Llen Gwerin Sir Gaernarfon/Y Dull o Fyw
| ← Yr Athronyddol | Llen Gwerin Sir Gaernarfon gan John Jones (Myrddin Fardd) |
Chwedlau ac Ofergoelion → |
PENNOD III.
Y DULL O FYW.
AR y cyntaf, pan nad oedd dynion yn aml o nifer, ychydig o driniaeth oedd yn angenrheidiol yn y wlad; y llanerchau brasaf yn unig a ddygid dan ddiwylliaeth; ond fel yr amlhaodd dynion cyfyngodd y tir; a bu raid trin y llenyrch geirwon, arloesi coed ac eithin a grug a manwydd, llenwi pantiau, gostwng lleoedd uchel, a sychu lleoedd gwlybion i'r diben o ddwyn y tir dan gywreiniach ac effeithiolach diwylliaeth, er cynnaliaeth dyn. Nid digon erbyn hyn oedd byw ar helwriaeth, ac ar laeth geifr a gwartheg a borent y dail a'r glaswellt mewn meusydd ac ar lethrau nas cawsant erioed eu diwyllio; rhaid oedd darostwng diffaethleoedd dan ymerodraeth y rhaw a'r aradr, a chynllunio trefn i ddofi tiroedd geirwon, ac i wneuthur iddynt, megis o'u hanfodd, ddwyn had i'r hauwr a bara i'r bwytawr. Ac felly, yn lle eithin cyfododd haidd ; yn lle grug, brwyn a danadl, cyfododd ceirch a rhyg, ac yn lle drain a mieri, cyfododd gwenith melynwawr. Nid oedd yr hen bobl yn deall nemawr ddim am effeithiau daionus a llwyddianus cylchyniad cnydau, na nemawr ddim am achlesiad. Calch fyddai eu gwrtaith hwy, gan nad pa un bynag ai marl, tywod, clai, sych ai gwlyb a fyddai y maes a wrteithid; nid oeddynt un amser yn ceisio atudio elfenau diffygiol neu orddigonol y gweryd, a'u dwyn i gyfartaledd priodol. Yr oedd
Yr oedd yr hen ddywediad fod yn rhaid i'r amaethwr wneyd ei ardreth bedair gwaith drosodd cyn y gallai dalu ei ffordd yn cael ystyriaeth led bwysig yn eu meddyliau. Byddai llawer ymgom ddifyr yn cymmeryd lle rhyngddynt, wrth fugeilio anifeiliaid cyrnig a defaid, arferiad a ddengys fod y wlad yn ol mewn diwylliant a chrynodeb, drwy beidio cau y tir i fewn yn gaeau cyfleus, a thrwy ei adael yn dir agored, peth yn dir llafur a pheth yn dir pori drwy eu gilydd, canys dyna arfer yr hen oesau cyn gwneuthur cloddiau i rwystro anifeiliaid allan i grwydro o'r lleoedd a bennodid iddynt. Nid oedd y fath drugareddau a mapiau wedi cael eu breuddwydio am danynt y pryd hyny, i'r diben o nodi allan derfynau, a byddid yn gosod piler o gareg yn y fan, gan ei alw yn dirfaen, neu derfyn, drwy gyfnewid yn Gymraeg yr m i f, yn ol rheolau geiriau cyfansawdd; ac yn ol llên gwerin, dyna yn briodol ystyr Hirfaen Fawr a Hirfaen Bach, ar dir y Betws Fawr, yn mhlwyf Llanystumdwy, o fewn i gwmmwd Eifionydd. Ond "o dipyn i beth," "troes y rhôd " ar y dull yma o fyw—dechreuwyd codi cloddiau, ond wrth reswm, cloddiau hynod o annghelfydd oeddynt, yn cymmeryd ac yn gorchuddio agos i hanner y tir; canys nid oedd neb yn gofalu dim am eu gwneyd yn union, am y barnent y byddai i'r anifeiliaid gael gwell cysgod ar wahanol wyntoedd ac ystormydd, &c. Byddent yn hynod o fanwl am gadw at amser gyda phobpeth—byddent yn fwy manwl o lawer o'u harferiad o gadw tir yn y gwanwyn ar y 25ain o Fawrth nag o gadw "y dydd cyntaf o'r wythnos." Gogyfer â'r cyfryw ddiwrnod—"diwrnod comio," fel ei galwent, byddent wedi berdio[1] neu frigo y cloddiau—wedi gwneyd carcharau a llyffetheiriau, er paratoi at anfon y defaid i'r mynyddau; ac yr oedd y "weithred seneddol" yn rhwymo ynadon pob rhanbarth i ofalu am fod i lidiardau y comisoedd gael eu gosod i fyny erbyn y dydd hwn. Dydd Llun Sulgwyn hefyd oedd ddiwrnod pwysig yn eu golwg, pryd y byddid yn cerdded pryffesydd,[2] sef cerdded ffiniau tiroedd; a llawer cynllun a arferid yn nglyn â hyny. Hyd y mynyddau nid oedd dim i'w dynodi ond rhyw wrthddrychau yma a thraw, megis ceryg, tociau brwyn, twmpathau eithin, pyllau dwr, &c. Ac mewn trefn i gadw mewn cof Y nodau hyn, byddai yr hen bobl yn cerdded ar hyd y ffiniau, gan ddwyn gyda hwy nifer o blant, a gwialen fedw, yr hon a arferid at gynhorthwyo y cof, ac nid yn fuan yr annghofid ei gwasanaeth. Arferid moddion ereill, megis tori twll mawr mewn man neillduol ar y ffin, a bwrw afalau neu bethau cyffelyb i fewn, i'r plant i'w codi; neu ynte ddodi y plant i gario ceryg mawrion o bell ffordd i ryw fan neillduol, nes byddent yn chwys dyferol wrth gyflawni y gwaith rhag digwydd iddynt rywbeth a fuasai gwaeth. Mewn rhai manau, arferai yr offeiriad flaenori y dorf, yn ei wisg wen, a'i lyfr yn ei law, yr hwn a ddarllenai wrth gychwyn, ac yn ymyl manau amheus, lle y cyhoeddai felldith ar y sawl a symudai ffin ei gymmydog.
