Neidio i'r cynnwys

Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Hen Gawri

Oddi ar Wicidestun
Chwedlau Arian Cudd Llen Gwerin Sir Gaernarfon

gan John Jones (Myrddin Fardd)

Gwyliau, Defodau, ac Arferion

PENNOD IX.
HEN GAWRI.

GOLYGA y gair "cawri" ddynion cryfion, geirwon, crwydrol, anferth o faint, daearol eu hamcan, wedi ymdaflu i fywyd penrhydd, cyffrous, a rhyfelgar, arferol o ymosod ar dylwythau llafurus a heddychlawn, er mwyn ysbeilio eu heiddo, a difrodi eu hanneddau. Barna gwyddonwyr fod dynion o gyrff llawer mwy na'r rhai presennol wedi bod ar y ddaear, ond fod eu hiliogaeth, fel eiddo y Mammothiaid mawrion, wedi diflanu. Yr oedd llawer iawn o gawri yn y dyddiau gynt, ac, yn ol hen hanesion, yn cyflawni llawer o gampau gorchestol tu hwnt i ddim all neb yn yr oes hon ddirnad. Ond beth am hanes cawri ein gwlad ni? Y mae lleoedd hwnt ac yma yn dwyn yr enwau "Barclodiad y Gawres," "Bedd y Cawr," &c.; a cheir fod esgyrn o faintioli anferth wedi eu codi o bryd i bryd yma a thraw, yr hyn sydd yn peri i'r grediniaeth ynddynt lynu hyd heddyw. Hawdd y gallent fod yn gawri, os gwir hanner y chwedlau am danynt—eu bod arferol o gerdded diwrnod, neu ddau neu dri, gan deimlo rhywbeth yn eu hesgiaiau, eithr heb deimlo digon i gymmeryd y drafferth i ystyried yr achos, ond yn mhen "hir a hwyr " yn gwneyd hyny, gan daflu, ambell dro, feini tunelli o bwysau allan o'r un esgid. Mae rhai pobl, rhag eu galw yn ofergoelus, yn haeru mai graian oedd yn yr esgidiau, ac ddarfod iddynt dyfu yn anferthol ar ol eu bwrw allan o'r esgidiau; ond lol i gyd yw hyny,—os Cawri, cawri, o nerth a chorffolaeth, na cheir eu cyffelyb ond ar glawr hanesyddiaeth traddodiadol, tywyll, a dyryslyd o'r gorphenol pell, a'r oll yn ymylu ar fyned tu hwnt i brofion y gellir ymddiried ynddynt. A chan nad oes unrhyw gofnodiant neillduol am danynt mewn unrhyw hen goflyfrau boreuol, fod yr hynafiaethydd wedi eu hannghofio, a phawb wedi eu gadael allan o sylw yn mhob modd gynnifer o gannoedd o flynyddoedd; nid oes gan y mwyaf craffus ac ymroddgar, fel hynafiaethydd, erbyn heddyw, ond dyfalu am danynt, a gadael llawer gofyniad o bwys gyfodi yn y meddwl gyda golwg arnynt heb fodd i'w ateb. Yr oedd ein hynafiaid yn dra hoff o gyssylltu rhyw fawredd dychymmygol â'u llywiawdwyr, eu harwyr, a'u henwogion.

