Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Ffynnonau, Llynau, ac Afonydd
| ← Argoelion | Llen Gwerin Sir Gaernarfon gan John Jones (Myrddin Fardd) |
Lleoedd yn Nghyda'u Henwau → |
PENNOD VI
FFYNNONAU, LLYNAU, AC AFONYDD.
YN y cyn-amseroedd yr oedd y gair ffynnon yn arwyddo y llynoedd mwyaf ar benau mynyddoedd, megis Ffynnon Lâs, Ffynnon Felen, a Ffynnon Frech, gerllaw Llanberis, &c.; ond y nifer liosocaf o honynt oeddynt fychain, ac yn mysg y rhai hyny, yma a thraw, liaws o rai cyssegredig a gwyrthiol, ag y rhoddid ymddiried sefydlog o wirfodd ewyllys iddynt. Nis gellir profi i ddilysrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddefod o'u cyssegru, ond dywed hanesiaeth fod ein cyndadau yn arfer y ddefod o gyssegru ffynnonau ac afonydd, fel y tybir, er cof am y waredigaeth ryfeddol a gafodd Noah a'i deulu rhag y dwfr diluw; a'r casgliad tybiedig yw, na ddarfu i'r Cristionogion cyntefig ddiddymu y ffynnonau cysegredig, ond yn hytrach ddefnyddio eu dyfroedd i fedyddio eu proselytiaid. Ond oddeutu y chweched ganrif, meddiannodd Pabyddiaeth y wlad, a daeth llygredigaeth i mewn fel afon. Cyfnewidiwyd y ffynnonau ar enwau y seintiau, a phriodolid iddynt rinweddau iachaol, yn gorfforol ac ysbrydol: Olion dwfr-addoliad cenedloedd y byd oedd yr arferiad hwn. Cawn ei fod mewn bri gan yr Aifftiaid yn amser Moses. Arferai yr offeiriaid mewn gwledydd Pabaidd fedyddio ceffylau unwaith bob blwyddyn gyda dwfr cyssegredig—yr un fath ddwfr ag a arferid i blant Cristionogion, gan ei daenellu ar y ceffylau dan esgus sicrwydd o'u cadw rhag unrhyw afiechyd yn nghorff y flwyddyn. "Y mae yn ymddangos fod rhywun neillduol yn sefyll yn arch offeiriad i'r ffynnon yn mhob oes, ac mai trwy y cyfryw yr oedd y ffynnon yn gweithredu. Unwaith credid fod edrych i ffynnon yn ddinystr i lygaid yr edrychydd. Dichon mai trwy feithrin y fath gred y cadwai offeiriaid ac offeiriadesau'r ffynnonau eu swydd a'u lle."
Llawer o siarad ac ymholi sydd yn parhau o berthynas i ffynnonau dwfr, y rhai sydd o natur iachâol, a diau fod lliaws ag y gellid eu cael yn ychwanegol at y rhai ag y gwyddys am danynt eisoes, pe yr ymofynid gyda gofal a dyfalwch. Diau fod llawer yn aros heb gael eu dadguddio i'r cyhoedd, y rhai, trwy wneyd hyny, a allant fod o les nid bychan i'r rhai sydd yn cael eu blino gan wahanol glefydon.
Mae ffynnon sant neu santes yn mhob plwyf; a dywed llên gwerin wrthym i'r ffynnonau hyn darddu yn wyrthiol er disychedu aml i bererin blin, neu er cof am wyrthiau a wnaethpwyd gan y seintiau. Os byddai ffynnon i'w chael mewn lle tywyll, neu mewn sefyllfa unigol, neu os cyfrifid y dwfr yn feddyginiaethol, gofalid am gyssylltu â hi enw rhyw sant; a byddai bob amser ryw draddodiad fod a fyno ymyriad dwyfol â darganfyddiad y cyfryw ffynnonau, yr hyn a ddelai yn swyn i effeithioldeb eu dyfroedd, ac a barai i lawer o honynt gael eu cadw mewn bri, yn ol parch y sant, gan fel yr edmygid ei gynnefindra â'r anweledig. Byddai rhyw wyrthiau mawrion wedi eu cyflawni drwy rinwedd iachâol eu dyfroedd—y dall yn cael ei olwg, y cloff yn llamu fel hydd, ac yn taflu ei ffyn baglau i'r wadd; ereill yn cael gwared o'r gymmalwst, dolur llygaid, poen yn y pen, cornwydydd, a phob math o afiechyd ag y mae y natur ddynol yn ddarostyngedig iddynt. Yr oedd ffynnon at bob clefyd. Os byddai moch neu wartheg yn glaf, rhywbeth allan o le ar geffylau, nid oedd eisiau dim ond eu harwain at ryw ffynnon neillduol. Os byddai plant dipyn yn hir heb gerdded, nid oedd eisiau dim ond myned â hwy at ffynnon gyfaddas ar un o'r tri dydd Llun cyntaf yn Mai. Os byddent ychydig yn ddiweddar yn dysgu siarad, nid oedd eisiau dim ond rhoddi iddynt ychydig o fara wedi ei drochi mewn ffynnon gymhwys, na byddai eu siarad braidd yn ddiddiwedd.
Cerddai dynion at ffynnonau o'r fath hyn ar brydnawnau Suliau, i ddifyru eu hunain ac i yfed eu dwfr; a phan dderbynient les oddiwrthynt, drwy arferyd eu dwfr yn feddyginiaethol, dechreuent edrych arnynt yn llwyr wahanol i ffynnonau ereill, rhedai y newydd drwy'r gymmydogaeth fel tân mewn llwyn o eithin, a chredent fod y rhai hyn, a elwid ar enwau y dynion a gyfrifent yn seintiau, wedi cael eu rhoddi dan nawdd neillduol y seintiau hyn, a'u bod wedi eu cynnysgaethu â rhinweddau goruwchnaturiol, a gofalid, bob amser, am ddefnyddio eu dyfroedd i fedyddio; ac ar ddiwedd y ddefod, mawr hoffai yr hen wragedd olchi eu llygaid yn y bedyddfan. Ond yr oedd dosbarth arall o honynt—dosbarth ag yr oedd eu dyfroedd yn rhedeg tua'r deau, y rhai bob amser a gyfrifid megis yn llawn o felldith; a llawer o bethau rhyfedd a wnaeth y ffynnonau hyn, megis lladd gwartheg hwn a hwn, a moch hon a hon, a cheffylau y dyn a'r dyn; parasant i un ddarfod ar ei draed, i un arall golli ei lygad, &c. Da a drwg, tu hwnt i feddwl, oedd yn nglŷn â'r ffynnonau, ac yr oedd son am danynt yn mhell fwy nag yn agos: synai llawer un glywed,mor hynod yr oeddynt o ran eu gwahanol naturiaethau—fod dwfr y naill i'w arfer cyn machludiad haul—dwfr y llall cyn codiad haul, yn ol cyfarwyddyd neillduol. Angenrhaid oedd i'r cleifion yfed o'r naill ffynnon, golchi yn y llall, gan offrymu ychydig o geiniogau, a rhodio, feallai, deirgwaith o'i deutu, ac adrodd deirgwaith Weddi'r Arglwydd. Mae hanesion a helyntion y ffynnonau yn lliosog iawn, canys y mae'r ffynnonau mor aml, a'r chwedlau yn eu cylch braidd yn amlach na hwythau; ac y mae'n perthyn iddynt ddyddordeb a defnydd, a gresyn fyddai gadael iddynt fyned ar goll,—nid ar gyfrif y wybodaeth geir drwyddynt, ond ar gyfrif y goleuni a roddant ar ansawdd feddyliol yr hen oesau. Mae llawer o chwedlau yn gyssylltiedig â'r rhan fwyaf o brif lynau ein gwlad, ac un o honynt yw, fod trefydd wedi bod un waith lle maent hwy yn awr, olion y rhai a welid yn eu hymyl ac ar eu gwaelod. Diamheu fod y Cymry gynt, er mwyn diogelwch oddiwrth elynion (dynion a bwystfilod), weithiau yn adeiladu eu tai ar byst o fewn llynau; a dyna, yn debygol, hyny o gnewullyn o wir sydd wrth yr ystraeon traddodiadol hyn. Myn y Cymro gyfrif pethau o'r fath yma yn ffolineb, tra mae cenedloedd ereill ar eu heithaf yn casglu pob mymryn. Ac o dan yr ystyriaeth eu bod yn werth eu cadw, dodwn ninau i lawr gymmaint ag a allwn o hanes ffynnonau, llynau, ac afonydd y sir hon, gan ei gyfleu fel y canlyn:—
I. FFYNNON GWYTHELAN.
Y mae effeithiau tra chanmoladwy yn cael eu priodoli i "Ffynnon Elen," neu yn hytrach Ffynnon Gwythelan," yr hon sy gerllaw Gelli y Pentref, yn mhlwyf Dolyddelen. Pan ydoedd yn ei bri, ymddengys oddiwrth yr olion sydd yn aros o'i muriau, y perthynai iddi fath o argae tuag at ollwng yr holl ddwfr o honi, er mwyn ei glanhau, pan na fyddai galwad am ei gwasanaeth at iachâu amryw anhwylderau, megis cryfhau plant gweiniaid, adferu aelodau diffrwyth, &c.
