn Warcheidwaid Eglwysig y lle yn y flwyddyn 1683, ac yn yr un Coflyfr cawn "Hugo Nanney de Gilfach sepultus fuit Llanfihangel de Pennant 250 Augusti Ano Dni 16920. He was reckoned and called a Dewin or conjurer." Yn Gymraeg, rhed yn debyg i hyn: "Huw Nannau, o'r Gilfach, a gladdwyd yn Llanfihangel-y-Pennant, Awst 25, Blwyddyn yr Arglwydd 1692. Efe a gyfrifid ac a elwid yn Ddewin neu gyfareddwr."
Dewin y Cenin, yn ol llafar gwlad a gwerin, oedd yn byw mewn ty a elwir Ty'r Dewin, yn agos i le a elwir yn bresennol Ffridd y Ffold, ar gwrr amaethfa a adnabyddir hyd heddyw wrth ei enw, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, yr hon, yn awr sydd yn eiddo i deulu y diweddar Mr. David Rowland. Yr oedd muriau yr hen dŷ i'w weled mor ddiweddar ag Awst 1862, pryd y llwyr arloeswyd ymaith yr oll o'r adfeilion, ac y cafwyd fod ar fantell y simdde, yn doredig, y flwyddyn "1562." Perthynai y lle i etifeddiaeth y Plas Hen, a chawn mai Gruffydd Fychan oedd ei etifedd o gylch y flwyddyn 1696.
Oherwydd mawr wybodaeth yr hen ddewin hwn, ystyrid ei fod yn meddu goruwch-wybodaeth, fel y mae amrywiol chwedlau wedi dal yn draddodiadol am dano hyd heddyw, a'i gampau, a'i wyrthiau, a'i broffwydoliaethau yn ddiarebol ar lafar a chof gwlad yn mhob cwrr, megis ei fuddugoliaethau ar yr Un Drwg a'r Tylwyth Teg, y rhai, naill ai o orfod ai o ewyllys, a ufuddhaent i'r hyn a orchymynai efe iddynt. Yn mhlith llawer o'r "rhyw deg" a ddelent ato i gael cwrs eu tynged pwy fyddent eu gwyr, &c., cyfrifir hen nain y diweddar Ellis Owen, Cefn y Meusydd, yr hon, yn ol ei chais a gafodd gan yr hen Ddewin hysbysrwydd y caffai wr, ac y byddai byw ar boncen yn ngolwg haul—ar—godiad, y byddai iddi saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac y byddai hithau farw ar eu genedigaeth. Sicrhai Ellis Owen fod ei ragddywediadau yn gywir—ddarfod i'w hen nain fyned i fyw i'r Tuhwnt-i'r-bwlch, ger Porthmadog, poncen yn ngolwg codiad haul, iddi gael saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac iddi farw ar eu genedigaeth. Glynodd cryn lawer o hynodion ereill perthynol i'r gwr hwn yn nghof y werin, megis y Daith i Philistia, y Potes Ceiliog, &c.
Yr oedd yn y Cenin wr arall, genedigol o'r lle, o'r enw William Robert Huws, yn ddyn hynod mewn llawer o bethau. Yr oedd ganddo feddwl cryf a gafaelgar, a mesur da o athrylith; ond ei duedd fwyaf oedd at ddewiniaeth yn ei gwahanol gangenau, a medrai egluro pethau felly mor gyfarwydd nes yr aeth y gair allan yn mysg y werin ei fod wedi cael gafael ar lyfrau hen "Ddewin y Cenin." Un tro, tra yr oedd ef gyda chyfaill iddo, ar ben mynydd y Cenin, lle yr ymddangosai lliaws o berchyll mewn modd gwichlyd a chwareus o gylch eu traed, tra y cyfaill yn ei awydd am rai o honynt, a ymaflai ynddynt y naill ar ol y llall, eithr ebrwydd y diflanai pob un rhwng ei ddwylaw; ac yntau, trwy hyny, a ddeallodd nad oedd ffrwyth yr olygfa yn ddim amgen na gweithred ffugiol a gyfodid ar y pryd drwy allu dewinol ei gyd—ymdeithydd i'r lle. Ymfudodd W. R. Huws i America gyda'i wraig a'i blant, a bu farw yno.
