Llen Gwerin Sir Gaernarfon (testun cyfansawdd)
| ← | Llen Gwerin Sir Gaernarfon (testun cyfansawdd) gan John Jones (Myrddin Fardd) |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Llen Gwerin Sir Gaernarfon |

LLEN GWERIN
SIR GAERNARFON.

YR HEN AELWYD GYMREIG.
"Mwyn yw telyn o fewn tŷ, lle byddo teulu dedwydd,
Pawb a'i benill yn ei gwrs, heb son am bwrs y cybydd
LLÊN GWERIN
SIR GAERNARFON.
✵ ✵
GAN
J. JONES (MYRDDIN FARDD).
✵ ✵
"Mae llawer o bethau yn y byd
Yn haeddu cael eu cofio;
Ond er hyny o bryd i bryd
Mae llawer yn myn'd yn ango."
"Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd."
CAERNARFON:
CYHOEDDEDIG GAN GWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),
SWYDDFA "CYMRU."

RHAGYMADRODD.
ANFON llyfr heb Ragymadrodd i ddadgan ei nodwedd, a'i gymmeradwyo i dderbyniad y cyhoedd a gyfrifid gan rai yn annghyttunol â moesau da, neu o'r hyn lleiaf â'r ystyriaeth addas o ddyhuddo ffyrnigrwydd beirniadaeth afreidiol. Cymhwys, gan hyny yr ystyriwn roddi ar ddeall nad ydym yn hòni awduriaeth yn y mesur lleiaf—dim ond crynhoi, yn fwyaf neillduol, yr hyn bethau barasant fwyaf o ddyddordeb ini wrth holi, gwrando, sylwi, a chasglu mân—gofion ag oedd yn aros ar gof a llafar mewn cilfachau anhygyrch yn nghyrion gwlad lleoedd ag y ceid ynddynt hen bethau yn aros hwyaf heb ond ychydig gymmysgedd; eithr mwy o wybodaeth draddodiadol llai o'r llyfrrynol, tra neb yn ymhoni ychwaneg o wybodaeth nag yn wirioneddol a feddiannent. Felly trwy i'r naill adroddiad, yn eu clywedigaeth, dynu allan bethau teilwng o gael eu cadw ar gof a hanes, llwyddid yn lled fynych i gipio gweddillion gwerthfawr megis oddiar ffrwd anghof. Yr oedd yr hen bobl yn gwybod llawer, yn neillduol y rhai mwyaf craffus o honynt, ond ni wyddent eu bod yn gwybod, ac ofer fyddai ceisio na chael ganddynt oddigerth trwy ddamwain—megis yn ddiarwybod iddynt, yn y fath fodd cyfrin fel ag i awgrymu unfrydedd pob un a'i chwedl ganddo. Mae rhai o'u tystiolaethau tarawiadol wedi eu derbyn o bryd i bryd, hyd yn lled ddiweddar, wedi eu hir gadwraeth, fel pe er mwyn gwasgu o honynt fân—hanesion ddichon fod yn llechu ynddynt o dymmor eu tarddiad hyd eu tyfiad a'u haddfediad. Mae tystiolaethau lleol o'r fath yn ffeithiau nas gellir yn hawdd wneyd i ffwrdd â hwy. Gan hyny, na fydded i'r darllenydd ein dal yn gyfrifol am groniclo hen draddodiadau oddiar dafod-leferydd gwlad, tra yr ydym yn rhoddi ein hawdurdod i fyny yn ddifloesgni. Nid edrych allan am ffeithiau hanes ddylid mewn llên gwerin ond yn hytrach casgliad o chwedlau rhamantaidd a barddonol a adroddid ar hirnos auaf, &c. Felly nid yw ond ofer i'r dosbarth flug—sangetaidd ysgwyd eu penau a gofyn y peth yma a'r peth arall—am nodwedd egwyddor pob chwaeth a chwant—y drwg a'r da—y paham a'r pa fodd, &c. Dylid hefyd ystyried nad rhaid i bob hanesydd, o angenrheidrwydd, gredu yn ngwirionedd yr holl weddillion a gasgla efe yn nghyd.
Gwneir llên gwerin i fyny gan liaws o wahanol amgylchiadau, a phob amgylchiad yn dwyn cyssylltiad uniongyrchol neu annuniongyrchol a'u gilydd, fel ag y mae y dolenau yn gyssylltiedig â'u gilydd mewn cadwyn; ac nis gellir esbonio na rhoddi y goleuni priodol ar unrhyw un amgylchiad, heb gymhorth goleuni amgylchiad arall, hyd nes rhoddi cnoc, yn mron, ar holl ddolenau y gadwyn. Felly, y mae yr amgylchiadau ag sydd yn gwneyd i fyny Lên Gwerin Sir Gaernarfon yn rhwym wrth gynnorthwy goleuni lliaws o amgylchiadau siroedd ereill—pell-berthynol, fe ddichon, er hyny angenrheidiol tuag at eu gwneuthur hwy—eu hesbonio a'u deall. Y mae hanes llên gwerin, fel pob hanes arall, yn cael ei wneyd i fyny o nifer o achosion ac effeithiau, a bydd yr achos weithiau yn cyfodi o diriogaeth estronol, ac eto yr effeithiau yn ymestyn, efallai, i'r tiriogaethau cyfagos a chylchynol; eithr nid yw hyny yn gwneuthur y rhan fwyaf o'r defnyddiau yn llai perthynol i sir Gaernarfon.
Nid ydym wedi cyfyngu ein hymchwil i sylwadau deallus egwyddorion dyfnddysg, ddaethant i lawr o'r cynoesoedd; ond eu cymmeryd oddiar lafar gwlad, er mwyn cael yr enghreifftiau cywiraf ag sydd yn aros o lên gwerin yn yr arddull syml ag y gwelodd yr hen bobl yn dda ei gwisgo, heb bwyso ar dde nac ar aswy, er achub rhag difancoll ychydig o'r briwsion o bob math ag sydd yn llercian hwnt ac yma, fel y byddo iddynt fod o wasan— aeth i hanesydd neu athronydd y dyfodol tuag at ffurfio cofadeiladaeth fyddo'n arhwyliad i'n holafiaid o'r llwybrau ar hyd y rhai y daethom at safle gwareiddiad. Er fod genym lawer o hanesion teilwng a hygoel, mewn dysgrifiad synwyrol a defnyddiol, diau fod hefyd yn eu mysg niferi ag sydd yn orchuddiedig gan chwedlau ac ystraeon anghredadwy ag y byddai yn ddoeth eu gadael a'u diarddel. Nid yw y casgliad hwn yn cael ei ystyried gan y casglydd, ond megis un ar brawf, er hwyrach iddo balmantu y llwybrau i rai o'i ganlynyddion, a dwyn i'r amlwg lawer o bethau ag oeddynt wedi myned yn anghof, ac yn agos i ddifancoll.
Y mae hanes yn amlygu mai un o gamweddau Puritaniaeth yw ei bod wedi dibrisio ein traddodiadau cenedlaethol; eithr y mae goleuni gwybodaeth wedi agor ein llygaid i werth y pethau hyn, ac er ei bod yn ddiweddar, dichon y llwyddir gipio rhai cyfrinion telaid oddi rhwng y tonau, cyn y llwyr ysgubir hwy i eigion mawr anghofiant, fel y gwnaed a gormod o honynt eisoes. Na ddibrisier yr encilion—mae llawer o emau gwerthfawr yn eu mysg—cael agoriad i fyned i mewn i'r gist ydyw'r gamp, a chael beddau'r cof i roddi fyny eu meirw. Nis gall dim fod o fwy dyddor— deb nag ymgydnabyddiaeth â'r hen oesau, ac ar— ferion y bobl yn yr oesau hyny. Amaethyddiaeth yr amser a aeth heibio fu yn diwyllio ein meusydd. Celfyddyd yr hen amser fu'n gwneyd ein ffyrdd, yn agor ein camlesydd, yn llunio ein cwmpawd, a'n dysgu i dramwy llwybrau y dyfroedd dyfnion. Synwyr a gwybodaeth yr oesau gynt fu yn ffurfio ein deddfau, yn darparu a chyfoethogi ein llenyddiaeth. Yr ydym, gan hyny, dan rwymau i'r amser a fu: a byddai yn afresymol ynom beidio cydnabod darpariaethau o'r fath gyda gwir ddiolchgarwch. Ond ar wahân i hyny, mae gormod o duedd yn mhobl y dyddiau hyn i ddiystyru yr hen yn eu gorawydd am y newydd. Ni ddylid gwrthod yr hen, am yn unig ei fod yn hen, mwy nag y dylid gwrthod y newydd am yn unig ei fod yn newydd.
Y mae gwilio y cyfnewidiadau a wneir o oes i oes, yn un o'r pethau mwyaf cydweddol â meddyliau dynion chwaethus a llygad-graff. Mae beth bynag sydd hen, i fesur mwy neu lai yn gyssegredig, eithr nis anurddwn ddim ar ei gyssegredigrwydd trwy olrhain y modd yr effeithia ar, neu yr effeithir arno ef, gan amgylchiadau newyddion. Wrth edrych yn nrych yr henoes, a rhoi trem ar ein hoes ein hunain, oni thueddir ni i ddyweyd, "Y peth a fu a fydd; a'r peth a wnaed a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul."
Mae y Cymry yn cael eu cyhuddo yn fynych o fod yn mhlith y rhai hyny ag sydd yn edrych yn ol, nid edrych yn mlaen, ac y mae lle i ddiolch am y fath geidwadaeth, gan fod iddi lawer o ragoriaethau. Purion yw troi i edrych yn ol, ond cofio mai yn mlaen y mae y daith a'r nod. Ond i ni roddi ystyriaeth briodol i arwyddocâd y gwahanol amserau, cawn fod y presennol yn un cul iawn y dyfodiant â'r tywyllwch trwch yn gorphwys arno yna rhaid i ni wrth olfodiant, er ei fod yntau yn fynych â'r niwl yn do drosto." Y mae yn bleser er hyny, ail feddwl am lawer o ragorion hen bobl ddiniwed "yr amser gynt," er eu holl gamdybiau; a choelio yr ydym fod llawer o'u rhinweddau wedi eu claddu gyda hwy.
Yn mantol y dyddiau hyn ceir fod pobpeth yn myned dan wedd-newidiad, fel nad oes fawr o berygl i neb gredu dim mewn rheibiaeth, dewiniaeth, a swyngyfaredd, na theimlo y cnithiad lleiaf o ofid oddiwrth yr anffodion a gyssylltid âg effaith y deiliach a elwid "dail cysgod y nos," na choelio fod pob pren yn ellyll nosawl, a phob llwyn eithin a rhedyn yn fodau ysbrydol. Cyfrifir hyn am yr anwybodaeth hynod a ddengys aml goel a reolodd y wlad am ganrifoedd; ac am y gwneir llawer o droion safadwy y dyddiau hyn a fuasai yn ngolwg yr hynafiaid yn fawr lai na gwyrthiau; ond daw amser pan y try preswylwyr yr oesau a ddeuant i farnu preswylwyr yr oes hon, ac y byddant yn synu at eu diffygion a'u barbareiddiwch—eu bod yn credu yr hyn ddylent anghredu, ac yn anghredu a ddylent gredu—pob oes yn ei harfer.
Dylem gofio fod defnyddiau ein llenyddiaeth werinol mor wasgaredig, fel nas gellid eu dwyn dan drefn a dosbarth gyda'r manylrwydd a haeddant. Y maent yn cyffwrdd agos a phob peth; megis mynyddoedd, dyffrynoedd. ffynnonau, tymmorau y flwyddyn, y misoedd, diwrnodau yr wythnos, llysiau y maes, dail y coed, anifeiliaid, pysg, y llu asgellog, a mwy-na-mwy o bethau nas gallwn ddirnad eu rhif. Yn gyttun â hyny, y maent yn gymmysgedig yn y llyfryn hwn, nid annhebyg i fel y cawsent eu casglu. A rhag i neb ein beio yn ormodol o fod yn ddiffygiol mewn addasrwydd trefniant, yr ydym, o angenrheidrwydd, dan orfod amlygu ein bod yn coleddu y syniad yr ymddangosant i ni mor resymol o addas yn y dull hwn ag unrhyw ddull arall, oblegyd felly mae bywydcymmysglyd ydyw oll—sobrwydd ac ysgafnder, cyfoeth a thlodi—yn un gymmysgfa fawr.
Nid oes fodd bod yn hyddysg yn ein llenyddiaeth werinol, heb gael gweled y wlad yn llenyddiaeth ei halmanaciau, fwy na dau gant o flynyddoedd yn ol, canys yn y cyhoeddiadau poblogaidd a gwerinaidd hyn y cawn olwg ar wir sefyllfa y wlad ar y pryd, a buasai cyflwr ein teidiau yn anghredadwy i ni, oni b'ai ei fod yn cael ei adlewyrchu arnom yn y drychau gwladaidd hyn; ac yr ydym wedi ymgynghori â hwynt, o almanaciau Thomas Jones hyd almanac John Jones, y Caeau Sion Rhydderch: Evan Davies; J. Harris, Kidweli; Ifan Thomas, Fardd Du; John Prys; Gwilim Howel; Cain Jones: y "Calendar Amserol," y "Drych Amserol," &c., hyd y "Cyfaill Difyr am 1772, ac yn mlaen i'r "Cyfaill Rhydd" am 1835. Tynasom hefyd nifer o hynodion allan o lawysgrifau yr hen oesoedd, y rhai ag yr oedd llwydni amser vn sawru vn drwm arnynt; ac nid dibwys y cyfrifem gynnwys hen lyfrynau gwahanol ddaroganwyr—"Cas gan Cythraul," &c., y rhai sydd yn cynnwys mân gasgliadau syml o lên gwerin a fodolai cyn, ac yn eu hamser hwy, yn gystal ag sydd yn aros hyd heddyw mewn ambell fan.
Y mae llawer o gasglu lên gwerin gwahanol genhedloedd y blynyddau hyn, ac y mae yn ddyledus arnom ddeffroi i gasglu "traddodiadau y tadau," oblegyd y mae pob blwyddyn yn dwyn ymaith i dir anghof, o ychydig i ychydig, ddryllranau tra gwerthfawr o honynt: eto, er hyny, y mae yn foddhâol meddwl y gwneir ymdrech deg y dyddiau presennol, yn y cyfeiriad o'u diogelu, yn yr Almaen, yn Ffraingc, ac yn Lloegr; ac y mae pobl ddarllengar yr Almaen, yn awyddus iawn am gael gafael yn llên gwerin Cymru; a symudiad priodol fyddai casglu llawer mwy o'n llên gwerin, er difyrwch i ni ein hunain, yn ogystal ag i eraill. Gwasanaethant felly ddau amcan neillduol, sef cadw yn fyw lawer o gofion cymdeithasol hen genedl ddewr ac anrhydeddus, a gweinyddu diddanwch a gwybodaeth i'r rhai a'u cadwant yn yr "adgof am a fu."
Digon bellach, os nad gormod-ond cofier mai ein nod penaf ydoedd cofnodi ac nid athrolithio, am fod egluro llawer peth yn llên gwerin Cymru yn gofyn cydnabyddiaeth â llên gwerin Ewrob, ac yn wir â llên ofergoelus y byd yn gyffredinol, yr hyn yw gwaith y chwedlofydd, yn hytrach na gwaith cynnullwr chwedlau lleol. Eithr ni wnaethom yr hyn a ddymunem, o herwydd fod ein dymuniadau da dros ein gwlad yn rhagori filwaith ar ddim allem gyflawni.
Wrth ddiweddu, cydnabyddwn ein rhwymedigaeth neillduol i gyflwyno ein diolchgarwch mwyaf diffuant am lawer o gynorthwy parod ac ewyllysgar i'r Parch. Richard Lloyd, Garth Celyn, Criccieth,-gwr hyddysg yn y gorchwylion hyntra chyfarwydd yn nheithi llenyddiaeth ei wlad a'i genedl, ac agos a bod yn gwybod pob peth.
Yn wladgar,
J. JONES (Myrddin Fardd).
- Nadolig, 1908.
CYNNWYSIAD
Nodwedd y misoedd—Rhifedi dyddiau deuddeng mis y flwyddyn—Arwyddion oddiwrth yr haul, y lloer, y ser, &c.—Arwyddion gwynt Arwyddion gwlaw—Arwyddion tywydd teg
Y Tylwyth Teg—Gwrach y Rhibyn—Yr Wyll—Y Cyhyraeth —Y Forforwyn—Aderyn y Corff—Canwyll y Corff—Tân Ellyll—Yr Hunllef—Breuddwydion-Dewiniaeth—Cyfrif Llyfrithen—Swyno'r Eryr—Swyno'r Ddafaden Wyllt (Tyfaden Wyllt)—Clwyf yr Edau Wlan—Gwella'r Gwynegon—Y Drwg Lygad—Asgwrn Coel—Porth Tywyn, Tudweiliog—Eglwys Aberdaron—Gweddio am Ddial.
Llen y milod—Llen yr adar—Llen y dyddiau.
Ffynnon Gwythelan—Ffynnon Cynfran—Ffynnon Gwynwy—Ffynnon Llechryd—Ffynnon Deiniolen—Ffynnon Cegin Arthur-Ffynnon Chwerthin- Ffynnon Fair - Ffynnon Garmon—Ffynnon Nantcall- Ffynnon Beuno Ffynnon Digwg—Ffynnonau'r Cennin —Ffynnon y Cythraul—Ffynnon Saint—Ffynnon Ddefaid—Ffynnon y Gwaenydd—Ffynnon Cybi—Ffynnon Llewelyn Ffynnon Grasi— Ffynnonnon Gadfeirch—Ffynnon Fednant—Ffynnon Gwynedd—Ffynnon Cae Garw—Ffynnon y Cefnydd—Ffynnon Gwyfan—Ffynnon Pistyll y Garn—Ffynnon y Filast—Ffynnon y Brenin—Ffynnon Sarff—Ffynnon Saethon—Ffynnon Fair—Y Ffynnon Fyw—Ffynnon Tudwal—Ffynnon Aelriw—Ffynnon Cefn Lleithfan—Ffynnon Saint—Ffynnon Leudad Ffynnon—Dwrdan Ffynnon Saint—Ffynnon Fair—Ffynnon y Dalar—Ffynnon y Barfau Ffynnon Bedrog Ffynnon Cawrdaf—Ffynnon Dudwen—Y Ffynnon Sanctaidd—Ffynnon Rufeinig y Bettws Fawr—Pin y Wig—Llyn Morys—Llyn Dulyn—Llyn y Cwm—Llyn y Dywarchen Llyn yr Afangc—Afon Cyll y Felin.
Beddgelert—Brynllyngedwydd—Caer Arianod—Cantref y Gwaelod—Castell Cidwm—Castellmarch—Cromlech Ganthrig Bwt—Cwm Cerwyn—Glyn Llifon Llam Lleidr—Llanfaelrhys—Maen Du'r Arddu—Maen y Gerdd—Meini y Moelfre—Methlem—Nantlle— Nant Gwrtheyrn—Nefyn—Ogof Wil Puw—Yr Ogof Ddu— Ogof y Gwr Blew—Penychain—Plas y Nant—Pont Aberglaslyn—Saethon—Traeth y Lafan—Y Foel Bach—Y Gwynfryn—Y Gymwynas—Ynys yr Arch—Y Wern Fawr—Tudweiliog.
Gwyl Sant Falant—Mawrth Ynyd—Dydd Gwyl Dewi—Gŵyl Ffyliaid—Sul y Blodau—Gwener y Groglith—Y Pasg— Gwyl Farc—Calan Mai—Y Sulgwyn—Dygwyl Gewydd—Gwyl Awst—Calan Gauaf—Noswyl y Meirw—Y Nadolig—Gŵyl mabsant—Noson Lawen—Noswaith Lawen o Elusen, &c. —Sulgwaith Llawen—Noson Wau—Cyfarchiadau—Interliwtiau—Gwylnosau Cynhebryngau—Neithior—Gwledd Priodas—Cario'r Ceffyl Pren—Cwrw Gwyliau—Cwrw Clochydd—Cwrw Festri—Cwrw Llangciau— Cyhoeddi Achosion Plwyf—Dal yr Hyrddod—Gwerthu Pedolau a Chrymanau—Rhanu Bara Gwynion—Ysgwyd Dwylaw.
LLÊN GWERIN SIR
GAERNARFON.
PENNOD I.
ARWEINIAD.
Llên ydyw dysg, sef erudition y Sais; h.y., dysgeidiaeth neu ysgoleigdod. Gwr llên y Gymraeg yw Clergyman y Saesneg. Yr ystyr hwn sydd yn y gair darllen. Y mae yr ê hir yn llên (dysg) yn troi yn è fer yn darllen. Ystyr y darllen, gan hyny, fel berf, ydyw darddysgu. Gelwid gynt, yr offeiriaid yn wŷr llên, am mai hwy oeddynt y corff neu'r dosbarth yn mhlith y bobl (oddiwrth llen llenoriaeth, dysg). Y mae Salsbri yn gyffredin yn cyfieithu "ysgrifenyddion" y cyfieithiad cyffredin yw "wyr llên." Golygai y gwŷr llên yn y wlad hon bawb ag oeddynt mewn urddau eglwysig cyn amser Luther, mwynhaent amryw freintiau gwladol; ond rhoddwyd terfyn ar y rhai hyny wedi'r Diwygiad, i raddau pell. Gwerin, drachefn, yw gwladogaeth. Gan hyny, Llên Gwerin yw Llafar Gwlad neu Ddysg Gwlad neu wladogaeth, yr hyn a eilw y Sais yn Folklore. Cynnwysa y gangen hon o lên lawer iawn o wahanol bethau ag y mae yn dra anhawdd amlinellu eu ffiniau, yn herwydd niferi eu gwahanol faterion; ond yn y ganrif ddiweddaf, a dechreu y ganrif bresenol, drwy fusgrellni, diogi, a diofalwch Hanesyddion y Cymry; y mae amryw o'u defodau, eu gwyliau, a'u gwleddoedd, wedi myned ar y gwaddod, ac i lethri serthaidd clogwyni oerllyd annghof. Nid oes ond odid, un parth o'r deyrnas, yn llawnach o'r pethau dyddorol hyn na Thywysogaeth Cymru. Cydnabyddir mai hi ydyw mam Mabinogiaeth y Cyfandir, yr un wedd ag y mae Arabia yn fam Chwedloniaeth y Dwyreinfyd; a thybir yn mha le bynag y gellir olrhain y gwaed Celtig, mai sicr yw y ceir yno Lenoriaeth Werinol mewn mwy neu lai o wychder.
Y mae gan bob gwlad ei Llên Gwerin; a bernir fod eu lliosogrwydd a'u hamrywiaeth yn dibynu ar hinsawdd a golygfa arwynebol lleoedd, ac o ganlyniad, fod tymerau y mynyddwyr yn fwy eofn, cadarn, lleteugar, a ffyrnigwyllt, nag eiddo cyfaneddwyr y gwastad—leoedd a dychymyg eu meddyliau wedi tywyllu gan olygfeydd eu bro gynhenid, a ffugia ddrychiolaethau a lledrithiau rhyfeddol, fel eu mynyddoedd, ac erchyll fel eu tymestloedd. Os felly, cymmer sir neilldu—anneddol a bugeiliol Arfon, ei lle yn rhwydd yn nosbarth blaenaf siroedd Cymru, fel mangre effeithiol i gynyrchu y gangen hon o Lenoriaeth. Mae y sir hon yn un o'r siroedd hyny ag sydd yn meddu y golygfeydd mwyaf amrywiol ac arddunol yn Ngwalia y mae drwyddi oll yn berwi o ddyddordeb. Os hynafiaethwr fydd yr ymwelydd, efe a gâ lonaid ei fynwes o wrthddrychau i'w edmygedd; os hoffwr tlysni mewn natur, pa le y câ dlysach golygfeydd? Os y gwyllt a'r rhamantus a dyn ei sylw, caiff esgyn penau y mynyddoedd, "a gweled moelydd megis wedi eu codi o'r gwraidd a'u taflu i le arall o'r neilldu, yn foelydd wrth draed moelydd, ac yn foelydd wrth gefn ac uwchlaw moelydd, modd y gellid croni y dyfroedd yn llynau yn eu lleoedd; ac os na foddheir ei galon yn y golygfeydd mawreddog hyny, rhaid iddo fyned dros fôr i ganfod eu hamgenach." Y mae yn cynnwys braidd bob math o olygfa o'r llyfnllechweddol i'r garw, unigol, gwyllt, a dim braidd. yn tori ar eu distawrwydd ond brêf y ddafad a rhu y gwynt. Ac O! y mae hyfrydwch yn deimladwy pan edrychir i waered i'r cymoedd, a chanfod yr afonydd, a roddant enw i bob gwahanol ddyffryn, yn dolenu eu haraf—ddyfroedd mewn amdroadau sarphaidd, megis pe yn hiraethu ymado â'u ceulanau cyffiniol. Sir hynod ramantus ydyw, ac y mae gwedd y trigolion yn profi ei bod yn orlawn o'r awel a Ddyd i afiach hoeniach hwyl."
Er amled neuaddau anian sir Gaernarfon, y mae braidd bob ffynnon berthynol iddi â'i rhinwedd neillduol; pob afon â'i hystori henafol, pob ffrwd â'i chwedl ddyddorol, pob llyn â'i ddigwyddiad galarus, pob mynydd â'i ramant gynhyrfus, pob bryn â'i frwydr neu gylch barddol, pob maes wedi ei gyssegru â gwaed rhyfelwyr, pob ogof ledgudd wedi bod yn noddfa Derwydd neu Dywysog, pob cilfach ddistadl wedi bod yn lloches amddiffynol ac yn gell dawel a chlyd i ryfelwyr, seintiau, dysgawdwyr, a beirdd yr oesau terfysglyd a blin sydd wedi myned heibio yn hanes ein gwlad; a phob ardal ynddi a ymffrostia mewn nifer nid bychan o ellyllon ac ysbrydion, y rhai a berthynant iddynt er dyddiau cyn cof; ac y mae eisiau casglu yn nghyd gymmaint a ellir o honynt: canys trwy gyfrwng hen ystorïau a mân gofion traddodiadol, cofiannol, &c., y gwelir ansawdd yn nghyda chyflwr cymdeithasol, awenyddol, a chrefyddol yr hen oesau. Y mae olrheiniad o'r fath pan yn gyssegredig i arferion a thraddodiadau poblogaidd, o fwy pwys nag yr ymddengys yn debygol ar y cipolwg cyntaf; canys y mae yn dra amlwg, pa faint bynag yw y cyfnewidiadau yn arferion a moesau unrhyw genedl, o wahanol hanfodiad, trosglwyddir rhyw draddodiadau, chwedlau, defodau, a champiau yn dreftadol o genedlaeth i genedlaeth, heb wybodaeth am, na chyfeiriad at eu dechreuad, eithr yn unig megis achos o arfer eu cyfleu. Nid hawdd ateb am y fath ymlyniad cildynus a chyffredin wrth amryw o honynt, oddieithr ini ddychymygu iddynt gael eu har— graffu ar feddyliau y bobl, pan eu hiawndrefnwyd yn Gymdeithas reolaidd gyda ffurf sefydledig o grefydd a llywodraeth. Rhaid priodoli ereill i oesau diweddarach, a rhai yn ddiamheu i weddill anmherffaith chwedloniaeth ddyrus ac aneglur. Ond pa fodd y mae llawer o honynt yn cael eu meithrin cyhyd, a'u cynnal mor ddiball, nid hawdd yw ateb hyny chwaith, er y gellir meddwl fod gan famau law fawr yn y gorchwyl, drwy droi meddyliau y rhai bychain yn eu mabandod wrth adrodd chwedlau i'w difyru neu eu brawychu; a'r ystorïau hyny yn cael y fath argraff ar eu meddyliau tyner, fel nas gall na rheswm na phrofiad ddileu yr unrhyw oddiyno tra byddont yn y byd. Y mae plant yn ddiarebol am eu chwilfrydedd, am ofyn cwestiynau. Y maent yn holi yn galed ac yn onest, oddiar syched naturiol meddwl newydd am wybod y gwirionedd am ffeithiau fydd o'u hamgylch. Nid ydynt yn holi neb er mwyn ei ddyrysu; ond ei holi yn onest er mwyn gwybod. Y mae plant hefyd yr un mor hynod am eu parodrwydd i gredu y gwirionedd ag am eu syched am wybod y gwirionedd. Credent bob peth, yn enwedig ar dystiolaeth eu rhieni—yr hen yn eu traddodi i'r ieuanc fel hen grair y llwyth; a'r ieuanc hwnw drachefn, yn ei dro, yn eu cyflwyno i'w olynwyr yntau; a'r addurniadau yn nhreigliad amser fel yn cynnyddu—y manylion hwyrach yn newid y teg yn myned yn decach, a'r anferth yn fwy anferthol. Wrth gwrs, y mae hynafiaeth, bob amser, yn ardderchogi, yn dyrchafu, a mawrhau yn ein dychymmyg amgylchiadau a phersonau. Dynion y dyddiau gynt! Y maent yn gawri yn ein tybiaeth ni. Yr oedd corachod yr hen amseroedd yn fwy na'n cawri ni. Pob peth gynt yn fawr. A oeddynt felly mewn gwirionedd? Nid dyna'r pwnc. Os ydynt yn ymddangos felly i ni, dyna ddigon. Ni wiw tori allan o dir y cyfrinion traddodiadol i dir sylweddol hanesyddiaeth: bro ffrwythlawn i fardd yw bro y cyfrinion a'r breuddwydion, ac nid da tynu yn rhy agos at ddiweddarwch eglur a di dawch yr oes y sy newydd fod o'n blaen, am y gŵyr pawb ormod am dani, fel na all darfelydd neu ddychymmyg gael rhyddid i ddyweyd dim am dani heb fod hanesiaeth yn gwaeddi yn barhaus, "Arafa! nid wyt ti iawn fan yna. Nid fel yna y bu hi," &c.
Diweddar mewn cymhariaeth yw hanesyddiaeth pob cenedl. Dylid o herwydd hyny, edrych ar y traddodiadau a'r chwedlau, nid fel ffeithiau hanesyddol i'w derbyn a'u credu yn mhellach nag y bydd hanesyddiaeth gredadwy yn sicrhau hyny, ond yn hytrach er dangos arferion, defodau, a bywyd yr oesau ag y maent yn perthyn iddynt. Ar yr olwg hon y maent yn dystion mwy gwerthfawr yn fynych na dim arall, oblegid yr oeddynt yn cael eu teimlo yn ddadwisgiad eu meddwl, ac yn ddangoseg ffyddlawn o deithi yr hynafiaid. Wrth chwilio i mewn iddynt, y mae yn ddyledswydd ar yr ymchwiliwr fod yn fanwl a gochelgar, oblegid y mae dau berygl ar ei ffordd—ar un llaw, dichon y cred rhy fach, gan ymwrthod a'r ffeithiau o herwydd y traddodiadau; ar y llaw arall, dichon iddo gredu gormod, a thrwy hyny gymmeryd y traddodiadau yn lle'r ffeithiau. Nid yw yr hanesydd bob amser yn ei ymchwiliadau, yn cyfarfod â'r cymmeriadau goreu; ond, er hyny, ei ddyledswydd ef ydyw syllu ar bob peth fyddo yn perchen teilyngdod digonol i drosglwyddo ei enw a'i hanes i'r oesau dyfodol. Y mae'r llysieuwr yn fynych yn cyfarfod â llysiau gwenwynllyd, y rhai feddant, er hyny, lawer o swyn, prydferthwch, a defnyddioldeb. Yr un fath yw Llên Gwerin,—nid niwliog ydynt i gyd, ond y maent yn cynnwys gwirioneddau a chynorthwyon gwerthfawr i'r hanesydd. Ni ddaw nemawr niwed o'u casglu, oblegid coelion marw ydyw llawer o honynt, wedi ffosyleiddio, ac nis gallant wenwyno na niweidio neb; a buddiol yw eu casglu, a'u cofnodi, a'u trosglwyddo i'r oesau a ddêl, fel rhan bwysig o hanes y meddwl a chreadigaethau y dychymmyg. Y mae tymor yn hanes pob cenedl pryd nad oes dim ond chwedlau yn perthyn iddynt. Y chwedlau hyn am wroniaid dychymmygol, a lonent bob cymdeithas a graddau, a drosglwyddid i waered o dad i fab, ac a greent ac a feithrinent yr un ysbryd arwraidd yn yr ieuengctyd. Wedi hyny, cymmerai y beirdd afael arnynt, gan eu ffurfio yn destynau eu hodlau, a'u datganu gyda'r delyn, &c., yn y llysoedd ac ar hyd a iled y gwledydd, a thrwy hyny eu cyflwyno yn feddiant etifeddol i'r oesau canlynol, ychydig o'r rhai a ddisgynasant i'n hoes ni.
Os ydym am gael golwg gywir a chyflawn ar fywyd cymdeithasol neu fywyd ymarferol a chymmeriad cyffredinol cenedl, y mae yn rhaid ini ymwneyd â'u llên gwerin. Yn y cysgodau, yn yr encilion, y mae cael gafael ar nodweddion yr oesau. Ar wyl mabsant neu yn mantell y simdde ar nosweithiau hirnos gauaf, neu yn nghysgod llwyni a swn adar, lle y ceffid y werin yn nistawrwydd y cymoedd yn rhoddi ffrwd idd eu teimladau naturiol a syml, mewn caneuon, emynau, chwareuon, &c. Yn yr encilion hyn y mae i ni gael gafael ar nodweddion ac arferion ein hynafiaidmewn manau gwledig, llonydd, a thawel, lle mae hen arferion yn llercian a glynu am oesoedd ar ol i'r rheswm drostynt syrthio i ebargofiant.
Nid oedd genedl dan haul, fe allai, yn darllen mwy yn yr Ysgrythyrau nâ'r Cymry yn nechreu y ganrif o'r blaen, eto yr oeddynt yn hynod o ofergoelus; ond nid mwy felly na chenedloedd ereill dan gyffelyb amgylchiadau, sef eu bod yn cyfaneddu mewn gwlad fynyddig annghysbell, lle nad oedd nemawr o fasnach rhyngddynt â'r byd gwybodus, i loewi eu meddyliau. Naturiol, gan hyny, eu bod yn rhwym, ben a thraed, wrth hen dybiadau ofergoelus; megis chwedlau perthynol i ellyllon, rhithion, &c., canys unwaith nid oedd na hen furddyn, pedair croesffordd, mynwent, nac unrhyw le o neillduedd, heb fod mor llawn o honynt â'r allt o adar; a haws oedd gan y werin gredu mewn ymyriad a chymorth ysbrydion ac ellyllon o'r fath, nag yn ngallu a dyfalbarhad rhai o'u cyd—ddynion. Os gwelid mur yn cynnwys ceryg nodedig o fawr, neu bont wedi ei hadeiladu yn hynod o fedrus, neu brif eglwys yn rhagori mewn prydferthwch; nid ymfoddlonai y werin heb briodoli y gwaith i allu ysbrydion. Yr oeddynt yn credu mewn daroganau, ac yn ofni dewiniaid yn fwy nag ofni Lluniwr y bydoedd yn ofni gweled llyffant du—yn ofni gweled brân ddu—yn ofni gweled malwoden ddu—yn ofni gweled oen bach a'i gynffon atynt, ac yn ofni clywed y gôg yn canu y waith gyntaf heb arian gyda hwy—yn ofni creaduriaid ac ymlusgiaid diniwaid, ac yn diystyru Crëwr y bydoedd. Po lleiaf eu deall a'u gwybodaeth, mwyaf oll eu hainc a'u hawydd i wrando chwedlau annghyffredin ac anhygoel. Y mae yn wir fod genym lawer o hanesion o'r fath wedi eu cofnodi gan amryw o'r hen awdwyr henafol, gweithiau y rhai a dderbynir yn awdurdodau mewn ystyr gyffredinol, ond a wrthodir felly mewn ystyr neillduol. Y mae delw eu hoes ar y naill a'r llall o honynt, ac y maent wedi syrthio i'r amryfusedd mawr o groniclo y chwedlonol, yn gystal a'r ffeithiau. Felly ein dyledswydd wrth eu darllen ydyw eu pwyso yn nghlorian beirniadaeth ; ac os cawn hwy yn dal felly, gellir eu derbyn. Arwydd o wendid yw credu y cwbl a nodir, hyd y nod gan yr haneswyr penaf, am yr unig reswm eu bod hwy yn eu cofnodi, heb yn gyntaf chwilio a ydyw y pethau hyny yn ddichonadwy, tebygol, a rhesymol. Ni ddylid credu dim o'r hen ddywediadau gwerinol, heb eu cymhwyso yn gyntaf at glorian beirniadaeth, a'u derbyn mor bell yn unig ag y caniata eu teilyngdod wneyd hyny. Coleddir amryw dybiau genym ni, heb unrhyw reswm dros hyny, amgen na'u bod wedi deilliaw oddiwrth ein hynafiaid; a chenym ninau feddyliau mor uchel a pharchus am danynt, fel yr ydym yn glynu wrthynt, er dangos i ni eu gwendid, yn nghyd â'u bod yn gwbl anamddiffynadwy.
Nid oes wrthddrych mewn natur nad appelid ato fel argoel o dda neu ddrwg; ac yn ol yr argoelion hyn y cynllunid amgylchiadau pwysicaf yn gystal â rhai mwyaf dibwys bywyd. Yr oedd ganddynt ddewiniaeth drwy fwg, drwy dân, yn ol y llinellau ar gledr y llaw, y gwythenau yn nghefn y llaw, drwy ddwfr, drwy ddrychau; yn ol ehediad, trydar, ymborthiad adar, &c.; ac nid diystyr ychwaith oedd crawcian y brain, a hw—hw galarnadol y ddallhuan, trydar y colomenod gwyllt a gwâr, a chân y ceiliogod, brefiadau y defaid a'r wyn, cyfarthiadau y cwn, &c.; ac nid oes odid randir yn y sir heb ei chwedlau a'i thraddodiadau am Wrach—y—Rhibyn, yr Andras, y Fall, Mam y Drwg, y Wrach, Canwyll Gorff, &c. Perthynai i'r bodau dychymmygol hyn eu swyddi a'u gweithredoedd arbenigol eu hunain; ond ymddengys fod ereill yn perthyn i'r un a'r unrhyw ddosbarth, a'r naill yn cyflawni gweithredoedd y llall, felly mae yn anhawdd gwahaniaethu nemawr rhwng nodwedd a swyddi y naill a'r llall. naill a'r llall. Y mae hefyd lawer o draddodiadau a chwedlau yn cael eu hadrodd mewn gwahanol ffurfiau ar hyd a thraws y byd, ag y mae yn dra anhawdd penderfynu pa le y cawsant eu bodolaeth, na pha un a ydynt of darddiad Cymreig ai nad ydynt; ac y mae llawer o honynt yn perthyn i wahanol barthau o Gymru, gydag ychydig amrywiaeth nodweddiadol o'r ardaloedd a'r bobl; ond y mae y rhan fwyaf o honynt na wyddys byth yn mha barth o'r Dywysogaeth y cawsant eu harferyd i ddechreu. Y mae ambell i ddywediad fel yn perthyn i ryw barth neillduol o'r wlad; ond yr eithriad, nid y rheol, yw, fod y rhan fwyaf o honynt o natur genedlaethol; ac o herwydd hyny, nis gŵyr neb yn mha gwr y cawsant eu harfer i ddechreu; na pha awdurdod y sy dros lawer o honynt. Dyddorol iawn fyddai cael allan eu tarddiad, fel ag i gael goleu ar achosion ac achlysuron eu cyfansoddiad, a'u lledaeniad; ond y mae hyny yn bwnc dyrys ynddo ei hun, yn bwne nas gellir ymhelaethu arno oddiar brofiad personol, na chwaith wneyd unrhyw haeriad yn ei gylch gyda sicrwydd diymwad, oblegid y mae enwau y rhai a'u harferodd gyntaf wedi eu traflyncu oll gan wane anniwall coll ac annghof; ac y mae hyn yn ddiau yn golled fawr. Y maent yn llawn o grybwyllion hanesyddol o bwys—yn arddangos tymher meddwl a thueddfryd coel yr hen oesoedd; ac yn rhoddi cipolwg i ni ar y dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen "yr amser gynt sut yr oedd ein hynafiaid yn byw ac yn bod," ac ar sefyllfa wareiddiol ein tadau yn yr oesoedd a'r canrifoedd a aethant heibio. Mewn hanesion poblogaidd y mae yn aml ryw ystyr dwfn, i bob rhan, pe gallem eu deall—rhyw gyfatebiaeth yn yr amgylchiadau i'r gwirionedd fel y deallid ef y pryd hwnw, sydd yn rhoddi llawer o wirionedd yn yr hanes, er fod ynddo gymmaint o'r ofergoeledd. Pa un bynag ai at bersonau ai ynte at rinweddau y cymhwysid llawer o'r hanesion, y maent yn parhau o hyd; a'r ansawdd arwyddocäol hwn sydd yn esbonio, i raddau mawr, y dylanwad a fu yn perthyn i lawer o chwedlau gwlad. Yr oedd rhyw duedd yn y Cymry a'r holl deuluoedd Celtaidd, i ddosbarthu pob peth yn drioedd, a dichon nad yw yr holl ddiarebion yn ddim amgen na llinellau olaf hen englynion tribanawg y Derwyddon; oblegid y mae perthynas agos rhwng vr hen ddywediadau neu'r diarebion â'n barddoniaeth. Mae Englynion y Misoedd" ac "Englynion y Clywed," yn ffrwythlawn o honynt. Mae llawer o ryw ofergoelion mân wedi eu traddodi i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth mewn modd nas gellir yn hawdd gyfrif am dano, ar mynych adroddiad o honynt wedi peri fod pawb yn eu credu yn ddiymchwil, fel y diarebir—Nid yw chwedl byth yn colli wrth ei hail adrodd." Yr oedd ofergoeledd y nain yn cael ei gadw yn ofalus yn nghof ei hwyres; ac felly o dad i fab, fel y dywedir—
Gan fy nhad mi glywais chwedl,
A chan ei daid y clywsai yntau,
Ac ar ei ol mi gofiais inau."
Y maent, ar ryw olwg, yn debyg o ran eu cadwraeth i wahanol gampau diniwed plant, y rhai ydynt hynod am eu holyniad rheolaidd ar gylchdre blynyddau ac oesau—pob camp yn ei hadeg i' dim, fel pe yn deilliaw oddiar effaith natur faw ddiwyrni; ond nid ydynt felly; ac nid oes air mewn na llyfr na dim arall i gadw cof na rheol o honyut dim ond megis,—"Mi glywais gan un a glywsai a glywsai gan un a fuasai." Nid ydyw na wyddom pa fodd y maent felly, yn dirymu dim ar y ffaith.
Yr oedd y fath ddynion a Siarls yr Ail, Melancthon, Richelieu, Mazarine, &c., yn arfer dew— iniaeth, deongli breuddwydion, &c. A phe yr eir fel yna yn ol drwy yr oesoedd tywyll, ac o un wlad i'r llall, hyd at yr hen Rufeiniaid enwog, canfyddwn foneddig a gwreng, ysgolaig a rhyfelwr, offeiriad ac athronydd, yn ngafael yr un ofer-goeledd. Pa un a oeddynt yn credu a oedd gwirionedd yn y fath beth, neu ynte yn eu defnyddio fel moddion moesol i ddylanwadu ar y bobl? Nid hawdd gwybod, eithr amlwg yw mai nid yn mysg y werin y ceir tarddiad y tryblith hudoliaethau a oresgynent ein gwlad drwy gydol yr holl ganrifau meithion. Yr ydym ni yn yr oes oleuedig ac ymarferol hon yn barod i wawd-wenu, bron yn ddifesur, am ben yr ofergoelion a ddelid ac a gyfaddefid gan ein hynafiaid yn yr amser gynt." Yr ydym yn llongyfarch ein hunain, am ein bod wedi cael gwaredigaeth, ac yn rhydd oddiwrth ffol—bethau o'r fath. Ond argyhoeddai ychydig o adfeddwl ni, mai ychydig mewn cymhariaeth sydd wedi cael rhyddhad perffaith oddiwrthynt, y rhai, pe eu dygid i brawf, nad ydynt wedi symud nemawr ddim oddiwrthym. Yn lle bod cynnydd dysgeidiaeth yn tuedd-benu i'w hymlid i ffwrdd, y mae y bobl yn credu heb gyfaddef,—na chymmeryd arnynt—credant ynddynt mor benderfynol ag i ganiatau i'w gweithredoedd gael eu cyfeirio ganddynt. Pan y byddont yn myned yn mlaen at oriau'r prydnawn, ac yn dechreu myned ar oriwaered bywyd, y mae adgofion a chyssylltiadau hen bethau yn dyfod yn fwy anwyl yn eu serch—carant fyw yn y presenol ar felusion boreu oes— bydd pob llecyn o wlad eu genedigaeth, yn llawn o ryw swyn iddynt yr hen balasau a'r hen eglwysi, sydd wedi goroesi oesoedd lawer, yn uchel-gyssegredig yn eu meddyliau; a dyna yr union amser i dynu allan o honynt eu casgliadau o wahanol gredöau, arferion gwlad, a gwrhydri y dyddiau gynt; ac nid yw yn llai na dyledswydd ar bob Cymro aiddgar dros ei genedl, gadw cof, a thrysori yr hyn sydd ar dafod y werin o draddodiadau lleol casglu hen ddiarebion, ffraethebion, gwirebau a dammegion nad ydynt yn argraffedig—casglu hen ddychymygion, chwedlau, mabinogion, a phennillion a ddatgenid gyda'r tànau, hen ganeuon a fyddont o nodwedd hanesiol, neu yn taflu goleuni ar arferion a defodau neu syniadau ein hynafiaid casglu y cyfreithiau lleol, neu gostwm gwlad mewn amaethyddiaeth a bugeiliaeth—cofnodi chwareuon ac ofergoelion o bob math. Y maent yn werthfawr pe na bae ond am y dangosant ddoethineb ein cyndadau, mewn adeg pan yr oedd dynion heb ond ychydig i'w wneyd, ac yn gallu troi eu meddyliau i sylwi a myfyrio ar natur fawr, cyn i brysurdeb y celfyddydau ddyfod i nodweddu pob man, gan dori allan ddarganfyddiadau newyddion, perffeithio a throi i well defnydd hen ddarganfyddiadau, &c.
Nid ein hamcan, ar hyn o bryd, yw ceisio rhoddi hanes eu dechreuad, nac anturio gwneyd adolygiad ar eu cynnwysiad, er y byddai hyny yn dra chydnaws â'n tuedd; ond ein pwnc yw casglu yr hyn a allom o honynt oddiyma ac acw, a gwneyd sylw byr ar ambell un. Mae llawer o ymadroddion diarebol, cymhariaethau, dywediadau arabeddus, rhigymau sathredig, a hen eiriau, yn cyfranogi mwy neu lai o natur diareb; ond nid ydynt un amser, yn cael eu defnyddio yn gyffredin, eithr yn unig ar amser a chyfle priodol; megis awdurdod dros unrhyw beth. Y maent rywsut fel y "myrtwydd yn y pant," heb neb braidd yn eu canfod nac yn eu ceisio, felly aeth llawer o honynt. ar goll, ag y buasai yn well eu cadw, fel y mae gwaetha'r modd; ac y mae llawer o eiriau a ddefnyddir, yn y rhai sydd eto heb ddiflanu, yn annealladwy i ni, ac wedi colli o'n hysgrifeniadau, fel y mae cannoedd o honynt wedi myned yn dywyll; ac o ganlyniad troir ymaith oddiwrthynt yn ddiflas, fel pethau heb fod yn werth sylw.
Llenyddiaeth drwstan oedd llenyddiaeth y werin yn yr oesau gynt, er hyny yr oedd yn hynod ddyddorol, ac at y chwaeth i'r dim. Gan nas gwyddai ond ychydig am Feibl mwy na bod un yn y Llan, coleddai yr ychydig a fedrai ddarllen feddyliau uchel am interliwtiau, a'r rhai na fedrent eu darllen eu hunain a alwent ar ereill i'w darllen iddynt; a phan elid i'r ffair, nid cyflawn yr ystyrid neges neb, os na byddid wedi gofalu yn benodol am gerdd, ar ryw bwnc o drwstaneiddiwch neu gilydd. Beth bynag oedd i fod yn ol, yr oedd y glaslanc gwledig, yn y clos pen-lin, yn ei theimlo yn fater o ddyledswydd arno, i sicrhau iddo ei hun y trysor hwn o fydryddiaeth Gymreig. Yr amser hwnw, yr oedd llogell hugan, neu wasgod, yn ddigon o le i gynnwys trysorau llenyddol llawer un. Mae yn ddiau mai y cerddi, a'r almanaciau, oeddynt y cyfryngau mwyaf poblogaidd, am lawer o flynyddau, i groniclo unrhyw amgylchiad hynod a gymmerai le o fewn cylch ein Tywysogaeth; ac i'r ffynnonellau hyn y telid mwyaf o sylw gan y werin.
Nid oeddynt wedi meddwl am nemawr ddim erioed ond gweithio—ni chyfodai eu meddyliau yn uwch na chyrn yr eidionau goreu a feddent—ni wyddent am uchelgais annherfynol, am y siomedigaethau a'r profedigaethau caledion, am yr anhawsderau geirwon, am y rhwystrau anorfod, am y gorthrymderau lliosog sydd yn dilyn wrth gynffon gwybodaeth! Edrychasent hwy gyda dirmyg teilwng o honynt eu hunain ar unrhyw lanc llwydfoch yn difa ei nosweithiau wrtho ei hun yn ei ystafell unig heb gwmni ond cwmni ei ganwyll frwynen, a'i drwyn yn ei lyfr, a'i wyneb fel dalen deneu, yn treulio ei hun allan i gasglu ychydig wybodaeth, gan aberthu ei iechyd, ei gyfoeth, ar allor uchelgais a chlod. O wynfydedig anwybodaeth! Credid yn rhy fynych nad oedd dysgeidiaeth yn werth dim, ond i'r cyfryw ag oeddynt yn dymuno myned o fewn cylch yr hyn a alwent yn segur-swyddau, ac esmwythdra corfforol. Ystyrid addysg a llafurwaith yn rhy aml fel dwy elfen wrthwynebol, ac nad oedd yn ddichonadwy eu cyfuno. Rhyw fath o "ysgol bol clawdd" a gedwid mewn ambell i fan y pryd hyny. Sychai ei ffrwd i fyny yn yr hâf ac nid oedd yn rhedeg yn gref iawn hyd yn nod yn y gauaf. Nid oedd y meistr wedi ei dybied gan y cymmydogion i ddysgu neb yn mhellach nâ darllen ac ysgrifenu tipyn; ac ni byddai hwnw, feallai, ond hen filwr un-goes, un-fraich, un-llygeidiog, wedi newid y cleddyf a'r bidog am y wialen fedw. A hawdd dirnad mor annghymwys oedd y dosbarth yma i amcanu dysgu y meddyliau tyner i ddringo llethrau serth dysgeidiaeth, nad oedd ganddynt fawr ond gwroldeb a llymder at eu galwadigaeth newydd. Eto, er mor amddifad o fanteision addysg oedd yr hen bobl, ceid yn eu mysg gymmeriadau hynod—ambell un heb fedru gair ar lyfr, ond yn medru cadw cyfrifon amryw weithwyr am flwyddyn mewn llyfr yna yn galw am ei ysgrifenydd arferol i wneyd ei filiau i'w gwsmeriaid. Byddai hwnw yn deall llun y peth yma a'r peth arall, a'r pris ar bob peth am flwyddyn wrth ei ddyfeisiau gwladaidd, megis cyfri ceryg a phethau cyffelyb, rhicio neu ysgorio ar ddernyn o bren, a chyfrifid pum' score neu bum nôd yn tali (tally) sef pedair llinell yn sefyll yn syth, ac un yn groes iddynt. Yr oedd y prynwr a'r gwerthwr yn cadw bob un ei bren i nodi maint y nwyddau a'r pris, a byddai y ddau bren bob amser yn cyfateb, heb amryfusedd na bai, oddieithr i ambell siomedigaeth neu gamgymmeriad ddigwydd yn ddamweiniol, fel gyda rhyw hen fasnachwr anllythyrenog wrth wneyd cyfrif gydag un o'i gwsmeriad cymmydog o amaethwr, yr hwn oedd wedi cael cryn lawer o wahanol nwyddau ar goel ganddo, y rhai y dodid eu llun ar lawr yn ei lyfr, neu ar lechen. Wrth fyned dros enwau'r nwyddau oedd yr amaethwr wedi gael gan y masnachwr, dyma fe'n dyfod at rywbeth crwn fel O yn ei gyfrif, ac yn dweyd wrth yr amaethwr "cawsoch gosyn yr amser a'r amser." "Cosyn! na chefais i'n enw'r anwyl!" ebai'r ffarmwr. "Do, chwi a'i cawsoch yn sicr, mae ei lun genyf yma yn llawn—eglur," meddai'r siopwr. "Na chefais i'n wir, i ba beth y prynwn gosyn genych, a chenyf ddigon o gaws fy hun? Mi brynais faen llifo genych," ebai'r ffarmwr. "Och fi dyna fo; annghofio rhoi twll yn ei ganol wnaethum," ebai'r masnachwr. Rhyw ddull fel yna o gadw cyfrif llafur, masnach, neu daliad ardreth a arferid gynt. Hen oruchwyliaeth y degwm, o'r cae gwenith i lawr hyd at y cyw gŵydd, oedd mewn grym y pryd hwnw, a chryn arwr, yn anad neb, am gadw cyfrifon, fyddai prisiwr y degwm. Meddai gof cryf, a barn addfed am werth pob peth. Rhwymai ei geffyl wrth lidiard y cae ŷd, a cherddai ar ei draed drwyddo; dodai yn ei gof enw y cae, a nifer yr erwau ynddo, a pha faint i'r erw fyddai y cynnyrch, graddfa yr ŷd, ei bris, ac felly yn mlaen dros yr holl fferm. Wedi hyny, elai at fferm arall, ac arall, hyd yr hwyr, yna i arllwys cŵd ei gof i lyfr yr offeiriad. Cariai gynnwys pedwar neu bump o dyddynod—pob cae, pob grawn, pob erw, pob hobaid, pob twr o wair, pob oen, pob cyw gŵydd, a phob hwch, a faint o berchyll, heb un gair ar lyfr na medr i'w roddi; ac arllwysai ei gof bob nos, ac allan ag ef o ddydd i ddydd nes gorphen yr holl blwyf. Er ys oddeutu hanner can' mlynedd yn ol, gallai pob pentref a llanerch o'n gwlad ymffrostio yn eu cymmeriad gwreiddiol, yr hwn oedd yn arwr myrdd. o ystorïau difyrus, yn ffynnonell digrifwch, yn ganolbwynt y cwrw bach," neu'r neithior, ac yn brif atdyniad yn mhob man lle byddai. Ond y mae yn amheuthyn o'r mwyaf, yn yr oes ffugiol hon, gael gafael ar ambell un o'r hen bobl onest, dirodres, a diragrith, rhai na phetrusant ddywedyd y gwir yn blaen yn eich gwyneb, boed felus, boed chwerw. Ysywaeth, prin ac anaml ydyw pobl yr hen ffasiwn, ac y mae yn dra thebygol na cheir nemawr un yn yr oes nesaf a ddwg ei galon yn ei wyneb fel yn nyddiau ein hen gyndeidiau. Y mae yr hen gymmeriadau hyny—hen gymmeriadau gwreiddiol plant natur ein gwlad, yn cyflym ddarfod o'n tir, fel na cheir yn aros ond ambell i asglodyn o'r hen boncyff. Hwyrach mai i ddylanwad addysg y mae priodoli y ffaith hon, gan fod tuedd mewn addysg i unffurfio gwlad, a dwyn pawb megis i'r un safon; ac fel y byddo amser yn dirwyn i ben, a ninau ydym yn awr yn fyw, yn heneiddio, ac yn myned yn llai ein parch dadfeilio—a marw, felly y bydd i'r hen draddodiadau, cymun-roddion ein teidiau a'n neiniau, syrthio i ddinodedd ac anarferiad, fel na chodir hwynt ond gyda diflasdod a difaterwch.
Bu amserau, pan nad oedd digon o wawd yn nhrysordai cenfigen, i'w taflu ar y Cymry, ar eu hiaith, ar eu harferion, ac ar yr oll a berthynai i Gymru a'i phobl; ond erbyn hyn y mae amser gwell wedi gwawrio, ac y mae y genedl hon a'i gwlad wedi dyfod yn wrthddrychau, nid yn unig o sylw, ond o ymchwiliadau penaf Lloegr a'r Cyfandir. "Gan ein bod ni wedi dyfod yn wrthddrych sylw dysgedigion pob gwlad—ein iaith yn cael ei holrhain, ein hynafiaethau yn cael eu hegluro, ein hen draddodiadau yn cael eu nithio, a'r hyn oll braidd ag a berthyn i ni fel cenedl yn cael eu llusgo o ogofau tywyllion yr oesau ag ydynt wedi myned heibio; a chan fod y fath ddeffröad wedi cymmeryd lle yn mhlith estroniaid o'n plegid ni," y mae yn llawn bryd i ninau ddihuno o'n cysgadrwydd, er mwyn cadw dyledus gof am y pethau a fuont, heb betruso dim yn nghylch anhygoeledd unrhyw draddodiad, eithr eu cofnodi, bob rhyw a math, air am air, fel y clybuwyd y cyfryw o enau pobl yr oes o'r blaen, a'r ychydig sydd yn yr oes hon o rieni a hynafion briglwydion yr ardaloedd, yn cael hyfrydwch mewn adrodd y cyfryw i'w plant, ac i'r ambell un hvny a ddigwydd ymhoffi mewn cadw rhag colli hen weddillion yr oesoedd sydd wedi eu claddu.
PENNOD II.
YR ATHRONYDDOL.
NEWYDD wawrio y mae "Oes Rheswm " ar hanesiaeth a hynafiaethau Cymru. Bu genym ddigonedd o ysgrifenwyr yn ymwneyd a'r defnyddiau hyny; ond ymhonwyr annheilwng o ymddiried oeddynt. Yr unig wasanaeth o werth a wnaethant hwy oedd cofnodi a chadw chwedlau, brudiau, a thraddodiadau yr hen oesoedd. Yr hyn sydd eisieu yn awr yw beirniadaeth a wahaniaetha ffeithiau ein hanesiaeth oddiwrth chwedlau a thraddodiadau. Ymddengys eu bod yn gyfryw bethau ag y dylai gwyddonwyr ymdrechu cael allan yr hyn a ellir am danynt. Tra mae lliaws dros beidio rhoddi yr ystyriaeth leiaf i ofergoelion, ymddangosiad ysbrydion, &c., y mae ereill yn ceisio meddwl ai ni all fod i'r pethau hyn seiliau ar dir gwyddoniaeth.
Er mai anhawdd yw credu yn modolaeth ysbrydion, bwcïod, canwyllau cyrff, gwrachod y rhibyn, cwn bendith y mamau, a phethau eraill o gyffelyb natur—pethau wedi digwydd rai gweithiau nad oes un esboniad i'w roddi arnynt, ag yr adroddwyd am danynt gan bersonau call, a'u gair bob amser megis deddf. "Nid yw eu bod wedi cael eu profi yn helaethach gan yr oesoedd tywyll, neu gan bobl fwyaf anwybodus yr oes hon yn hytrach na phobl ddeallus, yn ddadl anwrthwynebol yn erbyn eu dilysrwydd, canys y mae gwareiddiad yn y cyfeiriad y mae wedi gymmeryd, gan gyfranogi o'r anianol yn fwy nag o'r ysbrydol wedi colli rhyw bethau pan yn ennill pethau eraill." Yr hen ffasiwn, fel y gwyddys, ydyw canmol pobpeth hen pethau yr oesau gynt. Yn ol y syniad hwn, yr oedd yr hen bobl yn byw yn hwy na ni yn yr oes bresennol yn fwy dyfeisgar—yn fwy gwybodusyn gallach ac yn gryfach. Y mae ysgol arall, yn dysgu mai y gwrthwyneb i hynyna oll sydd wirionedd. Fodd bynag, bod y naill oes yn elwa oddiar brofiad a gwybodaeth y llall, fel y mae yn y cyfeiriad hwn yn olyniaeth yr oesau yn amlwg i bawb. Ond yn ddiddadl, yr oedd a fyno ymborth cryf, maethlawn, ac iachus yr hen oesau ag adeiladu cyfansoddiadau grymus, a diameu fod gwychach dynion wedi eu magu ar fwyd syml y dyddiau gynt nag a fegir heddyw.
Bu trais, gormes, adfyd, a chwyldroadau amser, yn foddion i gau ein hen genedl i fyny am lawer o oesau yn nghell dywyll anwybodaeth; y pryd hyny, ychydig oedd yn gweled a deall pethau yn ngoleuni dysgeidiaeth, a'r sawl oedd felly, cyfrifid ef yn ddewin neu brophwyd cymhwys a medrus; felly, nid rhyfedd i gymmaint o ofergoeledd gael ei gredu gan yr hen bobl. Yn eu plith hwy, yr hen syniad oedd nad oedd dynion yn byw yn un man ond ar y ddaear hon; y ser a'r planedau yn ddim ond llusernau uwch ben i ddangos goleu. Wedi y daethpwyd i goelio eu bod vn fydoedd, ond bydoedd gweigion, fel tai segur. Bu amser pan y byddai diffyg ar yr haul yn ddychryn iddynt, a choelient fod y duwiau mewn ymrafael ofnadwy â'u gilydd, neu y byd ar ddyfod i ben yn herwydd rhyw anffawd neu drychineb. Tra yr oedd y wlad mewn cyflwr felly, yr oedd yn bur hawdd i unrhyw ymhonwr gael coel ynddi. Os byddai un yn cyflawni campau go annghyffredin, credid, gyda pharodrwydd mawr, fod y cyfryw un mewn cyngrair â'r "gwr drwg." Nid yw yr ysgol hygoelus hono eto wedi tori i fyny, canys ceir amryw yn cymmeryd ac yn cyhoeddi fel ffeithiau bethau nad oes seiliau digonol dros eu derbyn fel dim ond traddodiadau anmhrofedig ac annhebygol. Er i'r werinos, ac nid rhyfedd, fod yn dra esgeulus o ddysg a gwybodaeth. Er hyny, yr oedd ynddynt duedd ryfeddol i sylwi ar wrthddrychau diderfyn natur—ar anian ac arferion anifeiliaid, ehediaid, ymlusgiaid, pysgod, a phob math o goed a llysiau o'r dderwen gadarn—braff yn y goedwig hyd lysiau'r dryw ar ochr y clawdd. Gallu deall y deddfau hyn yn lled dda, a gweithredu mewn ufudd—dod iddynt, barai ddiogelwch i lawer rhag niweidiau oddiwrth wahanol hinsoddau allasent eu goddiweddyd o bryd i bryd. Yr oedd y tywydd o gymmaint pwys iddynt mewn gwlad a'i hinsawdd mor anwadal, fel yr oedd gofyn iddynt wneyd defnydd o bobpeth tuag at achub adeg i amddiffyn a diogelu eu daoedd a'u cynnyrch amaethyddol. Y mae yn wir y dywed hen air mai "Am y tywydd goreu tewi;" ond tewi yn hytrach nâ thuchan a feddylir; neu yn fwy nâ hyderu ar ddaroganau "y llyfrau bach "—yr Almanaciau, Y mae deddfau natur yn hollol anmhleidiol, yr un modd yr ymddygant hwy at yr hen ŵr fel y maban, y cyfoethog fel y tlawd, pan ddigwyddo y naill fel y llall fyned ar draws eu rheolau; ac y mae llawer o honynt yn gyfryw ag y mae eisiau astudio eu hystyr, eu cynnwysiad, a'u cyfeiriad, a'u dwyn i ymarferiad gan bawb, oblegyd
"Mae moroedd a mynyddau,
A rhai creaduriaid weithiau,
Yn dangos tywydd yn llawer gwell
Na llonaid cell o lyfrau."
Neu
"Mae moroedd a mynyddau,
A mil o hen gymalau,
Yn dangos y tywydd yn llawer gwell
Na llonaid cell o lyfrau."
Mae yr hin yn ymddibynu ar achosion fwy nâ mwy; gwir mai y lleuad sydd yn effeithio fwyaf ar y ddaear o barth yr hin; ond pan ddigwyddo y lleuad fod yn effeithio ar y ddaear i beri hin dda, bydd Gwener yn effeithio ar y lleuad i'r gwrthwyneb, ac yn effeithio hefyd yr un modd ar y ddaear, a chyda hyny odid y bydd Mawrth yn effeithio ar Gwener, Mercher yn effeithio ar Mawrth, Iau yn effeithio ar Sadwrn, Sadwrn yn effeithio ar Iau, a Iau yn effeithio ar y Lleuad, a'r Lleuad erbyn hyn, efallai, wedi colli ei heffaith yn llwyr o'r hyn y disgwyliasid iddi fod, pe buasai heb fod dan lywodraeth cynnifer o fydoedd; a phan ystyrir fod y ddaear o dan effaith y cwbl, mae y dyryswch, wrth reswm, yn rhwym o fod yn fawr, ac felly, nid rhesymol meddwl y gellid dywedyd i'r dim am y tywydd.
Nid oes braidd neb i'w gael y dyddiau hyn, a feiddia wadu nad yw y seryddwr yn alluogi ragfynegu cyfnewidiadau y planedau, flynyddoedd cyn iddynt gymmeryd lle; proffwydir i berffeithrwydd am ddiffygiadau yr haul, y lloer, a'r holl blanedau, yn nghyd a sefyllfaoedd cydberthynol, ar unrhyw adeg a ddewisir—eu codiad, eu machludiad, a phob nodweddiad priodol i'w cylchdreigliad. Nid rhyw fath o ddewiniaeth neu rodd oruwchnaturiol yw hyn, ond effaith cydnabyddiaeth â deddfau hanfodol y cyssawd heulog, yn nghyd a dealltwriaeth o'r modd y maent yn gweithredu, a'u cydberthynasedd y naill tuag at y llall.
Yr oedd yn lled naturiol i'r hen bobl gredu fod cyffelyb ddeddfau o ddoeth drefniad, yn gweithredu yr un mor ddilys a'r rhai a nodwyd, yn nghynnyrchiad cyfnewidiadau ereill o fewn dosbarth ein cyssawd. Os oedd codiad a machludiad, diffygiadau, a holl gyfnewidiadau y cyrff nefol, dan reoliad deddfau o fewn cyrhaedd amgyffrediad dynol, oni ddysgai tebygiaeth naturiol i'r werin dybio fod digwyddiadau symlach neu lai, megis mellt a tharanau, oerni a gwres, gwyntoedd, gwlawogydd, &c., yn dangos gweithrediadau deddfau naturiol? Os yw y fath ddeddfau yn bodoli, rhaid fod y gorchwyl o ragfynegu ansawdd y tywydd wedi ei brofi yn anwrthwynebol.
Y mae yn amlwg fod llawer o'r hen ddywediadau gwedi eu selio ar natur, wedi cyfodi oddiar brofiad a sylwadau ymarferol, megis natur yn taro natur, &c. Y mae tystiolaeth wirioneddol fod yr Iuddewon yn hyddysg iawn yn y rheolau hyn yn amser Crist; oblegyd yr oedd Crist yn ceryddu y Phariseaid, gan ddywedyd, "O! ragrithwyr, chwychwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ond ni fedrwch wybod y pethau a berthyn i'ch heddwch chwi a ddywedwch pan y byddo yr wybr yn goch yn y borau, y bydd gwlaw, ac fe fydd." Gwelwn fod Crist ei hunan yn cadarnhau ffaith y wybodaeth o'r pethau hyn. Yr oedd yn hen drigolion ein gwlad ninau hefyd archwaeth i sylwi ar natur, ac yr oeddynt yn gallu tynu cyflawnder o wybodaeth a syniadau o'i mynwes, a gellir ymddiried llawer mwy yn eu hen ddywediadau hwy nag yn amcan o'r hin" y crach Almanaciau diweddar, canys ffrwyth profiad a sylw oesau ydynt.
Ychydig wyddom ni yn y dyddiau hyn, mae'n wir, am gyflwr pethau ac amgylchiadau yn yr hen amser gynt, yn ystod y maith ganrifoedd a aethant heibio cyn dyfeisiad y cloc. Y pryd hwnw "Llathen Fair," yr "Arth Fawr,"
"Seren y Gweithiwr," a'r cyffelyb oeddynt fynychaf yn arwyddion i wybod yr amser yn mysg y dosbarth gweithiol, a phan fyddai yr wybr yn orchuddiedig gan gymmylau, atebai caniad y ceiliog, cyffro y cwn, neu aflonyddwch y plant, yr un diben. Tebygol mai'r amserydd cyntaf ydoedd polyn wedi ei ddodi ar ei ben yn y ddaear, ac y ceid rhyw amcan gyfrif o gerddediad amser wrth sylwi ar hyd a chyfeiriad ei gysgod; ac o hyn drachefn daeth yr arferiad i'r gweithiwr tlawd sefyll i fyny yn syth odditan yr haul—edrych yn mha le y byddai ei gysgod yn terfynu, yna mesur ei hyd â'i draed. fel y gallai, drwy hyny, wybod yn lled agos pa adeg ar y dydd fyddai. At yr arferiad yma y cyfeiria Job yn pen. vii. 2, pan yn dywedyd, "Megis y dyheua gwas am gysgod," &c.
Oddiar hyn, yn debygol, y tarddodd y deialau—deial yn agos i ddrws pob Eglwys, yn y fynwent, ac yn y pentref, os nad yn ymyl pob tŷ. Wedi hyny, gwnaed awr-wydrau y rhai a ysgogid gan dywod. Bu rhai hyn mewn arferiad am ganrifoedd, a gwneir llawer o gyfeiriadau at rediad ymaith y tywod. Nid oedd amser yn cael ei ranu mor fân ag ydyw er pan mae clociau mewn arferiad; nid oedd y gair awr, hanner awr, chwarter awr, a munyd mewn arferiad o siarad yn oesoedd boreu ein gwlad. Cyn hyny, nid oedd son am saith, wyth, naw o'r gloch, &c. Wrth y nos y rhifid amser, yn fwyaf neillduol—cyfrifid pedair nos ar ddeg y Saeson, pymtheg dydd y Ffrangcod, a phymtheg nos y Cymry yn eiriau cyfystyr o ran amser—yr un amser ddynoda y naill fel y llall. Pythefnos sydd ar arfer genym ni—nid pymthegnos. Y flwyddyn oedd y prif raniad, yna yr Albanau—Alban Eilir yn Mawrth; Alban Hefin yn nghanol yr haf; Alban Elfed yn Medi; ac Alban Arthan yn Rhagfyr. Gelwir y symudiad hwn yn "Bedwar chwarter y flwyddyn," gan y cyffredin, ac ystyrid dechreuad pob chwarter yn bwngc o'r pwys mwyaf rhwng y naill a'r llall, cyflwynid yn mlaen llaw argoelion gwybodaeth o bobpeth allasai ddigwydd o fewn cylch blwyddyn gron. Yn ymarferol, dynodid y pedwar chwarter wrth yr enwau Gauaf, Gwanwyn, Haf, Cynhauaf—y Gauaf yn dechreu y degfed dydd o fis Rhagfyr, y Gwanwyn yn dechreu y degfed o Fawrth, yr Haf yn dechreu y degfed o Fehefin, a'r Cynhauaf vn dechreu y degfed o Fedi. Rhenid y flwyddyn i ddeuddeg mis—rhif ffurfiant cylch y rhod, neu amser, fel y dengys y rhigwm canlynol,
"Y flwyddyn sydd yn dechreu
Fis Ionawr gwair i'r ŷch,
Mis Chwefror, Mawrth ac Ebrill
I ddal y brithyll brych;
Mis Mai, Mehefin hefyd,
Gorphenaf gydag Awst,
Mis Medi, Hydref, Tachwedd,
A Rhagfyr—cig ar drawst."
NODWEDD Y MISOEDD.
Y mis hwn—Ionawr, a enwyd oddiwrth Ianus, un o dduwiau y Rhufeiniaid; delw a chanddi ddau wyneb, ei theitl oedd gymhwys i ddydd cyntaf o'r flwyddyn, yn yr hwn yr ydym yn edrych yn ol ar y flwyddyn sydd wedi ei threulio, ac hefyd ar yr un sydd i ddyfod. Y mae i bob mis ei liw ei hun, ac i bob mis ei waith ei hun.
1 Mis Ionawr—myglyd dyffryn,
Blin trulliad, treigliad clerddyn,
Cul brân, anaml llais gwenyn,
Gwâg buches, diwres odyn.
2 Ionawr a dery i lawr.
3 Haul yn Ionawr, ni mâd welawr,
Mawrth a Chwefrawr a'i dialawr.
4 Ionawr wna y drwg, ond Mai gaiff y bai.
5 Ni chyfyd y tês yn Ionawr;
ond Chwefror a Mawrth a'i hymlid ymaith.
6 Myswynog yn mis Ionawr
Ni rydd gosyn melyn mawr.
7 Diwerth Gwanwyn yn Ionawr.
8 Ionawr—mis prinder bwyd.
9 Os y borfa dyf yn Ionor,
Gwaeth y tyf drwy'r flwyddyn rhagor.
10 Gwell gwel'd dodi mam ar elor
Na gwel'd hinon deg yn Ionor.
11 Ionawr—mis marw—mis du wedi'r Nadolig.
12 Os gwyliau fis Ionawr fydd hafaidd a hyfryd
Yr hin fydd auafaidd hyd wyliau Mai hefyd.
13 Os tyf porfa yn nechreu'r flwyddyn,
fe dyf lai yn mis Mehefin.
14 Tir dan ddwfr—prinder.
15 Tir dan eira—bara.
Gelwid eira yn "Faeth Ionawr." Y mae oerni Ionawr mor lesol ag awelon gwlithog Mai. Pan y byddo ansawdd yr hin yn dyfod mor oer a bod y llysiau yn mherygl dinystr y lleithder fyddo yn yr awyr a ddisgyn yn eira ar wyneb y tir, yn haen ar ol haen, dyma y fantell oreu i gadw bywyd yn y cynnyrch. Rhwystra yr awyr fyddo o dan, neu rhwng, haenau yr eira, i'r gwres ddiangc o'r ddaear, nac i oerni y wybren dreiddio i mewn iddi.
16 Gwanwyn yn Ionawr argoela flwyddyn
ddrwg
17 Os cân yr adar cyn Chwefror
hwy a gwynant cyn Mai.
18 A hauo'i geirch yn Ionor
A gaiff aur a phres yn drysor,
Ond yr hwn a hauo'n Mai
Gaiff wneyd y tro ar lawer llai.
1 Mis CHWEFROR, anaml ancwyn,
Llafurus pâl ac olwyn.
2 Chwefror chwerw—porchell marw,
Ond os bydd byw fe dry y derw.
3 Chwefror chwyth y neidr o'i nyth.
Mawrth cadarn a'i tyn hi allan.
4 Chwefror chwyth y 'deryn bach oddiar ei nyth.
5 Chwefror yspail cawr.
6 Ni saif eira fis Chwefror,
Mwy na rhynion mewn gogor.
Hefyd,
7 Ni saif eira fis Chwefrol,
Mwy nag wy ar ben trosol.
8 Os taranau yn Chwefror,
Bydd rhyfeddod yn yr haf.
9 Os yn Chwefror y tyf pawr,
Drwy'r flwyddyn wedi'n ni thyf fawr.
10 Mae pob mis yn y flwyddyn yn melldithio
Chwefror teg.
11 Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron.
12 Chwefror a leinw y cloddiau
A Mawrth a'i hŷf yn foleidiau.
13 Mis anlwcus—Mis y ceffyl.
14 Ceir oeraidd dymmor ar ddiwedd Chwefror..
15 Mae Chwefror yn gwneuthur pont, a Mawrth yn ei thori.
1 Mis MAWRTH—mawr rhyfyg adar,
Chwerw oerwynt ar dalar;
Hwy fydd hinon na heiniar,
Hwy pery llid na galar;
Pob rhyw arynaig a esgar;
Pob edn a edwyn ei gymhar;
Pob peth a ddaw trwy'r ddaear,
Ond y marw—mawr ei garchar.
2 Dyfod i fewn fel oen, a myned allan fel llew, neu i'r gwrthwyneb. Dyna yr hen gymmeriad a roddid am ganrifoedd i fis Mawrth.
3 Pan ddel mis Mawrth
Fe delir y pwyth
I'r ugain a'r wyth diwrnod.
4 Ni fyn Mawrth waith Chwefror yn tyfu.
5 Cas gardd heb lysiau.
6 Ceir llawer math o dywydd yn Mawrth.
7 Pen ci ar fore Gwanwyn.
Eto
8 Mawrth a ladd, Ebrill a fling,
A Mai fwyn i werthu'r crwyn.
9 Mawrth yn lladd, Ebrill yn blingo,
Rhwng y ddau, cawsom fod hebddo.
10 Ni saif eira fis Mawrth
Mwy na menyn ar dwymyn dorth
11 Mal eiry Mawrth ar ben maen.
12 Mawrth sych ni chardota ei fara.
13 Mawrth sych, Ebrill cawodog, a Mai tyner
arwyddant haf iachus.
14 Mawrth oerllyd a gwyntog ac Ebrill cawodog,
Ill dau a wnant rhyngddynt Fai teg a godidog.
15 Y mae pegaid o lwch Mawrth yn werth ei bwysau
o aur, am y try oerwynt Mawrth ar dalar y llaid
yn llwch mewn pedair awr ar hugain.
Hefyd,
16 Y mae pegaid o lwch Mawrth yn gydwerth â
phridwerth neu bris gollyngdod brenin.
17 Gwell ffiolaid o lwch Mawrth na phegaid o aur.
18 Y mae llon'd gwniadur o lwch Mawrth yn werth
arianswm.
19 Niwl Gwanwyn, gwasarn irfrwyn.
20 Niwl Gwanwyn, gwasarn gwynt.
21 Niwl Gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.
Hefyd,
22 Gwynt gwanwyn, gwaeth na gwenwyn.
23 Gwanwyn cynar, hâf garw.
24 Gwanwyn a gawn, logell yn llawn.
25 A arddo a: eira, a lyfno ar wlaw,
A fed yn hir heb lon'd ei law
Neu,
Ni chaiff hwnw ddim ond baw.
26 Nid ar redeg y mae aredig.
27 Amlaf ei gwys, amlaf ei ysgub.
28 Oni hauir ni fedir.
29 Gwell haner had na haner haf.
30 Y cyntaf ei ôg, cyntaf ei gryman.
31 Tra rhedo yr ôg, rhed y ddraen-glwyd.
32 Gwlybaniaeth yn yr ôg, chwyn yn y cryman.
33 Mawrth gwlyb a wna Awst prudd.
34 A drino erddi, a fyddo garddwr;
A blân ar wlyb, a hau ar sychdwr.
35 Os yn Mawrth y tyf y ddôl, gwelir llawnder
ar ei ol.
36 Mawrth yw mis y dail.
37 Gwanwyn oer, ysgubor lawn.
38 Gwynt mis Mawrth a haul mis Mai,
A wna hagr lle na b'ai.
39 Gwynt Mawrth a haul Mai
Wnant ddillad yn wynion a merched yn winneu.
Hefyd,
40 Gwynt mis Mawrth a haul boreuau,
Wna'r forwyn wèn yn forwyn winnau.
41 Gwyntoedd Mawrth, cawodydd Ebrill, ddygant allan flodau Mai.
42 Bydd aml i grebyn farw'n sydyn fis Mawrth.
43 Gwanwyn, blin i'r march a'r ych.
44 Boreu du o Wanwyn, prydnawn teg.
45 Pob aderyn a gân cyn Gwyl Fair, a wyla'n hidl cyn
Calanmai.
46 Os braf fydd foreu ddydd Gwyl Fair
C'od yn foreu i brynu gwair.
Hefyd,
47 Os bydd yn deg foreu Gwyl Fair,
Gwerth dy glôg i brynu gwair.
48 Bu weithiau heb auaf, ni bu erioed heb wanwyn.
49 Mor sicr a Mawrth yn y Grawys.
50 Llawn cystal gan Ianto roi'i wraig yn y ddaear,
A bod Dy'gwyl Fair yn hyfryd a chlauar.
51 Hir wanwyn wedi'r Pasg
Y sydd yn gâs gan borthwr.
Hefyd,
52 Hir wanwyn wedi'r Pasg a wna y dâs yn gileyn.
Mae Sul y Pasg bob amser y cyntaf ar ol cyhydedd y gwanwyn; felly nis gall fod yn gynt na Mawrth 22ain, nac ar ol Ebrill 25ain.
53 Hir ddydd o wanwyn a sych dri sychiad sach.
(Mae sychu mawr ar sach).
54 Prydnawn hir o Fawrth a borau hir o Fai.
Mawrth y blaned sydd wedi rhoi ei henw i'r ddau Fawrth arall y mis a'r diwrnod, ac yn ol yr hen ddewiniaid gwae y plant a enir y mis hwn. Gelwid ef hefyd yn fis y Gwanwyn, neu y mis ystormus, o herwydd y gerwinder a'r ffyrnigrwydd a'i hynodant. Efe, yn ddiau, yw y gwrolaf o fisoedd y flwyddyn. Pan y byddo galluoedd y Gauaf wedi gwarchae ar Natur, gwelir Mis Mawrth—y Mis rhyfelgar, fel ei gelwid weithiau, yn symud yn mlaen i ryddhau Natur o'i afaelion llym a haiarnaidd. Yr oedd ein hynafiaid yn dechreu y flwyddyn yn gyffredin yn y mis Mawrth, ac yn cyfrif y 25ain o hono yn hanner y gwanwyn —pen tymmor yr amaethwyr; eithr yn wastadol yn ddiwrnod mwyaf yn nghronicl y wlad hon, o herwydd ei fod yn ddydd y notice to quit—byddid dan ei ofn, fel dan ofn marwolaeth yr holl amser hwnw, ac ni byddid yn gallu anadlu yn rhydd hyd wedi chwech o'r gloch yn yr hwyr, heb son am y pryder oedd fel hunllef yn rhagflaenu y cyfryw adeg. Erbyn hyn, yr holl sylw delir iddo, fel rheol, yw pa fodd y daw i mewn ac yr â allan —ni sonir, fel gynt, am yr adegau neillduol i hau—y tridiau olaf o Fawrth a dau lygad Ebrill, neu dridiau yr aderyn du, a thri llygad Ebrill, sef y dyddiau olaf o Fawrth a'r dyddiau cyntaf o Ebrill, yn ol yr hen gyfrif. Byddai yn Wanwyn hyfryd yn nechreu Ebrill—y ddaear yn adfywio, y maesydd yn glasu. Clywid y gôg yn nechreu Ebrill yn canu yr haf i mewn, ac enciliad sawdl y gauaf o'r golwg.
1 MIS EBRILL,—wybraidd gorthir,
Lluddedig ychen, llwm tir;
Gnawd osb er nas gwahoddir;
Gwael hydd, chwarëus clust hir.
2 Ffals ydyw Ebrill.
3 Ebrill a fling.
4 Ebrill garw, porchell marw.
5 Ebrill sych, pob peth a nych.
6 Ni saif eira fis Ebrill
Mwy na rhynion mewn rhidyll.
7 Tra bo'r borfa'n tyfu bydd marw march.
8 Pan syrthio'r Pasg cyn cyfarch Mair,
Bydd enllyn drud ar ŷd a gwair.
9 Ebrill oer a lanwa'r ysgubor.
10 Ceir llwydrew cyn fynyched ar ol y Pasg
ag a fo niwl yn mis Mawrth.
11 Gwlybyn a gwres yn Ebrill a wna i'r ffermwyr
ganu.
12 Gwyn ein byd os Ebrill mwyn
A wisg y llawr a gwrysg y llwyn.