Yn ol y Myv. Arch., Jones' Bardic Museum, priodolir i un Rhitta Gawr lawer o orchestion tra hynod. "Cofnodir ef yn un o'r Trioedd, gyda Hu Gadarn a Phrydain ap Aedd Mawr, dan y penawd,tair gwrthrym ardwy,' neu wrthweithwyr trais; a Rhitta Gawr a wnaeth iddaw ei hun ysgin [clôg] o farfau brenhinoedd, a wnaeth efe yn eillion am eu gormes a'u difrawd." Mewn Trioedd arall, rhestrir ef gyda Phrydain a Charadawg, dan y penawd "tri madoreilitiwr, neu ymlidwyr enwog"; a "Rhitta Gawr yn goreilid gormes ac anrhaith y Brenhinoedd Annosparthus." Yn Mrut y Brenhinoedd, sonir am ymladdfa arswydus a fu rhwng Arthur a Rhitta yn mynyddoedd Eryri, am ysgin yr olaf. Dywed y Brut yn mhellach fod Rhitta wedi ymylu ei glôg â barfau brenhinoedd, gan adael lle yn wâg o tan ei ên, fel y dodai yn y fan hono farf Arthur, fel y prif frenin. Felly danfonodd wys at Arthur yn erchi iddo ddanfon naill ai ei farf neu ei groen, neu ei gyfarfod ef mewn man pennodedig, pan y cai y gorthrechwr ohonynt farf y llall. Gorchfygodd Arthur, ac enillodd y glôg. Y mae lle, ger Towyn Meirionydd, o'r enw "Rhiw y Barfau," a dywedir mai yno y lladdes Arthur Rhitta Gawr. Ond dywed Llên Gwerin Arfon mai ar lechwedd y Wyddfa y bu'r ymladdfa rhyngddynt. Diau nad oes dim yn hanesyddiaeth y Cymry wedi cael mwy o afael ar eu meddwl, a mwy o ddylanwad ar draddodiadau Ewrop, na hanes Arthur, ac feallai nad oes un ffaith ag y mae mor anhawdd tynu y chwedl oddiwrth y gwir. Mae yn rhy bell dweyd fod y cyfan yn ffug, ac na fodolodd y fath un ag Arthur; ac o'r tu arall, y mae yr hyn oll a briodolir iddo yn mhell tu draw i'r tebygol. Adroddir lliaws o chwedlau am dano. Weithiau gosodir ef allan fel brenin a milwr galluog, bryd arall fel cawr anferthol ei faint, a cheir ar hyd a lled y wlad geryg, yn dunelli o bwysau, ag y mae traddodiad yn eu cysylltu â'i enw—rhai o honynt wedi bod yn ei esgidiau dro ar ol tro, yn ei flino—yntau yn gorfod eu tynu, ac yn eu taflu i ryw bellder anhygoel. Nid yw yn rhaid i ni gredu i Arthur fod yn y rhanau hyn o'r wlad, os nad yw hanesyddiaeth yn profi hyny, mwy nag y mae yn rhaid ini gredu ddarfod i Samson fod ar ochr Carn Bentyrch, yn mhlwyf Llangybi, oblegyd fod yno gareg yn cael ei galw "Careg Samson." Wrth yr enw "Coetan Arthur," yr adnabyddir cromlech sydd ar dir Trefgwm, plwyf Myllteyrn; y mae yn gynnwysedig o gareg fawr yn pwyso ar dair o geryg ereill. Dywed traddodiad i "Arthur Gawr" daflu y goetan hon oddiar Garn Fadryn—mynydd rai milltiroedd oddiwrth Drefgwm, ac i'w wraig ddwyn y tair careg arall yn ei barclod a'u gosod yn attegion o dan y goetan.

Yn nghwr y ffordd rhwng Pont Gledr, neu Ledr a Melin, Penmachno, mae maen anferth, a elwir "Graienyn," a'r traddodiad am dano yw, mai cawres, rywbryd, a ddigwyddai fod yn cael ei blino gan friwsionyn o rywbeth yn ei hesgid, ac iddi yn y llecyn yma dynu ei hesgid a bwrw'r maen hwnw allan o honi.

Dywedir i gawr, o'r enw Dylan, gael ei lofruddio ryw dro tra ar ei daith o Lanrwst i Drefriw, ac oblegyd hyny i'r maes lle y cyflawnwyd y weithred ysgeler hono gael ei adnabod byth ar ol hyny wrth yr enw "Cwyn Dylan." Hefyd, yr oedd yn y gymmydogaeth gawr o'r enw Ifan Goch, yr hwn a arferai roddi un o'i draed ar ben mynydd a elwir "Cadair Ifan Goch," yr ochr ddwyreiniol i'r afon Gonwy, a'r llall ar ben Clogwyn Inco, yr ochr arall i'r afon, a'r un pryd ymolchi yn ei dwfr.

