Neidio i'r cynnwys

Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Geiriau, Dywediadau, a Diarhebion

Oddi ar Wicidestun
Gwyliau, Defodau, ac Arferion Llen Gwerin Sir Gaernarfon

gan John Jones (Myrddin Fardd)

Dychymygion, Dyrys Barablion Digrif, &c

PENNOD XI.
GEIRIAU, DIAREBION, A DYWEDIADAU.

ER ddarfod cyhoeddi cyfrol fechan ar hyn yn ddiweddar, ystyriwn y rhan hono mor hanfodol i Lên Gwerin, fel y byddai yr ymdriniaeth yn wallus ac annghyflawn heb roddi rhyw gymmaint o sylw iddo yn y gwaith hwn. Yr un pryd, dymunol coffâu y bwriedir hyn fel siampl yn hytrach na thrafodaeth lawn o'r gyfran hono, gan gyfeirio y darllenydd at y gyfrol ddywededig am ymdriniaeth helaethach. A chyda llaw, nid anwiw crybwyll nad ydyw hono ychwaith yr hyn fwriadem iddi fod ar y cyfrif hwn, ond byddai yn hawddach odid mai felly y digwydd gyhoeddi ail gyfrol, neu ail argraffiad gydag ymhelaethiad lled fawr. Fodd bynag, nid anfuddiol y tybiwn gyfleu yma y rhai dilynol, fel y digwyddont, wrth awgrym cof a dosbarth, at y lliaws geiriau sathredig a glywir yn cael eu harfer mewn gwahanol barthau o'r wlad, y rhai nad ydys yn cyfarfod â hwynt yn arferol mewn llyfrau, ac nad ydynt yn fynych wedi eu cofrestru gan eirlyfrwyr. Gyda rhediad amser, diflaniad adgofion y byw, difodiad adgofion y meirw, coll cofnodion ysgrifenedig ac argraffedig, y mae eu nifer yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, a thueddiadau yr oes yn eu gosod mewn perygl o ebargofiant. Gŵyr llawer fod ieithyddiaeth Gymreig yn pasio o eithaf diofalwch i eithaf gorfanylwch fod geiriau i'w cael yn y Gymraeg nad ydynt heddyw o'r un ystyr ag oeddynt gynt—fod yr hen iaith yn cyfnewid, ac wedi syrthio yn ol oddiwrth ei grymusder llafareddol—fod yr hen Gymry mwyaf Cymreig wedi darfod o'r tir, a nerth naturiol eu hiaith gyda hwy; ac nad oes un sain-beiriant wedi cofnodi swn clochaidd eu lleisiau, a thoriad clir eu geiriau cryfion. Erbyn hyn, y mae rhai pobl a gymmerant arnynt eu hunain fod yn gall, yn ymdrechu olrhain yr arferiad ffol o lygriadau lledchwith geiriau y werin, fel y moddion diogelaf i ddyfod o hyd i'w gwir ystyr llygriadau ag sydd yn cael eu llurgunio yn herwydd musgrellni ymadrodd, a mympwy ambell Gymro coeg-ddysgedig, neu Sais chwithig ei dafod. Er hyny, dyledus yw cydnabod fod iaith bur i glustiau gwerin yn sicr o fod yn ddiffygiol mewn effeithiolrwydd, am fod iaith gwerin yn fyrach a mwy cynnwysfawr, ac y gellir dyweyd mwy mewn ychydig frawddegau o honi, nag mewn awr o iaith glasurol—fod y Gymraeg lafar yn fwy hysain na'r Gymraeg ysgrifenedig, ond gofalu am beidio ei dirwasgu yn ormodol, fel ag i greu amheuaeth beth all geiriau a'u hystyr fod. Ni ddylid llochesu bwnglerwch na gosod "arfer" a "hen arfer" na "drwg arfer" yn lle dealltwriaeth a thegwch. Ar yr un pryd rhaid addef fod tybrediad y meddwl weithiau yn achosi bwrw allan lythyrenau mewn modd a ystyrir yn lled hyweddus a didramgwydd. Dyma ddull llednais o'r fath ag sydd megis wedi ymwisgo â diniweidrwydd—Englyn anwesol mam i'w phlentyn—anwylyd bach—a ddeil i'w adrodd fwy na chanwaith heb ddangos dim o'r gwrthuni:

"Y delaf o'r holl deulu—O! 'r gwesyn!
Rho gus am dy fagu:
Hefo'i ben cws faban cu
Ni a'i gwacwn i gycu."


Weithiau dygir llythyrenau achlysurol i rai geiriau na bydd eu hangen ynddynt ond er mwyn hyseinedd yn unig, fel yn y geiriau Arglwydd, breuddwyd, erddo, erddi, erddynt, rhyngddynt, gwnaethpwyd, dycpwyd, dygpwyd, &c. I ddilyn y sylwedd rhaid gadael y cysgod. Geiriau y werin-bobl a eglurir oreu ganddynt hwy eu hunain—eu hegluriadau syml hwynt—hwy yn fynych ydynt gywiraf, drwy gynnwys brawddegau o'r fath nodwedd fel ag i ganiatau egluriadau ac esboniadau cydweddol ac esmwyth er mwyn dangos yn ymarferol yr hyn a olygir ganddynt. Bellach, deuwn at y geiriau, a chan nad hawdd egluro pob gair ar ei ben ei hun, dodwn i lawr, yn lled fynych, frawddeg yn nglŷn â'r cyfryw rai, am fod yn haws wrth hyny ddyfalu ac olrhain tarddiad cryn nifer o honynt.

ABAL.—Abal y Saxson hefyd: tra mae y Sais yn dewis, fel arfer, haeru mai o'r Lladin y caed ei able ef. Boed felly os mynir. A pha un bynag ai Saxson ai Cymro ydyw abal, y defnydd gwerinol o hono yma ydyw i ddynodi dyn neu deulu fyddont yn meddu cyfoeth mawr, a dylanwad felly.

AFLAWEN.—Annigrif ac annghryno, olygir wrth y gair yn y geirlyfrau; ond yn llên y werin golyga hynod neu eithafol, megis "Y mae yn oer aflawen heddyw."

AFUR.—Llygriad o addurn yn ddiau: yr dd yn troi yn f wrth arfer gwlad, megis yn y gair Dydd-Iau. Difia ddywedir; a gadael y llythyren olaf allan o'r seiniad wrth arfer hefyd. Etyb yn hollol i'r defnydd o hono. "Pa'm yr oedda ti yn prynu rhyw hen afur fel yna dwad, yn lle rhoi dy arian am rywbeth buddiol i'w feddu? Wfft i ti byth!"

ANWEDD." Mae'n oer anwedd heddyw."

ARCHFA.—Cawn archfa yn aml ar dafod ac yn llên y wlad. Sonid llawer am "archfa'r crynu" "archfa'r frech wen," &c., ddyddiau fu; a hyny bob amser pan y byddai iasau clefydol yn rhedeg drwy y corff, tra heb dori allan o'r clefyd yn glir ac arosol. Ni cheir y gair archfa yn geirlyfrau; er hyny, ymddengys mai yr un ydyw ag archwa—arogl, sawr, sawyr, &c.,—yr w wedi troi yn f, fel yn cawod a cafod. Hefyd, llawrudd a llofrudd am murderer. Eto f ac w mewn lleoedd er mwyn creu ystyr gwahanol, fel yn cafell a cawell, y naill am hamper, a'r llall am chancel y Saesneg.

BARA CANRHUG.—Bara o flawd rhyg a blawd gwenith yn gymmysg. Byddid yn ei wneyd yn fynych oddeutu 60 mlynedd yn ol.