13 Ebrill mwyn gwlych lwyn, sych lwyn.
14 Clauar hynod ambell gawod.
15 Yn mis Ebrill bydd llon llygaid brithyll.
Hefyd,
16 Ebrill yw mis y blodau.
17 Ebrill rhywiog, ddaw'n feichiog o deg flodau.
18 Tra rhedo yr ôg, rheded y freuan.
19 Hau yn gynnar, medi'n gynnar.
20 Os y dderwen ddeilia gynta',
Haf a sychder a ganlyna;
Os dail yr onen gyntaf welir,
Mae haf gwlyb yn eithaf sicr.
21 Pan y gwelech ddraenen wèn
A gwallt i phen yn gwynu;
Mae hi'n gynhes dan'i gwraidd,
Hau dy haidd os myni.
22 Os bydd y ddraenen ddu yn wych,
Hau dy dir os bydd yn sych;
Os y ddraenen wen fydd wych,
Hau dy dir, boed wlyb, boed sych.
23 Yn Ebrill daw y gôg.
Hefyd,
24 Yn Ebrill y gwcw a ddengys ei phig.
25 Amser y gwcw yw Ebrill a Mai,
A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai.
26 Mis cyn C'lanmai cân y cogau,
Mis cyn hyny tŷf briallu.
27 Os cân y gôg ar ddraenllwyn llwm,
Gwerth dy geffyl a phryn bwn.
Hefyd,
28 Os cân y gôg ar bren llwyd,
Gwerth dy farch a phryn fwyd.
Eto,
29 Os cân y gôg ar bren llwm,
Gwerth dy gôb a phryn ddegwm.
Y syniad yn y ddwy linell yna yw, fod gwanwyn llwm yn golygu haf toreithiog i'w ddilyn, ac felly, mai elw i ddyn fuasai gwerthu hyd y nod ei gôb er prynu degwm, yr hwn, gynt, a osodid ar gyhoedd.
30 Cywion gwyddau ac ebol bach,
Pa'm ddaw Calanmai bellach?
Yn y maes, yr helygen sydd yn addaw haf gyntaf yn llawn o flodau, a elwir yn gywion gwyddau." Mor briodol yr enw. Tebycach ydynt i gywion gwyddau nag i ddim arall. Hefyd gwnant eu hymddangosiad tua'r un amser. Byddai amaethwyr yr hen amser yr adeg yma o'r flwyddyn yn llongyfarch eu dâ fel hyn:
31 Bydd fyw eidion, bydd fyw.
Wele'r filfriw.
Pan welid y filfriw, neu fywyd yr ŷch, fel ei gelwid, yn dair modfedd o hyd, troid yr eidion du allan i fyw, gan ei gyfarch yn awgrymiadol, heb fanylu, a'r ymadrodd "O! anifail, paham y byddi farw a thi yn gweled y "filfriw?"
1 MIS MAI, difrodus geilwad,
Clyd clawdd i bob digariad;
Llawen hen diarchenaid,
Llafar côg a bytheiad.
2 Mai a gwyd y galon.
3 Cas gan Fai i Ebrill dyfu.
4 Blodau cyn Mai, gorau na b'ai.
Hefyd,
5 Llawer o flodau cyn Mai,
Wna'r afalau a'r eirin yn llai.
6 Gwlaw mis Mai, gorau na b'ai.
Hefyd,
7 Gwlaw yn Mai sy'n fara trwy'r flwyddyn.
8 Daw cawodydd mis Mai fel y llanw a'r trai.
Credid fod gwlaw Mai yn feddyginiaeth anffaeledig at ladd llau anifeiliaid, a chredid hefyd fod y gwlaw cyntaf yn Mai yn dda i iachau llygaid dolurus. Ereill a'i cyfyngent i Ddydd Iau Dyrchafael, gan ofalu, pe y digwyddai wlawio ar y dydd gwyl hwnw, am gadw y dwfr mewn potel, a'i ddefnyddio fel meddyginiaeth at lygaid dolurus, a'i alw yn "Ddyferion Mai."
9 Mai gwlybyrog gantho cair,
Llwythi llawn o ŷd a gwair.
10 Boreu hir o Fai.
11 Cwcw Galanmai—cosyn dimai.
12 Galanmai mae cyfrif hesbyrniaid.
13 Bydd fyw march a bawr wellt Mai.
14 Mai oer a fydd yn iach ei ddydd,
Yn argoei haf heb fawr yn glaf.
15 Awel oer mis Mai ni wna'r cnydau ddim llai.
16 Nid yw Mai cer yn cyfoethogi neb.
17 Mis Mai oer a wna'n ddi nag
Ysgubor lawn a mynwent wâg.
18 Mai cer a wna ysgubor gynhes.
19 Mai gauafaidd wna flwyddyn weddol.
20 Haid o wenyn os yn Mai ei cair
A dâl lwyth wyth ŷch o wair.
21 Cathod mis Mai yn cario nadroedd gylch y tai.
22 Diwedd Mai, nid diwedd gofid.
1 MIS MEHEFIN, hardd tiredd,
Llyfn môr, llawen maranedd,
Hirgain ddydd, heini gwragedd,
Hir-lawn praidd, hyffordd mignedd.
2 Mehefin llawen gorsing.
3 Mis Mehefin gwych os daw
Peth yn sych a pheth yn wlaw.
4 Gwlaw Mehefin, cynnydd yr egin.
5 Ni chêl drygdir ei egin.
6 Na feia ar dy egin cyn diwedd Mehefin.
7 Tri pheth a gynnydd ar wlaw,
Gwlydd ac ysgall ac ysgaw.
8 Tri pheth a ffynant ar wrês,
Rhedyn a gwenyn a mês.
9 Gwenau Mehefin alltudiant bob dryghin.
10 Yd yn ehedeg cyn Gwyl Ifan a fedir yn Awst.
11 Na chwsg Fehefin rhag rhew fis Ionawr.
1 MIS GORPHENAF,—hyglud gwair,
Taer tês, tawddedig cesair.
2 Yr ail o Orphenaf os gwlaw fydd yn disgyn,
Bydd gwlaw am fis cyfan rhyw 'chydig yn dilyn.
3 Gwenwyn llin i'r march a'r ŷch
Mis Gorphenaf na bo sych.
4 Llwm a thlawd ar gyfer Gauaf,
Yw haid o wenyn yn Nghorphenaf.
5 Haid o wenyn yn Ngorphenaf,
Had rhedynen ei phris penaf.
6 Da haid Mehefin os da'i hoen;
Am haid Gorphenaf ni ro'wn ffloyn.
7 Gorphenaf—llawen buarth.
8 Erioed ni welwyd yr ia
Ar ffynnon fis Gorphena'.
9 Tes Gorphenaf—ydau brasaf.
10 Y mae tymhestl Gorphenaf,
Yn ddrwg ar les cynhauaf;
Cyweiriwch wair a chludwch,
Rhag ofn gwlaw, nac oedwch.
Ar dymmor trwm gnydiog o wair, erchid am "roddi dau dro o amgylch y garnedd," yr hyn a olygai y byddai y gwair yn brin; ond os ysgafn fyddai y gwair, mai "ofer rhoddi mwy nag un tro o amgylch y garnedd."
1 MIS AWST,—molwynog morfa,
Llon gwenyn, llawn modryda.
2 Awst, llawen gwr y tŷ.
3 Dechreu Awst niwliog, diwedd tesog.
4 Awst os ceir yn anian sych,
Wna i Gymro ganu'n wych.
5 Ni bydd tatws yn eu grym nes cael gwynt Awst.
6 Ni thyf haidd ddim wedi iddo ehedeg.
7 Mis Awst, y bladur ar y trawst.
8 Awst a lanwa y gegin, a Medi y seler.
9 Nid yw Awst gwlyb byth yn dwyn newyn.
10 Mis Awst, os bydd yn hindda,
Ni wna niwed i'r cynhaua';
Ac ar ol cynhauaf ŷd,
Meddwn lafur wydna'i bryd.
11 Cawl Awst.
12 Tri lli' Awst.
13 Son am Awst wyliau'r Nadolig.
Hyny yw, pan yn rhy ddiweddar. Nid oes gan lên gwerin ond ychydig i'w ddywedyd am y mis hwn.
1 MIS MEDI,—mydr anghenion,
Addfed oed yd ac aeron;
Gwell gwaith cryman na bwa,
Amlach dâs na chwareufa.
Os na wlawia ar y dydd cyntaf o Fedi, bydd yn debyg o fod yn sych tra parhao y cynhauaf.
2 Hanner Medi'n sych a wna
lyn-gell lawn o gwrw da.
3 Medi, llawen adar.
4 Niwl cynhauaf, gwasarn gwlaw.
5 Trymion gnydau, gwlyb gynhauaf.
6 Cnau bôn y goeden, eirin brig y pren.
7 Po hynaf y rhyg, tebycaf i'w dad.
8 Hawdd medi erw anghenog.
9 Hawdd rhifo ysgubau ar faes gwr diog.
10 Gwae oferwr yn nghynhauaf.
11 Haf oer, gauaf cynhes.
12 Ni adawodd haf sych newyn erioed ar ei ol.
13 Hinon heddwch a wna bob tymmor yn haf.
14 Mor fin-gauad a llyffant fis Medi, neu lyffant y
cynhauaf.
Os gwlyb y cynhauaf, prin ffrwythau'r coed y flwyddyn ddilynol. Os poeth y cynhauaf, crebachlyd ac ysgafn y cynnyrch. Boreu niwliog ddechreu y cynhauaf, a ddilynid yn gyffredin â phrydnawn gwresog.
Yr oedd gan yr hen bobl eu Lleuad Fedi, Lleuad Gynhauaf, Lleuad naw nos oleu, fel ei gelwid. Yn nghylch adeg y cyhydedd cynhauaf, tua diwedd mis Medi, pan fo y lloer yn llawn, bydd yn codi ar fachludiad haul dros lawer o nosweithiau dilynol, drwy yr hyn yr estynir y dydd, megis, a hyny pan y bo rheitiaf wrtho o un adeg o'r flwyddyn—yn mis goreu y flwyddyn, mis llenwi'r ysguboriau, &c. Bydd y lleuad hon mor ddisglaer fel y gellir yn hawdd ddarllen wrth ei llewyrch, a phob tŷ a thwmpath yn taflu eu cysgodion fel y gellir mesur eu hymylau. Yr oedd ganddynt hefyd eu "dyhirog," sef eu lleuad newydd, yr hon a olygai dywydd garw yn ystod y mis; ac a ddiarebid ganddynt, yn y cymmeriad
15 Nid hir yr erys dyhirog heb ymddangos.
16 'Sgrympiau Gwyl Grog, neu Ddrycin y Cyhydedd.
1 MIS HYDREF,—hydraul echel,
Chwarëus hydd, chwyrn awel.
2 Hydref llon cyfarwar.
3 Hydref teg wna auaf gwyntog.
4 Amser casglu ydyw'r Hydref
Pob rhyw ffrwythydd tuag adref.
1 MIS TACHWEDD,—tuchan merydd,
Brâs lydnod, llednoeth coedydd.
2 Tachwedd—dechreu'r galar.
3 Calan gauaf garw hin, annhebyg i gyntefin.
Y mis du y galwai yr hen bobl y mis hwn. Ar y 13eg o hono y byddent ar eu gwyliadwriaeth i edrych am y ser yn syrthio. Tybient mai o tewychu yr oedd y gair Tachwedd yn deilliaw; y byddai yr hen Gymry yr amser hwnw ar y flwyddyn yn lladd y moch, a'r ychen, a'r defaid, a fyddent wedi tewychu, yn gig erbyn y gauaf; mai dyna'r mis y byddai'r anifeiliaid dewaf, yn enwedig y moch, ar ol eu pwyntio ar fes y derw—y byddai gwyl yn cael ei chynnal pan fyddai'r moch yn cael eu hel o'r coed adref i'w lladd; ac mai i'r wyl hono y perthynai yr hen gân, Hob y deri dando.
1 MIS RHAGFYR,—byrddydd, hirnos,
Brân ar egin, brwyn ar ros;
Tawel gwenyn ac eos.
2 Rhagfyr, gocheler ei fâr.
Credid fod taranau yn y mis hwn yn argoel o dywydd teg, ac y gellid bod yn ddiogelach oddiwrth niweidiau mellt os o fewn canllath i dderwen.
Gelwid Sul byraf y flwyddyn yn "ddydd Sul du bach."
Os deil y rhew bwysau dyn cyn y Nadolig, ni ddeil bwysau llygoden ar ol hyny.
3 Tair nos, oes llwydrew.
4 Erthylu y gauaf. [Ei ddyfodiad cynnarol.]
5 Gauaf cynnar, hir y trig.
6 Niwl gauaf, arwydd eira.
Hefyd,
7 Niwl gauaf, gwas y rhew a'r eira.
Eto,
8 Niwl gauaf, gwasarn eira.
9 Oer yn rhewi, oerach yn meirioli.
Ystyrid gauaf oer a sych yn iachusol, gauaf clauar a gwlyb yn afiachus, ac yn elyn i'r llafurwyr. Byddai ychydig o eira yn dra derbyniol, am y bernid ei fod yn llesoli yr ŷd. Dyferion gwlaw yn aros hyd goed ydoedd argoel o eira ar y mynyddoedd.
10 Taranau yn Rhagfyr arwyddant dywydd teg.
11 Gauaf glas, cynhauaf brâs.
Hefyd,
12 Gauaf glas, mynwent frâs.
Eto,
13 Gauaf gwlyb, mynwent lawn.
14 Cawn wlaw ac oer farug,
Daw plygain Nadolig.
15 Nadolig gwyrdd, Pasg gwyn.
Bernid fod y deuddeg diwrnod ar ol y Nadolig yn fynegiadol o'r tywydd am ddeuddeng mis y flwyddyn; fel y byddai y naill, felly y llall.
16 Y dyddiau duon bach.
(Dyddiau byrion diwedd blwyddyn).
17 Na ddywed ddrwg am y flwyddyn
nes dyfod at ei therfyn.
18 Blwyddyn o eira, blwyddyn o lawndra.
19 Blwyddyn wleb a wna ysgubor lawn,
nid o ŷd ond o wellt.
20 Blwyddyn egfaenog,
blwyddyn arianog.
[Egfaenog=grawn drain gwynion.]
21 Blwyddyn gneuog, blwyddyn leuog.
RHIFEDI DYDDIAU DEUDDENG MIS Y FLWYDDYN.
Tri deg sy'n mis Ebrill a Medi heb weddill,
A Thachwedd er cynnull ei bennill i ben;
Mehefin fis hyfryd'r un gyfrif mae'n gym'ryd,
I eraill un arall a rifen.
Ond Chwefror fis chwerw dau ddeg ag wyth hoyw,
A gymmer i lanw rwy'n bwrw er budd;
Ond Blwyddyn Naid hynod myn chwaneg un diwrnod,
Yn barod i'w bennod ef beunydd.
Wyth gan mil o stil oes dyn—mynedus,
Yw munydau'r flwyddyn;
Trigain ag wyth hoywlwyth hyn,
At ragor pymtheg trigyn.
Nid oedd ar yr hen bobl eisiau hin-wydr o gwbl, canys yr oedd lliw yr awyr, ar adegau neillduol, yn arweinydd iddynt, lliw a ffurf y cymmylau yn arwyddion pwysig, a gwyddent wrth y gwynegau yn eu cyrff, ysgogiadau y own a'r cathod, yr adar, y moch, a'r ceffylau, ac agos bob peth arall, pa dywydd a ddilynai, ac a lesolai y gwahanol greaduriaid. Credent fod pob creadur dan "iau caethiwed" yr hin—fod yr haul, y lleuad, neu yr arwyddion yn effeithio ar droed, gàr, coes, clun, braich, bron, trwyn, &c. Credent, nid heb reswm, fod gwynt o werth mawr i ffrwyth tirfod gwynt y dwyrain yn sychu mewn awr gymmaint ag a wna gwynt y de mewn pedair awr—fod gwynt gogledd-ddwyrain yn sychu mewn awr gymmaint ag a wna gwynt y de mewn tair awr— fod gwynt gogledd a gwynt gogledd-orllewin yn sychu cymmaint mewn awr ag a wna gwynt de a gwynt de-orllewin mewn dwy awr; ac felly, mai gwynt de a de-orllewin oedd a lleiaf o sychder ynddynt, a thrwy hyny yn oreu tuag at gynnyddu ir-naws a chwanegu tyfiant pob rhyw lysiau.
ARWYDDDION ODDI WRTH YR HAUL, Y LLOER, Y SER, &c.
Yn mherthynas i amrywiol ymddangosiadau yr Haul, y Lloer, y Ser, neu unrhyw ymddangosiadau wybrenol ereill, y penaf yw yr haul, yna y lloer, ac ereill o'r ser gwibiog; neu'r planedau.
Os bydd yr haul ar ei godiad yn ymddangos yn goch neu wanaidd, ac wedi hyny yn dywyll, neu yn orchuddiedig gan gwmmwl du dyfrog, mae gwlaw yn agos; neu, os bydd ei belydr yn ymddangos cyn ei godiad, neu gylch dyfrllyd megis yn ei amgylchu yn y boreu—os nad yn diflanu yn fuan, neu os bydd yn ymddangos yn banylog, neu gymmylau cochion a duon o'i amgylch ar ei godiad. Os bydd ei ymddangosiad ar ei godiad yn fwy llydan a chwmpasog nag arferol, neu os bydd yn codi â chylch llwyd-las o'i amgylch, ac yn llewyrchu neu yn tywynu yn wan, mae hyny yn golygu gwlaw, yn gystal a bod pyst dano, neu golofnau cyffelyb yn saethu oddiwrtho. Os bydd ei fachludiad yn ddisglaer a choch heb gymmylau duon yn agos ato, golyga hyny dywydd teg neu rew; ond os bydd yn machlud dan gwmmwl dudew, golyga hyny fod gwlaw yn agos.
Yr un rheolau ag a wnant y tro mewn cysylltiad â'r haul, a briodolir hefyd i'r lloer. Os ymddengys un cylch ogylch iddi, a bod lliw du yn ei chanol, mae hyny yn rhagfynegu gwlaw, ac weithiau eira yn y gauaf a'r gwanwyn; ond os bydd chwaneg nag un cylch yn ymddangos, maent yn argoeli agosrwydd gwyntoedd a thymhestloedd. Hefyd, os bydd ei chyrn yn ymddangos yn bŵl neu yn fyrion ar bwynt adeg y newid, golyga hyny dueddrwydd i wlybaniaeth; felly hefyd os bydd ei hanner yn ymddangos yn gliriach yn adeg y llawn, pan y bo yn newid ger y "twr ser" Medi y 15fed. Os bydd yn ymddangos yn goch, golyga hin wyntog; ond os yn ddisglaer ac eglur, tywydd teg.
"Crefiwch wawr o fawr i fach,
Y lloer lâs llawer a wlych,
Llid a gwynt yw'r lleuad goch,
Y lloer wen sy anian sych.
Mae weithiau yn digwydd fod megis dwy neu. dair o leuadau yn ymddangos ar unwaith, yr hyn a ddigwydd, yn gyffredin, ddeuddydd neu dri ar ol y llawn—arwyddion ydynt o wlaw a gwynt. mawr, a thywydd afrywiog i barhau dros hir amser, Yr un ddychwaen y sydd yn dilyn yr hyn a elwir Cyw haul, yr hwn a ystyrid yn rhagflaenydd blinfyd neu ddifrod mawr.
Rhoddid hyder mawr ar godiad, machludiad, ac ymddangosiad y ser sefydlog; ac ar hyny y byddai y prif reolau yn nghylch hau, medi, &c., yn ymddibynu. Os bydd un o'r ser mawrion yn ymddangos fel pe bae gylch o'u hamgylch, neu megis yn gwreichioni, neu yn fwy nag arferol, neu yn lled dywyll, neu yn anamlach, gellir bod yn lled sicr o wlaw. Pan fo goruchion hefyd i'w gweled fel ser yn ehedeg yn yr wybr, gellir bod yn lled sicr o wynt o'r cyfeiriad hwnw.
ARWYDDION GWYNT.
Mae gwyntoedd yn dwyn amryw gyfnewidiadau yn yr awyr, yn y dwfr, yn nghyrff dynion, anifeiliaid, &c. Arwyddion o wynt ydynt, cymmylau creigiog yn symmud yn araf, cymmylau ysgrythr-walltog, cymmylau ac wybr goch yn y boreu; cymmylau yn cerdded tua'r haul, yn gorphwys megis ar yr haul yn ei fachludiad, yn ehedeg yn araf ar ddiwrnod clir, yn mwyhau neu yn ymddangos yn ddisymwth, tua'r wybr mewn manau ereill yn glir, yn ymddangos yn uchel iawn, ac yn rhesau gwynion teneuon, fel cnuoedd o wlan neu gynffonau ceffylau; darn fechan o'r enfys yn ymddangos, neu ei bod o liw coch, tanbaid, ar ol gwlybaniaeth; taranau heb fellt; goruchion, a elwir yn gyffredin ser yn syrthio, yn llamu neu yn saethu yn yr awyr; y môr yn chwyddedig ar dywydd teg: rhyw drwst neu si mewn môr a choed; tân yn llosgi yn wan, gan sio fel gwynt; fflam tân neu ganwyll yn chwareu fel pe mewn gwynt; plygiad fflam glo, a'i waith yn taflu mwy o ludw nag arferol; cigfranod yn ehedeg yn uchel, neu yn curo eu hadenydd wrth ehedeg; gylfinhir yn ehedeg i gyfeiriad y gogledd; cathod yn llyfu eu blew yn erbyn y graen, neu yn golchi eu gwynebau dros eu clustiau, neu yn eistedd a'u cefnau at y tân, neu yn chwareu hyd y tai, neu yn crafu clustogau, carpedi, a phethau ereill perthynol i ddodrefn tai—o hyny y tardd yr hen ddywediad, "Mae'r gath yn codi'r gwynt."
Yr awyr, ar ol bod hir amser yn lâs a siriol yn dyfod yn bruddaidd ac yn frith o fân gymmylau, tebyg i wyrddni y môr, hefyd yn goch yn y borau; ei bod yn glwstwr o gymmylau gwynion, yr hyn a elwir yn draeth-awyr; cymmylau yn ymddangos yn debyg i gnuoedd gwlân, yn gauedig, ac yn dewion tua'u canolau, a'u hymylau yn bur wynion, tra yr awyr o'u hamgylch yn ddisglaer; cymmylau duon bychain yn ymddangos yn y prydnawn; cymmylau gloewon, gleision, neu wyrddion, yn ymddangos yn agos i'r haul ar unrhyw adeg o'r dydd, neu i'r lleuad yn y nos; cymmylau fel tyrau neu gnufiau gwlân tua'r de a'r gogledd-orllewin; cymmylau ar ddull pysgod yn y gorllewin ar fachludiad haul, yn neillduol os o arddull creigiau, neu dyrau â phenau gwynion; cymmylau yn uchel iawn, ac yn symud yn ngwrthwyneb y gwynt, neu yn groes i'r cymmylau a fyddo is na hwynt; cymmylau fyddo yn symud gyda'r gwynt, gan ddyfod yn sefydlog pan ddelont i'r pwynt o'r awyrgylch a fyddo yn y gwrthwyneb i'r gwynt; gwynt yn symud yn fynych; hir chwythu o'r deau; llawer o lwch yn codi gyda throwynt; yr enfys yn ymddangos yn wyrdd; dwy enfys yn ymddangos, yn neillduol, yn wyrddlas.
Enfysau ddechreu'r lleuad,
Gwlaw hyd i'w diweddiad.
Enfys y borau, aml gawedau,
Enfys prydnawn, tegwch a gawn.
Pan gollir gwlaw o'r Dwyrain y daw.
Goleu fwrw, cais dy glôg.
Coch i fyny, teg yw hyny;
Coch i lawr, gwlaw mawr.
Barug cyn nos, gwlaw cyn dydd.
Mellt heb daranau, yn enwedig, os o'r gogledd-orllewin; niwl ar y bryniau heb ddim yn y dyffrynoedd; niwl neu darth yn codi allan o lynau ac afonydd, ac yn esgyn hyd benau y bryniau; ewyn yn ymgrynhoi hyd yr afonydd; pistylloedd a rhaiadrau yn anfon i lawr eu llafar; dail coed yn troi megis tu gwrthwyneb allan; coed, cyrs, neu wellt yn swnio ar ychydig wynt; coed yn chwyddo ac yn lleitho; ceryg, dodrefn, halen, a pharwydydd yn lleitho; chwyn y môr, er yn hongian mewn lle sych, yn lleitho; cig moch yn dyferu; penwaig yn ymroi mewn halen; huddugl yn syrthio mwy nag arferol; tân yn llosgi yn oleuach; cylch o amgylch canwyllau; hen aelodau clwyfus, ysigdod, a chyrn ar draed yn dolurio mwy nag arferol; clychau i'w clywed megis yn mhellach nag arferol; dorau yn anhawdd eu cau a'u hagor; gwartheg ac ychen yn pori yn foreuach ac yn fileiniach na'u harfer, neu yn edrych tua'r wybren, ac yn ffroeni, neu yn gorwedd ar yr ochr ddeau; ceffylau yn estyn eu gyddfau ac yn sawru yr awyr â ffroenau llydain; asynod yn lleisio fwy nag arfer; defaid yn pori a'u penau yn groes i'r gwynt, neu ynte yn rhedeg a neidio, fel pe yn ymladd â'u gilydd; geifr yn fwy afreolus nag arferol; moch yn anesmwyth, yn rhochian yn uchel, ac yn cario gwellt i'w cytiau; cwn yn udo, neu yn fwy llonydd a thrymaidd, ac yn gwrthod bwyd, ond yn pori glaswellt; cathod wedi colli eu ffyrnigrwydd, ac yn aros yn y tai, neu yn golchi uwchlaw eu clustiau chwith â'u pawenau; llyffaint, os yn felyn-ddu, yn neidio o gyfeiriad y môr; llygod yn fwy aflonydd nag arferol, ac yn gadael y caeau a'r cloddiau; chwain a gwybed yn brathu yn llymach; llawer o bryfed yn dyfod allan o'r ddaear; y pryf copyn yn brysurach nag arferol; gelod yn dyrchafu i gwrr uchaf poteli; adar y môr yn ymgasglu ac yn ehedeg i'r tir, ac adar y tir yn ehedeg tua'r môr a'r llynau; hwyaid a gwyddau yn gwaeddi ac yn ymwylltio drwy'r dwfr; paenod yn ysgrechian; colomenod yn ehedeg yn drymllyd tua'u cartrefleoedd; adar tô yn cadw mwy o ystwr nag arferol; Robin Goch yn ymddangos yn drymllyd, ac yn canu yn nghanol y gwrych; crychyddod yn myned yn groes i lif yr afonydd; bargut glâs a gwenoliaid yn ehedeg yn isel; llais y gylfinhir, y frân, a'r aderyn cywarch, yn fwy hyglyw nag arferol; piod yn ysgrechian; cler y dom yn ymddangos yn flinedig,—
Mae chwil y bwm yn canu,
Fe fydd yn deg efory;
Does fawr o goel ar chwilen y baw,
Gall fod yn wlaw er hyny.
Ar ol gwlaw tês a ddaw.
Ar of cymmylau yr â'r wybren yn oleu.
Daw hindda wedi dryghin.
Llif yn afon hinon fydd.
ARWYDDION TYWYDD TEG.
"Dybydd[1] hinon wedi gwlaw."
Yr haul yn ddisglaer ar ei godiad, hefyd yn goch a chlir ar ei fachludiad; y lleuad yn ymddangos yn glir dros ysbaid tri diwrnod ar ol ei newidiad, ac felly dros ysbaid diwrnod cyn y llawn; y lleuad a'r ser yn ymddangos yn siriol; yr enfys yn ymddangos yn glir yn y rhan lâs o honi, yn ymddangos yn goch a chlir, yn neillduol, ar ol gwlybaniaeth.
Ymddangosiad dwy enfys yr un pryd yn ymyl eu gilydd, ac iddynt gyd-ddiflanu; yr awyr yn ymddangos yn dywyll neu gymylog, ac yn clirio yn groes i'r gwynt; hefyd yn goch yn y prydnawn; cymylau yn ymddangos yn dyner a thebyg i blu ysgafn a'u hochrau yn felynion; cymylau mawrion megis yn tori, yn ddarnau; cymmylau melynion o amgylch y lleuad; cymmylau yn cerdded o'r cyfeiriad gorllewinol; niwl neu darth yn codi o lynau, afonydd, a gwaenydd, ac yna yn ebrwydd yn diflanu; niwl yn codi o'r dyfroedd yn y prydnawniau; niwl yn dyfod i lawr o'r bryniau, ac yn asos yn y dyffrynoedd; mân edafedd, a elwir "Gwawn," ar y gwellt a'r twmpathau; llawer o wlith ar laswellt; asynod yn ymrwbio yn erbyn muriau a choedydd, a'u clustiau yn ymollwng yn mlaen yn fwy nag arferol; cathod wrth olchi eu gwynebau yn tynu eu pawenau ar draws eu talcenau; llyffaint melyn yn neidio yn gyfeiriedig oddiwrth y môr; gelod yn swrth ac ymdorchog yn ngwaelodion poteli; crychyddod yn ehedeg yn uchel; ystlumod yn ehedeg yn gynnarach nag arferol; Robin Goch, yn y prydnawn, yn canu ar ben tŷ neu frig coeden; brain yn prysur ehedeg yn erbyn y gwynt; gwenyn yn ehedeg yn mhell oddiwrth eu cychod; chwilod duon yn ehedeg yn y prydnawn; a llawer o gler y dom a gwybed yn chware yn ngwres yr haul;
"Tebycaf i wlaw, tebycaf i deg."
"Tywyll fwrw, goleu fynydd.
"Cochi i fyny, teg yfory."
"Os collir hindda, o'r Gogledd daw gynta."
"Pan gollir y tês o'r Dwyrain ei ces.
"Ar hindda mae cynuta,[2] rhag anwyd y Gaua."
Ar hindda mae gweithio, rhag newyn pan ddelo."
"Nid yn y boreu mae canmol diwrnod teg."
Mae y rhan fwyaf o lysiau hefyd wedi cael sylw yr hen bobl parth cyssylltiad eu natur â'r hin. Heblaw fod y rhan fwyaf o honynt yn lledu eu blodau ar dywydd heulog, ac yn eu cau yn yr hwyr, priodolir iddynt amryw dueddiadau ereill yn ngwyneb gwlybaniaeth, sychder, oerni, gwres, &c., megis ag y dywedir fod coesau y feillionen yn chwyddo ac yn tyfu yn sythach o flaen gwlaw; llysiau'r cryman yn cau o flaen tymhestl, ond yn agor o flaen tywydd teg.
Y mae, hefyd, gan bob cwmmwd neu ranbarth yn y sir eu harwyddion neillduol eu hunain, yn annibynol ar y rhai cyffredinol, yn nghylch tywydd, &c., fel y gwelir oddiwrth yr enghreifftiau canlynol:—
Niwl Conwy, fel ei gelwir, yn dyfod i lawr gyda godre Moelwnion, gan gyfeirio tua Nant Ffrancon, a ddynoda dywydd teg. Twll goleu yn y cwmwl rhwng y Tryfan a'r Gludar, a ddynoda hefyd dywydd teg. Niwl tywyll yn dechreu esgyn Carnedd Ddafydd, a Moelyci yn gwisgo cap o niwl, a ddynoda wlaw yn agos. Cymmylau yn ffurfio yn y borau ar yr Aryg, Carnedd Llywelyn, a Charnedd Ddafydd, nes ffurfio magwyr a elwir "y wal wynt," a ddynoda wynt cryf yn fuan. O flaen cyfnewidiad tywydd, bydd niwl yn ymgasglu i'r pant y sydd uwch ben y Clogwyn Coch, ac yn ymestyn i lawr i'r dyffrynoedd, a'r Wyddfa yn glir. Gwelir, weithiau, hyd lethrau bryniau a mynyddau, ddyfroedd yn chwidr—belydru dan effaith clir oleuni yr haul, drwy gymmylau toredig, ar leoedd gwlybion, ac mae'r fath bethau i'w hadnabod wrth yr enwau "Clytiau Marsli" neu "Ddysglau Marsli." I sylwedydd craff, yn ol llên gwerin, y maent yn argoelion o dywydd teg. Twrf ac aflonyddwch Porth Neugwl, yn Llŷn, y sy ragfynegiad tra chywir o wynt gorllewinol, a gwlaw, eithr cynhwrf Aber Sela, yn nhraeth Castellmarch, sy genad hedd, yn golygu sychder a thawelwch i ddilyn. Adsain uchel, pell, glàn môr Abererch, tra yn ymrolio ar y Rô Hir, sydd o'r un natur ag Aber Sela, yn arwydd o dywydd sych, ond twrf hir barhaol glan y môr, o enau yr Afon Wen hyd Gricerth, sy braidd o'r un natur a Phorth Neugwl—bob amser yn "fab y daran" yn ei bregeth.
Un o aelodau y tylwyth anesmwyth yma hefyd yw y llecyn a adnabyddir wrth yr enw "Mawnog Ddu," ar dir Abercin, yn mhlwyf Llanystumdwy, am yr hon y dywed llafar yr ardal—" Ni chanodd y Fawnog Ddu erioed am ddim," gan feddwl, a hyny yn ddigon priodol, ei bod yn canu am wlaw. Bach Penychen yn crafu, a ddynoda hefyd wlaw. Bach Cilan yn Lleyn, yn crafu a ddynoda Gweled tir sir Feirionydd yn wynt o'r gogledd. isel ac agos, a ddynoda wlaw; gweled y Werddon yn amlwg, yn y borau, a olyga dywydd mawr; ond gweled ei chwr deheuol yn eglur, yn y prydnawn, a olyga hin deg.
"Hem wen Cricieth gwlaw mawr anferth."
"Pan fo'r Eifl yn gwisgo'i chap,
'Does fawr o hap am dywydd.'
Hefyd,
Os bydd cap am ben Moel Hebog,
Bydd yn siwr o wlaw cynddeiriog.
Pan bo'r haul yn machlud megis dan gwmmwl dudew, dywedir yn Lleyn,—"Mae yr haul yn myn'd i lawr rhwng y gist a'r pared, daw yn wlaw yn fuan."
PENNOD III.
Y DULL O FYW.
AR y cyntaf, pan nad oedd dynion yn aml o nifer, ychydig o driniaeth oedd yn angenrheidiol yn y wlad; y llanerchau brasaf yn unig a ddygid dan ddiwylliaeth; ond fel yr amlhaodd dynion cyfyngodd y tir; a bu raid trin y llenyrch geirwon, arloesi coed ac eithin a grug a manwydd, llenwi pantiau, gostwng lleoedd uchel, a sychu lleoedd gwlybion i'r diben o ddwyn y tir dan gywreiniach ac effeithiolach diwylliaeth, er cynnaliaeth dyn. Nid digon erbyn hyn oedd byw ar helwriaeth, ac ar laeth geifr a gwartheg a borent y dail a'r glaswellt mewn meusydd ac ar lethrau nas cawsant erioed eu diwyllio; rhaid oedd darostwng diffaethleoedd dan ymerodraeth y rhaw a'r aradr, a chynllunio trefn i ddofi tiroedd geirwon, ac i wneuthur iddynt, megis o'u hanfodd, ddwyn had i'r hauwr a bara i'r bwytawr. Ac felly, yn lle eithin cyfododd haidd ; yn lle grug, brwyn a danadl, cyfododd ceirch a rhyg, ac yn lle drain a mieri, cyfododd gwenith melynwawr. Nid oedd yr hen bobl yn deall nemawr ddim am effeithiau daionus a llwyddianus cylchyniad cnydau, na nemawr ddim am achlesiad. Calch fyddai eu gwrtaith hwy, gan nad pa un bynag ai marl, tywod, clai, sych ai gwlyb a fyddai y maes a wrteithid; nid oeddynt un amser yn ceisio atudio elfenau diffygiol neu orddigonol y gweryd, a'u dwyn i gyfartaledd priodol. Yr oedd
Yr oedd yr hen ddywediad fod yn rhaid i'r amaethwr wneyd ei ardreth bedair gwaith drosodd cyn y gallai dalu ei ffordd yn cael ystyriaeth led bwysig yn eu meddyliau. Byddai llawer ymgom ddifyr yn cymmeryd lle rhyngddynt, wrth fugeilio anifeiliaid cyrnig a defaid, arferiad a ddengys fod y wlad yn ol mewn diwylliant a chrynodeb, drwy beidio cau y tir i fewn yn gaeau cyfleus, a thrwy ei adael yn dir agored, peth yn dir llafur a pheth yn dir pori drwy eu gilydd, canys dyna arfer yr hen oesau cyn gwneuthur cloddiau i rwystro anifeiliaid allan i grwydro o'r lleoedd a bennodid iddynt. Nid oedd y fath drugareddau a mapiau wedi cael eu breuddwydio am danynt y pryd hyny, i'r diben o nodi allan derfynau, a byddid yn gosod piler o gareg yn y fan, gan ei alw yn dirfaen, neu derfyn, drwy gyfnewid yn Gymraeg yr m i f, yn ol rheolau geiriau cyfansawdd; ac yn ol llên gwerin, dyna yn briodol ystyr Hirfaen Fawr a Hirfaen Bach, ar dir y Betws Fawr, yn mhlwyf Llanystumdwy, o fewn i gwmmwd Eifionydd. Ond "o dipyn i beth," "troes y rhôd " ar y dull yma o fyw—dechreuwyd codi cloddiau, ond wrth reswm, cloddiau hynod o annghelfydd oeddynt, yn cymmeryd ac yn gorchuddio agos i hanner y tir; canys nid oedd neb yn gofalu dim am eu gwneyd yn union, am y barnent y byddai i'r anifeiliaid gael gwell cysgod ar wahanol wyntoedd ac ystormydd, &c. Byddent yn hynod o fanwl am gadw at amser gyda phobpeth—byddent yn fwy manwl o lawer o'u harferiad o gadw tir yn y gwanwyn ar y 25ain o Fawrth nag o gadw "y dydd cyntaf o'r wythnos." Gogyfer â'r cyfryw ddiwrnod—"diwrnod comio," fel ei galwent, byddent wedi berdio[3] neu frigo y cloddiau—wedi gwneyd carcharau a llyffetheiriau, er paratoi at anfon y defaid i'r mynyddau; ac yr oedd y "weithred seneddol" yn rhwymo ynadon pob rhanbarth i ofalu am fod i lidiardau y comisoedd gael eu gosod i fyny erbyn y dydd hwn. Dydd Llun Sulgwyn hefyd oedd ddiwrnod pwysig yn eu golwg, pryd y byddid yn cerdded pryffesydd,[4] sef cerdded ffiniau tiroedd; a llawer cynllun a arferid yn nglyn â hyny. Hyd y mynyddau nid oedd dim i'w dynodi ond rhyw wrthddrychau yma a thraw, megis ceryg, tociau brwyn, twmpathau eithin, pyllau dwr, &c. Ac mewn trefn i gadw mewn cof Y nodau hyn, byddai yr hen bobl yn cerdded ar hyd y ffiniau, gan ddwyn gyda hwy nifer o blant, a gwialen fedw, yr hon a arferid at gynhorthwyo y cof, ac nid yn fuan yr annghofid ei gwasanaeth. Arferid moddion ereill, megis tori twll mawr mewn man neillduol ar y ffin, a bwrw afalau neu bethau cyffelyb i fewn, i'r plant i'w codi; neu ynte ddodi y plant i gario ceryg mawrion o bell ffordd i ryw fan neillduol, nes byddent yn chwys dyferol wrth gyflawni y gwaith rhag digwydd iddynt rywbeth a fuasai gwaeth. Mewn rhai manau, arferai yr offeiriad flaenori y dorf, yn ei wisg wen, a'i lyfr yn ei law, yr hwn a ddarllenai wrth gychwyn, ac yn ymyl manau amheus, lle y cyhoeddai felldith ar y sawl a symudai ffin ei gymmydog.
Er ys dwy ganrif neu dair yn ol, pryd yr oedd yn arferol i olrhain yn arlwybrol weithredoedd y dwfr a fyddai eisoes wedi treulio y tir yn llwybrau culion o gryn ddyfnder, nid oedd gwell gwneuthurwyr ffyrdd yn ein gwlad na'r gornant grychias, a chwyddai ar ochr y bryn ar "doriad cwmmwl" neu doddiad eira; y rhai, drachefn, wedi eu caregu, gan ein tadau, yn y modd goreu gallent, a wasanaethent yn brif-ffyrdd, ac yn fynedfeydd i'r cymoedd cymmydogaethol. Mae rhai o'r ffyrdd culion hyn yn aros hyd heddyw, a rhyw gornel fechan yma ac acw ar hyd-ddynt, fel os digwyddai i ddau gàr neu gyffelyb gyfarfod â'u gilydd, y gallai un encilio o'r ffordd tra y llall yn myned heibio. Yr oedd yr hen bobl yn ddiddig ddigon ar y fath ffyrdd a'r rhai hyn, heb na threth na chyfraith yn eu rhwymo i'w hadgyweirio—na dim o'r fath ; ac yn wir yn yr haf-dymmor tesog nid oedd angen am well adgyweiriad na throi y fieren bigog, neu y ddraenen beryglus, a fynai ymestyn dros y ffordd, ac ymgofleidio â'i rhyw yr ochr arall, dim ond troi y rhai hyn i'r clawdd, gan rywun a ddigwyddai fyned heibio, a chau pob llidiard ar ei ol, a gyfrifid yn ddigon o ofal am y ffordd. Yn y gauaf ni ellid ei hadgyweirio o gwbl, am y byddai y gornant yn mynu ei ffordd ac yn rhuo ar bawb a ddigwyddai ddyfod yn agos.
Gellid cymhwyso yr un gyfundrefn hefyd at eu tai, y rhai fel rheol, a adeiledid mewn pantleoedd cysgodol, yn ymyl ffrwd, ac allan mor bell ag oedd ddichonadwy o gyrhaedd y dryghinoedd. Rhywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y gosodwyd i fyny gyntaf simddeiau cyfleus. Yn flaenorol i hyn, rhaid fod, hyd y nod y cyfoethogion yn dra annghysurus, o ran cysur teuluaidd, mewn cymhariaeth i gysur yr oes hon. Sefyllfa yr aelwyd oedd—canol yr ystafell, yno y gosodid y coed tân. Yn nen y tŷ, goruwch yr aelwyd, yr oedd math o dwr, neu gorn, wedi ei lanw âg estyll, cyfleuedig yn y fath fodd ag i gadw allan y gwynt a'r gwlaw, a gollwng allan y mwg. Yn nhreigl amser, newidiwyd ei sefyllfa trwy ei symud o'r canol i'r talcen, a gwneid amgylchoedd y rhai mwyaf o honynt yn ddigon eang i gynnwys teulu lliosog, heb i un gyfyngu ar y llall. Dygai twll y simdde ei ran at oleuo aml fwthyn, a thrwy y twll hwnw y tywalltai yr haul ei sirioldeb a'i wenau puraf, ac y gogrynai y cymylau eu gwlaw bendithiol. Hawdd ar noswaith serenog weled drwyddynt y lleuad a'i phraidd yn gorymdeithio ar hyd rhodfeydd y ffurfafen. Yr oedd rhai o'r tai mor isel fel y gellid cyrhaedd y to â llaw oddiar wyneb y ddaear, ac heb ynddynt ffenestri—cyfryngau goleuni, namyn tyllau yn y muriau, ac arnynt lian, neu gorn, dellt, neu goed—pob drws â thwll ynddo i godi y glicied fel drws beudy, a bron bob amser yn agored oddigerth yn y nos neu yr elid oddi cartref, a phwy ag y mae henaint wedi ei orddiwes nad yw yn gwybod am lên yr hen ddyddiau, ond taflu trem yn ol dros ei ysgwydd, na chofia am arferion yr ieir yn myned i dai ac allan o honynt, heb achos cenad na nacâd, pan y mynent—y gwyddent adegau prydau bwyd i'r dim—yn bynetiwal," ys dywed yr hen air—y prysur helient y briwsion oddiar lloriau, a phan na byddai briwsion y galwent sylw y mamau neu ddeunydd mamau drwy bigo eu ffedogau, gan awgrymu fod yn rhaid i'w cylla wrth fwyd os y disgwylid iddynt hwy fwrw wyau at angenrheidiau gwlad—y goddefid iddynt fod megis cyd—aelodau o'r teulu, a chyfanneddu yn y tai yn mhlith y dodrefn, &c. Nid annhebyg, gallwn dybied, oedd cynllun y tai i hafod un-nos, neu dŷ un-nos—bwthyn a godid ar gytir mewn noswaith, yn yr hwn yr oedd teulu i gysgu ddeugain nos, yr hyn, yn ol hen ddefod, a roddai hawl rydd iddo, yn nghyda rhyw gymmaint o dir o amgylch, yr hwn a nodid âg aradr, fel nas gellid ei dynu i lawr heb dreulio mwy o arian mewn cyfraith nag a dalai y bwthyn a'r tir lle yr adeiladid ef. Pridd oedd defnydd eu muriau trwchus, a phridd neu geryg oedd eu lloriau, ac yn dô ar dai o'r fath, nid oedd dim a darawai yn well na brwyn, rhedyn, neu wellt, heb lawer o ddodrefn ynddynt—dim ond yr hyn oedd wir angenrheidiol, a'r rhai hyny o wneuthuriad garw a chryf. Cyn y flwyddyn 1809, byddai llawer o bobl gyffredin yn cael eu bywoliaeth o'r mynyddau, y rhai oeddynt dra defnyddiol i'r dyn tlawd a'r tyddynwr. Ynddynt hwy y caffent danwydd, ac hyd-ddynt y magent lawer o'u hanifeiliaid. Byddai nifer mawr, y merched a'r bechgyn yn neillduol, yn myned bron bob bore i'r moelydd a'r mynyddau i dynu grug i'w gwerthu. Tywyrch a mawn, priciau, eithin a drain, yn nghyda bonau preiffion coed, a gleuad, sef tail gwartheg wedi caledu a sychu oedd eu tanwydd cyffredin, y rhai y gofalid am eu casglu a'u darpar yn yr haf ar gyfer y gauaf oer. Ond yn y flwyddyn a nodwyd—1809, dygwyd deddf trwy y Senedd, pryd y rhoddwyd hawl i'r boneddigion i gyssylltu y mynyddoedd a'r cyttiroedd â'u tiriogaethau. Brwyn wedi eu trochi mewn gwêr toddedig, nes ffurfio math o ganwyllau hir-feinion oeddynt yn esgus oleuo y tai yn y nos, y rhai, fynychaf, a elwid yn babwyr. Medd T. Richards:"Pabir, s. pl., rushes, rush candles; pabwyr, the wick of a candle, also the pith of trees." Sonir am y llen-babir, hyny yw, goleu pabwyr. Ceir rhai cyfeiriadau at y frwynen mewn hen ddywediadau, megis,
'Dwy'n hidio dim canwyll frwynen am dano.
Ni rydd fwy o oleu na chanwyll frwynen.
Ac mewn cyssylltiad â'r gangen hon o arferiaeth, gellir nodi siampl o gadw tân parhaol mewn lleoedd neillduol, megis Carn-guwch, Castellmarch, a Phlas yn Mhenllech, yn Lleyn, fel y gallai pawb gael tân ynddynt, os digwyddai i'r eiddynt hwy ddiffoddi. Dyna, medd rhai, yw deilliad yr hen ddywediad "Can boethed a thân Penllech." Cyffelyb hefyd ydoedd Cefn Collwyn a Chefn Cyfannedd yn Eifionydd. Yn nglŷn â hynyna, gellir crybwyll bod yn wybyddus i lawer mai o Feirion y daeth tad y Bardd Du i fyw i'r Bettws Fawr, ac iddo ddyfod a'r tân a gedwid yn ei deulu am dros ddau gant o flynyddau gydag ef mewn kettle. Parhaodd yr un tân yno tros ystod ei oes ef, yn nghydag oes ei fab, Robert ab Gwilym Ddu. thrachefn, pan ymadawodd yntau o'r Bettws Fawr i'r Mynachdy Bach, aed a'r un tân parhaol gydag ef yno, lle y parhaodd dros ei oes ef, ac oes ei wraig ar ei ol. Beth bynag am ddiflaniad yr hen arferiad, sicrhai y Bardd ddarfod iddo barhau yn ei deulu ef am dros dri chant o flynyddau. Hwyrach fod a fyno yr achlysur o'i ddechreuad rywbeth â'r Hwyrgloch, sef y gloch wyth o'r nos, ar ganiad yr hon y gorfodid pob un yn amser Gwilym y Goresgynydd i enhuddo ei dân a diffodd ei ganwyll.
Rhyfedd y cyfnewidiad sydd yn ein gwlad nid er gwell yn gyfangwbl. Dichon i hyd y nod ein breintiau beri colledion. Beth arall a briodola am y ffaith fod y crefftau wedi colli o'n mysg, fel nad oes ond ychydig yn awr sydd fedrus yn yr hen gelfau cywrain, defnyddiol, y bu ein tadau yn cael o honynt gymmaint o fudd a hyfrydwch. Medrent hwy gyflawni y rhan fwyaf o'u rheidiau eu hunain. Tuag at barotoi y defnyddiau, yr oedd ganddynt fath o odynau—odyn frâg, odyn gywarch, odyn lin, ac odyn ŷd,—pob un, er yn dra afluniaidd, yn gwneyd y tro, drwy gydol amryw oesau. Yr odyn ŷd, yr hon a elwid yn odyn faes" neu "cylyn" oedd fwyaf annghelfydd ei gwneuthuriad; muriau isel o geryg, to gwellt, a thaflod neu glwyd o bolion a gwrysg ar draws un pen, a gwellt yn daenedig ar hyny i gynnal yr ŷd, a lle i gynneu tân odditanodd. Cyn hyny, pillwvdd a ddefnyddid i grasu llafur yn yr hen simddeiau, gan eu gosod ochr yn ochr fel clwyd uwch ben y tân, ac yna y grawn arnynt i grasu cyn ei yru i'r felin i'w falu. Y merched fyddai yn nithio a phuro ŷd i fod yn gymhwys i'r melinydd, a hwy fyddai yn gogrwn y blawd, wedi y delai o'r felin, er deol yr eisin o hono. Cadwent y blawd ceirch mewn cistau gan ei sathru, hyd oni byddai gan galeted a'r ffordd fawr, ac weithiau dodent ynddo gig gwartheg, ystlysau a chlustiau moch, er meithrin parhad ei gadwraeth. Yr un symledd hefyd oedd yn nodweddu eu gwisgoedd, y rhai a wneid ganddynt hwy eu hunain, o frethyn glas hanner pàn, neu gochddu'r ddafad, gyda'r droell fawr a'r droell fach, yn nghyda'r cribau, &c. Y merched, bob amser, fyddai yn gorfod golchi, pigo, llifo, cribo y gwlan a'i ddanfon i dŷ'r gwehydd i'w wau, ac wedi hyny i'r pandy i'w ysgwrio, cyn y ceid na gwlanen, na brethyn na gwrthban, i'w gwisgo; a chyn y ceid pâr o hosanau, rhaid oedd iddynt wrth lafur dyfal i gribo, gardio, nyddu, cordeddu, cenglu, dirwyn, a gwau, ac er pobpeth ni byddai gan y boblach gyffredin
"Ond bacsen am y goes, a charai i g'lymu'r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o lian tene',
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'."
Prin y gwelid ty heb ynddo droell fach i nyddu llin a chywarch, os y byddai rhyw drefn ar y wraig. Gwragedd fyddai yn nyddu gogyfer a dyfodiad y teilwriaid i'w tai i weithio. Gwragedd cryddion fyddai yn nyddu yr holl edau a ddefnyddid ganddynt hwythau at eu gwaith. Spinster, neu nyddferch y gelwid pob merch heb briodi, am y rheswm y byddai raid, yn ol trefn arferiad yr hen amser, i bob merch cyn y caniateid iddi briodi, nyddu pâr o ddillad gwely. Y call a genfydd y gellid symio i fyny drefn gwneuthuriad pâr o ddillad "brethyn cartref," yn debyg i hyn—y fam a brynodd y gwlan, a'i cribodd, a'i nyddodd, ac a'i llifodd; Huw Ifan y gwehydd a'i gweodd, Sion Robert y Pandy a'i panodd; ac Wmffre Huws y teiliwr a'i gwnïodd. Clos pen-glin oedd clos mwyaf dewisol dynion gwlad, a byddai ambell un lled ysgwar yn gwisgo botasau â thopiau cochion, y rhai a elwid archenau, a daeth y gair diarchenu yn yr hen oesoedd i olygu dadwisgo. Dau can' mlynedd yn ol, yr oedd gan bobl y sir hon lathen 40 modfedd, ac wrth hono y gwerthent eu brethynau, eu gwlaneni, a'u llian. Manwl iawn oeddynt. hefyd yn newisiad a dosbarthiad gwahanol goed, a'u defnyddiad priodol er gwneuthur o honynt wahanol gelfi at wahanol orchwylion, megis aerwyon, byrddau, clogsiau, cribiniau, cwpanau, egwydydd, llwyau, noeau, picynau, troellau, ystenau, &c. Yma a thraw, ceid llu o wneuthurwyr hetiau, nifer mawr yn ennill eu bywoliaeth wrth wneyd cewyll a basgedi. Yr oeddynt yn enwog am eu medr i blethu gwiail, ac am wneyd coleri brwyn i geffylau, &c.
Un arall o byngciau ffydd yr hen bobl, a dim mwy pleserus ni ddymunent, oedd hwyrol ymddiddanion yr aelwyd, ar yr hon, megis brenines, yr eisteddai gwraig y ty ar ystol drithroed yn gwau hosan—ysgwyd ei thafod i siarad, a gofalu am yr uwd uwchben y tân, gan roddi tro iddo rwan ac yn y man—yr oll mewn cysoniaeth perffaith. Yntau yr hen wr yn nghanol ei wyrion—yn byw yn y gorphenol yn ymladd y brwydrau, ac yn chwareu y triciau direidus y bu yn ymwneyd â hwy yn moreu ei fywyd. Yr oedd yr hen bobl yn dueddol i siarad llawer am danynt eu hunain ac am hen bethau, a phobl ieuaingc am bethau newyddion gwell gan hen bobl hen dŷ, a hen ddodrefn, a hen ddillad, a hen bobpeth, na newydd. Magent a siglent eu plant mewn cewyll—nid addas, yn ol modd na defod, y bernid cyssylltu dodrefnyn o'r fath âg amgylchiadau bywyd helbulus yr iselradd—hawdd deall hyny oddiwrth yr hen bennill canlynol:
"Ni wnaiff Dafydd it' un crud,
Doed iti'r byd a ddelo;
Fe gaed Moses, gŵr oedd well,
Mewn cawell wedi ei guddio."
Eto, er lleied, ac er amled eu plant, dygent hwy fyny yn y fath ymarferiad o ddiwydrwydd, a bod y genethod yn gallael ennill dimau'r dydd, a chwedi'n ceiniog, wrth wau, ac hyd y gallent, mynych grwydro y bryniau yma a thraw i gasglu yr ychydig dysŵau gwlan gwasgaredig ag fyddai'r defaid yn golli wrth ymrwbio yn y llwyni a'r perthi ar eu llwybrau. Y bechgyn, hwythau, tra yn rhy wan i wneyd gwaith caled oeddynt yn ennill ychydig trwy gadw yr adar o'r ŷd, lloffa, neu hel ceryg. Yr hen drefn ganmoladwy gan famau oedd hyfforddi ac arfer eu genethod ar ddyledswyddau buddiol bywyd, megis pobi, golchi dillad a'u trwsio, glanhau lloriau, coginio'n briodol, gwneyd crysau, gwau hosanau a'u brodio, ac mewn ffermydd magu lloi, pesgi moch, cyweirio gwair a rhwymo ŷd ar brydiau, ac unrhyw orchwyl arall rheidiol er talu ffordd yn ddiofid. Os nad yn ngallu gweddw dlawd i brynu buwch, helpid hi o lwyrfodd calon gan ei chymmydogion; a chaniateid i'r fuwch y rhyddid o bori ochrau cloddiau'r prifffyrdd, tra'i pherchenog yn ei gwylio gerllaw, tan wau hosan i ennill ceiniog mewn ffordd arall.
Yn mysg yr afrifed gymmeriadau syml a digrif, ag oedd yn dirwyn bywyd tawel a defnyddiol, ymlwybrai yr amaethwr diwyd ac yntau y cigydd yn mlaen yn eu taith mewn closau lledr, y rhai yn fynych oeddynt yn ateb y diben o hogfeini, cyfleus iddynt yn achlysurol roddi min ar eu cyllyll. Syml iawn oedd eu celfi amaethyddol, buddai gnocio, oedd ganddynt, gwŷdd pren, cewyll i gario tail, càr llusg, rhawiau o goed at garthu beudai a chutiau moch, &c. Ar geffylau neu ddynion, yn wrywod a benywod, y byddai pob peth yn cael eu cludo ar, i, ac o'r tir—gorfodid, hyd y nod y merched i gludo tail yr anifeiliaid o'r buarth, mewn cewyll ar eu cefnau i'r meusydd. Ond weli hir ddyddiau, trwm lafur a lludded, cafwyd ymwared oddiwrth y fath orchwylion ag oeddynt wedi hanfodi drwy oesoedd laweroedd, yn ngwneuthuriad y gwahanol ysledi a ddyfeisiwyd i lusgo—symud gwrtaeth a chynnyrch y tir o'r naill fan i'r llall. Er mai ymwelydd digon digroesaw gan lawer ydyw y gauaf, gyda'i dywydd oer a gwlyb, ei ddyddiau byrion, a'i nosweithiau hirion a thywyll; heb unrhyw swyn yn unman i ddenu neb o'u tai, eto, nid mor brudd yw gauaf mewn gwlad—y mae'r oerni fel y gwres yn werthfawr yno, er fod rhyw raddau o'r naill fel y llall yn peri colled weithiau; ond rywfodd, yr oedd mwyniant yn mhob tywydd, ac i bob math o dvwydd ei waith naturiol ei hun; felly yn nglŷn a gorchwylion amaethol megis achos o arfer neu reidrwydd
Y ffarmwr a'r aradr yn y tir,
Y wraig yn godro'r gwartheg ir,
Y ferch yn nyddu gyda'r droell fach,
Y mab yn dyrnu'r gwenith iach
Pawb yn hapus fel y dydd."
Adeg y cynhauaf, yn fwyaf neillduol y cynhauaf yd, ydoedd adeg bwysicaf a phrysuraf y flwyddyn. Fel rheol, byddai gan bob ffermwr ei gae gwenith, ac ni byddai ei fedi yn orchest galed, gan y ceid y gof a'r crydd, y saer, y teiliwr a'r melinydd yn helpu fel costwm gwlad. Gofalid am ddiod neillduol i'r medelwyr—"diod fedi" fel ei gelwid, yr hon oedd amryw raddau yn gryfach na'r cyffredin; ac os byddai yn meddwi yr oedd hyny yn glod i fenywod y ty. Golygfa hardd oedd gweled y "Fedel Fawr, sef llu o fedelwyr—hanner cant, mwy neu lai, o ddynion mewn maes yn medi, a nifer ereill o feibion a merched ar eu hol yn rhwymo'r ysgubau, ac yn eu codi yn 'styciau. Nid yw y peirianau presenol yn gwneyd y gwaith mor daclus a diwastraff, heblaw ein bod yn colli yr ystyr sydd iddo mewn dammegion Ysgrythyrol a chymhariaethau cyffredin. Dilynid y gorchwylion blaenorol â'r ymdrechion i geisio dal y "Gaseg Fedi," fel ei gelwid. Beth bynag am addasrwydd y fath enw, yr hyn olygid wrtho, oedd mawaid o ŷd—ŷd-wellt wedi ei adael yn fwriadol mewn congl o gae heb ei dori, lle'r amlygid cyd-ymgais egniol i geisio dal—tori i lawr y gaseg drwy daflu—pob un ei gryman ati o fan pennodol —pob un yn ei dro. Wedi yr elai heibio y rhialtwch o'i chwympo, yr oedd yn ofynol ei chuddio, efallai dan wasgod y sawl fyddai wedi ei dal, neu arall os dewisid; ac yna myned am swper, pryd eu cyfarfyddid ar gyffin drws y ty gan liaws o ferched cyforiog o ymryson yn eu croesawu â llestreidiau o ddwfr—"dwr i'r gaseg". Yna, wedi i'r gaseg gael dwr, trwy ei gwlychu cyn medru ei rhoddi ar y bwrdd, yr oedd yn ofynol i'r merched gael swper yn gyntaf, a'r meibion i weini arnynt, ac i olchi'r llestri a chlirio'r bwrdd ar y diwedd. Pe llwyddasid i fwrw'r gaseg i'r bwrdd heb ei gwlychu, hawdd gwybod y rhedasai effaith achos y cyfryw rialtwch i'r gwrthwyneb. Ond wedi cael y llwyth olaf o'r ŷd i'r gadlas y byddai y rhialtwch mawr y penaf, yn cymmeryd lle—y ddefod ddiota, a elwid "Boddi'r Cynhauaf." Byddai y perchen wedi darpar tri neu bedwar galwyn o gwrw ar gyfer y rhai fu'n gweithio'r cynhauaf iddo, a chyfrenid y ddiod rhyngddynt yn nghyda bara a chaws neu fara a chig. Yna, cymmerai dawns le, os byddai rhai allent ddawnsio yn mysg y cynhauafwyr—yn wryw a benyw.
Syml a chryf, yn ddieithriad, oedd eu hymborth—bara haidd, bara ceirch, llaeth, ymenyn, maidd yr afr, maidd yr iar, caws, cig, posel, uwd maidd glas—nid uwd dwfr, brywes, wedi tywallt drosto gawl cig eidion yn llawn brasder, potes neu isgell wedi ei bereiddio â dail, ac ni esgeulusid er dim daflu i'r crochan, yn mysg gwahanol ddarnau ereill o gig, ryw gymmaint o'r cig goreu yn eu golwg—coch yr wden, sef cig sychedig geifr, fel y gwnelid y cawl yn flasus-fwyd perffaith. Ond dydd Mawrth cyntaf o fis Mawrth bob blwyddyn, fyddai yn coroni holl gawl y flwyddyn, pryd y gwneid "potes naw rhyw," sef potes ac ynddo naw math o ddail. Byddai hefyd wledd yn cael ei chynnal yn yr awyr agored, o'r hyn a elwid "Cawl Awst," pryd y dygai pob bugail ei gyfran i'r man cyfarfod. Cig defaid wedi bod yn grogedig wrth y gronglwyd, a chig geifr wedi bod yn hongian o fewn i fantell y simdde, a fwytaent gyda bara haidd a bara ceirch, a diod grobos a chriafol, yr hon oedd yn lled beraidd os wedi cyrhaedd blwydd oed. Yr oedd y cyfryw yn fwydydd cryfion, fel yr oedd eu cyfansoddiadau corfforol yn dangos hyny, canys fel rheol, cyrhaeddent oedran teg, gan farw o henaint yn hytrach nag o afiechyd. Defnyddid y bysedd yn lle cyllell a fforch, a bwyteid ac yfid o lestri coed, cregyn, cyrn, esgyrn neu biwtar; a melus bob amser yr ystyrid brechdan "ben bawd" rhagor brechdan wedi ei gwneyd â chyllell. Melus odiaeth hefyd fyddai cwsg llawer o honynt, tra wrth reolaeth yr hen arwydd-eiriau rhigymol a arferent, megis
"Dos i dy wely gyda throed yr ŷch,
A chyfod ar ganiad yr 'hedydd brych."
Eto, dipyn yn wahanol,
"Codi bump y bore heb fraw,
A bwyta naw, mae'n iawn-waith;
Swpera bump, a phan ddel naw,
I'r gwely neidio eilwaith;
Wrth wneuthur hyn cei fyw mewn llwydd,
I gan'mlwydd hylwydd helaeth."
Ni fyddai gynt balas na bwthyn heb ei gychod gwenyn. Gan y gwenyn y ceid y mêdd, ac ar y mêdd y meddwid. Ond er fod meddwi yn parhau i ddal ei dir, nid ar fêdd, ond ar ddiod frâg, ceirch, neu siwgr eplesedig y meddwir pobl yr oes hon, tra na bu dyferyn o fêdd erioed yn safn yr un o honynt, ac na wyddant beth ydyw mêdd. Yr oedd yr hen bobl yn gwneyd mwy o ddefnydd o fêl na thrigolion yr oes bresenol. Medrent hwy wneyd "bir criafol" neu ddiod gerddin o ffrwyth y gerddinen; ac hefyd, o dyllu y fedwen ddechreu haf, fel ag i'w sudd redeg o honi, wneyd o'r cyfryw yr hyn a elwid "bir y fedwen." Yr oedd ganddynt, fel yna, eu dewis feddyliau, eu dewis bethau, a'u dewis eiriau cymhwys a pharod at bob amgylchiad ag a ddigwyddai ddyfod i'w rhan, deled y pryd y delai. Pan y byddid yn cyflogi morwyn, gofalid am ofyn iddi,—"A fedri di groes-odro, dwbwl gorddi, dechreu golchi, a diwedd nithio?" Pan yn cyflogi gwas, gofynid:—"A fedri di ladd gwair a llywio dyrnu, batio'n llwyr, a bwyta llymru?"
Nid bychan chwaith oedd eu hadnabyddiaeth ymarferol â natur drwy ymwneyd â hi ac nid darllen am dani mewn llyfrau. Credent fod ganddi well gwersi mewn meddyginiaeth lysieuol nag a roed mewn llyfrau erioed—fod yn mysg amrywiaethau eu hardaloedd ddigon o ddefnyddiau i wrth-weithio yr holl anhwylderau ag oedd eu cyrff yn ddarostyngedig iddynt. Gwyddent enw a rhinweddau pob deilen a llysieuyn oedd yn tyfu ar faes neu glawdd, ar gors neu fynydd, ac adnabyddent amseroedd eu blodau—pa bryd i'w tori a'u cynhauafu, a pha fodd i'w cymhwyso a'u defnyddio at iachau braidd bob clwy neu ddolur—byddai cronglwydydd pawb yn llawn o honynt. Cydnabyddid hefyd yn ewyllysgar mai ffordd fawr iechyd oedd myned y boreu i'r mynydd, a'r prydnawn i'r ffynon; ac fod myned i lan y môr yn adeg trai yn dra llesol tuag at gael ymadawiad ag afiechyd, gan y coelid y byddai i'r môr y pryd hwnw dynu ato yr afiechyd, eithr i'r gwrthwyneb yn adeg llenwi. Yn y dyddiau hyny yr oedd yr eilliwr (barber) yn feddyg at wasanaeth y cyhoedd yn gystal ag yn eilliwr. sef torwr barf neu wallt. Gwelsom, bawb, ei bolyn y tu allan i'w ddrws: ond nid oedd dim a wnelai hwnw a galwedigaeth y gwr fel eilliwr—dangosydd ei drigfan fel meddyg ydoedd a'r addurniadau hyd-ddo—coch a gwyn, yn arwyddo gollwng gwaed a lliain i rwymo yr archoll, &c.
Eto, fel pethau yn mynu bod, ag oedd yn rhaid gwasgu arnynt gan ynadon a cheisbyliaid y wlad, cyfarfyddid yn achlysurol, yma a thraw, âg ymrafaelion lled annymunol yn mysg personau hoff o ddyferyn difyr, meddwi, cystwyo eu gilydd, &c.; a bernid mai yr unig ddarpariaeth gymhwys gogyfer âg ymddygiadau dosbarth anniddig ac anhydrin o'r fath oedd eu dodi mewn cyffion (stocks)—lle i gaethiwo y traed, ac weithiau y traed a'r dwylaw. Cedwid y stocks yn y mynwentydd, fynychaf, er mwyn chwanegu y gospedigaeth; oblegid yr oedd trigo am noswaith yn mysg y beddau, pan oedd y bobl yn arfer credu mewn ysbrydion, canwyllau cyrff, a drychiolaethau, yn waeth o lawer na deufis o wasanaethu mewn carchardy. Os ceffid rhyw ddyhiryn yn euog o'r trosedd gwarthus o guro ei fam, neu o ryw drosedd a ystyrid o gyfartal bwysigrwydd i hyny, rhwymid un o'i freichiau i fyny yn ddiogel, gan nifer o geisbyliaid, a thywelltid llestraid o ddwfr oer rhwng llawes crys a chroen y condemniedig. nes y byddai yn gwaeddi dan yr iâs, megis un ar ddarfod am dano; neu ynte rhwymid ef draed a dwylaw, a thorid ei farf â hen ellyn rhydlyd, yr hyn bob amser a ystyrid yn gosp hynod o drom.
Fel cyfroddion o'r hen amser, odid na cheir darluniad cyflawnach a chywirach o sefyllfa ein gwlad na'i ffeiriau a'i marchnadoedd. Mae dull y cynnelir ffeiriau a chynulliadau cyffelyb yn myned yn mhell iawn i egluro cymmeriad ei thrigolion. Y lle mwyaf cyfleus o bob man i ymgydnabyddu âg adnoddau y ddynoliaeth ydyw y ffair. I aros adegau pennodol o'r fath, nid oedd gan ffermwyr well cynllun i gael ymgom yn nghylch materion plwyfol ac ansawdd y farchnad, na myned ar foreu Sul braf at y Llan ryw hanner awr cyn adeg dechreu y gwasanaeth, er mwyn cael cyfleusdra, yn y fynwent, i adolygu helynt yr wythnos fyddai newydd fyned heibio. Weithiau, byddai y boneddwr a'r person yn eu mysg, yn eu cysuro am y dyfodol, canys nid oedd y werin, y pryd hyny, yn ddisylw nac yn cael ei hebargofio gan yr hen "Foneddigion Cymreig," y rhai ag yr oedd gwaed pendefigaidd nid yn unig yn rhedeg, ond yn berwi, yn eu gwythenau.
Nodweddiad rhyfedd yn yr hen bobl ydoedd gonestrwydd, geirwiredd, a chywirdeb—dywedent y gwir yn erbyn eu mantais eu hunain; ac yr oeddynt yn gywir a didwyll yn eu masnach. Pan y byddent yn echwyna, ac yn talu yr echwyn adref, nid ysgrifeniadau a stamps ydoedd y tystion, ond boliau y cloddiau, bargodion y tai, a dirgel-fanau. Yr oedd ganddynt gymaint o ymddiried yn eu gilydd, fel nad oedd arnynt angen am drydydd person i fod rhyngddynt, ac yr oedd camgyfrif rhwng dyn a dyn yn beth hollol ddieithr yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio. Fel y dywedai ysbryd Taliesin neu un o'r hen wladwyr enwog gynt wrth ysbryd rhyw Dwrne o'r oesoedd diweddar pan yr hysbysai ysbryd y Twrne i ysbryd Taliesin y ddefod a'r arfer oedd yn ei amser ef yn Nghymru wrth brynu tir, "sef y byddid yn ysgrifenu memrwn mawr cyfled a nithlen i sicrhau y trosglwyddiad neu y gwerthiad." "Ho! Ho!" meddai yr hen ysbryd cyntefig, "ni thalwn i ddim byd yno yrwan; nid oedd yn fy amser i ddim ond codi Coetan Arthur yn goffadwriaeth o'r pryniad, a galw tystion, a dyna y cwbwl ar ben!""
Dyddorol iawn fyddai cael gafael ar ambell hen ymgom difyrus a gymmerodd le rhwng yr hen bobl ar rai o bentanau mawrion yr amaethdai ar lawer noson dywyll y gauaf, yn nghylch hanes y dydd, a pharotoad y dydd canlynol, pryd y byddai i lawer camp wrol gael ei phrofi, llawer cerdd felus ei chanu, llawer chwedl ddigrif ei hadrodd, am wron mewn rhyfel, am lanc a'i gariad, am gi, a chordd, a chynydd, ac amryw ddiniweidion erai!! na wyddom ni fawr am danynt. Mwynhawyd arnynt lawer o ddifyrwch ysmala ac adeiladol gan rai oeddynt yn byw yn fwy cariadus at eu gilydd nag yr ydys y dyddiau hyn; yn cyd—olchi y defaid, a chyd-gneifio, "cymhortha" y naill y llall hyd y gallent. Ond digon prin yw y cof-arwyddion sydd yn aros o'r hen amseroedd—nid oes ond ychydig o hen balasdai, a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn adfeiliedig—hen ddodrefn o ruddin derw pur, ac wedi eu cerfio yn y modd cywreiniaf—hen arfau, hen grythau a thelynau, hen ardiau, llawdroellau a gweyddion; ac mae'r bladur wedi cymmeryd lle'r cryman, a'r dwrn-fedi wedi ei ddiddymu—pobpeth bron wedi darfod, oddieithr fod yn nghadw o oes i oes weddillion o hen hanesion a chaneuon, y rhai a nodweddent ein cenedl cyn ei llwyr ddarostwng, megis,
"Hob y deri dano
Dyna ganu eto."
"Croen yr hen ddafaden
Tu gwrthwyneb allan,
Troed yn ol a throed yn mlaen,
A dau i ben y nenbren."
Cenid y caneuon hyn a'r cyffelyb ar ol helfa lwyddianus, wrth edrych nos gauaf ar yr hob, y ddafad, yr afr, a'r carw yn hongian wrth y nenbren, y gronglwyd a mantell y simdde, ond
"Ein parch a'n bri a chwalwyd
Ar daen i'r pedwar gwynt,
A'r Saeson sy'n rheoli gwlad
Y dewrion Gymry gynt."
PENNOD IV.
CHWEDLAU AC OFERGOELION.
"Gelwais i'm cof, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd,
Ganfod o rai hergod hyll,
Du annillyn dân ellyll;
Drychiolaeth, ddugaeth ddigorff,
Yng ngwyll yn dwyn canwyll corff."
"Ni cherdd y nos chwerw ddyn iach,
Y baban! rhag ofn bwbach;
E wyl y berth olau ei bon,
Was brwd, yn llawn ysbrydion."
WRTH chwedlau ac ofergoelion yr ydym yn deall y gred, neu'r goel ofer a disail ag sydd gan ddynion am ddylanwadau galluoedd a gwybodaeth, personau dynol ac ysbrydol, yr hon sy seiliedig ar draddodiad yn gyffredin, heb unrhyw ffaith neu dystiolaeth safadwy o'i phlaid, yn groes i'r gwyddorau, ac heb ei chadarnhau gan ddatguddiad. Fel rheol, nid oedd dim yn fwy ffodus i'r hen bobl na'u hanwybodaeth am yr hyn oedd yn eu haros yn y dyfodol. Er hyny, awydd cryf oedd mewn llaweroedd i edrych yn mlaen i lyfr eu tynged; ac ni fynent gael gwaredigaeth oddiwrtho—yr oedd yn hyfrydwch gwirioneddol iddynt hwy fyned drwy y cyflawniadau hyny ag oeddynt berthynol i oraclau yr hen oesoedd, yn gystal a'u hoes hwy eu hunain. Os edrychwn cyn belled a'r unfed ganrif ar bymtheg, a'r ddau ganrif ganlynol, yr oedd y tybiau ofergoelus am reibio, consurio, neu ddewino, mor gyffredin fel y meddyliai llawer nad oeddynt un amser yn ddiogel. Yr oedd llawer o'r dynion mwyaf duwiol eu hymarweddiad, y rhai na chymmerent y byd am fod yn euog o ddyweyd celwydd ar unrhyw achos, yn haeru yn y modd mwyaf syml eu bod wedi gweled ysbrydion, wedi ymddiddan â hwynt, ac wedi cael eu cyfarwyddo ganddynt at bethau a gollasid rai oesoedd cyn hyny. Nid yw yn rhesymol i ni gredu fod yr holl ddynion hyn yn Yr rhuthro i ddywedyd anwiredd gwirfoddol. oeddynt hwy mor sicr o'u cred, yn eu meddwl eu hunain, ag oedd bosibl, ac yn ddifrifol. Credent fod y cythraul yn eu haflonyddu yn eu gwelyau, a chrynent fel dail yr aethnen rhag yr epil ddu a fodolent mewn cwn a chathod. Yr oedd hyd y nod eu hanfod yn gyd-gorffoledig ag amryw ddrychiolaethau a gwag eulunod rhyfeddol, a drosglwyddid o dad i fab, ac yn effeithio ar eu meddyliau, yn fwy neu lai, yn ol dyfnder yr argraff ac yn ol eu tueddfryd; canys yr oedd trigolion pob gwlad fugeiliol a mynyddig yn gyffredin yn fwy coel—grefyddol na'r cyfryw a gyfanneddent yn y gwastadedd a'r broydd gwrteithiedig.
I glywed hanes ac achau bwbachod o bob math nid oedd eisiau ond gofalu bod yn y gegin yn nhymor hirnos gauaf, pan fyddai teulu gwan eu cynhyrau yn ffurfio hanner cylch gerllaw y tân, wrth oleu canwyll frwyn yn crogi oddiwrth fantell y simdde; a buasai yn dda genym gael cyfleusdra i ymddiddan â rhai o honynt, er mwyn eu holi yn neillduol, ac i gael gwybodaeth mwy neillduol yn ngylch ymddangosiad goruwch-naturiol a berthynai i rai o ysbrydion di-gorff tragwyddoldeb, ond y mae y cyfleusdra i hyny yn y byd yma wedi ei golli am byth.
Mae yn hysbys i bawb mai yn y nos yn gyffredin yr ymddengys ysbrydion, ellyllon, drychiolaethau, a'r rhan arall o'r teulu hyn; ond paham y dewisant y nos mwy na'r dydd sydd anhysbys. Rhwng hanner nos ac un yw awr hoffusaf ysbrydion, pryd y byddont yn dyfod allan o'r beddau, ac yn rhodianna hyd y mynwentydd, neu chware fel plant o gylch y coed yw. Byddai pob ysbryd hefyd arferol o dyfu fwy—fwy, nes o'r diwedd gyrhaedd rhyw faintioli anferthol. Pan welid ef, teimlid y galon yn llesmeirio gan fraw, deuai chwys oer dros yr holl gorff, a chrynid bob gronyn, llifai y gwaed i'r wyneb, safai y gwallt yn union—syth ar y pen; fel mai hawddach oedd credu mil o'r chwedlau na chymmeryd calon i chwilio i wirionedd un o'r mil; ac os mewn ystafell a chanwyll yn oleu ynddi, llosgai y ganwyll yn wyrddlas bob amser pan fyddai ysbryd yn agos, ac arogl brwmstanaidd a lanwai yr ystafell; fel prin y gallai dyn. gael ei wynt. Gŵyr pawb hefyd na wnai ysbryd un amser ddywedyd y gair cyntaf, ac nad rhyw foesol a diogel i deimlad dyn droi drach ei gefn i edrych ar ei fawrhydi yn myned ymaith. Darlunid ef bob amser braidd ar ddull rhyw greadur neu beth sylweddol ag y byddai y sawl a'i gwelai yn gyfarwydd ag ef; canys gallai ymrithio a chymmeryd pob rhyw iun, oddieithr dafad a cholomen.
Nid oedd na gwas na meistr, na morwyn na meistres, na mab na merch, na gŵr na gwraig, nad oeddynt, yn eu tro, wedi gweled yr Un drwg mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yr oedd un wedi ei weled ar lun ci mawr, yn neidio dros y gamfa o flaen drws y tŷ; un arall wedi ei weled fel boneddiges anrhydeddus, mewn gwisg o sidan gwyn; un arall wedi ei weled heb ben, neu â dau gorn iddo; un arall wedi clywed plentyn yn llefain, a rhyfyg mawr fuasai annghoelio ei eiriau; un arall wedi cael ei arwain ar gyfeiliorn ganddo, pan yn croesi y mynydd adre o'r ffair; un arall wedi ei glywed yn nghydol y nos yn chwyrn-dreiglo ceryg dros drwyn y graig i lawr ar hyd llethr y bryn. Byddai ysbryd yn fynych yn cael ei anfon i gadw meddiant o dŷ dros lawer o flynyddoedd, oherwydd i hen wreigan cyn marw guddio ychydig sylltau ynddo; neu bod yno werth ceiniog neu ddwy o hen haiarn, oblegyd yr oedd fod mewn lle felly ddarn o haiarn cuddiedig mor sicr o dynu ysbryd i'r fan ag yw tynfaen (loadstone) o dynu nodwydd cwmpawd y morwr ato ei hun. Yr oedd yn rhaid cael ysbryd fel ag i fod wrth law bob amser, ysbryd ag y gallesid ei alw i foddloni mympwy: y naill i gynnorthwyo, a'r llall i rwystro gweithwyr i fyned yn mlaen â'u â'u gwaith. Gellir meddwl fod llawer o ddiniweidrwydd yn perthyn i amryw o honynt, tra y rhoddid chware teg iddynt, ac y cedwid rhag troseddu eu deddfau.
Arferol oedd i ysbrydion gynniwair i nentydd, coedydd, neu gilfachau neillduol. Nid oedd odid blwyf lle ni ddywedid am ryw goed, neu dŷ, neu le tywyll, i lange wrth ddyfod o garu weled ynddynt ysbryd; ac ofn mawr fyddai ar blant a gwragedd, a dynion llawn oed, gyrchu iddynt yn y tywyllwch. Weithiau clywid i law anweledig gydio yn nhroed y forwyn a'i llusgo o'i gwely; a mynych iawn y byddai i ysbryd hen gybydd ymddangos, i nodi yn mha le y cuddiasai ei arian, gan deilwng ystyried na ddeilliai unrhyw lesad oddiwrthynt yn y fath le; mai gwell eu troi at rhyw fudd yn mhlith ei olafion.
Megis yn y corff, yn gyffredin o ran natur, yr ymddygai ysbryd allan o'r corff: os yn frwnt, brwnt wedi'n: os yn lled agored ei enau, felly wedi'n; fel yr ymddengys oddiwrth anianawd hirbarhaol "Ysbryd Coed y Faenol," yn llefain ei dynged mor resynol ar nosweithiau ystormus, yn y geiriau,
"Gwae i mi erioed,
Ro'i esgid am fy nhroed
I ladd yn nghoed
Y Faenol."
Bu hwn yn ddychryn i'r ardaloedd am oesau, ac ni ynganid ei enw ond gydag arswyd. Yn ol tystiolaeth llu o etifeddion tir anghof, ysbryd dyn a gafodd ei grogi ar un o'r croesffyrdd am ladradau a llofruddiaethau ydoedd. Yn ol ereill, ysbryd dyn a gafodd ei ladd yn nghoed y Faenol ydoedd ; a'r llinellau cyfeiriedig ato, fel hyn:
"Gwae fi erioed
Ro'i bwyell mewn troed,
I ladd yn nghoed y Faenol."
Ysbryd hynod iawn oedd yr un a aflonyddai breswylwyr Cae-llwyn-grydd, Llanllechid, yr oedd yn curo pawb o'i amgylch! Efe a darawai ddyn yn ei wegil â chareg, pan y byddai yn sefyll a'i gefn ar bared, hyd nes y disgynai ar ei wyneb! Pa mor uchel bynag ydoedd y gwalch hwn yn ei fedrusrwydd i luchio ceryg, yr oedd yn ei fryntwch yn gyfartal ddigon, fel yr ymddengys oddiwrth ei ymddygiadau isel a chreulawn. Hefyd, yn ol hen gerdd, argraffedig yn Nhrefriw, yn y flwyddyn 1784, cawn ddarfod i wr a gwraig, yn mhlwyf Llanllechid, gael cryn fraw oddiwrth anfadwch bwgan a ymddangosai yn rhith mochyn, gan chwalu, tyrfu, dymchwelyd, tori dodrefn, &c.
Marwodd gŵr cyfoethog yn Mhlas Hen, plwyf Llanystumdwy, a daeth ei ysbryd, yn ol arfer gyffredin ysbrydion y pryd hyny i aflonyddu y teulu, fel na chaffent hûn i'w hamrantau. Ar brydiau, byddai'r hen blasdy yn crynu hyd i'w seiliau dan effeithiau ei alluoedd rhyfeddol, megis dan fflangell ambell wthwm ar ol gwthwm o wynt nerthol, y ffenestri yn clecian, a'r piseri dŵr adewid wrth ddrws y cefn yn llenwi yr ardal a'u swn.