II. FFYNNON CYNFRAN.
Dywed y Cambrian Biography fod gan Cynfran, mab Brychan, yr hwn a oesai tua'r bummed ganrif, ffynnon rhwng Abergele a Cholwyn, yn mhlwyf Llysfaen, â'r hon yr ymwelid gan amaethwyr o wahanol fanau, y rhai a offryment iddi yn haelionus, ar ran eu hanifeiliaid afiach, gan ddefnyddio yr ymadrodd:—" Rhad Duw a Chynfran Lwyd ar y dâ."
III. FFYNNON GWYNWY.
Y mae hon i'w gweled yn agos i Langclynin, ger Conwy; a thra chlodfawr, fel yn wir yr haeddasai fod, ydoedd y ffynnon hon, yn herwydd ei rhinweddau llesfawr, a'r hynod wellhad a gafodd llawer drwy symud ymaith ddefaid oddiar eu dwylaw, heb wneyd mwy tuag at hyny nag offrymu pethau mor ddibwys â phinau, gyda thipyn o ofal am i'r rhai hyny fod yn geimion. Gofalai pawb am beidio cyffwrdd â'r un o'r pinau hyn drachefn, rhag digwydd i'r defaid ar law y sawl a gyffyrddai felly.
IV. FFYNNON LLECHYD.
Mae y ffynnon hon yn nhir y Plas Uchaf, plwyf Llanllechyd. Cyrchai llawer ati o rai a flinid gan y manwynau, ac anhwylderau cyffelyb; a llawer o honynt a gredent iddynt dderbyn llwyr iachâd oddiwrthi. Cymmaint oedd eu crêd ynddi, fel y galwent am lymaid o'i dwfr hyd y nôd pan ar fin marw.
V. FFYNON DEINIOLEN.
Yn mhlwyf Llanddeiniolen, ryw filldir oddiwrth yr Eglwys, y mae y ffynnon grybwylledig. Bu gynt mewn bri mawr fel moddion effeithiol i wella y crydcymalau, ac anhwylderau cyffelyb.
VI. FFYNNON CEGIN ARTHUR.
Y mae hon ar fferm a elwir Hendref, yn mhlwyf Llanddeiniolen. Bernir ddarfod iddi dderbyn ei henw oddiwrth y dyb mai brasder hyddgig oedd yr irad a nofiai ar ei gwyneb, yr hwn, fel y tybid, a ddygid yno gan y ffrydiau oedd yn rhedeg drwy gegin yr enwog Dywysog Arthur, un o arwyr dychymmygol yr hen Gymry, ac oddiar hyny priodolir iddi, hyd heddyw, lawer o rinweddau meddyginiaethol.
VII. FFYNNON CHWERTHIN.
"Gerllaw pentref Llanberis yr oedd ffynnon a elwid Ffynnon Chwerthin. Gwelid ynddi filoedd o binau yn y gwaelod, ac wmbredd o gorciau yn llawn o'r un arfau peryglus yn nofio y wyneb. Dyna offerynau tair gwrach y gymmydogaeth i gospi troseddwyr, a thynu oddiar eu cymmydogion ofergoelus, y rhai, bob amser, a roddent y gorchymynion caethaf i'r plant i gadw draw oddiwrth y ffynnon hon. Cymmerid y fath ofal i argraffu ofn y gwrachod ar eu meddyliau fel na cheid digon o feiddgarwch hyd y nod yn y glaslangc dyreidus i osod bys yn y pwll gwaharddedig. Gan fod y ffynnon yn nghanol siglen, yr oedd yn anmhosibl myned ati heb gynnyrchu dwfr-glych ar ei gwyneb, neu beri iddi chwerthin, yn ol chwedl yr ardalwyr, yr hyn beth, heb radd o amheuaeth, a briodolid i'r gwrachod a'r hen fechgyn duon oedd yn rhwym iddynt. Mor fuan ag y gwelid y dwfr yn bwrlymu neu yn crychferwi, gwelwai y wyneb, a churai y gliniau yn nghyd o dan ddylanwad ofn."
Y mae Pennant, yn ei Tour through Wales, yn nodi ffynnon, ger Llanberis, ag yr oedd gwyddanes yn bresenol yn darllen tynghed ei chydgreaduriaid oddiwrth ymddangosiad pysgodyn oedd ganddi yn y dwfr.
VIII. FFYNNON FAIR.
Gellir gweled y gyfryw ffynnon ger Dinas y Moch, yn mhlwyf Beddgelert. Yn ol traddodiad, priodolid iddi gryn lawer o rinweddau swyngyfareddol.
IX. FFYNNON GARMON.
Oddeutu milldir i'r gorllewin o Eglwys Bettws Garmon, ar lethr bryn, y mae y ffynnon grybwylledig, i'r hon y priodolid y rhinweddau o iachâu clafr, crydcymalau, iddwf, pob rhyw grugdarddiad yn y croen, &c., clwyfau a dybid yn anesgorol, ac a wrthsafent ymgeisiadau callaf meddygon.
X. FFYNNON NANTCALL.
Dwg y ffynnon hon arni ei hun enw amaethfa, ag y mae o fewn ei therfynau, yn mhlwyf Clynnog. Priodolir iddi amryw rinweddau meddyginiaethol, megis bod yn foddion i iachâu diffyg treuliad yn y cylla, hen lynorau, gwendid, iselder ysbryd, &c. Oddiar yr ystyriaeth o hyny y canodd Robert ab Gwilym Ddu fel y canlyn iddi:
"I'r hon fyth mae ryw hen fawl,
Ymddyg i'n ddwr meddygawl.'
XI. FFYNNON BEUNO.
Y mae'r ffynnon hon o fewn tua dau can' llath i Eglwys Clynnog, ar ymyl y brif-ffordd; yn amgylchedig â mur pedronglog, o'r un gwaith yn ymddangos â mur yr Eglwys, ac uwchlaw dwy lath o uchder, yn nghyd ag eisteddleoedd, a grisiau cyfleus: er fod y cyfan mewn cyflwr o adfail a dirywiad mawr yn bresennol. Yn y ffynnon hon, gynt, arferid trochi plant ac ereill, meddir, a fyddent yn ddarostyngedig i nychdod, a llewygfeydd; ar ol eu trochi, cludid hwy i Gapel Beuno, a thaenid brwyn ar y beddfaen, lle y gosodid y claf i orwedd trwy'r nos; a dywedir fod adferiad yn gyffredin yn dilyn yr orchwyliaeth hygoelus a gwrthwynebus hon! —Cyff. Beuno, tud. 35.
XII. FFYNNON DIGWG.
Mae chwedl "Ffynnon Digwg" yn cynnwys crybwylliad am Fugeiliaid Beuno; mae y chwedl fel y canlyn:—" Digwyddodd gynt i un o'r gweithwyr yn Aberffraw fyned i Lys YNYR GWENT, ac nid oedd teccach llangc nag ef; ac wedi gweled o ferch YNYR GWENT ef, nis gallai aros am funud allan o'r gyfeillach, a rhyngodd bodd i'r brenin, pan wybu hyny, roddi y llangc yn briod i'r ferch, rhag y mynai hi ei gael ef mewn ryw ffordd arall, gan ymfoddloni i gaffael gwr mor hardd yn fab ac yn ddeiliad; ac ar ol ysbaid o amser dychwelodd y gwr ieuangc gyda'i wraig i'w wlad ei hun, a hwy a ddaethant i le o'r enw Pennarth yn Arfon, ac yno disgynasant oddiar eu meirch, ac aethant i orphwys; a chan ludded a blinder daeth cwsg ar y dywysoges, a thra yr oedd hi yn cysgu, daeth cywilydd mawr arno ef fyned i'w wlad gyda gwraig mor bendefigaidd ei haniad, heb ganddo le i'w chymeryd iddo, a gorfod myned eilwaith i'r lle y buasai yn gweithio ac yn ennill ei gynhaliaeth; ac yna, trwy gynhyrfiad y diafol, efe a dorodd ei phen, tra yr oedd hi yn cysgu, ac a ddychwelodd gyda'r meirch gwerthfawr, a'r aur, a'r arian, at y brenin, trwy yr hyn bethau y cafodd efe swydd ganddo, i fod yn oruchwyliwr iddo: a Bugeiliaid Beuno a ganfuant y corph, ac a aethant yn ddioed i fynegi iddo; yna Beuno a aeth yn ddi-ymdro i'r lle yr oedd y corph marw ynddo, ac yn y fan efe a gymmerodd y pen, ac a'i gwasgodd at y corph, a chan gwympo ar ei liniau, efe a weddiodd ar Dduw, fel hyn:Arglwydd, Creawdwr nef a daear, rhag yr Hwn nid oedd dim yn guddiedig, cyfod y corph hwn mewn iechyd': ac yn y fan cyfododd y wyryf yn hollol iach, ac a fynegodd i Beuno yr hyn oll a ddigwyddodd; yna Beuno a ddywedodd wrthi, "A fynni di ddychwelyd i'th wlad, ynte aros yma, gan wasanaethu Duw?" Y wyryf fwyn a da a ddywedodd, "Yma. yr arhosaf fi, gan wasanaethu Duw, yn agos i ti, yr hwn a'm cyfodaist o farw yn fyw." Ac yn y fan lle syrthiodd y gwaed i'r llawr, tarddodd ffynnon loyw, a'r ffynnon hono a gafodd ei henw oddiwrth enw y wraig ieuangc, ac a alwyd 'FFYNNON DIGWG.' Efelly y terfyna y Chwedl. Mae y ffynnon hon yn adnabyddus hyd y dydd hwn ar derfynau Pennarth, yn Nghlynnog Fawr; ac yn dal yr un enw yn bur agos, ac y mae cryn lawer o draddodiadau ofergoelus am dani ar gof gan y brodorion." —Cyff. Beuno", tud. 59-60.