Er ys dwy ganrif neu dair yn ol, pryd yr oedd yn arferol i olrhain yn arlwybrol weithredoedd y dwfr a fyddai eisoes wedi treulio y tir yn llwybrau culion o gryn ddyfnder, nid oedd gwell gwneuthurwyr ffyrdd yn ein gwlad na'r gornant grychias, a chwyddai ar ochr y bryn ar "doriad cwmmwl" neu doddiad eira; y rhai, drachefn, wedi eu caregu, gan ein tadau, yn y modd goreu gallent, a wasanaethent yn brif-ffyrdd, ac yn fynedfeydd i'r cymoedd cymmydogaethol. Mae rhai o'r ffyrdd culion hyn yn aros hyd heddyw, a rhyw gornel fechan yma ac acw ar hyd-ddynt, fel os digwyddai i ddau gàr neu gyffelyb gyfarfod â'u gilydd, y gallai un encilio o'r ffordd tra y llall yn myned heibio. Yr oedd yr hen bobl yn ddiddig ddigon ar y fath ffyrdd a'r rhai hyn, heb na threth na chyfraith yn eu rhwymo i'w hadgyweirio—na dim o'r fath ; ac yn wir yn yr haf-dymmor tesog nid oedd angen am well adgyweiriad na throi y fieren bigog, neu y ddraenen beryglus, a fynai ymestyn dros y ffordd, ac ymgofleidio â'i rhyw yr ochr arall, dim ond troi y rhai hyn i'r clawdd, gan rywun a ddigwyddai fyned heibio, a chau pob llidiard ar ei ol, a gyfrifid yn ddigon o ofal am y ffordd. Yn y gauaf ni ellid ei hadgyweirio o gwbl, am y byddai y gornant yn mynu ei ffordd ac yn rhuo ar bawb a ddigwyddai ddyfod yn agos.
Gellid cymhwyso yr un gyfundrefn hefyd at eu tai, y rhai fel rheol, a adeiledid mewn pantleoedd cysgodol, yn ymyl ffrwd, ac allan mor bell ag oedd ddichonadwy o gyrhaedd y dryghinoedd. Rhywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y gosodwyd i fyny gyntaf simddeiau cyfleus. Yn flaenorol i hyn, rhaid fod, hyd y nod y cyfoethogion yn dra annghysurus, o ran cysur teuluaidd, mewn cymhariaeth i gysur yr oes hon. Sefyllfa yr aelwyd oedd—canol yr ystafell, yno y gosodid y coed tân. Yn nen y tŷ, goruwch yr aelwyd, yr oedd math o dwr, neu gorn, wedi ei lanw âg estyll, cyfleuedig yn y fath fodd ag i gadw allan y gwynt a'r gwlaw, a gollwng allan y mwg. Yn nhreigl amser, newidiwyd ei sefyllfa trwy ei symud o'r canol i'r talcen, a gwneid amgylchoedd y rhai mwyaf o honynt yn ddigon eang i gynnwys teulu lliosog, heb i un gyfyngu ar y llall. Dygai twll y simdde ei ran at oleuo aml fwthyn, a thrwy y twll hwnw y tywalltai yr haul ei sirioldeb a'i wenau puraf, ac y gogrynai y cymylau eu gwlaw bendithiol. Hawdd ar noswaith serenog weled drwyddynt y lleuad a'i phraidd yn gorymdeithio ar hyd rhodfeydd y ffurfafen. Yr oedd rhai o'r tai mor isel fel y gellid cyrhaedd y to â llaw oddiar wyneb y ddaear, ac heb ynddynt ffenestri—cyfryngau goleuni, namyn tyllau yn y muriau, ac arnynt lian, neu gorn, dellt, neu goed—pob drws â thwll ynddo i godi y glicied fel drws beudy, a bron bob amser yn agored oddigerth yn y nos neu yr elid oddi cartref, a phwy ag y mae henaint wedi ei orddiwes nad yw yn gwybod am lên yr hen ddyddiau, ond taflu trem yn ol dros ei ysgwydd, na chofia am arferion yr ieir yn myned i dai ac allan o honynt, heb achos cenad na nacâd, pan y mynent—y gwyddent adegau prydau bwyd i'r dim—yn bynetiwal," ys dywed yr hen air—y prysur helient y briwsion oddiar lloriau, a phan na byddai briwsion y galwent sylw y mamau neu ddeunydd mamau drwy bigo eu ffedogau, gan awgrymu fod yn rhaid i'w cylla wrth