Isaac Morys, o Bentyrch Isaf, plwyf Llangybi, athraw morwriaeth, a lluniwr deialau cywrain, a chywir, ydoedd ddyn ag y byddai pawb yn ymwthio ato, ac yn gwrandaw arno. Os byddai i ddadl gyfodi ar unrhyw bwnc, rhoddid pen arni ar unwaith â gair Isaac Morys. Dygid pob achos anhawdd, a phob cwlwm dyrys, o dan ei sylw. Siaradai am y byd hwn ac am y byd a ddaw; am gylchdroadau y ser, a chwyldroadau teyrnasoedd; am foddion iechyd i gorff, ac am ffordd cadw enaid; a phan siaradai efe, tawai eraill a son. Arferai ymwneyd cryn lawer a deongli breuddwydion ac argoelion, yn nghyda chodi a gostwng ysbrydion. Dywed llafar gwerin fod ei weision unwaith mewn cryn helbul am y modd i gael tas o ŷd i'r ysgubor, ac iddo yntau orchymyn iddynt fyned i'w gwelyau yn dawel, y byddai y das ŷd yn yr ysgubor cyn chwech o'r gloch bore dranoeth. Felly y bu, cariwyd hi i'r ysgubor gan fil a mwy o greaduriaid bychain annaearol; rhoddasant hi i lawr vn ei lle priodol, ac yna aethant i ffwrdd gan wneuthur y swn mwyaf brawychus a glywodd clustiau erioed.
Priodolir gorchestion chwidog o'r un natur i ddau hen lanc ag oeddynt yn byw yn Mhen-y-bryn, Chwilog; ac hefyd i Griffith Ellis, o gymmydogaeth Llanberis, at yr hwn yr elai llawer, o bell ac agos, o'r rhai fyddent, hwy neu eu hanifeiliaid, wedi eu rheibio.
Ystyrid fod y gallu hwn hefyd mewn llawer o hen wrageddach a elwid yn ddewinesau. Y peth mwyaf hanfodol i'r dosbarth yma oedd bod dipyn yn anferth, yn rhai heb dalu fawr sylw i ddeddfau glanweithdra; ac os byddai y croen braidd yn felyn, goreu yn y byd. Hefyd, yr oedd yn ofynol iddynt fod yn dlawd, yn hel eu tamaid o ddrws i ddrws; a phan wisgai gwraig y cymmeriad yna, gellid bod yn sicr na byddai iddi weled eisiau dim. Yr oedd y pethau a arferai y creaduriaid hyn i ddewino trwyddynt yn lliosog iawn, megis llinellau y dwylaw, ffurf y gwyneb, lliw y gwallt, trefnu mân ronynau yn y gwpan, &c.; a mynych y byddent yn llwyddo i dynu arian ac aur, caws a chig, lieiniau, a gwisgoedd lawer oddiwrth ferched ieuainc a gwragedd. Elent o amgylch i hudo merched ieuainc drwy ddarllen iddynt eu tesni, megis addaw iddynt wŷr da, a hyny cyn hir; dau neu dri o blant, ac yn mlaen a hi fel y byddai chwaeth yr eneth yn gofyn. Yr oeddynt yn deall y natur ddynol yn lled dda, ac yn ceisio cael allan yr hyn fyddai yn debyg o ateb chwaeth y rhai y byddent yn ymwneyd â hwy. Byddai llawer o gyfeirio tua thai y dewinesau,—un yn methu gwneyd caws, a'r llall yn methu corddi'r llaeth i beri iddo ddwyn