Eto, yn un o ysgriflyfrau Eben Fardd, cawn fod yn Nghoetyno, Clynnog, ffynnon o'r enw "Ffynnon Digyn," yr hon, fel yr ymddengys, sydd yr un a "Ffynnon Digwg," er nad yw'r bardd yn crybwyll hyny. Ei sylwadau sy fel hyn: —"Ffynnon Digyn (Coetyno Clynnog). Hen wraig Coetyno (Marged) a ddywedai mai Ffynnon Gwttig neu Ffynnon Gyttig y byddid yn ei galw; bod y dw'r yn rhinweddol i symud ymaith ddefaid," &c., y byddid yn offrymu pinau ac wyau i'r Ffynnon—ddarfod iddi hi ei hysbysu unwaith, ac iddi weled ynddi ryw greaduriaid crafaglog rhyfedd, anadnabyddus; mwy na llyffaint o lawer, tebyg i ddraenogod, ond eu bod heb bigau; iddi ddychryn, a gwaeddi, a ffoi—rhag eu hofn; clywsai fod hen Ddewin y Cennin yn dweyd fod arian yn guddiedig ynddi, ac mai merch ieuangc a gwallt coch a'u câi wrth hel defaid. Yr oedd yr hen wraig hon yn 90 mlwydd oed yn 1856, pan oedd yn dweyd y pethau uchod. Yr oedd yn cofio ei thaid, enw yr hwn oedd James William Watkin, pregethwr, yn byw yn Llandwrog, â dwylaw mawrion llydain fel caeadau. Enw ei thad oedd William James; mab iddo yw Thomas William, tad fy ngwraig. Gallai Watkin fod yn byw tuag amser Cromwell, o 1600 i 1640, o James I. i amser Charles II."—Eben Fardd.
XIII. FFYNNONAU'R CENNIN.
Yr oedd ffynnon yn nhir Tyddyn y Fammaeth, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, o'r enw 'Ffynnon Dw'r Llygaid.' Nid yw yn awr yn ganfyddadwy o herwydd brwyn, &c. Hefyd, y mae yn nhir amaethfa o'r enw Yr Allt, ffynnon ag y priodolid iddi amryw rinweddau, megis iachâu manwynau, llygaid, &c. Ymddengys y perthynai i hon gryn fri, oblegyd y mae o'i hamgylch geryg mawrion megis yn ei hamddiffyn, a gwarchglawdd cadarn o bridd o'r tu isaf iddi.
XIV. FFYNNON Y CYTHRAUL.
Twll crwn, troedfedd o ddyfnder wrth 15 modfedd ar draws, mewn craig yn wynebu'r deau, ychydig yn ogleddol i Lanfihangel-y-Pennant, yw y ffynnonig hon. Priodolir iddi y rhinwedd o iachâu llygaid, a phob math o ddefaid oddiar ddyn ac oddiar dethi gwartheg. Nid oes iddi darddiad o'r ddaear, eto, er hyny, ni ddigwyddodd i neb ei gweled wedi sychu, oddeithr codi y dwfr o honi.
Testyn difyrwch diniwed ddylai fod pob hanes am 'wr drwg' ein llên gwerin. Yr unig astudiaeth ddifrifol a haedda yw chwilio, nid am brofion o'i oroesiad a'i fodolaeth yn bresennol, ond am ei le yn nghyn—hanes ein gwlad—nid yw ef i'w gymmeryd yn ddifrifol, fel Diafol y Beibl, am nad yw ddim ond adgof o ryw fodach direidus, ar y gwaethaf, tra weithiau yn eithaf boneddwr."
XV. FFYNNON SAINT.
Yr oedd hon i'w gweled o dan gilfach, yn nghongl cae, ar y llechwedd yn agos i Eglwys Criccieth; ond erbyn hyn, fel llawer o bethau ereill, y mae wedi ei llyngcu i fyny i ddifodiaeth, fel nad oes i'w ganfod ond gweithrediad hylifol ei dwfr yn treulio y tir o'i dardd—le yn ffrwd fechan o'r tu gorllewinol iddi. Yr oedd yn cael ei hystyried yn wyrthiol, ac arferid gan y trigolion fwrw iddi allweddau neu binau, ar foreu Sul y Pasg, er mwyn sicrhau nawdd saint y ffynnon—Dunawd a'i forwyn—sant Catrin, yn ol fel y damcanir, gwarcheidwaid Eglwys Criccieth. Os felly, dygir ger bron y meddwl yr hyn a gynnwysir yn yr enw—Ffynnon Saint, yn ddigon eglur; ond dylid cofio ein bod wedi colli ein hanesiaeth henafol bendant agos oll.
XVI. FFYNNON DDEFAID.
Tarddai y ffynnon hon islaw'r brif-ffordd yn nghae Pen y Bryn, ger Nant y Glyn, yn mhlwyf Llanystumdwy. Richard Lewis, garddwr yn y Plas Hen, a ddaeth i wybod gyntaf am ei rhinweddau, drwy olchi ei lygaid, ag oeddynt ddolurus, â'i dwfr, a chael, drwy hyny, iachâd iddynt. A chymmaint, yn herwydd hyn, oedd ei feddwl am ei natur ac iachusrwydd ei dwfr, fel y llwyddodd i gael grisiau i ddisgyn iddi yn nghyd a muriau i'w chylchynu. Mynodd hefyd dori ar gareg, i fod ar ei chyfer, ei goffawd ei hun, yn y dull yma:
Rd. Ls.
Ad 53
1772."
sef "Richard Lewis, Aged 53, 1772."
Y prif rinweddau a briodolid i effaith wyrthiol y ffynnon hon, oeddynt, wellâu llygaid a thynu ymaith ddefaid; a mynych yr ymwelid â hi gan bererinion o wahanol fanau, ond erbyn hyn nid oes liw o honi—difodwyd hi gan amaethwyr y lle, a chariwyd ei muriau oll i ffwrdd.
XVII. FFYNNON Y GWAENYDD.
Y mae'r ffynnon hon i'w gweled mewn llecyn o'r enw "Cae'r Morfa,' mewn amaethfa a adnabyddir wrth yr enw Hen Inn, braidd ar derfyn gorllewinol plwyf Llanystumdwy. Cyfrifid ei dwfr, bob amser, yn rhinweddol a gwyrthiol; ac os gwir y traddodiad, ymadawodd llawer cloff oddiwrthi wedi cael ei iachâu, gan adael ei ffyn maglau i grogi ar gangau'r coed oedd yn tyfu o gylch y fan, y rhai oeddynt yn cynnwys llythyrenau penigol cannoedd o enwau personau oedd wedi bod ar ymweliad â hi. Yn ol y ddefod, yr oedd pob ymwelydd â'r ffynnon i daflu pin bach iddi, yn arwydd o ddiolchgarwch; felly yr oedd ei gwaelod wedi ei dryfritho â phinau bach. Erbyn hyn, y mae'r ffynnon a'i mawr les wedi myned bron i annghof.
XVIII. FFYNNON GYBI.
"Yr oedd y ffynnon mewn bri o flaen y capel neu'r eglwys, o'r hyn lleiaf, dyna sydd yn dybygol. Arweinia'r ffynnon ni yn ol i'r cyfnod paganaidd. Mae lle i gredu fod i'r ffynnon offeiriad, yn amlach, offeiriades, cyn y cyfnod Cristionogol, ac fod i'r fath swyddog dŷ o ryw fath, a thir, a degwm. Beth bynag berthynai i'r ffynnon yn y cyfnod paganaidd a ail-gyssegrwyd gan Gristionogion, fel yr awdurdododd y Pab Gregori i Awstin Fynach wneyd â sefydliadau paganaidd y Prydeiniaid. Fel rheol, os rheol hefyd, gellir dyweyd, lle mae ffynnon a chapel, neu eglwys, megis yn gyfartal gyssegredig, ac yn gyflwynedig i'r un sant, fel Ffynnon Gybi a'r Eglwys, yno y mae paganiaeth a Christionogaeth wedi goroesi mewn rhyw fath o gyfathrach.