fwyd os y disgwylid iddynt hwy fwrw wyau at angenrheidiau gwlad—y goddefid iddynt fod megis cyd—aelodau o'r teulu, a chyfanneddu yn y tai yn mhlith y dodrefn, &c. Nid annhebyg, gallwn dybied, oedd cynllun y tai i hafod un-nos, neu dŷ un-nos—bwthyn a godid ar gytir mewn noswaith, yn yr hwn yr oedd teulu i gysgu ddeugain nos, yr hyn, yn ol hen ddefod, a roddai hawl rydd iddo, yn nghyda rhyw gymmaint o dir o amgylch, yr hwn a nodid âg aradr, fel nas gellid ei dynu i lawr heb dreulio mwy o arian mewn cyfraith nag a dalai y bwthyn a'r tir lle yr adeiladid ef. Pridd oedd defnydd eu muriau trwchus, a phridd neu geryg oedd eu lloriau, ac yn dô ar dai o'r fath, nid oedd dim a darawai yn well na brwyn, rhedyn, neu wellt, heb lawer o ddodrefn ynddynt—dim ond yr hyn oedd wir angenrheidiol, a'r rhai hyny o wneuthuriad garw a chryf. Cyn y flwyddyn 1809, byddai llawer o bobl gyffredin yn cael eu bywoliaeth o'r mynyddau, y rhai oeddynt dra defnyddiol i'r dyn tlawd a'r tyddynwr. Ynddynt hwy y caffent danwydd, ac hyd-ddynt y magent lawer o'u hanifeiliaid. Byddai nifer mawr, y merched a'r bechgyn yn neillduol, yn myned bron bob bore i'r moelydd a'r mynyddau i dynu grug i'w gwerthu. Tywyrch a mawn, priciau, eithin a drain, yn nghyda bonau preiffion coed, a gleuad, sef tail gwartheg wedi caledu a sychu oedd eu tanwydd cyffredin, y rhai y gofalid am eu casglu a'u darpar yn yr haf ar gyfer y gauaf oer. Ond yn y flwyddyn a nodwyd—1809, dygwyd deddf trwy y Senedd, pryd y rhoddwyd hawl i'r boneddigion i gyssylltu y mynyddoedd a'r cyttiroedd â'u tiriogaethau. Brwyn wedi eu trochi mewn gwêr toddedig, nes ffurfio math o ganwyllau hir-feinion oeddynt yn esgus oleuo y tai yn y nos, y rhai, fynychaf, a elwid yn babwyr. Medd T. Richards:"Pabir, s. pl., rushes, rush candles; pabwyr, the wick of a candle, also the pith of trees." Sonir am y llen-babir, hyny yw, goleu pabwyr. Ceir rhai cyfeiriadau at y frwynen mewn hen ddywediadau, megis,
'Dwy'n hidio dim canwyll frwynen am dano.
Ni rydd fwy o oleu na chanwyll frwynen.
Ac mewn cyssylltiad â'r gangen hon o arferiaeth, gellir nodi siampl o gadw tân parhaol mewn lleoedd neillduol, megis Carn-guwch, Castellmarch, a Phlas yn Mhenllech, yn Lleyn, fel y gallai pawb gael tân ynddynt, os digwyddai i'r eiddynt hwy ddiffoddi. Dyna, medd rhai, yw deilliad yr hen ddywediad "Can boethed a thân Penllech." Cyffelyb hefyd ydoedd Cefn Collwyn a Chefn Cyfannedd yn Eifionydd. Yn nglŷn â hynyna, gellir crybwyll bod yn wybyddus i lawer mai o Feirion y daeth tad y Bardd Du i fyw i'r Bettws Fawr, ac iddo ddyfod a'r tân a gedwid yn ei deulu am dros ddau gant o flynyddau gydag ef mewn kettle. Parhaodd yr un tân yno tros ystod ei oes ef, yn nghydag oes ei fab, Robert ab Gwilym Ddu. thrachefn, pan ymadawodd yntau o'r Bettws Fawr i'r Mynachdy Bach, aed a'r un tân parhaol gydag ef yno, lle y parhaodd dros ei oes ef, ac oes ei wraig ar ei ol. Beth bynag am ddiflaniad yr hen arferiad, sicrhai y Bardd ddarfod iddo barhau yn ei deulu ef am dros dri chant o flynyddau. Hwyrach fod a fyno yr achlysur o'i ddechreuad rywbeth â'r Hwyrgloch, sef y gloch wyth o'r nos, ar ganiad yr hon y gorfodid pob un yn amser Gwilym y Goresgynydd i enhuddo ei dân a diffodd ei ganwyll.