Fel yr elai yr amser heibio, ac y cryfhai y brawychdod, bernid gyda dwysder neillduol, mai doeth ymofyn â dewin ar y fath achlysur difrifol, ac efe, fel y gweddai i bwysigrwydd urddas ei swydd ar y pryd, a ymddygodd yn hynod o uniawn yn ngwyneb yr amgylchiad, drwy alltudio yr ysbryd ansyber ac afreolus i'r pantle llawn dyrysgoed ag sydd a'i orweddle rhwng y Plas Hen a'r Gwynfryn; ac fel mae'n hysbys, yr oedd yn rhaid i ysbrydion gwasanaethgar o'r fath gael gwaith parhaus, onide deuent yn ol i aflonyddu drachefn; a'r gwaith a gafodd yr ysbryd hwn oedd, cario ymaith ddwfr yr afon gerllaw â rhidyll, nes cael o hono ei gwely yn sych; a chan fod mwy o dyllau yn ngwaelod y rhidyll nag o ddim arall, cafodd yn ddiau orchwyl digon anhawdd ei gyflawni ; ac fel yr ymddengys, gwaith lled anghysurus ydoedd i ysbryd hen foneddwr ag oedd wedi arfer byw mewn llawnder, seguryd, a phob moethau o'r fath! Gan nad arferol i neb roddi rhyw lawer o groesaw i ysbrydion eu perthynasau, diau nad oedd neb o deulu yr hen foneddwr hwn yn cwyno nac yn gofidio dim dros ei alltudiaeth yntau.
Yn Nghastellmarch, hen balas godidog yn Lleyn eisteddle boneddion cyfrifol yn deilliaw o gyff âch prif fonedd Cymru, y cyflawnid bron bob math o ystranciau rhwysgfawr, gan amryw ysbrydion ag oedd hoff ganddynt waith; a'r canlyniad o hyn, fu eu hanfon i lan y môr i wneyd rhaff o dywod, yr hwn orchwyl, ni chlybuwyd hyd yn hyn, ddarfod iddynt ei gyflawni, eithr tebygol eu bod yn glynu wrth y gwaith yn ddiwyd, gan nad oes y fath eiriau a "rhoddi heibio waith heb ei orphen" yn ngeirlyfr ysbrydion, hyd y gwyddom; er nad oes i lygad o gnawd unrhyw argoel o wneuthuriad rhaff yn y lle; eto eu henciliad a'u harosiad o'r hen balas am ugeiniau o flynyddau a ddengys rywbeth ; ond anaml y canfyddir hen balasdy, hyd y nod anghyfanedd, yn awr, yn cael ei aflonyddu gan ysbryd.
Yn Mrynllyngedwydd, plwyf Aber—erch, nodir cae a fu yn fynwent cyn gwneyd y fynwent ag sydd yn Aber—erch yn bresenol. Tua chwarter milltir i'r gogledd o'r cae a nodwyd, dywedir y safai Pont y Gwr Drwg, neu Pont Un—nos, yr hon a adeiladwyd mewn un noswaith gan y Gwr Drwg;" a thua milldir o gae y fynwent, yr oedd Camfa Angharad, lle y cloddiwyd careg o'r ddaear, ac arni gerf-ysgrif, yr hon nis gallai neb ei ddarllen ond Dic Aberdaron. Lle nodedig oedd Camfa Angharad am fwgan, yr hwn a welwyd gan lawer mewn amryw ddulliau, weithiau yn null nifer o ddynion mewn gwisgoedd claer—wynion yn symud yn gyflym drwy eu gilydd, yna yn cyfnewid i ddull milgwn yn llamu dros y clawdd i gae cyfagos. Mae yr hen Gamfa" yn hysbys iawn trwy froydd Llanarmon, Llangybi, a Llanhaiarn. Pawb yn gwybod am" Gamfa Angharad," a'r arswyd i fyned trosti bron cyn i'r nos ymddangos, yn dod i lawr o genedlaeth i genedlaeth ar blant a phobl weiniaid.
Yn nghymdogaeth Llyn-Nad-y-Forwyn yr oedd deuddyn ieuangc wedi eu dyweddio i briodi; ond yr oedd y mab wedi rhoddi ei serch ar ferch arall; a'r noson cyn y briodas rhoddodd hwth i'w ddyweddi i'r llyn uchod, er mwyn bod yn rhydd oddiwrhi i gael priodi y llall. Byth ar ol hyny yr oedd y gymmydogaeth yn cael ei haflonyddu gan ysbryd. Ambell dro ceid ei weled yn dyfod i lawr ar hyd yr afon Golwyn fel olwyn o dân; bryd arall gwelid boneddiges yn rhodio oddeutu yr afon, mewn gwisg o sidan; dro arall byddai cwynfanau dolefus yn dyrchafu o'r llyn; ac ambell dro gwelid merch ieuangc yn dyfod i fyny o'r llyn yn hanner noeth, a'i gwallt gwlyb yn hongian i lawr dros ei hysgwyddau; ac yn cwynfan yn chwerw a thorcalonus uwchben y llyn, yr hwn, ar ol hyny, a elwid "Llyn-Nad-y-Forwyn."
Yn y Waen Fawr, mor ddiweddar ag oes Dafydd Ddu Eryri, yr oedd ysbryd yn ymhyfrydu bod ar ben coeden yn nyddu troell fach, &c., a chanodd y bardd awenber iddo fel hyn :
"Mi glywais i ers dyddiau
Fod bwgan yn y Pentre'
Weithiau'm mrig y coed yn dân
Yn chware'r mân ganghenau.
Mae'n well gan ambell gythrel
Gael gwneyd ei sedd yn uchel;
Rhoed pawb eu gweddi tra bo chwyth
Na ddelo byth yn isel."
"Yr oedd rhywbeth pur ddychrynllyd weithiau i'w weled, ac yn fynych iawn i'w glywed, yn y coed yn nghymmydogaeth Boduan, yn Lleyn. O ran ffurf nid annhebyg ydoedd i lwynog, ond ei fod yn fwy ei faint, ac ysmotiau mawrion draw ac yma ar hyd-ddo. Yr oedd ei oernadau yn y nos, medd llên y werin, yn ddigon i yru arswyd drwy gilfachau y galon ddewraf. Er bod yr olwg arno i raddau yn debyg i lwynog, eto yr oedd y swn a wnelai yn debycach i fref asyn nag i gyfarthiad cadnaw. Os dynwaredai un ei oernadau, atebai yntau ef yn gyson, a dynesai ato hyd o fewn ychydig; ond ni ddeuai braidd un amser mor agos ag y gallai dyn ei weled. Nis clywid son am dano yn yr haf nac yn gyffredin yn ystod y dydd; ond ar nosweithiau yn y gauaf, yn enwedig os byddai hi yn barugo, yr oedd yr oernadu yn ofnadwy iawn. Un o'i nodweddion ydoedd ei elyniaeth tuag at gathod; cipiai hwynt pa le bynag y cai gyfle arnynt ac ni welid mohonynt mwy. Bu yn ardal Boduan, ac oddi yno i goed y Plas Hen, yn Eifionydd, am rai blynyddoedd; ond bellach nid oes son am dano yn un o'r parthau hyn. Bernir gan rai o ddoethion Lleyn, mai rhyw fwystfil tramor ydoedd; ac mai diangc a wnaethai o ryw long a ddygwyddai fod yn angori yn angorfa St. Tudwal neu ryw le arall yn y cwmpasoedd. Ac os felly mae Bwystfil Boduan yn cyfateb i gryn raddau i Gath Balug yr hen Chwedlau Cymreig.'
Er ys llawer o flynyddau yn ol, ni cheid na thawelwch na llonyddwch yn Gellewig, plwyf Bryncroes, gan ymyriadau ysbryd dyreidus, yr hyn a barodd i'r teulu dybio mai gwell fyddai myned i geisio Mr. Williams, Ebrwyad Llanengan, gŵr a chanddo allu "i godi ac i ostwng cythreuliaid" fel y mynai, yn ol llafar gwlad a gwerin; ond bu agos i'r ysbryd hwn gael ei law yn uchaf arno, oherwydd, medd yr hanes, daeth yr hen Ficer allan o'r ystafell, lle buasai ef a'r ysbryd yn ymgodymu, â'i ddillad yn garpiau, a'r fath arogl ddrewedig arno, fel y gorfuwyd golchi pob cerpyn oedd yn ei gylch, a'i rwbio yntau â sebon meddal o'i goryn i'w sawdl. Mynai y gwr eglwysig fod i'r ysbryd aros dros ysbaid hanner can' mlynedd mewn twll ebill, wedi ei dori yn un o dylathau y tŷ, yn gauedig â thopyn digon tyn, fel ag i'w ddiogelu rhag aflonyddu o hono neb yn nghorff yr amser appwyntiedig; eithr yr ysbryd a wrthwynebai y fath benyd a hyny, drwy ymladd a dadlu yn egniol fod deng mlynedd yn llawn ddigon o gosp arno, yn ngwyneb cyfartaledd ei droseddau; a'r diwedd fu, iddynt gyttuno ar i'r ysbryd lochesu yn y twll pennodol dros yr ysbaid o ugain mlynedd; a dyna derfyn ei hanes fel yr ymddengys hyd yn hyn.
Llawer gŵr syber a moesol, uniawn ei ymddygiad, a chredadwy ei air, a glywodd ac a welodd bethau rhyfedd o bob lliw a llun yn y nos ar hyd "Lon-ceryg-bychain " a "Lôn-nant-Iago," yn mhlwyf Llanbedrog. Meddiannid yr holl ardal ar fachludiad haul y gauaf gan breswylwyr byd yr ysbrydoedd, fel nad gwiw oedd i neb o breswylwyr cyfreithlon yr ardal fyned allan ar ol iddi nosi heb gael ei aflonyddu gan fodau o'r byd anweledig, naill ai preswylwyr hudoliaethus byd tanddaearol y Tylwyth Teg, ai cenadau oddiwrth ei fawrhydi brwmstanaidd, neu o'r ardal dawel lonydd lle y peidia y trigolion a'u cyffro. Yr oedd bwgan yn llechu yn sawdl pob clawdd, canwyll gorff yn goleuo pob Eglwys, ladi wen yn gwylio pob croesffordd, a drychiolaethau mor aml a llwyni eithin.
Mae lle neillduol o'r enw yr Efail Bach, yn mhlwyf Aber—erch, yn Eifionydd, yn cael ei nodi fel llecyn ag yr oedd pobl yn gweled y gwrthddrychau hyn ar amserau pennodol iddynt ymddangos. Bu y bardd parod a medrus ei awen, Sion Cawrdaf, neu Sion Owen y Garddwr, fel yr adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin, yn byw yn y lle yma, ac fel yr oedd efe a'i briod unwaith yn digwydd dyfod adref o Bwllheli, a throi o honynt i westy yn Abererch, a digwydd i'r bardd ymloni a chael blas ar ymdroi, er cryfed rhesymau ac esgusodion teg y wraig i geisio ei ddenu adref, yn ngwyneb ei awgrymiadau ef dros iddi fyned ei hunan; ond o'r diwedd, yn ol ei hen arfer naturiol, torodd y bardd allan fel y canlyn:
"Mae Hannah heno yn ei chrwth
Yn bygwth gweled bwgan,
Yr hen Rahel Penarth Bach
Yn rorio am yr arian.'
Dywed hen draddodiad y byddai yr Un drwg yn ymddangos i ddynion, yn eu harwain i ffosydd yn hirnos gauaf, a pheri iddynt golli y ffordd yn y tir ag sydd a'i orweddle rhwng Broom Hall a Rhedynog; ac yn ngwyneb hyny, nad oedd dim yn well i ddyn wneyd na throi ei logell y tu gwrthwyneb allan, yna byddai y gwr drwg yn cilio ymaith, neu, yn fwyaf tebygol, y dyn yn dyfod ato ei hun ar ol ymddyrysu, drwy gymmeryd amser i droi ei logell, yr hyn oedd yn tynu ei sylw oddiar y cyfeiriad oedd ganddo mewn golwg pan gollodd y llwybr.
Yr oedd rhyw ysbryd neu ddrychiolaeth yn Mhenfarth Fawr, fel yn mhob lle ag y byddai hen adeilad yn bodoli, yr hwn oedd yn arswydo braidd bawb a elent heibio i lidiard y buarth os byddai yn hwyr. Y Ladi Wen oedd cynllun ysbrydol y bwgan hwn, yn arddull o ferch ieuangc hynod brydferth o bryd a gwedd a ymgartrefai yn y lle, yr hon ag yr oedd balchder ac uchder yn elfen ryfygus yn ei chyfansoddiad, a charu yn achos hoff ganddi, ond byddai raid iddi gael boneddwr o waed uchel i'w rheoli, onide gwrthodedigaeth fyddai y canlyniad, ac felly yr oedd ei sylfaen garwriaethol yn ei phrydferthwch, a disgwyliai i foneddwr trwyadl ei hoffi o'r herwydd. Ond un tro yn lled hwyr, wele yr eneth yn dyfod adref ar gefn ceffyl, wedi ymwisgo mewn dillad claer-wynion yn ol ei dull arferol. Ond pwy ddaeth o hyd iddi cyn cyrhaedd y tŷ ond gŵr bonheddig o ran golwg, ar farch fel hithau, rhoes ei serch arni, aeth yn garwriaeth; ond diwedd yr ymdrafodaeth oedd i'r carwr ysbrydol fyned yn olwyn o dân drwy'r simdde; ymaflodd braw yn ei chyfansoddiad o'r herwydd, a bu farw mewn ychydig ddyddiau.
Eto, y mae genym hanes am ysbryd a breswyliai dros amser maith yn Mrynbachau, plwyf Llanarmon, yr hwn bob amser a ymddygai yn hynaws, tosturiol a charedig wrth y tlawd. Pan y delai gardotyn at y drws, pa hwyl bynag fyddai ar deulu y tŷ, gofalai ef, nid oes achos i ddywedyd ar draul pwy, am daflu iddo dorth o fara, heb nag edliw na grwgnach dim yn ngwyneb amledd ymweliadau y cardotwyr, &c. Ond teulu y ty, yn teimlo yn ddwys oddiwrth yr hyfdra a gymmerai efe ar eu llafur a'u heiddo hwy, a aethant, heb yn wybod iddo, at hen gymmeriad hynod o ddewin dygn yn ei oes, a chasglwr llyfrau annghyffredin, a gyfenwid Sion y Llyfrwr, o Lanarmon, i edrych a allai ef agor rhyw ddrws o ymwared iddynt oddiwrtho, a'r canlyniad fu, offrymu yr hen ysbryd elusengar a rhinweddgar dros drwyn Penychain i'r môr.
Yn ffodus, yr ydym yn hysbys o liaws o enwau yn Lleyn ag Eifionydd, ac ydynt yn dwyn arnodion cofiannol o gyflwr ein gwlad yn yr oesoedd hyny, megis y rhai canlynol:—Cae'r Bwgan, yn Mhwlldefaid, Aberdaron; Cae Bodwiddan, yn Ngafelan Fawr, plwyf Llangwnadl; Cae'r Bwgan, yn Nhrefgwm, plwyf Myllteyrn; Nant y Widdan, yn agos i Fadryn, yn mhlwyf Llaniestyn; Perthen Bwbach, yn Nyffryn, plwyf Llaniestyn; Careg y Bwgan, ger Pigstryd, yn mhlwyf Llanbedrog; Cae'r Bwgan, yn Motacho Ddu, plwyf Nefyn; Lleiniau'r Bwgan, yn Hobwrn, plwyf Nefyn; Cae Pwll y Widdan, yn Mhlas Boduan; Cae Pwll y Widdan, yn Hendref, Boduan; Erw'r Bwgan, yn Mathan Isaf, Boduan; Cae Pwll Bwbach, yn y Gwynfryn, plwyf Llanor; Cae'r Widdan a Chae'r Widdan Uchaf, yn Hendrefeinws, plwyf Abererch; Pwll yr Wyll, neu Pwll y Gwyll, yn Nhy'n Lôn, Fourcrosses, plwyf Abererch; Pwll yr Ellyll, yn nhir Murgwt Lloer, plwyf Llanarmon; Cae Pant y Bwgan, yn Nhyddyn y Berth, plwyf Llanarmon; Camfa'r Bwbach, ar y terfyn rhwng Hen Inn a Thŷ'n y Coed Uchaf, yn mhlwyf Llanystumdwy; Gallt y Widdan, yn Nhyddyn Madog Goch, plwyf Llanystumdwy; Nant y Widdan, yn Mhen. stumllyn, plwyf Criccieth; Pant y Gwylliaid, yn nhir Pant Glas, yn y Cenin, plwyf Llanfihangely—Pennant; Ffynnon y Cythraul, yn ymyl Llanfihangel-y-Pennant; yr Ellyll, yn Nghwmtrwsgwl, plwyf Llanfihangel-y-Pennant; Beddau'r Dewiniaid, yn agos i Ddinas Emrys, yn mhlwyf Beddgelert; Cader (neu Gastell) Ellyll, sy graig fechan yn agos i'r Wyddfa.
Y TYLWYTH TEG
Yn nhraddodiadau gwahanol genedloedd yr hen fyd yr ydym yn fynych iawn yn dyfod ar draws y Tylwyth Teg, a lliosog yw y chwedlau a adroddir am danynt. Er eu bod yn myned o dan wahanol enwau yn mhlith y gwahanol genhedloedd, eto y mae y chwedlau am danynt mor debyg i'w gilydd fel y mae yn amlwg eu bod wedi tarddu o'r un gwreiddyn. Ond yr hyn sy ddirgelwch yw y modd y daeth y chwedlau hyn i fodolaeth. Tybia rhai mai perthyn yn neillduol i'r Celtiaid y maent, ac mai oddiwrthynt hwy y trosglwyddwyd y cyfryw i blith y llwythau Ellmynaidd. Gallai hyny fod yn wir, oblegid fod y Celtiaid wedi gwladychu yn Ewrop o flaen yr Ellmyn. Ymddengys hefyd fod Tylwyth Teg y Celtiaid yn fodau mwy diniwed nag Elffod yr Ellmyn a'r Llychlynwys, a dichon y gellir priodoli hyny i'r ffaith nad oedd y Celtiaid yn oresgynwyr mor greulawn a gwaedlyd a'r Ellmyn, ac felly nad oeddynt yn cynhyrfu dialedd y rhai a oresgynid ganddynt i'r un graddau o gynddaredd.
Prin iawn yw ein gwybodaeth am y llwythau a gyfanneddent yn Mhrydain tuag amser dyfodiad y Rhufeiniaid i'r Ynys. Os oedd rhai o'r hen frodorion cyntaf, a ragflaenorent y Celtiaid yn rhanau aros y pryd hwnw, gellid disgwyl eu bod yn pellaf y wlad, neu y rhanau mwyaf mynyddig o honi, lle y gallent amddiffyn eu hunain oreu rhag eu gelynion. Cawn ar ddeall fod yn amser y goresgyniad Rhufeinig lwyth o bobl o'r enw Cangi, neu Ceangi, yn preswylio mynyddoedd Eryri a'r ardaloedd cylchynol; a lle a fu wedi hyny yn amddiffynfa gref i'r Cymry yn ystod rhuthriadau aml y Saeson arnynt. Yr oedd hefyd lwyth o'r un enw yn cyfaneddu yn y rhan fwyaf gorllewinol o'r Iwerddon, yn gyfagos i aber y Shannon. Cyfanneddai y llwythau yna yn y manau lle buasai yn naturiol disgwyl fod rhai o weddillion y cynfrodorion yn aros. Heblaw hyny y mae genym brofion fod y Cangi yn enwog fel mwngloddwyr, yr un fath a'r Ffiniaid a'r Basciaid. Yr ydys wedi cael yn Mhrydain amryw farau o blwm wedi eu cloddio yn amser y Rhufeiniaid, ac mor gynnar a'r ganrif gyntaf, ac argraff Rufeinig arnynt, yn dangos pa ymerawdwr oedd yn teyrnasu ar y pryd, ac y mae enw y Cangi, neu y Ceangi, ar rai o honynt, yn arwyddo eu bod wedi eu cloddio a'u toddi gan y llwyth hwnw. Cloddiwyd a thoddwyd hwy yn Ngogledd Cymru, yn nghyffiniau y llwyth hwnw, ond dywed Pennant fod argraff yr un llwyth ar farau a gloddiwyd yn mynyddau y Peak, swydd Derby.
Ffaith arall sy'n tueddu i gysylltu y Tylwyth Teg â llwyth y Cangi, hen fwngloddwyr Gwynedd, yw y ffaith a goffeir gan Pennant, sef fod dognau bychain o petroleum, neu greig-olew, i'w gael yn nghreigiau Gogledd Cymru, a'i fod yn cael ei alw gan y mwnwyr yn ei amser ef wrth yr enw "ymenyn y Tylwyth Teg;" mewn cyfeiriad mae'n lled debyg at ryw hen draddodiad am y cyfryw fel mwngloddwyr yn Ngwynedd.
Y mae traddodiadau gwahanol genedloedd yn priodoli medruswydd dirfawr mewn hud, lledrith, a swynion i'r Tylwyth Teg; ac y mae'n deilwng o sylw fod yr hen draddodiadau Cymreig yn priodoli yr un peth i breswylwyr gwlad y Cangi.
Yma y preswyliai Gwydion ab Don, yr hwn, yn ol y rhamantau Cymreig oedd y medrusaf o bawb mewn hud a lledrith, ac hefyd Gwyn ab Nudd, yr hwn a elwid yn frenin y Tylwyth Teg.
Bellach, awn yn mlaen at y drefn neillduol a berthynai i'r Tylwyth Teg Cymreig. Credid eu bod yn fodau goruwchnaturiol, braidd yn fychain o gorffolaeth, o wynebpryd prydferth, tebyg i ddyn, ac yn ymwisgo mewn gwyrdd. Ymddengys fod eu cymmeriad yn gymmysg o ddrwg a da, mwy o'r blaenaf, yn debygol; ond nad oeddynt wedi ymlygru digon i haeddu uffern, nac mor rydd oddiwrth ddrwg ag i gael mynediad i'r nefoedd. Tybid eu bod yn tueddu i fod yn garedig i bawb fyddent rinweddol, ond eu bod yn casau pechod, ac yn neillduol celwydd ac aflendid â chasineb perffaith. Darlunir hwynt weithiau fel yn eiddigus wrth ddynion, ac yn gwneuthur castiau difrifol â hwy, megis lladratta plant, rhai heb eu bedyddio yn fwyaf cyffredin, gorfodi y rhai elai i'w cylchoedd aros gyda hwynt drwy nerth eu swynion; ac yn ol y llyfr a elwir "Cas gan Gythraul," byddai y rhai arferol o'u canlyn yn cael eu curo ganddynt nes byddent yn gleisiau.
Gosodid hwy allan fel teuluoedd yn preswylio yn rhywle o dan wyneb y ddaear, a'u bod yn mwynhau yn eu cilfachau rywfath o gysgod o ddedwyddwch, a rhith o orwychder, yr hwn er hyny a gyfnewidient yn dra ewyllysgar am fwynderau mwy sylweddol marwolion. Llywodraethid hwy gan frenin a brenines—Oberon a Titania. Byddai y Penaethiaid yn marchogaeth ar geffylau cyn wyned a'r llaeth, ac yn arfer gwisgo y tu hwnt i ddarluniad o ran prydferthwch. Yr oedd eu gwlad yn annghyffredin o gyfoethog a phrydferth, yn llawn o ystafelloedd godidog, gwleddoedd gorwych, gwinoedd melusion, a rhianod harddach na merched dynion. Ond os digwyddai i rhyw weledydd goruwchnaturiol edrych arnynt, canfyddai nad oedd yr holl arddangosfa ond twyll; yr aur a'r perlau yn ddim amgen na llechau neu geryg; na phydferthwch eu cyrff yn ddim ond gwrthuni i'r eithaf; ac y mae yn ymadrodd cyffredin hyd heddyw am un fyddo'n byw mewn modd hynod ac annghyffredin, heb neb yn gwybod o ba le y mae yn cael ei gynnaliaeth ei fod yn byw ar dir y tylwyth teg," h.y., trwy foddion anadnabyddus.
Hen bobl a ddywedent eu bod i'w clywed yn chware eu hofferynau cerdd fin nos hir-ddydd-haf, nes byddai y bryniau yn dadseinio eu melysber gerddoriaeth, a thybid y gwelid ol eu traed bychain yn y cylchau lle yr arferent gorelwi ar hyd y dolydd, y caeau gwair, a'r bryniau; ac oddiwrth hyny y cawsant yr enw Cylchau neu Fodrwyau y Tylwyth Teg. Pe digwyddasai i ddyn fyned heibio iddynt ar adeg gwledd o lawenydd a dawns buasai yr atyniad yn gymaint fel mai anmhosibl fyddai iddo fyned oddiwrthynt heb gael ei gipio i mewn i'r cylchau, ac nid oedd modd yn y byd gael dyn allan oddiwrthynt, heb gael dyn arall ag oedd yn gyfarwydd â'u harferion, i ddyfod i'r lle, a bod yn ofalus am gadw allan o'r cylch, a dal ffon hir estynedig tua chanol y cylch, ac ar eu gwaith yn myned oddiamgylch yn y dawns gyda'r dyn, y gwnelai y dyn arall gyffwrdd â'r ffon, ac yna y delai ato ei hun i weled y ddaear a'i gydddyn, yr hyn oedd dywyll iddo tra oddifewn i gylch y Tylwyth Teg; a phe na ellid cael gafael ar ddyn ag oedd adnabyddus â ffyrdd y Tylwyth yma, byddai raid i'r dyn a gipid aros yno dros ystod un dydd a blwyddyn, neu yn hytrach hyd nes y byddai yr orymdaith yn newid ei sefyllfa. Y mae traddodiad yn aros hyd y dydd heddyw am ddigwyddiad a gymmeroedd le ar gydiad Lleyn ac Eifionydd, i'r Tylwyth Teg fod yn dawnsio, pryd y canlynid hwy gan beroriaeth felusach nag a ddaeth erioed o enau dyn, ar ddôl deg islaw i amaethdy lled enwog, a bod un o ferched ieuaingc y ty wedi myned i'w gweled, a digwydd iddi fyned yn rhy agos i'r cylch lle y corelwent nes oedd hi wedi ei hennill i fyned gyda hwynt. Cymmerodd hyn le heb yn wybod i'r teulu, medd y chwedl, a bu y ferch ieuangc ar goll am flwyddyn, a'i brawd, yn ol cyfarwyddyd dewin, a'i cafodd yn yr un man, gyda'r Tylwyth Teg. Yr oedd ei brawd i sefyll wrth gwrr y cylch, tra hithau yn mhlith y "teulu bach" yn d'od yn ei thro yn y cylch, ac yntau i ymaflyd ynddi heb fyned i'r cylch ei hunan.
Yn Lleyn yr oedd dyn a fyddai yn arfer gweled y teulu dedwydd yma braidd bob nos. Pan byddai yr haul yn myned dan ei gaerau, a'r niwl yn gorwedd yn isel ar y pantiau, byddai y dyn yn canfod y Tylwyth Teg yn dawnsio a'u holl egni ; ni fyddai yn canfod dim ond eu penau yn ysboncio allan o'r niwl; a phan geisiai fyned atynt, byddent hwythau yn pellhau oddiwrtho. Ryw dro yr oedd brodor o Nefyn ar ei daith adref o ffair Bwllheli, ac wrth yr Efail Newydd gwelai dafarn fawreddog, a chan y gwyddai nad oedd yno y pryd hyny yr un dafarn i fod, gofynodd i un o'r gweision os oedd ganddynt ystabl a roddent ei farch i fewn? Atebwyd yn gadarnhaol. Rhoddwyd y march yn yr ystabl ac aeth yntau i'r ty; gofynodd am beint o gwrw ac ni chafodd ei well erioed. Yn mhen ychydig gofynodd am gael myned i orphwys, a chafodd hyny. Aeth i'w orweddle, yr hwn ydoedd o ran gwychder yn deilwng o'r brenin; ond wchw fawr! erbyn iddo ddeffro, cafodd ei hun yn gorwedd ar ei hyd—gyd mewn tomen o ludw, a'r ceffyl wedi ei rwymo wrth bolyn clawdd gwrysg.
Mangre hyfryd a thra deniadol i anianawd y Tylwyth Teg ydoedd Aber Soch, a llawer gwaith y gwelodd hen wr Melin Soch hwy yn dawnsio yn ymyl yr odyn; a hynod amrywiol oedd ffurfiau a chyfnewidiadau y ddawns—rhai yn dyfod i fyny, ereill yn myned ar eu hol, ac ereill drachefn yn myned megis ar gylch. Yr hen wraig hefyd a arferai ddywedyd y byddai lliaws o foneddigesau y Tylwyth Teg yn dyfod ati, a hyny bob amser ar dywydd tawel, gan amlaf ar geffylau gwynion bychain, dim mwy na chwn, i ofyn benthyg padell bobi at grasu bara gwyn, ac iddi ugeiniau o weithiau ei rhoddi iddynt; a phob tro wrth ei dychwelyd, iddynt ddyfod a thorth wen braf yn dal am ei benthyg; ac y mae yr hen badell yno i'w gweled hyd heddyw.
Adroddai Williams Evans, gôf, yn mhlwyf Llanbedrog, fel y daeth llu o'r Tylwyth Teg ato un noswaith at ei efail gyda lliaws o ferlynod eisiau eu pedoli. Ni welsai erioed y fath ferlynod o'r blaen. Disgynodd y merched bach prydferth oedd yn eu marchogaeth gan orchymyn iddo hwylio at ei waith tra y buasent hwythau yn dawnsio tro neu ddau ar lecyn glas yn ymyl; ond erbyn i William dd'od o'r efail gyda'i ger pedoli, yr oedd y cwbl wedi diflanu o'r golwg.
Ar noswaith loer-gan, tra Sion Ellis, Pigstryd, yn dyfod adref oddiwrth ei waith o'r Wern Fawr, gwelodd oddeutu tri dwsin o honynt yn dawnsio ar faes glas yn ymyl Caehwsni, i sain telynorion o'r fath fwyaf soniarus a glywsai erioed.
Adroddir yr hanesyn canlynol fel ffaith anwadadwy a gymmerodd le lawer gwaith yn Ystumcegid, plwyf Llanystumdwy:—Byddai y Tylwyth Teg yn arfer myned yno i ofyn benthyg gradell i grasu bara ceirch, ac wedi ei chael yn myned ymaith gan ymsuddo i lecyn ar yr afon Ddwyfor, a adnabyddir wrth yr enw Llyn y Gwragedd. Bob tro yr ymwelent â'r ty i geisio y radell, sibrydai y plant wrth eu rhieni na welent mo y radell byth mwyach; ond yn ol y deuid â hi gyda'r gofal mwyaf, a thorth geirch yn gydnabyddiaeth am ei benthyg, a hyny bob amser wedi yr elai teulu y ty i "hun a heddwch."
Ty'r Dewin, ty o hynafiaeth cyntefig, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, ydoedd hefyd hoff drigle iddynt. Dywed traddodiad fod gweision y lle hwn rywbryd ar y gorchwyl o dynu pytatws, ac er maint a dynent nad oeddynt yn cael gafael ond ar ychydig o honynt i'w dodi yn y cawell, a sylwai un o honynt ar y peth, pryd y chwanegai un arall, gan ofyn, a wyt ti ddim yn gwel'd y gweilch bach yna yn eu cario i ffwrdd mewn basgedi o hyd?" Ar hyny, gofynodd un o'r Tylwyth Teg i'r gwr hwn â pha lygad yr ydoedd yn eu gweled hwy. "Efo hwn," meddai'r dyn. Ac ar darawiad cymmerodd babwyren ag a'i tynodd allan. Yn y ffordd islaw, o fewn ergyd careg i'r ty, tarewir ar swn dieithr—swn yn cael ei achosi gan wagle odditanodd; a thaenid y gair allan yr ymgartrefent yn y lle, ac fod yno, hyd heddyw, drysorau anhybris yn nghadw.
Yr oedd Trewen, amaethfa yn mhlwyf Llandegwning, yn nodedig am y byddai y "teulu bach" yn ymweled ag ef. Byddent yn dod i'r afon gerllaw i ymolchi, ac ambell dro croesent y dwfr mewn cychod wedi eu gwneyd o risg criafol neu fedw, ac elent i'r ty i dalu eu hardreth am eu bod yn arfer mathru o amgylch y lle. Rhoddent ddernyn o arian o dan gunog bob amser, a'r canlyniad fu i'r bobl oedd yma yn byw dd'od yn gyfoethog annghyffredin. Ond rywfodd, ar ol llawer o flynyddoedd, perchenog y lle a'u digiodd, drwy ddangos sarhad tuag atynt, ac ebrwydd y dechreuodd y byd droi yn ei erbyn, ac nid hir y bu heb syrthio i gyflwr isel o ran amgylchiadau. Troes pobpeth megis i'w erbyn; a chredai pawb mai oblegid iddo sarhau y Tylwyth Teg y daeth hyn oll i'w ran.
Yr oedd dyn yn byw yn Nant y Golchi, plwyf Llanfihangel Bachellaeth, a fyddai arferol o ganlyn y Tylwyth Teg. Dechreuodd, yn ol cyfaddefiad ei wraig wedi ei farw ef, drwy gysgu allan ryw noswaith wrth ddyfod o'r dafarn, a pharhaodd i'w ddilyn unwaith yn y mis drwy ystod ei oes. Byddent yn galw arno i godi o'i wely atynt wrth ei enw, ac yn ei gymmeryd allan drwy'r simdde, yn ol barn ei wraig, am na byddai y drws yn cael ei agor un amser ar gefn trymedd nos, oddieithr ar yr adeg y byddai efe arferol o ddyfod adref oddiwrthynt hwy, a hyny drwy i'r wraig godi o'i gwely i'w ddatgloi iddo. Nid boddlawn f'ai ganddynt iddo roddi cyhoeddusrwydd i'r hyn oeddynt yn amlygu iddo, ond cyfaddefai iddo un noswaith pan yn cyfeirio tuag adref, a baich ganddo yn ei ddwyn ar ei ysgwydd, iddynt ei gymmeryd ef gyda hwy, ac na chafodd ganiatad ganddynt i roddi ei faich i lawr drwy gydol yr holl
Yr oedd ei wraig yn dyweyd y gwyddai ef y dydd y byddai farw—fod y Tylwyth Teg yn alluog i ragfynegi digwyddiadau, y byddent weithiau yn gwahodd pobl i'w gwlad, y byddent yn rhoddi dail i iachau cleifion, ac y byddai enaid un yn cael myned i'w gwlad hwy ar ol marw.
Yn Ngarth Dorwen, plwyf Llandwrog, rhyw gyfnod maith yn ol, yr oedd gwr a gwraig yn byw, y rhai a aethant i Gaernarfon i gyflogi morwyn ar ddydd ffair G'langauaf. Yr arferiad gan feibion a merched y pryd hyny oedd, i'r rhai a safent allan am leoedd aros ar ben y Maes presenol wrth boncan ydoedd yn y fan lle y saif y Llythyrfa (Postoffice) presenol; ac aeth yr hen wr a'r hen wraig i'r llannerch yma, a gwelent eneth landeg gyda gwallt melyn, yn sefyll ychydig o'r neilldu i ereill. Aeth yr hen wraig ati a gofynai iddi a oedd arni eisieu lle, tra yr atebai hithau fod. Felly cyflogwyd hi, ac aeth i'w lle ar yr amser penodedig. Byddai yn arferiad y pryd hyny i nyddu ar ol swper, oriau hirnos gauaf, ac arferai y forwyn a myned i'r weirglodd i nyddu wrth oleu y lleuad, a deuai y Tylwyth Teg ati i ganu a dawnsio. Ond rhywbryd yn y gwanwyn diangodd Eilian (canys dyna oedd ei henw) ymaith gyda'r Tylwyth Teg, ac ni welwyd mohoni mwyach. Y mae y cae y gwelwyd hi ddiweddaf yn cael ei alw hyd heddyw yn Cae Eilian, a'r weirglodd yn Weirglodd y Forwyn. Arferai hen wraig Garth Dorwen a rhoi gwragedd yn eu gwelyau, a chyrchai pawb ati o bob cyfeiriad i'r diben hyny. Rhyw dro wele foneddwr yn dyfod at ei drws, ar noson lloergan i'w chyrchu at ei briod, tra yn gwlawio ychydig, a braidd yn niwliog; ac felly aeth yn ysgil y gwr dieithr hyd at Rhos y Court. Yr oedd poncan lled uchel y pryd hyny ar ganol y Rhos, yn debyg i hen amddiffynfa, a llawer o geryg ar yr ochr ogleddol iddi, yr hon sydd i'w gweled hyd heddyw dan yr enw Bryn y Pibion. Pan gyrhaeddwyd y lle, aethant i ogof fawr, yna i ystafell lle yr oedd y wraig yn ei gwely, yr hwn le oedd yr harddaf a welodd yr hen wraig erioed yn ei bywyd. Rhoes y wraig yn ei gwely ac aeth at y tân i drin y baban; ac ar ol gorphen, wele y gwr yn dyfod â photel i'r hen wraig i iro llygaid y baban, gan ei rhybuddio i ochelyd rhag iro ei llygaid ei hun. Ond rhywfodd wedi rhoi y botel heibio, fe ddaeth ysfa ar ei llygad, a rhwbiodd yr hen wraig ei llygad â'i bys, sef y bys â'r hwn yr eneiniai lygaid y maban, a gwelai a'r llygad hwnw y wraig yn gorwedd ar dwmpath o frwyn a rhedyn crinion, mewn ogof fawr, a cheryg mawrion o bobtu iddi, ac ychydig bach o dân mewn congl yno, a gwelodd mai Eilian ei hen forwyn oedd hi, tra â'r llygad arall y gwelai fan y lle ardderchocaf a welodd hi erioed. Yn mhen amser ar ol hyny aeth i farchnad Caernarfon, a gwelodd y gwr dieithr, a gofynai iddo, "Sut yr oedd Eilian?" "O! y mae hi yn bur dda," oedd yr atebiad, gan ofyn iddi, "â pha lygad yr ydych yn fy ngweled i?" A hwn," ebai hithau, gan ei nodi iddo. Cymmerodd yntau babwyren, ac mewn eiliad tynodd ei llygad allan oi phen. Priodolir y chwedl hon hefyd, gyda pheth gwahaniaeth, megis wedi digwydd yn Mhencoed, plwyf Llanarmon, yn gysylltiol â marchnad Pwllheli.
Priodas ag un o'r Tylwyth Teg.—Dywedir yr arferai y Tylwyth Teg ymgynnull i ymgipris a dawnsio ar nosweithiau pan fyddai yn lloergan teg, yn un o weirgloddiau perthynol i fferm Ystrad, Bettws Garmon. Yr oedd gwr ieuangc y fferm un prydnawn wedi myned i lechu gerllaw y fan y byddent yn ymgynnull; ac yn ol eu harfer deuent yno yn llu, a phan oeddynt yn nghanol eu dawns, neidiodd yntau yn mlaen i'w canol, a daliodd un o'r rhyw deg. Brawychwyd y lleill, a diflanasant, yn y fan. Cymmerwyd yr un a ddaliwyd i'r Ystrad ac yno yr ymddygwyd ati yn hynod garedig nes o'r diwedd y daeth i ymfoddloni gweinyddu fel llawforwyn i'r etifedd ieuangc a'i daliasai, er yr ymddengys iddi omedd mynegi ei henw wrth y teulu. Yn fuan iawn ar ol hyn, canfyddai y gwr ieuangc y Tylwyth Teg yn myned trwy eu campau yn yr un fangre ag o'r blaen, ac wedi dynesu atynt yn llechwraidd, efe a glywodd un yn dywedyd,"Y tro diweddaf y bu'm yma y cipiwyd ein chwaer Penelope oddiarnom gan un o'r marwolion." Achosodd hyn gryn lawenydd yn mynwes y gwr oherwydd cael allan enw yr un a gaethgludasai, ac yna dychwelodd yn ddioedi, a chynygiodd ymbriodi â'r rhian deg, oherwydd yr oedd yn fenyw mor hynod hawddgar, ac ynddi gymhwysderau i wneyd gwraig dda. Anhawdd iawn oedd cael ganddi gydsynio â'r cais; ond trwy ddyfalbarhad a thaerni yn gwasgu y cais, fe lwyddwyd i gael ganddi gydsynio ar yr amod a ganlyn: "Os byth ei tarewai â haiarn ei gadawai ef, ac na ddychwelai ato mwyach." Ffurfiwyd yr undeb rhyngddynt, ac am lawer o flynyddau buont yn cydfyw yn dra dedwydd a llwyddiannus, oblegid fe ddywedir iddo (y gwr ieuangc) dd'od yn un o'r gwŷr cyfoethocaf yn y wlad.
Ond fe ddaeth dydd i wirio yr amod, ac y diflanodd Penelope, ac nas gwelwyd hi mwyach, oherwydd fe ddigwyddodd, fel yr oedd hi a'i gwr un diwrnod yn ceisio dala ceffylau yn un o'r meusydd, i'r gwr daflu y ffrwyn oedd yn ei law at yr anifail, ond yn anffodus ar y wraig y disgynodd, ac nis gwelwyd hi mwyach; ond fe ddywedir iddi ymrithio i ffenestr yr ystafell un noson, a dymuno ar i'w dau blentyn gael gofalu am danynt yn y modd canlynol:
Rhag bod anwyd ar fy mab,
Yn rhodd rhowch arno gob ei dad;
Rhag bod anwyd ar liw'r càn,
Rhoddwch arni bais ei mam.
Dywedir bod llinach y teulu yn adnabyddus wrth y llysenw Pelling, ac fod amryw ddisgynyddion ohonynt yn adnabyddus hyd yn ddiweddar iawn yn nghymmydogaeth Bettws Garmon a'r Waenfawr. Tybir mai llygriad o'r enw Penelope ydoedd y llysenw hwn.
O'r holl helyntion rhyfedd ag oeddynt gyssylltiol â'r Tylwyth Teg, y rhai pwysicaf, yn gyffredin fyddent yn nglyn â phlant. Ni fyddai wiw ceisio gan blant fyned i unman fin nos, neu ar niwl, rhag ofn i'r Tylwyth Teg ddyfod o hyd iddynt oblegyd yr oeddynt yn hynod am ladratta plant a rhoddi rhai o'u plant eu hunain yn eu lle, fel y gallent drwy hyny, dalu teyrnged i'w meistriaid, yn gystal a chadw eu plant eu hunain, a chael iddynt fammaethod daearol, yr hyn a ystyrid yn werthfawr yn eu golwg. Pan y gwnelent hyny, bernid mai y ffordd oreu tuag at gael y gwir blant yn ol fyddai bod yn greulawn wrth y rhai a adewid yn eu lle, eu rhostio a ystyrid y ffordd fwyaf effeithiol.
Cymmerasant ddau o blant o gwrr mwdwl gwair o gae Bachellyn, yn mhlwyf Llanbedrog, a rhoddasant yn gyfnewid yn eu lle ddau o'u plant eu hunain. Yn ngwyneb yr amgylchiad, yn ol arfer gwlad y pryd hyny, aeth eu mam at ddewin i ofyn cynghor, er mwyn cynllunio tuag at gael ei phlant yn ol rywsut. Wedi peth ystyriaeth, dywedai y dewin wrthi am wneuthur rhyw orchwyl mwyaf hynod y gallai hi feddwl am dano, a'i wneyd yn ngolwg y plant dieithr. Hithau a aeth at y gorchwyl o dynu allan gynnwysiad wy iar, pryd y gofynai y plant iddi beth oedd yn fwriadu wneyd efo'r cibyn wy iar? "Darllaw," ebai hithau. Ar ol i'r ddau blentyn syllu yn syn ar eu gilydd am beth amser, dywedasent fod yn gofus ganddynt weled mesen cyn gweled derwen, gweled cneuen cyn gweled collen, ond na ddigwyddodd iddynt erioed o'r blaen weled neb yn bwriadu darllaw mewn cibyn wy iar. Ar ol i'r wraig orphen â gorchwyl y darllaw, yr oedd, yn ol y cynghor, yn rhwym o fyned â'r ddau blentyn at ryw bont a'u taflu tros y ganllaw i'r afon. Aeth hithau a hwy at Bont Rhyd John, llecyn sydd yn ffinio rhwng plwyfydd Llanbedrog a Phenrhos, gan daflu i'r dwfr y naill o flaen y llall, pryd y gwaeddai hwnw ar ei gydymaith oedd yn ymyl ei ddilyn, megis o ddialedd ar y wraig,
"Dyro grap ar y wrâch,
Mae'n rhy hwyr crafaglach."
Erbyn i'r wraig—"y wrach"—gyrhaedd adref yr oedd ei dau blentyn yno o'i blaen, er ei mawr lawenydd yn iach a dianaf. Ymddengys fod y plant hyn i'r Tylwyth Teg yn oedranus hynod, pan y cyfeirient eu bod yn cofio y fesen cyn derwen, &c.
Aflonyddwyd teulu Dol Penrhyn, plwyf Llanor, un noson gan dwrw mawr o amgylch y ty. Dychrynwyd pawb trwy'r ty, ond o'r diwedd magodd y gwr ddigon o wroldeb i ofyn, "Pwy sydd yna?" a "Beth sydd yn eisiau arnoch?" "Eisio lle i drin plant," oedd yr ateb. Cafwyd agoriad, ac wele gryn ddwsin o'r Tylwyth Teg yn myn'd i mewn am y cyntaf. Ymolchi ac ymdrwsio buont am rai oriau, a phan dorodd y dydd ymadawsant gan dalu yn dda am y caredigrwydd a dderbyniasant. Talodd y Tylwyth Teg ymweliadau mynych a'r lle wedi hyny, a rhyw dro cawsant blentyn tlws yn gorwedd yn ei gryd yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymmerasant ef i ffwrdd gan adael rhyw lun o beth bach gwrthun yn ei le, na anadlodd y fath griwr erioed ag ef. Effeithiodd hyn yn fawr iawn ar y fam, a bu farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Wedi colli'r fam, torodd y plant ereill eu calon a buont feirw yr un modd, ac felly gadawyd y gwr a'r plentyn bach dilun yn ddiymgeledd a digysur.
Lle nodedig am y Tylwyth Teg ydoedd amaethfa hynafol o'r enw Glan-llynau, yn mhlwyf Llanystumdwy, ar dir yr hon y mae llyn o'r enw "Llyn Annwn," ac ychydig yn ddwyreiniol, yr oedd bryncyn (cyn ei gludo ymaith i lenwi pant—leoedd ar linell y Cambrian) a elwid "Bryn Annwn." Tra hen wr gwledig, syml, ar noswaith oleu-leuad mewn llafur yn casglu i gyfarchwyl ychydig danwydd gogyfer ag angenion cyfyng ei fywoliaeth, yn ddisymwth, daeth un o'r Tylwyth Teg ato gyda'r moes-gyfarchiad o "Hwyr da iddo, atebai yr hen wr, gan ymsythu oddiwrth ei waith ac edrych arno, ac os yswiliodd ychydig wrth sylwi ar ei wisg wael ei hun mewn cymhariaeth i wisg y dieithr-ddyn bychan. Wedi peth ymddiddan a rhodiana ychydig o amgylch, dangosodd y dieithr-ddyn iddo ddrws ei breswylfod ei hun, yr hwn oedd dan gwrr careg fawr yn sawdl "Bryn Annwn," ac aeth a'r hen wr i fewn. Ond mor fuan ag y gosododd yr hen wr ei draed yno, heidiodd mintai o'r Tylwyth Teg o'i gwmpas a chodasant eu dwylaw bychain hen i fyny, ac edrychasant yn bur syn fel pe wedi hurtio. Felly yr hen wr a ddymunodd "noswaith dda" iddynt oll, ac allan ag ef. Ni chlywyd dim o'i hanes mewn cyssylltiad â'r lle ar ol y noson hono, ond am rai dyddiau, ni welai ef ddim yn mlaen, ni chofiai ddim yn ol, gan ei ddychryndod.
Er's oddeutu can mlynedd yn ol aethai gwraig o gymmydogaeth Pen-carth i'r amaethfa grybwylledig—Glan-llynau, i "gynnull," a'i phlentyn bychan blwydd oed ar ei braich. Y pryd hwnw, byddai y tai bach yn cael eu cau i fyny; y gwr, y wraig, a'r plant ar hyd y meusydd, canys byddai y fferm-wragedd yn rhoddi bwyd i'r plant ar gyfrif bod eu rhieni wrth y cynhauaf, ond ofer fuasai i neb feddwl i'r plentyn bychan blwydd oed fod yn mhell oddiwrth ei fam, gan hyny, nis gellid dim yn well ag ef na'i adael i ymdaro oreu y gallai wrth sawdl ystwe ŷd, a mynych fyned i'w ddiddanu â llaeth bron y fam. Fodd bynag, daeth un o'r "Tylwyth bach" heibio gan fyned a'r plentyn ymaith, a dodi ei blentyn ei hun yn ei le, yr hwn, yn ngwyneb yr amgylchiad a wylai yn hidl a thorcalonus, a mam y plentyn a ddygid a gychwynai ato, gan feddwl ei gymmeryd adref i'w feithrin a'i fagu yn lle ei phlentyn ei hun, eithr yr amaethwr, yr hwn a wyddai yn lled dda am arferion y Tylwyth Teg, a archodd i'r wraig droi yn ol, a gadael iddo, y deuai ei berchenog i ofalu am dano yn y man, ac y caffai hithau ei phlentyn yn ol, ac felly fu.
Mewn man arall cyfagos, yn yr un plwyf, yr oedd henafgwr yn byw ag y dywedid ddarfod iddo gael ei ladrata gan y Tylwyth Teg; ond gan fod dewin nodedig yn byw nid yn neppell oddiwrth y rhieni, yr hwn, drwy ei gyfathrach â'r cyfryw fodau anelwig, a lwyddodd i gael y bychan yn ol i ddiogelwch—dan gysgod coeden lydan-fawr yn yr ardd wrth ei enidfan. Er hyn, credai ei fam na byddai fawr o lewyrch arno byth—na welwyd na rhad na bendith" erioed ar blentyn wedi bod yn mysg y "teulu mân" fod yr oll a fu, yn ymdebygu i'w gilydd.
Tua dwy filldir, mwy neu lai efallai, yn nghyfeiriad y de-orllewin, bu iddynt breswylfa leteugar dros hirfaith amser yn nglan y môr wrth gwrr dwyreiniol trwyn Penychain, lle y cynnyrchir edmygedd yn y meddwl o'r dyddiau gynt—edmygedd wedi ei gyfuno â Llys Einion—Llys Engan y dyddiau hyn—hen balasdy dewrion gwlad—hiliogaeth y cedyrn, a mangre hyfryd y Tylwyth Teg, lle y cyflawnent eu rhiniawl gampau a'u dawnsiau sidyll, ac y gwelid ol eu traed bychain hyd y traeth ac ar finion eu ffrwd eu hunain—"Frwd y Tylwyth Teg," yn ol traddodiad gwastadol llafar gwlad. Yma, o fewn cylch y llecyn hwn, y mynych roddent chwe' cheiniog cam dan gareg drws hen wreigan o'r enw Sian Jones, ac elai hithau i nol pob un yn ofalus, gan eu dodi un ac oll dan glo yn ei choffr, ond dyna, bu mor frac ei thafod ag adrodd y ffaith wrth forwynion Penychain, mewn gwedd a barai drallod i'r cyfranwyr, yr hyn a barodd iddynt gymmeryd ymaith yr oll o honynt o'i choffr heb yngan wrthi gymmaint a gair am y peth. Teulu tawel, tyner-byr eu rheswm, heb fawr o gleber oeddynt, fel rheol.
Rhyw foreu, ar awr gynnarol, o gylch y flwyddyn tair caib (1777, nis gwyddis yn iawn pa un ai cynt ai gwedi, tra dyn yn dynesu "o dipyn i beth" at Allt-yr-Un-gwys, yn mhlwyf Aber Erch, gwaeddai rhywun ar ei ol—"Y dyn diofal a'i ddwylaw ar ei gefn, a wnai di ddweyd wrth Franco Huws y Teiliwr fod Megan Sion wedi marw?" Yna, un o'r Tylwyth Teg, yr hwn a lochesai dan gareg yr aelwyd yn Ngallt yr Un-gwys a ofynai, A ydyw Megan Sion wedi marw?" O ran dim a wyddom, aeth "y dyn diofal " heibio yn gwbl ddi-lafar; ond os cafwyd atebiad ganddo, nid ymddengys fod y cyfryw ar gof a chadw.
Oddiwrth blisgyn o hanes, cawn enw a sefyllfa lle, yn cadarnhau y traddodiad canlynol:Rhwng Cae'r Mab a'r Ty Hir, yn mhlwyf Llanarmon, dan lwybr troed tros bontbren gynt (ond tros lech-faen lwyd yn bresenol) croesid ffrwd fechan a elwid "Ffrwd teulu rhif y gwlith" a "Ffrwd y teulu mân," sef y Tylwyth Teg. Erbyn hyn mae yr oll o hanesyddiaeth a digwyddiadau y llecyn a'i breswylwyr wedi myned yn llwyr ar goll. Byddent hefyd arferol o dalu ymweliadau â Rhyd Gynnhwr'-terfyn rhwng plwyf Bryncroes a Myllteyrn, ac i'w gweled, weithiau, yn marchogaeth dros y bryniau cyfagos ar geffylau wedi eu haddurno â chlychau arian.
Nid yw dros gof gan rai am hen ddynyn o'r enw Sion Olfyr, a deithiai Leyn ac Eifionydd o ben bwygilydd i drwsio gograu. Argraffesid arwyddion henaint ar ei wyneb, dechreuai penwyni ar ei goryn, a chrogai ei wallt yn gedenog dros ei glustiau. Bygythid ei ofn ar blant er mwyn ceisio eu heddychu a'u harwain at y ddyledswydd o ufudddod; ac os gwelid dynion dibris ac afler yn eu gwisgiad, buan yr edliwid iddynt hwythau eu bod yn gymhwys gymdeithion i Sion Olfyr. Ni wyddai neb o ba ran o Gymru yr oedd yn enedigol, ond byddai son ei fod yn perthyn i'r Tylwyth Teg o ochr ei fam.
Ryw ysbaid o fisoedd cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, aeth gwraig o fwthyn llwydlwm a safai yn mharth dwyreiniol y llechwedd-dir a elwir Mynytho, i amaethfa gyfagos o'r enw Bodwrog, yn mhlwyf Llanbedrog, "i roi diwrnod yn y gwair," a'i phlentyn bychan gyda hi, yr hwn a ddodasai i gysgu yn nghwr un o'r mydylau. Yn mhen encyd o amesr, clywai ei phlentyn, fel y tybiai, yn wylo'n dorcalonus, a rhedai tuag ato yn llygad ac yn glust i gyd, ond erbyn cyrhaeddyd ato, gwelai er ei chyffro nad ei phlentyn hi ydoedd, eithr plentyn perthynol i'r Tylwyth Teg, tra y tad a haerai mai gwedi cyfnewid dan effaith cysgu yn y gwair yr ydoedd, drwy yr hyn y darbwyllwyd y wraig, rhwng dau feddwl, i'w gymmeryd gyda hi adre i'w fagu, ond un amser ni ynganid gair o serch ganddi tuag ato, am y credai ei fod yn fam rhy dda i blentyn Tylwyth Teg. Dyna hefyd dyb llaweroedd tra'n siarad am dano, a mynych y dywedid gan dafod gwlad mai "Ar ol ei deulu y mae . . . yn tynu." Er pob magwraeth a gofal, rhyw goryn bychan, dilewyrch fu ef ar hyd ei oes, gan droi yn feddwyn rheglyd, yr hyn a ddihysbyddodd ran fawr o fwyniant oes yr hon a'i magodd. Awgryma hynyna, y gellir coelio fod llawer o blant ar ol troi yn afiach a nychlyd, wedi cael eu trin yn greulawn dan y dybiaeth eu bod yn blant y Tylwyth Teg.
Y mae ar dir Carnguwch Fawr, yn mhlwyf Carnguwch, gareg wastad, lydan-fawr, a mynedfa oddi tani, ag y dywed traddodiad yr ardal y byddai y Tylwyth Teg yn arfer cynneu tân dani, ac yn dawnsio ar ei chlawr. Gellir gweled y gareg mewn cae a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae'r Tylwyth Teg." Dosbarth llariaidd yr ystyrid y rhai hyn, yn byw yn hollol fugeiliol, gan gefnogi yn oestad bob rhinwedd a haelioni. Dywedid mai yn y ddaear yr oeddynt yn byw, ac yn cadw eu llysoedd,—mai trwy lynau o ddwfr yr oeddynt yn myned iddynt ac allan o honynt, a thra chyfnawsaidd â'u natur, yn ol yr hen goel, y cyfrifid llynau Ystumllyn, Afon Wen, a Glasfryn, at yr hwn, yn fwyaf neillduol, yr ymgyrchent yn finteioedd—nid yn ddibwrpas, ond i nyddu â'u troellau bach, gan symud ol a blaen a thrwy eu gilydd, fel "bendith y mamau" yr hen chwedlonau, a chlywid eu swn o bell. O ba le y caffent wlan at eu nyddu, ofer ceisio hysbysebu, eithr tebygol nad oedd bugeiliaid sircynog y mynyddau yn fyr o dalu ymweliadau mynych â hwynt, a phwy wyr nad allasai hyny fod. Cafodd un o'u plant—lodes, y gair ar dafod gwlad o fod yn gwasanaethu yn Nglasfryn, yr hon, fel y gweddai i forwynig fod oedd ddiarebol o dda—yn ei ffordd yn hen ffasiwn allan o bob rheswm—yn fywiog, ofalus, a di-hepian efo'i gwaith. Talai sylw mawr i'r droell fach—nyddai bob cyfle gaffai, a phwy warafunai iddi: a phob amser wrth nyddu, sisialai ganu mewn tawelwch—ond tawelwch gafodd lais—
"Bychan ŵyr fy meistres i,
Mai Jili Ffrwtan ydw' i."
Ofer fyddai cofnodi yr holl enghreifftiau sydd ar hyd a lled y wlad o'r hanesion hyn, er eu bod bob amser yn swynol i'r meddwl dynol o'r plentyn i'r hynafgwr. Ond pwy nas gwyr fod o'r Tylwyth Teg ddau ryw—un o foesau addfwyn, ac o ymddygiad da tuag at yr hil ddynol, a'r llall o dueddiad maleisus, yn llawn o ddifyrwch niweidiol, sef yr Ellyllon, y rhai ag y troai eu rhoddion o arian a bwydydd, o'u cadw dros ychydig ddyddiau, yn dameidiau o fadarch, ysglodion a thail ceffylau.
Cytuna traddodiad y tadau i ddal i'r lan fod y Tylwyth Teg yn rhai cyfoethog iawn—yn hynod ofalus am dalu eu ffordd, ac yn ddiarebol am wobrwyo glendid. Arferai yr hen bobl ddyweyd wrth y merched, os gadawent yr aelwyd a' buarth yn lân, a'r cunogau yn llawn o ddwfr wrth fyned i'w gwelyau, y deuai y Tylwyth Teg yno yn y nos i wledda ac i ddawnsio, ac y canent yr hen dôn a elwir "Toriad y Dydd," gan adael arian ar y pentan "O lwyr glod am lawr glân."
Gwedi cyrhaeddyd yn draddodiadol drwy gydol olyniad maith o oesau, y maent wedi cefnu'n llwyr ar y byd hwn a'i bethau yn ddistaw a dirodres, ac o ddilyn hen hanes, cawn mai ar fynydd y Cenin, yn y sir hon, y cafwyd yr olwg ddiweddaf arnynt. Fodd bynag am hyny, er nad oes llathen o dir yn mron o fewn y wlad heb fod rywbryd Dylwyth Teg neu fwgan arno, y mae y cyfnod hwnw wedi myned heibio. Aeth y Tylwyth Teg ymaith, ac aeth yr ysbrydion i dalu ymweliadau mwy anfynych nes peidio dod o gwbl. Ac yn wir, dechreuodd cyfnod newydd. Nis gwyddys pa ddydd, pa fis, na pha flwyddyn, ond yn lled ddiweddar, fodd bynag. Yn lle bod ysbryd a bwgan wrth bob llidiard, ar bob camfa, ac yn mhob hen dŷ, y mae pethau wedi newid—wedi darfod, cyn i neb allu cadarnhau unrhyw dystiolaeth benderfynol phendant am eu tarddiad dechreuol. Felly mae
yr holl o wir hanes yn eu cylch yn ymylu ar fod tu hwnt i brofion. A goelio, coelied; a beidio, peidied.
GWRACH Y RHIBYN.
Tybir mai yn y niwl tew y preswyliai, ac mai anfynych, os byth, yr oedd yn cael ei gweled, eithr yn cael ei chlywed yn ysgrechain yn uchel, ac yr oedd ei hysgrech bob amser yn cael ei hystyried fel argoel o ryw ddrwg ar ddisgyn i ran y sawl a'i clywai. Ymddengys ei bod yn cynnrychioli yr Andras, y Fall, Mam y Drwg, y Wrach, &c., fel rhyw enw mwy cyffredinol. Yr oedd yr Andras yn dduwies a addolid gan yr hen Gymry, ac i'r hon yr aberthent ebyrth dynol. Dengys yr enwau a roddid arni mai un i'w harswydo yn fwy nag i'w charu ydoedd, ac mai nid yn ddiachos y gelwid hi gan rai yn ellyll hedegog, &c. Yr oedd hon yn ofnadwy yr olwg arni—ei breichiau gieulyd, ei hewinedd hirion, ei gwallt attwf, ei danedd duon, a gwelwder marwol ei holl wedd yn ei gwneuthur yn bob peth hagr a dychrynllyd. Y mae yr enw yn amcan—ddesgrifiad o'i llef hir—llaes, yr hon oedd yn ddigon arswydus i rewi gwythenau pawb a'i clywent. Anfynych y gwelid y wrach ei hunan, ond ar groesffordd neu wrth aberoedd, lle y byddai yn curo y dwfr â'i dwylaw—clywid hi yn seinio galarnad am rai ar farw. Os syrthiai y geiriau "Fy ngwraig, fy ngwraig" ar glustiau gwr priod, byddai yn sicr o golli ei gymhar yn fuan, ac yn udo cyn hir yn yr un dôn; ac os clywid ysgrech heb eiriau yr oedd yn debyg mai y gwrandawr ei hunan a rag-rybuddid o'i farwolaeth. Y wrach hon oedd yn troi gwelyau yr afonydd, drwy daflu meini mawrion iddynt pan yn ehedeg o'r naill fynydd i'r llall. Mae yn Hendref Ddu, plwyf Dolbenmaen, gae yn dwyn yr enw "Andras Bach"; ac yn Nanhwynan, ar lan yr afon islaw y ffordd o Fedd Gelert i Gapel Curig, hen adfeilion mawrion a elwir "Caer Andras." Gelwir dyn drwg yn andras, a gofynir weithiau, "Pa andras sydd ar y dyn?" Ai yr andras a welaist?" &c. Dywed rhai mai Gwrach-yr-oer-boen y dylid ysgrifenu yr enw; ond ereill a farnant mai llygriad o Wrach-yr-ubain yw Gwrach-y-rhibin, am mai ubain, wbian neu ybain yn ofnadwy iawn y byddai.
YR WYLL.
Dywedir mai bod anweledig, ag sydd yn marchogaeth ceffylau ieuainc yn y nos, ac yn eu gyru nes y byddont allan o wynt, ac yn dyferu gan chwys ydyw hwn. Byddent hefyd yn crynu drostynt, ac erbyn y borau byddai y mwng wedi ei ddyrysu drwyddo, a chyffelybrwydd gwrthaflau wedi eu cordeddu ynddo. Mae ebolion yn agored i gael eu poeni gan fath o afiechyd ag sydd yn naturiol o dori allan yn y wedd yma, felly dyma effaith ac achos gwirioneddol yn llechu dan y goeldyb yna, fel llawer o bethau ereill, ag ydynt, fe allai, heb dd'od i'r amlwg. Rhwyll y seinir yr wyll ar lafar gwlad, fel pe yn cymmeryd yr ystyr oddiwrth yr Wyll ag y mae y Beibl yn son am dani yn Esaiah xxxiv. 14, lle y proffwydir dinystr dinasoedd gelynion yr Eglwys, ac y dywedir am eu hannghyfanleoedd hwynt, "Ac anifeiliaid, &c., yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orphwys yno, ac a gaiff orphwysdra ynddi."
Y CYHYRAETH.
Yr hyn a olygir wrth Cyhyraeth ydyw ysbryd neu ddrychiolaeth angladd, claddedigaeth, neu gynhebrwng. Ar hyd llawer o oesau ni fu ben draw ar ymddiddanion a gwahanol dybiau yr hen bobl am ddull, a pha fath lais oedd gan y Cyhyraeth, yn nghydag o ba le yr oedd yn dyfod, ac i ba le yr oedd yn myned. Wrth edrych i'r Geirlyfrau ceir mai Cyfundrefn y gewynau feddylir wrth y gair Cyhyraeth; ond am y llais, ymddengys mai hurtrwydd a dim arall ydyw.
Y FORFORWYN.
Y mae llawer yn haeru mai creaduriaid dychymmygol yw y rhai hyn, ac nad oes dim o honynt mewn bod; ond sircha ereill ddarfod iddynt eu gweled mewn amryw barthau o'r byd.
Y mae rhai pobl gall gyfrifol, yn awr yn fyw, yn tystiolaethu ddarfod iddynt weled amryw o honynt, o dro i dro, ar benau ceryg, uwchlaw gwyneb y môr, wrth y gorchwyl o gribo a threfnu eu gwallt. Darlunir y Forforwyn o liw gwineu tywyll, a'i gwyneb yn debyg i wyneb dyn, safn fawr, trwyn llydan, talcen uchel, llygaid bychain, heb un ên na chlustiau, ei breichiau yn fyrion a di-blyg, a'i dwylaw fel dwylaw dyn, ond fod ei bysedd wedi eu huno â math o groen teneu, ac o'i gwregys i lawr yn bysgodyn, a'i rhai bach yn sugno fel plant dynol. Cyfarfyddir yn aml ar hyd glanau y môr â math o wymon, neu chwyn y môr, yr hwn bob amser a adnabyddir wrth yr enw "Esgid Morforwyn"; hefyd â chragen a adnabyddir wrth yr enw "Het Morforwyn." Er fod bys hanesiaeth yn cyfeirio at wrryw yn gystal a benyw o'r rhywogaeth yma, ni cheir gan lên gwerin unrhyw grybwylliad ond am y rhyw fenywaidd yn unig. Yn yr hen chwedlau Cymreig ceir fod un yn dwyn yr enw Gwenhidwy, fod y tonau brigwynion yn ddefaid iddi, ac mai'r nawfed dòn oedd ei hwrdd.
ADERYN CORFF.
Clywid ef yn fynych o flaen marwolaeth perthynasau neu gymmydogion: tebygid ei lais yn dra chywir drwy seiniau y gair pewitt. Arferai ysgrechain yn erchyll yn y nos yn agos i'r ty lle byddai rhyw un claf ynddo, neu gerllaw ffenestr ystafell y claf. Ei adlais ysgrechlyd ydoedd yn llenwi pawb â sobrwydd, canys yr oedd "aderyn corff," blaen-genad anffaeledig angau, gyda'i wichlais arswydus, yn ddigon effeithiol i ddifrifoli pawb, a pheri iddynt ddymuno diwedd da.
CANWYLL GORFF.
Ystyrid fod Canwyllau Cyrff bob amser yn rhagflaenu, a'u bod yn myned yn union ar hyd y ffyrdd a'r llwybr y byddai i'r cyrff gael eu cludo ar hyd-ddynt i'r mynwentau. "Nid oedd pawb yn gallu cydweled yn nghylch yr amser y byddai i farwolaeth gymmeryd lle ar ol ymddangosiad y Ganwyll; ond y farn gyffredin ydoedd y byddai raid i hyny gymmeryd lle cyn diwedd y flwyddyn, yn nghylch yr hon y gwelid yr argoel, er fod ereill yn cwtogi neu yn hwyhau yr amser. Ond nid oedd un gwahaniaeth yn nghylch fod lliw a maintioli y Ganwyll bob amser yn dynodi oedran a rhyw y sawl yr argoelid ei ddiwedd. Lliw coch fyddai i fflam y ganwyll a ragflaenai angladd mab, a lliw llwyd-oleu i'r un a ragflaenai angladd merch; a chanwyll fawr o flaen person mewn cyflawn faint, ac un fechan o flaen plentyn, ac yn gwahaniaethu yn gymmesur i wahaniaeth oed a maint plentyn bychan a pherson llawn twf. Byddai y dyn a dorid i lawr yn llawn nerth ei yni, yn cael ei ragflaenu gan fflam anferth a disglaer; a hen wr neu hen wraig, wedi hir ddihoeni gan afiechyd a henaint, yn cael argoel o'u diwedd gan oleuni salw a gwelw, ond o faintioli cyffredin. Y rheol oedd fod y Canwyllau hyn yn dyfod o ystafelloedd y personau ag y byddai eu marwolaeth yn cael ei ragfynegi gan eu hymddangosiad. Gwelid y ganwyll yn y nos yn myned ar hyd y ffyrdd y byddai cynhebrwng wedi myned ar hydddynt y diwrnod cynt.
TAN ELLYLL,
neu hudlewyn. Gelwir hwn yn Saesonaeg, Willwith-a-wisp neu Jack-with-a-Lantern.
Math o dân neu oleuni gwanaidd ydyw, ag sydd yn ymddangos yn y nos, yn fynychaf mewn lleoedd corsiog a siglenog, ac yn agos i afonydd a ffosydd dyfrllyd. Y mae weithiau yn rhoddi goleuni disgleiriol, brydiau ereill yn fwy aneglur, ac o liw coch-las. Gwelir y tân hwn weithiau yn canlyn anifail neu ddyn am gryn ffordd, a phan fo rhyw un yn ceisio nesau ato, fe'i canfyddir yn cilio oddiwrtho fel pe b'ai bywyd a gwybodaeth ynddo; a bernir mai yr achos o hyn ydyw ei fod yn cael ei wthio gan yr awyr fo yn cael ei yru gan y sawl fo yn nesau ato, ac mai dyna sail y dyb ei fod yn cael y gair o arwain dynion i byllau a lleoedd diffaeth. Y mae ar dir Cwm Trwsgwl, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, lecyn o'r enw "Ellyll."
YR HUNLLEF.
Pan y byddo yr Hunllef ar ddyn y mae yn teimlo pwysau mawr a gorthrwm ar ei ddwyfron neu ei galon, ac yn cael ei wasgu yn y fath fodd nes ydyw yn ymdrechu am ei fywyd; ac weithiau y mae yn gallu lleisio, a hyny yn y cyffredin yn y modd mwyaf wylofus. Y mae y meddwl yn ei gyffro a'i derfysg yn dychymygu, megis rhwng cysgu ac effro, ei fod yn gweled dyn neu ryw fath o greadur yn ffoi oddiarno gyda ffrwst. Y cynghor, gan yr hen bobl, i gael ymwared oddiwrth arteithiau yr Hunllef oedd, tynu bysedd y dwylaw drwy fysedd y traed, ac yna eu gosod hwy wrth y trwyn, a thynu yr arogl i fewn yn gryf am oddeutu dau funyd; ac ystyrid y feddyginiaeth yn anffaeledig.
BREUDDWYDION.
Y mae llawer wedi ei ddywedyd a'i ysgrifenu am athroniaeth breuddwydion, ond ychydig, os dim, doethach ydym wedi gwrandaw a darllen y cwbl. Yr oedd y grediniaeth o barthed i freuddwydion a gweledigaethau y nos yn hynod boblogaidd yn yr hen amser, ac nid oes eto ond ychydig heb ryw gymmaint o ffydd ynddynt, ac heb gael eu dylanwadu ganddynt i ryw raddau. Yr oedd y trigolion yn gymmaint caethion i hyn ag oeddynt i ddewiniaeth yn ei ffurf o ragfynegi tynged, rheibio, dadreibio, codi a gostwng cythreuliaid, &c. Yr oeddynt oll o'r hynaf i'r ieuengaf yn ferw o freuddwydion rhyfedd, anhygoel, os nid goruwch-naturiol. Yn eu cwsg gwelent, meddent hwy, bethau presennol, mynedol, a dyfodol yn ddiwahaniaeth, a hyny mewn rhithiau breuddwydion digon cyffrous i ferwino clustiau dyn wrth eu clywed yn eu hadrodd. Gweled nadredd a arwyddai elynion a digofaint llidiog, ond os mewn dwfr eu gwelid, gelyn heb allu'ch niweidio; meirch a ddynodent gyfeillion ffyddlawn; tân, colled a gofid; beddau, cyfoeth ar ol perthynasau; syrthio i ddwfr o liw tywyll budr, cystudd ac afiechyd; bwyta cig moch, angau a marwolaeth! Rhai, os breuddwydient am "ddwfr llwyd," a ofnent ryw afiechyd am wythnosau, ac a elent yn glaf, ond odid, gan faint eu hofn. Ereill, os breuddwydient am nadredd, ni wnelent nemawr o gyfeillach â neb yn hir ar ol hyny, rhag eu bradychu gan ryw elyn! Tra y clywid ereill yn brolio fod rhyw "lwc" i ddyfod iddynt hwy yn sicr gan iddynt freuddwydio dair gwaith yn olynol eu bod yn rhodio yn mysg y beddau, &c.
DEWINIAETH.
Gweithred ffugiol yw dewiniaeth, yn dynodi amrywiol gelfyddydau a arferid i ddarganfod neu i ragddangos y dyfodol. Mae y gred fod rhai personau yn feddiannol ar alluoedd goruwch-naturiol, a'r rhai a elwid dewiniaid, yn hen iawn, ac yn gred ag a fu yn ffynu ymhlith agos yr oll o genedloedd y byd. Bernid eu bod yn feddiannol ar alluoedd mawrion, eu bod drwy offerynoliaeth y diafol, yn gallu achosi tymestloedd ar dir a môr; deifio cnwd y ddaear, a niweidio anifeiliaid, dwyn afiechyd corfforol ar unrhyw berson a ddigwyddai fod yn wrthddrych eu malais; a'u bod yn gallu cyfnewid eu hunain ar lun cathod, ysgyfarnogod, neu greaduriaid ereill, yn ol eu mympwy eu hunain. Ymhonent eu bod yn gallu gwneuthur i'r ysbrydion drwg ymddangos, ac y gwnelent iddynt gwblhau y gorchwylion hyny a orchymynent hwy iddynt. Y mae amryw enwau arnynt, megis Astronomyddion, Breuddwydwyr, Cyfareddwyr, Daroganwyr, Gaubroffwydi, Hudolion, Rhinwyr, &c. Yr oedd ganddynt lawer o seremoniau i'w cyflawni. Weithiau gwnelent arwyddion drwy ddwfr y môr, drwy gynhyrfu dwfr mewn ffynnon, drwy ddangos rhyw wyneb dieithr yn y gwydrddrych, drwy goluddion anifeiliaid, breuddwydion, ffigyrau, dyfod â rhyw gerdyn pennodol i law, symudiadau gograu, awyr, tân, mwg, ehediad adar, allwedd-goel, geiriau neu leisiau neillduol, ceryg, llusernau, y meirw a'u hesgyrn, wyau, y fwyell, y ganwyll, llestraid o ddwfr, a llawer o bethau ereill. Haerent ddarfod i Dduw roddi eglurhad mewn natur, beth oedd i ddyfod i ran dyn, ac yna gwnelent sylw mawr ar ddull y corff, lliw y gwallt, &c. Iddynt hwy y perthynai symud afiechyd a melldithion o deulu a fyddai wedi cael ei ddarostwng danynt; hwynt-hwy oedd biau datguddio trysorau cuddiedig, a dangos gwynebau lladron yn eu drychau. Pan gollid dernyn o arian o'r gôd, neu ddodrefnyn o'r ty, pan fyddai rhyw aflwydd yn siomi rhyw amcan bydol, neu afiechyd yn syrthio ar ddyn neu anifail, at bwy y rhedai llaweroedd am gynghor a nodded? At bwy amgen nag at y gŵr neu y wreigan ddoeth, neu berchenog rhyw ffynnon dewiniaeth? Gan y rhai, tybygid, yr oedd gwybodaeth am bethau i ddyfod, a dirgel waith y lleidr dan orchudd y nos a welid ganddynt hwy, megis yn ngoleuni canol dydd. Hwynt-hwy oedd biau wella y ddannodd, ereill ddefaid gwylltion, y trydydd symud ymaith bob math o anhwyldeb, a'r pedwerydd i "roddi yr ysbryd neu yr ysbrydion i lawr." byddai i ambell i wr boneddig o offeiriad yn feistr ar ysbrydion a holl ellyllon y pwll diwaelod—yn gallu eu hoffrymu dros fil o flynyddoedd rhwng y rhisglyn a'r pren, neu i waelod y Mor Coch. Byddai ambell un yn gallu ffrwyno'r swynwyr eu hunain, a gyru ymaith eu melldith oddiar ddynion ac anifeiliaid; ac yn rhoddi nôd arnynt hwythau. Weithiau byddai cyrn yn tyfu ar ben ambell un o honynt, a mawr y gred a'r cyrchu fyddai at y gwyr hyn ar wahanol achosion. Pan elid atynt yn nghylch colli anifail neu arian, neu rywbeth arall; byddent hwythau yn darlunio yn mha fath le y byddai y pethau; ac wrth chwilio am le tebyg i'r darluniad, ceid yr eiddo weithiau, a byddai eu cael unwaith o gant yn ddigon i ganu eu clod drwy'r holl wlad. Rhaid oedd i'r rhai fyddai yn myned atynt ddwyn hwyaden neu wydd dew, neu ddarn bras o gig da; ac yna y gwyr da a gymmerent y rhoddion, ac mewn lle dirgel hwy a'u llosgent yn lludw, ac a roddent y lludw yn ol i'r gwirion druan, i'w ddiogelu rhag yr hudolwyr byth mwyach. Ond mae yn ddigon gwir mai bwyta yr hwyaid a'r gwyddau, &c., yr oedd y llwynogod cyfrwys, a rhoddi yn ol ludw y coed a losgid i'w trin.
Y mae olion sêr-ddewiniaeth yn ganfyddadwy yn ein gwlad eto. Clywn yn fynych fod un wedi ei eni dan blaned ffodus. Cafodd yr athrawiaeth hon ei gosod yn nghyfundraeth dduwinyddol yr hen bobl drwy eu bod yn duwio holl ranau a galluoedd natur, yn neillduol y bodau wybrenol, ac yn priodoli i'r rhai hyn, nid yn unig fywyd a gwybodaeth, ond hefyd symudiadau rhagddirnadol, a dylanwadau llywyddol ar bob peth isod. Rhanent y wyddor yn ddwy ran naturiol a daroganol. Yr oedd y flaenaf yn rhagddangos digwyddiadau naturiol, megis cyfnewidiad y tywydd a'r gwynt, tymestloedd, taranau, &c., fel pe byddent dan ddylanwad y ser. Bernid fod comedau yn darogan drygfyd dirfawr i genedlaethau y byd, a bernid y drygau yn ol ffurf y comed. Os byddai yn gron, clir, a disglaer, daroganai enedigaeth rhyw dywysog enwog yn ei awdurdod ar y cenedloedd; os ffurf hir-gul a gymmerai, tybid y daroganai golledion mawrion drwy dân, a goresgyniadau anocheladwy o'r fath; os ymddangosai yn dywyll, ddyfrllyd, a'i barf yn ysgwydawl, a thonog, daroganai fradwriaeth yn mhlith y bobloedd, a llifogydd mawrion; os ymddangosai fel corn, daroganai oresgyniad rhyfelgar; felly hefyd os byddai ar lun udgorn. Bernid fod trawsiad planed dros wyneb yr haul yn arwyddo blinfyd, a bod yr oll o'r pethau hyn yn dwyn rhyw argraff o weithredoedd goruwch-naturiol; a gellir hefyd grybwyll diffygiadau, taranau, mellt, daeargrynfäau, y rhai a briodolid unwaith i weithredoedd y diafol.
Cyfeirid at bob rhan o natur braidd, fel yn arddangos, mewn amgylchiadau pennodol, argoelion da, neu ddrwg, o dynged ddyfodol dyn; a daeth hygoeledd i edrych ar gydgyfarfyddiad damweiniol pethau, a flaenorent ryw ddigwyddiad yn mywyd un neu ddau ddyn, fel peth sicr a dieithriad o ganlyniadau cyffelyb achosion pawb. Mae yn amlwg wrth graffu ar ddaroganau, fel y gelwir hwy, mai nid proffwydo yr oedd y beirdd a elwid yn frudwyr, ond ysgrifenu yn fwriadol at eu gilydd, mewn ffordd dywyll ac annealladwy i'r werin, rhag iddynt ddeall eu meddyliau a'u bwriadau yn nghylch heddwch a rhyfel. Pan fu y rhyfel cartrefol rhwng yr Iorkiaid a'r Lancestriaid: Rhys Goch Eryri a ganodd ei ymddiddan rhyngddo a Charnedd Llewelyn, ac amryw frudiau ar yr un achos. Ac o hyny hyd yn hyn, tybia rhai o'r cyffredin mai dewiniaeth neu broffwydoliaeth yw y fath ganiadau, ac y daw cyflawniad i bob sill o honynt. Arferai y brud-feirdd enwau anifeiliaid y maes, ymlusgiaid y ddaear, ac ehediaid yr awyr, o'r wadd i'r llew, ac o'r gwybedyn i'r eryr, i ddynodi yr amrywiol ddynion a fyddent dan eu sylw. Nid oes i mi ddeall wrthynt ond lluniau y cyfryw bethau yn arfbeisiau yr ymrysonwyr ag y soniai y beirdd am danynt. Yr oedd yn rhy enbydus eu henwi wrth eu priodol enwau, dan fawr berygl ac ofnau am eu dâ ac am eu bywydau, ar yr achos. Ychydig oedd nifer y dosbarth yma o frudwyr yn y sir hon—dim ond dau neu dri, sef Adda Frâs a Robin Ddu, neu Robin ab Siencyn Bledrydd. Yn llyfr Gwerclys, dywedir am Adda Frâs fel yma:—"Yn amser Gruffydd ab Seisyllt, tywysog Cymru, yr oedd Brudiwr a elwid Adda Fras yn trigo yn y lle a elwid Aber Llechog, yn Is-Conwy; ac yno y peris ei gladdu mewn corlan defaid; i'r man y gwnaeth efe ganeuon i ddangos y byddai yno Fonachlog. Yr oedd yr Adda Fras yma yn byw o gylch y flwyddyn 1060." Ymddengys ei fod yn brudio gannoedd o flyneddau gwedi ei farwolaeth; canys tybid yn yr oesau tywyll iddo ragfynegi fel hyn am Harri IV.:
"Ac ynghastell y Folallt yr ymguddia.
Yn Hwnslo Heth y bydd cadarna
Ac yn Siring Cros yr ymgadarnha
I fyn'd i'r Bryn Gwyn i gael eisteddfa."
Amserir Robin Ddu o'r flwyddyn 1340 i'r flwyddyn 1370; hefyd o'r flwyddyn 1460 i'r flwyddyn 1560; a'i fod yn enedigol o Landdeiniolen, ac yr adnabyddid yn lled ddiweddar Furddyn Robin Ddu wrth Fryn Adda, yn mhlwyf Bangor, ger Aber-y-Felin, sef Porth Dinorwig fel y noda yn un o'i gywyddau Brut. Ymddengys mai dyn tlawd ydoedd, ond yn un disgleiriaf am awen a gwybodau a feddai ei wlad, a hawdd yw tynu allan o'i waith lawer o ansawdd a helynt yr oes yr oedd yn byw. Ystyrid ef yn ddewin cyfrifol, ac y mae llawer o'i ddaroganau yn aros hyd heddyw. Nid oes odid un hen balas na threflan yn Ngwynedd ar nad ydynt yn dwyn i gof ryw hen goel neu chwedl ddifyrus yn nglŷn â'u henwau, ag y dywedir mai efe a'u daroganodd, megis y bydd i fuwch goch redeg drwy Bwllheli ar ddiwrnod ffair, fel blaen-rybudd o syrthiad y dref i'r llynclyn; y byddai i darw fyned i ben clochdy Llandegwning; y byddai i wyfonen dyfu yn nghwr ffenestr orllewinol Llanbedrog, yr hyn a ddigwyddodd, yn debygol, drwy i awel o wynt chwythu hedyn o'r natur yma i'r lle, neu ynte i aderyn ei gario vn ei gylfin a'i ollwng yno. Priodolir i Robin Ddu gannoedd o chwedlau o gyffelyb natur, megis y llinellau,
"Dwy flynedd cyn daw aflonydd,
Pont ddifai ar Fenai fydd."