Yn y flwyddyn 1767, cyhoeddwyd llyfr o hanes y ffynnon hon gan un D. W. Linden, yr hwn a gynnwysa arbrofion dansoddol, ac ymchwiliadau fferyllol i'w natur, yn nghyd â chyfarwyddiadau i'w defnyddio fel meddyginiaeth. Dywed yr awdwr hwn "Ei bod yn sicr fod cyrchu mawr at y dwfr yn amser Pabyddiaeth cyn y Diwygiad, er cael ymwared oddiwrth wahanol anhwylderau, a bod cist yn yr eglwys, yn yr hon y gofynid i'r cleifion gyfleu eu hoffrymau; oblegyd gofalai y tadau parchedig am sicrhau wrth yr ymwelwyr fod rhinwedd iachâol y dwfr yn deilliaw oddiwrth râd a bendith Cybi Santaidd. Ar ol y Diwygiad parhaodd ymdrochi yn y dwfr hwn i fod yn llwyddiannus at lawer o anhwylderau; ond nid oedd ei rinwedd yn hysbys, oddieithr yn nghymmydogaeth Llangybi a'i hamgylchoedd, hyd tua'r flwyddyn 1750, pryd y tynwyd sylw y Parch. Mr. Williams, o'r Ty Newydd, Llanystumdwy, ato. Wedi clywed o'r gwr hwn gryn lawer am rinwedd meddygol y dwfr, gwnaeth ymchwiliad manol i wirionedd y peth; ac wedi cael boddhad i'w feddwl, hysbysodd am dano i'r perchenog, y diweddar William Price, Ysw., o'r Rhiwlas, yr hwn a adeiladodd yno faddon cyfleus, a thy, ar ei draul ei hun, drwy yr hyn yr adferwyd y dwfr i'w fri cynhenid." Yna y dilyn rhestr o welliadau iachaol drwy rinwedd y dwfr, sef, dallineb, defaid. gwylltion, cryd cymmalau, cloffni. Dyry yr awdwr hefyd restr chwanegol o welliadau dan ei ofal a thrwy ei gyfarwyddyd ef ei hun. Drwy y gwelliantau hynod hyn, aeth y dwfr yn glodfawr yn mhob rhan o Ogledd Cymru; ac er fod llawer yn ymweled âg ef bob blwyddyn, ychydig oedd nifer y rhai na phrofasant wellhad neillduol oddiwrtho, tra yr arferent ef mewn gradd gymmedrol a dyspwyllog yn y clefydau y mae efe yn addas iddynt; a diau iddo barhau yn ei fri o'r oesau hyny hyd. ddydd yr enwog Dafydd Ddu Eryri, fel y dengys y llinellau canlynol o'i eiddo:
"Ambell ddyn, gwaelddyn a gyrch
I bant goris Moel Bentyrch,
Mewn gobaith mai hen Gybi
Glodfawr sydd yn llwyddaw'r lli."
Priodolid hefyd i'r ffynnon hon y gallu o roddi i'r merched wybodaeth pa un a fyddai eu cariadon am eu priodi ai peidio; a thuag at hyny, gofynol oedd i'r ferch roddi ei chadach logell yn daenedig ar wyneb y ffynnon; ac os gwthid ef gan y dwfr i gyfeiriad y De, yr oedd pobpeth o dde; ond os i'r Gogledd, yr oedd argoelion annymunol o oerfelgarwch. Ond pa un bynag ai i'r De ai i'r Gogledd, ymddygai y merched at y llangciau yn hollol fel y cyfarwyddai y ffynnon hwynt.
XIX. FFYNNON LLEWELYN.
Nid yw hon ond llygedyn lled fychan o darddiad cryf, yn nghwr cors, yn Nghae'r Gors, plwyf Llangybi. Yr oedd, dywedir, yn meddu gallu gwyrthiol i wellhau Clefyd y Brenin.
XX. FFYNON GRASI.
Cyflead y ffynnon beraidd hon sydd ar du'r deheu-ddwyrain i Lyn Glasfryn, yn mhlwyf Llangybi. Cynnwysai yr ystlys ddwyreiniol iddi gareg wastadlefn ac ynddi nifer o dyllau wedi eu darparu, fel yr ymddengys, at i ddwfr dreiddio iddi. Yr oedd cauad dros ei gwyneb, a gofynol ydoedd iddi fod yn gauedig bob amser, oddigerth pan y byddid yn codi dwfr o honi, ond drwy ddifrawder esgeuluswyd y ddyledswydd o osod y cauad drosti a'r canlyniad fu, medd traddodiad, i Lyn Glasfryn lifo allan o honi, yr hwn sydd o arwynebedd eang, ac yn forwyol i fadau bychain. Adgofir yma gyffelyb ddigwyddiad yn suddiad Cantre'r Gwaelod, yn nglyn a'r hyn y dywed un gwr dysgedig y "Gelwir offeiriades y ffynnon yn Llyfr Du Caerfyrddin, 'finaun wenestri,' gweinidoges y ffynnon.' Ceir yr enw yn y gân am Seithennin cân a esbonir fel traddodiad am suddiad Cantre'r Gwaelod. Gweinidoges neu offeiriades y ffynnon oedd y forwyn a felldithir yn y gân. Mae'n debyg iddi esgeuluso gosod y cauad dros y ffynnon, ac i'r dwfr fwrlymu allan, a chuddio 'maes guitnev' 'Maes Gwyddno. Ei enw oedd Meredid yn awr Marged=Pegi." Dyna eto enw morwyn—Grasifu'n gwasanaethu fel offeiriades warcheidiol Ffynnon Glasfryn, ond fel Pegi Cantre'r Gwaelod, morwyn anfuddiol ac anffyddlawn i'w hymrwymiad fu hithau.
XXI. FFYNNON GADFEIRCH.
Nid oes yn y lle ffynnon yn bresenol—dim ond pistyll cryf yn crychferwi o'r ddaear yn nhir Bwlch-y-ffordd, gan ddisgyn yn ddwyreiniol i'r afon Erch, ar derfyn plwyf Llangybi. Dywed traddodiad mai yr iawn enw ydyw "Ffynnon gâd dy farch," deilliedig o'r ffaith ddarfod i frwydr gael ei hymladd ar y llecyn—fod y naill fyddin ar y Bryniau Duon, ar y tu dwyreiniol i'r afon Erch, a'r llall ar Frynllyngedwydd yr ochr gyferbyniol, ac ddarfod i'r ddwy fyddin ddyfod i gyfarfyddiad â'u gilydd yn ymyl y ffynnon—i farch y naill gadfridog syrthio i ddwylaw plaid y cadfridog arall, ac yna i'w gatrawd floeddio yn y dafodiaeth gyffredin "Gâd dy farch," ond, atolwg, paham y mynir mai "Ffynnon Gadfeirch "yw enw priodol y ffynnon, tra mai "Ffynnon gâd dy farch" olygid fel ystyr gwreiddiol ei henw
XXII. FFYNNON FEDNANT.
Crydle y ffynnon hon, cyn syrthio o honi i'w chyflwr adfeiliedig, oedd mewn cae islaw Llwyn Ffynnon, yn ngodre Nantystigall, ar aswy'r brif-ffordd sydd yn arwain o Bwllheli i gyfeiriad Fourcrosses, ac o fewn llai na chwarter milldir i lan y môr, nodwedd yr hwn, mewn rhan, gyfunid ynddi hithau. Tra y môr yn treio ac yn llenwi, byddai hithau yn lleihau ac yn mwyhau—y naill a'r llall yn gwbl gysson â'u gilydd. Hyn, yn nghyswllt â rhinwedd ei dwfr, a dynai ymwelwyr o bob graddau i'r llanerch hon, ac a barai lwyddiant i'r dref, a chyfoeth, efallai, i'r myneich. Bernir iddi gael ei henw oddiwrth Feudwy oedd yn byw yn gyfagos iddi, mewn lle a elwir "Llwyn Ffynnon," a bod y cyfryw yn arfer swynyddiaeth â'i dwfr, a thrwy hyny iddi gael ei galw "Ffynnon Feudwy'r Nant," neu, ynte, oherwydd ei rhinwedd iachaol iddi gael ei galw yn "Ffynnon Feddygol y Nant," ond fod treigliad amser drwy ddiofalwch tafodiaith gyffredin wedi gadael i rai o'r llythyrenau fyned ar ddisberod, ac felly golli y meddybrith cyntefig o'r enw. Rhaid ei fod yn hen.