Rhyfedd y cyfnewidiad sydd yn ein gwlad nid er gwell yn gyfangwbl. Dichon i hyd y nod ein breintiau beri colledion. Beth arall a briodola am y ffaith fod y crefftau wedi colli o'n mysg, fel nad oes ond ychydig yn awr sydd fedrus yn yr hen gelfau cywrain, defnyddiol, y bu ein tadau yn cael o honynt gymmaint o fudd a hyfrydwch. Medrent hwy gyflawni y rhan fwyaf o'u rheidiau eu hunain. Tuag at barotoi y defnyddiau, yr oedd ganddynt fath o odynau—odyn frâg, odyn gywarch, odyn lin, ac odyn ŷd,—pob un, er yn dra afluniaidd, yn gwneyd y tro, drwy gydol amryw oesau. Yr odyn ŷd, yr hon a elwid yn odyn faes" neu "cylyn" oedd fwyaf annghelfydd ei gwneuthuriad; muriau isel o geryg, to gwellt, a thaflod neu glwyd o bolion a gwrysg ar draws un pen, a gwellt yn daenedig ar hyny i gynnal yr ŷd, a lle i gynneu tân odditanodd. Cyn hyny, pillwvdd a ddefnyddid i grasu llafur yn yr hen simddeiau, gan eu gosod ochr yn ochr fel clwyd uwch ben y tân, ac yna y grawn arnynt i grasu cyn ei yru i'r felin i'w falu. Y merched fyddai yn nithio a phuro ŷd i fod yn gymhwys i'r melinydd, a hwy fyddai yn gogrwn y blawd, wedi y delai o'r felin, er deol yr eisin o hono. Cadwent y blawd ceirch mewn cistau gan ei sathru, hyd oni byddai gan galeted a'r ffordd fawr, ac weithiau dodent ynddo gig gwartheg, ystlysau a chlustiau moch, er meithrin parhad ei gadwraeth. Yr un symledd hefyd oedd yn nodweddu eu gwisgoedd, y rhai a wneid ganddynt hwy eu hunain, o frethyn glas hanner pàn, neu gochddu'r ddafad, gyda'r droell fawr a'r droell fach, yn nghyda'r cribau, &c. Y merched, bob amser, fyddai yn gorfod golchi, pigo, llifo, cribo y gwlan a'i ddanfon i dŷ'r gwehydd i'w wau, ac wedi hyny i'r pandy i'w ysgwrio, cyn y ceid na gwlanen, na brethyn na gwrthban, i'w gwisgo; a chyn y ceid pâr o hosanau, rhaid oedd iddynt wrth lafur dyfal i gribo, gardio, nyddu, cordeddu, cenglu, dirwyn, a gwau, ac er pobpeth ni byddai gan y boblach gyffredin
"Ond bacsen am y goes, a charai i g'lymu'r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o lian tene',
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'."
Prin y gwelid ty heb ynddo droell fach i nyddu llin a chywarch, os y byddai rhyw drefn ar y wraig. Gwragedd fyddai yn nyddu gogyfer a dyfodiad y teilwriaid i'w tai i weithio. Gwragedd cryddion fyddai yn nyddu yr holl edau a ddefnyddid ganddynt hwythau at eu gwaith. Spinster, neu nyddferch y gelwid pob merch heb briodi, am y rheswm y byddai raid, yn ol trefn arferiad yr hen amser, i bob merch cyn y caniateid iddi briodi, nyddu pâr o ddillad gwely. Y call a genfydd y gellid symio i fyny drefn gwneuthuriad pâr o ddillad "brethyn cartref," yn debyg i hyn—y fam a brynodd y gwlan, a'i cribodd, a'i nyddodd, ac a'i llifodd; Huw Ifan y gwehydd a'i gweodd, Sion Robert y Pandy a'i panodd; ac Wmffre Huws y teiliwr a'i gwnïodd. Clos pen-glin oedd clos mwyaf dewisol dynion gwlad, a byddai ambell un lled ysgwar yn gwisgo botasau â thopiau cochion, y rhai a elwid archenau, a daeth y gair diarchenu yn yr hen oesoedd i olygu dadwisgo. Dau can' mlynedd yn ol, yr oedd gan bobl y sir hon lathen 40 modfedd, ac wrth hono y gwerthent eu brethynau, eu gwlaneni, a'u llian. Manwl iawn oeddynt. hefyd yn newisiad a dosbarthiad gwahanol goed, a'u defnyddiad priodol er gwneuthur o honynt wahanol gelfi at wahanol orchwylion, megis aerwyon, byrddau, clogsiau, cribiniau, cwpanau, egwydydd, llwyau, noeau, picynau, troellau, ystenau, &c. Yma a thraw, ceid llu o wneuthurwyr hetiau, nifer mawr yn ennill eu bywoliaeth wrth wneyd cewyll a basgedi. Yr oeddynt yn enwog am eu medr i blethu gwiail, ac am wneyd coleri brwyn i geffylau, &c.