Dywedir iddo chwareu llawer o ystrangciau â'r diafol, ac iddo ei siomi a'i dwyllo lawer tro. Addawodd lawer gwaith i'r diafol gael ei gorff ef ar ol iddo farw, a chael ei gario allan drwy ddrws y bwthyn, a thrwy y porth i'r fynwent. Os twyllodd ef yn ei fywyd, credai yr arch-dwyllwr fod yn anmhosibl iddo ei dwyllo ar ol marw. Gwyliai y diafol yn ddyfal ar Robin yn treulio ei oriau diweddaf yn y byd, rhag iddo gael ei siomi y tro hwn eto. Ond ei siomi a gafodd, fel arferol. Yn ol y cyfarwyddiadau a roddodd Robin i gymmydog iddo fisoedd cyn ei farw pa fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu, yr oedd agen i gael ei thori yn mur y bwthyn, a'r arch i gael ei gario allan drwy hono, felly yr oedd y drws i gael ei ochelyd; ac er mwyn gochelyd porth y fynwent yr oedd i gael ei gladdu dan fur y fynwent hanner i mewn ynddi a hanner allan o honi. Gan na chariwyd y corff allan drwy ddrws y bwthyn, nac i borth y fynwent, yr oedd y diafol wedi colli ei hawl arno, ac nid oedd ganddo ddim i'w wneyd ond dychwelyd yn siomedig a gwaglaw. Dywedir mai o'r chwedl hon y tarddodd y tair diareb ganlynol:
1. "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn hirion."
2. "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi."
3. "Paham y llyf y ci y maen? Am nas gall ei ysu."
Y dosbarth arall o frudwyr oeddynt rodreswyr a gymmerent arnynt egluro pethau tywyll, dirgel, a rhagfynegi digwyddiadau dyfodol, drwy gyflawni gwahanol ystrywiau i gyflawni eu rhodreswaith. Os byddai dyn yn meddu ychydig wybodaeth uwchlaw darllen ac ysgrifenu, neu ei fod yn perchen talent a dysgeidiaeth mwy na'i gyfoedion, a thrwy ei fyfyr a'i wybodaeth wedi cael dyfais newydd, ar na fedrent hwy amgyffred, priodolid y peth i'w gyfeillgarwch â Satan, a chredent ei fod mewn cynghrair â'r cythreuliaid, ei fod yn gallu gwneyd i'w ysbrydion ymddangos wrth ei ewyllys, i wneuthur iddo yr hyn oll a ddymunai, pa un bynag ai cyson ai annghyson â natur pethau, a'u halltudio pan fyddai galw am hyny, oddigerth un dosbarth o ysbrydion, yr hwn y byddai raid cymmeryd ei achos o flaen yr Eglwys, a thrwy ympryd a gweddi y gellid ei yru ymaith; a chan mai yr offeiriaid, oddigerth eithriad, oedd yr unig ddosbarth o ddynion dysgedig yn y wlad; arnynt hwy yr oedd y bobl yn ymddibynu am bob gwybodaeth, megis mewn cyfreithiau, cerddoriaeth, hanesiaeth, meddyginiaeth, &c.; a hwynt—hwy a dderbynient braidd yr holl glod am y gwrhydri o wneyd trefn ar ysbrydion; ond ymddengys nad oes enwau namyn ychydig o'r gwyr galluog hyn wedi glynu yn nghof y werin. Yn mhlith yr
ychydig hyny, cawn yn Llŷn un dan y cyfenw Dewin y Rhyllach, i'r hwn y priodolid amryw weithredoedd, yn ymylu ar fod yn wyrthiol, os nad yn wirioneddol felly, megis gallu i aredig a cheiliog hwyaden, gwneyd i gwpan bren nofio yn ngwrthwyneb y llif, &c. Priodolir iddo yr arferiad a'r gallu i fyned i'r Plas Hen, yn Eifionydd, eisteddle y Mostyniaid y pryd hyny, a dwyn oddiyno yr hyn a fynai, y pryd y mynai, a hyny heb yn wybod dim i neb, drwy rin y geiriau,
"Dros y drain a'r d'rysni,
Drwy y tew a'r tenau,
I Fwtri Mostyn ac adref."
Y mae ar lafar gwlad ddarfod i ereill ryfygu ymgiprys â'r un gyfrin-gamp orbwysig, ond iddynt ddyweyd "Drwy y drain a'r d'rysni" yn lle "Dros y drain a'r d'rysni," ac yn ngwyneb y fath amryfusedd, i'r gwr drwg eu cipio ymaith ar darawiad, "Drwy y drain a'r d'rysni," &c., fel na welwyd mo honynt mwyach. Cysyllta llawer y chwedl, gyda pheth priodoldeb â Phlâs y Ward, Pwllheli, yn hytrach na'r Plas Hen. Safai yr hen Blas y Ward yn agos i'r lle y mae Plas y Ward presennol; bu hefyd yn eisteddle i'r Mostyniaid, ac y mae yn aros hyd heddyw, yn y llecyn le yn dwyn yr enw Bwtri Mostyn, heblaw fod agosrwydd y Rhyllach a Phlas y Ward i'w gilydd yn mantoli, gyda llawer o reswm, i'r ochr olaf.
Hefyd, o herwydd i hen foneddion uchelwaed, ag oeddynt yn byw yn Nghefnllanfair, plwyf Llanbedrog; o anffawd neu amryfusedd, beri tramgwydd i'r hen ddewin dialgar hwn, bu iddo, yn ol ei ewyllys ar y pryd, eu cyfnewid o fod yn bobl cyflawn faint, i gyflwr a chyfnod plentynaidd eilwaith—i sugno, i gael eu siglo, &c. Gwyn fyd na tharawem wrth ei fath yn yr oes hon! Yr oedd ganddo awdurdod i gyfodi yr ysbrydion aflan a gwneuthur iddynt ymddangos, a gallu i'w llywodraethu; ac yr oedd y gallu a'r awdurdod hwn, meddir, naill ai ynddo ef ei hun, neu yn y geiriau a arferid ganddo, neu wedi eu derbyn oddiwrth Dduw. Y mae yn hen draddodiad er ys oesau, ddarfod ei gladdu yn Mwlch-Drws-Wnowl, yn ochr orllewinol yr Eifl, ac y byddai pawb, wrth fyned heibio ei fedd, yn taflu careg arno, nes o'r diwedd i'r fan gyfodi yn garnedd fawr.
Rowland Hughes, gwr cyfarwydd yn nghelfyddyd rhif a mesur, cymmeriad nodedig yn y wlad, enwog yn mysg y werin mewn cyssylltiad ag ofergoeledd, yn cael y gair o fod yn ddewin ac o fod yn gallu nol a danfon pob math o ysbrydion wrth ei ewyllys, oedd yn cadw ysgol ddyddiol yn Llan y Pistyl, lle y digwyddodd i un o'r bechgyn golli ei lyfr, a methu ei gael, er chwilio llawer, a holi y plant oll, ac i'r athraw fygwth nid ychydig, gan ddyweyd y byddai ef yn sicr o ddyfod i wybod pwy oedd wedi ei gymmeryd, ac mai gwae fyddai i hwnw, fod yn well iddo gyfaddef ei fai. Er yr holl fygythion nid oedd dim yn tycio i beri i neb gyfaddef. Ac felly aeth yr athraw i blith y creaduriaid pluog i ymofyn pwy gymmerodd y llyfr. Daeth a cheiliog iar, a chrochan, i'r Llan, a rhoddodd y ceiliog yn y crochan yn fyw, a'r cauad ar y naill ochr arno, gan adael lle i ben a gwddf y ceiliog i ddyfod allan. Gorfodid y plant i fyned bob yn un i rwbio eu dwylaw yn y crochan, a phan fyddai yr euog yn rhwbio ei ddwylaw, byddai y ceiliog yn sicr o ganu meddai yr athraw. Ymdrechai y ceiliog weithiau am ei ryddid, fel pe yn gwybod fod aml un o'i ryw wedi cael ei ferwi yn y crochan hwnw; a phan oedd bachgen tua phymtheg oed, yn ei dro, yn rhwbio ei ddwylaw hyd y crochan, digwyddodd i'r ceiliog fyned yn anesmwyth iawn, a'r athraw a gafael tyn am ei wddf, gwnaeth swn tebycach i geiliog yn tagu nag i un yn canu. Penderfynodd yr athraw, wrth hyny, mai y bachgen hwnw oedd yr euog. Holodd a chroesholodd ef, ond parhau i wadu wnaeth y bachgen, a churodd yr athraw ef yn ddidrugaredd â'i wialen fedw. Ar ol i'r ceiliog gael gollyngdod, a phob peth ddyfod i drefn, awd i chwilio am y llyfr eilwaith, a chafwyd ef mewn cilfach lle yr arferid taflu llyfrau i'w cadw; ond ni wnaeth yr hen athraw unrhyw esgusawd i'r bachgen am y camgyhuddiad a'r camdriniaeth a gafodd.
Yr oedd yn Eifionydd hefyd amryw o'r gwyr cyfarwydd a elwid dewiniaid, megis Huw Nannau, Dewin y Cenin, Isaac Morys, &c. Y blaenaf —Huw Nannau oedd yn byw yn y Gilfach, plwyf Penmorfa, ac yr oedd yn ddyn cyfrifol yn ngolwg y wlad, fel yr ymddengys, canys cawn yn Nghoflyfr Eglwys Dolbenmaen ei fod yn Warcheidwaid Eglwysig y lle yn y flwyddyn 1683, ac yn yr un Coflyfr cawn "Hugo Nanney de Gilfach sepultus fuit Llanfihangel de Pennant 250 Augusti Ano Dni 16920. He was reckoned and called a Dewin or conjurer." Yn Gymraeg, rhed yn debyg i hyn: "Huw Nannau, o'r Gilfach, a gladdwyd yn Llanfihangel-y-Pennant, Awst 25, Blwyddyn yr Arglwydd 1692. Efe a gyfrifid ac a elwid yn Ddewin neu gyfareddwr."
Dewin y Cenin, yn ol llafar gwlad a gwerin, oedd yn byw mewn ty a elwir Ty'r Dewin, yn agos i le a elwir yn bresennol Ffridd y Ffold, ar gwrr amaethfa a adnabyddir hyd heddyw wrth ei enw, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, yr hon, yn awr sydd yn eiddo i deulu y diweddar Mr. David Rowland. Yr oedd muriau yr hen dŷ i'w weled mor ddiweddar ag Awst 1862, pryd y llwyr arloeswyd ymaith yr oll o'r adfeilion, ac y cafwyd fod ar fantell y simdde, yn doredig, y flwyddyn "1562." Perthynai y lle i etifeddiaeth y Plas Hen, a chawn mai Gruffydd Fychan oedd ei etifedd o gylch y flwyddyn 1696.
Oherwydd mawr wybodaeth yr hen ddewin hwn, ystyrid ei fod yn meddu goruwch-wybodaeth, fel y mae amrywiol chwedlau wedi dal yn draddodiadol am dano hyd heddyw, a'i gampau, a'i wyrthiau, a'i broffwydoliaethau yn ddiarebol ar lafar a chof gwlad yn mhob cwrr, megis ei fuddugoliaethau ar yr Un Drwg a'r Tylwyth Teg, y rhai, naill ai o orfod ai o ewyllys, a ufuddhaent i'r hyn a orchymynai efe iddynt. Yn mhlith llawer o'r "rhyw deg" a ddelent ato i gael cwrs eu tynged pwy fyddent eu gwyr, &c., cyfrifir hen nain y diweddar Ellis Owen, Cefn y Meusydd, yr hon, yn ol ei chais a gafodd gan yr hen Ddewin hysbysrwydd y caffai wr, ac y byddai byw ar boncen yn ngolwg haul—ar—godiad, y byddai iddi saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac y byddai hithau farw ar eu genedigaeth. Sicrhai Ellis Owen fod ei ragddywediadau yn gywir—ddarfod i'w hen nain fyned i fyw i'r Tuhwnt-i'r-bwlch, ger Porthmadog, poncen yn ngolwg codiad haul, iddi gael saith o blant, y ddau olaf yn efeilliaid, ac iddi farw ar eu genedigaeth. Glynodd cryn lawer o hynodion ereill perthynol i'r gwr hwn yn nghof y werin, megis y Daith i Philistia, y Potes Ceiliog, &c.
Yr oedd yn y Cenin wr arall, genedigol o'r lle, o'r enw William Robert Huws, yn ddyn hynod mewn llawer o bethau. Yr oedd ganddo feddwl cryf a gafaelgar, a mesur da o athrylith; ond ei duedd fwyaf oedd at ddewiniaeth yn ei gwahanol gangenau, a medrai egluro pethau felly mor gyfarwydd nes yr aeth y gair allan yn mysg y werin ei fod wedi cael gafael ar lyfrau hen "Ddewin y Cenin." Un tro, tra yr oedd ef gyda chyfaill iddo, ar ben mynydd y Cenin, lle yr ymddangosai lliaws o berchyll mewn modd gwichlyd a chwareus o gylch eu traed, tra y cyfaill yn ei awydd am rai o honynt, a ymaflai ynddynt y naill ar ol y llall, eithr ebrwydd y diflanai pob un rhwng ei ddwylaw; ac yntau, trwy hyny, a ddeallodd nad oedd ffrwyth yr olygfa yn ddim amgen na gweithred ffugiol a gyfodid ar y pryd drwy allu dewinol ei gyd—ymdeithydd i'r lle. Ymfudodd W. R. Huws i America gyda'i wraig a'i blant, a bu farw yno.
Isaac Morys, o Bentyrch Isaf, plwyf Llangybi, athraw morwriaeth, a lluniwr deialau cywrain, a chywir, ydoedd ddyn ag y byddai pawb yn ymwthio ato, ac yn gwrandaw arno. Os byddai i ddadl gyfodi ar unrhyw bwnc, rhoddid pen arni ar unwaith â gair Isaac Morys. Dygid pob achos anhawdd, a phob cwlwm dyrys, o dan ei sylw. Siaradai am y byd hwn ac am y byd a ddaw; am gylchdroadau y ser, a chwyldroadau teyrnasoedd; am foddion iechyd i gorff, ac am ffordd cadw enaid; a phan siaradai efe, tawai eraill a son. Arferai ymwneyd cryn lawer a deongli breuddwydion ac argoelion, yn nghyda chodi a gostwng ysbrydion. Dywed llafar gwerin fod ei weision unwaith mewn cryn helbul am y modd i gael tas o ŷd i'r ysgubor, ac iddo yntau orchymyn iddynt fyned i'w gwelyau yn dawel, y byddai y das ŷd yn yr ysgubor cyn chwech o'r gloch bore dranoeth. Felly y bu, cariwyd hi i'r ysgubor gan fil a mwy o greaduriaid bychain annaearol; rhoddasant hi i lawr vn ei lle priodol, ac yna aethant i ffwrdd gan wneuthur y swn mwyaf brawychus a glywodd clustiau erioed.
Priodolir gorchestion chwidog o'r un natur i ddau hen lanc ag oeddynt yn byw yn Mhen-y-bryn, Chwilog; ac hefyd i Griffith Ellis, o gymmydogaeth Llanberis, at yr hwn yr elai llawer, o bell ac agos, o'r rhai fyddent, hwy neu eu hanifeiliaid, wedi eu rheibio.
Ystyrid fod y gallu hwn hefyd mewn llawer o hen wrageddach a elwid yn ddewinesau. Y peth mwyaf hanfodol i'r dosbarth yma oedd bod dipyn yn anferth, yn rhai heb dalu fawr sylw i ddeddfau glanweithdra; ac os byddai y croen braidd yn felyn, goreu yn y byd. Hefyd, yr oedd yn ofynol iddynt fod yn dlawd, yn hel eu tamaid o ddrws i ddrws; a phan wisgai gwraig y cymmeriad yna, gellid bod yn sicr na byddai iddi weled eisiau dim. Yr oedd y pethau a arferai y creaduriaid hyn i ddewino trwyddynt yn lliosog iawn, megis llinellau y dwylaw, ffurf y gwyneb, lliw y gwallt, trefnu mân ronynau yn y gwpan, &c.; a mynych y byddent yn llwyddo i dynu arian ac aur, caws a chig, lieiniau, a gwisgoedd lawer oddiwrth ferched ieuainc a gwragedd. Elent o amgylch i hudo merched ieuainc drwy ddarllen iddynt eu tesni, megis addaw iddynt wŷr da, a hyny cyn hir; dau neu dri o blant, ac yn mlaen a hi fel y byddai chwaeth yr eneth yn gofyn. Yr oeddynt yn deall y natur ddynol yn lled dda, ac yn ceisio cael allan yr hyn fyddai yn debyg o ateb chwaeth y rhai y byddent yn ymwneyd â hwy. Byddai llawer o gyfeirio tua thai y dewinesau,—un yn methu gwneyd caws, a'r llall yn methu corddi'r llaeth i beri iddo ddwyn ymenyn; un yn cael ei flino gan ei wraig, a'r llall gan ei ddanedd; un a'i fuwch wedi marw, a llo y lle arall yn sâl; a phob un yn credu mor gadarn a hyny fod ymwared iddynt mewn braich o gnawd, ac os gallent gyrhaedd preswylfod y ddewines fod yr ystorm i gyd drosodd. Byddai gan yr hen ddewinesau yn fynych ddrwg ewyllys dialeddol yn erbyn eu cymmydogion, hyd nes y caffent eu gwobrwyo; ac yn wir yr oeddynt yn cael llawer o fai heb ei haeddu. Os na ddelai ambell dro allan o'r fuddai gymmaint o ymenyn a chyffredin, rhoddid y bai ar rhyw hen ddynes, yn lle ar anfedrusrwydd, neu ddwylaw budron y llaeth-forwyn. Os digwyddai i fochyn farw yn ddisymwth, oddiwrth glwyf neu fwyd afiachus, rhedid at y ddewines i ddeisyf ei chymhorth. Os byddai ceffyl farw dan artaith pryfed, neu wedi i weinidog diofal roddi iddo ddwfr oer yn ei gynnesrwydd, rhyw hen wrach anffodiog o ddewines oedd ar fai, a rhaid fyddai ei llusgo trwy drais, os na ddeuai trwy deg, i ddywedyd "Rhad Duw ar eich da." Os digwyddai i ebol neu lo farw, er bod rhai yn meirw, fel pethau ereill, diau mai eu witsio a gawsent; yna, i ddial ar y wits (canys rhinweddol a chanmoladwy oedd dial yn mhlith ein teulu ni) llosgid y gelain farw yn tân, ac fel y byddai y gelain yn llosgi y dihoenai y ddewines. Os gommeddai gwraig i ffarmwr roddi piseraid o laeth i ambell hen wreigan legach a thrwyn-gam, elai y buchod i gerdded ar eu cyrn yn lle ar eu traed, a'r moch i redeg i fyny ar hyd y gwaliau at y tô, a chwympo ar eu cefnau a marw; ni byddai trefn ar ddim. Pe gwelsid diadell o wyddau liw nos yn crochfloeddio ar lyn o ddwfr, wedi eu cythryblu, fe allai gan lwynog, bernid mai dewinesau oeddynt, y rhai yn fynych, ond yn neillduol ar nos Iau cyntaf o'r lleuad, a gyd-ymgynullent i ymdrochi a chadw trwst. Os gwelid hen wraig a gwyneb rhychog, a blew ar y wefus isaf, un dant hir wedi aros, dillad cyrbibog am dani, a chi wrth ei hochr, yn ymsymud wrth ei ffon yn llesg, beth bynag a gymmerai le mewn ffordd o aflwyddiant, yr hen wraig hon, neu arall o'i chyffelyb, fyddai gwedi rheibio. Yr oedd yn ardal Llanbedrog un o'r gwyddaresau hyn ag a fyddai yn dull-newid ei hun i ffurf ysgyfarnog. Gwelodd y cwn hi ryw ddiwrnod, ac ar ei hol a hwynt nerth y traed: ymlidiasant hi nes yr aeth dros y rhagddor i'w thŷ ei hun. Aeth y cwn dros y rhagddor ar ei hol; ond nid oedd yno ddim ond hen wraig felynddu, grebachgroen, yn eistedd ar 'stôl drithroed wrth y tân, yn tuchan ac yn dyheu, ar golli ei gwynt ar ol y rhedegfa galed.
Yr oedd, wrth enau Afon Wen, plwyf Llanarmon, fwthyn bychan, o'r enw Pendorlan, wedi ei godi gan y tirfeddiannwr, yn yr hwn y preswyliai dwy hen ferch, hynod mewn llawer modd, o'r enwau Lowri Owen a Sian Owen; ond prin y clywodd yr un o'r ddwy eu hunain yn cael eu galw ar eu henwau priodol erioed, oddieithr ar achlysuron pwysig. Er na chawsent eu cynnysgaeddu, megis yn ddymunol, âg iechyd corfforol, gan nas gallai Lowri dramwy heb gymhorth baglau, na Sian ymuniawni yn herwydd anhyblygedd crymedd ei chefn; ond tybid eu bod yn feddiannol ar alluoedd meddyliol lled gryfion, oblegyd yr oeddynt arferol o gadw ysgol ddyddiol, mewn bwth o'r enw Dudwll, yn ymyl Chwilog; ac ystyrid fod ysbryd dewiniaeth yn cartrefu ynddynt—hwynt-hwy oeddynt oraclau eu hardal yn eu hoes—â hwy yr ymofynai pob amaethwr yn nghylch y tymmorau priodol i hau llawer neu ychydig o ŷd, am y credid eu gair ar bwnc y dyfodol yn nghylch prinder, llawnder, drudaniaeth, &c. Golygid y byddent yn gyru ysbrydion aflan allan o bersonau a lleoedd drwy rîn tyngedau a seremonïau, ac y byddent yn cael allan eu rhagwybodaeth am y tymmorau, sefyllfa marchnadoedd, &c., drwy ysgogiadau neillduol yn llanw a thrai y môr, sef codiad a gostyngiad y dyfroedd ar y glanau, fel, os byddai ar adeg y blaen newydd yn digwydd llenwi yn uwch, a threio yn îs, na'r llawn, mai drudaniaeth fyddai ar ran y wlad yn ystod y flwyddyn hono. Os fel arall, llawnder a olygid. Byddent weithiau yn mwngial siarad wrthynt eu hunain, a bernid mai dyweyd gweddi yr Arglwydd yn eu gwrthol y byddent yr adegau hyny. Rhoddwyd i'r ddwy hir gred gan y bobl wledig ac anwybodus, eithr min-gamai yr uwch-raddau wrth grybwyll eu henwau.
Yr oedd hefyd hen ddewines, a gyfenwid Sara'r Gadwen, yn byw yn Rhoslan, plwyf Llanystumdwy. Arferai hon wneyd ei gorchestion gwyrthiol drwy ymaflyd yn y gadwen, a mwngial rhyw fath o eiriau i fyny i'r simdde. Proffesai ei bod yn feddyges, a'i bod yn deall dirgelwch cyfansoddiad dyn, anifail, a phob rhyw o lysiau; ac ei bod yn dra chydnabyddus âg ysbrydion, y rhai, yn nghyd a threfn y sêr, a rag-hysbysent iddi, drwy gyfrwng cyfrin y gadwen, bob peth angenrheidiol i'w wybod.
Os byddai gan unrhyw berson elyniaeth yn erbyn ei gymmydog, gallai yn hawdd ei reibio drwy amryw ddulliau, megis trwy blanu nifer dda o binau i gorff llyffant byw, a'i roddi i gadw mewn crochan, gydag enw y sawl y mynid ei reibio ar ei gauad o bobtu; ac hyd nes y caffai y person a reibid felly y crochan a'r llyffant ynddo, yr arosai y felldith arno, pa beth bynag a fyddai. Rai adegau llosgid llyffant wedi ei lanw â phinau, i ddangos na byddai modd symud y felldith o gwbl. Brydiau ereill, teflid llyffant wedi ei binio felly lyn o ddwfr i farw; gwnelid hyn yn benaf gan enethod a fyddent wedi colli o serch eu cariadon, er adennill eu meddwl atynt drachefn. Pan y ceffid pigiad draen, dywedid adnod "am y goron ddrain!" Gwnelid pethau cyffelyb er attal llifiad y gwaed pan y torid gwythïen drwy ryw ddamwain.
Yr oedd llawer eraill o ddulliau o ddewino yn cael eu harferyd, megis y rhai canlynol:
CYFRIF LLYFRITHEN.
Mwy cydweddol y bernid cyfrif oriau einioes llyfrithen na'i dadwreiddio ar unwaith, drwy dynu allan flewyn yr amrant o ganol-bwynt y boen. I gyfrif, cymmerid gwäell, neu ryw offeryn blaenfain o'r fath, er ei bygwth; a symudiadau y llaw oeddynt i gyfateb i adroddiad y wers—"Un lyfrithen, dwy lyfrithen, tair lyfrithen, pedair llyfrithen, pum' llyfrithen, chwe' llyfrithen, saith llyfrithen, wyth llyfrithen, naw llyfrithen,—o naw i wyth, o wyth i saith, o saith i chwech, o chwech i bump, o bump i bedair, o bedair i dair, o dair i ddwy, o ddwy i un, o un heb 'run." Dyna'r wers yn gyflawn, ac angenrheidiol oedd i'r adroddydd fyned drwyddi cyn tynu ail anadliad —os amgen, yr oedd holl rinwedd y swyn drosodd. Ond pan gyflawnid y ddefod gyfareddol yn ol llythyren cyfraith dewiniaeth, byddai diwedd y llyfrithen yn prysur ymagosau; a chyn pen y pedair awr ar hugain ni byddai o honi ond ei lle.
SWYNO'R ERYR
oedd yn cael sylw lled bwysig yn nghredo'r werin. Yr oedd yn ofynol myned at y swynwr ben borau, heb archwaethu tamaid o fwyd; a'r swynwr yntau, tra yn yr un cyflwr newynllyd, a boerai ar y man dolurus, ac ar fyrder iach fyddai. Arferid weithiau chwythu yr Eryr; a thybid na byddai rinwedd yn ngwyneb neb oni byddai ei henafiaid wedi bwyta cig eryr. A ganlyn oedd y wers berthynol i'r weithred hon:
Yr Eryr Eryres,
Mi a'th anfonais,
Dros naw môr, a thros naw mynydd
A thros naw erw o dir annghelfydd;
Lle na chyfartho ci, ac na frefo buwch,
Ac na ddelo'r Eryr byth yn uwch.
Tw, Tw, Tw,"—
yn ddiweddglo i selio ei dynged, drwy felldith y poeryn arno.
SWYNO'R DDAFADEN WYLLT (TYFADEN WYLLT)
oedd yn cael lle amlwg yn mhlith defodau yr hen bobl. At y ddefod hon arferid rhwbio yr ysgawen yn y ddafaden, ac yna, wedi rhoddi nodwydd neu ddraen drwyddi, cleddid hi mewn tomen, a byddai gwywiad y ddafaden yn ganlyniad, neu yn hytrach yn gymdeithydd naturiol i'w llygriad yn y gladdfa.
CLWYF YR EDAU WLAN
oedd glwyf a ystyrid yn "llwyr anfeddyginiaethol," ond yn unig drwy rinwedd swyn gyfaredd; ac yr oedd rhai o'i nodweddion, megis adgasrwydd at ymenyn, mor debygol i effeithiau y clwyf melyn, fel mai anhebgorol angenrheidiol, yn y lle cyntaf, ydoedd cael boddlonrwydd am natur y clefyd, yr hyn a ddarganfyddid drwy i'r swynwr fesur o bellen o edau wlân gyfrodedd, wedi ei hysgwrio yn wyn ac yn lân, bwt cyhyd dair gwaith ag o ben yr elin i ben y bys. Os yr estynai y pwt edaf hwn, wrth ei fesur dair gwaith yn olynol, yna iach a dianaf y dyn oddiwrth y clwyf; ond cyn wired ag y byddai yr edefyn yn byrhau, yn ol yr unrhyw fesuriad, y byddai'r clefyd wedi ymaflyd yn nghyfansoddiad y claf, a hyny i'r graddau a arddangosid gan fyrhad yr edefyn. Cylymid yr edefyn gan hyny am ei wddf ymofynid am chwart o hen fir, yr hwn a ferwid drwy drochi yn raddol ynddo ddarn o ddur eiriaswyn. Yna cymmerid tua hanner wns o saffrwm mewn llian glân, a chan ei fynych wlychu yn y bir berwedig. gwesgid ei nôdd i'w gymmysgu â'r bir. Ceid saith niwrnod o amser i yfed y cymmysgedd hwn, —y seithfed ran o hono bob borau; a phrofai estyniad yr edefyn wrth ei fesur drachefn a thrachefn ddylanwad llesol y swyn."
GWELLA'R GWYNEGON.
Yr oedd amryw ffyrdd i wella'r clwyf hwn, neu yn hytrach i'w gadw i lawr. Un ffordd oedd gofalu am roddi hosan am y goes chwith yn gyntaf; a chyda'r canlyniad hapus hwn ceid ymwared, neu yn hytrach esmwythdra lled dda oddiwrth ei effeithiau. Ffordd arall oedd cario dwy bytaten, un bob ochr yn nwy logell y gôt, gan eu trafod a'u troi mor aml ag y caniatâi amgylchiadau ac amser.
Y DRWG LYGAD.
Pedol ceffyl, nid pedol caseg, wedi ei hoelio wrth drothwy y drws, a ystyrid yn meddu digon o ryw rinwedd i droi heibio amcanion maleisus y dewiniaid drwy eu llygad drwg." Hefyd, arferai llawer o hen wragedd diniwed gadw lliaws o geryg ffodus, sef ceryg a thyllau wedi cael eu gwneyd ynddynt—wedi eu hongian i fyny yn y bythynod, gan addef wrth gyfeillion mai eu hamcan ydoedd eu hamddiffyn rhag y llygad drygionus, ag a fyddai yn fynych yn achosi marwolaeth. Yr oedd hefyd "lygad daionus," neu "lygad santeiddrwydd," megis edrychiad arosol a hwyrfrydig cariad mam ar blentyn fyddai yn marw, yr hyn a attaliai ymadawiad yr enaid, ac yn ofer yr ymdrechai y plentyn farw hyd nes y tynai y fam ymaith ei golwg dosturiol oddiarno.
ASGWRN COEL,
sef asgwrn palfes buwch neu ryw anifail arall, a ystyrid yn briodol tuag at egluro y grediniaeth ganlynol; ond nid heb dori twll ynddo â haiarn poeth, a dodi llinyn drwyddo i'w hongian uwchben drws y tŷ, o'r tu allan. Yna, os byddai gan wraig y tŷ obaith am chwaneg o deulu, gellid gwybod drwy rin yr asgwrn pa un ai bachgen ai lodes fyddai y genedig; os mab a ddelai i'r tŷ gyntaf wedi'r orchwyliaeth o osod i fyny yr asgwrn anffaeledig, bachgen fyddai ar ran y fam y tro hwnw; ond os merch ddigwyddai ddyfod i fewn gyntaf, lodes fyddai ar ei rhan.
PORTH TYWYN, TUDWEILIOG.
Yn nhraeth y llecyn hwn y mae careg ag ol troed ceffyl ynddi, nad oedd le i amheuaeth, megis yn arferol am y cyfryw bethau, sef, os byddai i'r môr olchi y tywod oddiarni, y byddai yr ŷd yn ganlynol yn ddrud iawn; ond os gorchuddiai y tywod hi, y byddai pobpeth yn hynod o isel a diofyn. Drudaniaeth mawr o un tu, ac iseldra mawr o'r tu arall, mewn prisiau, fyddai y gwrth-ganlyniadau. Credid hyn mor ddiysgog, fel yr arferai un hen ffermwr o'r ardal luchio y tywod oddiar y gareg er mwyn i brisiau pethau godi yn eu gwerth.
EGLWYS ABERDARON.
Tra yr oedd trigolion y plwyf yn yr eglwys, ryw Sul, yn yr addoliad, daeth mor-ladron ac a ysbeiliasant yr eglwys, er eu holl ymdrech i'w gwrthwynebu; ond trodd y gynnulleidfa i weddio a thra yr oeddynt yn anerch gorsedd grâs, dychwelodd yr ysbeilwyr i'w llongau, ac yn ddisyfyd suddasant hwy a'u llongau i ddyfnder y môr.
GWEDDIO AM DDIAL.
Buddiol a chymmeradwy yr ystyrid y weithred ddifrif—ddwys o weddïo am ddial, pan fyddai dyn yn meddwl ddarfod iddo gael cam mawr; a thuag at gyflawni y ddyledswydd dderbyniol a gwir angenrheidiol hon, elai i ryw eglwys, gyssegredig i ryw sant enwog, megis Clynog, gan gyflwyno darn o arian i'r sant, yna ymgrymu ar ei benliniau noethion, ac wedi hyny alw i lawr felldithion ac anffodion ar y troseddwr a'i deulu am genedlaethau i ddyfod, ac yn y grêd gadarnaf y caffai y melldithion eu cyflawni i'r llythyren. Ambell waith elid at ryw ffynnon yn lle eglwys.
Coleddid y dyb yn gyffredin fod y Bod Mawr yn gwrandaw gweddïau o'r fath; ac fod y diafol a'i ysbrydion, er mwyn cyflawni eu digllonedd, yn gwneuthur cytundeb â hen bobl, ac yn neillduol felly â hen wragedd, i'w cynnysgaethu â galluoedd goruwch-naturiol, ond iddynt hwy gael eu heneidiau yn y pen draw. Dywed y llyfryn a elwir "Cas gan Gythraul," y byddai y dewiniaid' yn canlyn y Tylwyth Teg, ac y byddai y cyfryw rai yn gwybod yn nghylch pa achosion y byddai personau yn bwriadu dyfod atynt cyn y byddent wedi cychwyn oddicartref, y gwyddent enwau y rhai fyddai yn dyfod, y galwent hwy wrth eu henwau, er mor ddieithrol y tybygid eu bod iddynt, y byddent yn rhagddywedyd marwolaethau dynion, yn rhoddi gwybod yn nghylch pethau fyddent wedi colli, &c. Weithiau, golyga y geiriau dewiniaid a brudwyr ddoethion a dysgedigion, ac megis yn gwbl-gyson â'r enw Cymreig am broffwyd, golyga yr enw dewin un yn proffesu gallu i gynnyrchu effeithiau goruwch—naturiol, rhagfynegu pethau i ddyfod, &c. "Y dewin o Nazareth" oedd yr enw a roddai yr hen feirdd ar Iesu o Nazareth. Pan oedd dysgeidiaeth yn rhywbeth annghyffredin iawn, ystyrid yn ddyledswydd ar y werin i gredu ac i ddilyn dysgawdwr, a pheidio ammheu dim, am y rheswm ei fod yn rhywun uwchlaw y cyffredin; a thrwy hyny cyfyngid gwybodaeth o fewn cylch pennodedig. Felly, os olrheinir y gwirionedd yn nghylch eu gweithredoedd, eu dull o fyw, &c., rhaid coelio eu bod yn graff iawn i weled beiau ereill, ac i ragddywedyd yr hyn a ddigwyddai iddynt, tra ar yr un pryd na fynent weled eu beiau eu hunain, ac nas gwyddent chwaith eu tynged eu hunain; eu bod yn gweled ac yn gwybod, pe gellid eu credu, bob peth am ereill, ond er hyny yn ddeillion ac yn anwybodus o honynt eu hunain; eithr rhoddwyd iddynt hir gred gan y bobl wledig ac annysgedig. Yn yr oesau hyny, ni oddefai ofergoeledd i ddynion ddarganfod dim newydd defnyddiol am fod cyflawni gwaith neu gludo baich, ond yn yr hen ffordd, yn bechod rhyfvgus!
Yr oedd pethau fel hyn yn rhan hanfodol o gredo y werin, ac yr oedd ysbryd ofergoel yn berthynas agos i ysbryd ofn, ac ofn yw y creulonaf o'r nwydau dynol; y mae lawer gwaith wedi gyru dynion, tyner eu teimladau ar achlysuron ereill, i ymddwyn yn greulawn tuag at y sawl a dybid yn euog o swyno a thyngedu; tra yn fwyaf cyffredin nad oedd y swynwragedd a gospid ddim amgen na hen fenywod anwybodus, yn teilyngu tosturi yn hytrach nag arteithiau.
PENNOD V.
ARGOELION.
Argoel yw arwydd, rhagarwydd, rhagddangosiad o dda neu ddrwg. Yr oedd llawer o'r hen bobl, o herwydd amldra cyfyngdra eu gwybodaeth, yn byw mewn braw gwastadol, gan gymmaint o arwyddion drwg oedd yn ymgynnyg iddynt, naill ai oddiwrth anifail, aderyn, neu freuddwyd; ac y mae rhyw wmbredd o'r mân argoelion hyn eto heb eu dileu oddiar gof y werin, y rhai nas gellir, mewn rhyw ystyr, eu rhestru o dan yr enw dewiniaeth, eto y maent yn dwyn perthynas agos â dewiniaeth—dull o ddewiniaeth oedd gwneuthur pob math o goel—dodwn liaws o honynt i lawr yma, gan ddechreu gyda
LLEN Y MILOD
neu anifeiliaid. Rhoddai yr hen bobl lawer o goel ar ryw anifeiliaid, megis fod yn ofynol pan welid ceffyl gwyn, wneyd gris croes ar gefn yr esgid, er mwyn cael ffawd dda, hyd nes y gwelid ceffyl gwyn arall; ond os edrychid ar y ceffyl ar ol croesi, elai y swyn i golli. Yr oedd gweled ceffyl teneu yn argoel hynod ddrwg, ond gweled ceffyl Nid tew, os heb fod o liw du, oedd argoel dda. oedd neb, gynt, mor ffol a phrynu ceffyl, unrhyw amser, heb reol bendant i hyny, a dyma hi:
"Un troed gwyn y ceffyl pryn,
Dau droed gwyn y ceffyl pryn;
Tri throed gwyn, yn graff edrych arno.
A phedwar troed gwyn, dos ymaith hebddo."
Barnai rhai mai llun cyfrwy Balaam yw y llinell dywyll ar war yr asyn, ereill mai llun croes Crist; ac nid oedd mo'r amheuaeth lleiaf, gan neb, nad hawdd gweled y gwynt ond yfed llaeth mules. Edrychwch, edrychwch, mam, dacw oen bach y cynta' welais 'leni," meddai bachgenyn. "Na edrycha'i ddim, nes cael gwybod ffordd mae'i ben," ebai'r fam. "Mae'i ben at draw a'i gynffon at yma," ebai'r bachgen. "Dyna hi!".ebai'r fam, buasai yn well i tithau beidio gweled ei gynffon y tro cyntaf. Mae'n ffodus i wel'd ei ben gyntaf, ond anffawd sydd o wel'd ei gynffon gyntaf." Mae mwy o ddal ar bethau fel yna nag mae neb yn feddwl. Os pen yr oen neu ben yr ebol bach cyntaf a welwch fydd tuag atoch, cewch ben a gwyneb y byd atoch ar hyd y flwyddyn; ond os eu cynffonau welwch gyntaf, try'r byd ei gefn arnoch, a byddwch yn aflwyddiannus. Dywedai fferm-wraig yn Lleyn iddi weled cynffon oen yn gyntaf un flwyddyn, a blwyddyn anffodus fu iddi. Aeth dau nythaid o wyau i gloncian dan yr un iar; bu farw caseg ac ebol iddi y flwyddyn hono; ni chawsai ond chwe' llo yn lle deg, a'r flwyddyn hono hefyd y ganwyd Huw, ei mab, a bachgen drwg oedd hwnw; a phe buasai hi wedi gweled pen yr oen yn gyntaf, buasai yn debyg o fod wedi troi yn fachgen da.
"Gwel'd oen du,
Dim lwc i mi."
Nid oedd, chwaith, i'r sawl a dorai fara ceirch â chyllell ffawd ar ei ddefaid—byddent farw bob un. Credid mai ffordd sicr i beri i fuwch ddyfod â llo yn ngoleuni dydd, ac nid yn y nos, oedd gorphen ei hesbio ddydd Sul; hefyd, ar ol i fuwch ddyfod a llo, arferol oedd i'w pherchenog roddi cyfran o arian fel offrwm yn y "cyff "—coffr o fewn i eglwys y plwyf, am y tybid, os na wnelid hyny, na cheid unrhyw fudd oddiwrth y fuwch. Ar ddiwedd y flwyddyn cyfrenid yr offrwm hwnw rhwng tlodion y plwyf. Credid, os rhwymid gwartheg y tro cyntaf a'u cefnau yn wlybion, y byddent cyn Calanmai yn methu codi eu hunain; hefyd, os rhoddid i fyny odro buwch ar nos Sadwrn y byddai yn sicr o fwrw ei llo liw dydd; os cuddid bustl buwch yn y cwr dwyreiniol i dŷ, na anturiai lleidr i'w dori; mai amgylchiad yn myned o flaen rhyw groesni, oedd i fuwch fwrw dau lo ar y tro; ac mor wir a hyny, os torai buwch i ardd, y byddai angau yn y tŷ cyssylltiol â'r ardd o fewn y chwe' mis. Gwr mewn oedran, ac mewn ardal freintiog (gwehydd wrth ei gelfyddyd) a wrthodai fyned a'r wlanen allan i'w sychu, oherwydd y dull a welsai ar aderyn bach! Ond un o'i gymmydogion, yr hwn oedd o'r un gelfyddyd ag yntau, a anturiodd fyned a'i wlanen allan; yntau dan ofni a chrynu a'i dilynodd. Sychodd y gwlaneni yn dda; ond ni buasai y gwr yn gwneuthur dim yr holl ddiwrnod hwnw oni buasai iddo weled ei gymmydog ar y maes yn gyntaf. Gwr arall, canol oed, ac yn mwynhau moddion gwybodaeth o'i febyd, a gododd yn foreu i fyned i'r farchnad i Gaernarfon; ond yn fuan wedi iddo gychwyn, digwyddodd i ysgyfarnog redeg ar draws y ffordd, ac yntau a'i canfu; ac yn y fan fe syrthiodd i ddigalondid, ac a feddyliodd am droi yn ol; ond fodd bynag, yn mlaen yr aeth yn hynod o ddigalon. Ac wedi diwedd y farchnad, gofynodd cymmydog iddo, pa fodd y marchnataodd efe? O, ebai yntau, mi a wyddwn yn dda mai marchnad wael a gawn heddyw er pan welais ysgyfarnog ar y ffordd y boreu. Yr oedd gweled ysgyfarnog yn croesi'r ffordd o flaen rhywun, neu yn dyfod i'w gyfarfod, cyn boreufwyd, yn nhyb yr hen bobl, yn dynodi gelynes; ond yn yr hwyr, brenines a olygai—hyny yw, anffawd yn y bore a ffawd yn yr hwyr. Os gwelai amaethydd dair neu bedair o ysgyfarnogod yn cyd-chware yn mis Mawrth. Gwae iddo! Dewinesau y gymmydogaeth fyddai yn cyd-ymlawenhau dan lun ysgyfarnogod; ac ni allai un milgi eu dal, oddieithr un hylwyr ddu, heb gymmaint ag un blewyn gwyn. Yr oedd pawb yn credu, os byddai i fronwen neu ynte wiwer groesi llwybr o flaen unrhyw berson, y byddai anffawd yn sicr o ddilyn, ac mai gwell troi yn ol—credu na ddeuai llygoden frengig â'i chyfeillion, heb fod arwyddion drwg gyda hi—credu y rhagarwyddai llawer o lygod dymmor cyfyng a gwasgedig iawn, ac nad oedd iddynt i'w ddisgwyl ond aflwyddiant os byddai arogl llygod yn agos atynt—credu, os cnoai llygoden ddillad rhywun, y byddai i ryw aflwydd ddilyn o'r achos; ac fod gwichiad llygoden y tu ol i wely person fyddai yn glaf, yn rhoi rhybudd o farwolaeth; felly hefyd yr oedd ci yn crafu'r aelwyd, y llawr, neu y pared mewn modd anarferol, ac yn udo nas gwyddai neb am beth; ond os dilynid rhywun gan gi dieithr, yr oedd yn argoel dda, yn gystal ag fod blewyn wrth drwyn ci, neu iddo droi o amgylch dair gwaith, yn rhagarwyddo y dylech lanhau eich tŷ, am fod rhywun dieithr yn sicr o fod ar ddyfod i dalu ymweliad â chwi—felly hefyd ddyfodiad i lawr bryf copyn. Yr oedd agos i bawb yn credu mai drwg gadael i gathod gysgu gyda chwi, am eu bod yn tynu ymaith eich gwaed—mai anffodus gadael iddynt farw mewn tŷ—nad yw y rhai a chwareuant lawer gyda hwy byth yn mwynhau iechyd da—fod eu blew yn annhreuliadwy, ac y byddwch farw os llynewch un blewyn yn credu na byddai i gath aros yn yr un tŷ a chorff marw—fod canwyllau llygaid cath yn lleihau ac yn mwyhau gyda threiad a llanwad y môr—mai argoel ffodus fyddai dyfodiad cath fach i dŷ, ac os byddai i gath olchi ei gwyneb y deuai rhywun dieithr i dŷ—na ddylid boddi cath ddu a seren wen dan ei gen. Dyfodiad magïod y pentan (crickets) i dai, oedd arwydd o lwyddiant; ond os ymadawent, yr oedd hyny yn arwydd o aflwyddiant trychinebus, naill ai yn angeuol neu yn rhywbeth arall. Os lleddid un o honynt, byddai y lleill yn sicr o ddial y cam drwy fwyta dillad y noson hono; ac os taflid un o honynt i'r tân, efe a losgai fel rhyw greadur arall; ond os caffai fyned drwy y tân ei hunan, heb i neb ei orfodi, ni losgai ac ni effeithiai y tân arno. Os cedwid tân yn oleu am saith mlynedd heb ddiffodd gymmaint ag unwaith, fe fagai ynddo bryf y tân, sef y salamander, yr hwn allai fyw yn y tân, yr un wedd a'r pysgodyn yn y dwfr, neu yr aderyn yn yr awyr. Gweled malwoden ddu am y tro cyntaf o'r tymhor, ar dir glas ystwyth, neu yn cyd-fyned â chwi, a ddynodai, mor sicr a hyny, y byddai y flwyddyn felly hefyd; ond os i'r gwrthwyneb y byddai, felly hefyd y flwyddyn hono. Gweled malwoden ddu â'i phedwar corn allan, oedd argoel o ffafr werthfawr i ddyfod i'r person hwnw bore dranoeth; ond y falwoden wen, bob amser a ystyrid y bwysicaf, am y byddai yn dwyn yn ei chol gyfrinachau tesni i'r merched ieuainc, canys
"Byddent hwy yn myned allan
I'r murddunod nos wyl Ifan,
Draw i chwilio am falwoden
Wen, i'w rhoddi dan y bowlen;
Boreu wed'yn bydd y merched
Yno'n darllen coel eu tynged:
Llunio gair o lwybr y falwen,
Os bydd O gwna hyny Owen,
Os yn M gwna hyny Morgan,
I bob amser a wna Ifan!
Felly derllyn y morwynion
Hynt serchiadol eu cariadon.
Ond os erys y falwoden
Yn yr unman dan y bowlen,
Argoel ddrwg yw hyny'n wastad
Argoel o farwolaeth cariad;
Neu ryw awgrym na ddaw undyn
Ar eu cyfyl am y flwyddyn;
Ac os drwg yw'r argoel gyntaf,
Gwaeth o'r hanner ydyw'r olaf."
Pan y digwyddai i wraig fod yn mhell oddiwrth ei phlentyn, ac i'w bronau orlenwi nes myned yn boenus iddi, ac iddi hithau eu godro i'r llawr, er mwyn eu hesmwytho, yr oedd yn dra pheryglus i neidr ddyfod i'r fan, a chael cyfle i yfed y llaeth, a thrwy hyny fyned yn wiber—dyna oedd gwiber gwerin Cymru. Os irid pabwyren mewn bloneg neidr (er na chynnysgaeddwyd neidr erioed a bloneg) a rhoddi sypyn o frwyn ar lawr yn ei hymyl, elai y sypyn brwyn yn sypyn o nadredd yn y fan. Yr oedd cadw colyn neidr mewn oriawr (watch) yn y llogell yn ddigon o sicrwydd i'r sawl a wnelai hyny y byddai allan o gyrhaedd unrhyw niwed oddiwrth na dewin na dewines. Priodolid i neidr, os yn digwydd, megis mewn amryfusedd, frathu plentyn diniwed, ddyfod a deilen yn ei mant at ddrws y ty, i'r diben o'i dodi ar y man a frethid ganddi, ac nad hir amser y byddai'r plentyn heb fod yn hollol iach. Hefyd, diarebir y byddai plant yn arferol iawn o ymgolli yn araf a llechwrus, oddiwrth eu rhieni ar adegau bwyd, gan fyned i gilfachau teg yn ochrau cloddiau, a'u bwyd gyda hwy, o'r hwn y cyd-fwytaent bob yn ail tamaid â'r nadredd. Heblaw fod plant yn "cael y gair" o fod yn gweinyddu arnynt, cawn fod y dragon-fly yn cael y fath fraint, ac yn rhin hyny, yn cael ei alw yn was neidr. Y mae peth arall neillduol yn nodweddu y neidr, sef os torir hi yn ddarnau, ond peidio niweidio ei phen, a pheidio gwasgaru ei darnau, y bydd iddi, cyn haul y gaerau, yr gyfanu a bod cystal a chynt; ond ysywaeth, er cywreinied ei champau a gwydned ei bywyd, ni raid ond ei tharo unwaith â gwialen gollen, na bydd diwedd arni yn y fan.
LLEN YR ADAR.
Rhoddid llawer o goel ar ymddangosiad adar, canys nid oedd neb union-gred heb gredu yn ddiysgog fod gweled rhifedi anwastad o adar, megis, un, tri, pump, yn hynod anffodiog. Nid elai neb o'r hen bobl i daith yn y byd, os gwelai frân ddu unig yn agos i'w lwybr, oblegyd yr oedd gweled un frân, pan yn cychwyn i daith, yn rhagarwyddo taith anffodus, gwlaw neu dywydd mawr, feallai; ond yr oedd gweled dwy frân yn argoel dda. Gweled brân yn sefyll ar eich llwybr oedd yn dynodi angeu—mewn rhai parthau, arferid dyweyd, y byddai brain yn gadael eu nythod, os yn gyfagos i dŷ ag y byddai marwolaeth wedi cymmeryd lle ynddo, ac na ddychwelent hyd ar ol i'r cynhebrwng fyned drosodd. Byddai rhai o'r hen argoelion hyn hefyd yn cael eu hadrodd mewn math o rigwm, fel yma,
"Brân ddu, braw i mi,
Dwy frân ddu, lwc dda i mi."
"Brân, braw;
Dwy frân, di-fraw;
Tair brân, cariad;
Pedair brân, priodas."
Pan ddigwyddai i fachgen neu eneth ymdroi ar eu neges, ac o'r herwydd ofni cerydd, os gwelent bluen blaen asgell brân ar eu llwybr, ac iddynt ei phlanu yn y ddaear, byddent yn rhydd a diogel oddiwrth gerydd.
PIOD.—Edrychir ar yr adar hyn fel rhai ag sydd a llawer o ddirgelwch yn perthyn iddynt; ac y mae llawer o ofergoeledd yn nglyn â hwynt. Credai pawb, bron, eu bod yn broffwydi, a mawr fyddai y braw os croesai un o honynt lwybr, o ryw gyfeiriad, a dyhuddo llid duwies Ffawd; er gwrthweithio dylanwad drwg yr aderyn, gwneid llun croes â'r troed ar y ffordd y cerddid, a phoerid tros yr ysgwydd dde, gan adrodd dair gwaith,:—
Adar glân yn seithiau,
Adar aflan dau;
Un golomen yn yr wybren
Yw yr un wyf fi yn ddewis."
Wfft iddi! efo'i hysgrech annghywair, hi a barodd i lawer dyn yn dechreu ar ei daith, ddychwelyd yn ol, drwy groesi y llwybr o'i flaen ar ei haden, yr hyn a ystyrid yn un o'r arwyddion gwaethaf, canys y mae rhywbeth fel adswn rheg a melldith yn ei hysgrech; a thybiai llawer fod y cyfryw edn brithlas yn eu rhegi wrth deimlo eiddigedd dros ei nyth a'i gywion. Canfod dwy yn nghyd a ddynodai briodas neu ryw lawenydd; tair, taith lwyddiannus; pedair, newydd da annisgwyliadwy; pump, y byddai i'r sawl a'u gwelai hyderu y caffai fyned i gwmniaeth uchel. Trydar y piod a ragflaenai ymweliad dieithriaid; ond aml ac amrywiol oeddynt y deongliadau a gyssylltid â'r argoelion mewn gwahanol barthau o'n gwlad: eithr nid oedd o'r naill na'r llall o honynt gysgod troedigaeth, heblaw y blaenaf, canlyniadau yr hwn y gellid eu gochelyd, a'u dadgyfareddu drwy roddi tri chwyldro amserol. Mewn rhai manau yr oedd yn arferiad pengrymu i'r aderyn pan welid ef; ond ei ladd a ddygai anffawd arswydus. Gellir dyfalu mai yr achos fod pioden pan wrthi ei hunan yn argoel o ddrygioni, yw, bod piod yn gyffredin yn ehedeg gyda'u gilydd, oddieithr ar ddynesiad dryghin, pryd y gorfydd ar un aros yn y nyth i achlesu y rhai ieuaingc, tra byddo y llall yn crwydro am ymborth. Am yr un rheswm hefyd y mae pioden ar ei phen ei hun yn goel anffodus i bysgotwyr, tra y mae dwy yn rhagddangos hin ffafriol. Dywedir mai yr achos o'r atgasrwydd at yr aderyn hwn yw yr hen draddodiad mai efe oedd yr unig un o'r ehediaid a wrthododd fyned i'r arch, ac iddo eistedd ar ben yr arch i glegar uwch ben y byd oedd yn cael ei foddi, a byth ar ol hyny ystyrir ef yn aderyn anffodus, anufudd, beiddgar, ffals, ac ysbeilgar.
Y CEILIOG.—Aderyn hynod gyfarwydd yn helyntion ein gwlad oedd y ceiliog, ei grechwen soniarus ef yn y plygain fyddai yn ddigon o awgrym i bob bwgan a drychiolaeth ffoi i wlad yr hud lonydd, cyn i oleuni dydd eu dangos, a'u dwyn i warth, gan y byddai ysbryd, fel y gwyr pawb, yn cael braw neillduol wrth glywed ceiliog yn canu—gymmaint fel y diflanai yn y fan, pe ar hanner agor ei enau i ddyweyd rhywbeth. Gwr go ddrwg oedd efe, os na fyddai yn gwybod ei wers yn dda, ni feiddiai ganu pryd y mynai; yr amser anmhriodol iddo ganu ydoedd o wyth, neu cyn hyny, i ddeuddeg; os canai y pryd hyny, byddai ei ben mewn perygl o gael ei dori—a phaham? Am ei fod yn anturio dywedyd y byddai aflwyddiant i'r teulu, mewn amgylchiadau bydol, iechyd, ac hyd y nod farwolaeth; crynai ei berchenog rhag ofn mai galw arno ef neu un o'i deulu i fod yn barod yn wyneb angeu y byddai, yn fwy diamheuol felly os byddai ei ben at y tŷ, ac o'r goel-dyb hono y tarddodd y ddiareb, "Ni bydd moesawg merch a glywo geiliog ei thad." Cafodd llawer hen broffwyd ei lofruddio o'r achos, drwy i aml wraig ddyweyd wrth ei gwr, "Os na laddwch yr hen geiliog y felldith yna, byddwn farw bob un!" yr hyn yn ddiau oedd yn dirymu y broffwydoliaeth.
Ow geiliog bach! dychrynaist lawer teulu ath gân anmhrydlawn! anhawdd oedd i neb dy roesawu oni chenit yn amserol, a hyny o un o'r gloch i doriad y wawr. Ond yn wir, o ran a greda unrhyw deulu, yn yr oes hon, ynot ti na dim arall, gelli ganu pryd y mynot, ond iti beidio canu ar eu bwrdd wedi'th ferwi yn eu crochan. Yr oedd clywed iar yn canu yn debyg i geiliog yn rhagfynegydd tra dinystriol hefyd; ac yr oedd lliw y ceiliog, yn ogystal a lliw cath, o gryn bwys; a phrin y gwyddai neb pa un waethaf o honynt; a'r cynghor yn eu cylch fyddai,
Ceiliog gwyn na chath ddu,
Na chadw rhai'n yn nghylch dy dŷ."
Priodola "Y Cennad oddiwrth y ser, neu Almanac am y flwyddyn 1709," i'r ceiliog yr aml rinweddau hyn:
"Y Ceiliog sydd Organ y nos, a Rhingyll y dydd, a Bardd y tywyllwch, tarfwr yr ysbrydion drwg, a gwahoddwr yr ysbrydion da, ac arwydd o oleuni yn dyfod, a'r tywyllwch yn cilio, meddyg y cleifion, gobaith y carcharorion, cyfarwyddyd y cyfeiliorn, rhybuddiwr gwasanaethwyr Duw, yr hwsmyn a'r traefaelwyr, ceryddwr y cysgaduriaid, arwydd gostwng y tymestloedd a'r gwyntoedd, a gerwindeb y moroedd, ac arwydd yw ei ganiad o flaen ysbryd da a drwg, a chyn y cano fe a'i adenydd a gur ei ystlysau dairgwaith yn enw'r drindod i ddihuno ei galon ac a ddyrchefiff ei ben tua'r Nefoedd, yn arwydd ei fod yn erchi gras gan yr hwn y mae gras ganddo, ac yn gwasanaethu yn lle rhybydd i'r byd, a phan ddisgyno i'r llawr a gweled ei luniaeth fe a gân, i ddiolch i Dduw, ac a eilw ei gymmar a'i gyd-etifeddion ynghyd i ddangos eu lluniaeth iddynt cyn i dreulio ef ddim ei hunan, yn arwydd gras a chywirdeb i Dduw."
Y GOG A'I GWAS.—Un o'r adar hynotaf ag sydd arferol o ymddangos yn y wlad hon yw y gog. Y mae yn aderyn hynod ar gyfrif ei lais, neu ei dôn unffurf. Nid yw yr aderyn hwn byth yn gwneyd nyth iddo ei hun, eithr dodwya yn unrhyw nyth a gaffo yn gyfleus ar y pry-llwydyn y berth, brith y fuches, y frongoch, &c., ac fel rheol un wy a esyd yn yr un nyth, a gwna hyny â'i bawenau neu â'i big. Bernir mai llwyd y gwrych (hedge-sparrow) ydyw yr aderyn arferol o weinyddu fel mammaeth i hiliogaeth y gog. Os digwydd i wyau y gog ddeori yr un pryd ag eiddo y fammaeth, dywedir fod teulu yr olaf yn cael eu gwthio allan dros ymyl y nyth, tra eiddo y blaenaf yn wrthddrychau y gofal a'r tynerwch mwyaf. Am dymmor ar ol ei ymweliad, bydd yn myned oddiamgylch heb yr un gwas yn ei ddilyn; yna, yn mlaen tua dechreu Mehefin, &c., eheda o amgylch o goeden i goeden, ac o lwyn i lwyn, gyda'r aderyn bach llwyd yn ei ganlyn yn barhaus. Tybia rhai fod yr aderyn hynod hwn, ar ol gorphen canu yma, yn ymadael gan fyned i hinsawdd cynhesach; tybia eraill nad yw un amser yn ymadael â'n gwlad, ond ei fod, yn gystal â'r wennol, yn un o'r "saith gysgadur," ac yn ymguddio yn ngheudod hen goedydd, &c. Gelwir amryw lysiau wrth enw'r gog, megys blodau'r gog, pidyn y gog. Gelwir hefyd y poeri a geir ar rai llysiau yn "boer y gog" ceir yn wastad yn y poeryn hwn fath o bryfyn bychan. Oddiwrth y gog hefyd y daw yr enw cwcwallt am ddyn, ag y byddo ei wraig yn anffyddlawn iddo, a'i fod felly yn cael ei drin fel y trinir adar ereill gan y gog, drwy osod wy yn eu nyth i gael ei ddeori ganddynt. Credid mai anffodus ei chlywed yn canu, am y waith gyntaf yn y tymmor, os yn sefyll ar dir meddal ar y pryd: eithr os ar dir glas porfaog y bydder, arwydda hyny lawnder a chysur drwy gydol y flwyddyn. Ystyrid hefyd yn anffodus ei chlywed, am y waith gyntaf heb arian yn y llogell, gan y credid mai felly y byddai dyn neu ddynes ar hyd y flwyddyn —ymddibynai llwydd neu aflwydd ar y digwyddiad dros ysbaid blwyddyn. Os byddai arian yn y llogell, gwell, yr ystyrid, rhoddi tro arnynt. Nid dymunol chwaith ei chlywed y waith gyntaf pan fyddo dyn yn gorwedd ar ei wely; canys, nid oes i'w ddisgwyl ond afiechyd, os nad marwolaeth o hyny i ddiwedd y flwyddyn.
COLOMENOD, fel yn ddiau y dylasent fod, oeddynt adar ag na chyfrifid ond anffodion yn eu dilyn. Byddai llawer o wragedd da yn dinystrio hyd y nod plu yr adar hyn, ac ni fynent eu rhoddi mewn gwely na gobenydd, oblegyd ni allai neb farw ar wely o blu colomen, neu unrhyw helwriaeth. Yr oedd hon yn hen grediniaeth ledaenol iawn, ac yn cael ei chadarnhau trwy brofion tebyg i hyn Edrychwch Dafydd, druan, mor galed yr oedd hi arno yn marw; druan o'i enaid tlawd, ni fedrai ddim marw mewn ffordd yn y byd hyd nes y deallodd cymmydog iddo beth oedd yr achos." "Dafydd," ebai wrtho, "yr ydych yn gorwedd ar blu colomen yn sicr i chwi;" ac felly yr oedd: a chymmerwyd ef allan o'r gwely, ac fe'i dodwyd ar lawr, a bu farw yn fuan wed'yn. Ymddengys mai y peth olaf y mae dyn am ei fwyta ydyw colomen. Pan y gofynir i rywun am ychydig o gig colomen i ddyn sal, dyma a ad-ofynir: Ah, druan o hono, ydi o wedi myn'd mor bell a hyny? Colomen, yn gyffredin, ydyw y peth olaf fydd arnynt eisiau. Yr wyf wedi rhoi amryw i'r un pwrpas cyn hyn." Os gwelid colomen yn eistedd ar goeden, neu yn dod i mewn i dŷ, neu o fod yn wyllt yn ddof, argoel o farwolaeth yn y lle, ydoedd hyny.
ROBIN GOCH, Y WENNOL, Y PINC, A'R DRYW.—Yr oedd yn gred gan fechgyn, a chan lawer o bobl, fod tynu nythod yr adar hyn yn dwyn anffodion o gryn bwys i'r rhai a'u tynent; ac yr oedd gwragedd yn credu fod presenoldeb eu hwyau yn eu tai yn dylanwadu er niwed i ddiogelwch eu llestri. Yn ol yr hen chwedl, pan oedd ein Iachawdwr yn hoeledig ar y groes, ac ing y goron ddrain yn gwasgu ar ei aeliau, daeth Robin Goch, a cheisiodd dynu un o'r drain ymaith, ac wrth wneuthur hyny clwyfodd ei fron ei hun, yr hon hyd yma oedd wedi bod yn llwyd. O goffadwriaeth am dosturi yr aderyn bach, mae ei olafiaid byth ar ol hyny a chanddynt fron goch, fel y byddo i'r weithred yma o gariad sicrhau iddynt amddiffyn oddiar law dynion. Chwedl arall am dano yw ei fod yn cario yn ei big bob dydd ddafn o ddwfr i ddiffodd tân uffern—ei fod wrth wneuthur hyny yn llosgi ei blu, ac mai oddiwrth y cyfryw weithred y cafodd ei enw. Cyfrifir hefyd mai diwedd y rhywogaeth yma ydyw fod y blwydd yn lladd y dwy flwydd. Y mae math o hen ganu yn cofnodi effeithiau yr anffodion a ddilynir o ymyryd ag eiddo yr amryw adar dan sylw, fel hyn:
"Y neb a dyno nyth y wennol,
Ni wel fwyniant yn dragwyddol."
"Y sawl a dyno nyth y binc,
Gaiff ei grogi wrth y linc."
"Y sawl a dyno nyth y dryw,
Ni wel fwyniant yn ei fyw."
"Pwy bynag doro nyth y dryw,
Ni chaiff weled gwyneb Duw."
"Pwy bynag dyno nyth y dryw,
Syrthia arno ddigder Duw."
"Pwy bynag dyno nyth dryw wen,
Ni wel byth mo'r nefoedd wen."
Ni fydd dryw heb ei lyw.
Rhaid i'r dryw gael ei lyw.
"Nerth dryw ei chelfyddyd."
"Nid sionc ond dryw."
Tebygol fod yr hen ddywediad "Ni fydd dryw heb ei lyw," &c., yn cyfeirio at was y dryw—yr yswidw, a gyfenwir sywidw, penloyn, pela bach, glas pared, llygoden y dryw, &c. Wrth ystyried fod y dryw arferol a dodwy nifer mor liosog o wyau, a'r rhai hyny yn deori mor hynod o ddifeth, bydd llawer yn methu dyfalu sut y mae cyn lleied o'r rhywogaeth yma o adar i'w gweled. Dywed rhigwm o hen ganu fel hyn am ei gywion:—
"Y dryw bach dri ar ddeg,
Rheini'n dirion ac yn deg;
Hen farcutan ddim ond dau
Rheini'n llwydion ac yn llau."
GWENYN.—Gan eu bod wedi eu cynnysgaethu â moddion naturiol i ehedeg, megis adar, dodwn hwy i fewn yn y dosbarth hwn, a llawer math o ffodion yn gystal ag o anffodion oedd gyssylltiedig â hwy; megis na byddai i wenyn wedi eu lladrata gynnyrchu mêl, ond byddai iddynt waelu a marw. Mewn rhai manau, credid nad dyladwy eu prynu âg arian, ac mai y peth goreu i'w roddi am danynt fuasai sachaid o wenith. Nid cyfnawsaidd chwaith â'u natur un amser, ydoedd llwyddiant, os byddai cwerylon yn cymeryd lle yn mysg y teulu—eu perchenog; a phan yr elai cynhebrwng heibio i dŷ y byddai gwenyn yn perthyn iddo, mai angenrheidiol, er lles y gwenyn, fyddai codi y cwch ychydig o fodfeddi oddiar y fainc. Pan y byddai un o'r teulu farw, credid y byddai y gwenyn farw hefyd o ofid, oni hysbysid hwy o'r amgylchiad. Yn ngwyneb hyn, elai perthynas at y cwch, a phlygai uwch ei ben, a dywedai wrth y gwenyn mewn llais isel beth oedd wedi cymeryd lle; felly, yn ymddwyn at y creaduriaid bychain fel pe byddent yn meddu deall dynol, ac yn teilyngu yr un parch ag a ddangosid gan aelod o deulu at yr aelodau ereill. Dyfodiad gwenyn dieithr yn eiddo i deulu, a ddynodai lwyddiant; eithr marw neu fynediad ymaith wenyn, wrth reswm, a ddynodai aflwyddiant. Arferai llawer godi yn y plygain foreu Nadolig i glywed y gwenyn yn canu eu mawl am enedigaeth ein Iachawdwr, yr hyn na esgeulusid y bore hwn, gan wenyn yr hen amseroedd, ond tebygol fod gwenyn yr oes ffug-sancteiddiol hon, fel ei chrefyddwyr, yn llawer mwy difater yn nghylch y bore bythgofiadwy hwn. Yn ol cred ac athrawiaeth yr hen bobl yr oedd yn ofynol lladd y wenynen feirch gyntaf a welid yn y tymmor am y credent y byddai iddynt, drwy hyny, gadw eu hunain yn ddiogel rhag gelynion ar hyd y flwyddyn.
Y GIGFRAN, PENMELYN YR EITHIN A BRITH Y FUCHES.—Aderyn hynod o annymunol yr ystyrid y gigfran grawelyd, a drwg i gyd a wnelai; ac ni chaffai ehedeg dros dyddyn neb o'i fodd, am na wnelai hyny
"Heb ddrwg andwyol, trwm yn bod,
I ŷch yr hwsmon yn mhob nôd."
Y mae "Penmelyn yr Eithin" yn cael y gair" o aberthu ei rai bach i borthi nadredd, a Brith y Fuches " a gyfenwir hefyd "Brith yr Oged" yn "cael y gair" o fod goruwch gallu neb i'w ladd â chareg; eithr os digwydd i rywun allu ei ladd drwy ryw ddyfais arall, gwae iddo, oblegid
"Y neb a laddo Frith y Fuches,
Gaiff fyn'd ar lechan lâs i uffern."
Pa mor frwnt a chreulawn bynag yr ystyrid y cidyll coch, yr oedd ei weled yn annelu ar ei ysglyfaeth yn argoel dda iawn; ond os ehedai unrhyw aderyn rhagddo, am ei fywyd, neu ynte unrhyw aderyn o hono ei hun, i mewn i ystafell ac allan drwy ffenestr agored, yr oedd hyny yn argoel o farwolaeth yn mysg preswylwyr y ty.
LLEN Y DYDDIAU.
Gwyr pawb, os na bydd yn annghredadyn, fod gwahaniaeth mawr rhwng y naill ddiwrnod a'r llall; fod un dydd yn ffodus a'r llall yn anffodus, fel y ma llwyddiant neu aflwyddiant unrhyw orchwvl yn ymddibynu ar y diwrnod y dechreuir. Yr oedd yr hen bobl yn barnu fod dyddiau croesion i drafeilio—dyddiau croesion i brynu a gwerthu—i gymmeryd tir, i gyflogi neu dderbyn cyflog, neu briodi neu brynu anifail, neu sylfaenu ty, neu ddechreu gwaith ynddynt, o ran mai dyddiau ofnadwy oeddynt. Nid oeddynt yn foddlawn i dalu arian ar ddydd Llun, onide byddai raid iddynt dalu bob dydd o'r wythnos. Y mae, fel y gwyddom, lawer teulu annedwydd yn ein gwlad, a hyny, yn ol cred yr hen bobl, oherwydd priodi ar ddiwrnod anffodus. Gwell fuasai ganddynt weled eu perthynasau ar elor na'u gweled yn priodi ar ddydd Iau na dydd Gwener. Pan y byddai i'r fath beth a hyny gymmeryd lle, gwelid yr hen fenywod yn ysgwyd eu penau ac yn darogan pob aflwydd i'r par ieuanc; ac elent mor bell a thosturio wrth y plant a fyddent mor anffodus a chael eu geni ar y dyddiau hyny. Ni feddyliai neb o honynt am hyd yn nod tori ewinedd ar ddydd Gwener, am ei fod yn ddydd mor aflwyddiannus i gyflawni gorchwylion neillduol. Ni fynai gweinidogion er dim fyned i'w lleoedd ar ddydd Sadwrn, oblegyd y gwirid yr hen ddywediad,—"Yr hwn elo i'w le ddydd Sadwrn ddaw adref yn sydyn." Yr oeddynt mor ofalus fel na roddent na gwydd nac iar na hwyaden i eistedd hyd nes cael dydd ac arwydd ffodus, a byddai y cywion agos mor aml a'r wyau. Nid da oedd ganddynt weled gwraig yn golchi ar ddydd Iau, ond barnent mai gwell ei gweled yn gwneyd hyny nag yn peidio o gwbl. Slut fyddai yn golchi ar ddydd Gwener, a gwraig wrth ei hangen ar ddydd Sadwrn, fel y dengys y rheol fanwl a ganlyn:
"Tynged flin yw golchi ddydd Llun.
Mawrth sydd hefyd ddiwrnod dioglyd.
Nid mor syber yw golchi ddydd Mercher.
Gwell ymroi golchi ddydd Iau.
Slut i'r hanner sy'n golchi ddydd Gwener.
A slwt i'r asgwrn sy'n golchi ddydd Sadwrn."
Yn ol yr hen goelion, coleddid amryw dybiau yn nghylch dyddiau peryglus neu aflwyddiannus, a phwy bynag a syrthiai mewn dolur ar un o'r dyddiau hyny a fyddai yn debyg o farw o'r dolur hwnw, neu ar bwy bynag y gollyngid gwaed ar un o'r dyddiau hyny, byddai perygl am ei fywyd cyn pen tair wythnos ar ol hyny; a phwy bynag a gychwynai i daith bell ar un o'r dyddiau hyny, fyddai mewn perygl am ei fywyd cyn y dychwelai yn ol; a phwy bynag a ddechreuai orchwyl pwysig ar un o'r dyddiau hyny, odid y delai y gorchwyl hwnw i ddiben da; a'r plentyn a enid ar un o'r dyddiau hyny fyddai mewn perygl o farwolaeth ddisyfyd. Yr oedd dyddiau ereill, mae'n wir, yn cael eu cyfrif yn llwyddiannus i ddechreu achosion pwysfawr, y rhai a hylwyr gredid ac a drosglwyddid fel chwedlau aelwyd o oes i oes, ond yn rhy faith i'w cyfleu yma, gan hyny awn yn mlaen. at y pethau canlynol, y rhai yn mhlith mil a mwy o bethau ereill, a ystyrid yn argoelion da a drwg. Hynod o amrywiol a lliosog oeddynt yr arwyddion yn nghylch helyntion carwriaethol, a phob arwydd, wrth reswm, yn gywir i'r dim.
Fel y mae yn hysbys i bob dyn ystyrbwyll, ni feddyliai neb o drigolion yr hen amser am wneyd dim ond wrth reol a threfn—pan yn ymwneyd â'r Beibl, gofalent hwy, bawb o honynt, am wneyd wrth yr un reol—nid pob un ei ffordd ei hun, fel ag yn yr oes oleu hon, fel ei gelwir, eithr pawb yn gofalu am gadw y cynghorion i'r llythyren. Dodwn yma ychydig ddyfyniadau allan o hen ysgriflyfr carpiog o'r enw Y Gwir Lyfr Tesni, wnaeth saith o wyr Doethion, yn wir yn ol y XII. arwydd a'r VII. Blaned yn y flwyddyn 1728," fel hyn:
"Gadewch i wr ifanc, morwyn, neu wraig weddw, farcio pan welont hwy gyntaf y lleuad newydd ddywedyd yn y munyd hwnw yn ddirgel rhyngddynt a hwy eu hunain y geiriau hyn: Henffych well i'r lleuad, henffych well i ti, dymunaf arnat, leuad, ddywedyd i mi y nos hon pwy fydd fy mhur gariad. Ar ol dywedyd y geiriau hyn, aed cyn gynted ag y caiff gyfleusdra i'w wely, ac yn ei gwsg cyntaf, efe a freuddwydia am y sawl a brioda, ac os na bydd iddo briodi efe a wel ei arch yn ei freuddwyd. Profedig yw."
"Gadewch i ddwy neu dair, neu chwaneg o langcesi, ond iddynt gadw yn ddistaw, wneuthur teisen heb na surdoes na halen, ac ar ol ei phrofi, heb gymmaint a dyweyd gair, fyned i'w gwelyau yn dawel, a phob llangces a freuddwydia y nos hono am ei chariad os bydd gwr ar ei rhan, onide ei harch a ymddengys iddi. Hyn a brofwyd ac a gafwyd yn wir."
"Gadewch i forwyn, un heb briodi, gymmeryd chwarter owns o yarrow, a'i wnio mewn darn o wlanen, a'i roddi dan ei gobenydd wrth fyned i'w gwely, gan ddyweyd y geiriau hyn:—Tydi lysieuyn o bren venus a'th enw yarrow, yr wyf fi'n dymuno arnat ddyweyd imi pwy fydd fy nghariad, a hi a freuddwydia am ei chariad y nos hono."
"Dwy neu dair o ferched ifaingc, neu'r faint a fynoch, a fo heb briodi, eistedd mewn ystafell ar eu penau eu hunain, heb swper na siarad un gair y naill wrth y llall, ac i bob un osod ei chrys: ar gader o flaen tân, wedi ysgeintio dwfr glân yn gyntaf arno, ac i bob un o honynt daflu blagur o'r pren a elwir True Love i'r tân, gan ddywedyd wrthynt eu hunain:—Tyred, fy nghariad, tyred. A hwy a gant weled eu cariadau yn dyfod yn y moddion cyffredinol, a'u harfau crefftwrol yn eu dwylaw, ac yn troi'r crysau, ac yn diflanu. Ond dylid bod yn sicr am i'r drysau fod wedi eu cloi yn dynn."
Cymmerwch had y cyngau, a haued merch ifangc ef hanner awr cyn codi haul, ddydd Gwener a fyno, gan ei daflu o fesur ychydig, yn nghylch dyrnaid o hono, ar y gwellt glas, gan ddywedyd y geiriau hyn:
Rwy'n hau, rwy'n hau,
Ar ol hyny fy anwylyd,
Tyr'd yma a lladd ef, a lladd ef.
Yna, chwi gewch weled eich cariad yn dyfod â'i bladur yn ei law, ac yn ei ladd ar eich ol, eithr gwyliwch ddychryn; ond ar y gair Trugarha wrthyf, efe a ddiflana."
"Dwy ferch ifaingc eisteddant i fyny mewn ystafell wrth dân, ar eu penau eu hunain, rhwng deuddeg ag un o'r gloch y bore, heb siarad dim â'u gilydd; a hwy a dorant y naill oddiar ben y llall flewyn am bob blwydd o'u hoedran, ac a'u rhoddant mewn llian cri gyda pheth o'r llysieuyn a elwir "
gwir gariad," a llosged pob un ef ar ei phen ei hun, gan ddywedyd yn isel y geiriau hyn: —'Rwy'n offrwm y gwir aberth yma i'r hwn sydd fwyaf gwerthfawr yn fy ngolwg, ac yn erchi iti ddyfod yrwan ag ymddangos o'm blaen. Ac ar y gair fe ymddengys eu cariadau i bob un yn rhodio o amgylch yr ystafell, eithr ni wel y naill gariad y llall."
"Ar nos Galan Gauaf, ond i ddyn fyned o amgylch ty lle byddo cynnulliad o bobl naw gwaith, a maneg yn ei law, gan adrodd y geiriau:
Dyma faneg, b'le mae llaw?' Efe a gwrdd ag ysbryd ei gariad, yr hon a estyn ei llaw mewn ufudd—dod i'w alwad. Y wyneb a wel fydd wyneb ei wraig.".
"Gosodai mab a merch ieuangc allwedd ar yr 16eg a'r 17eg adnodau o'r bennod gyntaf o Lyfr Ruth: yna cauent y Beibl a rhwyment ef â chortyn, fel na chwympai, tra y gosodent ef yn grogedig wrth allwedd, a'r allwedd yn orphwysedig ar fys modrwy, a rhan o hono yn gorphwys ar fys cyntaf y llaw ddeau i'r mab. Wedi gosod y llyfr fel yna, gofynai y mab: Ai ti sydd i fod yn wraig i mi?' Os mai felly yr oedd i fod, troai y llyfr o hono ei hun at y ferch, ac i'r gwrthwyneb os y ferch fyddai yn gofyn ai efe fyddai y gwr."
Ar nos Galan Gauaf, nid yw o bwys pa flwyddyn, anfonodd meistres ei morwyn allan i dynu rhyw nifer o genin, gan ddyweyd wrthi y cawsai felly weled yr hwn fyddai yn wr iddi. Gwnaeth y forwyn gais ei meistres, a'r cyntaf a welodd wed'yn oedd ei meistr. Hysbysodd hyny i'w meistres, yr hon a ddymunodd arni fod yn dirion tuag at ei phlant. Cymmerodd priodas le rhwng y meistr a'r forwyn. Cyn, neu wedi hyny, yr oedd merch ieuangc yn cadw ty i'w hewythr. Mewn awydd gwybod pwy fyddai ei gwr, dilynodd gynghor rhywun drwy osod Beibl dan ei gobenydd ar nos Galan Gauaf, gan ddisgwyl drwy hyny gael golwg arno. Pan ofynwyd iddi dranoeth beth fu'r canlyniad, dywedodd: "Dim; ni welais i neb ond fy ewythr." Hi a briododd â'i hewythr.
"Gesyd menyw halen mewn gwniadur, ac yna gesyd hwy o fewn ei hosan, ac wedi eu dodi dan ei gobenydd, mae yn myned i gysgu, ac yn gweled yn ei breuddwydion yr hwn a fydd yn wr iddi."
Ond i ferch ieuangc gerdded dair gwaith o amgylch eglwys y plwyf, y noson o flaen y Nadolig, hi a gawsai y trydydd tro olwg ar ei darpar wr.
Arferai tair neu bump—rif annghynnifer—o ferched ieuaingc fyned allan ar ol deuddeg o'r gloch y nos, heb siarad gair o'r amser y cychwynent hyd yr amser y dychwelent yn ol, a chynfasau ganddynt, gan groesi afon i blwyf arall, ac wrth groesi, wlychu y cynfasau, ac yna dychwelyd adref, a'u taenu ar y llwyn o flaen y ty, gan ddisgwyl yn bryderus, wrth edrych drwy y ffenestr, weled eu cariadau yn dyfod, ac yn troi y cynfasau. Os na ddeuai neb nid oedd un briodas i fod.
Yn mhlith nifer liosog o bethau ereill, aml iawn y dygid yn mlaen y fedwen fel arwydd o ymglymiad rhwng cariadau. Os byddai merch ieuangc yn derbyn cynnygiad y mab fyddai yn cyflwyno ei hun i sylw fel ei chariadlangc; ond os ei wrthod a wnelai, a thori'r cyssylltiad ag ef, gwneuthur rhodd o gollen fyddai yr arwydd. Hefyd dodid cap o frigau helygen i langc pan fuasai ei gariad wedi priodi un arall. Yr oedd ffawd yn canlyn un a gaffai feillionen bedair dalen, ond ei chael yn mis Mai, a'i chadw mewn pwrs. Cadwai y sawl a'i caffai rhag swyngyfaredd, ac nis gallai neb ei dwyllo mewn un modd. Dywedid rhywbeth tebyg am un a gaffai "bren cynnifer". pren llatai cariad bechgyn a genethod yn ogystal. Ceir peth anhawsder i dd'od o hyd iddo ar y goeden, ond fe'i ceir; ond yr anhawsder penaf oedd cael rhif y dail i ateb rhif llythyrenau enw rhywun y byddid yn meddwl am dano:
"Dyma'r pren yr wy'n ei dori
Er mwyn y mab 'rwyf yn ei garu;
Rhif y dail sydd arno'n loyw
Sydd yn gwneyd llyth'renau'i enw.
"Union onen wyf fi'n dori,
Ar y goeden mae hi'n tyfu;
Os oes rhywun yn digwydd imi,
Mi gaf wel'd cyn nos y fory."
Mae dail yr onen, yn null eu tarddiad allan fel cymheiriaid, yn debyg i dwysen haidd. Bydd ar ambell i onen gryn un-ar-bymtheg o ddail, ond llai yn y cyffredin. Wedi troi allan i wneyd ymchwil am "union onen," rhaid, yn ol cyfraith y goel, ymgymmeryd â'r gyntaf a gyfarfyddid, a rhaid oedd cyfrif chwe' deilen o honynt cyn dechreu ar ddail y goel,—un i'r gwr a'r wraig, un i'r gwas ac un i'r forwyn,—un i'r person ac un i'r clochydd; a pha nifer bynnag dros ben y chwech fyddai o ddail ar yr onen, dyna'r nifer pennodol o blant fyddai ar ran y fenyw roesai ei chred yn rhif dail yr onen.