XXIII. FFYNNON GWYNEDD.
Gellir gweled y ffynnon hon mewn cyflwr adfeiliedig, yn nhir Mynydd Mawr, plwyf Abererch, a'i harwynebedd yn oddeutu llather hob ffordd. Priodolid iddi y rhinwedd o wellhau crydcymmalau ac amryw glefydon ereill. Hefyd, pan y byddai rhywun eisiau gwybod pa un a fyddai person claf farw ai peidio o'r clefyd fyddai arno ar y pryd, ni byddai dim yn ofynol ond bwrw dilledyn o eiddo y cyfryw i'r ffynnon hon, na cheffid gwybod wrth weled pa ochr iddi y suddai y dilledyn.
XXIV. FFYNNON CAE GARW.
Nid oes yma yn awr namyn pistyll cryf yn rhedeg o'r ddaear, yn nhir Cae Garw, yn ngwaelod rhanbarth gogleddol plwyf Carnguwch. Ystyrid dwfr y ffynnonig hon yn dra llesol at wellau crydcymmalau a thynu ymaith ddefaid, ac wrth olchi y dwylaw gogyfer ag esgymmuno y defaid, yr oedd yn ofynol taflu pin bach i mewn i'r ffynnon dros bob dafaden ag y disgwylid ymwared oddiwrthi.
XXV. FFYNNON Y CEFNYDD.
Llygedyn bychan ger y Pennant, ar yr ochr aswy i'r ffordd sydd yn arwain o Nefyn i Lithfaen yw y ffynnonig hon. Bu llawer o gyrchu iddi yn yr hen amseroedd er cael iachad o'r crydcymmalau, a chredid fod ynddi rin annrhaethol at hyny.
XXVI. FFYNNON GWYFAN.
Rhywbeth yn debyg i'r llythyren D o ran ffurf ydyw hon, a'i lloches mewn craig uwchlaw yr afonig Gwyfan (Afon y Felin yn awr), oddeutu milldir islaw pentref Tudweiliog, ar y terfyn rhwng Porthysgadan a'r Towyn. Saif pigyn o graig ar y cwr deheuol iddi, yn ogwyddedig tua'r Gogledd, ac yn ddigon uchel a helaeth i fod megis yn dô arni. Dywedir yr arferid offrymu pinau iddi am wellad oddiwrth ddefaid ar y corff, gwendid llygaid, a'r cryndod.
XXVII FFYNNON PISTYLL Y GARN, FFYNNON Y FILAST A FFYNNON Y BRENIN.
Y mae y tair yma o fewn i derfynau plwyf Llaniestyn, a'r tair yn meddu ar gryn lawer o rinweddau. Y gyntaf sy nodedig ar gyfrif y gallu o wellau y crydcymmalau, anhwylderau yn y cylla a'r ymysgaroedd. Y ddwy olaf oeddynt fendithiol i wellau llygaid gweiniad a dolurus, ac yn dra llesol i wendid menywaidd, i anmhlantadrwydd, ac i bruddglwyf.
XXVIII. FFYNNON SARFF.
Gellir gweled y ffynnon uchod yn ngodre gorllewinol Mynydd Mynytho, rhwng Capel Saethon a Chapel Nant, yn nghwr uchaf "Gwinllan Sarff," ychydig yn ogleddol i dy o'r enw Tan-y-graig, yn mhlwyf Llangian. Ffynnon fechan, loew, flasus a dihysbydd ydyw; a sarff, yn ol hen gredoau, yn byw ynddi. Ond yr esboniad mwyaf cydweddol ar yr enw ydyw, y byddai sarff beryglus yn lletya y rhan fwyaf o'i hamser yn agos i'r ffynnon, mewn gwinllan a elwir hyd heddyw ar ei henw, yr hon a arferai fynychu'r ffynnon i lymeitian pan yn sychedig, eithr bob amser, yn unol â'r chwedl a briodolir i fuchedd nadroedd, yn dodi ei gwenwyn ar gareg o'r neilldu cyn dechreu ymyfed, yr hyn yn ddigon rhesymol, a barodd i "lafar gwlad " neu "len y werin "enwi'r ffynnon yn "Ffynon Sarff." Ond, pa un ai â'r ffynnon ai ynte'r winllan y cysylltwyd yr enw sarff gyntaf sydd ansicr —tybir y naill a'r llall, am fod dynion yn barod, bob yn ail, i ammheu pob peth ac i gredu pob peth.
XXIX. FFYNNON SAETHON.
Ffynnon a'i gwely wedi ei naddu yn ddwyreiniol i wyneb craig, ac wedi ei gwalio yn gryf o'r tu arall, ydyw hon. Y mae yn dair llath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath a dwy droedfedd o led. Y mae iddi darddiad cryf, a bwria ei dwfr grisialaidd a pheraidd yn ffrwd feunyddiol. Dywed traddodiad yr arferai hen foneddion Saethion, yn yr un plwyf—Llanfihangel Bachellaeth, ymdrochi ynddi ar gylch haf a gauaf—y byddai pererindodau yn cael eu gwneyd iddi; ac o fewn cof yr oedd gan lawer ffydd gref yn ei rhinweddau. Pan y byddai ar bobl ieuaingc eisiau gwybod yn iawn pa un a fyddai y cariadau yn ffyddlawn ai na fyddent, nid oedd eisiau tuag at hyny ond taflu pin i'r ffynnon hon; os safai y pin ar wyneb y dwfr, byddai cariad pur yn bodoli, ond os suddai yr oedd lle i amheu.
XXX. FFYNNON FAIR.
Mewn llecyn llechweddog yn nhir y Foel Fawr, plwyf Llanbedrog, y mae y ffynnon hon, a'i ffurf yn driongl, rywbeth yn debyg i'r delyn Gymreig, wedi ei chyflwyno i nawdd y Forwyn Fair, a'i dwfr heb fod un amser yn fwy na llai. Credid fod rhinwedd anffaeledig ynddi i iachau bron bob math o ddoluriau ar ddyn ac anifail, ond rhaid, meddid, oedd credu yn gyntaf yn ei rhinwedd, ac i'r claf neu berchenog unrhyw anifail a fyddai i ddefnyddio ei dwfr, ymgrymu ar ei liniau ger ei glan, ac addef fod ganddo ffydd yn ei dwfr. Hefyd, os byddai eisiau gwybod pwy fyddai wedi lladrata unrhyw beth, nid oedd dim yn fwy syml; taflu tamaid o fara i'r ffynnon hon, ac ar yr un pryd enwi yr hwn a amheuid; os suddai y bara, gwybyddid pwy fyddai y lleidr; os na suddai, cynnygid drachefn a thrachefn, nes cael gafael ynddo. Yr oedd y ffynnon hon yn cael parch annghyffredin yn yr hen amser, ond bydd ei choffadwriaeth wedi myned heibio erbyn yr oes nesaf; canys nid oes ond ychydig yn gwybod am dani yn bresennol, ac y mae, o ran ei chyflwr, yn adfeiliedig a diymgeledd.