ymenyn; un yn cael ei flino gan ei wraig, a'r llall gan ei ddanedd; un a'i fuwch wedi marw, a llo y lle arall yn sâl; a phob un yn credu mor gadarn a hyny fod ymwared iddynt mewn braich o gnawd, ac os gallent gyrhaedd preswylfod y ddewines fod yr ystorm i gyd drosodd. Byddai gan yr hen ddewinesau yn fynych ddrwg ewyllys dialeddol yn erbyn eu cymmydogion, hyd nes y caffent eu gwobrwyo; ac yn wir yr oeddynt yn cael llawer o fai heb ei haeddu. Os na ddelai ambell dro allan o'r fuddai gymmaint o ymenyn a chyffredin, rhoddid y bai ar rhyw hen ddynes, yn lle ar anfedrusrwydd, neu ddwylaw budron y llaeth-forwyn. Os digwyddai i fochyn farw yn ddisymwth, oddiwrth glwyf neu fwyd afiachus, rhedid at y ddewines i ddeisyf ei chymhorth. Os byddai ceffyl farw dan artaith pryfed, neu wedi i weinidog diofal roddi iddo ddwfr oer yn ei gynnesrwydd, rhyw hen wrach anffodiog o ddewines oedd ar fai, a rhaid fyddai ei llusgo trwy drais, os na ddeuai trwy deg, i ddywedyd "Rhad Duw ar eich da." Os digwyddai i ebol neu lo farw, er bod rhai yn meirw, fel pethau ereill, diau mai eu witsio a gawsent; yna, i ddial ar y wits (canys rhinweddol a chanmoladwy oedd dial yn mhlith ein teulu ni) llosgid y gelain farw yn tân, ac fel y byddai y gelain yn llosgi y dihoenai y ddewines. Os gommeddai gwraig i ffarmwr roddi piseraid o laeth i ambell hen wreigan legach a thrwyn-gam, elai y buchod i gerdded ar eu cyrn yn lle ar eu traed, a'r moch i redeg i fyny ar hyd y gwaliau at y tô, a chwympo ar eu cefnau a marw; ni byddai trefn ar ddim. Pe gwelsid diadell o wyddau liw nos yn crochfloeddio ar lyn o ddwfr, wedi eu cythryblu, fe allai gan lwynog, bernid mai dewinesau oeddynt, y rhai yn fynych, ond yn neillduol ar nos Iau cyntaf o'r lleuad, a gyd-ymgynullent i ymdrochi a chadw trwst. Os gwelid hen wraig a gwyneb rhychog, a blew ar y wefus isaf, un dant hir wedi aros, dillad cyrbibog am dani, a chi wrth ei hochr, yn ymsymud wrth ei ffon yn llesg, beth bynag a gymmerai le mewn ffordd o aflwyddiant, yr hen wraig hon, neu arall o'i chyffelyb, fyddai gwedi rheibio. Yr oedd yn ardal Llanbedrog un o'r gwyddaresau hyn ag a fyddai yn dull-newid ei hun i ffurf ysgyfarnog. Gwelodd y cwn hi ryw ddiwrnod, ac ar ei hol a hwynt nerth y traed: ymlidiasant hi nes yr aeth dros y rhagddor i'w thŷ ei hun. Aeth y cwn dros y rhagddor ar ei hol; ond nid oedd yno ddim ond hen wraig felynddu, grebachgroen, yn eistedd ar 'stôl drithroed wrth y tân, yn tuchan ac yn dyheu, ar golli ei gwynt ar ol y rhedegfa galed.