Pan y teimlai merch ieuangc awydd gwybod pa un o'i chariadon fyddai wresocaf ei serch tuag ati, yr oedd i enwi pob un o honynt ar ol pob deincodyn (apple pip) a daflai i'r tân. Os gwnelai y deincodyn glecian, byddai y cariad yn aros yn ffyddlawn. Hefyd arferid gwlychu deincodyn â gwlybwr blaen tafod neu wefus, ac yna ei wasgu rhwng bys a bawd, nes y dyrchai yn lled uchel dan effaith dirwasgiad a lleithder; a thra wrth y gorchwyl adroddid y llinellau hyn:
"Dingcodyn bach, dingcodyn,
Pa le mae nghariad i?
Lle bynag mae o'n aros,
Ffordd hono disgyn di."
Ar rai adegau cymmysgid cacen o naw o wahanol ddefnyddiau, a gofalid, yn anad dim, am i'r gyfran helaethaf fod yn halen. Yr oedd yn ofynol i'r ferch ieuangc ofalu am fyned i'w gwely yn wysg ei chefn—bwyta darn o'r gacen, neu, os gallai, ei bwyta oll; ac yn neillduol gofalu nad oedd i ddyweyd cymmaint a gair y noson hono: a phwy bynag a welai yn ei breuddwyd yn dyfod â diod iddi, hwnw fyddai ei gwr.
Weithiau, gwneid coel drwy i ferch ieuangc roddi naw o binau mewn canwyll frwyn, a chribo ei gwallt gyferbyn a gwydr-ddrych tra y llosgai yr holl ganwyll, a disgyn o'r holl binau o un i un; yna, yn y cyfamser, yn sicr ddiamheuol, ymddangosai ei chariad iddi yn y drych. Bryd arall, dodid naw o nodwyddau mewn gardes, ac elid i'r gwely yn wysg y cefn er mwyn cael argoel o'r fath. Hefyd, hen arfer, rhwng hanner nos ac un o'r gloch y bore, ar nos gyntaf y lleuad, oedd taflu pellen o edafedd allan drwy ffenestr llofft, gyda gofal fod un pen iddi wedi ei sicrhau yn y llaw; ac yna dechreu ei dirwyn yn ol, gan ddywey,
"Myfi sy'n dirwyn pwy bynag sy'n dal, A'r sawl sy'n dal doed yma."
Parheid i ddyweyd a dyweyd y swynwers yna drachefn a thrachefn, hyd nes gorphen dirwyn y bellen, os na ddigwyddai i rywun ddyfod, fel y dyfal obeithid, a dal y bellen cyn ei dirwyn i ben.
Arferid dodi trybedd ar ganol llawr, a chwpan ar bob congl iddi. Yn y naill byddai dwfr glân —yn y llall ddwfr budr, ac yn y drydedd ddwfr ag eisin. Yn ol y ddefod, yr oedd yn ofynol i'r ferch ieuangc fod dan fwgwd, a thra felly, rhoddi tri thro o amgylch y drybedd, ac yna dodi ei llaw ar antur yn un o'r cwpanau. Os yn y gwpan a'r dwfr glân y dodai ei llaw, dynodai hyny y byddai iddi gael llangc yn ŵr. Os yn y gwpan a'r dwfr budr y dodai ei llaw, gŵr gweddw fyddai ar ei rhan; ond os yn y dwfr a'r eisin y dodai ei llaw, ni byddai iddi obaith am un math o ŵr o gwbl. Arferai rhai gwpan wâg yn hytrach na dwfr ag eisin. Arferol, hefyd, ydoedd i ferch ieuangc, yn fynych yn y bore, ddodi rhedynen dan y gobenydd lle byddai yn cysgu, ac yna ei thynu wrth fyned i'w gwely, er mwyn breuddwydio am ei chariad. Byddai aml ferch ieuangc yn golchi ei chrŷs, gan ei droi y tu gwrthwyneb allan, a'i osod wrth y tân, hyd oni byddai y naill wyneb iddo wedi sychu, ac wedi hyny hi a erfyniai ar fod i'r dyn hwnw ag a fyddai ar ei rhan ddyfod i droi y crŷs ar y wyneb arall.
Math arall o arfer gan rai merched ieuaingc oedd cadw ympryd ar nos wyl Ifan, a myned wedi hyny i wylio yn nghylch hanner nos, ac yna myned i ystafell, gan adael y drws yn agored, goleu canwyllau yn yr ystafell, gosod llian ar y bwrdd, a dodi cwpanaid o ddiod arno; ac wedi hyny, y ferch a erfyniai ar fod i'r dyn hwnw ag a fyddai i fod yn briod iddi ddyfod i yfed ati, yr hyn yn fynych a fyddai yn cael ei gyflawni. Rhai eraill a elent ar nos wyl Ifan i hau hâd llin neu gowarch, er mwyn gweled eu cariadau—weithiau hauid ar groesffyrdd, brydiau ereill mewn caeau; a thra wrth y gorchwyl, erfynid ar y dyn ieuangc i ymddangos ac i gribinio y tir ar yr hâd, gan yr un pryd adrodd y llinellau hyn:
"Hadau cowarch wyf fi'n hau,
Sawl a'm cara doed i'w crynhoi."
Yr oedd yn ofynol hefyd i'r menywod, wrth hau yr hâd yma, ofalu am ddyweyd rhyw gelwydd, onide ni allent ddisgwyl y troai allan yn llwyddiannus yn ei swyn carwriaethol nac wrth ei drin, wedi y tyfai ac y cynhauafai.
Cawn, hefyd, mai un o gymmwynasau cariad oedd, fod un yn dangos parodrwydd i gosi y llall, fel y cyfeirir yn ein diarebion:—" Cos di fi, mi cosa inau dithau." Seboni wneir yn ein hoes ni, defnyddio sebon meddal, gwenieithio, tuag at sicrhau cymmeradwyaeth. Yn ol braint a defod priodasau, yr oedd y chwaer hynaf, bob amser, i gael un gŵr yn chwaneg na'r llall, o herwydd fod crychni yn amlach yn ei thalcen; ond yr oedd yn amlwg mai yr ieuengaf oedd i gael y rhifedi mwyaf o blant, am fod cymmalau ei bysedd yn clecian yn fynychach pan fyddai yn eu tynu â'r llaw arall. Yr oedd yn anffodus i chwaer ieuengaf briodi o flaen y rhai hynaf, os na byddai iddynt hwy ddawnsio yn droednoeth yn y neithior. Tywallt gwyn-wy i ddwfr oer, a ddynodai i'r hon a'i tywalltai pa beth fyddai galwedigaeth ei chariad: os ar lun llong yr elai, llongwr fyddai y priodfab; ond os ar lun rhywbeth arall yr elai, arnodai y gwyn-wy hyny yn gywir. Nid oedd chwaith amheuaeth nad oedd gwythenau yn nghefn llaw pob merch ieuangc yn null y llythyren gyntaf o enw y sawl a fyddai i fod ar ran y naill a'r llall yn y cwlwm priodasol. Hefyd, plicio meipen, ond cael y plisgyn yn gyfa, ac ymaflyd yn un pen iddo, a'i droi dair gwaith o amgylch y pen—yna ei olwng i ddisgyn o'r tu ol; ac ar ddull y llythyren bynag y byddai, dynodai hono enw cariad y ferch ieuangc.
Pan y byddai merch ieuangc yn plisgio pŷs, ac yn digwydd cyfarfod â phlisgyn fyddai yn cynnwys naw pysen, yr oedd yn ofynol iddi ei osod ar riniog drws y gegin; a'r dyn cyntaf a groesai drosto, hwnw fyddai ei chariad. Weithiau, tynid blewyn o wallt pen, a dodid modrwy wrtho, gan ei chrogi mor agos ag y gellid i ganol glass, ac os digwyddai iddo daro unwaith yn ei gwr, arwyddai hyny y byddai i'r sawl a'i cynnaliai ar y pryd fod un flwyddyn yn chwaneg heb fyned i'r ystâd briodasol; a pha nifer bynag o ergydion a ddodai yn erbyn yr ymyl, yr oedd pob ergyd yn rhwym o fod yn rhoddi sicrwydd o estyniad blwyddyn yn nghwrs adeg y priodi; peidio taro o gwbl, a ddynodai beidio priodi o gwbl. Dodid hefyd fodrwy mewn crempog, ac i ran pwy bynag o fysg cynnifer y delai, dyna yr un oedd i briodi gyntaf. Ar noswaith glir, a'r lleuad yn llawn, mynych y cymmerid cadach sidan, gan edrych drwyddo i gyfeiriad y lleuad; ac os gwelai y sawl a edrychai felly y lleuad yn gron, golygai hyny y byddai y cyfryw un yn briod yn mhen blwyddyn: os yr ymddangosai y lleuad megis yn ddwy neu dair, golygai hyny flwyddyn o oediad yn y briodas, yn ol rhif ymddangosiadol y lleuad. Os yn betryal yr ymddangosai, dynodai hyny na byddai priodas ar ran yr edrychydd pa mor hir bynag y byddai byw. Pan y gwelai mab neu ferch ieuangc y lleuad gyntaf yn y flwyddyn newydd, cymmerent ymaith eu hosan a rhedent at gamfa; ac ar ol edrych yn fanwl, hwy a gaent flewyn dan fawd eu troed o'r un lliw a gwallt eu cariad. Bernid mai yr adeg oreu i briod: oedd y pryd y byddai y lleuad yn agos i'r llawn—rhyw ddeuddydd cyn y llawn, hyd ddeuddydd neu dri wedi'r llawn: os fel arall y priodid, ni byddai unrhyw lwydd ar y pâr priodasol. Yr oedd yn ofynol i gwpl ar bwynt priodi ddattod pob cwlwm fyddai ganddynt o amgylch eu dillad, a'u hail-gylymu ar ol hyny yn y dirgel. Wedi iddynt briodi, cymmerent ofal nad elent i mewn drwy un drws ac allan drwy y llall; a phwy bynag a syrthiai gyntaf i gysgu ar noson y briodas fyddai y cyntaf i farw. Pan ddigwyddai i ferch ieuangc bwnio y tân, ac iddo gynneu yn eglur a chyflym, yr oedd hyny yn arwydd ddifeth y byddai iddi gael gŵr da. Pan y byddai tân, fin nos, yn atal cynneu, dynodai hyny fod cariad y ferch ieuangc fyddai yn y tŷ yn meddwl yn ddifrifol am dani, ac yn ffyddlawn iddi. Yr oedd y ganwyll yn medru proffwydo yn gystal a'r tân, oblegyd pe methai merch ieuangc, ar ol diffodd y ganwyll, a'i chwythu i gynneu drachefn, byddai hyny yn arwydd o anniweirdeb ynddi. Os collid gardas, yr oedd hyny yn arwydd fod eich cariad yn son am danoch. Yr anrheg fwyaf ffodus y gallai dyn roddi i'w gariad oedd wy cyntaf cywen. Hefyd, arferol yn mysg y merched ieuaingc, oedd berwi wy cyntaf cywen yn galed, a dodi ynddo lwyaid o halen, a'i fwyta, yna myned i'w gwelyau yn wysg eu cefnau; a'r nos hono, mewn breuddwyd, gwelent eu darpar wŷr yn dyfod a chwpanaid o ddwfr iddynt i'w yfed. Pan y cyfarfyddai personau fyddent ar bwynt priodi â chydnabod, disgwylid iddynt rwbio eu penelin. Pan y byddai pâr newydd ddyfod drwy y seremoni briodasol lluchid rice am eu penau, a theflid hen esgidiau ar eu holau; a phan y deuent adref, cymmerid iâr i mewn i'r tŷ, a gwneid iddi grawcian, er mwyn eu "lwc." Wedi eu myned i'w gwely, elid yn ddirgel i'w hystafell, a dygid hosan berthynol i'r naill a'r llall o honynt, ac elid â hwy i ganol y dyrfa lle byddai y delyn, gan eu taflu i fyny, ac ar ben pwy bynag y disgynai yr hosanau, y rhai hyny oeddynt i briodi gyntaf. "A thaflu'r hosan, a cherdd a chân." Os digwyddai i berson anmhriod gael ei osod rhwng gŵr a gwraig, yr oedd hyny yn golygu priodas ar ei ran o fewn y flwyddyn hono; felly hefyd, os digwyddid, yn ddiarwybod, roddi dwy lwy mewn cwpan de o flaen unrhyw berson. Os na fyddai digon o ddwfr yn y tepot i lanw cwpan mab neu ferch ieuangc, yr oedd hyny yn arwydd nad oedd y cariad yn bur; hefyd, os collai merch ieuangc ddwfr hyd ei dillad wrth olchi, gŵr meddw fyddai ar ei rhan. Dyfod yn dêg ddiwrnod golchi, yn nghanol tywydd gwlybyrog, a olygai fod cariad yr olchyddes yn bur iddi. Hefyd, taro troed ystôl yn nwfr golchi llestri, a thaflu ystôl a'i thraed i fyny, a ddynodai i'r ferch ieuangc a wnelai hyny, gael cariad nos y diwrnod hwnw. Byddai llawer yn sylwi pa dywydd a gaffai y bobl ieuaingc ar eu dychweliad adref o'u priodi—haul ynte gwlaw ar y fodrwy briodas. Yn ol yr olwg a gaffent arnynt y pryd hyny, gallent hwy ddywedyd pa fath fyddai eu llwydd, neu ynte eu haflwydd, dros ystod eu hoes. Pe digwyddai i'r fath anffawd ag i fodrwy gwraig dori o ryw ddamwain neu gilydd, ystyrid hyny yn argoel o drychineb echrydus ar ei rhan; ac os digwyddai iddi ar ryw achlysur o ymyraeth, neu rywbeth arall, dynu ei modrwy oddiam ei bys, byddai ysgariad priodasol rhyngddi a'i gŵr yn sicr o gymmeryd lle o'r canlyniad.
Gallent hwy, yr hen bobl ffyddiog hefyd, ddywedyd pa un ai cadwedig ynte colledig fyddai y marw, wrth fyddai y tywydd pan fyddis yn dwyn ei gorff i'r fynwent:—os yr haul a dywynai ar yr elor, colledig fyddai enaid yr ymadawedig; ond os gwlaw a ddisgynai arni, gallai perthynasau y marw benderfynu ei fod yn dragwyddol gadwedig. Os digwyddai dau angladd yn lled fuan y naill ar ol y llall, byddai y trydydd yn sicr o ddilyn yn ebrwydd. Os cwrddid neu os goddiweddid cynhebrwng, yr oedd yn ofynol tynu het; cadwai hyny yr holl ysbrydion a ddilynent y corff mewn tymher dda. Breuddwydio bod yn mhriodas rhyw gyfaill, a sicrhâi y byddid yn fuan yn ei angladd. Cerdded yn gyflym mewn angladd, a olygai angladd arall i ddilyn yn fuan.
Yr oedd gweled y lleuad newydd gyntaf dros yr ysgwydd dde yn golygu llwyddiant am y mis hwnw; ond ei gweled dros yr ysgwydd chwith yn golygu aflwyddiant. Gweled y lleuad newydd am y tro cyntaf, heb arian yn y llogell, oedd arwydd o anffawd; felly hefyd yr oedd derbyn yr arian cyntaf, os na phoerid arnynt. Nid oedd chwaith obaith i'r sawl a gariai bres yn ei logell fyned yn gyfoethog. Pan syrthiai marworyn o'r tân, byddid mewn brys mawr i'w chwilio, modd y gellid gweled pa un ai arian—god neu arch ydoedd; gwreichionen yn neidio o'r tân oedd yn arwydd o dderbyn arian, neu ynte marwolaeth, yn ol chwiw y dymher; cosi yn nghledr y llaw oedd yn argoel derbyn arian,
"Rhwbia hi ar bren,
I'w gyrchu i ben;
Rhwbia hi ar brês,
Ac yna daw'n nês."
Yr oedd ysfa yn y croen yn dangos braidd bob peth. Os byddai ysfa ar y traed, arwyddai gyfnewidiad yn y tywydd, neu y byddai raid cerdded tir dieithr; os ysfa yn y penelin, y cydymaith a newidid; a phan fyddai crynu ar berson, yr oedd rhywun yn cerdded hyd ei fedd. Os byddai cosi ar drwyn rhywun, arwyddai y byddai arall yn son am dano yn rhywle. Cosi ar y gàr, a arwyddai y cerddid yn fuan ar dir annghynefin; cosi ar y llaw dde, a ddynodai dderbyn arian; cosi ar y llaw chwith, a ddynodai dalu arian; ysfa yn y llygad de, chwerthin fyddai y canlyniad; ond os ar yr aswy, tristwch a ddilynai, neu yn ol yr hen ganu,
"Cosi ar y llygad de,
Llawenydd o bob lle;
Cosi ar y llygad chwith,
Dagrau fel y gwlith."
Os methai rhywun ei safn wrth fwyta, ac os syrthiai ei damaid, yr oedd yn argoel ddrwg iawn—yn golygu afiechyd yn fuan. Pan ddigwyddai rhywun wisgo dilledyn yn chwithig, yr oedd yn ofynol ei gadw felly drwy y dydd rhag ofn aflwyddiant. Os digwyddai rhywun wisgo hosan y tu chwith allan, os na ddelai i wybod ei bod felly hyd yr hwyr, ystyrid fod hyny yn ddiogelwch rhag pob math o siomedigaeth a thwyll am y diwrnod hwnw. Tori ewinedd plentyn cyn y byddai yn flwydd oed, a'i gwnelai yn lleidr; os siglid cryd gwâg, byddai y plentyn a arferai gael ei siglo ynddo yn sicr o farw yn fuan. Pan byddai dyn dieithr yn dyfod i mewn i ystafell, rhaid f'ai iddo eistedd i lawr, pe b'ai ond dros hanner munyd, onide fe gymmerid ymaith gwsg y plant. Bara begeriaid a ddylid ei roddi i blant ag fyddai yn Y dant hir cyn dyfod i lefaru neu i ddysgu. cyntaf a gollid gan blentyn a ddylid gael yngcu gan ei fam, i beri rhes o ddannedd heirdd dyfu ar ei ol. Hefyd, pan dynid neu gollid dant, i rywun mewn oed, arferid ei daflu dros y pen i'r tu ol, gan adrodd y llinellau hyn:
"Brân ddu, brân wen,
Taflu'm dant dros fy mhen;
Dant gwyn i mi
Dant du i'r ci."
Ystyrid fod rhyw fath o dynged orfodol yn arwain y sawl ag y byddai bwlch rhwng ei ddannedd blaen, i fyned i wlad estronol i fyw. Gosod llaw plentyn, newydd eni, ar ryw Salm neillduol, cyn rhoddi dwfr ar ei gnawd, a wnelai y plentyn hwnw mewn amser yn hoff o ddysgeidiaeth, ac yn rhwydd ei athrylith i ddysgu pob peth. Neidio neu gamu dros blentyn a rwystrai ei dyfiant. Edafedd a wneid gan ferch, dan saith mlwydd oed, a gynnwysai ryw rinweddau neillduol. Heblaw y rhinweddau f'ai ynddo er gwelliant llawer o glefydau, yr oedd ynddo y rhinwedd o gadw y gwisgwr o hono rhag dewiniaeth. Yr oedd bedydd esgob yn gwellhau y rhai a fyddent yn methu ymatal rhag gwlychu eu gwelyau yn y nos, ac hefyd yn feddyginiaeth ddiffael i'r rhai fyddent yn arfer codi a rhodio yn eu cwsg. Os digwyddai i ddillad rhywun losgi heb neb yn gweled, nac yn gwybod pa fodd y cafodd y tân afael arnynt, gallai hwnw fod yn sicr y byddai i ryw aflwyddiant chwanegol ei ddilyn. Os byddai màn gwŷn ar yr ewin, byddid cyn sicred o dderbyn anrheg a phe buasai eisioes mewn llaw; ac os byddai i rywun disian yn blygeiniol, efe a gaffai glywed rhyw newydd neu dderbyn anrheg yn lled fuan; rhywbeth yn debyg a olygai màn geni o'r tu uchaf i wynt rhywun. Y death watch, sef math o swn, tip, tip, tip, gan bryf copyn, i'w glywed mewn ystafell, pan na fyddai yno yr un oriawr i'w chael i wneyd swn, a ystyrid yn gyffredin yn argoel ofnadwy am golledion yn yr anifeiliaid, neu ryw bethau blinion o'r cyffelyb natur, ag a fyddai yn achos i ddynion fod yn annghysurus, hwyrach yn farwolaeth ddisymmwth yn y teulu, neu yn mhlith rhai o'r perthynasau. Clywed cnul yn y glust, sef swn gwan tebyg i gloch, oedd yn arwydd neu rybudd pendant o angladd. Byddai yr angladd yn yr un cyfeiriad ag y byddai y dyn yn sefyll ar y pryd. Byddai Ilawer hen ŵr, a llawer hen wraig, yn dywedyd, pan glywai am rywun wedi marw, Dyna hi, yr oedd cnul yn fy nghlust yr adeg a'r adeg." Adeg arall, pan glywid swn yn y glust, "Dyma hi, mi glywaf am rywun wedi marw eto yn fuan." Hefyd, byddai cloch y Llan yn dra gwasanaethgar fel i rybuddio, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o'r plwyfolion gerllaw trwy roddi tri thinc o honi ei hun. Byddai i'w chlywed, weithiau, ganol nos, ac yn peri braw mawr, oblegyd yr oedd ei swn yn ddolefus a galar—dreiddiol ofnadwy, yn ddigon i beri i'r dewraf ei galon syrthio mewn llewyg, a'r gruddiau cochion a rhosynaidd welwi fel pared, a'r chwys oer darddu fel pys gwynion ar y wyneb. Gweled amdo yn y ganwyll, breuddwydio eich bod yn colli rhai o'ch dannedd, clywed swn canu yn myned heibio yn nyfnder nos, neu i goed afalau flodeuo yn anamserol—yr oedd yr holl arwyddion hyn yn ddieithriad yn dynodi marwolaeth. Peth cyffredin hefyd ydoedd clywed, yn oriau tawel y nos, ryw gyffro a symudiadau mewn tŷ, heb yr un person gweledig yn achosi y cyffro, megis coffrau yn cael eu hagor, fel pe byddai rhywun yn chwilio am ddillad, tebygol y byddai rhywun yn y tŷ hwnw yn marw. Bernid nad oedd dim ond Beibl, wedi ei ddodi o'r fron hyd glicied yr ên, yn sicr ddiogel ac addas i gau safn dyn marw. Hefyd, yr oedd tuedd yn cymhell dynion "i osod y Beibl ar ei gefn, a'i ollwng i agoryd o hono ei hun," lle byddai da gan yr Arglwydd, fel y tybient; ac os caent adnod ar un o'r ddau tudalen a fyddent o'u blaen, neu yr adnod gyntaf arni, yn perthyn i'r pwngc, penderfynent fod ganddynt feddwl Duw ar y mater, bod y ddadl oedd yn eu meddwl ar ben, a'r tywyllwch a'i gorchuddiai wedi ei chwalu yn llwyr. Pan ddigwyddai fod huddugl yn hongian wrth ffon grât, ond i rywun guro ei ddwylaw yn nghyd yn ei ymyl, ac enwi dyddiau yr wythnos gyda phob tarawiad, byddai rhywun dieithr yn sicr o dalu ymweliad â'r tŷ ar y dydd a enwid pan syrthiai yr huddugl. Dodi cneuen yn y marwy dos, ac i hono roddi clec, oedd arwydd dda; ond os rhyw fud-losgi wnelai, yr oedd yn arwydd ddrwg. Disgyniad brechdan, a'i gwyneb yn isaf, a ddynodai wlaw dranoeth; a disgyniad sebon o law rhywun wrth ymolchi a olygai ddyfodiad rhywun dieithr i dŷ. Gweled brycheuyn yn syrthio o ganwyll, oedd yn rhagddywedyd fod llythyr i ddyfod y boreu canlynol oddiwrth rhywun o bell. Anffodus oedd i ddyn anrhegu ei gyfaill â chyllell, neu unrhyw erfyn miniog, o herwydd eu bod yn dueddol i dori cyfeillgarwch: er osgoi effeithiau drwg hyny, rhaid oedd derbyn pin, neu ffyrling, neu unrhyw dâl bychan am danynt. Ystyrid hefyd mai damwain ddrwg a ddilynai i'r sawl a gaffai gyllell ar lawr. Os digwyddai i ddwy gylleil groesi eu gilydd ar y bwrdd, yr oedd hyny yn arwydd o ffrae yn y teulu. Anffodus ydoedd colli halen, hefyd i rywun arall osod halen ar eich plât, a phe dodech halen ar blât rhywun, buan y sychid ef i ffwrdd bob gronyn o hono. Yr oedd yn anffodus, nid yn anniogel, myned dan ysgol; troi i'r tŷ wedi dechreu taith; taro troed wrth gareg; clywed rhyw leisiau anhynod; ac nid argoel dda ydoedd berw gwaddod y cwpan yn codi i'r wyneb, troi y briwsion yn y gwaelod, &c.
Nid dibwys chwaith ydoedd gwallt y pen, oblegyd yr oedd yn ofynol edrych sut i ymddwyn tuag ato. Os teflid gwallt, ar ol cribo, i'r tân, ac iddo beidio fflamio, yr oedd hyny yn arwydd y byddid farw o fewn y flwyddyn. Os teflid gwallt allan, ar ol cribo, ac i aderyn bach ei gael a gwneyd nyth o hono, ceid dolur yn y pen cyhyd ag y byddai'r aderyn yn cadw ei nyth. Ni fynai neb er dim a chadw gwallt dyn byw, ond ni ddeilliai niwed yn y byd o gadw gwallt dyn marw. Yr oedd lliwiau'r gwallt o gryn bwys i ddyn; canys,
Gwallt du, gofidus,
Gwallt gwineu, dawnus;
Gwallt melyn, lleuog;
Gwallt coch, cynddeiriog."
Coleddai yr hen bobl syniad mai'r gwallt mwyaf dymunol ei liw oedd y gwineu. Yr oedd gwallt du yn arwydd o wroldeb, am hyny y dywedir, Gwallt du, gwallt dewr." Y coch oedd gwaethaf o'r holl liwiau; am hyny y mae'r ddiareb yn dywedyd, "Cochwallt y gwaethaf o'r holl ddynion.'
Byddent yn ymhyfrydu myned trwy y cyflawniadau hyny ag oeddynt yn rhagarwyddo llwyddiant a llawnder iddynt; a phob amser yn ewyllysio a dymuno dan y cyffroad lleiaf, gan daflu pethau, yn awr dros yr ysgwydd dde, a phryd arall dros yr ysgwydd chwith—troi a throsi eu harian, a gosod teisen priodas (pan y caffent afael ar un) o dan eu gobenyddiau. Teimlent y byddai y byd braidd ar ben arnynt os torent y gwydr-ddrych, o herwydd y collai ei berchenog y cyfaill goreu mewn canlyniad. Syrthient i lewyg os gorfyddai iddynt giniawa yn un o dri-ar-ddeg, neu os digwyddai iddynt wisgo yr esgid chwith yn gyntaf, am nad oedd i'w ddisgwyl o'r canlyniad namyn aflwyddiant. Os digwyddai iddynt gyfarfod rhywun a ymddangosai fel yn gilwgus ac anfoddog, yr hyn na ddigwyddai ond lled anfynych, rhaid mai codi'r ochr chwith i'r gwely foreu y diwrnod hwnw fyddai yr achos o'r holl anhwyldeb. Y mae hefyd yn hen ddywediad fod rhoi'r troed chwith ar y llawr gyntaf wrth godi o'r gwely yn rhagarwyddo anffawd.
Credid mewn mil a mwy o bethau, nas gallwn eu cyfleu yma, megis fod rhif annghynnifer o goed yn llosgi yn well, fel tri, pump, saith, naw, &c.; fod dau felynwy mewn un plisgyn yn golygu ffawd dda i'r sawl a'u caffai; fod wy anarferol o fychan yn arwydd o felldith, ac o'r herwydd arferid ei daflu dros ddwfr rhedegog, fel y byddai iddo symud ymaith y felldith; y byddai wy caseg, ac hefyd wy ceiliog, o'r hwn y deilliai y ceiliog neidr, neu'r fad felen, sef y basilise, yr hwn a laddai ddyn yn y fan â'i lygad, os digwyddai iddo weled dyn cyn i'r dyn ei weled ef; ond os byddai i ddyn fod mor ffodus a'i ganfod ef yn gyntaf, nis gallai ei olwg, er mor wenwynig ydoedd, ei niweidio. Tybid y byddai moch yn gweled y gwynt, ac hefyd pob ci ag y byddai ganddo "lygaid arian," sef "llygaid goleu;" y byddai cawodydd o geryg ar amserau yn disgyn o'r lleuad i'r ddaear; yr achosid y ddannodd drwy fwyta pan y byddai cloch y Llan yn canu; yr attelid y ddanodd drwy ysgrifenu rhyw gyfran o'r Gair santaidd a phigo y papur y byddai yr ysgrif arno, gan ei ddal o flaen y tân; y byddai i bwy bynag a ddarllenai yn fynych feddargraffiadau golli ei gof; os deuai dieithriaid i ymweled â rhywun ddydd Llun, y byddai i ymweliadau o'r fath gymmeryd lle bob dydd hyd ddiwedd yr wythnos; y byddai y claf yn waelach ddydd Sul a dydd Iau, y byddai amser da ac amser drwg i glafychu; y byddai modd i ddyn wybod pa beth a'i cyfarfyddai bob dydd o'i einioes; y byddai ffordd i wneyd modrwy cariadffordd i wneyd swyn i beri cariad; ac nid pawb yn yr oes oleu hon sydd yn gwybod y byddai gan neb yn yr hen amser gyffyr i'w werthu, a elwid "swyn serch," ac nid yw hyny mor ryfedd, feallai, canys yr oeddynt hwy, yr hen bobl annichellgar, yn fwy hoff o gredu hen dybiaethau, nag oeddynt o wneyd ymchwiliad er profi pethau ag oedd yn ddigon hawdd eu deall, ond yn unig rhoddi eu meddwl ar hyny. Rhedai y rhagfynegiadau o flaen pob digwyddiad oedd i gymmeryd lle, pa un bynag ai pwysig ai dibwys fyddai; yr oedd hon a hon, neu hwn a hwn, wedi gweled yr arwydd, neu glywed y 'stwr a'r twrw, bob amser; ond y peth oedd yn andwyo'r cwbl oedd, ni ellid dyweyd dim yn rhagor na bod arwydd o rywbeth wedi ei weled neu ei glywed, yr oedd yn rhaid aros i'r amgylchiad gymmeryd lle cyn y gellid llenwi'r manylion.
PENNOD VI
FFYNNONAU, LLYNAU, AC AFONYDD.
YN y cyn-amseroedd yr oedd y gair ffynnon yn arwyddo y llynoedd mwyaf ar benau mynyddoedd, megis Ffynnon Lâs, Ffynnon Felen, a Ffynnon Frech, gerllaw Llanberis, &c.; ond y nifer liosocaf o honynt oeddynt fychain, ac yn mysg y rhai hyny, yma a thraw, liaws o rai cyssegredig a gwyrthiol, ag y rhoddid ymddiried sefydlog o wirfodd ewyllys iddynt. Nis gellir profi i ddilysrwydd pa bryd y sefydlwyd y ddefod o'u cyssegru, ond dywed hanesiaeth fod ein cyndadau yn arfer y ddefod o gyssegru ffynnonau ac afonydd, fel y tybir, er cof am y waredigaeth ryfeddol a gafodd Noah a'i deulu rhag y dwfr diluw; a'r casgliad tybiedig yw, na ddarfu i'r Cristionogion cyntefig ddiddymu y ffynnonau cysegredig, ond yn hytrach ddefnyddio eu dyfroedd i fedyddio eu proselytiaid. Ond oddeutu y chweched ganrif, meddiannodd Pabyddiaeth y wlad, a daeth llygredigaeth i mewn fel afon. Cyfnewidiwyd y ffynnonau ar enwau y seintiau, a phriodolid iddynt rinweddau iachaol, yn gorfforol ac ysbrydol: Olion dwfr-addoliad cenedloedd y byd oedd yr arferiad hwn. Cawn ei fod mewn bri gan yr Aifftiaid yn amser Moses. Arferai yr offeiriaid mewn gwledydd Pabaidd fedyddio ceffylau unwaith bob blwyddyn gyda dwfr cyssegredig—yr un fath ddwfr ag a arferid i blant Cristionogion, gan ei daenellu ar y ceffylau dan esgus sicrwydd o'u cadw rhag unrhyw afiechyd yn nghorff y flwyddyn. "Y mae yn ymddangos fod rhywun neillduol yn sefyll yn arch offeiriad i'r ffynnon yn mhob oes, ac mai trwy y cyfryw yr oedd y ffynnon yn gweithredu. Unwaith credid fod edrych i ffynnon yn ddinystr i lygaid yr edrychydd. Dichon mai trwy feithrin y fath gred y cadwai offeiriaid ac offeiriadesau'r ffynnonau eu swydd a'u lle."
Llawer o siarad ac ymholi sydd yn parhau o berthynas i ffynnonau dwfr, y rhai sydd o natur iachâol, a diau fod lliaws ag y gellid eu cael yn ychwanegol at y rhai ag y gwyddys am danynt eisoes, pe yr ymofynid gyda gofal a dyfalwch. Diau fod llawer yn aros heb gael eu dadguddio i'r cyhoedd, y rhai, trwy wneyd hyny, a allant fod o les nid bychan i'r rhai sydd yn cael eu blino gan wahanol glefydon.
Mae ffynnon sant neu santes yn mhob plwyf; a dywed llên gwerin wrthym i'r ffynnonau hyn darddu yn wyrthiol er disychedu aml i bererin blin, neu er cof am wyrthiau a wnaethpwyd gan y seintiau. Os byddai ffynnon i'w chael mewn lle tywyll, neu mewn sefyllfa unigol, neu os cyfrifid y dwfr yn feddyginiaethol, gofalid am gyssylltu â hi enw rhyw sant; a byddai bob amser ryw draddodiad fod a fyno ymyriad dwyfol â darganfyddiad y cyfryw ffynnonau, yr hyn a ddelai yn swyn i effeithioldeb eu dyfroedd, ac a barai i lawer o honynt gael eu cadw mewn bri, yn ol parch y sant, gan fel yr edmygid ei gynnefindra â'r anweledig. Byddai rhyw wyrthiau mawrion wedi eu cyflawni drwy rinwedd iachâol eu dyfroedd—y dall yn cael ei olwg, y cloff yn llamu fel hydd, ac yn taflu ei ffyn baglau i'r wadd; ereill yn cael gwared o'r gymmalwst, dolur llygaid, poen yn y pen, cornwydydd, a phob math o afiechyd ag y mae y natur ddynol yn ddarostyngedig iddynt. Yr oedd ffynnon at bob clefyd. Os byddai moch neu wartheg yn glaf, rhywbeth allan o le ar geffylau, nid oedd eisiau dim ond eu harwain at ryw ffynnon neillduol. Os byddai plant dipyn yn hir heb gerdded, nid oedd eisiau dim ond myned â hwy at ffynnon gyfaddas ar un o'r tri dydd Llun cyntaf yn Mai. Os byddent ychydig yn ddiweddar yn dysgu siarad, nid oedd eisiau dim ond rhoddi iddynt ychydig o fara wedi ei drochi mewn ffynnon gymhwys, na byddai eu siarad braidd yn ddiddiwedd.
Cerddai dynion at ffynnonau o'r fath hyn ar brydnawnau Suliau, i ddifyru eu hunain ac i yfed eu dwfr; a phan dderbynient les oddiwrthynt, drwy arferyd eu dwfr yn feddyginiaethol, dechreuent edrych arnynt yn llwyr wahanol i ffynnonau ereill, rhedai y newydd drwy'r gymmydogaeth fel tân mewn llwyn o eithin, a chredent fod y rhai hyn, a elwid ar enwau y dynion a gyfrifent yn seintiau, wedi cael eu rhoddi dan nawdd neillduol y seintiau hyn, a'u bod wedi eu cynnysgaethu â rhinweddau goruwchnaturiol, a gofalid, bob amser, am ddefnyddio eu dyfroedd i fedyddio; ac ar ddiwedd y ddefod, mawr hoffai yr hen wragedd olchi eu llygaid yn y bedyddfan. Ond yr oedd dosbarth arall o honynt—dosbarth ag yr oedd eu dyfroedd yn rhedeg tua'r deau, y rhai bob amser a gyfrifid megis yn llawn o felldith; a llawer o bethau rhyfedd a wnaeth y ffynnonau hyn, megis lladd gwartheg hwn a hwn, a moch hon a hon, a cheffylau y dyn a'r dyn; parasant i un ddarfod ar ei draed, i un arall golli ei lygad, &c. Da a drwg, tu hwnt i feddwl, oedd yn nglŷn â'r ffynnonau, ac yr oedd son am danynt yn mhell fwy nag yn agos: synai llawer un glywed,mor hynod yr oeddynt o ran eu gwahanol naturiaethau—fod dwfr y naill i'w arfer cyn machludiad haul—dwfr y llall cyn codiad haul, yn ol cyfarwyddyd neillduol. Angenrhaid oedd i'r cleifion yfed o'r naill ffynnon, golchi yn y llall, gan offrymu ychydig o geiniogau, a rhodio, feallai, deirgwaith o'i deutu, ac adrodd deirgwaith Weddi'r Arglwydd. Mae hanesion a helyntion y ffynnonau yn lliosog iawn, canys y mae'r ffynnonau mor aml, a'r chwedlau yn eu cylch braidd yn amlach na hwythau; ac y mae'n perthyn iddynt ddyddordeb a defnydd, a gresyn fyddai gadael iddynt fyned ar goll,—nid ar gyfrif y wybodaeth geir drwyddynt, ond ar gyfrif y goleuni a roddant ar ansawdd feddyliol yr hen oesau. Mae llawer o chwedlau yn gyssylltiedig â'r rhan fwyaf o brif lynau ein gwlad, ac un o honynt yw, fod trefydd wedi bod un waith lle maent hwy yn awr, olion y rhai a welid yn eu hymyl ac ar eu gwaelod. Diamheu fod y Cymry gynt, er mwyn diogelwch oddiwrth elynion (dynion a bwystfilod), weithiau yn adeiladu eu tai ar byst o fewn llynau; a dyna, yn debygol, hyny o gnewullyn o wir sydd wrth yr ystraeon traddodiadol hyn. Myn y Cymro gyfrif pethau o'r fath yma yn ffolineb, tra mae cenedloedd ereill ar eu heithaf yn casglu pob mymryn. Ac o dan yr ystyriaeth eu bod yn werth eu cadw, dodwn ninau i lawr gymmaint ag a allwn o hanes ffynnonau, llynau, ac afonydd y sir hon, gan ei gyfleu fel y canlyn:—
I. FFYNNON GWYTHELAN.
Y mae effeithiau tra chanmoladwy yn cael eu priodoli i "Ffynnon Elen," neu yn hytrach Ffynnon Gwythelan," yr hon sy gerllaw Gelli y Pentref, yn mhlwyf Dolyddelen. Pan ydoedd yn ei bri, ymddengys oddiwrth yr olion sydd yn aros o'i muriau, y perthynai iddi fath o argae tuag at ollwng yr holl ddwfr o honi, er mwyn ei glanhau, pan na fyddai galwad am ei gwasanaeth at iachâu amryw anhwylderau, megis cryfhau plant gweiniaid, adferu aelodau diffrwyth, &c.
II. FFYNNON CYNFRAN.
Dywed y Cambrian Biography fod gan Cynfran, mab Brychan, yr hwn a oesai tua'r bummed ganrif, ffynnon rhwng Abergele a Cholwyn, yn mhlwyf Llysfaen, â'r hon yr ymwelid gan amaethwyr o wahanol fanau, y rhai a offryment iddi yn haelionus, ar ran eu hanifeiliaid afiach, gan ddefnyddio yr ymadrodd:—" Rhad Duw a Chynfran Lwyd ar y dâ."
III. FFYNNON GWYNWY.
Y mae hon i'w gweled yn agos i Langclynin, ger Conwy; a thra chlodfawr, fel yn wir yr haeddasai fod, ydoedd y ffynnon hon, yn herwydd ei rhinweddau llesfawr, a'r hynod wellhad a gafodd llawer drwy symud ymaith ddefaid oddiar eu dwylaw, heb wneyd mwy tuag at hyny nag offrymu pethau mor ddibwys â phinau, gyda thipyn o ofal am i'r rhai hyny fod yn geimion. Gofalai pawb am beidio cyffwrdd â'r un o'r pinau hyn drachefn, rhag digwydd i'r defaid ar law y sawl a gyffyrddai felly.
IV. FFYNNON LLECHYD.
Mae y ffynnon hon yn nhir y Plas Uchaf, plwyf Llanllechyd. Cyrchai llawer ati o rai a flinid gan y manwynau, ac anhwylderau cyffelyb; a llawer o honynt a gredent iddynt dderbyn llwyr iachâd oddiwrthi. Cymmaint oedd eu crêd ynddi, fel y galwent am lymaid o'i dwfr hyd y nôd pan ar fin marw.
V. FFYNON DEINIOLEN.
Yn mhlwyf Llanddeiniolen, ryw filldir oddiwrth yr Eglwys, y mae y ffynnon grybwylledig. Bu gynt mewn bri mawr fel moddion effeithiol i wella y crydcymalau, ac anhwylderau cyffelyb.
VI. FFYNNON CEGIN ARTHUR.
Y mae hon ar fferm a elwir Hendref, yn mhlwyf Llanddeiniolen. Bernir ddarfod iddi dderbyn ei henw oddiwrth y dyb mai brasder hyddgig oedd yr irad a nofiai ar ei gwyneb, yr hwn, fel y tybid, a ddygid yno gan y ffrydiau oedd yn rhedeg drwy gegin yr enwog Dywysog Arthur, un o arwyr dychymmygol yr hen Gymry, ac oddiar hyny priodolir iddi, hyd heddyw, lawer o rinweddau meddyginiaethol.
VII. FFYNNON CHWERTHIN.
"Gerllaw pentref Llanberis yr oedd ffynnon a elwid Ffynnon Chwerthin. Gwelid ynddi filoedd o binau yn y gwaelod, ac wmbredd o gorciau yn llawn o'r un arfau peryglus yn nofio y wyneb. Dyna offerynau tair gwrach y gymmydogaeth i gospi troseddwyr, a thynu oddiar eu cymmydogion ofergoelus, y rhai, bob amser, a roddent y gorchymynion caethaf i'r plant i gadw draw oddiwrth y ffynnon hon. Cymmerid y fath ofal i argraffu ofn y gwrachod ar eu meddyliau fel na cheid digon o feiddgarwch hyd y nod yn y glaslangc dyreidus i osod bys yn y pwll gwaharddedig. Gan fod y ffynnon yn nghanol siglen, yr oedd yn anmhosibl myned ati heb gynnyrchu dwfr-glych ar ei gwyneb, neu beri iddi chwerthin, yn ol chwedl yr ardalwyr, yr hyn beth, heb radd o amheuaeth, a briodolid i'r gwrachod a'r hen fechgyn duon oedd yn rhwym iddynt. Mor fuan ag y gwelid y dwfr yn bwrlymu neu yn crychferwi, gwelwai y wyneb, a churai y gliniau yn nghyd o dan ddylanwad ofn."
Y mae Pennant, yn ei Tour through Wales, yn nodi ffynnon, ger Llanberis, ag yr oedd gwyddanes yn bresenol yn darllen tynghed ei chydgreaduriaid oddiwrth ymddangosiad pysgodyn oedd ganddi yn y dwfr.
VIII. FFYNNON FAIR.
Gellir gweled y gyfryw ffynnon ger Dinas y Moch, yn mhlwyf Beddgelert. Yn ol traddodiad, priodolid iddi gryn lawer o rinweddau swyngyfareddol.
IX. FFYNNON GARMON.
Oddeutu milldir i'r gorllewin o Eglwys Bettws Garmon, ar lethr bryn, y mae y ffynnon grybwylledig, i'r hon y priodolid y rhinweddau o iachâu clafr, crydcymalau, iddwf, pob rhyw grugdarddiad yn y croen, &c., clwyfau a dybid yn anesgorol, ac a wrthsafent ymgeisiadau callaf meddygon.
X. FFYNNON NANTCALL.
Dwg y ffynnon hon arni ei hun enw amaethfa, ag y mae o fewn ei therfynau, yn mhlwyf Clynnog. Priodolir iddi amryw rinweddau meddyginiaethol, megis bod yn foddion i iachâu diffyg treuliad yn y cylla, hen lynorau, gwendid, iselder ysbryd, &c. Oddiar yr ystyriaeth o hyny y canodd Robert ab Gwilym Ddu fel y canlyn iddi:
"I'r hon fyth mae ryw hen fawl,
Ymddyg i'n ddwr meddygawl.'
XI. FFYNNON BEUNO.
Y mae'r ffynnon hon o fewn tua dau can' llath i Eglwys Clynnog, ar ymyl y brif-ffordd; yn amgylchedig â mur pedronglog, o'r un gwaith yn ymddangos â mur yr Eglwys, ac uwchlaw dwy lath o uchder, yn nghyd ag eisteddleoedd, a grisiau cyfleus: er fod y cyfan mewn cyflwr o adfail a dirywiad mawr yn bresennol. Yn y ffynnon hon, gynt, arferid trochi plant ac ereill, meddir, a fyddent yn ddarostyngedig i nychdod, a llewygfeydd; ar ol eu trochi, cludid hwy i Gapel Beuno, a thaenid brwyn ar y beddfaen, lle y gosodid y claf i orwedd trwy'r nos; a dywedir fod adferiad yn gyffredin yn dilyn yr orchwyliaeth hygoelus a gwrthwynebus hon! —Cyff. Beuno, tud. 35.
XII. FFYNNON DIGWG.
Mae chwedl "Ffynnon Digwg" yn cynnwys crybwylliad am Fugeiliaid Beuno; mae y chwedl fel y canlyn:—" Digwyddodd gynt i un o'r gweithwyr yn Aberffraw fyned i Lys YNYR GWENT, ac nid oedd teccach llangc nag ef; ac wedi gweled o ferch YNYR GWENT ef, nis gallai aros am funud allan o'r gyfeillach, a rhyngodd bodd i'r brenin, pan wybu hyny, roddi y llangc yn briod i'r ferch, rhag y mynai hi ei gael ef mewn ryw ffordd arall, gan ymfoddloni i gaffael gwr mor hardd yn fab ac yn ddeiliad; ac ar ol ysbaid o amser dychwelodd y gwr ieuangc gyda'i wraig i'w wlad ei hun, a hwy a ddaethant i le o'r enw Pennarth yn Arfon, ac yno disgynasant oddiar eu meirch, ac aethant i orphwys; a chan ludded a blinder daeth cwsg ar y dywysoges, a thra yr oedd hi yn cysgu, daeth cywilydd mawr arno ef fyned i'w wlad gyda gwraig mor bendefigaidd ei haniad, heb ganddo le i'w chymeryd iddo, a gorfod myned eilwaith i'r lle y buasai yn gweithio ac yn ennill ei gynhaliaeth; ac yna, trwy gynhyrfiad y diafol, efe a dorodd ei phen, tra yr oedd hi yn cysgu, ac a ddychwelodd gyda'r meirch gwerthfawr, a'r aur, a'r arian, at y brenin, trwy yr hyn bethau y cafodd efe swydd ganddo, i fod yn oruchwyliwr iddo: a Bugeiliaid Beuno a ganfuant y corph, ac a aethant yn ddioed i fynegi iddo; yna Beuno a aeth yn ddi-ymdro i'r lle yr oedd y corph marw ynddo, ac yn y fan efe a gymmerodd y pen, ac a'i gwasgodd at y corph, a chan gwympo ar ei liniau, efe a weddiodd ar Dduw, fel hyn:Arglwydd, Creawdwr nef a daear, rhag yr Hwn nid oedd dim yn guddiedig, cyfod y corph hwn mewn iechyd': ac yn y fan cyfododd y wyryf yn hollol iach, ac a fynegodd i Beuno yr hyn oll a ddigwyddodd; yna Beuno a ddywedodd wrthi, "A fynni di ddychwelyd i'th wlad, ynte aros yma, gan wasanaethu Duw?" Y wyryf fwyn a da a ddywedodd, "Yma. yr arhosaf fi, gan wasanaethu Duw, yn agos i ti, yr hwn a'm cyfodaist o farw yn fyw." Ac yn y fan lle syrthiodd y gwaed i'r llawr, tarddodd ffynnon loyw, a'r ffynnon hono a gafodd ei henw oddiwrth enw y wraig ieuangc, ac a alwyd 'FFYNNON DIGWG.' Efelly y terfyna y Chwedl. Mae y ffynnon hon yn adnabyddus hyd y dydd hwn ar derfynau Pennarth, yn Nghlynnog Fawr; ac yn dal yr un enw yn bur agos, ac y mae cryn lawer o draddodiadau ofergoelus am dani ar gof gan y brodorion." —Cyff. Beuno", tud. 59-60.
Eto, yn un o ysgriflyfrau Eben Fardd, cawn fod yn Nghoetyno, Clynnog, ffynnon o'r enw "Ffynnon Digyn," yr hon, fel yr ymddengys, sydd yr un a "Ffynnon Digwg," er nad yw'r bardd yn crybwyll hyny. Ei sylwadau sy fel hyn: —"Ffynnon Digyn (Coetyno Clynnog). Hen wraig Coetyno (Marged) a ddywedai mai Ffynnon Gwttig neu Ffynnon Gyttig y byddid yn ei galw; bod y dw'r yn rhinweddol i symud ymaith ddefaid," &c., y byddid yn offrymu pinau ac wyau i'r Ffynnon—ddarfod iddi hi ei hysbysu unwaith, ac iddi weled ynddi ryw greaduriaid crafaglog rhyfedd, anadnabyddus; mwy na llyffaint o lawer, tebyg i ddraenogod, ond eu bod heb bigau; iddi ddychryn, a gwaeddi, a ffoi—rhag eu hofn; clywsai fod hen Ddewin y Cennin yn dweyd fod arian yn guddiedig ynddi, ac mai merch ieuangc a gwallt coch a'u câi wrth hel defaid. Yr oedd yr hen wraig hon yn 90 mlwydd oed yn 1856, pan oedd yn dweyd y pethau uchod. Yr oedd yn cofio ei thaid, enw yr hwn oedd James William Watkin, pregethwr, yn byw yn Llandwrog, â dwylaw mawrion llydain fel caeadau. Enw ei thad oedd William James; mab iddo yw Thomas William, tad fy ngwraig. Gallai Watkin fod yn byw tuag amser Cromwell, o 1600 i 1640, o James I. i amser Charles II."—Eben Fardd.
XIII. FFYNNONAU'R CENNIN.
Yr oedd ffynnon yn nhir Tyddyn y Fammaeth, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, o'r enw 'Ffynnon Dw'r Llygaid.' Nid yw yn awr yn ganfyddadwy o herwydd brwyn, &c. Hefyd, y mae yn nhir amaethfa o'r enw Yr Allt, ffynnon ag y priodolid iddi amryw rinweddau, megis iachâu manwynau, llygaid, &c. Ymddengys y perthynai i hon gryn fri, oblegyd y mae o'i hamgylch geryg mawrion megis yn ei hamddiffyn, a gwarchglawdd cadarn o bridd o'r tu isaf iddi.
XIV. FFYNNON Y CYTHRAUL.
Twll crwn, troedfedd o ddyfnder wrth 15 modfedd ar draws, mewn craig yn wynebu'r deau, ychydig yn ogleddol i Lanfihangel-y-Pennant, yw y ffynnonig hon. Priodolir iddi y rhinwedd o iachâu llygaid, a phob math o ddefaid oddiar ddyn ac oddiar dethi gwartheg. Nid oes iddi darddiad o'r ddaear, eto, er hyny, ni ddigwyddodd i neb ei gweled wedi sychu, oddeithr codi y dwfr o honi.
Testyn difyrwch diniwed ddylai fod pob hanes am 'wr drwg' ein llên gwerin. Yr unig astudiaeth ddifrifol a haedda yw chwilio, nid am brofion o'i oroesiad a'i fodolaeth yn bresennol, ond am ei le yn nghyn—hanes ein gwlad—nid yw ef i'w gymmeryd yn ddifrifol, fel Diafol y Beibl, am nad yw ddim ond adgof o ryw fodach direidus, ar y gwaethaf, tra weithiau yn eithaf boneddwr."
XV. FFYNNON SAINT.
Yr oedd hon i'w gweled o dan gilfach, yn nghongl cae, ar y llechwedd yn agos i Eglwys Criccieth; ond erbyn hyn, fel llawer o bethau ereill, y mae wedi ei llyngcu i fyny i ddifodiaeth, fel nad oes i'w ganfod ond gweithrediad hylifol ei dwfr yn treulio y tir o'i dardd—le yn ffrwd fechan o'r tu gorllewinol iddi. Yr oedd yn cael ei hystyried yn wyrthiol, ac arferid gan y trigolion fwrw iddi allweddau neu binau, ar foreu Sul y Pasg, er mwyn sicrhau nawdd saint y ffynnon—Dunawd a'i forwyn—sant Catrin, yn ol fel y damcanir, gwarcheidwaid Eglwys Criccieth. Os felly, dygir ger bron y meddwl yr hyn a gynnwysir yn yr enw—Ffynnon Saint, yn ddigon eglur; ond dylid cofio ein bod wedi colli ein hanesiaeth henafol bendant agos oll.
XVI. FFYNNON DDEFAID.
Tarddai y ffynnon hon islaw'r brif-ffordd yn nghae Pen y Bryn, ger Nant y Glyn, yn mhlwyf Llanystumdwy. Richard Lewis, garddwr yn y Plas Hen, a ddaeth i wybod gyntaf am ei rhinweddau, drwy olchi ei lygaid, ag oeddynt ddolurus, â'i dwfr, a chael, drwy hyny, iachâd iddynt. A chymmaint, yn herwydd hyn, oedd ei feddwl am ei natur ac iachusrwydd ei dwfr, fel y llwyddodd i gael grisiau i ddisgyn iddi yn nghyd a muriau i'w chylchynu. Mynodd hefyd dori ar gareg, i fod ar ei chyfer, ei goffawd ei hun, yn y dull yma:
Rd. Ls.
Ad 53
1772."
sef "Richard Lewis, Aged 53, 1772."
Y prif rinweddau a briodolid i effaith wyrthiol y ffynnon hon, oeddynt, wellâu llygaid a thynu ymaith ddefaid; a mynych yr ymwelid â hi gan bererinion o wahanol fanau, ond erbyn hyn nid oes liw o honi—difodwyd hi gan amaethwyr y lle, a chariwyd ei muriau oll i ffwrdd.
XVII. FFYNNON Y GWAENYDD.
Y mae'r ffynnon hon i'w gweled mewn llecyn o'r enw "Cae'r Morfa,' mewn amaethfa a adnabyddir wrth yr enw Hen Inn, braidd ar derfyn gorllewinol plwyf Llanystumdwy. Cyfrifid ei dwfr, bob amser, yn rhinweddol a gwyrthiol; ac os gwir y traddodiad, ymadawodd llawer cloff oddiwrthi wedi cael ei iachâu, gan adael ei ffyn maglau i grogi ar gangau'r coed oedd yn tyfu o gylch y fan, y rhai oeddynt yn cynnwys llythyrenau penigol cannoedd o enwau personau oedd wedi bod ar ymweliad â hi. Yn ol y ddefod, yr oedd pob ymwelydd â'r ffynnon i daflu pin bach iddi, yn arwydd o ddiolchgarwch; felly yr oedd ei gwaelod wedi ei dryfritho â phinau bach. Erbyn hyn, y mae'r ffynnon a'i mawr les wedi myned bron i annghof.
XVIII. FFYNNON GYBI.
"Yr oedd y ffynnon mewn bri o flaen y capel neu'r eglwys, o'r hyn lleiaf, dyna sydd yn dybygol. Arweinia'r ffynnon ni yn ol i'r cyfnod paganaidd. Mae lle i gredu fod i'r ffynnon offeiriad, yn amlach, offeiriades, cyn y cyfnod Cristionogol, ac fod i'r fath swyddog dŷ o ryw fath, a thir, a degwm. Beth bynag berthynai i'r ffynnon yn y cyfnod paganaidd a ail-gyssegrwyd gan Gristionogion, fel yr awdurdododd y Pab Gregori i Awstin Fynach wneyd â sefydliadau paganaidd y Prydeiniaid. Fel rheol, os rheol hefyd, gellir dyweyd, lle mae ffynnon a chapel, neu eglwys, megis yn gyfartal gyssegredig, ac yn gyflwynedig i'r un sant, fel Ffynnon Gybi a'r Eglwys, yno y mae paganiaeth a Christionogaeth wedi goroesi mewn rhyw fath o gyfathrach.
Yn y flwyddyn 1767, cyhoeddwyd llyfr o hanes y ffynnon hon gan un D. W. Linden, yr hwn a gynnwysa arbrofion dansoddol, ac ymchwiliadau fferyllol i'w natur, yn nghyd â chyfarwyddiadau i'w defnyddio fel meddyginiaeth. Dywed yr awdwr hwn "Ei bod yn sicr fod cyrchu mawr at y dwfr yn amser Pabyddiaeth cyn y Diwygiad, er cael ymwared oddiwrth wahanol anhwylderau, a bod cist yn yr eglwys, yn yr hon y gofynid i'r cleifion gyfleu eu hoffrymau; oblegyd gofalai y tadau parchedig am sicrhau wrth yr ymwelwyr fod rhinwedd iachâol y dwfr yn deilliaw oddiwrth râd a bendith Cybi Santaidd. Ar ol y Diwygiad parhaodd ymdrochi yn y dwfr hwn i fod yn llwyddiannus at lawer o anhwylderau; ond nid oedd ei rinwedd yn hysbys, oddieithr yn nghymmydogaeth Llangybi a'i hamgylchoedd, hyd tua'r flwyddyn 1750, pryd y tynwyd sylw y Parch. Mr. Williams, o'r Ty Newydd, Llanystumdwy, ato. Wedi clywed o'r gwr hwn gryn lawer am rinwedd meddygol y dwfr, gwnaeth ymchwiliad manol i wirionedd y peth; ac wedi cael boddhad i'w feddwl, hysbysodd am dano i'r perchenog, y diweddar William Price, Ysw., o'r Rhiwlas, yr hwn a adeiladodd yno faddon cyfleus, a thy, ar ei draul ei hun, drwy yr hyn yr adferwyd y dwfr i'w fri cynhenid." Yna y dilyn rhestr o welliadau iachaol drwy rinwedd y dwfr, sef, dallineb, defaid. gwylltion, cryd cymmalau, cloffni. Dyry yr awdwr hefyd restr chwanegol o welliadau dan ei ofal a thrwy ei gyfarwyddyd ef ei hun. Drwy y gwelliantau hynod hyn, aeth y dwfr yn glodfawr yn mhob rhan o Ogledd Cymru; ac er fod llawer yn ymweled âg ef bob blwyddyn, ychydig oedd nifer y rhai na phrofasant wellhad neillduol oddiwrtho, tra yr arferent ef mewn gradd gymmedrol a dyspwyllog yn y clefydau y mae efe yn addas iddynt; a diau iddo barhau yn ei fri o'r oesau hyny hyd. ddydd yr enwog Dafydd Ddu Eryri, fel y dengys y llinellau canlynol o'i eiddo:
"Ambell ddyn, gwaelddyn a gyrch
I bant goris Moel Bentyrch,
Mewn gobaith mai hen Gybi
Glodfawr sydd yn llwyddaw'r lli."
Priodolid hefyd i'r ffynnon hon y gallu o roddi i'r merched wybodaeth pa un a fyddai eu cariadon am eu priodi ai peidio; a thuag at hyny, gofynol oedd i'r ferch roddi ei chadach logell yn daenedig ar wyneb y ffynnon; ac os gwthid ef gan y dwfr i gyfeiriad y De, yr oedd pobpeth o dde; ond os i'r Gogledd, yr oedd argoelion annymunol o oerfelgarwch. Ond pa un bynag ai i'r De ai i'r Gogledd, ymddygai y merched at y llangciau yn hollol fel y cyfarwyddai y ffynnon hwynt.
XIX. FFYNNON LLEWELYN.
Nid yw hon ond llygedyn lled fychan o darddiad cryf, yn nghwr cors, yn Nghae'r Gors, plwyf Llangybi. Yr oedd, dywedir, yn meddu gallu gwyrthiol i wellhau Clefyd y Brenin.
XX. FFYNON GRASI.
Cyflead y ffynnon beraidd hon sydd ar du'r deheu-ddwyrain i Lyn Glasfryn, yn mhlwyf Llangybi. Cynnwysai yr ystlys ddwyreiniol iddi gareg wastadlefn ac ynddi nifer o dyllau wedi eu darparu, fel yr ymddengys, at i ddwfr dreiddio iddi. Yr oedd cauad dros ei gwyneb, a gofynol ydoedd iddi fod yn gauedig bob amser, oddigerth pan y byddid yn codi dwfr o honi, ond drwy ddifrawder esgeuluswyd y ddyledswydd o osod y cauad drosti a'r canlyniad fu, medd traddodiad, i Lyn Glasfryn lifo allan o honi, yr hwn sydd o arwynebedd eang, ac yn forwyol i fadau bychain. Adgofir yma gyffelyb ddigwyddiad yn suddiad Cantre'r Gwaelod, yn nglyn a'r hyn y dywed un gwr dysgedig y "Gelwir offeiriades y ffynnon yn Llyfr Du Caerfyrddin, 'finaun wenestri,' gweinidoges y ffynnon.' Ceir yr enw yn y gân am Seithennin cân a esbonir fel traddodiad am suddiad Cantre'r Gwaelod. Gweinidoges neu offeiriades y ffynnon oedd y forwyn a felldithir yn y gân. Mae'n debyg iddi esgeuluso gosod y cauad dros y ffynnon, ac i'r dwfr fwrlymu allan, a chuddio 'maes guitnev' 'Maes Gwyddno. Ei enw oedd Meredid yn awr Marged=Pegi." Dyna eto enw morwyn—Grasifu'n gwasanaethu fel offeiriades warcheidiol Ffynnon Glasfryn, ond fel Pegi Cantre'r Gwaelod, morwyn anfuddiol ac anffyddlawn i'w hymrwymiad fu hithau.
XXI. FFYNNON GADFEIRCH.
Nid oes yn y lle ffynnon yn bresenol—dim ond pistyll cryf yn crychferwi o'r ddaear yn nhir Bwlch-y-ffordd, gan ddisgyn yn ddwyreiniol i'r afon Erch, ar derfyn plwyf Llangybi. Dywed traddodiad mai yr iawn enw ydyw "Ffynnon gâd dy farch," deilliedig o'r ffaith ddarfod i frwydr gael ei hymladd ar y llecyn—fod y naill fyddin ar y Bryniau Duon, ar y tu dwyreiniol i'r afon Erch, a'r llall ar Frynllyngedwydd yr ochr gyferbyniol, ac ddarfod i'r ddwy fyddin ddyfod i gyfarfyddiad â'u gilydd yn ymyl y ffynnon—i farch y naill gadfridog syrthio i ddwylaw plaid y cadfridog arall, ac yna i'w gatrawd floeddio yn y dafodiaeth gyffredin "Gâd dy farch," ond, atolwg, paham y mynir mai "Ffynnon Gadfeirch "yw enw priodol y ffynnon, tra mai "Ffynnon gâd dy farch" olygid fel ystyr gwreiddiol ei henw
XXII. FFYNNON FEDNANT.
Crydle y ffynnon hon, cyn syrthio o honi i'w chyflwr adfeiliedig, oedd mewn cae islaw Llwyn Ffynnon, yn ngodre Nantystigall, ar aswy'r brif-ffordd sydd yn arwain o Bwllheli i gyfeiriad Fourcrosses, ac o fewn llai na chwarter milldir i lan y môr, nodwedd yr hwn, mewn rhan, gyfunid ynddi hithau. Tra y môr yn treio ac yn llenwi, byddai hithau yn lleihau ac yn mwyhau—y naill a'r llall yn gwbl gysson â'u gilydd. Hyn, yn nghyswllt â rhinwedd ei dwfr, a dynai ymwelwyr o bob graddau i'r llanerch hon, ac a barai lwyddiant i'r dref, a chyfoeth, efallai, i'r myneich. Bernir iddi gael ei henw oddiwrth Feudwy oedd yn byw yn gyfagos iddi, mewn lle a elwir "Llwyn Ffynnon," a bod y cyfryw yn arfer swynyddiaeth â'i dwfr, a thrwy hyny iddi gael ei galw "Ffynnon Feudwy'r Nant," neu, ynte, oherwydd ei rhinwedd iachaol iddi gael ei galw yn "Ffynnon Feddygol y Nant," ond fod treigliad amser drwy ddiofalwch tafodiaith gyffredin wedi gadael i rai o'r llythyrenau fyned ar ddisberod, ac felly golli y meddybrith cyntefig o'r enw. Rhaid ei fod yn hen.
XXIII. FFYNNON GWYNEDD.
Gellir gweled y ffynnon hon mewn cyflwr adfeiliedig, yn nhir Mynydd Mawr, plwyf Abererch, a'i harwynebedd yn oddeutu llather hob ffordd. Priodolid iddi y rhinwedd o wellhau crydcymmalau ac amryw glefydon ereill. Hefyd, pan y byddai rhywun eisiau gwybod pa un a fyddai person claf farw ai peidio o'r clefyd fyddai arno ar y pryd, ni byddai dim yn ofynol ond bwrw dilledyn o eiddo y cyfryw i'r ffynnon hon, na cheffid gwybod wrth weled pa ochr iddi y suddai y dilledyn.
XXIV. FFYNNON CAE GARW.
Nid oes yma yn awr namyn pistyll cryf yn rhedeg o'r ddaear, yn nhir Cae Garw, yn ngwaelod rhanbarth gogleddol plwyf Carnguwch. Ystyrid dwfr y ffynnonig hon yn dra llesol at wellau crydcymmalau a thynu ymaith ddefaid, ac wrth olchi y dwylaw gogyfer ag esgymmuno y defaid, yr oedd yn ofynol taflu pin bach i mewn i'r ffynnon dros bob dafaden ag y disgwylid ymwared oddiwrthi.
XXV. FFYNNON Y CEFNYDD.
Llygedyn bychan ger y Pennant, ar yr ochr aswy i'r ffordd sydd yn arwain o Nefyn i Lithfaen yw y ffynnonig hon. Bu llawer o gyrchu iddi yn yr hen amseroedd er cael iachad o'r crydcymmalau, a chredid fod ynddi rin annrhaethol at hyny.
XXVI. FFYNNON GWYFAN.
Rhywbeth yn debyg i'r llythyren D o ran ffurf ydyw hon, a'i lloches mewn craig uwchlaw yr afonig Gwyfan (Afon y Felin yn awr), oddeutu milldir islaw pentref Tudweiliog, ar y terfyn rhwng Porthysgadan a'r Towyn. Saif pigyn o graig ar y cwr deheuol iddi, yn ogwyddedig tua'r Gogledd, ac yn ddigon uchel a helaeth i fod megis yn dô arni. Dywedir yr arferid offrymu pinau iddi am wellad oddiwrth ddefaid ar y corff, gwendid llygaid, a'r cryndod.
XXVII FFYNNON PISTYLL Y GARN, FFYNNON Y FILAST A FFYNNON Y BRENIN.
Y mae y tair yma o fewn i derfynau plwyf Llaniestyn, a'r tair yn meddu ar gryn lawer o rinweddau. Y gyntaf sy nodedig ar gyfrif y gallu o wellau y crydcymmalau, anhwylderau yn y cylla a'r ymysgaroedd. Y ddwy olaf oeddynt fendithiol i wellau llygaid gweiniad a dolurus, ac yn dra llesol i wendid menywaidd, i anmhlantadrwydd, ac i bruddglwyf.
XXVIII. FFYNNON SARFF.
Gellir gweled y ffynnon uchod yn ngodre gorllewinol Mynydd Mynytho, rhwng Capel Saethon a Chapel Nant, yn nghwr uchaf "Gwinllan Sarff," ychydig yn ogleddol i dy o'r enw Tan-y-graig, yn mhlwyf Llangian. Ffynnon fechan, loew, flasus a dihysbydd ydyw; a sarff, yn ol hen gredoau, yn byw ynddi. Ond yr esboniad mwyaf cydweddol ar yr enw ydyw, y byddai sarff beryglus yn lletya y rhan fwyaf o'i hamser yn agos i'r ffynnon, mewn gwinllan a elwir hyd heddyw ar ei henw, yr hon a arferai fynychu'r ffynnon i lymeitian pan yn sychedig, eithr bob amser, yn unol â'r chwedl a briodolir i fuchedd nadroedd, yn dodi ei gwenwyn ar gareg o'r neilldu cyn dechreu ymyfed, yr hyn yn ddigon rhesymol, a barodd i "lafar gwlad " neu "len y werin "enwi'r ffynnon yn "Ffynon Sarff." Ond, pa un ai â'r ffynnon ai ynte'r winllan y cysylltwyd yr enw sarff gyntaf sydd ansicr —tybir y naill a'r llall, am fod dynion yn barod, bob yn ail, i ammheu pob peth ac i gredu pob peth.
XXIX. FFYNNON SAETHON.
Ffynnon a'i gwely wedi ei naddu yn ddwyreiniol i wyneb craig, ac wedi ei gwalio yn gryf o'r tu arall, ydyw hon. Y mae yn dair llath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath a dwy droedfedd o led. Y mae iddi darddiad cryf, a bwria ei dwfr grisialaidd a pheraidd yn ffrwd feunyddiol. Dywed traddodiad yr arferai hen foneddion Saethion, yn yr un plwyf—Llanfihangel Bachellaeth, ymdrochi ynddi ar gylch haf a gauaf—y byddai pererindodau yn cael eu gwneyd iddi; ac o fewn cof yr oedd gan lawer ffydd gref yn ei rhinweddau. Pan y byddai ar bobl ieuaingc eisiau gwybod yn iawn pa un a fyddai y cariadau yn ffyddlawn ai na fyddent, nid oedd eisiau tuag at hyny ond taflu pin i'r ffynnon hon; os safai y pin ar wyneb y dwfr, byddai cariad pur yn bodoli, ond os suddai yr oedd lle i amheu.
XXX. FFYNNON FAIR.
Mewn llecyn llechweddog yn nhir y Foel Fawr, plwyf Llanbedrog, y mae y ffynnon hon, a'i ffurf yn driongl, rywbeth yn debyg i'r delyn Gymreig, wedi ei chyflwyno i nawdd y Forwyn Fair, a'i dwfr heb fod un amser yn fwy na llai. Credid fod rhinwedd anffaeledig ynddi i iachau bron bob math o ddoluriau ar ddyn ac anifail, ond rhaid, meddid, oedd credu yn gyntaf yn ei rhinwedd, ac i'r claf neu berchenog unrhyw anifail a fyddai i ddefnyddio ei dwfr, ymgrymu ar ei liniau ger ei glan, ac addef fod ganddo ffydd yn ei dwfr. Hefyd, os byddai eisiau gwybod pwy fyddai wedi lladrata unrhyw beth, nid oedd dim yn fwy syml; taflu tamaid o fara i'r ffynnon hon, ac ar yr un pryd enwi yr hwn a amheuid; os suddai y bara, gwybyddid pwy fyddai y lleidr; os na suddai, cynnygid drachefn a thrachefn, nes cael gafael ynddo. Yr oedd y ffynnon hon yn cael parch annghyffredin yn yr hen amser, ond bydd ei choffadwriaeth wedi myned heibio erbyn yr oes nesaf; canys nid oes ond ychydig yn gwybod am dani yn bresennol, ac y mae, o ran ei chyflwr, yn adfeiliedig a diymgeledd.
XXXI. Y FFYNNON FYW.
Y mae lleoliad y ffynnon ragorol hon mewn rhosdir eang ar Fynytho, plwyf Llangian, a dylifiad o ddwfr glân yn rhedeg o honi, ac o'i blaen lyn fel rhyw gronfa i ddal y dwfr at wasanaeth anifeiliaid. Ei holl ranau ydynt o osodiad onglog, yn oddeutu tair llath o hyd wrth ddwy lath a chwe modfedd o led, ac oddeutu llathen o ddyfnder, wedi ei murio yn gadarn oddimewn ac oddi allan, a grisfa o ddau gyfeiriad i fyned i lawr iddi. O amgylch ei hymylau ceir meingciau, y rhai, fel yr ymddengys, oeddynt o wasanaeth i'r ymdrochwyr i eistedd, pan yn diosg a gwisgo eu dillad. Wrth ei chwr gogleddol, y mae ffynnon fechan, ddofn, arall, yn oddeutu llathen betryal, yr hon sydd o wasanaeth dyddiol i'r teuluoedd cyfagos iddi. Cylchynir y ddwy gan fur petryal, wedi ei weithio yn chwe llath bob ffordd, o'r tu fewn, wrth ddwy yn yr uchder; a'r fynedfa iddynt yn gwynebu y gorllewin. Yn ddiweddar adgyweiriwyd y mur yn dda, a gosodwyd dor gref arno, ar draul y diweddar Mr. G. W. Duff Assheton Smith, o'r Faenol, yr hyn fu yn achlysur o adnewyddu ymweliadau a'r lle. Barna rhai iddynt gael eu cysegru i Cir Ferthyr, i'r hwn, yn ol traddodiad y gymmydogaeth, yr oedd eglwys gyflwynedig yn sefyll ar lecyn cyfagos, a elwir Bryn y Glanbwll; ond ereill a farnant iddynt gael eu cyssegru i un o dduwiau yr hen dderwyddon, neu, ynte, eu bod hwy yn arfer myned i ddrachtio ei dyfroedd iachusol, ac yn eu cymmeradwyo fel ffynnonau yn meddu priodoleddau meddygol a dwyfyddol. Modd bynag, y mae arddull y ffynnonau hyn yn profi eu bod gynt yn glodfawr, a thraddodiad yn tystio fod eu dyfroedd mewn cyfrifiad mawr oherwydd eu heffeithioldeb a'u rhinwedd tuag at iachau amryw glefydon, yn neillduol y cryd cymmalau. Dywed hen hanes, cadwedig o oes i oes, y perthynai iddynt gyfarwyddwr—mai ei waith oedd dysgu y cleifion pa fodd iddynt ddefnyddio y dyfroedd, ac yn ol y cyfarwyddyd, mai gofynol iddynt yn gyntaf oedd myned i ymolchi yn y ffynnon fwyaf, ac yna yfed o ddwfr y ffynnon leiaf, gan offrymu iddi ddarn o arian yn mhresenoldeb y ceidwad neu y cyfarwyddwr. Ryw dro, er ys amser pell yn ol, meddant hwy, yn herwydd i fachgenyn ddigwydd syrthio i'r ffynnon fwyaf, a boddi ynddi, neu ynte i ryw ddyhiryn ynfyd daflu iddi gelain ci neu gath, peidiodd dyfroedd y ddwy a tharddu o'r pryd hwnw hyd y pryd hwn, oddieithr bob yn ail blwyddyn, yn rheolaidd, boed yr hinsawdd o duedd bynag y bo—gwlyb ai ynte sych; ond erbyn hyn, y mae gogoniant y ddwy drosodd, a'u defnyddioldeb meddyginiaethol wedi darfod. Gymmaint oedd y son am y Ffynnon Fyw fel yr edrychid arni fel llygad rhyw dduw, ac yn unol â'r fath gred rhyw adeg yn gynt na chof, adnabyddid hi wrth yr enw Ffynnon Dduw," yn hytrach na "Ffynnon Fyw."
XXXII. FFYNNON TUDWAL.
Yr oedd hon gynt i'w gweled yn nhir y Penrhyn, plwyf Llanengan, yn bwrw allan helaethrwydd o ddwfr gloew a pheraidd, ag ynddo meddai yr hen bobl, rinweddau i wellhau gwahanol glefydau a doluriau. Yr oedd un hynodrwydd arall yn perthyn iddi. Nid oedd mwy na naw modfedd o ddwfr ynddi un amser, yr hyn oedd yn syndod i lawer. Ond y dirgelwch fod yr un ddyfnder o ddwfr ynddi bob amser, oedd fod yn yr uchder hwnw wagle bychan yn un o'r ceryg oedd yn ffurfio ochrau iddi, digon i roi blaen cyllell deneu, felly buasai yn wyrth i'r dwfr lanw yn uwch na'r man neillduol hwnw. Diflanodd ei nodwedd wedi agor y gwaith plwm yn y gymmydogaeth, fel nad oes, erbyn hyn i'w adnabod o honi namyn ei henw fel ffynnon Sant Tudwal.
XXXIII. FFYNNON AELRHIW.
Mae y ffynnon hon o ffurf betryal, yn oddeutu deg troedfedd bob ffordd, ac wedi ei murio â cheryg, a'i chylchynu â maingc i eistedd. Cafodd ei henw er parch i sant yr Eglwys gyfagos iddi—y Rhiw, yn briodol Aelrhiw, ond collodd yr enw gwreiddiol, a chafodd yr enw Ffynnon Eilw, oddiwrth ei bod yn gwellhau y rhai a flinid gan y Manwynau. Cyrchai llawer o bererinion clwyfus tuag ati er mwyn bendith Sant Aelrhiw ar gymhwysiad o'i dyfroedd, i wellhau eu haml anhwylderau, a diamheu i lawer gael lleshad oddiwrthi, a chredu yn gryf mai gwyrth oedd.
XXXIV. FFYNNON CEFN LLEITHFAN.
Y mae lleoliad y ffynnon hon ar lechwedd dwyreiniol mynydd y Rhiw, yn mhlwyf Bryncroes. Ei ffurf sydd onglog, yn oddeutu dwy lath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath o led wedi ei murio yn gryf, a grisfa o ddau gyfeiriad i fyned i lawr iddi. Cyrchid ati gan lawer o gleifion o bell' ac agos, yn enwedig y rhai a flinid gan ddafadenau, at yr hwn anhwylder y cyfrifid ei dwfr yn dra rhinweddol, ond gweithredu yn ol y cyfarwyddyd angenrheidiol, sef, myned at y ffynnon heb ymddiddan â neb ar y ffordd, nac edrych yn ol, a golchi y dafadenau â chadach a bloneg, ac wedi golchi y manau angenrheidiol yn dda a'r pethau hyn, yna eu cuddio dan gareg y ffynnon. Wedi hyny troi yn ol ac ymddwyn yn yr un modd ag yr aed at y ffynnon, ac iach fyddid oddiwrth y dafadenau.
XXXV. FFYNNON SAINT.
Yr oedd hon gynt i'w gweled braidd yn sawdl gogledd-ddwyreiniol mynydd y Rhiw, mewn llecyn pantiog yn nhir Bron Llwyd, islaw Tref Dindywydd; ond erbyn hyn y mae yn hollol ddiymgeledd, a'i defnyddioldeb wedi darfod. Bob dydd Iau Dyrchafael, elai menywod yr ardal ati i olchi eu llygaid, a thaflent bob un bin i mewn iddi fel arwydd o ddiolchgarwch.
XXXVI. FFYNNON LEUDAD.
Y mae cyflead y ffynnon hon mewn rhosdir llwm, yn nhir Carog, plwyf Bryncroes. Cyfyngir ei gwyneb i ffurf betryal yn oddeutu pedair troedfedd bob ffordd, wedi ei murio a'i phalmantu yn drefnus. Yn ol tystiolaeth yr hen bobl, safai yn y dosbarth blaenaf fel ffynnon feddyginiaethol yn yr holl sir, a chredid fod rhinwedd yn ei dyfroedd. Clir-oerion i iachau pob math o glefydon a doluriau ar ddyn ac anifail. Ymddengys iddi gael ei galw ar enw Lleuddad, yr hwn oedd yn ei flodau tua chanol y chwechfed canrif, ac yn Abad Mynachlog Enlli.
XXXVII. FFYNNON DWRDAN.
Cyssegrwyd hon, fel y tybir, i Durdan, Dewrdan, Durdan, neu Deyrndan, sant a ddaethai i Brydain o gylch y chwechfed canrif gyda Chadfan, ac a dreuliasai ei oes yn Enlli. Nid yw y ffynnonig hon ond bechan a diaddurn, yn llochesu mewn llecyn anghysbell yn Nant, Bodwrda, plwyf Aberdaron.
XXXVIII. FFYNNON SAINT.
Y mae cyflead hon mewn hen geimle ar fin y ffordd sydd yn arwain at Angelog o bentref Aberdaron, ac mewn cyflwr adfeiliedig, gan ddarfod i seiri meini, yn eu dibrisdod o honi, gario ymaith ei cheryg at wneyd pont gyfagos iddi. Ni phriodolir dim gwyrthiau iddi, ond yn unig meddyginiaeth naturiol drwy gynneddfau ei dwfr.
XXXIX. FFYNNON FAIR.
Y mae cyflead y ffynnonig drionglog hon yn ysgythrau craig uwchben y môr, yn nghwr y Mynydd Mawr, plwyf Aberdaron. Cymmer y môr feddiant llwyr o honi ar lanw, eithr cygynted ag y treio efe, bydd ei dwfr, gan nerth ei tharddiad, yn hollol groew mewn byr amser. Yr oedd llwybr cylchynol a pheryglus, o'r enw "Grisiau Mair" ac "Ysgol Fair," i lawr iddi, ar hyd yr hwn y disgynai pererinion yn fynych yn y dyddiau gynt, yn y gred os gallai rhywun wneyd hyny a dwyn i fyny gegiad o ddwfr o'r ffynnon y caffai ei ewyllys ei chyflawni. Yn y flwyddyn 1869 adgyweiriwyd a hwyluswyd y ffordd a'r grisiau i fyned iddi ar draul yr hen foneddwr gwladgarol y diweddar Mr. R. LI. Edwards, Nanhoron.
XL. FFYNNON Y DALAR.
Ar lechwedd bryncyn o'r enw Bryn Baglau, ac ar yr aswy i'r ffordd sydd yn arwain o'r Cafn, porthladd Enlli, i gyfeiriad yr hen Fynachlog, y mae Ffynnon y Dalar, yr hon, gynt, a ystyrid mor anffaeledig at iachau y cryd cymmalau, fel yr elai y rhai a flinid gan yr anhwyldeb hwnw ar ol ymolchi ynddi, yn hollol iach yn y fan; ac fel tystiolaeth o hyny, gadawent eu ffyn—maglau ar y dalar ger y ffynnon; a'r llecyn, hyd heddyw, o'r achos, a adnabyddir wrth yr enw Bryn Baglau.
XLI. FFYNNONAU Y BARFAU.
Yn y gogledd-ddwyrain i fynydd Enlli, yn agos i'r crib, mewn craig noeth, y mae y ddwy ffynnon yma, y naill yn oddeutu ugain modfedd o hyd, wrth naw o led, a dwy droedfedd o ddyfnder, a'r llall yn oddeutu ugain modfedd o hyd, wrth saith o led, a dwy droedfedd o ddyfnder. Yn ol traddodiad, derbyniasant yr enw Ffynnonau y Barfau oddiwrth arferiad yr hen saint o fyned atynt i dori eu barfau, gan eu defnyddio fel drychau i'r perwyl hwnw; ond tebygol ddarfod i'r enw ddeilliaw oddiwrth gyflead y ffynnonau, ac mai Bar—fauo bar a bau, yw yr ystyr, ac nid Barf—au.
{{c|XLII. FFYNNON BEDROG. Mae y ffynnon adfeiliedig hon i'w gweled yn nhir Bryn Du, ger pentref Pigstryd, nid nemor bellach o Lanbedrog. Ei chrydle sydd wrth ystlys hen glawdd unig, ar lecyn garw, didriniaeth i raddau. Lliosog ydynt y traddodiadau am iachusrwydd ei dwfr, ei burdeb, a'i rinwedd gwyrthiol. Nid oedd na chlefyd, nag anaf, na cheid ymwared oddiwrthynt, trwy iawn ddefnyddiad o hono, yn ol hen goelion. Yn lled ddiweddar, cafwyd llestr crwn o faen du yn ei gwaelod, yr hwn oedd bron yn llawn o binau, ond dim arian, wedi eu bwrw iddo megis hedd-aberth i Bedrog Sant, wrth gyfarwyddyd rhywun ag oedd yn ennill ei fywoliaeth trwy drafod dewiniaeth ac ymborthi ar wobr coelgrefydd dan gochl mantell hen Sant marw bythol-fyw y plwyf. Pa amser y dechreuwyd offrymu pinau, nis gwyddys, canys nid oeddynt wedi cael eu dyfeisio yn amser y seintiau.