Rhwng Conwy ag Aber, yn Mwlch-y-Ddeufaen, mae dwy garnedd, ag y dywedir mai cawr a chawres, rywdro, oedd wedi clywed fod gwlad ffrwythlawn y tu draw i'r afon Menai, a'u bod yn cludo beichiau o geryg i'r perwyl o adeiladu pont drosti, ac fel yr oeddynt ar eu taith yn y llecyn yma, iddynt gyfarfod â dyn, yr hwn a ddaethai o Fôn, ac iddynt ofyn iddo pa faint o ffordd oedd ganddynt i lan Menai; a dangosai yntau ei esgidiau, y rhai oedd wedi gwisgo bron yn llwyr, a dywedai iddo eu rhoddi yn newydd am ei draed wrth gychwyn o'r fan hono, ac na wnaethai ond cerdded ar ei union. Wedi clywed hyny, taflodd y cawr a'r gawres eu beichiau i lawr, ac yno y maent hyd heddyw.

Ar fin y ffordd sydd yn cyfeirio o Fethesda i Dŷ'n y Maes, mae maen enfawr, a adnabyddir wrth yr enw "Maen Mawr Pen y Gareg." Y mae traddodiad yn yr ardal yn mynegi mai cawr, yr hwn a safai, a'i droed de yn Nghwm Graianog, a'i droed chwith yn Nghwm Dolawen, a'i taflodd yno wrth geisio taro hen wraig, yn mhlwyf Llanllechid, âg ef. Cawr gwrhydrus oedd efe. Yr oedd ei nerth yn ymylu ar y gwyrthiol.

"Y mae traddodiad, yn nghymmydogaeth Llanberis, i gawr o'r enw Igyn fod yn trigiannu yno rywbryd, ac mai efe a gariodd y pentwr ceryg rhyddion a welir ar gopa y lle, a alwyd o herwydd hyny ar ei enw yn "Garnedd Igyn," yr hon sydd ar lechwedd Eryri, a'i phen yn 2,975 o droedfeddi uwch lefel y môr. Bu hefyd gawres yn yr un gymmydogaeth, nad oedd Marged Uch Ifan, a Chadi'r Cwmglas, yn werth son am danynt yn ei hymyl. Y mae ol un troed iddi i'w weled yn mhen 'Llechi Llyfnion,' ar yr ochr ddeheuol i Lyn Peris, ac ol y troed arall ar ben Careg Noddyn,' yr ochr ogleddol i'r llyn; a dywed traddodiad y byddai yn dyfod i'r lle hwnw i ymolchi, ac wrth wneyd hyny y byddai yn rhoddi ei thraed un o bob tu i'r llyn, yr hwn yn y llecyn hwnw sy dros hanner milltir o led. Yn agos i Ben Pass, gellir gweled pentwr lled fawr o geryg gwynion, y rhai y dywedir iddynt gael eu casglu, gan y gawres: hon, yn y Marion, yn agos i'r Cwmglas, ac iddi eu dodi yn ei barclod, gyda'r bwriad o'u cludo i ryw ran o sir Ddinbych, i'w taenu ar feddrod ei phriod, ond pan gyrhaeddodd Ben Pass, fe dorodd llinyn ei barclod, a gollyngodd y cyfan i'r llawr, ac nid aeth byth i'r drafferth o'u casglu, a Barclodiad y Gawres y gelwir hwy hyd heddyw."

Yr oedd cawr nodedig yn byw yn Ninas Emrys, Beddgelert, am yr hwn y ceir y nodiad canlynol yn un o'r hen goflyfrau Cymreig:—" Eurnach hen a fu yn ymladd gledd yn nghledd ag Owain Finddu ap Macsen Wledig yn Ninas. Pharaon, efe a laddodd Owain, Owain a'i lladdodd yntau." Y chwedl oddiar lafar gwlad a gwerin am yr ymgyrch sydd yn debyg i hyn:

Yn yr hen amser, pan oedd cawri yn byw yn Nghymru, yr oedd un hynod iawn o honynt yn Ninas Emrys, a'i glod yn adnabyddus drwy'r holl wlad. gan ei faintioli a'i gryfder, ond ryw ddiwrnod fe ddaeth cawr arall o'r enw Owain, wedi clywed am orchestion cawr y Ddinas, yno i ymryson nerth âg ef: a chymmerodd yr ymgyrch mewn gwrol-gampau le ar faes amaethfa o'r enw Ysgubor, yn Nant Gwynant. Y gamp gyntaf oedd 'tynu torch,' ond wedi hir dynu, a thori coed gan braffed a swmer tŷ, ni threchodd yr un o honynt. Ar fryncyn gyferbyn, yr ochr arall i'r afon, fe welai Owain faen enfawr, ac efe a aeth yno ac a daflodd y maen drosodd hyd at droed Cawr y Ddinas; eithr y cawr a ymaflodd ynddo ac a'i taflodd yn union i'w le ei hun; felly, ni threchodd un yn hyn drachefn. Yna hwy a aethant i 'ymaflyd codwm,' ac fel yr oedd Owain yn methu a thaflu y cawr, efe a ymwylltiodd, ac a'i sodlodd, nes disgyn o hono ar ei gefn ar draws y maen, yr hwn a chwilfriwiodd gan ei bwys, ac aeth darn o hono i'w gefn, ac a'i lladdodd; ond yn ei boenau angeuol, efe a wasgodd Owain gyda'r fath nerth fel y bu yntau farw, a chladdwyd Owain yn y fan hono, a'r cawr a gladdwyd ar y bonc lle yr oedd y maen.

"Ar y ffordd o Feddgelert i Gaernarvon, deuir at graig a'r geiriau Llam Trwsgl' wedi eu paentio arni. Mewn cyssylltiad â'r lle dywedir fod cawr yn croesi o'r naill ochr i'r llall, ac iddo adael ôl ei droed, yr hyn sydd yn ganfyddadwy drwy y blynyddoedd. Myn ereill mai dau gawr ar ryw adeg a ymrysonent yn nghylch neidio, ac i un o honynt, er dangos ei ragoroldeb yn y gamp hono, neidio o'r graig sydd uwchlaw'r ffordd hyd y llun troed gyferbyn, sef naid o bum' llath ar hugain."

Yn mhapyrau y diweddar Owen Williams, o'r Waen Fawr, cawn yr hanes canlynol am un o'r crugiau a elwir "Barclodiad y Gawres":—"Y lle mwyaf nodedig yma fel hynafiaeth oedd Carnedd y Waun, yr hon a welais pan oeddwn o ddeg i ddeuddeg oed yn domen arswydus o fawr, yn geryg oll, ac o bob maintioli a allai dyn gario. Yr oedd y garnedd hon yn fy meddwl oddeutu 500 o dunelli; ac fe ddychymmygodd y canol oesoedd yn eu chwedl-ddysg, neu ffug-draethawd (novel), mai Barclodiad y Gawres oedd y garnedd hono, ac iddi ei chasglu i'w harffedog yn Nghwmdwythwch, ac iddi wedi dyfod dros yr ochr ogleddol i Foelaeliau lithro, nes mae ôl ei dwy sawdl yn tori dwy nant fechan, lle mae dwy ffrydlif ddwfr. Beth bynag am hynyna, Gafl y Widdan y gelwir y lle hyd heddyw. Ond ei meddwl oedd, ebai'r chwedl, am wneyd pont dros Foldon i Sir Fôn o Arfon, ond ei hanffawd fu i linyn ei barclod dori, ac felly gadawodd ei harffedogaid, yr hon a elwir 'Carnedd y Waun,' ac yn llygredig a elwir heddyw Garneddwan. Safai y garnedd hon ar ffarm fechan o'r enw Y Garn, yn y Waen Fawr."

Byddai son mawr yn yr hen amseroedd am wrhydri llangciau Eryri; a phwy ni chlywodd, os elai yn ymladd, am y llinellau,

"Llanciau Eryri,
A'u gwŷn gyll, a'i hennill hi."


Y mae ar dir Bachwen, yn mhlwyf Clynog, gareg ag y dywedir ddarfod i gawr ei thaflu o ben un o fynyddau yr Eifl.

Yn yr hen amseroedd pell, pell yn ol, digwyddodd i rai o bobl plwyf Llanaelhaiarn bechu yn erbyn un o gawresau Tre'r Ceiri yn yr un plwyf, ac er dial arnynt, casglodd lon'd ei barclod o geryg, y rhai a fwriadai eu poethi yn nhân ufelawg yr Ellyll, a drigai y pryd hwnw ar grib y mynydd, ac yna eu taflu yn wyniasboeth i'r maesydd oedd yn addfed i'r cryman ar y gwastadedd. Ond tra yr oedd yn myned gyda hwy hyd lechwedd "Moel Carn y Wrach," daeth marchog urddasol i'w chyfarfod, hithau a ollyngodd y ceryg i'r llawr, ac y maent yno fyth, a gelwir hwy hyd heddyw yn "Barclodiad y Gawres."