BLAEN NEWYDD.—Pan byddo'r lleuad yn ieuangc, gelwir hi dan yr enw blaen newydd: hwyrach mai y blaned newydd feddylir. A phan fyddo hi'n llawn, dywedir ei bod yn llawn llonaid. Gwyddent hwy, yr hen bobl, yn eithaf da, mai'r lloer lywodraethai drai a llanw'r môr; a chraffed oeddynt fel y gwyddent, wrth edrych ar ei gwyneb cyfnewidiog, am holl gyfnewidion ac amser y trai a'r llanw—a pha un ai uchel ai isel fyddent, ac nid bychan llawenydd y morwyr a'r pysgotwyr pan welent yn ei ffurf arwydd dw'r newydd yn fantais eu galwedigaeth.

BLERA.—Bolera—bolerwr, yn ddiau. Ac yn llafar gwlad, nid y glwth, na'r na'r diotwr (diod feddwol), nac ychwaith y sponger yn ol y geiriaduron; ond y gorymyfed-wr drwy ddrwgarferiad, pynag ai glasdwr enwyn ai sucan frag haidd fyddo'r ddiod, a phwy bynag ddygo'r draul yn hyny.

BLERMON.—Afler: —mon, terfyniad arferedig geiriau cyffelyb, hwsmon, &c. Golygir un fyddo yn esgeulus a didrefn parth gwisg a pherson, yn gystal a thrwsgl ar arfer. "Yr hen flermon iti," yn sen rhy gyssefin y cylch teuluaidd, ysywaeth.

BON-CLUST.—CLUST—FOCHIO. Y naill a'r llall yn cael lle mawr ar air a gweithred yn ngheryddon y tadau. Golyga y cyntaf ddyrnod trwm yn môn y glust, tra yr olaf yn cymmeryd y foch a'r glust i gylch ergyd lem gan law agored.

BRADGYFARFOD.—Cryd undydd, twymyn undydd. Twymyn achlysurol y mamau—yn eu cyfarfod wedi genedigaeth plant.

BRECHDAN FAWD.—Brechdan gorddi: Hen arfer o daenu'r ymenyn gyda'r fawd gan boba gynt, yr hyn a ddiogelai drwch gwastad a sylweddol ar y frechdan hono; ac ar adeg corddi ceid hi yn helaethach felly fyth—ystyrid brechdan gorddi yn foeth gwych odiaeth.

BRENSIACH.—"Brensiach anwyl!" Ffurf werinol ar dyngu yn enw'r brenin.

BROCEN.—Tebyg fod brocen yn hynach ffurf na'i berthynasau—bron, dwyfron, a mynwes, ac ei fod ar gerdded mewn llafar yn mroddegau byrion y werin er's na ŵyr neb pa hyd, megis, "Mi faela'i yn dy frocen di," &c.

BRODIO. O brwyd meddir,—brodiad—a cheir ef yn cyfrodedd-u, &c. Nid yr un ag embroidery y Saeson er gwychedd; ond yn hytrach y peth a elwir ganddynt hwy yn to darn—trwsio a chyfanu rhwyg â brodwaith edau a nodwydd. Brodio ei hosan felly y byddai Neina; a chyda llaw, arfer ei chrefft hi yn gystal a'i hiaith mae y boneddigesau Seisnigaidd pan yn darnio y dyddiau hyn. Cymraeg lân loew yw y naill a'r llall—yr iaith a'r ddawn.

BRWYDAU. Dyma air na ŵyr yr oes bresennol beth i'w feddwl wrtho. Nid oes weithian ddim o'r fath beth. Yn nechreu y ganrif o'r blaen, yr oedd yn rhaid cael crefftwr yn meddu gweydd, gwenol, a brwydau priodol, sef peithydd neu wiail, at wau brethynau a gwlaneni, a phanwr yn meddu cyff, olwyn ddw'r, a gwellaif, llathen o hyd, i'w gorphen.

BUARTH RHYG.—Dyna fel y gelwid cae neu ddarn gae lle yr hauid rhyg, ac wedi hyny y troid gwartheg iddo i'w fathru dan eu traed.

CARCHAR CRYDD.—Esgidiau rhy fychain, yn peri fod symud mor anhawdd a phe yn y carchar.

CARCHAR TEILIWR.—Wrth y carchar hwn y golygir math o reidrwydd caethiwus, dros ddwyn canolfys deheulaw bachgen i ffurf briodol tuag at ei hyrwyddo yn mlaen yn yr alwedigaeth o wnïo, os yn ymrwymo i hyny.

CATO PAWB.—Cyfystyr â Duw a'n cadwo ni bawb. Nid yw ymadroddion o'r fath ond geiriau gweigion heddyw—math o eiriau llusg. Un amser yr oeddynt yn cyfleu meddwl ac ystyr.

CEINAS.Cymmwynas. "Mi wnan' rhyw geinas i ti."

CLUST-LIPA.—Oddiwrth ddullwedd y ci pan ei dalier ar anfadwaith, neu wedi cael y gwaethaf yn yr ornest.

COGAIL FURSEN.—Oedd fath o droell fechan syml-gywrain yn nosbarth "chwareuon plant," yn oddeutu wyth neu naw modfedd o hyd, ac o fewn ychydig i'w chwr uchaf blisgyn cneuen at gymmeryd i fewn ac i ollwng allan yr edau, dan reolaeth llaw ddeau plentyn, tra'r droell yn cael ei chynnal rhwng bys a bawd ei law aswy, wrth bwys cyfrdo lwmp o bytaten osodid yn nglŷn â'i bôn. Hen arfer y cymmerid llawer o ddifyrwch gyda hi, oedd gwneyd y rhai hyn i'r plant, pryd yr oeddynt hwy yn dysgu gwenu, denu, ac wylo i bwrpas yn annghofio eu holl ofidiau ac yn iachau o'u clwyfau mewn byr amser. Cyfystyr yr ystyrid Cogail â Distaff a Truncheon y Saesneg, sef Llachbren a arferid i rolio llin arno i'w nyddu ar y Droell Fach. Heblaw hyny—yr oedd "i gogail yn hen air cyfreithiol ar ddyfodiad merch i'r etifeddiaeth. Byddai y cogail yn cael ei ddyrchafu, trwy ei osod â'i fôn mewn twll yn y droell. Felly merch a ddyrchefid fel cogail pan yn dyfod i etifeddiaeth.

CONYN.—Soflyn neu welltyn bychan.—"Wedi eu hel bob conyn."

CRYNLO.—Clapiau glo canolig—heb fod yn fân nac yn frâs.

CWEIR.—Cywair—cyweirio, dwyn trefn a dosbarth ar na byddo felly, olygir. Cyweirio tant, gwair, gwely, ymenyn—a phlant a phobl anhywaith; a churfa dda ystyrid y moddion goreu at hyny yn yr achosion olaf ddyddiau fu.