XLIII. FFYNNON CAWRDAF.
Mae cyflead Ffynnon Cawrdaf—sant enwog yn ei ddydd, yn nhir Tan-y-graig, plwyf Abererch, ar lecyn llechweddog yn wynebu haul y boreu, allan o bob swn a dwndwr bydol, o fewn tua milldir i lan y mor." Y mae yn meddu ar ddigonedd o "ddyfroedd byw"—dwfr yn tarddu, a dwfr rhedegog, yr hyn ydyw ystyr "dyfroedd byw." Yn ol cofnodion dyddiau fu—dyddiau'r gorphenol pell, perthynai i'w dwfr grisialaidd ac iachus rinwedd anffaeledig i wella pob math o glefydau ac anhwylderau ag oeddynt ddarostyngedig i bobl yr hen amserau, yr hyn a barodd iddi fod yn wrthddrych edmygedd nodedig ag sydd yn aros hyd y dydd heddyw megis llythyren goch yn nghalendar cof y werin. Mae yn amlwg fod yr hen seintiau Cymreig yn deall beth oedd gwerth dwfr iachus, a rhyw fodd neu gilydd nid yw y gred yn rhinwedd gwyrthiol ffynnon gyflwynedig i ryw sant yn lleihau yn gyflym iawn.
XLIV. FFYNNON DUDWEN.
Y ffynnon hon ydoedd gyssegredig i Landudwen—eglwys a sefydlwyd gan y Santes Tudwen, yr hon oedd yn ei blodau, fel y tybir, tua dechreu y seithfed ganrif. Erbyn hyn, nid oes yn aros o'r hen ffynnon, ragor na'i llefod yn nghwr cae ger yr Eglwys—amser wedi ei thori i lawr a'i chladdu yn ei phwll ei hun; ond y mae iddi ei hanes—cyrchai lluoedd iddi o bob cyfeiriad, taflent arian a phinau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes ysbrydol oedd yn llywodraethu ffrydiad a llesiant ei dwfr er cynnydd i gnwd y tir, ac yn neillduol er iechyd i ddyn, am y cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrth-weithio anhwylderau y llygaid—y dwymyn ddyspeidiol, y crvd cymmalau, gwendid yn y gewvnau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd, sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ond, erbyn hyn, er cael o honi ei hadnabod gan bawb wrth yr enw nodweddiadol "Ffynnon Dudwen," yn ogystal ag mai dwfr o honi ddefnyddiwyd yn y weithred o fedyddio y mebyn hwnw—yr Esgob Fychan wedi hyny, cyn belled ag y mae tebygoliaeth lleol a hen draddodiad yr ardal neu lais gwlad, yn myned. Onid yw yn resyn na byddai modd cael gafael ar gofnodion o'r oll a fedyddiwyd gyda'i dwfr, ac o'r priodasau dirgel mynych a gymerent le gerllaw iddi, yn ystod y canrifoedd aethant heibio, ond y mae hyny i raddau yn anmhosibl, am nad oes ar gael gofnodion difwlch o honynt. Eto, er holl ragoriaethau ei dwfr, yr oedd ei sefyllfa yn anfanteisiol iddi, am nad oedd hwylusdod o'i hamgylch—dim cystal rhodfeydd, &c., ag oedd mewn manau eraill yn gyffredin. Yr oedd ei bod mewn encilfan neillduedig megis oddiwrth y byd, yn tynu yn ol oddiwrth y poblogrwydd, er iddi fod yn mysg y dosbarth mwyaf rhinweddol o'r holl ffynnonau hyny a gyfrifid yn gyssegredig.
XLV. Y FFYNNON SANCTAIDD.
Y mae y ffynnon hon yn tarddu o ymysgaroedd Gallt Isal (Isallt), yn nghongl orllewinol cae Tyddyn Bach, yn mhlwyf Carnguwch, ar godiad tir dymunol yn gwynebu'r de. Yn yr hen amser, yr oedd math o glawdd o'i hamgylch er ei chadw yn barchus ac mewn trefn, a grisiau o ddau gyfeiriad i ddisgyn iddi. Llifa helaethrwydd o ddwfr gloew o honi i gyfeiriad y deheu, ac ymollynga i fynwes yr Erch, ychydig islaw Sarn-y-Geifr. Er's llawer o flynyddoedd, nis gallai cyflwr y clawdd gynt a'i hamgylchasai fod lawer yn waeth nag ydyw ar hyn o bryd. Er lliosoced y ffynnonau da, dichon mai ychydig eill ddwyn tystiolaeth mor uniongyrchol a hon am eu rhinweddau, oblegid rhyw elfen, nad oes enw arni hyd y gwyddom, yn ei natur a wna ei dwfr yn wahanol i ddwfr ffynnonau ereill, yr hyn oedd o bwys mawr gan yr hen bobl gynt, heb nodi dim yn neillduol, eithr awgrymu ei bod yn llawn o briodoleddau dwyfyddol. O honi hi y cyrchid dwfr at wasanaeth yr Eglwys agosaf ati—Eglwys Carnguwch, a chofir hyd heddyw gan rai sydd wedi cyrhaedd gwyndra henaint, weled y tu ol i'w drws gawg llawn o ddwfr y gyfryw ffynnon, ac ynddo "ysgub y cwhwfan" fel ei gelwid, i daenellu dwfr ar y bobl o un i un fel y delent i fewn i'r Eglwys yn mha ddull ni wyddys, am fod yn yr adroddiad dywyllni cyfeiriadiad—ni cheir ynddo y meddwl sydd yn gorwedd dan ffurf y ddefod. Er hyny, tebygol mai mewn arddangosiad o "lun y groes," yr hyn, yn ngolwg y bobl, oedd yn ymylu ar gyssegredigrwydd mawr.
XLVI. FFYNNON RUFEINIG Y BETTWS FAWR.
Dirgel yw lleoliad y ffynnon hon, a dirgelwch mawr yw ei hanes. Llecha mewn bachell encil fel iar ar ei nyth ar ganol cae llechweddog o'r enw Cae'r Simdde—hen allt goediog oesau pell yn ol, ychydig yn ddeheuol o dŷ'r Bettws Fawr, yn mhlwyf Llanystumdwy. Y mae mur syml o geryg geirwon wedi ei godi fel diogeliad iddi o'r gwaelod i fyny hyd y nod i fod yn do drosti—pob adran yn wahanol y naill i'r llall, ond er hyny yn hollol angenrheidiol i'w gilydd. Ar yr ochr ddeheu-ddwyrain iddi y mae hen onnen braff lydanfrig, a godidowgrwydd natur a cheinder anian yn cyd-gynnorthwyo i roddi swyn ac hudoledd ar yr holl arwynebedd a welir â'r llygaid noeth, nes bod y llecyn yn brydferth tu hwnt i ddychymmyg. Beth all fod yr achlysur o alw'r ffynnon ar yr enw hwn nis gwyr neb nag i ba bwrpas, drwy unrhyw hanesyn dyddorol, fel ag i ddangos yn ymarferol ei bod i'w hadnabod felly. Ond ymddengys fel math o resymoliad mai oddiwrth y Rhufeiniaid a breswylient y tiriogaethau hyn gannoedd o flynyddau yn ol, yr adnabyddid yr hen ffynnon wrth y cyfryw enw byth er hyny. Ag eithrio esgusodion, rhaid cydnabod na chafwyd gafael mewn unrhyw ffaith a phwynt iddi yn nglyn a'i hanes, a phwy yn ei bwyll ddisgwylia i neb ddwyn ar gof y pethau hyny a gladdwyd gan anghof?
XLVII. PIN Y WIG.
Mae hwn yn tarddu o dir Ty'n y Pwll, plwyf Nefyn, ac yn ymdywallt i for Porth-Din-Llaen. Yn marn doethion y dyddiau fu, yr oedd i'w ddwfr fwy nag un gwaith—adfer esmwythder a iachad i gymmalau a dwylaw dynol, gwella pyrsau buchod pryd y byddai defaid yn gwneyd eu hymddangosiad hyd-ddynt—pawb yn uno i gadarnhau y gred y perthynai iddo amryw rinweddau. Yn ysbaid misoedd haf byddai dieithriaid lawer yn talu ymweliad â r lle er mwyn awel y môr yn ogystal a dwfr iachusol y Pin.
XLVIII. LLYN MORYS.
Ychydig i gyfeiriad y dwyrain o Griccieth gellir gweled llyn a gyfenwir "Llyn Morys," ac yn ei gylch draddodiad aneglur yn aros, sef ddarfod i ddyn o'r enw Morys fwrw ei hun iddo a boddi ynddo, ac mewn canlyniad i rywun ei godi a'i adael ar lan y llyn, yn y man lle y gwelir y pentwr ceryg rhyddion sydd ar y llecyn yn bresennol, y rhai, o bryd i bryd, a daflwyd arno gan y rhai a elent heibio iddo, yn y gred yr attaliai hyny i'w ysbryd aflonyddu arnynt hwy, beth bynag am ereill.
XLIX. LLYN DULYN.
Yn y Brython am Ebrill, 1859, dywedir am y llyn hwn fel y canlyn:—"Mae llyn yn mynyddoedd Eryri a elwir Dulyn, mewn cwm erchyll, wedi ei amgylchu a chreigiau uchel, peryglus, a'r llyn yn ddu dros ben, a'i bysgod sydd wrthun, a phenau mawr a chyrph bychain. Ni welwyd erioed arno eleirch gwylltion (fel y byddant yn aml ar bob llyn arall yn Eryri) yn disgyn, na hwyaid, nag un math o aderyn. Ac yn y rhyw lyn y mae sarn o geryg yn myned iddo, a phwy bynag a â ar y sarn pan fo hi yn des gwresog, ac a deifl ddwfr. gan wlychu y gareg eithaf yn y sarn a elwir yr Alawr Goch, odid na chewch wlaw cyn y nos."
L. LLYN Y CWM.
Y mae traddodiad yn nghylch pysgod y llyn hwn, y byddent heb ond un llygad, sef y de, ond y rhai, erbyn hyn, sydd wedi llwyr ddarfod yn y lle.
LI. LLYN Y DYWARCHEN.
Y mae cyflead y llyn hwn ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Ddyffryn Nantlle i Rhyd Ddu. Dyry amryw o'r hen awduron ar ddeall fod ynys symudol arno, un amser, yr hon a symudai o'r naill ochr i'r llall, nid drwy ddylanwad y gwynt, ond dan effaith rhyw beirianwaith mewnol anhysbys i athronwyr; a byddai bugeiliaid yn synu wrth ganfod eu hanifeiliaid, tra yn pori, yn cael eu cludo hyd y llyn. Os digwyddai i'r ynysig ymdynu i'r cyfeiriad gogleddol, codai y marchnadoedd; os i'r cyfeiriad deheuol, gostyngent. Ymwelodd llawer o enwogion â'r lle o bryd i bryd, ac yn eu mysg Giraldus, Leland, &c.
LLII. LLYN YR AFANGC.
"Cyflead hwn sydd ar yr afon Gonwy, tua milldir i'r de-ddwyrain o'r pentref. Dywedir fod yn y llyn crybwylledig, ar ryw adeg tra boreuol, greadur enfawr o faintioli,—a elwid yr Afange, yr hwn a barai nid ychydig o flinder i drigolion Nant Conwy a phen isaf Dolyddelen. Gwnaed llawer cais i'w ladd, ond ni ellid gyru na phicell na saeth drwy ei groen, gan hyny, am nad oedd yn bosibl ei ladd yn y ffordd hono, penderfynwyd ei lusgo oddiyno, a'i gymmeryd i le dyogel i'w gadw; ac yn Llyn Ffynnon Las, yn Nghwm Dyli plwyf Beddgelert, y barnwyd fod y lle diogelaf i'w gadw.
Wedi penderfynu ar y lle, darparwyd tidau cryfion, a chwiliwyd yr holl wlad, am ddau o'r ychain cryfaf; ac wedi sicrhau y tidau am yr anghenfil, llusgwyd ef allan o'r llyn; ac arferai hen drigolion hygoelus y Bettws yr oes o'r blaen, ddywedyd yn ddifrifol eu bod hwy wedi gweled ol traed yr ychain hyn yn y graig gerllaw y llyn, gan yr egni a roddent i'w dynu allan. Wedi llwyddo i hyny, llusgid ef ar hyd plwyf Dolwyddelen, a thrwy Fwlch y Cribau, yr hwn a elwir hyd heddyw yn "Fwlch Rhiw yr Ychain," hyd y Waun, ger Gwastad Anas; ac yn y Waun hono syrthiodd llygad un o'r ychain o'i ben, gan yr egni a roddai i lusgo yr anghenfil, a dyna yr achos o alw y lle byth wedi hyny yn "Waun llygad ych". Achosai colli ei lygad boen mor arteithiol i'r ych, fel yr wylodd gymmaint o ddagrau o'r herwydd, nes ffurfio pwll yn y Waun, a elwir "Pwll llygad ych" hyd heddyw. Trwy ddirfawr lafur a phoen, llusgwyd yr Afange i fyny i Gwm Dylif, hyd Lyn y Ffynnon Las, lle ei gollyngwyd yn rhydd, ac yntau a neidiodd yn ebrwydd i'r llyn. Dywedir y byddid yn ei weled ar amserau yn cynhyrfu y llyn yn ofnadwy, ac iddo ddystrywio yr holl bysg o hono yn fuan: ond o hyny allan, cafodd trigolion Nant Conwy lonyddwch ganddo, a gwaredigaeth lwyr oddiwrtho."
LIII. AFON CYLL Y FELIN.
Ymarllwysa yr afonig hon i'r môr yn Aberdaron, lle y newidir ei rhedle yn aml, drwy i'r mor bentyru a rhigoli y traeth i wahanol gyfeiriadau. Pan y byddo ei gwely yn digwydd bod yn ymyl Porth Samdde, dywedir y bydd y farchnad y pryd hyny yn uchel, ond pan y llifeiria i gyfeiriad dwyreiniol y bydd y farchnad yn isel,—y naill fel y llall, yn ansefydlog a chyfnewidiol.
LIV. DWYFOR A DWYFACH.
Dywedir y byddai yr hen bobl arferol o addoli bryniau ac afonydd am y credent fod rhyw ysbryd bywiol yn treiddio trwyddynt, ac mai oddiwrth nerth yr yd a dyfai hyd y bryniau, ac oddiwrth ddwfr yr afonydd yr oedd eu bywyd yn cael ei gynnal; ac mae yr afonydd Dwyfor a Dwyfach, yn Eifionydd, wedi eu seilio ar draddodiad, neu ynte traddodiad wedi ei seilio ar eu henwau hwy, eu bod, o herwydd eu cyssegredigrwydd dwyfyddol, yn wrthddrychau addoliad yr hynafiaid. Hefyd perthynai i'r olaf o'r ddwy, y Ddwyfach, chwedl, sef yr arferai eogiaid (salmons) ddyfod at ei glanau ar foreu y Nadolig, a chaniatau i bob un a fynai eu goglais â'u dwylaw, ac weithiau eu codi i fyny o'r dwfr, er nad boddhaol iawn oedd hyny ganddynt. Gwnelent hyn yn rheolaidd hyd y newidiad a wnaed yn y flwyddyn, yr hyn a barodd attalfa ar y ddefod, yn herwydd cyssylltiad yr hen gyfrif â'r newydd yn nglyn ag amseriad cadw y Nadolig.
PENNOD VII.
LLEOEDD, YN NGHYDA'U HENWAU.
Y MAE gan y werin ddull o'r eiddo ei hun i esbonio dechreuad sefydliadau lleoedd a tharddiad eu henwau, ac mae yn fynych resymau lleol yn rhoddi bodolaeth iddynt, yr hyn sydd yn gwneyd yn anhawdd i fod yn bendant mewn perthynas i amryw o honynt. Edrycha'r werin, bob amser, ar dadogaeth geiriau o gyfeiriad traddodiad neu seinfympwy, ac nid o gyfeiriad tarddystyron. Desgrifiant "Ionawr " fel Ia yn awr, "Chwefror " fel Chwerw—oer, &c., a chynnyg iddynt reswm i'r gwrthwyneb, ni fyddai ond ofer, am y credent ynddynt mor sicr a diymod ag sy fodd. Eithr ni cheisiwn yma groesi dim ar eu gwahanol feddyliau, am mai gwell a thecach yr ystyriwn eu dodi ger bron yn eu symledd gwreiddiol, fel y caffo pawb ymfoddhau yn eu mympwy eu hunain. Ond os byddant am brofion, rhaid iddynt fyned i fysg y werin, a gwrando ar yr hanes a'r helyntion, a digonir hwy.
Gellir ychwanegu y rhoddid gynt annogaeth cysurlawn i'r cymmeriadau diddan hyn—yr ieithwyr gwlad—hen oraclau ein hardaloedd, tra yn yr oes gymhenllyd hon y ceisir eu difodi gan y dosbarth fynych elwir proffeswyr dysgedig. Ond i ba ddiben, os nad i ysbeilio'r byd o'i ddifyrwch a'i ddedwyddwch. Nid gwerth llenyddol cynnyrch syniadau yr hen wladwyr a appelia atom yn gymmaint a'r dulliau a'u hannogent i amlygu eu gwibfeddyliau—llawer o honynt o'r un nod a delw fel nad oes enw ar na chae na thy na bwthyn nad yw ffrwyth eu hefrydiaeth wedi ymglymu am danynt fel yr eiddew am y goeden. Llawer, a llawer iawn o hanesion difyr a diniwed a adroddwyd ganddynt fin nos yn nglyn â'r gorchwyl o egluro ystyron enwau leoedd, tra ar yr un pryd yn mwynhau "tipyn o smôc a scwrs," a'u coesau y naill ar y llall yn pwyntio tua'r tân fel magnelau. Coffa da am danynt. Blodeued llygaid y dydd ar eu beddau.
I. BEDDGELERT.
Y traddodiad am y lle hwn sy fel y canlyn:—'Llewelyn ab Iorwerth Drwyn Dwn, a gyfenwir weithiau yn Llewelyn Fawr, ydoedd dywysog glew yn ystod y 12fed ganrif. Byddai ef a'i deulu yn arfer Hafotta yn Eryri, ac ar y pryd yn ymhoffi dilyn rhagor gampau ei henafiaid, megis hela'r carw, yr ysgyfarnog, neu'r llwynog. Yr oedd gan y Tywysog gi ffyddlawn a hoffus ganddo o'r enw Gelert, yr hwn a fernid yn flaenor pob helfa. Un diwrnod, pan aed allan i ymddifyru, ni welid Gelert hefo'r cwn; methid a dirnad beth ddaethai o hono. Pan oeddid allan, cymmerodd y fammaeth yn ei phen fyned i edrych yr "Ogof Ddu " ar lechwedd Moel Hebog; tybir fod un o'r gweision gyda hi hefyd, a dywedir mai Saesnes oedd y forwyn esgeulus hon. Pan oedd Llewelyn a'i osgordd yn dychwelyd adref, yn ymyl y neuadd, dyma Gelert, yn waed dyferol, yn rhedeg, dan ysgwyd ei gynffon i'w gyfarfod. Llewygodd y Dywysoges, a rhuthrodd y Tywysog i'r ystafell fagu! Ond Och erbyn myned i fewn, yr oedd y fan yn afonydd o waed, a'r cryd wedi ei daflu a'i wyneb yn isaf, a dim golwg o'r plentyn. Cynddeiriogodd, cipiodd ei gleddyf, a rhoddes ef trwy Gelert, druan! Rhoes yntau wawch hirllaes, a threngodd. Darfu i'r floedd angeuol ddeffroi y plentyn. Rhedodd un o'r mynachod at y cryd, a chododd y dillad, ac yn nghanol y goblygion, dyma'r bachgen yn edrych yn iach a dianaf. Codwyd y gwrthbanau, ac o danynt, yn farw, dyma globyn o flaidd ysglyfgar, yn erchyll ei wedd, hyd yn nod pan wedi trengu. Ond y ci, druan, oedd' erbyn hyn mor farw ag yntau; a'r Tywysog a wylofus alarai ar ol addurn ffyddlondeb. Gorchymynodd iddo gael ei gladdu yn anrhydeddus, mewn llecyn teg gerllaw, a pharodd osod careg anferth ar ei fedd, yn gof o gladdle'r ci, ac y mae y gareg yn aros hyd heddyw yn Nol y Lleian, gerllaw y pentref a gyfenwyd ar ol hyny, yn gystal a'r plwyf yn gyffredinol yn "Fedd Gelert." Oddiwrth y chwedl hon y tarddodd y diarebion: "Cyn dial, gwybydd yr achos," "Ystyr ddwywaith cyn taraw unwaith," "Gwaith byrbwyll, nid gwaith ystyr-bwyll," Mor edifar a'r gwr a laddodd ei filgi." Ymddengys mai perthyn i dir chwedloniaeth y mae hanes Llewelyn a'i gi. Nid oes un cyfeiriad ato yn Camden, Leland, Pennant, na Powel; ac y mae yn sicr fod chwedl gyffelyb yn cael ei hadrodd mewn gwahanol fanau ereill. Mae rhagor yn eisieu ar y pwngc hwn, a dyma un o ddibenion casglu llên gwerin.
II. BRYNLLYNGEDWYDD.
Saif y lle hwn yn mhlwyf Abererch, a chred henafol yn y gymmydogaeth yw, mai Brynllyngcedig yw y cywir enw arno, am ddarfod i'w ben, ryw amser pell yn ol, suddo yn farnol, oblegyd pechodau y rhai oedd yn preswylio yno.
III. CAER ARIANROD.
Dywed P. Bailey Williams, yn ei History of Carnarvonshire, fod traddodiad yn ardal Clynnog y gellid gweled ar dywydd braf ac ar ddistyll trai,. gerllaw i'r lle hwnw weddillion yr hen dref Gymreig sydd yn awr yn orchuddiedig gan y môr, ac mai enw y dref ydoedd Caer Arianrod. Yn y Trioedd, cawn fod i Don ferch o'r enw Arianrod yn cael ei rhestru gyda Gwenn ferch Cywryd ap Crydon a Creirwy merch Ceridwen, dan y penawd, "Tair Gwenrian Ynys Prydain."
IV. CANTREF Y GWAELOD.
Traddodiad a ddywed ddarfod cyfodi gwrthglawdd, ryw oesau pell yn ol, a'i fod yn cyrhaeddyd o'r Penrhyn Du, yn Lleyn, i gyfeiriad Sarn y Bwch, neu rhywle yn ochr Meirion, a bod y môr yn treio islaw iddo ddwy waith bob pedair awr ar ugain—fod Seithenyn, ceidwad y dorau, oherwydd meddwdod wedi esgeuluso cau y dorau yn yr adeg briodol, a thrwy hyny, ddarfod i'r môr ymarllwys a gorchuddio yr holl ddyffryn i'r pellder a'r uchder y gwelir ef yn bresennol. Bernir i hyny ddigwydd o'r flwyddyn 540 i'r flwyddyn 550, neu 560 o'r pellaf, sef yn amser Gwyddno Garanhir, tad Elphin, yr hwn, medd y chwedl, a gafodd afael yn y cynfardd Taliesin mewn côd groen, yn agored Gwyddno ei dad.
V. CASTELL CIDWM.
Y mae safle y castell yma yn mhlwyf Llanwnda. Dywed y werin mai ystyr Cidwm yw blaidd, ac mai pan ddinystriwyd y castell ddarfod i flaidd wneyd ei wal yno, drwy yr hyn y cafodd yr enw. Hefyd, "dywedir mai amddiffynfa a gyfanneddid gan ryw foneddwr ysbeilgar ydoedd, yr hwn a laddodd frawd i Cystenyn Fawr, drwy saethu ato pan yr oedd yn myned heibio gyda nifer o filwyr, yn y dyffryn islaw, i gyfarfod a'i fam yn agos i Danybwlch. Neu, mewn arweddiad arall, pan oedd. Elen Lwyddawg a'i mab ieuengaf yn arwain eu llu o Gaer Seiont i Gaer Eryri, drwy Feddgelert, yr oedd mab arall iddi o'r enw Cidwm, un afradlon a drwg, mewn eiddigedd at y brawd ieuengaf, ac yn wastad yn cynllwyn am ei fywyd. Yr oedd wedi ymguddio yn y clogwyn gyda'r amcan o saethu ei frawd pan fyddai yn myned heibio gyda'r fyddin. Ei fam a aethai heibio yn arwain y fyddin flaenaf, a'r brawd ieuengaf hwn ydoedd yn dilyn gyda'r ôl-fyddin. Canfyddodd un o'r milwyr Cidwm yn cyfodi o'i guddfan gan anelu tua bon y fyddin, a chan ei fod yn ei adnabod ac yn deall ei ystrywiau, bloeddiodd allan "Llech yr Olaf," yr hyn a atebwyd gan yr holl fyddin; ond cyn i'r olaf lechu, yr oedd saeth y brawd-leiddiad wedi ei wanu yn farwol. Er cof o'r amgylchiad, galwyd llechfan Cidwm ar ei enw, a cheir amaethfa fechan yn agos i'r lle yn dwyn yr enw "Llech yr Olaf, meddir, yn dystiolaeth sicr parthed rhybudd y milwr." Ond, i'r neb a ewyllysio edrych heibio i hen chwedlau, canfyddir nad yw Cidwm ond enw a roddir ar fodau a phethau cuchiog ac uthrol; ac felly mai ystyr Castell Cidwm yn ddiau yw Castell Uthrol. Nis gall pethau fod yn guchiog—bodau ydynt yn guchiog, a phethau yn uthrol ac ysgythrog.
VI. CASTELLMARCH.
Palasdy henafol, yn mhlwyf Llangian, yw Castellmarch, yr hwn, meddir, a fu unwaith yn annedd i March ap Meirchion, un o farchogion Arthur; cybydd ofnadwy, ac iddo glustiau hirion fel clustiau march, a dyna y sail neu y rheswm i'r castell gael ei enw yn Castellmarch. Dywed traddodiad mai gormeswr creulawn ydoedd, ac y byddai cyflyrau ei dirddeiliaid a phreswylwyr ereill y rhanbarth cylchynol iddo yn un o wasyddiaeth chaethiwed blinderus, ac mai aml y gorchymmynai am i ryw un neu gilydd ddioddef hyd y nod marwolaeth ar grogbren, a hyny am ddim ond methu dyfod i fyny â chyflawni rhyw wâg—weithredoedd afresymol a gyfodai oddiar ei fympwy ef ei hun, megis methu taflu ysgub ŷd dros ben ysgubor fawr o'i eiddo, heb i'r ysgub gyffwrdd dim mewn un modd â'r ysgubor, a llawer o bethau ereill o gyffelyb ystyr afreidiol. Hefyd, dywed traddodiad yr ardal mai hen langc oedd March ap Meirchion, ac fod ganddo fachgen o was bach neu was gweini, tuag at yr hwn yr arferai yr hen langc, yn ol ei anianawd, fod bob amser yn dra brwnt; ac i'r bachgen un diwrnod ddigwydd bod yn cadw y gwartheg yn agos i Lyn Cae'r Meirch, ger glan y môr, lle y digwyddai i amryw forwyr ddyfod o . Angorfa Sant Tudwal i gyrchu dwfr i long fawr, ac i'r bachgen ddiangc ymaith gyda hwy, o achos bryntwch ei feistr tuag ato. Yn mhen llawer o flynyddoedd, wedi hwylio o hono gwrs ar led, daeth yn ei ol i Angorfa Sant Tudwal, tra erbyn hyn yn llywydd ei hun ar long fawr. Oddiyma, gan fod ei ddygasedd a'i ddialgarwch mor angerddol o elyniaethus tuag at ei hen feistr creulawn, ymdrechai yn egniol ddinystrio ei balasdy, sef Castellmarch, a hyny drwy ergydio ato o fagnelau mawrion; ond oherwydd isder y lle y safai, elai y bwledi—rai i'r dwnen a rhai i'r tir uwchlaw iddo, fel na chyffyrddid dim ag ef namyn ychydig ar ei gyrn. Yn ngwyneb y methiant hwn, daeth llu o'r morwyr i'r lan, ac yna aethant i Gastellmarch i ymofyn y meistr, yr hwn ar y pryd, oedd yn ei wely yn glaf, ac a'i dygasant ef i'r llong, fel na welwyd mohono, ac na chlybuwyd dim o'i hanes byth mwy. Eto, dichon, ddarfod i'r chwedl yn nghylch y clustiau march ddeilliaw oddiwrth beisarfau y teulu, rian o'r hon oedd yn dangos disgyniad y tylwyth o gyff âch Meirion Goch o Leyn; felly yn dwyn argent a chevron between three nag's heads erased sable, sef, cwpl arianliw rhwng tri phen ceffyl bychan toredig du.
VII. CROMLECH GANTHRIG BWT.
"Mae y lle hwn yn nghreigiau Mur Mawr, yn Mwlch Llanberis, y naill du i Ynys Hetws. Gelwir ef felly, meddir, am fod hen wrach o'r enw Ganthrig wedi bod yn trigiannu yno. Heb fod yn mhell oddiyno y mae lle arall a elwir Cwm-y-wrach. Dywed traddodiad fod teuluoedd yn colli eu plant yn y cymmydogaethau hyny rai oesau yn ol, a methid er pob ymdrech a gwybod beth oedd wedi dod o honynt. Tybiai rhai mai rhyw anifeiliaid gwylltion oedd yn dyfod i'w lladratta, ac yn eu difa yr un modd ag yr oeddynt yn gwneyd gyda'r defaid. Yr oedd pawb yn adnabod yr hen wrach oedd yn byw tua'r gromlech, a byddai y plant yn rhedeg mewn dychryn pan y gwelent hi yn rhywle; ond ni ddaeth i feddwl neb y byddai yn gwneyd dim i un o honynt. Ryw dro, yn mhen "hir a hwyr" darfu i gi oedd gydag un o weision y Cwmglas, ddod o hyd i ddarn o ryw ysgerbwd yn agos i'r man ag yr oedd Ganthrig yn trigo, ac wedi sylwi arno, gwelwyd mai llaw plentyn bychan ydoedd, ac adnabyddwyd hi fel llaw un o'r plant. oedd ar goll, drwy fod y bychan hwnw, o ryw anffawd, wedi tori un o'i fysedd. Drwgdybiwyd Ganthrig fel yr un oedd yn lladrata plant, a'i bod hefyd yn eu lladd ac yn eu bwyta. Wedi deall hyn, penderfynodd y trigolion ei gwylio, ac os byddai bosibl rhoddi pen arni, ac aeth un o'r dynion at enau ei hogof, a chlywodd lais plentyn yn wylo. Gwaeddodd ar Ganthrig i ddod allan, fod ganddo blant iddi; hithau a ddywedodd y deuai, ar ol iddi drin pen ei phlentyn.
Cyn hir daeth allan, a rhuthrodd y dyn ati, a thorodd ei phen ymaith â chryman, a dywedir iddi gael ei chladdu mewn lle a elwir Tir Coch, yn agos i Lanberis. Ar ol hyn cafodd plant y gymmydogaeth lonyddwch."
VIII. CWM CERWYN.
Saif y llecyn hwn yn agos i Nanlle. Dywed traddodiad iddo dderbyn ei enw oddiwrth yr arferiad o weinyddu cospedigaethau yn y lle, drwy fwrw yr hwn a gosbid i lawr mewn baril neu gerwin llawn o bicellau, i dreiglo ar hyd llechwedd y Mynyddfawr hyd i'r Cwm hwn. Y mae'r lle y cynnelid y llys, yn yr hwn y cyhuddid ac y dedfrydid y troseddwyr yn cael ei nodi hyd heddyw, a thybir mai ar hyd llwybr sydd yn arwain o'r hen Ben-yr-Orsedd hyd ben uchaf y cwm y byddid arferol a chludo y cerwynau neu y barilau.
IX. GLYN LLIFON.
"Yr oedd Gilmin Droed-ddu yn byw yn Nglyn Llifon, plwyf Llandwrog. Tyddynwr bychan ydoedd, ac yr oedd ar lawn gwaith gael "deupen y llinyn yn nghyd." Ryw noson breuddwydiodd, ac yn ei freuddwyd gwelodd ddyn yn prysur ddyfod ato ac yn ei hysbysu os elai ef (Gilmin) i Lundain y cai fodd i fyw. Breuddwydiodd drachefn a thrachefn, nes yr aeth yn flinder iddo, a phenderfynodd fyned i Lundain, lle bu yn gwybeta o'r naill fan i'r llall heb wybod beth i wneyd. Ond cyn hir sylwodd ar ryw greadur lled debyg iddo ei hun, yn segur gerdded ar hyd y fan. Hysbysodd Gilmin mai o Arfon yr oedd yn dyfod; chwarddodd y llall, a dywedodd ei fod yn breuddwydio yn barhaus, a'i fod yn gweled ei hun yn cael "trysorau" lawer yn yr "Hen Seler Ddu yn Arfon," a gofynodd i Gilmin a wyddai ef pa le yr oedd y fath le. Dywedodd Gilmin nas gwyddai. Ond nid gwir mo hyny, yr oedd yr "Hen Seler Ddu" yn ymyl Glyn Llifon, a mawr oedd pryder Gilmin wrth brysuro adref, rhag i'r hysbysydd gyrhaedd yno o'i flaen. Ond Gilmin oedd y cyntaf, ac i lawr i'r "Seler Ddu" ag ef; cafodd afael ar y trysorau," ond wrth ddyfod a hwynt oddiyno aeth ei droed i ryw bwll budr, a baeddwyd cymaint arno, fel y methodd a'i lanhau hyd ddydd ei farwolaeth. Y "trysorau" hyn fu dechreuad cyfoeth Glyn Llifon. Priodol yma yw adgofio mai nod dosbarthol ei lwyth oedd gwisgiad du am un goes, a darfod iddo yntau gael ei alw wrth y nod gwahaniaethol hwnw."
X. LLAM LLEIDR.
Ffos yn nhir Rhwng-y-Ddwyborth, plwyf Bodferin, yw "Llam Lleidr" wedi derbyn yr enw oddiwrth yr achlysur ddarfod i ddyn ddigwydd syrthio iddi tra ar y gorchwyl o ladrata cloch Eglwys Bodferin, yr hon Eglwys, nad oes yn aros o honi ddim ond ei lle, a hwnw wedi ei arloesi at wasanaeth amaethyddol. Yn ddiweddar, dywedai gwr y Ty Mawr, yn yr un plwyf, ddarfod i'w daid, a'i dad wedi hyny, golli ei hiechyd a marw oblegyd arloesi rhyw gymmaint ar y fynwent, ond na chymmerai efe ddim a weloedd erioed am ryfygu gwneyd y fath beth.
XI. LLANFAELRHYS.
Traddodiad a ddywed mai un Rhys o Ddeheubarth, yn amser prinder ymborth, a ddaeth a llongaid o flawd, ac a'i glaniodd yn nghyffiniau Aberdaron, ac a gymmerodd ystordy yn y gymmydogaeth i gadw ac i werthu blawd, a Blawtty y gelwir y lle hyd heddyw. Rhys a faeliodd yn dda yn y blawd; ac wrth weled cymmydogaeth eang heb dŷ i addoli Duw, efe a gyssegrodd y mael yn wirfoddol i adaeladu llan fechan yno, a galwyd, ac fe'i gelwir Llan—fael—Rhys. Annhebygol yw chwedl Rhys o'r De; mwy tebyg, mai rhyw berchenog lleygol o'r enw oedd y gwreiddyn, yr hwn a brynasai y Degwm.
Yr enw mwyaf cyffredin ar Eglwysi a gyfansoddir drwy flaenddodi y gair Llan o flaen enw y sant y cyssegrid yr Eglwys iddo, a llawer o chwedlau a adroddir yn nghylch amryw o honynt, heblaw Llanfaelrhys, megis Llanbedrog, yr hon a gyssegrwyd i Bedrog Sant, ond gan fod llawer o'r werin yn ormod eu bryd am ddangos eu medrusrwydd mewn geiryddiaeth drwy dynu ymaith rai llythyrenau, a gosod ereill yn eu lle, galwasant yr Eglwys yn Llan—pedair—ôg," yn hytrach na'i galw ar enw ei nawdd sant priodol; felly hefyd gyda Llanystumdwy—Llan ger ystum neu estyn (estyniad, rhediad) yr afon Dwy neu Dwyfor, yr hwn enw a briodolir i waith un o'r adeiladwyr yn galw am ddwy gareg, ond iddo gael un, ac o ganlyniad iddo drachefn waeddi "estyn ddwy;" gan hyny, yn ol y chwedl, rhaid mai "estyn ddwy" gareg yw sail yr enw. Cyffelyb yw y chwedl yn nghylch enw Llanberis, drwy briodoli i'r adeiladwyr yr amryfusedd o wneyd beudy yn lle Llan, yn ol archiad y cynllunydd, yr hwn pan ddaeth i'r olwg, ac ymddiddan ychydig, a dorodd allan yn lled gyffrous ei dymher yn y geiriau—"Ond Llan beris i!" eithr Llanberis a gafodd ei henw oddiwrth Peris, mab Helyg Foel, ap Gwlanog, yr hwn oedd sant a chardinal yn y chwechfed ganrif.
XII. MAEN DU'R ARDDU.
Saif y maen hwn ar lechwedd y Wyddfa. Dywed traddodiad yr â pwy bynag a gysgo noson ar ei ben, naill ai yn fardd neu ynte yn wallgof.
XIII. MAEN Y GERDD.
Saif y maen hwn ar dir Llwyn-y-Ffynnon, yn mhlwyf y Pistyll. Er ys oddeutu hanner can mlynedd yn ol, tynwyd ef i lawr o'i le, ac ar y pryd bu farw merch Llwyn y Ffynnon, a dywed traddodiad mai dyna yr achos o'i marwolaeth.
XIV. MEINI Y MOELFRE.
"Hyd o fewn ychydig flynyddau yn ol, yr oedd yn amlwg ar ben Cefn-y-Moelfre, yn nghymmydogaeth Dwygyfylchi, dri o feini yn sefyll oddeutu pedair troedfedd allan o'r ddaear mewn dull trionglog; un o honynt yn goch fel gwaed, y llall yn wyn, a'r trydydd yn debyg ei liw i'r llechfaen; ond y maent yn herwydd ystrywiau bechgyn yr ardal, wedi eu treiglo dros ael y bryn, ac yn awr i'w canfod wrth ei odre. Y traddodiad a gredid yn eu cylch ydoedd, fod Duw wedi eu gosod yno yn wyrthiol, er mwyn creu arswyd yn y trigolion rhag ymyryd â dim gwaith ar y Sabboth. Yr oedd tair o wragedd, rywbryd yn y cyfnod hwnw, wedi esgyn i ben y Moelfre i nithio ar foreu Sabboth, ac wedi taenu o honynt nithlen, dechreuasant ddal yr ŷd o flaen yr awel, ond daeth nifer o'u cymmydogion i'r fan gan eu ceryddu am halogi y dydd sanctaidd, ond diystyrasant y cerydd, gan fyned yn mlaen gyda'r nithio. Ar hyny, trowyd hwy yn geryg yn y fan, ac fe ddywedir mai lliw y dillad a wisgent ydyw lliwiau y meini, a bod eu nithlen yn nghyda'r ŷd wedi eu trawsffurfio yn bridd."
XV. METHLEM.
Hen balasdy o gryn fri gynt, yn mhlwyf Aberdaron, ydyw Methlem, lle y noda traddodiad i Eglwys gael ei dechreu, ond i'w safle, rywsut, gael ei gam leoli, yr hyn a barodd i'r defnyddiau a osodid i lawr yno yn ystod y dydd, gael eu trosglwyddo yn ystod y nos i lecyn arall, a elwid wedi hyny yn Bodferin. Wedi dechreu ar y gwaith o adeiladu, buan y caed allan nad y fan hono oedd lle priodol y llan i fod—faint bynag o honi a adeiladid yn y dydd, a dynid i lawr ac a gludid ymaith gan ysbrydion gwasanaethgar yn y nos, fel y gorfu i'r adeiladwyr roddi i fyny eu hymdrechion mewn ufudd-dod i amcan cyfrin yr ysbrydion, ac ymroi i adeiladu Eglwys ar lecyn o fewn ychydig latheni i'r man y saif yr Eglwys newydd bresennol, gan ddewis Merin fel eu sant a'u noddwr; a byth wedi hyny galwyd y lle cyntaf yn "Methlan," yn herwydd i'r plwyfolion ymgymmeryd a dechreu adeiladu Eglwys ar fan na ddylasid, ac iddynt fethu.
XVI. NANTLLE.
Y mae amryw draddodiadau yn nghylch deilliad yr enw hwn—un ydyw, ddarfod i helgwn rhyw foneddwr godi math o fwystfil hynod a elwid "Aurwrychyn" yn ymyl Llyn y Gadair, wrth odre mynydd Drws-y-Coed, yr hwn a ymlidiasant i lawr hyd at Bala-Deulyn, lle y daliasant ef, pryd y rhoddes yntau y fath lef resynus, yr hon a adseinid gan holl greigiau y gymmydogaeth; a dyna yn ol rhai, yw sail yr enw, sef Nant-y-llef.' Traddodiad arall a ddywed iddo gael ei enw oddiwrth ei fod gynt yn llawn o ddyrysgoed, ac o ganlyniad yn lloches i amryw fathau o fwystfilod rheibus, y rhai a arferent ysbeilio trigolion y gymmydogaeth mor lwyr o'u dâoedd, fel y penderfynasent oddeithio'r lle o ben bwygilydd, er mwyn bod yn sicr o fynu goruchafiaeth ar yr oll o honynt ar unwaith, a phan y goddiweddwyd hwy gan y tân amgylch-ogylch, yr oedd eu rhuadau yn arswydus yn gymmaint felly fel y galwyd y lle o'r herwydd yn " Nant-y-Llef," neu "Nanlle". Gall ymchwilwyr i athroniaeth enwau lleoedd gynnyg tarddiadau ereill i'r enw, megis ei fod yn ddeilliedig oddiwrth Llew neu Lleu Llawgyffes, yr hwn oedd fab i Gwydion ap Don; neu, ynte, mai Nantle yw gwir hanfod Nanlle, fod dodi at y gwreiddair nant yn treiglo yr ll yn l, sef Nantle, fel yn y gair Nantlys.
XVII. NANT GWRTHEYRN.
Tybir mai y gair yn gyflawn ydyw Gwrthdeyrn, a'i fod yn gosod allan esgyniad annghyfiawn a thraws-arglwyddiaethol y tywysog hwn i'r orsedd; ac yn ddiau nid yw y golygiad hwn yn cael ei wanhau yn ei hanes canlynol:—Trechodd ei gydymgeisydd Emrys Wledig, fel y bu gorfod iddo ffoi i Lydaw. Gosododd ei nai Cystenyn Fawr i farwolaeth, a "dycodd (medd y Trioedd) goron yr ynys o drais ac anrhaith." Coron yr ynys ydoedd yr awdurdod o fod yn Benteyrn. Yr oedd hyn yn cael ei hawlio gan ddau brif lwyth yr ynys, y Cymry a'r Lloegriaid; hanai Gwrtheyrn o'r olaf. Hawliai y Cymry drwy linach ddidor o Prydain ap Aedd Mawr; ac fel meddiannwyr cyntaf yr ynys, mai iddynt hwy yn unig y perthynai y cyfryw anrhydedd; ond drwy gyfrwysdra, creulonder, a brad, enillodd Gwrtheryn hi, a iawn y gallai y Cymry ei alw Gwrth—deyrn, a charn—fradwr ei wlad. Adroddir fod Gwrtheyrn, ar ol cael allan ei analluogrwydd i wrthsefyll y Saeson dichellgar, y rhai yr oedd efe wedi eu gwahodd i Brydain yn 449, wedi penderfynu dilyn cynghor y dewiniaid, ac adeiladu castell anorchfygol ar fynydd yn Eryri. Casglodd y defnyddiau yn nghyd, y rhai a ddiflanasant i gyd yr un noson. Mewn syndod, galwodd yn nghyd wyr doethion ato, a hwy a ddywedasant na safai y castell byth oni thywelltid arno waed plentyn wedi ei eni heb help tad. Chwiliwyd y deyrnas am un, ac o'r diwedd clywyd plant, wrth chwareu, yn trin un o'r bechgyn bach yn arw, ac yn ei alw yn annghenedlig. Dygwyd y plentyn a'r fam ger bron y brenin, a hithau a gyffesodd. Haneswyr a sicrhant mai Nant Gwrtheyrn, glyn neillduedig yn mhlwyf y Pistyll, oedd encilfan Gwrtheyrn, ar ol ei ddiarddeliad o'r orsedd. Dywedir iddo adeiladu castell yma, yr hwn, yn ol yr ysgrifenwyr mynachaidd a ddinystriwyd gan fellten, ac y lladdwyd Gwrtheyrn drwy yr achlysur. Y mae bys traddodiad eto yn nodi allan grug gwyrdd fel safle ei breswylfod, ac yn agos iddo y mae tomen a elwir "Bedd Gwrtheyrn," yn orchuddiedig yn awr â thywyrch, yn yr hon pan agorwyd hi flynyddau yn ol y cafwyd arch geryg yn cynnwys esgyrn dyn tal, a thybir mai gweddillion y brenin anffodus hwnw oeddynt; a gelwir y glyn, oherwydd yr amgylchiad crybwylledig, yn "Nant Gwrtheyrn."
XVIII. NEFYN.
Y traddodiad cyffredin am darddiad yr enw Nefyn ydyw ddarfod i ddau ddyn ryw oes bell bell yn ol ddigwydd cydgyfarfod ar lecyn agos i'r fan y saif tref Nefyn yn bresennol, ac i'r naill alw sylw y llall, fel gair rhwng ymddiddan, drwy ddyweyd "Dacw afr;" tra y dywedai y llall yn gellweirus,—"Ie, ne (u) fyn." Beth bynag am hynyna, arweinia yr enw ni yn ol i'r bummed ganrif at Santes o'r enw Nefyn, i'r hon y cyssegrwyd Eglwys y plwyf hwn; a thebygol mai dyna gnewullyn yr enw, er fod y naill a'r llall o'r unrhyw ffurf mewn sain—y blaenaf fel math o "resymoliad" i'r olaf.
XIX. OGOF WIL PUW. Un o'r cymmeriadau mwyaf adnabyddus yn ardal Llanbedrog, oddeutu cant a hanner o flynyddau yn ol oedd Wil Puw, yr hwn oedd rymus ei fraich a gwyllt ei ysbryd, heb arno ofn dyn na drychiolaeth. Meddai ar fath o long fechan yn gyfranog â dau neu dri o rai ereill o'r un gyffelyb natur ag ef ei hun, â'r hon y mynych fordwyent ol a blaen o hafan Fox Hole i ac o Gaerdydd, Iwerddon, Lerpwl, Llundain, &c., gan argludo pob math o nwyddau gogyfer a rheidiau brodorion morladron deheuol Lleyn ac Eifionydd; a pha gynnifer bynag o weithiau fyddai eu hymweliadau â hen froydd eu cymdeithion, amled a hyny fyddai eu nwyddau annholledig, megis gwirod, cwrw, halen, &c., er osgoi talu trethi trymion ryfeddol y llywodraeth. Dadforid y gwahanol nwyddau gan y cyfryw nwyddredwyr (smugglers) yn nghwr dwyreiniol Mynydd-tin-cwmmwd, gan eu dylusgo i fyny heb rwystr nac attaliad dros lechwedd sertharw a chreithiog y mynydd, i gongl dra annghysbell, ond cwbl ddiogel i ymgelu o afael swyddogion y gyfraith. A phwy a freuddwydiai feddwl am heldrin o'r fath mewn lle mor agos i wyneb crych-las y weilgi chwyddedig. O fewn cof yr hyna'n fyw, nid oes chwaneg ar gael o hanes Wil Puw nag a geir yn ei gyssylltiad â'i long, ac â'r hen ogof grybwylledig—yr olaf yn fwyaf neillduol, yr hon hyd heddyw sydd yn cadw yn ei chol yn soniarus ei enw ef fel ei phrif os nad ei hunig geidwad cysson ac ymddiriedol.
XX. YR OGOF DDU.
"Y mae llecyn yn dwyn yr enw yn nghilfach craig yn min y môr, rhwng Criccieth a Threflys, ac ymddengys mai tonau y môr fu wrth y gorchwyl ymaith y gilfach erchyll hon, lle y dywed chwedl i dri gwr wrth gerdd—Pibydd, Cornor, a Chrythor, droi wrth fyned o Griccieth i lys Bron-y-Foel i gadw neithior, yn ol arfer gwlad y pryd hyny. Yn nghwrs eu taith, a hi yn nos, daeth i'w cyfarfod foneddwr a'i osgordd yn ei ganlyn; ac wedi eu moesgyfarch, eu holi, a chael eu hanes, ceisiodd ganddynt ddyfod gydag ef y noson hono —y caent fyned i Fron-y-Foel nos dranoeth, a. thrwy iddo eu denu â swm mawr o aur, yn ngwyneb eu cyndynrwydd i gydsynio â'i gais, aethant o'i ol, ac fel yr oeddynt yn myned yn mlaen collasant adnabyddiaeth o'r wlad yr oeddynt yn myned drwyddi, yr oedd pob man yn hollol ddieithr iddynt y palas a'i neuadd eang ysblenydd, llawn o wychder, a llawn o erchylldod—y gweision, fel gweision tywysog, a'u harweiniasant. fel na welwyd mo honynt byth mwy.
Ond ryw dro, yn mhen "hir a hwyr," tra yr oedd un o fugeiliaid y Cefn Coch yn myned i fyny i gyfeiriad Moel Hebog, efe a glywai swn Pib yn chwareu tôn newydd glysaf a glywodd erioed yn ei ymchwil i gael allan o ba le yr oedd y swn yn dyfod, daethai at agen mewn craig, gan floeddio, a dyna lais o'r graig yn ei ateb—llais o enau y Pibydd, yr hwn a adroddodd i'r bugail yr holl helynt a fu arnynt, gan chwanegu na chaent byth mwy ddyfod i rodio gwyneb daear. Yr oedd y bugail yn gerddor da ac efe a ddysgodd y dôn, ac a'i galwodd yn
"Ffarwel Dic y Pibydd;" a'r man y clywodd y gerddoriaeth yn "Fraich-y-Bib." Bugail arall hefyd, tra yn gwylio'r praidd yn y mynydd,. a glywai sain corn yn chwareu ton newydd, ond gan nad oedd efe yn gerddor, ni allai ei dysgu, eithr efe a alwodd y fan yn yn "Fraich-y-Cornor.' Y Crythor, yn ol y chwedl, a allodd ryw fodd neu gilydd, ddyfod allan drwy ogof yn nghwr gogleddol Moel Hebog, eithr ni allodd ymlwybro ddim. pellach na Llyn-y-Ddinas, cyn anadlu ymaith ei einioes. Claddwyd ef yn y fan hono, ac adnabyddir ei fedd hyd heddyw wrth yr enw "Bedd y Crythor Du," a'r ogof yn Nyffryn Meillionen, wrth yr enw "Ogof y Crythor Du." Y mae llen y werin hefyd yn adrodd mai'r wladwriaeth oedd drwy gydol yr amser yn ymawyddu am wybod y dirgelion a berthynai i'r hen ogof, ac iddi o'r diwedd anfon tri o ddynion i'w harchwilio, a chanddynt gyda hwy bib, corn, a chrwth, i'r diben o'u canu, fel y gallai'r ysbiwyr ag oeddynt wedi ymwasgaru, yn ol y cynllun, ar hyd a lled y wlad, glywed eu lleisiau, i'r diben o gael allan ben draw yr hen ogof groes-ymgroes ac annghysbell, yr hyn a gafwyd, drwy i'r Pibydd chwareu ei bib yn y llecyn ag y mae "Braich-y-Bib" yn sefyll, a'r Cornor seinio ei gorn yn "Nghwm Cornor," a'r un modd y Crythor yntau mewn lle ag sy hyd heddyw yn dwyn yr enw "Tyddyn Crythor," yn mhlwyf Llanystumdwy. Dywed traddodiad yn ddifloesgni fod yn y brifffordd, ger Dolbenmaen, ryw swn gwag, uwch ben y gaingc hon o'r ogof, i'w glywed i'r sawl a chwenycho sylwi ar y cyfryw beth.
XXI. OGOF Y GWR BLEW.
"Yn nhir Bwlch Mwlchan, tua milldir a hanner yn uwch na Dinas Emrys, yn Nant Gwynant, y mae ogof, neu geudwll dyfrllyd, a elwir wrth yr enw uchod. Llên y werin a ddywed mai mab i ryw bendefig urddasol a ddaeth yma o ryw fro estronol, ydoedd y Gwr Blew, ac iddo aros ar ol ei gyfnesafiaid, pan oeddynt wedi bod yn cynnal gwarchae ar ein cyd-wladwyr o amgylch godreuon y Wyddfa. Pan ganfu ei fod wedi colli ei gyfeillion, efe a ddiangodd i'r lle hwn, ac a wnaeth ei drigfod yn yr ogof, gan fyw yn hollol ar ladrad, a byddai yn dyfod allan i gyflawni ei ladradau wedi i'r nos daflu ei mantell dros y wlad. Gan fod ei ddull o fyw yn wyllt, tyfodd cnwd o flew drosto fel eidion, ac yr oedd yn ddychrynllyd yr olwg arno. Buwyd am hir amser yn methu yn deg a dyfod o hyd i'w guddle; ond pa fodd bynag, un diwrnod oer ac eiraog, daeth at dŷ o'r enw Ty'n'rowallt, a phan oedd yn ceisio ymwthio i mewn drwy'r ffenestr, cipiodd gwraig y ty fwyall a thorodd ei law ymaith â hi. Ar hyn efe a ddiangodd; ond yr oedd ol y gwaed ar yr eira yn dangos ei lwybr, ac felly yn arwain tua'i guddfan, a dyna y ffordd y deuwyd o hyd i'w ogof. Wedi darogan llawer, ac i dalm o amser fyned heibio, penderfynwyd ceisio ei ddal. Cynlluniwyd i groni yr afon, yr hon nad oedd ond ychydig rhyngddi a bod yn gydwastad â gwaelod yr ogof, yr hyn a fyddai yn sicr o'i dynu allan, neu ynte ei foddi yn ei ffau; ond pan ddechreuodd y dwfr lenwi ei ogof, dyma ef allan, ac ymaith ag ef dros lechwedd y Lliwedd fel milgi, ac ofer oedd anelu bwa ato, oblegyd ni thyciai y saethau er eu cyflymed, i'w orddiwes, ac ni chlywyd gair o'i hanes am hir amser ar ol hyn. Ond un boreu, yn mhen "hir a hwyr," caed achlust ei fod yn byw yn ymyl Maen Du'r Arddu, mewn agen yn y graig, ac aed yno i'w hela; ond cyn braidd glywed eu trwst yn neshau ato, cymmerodd y goes, a thros y Wyddfa, ac i lawr drwy Gwmllan, a thros Flaen Nanmor, i ogof arall, sydd eto i'w gweled wrth ochr y Cnicht. Pa hyd y bu yno, ni ddywedir; ond byth ar ol hyn, cafodd lonyddwch, ac nis gwyr neb pa bryd y bu farw."
XXII. PENYCHAIN.
Saif y llecyn hwn yn mhlwyf Abererch. Gellir cael mwy nag un ystyr, yn ol teithi tarddystyrol i'r enw, ond dichon mai ystyr arall y sy gywir, sef, y traddodiad ddarfod i Gwyddnaw Garanhir golli ei dir drwy orlifiant y môr, a galaru o hono am hyny. Gall ychain fod yn llygriad o ochain; ac os Gwyddnaw oedd y colledwr mwyaf, ei lef ef oedd y Pen-ochain (ychain) yn ol iaith y bardd:
Ochenaid Gwyddnaw Garanhir
Pan droes y dôn dros ei dir!"
XXXIII. PLAS Y NANT.
Yma nis gallwn wneyd yn well na dyfynu o un o ysgriflyfrau y diweddar Owain Gwyrfai fel hyn: "Uchelwr o'r enw Rowlands a aeth o Nant y Betws i Lundain yn fasnachydd, sef siopwr, oddeutu y flwyddyn 1660: ac yn y flwyddyn 1666, torodd pla ofnadwy yn y dref hono, a gyrodd oddeutu y drydedd ran o'r trigolion i'w beddau. Yn nechreu y pla cafodd Rowlands y clefyd, ond efe a achubwyd o hono, ac yna yr oedd y rhai hyn yn ddihangol; felly efe oedd yr unig un yn y siop lle'r oedd yn aros i ofalu am y teulu, y rhai oll a fuont feirw ond efe o'r pla. Yna galwyd am dano i'r siop nesaf, er gofalu am y teulu megis yn y siop gyntaf, a'r rhai olaf hyn a adawsant eiddo lawer iddo, a siopau ereill yn gyffelyb. Wedi darfod y pla, penderfynodd ddyfod i Nant y Betws i fyw, ac efe a lwythodd un long a llestri arian, dodrefn, &c., i ddyfod i Gaernarfon; ond dihangodd y llong hono fel nad ellid gwybod am dani, yna cariwyd yr holl eiddo gweddill ar geir llusg (nid oedd troliau y pryd hwnw na cherbydau a allai lwybro Cymru) o Lundain i Blas y Nant: ac ar ol neu ar hyn adeiladwyd y palas a nodwyd, yn ol careg yn y mur yn y flwyddyn 1667.
Megis y dywedwyd am Rowlands a'i Balas a'r Pla. Felly y clywais fy anwyl fam yn dywedyd laweroedd o weithiau. Hefyd, felly y clywais hen wraig o'r enw Elizabeth Williams yn dywedyd, yr hon a anwyd yn Mhlas y Nant, ac yn cofio am Ema, Aeres y Caerau, yr hon oedd ferch i'r diweddaraf o'r Rowlands o'r Nant. Yr oedd Elizabeth Williams yn 80 oed er's hanner can' mlynedd yn ol pan y cadarnhaodd chwedl Plas y Nant wrthyf fi, Owen Williams, Waunfawr, yn 70 oed, 1860, er Ionawr. Anhawdd cael traddodiad cywirach."
XXIV. PONT ABERGLASLYN.
Ychydig os neb o drigolion ardal Beddgelert, hanner can' mlynedd yn ol, oedd yn amheu nad y diafol a adeiladodd ran o Bont Aberglaslyn. O ba le y daeth i gyssylltu ei enw â nifer mor fawr o hynafiaethau ein gwlad, nis gwyddom. Gallwn feddwl, heblaw y drwg a wnelai, ei fod gynt yn cyflawni llawer gwasanaeth da, gan yr arferai ymwneyd cymmaint âg adeiladu pontydd, Eglwysi, &c. Ond chwareu teg iddo, fe gyssylltir ei enw yn aml, yn lled ddiachos, âg enwau lleoedd neu wrthddrychau.
XXV. SAETHON.
Gyda golwg ar ystyr yr enw Saethon, yn mhlwyf Llanfihangel Bachellaeth, y mae chwedl i'r perwyl a ganlyn yn cael ei chofnodi, sef, mai prynu y tir a wnaed ar y cyntaf am saith oen, ac yna adeiladu ty arno a'i alw yn Saith Oen, ond i'r enw yn nhreigl amser gael ei lygru i Saethon. I gywiro annghywirdeb y chwedl i Saith Oen gael ei lygru yn Saethon, y gwirionedd yw mai y Saethon a lygrir yn y Saith Oen, oblegyd heliwr dewr drwy saethu oedd Saethon—on yn olddawd i Saeth, i'w wneyd yn Saethon, fel y gwna on yn olddawd i wr yn Wron.
XXVI. TRAETH Y LAFAN.
Dyna enw y Traeth ag sydd yn cyrhaedd o Fangor hyd Lanfair Fechan. Dywed traddodiad mai Traeth Cyflafan, Traeth Llefain, neu Draeth Wylofain yw ystyr yr enw, oddiwrth alaethgri y trigolion pan orlifwyd eu tir tua diwedd y bummed neu ddechreu y chwechfed oes, yn nghylch yr adeg y bu amrywiol ddirgynhyrfiadau ar hyd arfordiroedd Prydain. Dywedir fod y tir a orllifwyd yma yn nghylch pedair milldir bob ffordd, ac y gwelir yn amser trai, amryw furddynod ar hydddo, ac y gellid yn ddiweddar ganfod hen ffordd yn cyfeirio o Ynys Seiriol tua Phenmaen Mawr. Nodir mewn rhai ysgrifeniadau mai Tyno, neu Ddyffryndir Helig ap Glanog, oedd hen enw Traeth y Lafan; gelwid ef hefyd Maes glasog. Os ydym i goelio y chwedl, yr oedd Helig ap Glanog yn ddiareb yn y fro am ei anuwioldeb; gormesai pawb a allai, gan chwanegu ei etifeddiaeth ar draul ysbeilio y diamddiffyn o'u eiddo; ond gwaedd y trueiniaid a gyrhaeddodd y nefoedd. Ar frig hwyr, fel yr oedd y pendefig allan yn rhodio wrth ei bleser ar ei diroedd llydain, aflonyddwyd ar ei heddwch gan lais yn yr awyr yn dywedyd yn groew, "Daw dial! Daw dial! Daw dial!" Yr hyn a barodd iddo gyfranogi o deimlad y brenin a welsai y darn llaw yn ysgrifenu ar galchiad y pared. Clywodd yr un lleferydd lawer gwaith; ond yn hytrach nag edifarhau am ei bechod, ac adfer yr eiddo i'w iawn berchenogion, ymhyfhaodd yn ei ddrygioni; a thrwy fynych glywed y llais awyrol, daeth yn ddigon beiddgar i ofyn, "Pa bryd y daw?" Pan ei hatebwyd, "Yn amser dy blant, dy wyrion, a'th esgynyddion." Ar y dybiaeth y caffai ef ddiweddu ei oes mewn tawelwch yn gyntaf, ymroddodd yn fwy nag erioed i'w hen bleserau pechadurus; ac ar noson gwledd a rhialtwch mawr yn y llys, ar ddydd pen blwydd un o'r hiliogaeth, fel yr oedd y forwyn yn cyrchu chwaneg o'r medd o'r seler, gwelai er ei dychryn y môr yn suo i fewn i'r ty, a mynegodd hyny i'w chariady telynor. Heb golli amser, rhedasant i fyny i'r Penmaenmawr am ddiogelwch, a dilynwyd hwy gan gynnifer o'r teulu ag oedd alluog i ddiangc: er eu mawr alar, gwelent yn ngoleuni y boreu fod Tyno Helig, ei berchenog penwyn, a rhai o'r teulu gydag ef, o dan y tonau. Chwedleuir hefyd, ddarfod i bawb ag oedd yn y llys ddiangc i fynyddoedd Eryri am nodded, a darfod i Helig ap Glanog (yr hwn a goresgynws y môr ei dir), gofleidio buchedd grefyddol; a'r un modd hefyd y gwnaeth ei feibion. Bernir mai yr un amser y torwyd y cyssylltiad hwng Mon ag Arfon—y boddwyd Tref Graianrhyd yn arfordir Clynog Fawr—Cantref y Gwaelod, &c.
XXVII. Y FOEL BACH.
Amaethfa fechan yn mhlwyf Llanfihangel Bachellaeth yw y Foel Bach, yr hon, hyd yn ddiweddar, a berthynai i etifeddiaeth Madryn, a dywedir mai ei hardreth flynyddol am oesoedd oedd cyw gwydd: disgwylid i'r penteulu fyned a'r cyw i Fadryn, o flaen gwyliau y Nadolig.
XXVIII. Y GWYNFRYN.
Hen balasdy ag iddo ei gyssylltiadau hanesyddol yn mhlwyf Llanystumdwy. Credir gan y werin, yn enwedig yr hen bobl, pa bryd bynag yr erddir y "Cae o flaen y drws," y bydd yr etifedd farw y flwyddyn ganlynol.
{{c|XXIX. Y GYMWYNAS.} Saif y llecyn hwn yn mhlwyf Beddgelert. Traddodiad a ddywed mai drwy i Awdwr Natur wneyd y Bwlch y galwyd y lle yn Gymwynas, drwy yr hyn yr attaliwyd y dwfr i lifeirio dros filldiroedd o dir gwastad er cymwynas â'r preswylwyr.
XXX. YNYS YR ARCH
Saif y llecyn hwn yn mhlwyf Clynog. Y chwedl am darddiad yr enw sydd yn lled hynod. Hawliai tri o leoedd gorff yr hen Sant Beuno i'w gladdu, sef Beddgelert, Clynog, ac Enlli; a thra yr oeddys yn cludo y Sant i'w gladdu, rhoddwyd y corff i lawr er mwyn i'r cludwyr gael gorphwys. Gan y llafur, syrthiodd trymgwsg arnynt oll yn y lle. Erbyn iddynt ddeffroi, gwelent fod yno dri arch,[5] a ddygid yno gan yr hen sant, ac yntau, er boddloni y tri lle, a ymliosogodd yn dri chorff—un i bob un o'r tri arch; a galwyd y llecyn o achos hyny yn Ynys yr Eirch, eithr gan dreigl amser a drowyd o'r rhif liosog i'r rhif unigol, yn Ynys yr Arch.
XXXI. Y WERN FAWR.
Hen balasdy gynt ydoedd y Wern Fawr, yn mhlwyf Llanbedrog, mewn cilfach isel, amgauedig, ac yn fynych yn fan llwydrewog a tharthog, a hyd yn hyn y mae pob peth oddifewn ac oddiallan iddo yn tystio i'w hynafiaeth, ac yn profi ddarfod iddo fod yn lle enwog iawn yn yr hen amseroedd. Dywed traddodiad ddarfod ar briodas mab Cefnllanfair âg aeres y Wern Fawr, ryw ddau gan' mlynedd yn ol, wisgo y ffordd gan bobl y plwyf bob cam o'r Wern i Lanbedrog, pellder oddeutu milldir, efo gwlanen wen; a gwisgwyd y ffordd ar ddiwrnod y gladdedigaeth yr un modd â gwlanen ddu, er dangos eu parch iddo, a'u teimlad dwfn yn herwydd ei farwolaeth; oblegyd dywedir am dano ei fod yn hynod ar gyfrif ei elusengarwch, a'i fywyd dichlynaidd.
XXXII. TUDWEILIOG.
Tudweiliog sydd enw a roddwyd ar blwyf yn Lleyn, yn y gorphenol pell, pryd yr oedd yr holl arwynebedd rhwng Lleyn a'r Iwerddon yn fath o gorsdir ag y gellid ei dramwy ol a blaen ar draed. Dyma fel y bu, yn ol tystiolaeth ceidwadwyr llên a thraddodiad:—Yr oedd Person Tudweiliog yn dal bywoliaeth hefyd yn yr Ynys Werdd, Gwasanaeth yn Lleyn yn y boreu, a ffwrdd a'r Person ar gefn ei geffyl—Weiliog, tuhwnt i'r gors at wasanaeth y prydnawn. Adref at y gosber—ar y daith, suddai traed y ceffyl mewn rhai manau, arafai hyny beth ar ei gerddediad, "toc a da," clywai y gwr parchedig gloch ei Lan yn galw ar y plwyfolion—fod amser dechreu'r gwasanaeth gerllaw, ac ebai ef yn ei ffrwst wrth ei geffyl, "Tud Weiliog!" Eraill o'r rhai a gyfrifant eu hunain wedi ymryddhau o hualau anwybodaeth, a fynant mai fel hyn y cafodd y lle yr enw: Ddarfod i ddyn gyda'i geffyl nofio o'r Iwerddon i Leyn—iddo gyrhaedd ychydig o flaen y ceffyl, yr hwn a elwid Weiliog, ac yna iddo argymhell y ceffyl i ymegnio am y lan gyda'r gwahoddiad gwresoglawn "Tud Weiliog!" "Tud Weiliog!" Diau mai llygriad o seinio y gair "tyr'd" neu tyred oedd y tud" hwn. Beth bynag am hyny, dwy chwedl o gyffelyb natur wedi glynu wrth Tudweiliog yw'r ddwy chwedl flaenorol—yr olaf yn fath o ddrychiolaeth o'r flaenaf, a'r naill mor wir a'r llall.
PENNOD VIII.
CHWEDLAU ARIAN CUDD.
LLAWER O chwedlau digrif a dyddorol sydd yn nglŷn a hen drysorau neu arian cudd, y rhai ag y credid mor gryf ynddynt yn yr amser gynt—credid y byddai crochan yn llawn o aur yn y fan y gwelid blaen yr enfys ar y ddaear, wedi ei guddio yno gan hen gybyddion, ac y byddai crocheneidiau o aur yn nghudd mewn ogofau ac o dan geryg mawrion ar hyd a lled y wlad, a rhoddid ar ddeall i'r werin hygoelus y byddai ellyllon yn eu gwylio, gan godi ystormydd peryglus os aflonyddai neb arnynt, eithr er maint y dirgelwch a'r perygl oedd gyssylltiedig â hwy, yr oedd gan yr hen bobl gyfarwyddiadau cyfatebol i hyny tuag at gael gafael arnynt, megis y rhai canlynol:—"I gaffael arian cuddiedig, ysgrifenwch y marciau isod ar bapyr gloew, ar awr y bo y lleuad yn llawn, ar ddydd Sadwrn, a rhowch o yn y fan lle bo chwi yn meddwl bod arian; ac os bydd, fe gymmer y papyr dân o hono ei hun. (Yna y canlyn nifer o farciau). Eto, os ydych chwi wedi colli rhywbeth y byddai o bwys genych gael gafael arno yn ddiffael, dod y llythyrenau hyn ar dy glust pan elych i gysgu, a thi gei weled cyn y boreu y fan y bo y peth a gollech, nid amgen na rhai hyn—i—u—f-y-c—y—ll—z—o—phules—e."
"Mewn cyssylltiad â Chlogwyn yr Ogof a Chareg y Gwalch, yn Nant Conwy, adrodda Giraldus Cambrensis chwedl hynod yn nghylch y dyn a gollodd ei ffordd yn y niwl, ac a grwydrodd i Ogof Dafydd Siencyn, lle y gwelodd y crochanaid aur berwedig, a lliaws o ryfeddodau ereill nad oes neb yn y dyddiau hyn wedi bod yn ddigon ffodus i'w darganfod. Y mae gan Mr. Wright, hefyd, yn ei Scenes in South Wales, chwedlau dyddorol am ryw ddynion penchwiban a gloddiasant i mewn i'r Ogof hono, ac ar ol iddynt fyned i mewn mor bell ag y cymhellai eu dewrder hwy, gwelsant gist dderw fawr wedi ei chylchu yn gryf â haiarn, a bwch gafr anferth yn sefyll ar ei cheuad, ac yn troi ei ben oedranus i ddilyn symudiadau yr ymchwilwyr. Mae y gist yno eto, ac nid oes debygolrwydd i neb gael ei gynhyrfu ag awydd neillduol i fyned yno i'w chwilio, gan y lled awgrymir fod y Bwch hwnw yn perthyn i ryw ddosbarth o fodau nad yw y natur ddynol yn caru eu presenoldeb."
"Traddodiad a ddywed ddarfod i ddau frawd —bugeiliaid defaid, fyned i Giltwllan, plwyf Llanllechid, i fyny i'r Benglog, i edrych am eu defaid. ac yno mewn lle annghysbell, canfu yr ieuengaf dwll yn arwain i ogof ardderchog, yn nghanol yr hon yr oedd bwrdd crwn, ac ar y bwrdd bentyrau rheolaidd o aur ac arian, ond ni feiddiai fyned i mewn i'w cyrchu, am fod yn sefyll yn eu hymyl filgi â llygaid tanllyd yn tremio arno, ac yn barod i ruthro iddo, os meiddiai fyned i mewn. Ar hyn aeth y bachgen yn ol at ei frawd, ac wedi ei oddiweddyd adroddodd iddo yr hyn a welodd, a throdd y ddau yn ol i chwilio am yr ogof; ond er cymaint eu hawydd a'u hymdrech, methasant a'i chael.
Dro arall, aeth gwr ieuangc o'r un ardal i geseiliau y mynyddoedd, yn nghymmydogaeth Llyn Ogwen, a darfu iddo yntau ganfod ogof, ac o'i mewn gyflawnder o lestri pres, o bob ffurf, ac yn ei lawenydd, neidiodd i gymmeryd gafael yn un o'r llestri i'w dwyn ymaith, ond Och! yr oedd yn rhy drwm i un dyn allu ei symud; gan hyny, gyda'r bwriad o fyned yno dranoeth gyda chyfaill i'w gynnorthwyo, efe a gauodd enau yr ogof, a phan orphenodd daeth i'w feddwl fod ereill fel yntau, wedi dod o hyd i ogofau, ond ddarfod iddynt hwy, druain, drwy eu diffyg gofal, eu colli drachefn; a rhag i'r fath anffawd ddigwydd iddo yntau hefyd, meddyliai am roi ryw farc neu nod ar y fan, er ei gynnorthwyo i'w chael drachefn, ond bu yn hir yn methu cael dim a'i boddlonai ar fater mor bwysig; o'r diwedd daeth i'w feddwl naddu ffon oedd yn ei law, a chymmeryd ei hasglodion yn arwyddion ffordd iddo ddyfod yno drachefn. Boreu dranoeth ddaeth, a chychwynodd ef a'i gyfaill i'r mynydd yn hyderus i geisio y trysorau o'r ogof. Ond gyda eu bod yn y lle ag yr oedd y llwybr asglodion i ddechreu, ni welai gymmaint ag un asglodyn, oblegid, meddir, yr oedd y Tylwyth Teg wedi bod yno yn eu casglu bob un! Ac felly aeth y cais hwn eto yn ofer.
Mae traddodiad yn dyweyd mai Gwyddel gaiff y trysorau hyn ryw dro, ac fel hyn, meddir y bydd:—Fe ddaw Gwyddel yn fugail defaid i'r gymmydogaeth, ac ar ei waith yn myned i'r mynydd i fugeilio, ar un o'i deithiau, pan welo ffawd yn dda, fe red llwdn du, penfrych o'i flaen, ac fe red rhag ei flaen i'r ogof, a'r bugail a red i mewn ar ei ol, a phan ar ei ddyfodiad i mewn, er ei fawr syndod, efe a genfydd y trysorau ac a'u cymmer. Fel hyn, meddir, y dychwelir eiddo y Gwyddelod iddynt eto mewn rhyw oes.
Oddeutu can' mlynedd yn ol, yr oedd Meillionen yn mhlwyf Beddgelert yn cael ei chyfaneddu gan ddau hen langc o Leyn. Un dechreunos, yn nghanol y gauaf, tra yr oedd yr hen langciau a'u gweision yn llawen ymgomio yn nghyd wrth eirias o dân mawn. "Ust,"meddai un o honynt, "mae yna rywun yn y drws," a chyda hyny daeth dieithrddyn i mewn gan ddywedyd,—"Bendith Duw yn y ty hwn," yn ol dull yr hen bobl dda er ys talm; rhoddwyd lle i eistedd iddo wrth y tân, ac estynwyd bwyd iddo. Wedi gwneyd yr hyn a allent i'r gwr dieithr, aed yn mlaen gyda'r chwedleua ond pur ychydig o sylw oedd y gwr dieithr yn ei wneyd o ddim a ddywedid ganddynt, ac ymddangosai fel pe buasai rhywbeth pwysig ar ei feddwl; o'r diwedd aeth yn adeg myned i orphwys, ond cyn myned erfyniodd y dieithrddyn am gael dweyd ei neges, "oblegid heb hyny," meddai, "nis gallaf gysgu munud yn fy ngwely." Caniatawyd ei gais yn rhwydd, ac yntau a ddywedodd mai gwr o Fon oedd efe, a'i fod yn cael ei flino fyth a hefyd gan freuddwydion yn nghylch rhyw drysorau gwerthfawr oedd yn nghudd mewn rhyw hen furddyn. "Yn fy mreuddwyd," meddai, "gwelwn hen wr bychan yn dod ataf, gan erfyn yn daer arnaf ddod gydag ef at yr hen furddyn, y cawn i a'm tylwyth ddigon o fodd i fyw os y deuwn." Gofynwyd iddo a wyddai yn mha le yr oedd y murddyn, a pha enw oedd arno; atebai yntau y gwyddai—fod yr hen wr a welsai efe yn ei freuddwyd wedi dweyd mai Hafod Ernallt oedd enw y murddyn, a'i fod ar dir Meillionen, ac fod y trysor dan gareg mewn rhyw gornel neillduol o hono. Gofynodd un o'r hen langciau iddo a allai efe adnabod y lle pe dangosid ef iddo.
"O gallaf yn sicr," meddai yntau. "Y mae yn dda genyf hyny," meddai yr hen langc, "oblegyd nid ydwyf yn gwybod am furddyn o'r enw yna ar y tyddyn yma, ond gwn am furddyn tebyg i'ch darluniad ar fferm o'r enw Meillionen, yn mhlwyf Ceidio yn Lleyn. Ai tybed eich bod wedi camgymmeryd y ddau le?" Taflodd hyn y gwr o Fon i gryn benbleth, a chydsyniodd y gallai ei fod wedi camgymmeryd. Boreu dranoeth cyn caniad y ceiliog, cyfododd yr hen langciau a chyfarwyddasant y gwr dieithr i fyned tua Lleyn, ac aethant hwythau eu dau i'r hen furddyn, ac wedi chwilio ychydig daethant o hyd i gareg, ac o dani caed y trysor, fel y dywedwyd. Yn mhen deuddydd neu dri dychwelodd y breuddwydiwr o Leyn, wedi ffaelu dod o hyd i'r murddyn, a phan oedd yn dyfod drwy'r bwlch at Meillionen adnabu Hafod Ernallt, ac aeth yno, canfu y gareg, ac wedi iddo ei chodi canfu, er ei alar, fod rhyw rai wedi bod yno o'i flaen "
Y mae yn Mryn y Ffynnon, plwyf Llanystumdwy, gareg fawr, a thraddodiad yn mynegi fod crochanaid o aur yn nghadw dani; ond hyd yn hyn ni welodd ffawd yn dda ganiatau i neb gyffwrdd â hi, oblegyd mor fuan ag y cynygid ymyryd â'r gareg gyda'r bwriad o'i threiglo ymaith, gwgai y ffurfafen, a deuai yn ystorm o fellt a tharanau mor hynod, fel mai hawdd i bawb wybod am ba beth.
Er ys oddeutu 60 mlynedd yn ol, tra yr oedd hen wr o'r enw Ifan Tomos, yn tori tywyrch yn Mynydd Tin-y-Cwmmwd, plwyf Llanbedrog, llithrodd ei haiarn gwthio ar hyd gwyneb careg fawr, wastad: ceisiodd ei chodi, ond yr oedd y gareg yn rhy fawr; heblaw y dechreuai y wybr glir geulo a brochi, fel ag i ymbarotoi at amddiffyn y gareg a'r hyn oedd dan ei hachles. Aeth yr hen wr adref i geisio cynnorthwy, ond wedi dychwelyd drachefn at y llecyn yr oedd y gareg,. nid oedd yno olwg arni i'w gael, ac ni welwyd mo honi mwy; ond barn doethion yr ardal am dani yw, mai cuddio crochanaid anferth o aur o tani y mae hi hyd yn hyn.
Digwyddodd un tro i Robert Williams, Bodlas, ganfod Padell Bres yn guddiedig gan gareg fawr yn ochr Carn Fadryn; ac yna aeth tua chartref i ymofyn cynnorthwy rhai o'i gymmydogion i'w chodi o'i chuddfan, gan naddu mân asglodion o'i ffon â'i gyllell, o ymyl y gareg nes cyrhaeddyd adref. Ond wrth fyned yn ol, a cheisio darganfod yr asglodion a naddasid ganddo ar hyd y ffordd, er mwyn nodi allan y llwybr, ni welid dim un o'r asglodion, ac, yn ganlynol, ni welwyd byth mo'r Badell Bres.
Yr ol llên y werin, hen greiriau tra hynod oeddynt selerydd yr hen gestyll, y meini hirion, a'r cromlechau—cydbwys yn eu gwerth cyssegredig â'r crochaneidiau aur, oblegyd os ymyrid â'u seiliau hwythau, parod oedd magnelau yr awyr i'w hamddiffyn ar y cyffyrddiad lleiaf; byddai y taranau yn bygynad nes braidd hollti y creigiau, a'r bryniau cyfagos yn ymddangos fel pe ar ymarllwys draws eu gilydd; a'r mellt yn plethu mor agos a mynych fel y gallai un lled gyflym ac eofn danio ei bibell yn rhwydd yn y fflam; a dyna, mae'n debyg yw y rheswm na aflonyddwyd arnynt hyd yr oes oleu hon, pryd y mae rhyddid i bob un wneyd a fyno â hwy, drwy orthrechiad plaid geidwadol hen bethau, yn senedd yr elfenau, gan blaid y chwilfriwio a gwneyd pobpeth o'r newydd; a dyna, fel yr ymddengys, yw yr achos eu bod yn cael eu dinystrio yma ac acw ar hyd a lled y wlad heb i'r gofal lleiaf gael ei arddangos tuag atynt.
O berthynas i gyfnod yr "Arian Cudd," mae yn briodol sylwi fod eu bathiad a'u hamseriad yn profi rhywbeth, oblegyd y mae yn fynych fwy o hanes mewn geiriau a rhifnodau nag y mae yr amlaf—rif o bobl wedi ei ddychymmygu.
"Yr oedd y Cymry yr adegau hyny yn llawn helbul, gelynion i'w gorthrymu, a'u tywysogion yn ymryson pa'r un a gai dreisio ei wladwriaeth greulonaf; coroni un heddyw, y llall yfory yn annghyfanneddu ei derfynau, gan losgi a lladd â thân a chleddyf y cwbl o'i flaen. Yr oedd y dyn a anrheithiai ei gymmydog o'i arian neu ei ddâ, yn deilwng o uchel swydd yn y fyddin am ei wrolder. Oferedd oedd i wr wrth hau ddisgwyl ffrwyth ei lafur; a dyna'r achos y mae cymmaint o hen fathau o ddarnau arian wedi eu cael amryw weithiau yn y ddaear, canys gwell a fyddai gan y naill blaid guddio eu cyfoeth mewn ogofeydd a llochesau, nag iddo ddigwydd i ddwylaw y blaid arall."
PENNOD IX.
HEN GAWRI.
GOLYGA y gair "cawri" ddynion cryfion, geirwon, crwydrol, anferth o faint, daearol eu hamcan, wedi ymdaflu i fywyd penrhydd, cyffrous, a rhyfelgar, arferol o ymosod ar dylwythau llafurus a heddychlawn, er mwyn ysbeilio eu heiddo, a difrodi eu hanneddau. Barna gwyddonwyr fod dynion o gyrff llawer mwy na'r rhai presennol wedi bod ar y ddaear, ond fod eu hiliogaeth, fel eiddo y Mammothiaid mawrion, wedi diflanu. Yr oedd llawer iawn o gawri yn y dyddiau gynt, ac, yn ol hen hanesion, yn cyflawni llawer o gampau gorchestol tu hwnt i ddim all neb yn yr oes hon ddirnad. Ond beth am hanes cawri ein gwlad ni? Y mae lleoedd hwnt ac yma yn dwyn yr enwau "Barclodiad y Gawres," "Bedd y Cawr," &c.; a cheir fod esgyrn o faintioli anferth wedi eu codi o bryd i bryd yma a thraw, yr hyn sydd yn peri i'r grediniaeth ynddynt lynu hyd heddyw. Hawdd y gallent fod yn gawri, os gwir hanner y chwedlau am danynt—eu bod arferol o gerdded diwrnod, neu ddau neu dri, gan deimlo rhywbeth yn eu hesgiaiau, eithr heb deimlo digon i gymmeryd y drafferth i ystyried yr achos, ond yn mhen "hir a hwyr " yn gwneyd hyny, gan daflu, ambell dro, feini tunelli o bwysau allan o'r un esgid. Mae rhai pobl, rhag eu galw yn ofergoelus, yn haeru mai graian oedd yn yr esgidiau, ac ddarfod iddynt dyfu yn anferthol ar ol eu bwrw allan o'r esgidiau; ond lol i gyd yw hyny,—os Cawri, cawri, o nerth a chorffolaeth, na cheir eu cyffelyb ond ar glawr hanesyddiaeth traddodiadol, tywyll, a dyryslyd o'r gorphenol pell, a'r oll yn ymylu ar fyned tu hwnt i brofion y gellir ymddiried ynddynt. A chan nad oes unrhyw gofnodiant neillduol am danynt mewn unrhyw hen goflyfrau boreuol, fod yr hynafiaethydd wedi eu hannghofio, a phawb wedi eu gadael allan o sylw yn mhob modd gynnifer o gannoedd o flynyddoedd; nid oes gan y mwyaf craffus ac ymroddgar, fel hynafiaethydd, erbyn heddyw, ond dyfalu am danynt, a gadael llawer gofyniad o bwys gyfodi yn y meddwl gyda golwg arnynt heb fodd i'w ateb. Yr oedd ein hynafiaid yn dra hoff o gyssylltu rhyw fawredd dychymmygol â'u llywiawdwyr, eu harwyr, a'u henwogion.