Yr oedd gan yr hen gawri unwaith dref iddynt eu hunain yn yr Eifl, yr hon, hyd heddyw, a adnabyddir wrth yr enw Tre'r Ceiri." Gyda golwg arni, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi dyfyniad allan o erthygl a ymddangosodd mewn newyddiadur am Rhagfyr 18, 1857, o eiddo yr hynafiaethydd dysgedig, y diweddar Barch. J. Jones, M.A., Ebrwyad Llanllyfni,—gwr oedd fel Saul, yn uwch o'i ysgwyddau na hanner llenorion ei oes, fel hyn:—"Yn agos i frig yr Eifl ganol, ar yr ochr ddeheuol, y mae ryw bentref, a gyfrifir gan amryw ddysgedigion yr hynaf yn Mrydain, tu draw i ddychymmyg neb i roddi rheswm am gynnifer o anneddau mewn lle mor annghysbell; ac ofni yr wyf finau y bydd fy mhen yn y niwl wrth. geisio olrhain allan i ba ddiben y pentyrwyd hwynt, ac yr amgylchynwyd hwynt â magwyrydd: rhai yn meddwl mai ryw daeogdref oedd yno, tebyg i gytiau'r Gwyddelod: eraill o'r farn mai carn o ladron, yn byw ar yspail, ac yn ymosod liw nos, fel gwylliaid Mawddwy, ar amaethwyr y gwaelodion; pawb yn synfyfyrio arni, heb ddyfod i benderfyniad rhesymol am dani; ac yn wir y mae'r enw Tre'r Cowri yn gwneuthur y peth yn fwy dyryslyd, heb gael rhyw allwedd o lyfrau haneswyr y prif oesoedd i chwilio o amgylch y lle."

Y mae un hanesydd enwog a dysgedig, hyddysg yn hynodion Hyspaen ac Affrica, sef Sallust, wedi sylwi fod ryw dref gyffelyb yn agos i Gades, yn perthyn i amseroedd tywyll y cyfnod, pan oedd dinas Carthage yn arglwyddiaethu ar foroedd y Canoldir, ac yn ymestyn o golofnau Hercules hyd at aberoedd Prydain a'r Iwerddon. Crybwyll y mae yn fwy neillduol am ryw nifer o fasnachwyr Carthage yn ceisio sefydlu eu hunain yn gyfagos i'r môr yn Hyspaen, er mwyn gyru yn mlaen eu gorchwylion masnachol gyd â thrigolion yr ardal; a chan nad oedd Tywysog y wlad yn caniatau rhyddid iddynt dori coed i adeiladu tai neu gytiau, hwy a drosglwyddasant eu cychod drwy nerth braich ac ysgwydd i ben y bryniau mwyaf diogel, a chan osod keel pob un i fyny i wynebu y llifeiriant, ar sylfaen o geryg rhyddion, hwy a wersyllasant yno am flynyddoedd, a chan gyfnewid eu heiddo porphoraidd am eiddo mettelaidd y wlad, a gasglasant gyfoeth dros fesur, fel y darllenwn am danynt.

Pettasai ryw rai o'r genedl hon, neu o ddinasyddion Tyrus a Sidon, wedi cael sicrwydd fod copr, haiarn, a phlwm, o faint a ofynent, i'w cael yn agos i'r Ddinlleyn, pa beth sydd yn fwy credadwy nag iddynt brysuro yno ar adenydd y gwynt, neu ysgwyddau y Philistiaid, i'w meddiannu a phentyru elw, megis ag y cawn hanes am danynt yn Nghernyw, lle y gwelir eu gwehilion hyd y dydd heddyw. Y mae'n ddigon amlwg oddiwrth adfeilion yr hen borth yn agos i Abergeirch, fod yma amddiffynfa gadarn i roddi derbyniad i'r mwn—gloddwyr, ar ôl eu mordaith i fynyddoedd yr Eifl, ac mai nid gwaith caled iawn oedd trosglwyddo rhyw gyfran o'u cychod, a'u harfau, hyd odre yr Eifl ganol, ac nid anhygoel chwaith, yn gymmaint a bod lle yn dwyn yr enw Llith-faen, mewn amser allan o bob coffadwriaeth, yn arwyddo fod rhinwedd y maen tynu, neu'r llithfaen, yn hysbys iddynt; ac hefyd mai pobl yn ymgynnal wrth ryw ddefodau, neu ddirgeledigaethau crefyddol oeddynt.