CYFRAITH Y PASTWN.—Mae yr hen ddywediad hwn yn dra adnabyddus, ac mewn mynych arfer. yn ngheryddon gwlad hyd heddyw, a diau fod a wnelo â'r gorphenol pell—mor bell a'r unfed ganrif ar ddeg, os nad pellach, pryd y cyfododd penaethiaid yn Ngwynedd, a elwid y "Pymtheg Llwyth, neu'r Pymtheg Arglwydd, y rhai, er eu bod yn rhwym wrth gyfreithiau ac arferion yr oes hono, oeddynt yn byw mewn math o gestyll ar faenorau, lle y cynnalient lysoedd barn, ac y trinent achosion perthynol i'r rhai dan eu harglwyddiaeth hwy. Yr oedd niferi, nas gŵyr neb eu rhif, o breswylwyr yr hen oesoedd hyny megis barbariaid, yn rhedeg trwy y coedwigoedd, gan gyfranogi o fywyd y bwystfilod gwylltion, eraill yn byw yn heidiau—pob haid yn gwneyd llwyth, ac ar bob llwyth y ceid penaeth. Fel y mae teyrnwialen i frenin, ceid fod pastwn neu ffon i bob penaeth. Defnyddid hwn i gadw trefn ar y tylwyth yn y faenor, yn ogystal a'r praidd yn y gorlan. Felly yr oeddynt yn Israel, penaethiaid yn ddiameu oedd Abram, Isaac, a Jacob. Yr oedd gan Jacob. ei ffon, elai a hi gydag ef i bob man, a bu farw "a'i bwys ar ben ei ffon."

CYNFFONA. Mae y gair "cynffona" yn gyfystyr a gwenieithio, neu ffalsio fel y dywedir. Tebyg fod perthynas rhyngddo â fawning y Sais, od oes, pa un o'r ddau yw yr hynaf—cynffona ynte fawning?

CHWECHEINIOG CAM.—Hen arfer fyddai camu darn o arian i'w gadw yn y llogell, megis wy addod mewn nyth iar.—"Mae man i gamu mwnai."—Cywyd St. Cowrdaf, o oesol goffadwriaeth—sant gwarcheidiol hen Eglwys Aber—erch.

CHWEIGIAN. (10s.): chwech-ugain, yn ddiau, sef chwech ugain o geiniogau—hanner punt, ond fod tafod y werin wedi dirwasgu allan nifer o lythyrenau, a chymmysgu ychydig, gan wneyd gair byr a gweddol berseiniol o hono.

CHWELP. —Whelp—cenaw. Ceir ef yn llygrair o cub hefyd ar dafod gwlad—cwb. Ond tra y gesyd fesur o barch yn y wedd hon, megis "cwb o hogyn cryf a da ydyw y gwas bach acw"; gair diraddiol, brwnt, ydyw chwelp, ac felly yn "hen gna' drwg," pa un bynag ai hen ai ieuangc o ddyn ddynodir felly.

CHWELYD. Dychwelyd, troad yn ol. Enw "ystyllen bridd" gwydd pren yr hen amser.

CHWILEN Y BWMP.—Chwilen Mai, y Colbi, gan rrai

DEIFIO. Blaenlosgi, crasu, golosgi dan effaith gwres, gan y geiriaduron. At hyn, ceir gan y werin fod min ar ellyn yn deifio—fod yr elfen deneu a hydwyth a elwir awel, ar ei ffordd o'r dwyrain yn mis gerwinol Mawrth, yn deifio pob peth o'i blaen. Heblaw hyn, clywir cwyn, nid anfynych, yn mysg brodorion Eifionydd, fod gerwinder "Gwynt Nefyn " yn deifio dail y coed a'r llysiau, nes dihatru ar brydiau holl arwynebedd y wlad.

DI-DARO.—Arferir am y "diofal ei fyd," a "diofal arno,"—" clyd ei amgylchiadau," neu dibryder ei feddwl pan na byddo felly. "Mae o'n greadur di-daro, dyn a'i helpo," a hyny pan fyddo'r byd yn curo yn drwm arno, ysywaeth.

DI-DORIAD. "Yr hen rwyll ddidoriad" ddywedir am fenyw hanner gwallgof, ddibris o honi ei hun ac o bawb.

DIFEREDD.—Dioferedd, yn debygol. "Mae o'n weithiwr diferedd," sef yn weithiwr rhagorol, neu "yn weithiwr diguro," hyny yw, yn uwchraddol felly.

ECHDOE.—Y diwrnod o flaen ddoe. Ech yw tro, gwrthdro, pegwn; fel yn echel. Felly Doedro yw Echdoe, a Nosdro yw Echnos.

FFORDDIO.—A arferir ar lafar cyffredin am to raffordd. "Nis gallaf fforddio talu cymmaint."

FFRWCSIO.—Cyfystyr ar leferydd gwlad â ffrystio, ffwdanu, bod ar ormod brys, &c.

GARGLWM.—Ceir gargam yn fynych ar dafod gwlad—knock-kneed, a gradd pellach o'r un natur o anaf ar druan yw hwn—twist-kneed. "Yr hen garglwm budr, brwnt, i ti," meddir, fel difriaeth am un gwyrgam ei osgedd ar lwybrau moes a lledneisrwydd.

GEFAIL GŴN.—Teclyn cymmalog wedi llithro bron dros gof gwlad ydoedd yr "Efail Gŵn." Byddai yn cael ei harfer yn lled gyffredin yn yr oes o'r blaen i lusgo cŵn o'r Eglwysydd, ond gellir tybio y buasai ei chyffyrddiad â'r cŵn yn cynnyddu'r cynhwrf yn fwy na heb. Erbyn hyn, trwy fod y cŵn i gyd yn aros gartref ar y Suliau, y mae gwasanaeth yr oll o'r hen efeiliau hyn ar ben, ond ymddengys fod rhai o honynt yn nghadw mewn conglau a chilfachau yn nghysswllt ag amryw o'r Eglwysydd—un yn Eglwys Gadeiriol Bangor, un yn Nghlynnog Fawr, un yn Llaniestyn, &c. O gylch 60 mlynedd yn ol, yr oedd un yn nghadw yn Llanbedrog, mewn hen goffr mawr derw, ag yn ei waelod ddolenau cryfion, wrth y rhai y sicrheid cadwynau ac y colerid y cŵn a ddelent i'r Eglwys, rhag iddynt aflonyddu y gwasanaeth.

GRIFFT SER.—Math o sylwedd glas-wyn tryloew, meddal, a ddisgyn, meddir, ar amserau o'r sêr. Dywedir ei fod yn fuddiol i wella amryw glefydau—attal effeithiau swynyddiaeth. &c.

GYLFIN. Pig aderyn. "Che's i ddim gvlfiniad o fwyd heddyw—ddim cymmaint ag aethai i big 'deryn bach."

HINDRO.—Hindrian yr hen Saxon, a to hinder y Sais yn lled gyffelyb, ond tebycach y blaenaf mewn ach ac ystyr i'r eiddom ni. Gosod rhwystr ar ffordd un; neu un yn ymrwystro, gan ym— ddyrysu yn feddyliol hyd goll synwyr.—"Mae o wedi hindro yn lân, druan."

HORWTH.—Bolgwd, torgwd, boliog, &c. "Yr hen horwth diog.

HUWCYN LONYDD.—Cynnrychioli cysgni mewn iaith ac osgo a gwedd y mae "Huwcyn neu Huwcyn Lonydd," fel y mae Dafydd Jones, Morys a Rhys yn cynnrychioli y môr a'r gwynt, mewn rhai lleoedd. Pan byddo plentyn, yn nydd— iau cyfareddol mebyd, wedi ymollwng i gwsg, dy— wedir fod "Huwcyn" neu neu "Huwcyn Lonydd wedi dyfod ato "—fod "Huwcyn wedi ymosod yn drwm arno," &c. Nid oes ystyr yn y byd i ymad— roddion o'r fath y tu allan i gostrel diddanwch syml digrifwch, ac nis gellir pellach o honynt.

IAR.—Lliosog ieir; ond iarod ar achlysuron o wendid neu esgeulusdra, megis "Yr hen iarod diffrwyth."