Un arall o byngciau ffydd yr hen bobl, a dim mwy pleserus ni ddymunent, oedd hwyrol ymddiddanion yr aelwyd, ar yr hon, megis brenines, yr eisteddai gwraig y ty ar ystol drithroed yn gwau hosan—ysgwyd ei thafod i siarad, a gofalu am yr uwd uwchben y tân, gan roddi tro iddo rwan ac yn y man—yr oll mewn cysoniaeth perffaith. Yntau yr hen wr yn nghanol ei wyrion—yn byw yn y gorphenol yn ymladd y brwydrau, ac yn chwareu y triciau direidus y bu yn ymwneyd â hwy yn moreu ei fywyd. Yr oedd yr hen bobl yn dueddol i siarad llawer am danynt eu hunain ac am hen bethau, a phobl ieuaingc am bethau newyddion gwell gan hen bobl hen dŷ, a hen ddodrefn, a hen ddillad, a hen bobpeth, na newydd. Magent a siglent eu plant mewn cewyll—nid addas, yn ol modd na defod, y bernid cyssylltu dodrefnyn o'r fath âg amgylchiadau bywyd helbulus yr iselradd—hawdd deall hyny oddiwrth yr hen bennill canlynol:
"Ni wnaiff Dafydd it' un crud,
Doed iti'r byd a ddelo;
Fe gaed Moses, gŵr oedd well,
Mewn cawell wedi ei guddio."
Eto, er lleied, ac er amled eu plant, dygent hwy fyny yn y fath ymarferiad o ddiwydrwydd, a bod y genethod yn gallael ennill dimau'r dydd, a chwedi'n ceiniog, wrth wau, ac hyd y gallent, mynych grwydro y bryniau yma a thraw i gasglu yr ychydig dysŵau gwlan gwasgaredig ag fyddai'r defaid yn golli wrth ymrwbio yn y llwyni a'r perthi ar eu llwybrau. Y bechgyn, hwythau, tra yn rhy wan i wneyd gwaith caled oeddynt yn ennill ychydig trwy gadw yr adar o'r ŷd, lloffa, neu hel ceryg. Yr hen drefn ganmoladwy gan famau oedd hyfforddi ac arfer eu genethod ar ddyledswyddau buddiol bywyd, megis pobi, golchi dillad a'u trwsio, glanhau lloriau, coginio'n briodol, gwneyd crysau, gwau hosanau a'u brodio, ac mewn ffermydd magu lloi, pesgi moch, cyweirio gwair a rhwymo ŷd ar brydiau, ac unrhyw orchwyl arall rheidiol er talu ffordd yn ddiofid. Os nad yn ngallu gweddw dlawd i brynu buwch, helpid hi o lwyrfodd calon gan ei chymmydogion; a chaniateid i'r fuwch y rhyddid o bori ochrau cloddiau'r prifffyrdd, tra'i pherchenog yn ei gwylio gerllaw, tan wau hosan i ennill ceiniog mewn ffordd arall.
Yn mysg yr afrifed gymmeriadau syml a digrif, ag oedd yn dirwyn bywyd tawel a defnyddiol, ymlwybrai yr amaethwr diwyd ac yntau y cigydd yn mlaen yn eu taith mewn closau lledr, y rhai yn fynych oeddynt yn ateb y diben o hogfeini, cyfleus iddynt yn achlysurol roddi min ar eu cyllyll. Syml iawn oedd eu celfi amaethyddol, buddai gnocio, oedd ganddynt, gwŷdd pren, cewyll i gario tail, càr llusg, rhawiau o goed at garthu beudai a chutiau moch, &c. Ar geffylau neu ddynion, yn wrywod a benywod, y byddai pob peth yn cael eu cludo ar, i, ac o'r tir—gorfodid, hyd y nod y merched i gludo tail yr anifeiliaid o'r buarth, mewn cewyll ar eu cefnau i'r meusydd. Ond weli hir ddyddiau, trwm lafur a lludded, cafwyd ymwared oddiwrth y fath orchwylion ag oeddynt wedi hanfodi drwy oesoedd laweroedd, yn ngwneuthuriad y gwahanol ysledi a ddyfeisiwyd i lusgo—symud gwrtaeth a chynnyrch y tir o'r naill fan i'r llall. Er mai ymwelydd digon digroesaw gan lawer ydyw y gauaf, gyda'i dywydd oer a gwlyb, ei ddyddiau byrion, a'i nosweithiau hirion a thywyll; heb unrhyw swyn yn unman i ddenu neb o'u tai, eto, nid mor brudd yw gauaf mewn gwlad—y mae'r oerni fel y gwres yn werthfawr yno, er fod rhyw raddau o'r naill fel y llall yn peri colled weithiau; ond rywfodd, yr oedd mwyniant yn mhob tywydd, ac i bob math o dvwydd ei waith naturiol ei hun; felly yn nglŷn a gorchwylion amaethol megis achos o arfer neu reidrwydd
Y ffarmwr a'r aradr yn y tir,
Y wraig yn godro'r gwartheg ir,
Y ferch yn nyddu gyda'r droell fach,
Y mab yn dyrnu'r gwenith iach
Pawb yn hapus fel y dydd."