Yn ol y Myv. Arch., Jones' Bardic Museum, priodolir i un Rhitta Gawr lawer o orchestion tra hynod. "Cofnodir ef yn un o'r Trioedd, gyda Hu Gadarn a Phrydain ap Aedd Mawr, dan y penawd,tair gwrthrym ardwy,' neu wrthweithwyr trais; a Rhitta Gawr a wnaeth iddaw ei hun ysgin [clôg] o farfau brenhinoedd, a wnaeth efe yn eillion am eu gormes a'u difrawd." Mewn Trioedd arall, rhestrir ef gyda Phrydain a Charadawg, dan y penawd "tri madoreilitiwr, neu ymlidwyr enwog"; a "Rhitta Gawr yn goreilid gormes ac anrhaith y Brenhinoedd Annosparthus." Yn Mrut y Brenhinoedd, sonir am ymladdfa arswydus a fu rhwng Arthur a Rhitta yn mynyddoedd Eryri, am ysgin yr olaf. Dywed y Brut yn mhellach fod Rhitta wedi ymylu ei glôg â barfau brenhinoedd, gan adael lle yn wâg o tan ei ên, fel y dodai yn y fan hono farf Arthur, fel y prif frenin. Felly danfonodd wys at Arthur yn erchi iddo ddanfon naill ai ei farf neu ei groen, neu ei gyfarfod ef mewn man pennodedig, pan y cai y gorthrechwr ohonynt farf y llall. Gorchfygodd Arthur, ac enillodd y glôg. Y mae lle, ger Towyn Meirionydd, o'r enw "Rhiw y Barfau," a dywedir mai yno y lladdes Arthur Rhitta Gawr. Ond dywed Llên Gwerin Arfon mai ar lechwedd y Wyddfa y bu'r ymladdfa rhyngddynt. Diau nad oes dim yn hanesyddiaeth y Cymry wedi cael mwy o afael ar eu meddwl, a mwy o ddylanwad ar draddodiadau Ewrop, na hanes Arthur, ac feallai nad oes un ffaith ag y mae mor anhawdd tynu y chwedl oddiwrth y gwir. Mae yn rhy bell dweyd fod y cyfan yn ffug, ac na fodolodd y fath un ag Arthur; ac o'r tu arall, y mae yr hyn oll a briodolir iddo yn mhell tu draw i'r tebygol. Adroddir lliaws o chwedlau am dano. Weithiau gosodir ef allan fel brenin a milwr galluog, bryd arall fel cawr anferthol ei faint, a cheir ar hyd a lled y wlad geryg, yn dunelli o bwysau, ag y mae traddodiad yn eu cysylltu â'i enw—rhai o honynt wedi bod yn ei esgidiau dro ar ol tro, yn ei flino—yntau yn gorfod eu tynu, ac yn eu taflu i ryw bellder anhygoel. Nid yw yn rhaid i ni gredu i Arthur fod yn y rhanau hyn o'r wlad, os nad yw hanesyddiaeth yn profi hyny, mwy nag y mae yn rhaid ini gredu ddarfod i Samson fod ar ochr Carn Bentyrch, yn mhlwyf Llangybi, oblegyd fod yno gareg yn cael ei galw "Careg Samson." Wrth yr enw "Coetan Arthur," yr adnabyddir cromlech sydd ar dir Trefgwm, plwyf Myllteyrn; y mae yn gynnwysedig o gareg fawr yn pwyso ar dair o geryg ereill. Dywed traddodiad i "Arthur Gawr" daflu y goetan hon oddiar Garn Fadryn—mynydd rai milltiroedd oddiwrth Drefgwm, ac i'w wraig ddwyn y tair careg arall yn ei barclod a'u gosod yn attegion o dan y goetan.
Yn nghwr y ffordd rhwng Pont Gledr, neu Ledr a Melin, Penmachno, mae maen anferth, a elwir "Graienyn," a'r traddodiad am dano yw, mai cawres, rywbryd, a ddigwyddai fod yn cael ei blino gan friwsionyn o rywbeth yn ei hesgid, ac iddi yn y llecyn yma dynu ei hesgid a bwrw'r maen hwnw allan o honi.
Dywedir i gawr, o'r enw Dylan, gael ei lofruddio ryw dro tra ar ei daith o Lanrwst i Drefriw, ac oblegyd hyny i'r maes lle y cyflawnwyd y weithred ysgeler hono gael ei adnabod byth ar ol hyny wrth yr enw "Cwyn Dylan." Hefyd, yr oedd yn y gymmydogaeth gawr o'r enw Ifan Goch, yr hwn a arferai roddi un o'i draed ar ben mynydd a elwir "Cadair Ifan Goch," yr ochr ddwyreiniol i'r afon Gonwy, a'r llall ar ben Clogwyn Inco, yr ochr arall i'r afon, a'r un pryd ymolchi yn ei dwfr.
Rhwng Conwy ag Aber, yn Mwlch-y-Ddeufaen, mae dwy garnedd, ag y dywedir mai cawr a chawres, rywdro, oedd wedi clywed fod gwlad ffrwythlawn y tu draw i'r afon Menai, a'u bod yn cludo beichiau o geryg i'r perwyl o adeiladu pont drosti, ac fel yr oeddynt ar eu taith yn y llecyn yma, iddynt gyfarfod â dyn, yr hwn a ddaethai o Fôn, ac iddynt ofyn iddo pa faint o ffordd oedd ganddynt i lan Menai; a dangosai yntau ei esgidiau, y rhai oedd wedi gwisgo bron yn llwyr, a dywedai iddo eu rhoddi yn newydd am ei draed wrth gychwyn o'r fan hono, ac na wnaethai ond cerdded ar ei union. Wedi clywed hyny, taflodd y cawr a'r gawres eu beichiau i lawr, ac yno y maent hyd heddyw.
Ar fin y ffordd sydd yn cyfeirio o Fethesda i Dŷ'n y Maes, mae maen enfawr, a adnabyddir wrth yr enw "Maen Mawr Pen y Gareg." Y mae traddodiad yn yr ardal yn mynegi mai cawr, yr hwn a safai, a'i droed de yn Nghwm Graianog, a'i droed chwith yn Nghwm Dolawen, a'i taflodd yno wrth geisio taro hen wraig, yn mhlwyf Llanllechid, âg ef. Cawr gwrhydrus oedd efe. Yr oedd ei nerth yn ymylu ar y gwyrthiol.
"Y mae traddodiad, yn nghymmydogaeth Llanberis, i gawr o'r enw Igyn fod yn trigiannu yno rywbryd, ac mai efe a gariodd y pentwr ceryg rhyddion a welir ar gopa y lle, a alwyd o herwydd hyny ar ei enw yn "Garnedd Igyn," yr hon sydd ar lechwedd Eryri, a'i phen yn 2,975 o droedfeddi uwch lefel y môr. Bu hefyd gawres yn yr un gymmydogaeth, nad oedd Marged Uch Ifan, a Chadi'r Cwmglas, yn werth son am danynt yn ei hymyl. Y mae ol un troed iddi i'w weled yn mhen 'Llechi Llyfnion,' ar yr ochr ddeheuol i Lyn Peris, ac ol y troed arall ar ben Careg Noddyn,' yr ochr ogleddol i'r llyn; a dywed traddodiad y byddai yn dyfod i'r lle hwnw i ymolchi, ac wrth wneyd hyny y byddai yn rhoddi ei thraed un o bob tu i'r llyn, yr hwn yn y llecyn hwnw sy dros hanner milltir o led. Yn agos i Ben Pass, gellir gweled pentwr lled fawr o geryg gwynion, y rhai y dywedir iddynt gael eu casglu, gan y gawres: hon, yn y Marion, yn agos i'r Cwmglas, ac iddi eu dodi yn ei barclod, gyda'r bwriad o'u cludo i ryw ran o sir Ddinbych, i'w taenu ar feddrod ei phriod, ond pan gyrhaeddodd Ben Pass, fe dorodd llinyn ei barclod, a gollyngodd y cyfan i'r llawr, ac nid aeth byth i'r drafferth o'u casglu, a Barclodiad y Gawres y gelwir hwy hyd heddyw."
Yr oedd cawr nodedig yn byw yn Ninas Emrys, Beddgelert, am yr hwn y ceir y nodiad canlynol yn un o'r hen goflyfrau Cymreig:—" Eurnach hen a fu yn ymladd gledd yn nghledd ag Owain Finddu ap Macsen Wledig yn Ninas. Pharaon, efe a laddodd Owain, Owain a'i lladdodd yntau." Y chwedl oddiar lafar gwlad a gwerin am yr ymgyrch sydd yn debyg i hyn:
Yn yr hen amser, pan oedd cawri yn byw yn Nghymru, yr oedd un hynod iawn o honynt yn Ninas Emrys, a'i glod yn adnabyddus drwy'r holl wlad. gan ei faintioli a'i gryfder, ond ryw ddiwrnod fe ddaeth cawr arall o'r enw Owain, wedi clywed am orchestion cawr y Ddinas, yno i ymryson nerth âg ef: a chymmerodd yr ymgyrch mewn gwrol-gampau le ar faes amaethfa o'r enw Ysgubor, yn Nant Gwynant. Y gamp gyntaf oedd 'tynu torch,' ond wedi hir dynu, a thori coed gan braffed a swmer tŷ, ni threchodd yr un o honynt. Ar fryncyn gyferbyn, yr ochr arall i'r afon, fe welai Owain faen enfawr, ac efe a aeth yno ac a daflodd y maen drosodd hyd at droed Cawr y Ddinas; eithr y cawr a ymaflodd ynddo ac a'i taflodd yn union i'w le ei hun; felly, ni threchodd un yn hyn drachefn. Yna hwy a aethant i 'ymaflyd codwm,' ac fel yr oedd Owain yn methu a thaflu y cawr, efe a ymwylltiodd, ac a'i sodlodd, nes disgyn o hono ar ei gefn ar draws y maen, yr hwn a chwilfriwiodd gan ei bwys, ac aeth darn o hono i'w gefn, ac a'i lladdodd; ond yn ei boenau angeuol, efe a wasgodd Owain gyda'r fath nerth fel y bu yntau farw, a chladdwyd Owain yn y fan hono, a'r cawr a gladdwyd ar y bonc lle yr oedd y maen.
"Ar y ffordd o Feddgelert i Gaernarvon, deuir at graig a'r geiriau Llam Trwsgl' wedi eu paentio arni. Mewn cyssylltiad â'r lle dywedir fod cawr yn croesi o'r naill ochr i'r llall, ac iddo adael ôl ei droed, yr hyn sydd yn ganfyddadwy drwy y blynyddoedd. Myn ereill mai dau gawr ar ryw adeg a ymrysonent yn nghylch neidio, ac i un o honynt, er dangos ei ragoroldeb yn y gamp hono, neidio o'r graig sydd uwchlaw'r ffordd hyd y llun troed gyferbyn, sef naid o bum' llath ar hugain."
Yn mhapyrau y diweddar Owen Williams, o'r Waen Fawr, cawn yr hanes canlynol am un o'r crugiau a elwir "Barclodiad y Gawres":—"Y lle mwyaf nodedig yma fel hynafiaeth oedd Carnedd y Waun, yr hon a welais pan oeddwn o ddeg i ddeuddeg oed yn domen arswydus o fawr, yn geryg oll, ac o bob maintioli a allai dyn gario. Yr oedd y garnedd hon yn fy meddwl oddeutu 500 o dunelli; ac fe ddychymmygodd y canol oesoedd yn eu chwedl-ddysg, neu ffug-draethawd (novel), mai Barclodiad y Gawres oedd y garnedd hono, ac iddi ei chasglu i'w harffedog yn Nghwmdwythwch, ac iddi wedi dyfod dros yr ochr ogleddol i Foelaeliau lithro, nes mae ôl ei dwy sawdl yn tori dwy nant fechan, lle mae dwy ffrydlif ddwfr. Beth bynag am hynyna, Gafl y Widdan y gelwir y lle hyd heddyw. Ond ei meddwl oedd, ebai'r chwedl, am wneyd pont dros Foldon i Sir Fôn o Arfon, ond ei hanffawd fu i linyn ei barclod dori, ac felly gadawodd ei harffedogaid, yr hon a elwir 'Carnedd y Waun,' ac yn llygredig a elwir heddyw Garneddwan. Safai y garnedd hon ar ffarm fechan o'r enw Y Garn, yn y Waen Fawr."
Byddai son mawr yn yr hen amseroedd am wrhydri llangciau Eryri; a phwy ni chlywodd, os elai yn ymladd, am y llinellau,
"Llanciau Eryri,
A'u gwŷn gyll, a'i hennill hi."
Y mae ar dir Bachwen, yn mhlwyf Clynog, gareg ag y dywedir ddarfod i gawr ei thaflu o ben un o fynyddau yr Eifl.
Yn yr hen amseroedd pell, pell yn ol, digwyddodd i rai o bobl plwyf Llanaelhaiarn bechu yn erbyn un o gawresau Tre'r Ceiri yn yr un plwyf, ac er dial arnynt, casglodd lon'd ei barclod o geryg, y rhai a fwriadai eu poethi yn nhân ufelawg yr Ellyll, a drigai y pryd hwnw ar grib y mynydd, ac yna eu taflu yn wyniasboeth i'r maesydd oedd yn addfed i'r cryman ar y gwastadedd. Ond tra yr oedd yn myned gyda hwy hyd lechwedd "Moel Carn y Wrach," daeth marchog urddasol i'w chyfarfod, hithau a ollyngodd y ceryg i'r llawr, ac y maent yno fyth, a gelwir hwy hyd heddyw yn "Barclodiad y Gawres."
Yr oedd gan yr hen gawri unwaith dref iddynt eu hunain yn yr Eifl, yr hon, hyd heddyw, a adnabyddir wrth yr enw Tre'r Ceiri." Gyda golwg arni, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi dyfyniad allan o erthygl a ymddangosodd mewn newyddiadur am Rhagfyr 18, 1857, o eiddo yr hynafiaethydd dysgedig, y diweddar Barch. J. Jones, M.A., Ebrwyad Llanllyfni,—gwr oedd fel Saul, yn uwch o'i ysgwyddau na hanner llenorion ei oes, fel hyn:—"Yn agos i frig yr Eifl ganol, ar yr ochr ddeheuol, y mae ryw bentref, a gyfrifir gan amryw ddysgedigion yr hynaf yn Mrydain, tu draw i ddychymmyg neb i roddi rheswm am gynnifer o anneddau mewn lle mor annghysbell; ac ofni yr wyf finau y bydd fy mhen yn y niwl wrth. geisio olrhain allan i ba ddiben y pentyrwyd hwynt, ac yr amgylchynwyd hwynt â magwyrydd: rhai yn meddwl mai ryw daeogdref oedd yno, tebyg i gytiau'r Gwyddelod: eraill o'r farn mai carn o ladron, yn byw ar yspail, ac yn ymosod liw nos, fel gwylliaid Mawddwy, ar amaethwyr y gwaelodion; pawb yn synfyfyrio arni, heb ddyfod i benderfyniad rhesymol am dani; ac yn wir y mae'r enw Tre'r Cowri yn gwneuthur y peth yn fwy dyryslyd, heb gael rhyw allwedd o lyfrau haneswyr y prif oesoedd i chwilio o amgylch y lle."
Y mae un hanesydd enwog a dysgedig, hyddysg yn hynodion Hyspaen ac Affrica, sef Sallust, wedi sylwi fod ryw dref gyffelyb yn agos i Gades, yn perthyn i amseroedd tywyll y cyfnod, pan oedd dinas Carthage yn arglwyddiaethu ar foroedd y Canoldir, ac yn ymestyn o golofnau Hercules hyd at aberoedd Prydain a'r Iwerddon. Crybwyll y mae yn fwy neillduol am ryw nifer o fasnachwyr Carthage yn ceisio sefydlu eu hunain yn gyfagos i'r môr yn Hyspaen, er mwyn gyru yn mlaen eu gorchwylion masnachol gyd â thrigolion yr ardal; a chan nad oedd Tywysog y wlad yn caniatau rhyddid iddynt dori coed i adeiladu tai neu gytiau, hwy a drosglwyddasant eu cychod drwy nerth braich ac ysgwydd i ben y bryniau mwyaf diogel, a chan osod keel pob un i fyny i wynebu y llifeiriant, ar sylfaen o geryg rhyddion, hwy a wersyllasant yno am flynyddoedd, a chan gyfnewid eu heiddo porphoraidd am eiddo mettelaidd y wlad, a gasglasant gyfoeth dros fesur, fel y darllenwn am danynt.
Pettasai ryw rai o'r genedl hon, neu o ddinasyddion Tyrus a Sidon, wedi cael sicrwydd fod copr, haiarn, a phlwm, o faint a ofynent, i'w cael yn agos i'r Ddinlleyn, pa beth sydd yn fwy credadwy nag iddynt brysuro yno ar adenydd y gwynt, neu ysgwyddau y Philistiaid, i'w meddiannu a phentyru elw, megis ag y cawn hanes am danynt yn Nghernyw, lle y gwelir eu gwehilion hyd y dydd heddyw. Y mae'n ddigon amlwg oddiwrth adfeilion yr hen borth yn agos i Abergeirch, fod yma amddiffynfa gadarn i roddi derbyniad i'r mwn—gloddwyr, ar ôl eu mordaith i fynyddoedd yr Eifl, ac mai nid gwaith caled iawn oedd trosglwyddo rhyw gyfran o'u cychod, a'u harfau, hyd odre yr Eifl ganol, ac nid anhygoel chwaith, yn gymmaint a bod lle yn dwyn yr enw Llith-faen, mewn amser allan o bob coffadwriaeth, yn arwyddo fod rhinwedd y maen tynu, neu'r llithfaen, yn hysbys iddynt; ac hefyd mai pobl yn ymgynnal wrth ryw ddefodau, neu ddirgeledigaethau crefyddol oeddynt.
Y mae'r daearyddwr enwog Strabo yn hysbysu mai rhyw offeiriadaeth philosophaidd, wedi ei sefydlu yn ynys Creta, yn Môr y Canoldir, oedd y Cowri; yn debyg iawn i'r Derwyddon, yn ol yr hanes a geir am danynt, ar gyfer eu medrusrwydd, megis Seronyddion a Deddfroddwyr, yn ceisio olrhain allan, ac ymresymu yn nghylch, y rhyfeddodau a ganfyddir yn y byd naturiol, a than yr enw o ddisgyblion Minos, yn gosod rheolau i gadw trefn yn y byd moesol.
Ac yn gymmaint a bod mam Strabo yn Gretan o enedigaeth, ac yntau ei hun yn hynafiaethydd rhagorol, nyni a allwn ymddiried ar ei dystiolaeth ef am danynt, ac yn enwedig am eu doniau yn ymdrin â'r byd naturiol a chrefyddol. Strabo a ddywed yn bendant, mai y ddefod o eillio neu o gneifio eu penau mewn dull coronog oedd ystyr y gair cowri: ac eto ymddengys fod enw arall yn ei nodweddu mewn oes tra foreuol, sef Idoi Dactili, neu Decemyiri, ar gyfer fod rhyw Senedd ganddynt, yn cynnwys aelodau o nifer y bysedd llaw, i ymgynghori ar faterion o bwys neillduol."
Yn yr hen chwedlau a'r traddodiadau deuir yn fynych ar draws crybwyllion am gawri, yn wryw a benyw. Yr oedd yr enw cawr yn yr hen oesau yn cael ei ystyried ar ddynion rhyfeddol mewn maintioli. Priodolid iddynt gryfder a chorffolaeth mwy o lawer na'r cyffredin. Yr oeddynt yn gyflym, megis y dywedir am yr haul, ei fod yn ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa. Cawri oeddynt ryfelwyr mawr, ac yn fynych iawn yn orchfygwyr. Cyfarfyddwn weithiau â ffedogaid ambell gawres, megis twr anferth o geryg, yn cael ei alw Barclodiad y Gawres," ac mewn ambell fan o'r wlad "ffon y gawres y gelwir y pren poplys uniondal. Ar lecyn rhamantaidd yn mhlwyf Llanaelhaiarn, y mae yn aros hen olion, o'r enw "Muriau'r Gawres," ac hefyd ar grib Carnguwch, bentwr o geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres." At hyn, gellir chwanegu, yr ymhyfryda traddodiad mewn dangos cromlech ar y Penmaen, ger Pwllheli, ag y priodolir, yn ol rhai, gawr ei thaflu yno o gymmydogaeth Harlech; ond, yn ol ereill, oddiar Fynytho.
Hyd oddeutu 70 mlynedd yn ol, yr oedd crug anferth o fân geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres," ar dyddyn o'r enw Tan-y-ffordd, yn Mynytho, wedi eu gollwng o farclod un o'r hen gawresau, pryd y digwyddodd un boreu i geiliog ganu, ac y gorfu arni ffoi, tra ar ei thaith rhyngddi a'r Foel Gron, lle y bwriadai adeiladu sedd, fel y gallai syllu ar y gwrthddrychau o'i hamgylch wrth ei phleser. Ceir hefyd ar fynydd y Rhiw faen anferth, o'r enw "Y Gareg Ddu," ag y dywed traddodiad i gawres ei daflu yno oddiar ben Carn Fadryn.
Odo Gawr.—Cyn belled ag y credir traddodiad, rhaid credu nad dynion o ryw gorffolaeth aruthrol oedd yr oll o'r hen gawri, ond fod dosbarth o honynt yn dywysogion, ac fe allai yn gadflaenoriaid dewrion a medrus. Y mae cyssylltiad Odo Gawr â Chastell Odo fel yn profi hyny; a cheir yn mhlith dywediadau hapus a grymus, y rhai a ffurfient fath o lenyddiaeth ddiarebol llafar gwlad ag sydd yn cyfeirio at ei feddrod, fel
Bedd Odo Gawr yn llawn Lleyn," ar grib Mynydd yr Ystum, yn mhlwyf Aberdaron, ac yn nghwr hen amddiffynfa, adnabyddus hyd heddyw wrth yr enw "Castell Odo."
Y mae careg fawr hefyd, a elwir "Careg Samson," Fynydd-yr-Ystum, ac ynddi amryw dyllau, ag y ceisid gan yr hen deidiau coelgar gredu mai ol bysedd rhyw gawr anferthol o'r enw "Samson" ydynt ddarfod iddynt suddo iadi wrth iddo afaelyd ynddi i'w thaflu o Uwch-mynydd i Fynydd-yr-Ystum. Heblaw hyny, ychydig oddiwrth yr hen amddiffynfa, ac megis tan hachles, bu carnedd a elwid "Barclodiad-y-Gawres," yr hon a chwalwyd hyd i'w gwaelod, gyda gofal a phryder, gan feddwl cael ynddi grynswth o hen drysorau anmhrisiadwy—hyned bron a chyn bod cof a chadw ar hanesiad mewn unrhyw amseriad cywir, ond ni chafwyd am y drafferth o archwilio'r anhysbys, namyn prawf fod addoliad y llo aur mor boblogaidd yn y byd ag y bu erioed.
"Mae careg anferth o fawr ar ochr bryn, yn mhlwyf Llanfairisgaer yn Arfon, rhwng y Felinheli a'r Crug. Mae yn gorphwys ar gareg led fechan, yr hon sydd a thua llathen o honi allan o'r ddaear. Y mae traddodiad y byddai gwiber fawr yn ymddangos o gylch y gareg ar brydiau, ac ddarfod i ddyn o'r enw Owen Harri Dafydd, gof wrth ei alwedigaeth, glywed am dani, a thyngu y mynai ei lladd; a phan yn haner meddw aeth o'r efail, a chymmerodd droed pigfforch, ac aeth i edrych am dani. Er ei syndod canfyddai yr ymlusgiad yn dorch am y gareg, a bu brwydr ofnadwy rhyngddo a hi, ond efe a orchfygodd. Yn Mhorthaethwy y preswyliai y gwron crybwylledig, o gylch y flwyddyn 1639. Yr oedd yn chwe' troedfedd a chwe' modfedd o daldra—yn gryf ac yn gyflym; gallai ddal llwynog a llwdn dafad ar redeg.'
Tua dau gant o flynyddau yn ol, yr oedd boneddwr tal a chyfnerthol yn byw yn Nant Gwnadl, Lleyn, o'r enw Francis Lloyd, ac â chanddo gymmalau dyblyg, a'r fath ddynion ydynt gryfion iawn. Cryfed ydoedd y gwr hwn, fel y byddai cryn benbleth yn mhlith y cymmydogion yn nghylch beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. I geisio cael hyny allan, yr hyn a wnaed gan dri neu bedwar o uchelwyr yr ardal, oedd y cynllun canlynol:—Ymhoffai. yr hen foneddwr o Nant Gwnadl araf ddwys-ymrodio bob boreu, fel rheol, hyd lwybr neillduol o ddifyrus ganddo, ac o wybod hyny, yr uchelwyr crybwylledig a osodasant ar y cyfryw lwybr geffyl, a sach llawn o dywod yn ei ymyl, fel pe gwedi syrthio oddiar ei gefn, yn nghyda bachgenyn gerllaw yn rhith-wylo'n dorcalonus ar ddynesiad y boneddwr tuag ato, tra y boneddwyr ereill am y gwrych yn disgwyl canlyniad y cyfarfyddiad. Ar hyny, gofynai yr hen foneddwr cymmwynasgar—"Am beth yr wyt ti'n crio, 'machgen i?" "Am na allaf gael y sach yma i fyny ar gefn y ceffyl, syr," atebai y bachgen. "Wel, aros, gad i ni wel'd a allaf fi wneyd rhywbeth o hono," ebai y boneddwr tirion a thosturiol. Yna gafaelodd am enau y sach, gan ei daflu yn rhwydd ar gefn yr anifail; a'r fath oedd pwysau y sach a'i gynnwys, fel y torodd asgwrn cefn yr hen geffyl, druan, yn y fan. Felly, nid oedd neb fymryn agosach i gael gwybod beth oedd nerth y boneddwr diledrith hwn; ond gellir ffurfio rhyw ddirnadaeth am dano pan y dywedai yr hen bobl ei fod yn defnyddio echel trol yn lle ffon.
Gan nad pa beth am y cawri o'r ddwy ystlen, aeth llawer canrif heibio er pan fuont yn rhodio daear sir Gaernarfon; oni ellir cyfrif yr hen wrones gadarngryf o Lanberis—Margaret 'ch Ifan, yn aelod o'r urdd?" Ymwelodd Pennant, y teithiwr enwog, â'i thŷ yn Mhenllyn, yn y flwyddyn 1786; a dywed ei bod hi y pryd hyny tua 90 mlwydd oed, mai hi oedd yr oreu am hela, pysgota, a saethu, o neb yn y wlad. Cadwai o leiaf ddwsin o gŵn rhagorol, o bob rhywogaeth, at hela, a sicrheir iddi gael mwy o lwynogod mewn un flwyddyn nag a ddaliasai yr heliwr goreu mewn deg mlynedd. Yr oedd yn medru pedoli ei cheffylau, gwneyd ei hesgidiau, gwneyd cychod a'u rhwyfo, gwneyd telyn a chrwth, a'u chwareu; ac yr oedd yn hollol hyddysg yn yr holl hen alawon Cymreig, fel y gallai eu chwareu'n rhagorol ar ei hofferynau. Pan yn 70 mlwydd oed nid oedd neb o'r bron a ymaflai godwm â hi, oblegid cyfrifid hi yr oreu yn y wlad. Gelwid hi gan Pennant yn Queen of the Lake (Brenines y Llyn)."
Ffyna llawer o amheuaeth ac annghrediniaeth yn nglŷn â hanes hiliogaeth o ddynion anferth o faint—cawri y gorphenol pell. Llawer siaradwyd am danynt, yn iaith yr hen almanac, tipyn yn wir a chryn dipyn y ffordd arall. Mae y cyfryngau ynddynt eu hunain yn dangos ac yn profi nas gellir ymddibynu ar eu tystiolaeth fel gwirionedd, oblegid y maent tu allan i gylch gwybodaeth dyn rhesymol megis yn ddrych o ddychymmygion ofergoelus yr oesau anniwylliedig nad oeddynt dan lywodraeth rheswm a barn addfedy rheswm sydd yn rhoi eu lle i bethau. Ond, yn mha le heddyw y ceir hiliogaeth y cedyrn, y bu eu henwau gynt, megis yn ddychryn yn nghlustiau preswylwyr tref a gwlad. Y mae'r sir heddyw yn lliosocach nag erioed yn rhif ei phoblogaeth, ond attolwg, o ba dras y maent? Y gwir am dani yw fod moethau yn gwanychu ac yn ammharu cysur llaweroedd yn yr amseroedd hynfod mwynder bywyd a bwyd yn dueddol i adeiladu cyfansoddiadau afiach a phabwyraidd, tra y mae bywyd caled ac ymborth sylweddol yn adeiladu iachach a chadarnach cyrff. Da fyddai i fwy o ddefnydd gael ei wneyd o laeth, o flawd bras, uwd, potes, bara haidd a cheirch, &c. Tuedda pawb i edrych ar fwydydd yr hen bobl gyda dirmyg; ond, wedi'r cwbl, ar y sylfeini hyn a'r cyffelyb yr adeiladwyd y pethau goreu sydd yn ein meddiant heddyw. Gobeithiwn y codir ni yn ol at fwrdd bwydydd y tadau—dewrion blynyddoedd nerth gwlad.
PENNOD X.
GWYLIAU, DEFODAU, AC ARFERION.
"Pob gwlad yn ei harfer."
Y MAE yn deilwng o sylw mai wrth y nosweithiau y byddai yr hen bobl yn cyfrif cyfnodau amser, nid wrth rifo pa sawl dydd, ond pa sawl nos, fel y dengys y geiriau a'r ymadroddion "wythnos," "wythnos o ddyddiau"; pythefnos (pymthegnos). Felly yr oedd eu pythefnos hwy yn llai na dwy wythnos—unarbymtheg—nos. Mae'n dra thebygol i'r arferiad hwn ddeilliaw oddiwrth mai ar nosweithiau y byddent arferol o drin a throsi bron bob achosion, a bod yn haws cyfrif wrth flynyddoedd y lleuad. Sylwent ar ddyddiau genedigaeth, a dechreu'r mis a'r flwyddyn, yn y cyfryw fodd, fel y mae'r dydd yn canlyn y nos.
Yr oedd yn nghalendar y werin lawer o bethau gwerth sylw. Yr oedd y tair gwyl arbenig o eiddo yr Eglwys ynddo, y Nadolig, y Pasg, a'r Sulgwyn. Yr oedd ynddo hefyd wyliau ereill na chlywir mo'u henwau ond mewn cyssylltiad â rhyw fater calendaraidd. Yr oedd ganddynt eu Gwyl Fair, eu Gwyl Ifan, Gwyl y Grog. Dywedent hefyd Ffair Farc, Ffair Fathew. Ffair wyl Fihangel, &c. Yr oedd Dygwyl Domos ganddynt, a Dygwyl Styphaint (St. Stephan). Ond yr oedd eu calendar yn benaf yn troi ar wahanol dymmorau'r flwyddyn, megis, Bu farw hwn a hwn wythnos o haf. Bu farw hon a hon wythnos o'r gauaf, a digwyddodd y peth a'r peth yn y cynhauaf gwair, a'r peth a'r peth yn y cynhauaf ŷd. Ni byddent un amser yn son dim nac yn gofalu dim am y dydd o'r mis yn eu cyfrifon calendaraidd. Os dywedid wrthynt fod y peth a'r peth wedi digwydd y pummed ar ugain o Awst, ni ddeallent mo hyny, rhaid oedd dweyd pa sawl wythnos o haf oedd hyny, cyn y deallent yr amser. Digrif yw darllen rhesymau y pererinion gynt dros eu gwyliau. Sefydlwyd gwyliau Mair wyryf mor agos ag y gellid yn lle y newydd—loerau, oblegyd yr Ysgrythyr yn y Caniadau, "Wele di yn deg fel y lleuad." Eithr esgeulusid y rhan arall a dueddai, yn ol yr un rheol, i'w chadw ar y Sul:—"Disglaer fel yr haul." Rhoddwyd dydd gwyl St. Ioan Fedyddiwr ar y 24ain o Fehefin, am fod y dydd yn dechreu byrhau y pryd hyny, yn ol dywediad y Bedyddiwr am Iesu ac yntau,—" Rhaid iddo ef gynnyddu ac i minau leihau." Nis gall a ddarlleno yr hen ddeddfau hyn lai na chydnabod fod dylanwad yr Eglwys yn fawr yn mhob rhyw fodd yn ei ffurfiad. Drwy gydol y deddfau, tynir ein sylw at y ffaith fod dull y wlad o gyfrif dyddiau a thymmorau wedi ei fenthyca oddiar yr Eglwys. Gwelir yn amlwg mai yn ol gwyliau yr Eglwys y byddid arferol o gyfrif dyddiau a thymmorau yn Llysoedd Barn y wlad—mai yr Eglwys fu yn sefydlu y Llywodraeth, ac nid y Llywodraeth fu yn ei sefydlu hi. Heb helaethu yn mhellach ar hyn, rhoddwn yma, megis enghreifftiau, rai sylwadau ar y gwyliau hyny a aethant i mewn megis i gyssegr sancteiddiolaf llên y werin, gan ddechreu yn Nghalan Ionawr, neu wyl yr enwaediad, a sefydlwyd oddeutu y flwyddyn 487, ag sydd hefyd yn wvl i saith o seintiau Pabyddol. Gair o darddiad Lladin yw Calan, Kalendœ y galwai y Lladinwyr y dydd cyntaf o bob mis. Yn unol â hyn y dywedwn Calan Mai, a Chalan Gauaf, sef y dydd cyntaf o Fai, ac o'r Gauaf; a phriodolir y gair Calan heb ddim dvnodiad chwanegol mewn ffordd o enwogrwydd i ddydd cyntaf y flwyddyn—Kalendœ Marita (Calan Mawrth)—dydd cyntaf blwyddyn yr hen Rufeiniaid. Yr hen flwyddyn Iuddewig, yr hon a ddechreuai ar y 25ain o Fawrth, a gydnabyddid am oesoedd lawer yn Mhrydain, hyd 1582; ar ol y pryd hwnw yr oedd rhyw gymmysgfa yn y dull hyd nes y gwnaed y Ddeddf yn 1751 i benderfynu y peth. Yn 1752 y dechreuwyd gosod y 1af o Ionawr fel y dydd cyntaf o'r flwyddyn. Byddai yn arferiad i roddi pob dyddiad rhwng Ionawr 1af a Mawrth 25ain, fel hyn, Chwefror 3ydd, 1648-9, yr hyn a olygai fod y flwyddyn yn cael ei chydnabod yn 1649, ond mewn ystyr gyfreithiol yn 1648. Byddai y dydd hwn mewn parch neillduol yn ein gwlad, am mai arno ef yr arferai swyddogion gwladol ddechreu ar eu dyledswyddau priod, ac yr arferai cyfeillion ewyllysio i'w gilydd bob daioni, ac anerch y naill y llall â rhoddion. Hen arfer, yn parhau er ys amser pell iawn yn ol, yw bod am y cyntaf foreu dydd Calan i gyfarch eu gilydd yn y geiriau
"Calenig! Calenig!" neu "Fy nghalenig ac ystyrir rhodd yn ddyledus i'r sawl a gaffo y blaen yn y cyfarchiad. Hefyd, arferol oedd i blant fyned oddiamgylch, gan adrodd y rhigwmganu canlynol: {{center block| <poem> "Calenig wy'n ymofyn Ddydd Calan, ddechreu'r flwyddyn, A bendith byth fo yn eich tŷ, Os tycia i mi gael tocyn."
"Calenig i mi, Calenig i'r ffon, Calenig i'w fwyta'r noson hon; Calenig i'm tad am glytio'm 'sgidiau, Calenig i'm mam am drwsio'm 'sanau."
"Rhowch Galenig yn galonog, I ddyn gwan sydd heb un geiniog, Cymmaint roddoch, rho'wch yn ddiddig, Peidiwch grwgnach ro'i ychydig."
Byddai yr hen bobl, syml a rhinweddol, yn parotoi i dalu i bawb eu dyledion erbyn y dydd cyntaf o'r flwyddyn. Ar y dydd hwnw ni thalent yr un ddimai i neb, gan y byddai hyny yn rhagfynegi iddynt mai talu dyledion fyddai eu tynged drwy gydol y flwyddyn. Ni roddent ddim yn fenthyg y naill i'r llall ar ddydd Calan—ni chaffai y naill wraig gymmaint a goleuo ei chanwyll wrth dân ei chymmydoges agosaf, ac ni chaffai fenthyg y fegin fyddai hi yn fenthyca braidd bob dydd dros iddi orfod gwneyd megin o'i barclod neu o'i cheg, neu fod heb yr un. Dyna fel y byddai yr hen bobl ddarbodus yn rhoddi gwers i bobl y benthyca, er dangos a dysgu iddynt beidio bod yn nyled neb.
Yr oedd amryw o hen goelion hefyd yn cael eu credu yn nglŷn â'r dydd hwn yn eu mysg, nad ffodus gweled menyw yn gyntaf yn y boreu; os byddai i un orwedd y nos gyntaf o'r flwyddyn yn mhorth yr Eglwys, y gwelai bob priodas a phob angladd a gymmerai le yn ystod y flwyddyn, &c.
Gwyl Sant Falant.—Pwy nad yw yn gwybod am y dydd nodedig hwn, dydd gwyl Sant Falant, Chwefror y 14eg, a enwyd ar ei ol, meddir, am ei fod yn ddyn mor serchog a charedig. Cyfeirir at yr wyl yn Shakespeare, ac at rai o'r arferion yn Pepys' Diary. Cyfarfyddodd Sant Falant âg angeu chwerw tua'r flwyddyn 160, yn ol rhai, 270, yn ol ereill. Curwyd ef â phastynau i farwolaeth, ac yna torwyd ei ben i ffwrdd. Cedwir ei weddillion yn barchus yn Eglwys St. Praxedes, yn Rhufain, lle yr oedd porth, yn yr amser gynt, yn dwyn yr enw Porta Valentini. Y mae llawer o dywyllwch yn gorphwys ar ddechreuad yr arferion mewn cyssylltiad â'r wyl; ond tebyg iawn eu bod, fwyaf o honynt, wedi dyfod i lawr oddiwrth y Rhufeiniaid. Olrheinia rhai dysgawdwyr darddiad y gair Valentine at yr arferiad gynt o'i silliadau yn Valentyde; gan seilio y ddwy sill flaenaf ar y gair Lladin vale, yr hyn a ddynoda (medd Dr. Dafis), "Bydd wych, dos yn iach, hawdd ammor it," neu gyffelyb gyfarchiad. A tyde a ddynodai, tymmor i gyfarch gwell. Olrheinia ereill seremonïau y dydd i hen draddodiad, mai tua canol Chwefror y bydd yr adar yn priodi ac yn dechreu parotoi ar gyfer eu bywyd teuluaidd yn ystod y gwanwyn a'r haf agosaol. Gan nad yw dysgedigion yn unol eu barn yn nghylch tarddiad yr wyl hon, awn heibio iddi, gyda chrybwyll fod cannoedd o filoedd o nodynau yn cael eu hanfon drwy'r llythyrfeydd ar y 13eg a'r 14eg o Chwefror, rhai yn hardd a deniadol yr olwg arnynt, yn gyfryngau serch; a'r lleill yn hagr a dirmygus, fel cyfryngau cenfigen a dygasedd; yn profi fod dygwyl Valentine yn boblogaidd iawn gydag ieuengetyd ein gwlad.
Mawrth Ynyd.—Ystyr y gair Ynyd yw dechreuad. Y mae Dydd Ynyd, neu Nos Ynyd, yn cael ei gadw yn ofalus yn mhob cwr o'r wlad. Y dydd nesaf o flaen y Grawys ydyw, ac y mae felly yn fath o ddechreuad y Garawys; ystod amser y Garawys a gedwir gan y werin yn y geiriau canlynol:
"1. Dydd Sul Ynyd;
2. Dydd Sul hefyd;
3. Dydd Sul a ddaw;
4. Dydd Sul ger llaw;
5. Dydd Sul y Meibion;
6. Dydd Sul y Gwrychon;
7. Dydd Sul y Blodau;
8. Pasg a'i ddyddiau."
Prif nodweddiad ymarferol y dydd yw gwledda ar grempogau, a phob peth bwytadwy o'r fath yn mhob tŷ, mawr a bychan, drwy'r wlad; ac o herwydd y gwledda hwn, yn ddiau, y mae yr arferiad o gynnal y Dydd Ynyd mor gyffredinol. Gellir dyfalu mai gweddill coffadwriaethol o'r hen amseroedd, pan y byddai yr Eglwyswyr yn ymprydio yn ddifrifol yn ystod y Garawys, ydyw'r Dydd Ynyd. Arferai y plant fyned o ddrws i ddrws ar brydnawn Mawrth Ynyd, gan ganu math o rigwm fel hyn:—
"Wraig y tŷ, a'r teulu da,
A welwch chwi'n dda roi crempog?
A lwmp o fenyn melyn mawr,
Fel 'r aiff i lawr yn llithrig;
Os ydych chwi yn wraig led fwyn,
Rho'wch arni lwyn o driog.
Os ydych chwi yn wraig led frwnt
Rho'wch arni lwmp o fenyn:
Mae rhan i'r gath, a chlwt i'r ci bach,
A'r badell yn grimpin grempog."
"Cewch iâr ynyd gribgoch lân,
A llwyth o fawn i gadw'ch tân."
Iâr Ynyd yw Iâr ddodwy, er mwyn cael ei hwyau i wneyd crempogau ar Mawrth Ynyd.
"Wyau bob mynyd,
Ar ddydd Mawrth Ynyd."
Hefyd,
"Crempog bob mynyd,
Ar ddydd Mawrth Ynyd."
"Myharen i'r gath, clwt i'r ci bach,
Mae 'ngheg i'n grimpin am grempog."
Yn mysg y chwareuon arferedig ar ddydd Mawrth Ynyd, yr oedd ymladd ceiliogod, a lluchio at geiliogod; ac yr ydym yn cael ar ddeall y byddai perchenog y ceiliog yn ei ymarfer dros ryw ysbaid o amser cyn Mawrth Ynyd, gan luchio ffon ato, er ei barotoi erbyn y diwrnod andwyol, drwy ei gynnefino i wylio ar y perygl bygythiol, a thrwy neidio o'r naill du ochel y tarawiad peryglus. Efe a ddaliai y creadur druan ar y llecyn a nodid gan linyn wedi ei rwymo am ei goes, o fewn y pellder o naw neu ddeg llath, fel ag i fod o ffordd y ffon ei hunan. Nodid llecyn arall o fewn y pellder o ddwy lath ar hugain, ar yr hwn y safai y sawl fyddai i daflu y ffon. Efe a gaffai daflu dair gwaith am ddwy geiniog, ac os tarawai ef y ceiliog i lawr, a rhedeg a'i ddal cyn y cyfodai ar ei draed, efe a ennillai y ceiliog.
Yr oedd y cynnulliadau hyn yn dra lliosog, ac yn wahanol o ran maint. Byddai llecyn a elwid COCYN—cocyn yr ymladd yn mhob teulu bron bob. dydd o'r wythnos—cocyn yn y pentrefydd unwaith yn y mis; cocyn mawr blynyddol ar ddiwrnod gwylmabsant y plwyf; a byddai cocyn mawr sirol, i'r hwn y cyrchai yr holl wlad, yn nghyda'r ceiliogod gorthrechol yn ngwyliau'r mabsantau. O fewn ergyd careg i Langybi, safai gynt fwthyn llwyd, hen a syml, o'r enw Nyth y G'lomen—bwthyn a'i dô gwellt isel ar attegiad o un cwpwl, a'i ddeupen yn ymorphwys ar ddaear galed Ty'n-y-Porth; ac yn anneddu ynddo ddeu-ddyn lled hynod—Dic y Teiliwr a'i fab Sion—gwŷr heb. fawr o wybodaeth llyfr, ond a'u holl fryd ar glap. a chlebar y pentref, ac ar gasglu ieir i'w dodi i eistedd, a deor, at gael digon o "Jigots," fel eu gelwid, gogyfer a chymmanfaoedd yr ymladdfeydd crybwylledig dros un o hen Fychaniaid ucheldras y Plas Hen, yr hwn, ar gynnulliad mawr blynyddol, pryd y caniateid ymdrechfa gyffredinol rhwng ceiliogod y naill sir a'r llall, a gludai, yn ei or-hyder, ei geiliogod mor bell a Dolgellau. "Yr wythnos cyn yr ymgyrch byddai gwaith mawr parotoi ar y ceiliogod, megis tocio pluf yr adenydd, y gwegil, a'r gynffon, ac hefyd torid ymaith y crib a'r dagell: torid y rhai hyn weithiau â gwellaif poeth, fel y byddai i'r briw serio er attal iddo waedu. Y gorchwyl nesaf oedd gosod arf o ddur ar ochr coes y ceiliog. Gŵyr—llawer fod math o gorn caled, blaenllym, yn tyfu ar ochr fewn i goes ceiliog, ac mai y corn hwn ydyw arf dinystr y ceiliog; ond torid ymaith yr erfyn corn, a gosodid erfyn dur yn ei le, a byddai digon o waith i holl ofaint y wlad y dyddiau cyn yr ymgyrch i wneyd arfau ceiliogod."
Dyna ddigon, os nad gormod, o hanes y fath anfadwaith echryslawn, a ddygid yn mlaen ganddynion nad oedd neb o honynt yn meddu ar ymysgaroedd trugaredd o gwbl. Y mae meddwl am weithredoedd o'r fath, ond rhoddi ffordd i reswm a theimlad, yn ddigon i wneyd dyn yn fudan iddo ei hunan. Digon tebyg mai lle i ymladd ceiliogod o dan y Rhufeiniaid a fu Bwrdd Crwn Arthur' fel ei gelwid. Y bobl hyny a ddygasant yr arferiad gyntaf i'r wlad hon, a hwynt—hwy hefyd, mae lle i gredu, a ddygasant ymladdfeydd teirw ac eirth, er mor hoff y tyfodd y brodorion i'r cyfryw sefydliadau yn nhreigl y canrifoedd. Arwr a foddiai y Cymry, neu y Brythoniaid, oedd y Brenin Arthur—drych y cyn-oesau i ymdrwsio ynddo."
Dydd Gwyl Dewi (Mawrth y 1af).—Dewi Sant, yr hwn a gyfrifwyd dros lawer oes yn nawdd sant Cymru, oedd fab i Sandde ap Ceredig ap Cunedda. Yn ol Giraldus, efe a anwyd mewn lle a alwyd Tŷ Ddewi, ac a fedyddiwyd mewn lle cyfagos, o'r enw Clais. Ar y cyntaf o Fawrth cyfarfyddid, agos yn mhob parth o'r deyrnas, â phersonau yn gwisgo y geninen naturiol neu gelfyddydol, naill ai yn nhwll y botwm neu yn y llaw. Yr hanesion am y ddefod hon, fel hanesion defodau seintiau ereill, a amrywiant yn hynod; ac mewn perthynas i'r paham, pa fodd, a pha bryd yr ennillodd y safle o fod yn arwyddlun cenedlaethol y Cymry, nid yw traddodiad, hanesiaeth, a llysieuaeth yn cytuno. Dywed traddodiad ei bod wedi ei mabwysiadu mor foreu a Mawrth 640, i'r fath fri, yn amser rhyfeloedd Cadwaladr, Cadwallawn, a Chadfan, a mynega i Sant Dewi orchymyn i un o'r rheini wisgo y geninen fel arwyddlun, a'u bendithio â buddugoliaeth ar ol brwydr galed, yr hwn, yn ol Hanes Cymru, oedd wedi marw gan' mlynedd cyn tymmor y breninoedd hyn; ond o'r adeg hono i lawr, hyd yn ddiweddar, nid oes na siw na miw am dano yn ngwaith yr un llenor Cymreig.
Mewn ysgrifau —sydd ar gael yn yr Amgueddfa Brydeinig, y rhai a ysgrifenwyd gan Gymry, yn nheyrnasiad Iago y Cyntaf, mynegir fod y Geninen wedi ei mabwysiadu y tro cyntaf fel arwyddlun cenedlaethol gan filwyr Cymreig Harri Tudur, ar ol iddo orchfygu y gormeswr angenfilaidd Dic y Cefngrwm, yn mrwydr fythgofiadwy Bosworth, yn 1485. Ni a welwn gyfeiriadau at y Geninen yn ngweithiau Shakespeare, rai blynyddoedd cyn hyn, mewn perthynas â chymmeriadau Cymreig. Ond pa fodd y saif y traddodiad a'r hanesyddiaeth blaenorol â thystiolaeth llysieuaeth, sef mai yn 1562 y dygwyd y Geninen drosodd y tro cyntaf i Brydain o Switzerland. Tystiolaeth llysieuaeth yw fod y Geninen yn wreiddiol yn perthyn i Switzerland, ond mynega fod ei phridd o'r un natur a phridd Cymru, fel y mae y ddwy wlad yn ymdebygu yn mhobpeth. Paham, gan hyny, nad all y Geninen fod yn un o lysiau cyntefig a naturiol Cymru, ag ydyw felly i Switzerland. Cymmaint ag a ellir benderfynu am y ddefod yw, ei bod yn hen—fod rhyw frwydr enwog yn gyssylltiedig â hi, a bod pob Cymro gwladgarol yn eithaf hysbys mai y Geninen fytholwyrdd yw "Delw a nod ein cenedl ni." Eto, dywedir yn y Cambrian Biography, i'r ddefod darddu oddiar yr arferiad o gymhortha, pan fyddai y ffermwyr, wrth ddyfod i gynorthwyo eu gilydd, yn dod â chenin i frashau y botes gyffredinol. Dichon hefyd mai dyna ddechreuad yr ymadrodd, "bwyta'r geninen," &c.
Gwyl y Ffyliaid, Ebrill y 1af.—Nid oes neb yn gwybod, gyda sicrwydd, yn mha le na pha bryd y dechreuodd yr arferiad digrif o ffoli pobl ar y cyntaf o Ebrill. Olrheinia rhai ef i Wyl Huli yr Hindwaid, yr hon a gedwid ar yr 31ain o Fawrth. Tybia llawer ei fod yn fwy tebyg o fod wedi hanu o Wyl y Ffyliaid yn Rhufain. Barna ereill ei fod wedi dechreu gyda chwareuganau y gwyrthiau, y rhai a arddangosid yn Ebrill, yn y Canol Oesoedd, gan y rhai y gwnawd iddo gyfeirio at anfoniad seithug yr Iesu oddiwrth Pilat at Herod, ac oddiwrth Annas at Caiaphas. Mynir hefyd ei bod yn cyfeirio yn ddechreuol at y gigfran a anfonwyd gan Noah allan o'r arch, tua yr amser hwn o'r flwyddyn; canys fe aeth y gigfran, gan fyned a dychwelyd, at yr arch, ac ni ddaeth, i mewn iddi, ond yn ofer y llafuriodd hyd nes y sychodd y ddaear; ond y golomen a ddaeth yn ol i'r arch. Felly gallai y gigfran arwyddo ffolineb, a'r golomen arwyddo doethineb; a hawdd oedd, mewn gwleddoedd digrif a llawen, i osod dirmyg, drwy y cyfryw gyfeiriad, ar ryw un ffol a ellid dwyllo, megis drwy anfon dynion diniwed ar negesau siomedig o le i le, drwy gyfrwng llythyr, yn cynnwys ysgrifen i'r perwyl hwnw. Ond beth bynag oedd gwreiddyn yr arferiad y mae yn hen, a defod a gynnelir fel hyn yn yr un modd, ac ar yr un amser o'r flwyddyn, mewn gwahanol wledydd, a raid darddu o'r un ffynnonell.
Sul y Blodau.—Sefydlwyd yr wyl yma ar y cyntaf, er coffa, meddir, am ddechreuad wythnos dioddefaint Iesu, a'r mwynhad mawr a gafodd wrth glywed y plant bychain yn bloeddio, "Hosana i Fab Dafydd," a gweled y bobl yn taenu eu dillad ar y ffyrdd, a thori cangau o'r gwŷdd i'w cyhwfanu o'i flaen hyd yn Jerusalem. Adeg ddeniadol yw adeg y blodau, a Sul prydferth yn ddiau yw Sul y Blodau. Wrth droi i'r gwahanol fynwentydd ar Sul y Blodau, y mae rhyw wedd hudolus hyd y nod ar wyneb oer y bedd. Gan fod y dydd hwn yn rhagflaenu y Pasg, dydd a gedwir yn goffa blynyddol o adgyfodiad yr Adgyfodydd, y mae ei amseriad yn rhoddi lle i bawb ystyriol i fyfyrio'n ddwys-dawel am eu hanwyliaid, ac i sylwi'n fanwl ar flodau rhinwedd yn hulio eu beddau. Gwyn fyd na welid pob mynwent yn ein gwlad yn cael ei phrydferthu, nid yn unig bob Sul y Blodau, ond hefyd bob dydd arall drwy gydol y flwyddyn, yn lle cael eu hanmharchu, drwy bob esgeulusdra tuag atynt, nes y maent, oddigerth eithriad, megis yn bentyrau o annhrefn!
Gwener y Groglith.—Yn ol y Saesoneg, gelwir ef y Dydd Gwener Da, Good Friday, oblegyd effeithiau dioddefiadau y Gwaredwr, a'r bendithion annhraethol werthfawr, y rhai, trwy farw, a bwrcasodd Efe i ni. Yn yr Eglwys Gyntefig gelwid yr wythnos yr Wythnos Fawr," a'r "Wythnos Sangctaidd "—yr "Wythnos Fawr," oblegyd y pethau mawr a gymmerasant le ynddi, pethau ag y mae dedwyddwch a bywyd y byd yn nglŷn â hwynt. Yr oedd yr Eglwys Gyntefig yn y canrifoedd cyntaf yn cadw y dydd hwn fel dydd ympryd, ymostyngiad, a gweddi. Nid yw corff mawr y bobl yn ein gwlad ni yn ystyried dim o bwysigrwydd cadw cofwyl marwolaeth Crist yn briodol, eithr drwy wâg bleser anaddas o bob tuedd anystyriol.
Y Pasg, sydd wyl symudol, a gedwir gan yr Eglwys i goffau Adgyfodiad yr Iesu, yr hon o ran ei hynafiaeth a'i rhagoroldeb sydd yn ennill y blaen ar yr holl wyliau ereill. Ar foreu Sul y Pasg arferid codi gyda'r haul, er mwyn cael ei weled yn dawnsio o anrhydedd i adgyfodiad y Messiah. Ystyrid yr amgylchiad hwn fel yn rhywfodd yn arddangos ei fuddugoliaeth Ef ar y bedd.
Meddylir yn gyffredin ei bod yn angenrheidiol i wisgo rhywbeth newydd ar Ddydd Sul y Pasg, ac yn anffodiog i beidio gwneyd hyny, pe bae ond pâr o fenyg neu ysnoden. Y mae yn amlwg fod yr arfer hon wedi tarddu oddiwrth y ddefod hono gynt o fedyddio ar Ddydd Sul Pasg, pryd y cyfrifid y gwisgiad newydd yn arwydd o'r bywyd newydd drwy fedydd. Hyd yn ddiweddar yr oedd cymmaint o barch gan yr hen bobl i Ddydd Sul Pasg, fel ag y cadwent y plant heb eu bedyddio dros. lawer o amser erbyn y diwrnod yma. Hefyd, elai llawer hen ŵr a hen wraig i'r Eglwys ar Ddydd Sul Pasg, i dderbyn y cymmun, ysgatfydd, ag nad oeddynt yn gweled yr Eglwys drwy y flwyddyn, oddieithr ar yr wyl neillduol hon.
Cedwid Sul y Pasg gyda mawr barch i sangcteiddrwydd y dydd. Os digwyddai i benteulu ymhalogi drwy orlwytho tipyn ar ei natur gyda chwmni difyr mewn ffair neu farchnad, byddai wedi ymsangcteiddio erbyn Sul y Pasg, pryd y rhoddid "sangcteiddrwydd ar ffrwynau y meirch;" byddai y ffrwyn a'r werthol mewn cyflwr hynod o lân, a chloben o glustog addurnol, yn cyrhaedd at gynffon y march, yn eisteddle i'r wraig, yn ol yr hen ddull; ac fel arwydd o undeb cymdeithasol, byddai hi yn ei lle ei hun, yn olaf, gyda'i llaw dde am ganol ei hanwylyd, yn arddangosiad o serch, a'r llall yn gafael yn nghrwper y gynffon er amddiffyniad iddi ei hun. Byddai wedi ymwisgo yn dwt, a'i hanwylyd o'i blaen yn ei gôb lwyd, fel colofn nâdd rhyngddi â phob perygl. Cyrhaeddent yr Eglwys erbyn unarddeg; ac wedi cyfranogi o ragorfreintiau y dydd, dychwelent adref yn syml a sobr; "canys mawr oedd y dydd Sabboth hwnw." Dyna ddefodau crefyddol y penteulu a gwasanaeth y Llan wedi myned heibio yn ddedwydd am flwyddyn eto.
Os oedd Sul y Pasg yn bwysig i'r penteulu, yr oedd ei ddydd Llun a'i ddydd Mawrth yn llawn cymmaint felly i'r ieuengctyd, oblegyd y ddefod a elwid "Cyfodi," yr hon oedd yn gynnwysedig mewn gosod dyn i eistedd mewn cadair, a'i gyfodi i fyny oddiwrth y llawr dair gwaith. Dydd Llun y byddai y gwrywod yn cyfodi y menywod, a dydd Mawrth y menywod a gyfodent y gwrywod. Y ddefod a ddiweddai tua deuddeg o'r gloch bob dydd. Y Codwyr, fel eu gelwid, a elent yn dyrfaoedd, a chymmerent afael yn y person a fyddent ar fedr ei gyfodi, ac wedi gwneuthur iddo eistedd mewn cadair, cyfodent ef dair gwaith, gyda bloeddiadau, ac yna deisyfent ei rodd. Weithiau, byddai hanner dwsin neu ddwsin o fenywod yn uno i ymosod ar bwy bynag ddelai heibio. Os buasai gwrthwynebiad gan y dyn, amgylchid ef gan y menywod, nes ei orfodi i roi i fewn. Yr oedd yn rhaid iddo hefyd osod ei law yn ei logell, ac ni byddai heddwch nes gwnelai. Os parhäai yn ystyfnig, amddifadid ef o rywbeth nes cael ufudddod. Y nos, deuai y menywod hyn yn nghyd gyda'u gwŷr a'u cydnabod, i yfed a dawnsio, nes gwario'r holl ennill. Mae tarddiad y ddefod yn anwybyddus, ond tybid ei bod yn dynodi cyfodiad pob peth tyfiannol i fyny o'r ddaear, a bod cyssylltiad rhyngddi â'r adgyfodiad.
Yr oedd amryw arferiadau ereill yn gyffredin, megis troedio pêl ddu (pêl droed), ac nid anfynych y gwelid llawer o drigolion dau blwyf yn ymgyfarfod yn y chwareu hwn, a dibenai y gamp weithiau mewn brwydr gyffredinol rhyngddynt, a'r ffyliaid a gaffent amser i edifarhau am eu hynfydrwydd tra fyddai eu haelodau anafus a'u penau clwyfedig yn gwella.
Arferiad arall y diwrnod yma oedd saethu at nôd, am ryw wobr bychan, ond yr oedd y clod of ennill yn fwy yn eu golwg na gwerth y wobr. Ymddengys i'r cyfryw arferiad ddechreu pan oedd y Cymry yn defnyddio bwäau a saethau yn eu rhyfeloedd; a diben ei sefydliad, yn ddiammheu, oedd i'w gwneyd yn fedrus i ymladd â'u gelynion.
Cedwir dydd y Pasg bob amser y Sul cyntaf wedi y llawn lleuad a syrthio ar neu nesaf ar ol yr unfed dydd ar hugain o Fawrth. Ac os digwydd y llawn lleuad ar ddydd Sul, y Pasg fydd raid fod y Sul canlynol; a'r Sul cyntaf ar ol y Pasg a elwid yn Basg bach, am mai adfynychiad o'r dydd Pasg ydoedd, ond fod gwasanaeth yr Eglwys yn fyrach, neu yn llai, o ran defod, na'r hyn ydoedd ar y Sul o'r blaen.
Yr oedd rhyw ddefodau neillduol mewn perthynas i "wyau Pasg," beth bynag oeddynt, a pha beth oedd eu hystyr. Gwae yr iâr na roddai ei chyfran o'i ffrwyth at y Pasg. Condemnid hi i'w lladd. Yn yr wythnos hon o'r flwyddyn Eglwysig yr wythnos o flaen y Pasg, byddai y bechgyn yn arfer myned ogylch i ymofyn am wyau, gan alw yr arferiad yn Glepio wyau Pasg," am y byddent yn tynu sylw gwragedd ffermydd atynt pan elent at eu drysau â rhuglanod yn eu dwylaw. Dichon mai y bechgyn a arferent, yn yr hen amser, darfu yr adar o'r egin-ŷd, oeddynt y rhai a elent ar y dechreu i gasglu yr hyn a ystyrient fel eu degwm cyfreithlawn, neu eu dyledion Pasg, gan eu bod tra yn cadw yr adar o'r egin, yr un pryd wedi bod yn foddion i gadw draw ysbeilwyr, megis hebogiaid, barcutanod, &c., oddiwrth yr ieir, ac felly eu bod yn haeddu cael rhan neu ddegwm o'r wyau.
Gwyl Farc.—Yr oedd ofergoel hynod, na ffynai dim a heuid neu a blenid ar Wyl Farc; ac nid elai gwedd neb allan i'r maes y diwrnod hwnw, pan syrthiai yr ŵyl ar ddydd gwaith.
Calan Mai.—Yn yr amser gynt nid oedd un diwrnod mor nodedig a'r dydd cyntaf o fis Mai am wledda a phob math o gampau. Y cyntaf o Fai yw dydd gwyl Sant Phylip a Sant Iago yn nghalendar yr Eglwys. Mai y 1af oedd dydd Pawl Mai, pryd yr arferid codi y Fedwen Haf, neu fel y gelwid hi mewn rhai manau, y Fedwen Ifan. Ar ol parotoi y Fedwen, rhoi cylchau o rubanau o'r cwr isaf i'r cŵr uchaf, ei haddurno âg oriaduron, llestri arian, ei chodi, &c., byddai pob un yn cymmeryd ei le yn y ddawns, yn ol lle ei gylch ar y Fedwen. Byddai yr ieuengctyd yn arfer gwisgo eu hunain mewn dillad amryliw ar foreu cyntaf o Fai, ac er mwyn gwneyd y difyrwch yn gyflawn, gofalid am grythor neu delynor i fod yn bresennol. Dygid y gwyliau chwareuol hyn yn mlaen yn y trefi ar draul y corfforiaethau, ac yn y wlad ar draul y plwyfi.
Mewn rhai manau, ffurfiai rhyw ddwsin a hanner o ddynion mewn oed yn gwmni, i fyned o dŷ i dŷ oddeutu tref a gwlad, i ddawnsio yr haf i mewn, gan gardota fel rhai ag "awdurdod" ganddynt! Byddai llwyddiant arianol yr anturiaeth yn dibynu, i raddau helaeth, ar yr "hen Ffwl," a'r "hen Gadi," y rhai ag y byddai coelbren gorchwyliaeth y cardota gwedi syrthio arnynt. Byddai yr "hen Ffwl" wedi ymwisgo yn hynod, yn cario yn un llaw luman cyfrin yr urdd, yn orchuddiedig oll âg arwyddluniau yr haf, ac yn y llaw arall yn cario cwpan bren hirgoes i ddal yr offrwm! Yr oedd yr "hen Gadi " wedi hyny yn hynod ddigrifol mewn gwisg hen wraig, ag ysgub yn ei llaw—i gadw y llawr yn lân i'r cwmni ddawnsio arno, ac i gadw yr edrychwyr draw, ac yn benaf oll i fygwth arian o logellau pawb ddelai i gyffyrddiad â hi; a gwae y sawl a droai glust fyddar ati! Er mai yr adeg i godi y Fedwen, a elwid hefyd yn "gangen haf," &c., ydoedd y cyntaf o Fai, tynid llawer o arferion ereill i mewn i gylch y diwrnod, megis rhedeg gyrfeydd, ymaflyd codwm, taflu maen a throsol, tynu copstol neu dorch, sef eistedd ar y llawr â gwadnau eu traed at eu gilydd, ac ymaflyd â'u dwylaw mewn pren cryf,—coes pigfforch, neu rywbeth, a thynu nes codi y gwanaf oddiwrth y llawr. Wedi y delai yn nos, cynneuid coelcerthi ar gribau y mynyddoedd, fel ar y cyntaf o Dachwedd; a byddai amryw fathau o ddiodydd yn cael eu rhanu, megis Cwrw Gwahodd, &c. Yr oedd yr hen bobl yn deall y pwngc hwn i'r dim—Calan Mai yr oeddynt yn myned yn llawen gyda'u gilydd i'r mynyddoedd, ac yn byw yno yn yr Hafottai ar hyd yr haf; ond Calan Gauaf yr oeddynt yn gofalu am gael y praidd a hwythau i'r dyffrynoedd. Yn agos i'r mynyddau, cedwid lliosogrwydd, bron yn mhob tŷ, o gŵn-milgast gyflym dros ben, dau neu dri o gŵn defaid heb eu hail, ac adar-gi cyfrwys (plant hen langciau), a thebyg eu bod yn ddefnyddiol iddynt yn eu galwedigaeth fel bugeiliaid. Ond rhyfedd y fath barch a delid i'r cŵn, canys hwynt-hwy, bob amser, fyddent agosaf i'r tân yn nghwmni y gwr a'r wraig a'r plant, yn nghyda dwy neu dair o forwynion cymmwynasgar a siriol.
Y Sulgwyn, sydd ŵyl symudol a gedwir i goffau Disgyniad yr Ysbryd Glân ar yr Apostolion mewn dull gweledig—yn dafodau gwanedig megis o dân, ac a elwir y Sulgwyn, am y byddai y rhai a ddeuent i'w bedyddio ar yr ŵyl hon, yn ol gosodiad ac arfer y Brif Eglwys, yn gwisgo I, i arwyddo y purdeb ysbrydol a dderbynient yn y bedydd. Y mae tarddiadau ereill pellach, ond llai tebygol, wedi cael eu rhoddi iddo. Yr oedd cred yn mhlith yr hen Gymry gynt, y gallent gael beth bynag ofynent gan Dduw ar godiad haul boreu y Sulgwyn. Tybid hefyd y byddai'r haul yn dawnsio o lawenydd ar foreu y Sul hwn, megis ar foreu Sul y Pasg.
Yr oedd amryw o chwareuyddiaethau y Pasg yn cael eu harferyd ar y Sulgwyn hefyd, ac ymddengys y byddai ein henafiaid, ar adegau y Sulgwyn, yn anwesu i ormodedd yn mhob math o ymarferion a difyrion, ar gyfer y rhai y byddai llawer plwyf yn darparu y nwyddau angenrheidiol, ac allan o y rhai y byddent yn hawlio eu cyfran briodol o elw. I'r diben hwn byddai tŷ annedd neu ysgubor, yr hwn a elwid tŷ-yr-Eglwys, neu Ty'n Llan, yn cael ei neillduo, a dogn o ddiod yn cael ei ddarllaw, yr hon a elwid yn Gwrw y Sulgwyn, neu Gwrw Eglwys, ac yn cael ei gwerthu i'r plwyfolion a fyddent yn dyfod yno i wledda, yfed, a hapchwareu; a byddai yn cael ei gymhwyso tuag at adgyweirio Eglwysi, ac weithiau at achosion elusengar. Dydd Llun Sulgwyn hefyd, yr oedd yn rhaid i holl bobl y wlad gyfodi yn y boreu am dri neu bedwar o'r gloch, dan y boen o gael eu llusgo o'u gwelyau, a'u gosod yn y cyffion, gan eu cyfeillion. Yn wythnos y Sulgwyn yr oedd yn arferiad i gael oen, a nifer o ferched wedi cylymu eu dwylaw wrth eu cefnau, a phwy bynag o honynt a ddaliai yr oen â'i dannedd oedd yn cael ei galw yn Frenines yr Oen. Ar ol hyn yr oeddynt yn gwledda ar yr oen; ac yr oeddynt yn galw y cwrw a yfid yn Gwrw Oen.
Y mae y Sulgwyn, hyd eto, yn parhau i fod yn ŵyl o gryn bwys ac enwogrwydd, ac yn un ag a gedwir yn mron gan bawb drwy y wladwriaeth. Edrychir tuag ati gan y dosbarthiadau canolradd adeg yn yr hwn y cânt ail brofi llawer o hen fwynderau, ac y cânt ymryddhau am ychydig oddiwrth y byd a thwrf byddarol ei fasnach.
Dygwyl Gewydd.—Dywediad cyffredin oddiar yr hen oesoedd ydyw, "Os bydd yn gwlawio ar y 15fed o Orphenaf, sef gŵyl Sant Cewydd, y bydd yn sicr o wlawio mwy neu lai bob dydd dros ddeugain niwrnod wedi hyny. Credir y dywediad gan lawer mor ddiysgog ag y credant yn modoldeb canwyllau cyrff, a holl ystrangciau swyddgar ysbrydion anghladdau, &c. Y mae Cewydd ap Caw, y sant Cymreig ag oedd yn ei flodau yn gynnar yn y chweched ganrif, wedi colli oddiar lafar gwlad a gwerin, a Swithin, sant y gwlaw, perthynol i'r Saeson, wedi ymlithro yn araf i'w le, dydd gŵyl, yr hwn a ddigwydd, yr un fath a Gwyl Gewydd, ar y pymthegfed o Orphenaf; ac felly y mae Gwyl Gewydd y Cymry gynt, a Gwyl Swithin y Saeson, yn ogystal â Chymry yr oes hon, yn cyfateb yn hollol i'w gilydd, o ran eu hamser, ac o ran eu canlyniadau. Diau fod rhyw reswm boddhaol gan yr hen bobl am gyssylltu deugain niwrnod o wlaw a Dydd Gwyl Gewydd; ond y mae y rheswm am hyny yn hollol dywyll i ni. Llên y werin ar y pwngc yw, mai ar y 15fed o Orphenaf y dechreuodd dwfr y dylif ddisgyn ar y ddaear, a bod gwlaw y seintiau crybwylledig yn parhau am ddeugain niwrnod, oblegyd mai am yr ysbaid hyny o amser y parhaodd dwfr y dylif, yn unol â Gen. vii. 12. Y 15fed dydd o Orphenaf, yn ol yr hen gvfrif, y dechreuai wlawio, y 27ain yn ol y cyfrif newydd; felly, nid yw ein cyfrif ni o'r dydd yn gywir. Dichon mai y golygiad cywiraf ar y mater yw, wedi cael gwanwyn sych, y tebygolrwydd yw y ceir tywydd gwlawog ar ol canol mis Gorphenaf. Os bydd y gwanwyn yn wlyb, y tebygolrwydd yw y ceir tywydd sych o ganol Gorphenaf allan. Y gwirionedd yw, nad oes y rheswm gwanaf dros gredu'r chwedlau yn nghylch gwyl seintiau y gwlaw, fel y cafwyd prawf lawer blwyddyn ar ol hyny. Y mae yn hen ddywediad hefyd mai Dyddiau'r Cwn, y rhai sy'n dechreu y 4ydd o Orphenaf. yw y dyddiau y llosgwyd Sodom a Gomorrah; a chan fod y rhai hyny hefyd yn parhau am ddeugain niwrnod, digon tebyg i draddodiad rywbryd fod ddarfod i fŵg dinasoedd y gwastadedd barhau i ddyrchafu " fel mŵg ffwrn" am gynnifer a hyny o ddyddiau. Hen almanac am y flwyddyn 1776, a ddywed am y cyfryw ddyddiau fel hyn:—"Yr achos o ddyddiau'r cŵn, ag sydd wedi cymmeryd yr enw felly oddiwrth un o'r ser sefydlog, yr hon a elwir yn Saesoneg Dog's Star; a'r pryd y mae ei heffeithiolaeth fwyaf ar ein Daear ni yw, pan fyddo yn codi ac yn machludo i ganlyn yr haul; ac yn achos o fod y dyddiau hyny yn fwll a brwd, ac afiach, yn fwy cyffredin nag amseroedd ereill. A'r amser o'i bod yn canlyn yr haul, yw o Orphenaf 30ain hyd y 7fed dydd o fis Medi."
Gwyl Awst, neu Wledd Awst.—Cynnelid yr ŵyl yma ar ddiwedd y mis, i ddathlu diogeliad blaenffrwyth y ddaear, efallai. Gwyl lawen, ddigrif, a haelionus ydoedd hon.
Calan Gauaf.—Yn eglwysig, Gwyl yr holl Saint y gelwir y dydd hwn; i'r ŵyl hon, tebygol, y perthynai yr hen ddefod o "ranu bara ddydd Calan gauaf," yr hyn a elwid mewn manau "Bara-Chaws-a ddydd gŵyl y meirw." Yr oedd arferiad o wneuthur torthau bychain, i'w rhanu i'r tlodion, bob dydd Calan Gauaf, y rhai a elwid Solod; eraill a'u galwent Bwyd Cenad y Meirw. Ystyriai yr hen bobl nas gallesid dangos mwy o anmharch ar eu perthynasau ymadawedig na thrwy beidio rhoddi i'r tlawd ar y cyfryw ddiwrnod yn rhyw foddhad i'r marw. Dan y grediniaeth hon, rhoddent yn helaeth i bob tlawd a ddeuai at eu drysau. Byddai eu hanwyldeb at eu meirw yn cael eu fesur yn y gardod, oddiwrth yr hyn y gellir credu nad rhyw gardod fach a fyddai, ond rhodd yn ol yr anwyldeb a'r teimlad. Mewn rhai manau, ymgasglai niferi at eu gilydd i ryw ffermdy pennodol i fwyta padellaid o gaws gwyn a bara ceirch, yr hyn a ystyrid yr unig ymborth cyfreithlawn ar y fath noswaith. Hefyd, arferid bob nos Galan Gauaf roddi brechdan o'r tu allan i ffenestr pob tŷ braidd, a dywedyd wrth wneyd hyny:
"Gwen y gwnei â dy holl deulu,
Hyn a gei di genyf 'leni."
Tybid y byddai i Gwen, neu rywun arall, ddyfod cyn y boreu, a chymmeryd ymaith y rhodd.
Ystyrid fod cnau ac afalau yn ffrwythau angenrheidiol i'w bwyta ar y nos-wyl yma, ac egnïai ieuengetyd i gadw cymmaint a allent o honynt erbyn yr adeg hono. Wedi i'r teulu oll ymgynnull o gylch y tân, gwleddent ar eu cnau ac afalau, a bwriai pob un ei gneuen i'r tân, a phan oleuaf y digwyddai iddi gynneu, mwyaf llwyddiannus yn y byd fyddai bywyd y sawl a'i taflodd yn nghwrs y flwyddyn ganlynol; ond os na byddai iddi gynneu dim, yr oedd hyny yn arwyddo marwolaeth i'w pherchen, ac yn peri dychryn a gofid i bawb braidd. Yr oedd yn arferiad i feibion neu ferched ieuaingc gerdded yn wysg eu cefnau at lwyn unig, a thynu llonaid llaw o borfa o fôn y llwyn, yn yr hwn yr oedd gwallt y ddarpar wraig neu ŵr i'w gael. Arferiad arall oedd i fechgyn a genethod redeg saith waith o amgylch y tŷ, gan waeddi, "Dyma'r esgid, lle mae'r troed?" Os byddai iddynt briodi, yr oedd y darpar ŵr neu y ddarpar wraig i wneyd eu hymddangosiad: os na byddai iddynt briodi arch fyddai yn ymddangos. Byddai morwynion yn ofalus iawn i lanhau yr aelwydydd ar nos Galangauaf, rhag ofn i'r Tylwyth Teg gael un ysmotyn budr. Os byddai iddynt esgeuluso gwneyd hyny, nid oedd dim ond anffodion i fod ar eu rhan y flwyddyn ganlynol.
Codi afalau o lon'd crwc o ddwfr oedd prif ddifyrwch y noswaith, ac ni byddai gan unrhyw ymgeisydd gynnorthwy i'w codi ond yn unig cymhorth ei ddannedd, a'r sawl a'u codai yn y dull hwnw a gaffai yr afal yn wobr am ei lafur; a mawr y digrifwch a geid gan y bechgyn a'r genethod wrth gyflawni y campau hyn, gan y byddent yn eu direidi a'u gwamalrwydd yn taro pen y naill a'r llall o dan ddw'r. Rhoddid arian hefyd yn yr ystwc, ac ystyrid y sawl a lwyddai i godi chwecheiniog o waelod y dwfr, wedi cyflawni gorchestgamp. Yr un pryd, arferid hongian afal oddiwrth y nenbren a chymmeryd tamaid o hono heb. gyffwrdd âg ef â'r dwylaw—y rhai hyny yn glymedig y tu ol. Cân y noswaith oedd a ganlyn:
"Aeth f'anwylyd yn G'langaua',
Chwi wyddoch wrth y rhew a'r eira;
Dywedwch imi'n ddigyfrinach,
Pa'm na wisgwch Lewis bellach?
Rhai ro'nt Lewis wrth eu breichiau,
Rhai ro'nt Lewis wrth eu cefnau;
Ond cymmer ffasiwn newydd Gwenfron,
Dyro Lewis rhwng dy ddwyfron."[6]
Arferid a myned i'r eglwysi ar nos Galangauaf i wrando ar ysbrydion trigolion y plwyfi yn galw rhes o enwau y rhai oeddynt i farw y flwyddyn ganlynol, ond tebyg nad oedd hyny yn cyfeirio at un digwyddiad hynod yn mhlith y Cymry—mai prawf ydoedd o ddechreuad y flwyddyn ar y cyfryw amser, fel y gellir meddwl oddiwrth bamphledyn, yr hwn sydd a'i wynebddalen yn geirio fel hyn:—"Adroddiad Nodedig o'r Byd Anweledig; sef Copi o Leferydd a barablwyd yn y flwyddyn 1697. Gan Harbert Gruffydd o Gaernarfon, yr hwn ymadrodd a draethodd yr hyn a ganfu ef yn Nyddiau ei gnawd. Gan fod yn arferedig Ynghymru i wylio ar Nos Galangauaf mewn drysau Eglwysydd, neu bennau bryniau, i ddal sylw neu Ddarogan marwolaeth y flwyddyn a fyddo yn canlyn y cyfryw rai a gleddir yn yr Eglwysydd hynny." Yr "Adroddiad" sydd yn dechreu fel hyn:—"I Wneud profedigaeth o'r Anweledig arfaeth yma ac er mwyn yr unrhyw achos un Harbert Gruffydd o Gaernarfon, a aeth ar nos Galangauaf yn y flwyddyn 1697. Gyda Richard Horsley o'r Drêf honno, i borth yr Eglwys Llan Beblic, o ddeutu 9 o'r gloch o nôs, ac a eisteddasant yn y porth tan rhwng deg ac 11, ar ba amser Richard Horsley a gysgodd, gan fwrw ei bwys ar Harbert Gruffydd; yn fuan ar ol i R. Horsley gysgu fe glywai Harbert Gruffydd dwrwf o fewn yr Eglwys, a llais hefyd, ond ni fedrai ddeall yr un gair; ond fe glywai groch enwau amryw Bobl o'r plwyf hwnnw a rhai dieithr hefyd."
Arferid hefyd, fyned o amgylch yr Eglwys dan hau hadau cywarch, ychydig cyn deuddeg o'r gloch. Rhaid i'r personau fyddai yn hau, pa un bynag ai mab ai merch, fyned o amgylch yr Eglwys, a dyweyd ei fod yn hau, ac yn disgwyl i'w gariad ddyfod ar ei ol i fedi. Pan darawai cloch yr Eglwys yr ergyd diweddaf o ddeuddeg, yr hauwr a edrychai ar ei ol, ac nis methai un amser weled naill ai arch neu ysbryd ei gywely priodasol. Yr oedd yr ysbryd yma fynychaf yn anadnabyddus, ond pan welid y cariad gyntaf yn gorfforol, adnabyddid ef yn union. Byddai llewygfaon peryglus yn deilliaw fel canlyniad o'r gwaith hwn, ar y fath amser unig, ac mewn lle mor debygol o beri dychryn; ac weithiau diweddai y rhyfyg yn angeuol.
Cynneuid banffaglau neu goelcerthau ar uchelfanau amlwg, yn y nos o flaen y dydd cyntaf o Dachwedd, neu ddydd Calangauaf. Mae yn anhawdd cael hanes rhesymol a boddhaol, ar ba amser, nag ar ba achos, y dechreuodd y ddefod hon yn y wlad yma: rhai a ddywedant un peth, ac ereill beth arall; ond pob plaid, mae'n debyg, mor bell oddiwrth y nôd ag oddiwrth gyttuno â'u gilydd. Yr enw mwyaf adnabyddus ar yr wyl hon, i'r werin, ydoedd "Gwyl y Campau." Yn fwyaf tebygol, hen arfer baganaidd o addoliant i'r dduwies Ceres ydoedd y tanau hyn, yr hon a elwid Certh gan y Brythoniaid, fel y galwent Mars yn Mawrth, Mercurius yn Mercher, &c. Wedi i'r goelcerth losgi allan, a phan na byddai dim ond tywyllwch yn teyrnasu, dyrchefid y bonllefau canlynol:
Ladi wen
Ar ben bob pren.
Nos Galan—gaua'
Bwbach ar bob camfa.
Nos G'lan gaua'
Twca 'fala'.
Hwch ddu gwta
Ar ben pob camfa,
Yn nyddu a chardio
Bob nos G'langaua'.
Nos G'lan gaua'
Ar ben pob camfa,
Hwch ddu gwta
Gipio yr ola'.
Wedi hyn, rhedid am y cyntaf, mewn ofn a braw, am ddiogelwch, rhag syrthio yn anrhaith i'r "Hwch Ddu Gwta."
Tebyg mai ychydig sydd yn gwybod am y tanau a gynneuid ar rai manau o barch i'r duw Beli neu Baal. Cynneuid hwy ar y cyntaf o Fai, a golygid eu bod yn gofyn ei amddiffyniad ef i'r dâ. Diau fod llawer o ddefodau eto yn aros, a'u hystyr wedi myned i golli, ag ydynt yn naturiol yn cyssylltu â choffadwriaeth y cyfryw dduw. Heblaw y tanau a nodasid, cynneuid llawer ar garneddau i rybuddio cymmydogaethau o ddynesiad gelynion yn yr hen amser. Dyna oedd telegraph yr oesau hyny. Cynneuid tanau ar y banau mwyaf amlwg. Defnyddid penau'r clochdai i'r perwyl, a dodid padell fawr ar ben ambell glochdy i losgi pyg (pitch) ynddi i'r pwrpas.