LOIG. "Cloig, hesben, clicied dro, cloigyn."

LON GOCH.—Arferir ar lafar cyffredin hyd heddyw, ddyweyd am rywbeth elo o'r genau i gyfeiriad y bol, ei fod wedi myn'd i lawr y lôn goch "cyfystyr a dyweyd "dyna ddiwedd am dano."

LLECHGI.—Un fyddo ar ei falais—bid gi bid ddyn yn gwilio ei gyfle i ddisgyn ar y diniwed, a sicrhau ei gudd—ddibenion i'w fantais ei hun. Perthyn i'r un gwehelyth y mae'r chwiwgi a'r chwiwleidr hefyd, yn ol eu graddau.

LLEITHIG.—Maingc, troedfaingc. Yn amser yr hen loriau pridd, byddai pobl gwell allan na'r cyffredin yn cael math o ystyllen dan eu traed, i gadw y lleithder ymaith, a Lleithig y gelwid hono, o llaith-io. LLERCIAN.—Ystelcio, aros ar ol, oedi. Llerc, Cymraeg pur, medd awdurdodau hen a diweddar, gydag ian yn ei ystyr arferol; ac yma y cafodd y Sais ei to lurk yntau yn air, beth bynag am yr arferiad.

MELGAWOD.—Math o sylwedd a fwria trychfilod ar blanigion o gylch mis Mehefin, fe ym— ddengys. Nid y Felgawod, sef honeydew y Sais, sydd yn perarogli, fel y tybir yn gyffredin. Gwenwyno y blodau rhag dwyn ffrwyth y mae y Felgawod. Ffrwythlonrwydd cynnyrch sydd yn perarogli, drwy ymgymmysgu a'r awel mewn gwasgariad.

MYMRYN.—"Ni ŵyr neb beth yw mymryn. Ni welodd neb un erioed. Mae'n rhy fychan i'w weled na'i gyffwrdd gan offeryn mwyaf cywrain a chyrhaeddbell y gwyddonwr. Olrheiniwch ef, a'r oll a gewch yw'r hyn a elwir gan Faraday yn point of force. Beth yw hyny? Ni fedrai Faraday ei hunan ateb." Ond cofier, ni theimla'r werin betrusdod i gyfaddasu'r gair fel ag i olygu hyder ei fod yn rhyw gymmaint o sylwedd defnyddiol, megis "mymryn bach," mymryn bach," "y mymryn lleiaf.". "Nid oes fymryn i'w gael ganddo—ddim cymmaint ag a roddech yn nghanwyll eich llygad," &c.

NOSON A NoOSWAITH.—Dau air cyfystyr, yn golygu yr un peth, yw noson a noswaith yn ein dyddiau ni. Ond ymddengys fod pobl yr hen amser gynt yn gwahaniaethu rhyngddynt fod gwaith neu lafur ganddynt hwy yn perthyn i noswaith, a llonyddwch i noson, nos heb waith yn perthyn i'r nos; a noswaith, nos â gwaith yn nglŷn â'r nos hono.

PEDROLFEN.—Gwagen bedair olwyn.

RHETYDDIA—Wedi i gwpl o bobl ieuaingc gyttuno â'u gilydd i briodi, anfonid cymmydog cyfrifol neu ddau ar ran y mab ieuangc i ofyn y ferch gan ei rhieni, ac i wneuthur cyttundeb yn nghylch y gwaddol. Gelwid hyn yn "Rhetyddia." Diau fod llawer o ddyddordeb yn nglŷn â'r arferiad, ond y mae treigliadau'r gair yn ymddangos yn ansefydlog ac anfoddhaol, a'r arferiad o hono wedi myned ar hen ddifancoll. Tybia rhai fod ei ystyr yn nghadw yn y geiriau "Ar hyd dyddiau" ('rhyd dyddia') yn iaith amgylchog ein dyddiau ni.

SIGL-GNOI.—SUGN-GNOI.—Gwelais lawer o hen boblach yn sigl-gnoi" neu sugn-gnoi" mwydion bara yn nghonglau yr hen simddeiau, dan ddisgyniad achlysurol ambell gawod o huddygl ac ambell bwff o "fwg taro" digon annymunol, a'r geiniog yn brin, a'r dillad yn glytiog. Er hyny, dwys a dyfal ymgomient, tra'n eistedd mewn hen gadeiriau gwellt, ag sydd erbyn hyn, fel hwythau, wedi eu rhestru gyda'r pethau da a fuont.

SIPAN.—Gair mabwysiedig o Sipsiwn, fe ymddengys. "Yr hen sipan fudur lle buost ti yn maeddu baw ac yn slotian i wlychu dy ddillad fel yna?" ebai'r fam yn ffroenochlyd wrth un o'ï lodesi bychain, gan ddwrdio a dondio yn arw iawn.

SLYSDID. Tafyriad ar ystlysdid—rhaff fferf a arferid ddodi wrth harnais ceffylau gweithio. Mae hefyd yn air awgrymiadol am ffordd a diffyg un ac arall lled neillduol yn nosbarth y menywod, megis "Yr hen 'slysdid afler," &c.

TALU FFWTING.—Mae yn amlwg fod y gair Saesneg "footing" yn golygu sefyllfa, troediad neu gerddediad; ac mae y gair talu yn golygu fod' dyn i roi arian am y safle oedd ef yn gymmeryd.

Yr oedd yn arferiad i ofyn i ddyn wneyd y peth a elwid "talu ffwting" pan yn cael rhyw waith manteisiol, a phan yn myned yn mlaen o un gwaith i'r llall, neu yn gwneyd rhyw symudiad yn ei amgylchiadau. Yr oedd y tâl yn wahanol,. chwe' cheiniog, swllt, hanner coron, &c., ac yna yn gwario yr oll am gwrw.

TORI'R WAWR.—Mae'n ymddangos fod y gair gwawr yn dwyn yn ei fynwes gryn nifer o eir—liwiau prydferth, ac fod llinyn gwahaniaeth amlwg wedi ei dynu rhyngddynt oll, megis gwawr oleu—gwawr lwyd—gwineulwyd—gwawr goch, gwawr lâs, llwyd-oleu, ac hyd y nod gwawr dywyll, &c. Wrth gwrs, ystyr cyntaf y gair ydyw toriad y dydd. Y lliw yn lled droi at liw arall. Mae y dydd yn taflu ei lewyrch yn mhell o'i flaen. Nid yw yn ddidyst ganol nos, oblegid efe dywyna yn llygaid bychain y ser.

TRAC.—Yn ol y dyb gyffredin, ffurf boblogaidd yw trac o trace a track y Sais; neu tractum y Rhufeinwr, trac yr hwn sydd yn hawdd ei weled yma a thraw ar wyneb tir ac iaith Cymru. Ond rhag bod yn euog o fenthyca ac ymdrechu cael gwreiddiau estronol i eiriau Cymraeg heb eisiau, er yn gyfystyr â trace, track a tractum, &c. Eto, oni ellir tybied mai gair Cymraeg pur yw trac—trac trol—lliosrif traciau, sef rhigolydd olwynion trol; trac ysgyfarnog, sef ei llwybr aneglur, oddiwrth yr hwn yn reddfol, trwy naws ei harogl, y gall yr helgi fanwl ddilyn brisg ei thraed. Dyna ystyr wledig y gair; ond yn hytrach na dadlu achyddiaeth y cyfryw, gadawn ef heb ymhelaethu yn mhellach.

TRADWY.—Y trydydd diwrnod ar ol heddyw. Tri wedi troi yn tra, a dydd yn dwy.