Adeg y cynhauaf, yn fwyaf neillduol y cynhauaf yd, ydoedd adeg bwysicaf a phrysuraf y flwyddyn. Fel rheol, byddai gan bob ffermwr ei gae gwenith, ac ni byddai ei fedi yn orchest galed, gan y ceid y gof a'r crydd, y saer, y teiliwr a'r melinydd yn helpu fel costwm gwlad. Gofalid am ddiod neillduol i'r medelwyr—"diod fedi" fel ei gelwid, yr hon oedd amryw raddau yn gryfach na'r cyffredin; ac os byddai yn meddwi yr oedd hyny yn glod i fenywod y ty. Golygfa hardd oedd gweled y "Fedel Fawr, sef llu o fedelwyr—hanner cant, mwy neu lai, o ddynion mewn maes yn medi, a nifer ereill o feibion a merched ar eu hol yn rhwymo'r ysgubau, ac yn eu codi yn 'styciau. Nid yw y peirianau presenol yn gwneyd y gwaith mor daclus a diwastraff, heblaw ein bod yn colli yr ystyr sydd iddo mewn dammegion Ysgrythyrol a chymhariaethau cyffredin. Dilynid y gorchwylion blaenorol â'r ymdrechion i geisio dal y "Gaseg Fedi," fel ei gelwid. Beth bynag am addasrwydd y fath enw, yr hyn olygid wrtho, oedd mawaid o ŷd—ŷd-wellt wedi ei adael yn fwriadol mewn congl o gae heb ei dori, lle'r amlygid cyd-ymgais egniol i geisio dal—tori i lawr y gaseg drwy daflu—pob un ei gryman ati o fan pennodol —pob un yn ei dro. Wedi yr elai heibio y rhialtwch o'i chwympo, yr oedd yn ofynol ei chuddio, efallai dan wasgod y sawl fyddai wedi ei dal, neu arall os dewisid; ac yna myned am swper, pryd eu cyfarfyddid ar gyffin drws y ty gan liaws o ferched cyforiog o ymryson yn eu croesawu â llestreidiau o ddwfr—"dwr i'r gaseg". Yna, wedi i'r gaseg gael dwr, trwy ei gwlychu cyn medru ei rhoddi ar y bwrdd, yr oedd yn ofynol i'r merched gael swper yn gyntaf, a'r meibion i weini arnynt, ac i olchi'r llestri a chlirio'r bwrdd ar y diwedd. Pe llwyddasid i fwrw'r gaseg i'r bwrdd heb ei gwlychu, hawdd gwybod y rhedasai effaith achos y cyfryw rialtwch i'r gwrthwyneb. Ond wedi cael y llwyth olaf o'r ŷd i'r gadlas y byddai y rhialtwch mawr y penaf, yn cymmeryd lle—y ddefod ddiota, a elwid "Boddi'r Cynhauaf." Byddai y perchen wedi darpar tri neu bedwar galwyn o gwrw ar gyfer y rhai fu'n gweithio'r cynhauaf iddo, a chyfrenid y ddiod rhyngddynt yn nghyda bara a chaws neu fara a chig. Yna, cymmerai dawns le, os byddai rhai allent ddawnsio yn mysg y cynhauafwyr—yn wryw a benyw.
Syml a chryf, yn ddieithriad, oedd eu hymborth—bara haidd, bara ceirch, llaeth, ymenyn, maidd yr afr, maidd yr iar, caws, cig, posel, uwd maidd glas—nid uwd dwfr, brywes, wedi tywallt drosto gawl cig eidion yn llawn brasder, potes neu isgell wedi ei bereiddio â dail, ac ni esgeulusid er dim daflu i'r crochan, yn mysg gwahanol ddarnau ereill o gig, ryw gymmaint o'r cig goreu yn eu golwg—coch yr wden, sef cig sychedig geifr, fel y gwnelid y cawl yn flasus-fwyd perffaith. Ond dydd Mawrth cyntaf o fis Mawrth bob blwyddyn, fyddai yn coroni holl gawl y flwyddyn, pryd y gwneid "potes naw rhyw," sef potes ac ynddo naw math o ddail. Byddai hefyd wledd yn cael ei chynnal yn yr awyr agored, o'r hyn a elwid "Cawl Awst," pryd y dygai pob bugail ei gyfran i'r man cyfarfod. Cig defaid wedi bod yn grogedig wrth y gronglwyd, a chig geifr wedi bod yn hongian o fewn i fantell y simdde, a fwytaent gyda bara haidd a bara ceirch, a diod grobos a chriafol, yr hon oedd yn lled beraidd os wedi cyrhaedd blwydd oed. Yr oedd y cyfryw yn fwydydd cryfion, fel yr oedd eu cyfansoddiadau corfforol yn dangos hyny, canys fel rheol, cyrhaeddent oedran teg, gan farw o henaint yn hytrach nag o afiechyd. Defnyddid y bysedd yn lle cyllell a fforch, a bwyteid ac yfid o lestri coed, cregyn, cyrn, esgyrn neu biwtar; a melus bob amser yr ystyrid brechdan "ben bawd" rhagor brechdan wedi ei gwneyd â chyllell. Melus odiaeth hefyd fyddai cwsg llawer o honynt, tra wrth reolaeth yr hen arwydd-eiriau rhigymol a arferent, megis
"Dos i dy wely gyda throed yr ŷch,
A chyfod ar ganiad yr 'hedydd brych."
Eto, dipyn yn wahanol,
"Codi bump y bore heb fraw,
A bwyta naw, mae'n iawn-waith;
Swpera bump, a phan ddel naw,
I'r gwely neidio eilwaith;
Wrth wneuthur hyn cei fyw mewn llwydd,
I gan'mlwydd hylwydd helaeth."