Yr oedd, wrth enau Afon Wen, plwyf Llanarmon, fwthyn bychan, o'r enw Pendorlan, wedi ei godi gan y tirfeddiannwr, yn yr hwn y preswyliai dwy hen ferch, hynod mewn llawer modd, o'r enwau Lowri Owen a Sian Owen; ond prin y clywodd yr un o'r ddwy eu hunain yn cael eu galw ar eu henwau priodol erioed, oddieithr ar achlysuron pwysig. Er na chawsent eu cynnysgaeddu, megis yn ddymunol, âg iechyd corfforol, gan nas gallai Lowri dramwy heb gymhorth baglau, na Sian ymuniawni yn herwydd anhyblygedd crymedd ei chefn; ond tybid eu bod yn feddiannol ar alluoedd meddyliol lled gryfion, oblegyd yr oeddynt arferol o gadw ysgol ddyddiol, mewn bwth o'r enw Dudwll, yn ymyl Chwilog; ac ystyrid fod ysbryd dewiniaeth yn cartrefu ynddynt—hwynt-hwy oeddynt oraclau eu hardal yn eu hoes—â hwy yr ymofynai pob amaethwr yn nghylch y tymmorau priodol i hau llawer neu ychydig o ŷd, am y credid eu gair ar bwnc y dyfodol yn nghylch prinder, llawnder, drudaniaeth, &c. Golygid y byddent yn gyru ysbrydion aflan allan o bersonau a lleoedd drwy rîn tyngedau a seremonïau, ac y byddent yn cael allan eu rhagwybodaeth am y tymmorau, sefyllfa marchnadoedd, &c., drwy ysgogiadau neillduol yn llanw a thrai y môr, sef codiad a gostyngiad y dyfroedd ar y glanau, fel, os byddai ar adeg y blaen newydd yn digwydd llenwi yn uwch, a threio yn îs, na'r llawn, mai drudaniaeth fyddai ar ran y wlad yn ystod y flwyddyn hono. Os fel arall, llawnder a olygid. Byddent weithiau yn mwngial siarad wrthynt eu hunain, a bernid mai dyweyd gweddi yr Arglwydd yn eu gwrthol y byddent yr adegau hyny. Rhoddwyd i'r ddwy hir gred gan y bobl wledig ac anwybodus, eithr min-gamai yr uwch-raddau wrth grybwyll eu henwau.
Yr oedd hefyd hen ddewines, a gyfenwid Sara'r Gadwen, yn byw yn Rhoslan, plwyf Llanystumdwy. Arferai hon wneyd ei gorchestion gwyrthiol drwy ymaflyd yn y gadwen, a mwngial rhyw fath o eiriau i fyny i'r simdde. Proffesai ei bod yn feddyges, a'i bod yn deall dirgelwch cyfansoddiad dyn, anifail, a phob rhyw o lysiau; ac ei bod yn dra chydnabyddus âg ysbrydion, y rhai, yn nghyd a threfn y sêr, a rag-hysbysent iddi, drwy gyfrwng cyfrin y gadwen, bob peth angenrheidiol i'w wybod.
Os byddai gan unrhyw berson elyniaeth yn erbyn ei gymmydog, gallai yn hawdd ei reibio drwy amryw ddulliau, megis trwy blanu nifer dda o binau i gorff llyffant byw, a'i roddi i gadw mewn crochan, gydag enw y sawl y mynid ei reibio ar ei gauad o bobtu; ac hyd nes y caffai y person a reibid felly y crochan a'r llyffant ynddo, yr arosai y felldith arno, pa beth bynag a fyddai. Rai adegau llosgid llyffant wedi ei lanw â phinau, i ddangos na byddai modd symud y felldith o gwbl. Brydiau ereill, teflid llyffant wedi ei binio felly lyn o ddwfr i farw; gwnelid hyn yn benaf gan enethod a fyddent wedi colli o serch eu cariadon, er adennill eu meddwl atynt drachefn. Pan y ceffid pigiad draen, dywedid adnod "am y goron ddrain!" Gwnelid pethau cyffelyb er attal llifiad y gwaed pan y torid gwythïen drwy ryw ddamwain.
Yr oedd llawer eraill o ddulliau o ddewino yn cael eu harferyd, megis y rhai canlynol:
CYFRIF LLYFRITHEN.