XXXI. Y FFYNNON FYW.
Y mae lleoliad y ffynnon ragorol hon mewn rhosdir eang ar Fynytho, plwyf Llangian, a dylifiad o ddwfr glân yn rhedeg o honi, ac o'i blaen lyn fel rhyw gronfa i ddal y dwfr at wasanaeth anifeiliaid. Ei holl ranau ydynt o osodiad onglog, yn oddeutu tair llath o hyd wrth ddwy lath a chwe modfedd o led, ac oddeutu llathen o ddyfnder, wedi ei murio yn gadarn oddimewn ac oddi allan, a grisfa o ddau gyfeiriad i fyned i lawr iddi. O amgylch ei hymylau ceir meingciau, y rhai, fel yr ymddengys, oeddynt o wasanaeth i'r ymdrochwyr i eistedd, pan yn diosg a gwisgo eu dillad. Wrth ei chwr gogleddol, y mae ffynnon fechan, ddofn, arall, yn oddeutu llathen betryal, yr hon sydd o wasanaeth dyddiol i'r teuluoedd cyfagos iddi. Cylchynir y ddwy gan fur petryal, wedi ei weithio yn chwe llath bob ffordd, o'r tu fewn, wrth ddwy yn yr uchder; a'r fynedfa iddynt yn gwynebu y gorllewin. Yn ddiweddar adgyweiriwyd y mur yn dda, a gosodwyd dor gref arno, ar draul y diweddar Mr. G. W. Duff Assheton Smith, o'r Faenol, yr hyn fu yn achlysur o adnewyddu ymweliadau a'r lle. Barna rhai iddynt gael eu cysegru i Cir Ferthyr, i'r hwn, yn ol traddodiad y gymmydogaeth, yr oedd eglwys gyflwynedig yn sefyll ar lecyn cyfagos, a elwir Bryn y Glanbwll; ond ereill a farnant iddynt gael eu cyssegru i un o dduwiau yr hen dderwyddon, neu, ynte, eu bod hwy yn arfer myned i ddrachtio ei dyfroedd iachusol, ac yn eu cymmeradwyo fel ffynnonau yn meddu priodoleddau meddygol a dwyfyddol. Modd bynag, y mae arddull y ffynnonau hyn yn profi eu bod gynt yn glodfawr, a thraddodiad yn tystio fod eu dyfroedd mewn cyfrifiad mawr oherwydd eu heffeithioldeb a'u rhinwedd tuag at iachau amryw glefydon, yn neillduol y cryd cymmalau. Dywed hen hanes, cadwedig o oes i oes, y perthynai iddynt gyfarwyddwr—mai ei waith oedd dysgu y cleifion pa fodd iddynt ddefnyddio y dyfroedd, ac yn ol y cyfarwyddyd, mai gofynol iddynt yn gyntaf oedd myned i ymolchi yn y ffynnon fwyaf, ac yna yfed o ddwfr y ffynnon leiaf, gan offrymu iddi ddarn o arian yn mhresenoldeb y ceidwad neu y cyfarwyddwr. Ryw dro, er ys amser pell yn ol, meddant hwy, yn herwydd i fachgenyn ddigwydd syrthio i'r ffynnon fwyaf, a boddi ynddi, neu ynte i ryw ddyhiryn ynfyd daflu iddi gelain ci neu gath, peidiodd dyfroedd y ddwy a tharddu o'r pryd hwnw hyd y pryd hwn, oddieithr bob yn ail blwyddyn, yn rheolaidd, boed yr hinsawdd o duedd bynag y bo—gwlyb ai ynte sych; ond erbyn hyn, y mae gogoniant y ddwy drosodd, a'u defnyddioldeb meddyginiaethol wedi darfod. Gymmaint oedd y son am y Ffynnon Fyw fel yr edrychid arni fel llygad rhyw dduw, ac yn unol â'r fath gred rhyw adeg yn gynt na chof, adnabyddid hi wrth yr enw Ffynnon Dduw," yn hytrach na "Ffynnon Fyw."
XXXII. FFYNNON TUDWAL.
Yr oedd hon gynt i'w gweled yn nhir y Penrhyn, plwyf Llanengan, yn bwrw allan helaethrwydd o ddwfr gloew a pheraidd, ag ynddo meddai yr hen bobl, rinweddau i wellhau gwahanol glefydau a doluriau. Yr oedd un hynodrwydd arall yn perthyn iddi. Nid oedd mwy na naw modfedd o ddwfr ynddi un amser, yr hyn oedd yn syndod i lawer. Ond y dirgelwch fod yr un ddyfnder o ddwfr ynddi bob amser, oedd fod yn yr uchder hwnw wagle bychan yn un o'r ceryg oedd yn ffurfio ochrau iddi, digon i roi blaen cyllell deneu, felly buasai yn wyrth i'r dwfr lanw yn uwch na'r man neillduol hwnw. Diflanodd ei nodwedd wedi agor y gwaith plwm yn y gymmydogaeth, fel nad oes, erbyn hyn i'w adnabod o honi namyn ei henw fel ffynnon Sant Tudwal.
XXXIII. FFYNNON AELRHIW.
Mae y ffynnon hon o ffurf betryal, yn oddeutu deg troedfedd bob ffordd, ac wedi ei murio â cheryg, a'i chylchynu â maingc i eistedd. Cafodd ei henw er parch i sant yr Eglwys gyfagos iddi—y Rhiw, yn briodol Aelrhiw, ond collodd yr enw gwreiddiol, a chafodd yr enw Ffynnon Eilw, oddiwrth ei bod yn gwellhau y rhai a flinid gan y Manwynau. Cyrchai llawer o bererinion clwyfus tuag ati er mwyn bendith Sant Aelrhiw ar gymhwysiad o'i dyfroedd, i wellhau eu haml anhwylderau, a diamheu i lawer gael lleshad oddiwrthi, a chredu yn gryf mai gwyrth oedd.
XXXIV. FFYNNON CEFN LLEITHFAN.
Y mae lleoliad y ffynnon hon ar lechwedd dwyreiniol mynydd y Rhiw, yn mhlwyf Bryncroes. Ei ffurf sydd onglog, yn oddeutu dwy lath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath o led wedi ei murio yn gryf, a grisfa o ddau gyfeiriad i fyned i lawr iddi. Cyrchid ati gan lawer o gleifion o bell' ac agos, yn enwedig y rhai a flinid gan ddafadenau, at yr hwn anhwylder y cyfrifid ei dwfr yn dra rhinweddol, ond gweithredu yn ol y cyfarwyddyd angenrheidiol, sef, myned at y ffynnon heb ymddiddan â neb ar y ffordd, nac edrych yn ol, a golchi y dafadenau â chadach a bloneg, ac wedi golchi y manau angenrheidiol yn dda a'r pethau hyn, yna eu cuddio dan gareg y ffynnon. Wedi hyny troi yn ol ac ymddwyn yn yr un modd ag yr aed at y ffynnon, ac iach fyddid oddiwrth y dafadenau.
XXXV. FFYNNON SAINT.
Yr oedd hon gynt i'w gweled braidd yn sawdl gogledd-ddwyreiniol mynydd y Rhiw, mewn llecyn pantiog yn nhir Bron Llwyd, islaw Tref Dindywydd; ond erbyn hyn y mae yn hollol ddiymgeledd, a'i defnyddioldeb wedi darfod. Bob dydd Iau Dyrchafael, elai menywod yr ardal ati i olchi eu llygaid, a thaflent bob un bin i mewn iddi fel arwydd o ddiolchgarwch.
XXXVI. FFYNNON LEUDAD.
Y mae cyflead y ffynnon hon mewn rhosdir llwm, yn nhir Carog, plwyf Bryncroes. Cyfyngir ei gwyneb i ffurf betryal yn oddeutu pedair troedfedd bob ffordd, wedi ei murio a'i phalmantu yn drefnus. Yn ol tystiolaeth yr hen bobl, safai yn y dosbarth blaenaf fel ffynnon feddyginiaethol yn yr holl sir, a chredid fod rhinwedd yn ei dyfroedd. Clir-oerion i iachau pob math o glefydon a doluriau ar ddyn ac anifail. Ymddengys iddi gael ei galw ar enw Lleuddad, yr hwn oedd yn ei flodau tua chanol y chwechfed canrif, ac yn Abad Mynachlog Enlli.
XXXVII. FFYNNON DWRDAN.
Cyssegrwyd hon, fel y tybir, i Durdan, Dewrdan, Durdan, neu Deyrndan, sant a ddaethai i Brydain o gylch y chwechfed canrif gyda Chadfan, ac a dreuliasai ei oes yn Enlli. Nid yw y ffynnonig hon ond bechan a diaddurn, yn llochesu mewn llecyn anghysbell yn Nant, Bodwrda, plwyf Aberdaron.
XXXVIII. FFYNNON SAINT.
Y mae cyflead hon mewn hen geimle ar fin y ffordd sydd yn arwain at Angelog o bentref Aberdaron, ac mewn cyflwr adfeiliedig, gan ddarfod i seiri meini, yn eu dibrisdod o honi, gario ymaith ei cheryg at wneyd pont gyfagos iddi. Ni phriodolir dim gwyrthiau iddi, ond yn unig meddyginiaeth naturiol drwy gynneddfau ei dwfr.
XXXIX. FFYNNON FAIR.
Y mae cyflead y ffynnonig drionglog hon yn ysgythrau craig uwchben y môr, yn nghwr y Mynydd Mawr, plwyf Aberdaron. Cymmer y môr feddiant llwyr o honi ar lanw, eithr cygynted ag y treio efe, bydd ei dwfr, gan nerth ei tharddiad, yn hollol groew mewn byr amser. Yr oedd llwybr cylchynol a pheryglus, o'r enw "Grisiau Mair" ac "Ysgol Fair," i lawr iddi, ar hyd yr hwn y disgynai pererinion yn fynych yn y dyddiau gynt, yn y gred os gallai rhywun wneyd hyny a dwyn i fyny gegiad o ddwfr o'r ffynnon y caffai ei ewyllys ei chyflawni. Yn y flwyddyn 1869 adgyweiriwyd a hwyluswyd y ffordd a'r grisiau i fyned iddi ar draul yr hen foneddwr gwladgarol y diweddar Mr. R. LI. Edwards, Nanhoron.
XL. FFYNNON Y DALAR.
Ar lechwedd bryncyn o'r enw Bryn Baglau, ac ar yr aswy i'r ffordd sydd yn arwain o'r Cafn, porthladd Enlli, i gyfeiriad yr hen Fynachlog, y mae Ffynnon y Dalar, yr hon, gynt, a ystyrid mor anffaeledig at iachau y cryd cymmalau, fel yr elai y rhai a flinid gan yr anhwyldeb hwnw ar ol ymolchi ynddi, yn hollol iach yn y fan; ac fel tystiolaeth o hyny, gadawent eu ffyn—maglau ar y dalar ger y ffynnon; a'r llecyn, hyd heddyw, o'r achos, a adnabyddir wrth yr enw Bryn Baglau.