Ni fyddai gynt balas na bwthyn heb ei gychod gwenyn. Gan y gwenyn y ceid y mêdd, ac ar y mêdd y meddwid. Ond er fod meddwi yn parhau i ddal ei dir, nid ar fêdd, ond ar ddiod frâg, ceirch, neu siwgr eplesedig y meddwir pobl yr oes hon, tra na bu dyferyn o fêdd erioed yn safn yr un o honynt, ac na wyddant beth ydyw mêdd. Yr oedd yr hen bobl yn gwneyd mwy o ddefnydd o fêl na thrigolion yr oes bresenol. Medrent hwy wneyd "bir criafol" neu ddiod gerddin o ffrwyth y gerddinen; ac hefyd, o dyllu y fedwen ddechreu haf, fel ag i'w sudd redeg o honi, wneyd o'r cyfryw yr hyn a elwid "bir y fedwen." Yr oedd ganddynt, fel yna, eu dewis feddyliau, eu dewis bethau, a'u dewis eiriau cymhwys a pharod at bob amgylchiad ag a ddigwyddai ddyfod i'w rhan, deled y pryd y delai. Pan y byddid yn cyflogi morwyn, gofalid am ofyn iddi,—"A fedri di groes-odro, dwbwl gorddi, dechreu golchi, a diwedd nithio?" Pan yn cyflogi gwas, gofynid:—"A fedri di ladd gwair a llywio dyrnu, batio'n llwyr, a bwyta llymru?"
Nid bychan chwaith oedd eu hadnabyddiaeth ymarferol â natur drwy ymwneyd â hi ac nid darllen am dani mewn llyfrau. Credent fod ganddi well gwersi mewn meddyginiaeth lysieuol nag a roed mewn llyfrau erioed—fod yn mysg amrywiaethau eu hardaloedd ddigon o ddefnyddiau i wrth-weithio yr holl anhwylderau ag oedd eu cyrff yn ddarostyngedig iddynt. Gwyddent enw a rhinweddau pob deilen a llysieuyn oedd yn tyfu ar faes neu glawdd, ar gors neu fynydd, ac adnabyddent amseroedd eu blodau—pa bryd i'w tori a'u cynhauafu, a pha fodd i'w cymhwyso a'u defnyddio at iachau braidd bob clwy neu ddolur—byddai cronglwydydd pawb yn llawn o honynt. Cydnabyddid hefyd yn ewyllysgar mai ffordd fawr iechyd oedd myned y boreu i'r mynydd, a'r prydnawn i'r ffynon; ac fod myned i lan y môr yn adeg trai yn dra llesol tuag at gael ymadawiad ag afiechyd, gan y coelid y byddai i'r môr y pryd hwnw dynu ato yr afiechyd, eithr i'r gwrthwyneb yn adeg llenwi. Yn y dyddiau hyny yr oedd yr eilliwr (barber) yn feddyg at wasanaeth y cyhoedd yn gystal ag yn eilliwr. sef torwr barf neu wallt. Gwelsom, bawb, ei bolyn y tu allan i'w ddrws: ond nid oedd dim a wnelai hwnw a galwedigaeth y gwr fel eilliwr—dangosydd ei drigfan fel meddyg ydoedd a'r addurniadau hyd-ddo—coch a gwyn, yn arwyddo gollwng gwaed a lliain i rwymo yr archoll, &c.
Eto, fel pethau yn mynu bod, ag oedd yn rhaid gwasgu arnynt gan ynadon a cheisbyliaid y wlad, cyfarfyddid yn achlysurol, yma a thraw, âg ymrafaelion lled annymunol yn mysg personau hoff o ddyferyn difyr, meddwi, cystwyo eu gilydd, &c.; a bernid mai yr unig ddarpariaeth gymhwys gogyfer âg ymddygiadau dosbarth anniddig ac anhydrin o'r fath oedd eu dodi mewn cyffion (stocks)—lle i gaethiwo y traed, ac weithiau y traed a'r dwylaw. Cedwid y stocks yn y mynwentydd, fynychaf, er mwyn chwanegu y gospedigaeth; oblegid yr oedd trigo am noswaith yn mysg y beddau, pan oedd y bobl yn arfer credu mewn ysbrydion, canwyllau cyrff, a drychiolaethau, yn waeth o lawer na deufis o wasanaethu mewn carchardy. Os ceffid rhyw ddyhiryn yn euog o'r trosedd gwarthus o guro ei fam, neu o ryw drosedd a ystyrid o gyfartal bwysigrwydd i hyny, rhwymid un o'i freichiau i fyny yn ddiogel, gan nifer o geisbyliaid, a thywelltid llestraid o ddwfr oer rhwng llawes crys a chroen y condemniedig. nes y byddai yn gwaeddi dan yr iâs, megis un ar ddarfod am dano; neu ynte rhwymid ef draed a dwylaw, a thorid ei farf â hen ellyn rhydlyd, yr hyn bob amser a ystyrid yn gosp hynod o drom.