Mwy cydweddol y bernid cyfrif oriau einioes llyfrithen na'i dadwreiddio ar unwaith, drwy dynu allan flewyn yr amrant o ganol-bwynt y boen. I gyfrif, cymmerid gwäell, neu ryw offeryn blaenfain o'r fath, er ei bygwth; a symudiadau y llaw oeddynt i gyfateb i adroddiad y wers—"Un lyfrithen, dwy lyfrithen, tair lyfrithen, pedair llyfrithen, pum' llyfrithen, chwe' llyfrithen, saith llyfrithen, wyth llyfrithen, naw llyfrithen,—o naw i wyth, o wyth i saith, o saith i chwech, o chwech i bump, o bump i bedair, o bedair i dair, o dair i ddwy, o ddwy i un, o un heb 'run." Dyna'r wers yn gyflawn, ac angenrheidiol oedd i'r adroddydd fyned drwyddi cyn tynu ail anadliad —os amgen, yr oedd holl rinwedd y swyn drosodd. Ond pan gyflawnid y ddefod gyfareddol yn ol llythyren cyfraith dewiniaeth, byddai diwedd y llyfrithen yn prysur ymagosau; a chyn pen y pedair awr ar hugain ni byddai o honi ond ei lle.
SWYNO'R ERYR
oedd yn cael sylw lled bwysig yn nghredo'r werin. Yr oedd yn ofynol myned at y swynwr ben borau, heb archwaethu tamaid o fwyd; a'r swynwr yntau, tra yn yr un cyflwr newynllyd, a boerai ar y man dolurus, ac ar fyrder iach fyddai. Arferid weithiau chwythu yr Eryr; a thybid na byddai rinwedd yn ngwyneb neb oni byddai ei henafiaid wedi bwyta cig eryr. A ganlyn oedd y wers berthynol i'r weithred hon:
Yr Eryr Eryres,
Mi a'th anfonais,
Dros naw môr, a thros naw mynydd
A thros naw erw o dir annghelfydd;
Lle na chyfartho ci, ac na frefo buwch,
Ac na ddelo'r Eryr byth yn uwch.
Tw, Tw, Tw,"—
yn ddiweddglo i selio ei dynged, drwy felldith y poeryn arno.
SWYNO'R DDAFADEN WYLLT (TYFADEN WYLLT)
oedd yn cael lle amlwg yn mhlith defodau yr hen bobl. At y ddefod hon arferid rhwbio yr ysgawen yn y ddafaden, ac yna, wedi rhoddi nodwydd neu ddraen drwyddi, cleddid hi mewn tomen, a byddai gwywiad y ddafaden yn ganlyniad, neu yn hytrach yn gymdeithydd naturiol i'w llygriad yn y gladdfa.
CLWYF YR EDAU WLAN
oedd glwyf a ystyrid yn "llwyr anfeddyginiaethol," ond yn unig drwy rinwedd swyn gyfaredd; ac yr oedd rhai o'i nodweddion, megis adgasrwydd at ymenyn, mor debygol i effeithiau y clwyf melyn, fel mai anhebgorol angenrheidiol, yn y lle cyntaf, ydoedd cael boddlonrwydd am natur y clefyd, yr hyn a ddarganfyddid drwy i'r swynwr fesur o bellen o edau wlân gyfrodedd, wedi ei hysgwrio yn wyn ac yn lân, bwt cyhyd dair gwaith ag o ben yr elin i ben y bys. Os yr estynai y pwt edaf hwn, wrth ei fesur dair gwaith yn olynol, yna iach a dianaf y dyn oddiwrth y clwyf; ond cyn wired ag y byddai yr edefyn yn byrhau, yn ol yr unrhyw fesuriad, y byddai'r clefyd wedi ymaflyd yn nghyfansoddiad y claf, a hyny i'r graddau a arddangosid gan fyrhad yr edefyn. Cylymid yr edefyn gan hyny am ei wddf ymofynid am chwart o hen fir, yr hwn a ferwid drwy drochi yn raddol ynddo ddarn o ddur eiriaswyn. Yna cymmerid tua hanner wns o saffrwm mewn llian glân, a chan ei fynych wlychu yn y bir berwedig. gwesgid ei nôdd i'w gymmysgu â'r bir. Ceid saith niwrnod o amser i yfed y cymmysgedd hwn, —y seithfed ran o hono bob borau; a phrofai estyniad yr edefyn wrth ei fesur drachefn a thrachefn ddylanwad llesol y swyn."