TRANOETH.—Y diwrnod dilynol yw tranoeth. Tran yw yn rhanol, yn hytrach, o flaen, yn ddilynol.

TRENYDD. Y diwrnod ar ol efory. Tri dydd wedi troi yn tre nydd.

WIGSEN. Mioden—teisen fechan.

Y CROEN-GI.—Nid croen ci, ond y creadur ei hun wedi ei dynu i lawr drwy ryw anffawd—cam neu gymhwys, fel na byddo onid braidd groen o hono—yn ddrych o drueni a dibrisdod. Dysgrif -air wrth fodd gwerin ddig am ambell i gi deudroed yw—"Yr hen groen-gi sâl."

YSTRELGI. Creadur cythruddol ei nwyd, uchel ei glep, a pharod ei ddant; yn ysgyrnygu ar bawb ar yr achlysur lleiaf. Drel gydag ys yn flaenddawd grymusol, a'r Ci, pa un bynag ai pedwar-droed ai deudroed—fyddo i'w nodweddu felly.

Heb helaethu yn mhellach ar hyn, eir yn mlaen gyda'r Diarebion a'r Dywediadau, fel y soniwyd eisoes. Pe gellid dyfod o hyd i ffurf wreiddiol y rhai hyn, gellir tybied na byddai lle i bryderu yn nghylch eu hystyr, yn herwydd eu bod yn fwy hynafol na'n llenyddiaeth argraffedig; ac mai ychydig o honynt ellir olrhain at awduriaeth ddiddadl. Fodd bynag, rhaid iddynt gael eu barnu, fel pob hen lenyddiaeth, gyda llawer o amheuaeth o ran golwg ar eu ffurf foreuaf. Ond hyderwn fod eu sylwedd a'u prif ddyddordeb wedi eu cadw i ni; oddigerth eu bod wedi eu diosg o'u ffurf gyssefin, a'u dodi mewn gwisg fwy gwerinol, nes bod y bobl yn eu hadnabod a'u croesawu yn y wisg hono, ac yn cael yn eu mysg rai cymhwysiadol at bob amgylchiad mewn bywyd. Mae'n wir fod rhai o honynt ag iddynt darddiad hanesyddol. Dywedir mai perffeithrwydd Duw yn y ceugant mawr a barodd y ddiareb "Duw a digon," ac mai cwymp dyn yn abred a barodd y ddiareb "Heb Dduw, heb ddim." Yr oedd y diarebion boreuaf, fel y caneuon, yn hynod syml a chynnwysfawr. Ond fel y cynnyddai amaethiad a llenyddiaeth, yr oedd y diarebion syml yn cael eu gwneyd yn feithach a mwy addurnedig. Er enghraifft, yn y ddammeg am y "Gwr a'r Ebol," lle y darlunir dyn yn gallu cario ebol, wedi iddo dyfu i fyny yn geffyl, am ei fod yn arfer gwneyd hyny bob dydd er pan oedd yn ebol—"Arfer a wna feistrolaeth," ac "Arfer a wna'n hawdd y peth mwyaf anhawdd," "Arfer yw hanner y gwaith," "Arfer a drech ar bob trechaf," "Arfer a ddwg bob peth dan ei wedd," "Arfer a ddaw hanner y ffordd i gyfarfod a phob ymgais," fel y ceffyl yn dyfod at y gŵr ag oedd yn goddef yn esmwyth ei godi. Diarebion ereill "Nid nerth ond arfer "—"Nid nerth ond celfyddyd"—"Nid celfyddyd ond arfer," fel y dywed y bardd.

"Arfer ac ymgais
A drech ar bob trais."

Ac o hyn y mae'r ddiareb—"Codi'r ebol heddyw, codi'r ebol efory, codi'r ebol bob dydd, onid elo'n llawn ceffyl."

Nid yw y ffaith fod mynych ddefnyddiad yn cael ei wneyd o linell, neu linellau fel

"A wado hyn, aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."

yn gwneyd y rhai hyny yn ddiarebion, eithr yn hytrach yn arwyddeiriau, neu mottos mor hapus a tharawiadol, nes bod yn adnabyddus yn ngenau pob dosbarth o bobl.

Heblaw casglu yr oll a ellir o'r rhai sydd ar lafar gwlad, ag y dygwyd doethineb y prif-ffyrdd a'r caeau i mewn iddynt, dyddorol yw ymdrechu olrhain tarddiad cymmaint ellir o honynt, fel ag i geisio dangos yn ymarferol eu hystyr, cyn ei myned yn rhy ddiweddar. Er eu bod yn hen iawn, hwyrach y ceir rhyw eglurhad ar rai mewn un ardal, lle maent yn dywyll mewn ardal arall. Dengys hyn y gallwn ni wrth wrandaw ac ystyried ddeongli llawer o eirweddion preswylwyr yr hen oesoedd—po hynaf, mwyaf y gwerth. Dyma ychydig nifer allan o liaws:

Abwyd i'r frech wen ydyw'r frech goch.
Adwyog cae anhwsmon.
Adnabod y bluen.
Pysgotiaeth, yn golygu craffder i ddeall yr hudoliaeth, ac ymogelu, gan nad pa mor gelfydd y temtiwr.
A echwyno gan arall, ef a gyll yr eiddo ei hun.
A fyno fod yn llawen, yfed win.
A fyno fod yn gryf, yfed gwrw.
A fyno fod yn iach, yfed fedd.
Diodydd arferol yr hen bobl oeddynt—dwfr, gwin, cwrw, bir, meddyglyn, osai[1], maidd glâs, &c.
A garo gael, rhodded.
Agoriad calon, cwrw da.
Angen ddadguddia feddwl.
A'i anadl yn ei wddf.
A'i drwyn yn tân—bron rhynu.
A ddygo lwy fo ddwg fwy.
Amlaf ei gwys, amlaf ei ysgub.
Aml gnau ar gyll, aml flyth ar ferched.
Blyth yw blys, chwant, gwŷn, nwyd, &c. Esbonir y ddiareb yna gan un arall i'r un perwyl, "Llawer o gnau, llawer o blant ordderch." Dyna ystyr blyth.
Amser a llanw nid arosant ar neb.
Anfynych y marchoga y sawl fenthyco farch.
Anhawdd diddyfnu yn hen.
Ar fy nghydwybod i.
A ymachubo y blaen o bell, agos y caiff ei les.
Bai bychan a gerdd yn mhell.
Bara llygeidiog a chaws dall.
Da ydynt yn ol yr hen air. Bara yn llawn codiad ac yn fân dyllau trwyddo, a chaws fel arall. Ymddengys fod llygeidiog i'r bara, a'r dall i'r caws, yn golygu yr un peth.
Blaen Gogledd a diwedd De.
A chymmeryd golwg athronyddol a chariadus ar wahanol deithi y gwynt, ystyrid gan yr hen bobl fod tymheredd y gwynt gogleddol, bob amser, ar ddechreu tymhestl yn rymusach ac yn fwy anhydrin na'i dymheredd tra yn lleddfu at lonyddu tua'r diwedd. Ond o wneyd casgliadau diamheuol oddiwrth y gwynt deheuol, gwireddid ei fod ef o anianawd hollol wahanol i'r gogleddol yn fwy nawsaidd ar ei ddechreu nag ar ei ddiwedd. Fodd bynag, os cywir y syniant am y naill a'r llall; y ffaith yw, mai yn llaw Natur y rhaid fod y mater, y mae ganddi hi ei rheolau arbenig.
Bodd Duw a lwydd.
Brâs âr, brâs ŷd.
Brenin y bwyd ydyw'r bara.
Bwrw heli yn y môr.
Bwyta lon'd dy fol.
Yr ateb arferol i'r cyfryw gymhelliad ydyw
"Llon'd bol mochyn—digon i ddyn."
Byr feddwl wna hir ofal.
Byw heb wybod i'r beili.
Byw heb fod yn nyled neb o ddim.
Cadw di dy ardd, ceidw dy ardd dithau.
Canu crwth i fyddar.
Canwyllbren dan y bwrdd hanner y Gwanwyn.
Pan ddodid heibio weithio wrth ganwyll yn ngweithdai'r wlad, yr hyn wrth ddefod arferol ddigwyddai yr un adeg yn mhob cylch o weithfeydd ar yr 21ain o Fawrth. A dyna ddywedid yn y tŷ annedd—taflu neu ddodi y canwyllbren dan y bwrdd, am nad rheidiol wrth ei wasanaeth hyd yr 21ain o Fedi dilynol. Mae'r ystyr hwn i'r enw canwyllbren yn ystyr hen: a diau fod yr enw yn briodol pan roddwyd ef arno gyntaf, er nad yn briodol arno yn awr, tra heb fymryn o bren yn nglŷn âg ef er's amser maith. Rhyfedd na effeithiwyd ar ei enw gan amgylchiadau newyddion cyfnewidiol amserau diweddarach—fod ysbryd mud yr oesau gynt wedi dal cyhyd i ffynu o'i gwmpas—arferiaeth yw yr achos, fel yr achos o bob llafar gwlad.
Ceisied pawb ddw'r i'w long.
Celwydd goleu.
Celwydd o ben un, gwir o ben pawb.
Am mai dyfais un yw celwydd, a'r un hwnw a'i hedrydd i gychwyn, tra gwir yn bod i bawb yn gyffelyb o'i adrodd ganddynt fyth.
Cesail bryn gwaela' talar.
Codi yn foreu.
Ymadrodd a ddefnyddir yn fynych, fel o'r un ystyr a bod yn ddiwyd, naill ai mewn drwg neu dda.
Cuddir dyn dan ei dafod.
Cyngor gan gall, barn gan ddeall.
Cyn deneued a glasdwr.
Hefyd, Fel glasdwr geifr.
Cyn ddued a'r gadwen.
Y gadwen yn yr hen Simde fawr, wrth yr hon y crogid y crochanau a phob offer coginiaeth yn yr hen amser; a duach na hono, yn nghanol yr huddygl gwastadol, ni allai dim na neb fod. Yn edrych fel pentan." Ffurf arall ar yr hen ddywediad, yn golygu dull—ymddygiad y taeog mud—sorllyd, diserch—" dweyd na bw na be wrth neb."
Cyn feddwed ag olwyn, neu "Mor feddw ag olwyn."
Cynhes fel pathew.
Creadur bychan o rywogaeth y llygoden, o liw llwydwyn bawlyd. Y mae llawer o lên gwerin mewn cyssylltiad ag ef.
Cyn wydned ag y dawnsia llydnod hyd-ddo.
Llymru pur wedi ei wneyd o ruchion digymysg—ei ferwi am o awr a hanner i ddwy

awr, olygir yma. Dodid weithiau yn y rhuchion ychydig flawd haidd neu wenith; bryd arall, gyfran fechan o flawd ffa—y mwyaf cryfhaol o bob math o flawd. Can wyllted ag ysgyfarnogod yn Mawrth. Cyw tin y nyth.