Y mae'r daearyddwr enwog Strabo yn hysbysu mai rhyw offeiriadaeth philosophaidd, wedi ei sefydlu yn ynys Creta, yn Môr y Canoldir, oedd y Cowri; yn debyg iawn i'r Derwyddon, yn ol yr hanes a geir am danynt, ar gyfer eu medrusrwydd, megis Seronyddion a Deddfroddwyr, yn ceisio olrhain allan, ac ymresymu yn nghylch, y rhyfeddodau a ganfyddir yn y byd naturiol, a than yr enw o ddisgyblion Minos, yn gosod rheolau i gadw trefn yn y byd moesol.

Ac yn gymmaint a bod mam Strabo yn Gretan o enedigaeth, ac yntau ei hun yn hynafiaethydd rhagorol, nyni a allwn ymddiried ar ei dystiolaeth ef am danynt, ac yn enwedig am eu doniau yn ymdrin â'r byd naturiol a chrefyddol. Strabo a ddywed yn bendant, mai y ddefod o eillio neu o gneifio eu penau mewn dull coronog oedd ystyr y gair cowri: ac eto ymddengys fod enw arall yn ei nodweddu mewn oes tra foreuol, sef Idoi Dactili, neu Decemyiri, ar gyfer fod rhyw Senedd ganddynt, yn cynnwys aelodau o nifer y bysedd llaw, i ymgynghori ar faterion o bwys neillduol."

Yn yr hen chwedlau a'r traddodiadau deuir yn fynych ar draws crybwyllion am gawri, yn wryw a benyw. Yr oedd yr enw cawr yn yr hen oesau yn cael ei ystyried ar ddynion rhyfeddol mewn maintioli. Priodolid iddynt gryfder a chorffolaeth mwy o lawer na'r cyffredin. Yr oeddynt yn gyflym, megis y dywedir am yr haul, ei fod yn ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa. Cawri oeddynt ryfelwyr mawr, ac yn fynych iawn yn orchfygwyr. Cyfarfyddwn weithiau â ffedogaid ambell gawres, megis twr anferth o geryg, yn cael ei alw Barclodiad y Gawres," ac mewn ambell fan o'r wlad "ffon y gawres y gelwir y pren poplys uniondal. Ar lecyn rhamantaidd yn mhlwyf Llanaelhaiarn, y mae yn aros hen olion, o'r enw "Muriau'r Gawres," ac hefyd ar grib Carnguwch, bentwr o geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres." At hyn, gellir chwanegu, yr ymhyfryda traddodiad mewn dangos cromlech ar y Penmaen, ger Pwllheli, ag y priodolir, yn ol rhai, gawr ei thaflu yno o gymmydogaeth Harlech; ond, yn ol ereill, oddiar Fynytho.

Hyd oddeutu 70 mlynedd yn ol, yr oedd crug anferth o fân geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres," ar dyddyn o'r enw Tan-y-ffordd, yn Mynytho, wedi eu gollwng o farclod un o'r hen gawresau, pryd y digwyddodd un boreu i geiliog ganu, ac y gorfu arni ffoi, tra ar ei thaith rhyngddi a'r Foel Gron, lle y bwriadai adeiladu sedd, fel y gallai syllu ar y gwrthddrychau o'i hamgylch wrth ei phleser. Ceir hefyd ar fynydd y Rhiw faen anferth, o'r enw "Y Gareg Ddu," ag y dywed traddodiad i gawres ei daflu yno oddiar ben Carn Fadryn.