GWELLA'R GWYNEGON.
Yr oedd amryw ffyrdd i wella'r clwyf hwn, neu yn hytrach i'w gadw i lawr. Un ffordd oedd gofalu am roddi hosan am y goes chwith yn gyntaf; a chyda'r canlyniad hapus hwn ceid ymwared, neu yn hytrach esmwythdra lled dda oddiwrth ei effeithiau. Ffordd arall oedd cario dwy bytaten, un bob ochr yn nwy logell y gôt, gan eu trafod a'u troi mor aml ag y caniatâi amgylchiadau ac amser.
Y DRWG LYGAD.
Pedol ceffyl, nid pedol caseg, wedi ei hoelio wrth drothwy y drws, a ystyrid yn meddu digon o ryw rinwedd i droi heibio amcanion maleisus y dewiniaid drwy eu llygad drwg." Hefyd, arferai llawer o hen wragedd diniwed gadw lliaws o geryg ffodus, sef ceryg a thyllau wedi cael eu gwneyd ynddynt—wedi eu hongian i fyny yn y bythynod, gan addef wrth gyfeillion mai eu hamcan ydoedd eu hamddiffyn rhag y llygad drygionus, ag a fyddai yn fynych yn achosi marwolaeth. Yr oedd hefyd "lygad daionus," neu "lygad santeiddrwydd," megis edrychiad arosol a hwyrfrydig cariad mam ar blentyn fyddai yn marw, yr hyn a attaliai ymadawiad yr enaid, ac yn ofer yr ymdrechai y plentyn farw hyd nes y tynai y fam ymaith ei golwg dosturiol oddiarno.
ASGWRN COEL,
sef asgwrn palfes buwch neu ryw anifail arall, a ystyrid yn briodol tuag at egluro y grediniaeth ganlynol; ond nid heb dori twll ynddo â haiarn poeth, a dodi llinyn drwyddo i'w hongian uwchben drws y tŷ, o'r tu allan. Yna, os byddai gan wraig y tŷ obaith am chwaneg o deulu, gellid gwybod drwy rin yr asgwrn pa un ai bachgen ai lodes fyddai y genedig; os mab a ddelai i'r tŷ gyntaf wedi'r orchwyliaeth o osod i fyny yr asgwrn anffaeledig, bachgen fyddai ar ran y fam y tro hwnw; ond os merch ddigwyddai ddyfod i fewn gyntaf, lodes fyddai ar ei rhan.
PORTH TYWYN, TUDWEILIOG.
Yn nhraeth y llecyn hwn y mae careg ag ol troed ceffyl ynddi, nad oedd le i amheuaeth, megis yn arferol am y cyfryw bethau, sef, os byddai i'r môr olchi y tywod oddiarni, y byddai yr ŷd yn ganlynol yn ddrud iawn; ond os gorchuddiai y tywod hi, y byddai pobpeth yn hynod o isel a diofyn. Drudaniaeth mawr o un tu, ac iseldra mawr o'r tu arall, mewn prisiau, fyddai y gwrth-ganlyniadau. Credid hyn mor ddiysgog, fel yr arferai un hen ffermwr o'r ardal luchio y tywod oddiar y gareg er mwyn i brisiau pethau godi yn eu gwerth.
EGLWYS ABERDARON.
Tra yr oedd trigolion y plwyf yn yr eglwys, ryw Sul, yn yr addoliad, daeth mor-ladron ac a ysbeiliasant yr eglwys, er eu holl ymdrech i'w gwrthwynebu; ond trodd y gynnulleidfa i weddio a thra yr oeddynt yn anerch gorsedd grâs, dychwelodd yr ysbeilwyr i'w llongau, ac yn ddisyfyd suddasant hwy a'u llongau i ddyfnder y môr.
GWEDDIO AM DDIAL.