XLI. FFYNNONAU Y BARFAU.
Yn y gogledd-ddwyrain i fynydd Enlli, yn agos i'r crib, mewn craig noeth, y mae y ddwy ffynnon yma, y naill yn oddeutu ugain modfedd o hyd, wrth naw o led, a dwy droedfedd o ddyfnder, a'r llall yn oddeutu ugain modfedd o hyd, wrth saith o led, a dwy droedfedd o ddyfnder. Yn ol traddodiad, derbyniasant yr enw Ffynnonau y Barfau oddiwrth arferiad yr hen saint o fyned atynt i dori eu barfau, gan eu defnyddio fel drychau i'r perwyl hwnw; ond tebygol ddarfod i'r enw ddeilliaw oddiwrth gyflead y ffynnonau, ac mai Bar—fauo bar a bau, yw yr ystyr, ac nid Barf—au.
{{c|XLII. FFYNNON BEDROG. Mae y ffynnon adfeiliedig hon i'w gweled yn nhir Bryn Du, ger pentref Pigstryd, nid nemor bellach o Lanbedrog. Ei chrydle sydd wrth ystlys hen glawdd unig, ar lecyn garw, didriniaeth i raddau. Lliosog ydynt y traddodiadau am iachusrwydd ei dwfr, ei burdeb, a'i rinwedd gwyrthiol. Nid oedd na chlefyd, nag anaf, na cheid ymwared oddiwrthynt, trwy iawn ddefnyddiad o hono, yn ol hen goelion. Yn lled ddiweddar, cafwyd llestr crwn o faen du yn ei gwaelod, yr hwn oedd bron yn llawn o binau, ond dim arian, wedi eu bwrw iddo megis hedd-aberth i Bedrog Sant, wrth gyfarwyddyd rhywun ag oedd yn ennill ei fywoliaeth trwy drafod dewiniaeth ac ymborthi ar wobr coelgrefydd dan gochl mantell hen Sant marw bythol-fyw y plwyf. Pa amser y dechreuwyd offrymu pinau, nis gwyddys, canys nid oeddynt wedi cael eu dyfeisio yn amser y seintiau.
XLIII. FFYNNON CAWRDAF.
Mae cyflead Ffynnon Cawrdaf—sant enwog yn ei ddydd, yn nhir Tan-y-graig, plwyf Abererch, ar lecyn llechweddog yn wynebu haul y boreu, allan o bob swn a dwndwr bydol, o fewn tua milldir i lan y mor." Y mae yn meddu ar ddigonedd o "ddyfroedd byw"—dwfr yn tarddu, a dwfr rhedegog, yr hyn ydyw ystyr "dyfroedd byw." Yn ol cofnodion dyddiau fu—dyddiau'r gorphenol pell, perthynai i'w dwfr grisialaidd ac iachus rinwedd anffaeledig i wella pob math o glefydau ac anhwylderau ag oeddynt ddarostyngedig i bobl yr hen amserau, yr hyn a barodd iddi fod yn wrthddrych edmygedd nodedig ag sydd yn aros hyd y dydd heddyw megis llythyren goch yn nghalendar cof y werin. Mae yn amlwg fod yr hen seintiau Cymreig yn deall beth oedd gwerth dwfr iachus, a rhyw fodd neu gilydd nid yw y gred yn rhinwedd gwyrthiol ffynnon gyflwynedig i ryw sant yn lleihau yn gyflym iawn.
XLIV. FFYNNON DUDWEN.
Y ffynnon hon ydoedd gyssegredig i Landudwen—eglwys a sefydlwyd gan y Santes Tudwen, yr hon oedd yn ei blodau, fel y tybir, tua dechreu y seithfed ganrif. Erbyn hyn, nid oes yn aros o'r hen ffynnon, ragor na'i llefod yn nghwr cae ger yr Eglwys—amser wedi ei thori i lawr a'i chladdu yn ei phwll ei hun; ond y mae iddi ei hanes—cyrchai lluoedd iddi o bob cyfeiriad, taflent arian a phinau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes ysbrydol oedd yn llywodraethu ffrydiad a llesiant ei dwfr er cynnydd i gnwd y tir, ac yn neillduol er iechyd i ddyn, am y cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrth-weithio anhwylderau y llygaid—y dwymyn ddyspeidiol, y crvd cymmalau, gwendid yn y gewvnau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd, sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ond, erbyn hyn, er cael o honi ei hadnabod gan bawb wrth yr enw nodweddiadol "Ffynnon Dudwen," yn ogystal ag mai dwfr o honi ddefnyddiwyd yn y weithred o fedyddio y mebyn hwnw—yr Esgob Fychan wedi hyny, cyn belled ag y mae tebygoliaeth lleol a hen draddodiad yr ardal neu lais gwlad, yn myned. Onid yw yn resyn na byddai modd cael gafael ar gofnodion o'r oll a fedyddiwyd gyda'i dwfr, ac o'r priodasau dirgel mynych a gymerent le gerllaw iddi, yn ystod y canrifoedd aethant heibio, ond y mae hyny i raddau yn anmhosibl, am nad oes ar gael gofnodion difwlch o honynt. Eto, er holl ragoriaethau ei dwfr, yr oedd ei sefyllfa yn anfanteisiol iddi, am nad oedd hwylusdod o'i hamgylch—dim cystal rhodfeydd, &c., ag oedd mewn manau eraill yn gyffredin. Yr oedd ei bod mewn encilfan neillduedig megis oddiwrth y byd, yn tynu yn ol oddiwrth y poblogrwydd, er iddi fod yn mysg y dosbarth mwyaf rhinweddol o'r holl ffynnonau hyny a gyfrifid yn gyssegredig.
XLV. Y FFYNNON SANCTAIDD.
Y mae y ffynnon hon yn tarddu o ymysgaroedd Gallt Isal (Isallt), yn nghongl orllewinol cae Tyddyn Bach, yn mhlwyf Carnguwch, ar godiad tir dymunol yn gwynebu'r de. Yn yr hen amser, yr oedd math o glawdd o'i hamgylch er ei chadw yn barchus ac mewn trefn, a grisiau o ddau gyfeiriad i ddisgyn iddi. Llifa helaethrwydd o ddwfr gloew o honi i gyfeiriad y deheu, ac ymollynga i fynwes yr Erch, ychydig islaw Sarn-y-Geifr. Er's llawer o flynyddoedd, nis gallai cyflwr y clawdd gynt a'i hamgylchasai fod lawer yn waeth nag ydyw ar hyn o bryd. Er lliosoced y ffynnonau da, dichon mai ychydig eill ddwyn tystiolaeth mor uniongyrchol a hon am eu rhinweddau, oblegid rhyw elfen, nad oes enw arni hyd y gwyddom, yn ei natur a wna ei dwfr yn wahanol i ddwfr ffynnonau ereill, yr hyn oedd o bwys mawr gan yr hen bobl gynt, heb nodi dim yn neillduol, eithr awgrymu ei bod yn llawn o briodoleddau dwyfyddol. O honi hi y cyrchid dwfr at wasanaeth yr Eglwys agosaf ati—Eglwys Carnguwch, a chofir hyd heddyw gan rai sydd wedi cyrhaedd gwyndra henaint, weled y tu ol i'w drws gawg llawn o ddwfr y gyfryw ffynnon, ac ynddo "ysgub y cwhwfan" fel ei gelwid, i daenellu dwfr ar y bobl o un i un fel y delent i fewn i'r Eglwys yn mha ddull ni wyddys, am fod yn yr adroddiad dywyllni cyfeiriadiad—ni cheir ynddo y meddwl sydd yn gorwedd dan ffurf y ddefod. Er hyny, tebygol mai mewn arddangosiad o "lun y groes," yr hyn, yn ngolwg y bobl, oedd yn ymylu ar gyssegredigrwydd mawr.