Fel cyfroddion o'r hen amser, odid na cheir darluniad cyflawnach a chywirach o sefyllfa ein gwlad na'i ffeiriau a'i marchnadoedd. Mae dull y cynnelir ffeiriau a chynulliadau cyffelyb yn myned yn mhell iawn i egluro cymmeriad ei thrigolion. Y lle mwyaf cyfleus o bob man i ymgydnabyddu âg adnoddau y ddynoliaeth ydyw y ffair. I aros adegau pennodol o'r fath, nid oedd gan ffermwyr well cynllun i gael ymgom yn nghylch materion plwyfol ac ansawdd y farchnad, na myned ar foreu Sul braf at y Llan ryw hanner awr cyn adeg dechreu y gwasanaeth, er mwyn cael cyfleusdra, yn y fynwent, i adolygu helynt yr wythnos fyddai newydd fyned heibio. Weithiau, byddai y boneddwr a'r person yn eu mysg, yn eu cysuro am y dyfodol, canys nid oedd y werin, y pryd hyny, yn ddisylw nac yn cael ei hebargofio gan yr hen "Foneddigion Cymreig," y rhai ag yr oedd gwaed pendefigaidd nid yn unig yn rhedeg, ond yn berwi, yn eu gwythenau.
Nodweddiad rhyfedd yn yr hen bobl ydoedd gonestrwydd, geirwiredd, a chywirdeb—dywedent y gwir yn erbyn eu mantais eu hunain; ac yr oeddynt yn gywir a didwyll yn eu masnach. Pan y byddent yn echwyna, ac yn talu yr echwyn adref, nid ysgrifeniadau a stamps ydoedd y tystion, ond boliau y cloddiau, bargodion y tai, a dirgel-fanau. Yr oedd ganddynt gymaint o ymddiried yn eu gilydd, fel nad oedd arnynt angen am drydydd person i fod rhyngddynt, ac yr oedd camgyfrif rhwng dyn a dyn yn beth hollol ddieithr yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio. Fel y dywedai ysbryd Taliesin neu un o'r hen wladwyr enwog gynt wrth ysbryd rhyw Dwrne o'r oesoedd diweddar pan yr hysbysai ysbryd y Twrne i ysbryd Taliesin y ddefod a'r arfer oedd yn ei amser ef yn Nghymru wrth brynu tir, "sef y byddid yn ysgrifenu memrwn mawr cyfled a nithlen i sicrhau y trosglwyddiad neu y gwerthiad." "Ho! Ho!" meddai yr hen ysbryd cyntefig, "ni thalwn i ddim byd yno yrwan; nid oedd yn fy amser i ddim ond codi Coetan Arthur yn goffadwriaeth o'r pryniad, a galw tystion, a dyna y cwbwl ar ben!""
Dyddorol iawn fyddai cael gafael ar ambell hen ymgom difyrus a gymmerodd le rhwng yr hen bobl ar rai o bentanau mawrion yr amaethdai ar lawer noson dywyll y gauaf, yn nghylch hanes y dydd, a pharotoad y dydd canlynol, pryd y byddai i lawer camp wrol gael ei phrofi, llawer cerdd felus ei chanu, llawer chwedl ddigrif ei hadrodd, am wron mewn rhyfel, am lanc a'i gariad, am gi, a chordd, a chynydd, ac amryw ddiniweidion erai!! na wyddom ni fawr am danynt. Mwynhawyd arnynt lawer o ddifyrwch ysmala ac adeiladol gan rai oeddynt yn byw yn fwy cariadus at eu gilydd nag yr ydys y dyddiau hyn; yn cyd—olchi y defaid, a chyd-gneifio, "cymhortha" y naill y llall hyd y gallent. Ond digon prin yw y cof-arwyddion sydd yn aros o'r hen amseroedd—nid oes ond ychydig o hen balasdai, a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn adfeiliedig—hen ddodrefn o ruddin derw pur, ac wedi eu cerfio yn y modd cywreiniaf—hen arfau, hen grythau a thelynau, hen ardiau, llawdroellau a gweyddion; ac mae'r bladur wedi cymmeryd lle'r cryman, a'r dwrn-fedi wedi ei ddiddymu—pobpeth bron wedi darfod, oddieithr fod yn nghadw o oes i oes weddillion o hen hanesion a chaneuon, y rhai a nodweddent ein cenedl cyn ei llwyr ddarostwng, megis,
"Hob y deri dano
Dyna ganu eto."
"Croen yr hen ddafaden
Tu gwrthwyneb allan,
Troed yn ol a throed yn mlaen,
A dau i ben y nenbren."
Cenid y caneuon hyn a'r cyffelyb ar ol helfa lwyddianus, wrth edrych nos gauaf ar yr hob, y ddafad, yr afr, a'r carw yn hongian wrth y nenbren, y gronglwyd a mantell y simdde, ond
"Ein parch a'n bri a chwalwyd
Ar daen i'r pedwar gwynt,
A'r Saeson sy'n rheoli gwlad
Y dewrion Gymry gynt."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Dichon mai talfyriad o Byrio, neu ynte, Byrderio yw Berdio, neu, o'r tu arall, mai beard (barf) y Sais wedi ei Gymreigio ydyw Berdio sef barfio.
- ↑ Y mae Pryffwn yn air Cymraeg, yn golygu excellent, superior. Dichon mai o honynt hwy y tardda pryffesydd. Ond tebycach mai ei raniadau ydynt Pry—ffes—ydd. Pry ydyw cynnyrch, ffes yw trem, tremio, treiddio; ac ydd yn olddawd. Felly Cynnyrch Dremydd yw y gair tryffesydd.