Dangos y llo, na ddangos y llaeth.
Da y b'och a dibechod.
Dengys y gauaf beth wnaed yr haf.
Deilen ar ei dafod.
Digon i bob dyn ei faich ei hunan.
Dim newydd gymmaint a marw gwrach.
Os difantais y digwyddiad, diwerth ei adrdrodd, olygir.
Dim ond cael a chael.
Diwrnod tywyll, noson oleu.
'Does dim yn dy ben mwy na meipen.
Drwg pawb o'i wybod.
Dwylo blewog.
Dydd Sul y Môr.
Diwrnod mawr a goreu y morwyr a elwid felly—diwrnod fyddai yn dyfod o amgylch yn flynyddol bob haf, ac yn parhau am chwech o Suliau yn olynol, a mawr y rhialtwch fyddai ar y môr—lanau yr adegau hyny, tra'r morwyr yn myned drwy eu chwareuon, a digon o gwrw wedi cael ei ddarllaw ar gyfer yr wyl. Dewisid dau ieuangc i fod yn arglwydd ac arglwyddes y cwrw, ffwl, cerddor, a chymmeriadau eraill.
Dysgu cerdded y filldir.
Mamaeth—air yn llafar gwlad yw hwn am y modd y dysgid i'r plentyn gerdded. Arfer y fam ddyddiau gynt fyddai eistedd yn ei chadair fagu—codi y bychan wedi ei drin i sefyll ar ei gliniau—wyneb yn wyneb a hi-a chan ddodi ei dwylaw dan ei geseiliau i'w gynnal yn lled ogwyddo wysg ei chefn, hi a'i caffai i symud troed heibio troed, o fodfedd i fodfedd, oddi yno hyd derfyn eithaf ei bron. Dyna hyd milldir hir y bychan; a dyna'r fel y dysgid i'w cherdded. Wedi hir a dygn arfer, yn gwneyd cynnydd o wythnos i wythnos—meistroli y gamp gyntaf yn hanes y dyn; ac ni bu fwy gorfoledd—o bob tu—yn ngorchestion Marathon erioed na pan gyrhaeddid pen y filldir hono. Y cyfarchiad arferol gan ymwelydd cyfeillgar â'r fam am gynnydd ei bychan fyddai "Ydi o wedi dysgu cerdded y filldir bellach?"
Dyw amser ddim yn segur.
Edrych fel delw.
Fel llong ar dir sych.
Fel 'stwc degwm.
Fel y ddeial.
"Y teclyn hwnw osodid yn agos i ddrws pob Eglwys, cyn amser clociau, i nodi yr amser wrth yr haul. Os gofynwch i rywun, "A ydyw eich watch chi yn cadw ei lle?" dywed yntau ar eiliad, "Fel y ddeiol." Mae yr hogyn yna sy gynoch chi hefo'r mul yn un diog iawn, Huw, onid ydi o? Ydi o yn o bynctiwal at ei bryde bwyd? "Ydi, decin i, fel deiol," ebe Huw. Wrth y ddeiol yr oedd Huw yn mesur ac yn pwyso pawb a phobpeth."
Gadael pawb fel y b'ont.
Gair garw gyffry gynen.—Beiblaidd.
Gloewach y dw'r yn y ffynnon nag yn y ffrwd. Goreu bara po garwa gwellt.
Goreu ceirch y breisgaf.
Goreu cig medd meddyg yw mollt.
Goreu gwêr, gwêr carw gwyllt.
Goreu iau, iau bwch.
Goreu llwdn, llwdn dafad.
Goreu o'r gwenith y moelaf.
Goreu o'r meirch y mwyaf.
Goreu o'r moch y tewaf.
Goreu un bwyd bara.
Goreu un ddiod dwfr.
Gorphwys cynnarol wna godi boreuol.
Gwaethaf iau, iau hwch.
Gwaethaf tân, tân gleuod.
Gwaeth ei gyfarthiad na'i frath.
Gwell Duw na drwg obaith.
Gwell grot ymhwrs na disgwyl arall.
Gwell hanner had na hanner haf.
Gwell henffordd na ffordd newydd.
Gwell maen garw na'r maen llyfn a ollyngo.
Gwell plygu na thori.
Gwell tŷ gwâg na thenant sal.
Gwilia dy feistres pan byddo feinaf.
Gwneyd dôr o balfau rhawiau.
Gwynt i oen, haul i fochyn.
Gwynt o'r môr_hinon fydd.
Hach a binsia.
Y mae tafod y werin megis yn petruso pa un ai hach ynte ach ddylai fod yn y cyfryw ymadrodd y mae'r naill a'r llall ar arfer, ac o ganlyniad, yn cael eu mynychu yn ddieithriad i olygu yr un peth—i hwtio ymddygiad fo annghymwys yn ngolwg y fam yn y plentyn, ac mewn cylchoedd uwch mewn oed a sefyllfa—yn bygwth poen o'r camymddygiad fel teimlad ewinwrth ewin yn clwyfo clust, &c.
Haul tes melyn.
Heb fod yn llawn llathen.
Heb ymadael a'i glytiau.
Magwraeth yn moreu bach mebyn olygir, a'r sèn geir yma i'r rhai fyddont yn rhy barod i ruthro i ofalon byd, &c., heb wybodaeth, medr. na phrofiad addfedrwydd oedran. "Mae Guto tŷ nesa yn myn'd i briodi." Cato pawb, taw a deyd! Ond oedd hi'n lwc ei fod wedi "gadael ei 'glytia'—os oedd o hefyd."
Hyd y nawfed âch.
Yn fynych, pan o sèn at unrhyw gymmeriad gwaradwyddus mewn unrhyw deulu, ceisir osgoi cydnabod perthynas â'r cyfryw trwy ddyweyd—Nid wyf fi na'm teulu yn perthyn iddo hyd y nawfed ách. Effeithiai hyn i raddau pell ar berthynasiaeth yn yr hen amser, er enghraifft, am bob achos o lofruddiaeth, gosodid dirwy ar berthynasau y llofrudd, yn rhanedig hyd y nawfed âch; ei frawd a dalai ran fwy, a'r nawfed ran lai yn ol y berthynas.
I ganlyn llwybr ei drwyn.
I'r goriwaered y treigla'r cerig.
Lladd a llyfu.
Defod gi-og geir yma. Pwy mor lym ei ddant i waedu; ac wedi hyny—pan yn gwel'd mai dyna ei fantais—pwy mor esmwythlyfn ei dafod i lyfu, ag ydyw'r ffalsgi? Helynt o beth mai troion sâl y ci ddynwaredir, yn lle ei ragoriaeth—pwy cyn ffyddloned a'r ci?
Lladd â phluen.
Mae addysg o fedydd hyd fedd.
Dyna syniad ein tadau o barth dymunoldeb o graffu ac ymchwilio; o gofnodi a dwyn oddiamgylch wersi goleu a phwyllus oddiwrth ddynion a'u doniau.
Mae blas ar beth, nid oes blas ar ddim.
Mae cynffon gan y dydd.
Ei ymestyniad—dechreu hwyhau.
Mae gwaith tŷ fel tragwyddoldeb.
Yn ddiddiwedd.
Mae i bob câr ei gydgar.
Mae'n ddigon a magu rickets ar ddyn.
Ymddengys mai effaith nych—fagu ar fabanod yw hwn, yn effeithio ar y gewynau,
gan achosi annghydffurfiad yn y corff, yn nghyd â'r pen o faintioli annghymesur. Gelwir ef mewn rhai manau yn "Llechau," yn golygu yr un anhwyldeb corfforol, y naill yn air Saesneg a'r llall yn Gymraeg.
Mae pawb a'i hai arno.
Mae piso dafad yn ganwaith mwy o werth na biswail buwch.
Mae pob twf blwydd yn naill ai porthiant ai gwrtaith.
Mae wedi myn'd yn goffi crystyn arno.
Mae dau fath o ofid yn y byd—gofid y tlawd a gofid y cyfoethog; trallod y rhy fach a thrallod y gormod. Gofid a thrallod y rhy fach yw cymhwysiad priodol y "coffi crystyn" crybwylledig, fel y dengys y chwedl ganlynol, ag sydd ar ei haden hyd heddyw yn ardal Llanystumdwy, sef, ddarfod i ffermwr rhwydd lawn o gyfoeth, ag oedd yn byw yn y Berkin, mewn dibrisdod a thymher ddrwg dros fesur, sèn—gyfarch hen wraig dlawd a adnabyddid wrth yr enw Aels Glan 'r Afon, fel hyn:—" Mae nhw'n deydi mi eich bod yn eich a'ch tost bob dydd, Aels." Ac ebe'r hen wraig, o dipyn i beth yn yswil ac ofnus, eithr mewn ysbryd prudd ac isel, gan droi ei dwy fawd o gylch eu gilydd: "Gyda'ch cenad, syr, tost iawn ydi bwyta tipyn o fara haidd wedi ei grasu o flaen tân gleuod, a'i falu i ddw'r a halen neu ddw'r a thriog. Bryd arall, crystyn wedi mwy na hanner ei losgi i wneyd 'coffi crystyn o hono. Dyna'r a'r tost ydw i'n gael, syr." Haws dychymmygu na darlunio profiad yr hen wraig, tra'r oedd gofid ar ei oreu yn ei mynwes. Ai tybed fod y ffermwr crybwylledig yn ystyried ei chyflwr? Efallai ei fod; efallai nad oedd.


Mae'r gwynt yn nhwll y gwlaw.
Y Deau olygir wrth "Dwll y gwlaw." Mae gwynt y De yn dod a gwlaw gydag ef, am ei fod yn dyfod dros arwynebedd dirfawr o fôr. Hyn a barodd i'r hen bobl ddywedyd,

"Pan gwynt o'r De a ddaw,
Y mae yn ngenau'r gwlaw."