XLVI. FFYNNON RUFEINIG Y BETTWS FAWR.
Dirgel yw lleoliad y ffynnon hon, a dirgelwch mawr yw ei hanes. Llecha mewn bachell encil fel iar ar ei nyth ar ganol cae llechweddog o'r enw Cae'r Simdde—hen allt goediog oesau pell yn ol, ychydig yn ddeheuol o dŷ'r Bettws Fawr, yn mhlwyf Llanystumdwy. Y mae mur syml o geryg geirwon wedi ei godi fel diogeliad iddi o'r gwaelod i fyny hyd y nod i fod yn do drosti—pob adran yn wahanol y naill i'r llall, ond er hyny yn hollol angenrheidiol i'w gilydd. Ar yr ochr ddeheu-ddwyrain iddi y mae hen onnen braff lydanfrig, a godidowgrwydd natur a cheinder anian yn cyd-gynnorthwyo i roddi swyn ac hudoledd ar yr holl arwynebedd a welir â'r llygaid noeth, nes bod y llecyn yn brydferth tu hwnt i ddychymmyg. Beth all fod yr achlysur o alw'r ffynnon ar yr enw hwn nis gwyr neb nag i ba bwrpas, drwy unrhyw hanesyn dyddorol, fel ag i ddangos yn ymarferol ei bod i'w hadnabod felly. Ond ymddengys fel math o resymoliad mai oddiwrth y Rhufeiniaid a breswylient y tiriogaethau hyn gannoedd o flynyddau yn ol, yr adnabyddid yr hen ffynnon wrth y cyfryw enw byth er hyny. Ag eithrio esgusodion, rhaid cydnabod na chafwyd gafael mewn unrhyw ffaith a phwynt iddi yn nglyn a'i hanes, a phwy yn ei bwyll ddisgwylia i neb ddwyn ar gof y pethau hyny a gladdwyd gan anghof?
XLVII. PIN Y WIG.
Mae hwn yn tarddu o dir Ty'n y Pwll, plwyf Nefyn, ac yn ymdywallt i for Porth-Din-Llaen. Yn marn doethion y dyddiau fu, yr oedd i'w ddwfr fwy nag un gwaith—adfer esmwythder a iachad i gymmalau a dwylaw dynol, gwella pyrsau buchod pryd y byddai defaid yn gwneyd eu hymddangosiad hyd-ddynt—pawb yn uno i gadarnhau y gred y perthynai iddo amryw rinweddau. Yn ysbaid misoedd haf byddai dieithriaid lawer yn talu ymweliad â r lle er mwyn awel y môr yn ogystal a dwfr iachusol y Pin.
XLVIII. LLYN MORYS.
Ychydig i gyfeiriad y dwyrain o Griccieth gellir gweled llyn a gyfenwir "Llyn Morys," ac yn ei gylch draddodiad aneglur yn aros, sef ddarfod i ddyn o'r enw Morys fwrw ei hun iddo a boddi ynddo, ac mewn canlyniad i rywun ei godi a'i adael ar lan y llyn, yn y man lle y gwelir y pentwr ceryg rhyddion sydd ar y llecyn yn bresennol, y rhai, o bryd i bryd, a daflwyd arno gan y rhai a elent heibio iddo, yn y gred yr attaliai hyny i'w ysbryd aflonyddu arnynt hwy, beth bynag am ereill.
XLIX. LLYN DULYN.
Yn y Brython am Ebrill, 1859, dywedir am y llyn hwn fel y canlyn:—"Mae llyn yn mynyddoedd Eryri a elwir Dulyn, mewn cwm erchyll, wedi ei amgylchu a chreigiau uchel, peryglus, a'r llyn yn ddu dros ben, a'i bysgod sydd wrthun, a phenau mawr a chyrph bychain. Ni welwyd erioed arno eleirch gwylltion (fel y byddant yn aml ar bob llyn arall yn Eryri) yn disgyn, na hwyaid, nag un math o aderyn. Ac yn y rhyw lyn y mae sarn o geryg yn myned iddo, a phwy bynag a â ar y sarn pan fo hi yn des gwresog, ac a deifl ddwfr. gan wlychu y gareg eithaf yn y sarn a elwir yr Alawr Goch, odid na chewch wlaw cyn y nos."
L. LLYN Y CWM.
Y mae traddodiad yn nghylch pysgod y llyn hwn, y byddent heb ond un llygad, sef y de, ond y rhai, erbyn hyn, sydd wedi llwyr ddarfod yn y lle.
LI. LLYN Y DYWARCHEN.
Y mae cyflead y llyn hwn ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Ddyffryn Nantlle i Rhyd Ddu. Dyry amryw o'r hen awduron ar ddeall fod ynys symudol arno, un amser, yr hon a symudai o'r naill ochr i'r llall, nid drwy ddylanwad y gwynt, ond dan effaith rhyw beirianwaith mewnol anhysbys i athronwyr; a byddai bugeiliaid yn synu wrth ganfod eu hanifeiliaid, tra yn pori, yn cael eu cludo hyd y llyn. Os digwyddai i'r ynysig ymdynu i'r cyfeiriad gogleddol, codai y marchnadoedd; os i'r cyfeiriad deheuol, gostyngent. Ymwelodd llawer o enwogion â'r lle o bryd i bryd, ac yn eu mysg Giraldus, Leland, &c.
LLII. LLYN YR AFANGC.
"Cyflead hwn sydd ar yr afon Gonwy, tua milldir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Dywedir fod yn y llyn crybwylledig, ar ryw adeg tra boreuol, greadur enfawr o faintioli,—a elwid yr Afange, yr hwn a barai nid ychydig o flinder i drigolion Nant Conwy a phen isaf Dolyddelen. Gwnaed llawer cais i'w ladd, ond ni ellid gyru na phicell na saeth drwy ei groen, gan hyny, am nad oedd yn bosibl ei ladd yn y ffordd hono, penderfynwyd ei lusgo oddiyno, a'i gymmeryd i le dyogel i'w gadw; ac yn Llyn Ffynnon Las, yn Nghwm Dyli plwyf Beddgelert, y barnwyd fod y lle diogelaf i'w gadw.
Wedi penderfynu ar y lle, darparwyd tidau cryfion, a chwiliwyd yr holl wlad, am ddau o'r ychain cryfaf; ac wedi sicrhau y tidau am yr anghenfil, llusgwyd ef allan o'r llyn; ac arferai hen drigolion hygoelus y Bettws yr oes o'r blaen, ddywedyd yn ddifrifol eu bod hwy wedi gweled ol traed yr ychain hyn yn y graig gerllaw y llyn, gan yr egni a roddent i'w dynu allan. Wedi llwyddo i hyny, llusgid ef ar hyd plwyf Dolwyddelen, a thrwy Fwlch y Cribau, yr hwn a elwir hyd heddyw yn "Fwlch Rhiw yr Ychain," hyd y Waun, ger Gwastad Anas; ac yn y Waun hono syrthiodd llygad un o'r ychain o'i ben, gan yr egni a roddai i lusgo yr anghenfil, a dyna yr achos o alw y lle byth wedi hyny yn "Waun llygad ych". Achosai colli ei lygad boen mor arteithiol i'r ych, fel yr wylodd gymmaint o ddagrau o'r herwydd, nes ffurfio pwll yn y Waun, a elwir "Pwll llygad ych" hyd heddyw. Trwy ddirfawr lafur a phoen, llusgwyd yr Afange i fyny i Gwm Dylif, hyd Lyn y Ffynnon Las, lle ei gollyngwyd yn rhydd, ac yntau a neidiodd yn ebrwydd i'r llyn. Dywedir y byddid yn ei weled ar amserau yn cynhyrfu y llyn yn ofnadwy, ac iddo ddystrywio yr holl bysg o hono yn fuan: ond o hyny allan, cafodd trigolion Nant Conwy lonyddwch ganddo, a gwaredigaeth lwyr oddiwrtho."
LIII. AFON CYLL Y FELIN.
Ymarllwysa yr afonig hon i'r môr yn Aberdaron, lle y newidir ei rhedle yn aml, drwy i'r mor bentyru a rhigoli y traeth i wahanol gyfeiriadau. Pan y byddo ei gwely yn digwydd bod yn ymyl Porth Samdde, dywedir y bydd y farchnad y pryd hyny yn uchel, ond pan y llifeiria i gyfeiriad dwyreiniol y bydd y farchnad yn isel,—y naill fel y llall, yn ansefydlog a chyfnewidiol.
LIV. DWYFOR A DWYFACH.
Dywedir y byddai yr hen bobl arferol o addoli bryniau ac afonydd am y credent fod rhyw ysbryd bywiol yn treiddio trwyddynt, ac mai oddiwrth nerth yr yd a dyfai hyd y bryniau, ac oddiwrth ddwfr yr afonydd yr oedd eu bywyd yn cael ei gynnal; ac mae yr afonydd Dwyfor a Dwyfach, yn Eifionydd, wedi eu seilio ar draddodiad, neu ynte traddodiad wedi ei seilio ar eu henwau hwy, eu bod, o herwydd eu cyssegredigrwydd dwyfyddol, yn wrthddrychau addoliad yr hynafiaid. Hefyd perthynai i'r olaf o'r ddwy, y Ddwyfach, chwedl, sef yr arferai eogiaid (salmons) ddyfod at ei glanau ar foreu y Nadolig, a chaniatau i bob un a fynai eu goglais â'u dwylaw, ac weithiau eu codi i fyny o'r dwfr, er nad boddhaol iawn oedd hyny ganddynt. Gwnelent hyn yn rheolaidd hyd y newidiad a wnaed yn y flwyddyn, yr hyn a barodd attalfa ar y ddefod, yn herwydd cyssylltiad yr hen gyfrif â'r newydd yn nglyn ag amseriad cadw y Nadolig.