Odo Gawr.—Cyn belled ag y credir traddodiad, rhaid credu nad dynion o ryw gorffolaeth aruthrol oedd yr oll o'r hen gawri, ond fod dosbarth o honynt yn dywysogion, ac fe allai yn gadflaenoriaid dewrion a medrus. Y mae cyssylltiad Odo Gawr â Chastell Odo fel yn profi hyny; a cheir yn mhlith dywediadau hapus a grymus, y rhai a ffurfient fath o lenyddiaeth ddiarebol llafar gwlad ag sydd yn cyfeirio at ei feddrod, fel

Bedd Odo Gawr yn llawn Lleyn," ar grib Mynydd yr Ystum, yn mhlwyf Aberdaron, ac yn nghwr hen amddiffynfa, adnabyddus hyd heddyw wrth yr enw "Castell Odo."

Y mae careg fawr hefyd, a elwir "Careg Samson," Fynydd-yr-Ystum, ac ynddi amryw dyllau, ag y ceisid gan yr hen deidiau coelgar gredu mai ol bysedd rhyw gawr anferthol o'r enw "Samson" ydynt ddarfod iddynt suddo iadi wrth iddo afaelyd ynddi i'w thaflu o Uwch-mynydd i Fynydd-yr-Ystum. Heblaw hyny, ychydig oddiwrth yr hen amddiffynfa, ac megis tan hachles, bu carnedd a elwid "Barclodiad-y-Gawres," yr hon a chwalwyd hyd i'w gwaelod, gyda gofal a phryder, gan feddwl cael ynddi grynswth o hen drysorau anmhrisiadwy—hyned bron a chyn bod cof a chadw ar hanesiad mewn unrhyw amseriad cywir, ond ni chafwyd am y drafferth o archwilio'r anhysbys, namyn prawf fod addoliad y llo aur mor boblogaidd yn y byd ag y bu erioed.

"Mae careg anferth o fawr ar ochr bryn, yn mhlwyf Llanfairisgaer yn Arfon, rhwng y Felinheli a'r Crug. Mae yn gorphwys ar gareg led fechan, yr hon sydd a thua llathen o honi allan o'r ddaear. Y mae traddodiad y byddai gwiber fawr yn ymddangos o gylch y gareg ar brydiau, ac ddarfod i ddyn o'r enw Owen Harri Dafydd, gof wrth ei alwedigaeth, glywed am dani, a thyngu y mynai ei lladd; a phan yn haner meddw aeth o'r efail, a chymmerodd droed pigfforch, ac aeth i edrych am dani. Er ei syndod canfyddai yr ymlusgiad yn dorch am y gareg, a bu brwydr ofnadwy rhyngddo a hi, ond efe a orchfygodd. Yn Mhorthaethwy y preswyliai y gwron crybwylledig, o gylch y flwyddyn 1639. Yr oedd yn chwe' troedfedd a chwe' modfedd o daldra—yn gryf ac yn gyflym; gallai ddal llwynog a llwdn dafad ar redeg.'

Tua dau gant o flynyddau yn ol, yr oedd boneddwr tal a chyfnerthol yn byw yn Nant Gwnadl, Lleyn, o'r enw Francis Lloyd, ac â chanddo gymmalau dyblyg, a'r fath ddynion ydynt gryfion iawn. Cryfed ydoedd y gwr hwn, fel y byddai cryn benbleth yn mhlith y cymmydogion yn nghylch beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. I geisio cael hyny allan, yr hyn a wnaed gan dri neu bedwar o uchelwyr yr ardal, oedd y cynllun canlynol:—Ymhoffai. yr hen foneddwr o Nant Gwnadl araf ddwys-ymrodio bob boreu, fel rheol, hyd lwybr neillduol o ddifyrus ganddo, ac o wybod hyny, yr uchelwyr crybwylledig a osodasant ar y cyfryw lwybr geffyl, a sach llawn o dywod yn ei ymyl, fel pe gwedi syrthio oddiar ei gefn, yn nghyda bachgenyn gerllaw yn rhith-wylo'n dorcalonus ar ddynesiad y boneddwr tuag ato, tra y boneddwyr ereill am y gwrych yn disgwyl canlyniad y cyfarfyddiad. Ar hyny, gofynai yr hen foneddwr cymmwynasgar—"Am beth yr wyt ti'n crio, 'machgen i?" "Am na allaf gael y sach yma i fyny ar gefn y ceffyl, syr," atebai y bachgen. "Wel, aros, gad i ni wel'd a allaf fi wneyd rhywbeth o hono," ebai y boneddwr tirion a thosturiol. Yna gafaelodd am enau y sach, gan ei daflu yn rhwydd ar gefn yr anifail; a'r fath oedd pwysau y sach a'i gynnwys, fel y torodd asgwrn cefn yr hen geffyl, druan, yn y fan. Felly, nid oedd neb fymryn agosach i gael gwybod beth oedd nerth y boneddwr diledrith hwn; ond gellir ffurfio rhyw ddirnadaeth am dano pan y dywedai yr hen bobl ei fod yn defnyddio echel trol yn lle ffon.