Mae wedi chwech arno.—Ar ben arno.
Mae wedi chwythu ei blwc.—Wedi myned i'r pen
Mall dân, mall fara.
Melusaf y gwellt agosaf i'r ddaear.
Mor brysur a beili mewn Sesiwn.
Mor chwim a gafr wanwyn.
Yr un a gafr y gors, sef y giach, ysniten "sneipen" ar dafod gwlad, sef yr aderyn. chwim breswylia gorsydd gwlybion, ac a ymdröella ol a blaen drwy'r wybr—lasog uwchben, gan frefu yn grynedig o hirbell, ar noson glir ac oer o wanwyn.
Mor dawel a'r tes.
Mor ddig'wilydd a thalcen tâs.
Mor galed a iau ychain.
Mor gyfnewidiol a Gwrach y Rhibin.
Mor llon a'r gog.
Mwg syth-llawer o arian yn tŷ.
Myn'd i'w groen fel draenog.
Myn'd yn gidyll gwyllt.
Naddu ato'i hun.
Ni châr hen fuwch ddyniawed. :
Ni cheir dâ heb lafur.
Ni chroesawir oni wahoddir.
Ni wel ynfyd ei fai.
Nid cymmaint Bleddyn a'i drwst.
Nid da siomi tir.
Nid digon dymuno.
Nid dryghin ond gwynt.
Nid hawdd yr ardd ŷch heb gymhar.
Nid oes dim gonestach na thir, fe ddengys yn gywir y driniaeth fo'n gael.
Nid oes i bob ci ond ei ddydd.
Nid pob dydd y lleddir mochyn.
Nid rhodd a gymhellir.
Ni lwydd ond cyfiawnder.
Nis gellir cadw torth a'i bwyta.
Ni wna'r môr waeth na boddi.
Ni wyr y bore teg ba wrth-hin a lŷn wrth ei gynffon.
O cheri fi câr fy nghi.
Coelir mai y ci yw y callaf a'r mwyaf synwyrol o'r holl greaduriaid a gyfrifir yn ddireswm; a chydnabyddir ef yn gyffredin fel cydymaith a chyfaill ffyddlon ac anghyfnewidiol yn ei serch. Yr oedd yn un o'r creaduriaid hyny a addolid yn mhlith hen baganiaid y Dwyrain. Rhyfedd, onide, fel yr hoffa pobl o ryw fath ymlynu wrth hen arferion tebyg, hyd y nod yn ein dyddiau ni. Mor fynych y cura mynwesau coeg—foneddigesau ein gwlad yn erbyn penau cwn yn lle penau eu plant eu hunain, yn ddiystyr o'r ddyledswydd neillduol o fagu eu plant a'u dwyn i fyny fel y dylid dwyn i fyny blant—nid eu cyflwyno i ofal ac i fynwesau estroniaid.
O ddilyn oferddyn ai dithau yn furgun.
Ofer ymryson â gof yn ei efail.
Oni wnawn dda na wnawn ddrwg.
Os chwynu'r goesgoch, rhaid chwynu'r benboeth hefyd.
Tyfolion gwylltion ydynt y goesgoch a'r benboeth. Chwŷn, enw lliosog; chwynog, ansoddair; ac yn drachefn ar dafod gwlad, yn ei droi i unig—chwynogyn, megis, a
ddarfu i ti chwynu yn lân—Do, bobchwynogyn.
Paid di a'm boddi, peidiaf fina rhynu.
Hen ddywediad a ddodid megis yn ngenau gwenith. Y cymhwysiad yw, "Paid a hau ŷd mewn tir gwlyb, yna paid yr ŷd a. phydru tan y gwys.'
Peidiwch a meddwl mai pabwyr yw pobol.
Pob milyn yn ei elfen.
Pob pwys a gaiff ei gydbwys.
Pob rhyw a genedla ei ryw.
Pry' oddiar faw ehed uchaf.
'Rown i'n meddwl ma' felna basa hi!
Gan y bobl hunan-bwysig hyny a honant eu bod o dylwyth y prophwydi, ond a arosant heb gyhoeddi eu prophwydoliaeth hyd ar ol digwydd, y dywedir fel yna—a hyny, fynychaf, mewn dial. "Dydi'r Brenin Mawr ddim yn cysgu," ebai Harri Morys,. Bryn March, wrth Sian ei wraig, gan dynu llawes ei gôt ar draws ei drwyn; "a dyna'r hen Sion Solas wedi cael ei dâl am y tro nath o â mi stalwm. 'Rown i'n meddwl ma felna basa hi!"
Sala us, us gwenith.
Siaradwch ychydig ag eraill a llawer â chwi eich hunain.
Sion llygad y geiniog.
S'nachu dan ei ddannedd.
Tafod drwg a dyr asgwrn.
Tair oes mul.
Syniad gwlad yw mai hirhoedlog iawn yr anifail hwn, fel braidd ei fod yn byw tu hwnt i gyfrif oes pedwar carnol cyffredin; a dywedir am rywun fyddo byw cyhyd a thair oes mul ei fod bron yn anfarwol. "Bywyd cath ynddo," olyga un anhawdd ei ladd drwy unrhyw ymosodiad neu
gamdriniaeth, ond "tair oes mul"—byw yn hir—hirhoedledd olygir wrtho.
Teila it' dy hun, calcha i'th fab, cleia i'th ŵyr.
(1) Teila it' dy hun.—Os felly, gyda ffawd, ac estyniad dyddiau einioes, derbyniai y tad, yn bersonol, elw oddiwrth ei lafur. (2) Calcha i'th fab.—Parha effaith calch i ddwyn cynnyrch dros ystod ugain mlynedd. Pe y tad wedi cyrhaedd oriau prydnawn einioes, gallasai ei fab, yn unol â threfn amser, fel olynydd, feddu a medi ffrwyth ei lafur ef. (3) Hir, a braidd hwy na hir, yr ystyrid disgwyl unrhyw fath o gynnyrch oddiwrth gyffaeth clai; ond os tir ysgafn, llac, neu rydd, bernid gan ddoethion yr hen amser, fod clai, mewn ystod o amser lled faith, yn ardymheru ac yn addasu y cyfryw i ddwyn cnydau rhagorol. I le o'r fath, dygid ef yn domeni bychain ar hyd braenardir fel llosgedigion ereill, megis lludw aelwyd, calch, tywyrch, &c. Ceir ar hyd a lled y wlad, yma a thraw, weddillion ac enwau amryw fathau o hen odynau, megis odynau calch, odynau cywarch, odynau brag neu haer, odynau bracio, odynau clai, &c. Amlwg yw, yn mhlith ereill o fewn cylch cymharol ddiweddar, y gwneid defnydd ymarferol o'r odynau clai yn ardaloedd gorllewinol Lleyn, yn fwyaf neillduol oddeutu Penllech, a bod amledd y toriadau dyfnion a welir ogylch yn dwyn nodau eglur o'r hyn a gludwyd ymaith o'r clai i'r perwyl crybwylledig.
Tra pisom yn loew cardoted y meddyg.
Tri goleuni nos, niwl, gwynt, ac eira.
Tywyll for a goleu fynydd wnelai hindda yn dragywydd.
Wedi myn'd yn gocin glân.
(Cocking). O cock, ymladd ceiliogod.
Y ceffy! a bawr a bery.
Yd mall, bara mall.
Y fuwch mewn ymrafael â'r dâs wair.
Y march a rech garia'i bwn.
Ymladd dau fywyd.
Yn benben-glustiau.
Yn fwg ac yn dân i gyd.—Y ffwdanus.
Yn llaw ac yn droed.
Yr hen geubal bwyteig.
Y sawl a gysgo heb swper a gyfyd heb ddyled.
Y sawl fwytao fwyaf o botes gaiff fwyaf o gig.
Y sawl ŵyr fwyaf a dwyllir fynychaf.
Y tri math goreu o bysgod.
Brithylliaid Cwmdwythwch, torgochiaid Llyn Tarddeni (Llyn Quellyn), a gleisiaid Aberglaslyn.

Yr oedd tri yn rhif cyssegredig gan ein hynafiaid. Byddent yn dra hoff o gael tri gwrthddrych o'u blaen i addoli, megis uniad tair afon, tri chrug ar rai o'n mynyddoedd, megis yr Eifl—y tair cromlech, gynt, ar lechwedd ddwyreiniol Mynydd y Rhiw yn Lleyn, a'r tair ger Ystumcegid yn Eifionydd, &c. Arferent, bryd arall, ddywediadau mewn ffurf odlyddol—wele ychydig o lawer o honynt:—

Ar hindda mae gweithio
Rhag newyn pan ddelo.

Caiff un pâr o dafodau
'N fynych sychu cant o glustiau.

Dysg i'th blentyn ennill da,
Cyn dysgu modd dyfetha.

Gyda'r cwn yn cysgu,
Gyda'r chwain yn codi.

Haul y borau byth ni bydd
Yn parhau drwy'r oll o'r dydd.


.

Mae un tad yn tra rhagori
Ar ddau cant o ysgolfeistri.

Rhin deu-ddyn cyfrin yw,
Rhin tri-dyn can-nyn a'i clyw.

Y doeth nid yw'n gofalu
Am yr hyn nas gallo feddu


Nodiadau

[golygu]
  1. Cwrw ffrwythau (seidr / perai &c) neu win ffrwythau (mwyar / ysgawen &c)—GPC