Buddiol a chymmeradwy yr ystyrid y weithred ddifrif—ddwys o weddïo am ddial, pan fyddai dyn yn meddwl ddarfod iddo gael cam mawr; a thuag at gyflawni y ddyledswydd dderbyniol a gwir angenrheidiol hon, elai i ryw eglwys, gyssegredig i ryw sant enwog, megis Clynog, gan gyflwyno darn o arian i'r sant, yna ymgrymu ar ei benliniau noethion, ac wedi hyny alw i lawr felldithion ac anffodion ar y troseddwr a'i deulu am genedlaethau i ddyfod, ac yn y grêd gadarnaf y caffai y melldithion eu cyflawni i'r llythyren. Ambell waith elid at ryw ffynnon yn lle eglwys.
Coleddid y dyb yn gyffredin fod y Bod Mawr yn gwrandaw gweddïau o'r fath; ac fod y diafol a'i ysbrydion, er mwyn cyflawni eu digllonedd, yn gwneuthur cytundeb â hen bobl, ac yn neillduol felly â hen wragedd, i'w cynnysgaethu â galluoedd goruwch-naturiol, ond iddynt hwy gael eu heneidiau yn y pen draw. Dywed y llyfryn a elwir "Cas gan Gythraul," y byddai y dewiniaid' yn canlyn y Tylwyth Teg, ac y byddai y cyfryw rai yn gwybod yn nghylch pa achosion y byddai personau yn bwriadu dyfod atynt cyn y byddent wedi cychwyn oddicartref, y gwyddent enwau y rhai fyddai yn dyfod, y galwent hwy wrth eu henwau, er mor ddieithrol y tybygid eu bod iddynt, y byddent yn rhagddywedyd marwolaethau dynion, yn rhoddi gwybod yn nghylch pethau fyddent wedi colli, &c. Weithiau, golyga y geiriau dewiniaid a brudwyr ddoethion a dysgedigion, ac megis yn gwbl-gyson â'r enw Cymreig am broffwyd, golyga yr enw dewin un yn proffesu gallu i gynnyrchu effeithiau goruwch—naturiol, rhagfynegu pethau i ddyfod, &c. "Y dewin o Nazareth" oedd yr enw a roddai yr hen feirdd ar Iesu o Nazareth. Pan oedd dysgeidiaeth yn rhywbeth annghyffredin iawn, ystyrid yn ddyledswydd ar y werin i gredu ac i ddilyn dysgawdwr, a pheidio ammheu dim, am y rheswm ei fod yn rhywun uwchlaw y cyffredin; a thrwy hyny cyfyngid gwybodaeth o fewn cylch pennodedig. Felly, os olrheinir y gwirionedd yn nghylch eu gweithredoedd, eu dull o fyw, &c., rhaid coelio eu bod yn graff iawn i weled beiau ereill, ac i ragddywedyd yr hyn a ddigwyddai iddynt, tra ar yr un pryd na fynent weled eu beiau eu hunain, ac nas gwyddent chwaith eu tynged eu hunain; eu bod yn gweled ac yn gwybod, pe gellid eu credu, bob peth am ereill, ond er hyny yn ddeillion ac yn anwybodus o honynt eu hunain; eithr rhoddwyd iddynt hir gred gan y bobl wledig ac annysgedig. Yn yr oesau hyny, ni oddefai ofergoeledd i ddynion ddarganfod dim newydd defnyddiol am fod cyflawni gwaith neu gludo baich, ond yn yr hen ffordd, yn bechod rhyfvgus!
Yr oedd pethau fel hyn yn rhan hanfodol o gredo y werin, ac yr oedd ysbryd ofergoel yn berthynas agos i ysbryd ofn, ac ofn yw y creulonaf o'r nwydau dynol; y mae lawer gwaith wedi gyru dynion, tyner eu teimladau ar achlysuron ereill, i ymddwyn yn greulawn tuag at y sawl a dybid yn euog o swyno a thyngedu; tra yn fwyaf cyffredin nad oedd y swynwragedd a gospid ddim amgen na hen fenywod anwybodus, yn teilyngu tosturi yn hytrach nag arteithiau.