Gan nad pa beth am y cawri o'r ddwy ystlen, aeth llawer canrif heibio er pan fuont yn rhodio daear sir Gaernarfon; oni ellir cyfrif yr hen wrones gadarngryf o Lanberis—Margaret 'ch Ifan, yn aelod o'r urdd?" Ymwelodd Pennant, y teithiwr enwog, â'i thŷ yn Mhenllyn, yn y flwyddyn 1786; a dywed ei bod hi y pryd hyny tua 90 mlwydd oed, mai hi oedd yr oreu am hela, pysgota, a saethu, o neb yn y wlad. Cadwai o leiaf ddwsin o gŵn rhagorol, o bob rhywogaeth, at hela, a sicrheir iddi gael mwy o lwynogod mewn un flwyddyn nag a ddaliasai yr heliwr goreu mewn deg mlynedd. Yr oedd yn medru pedoli ei cheffylau, gwneyd ei hesgidiau, gwneyd cychod a'u rhwyfo, gwneyd telyn a chrwth, a'u chwareu; ac yr oedd yn hollol hyddysg yn yr holl hen alawon Cymreig, fel y gallai eu chwareu'n rhagorol ar ei hofferynau. Pan yn 70 mlwydd oed nid oedd neb o'r bron a ymaflai godwm â hi, oblegid cyfrifid hi yr oreu yn y wlad. Gelwid hi gan Pennant yn Queen of the Lake (Brenines y Llyn)."

Ffyna llawer o amheuaeth ac annghrediniaeth yn nglŷn â hanes hiliogaeth o ddynion anferth o faint—cawri y gorphenol pell. Llawer siaradwyd am danynt, yn iaith yr hen almanac, tipyn yn wir a chryn dipyn y ffordd arall. Mae y cyfryngau ynddynt eu hunain yn dangos ac yn profi nas gellir ymddibynu ar eu tystiolaeth fel gwirionedd, oblegid y maent tu allan i gylch gwybodaeth dyn rhesymol megis yn ddrych o ddychymmygion ofergoelus yr oesau anniwylliedig nad oeddynt dan lywodraeth rheswm a barn addfedy rheswm sydd yn rhoi eu lle i bethau. Ond, yn mha le heddyw y ceir hiliogaeth y cedyrn, y bu eu henwau gynt, megis yn ddychryn yn nghlustiau preswylwyr tref a gwlad. Y mae'r sir heddyw yn lliosocach nag erioed yn rhif ei phoblogaeth, ond attolwg, o ba dras y maent? Y gwir am dani yw fod moethau yn gwanychu ac yn ammharu cysur llaweroedd yn yr amseroedd hynfod mwynder bywyd a bwyd yn dueddol i adeiladu cyfansoddiadau afiach a phabwyraidd, tra y mae bywyd caled ac ymborth sylweddol yn adeiladu iachach a chadarnach cyrff. Da fyddai i fwy o ddefnydd gael ei wneyd o laeth, o flawd bras, uwd, potes, bara haidd a cheirch, &c. Tuedda pawb i edrych ar fwydydd yr hen bobl gyda dirmyg; ond, wedi'r cwbl, ar y sylfeini hyn a'r cyffelyb yr adeiladwyd y pethau goreu sydd yn ein meddiant heddyw. Gobeithiwn y codir ni yn ol at fwrdd bwydydd y tadau—dewrion blynyddoedd nerth gwlad.


Nodiadau

[golygu]