Eto, i sylwi yn helaethach ar y crybwylliad rhagflaenol yn nghylch yr "Hwch Ddu Gwta," gellir cynnyg y tybiau canlynol:—Rhai a resant y cyfryw yn rhywogaeth y "Gath Balug," ag oedd yn adnabyddus gan yr hen Gymry; ond yr hyn a grybwyllir am y fath greadur sydd mor dywyll, fel mai braidd y gellir gwybod dim i sicrwydd yn ei gylch. "Crybwyllir, yn y Trioedd Cymreig, am berson a elwir Coll ab Collfrewi, yr hwn a resir gyda Hu Gadarn ac Illtyd, fel y tri a gyflwynasant fendithion goruchel i genedl y Cymry. Coll a ennillodd yr anrhydedd hwn trwy ei waith yn dwyn gwenith a haidd i'r ynys, tra nad oedd yma o'r blaen ond rhyg a cheirch. Y digwyddiad hwn a roddir, yn un arall o'r Trioedd, mewn modd dammegol, lle y gosodir Coll, Trystan, a Phryderi, allan fel tri meichiad gryfion Ynys Prydain. Yn hon, gosodir Coll allan fel yn gofalu am hwch Dallbaran Dalben, yr hon a ddaeth ar ei thaith i Benrhyn Penwedig yn Ngherniw, ac yna aeth allan i'r môr; a lle y daeth i dir drachefn oedd Aber Tarogi yn Ngwent, a Choll yn gafaelu yn ei gwrych lle bynag yr elai, pa un ai ar dir ai ar fôr. Yn Maes-y-gwenith, yn Ngwent, yr hwch a adawodd dri gronyn o wenith a thair gwenynen, a bu Gwent yn enwog fyth wedi hyny am wenith a mêl. O Went hi a aeth i Ddyfed, lle y gadawodd ronyn o haidd a phorchell, ac o'r amser hwnw y mae Dyfed wedi rhagori am ei haidd a'i moch. Wedi hyny, yr hwch aeth i fyny tuag Arfon, ac yn Lleyn hi a adawodd ronyn o ryg, yr hwn a wnaeth Leyn ac Eifionydd yn enwog am ryg fyth ar ol hyny; ac ar ochr rhiw y Gyferthwch hi a adawodd genaw blaidd a chyw eryr. Coll a roddodd y cyw eryr i Brynach y Gwyddel o Ddinas Ffaraon, a'r blaidd a roddodd efe i Menwaed o Arllechwedd; a llawer ynt y chwedlau a adroddir am Eryr Brynach a Blaidd Menwaed. Yna yr hwch a aeth rhag ei blaen i'r Graig Ddu yn Arfon, lle y gadawodd gath ieuangc, yr hon a daflwyd gan Coll i'r Fenai, lle y cafwyd hi gan ddyn o Fôn, yr hwn a'i dygodd adref, ac a'i magodd; eithr pan dyfodd i'w maintioli, aeth yn hynod ffyrnig, a dechreuodd ladd a llarpio y dynion a'r anifeiliaid, am ba herwydd cafodd ei rhesu yn un o'r Trioedd fel un o dri aflonyddwch Mona, a fagesid ynddi, dan yr enw "Cath Balug." Yn yr hanes hynod hwn, ymddengys yr ymdrechir gosod allan ryw hen goffadwriaeth am ymddangosiad llong ddieithr, fe allai o Phenisia, ar ororau Prydain Fawr, yr hon a ddygodd i'r ynys y gwahanol bethau a ddarlunir yn flaenorol; a dywedir fod yr un gair yn cael ei arfer gynt am hwch ag am long, yr hyn a ddyry gadarnhad mawr i'r dyb hono. Meddylir yn gyffredin mai dywalgi (tiger) ieuangc oedd y gath hon, a bod yr hen Gymry yn ei weled yn fwy tebyg i gath nag un creadur arall a adwaenent hwy, o ba herwydd galwasant ef yn "Gath Balug (the smooth—coated cat); a phan dyfodd y dywalgi i fyny yn greadur mawr, dechreuodd ladd a llarpio, yn ol ei anianawd, a chafwyd trafferth mawr i'w ddifetha.
Mae rhywbeth hefyd i'w ystyried yn yr enw Coll, a roddir ar lywydd y llong a ddarlunir dan yr enw hwch. Arwydda yr enw ei fod weithiau yn myned i golli, o ba herwydd rhesir ef gyda Menw ab Teirgwaedd a Drych ail Cibddar, fel y tri a allent wneyd eu hunain yn weledig neu yn anweledig yn ol eu hewyllys eu hunain. Os mai llywydd llong dramor oedd Coll ab Collfrewi, a'i fod weithiau yn dyfod â'i lestr i Brydain, ac yna yn dychwelyd yn ol i'w wlad ei hun, yna yr oedd yn dyfod yn weledig i'r Cymry, ac eilwaith yn myned yn anweledig, ac yr ydym yn cael deongliad cywir iawn o'r briodoliaeth hon a ddywedir ei fod yn feddiannol arni." Tebyg mai caingc gyfrinol yn, neu o'r cymmysgedd blaenorol, yw y chwedl ym mherthynas i'r "Hwch Ddu Gwta," a'r hen ddywediad adnabyddus hwnw—fod "yr Hwch wedi myn'd drwy'r shop," yn nghyda'r llysenw oestadol "Moch Môn."
NOSWYL Y MEIRW.
Cyn ddiweddared a chan mlynedd yn ol, yr oedd yn arferiad cyffredin mewn llawer parth o'n gwlad losgi canwyllau yn eglwys y plwyf ar Noswyl y Meirw, Tachwedd yr ail, er mwyn gweled pa lwyddiant a geffid yn ystod y flwyddyn a gyfrifid yn dechreu y pryd hwnw. Yn ngwyll y nos, y pryd a nodwyd, cyrchai haid o ferchetach i'r llan, a phob un yn dwyn ei chanwyll gyda hi.
Ar yr awr bennodol, goleuid yr holl ganwyllau gan y clochydd, presenoldeb a gwasanaeth yr hwn oedd yn anhebgorol ar yr achlysur. Ennynid y canwyllau gyda phob difrifoldeb a phwysigrwydd. Edrychai'r menywod gyda'r pryder mwyaf bob un ar ei chanwyll, gan sylwi yn fanwl ar y dull y byddai yn llosgi. Os llosgai yn oleu ac yn ddisglaer, llwyddiant a hawddfyd drwy yr holl flwyddyn ganlynol fyddai cyfran y wraig a'i pioedd. Os marwaidd a dilewyrch, gan boeri a chlecian, y llosgai'r ganwyll, trwstan, trafferthus, ac anffodus fyddai amgylchiadau ei pherchen. Ond os diffoddai'r ganwyll cyn llosgi allan, byddai yr un a'i dygasai yno mor sicr o farw cyn diwedd y flwyddyn a phe y buasai yn farw y munyd hwnw!
Megis yr awgrymwyd eisoes, gwylid y canwyllau yn llosgi o'r dechreu i'r diwedd gyda'r dyddordeb mwyaf, a nodid yn ddyfal pa sut y byddai pob rhan o honynt yn llosgi; a chymharid y rhanau hyny â gwahanol ranau y flwyddyn oedd yn canlyn. Wedi llosgi allan y ganwyll olaf, cychwynai'r merched anweddog allan, a rhoddent ddau dro neu dri o amgylch yr Eglwys; ac yna elent adref i'w gwelyau, heb ddywedyd gair wrth undyn byw ar gyfrif yn y byd. Nid oedd sill i gael ei hyngan o'r pryd y deuid allan o'r Eglwys, hyd nes y deffroent bore dranoeth.
Yn eu cwsg y noson hono ymddangosai eu cariadon iddynt—y rhai oedd i fod yn wŷr iddynt, pan ddelai i ben yr amser a bennodid gan eu tyngedfenau.
Un tro, mewn Eglwys digon adnabyddus yn Lleyn, digwyddodd i ganwyll merch ieuangc o'r gymmydogaeth ddiffodd cyn hanner llosgi; credodd hithau druan, yr argoel anffodiog; cymmerodd y peth at ei chalon; ac ni fynai mewn un modd gael ei darbwyllo nad oedd y ganwyll yn gwybod dim am ei thynged; a'r canlyniad fu, bu farw yr eneth cyn pen tair wythnos!
Mewn rhai ardaloedd, arferid llosgi canwyllau, a chadw'r ddefod gyssylltiedig â hyny, ar Noswyl Mabsant y plwyf, ac nid ar Noswyl y Meirw; a byddid hefyd, mewn rhai manau, yn offrymu rhyw ychydig geiniogau i'r sant ag yr oedd y plwyf dan ei neillduol nodded.
Y NADOLIG.
Nid yw yn debyg fod y Nadolig yn ŵyl o dadogaeth Gymreig o'r hyn lleiaf, nid yw ei henw yn arwyddo hyny. Y mae yn wir fod yr enw yn dwyn tebygolrwydd mawr i rai geiriau Cymreig, megis genidol, enidol, &c., y rhai a darddant o'r gair geni; ond nid yw yn debygol ei fod yn tarddu o honynt hwy. Ymddengys fod gwreiddyn yr enw yn y gair Lladin Natalis, ystyr yr hwn yw nativity, genedigaeth, neu ddydd genedigaeth. Nid oes hanes pa bryd y dechreuwyd cadw y dydd hwn yn ŵyl er coffadwriaeth am enedigaeth Crist. Rhai a ddywedant ei fod yn cael ei gadw felly er dyddiau yr Apostolion, ac yn y canrif cyntaf; ond o hyn nid oes prawf digonol wedi ei ddangos; ond y mae genym brawf fod y dydd hwn yn cael ei gadw er coffadwriaeth am enedigaeth Crist tua'r flwyddyn tri chant a hanner o oed Crist. Mae llawer rhagor o ddynion yn barotach i ddywedyd ei fod yn d'od, nag sydd yn alluog i ddywedyd paham y cedwir Nadolig yn ddydd gŵyl. Yr oedd y dydd hwn yn cael ei gadw gan ein teidiau oddiar yn forau; eu blwyddyn hwy a ddechreuai ar y diwrnod hwn; ac er dangos fod yr haul wedi gorphen ei gylchdro chwemisol, elent drwy lawer iawn o ddefodau a gloddestau o lawenydd wrth weled yr haul yn d'od yn nes atynt, gan daflu ei belydrau er gwresogi y ddaear eilwaith. Heblaw hyny, addurnent eu ceginau â cheingciau gwyrddion, er parch i'r dydd. Ac ar ol lledaeniad Cristionogaeth, yr oedd braidd yn anmhosibl dyddyfnu eu serchiadau oddiwrth lawer o hen arferion paganaidd; am hyny caniatawyd i'r Cristionogion boreuaf gadw rhai o honynt. Yn mhen ychydig amser, cytunwyd y 25ain o Ragfyr, er coffadwriaeth am enedigaeth Crist; oddiar hyny, y mae Nadolig yn cael ei gadw yn ddydd gwyl gan yr holl Gristionogion. Yn y dyddiau cyntefig, ymdyrai y bobl at eu gilydd ar y dydd hwn i ganu anthemau a charolau; gwelid hen ac ieuaingc yn cyduno mewn llawenydd i delori cathlau soniarus. Yr hynafiaethydd hyglod, Pennant, a ddywed yn ei Deithiau, wrth son am hen arferion crefyddol yn mhlith y Cymry, "Y rhan amlaf o'r plwyfolion, yn nghylch tri o'r gloch boreu Dydd Nadolig, a gyrchant i'r Eglwys, ac yno, ar ol y Gwasanaeth a'r Bregeth, canant Psalmau ac Emynau hyd ddydd goleu; ond os rhwystrir hwy trwy afechyd neu henaint i gyrchu i'r Eglwys, darllenant y Gwasanaeth gartref, a chanant Garolau ar Enedigaeth ein Iachawdwr. Gelwir y Gwasanaeth cyhoedd hwn Plygain." Erbyn hyn, mae y Plygain, neu wasanaeth yn yr Eglwys, tua thri o'r gloch y boreu, a'r carolau perseiniol a genid, er cof am enedigaeth y Messiah, a mawl i'r canwr goreu, yn ogystal a difyrwch y gwrandaw-wyr, wedi eu gosod heibio bron yn mhob man, er fod llawer o honynt yn aros eto yn nghof y werin. Dyma rai o brif resymau yr hen bobl dros gadw yr hen Ddydd Nadolig yn ŵyl:—Byddai yr ychain yn "penlinio," sef gorphwys ar eu blaenliniau. foreu Dydd Nadolig—Boreu y Plygain, fel ei gelwid o barch i'r Hwn a anwyd yn y preseb gynt y gwenyn yn sio yn eu cychod ar y cyfddydd—swn canu i'w glywed yn yr awyr ar blygeinddydd y tywydd yn feiriol, hyd y nod ar y tymmor caletaf—y llysieuyn a elwir Rhos Mair yn blodeuo—pren Joseph yn Ynys Afallen, yn blodeuo, sef y wialen oedd gan Joseph o Arimathea yn ei law pan y daeth drosodd yma i bregethu. yr hon a blanodd efe yno. Yn gysylltiedig â hyn. coffâwn ddyhewyd Sion Owain, felinydd, o Eifionydd, yr hwn, oddeutu can' mlynedd yn ol, a wnaeth bererindod cyn belled ag Ynys Afallen. yn nghwr Gwlad yr Haf, i ymweled â phren Joseph. Teithiodd yr holl ffordd ar ei draed yn nhrymder y gauaf, dros fynyddau, drwy gymoedd a dyffrynoedd, ar hyd croesffyrdd a llwybrau anhygyrch, yn ddynyn dieithr, a'i logell yn ysgafn. ac heb air o Saesneg ond "Stick of Joseph." Cyrhaeddodd yno er y rhwystrau i gyd, a dychwelodd adref yn llwyddiannus, â brigyn o bren Joseph yn ei feddiant, i'w gadw yn grair i'w ddiogelu rhag pob anffawd!
Yr oedd y Nadolig yn un o'r gwyliau ag yr oedd iddo y croesaw mwyaf gwresog o holl wyliau y flwyddyn. Yr oedd y disgwyliad am dano yn un cyffredinol, ac yn peri mwy o ysgogiad a bywyd yn mheirianwaith gobeithion a dymuniadau y lliaws nag ydoedd ymweliadau gwroniaid, breninoedd ac amherawdwyr, oblegyd yr oedd gan y Nadolig wên i'w gosod ar bob wyneb, a gair i'w ddywedyd wrth bob calon. Chwiliai llawer plentyn pryderus am ei hosan hiraf ar gyfer ymweliad y boneddwr gwynfarfog ag y byddai ei ddyfodiad traddodiadol drwy y simdde. Ni byddai y fam chwaith, yn ddidaro, am y parch a ddangosid iddi gan ei phlant; a byddai taid a nain hefyd bron mor awyddus a'u hwyrion i weled sut y byddai i serch gofio am danynt; byddai son am enw y Nadolig yn peri adgyfodiad i fyrdd o gyd-feddyliau o'r mwyaf dymunol a hapus, efe ydoedd ddydd mawr yr ŵyl wyliau yn nghyfrif y werin, ac eto i raddau mawr.
Bu y Cymry unwaith yn nodedig am eu dull o gadw gwyliau; nid difyrwch bychan ydyw darllen, mewn hen lyfrau, am eu caredigrwydd a'u harferion. Yr oedd y Nadolig fel yn agor pob drws, ac yn dadgloi pob calon. Daeth a'r gwreng a'r bonedd yn nghyd, gwnaeth i neuaddau cestyll a llysoedd adseinio gan erddygan y delyn ac acen y garol, a pharodd i'w byrddau glecian o dan bwys y seigiau. Hyd y nod y bwthyn lleiaf a wisgai y celyn uwch ei ddrws, ymdywynai y tân drwy y ffenestr, fel i wahodd y pererin i droi i mewn i uno yn eu chwedlau hen a difyr. Y mae balchder y dyddiau diweddar wedi dileu llawer o hyn. Aeth y byd yn fwy bydol, gwelir mwy o afrad nag o gysur ymdaenodd pleser y ffrwd yn lletach, ond yn llawer basach nag o'r blaen, a gadawodd y rhedle dwfn, tawel, ar hyd yr hwn y dylifai ei dyfroedd melus unwaith. Os ennillodd cymdeithas rywbeth yn y cyfnewidiad, collodd lawer o'r teimladau cartrefol a'r pleserau a breswylient ar yr aelwyd, &c.
GWYLMABSANT.
Telir sylw mawr i ŵyl-ddyddiau y saint nas gwyr un o bob mil o'r bobl beth a wnaed ganddynt. Y Rhufeiniaid a'u galwent Fasti Memorice Sanctorem, a'r Cymry a'u galwent Gwyliau Myfyr Sant. Ac oddiwrth yr enw hwn y daeth Gwyliau Mab Sant. Pan adeiladid eglwysi gynt, arferid eu cyssegru a'u cyflwyno yn hollol i wasanaeth Duw; a chedwid gwledd i goffau hyny, a mawr lawenydd fyddai ar yr achos. Adgoffeid gwyl y cyssegriad bob blwyddyn ar ol hyny gan lawer iawn o bobl. Dywed Rowland's Mona Antiqua, y cedwid Gwylmabsant er cof am angeu y sant, ar enw yr hwn y gelwid yr Eglwys, neu er cof am ryw ddigwyddiad hynod yn ei fywyd, neu er coffhau dydd cyssegriad yr Eglwys a gyflwynid iddo. Am gannoedd lawer o flynyddau bu y Gwyl Mabsant yn un o brif sefydliadau y genedl Gymreig. Ei fod o darddiad Pabyddol sydd amlwg, yr hyn hefyd a brawf ei fod o hynafiaeth mawr. Telid gwarogaeth fanwl i Wylmabsant gan yr hen bobl. Os yn ddydd ympryd a gweddi yn herwydd y sant defnyddiol yr ordeiniwyd yr wyl yn wreiddiol, mynai y werin felusach mêl o ysgerbwd y llew hwn na galar ac wylofain. Os digwyddai Gwyl-y-sant a thymmor hela ysgyfarnogod yr un amser, y geinach gaffai fod yr aberth, a'r person a'i blwyfolion fyddent y gwledd-fwynhawyr. Nid oedd yr hen bobl yn anfoddlawn i'r person ymloni tipyn, os byddai ef yn gwmniwr da.
Yr wyl hon oedd uchelwyl pob plwyf, a byddai pawb yn cymmeryd eu rhyddid ar y diwrnod hwn yn y plwyf y perthynent iddo, i wneuthur bron pa beth bynag a ddymunent. Dydd oedd hwn o rialtwch gan bob dosbarth a sefyllfa o ddynion. Ymgystadleuid mewn pob math o chwareuon, megis rhedeg am y cyntaf, ymaflyd codwm, neidio, rhedeg mewn sachau, dringo polyn wedi ei seboni, &c., a cheid llawer neuadd gwrw, lle byddai y gwpan a'r delyn hyd oriau hwyr y nos, gan fyrhau yr amser ag ymadroddion digrifol, difyru a dawns a chân; a byddai cacenau, afalau a melusion, i'w cael yn mhob congl. Y dosbarth nesaf fyddai dawns y boneddigesau a'r boneddigion ieuaingc. Cefnogid y ddawns gan y rhieni, er mwyn cadw pellder digonol rhwng personau o waedoliaeth a'r dosbarth gwerinol, a'u rhwystro i ymgyfeillachu â hwy. Byddai treth neu "siot " y cyfarfod hwn tua phum swllt, er anrhydedd y cwmni urddasol oedd i mewn, ac yn rhiniog digon uchel i gadw y tlawd allan. Dilynid yr wythnos gan wahoddiadau cyfeillgar y naill i'r llall, a dyna yr adeg am "y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd." Ac er cyrhaeddyd mwy o lawenydd yn y presennol nag ydoedd o alar yn y gwreiddiol, yr ydoedd Gwyl-mabsant-bach, yn yr hwn yr oedd y gweision a'r morwynion yn ymgrynhoi i lyfu y dysglau, &c.
Yr oedd yn codi oddiar natur yr amgylchiadau hyn fod rhyw bethau yn cael eu dwyn yno ar werth at angen pobl bellenig. Wedi dwyn rhai pethau yno i'w gwerthu, neu i'w cyfnewid, gwelwyd y gallesid dwyn pethau ereill yno at fasnachu â hwynt. Dyna ddechreuad y ffair. Mae yn wir y gelwir rhai ffeiriau wrth yr enw hwn hyd heddyw, megis "Ffair Gw'l'absant Llanllyfni," &c., ac oddiwrth yr arfer o ddodi pobl i gysgu ar welyau caledion ar loriau neu lofftydd, ar adegau o gynnulliadau lliosog y gelwir gwely felly yn "Wely Gw'l'absant," a llawer iawn o ddigrif-bethau yn nglŷn â thrwstaneiddiwch y cynnulliadau hyny a adroddir yn mhob parth o'r wlad. Y cynnulliadau sy genym ni heddyw yn ffeiriau, gwyliau crefyddol oeddynt ar y cyntaf, ond cawsant eu llygru drwy ymrysonau mewn chwareuon, &c. Erys enghreifftiau o hapchwareuon ar raddfa eang yn ein gwlad hyd y dydd hwn. Ceir yn aml gaeau yn perthyn i un tyddyn, yn nghanol tyddyn arall, wedi eu hennill a'u colli yn y Mabsantau, rhai yn dwyn yr enwau "Cae-cicio," "Clwt-y-bêl," &c. Mae yn ymyl Llanystumdwy lecyn o dir triongl, tebyg ei ddull i'r delyn Gymreig, yn dwyn yr enw "Maes y Gwaed," lle, yn ol hen hanesion, wedi bod yn eiddo i'r Eglwys, ond a gollwyd trwy ystryw ddichellgar, fel llawer o bethau fu unwaith yn eiddo i hen Eglwysi ein gwlad. Tebyg iddo gael yr enw "Maes y Gwaed " am y byddai ymladdfeydd gwaedlyd rhwng dynion meddwon â'u gilydd yn mynych ddigwydd arno, yn nghysswllt â'i agosrwydd i dafarndy oedranus. Mae llecyn o'r un enw yn ymyl Llanarmon, yn yr un cwmmwd, lle hefyd y nodir safle tafarndy gynt.
Heblaw y gwyliau blaenorol, perthynai i'r werin rai gwyliau ereill, ag oeddynt yn cael eu hystyried ganddynt, efallai, yn israddol i'r lleill, megis Gwyl y Ganwyll Frwynen, yr hon a gynnelid ddwy waith yn y flwyddyn, yn mis Mawrth a mis Hydref. Yr oedd ganddynt hefyd un Sul y styciau yn y flwyddyn, ar yr hwn, wedi i'r ŷd gael ei stycio ddiwedd yr wythnos, y byddai yr holl styciau yn sefyll; ond ar dywydd cyffredin a ffafriol, byddai yr ŷd, erbyn yr ail Sul, wedi cael ei gludo i'r ydlanau; ac ni byddai dau Sul styciau, os na byddai y tywydd yn digwydd bod yn wlybyrog. Arferai llawer fyned i benau y moelydd i edrych o amgylch ar y wlad a'r meusydd yn llawn o styciau ŷd. "Boddi y cynhauaf," "tori pen y wrach," neu dori-pen-medi," ar ddiwedd y cynhauaf, oedd yn coroni'r cwbl; tori'r gaseg fedi â'r crymanau, y gwâs yn rhedeg â hi i'r tŷ i'w feistres, y morwynion yn ei gyfarch yn y drws â chymmaint a allent daflu o ddwfr arni, ac yntau yn ennill ei swllt os gallai roddi y gaseg fedi yn sych ar y bwrdd. Ar ol y cawl a'r cig, anwyl oedd gweled y bwdingen pen medi yn cael ei thafellu i'r bobl a'r plant. Byddid, yn y parthau mynyddig, arferol o ddyrnu y ceirch ar y maes, gynted ag y gellid ar ol ei gynheuafu; ac yna ei grasu mewn odyn i'r diben o'i silio; a llawer o ddifyrwch a fwynheid wrth ddyrnu ac adrodd chwedlau digrif o drwstaneiddiwch, ond mwy fyth wrth fwyta ac yfed, canys byddai "hen ddiod o waith tŷ" ganddynt:
Cwrw da a gwŷr i'w drin,
A gwin ar fin afonydd,
A phawb a'i bennill yn ei gwrs,
Heb son am bwrs y cybydd."
Heblaw yr arferai y werin gymmaint â champau ar adegau neillduol y gwyliau, nid oedd braidd unrhyw adeg arall nad oedd yn ymwneyd llawer â hwynt ac yn ymddifyru ynddynt. Gynt, prif ddiogelwch meddiannau oedd grym a gwroldeb eu perchenogion; ac oblegyd hyn yr oedd pawb yn ymdrechgar am fod yn fedrus i drin arfau rhyfel. I'r diben hwn byddent yn fynych yn arfer eu hunain mewn amrywiol gampau a ofynent am nerth a medrusrwydd; ac yr oeddynt yn awyddus iawn am gyrhaeddyd enwogrwydd, drwy gael y flaenoriaeth ar eu gilydd yn y gorchwylion hyn. Nid oedd yr holl gampau yn gofyn grym corff; ond yr oedd rhai o honynt wedi eu bwriadu i ddangos rhagoroldeb cynneddfau, yn ogystal a chywreinrwydd a medrusrwydd. Rhenid hwy i amryw ddosbarthiadau, yn ol eu natur a'u dibenion, a'r graddau o barch a roddid i'r rhai a fyddent yn gyfarwydd ynddynt, ac fel cefnogaeth a hwylusdod yr oedd athrawon y bobl wedi tynu allan "Bedair Camp a'r Hugain" i'r genedl i'w hymarfer. Yr oedd deg o'r rhai hyn yn cael eu galw y "Campau Gorchestol," a'r deg yma yn briodol ydoedd "Chwareuon Amdrechol yr Hen Gymry." Ystyrid y rhai hyn o uwch bri na'r lleill; yn fwy dynol, ac yn dwyn llawer mwy o anrhydedd. Am y lleill, pethau oeddynt i'w hymarfer pan na fyddai cyfleusdra at y campau gorchestol; ond pan fyddai y tywydd a chyfleusderau ereill yn caniatau, gwelid yr ieuengetyd yn ymdyru yn finteioedd heini i ymarfer eu hunain. mewn rhai o'r deg gorchest-gampau. Dyma oedd eu hyfrydwch yn eu horiau hamddenol ar ol llafur, yn gystal a chan feibion y boneddigion. Arferid y campau teuluaidd mewn cyfeillachau a gwleddoedd; ac yr ydoedd yn anmharch i ddyn fod yn anwybodus o honynt pan elai i fysg dieithriaid. Mewn oesoedd diweddarach, daeth taflu maen a throsol yn fwy pendant fel offerynau y chwareu, y rhai a luchid ganddynt i bellder anhygoel braidd. Tebygol mai o'r arferiad o daflu maen nes cyrhaedd gwal terfyn yr ymdrechfa, neu o "godi maen" i wal tŷ, clawdd neu rywbeth arall, deilliodd yr hen ddywediad "hwn a hwn aeth a'r maen i'r wal." Yr oedd rhedeg yn chwareu dewisol iawn, a chefnogid y werin i'w ymarfer, yn gystal ag ymafael "codwm cefn," a "chodwm braich," &c. Cocyn saethu, curo bando, a choetio, oeddynt hefyd uchel eu bri hyd yn lled ddiweddar.
"I ganlyn gwrol gampau,
Taflu'r bàr neu faen heb fwyth,
Neu godi'r llwyth lle byddai;
Ymaflyd codwm ar dir teg,
Neu redeg am y cyntaf;
Neidio, saethu'r nôd,
A cheisio bod yn benaf."
Perthynai tumpathau chwareu i bob plwyf bron, twmpathau wythnosol yn y tymmor haf. "Twmpath," o ran lle oedd yn ddewisedig yn agos i'r fynwent, ac weithiau yn y fynwent, tua deg-ar-ugain troedfedd ysgwar, wedi ei gloddio i fyny o amgylch yr esmwythfeingciau o dywyrch gleision, a chadair freichiau o'r unrhyw ddefnydd i'r crythwr, a'r llawr canol o'r unrhyw ddefnydd at wasanaeth y chwareu. Y radd weithgar fyddent y chwareuwyr-dynion cymdeithasgar, hoff o ymgynnull yn nghyd i wrteithio eu hanianawd: prawf eu cynniweirfeydd a'r gwahanol gampau hyny, yn ogystal ag y mawr ymhoffent yn eu cynulliadau digrifol, lle y canfyddid yr henafgwyr wedi cyfarfod â'u gilydd ar bwys eu ffyn, gan siarad am eu campau gynt, tra fyddent yn eistedd ar y meingciau i fod yn llygaid—dystion o wrhydri eu plant a'u hwyrion yn llafur-gampio yn mhob dull a modd. Amcan y cynnulliad ydoedd magu a ffurfio serch rhwng pobl ieuaingc o'r ddau ryw â'u gilydd. Rhifai y cynghreirwyr efallai dri-ugain, a byddai yn gryn wewyr ar aml un o honynt pan cyrhaeddai troed rhywun y grimog yn lle y bêl; ond anghofid y gofid i raddau pan y gwelid cryn bymtheg o fechgyn cryfion yn dwr ar eu gilydd yn brwydro am y bêl. Nid oedd raid am araith galonogol i'r ymdrechwyr hyn, oblegyd ffyddloniaid i'w meistr oeddynt oll.
"Chwareu pêl, a chario pwys,—ymgydio
Cydymhyrddio mewn codwm mawrddwys,
O b'ai geiliog yn bygylu,
Taro, a dàl, mewn twrw o'i du,
A galw dau 'mhenau 'u gilydd
Hyn a fu dawn penaf eu dydd."
Yr oedd yn arferiad i ieuengetyd gyfarfod â'u gilydd i dreulio oriau i fyned trwy eu campau i las-lanerch gyfleus, neu rywle arall pennodol ganddynt, megis y gwnelent yn nghoed y Plas Hen, lle yr oedd coeden nodedig, yn dwyn yr enw "Pren Dedwydd." Ychydig oddiwrth y llawr, yr oedd y pren hwn wedi tyfu allan yn ddwy gaingc, ac wedi iddynt dyfu oddeutu llathen a hanner i fyny yr oeddynt wedi ymgydio drachefn yn un pren, gan dyfu yn null coeden gyffredin hyd at y brig. Yr oedd yr hen bren wedi ei lwyr adfeilio. gan law araf amser, fel nad oedd ynddo fymryn o fywyd i argoeli dim tyfiant; ond mawr oedd gofal etifeddion y Plas Hen am dano, gan i ryw ddewin ddyweyd wrth rai o honynt, os digwyddid ei dori, na byddai i'r ystâd ffynu mwyach. Modd bynag, wedi marw Syr Thomas Mostyn, ag i Syr Edward Lloyd Mostyn ddyfod yn etifedd y Plas Hen, ac un Mr. Simson yn oruchwyliwr iddo; archodd hwn i hen goed y lle gael eu tori oll, felly y torwyd y Pren Dedwydd; ac yn mhen oddeutu o dair i bum' mlynedd wedi hyny gwerthwyd y Plas Hen, a'r holl etifeddiaeth a berthynai iddo, a thebygol, pe edrychid i natur ergyd yr hen ddewin craff, y golygai efe dori peth mor wael a hwnw gryn wendid ar ran y perchenogion. Brydnawn yr wythfed Sul ar ol y Pasg, yn benaf, cyrchai y cryf a'r heinyf o'r ardaloedd cylchynol at yr hen bren, er ymorchestu yn y naill a'r llall o'r chwareuol gampau; ac ymegnïai llawer i ymwthio rywsut drwy hollt yr hen bren, yn ffyddiog yn ngoruwchreolaeth "y wialen ddewinol," y byddai i'r sawl a lwyddai i fyned drwyddi gyfarfod â rhyw ddedwyddwch, a'r sawl a fethai gyfarfod â rhyw annedwyddwch. Felly, yr oedd y "Pren Dedwydd " mewn bri mawr, ac yn nôd i'r wlad oddiamgylch, nid yn unig i sicrhau eu tynged, ond hefyd fel cyrchfan at ddwyn yn mlaen wahanol gampau, yr hyn a gyfrifid yn wobr ddigonol am y llafur a'r lludded gyda'r hen bren, yr hwn oedd yn sitrach dan effeithiau gwyntoedd ugeiniau o flynyddoedd, ac yn cael ei gynnal gan benbleth o eiddew.
Gymmaint yw cyfoeth trysorau llên erys o'r oesau fu—onid oedd arferion dynion ieuaingc yr ardaloedd o fyned i weithdai ar nosweithiau yn y gauaf yn awgrymu mil a mwy o helyntion dyddorol blynyddau'n ol? Mwynheid ynddynt gryn ddifyrwch ar rai adegau—llawer ystori ffraeth a adroddid gan y naill a'r llall yn eu tro; eithr er hyny, nid anfynych y cedwid ynddynt fesur lled helaeth o'r ysbryd annymunol. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif, anneddai yn nghymmydogaeth Llangybi hen gymmeriad adnabyddus o waddotwr, teiliwr, a thynwr dannedd, o'r enw William Jesus, hen fachgen twym ei galon, ffraeth a serchog, "a phrydydd hoff ei rediad." Canodd a ganlyn ar y Gyhydedd Laes, i'w ddodi ar ddrws gefail y pentref:
"Mewn chwedlau digrifwch arafwch yn 'r efail,
Rhag bod uwch ben 'r aelwyd mewn caethrwyd i'r cythraul.
Ymdaeru bryd arall mor angall a'r engan,
Am rywbeth mor ddyfal na thal o werth hoelen:
Mewn siarad yn ofer bydd llawer o'r llwon,
Yn graig o ynfydrwydd a geiriau go fudron.
Gobeithiaf ceir dynion i fodlon sefydlu
Duwioldeb heb gaethder i'w wel'd yn mhob gweithdy."
Gan fod gwella moes ei gymmydogion yn amcan mewn golwg gan William Jesus, llwyddodd i gael dodi y llinellau canlynol ar ddrws seler Gwesty Llangybi, fel
"Ni chewch wrth eich pleser fy seler y Suliau,
'Rwy'n gwaeddi'n garedig am gadw'r 'goriadau,
Rhag ofn y daw drygfyd am ben fy hen drigfan
Oddieithr ymattal oddiwrth rhyw lymeitian:
Mae ynof ryw swmbwl fod neb yn fy siamber
Yn meddwi nos Sabboth mewn moddion ansyber.
Mae blys ar fy nghalon a'm dwyfron mewn difri'
Gael tro mewn llawn gobaith ar bentref Llangybi."
NOS WAITH LAWEN.
Yr oedd y noswaith hon yn adeg o gryn ddifyrwch i'r ieuengctyd, nid yn gymmaint er yr yfed a'r meddwi, ond er canu a dawnsio, a rhaid fyddai cael yno y delyn, y crwth, ac offerynau ereill hefyd er difyru y cynnulliad, a hyny hyd nes y byddai yr ehedydd yn dechreu ysgwyd ei adenydd cyn esgyn i'r entrych i gathlu ei emyn foreuol.
NOS WAITH LAWEN O ELUSEN, &c.
Pan y digwyddai i rhyw ddamwain gyfarfod â dyn, neu ynte wedi iddo ddigwydd bod mewn hir afiechyd, nes i'w amgylchiadau fod dipyn yn isel o'r herwydd, byddai yn rhaid cael Noswaith Lawen ar ei ran, er ei gynorthwyo o dan y cyfryw iselder. Gwneid yn hysbys y cynnelid noswaith lawen i hwn-a-hwn, yn y fan-a'r-fan, y noswaitha'r—noswaith, yn y pentref. Elid yno yn finteioedd, a chyfranai pob un o leiaf chwecheiniog, tra y rhoddai rhai fwy o lawer, oblegyd byddai rhyddid i bawb roddi yn ol eu hewyllys, yn nghyda'u tymher, at wrthddrych y noswaith. Ar ol cael peth difyrwch drwy ymgomio â'u gilydd, canu a dawnsio, telid costau y noson i ddechreu, ac yna rhoddid yr oll o'r gweddill i'r sawl y cynnelid y noswaith erddo.
SULGWAITH LLAWEN.
Heblaw yr elusenau a gesglid ar y nosweithiau llawen, cesglid elusenau yn y llanau, a Beibl mawr, trwchus, o'r llythyren ddu, fyddai y ddysgl i dderbyn rhoddion y gynnulleidfa. Elai y Person heibio i bawb; ac wedi myned i'w le, rhifai yr arian, a dywedai ar gyhoedd pa faint fyddai swm y casgliad. Yr oedd hon yn drefn dda, er arbed holi a gwâg siarad ar y ffordd adref. Hefyd, byddai tai yn perthyn i Eglwysi gynt, y rhai o dipyn i beth a drowyd yn dafarndai, at y rhai y gwelid gwragedd amaethwyr, ar foreu Suliau, yn. myned gyda'u sypynau tua'r Eglwysi, ac yn cyfranu rhoddion i'r tlodion, wedi hyny yn myned i'r Eglwys, yna yn ol adref.
NOSON WAU.
Noson y merched oedd y noson wau. Arferent ymgynnull at eu gilydd ar hirnos gauaf ar hyd y naill ardal a'r llall yn gylch, i'r diben o wau; a phleserus yr arferent, wrth brysur wau, mewn olrhain achyddiaeth gwahanol bersonau, am oriau gyda'u gilydd. Yn fynych byddai llangciau, trwy eu cariadon, yn dyfod i wybod am y noswaith, ac elent yno, a mawr fyddai'r helynt yn y canlyniad. Hefyd, byddai ganddynt nosweithiau i nyddu, &c. Nid boddlawn gan neb o honynt fyddai gweled gwau hosan na nyddu ar nos Sadwrn.
Rhaid fod ffordd pobl o fyw yn y dyddiau hyny yn wahanol iawn i'r hyn ydyw yn awr—y mae hosanau, yn ddiau, yn rhatach o lawer nag oeddynt, eithr y mae "ond" yn nglŷn a'u rhadedd. Nid y pethau "rhataf" yw y pethau rhataf yn mhen amser. Ceir pâr o hosanau clysion heddyw am ddau swllt, ond yn mhen mis byddant yn druenus yr olwg arnynt. Nid felly hosanau gwêedig yr hen wragedd gynt! "Para byth" oedd enw y cyfryw. Gydag ychydig ofal, byddent yn ymgeleddu yr un traed yn mhen dwy flynedd. Y cyfryw yw troion bywyd—y mae cryn lawer o wersi i'w cael oddiwrth hen arferion. Dylai pob merch, hyd y nod merch boneddwr, wybod y ffordd i fyw. Addysgai hen foneddiges ei merched i gadw tŷ, am ebe hi, "pe digwyddech fyned yn dlawd, gallech ofalu am eich cartrefi; a phe gallech gadw morwynion, gallech eu hyfforddi hwythau. Gynt, nid oedd balchder yn nglŷn âg arferion y merchednid oeddynt yn esgeuluso sylwedd i fyned ar ol ymddangosiad—yn gwasg-rwymo eu hunain, nac yn treulio eu hamser i ymagweddu ac ymfoethi, fel y gwna y rhai presennol.
CYFARCHIADAU.
Y mae cryn wahaniaeth rhwng cyfarchiadau pobl yr oes bresennol â chyfarchiadau yr hen bobl. Y mae ein cyfarchiadau ni yn hynod ddifeddwl. "Sut yr ydach chi heddyw?" ond heb aros i gael yr un ateb. "Y mae heddyw yn boeth—yn fwll —yn oer—yn wlyb—yn wyntog," &c., yn ol fel y digwydda. Nid yw y "Nos da'wch,"
"Dydd da'wch," Da bo chi," a'r dweyd yn fwyn sy genym, yn fynych, yn ddim ond ffasiwn. Yr oedd cyfarchiadau yr hen bobl yn fwy chwaethus a phriodol. Pan yr elent hwy i dŷ neu gyfwrdd ar y ffordd, a gweled mai iach y person a gyferchid, dywedent "Da y b'och "; ac os digwyddai iddo fod wrth ei waith, chwanegent at hyny "Rhad Duw ar y gwaith"; neu os byddai rhai o'r teulu heb fod yn y golwg, gofynent am iechyd a chyflwr yr absenolion, ac os iach fyddent dywedent "Duw a'u cadwo felly," neu "Duw o'i rad a'u cadwo felly." I'r holl ddywediadau hyn yr oedd ganddynt atebion cymhwys a phriodol. Pan ddywedent "Duw a gadwo bawb o'r teulu," neu "Rhad Duw ar y tŷ, y teulu, a'r gwaith," atebent "Ac felly i chwithau." "Byddwch wych, dedwydd a da." Felly chwithau," &c. Cyffelyb oedd y ffurf-wasanaeth a ddefnyddid gan ddewinwyr a hen ddewinesau melynddu gynt, yn hwyr y prydnawn, megis "Rhad ar y dâ," "Duw gato'r dâ," neu "Rhad Duw arnynt." A phan ddelai hen wrageddos at y drysau i laetha, disgwylid iddynt ddywedyd y cyffelyb ymadrodd, neu "Bendith Duw yn y tŷ," neu "Rhad Duw ar y rest" (gweddill), &c. Mae rhai o'r cyfarchiadau yn nodweddiadol iawn, yn llawer mwy moesgar a synwyrol, na chyfarchiadau pobl yr oes bresennol. "Cofia ni at Wilym Owain a'i deulu, a phob hen gyfaill arall, a'r diawl a'ch collo chwi i gyd," ebe Iolo Morganwg mewn llythyr at Owain Myfyr yn 1800. Pe bae mwy o gyfarchiadau fel yna y dyddiau hyn, byddai yn hynod amserol; yn lle hyny, y mae "a'ch cipio" wedi cymmeryd lle "a'ch collo" yn mhob cyfeiriad. Yn fynych iawn arferid "Ymgroesi" yn gyfarchiad cyffredinol mewn dull o sylweddoli presennoldeb Crist gan yr hen bobl, drwy daro croes ar y ddwyfron, rhoddi'r bys ar waelod y gwddf, ar "bwll y galon," ar y fron dde ac ar y fron chwith, pan oddiweddid hwy gan rhyw drychineb neu brofedigaeth. Mae y gair "ymgroesa" erbyn hyn yn cael ei gymathu neu ei wneyd yn gyfystyrol debyg i "cymer ofal, bydd wyliadwrus, ymochela," heblaw y defnyddid croes i wahanol ddibenion yn fynych i gyfeirio pererinion ar eu taith anhyffordd ac anhygyrch, yn gyffelyb o ran pwrpas i'r hen feini hirion—"Meini Gobaith" fel eu gelwid, sef y meini llwybreiddiol, gweledig o'r naill fan i'r llall, i ddangos y ffordd dros diroedd dyrys, pryd yr oedd yr holl wlad yn arw a gwlyb, a llawn o ddyrysni a choed.
INTERLIWTIAU.
Llawer iawn o Interliwtiau a chwareuid gynt, pan oeddynt yn eu bri, sef rhyw fath o chwareu gyda geiriau wedi eu prydyddu yn y ffurf o chwareuwawd—gyda'r eithriad fod ynddi fath o "ffwl" yn cymmeryd rhan neillduol i drosglwyddo y dirmyg mwyaf eithafol ar ben arwr neu arwres yr interliwt. I'r chwareudai hyn y byddai prif gyrchfa'r bobl. Byddai y chwareuwyr yn hysbysu y noswaith, y rhai a elent ar hyd a lled yr ardal, gan udganu; a phan unwaith y clywid sain udgyrn y chwareuwyr, gadawai preswylwyr yr ardaloedd cylchynol eu holl orchwylion, ac a brysurent i weled a chlywed y chwareu. Telid ceiniog neu ddwy am fyned i fewn.
GWYLNOSAU.
Hen arferiad oedd mewn grym hyd yn ddiweddar, os nad eto i raddau, oedd myned i ymweled â theulu y marw, er dangos eu cydymdeimlad â hwy, ac nid elai neb chwaith yn waglaw, ond dygai pob un rywbeth gydag ef gogyfer â threuliadau y teulu yn y cyfryw amgylchiad. Ar noswaith o flaen y cynhebrwng deuai yr offeiriad yno, ac weithiau nifer liosog o'r plwyfolion: a gwedi i'r offeiriad arfer y ffurf-weddiau priodol i'r amgylchiad, rhenid cacenau i bob un a fyddai gwedi dyfod i'r Wylnos.
CYNHEBRYNGAU.
Cyn cychwyn y corff, rhenid diod boeth i'r gynnulleidfa; yna codid y corff ar yr elor, yr hon. a gludid ar ysgwyddau, ac a ddygid yn ddiogel hyd at borth y fynwent; yna dechreuid ar y gwasanaeth claddu. Wedi gorphen o'r offeiriad y cyfryw wasanaeth, elai a safai wrth yr allor, pryd y cyflawnid y ddefod o offrymu. Gwelid teulu y corff yn myned, y naill ar ol y llall, ac yn gosod bob un ddernyn o arian ar yr allor; yna y gweddill o'r gynnulleidfa a ddilynent ar eu hol. Byddai swm yr offrwm yn ol parch a phoblogrwydd y trangcedig. Y peth olaf yn nglŷn â'r amgylchiad fyddai y Siot Cynhebrwng—arferiad y naill blwyfolion o groesawu plwyfolion o blwyfydd ereill, yn feibion ac yn ferched, ar ddydd cynhebrwng. Dyma'r dull y gwnaent hyny:—Elai rhyw nifer bennodol o honynt yn gyfrifol am y treuliadau, a rhoddent orchymyn yn un o'r tafarndai yn y pentref am i nifer bennodol o gacenau gael eu parotoi erbyn dydd yr angladd; ac ar ol claddu, gwahoddid y dieithriaid oll i'r dafarn, a rhoddid cacen i bob un o'r merched, yr hyn a elwid "Siot y Merched"; yna cyfranai y plwyfolion a fyddai yn bresennol chwecheiniog y llaw at gael diod i'r meibion, yr hyn a elwid drachefn yn "Siot y Meibion." Ar adegau, elai yn ail ac yn drydydd SIOT; ond y cyntaf a ystyrid yn briodol "Siot y Cynhebrung."
NEITHIOR GWLEDD PRIODAS.
Yn mhob plwyf yn wastad cynnhelid neithior ar ol bob priodas, a phriodas wahodd fyddai, a pho fwyaf ddeuaf iddi, goreu oll. Diben priodas wahodd ydoedd gwneyd elw o'r ddiod a'r bwyd a werthid, er cynorthwyo y pâr ieuangc i gychwyn eu byd newydd. Byddai raid prynu brâg a'i ddarllaw, prynu gwenith a'i yru i'r felin i'w falu, prynu dafad dew a'i lladd; llogi cogyddes a phobyddion, a darparu gweision a morwynion priodas, yn nghyd a thelynor a chrythor. Diwrnod fyddai hwn a llawer o son am dano cyn ei dd'od, y diwrnod mwyaf cynhyrfus, pan y deuai, a'r son mwyaf am dano wedi yr elai heibio. Diwrnod i'r holl ewyllyswyr da i'r pâr ieuangc ddangos hyny,—i'r rhai a ymffrostient yn eu cyflymder roddi prawf drwy redeg am y deisen briodas,—diwrnod i'r dawnswyr ddangos eu medr, i'r canwyr roddi allan eu lleisiau, ac i'r ymladdwyr ddangos eu nerth. Byddai yr Eglwys yn llawn o bobl, canys yn yr Eglwys y priodid; ac nid oedd, y pryd hyny, ond gwallgofddyn a feddyliai am briodi tuallan i Eglwys ei blwyf. Treulid y noson mewn difyrwch, a chyfranai bob un o'r cwmni chwecheiniog tuag at ddiod, ac os byddai gweddill rhoddid ef i'r pâr ieuangc, yn enwedig os digwyddai iddynt fod yn isel eu hamgylchiadau. Gelwid y mis cyntaf ar ol priodi yn fis mêl, oddiwrth arfer yr hen bobl yn yfed gwin mêl neu ddiod fêl am leuad gyfan ar ol priodi. Hefyd sonir am "neidio dros yr ysgub" mewn cysylltiad â phriodi. Y chwedl yn nglŷn â'r ddefod sy debyg i hyn:—Pan y byddai rhieni y pâr ieuangc—y tad a'r fam o'r ddeutu, yn foddlawn iddynt briodi, galwent atynt yr hen afgwr hynaf o fewn yr ardal, yr hwn, yn ol traddodiad, fyddai raid fod yn dderwydd; yna, yn mhresennoldeb y rhieni ac yntau, gofynid i'r pâr priodasol "neidio dros yr ysgub," yr hon oedd raid fod wedi cael ei gwneuthur o frigau derw; ac ysgub o'r fath, hyd yn ddiweddar, gan hen bobl a elwid yn ysgub dderwydd, ac ystyrid fod math o gyssegredigrwydd yn rhwym o fod yn nglŷn â hi.
"Cario Ceffyl Pren.—Disgyblaeth lem oedd hwnw ar y pâr priodasol a annghofient eu llw wrth yr allor i'r fath raddau ag i ymryson ac ymladd â'u gilydd. Pan ddeallid fod annghydfod mewn tŷ, elai holl lebanod yr ardal tuag yno, gan oernadu, a dodid un o honynt ar y ceffyl, yr hwn a gludid gan bedwar o ddynion cryfion a phenwan. Byddent ar adegau yn adrodd rhyw rigwm pen bawd tebyg i'r un canlynol:
HOLWR.—Am bwy'r wyt ti'n marchogaeth?
ATEB.—Am ddeuddyn o'r gym'dogaeth.
H—Pwy yw rheiny'r Cymro?
A.—Twm ac Ali Beuno.
H.—Ydyw Ali'n curo'n arw?
A.—Mae hi bron a'i ladd e'n farw;
Rhwng y ferch a hithau
Mae'r gwr yn las o'i gleisiau.
Dywedir y byddai'r cerydd gwlad hwn yn gyffredin iawn yn ateb y diben, ac na byddai angen y cerydd hwn ar yr un rhai ond unwaith mewn oes.
CWRW GWYLIAU.
Nid yw yn hysbys pa bryd y dechreuodd yr arferiad o roddi cwrw gwyliau fel anrheg. Tebygol fod yr arferiad yn hen iawn, ac y gallai ymffrostio tipyn yn ei gwaedoliaeth a'i henaint. Nid oes na memrwn eglwys y plwyf, cofnod y llywodraeth, na thraddodiad gwlad, yn son un gair am ddydd ei genedigaeth. Yn yr hen amser, nid oedd diod frâg, gwin, na gwirodydd poethion yn cael eu hyfed yn y gwleddoedd ar nosweithiau llawen. Y ddiod a arferid ynddynt oedd medd, a wneid rhyw fodd o fedw, ac oddiwrth yr enw medd y deillia y gair medd—wa medd—wi. I effeithiau y medd y priodolid y gallu i weled y Tylwyth Teg; ond pan gollwyd y gelfyddyd o wneuthur medd y fedw, ymddengys na bu neb yn ddigon craffus ei olygon i ganfod y Tylwyth Teg yn chwareu ei gampau dan fantell y nos. Yn lle gweled y Tylwyth Teg, y mae yfwyr diodydd meddwol y dyddiau hyn dan effeithiau gwenwynig whisky, brandy, a rum, yn gweled bodau hollol wahanol, sef cythreuliaid cochion a gleision, weithiau yn gŵn, weithiau yn nadredd, a phobpeth ond dafad a cholomen. Gwneid hefyd fedd neu feth drwy fygu gwenyn tua chanol yr Hydref, er mwyn cael mêl. Wedi tynu y diliau o'r cychod, a gwasgu y mêl o honynt, dechreuid ar y gorchwyl o wneyd metheglyn, drwy roddi tua thri chwarter llon'd crochan o ddwfr ar y tân, a rhoddi y diliau ynddo, a'i ferwi am tuag awr; yna rhoddi ychydig bensag (hops) ynddo, a'i ferwi am awr wed'yn. Ar ol ei dynu oddiar y tân, ac iddo oeri, byddid yn hel y cwyr oddiar ei wyneb, a'i hidlo trwy ogr rhawn mân, neu liain, a rhoddi burym i'w weithio am tua deuddeng awr. Gyda bod y wledd hon yn barod, gwahoddid cyfeillion yn nghyd, a dechreuid yfed iechyd da a thrafod pyngciau y dydd, ac fel y byddid yn codi i fwy o agerdd elid i ddechreu son am eu gwrhydri eu hunain, &c.
CWRW CLOCHYDD.
Yr oedd y clochydd yn y dyddiau gynt yn cael rhyddid i werthu cwrw er chwanegu ei gyflog.
CWRW FESTRI
ydoedd mewn bri mawr. Byddai gwerth punt o gwrw yn cael ei yfed mewn pob cyfarfod plwyfol.
Yr oedd yn arferiad i ddyn tlawd gael cwrw gwahodd a champau yn ei dŷ ar y Suliau. Gwelid olion o'r rhai hyn mor ddiweddar a deugain mlynedd yn ol dan yr enwau "Cwrw Bach a Thaplas." Hefyd, byddai pob un newydd briodi yn arfer cyfranu at gael cwrw ar y Sul canlynol. Os byddai y pâr ieuangc yn dda eu byd, cyfranent weithiau ddeg punt.
CWRW LLANGCIAU.
Rhan o adloniant mwyaf byw a defosiynol yn mysg y bobl ieuaingc oedd yr arferiad o brynu (ond yn amlach lladrata) haidd i'w fragu, a thalu i ryw deulu am ei ddarllaw, ac yna ymgynnull ar y Sul i fan cyfleus i'w yfed ac i loddesta, heb na. chwyn na chyfraith yn eu herbyn.
CYHOEDDI ACHOSION PLWYF.
Prif gyhoeddwr achosion plwyf ydoedd y clochydd, a thelid ychydig sylltau o gyflog iddo am hyny. Can gynted ag y byddai y bregeth drosodd, elai y clochydd ymaith, gan barotoi ei hun; yna gwaeddai, Hai—ho, Hai—ho, Hai—ho, dair gwaith; ac erbyn y deuai'r gynulleidfa allan, dyna fyddai ei ragymadrodd i'r hyn fyddai ganddo i'w hysbysu. Arferid ei glywed yn Nghaernarfon yn gwaeddi, "Oyes, Oyes," heb wybod dim am yr ystyr, sef O clywch, O clywch, o'r hen air Ffrengig Oyez, Oyez. Gwaedd hen arwerthwr yn Mhwllheli ydoedd "Hawyr, Hawyr," a hyny yn fynych ar ol oedfa ddydd Sul, wrth ddechreu cyhoeddi arwerthiant. Dyna'r ffurfiau wrth gyhoeddi agos i bobpeth a ddygai gyssylltiad â'r plwyfolion; a gwneid hyny yn hysbys oddiar glawdd y fynwent y Sul blaenorol i'r diwrnod y byddid yn bwriadu gosod neu arwerthu yr hyn a hysbysid.
DAL YR HYRDDOD.
Byddai y cyhoeddwr yn galw sylw y plwyfolion at hyn yn ei dymmor, a chyhoeddai yn y modd canlynol:—Bydded hysbys i bawb, o Garn-Dolbenmaen i'r Graig Goch, ac o Garnguwch i Benychain, fod yn rhaid iddynt ddal yr hyrddod o fewn yr wythnos nesaf, a'r hwrdd a welir heb ei gyplysu, a saethir yn farw.
GWERTHU PEDOLAU A CHRYMANAU.
Oddiar glawdd y fynwent, ddydd Suliau, gwerthid pedolau a chrymanau! Hoeliai yr amaethwyr gynt y pedolau dan garnau y ceffylau gartref, a phrynent y pedolau a'r hoelion gan hen of y pentref ar glawdd y fynwent, wrth fyned adref o'r Eglwys ar y Suliau. Hefyd, prynid crymanau yr un modd, yn nghydag offerynau amaethyddol ereill o bob natur. Cyn i'r mynwentydd gael eu gwneuthur yn gauedig fel y maent yn awr, yr oedd yn arferol i gynnal marchnadoedd a math o ffeiriau ynddynt, neu ar eu pwys, trwy gynnulliad pobl i fasnachu yn syml a thrwstan, fel plant difater. Dyna ddull dechreuol ein marchnadoedd a'n ffeiriau cyfroddion a ddisgynasant oddiwrth ein cyn-deidiau, ac y cawn oddiwrthynt gipdrem ar gyfnodau sydd yn gorwedd dan lwydni canrifoedd, yn gystal ag ar gynnyddiad arferion oesoedd dilynol; a gweddus yw i ni gydnabod hynny—cydnabod hefyd mai yn ol rheolau eu hoes eu hunain y dylid mesur a barnu hen arferion, ac nid wrth reolau yr oes bresennol.
RHANU BARA GWYNION.
Mor ddiweddar a dechreu y ganrif o'r blaen, yr oedd hyn yn ddefod a arferid mewn lleoedd gwledig. Wedi y troseddai rhyw un mewn cymmydogaeth, drwy dori pren, neu ddyweyd anwiredd, &c., yr oedd yn arferol i'r meistr tir, neu yr hwn a droseddasid yn ei erbyn, enwi rhyw gyfran o ddirwy ar y troseddwr, yr hon a delid i Berson y plwyf; ac ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn rhenid gwerth yr arian o fara gwyn i dlodion y plwyf gan yr offeiriad wrth borth y fynwent.
YSGWYD DWYLAW.
Disgyna yr arferiad o ysgwyd dwylaw i ni o ddyddiau boreu y canol oesoedd, pryd y cerddai pawb o amgylch yn arfog, ac yr oedd dynion ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn ymosodiadau bradwrus. Trwy ymafael yn llaw dde (neu law cleddyf) eu gilydd, yr oedd dau ddyn yn diogelu eu hunain rhag ymosodiad disymmwth, ac felly y daeth hyn i fod yn gyffredinol yn ddangoseg o roesawiad cyfeillgar. Arferid hefyd gario yn fynych ffongleddyf mewn llaw-celfyn allasai fygwth perygl pe digwyddasai lleidr groesi y ffordd.
PENNOD XI.
GEIRIAU, DIAREBION, A DYWEDIADAU.
ER ddarfod cyhoeddi cyfrol fechan ar hyn yn ddiweddar, ystyriwn y rhan hono mor hanfodol i Lên Gwerin, fel y byddai yr ymdriniaeth yn wallus ac annghyflawn heb roddi rhyw gymmaint o sylw iddo yn y gwaith hwn. Yr un pryd, dymunol coffâu y bwriedir hyn fel siampl yn hytrach na thrafodaeth lawn o'r gyfran hono, gan gyfeirio y darllenydd at y gyfrol ddywededig am ymdriniaeth helaethach. A chyda llaw, nid anwiw crybwyll nad ydyw hono ychwaith yr hyn fwriadem iddi fod ar y cyfrif hwn, ond byddai yn hawddach odid mai felly y digwydd gyhoeddi ail gyfrol, neu ail argraffiad gydag ymhelaethiad lled fawr. Fodd bynag, nid anfuddiol y tybiwn gyfleu yma y rhai dilynol, fel y digwyddont, wrth awgrym cof a dosbarth, at y lliaws geiriau sathredig a glywir yn cael eu harfer mewn gwahanol barthau o'r wlad, y rhai nad ydys yn cyfarfod â hwynt yn arferol mewn llyfrau, ac nad ydynt yn fynych wedi eu cofrestru gan eirlyfrwyr. Gyda rhediad amser, diflaniad adgofion y byw, difodiad adgofion y meirw, coll cofnodion ysgrifenedig ac argraffedig, y mae eu nifer yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, a thueddiadau yr oes yn eu gosod mewn perygl o ebargofiant. Gŵyr llawer fod ieithyddiaeth Gymreig yn pasio o eithaf diofalwch i eithaf gorfanylwch fod geiriau i'w cael yn y Gymraeg nad ydynt heddyw o'r un ystyr ag oeddynt gynt—fod yr hen iaith yn cyfnewid, ac wedi syrthio yn ol oddiwrth ei grymusder llafareddol—fod yr hen Gymry mwyaf Cymreig wedi darfod o'r tir, a nerth naturiol eu hiaith gyda hwy; ac nad oes un sain-beiriant wedi cofnodi swn clochaidd eu lleisiau, a thoriad clir eu geiriau cryfion. Erbyn hyn, y mae rhai pobl a gymmerant arnynt eu hunain fod yn gall, yn ymdrechu olrhain yr arferiad ffol o lygriadau lledchwith geiriau y werin, fel y moddion diogelaf i ddyfod o hyd i'w gwir ystyr llygriadau ag sydd yn cael eu llurgunio yn herwydd musgrellni ymadrodd, a mympwy ambell Gymro coeg-ddysgedig, neu Sais chwithig ei dafod. Er hyny, dyledus yw cydnabod fod iaith bur i glustiau gwerin yn sicr o fod yn ddiffygiol mewn effeithiolrwydd, am fod iaith gwerin yn fyrach a mwy cynnwysfawr, ac y gellir dyweyd mwy mewn ychydig frawddegau o honi, nag mewn awr o iaith glasurol—fod y Gymraeg lafar yn fwy hysain na'r Gymraeg ysgrifenedig, ond gofalu am beidio ei dirwasgu yn ormodol, fel ag i greu amheuaeth beth all geiriau a'u hystyr fod. Ni ddylid llochesu bwnglerwch na gosod "arfer" a "hen arfer" na "drwg arfer" yn lle dealltwriaeth a thegwch. Ar yr un pryd rhaid addef fod tybrediad y meddwl weithiau yn achosi bwrw allan lythyrenau mewn modd a ystyrir yn lled hyweddus a didramgwydd. Dyma ddull llednais o'r fath ag sydd megis wedi ymwisgo â diniweidrwydd—Englyn anwesol mam i'w phlentyn—anwylyd bach—a ddeil i'w adrodd fwy na chanwaith heb ddangos dim o'r gwrthuni:
"Y delaf o'r holl deulu—O! 'r gwesyn!
Rho gus am dy fagu:
Hefo'i ben cws faban cu
Ni a'i gwacwn i gycu."
Weithiau dygir llythyrenau achlysurol i rai geiriau na bydd eu hangen ynddynt ond er mwyn hyseinedd yn unig, fel yn y geiriau Arglwydd, breuddwyd, erddo, erddi, erddynt, rhyngddynt, gwnaethpwyd, dycpwyd, dygpwyd, &c. I ddilyn y sylwedd rhaid gadael y cysgod. Geiriau y werin-bobl a eglurir oreu ganddynt hwy eu hunain—eu hegluriadau syml hwynt—hwy yn fynych ydynt gywiraf, drwy gynnwys brawddegau o'r fath nodwedd fel ag i ganiatau egluriadau ac esboniadau cydweddol ac esmwyth er mwyn dangos yn ymarferol yr hyn a olygir ganddynt. Bellach, deuwn at y geiriau, a chan nad hawdd egluro pob gair ar ei ben ei hun, dodwn i lawr, yn lled fynych, frawddeg yn nglŷn â'r cyfryw rai, am fod yn haws wrth hyny ddyfalu ac olrhain tarddiad cryn nifer o honynt.
ABAL.—Abal y Saxson hefyd: tra mae y Sais yn dewis, fel arfer, haeru mai o'r Lladin y caed ei able ef. Boed felly os mynir. A pha un bynag ai Saxson ai Cymro ydyw abal, y defnydd gwerinol o hono yma ydyw i ddynodi dyn neu deulu fyddont yn meddu cyfoeth mawr, a dylanwad felly.
AFLAWEN.—Annigrif ac annghryno, olygir wrth y gair yn y geirlyfrau; ond yn llên y werin golyga hynod neu eithafol, megis "Y mae yn oer aflawen heddyw."
AFUR.—Llygriad o addurn yn ddiau: yr dd yn troi yn f wrth arfer gwlad, megis yn y gair Dydd-Iau. Difia ddywedir; a gadael y llythyren olaf allan o'r seiniad wrth arfer hefyd. Etyb yn hollol i'r defnydd o hono. "Pa'm yr oedda ti yn prynu rhyw hen afur fel yna dwad, yn lle rhoi dy arian am rywbeth buddiol i'w feddu? Wfft i ti byth!"
ANWEDD." Mae'n oer anwedd heddyw."
ARCHFA.—Cawn archfa yn aml ar dafod ac yn llên y wlad. Sonid llawer am "archfa'r crynu" "archfa'r frech wen," &c., ddyddiau fu; a hyny bob amser pan y byddai iasau clefydol yn rhedeg drwy y corff, tra heb dori allan o'r clefyd yn glir ac arosol. Ni cheir y gair archfa yn geirlyfrau; er hyny, ymddengys mai yr un ydyw ag archwa—arogl, sawr, sawyr, &c.,—yr w wedi troi yn f, fel yn cawod a cafod. Hefyd, llawrudd a llofrudd am murderer. Eto f ac w mewn lleoedd er mwyn creu ystyr gwahanol, fel yn cafell a cawell, y naill am hamper, a'r llall am chancel y Saesneg.
BARA CANRHUG.—Bara o flawd rhyg a blawd gwenith yn gymmysg. Byddid yn ei wneyd yn fynych oddeutu 60 mlynedd yn ol.
BLAEN NEWYDD.—Pan byddo'r lleuad yn ieuangc, gelwir hi dan yr enw blaen newydd: hwyrach mai y blaned newydd feddylir. A phan fyddo hi'n llawn, dywedir ei bod yn llawn llonaid. Gwyddent hwy, yr hen bobl, yn eithaf da, mai'r lloer lywodraethai drai a llanw'r môr; a chraffed oeddynt fel y gwyddent, wrth edrych ar ei gwyneb cyfnewidiog, am holl gyfnewidion ac amser y trai a'r llanw—a pha un ai uchel ai isel fyddent, ac nid bychan llawenydd y morwyr a'r pysgotwyr pan welent yn ei ffurf arwydd dw'r newydd yn fantais eu galwedigaeth.
BLERA.—Bolera—bolerwr, yn ddiau. Ac yn llafar gwlad, nid y glwth, na'r na'r diotwr (diod feddwol), nac ychwaith y sponger yn ol y geiriaduron; ond y gorymyfed-wr drwy ddrwgarferiad, pynag ai glasdwr enwyn ai sucan frag haidd fyddo'r ddiod, a phwy bynag ddygo'r draul yn hyny.
BLERMON.—Afler: —mon, terfyniad arferedig geiriau cyffelyb, hwsmon, &c. Golygir un fyddo yn esgeulus a didrefn parth gwisg a pherson, yn gystal a thrwsgl ar arfer. "Yr hen flermon iti," yn sen rhy gyssefin y cylch teuluaidd, ysywaeth.
BON-CLUST.—CLUST—FOCHIO. Y naill a'r llall yn cael lle mawr ar air a gweithred yn ngheryddon y tadau. Golyga y cyntaf ddyrnod trwm yn môn y glust, tra yr olaf yn cymmeryd y foch a'r glust i gylch ergyd lem gan law agored.
BRADGYFARFOD.—Cryd undydd, twymyn undydd. Twymyn achlysurol y mamau—yn eu cyfarfod wedi genedigaeth plant.
BRECHDAN FAWD.—Brechdan gorddi: Hen arfer o daenu'r ymenyn gyda'r fawd gan boba gynt, yr hyn a ddiogelai drwch gwastad a sylweddol ar y frechdan hono; ac ar adeg corddi ceid hi yn helaethach felly fyth—ystyrid brechdan gorddi yn foeth gwych odiaeth.
BRENSIACH.—"Brensiach anwyl!" Ffurf werinol ar dyngu yn enw'r brenin.
BROCEN.—Tebyg fod brocen yn hynach ffurf na'i berthynasau—bron, dwyfron, a mynwes, ac ei fod ar gerdded mewn llafar yn mroddegau byrion y werin er's na ŵyr neb pa hyd, megis, "Mi faela'i yn dy frocen di," &c.
BRODIO. O brwyd meddir,—brodiad—a cheir ef yn cyfrodedd-u, &c. Nid yr un ag embroidery y Saeson er gwychedd; ond yn hytrach y peth a elwir ganddynt hwy yn to darn—trwsio a chyfanu rhwyg â brodwaith edau a nodwydd. Brodio ei hosan felly y byddai Neina; a chyda llaw, arfer ei chrefft hi yn gystal a'i hiaith mae y boneddigesau Seisnigaidd pan yn darnio y dyddiau hyn. Cymraeg lân loew yw y naill a'r llall—yr iaith a'r ddawn.
BRWYDAU. Dyma air na ŵyr yr oes bresennol beth i'w feddwl wrtho. Nid oes weithian ddim o'r fath beth. Yn nechreu y ganrif o'r blaen, yr oedd yn rhaid cael crefftwr yn meddu gweydd, gwenol, a brwydau priodol, sef peithydd neu wiail, at wau brethynau a gwlaneni, a phanwr yn meddu cyff, olwyn ddw'r, a gwellaif, llathen o hyd, i'w gorphen.
BUARTH RHYG.—Dyna fel y gelwid cae neu ddarn gae lle yr hauid rhyg, ac wedi hyny y troid gwartheg iddo i'w fathru dan eu traed.
CARCHAR CRYDD.—Esgidiau rhy fychain, yn peri fod symud mor anhawdd a phe yn y carchar.
CARCHAR TEILIWR.—Wrth y carchar hwn y golygir math o reidrwydd caethiwus, dros ddwyn canolfys deheulaw bachgen i ffurf briodol tuag at ei hyrwyddo yn mlaen yn yr alwedigaeth o wnïo, os yn ymrwymo i hyny.
CATO PAWB.—Cyfystyr â Duw a'n cadwo ni bawb. Nid yw ymadroddion o'r fath ond geiriau gweigion heddyw—math o eiriau llusg. Un amser yr oeddynt yn cyfleu meddwl ac ystyr.
CEINAS.Cymmwynas. "Mi wnan' rhyw geinas i ti."
CLUST-LIPA.—Oddiwrth ddullwedd y ci pan ei dalier ar anfadwaith, neu wedi cael y gwaethaf yn yr ornest.
COGAIL FURSEN.—Oedd fath o droell fechan syml-gywrain yn nosbarth "chwareuon plant," yn oddeutu wyth neu naw modfedd o hyd, ac o fewn ychydig i'w chwr uchaf blisgyn cneuen at gymmeryd i fewn ac i ollwng allan yr edau, dan reolaeth llaw ddeau plentyn, tra'r droell yn cael ei chynnal rhwng bys a bawd ei law aswy, wrth bwys cyfrdo lwmp o bytaten osodid yn nglŷn â'i bôn. Hen arfer y cymmerid llawer o ddifyrwch gyda hi, oedd gwneyd y rhai hyn i'r plant, pryd yr oeddynt hwy yn dysgu gwenu, denu, ac wylo i bwrpas yn annghofio eu holl ofidiau ac yn iachau o'u clwyfau mewn byr amser. Cyfystyr yr ystyrid Cogail â Distaff a Truncheon y Saesneg, sef Llachbren a arferid i rolio llin arno i'w nyddu ar y Droell Fach. Heblaw hyny—yr oedd "i gogail yn hen air cyfreithiol ar ddyfodiad merch i'r etifeddiaeth. Byddai y cogail yn cael ei ddyrchafu, trwy ei osod â'i fôn mewn twll yn y droell. Felly merch a ddyrchefid fel cogail pan yn dyfod i etifeddiaeth.
CONYN.—Soflyn neu welltyn bychan.—"Wedi eu hel bob conyn."
CRYNLO.—Clapiau glo canolig—heb fod yn fân nac yn frâs.
CWEIR.—Cywair—cyweirio, dwyn trefn a dosbarth ar na byddo felly, olygir. Cyweirio tant, gwair, gwely, ymenyn—a phlant a phobl anhywaith; a churfa dda ystyrid y moddion goreu at hyny yn yr achosion olaf ddyddiau fu.
CYFRAITH Y PASTWN.—Mae yr hen ddywediad hwn yn dra adnabyddus, ac mewn mynych arfer. yn ngheryddon gwlad hyd heddyw, a diau fod a wnelo â'r gorphenol pell—mor bell a'r unfed ganrif ar ddeg, os nad pellach, pryd y cyfododd penaethiaid yn Ngwynedd, a elwid y "Pymtheg Llwyth, neu'r Pymtheg Arglwydd, y rhai, er eu bod yn rhwym wrth gyfreithiau ac arferion yr oes hono, oeddynt yn byw mewn math o gestyll ar faenorau, lle y cynnalient lysoedd barn, ac y trinent achosion perthynol i'r rhai dan eu harglwyddiaeth hwy. Yr oedd niferi, nas gŵyr neb eu rhif, o breswylwyr yr hen oesoedd hyny megis barbariaid, yn rhedeg trwy y coedwigoedd, gan gyfranogi o fywyd y bwystfilod gwylltion, eraill yn byw yn heidiau—pob haid yn gwneyd llwyth, ac ar bob llwyth y ceid penaeth. Fel y mae teyrnwialen i frenin, ceid fod pastwn neu ffon i bob penaeth. Defnyddid hwn i gadw trefn ar y tylwyth yn y faenor, yn ogystal a'r praidd yn y gorlan. Felly yr oeddynt yn Israel, penaethiaid yn ddiameu oedd Abram, Isaac, a Jacob. Yr oedd gan Jacob. ei ffon, elai a hi gydag ef i bob man, a bu farw "a'i bwys ar ben ei ffon."
CYNFFONA. Mae y gair "cynffona" yn gyfystyr a gwenieithio, neu ffalsio fel y dywedir. Tebyg fod perthynas rhyngddo â fawning y Sais, od oes, pa un o'r ddau yw yr hynaf—cynffona ynte fawning?
CHWECHEINIOG CAM.—Hen arfer fyddai camu darn o arian i'w gadw yn y llogell, megis wy addod mewn nyth iar.—"Mae man i gamu mwnai."—Cywyd St. Cowrdaf, o oesol goffadwriaeth—sant gwarcheidiol hen Eglwys Aber—erch.
CHWEIGIAN. (10s.): chwech-ugain, yn ddiau, sef chwech ugain o geiniogau—hanner punt, ond fod tafod y werin wedi dirwasgu allan nifer o lythyrenau, a chymmysgu ychydig, gan wneyd gair byr a gweddol berseiniol o hono.
CHWELP. —Whelp—cenaw. Ceir ef yn llygrair o cub hefyd ar dafod gwlad—cwb. Ond tra y gesyd fesur o barch yn y wedd hon, megis "cwb o hogyn cryf a da ydyw y gwas bach acw"; gair diraddiol, brwnt, ydyw chwelp, ac felly yn "hen gna' drwg," pa un bynag ai hen ai ieuangc o ddyn ddynodir felly.
CHWELYD. Dychwelyd, troad yn ol. Enw "ystyllen bridd" gwydd pren yr hen amser.
CHWILEN Y BWMP.—Chwilen Mai, y Colbi, gan rrai
DEIFIO. Blaenlosgi, crasu, golosgi dan effaith gwres, gan y geiriaduron. At hyn, ceir gan y werin fod min ar ellyn yn deifio—fod yr elfen deneu a hydwyth a elwir awel, ar ei ffordd o'r dwyrain yn mis gerwinol Mawrth, yn deifio pob peth o'i blaen. Heblaw hyn, clywir cwyn, nid anfynych, yn mysg brodorion Eifionydd, fod gerwinder "Gwynt Nefyn " yn deifio dail y coed a'r llysiau, nes dihatru ar brydiau holl arwynebedd y wlad.
DI-DARO.—Arferir am y "diofal ei fyd," a "diofal arno,"—" clyd ei amgylchiadau," neu dibryder ei feddwl pan na byddo felly. "Mae o'n greadur di-daro, dyn a'i helpo," a hyny pan fyddo'r byd yn curo yn drwm arno, ysywaeth.
DI-DORIAD. "Yr hen rwyll ddidoriad" ddywedir am fenyw hanner gwallgof, ddibris o honi ei hun ac o bawb.
DIFEREDD.—Dioferedd, yn debygol. "Mae o'n weithiwr diferedd," sef yn weithiwr rhagorol, neu "yn weithiwr diguro," hyny yw, yn uwchraddol felly.
ECHDOE.—Y diwrnod o flaen ddoe. Ech yw tro, gwrthdro, pegwn; fel yn echel. Felly Doedro yw Echdoe, a Nosdro yw Echnos.
FFORDDIO.—A arferir ar lafar cyffredin am to raffordd. "Nis gallaf fforddio talu cymmaint."
FFRWCSIO.—Cyfystyr ar leferydd gwlad â ffrystio, ffwdanu, bod ar ormod brys, &c.
GARGLWM.—Ceir gargam yn fynych ar dafod gwlad—knock-kneed, a gradd pellach o'r un natur o anaf ar druan yw hwn—twist-kneed. "Yr hen garglwm budr, brwnt, i ti," meddir, fel difriaeth am un gwyrgam ei osgedd ar lwybrau moes a lledneisrwydd.
GEFAIL GŴN.—Teclyn cymmalog wedi llithro bron dros gof gwlad ydoedd yr "Efail Gŵn." Byddai yn cael ei harfer yn lled gyffredin yn yr oes o'r blaen i lusgo cŵn o'r Eglwysydd, ond gellir tybio y buasai ei chyffyrddiad â'r cŵn yn cynnyddu'r cynhwrf yn fwy na heb. Erbyn hyn, trwy fod y cŵn i gyd yn aros gartref ar y Suliau, y mae gwasanaeth yr oll o'r hen efeiliau hyn ar ben, ond ymddengys fod rhai o honynt yn nghadw mewn conglau a chilfachau yn nghysswllt ag amryw o'r Eglwysydd—un yn Eglwys Gadeiriol Bangor, un yn Nghlynnog Fawr, un yn Llaniestyn, &c. O gylch 60 mlynedd yn ol, yr oedd un yn nghadw yn Llanbedrog, mewn hen goffr mawr derw, ag yn ei waelod ddolenau cryfion, wrth y rhai y sicrheid cadwynau ac y colerid y cŵn a ddelent i'r Eglwys, rhag iddynt aflonyddu y gwasanaeth.
GRIFFT SER.—Math o sylwedd glas-wyn tryloew, meddal, a ddisgyn, meddir, ar amserau o'r sêr. Dywedir ei fod yn fuddiol i wella amryw glefydau—attal effeithiau swynyddiaeth. &c.
GYLFIN. Pig aderyn. "Che's i ddim gvlfiniad o fwyd heddyw—ddim cymmaint ag aethai i big 'deryn bach."
HINDRO.—Hindrian yr hen Saxon, a to hinder y Sais yn lled gyffelyb, ond tebycach y blaenaf mewn ach ac ystyr i'r eiddom ni. Gosod rhwystr ar ffordd un; neu un yn ymrwystro, gan ym— ddyrysu yn feddyliol hyd goll synwyr.—"Mae o wedi hindro yn lân, druan."
HORWTH.—Bolgwd, torgwd, boliog, &c. "Yr hen horwth diog.
HUWCYN LONYDD.—Cynnrychioli cysgni mewn iaith ac osgo a gwedd y mae "Huwcyn neu Huwcyn Lonydd," fel y mae Dafydd Jones, Morys a Rhys yn cynnrychioli y môr a'r gwynt, mewn rhai lleoedd. Pan byddo plentyn, yn nydd— iau cyfareddol mebyd, wedi ymollwng i gwsg, dy— wedir fod "Huwcyn" neu neu "Huwcyn Lonydd wedi dyfod ato "—fod "Huwcyn wedi ymosod yn drwm arno," &c. Nid oes ystyr yn y byd i ymad— roddion o'r fath y tu allan i gostrel diddanwch syml digrifwch, ac nis gellir pellach o honynt.
IAR.—Lliosog ieir; ond iarod ar achlysuron o wendid neu esgeulusdra, megis "Yr hen iarod diffrwyth."
LOIG. "Cloig, hesben, clicied dro, cloigyn."
LON GOCH.—Arferir ar lafar cyffredin hyd heddyw, ddyweyd am rywbeth elo o'r genau i gyfeiriad y bol, ei fod wedi myn'd i lawr y lôn goch "cyfystyr a dyweyd "dyna ddiwedd am dano."
LLECHGI.—Un fyddo ar ei falais—bid gi bid ddyn yn gwilio ei gyfle i ddisgyn ar y diniwed, a sicrhau ei gudd—ddibenion i'w fantais ei hun. Perthyn i'r un gwehelyth y mae'r chwiwgi a'r chwiwleidr hefyd, yn ol eu graddau.
LLEITHIG.—Maingc, troedfaingc. Yn amser yr hen loriau pridd, byddai pobl gwell allan na'r cyffredin yn cael math o ystyllen dan eu traed, i gadw y lleithder ymaith, a Lleithig y gelwid hono, o llaith-io. LLERCIAN.—Ystelcio, aros ar ol, oedi. Llerc, Cymraeg pur, medd awdurdodau hen a diweddar, gydag ian yn ei ystyr arferol; ac yma y cafodd y Sais ei to lurk yntau yn air, beth bynag am yr arferiad.
MELGAWOD.—Math o sylwedd a fwria trychfilod ar blanigion o gylch mis Mehefin, fe ym— ddengys. Nid y Felgawod, sef honeydew y Sais, sydd yn perarogli, fel y tybir yn gyffredin. Gwenwyno y blodau rhag dwyn ffrwyth y mae y Felgawod. Ffrwythlonrwydd cynnyrch sydd yn perarogli, drwy ymgymmysgu a'r awel mewn gwasgariad.
MYMRYN.—"Ni ŵyr neb beth yw mymryn. Ni welodd neb un erioed. Mae'n rhy fychan i'w weled na'i gyffwrdd gan offeryn mwyaf cywrain a chyrhaeddbell y gwyddonwr. Olrheiniwch ef, a'r oll a gewch yw'r hyn a elwir gan Faraday yn point of force. Beth yw hyny? Ni fedrai Faraday ei hunan ateb." Ond cofier, ni theimla'r werin betrusdod i gyfaddasu'r gair fel ag i olygu hyder ei fod yn rhyw gymmaint o sylwedd defnyddiol, megis "mymryn bach," mymryn bach," "y mymryn lleiaf.". "Nid oes fymryn i'w gael ganddo—ddim cymmaint ag a roddech yn nghanwyll eich llygad," &c.
NOSON A NoOSWAITH.—Dau air cyfystyr, yn golygu yr un peth, yw noson a noswaith yn ein dyddiau ni. Ond ymddengys fod pobl yr hen amser gynt yn gwahaniaethu rhyngddynt fod gwaith neu lafur ganddynt hwy yn perthyn i noswaith, a llonyddwch i noson, nos heb waith yn perthyn i'r nos; a noswaith, nos â gwaith yn nglŷn â'r nos hono.
PEDROLFEN.—Gwagen bedair olwyn.
RHETYDDIA—Wedi i gwpl o bobl ieuaingc gyttuno â'u gilydd i briodi, anfonid cymmydog cyfrifol neu ddau ar ran y mab ieuangc i ofyn y ferch gan ei rhieni, ac i wneuthur cyttundeb yn nghylch y gwaddol. Gelwid hyn yn "Rhetyddia." Diau fod llawer o ddyddordeb yn nglŷn â'r arferiad, ond y mae treigliadau'r gair yn ymddangos yn ansefydlog ac anfoddhaol, a'r arferiad o hono wedi myned ar hen ddifancoll. Tybia rhai fod ei ystyr yn nghadw yn y geiriau "Ar hyd dyddiau" ('rhyd dyddia') yn iaith amgylchog ein dyddiau ni.
SIGL-GNOI.—SUGN-GNOI.—Gwelais lawer o hen boblach yn sigl-gnoi" neu sugn-gnoi" mwydion bara yn nghonglau yr hen simddeiau, dan ddisgyniad achlysurol ambell gawod o huddygl ac ambell bwff o "fwg taro" digon annymunol, a'r geiniog yn brin, a'r dillad yn glytiog. Er hyny, dwys a dyfal ymgomient, tra'n eistedd mewn hen gadeiriau gwellt, ag sydd erbyn hyn, fel hwythau, wedi eu rhestru gyda'r pethau da a fuont.
SIPAN.—Gair mabwysiedig o Sipsiwn, fe ymddengys. "Yr hen sipan fudur lle buost ti yn maeddu baw ac yn slotian i wlychu dy ddillad fel yna?" ebai'r fam yn ffroenochlyd wrth un o'ï lodesi bychain, gan ddwrdio a dondio yn arw iawn.
SLYSDID. Tafyriad ar ystlysdid—rhaff fferf a arferid ddodi wrth harnais ceffylau gweithio. Mae hefyd yn air awgrymiadol am ffordd a diffyg un ac arall lled neillduol yn nosbarth y menywod, megis "Yr hen 'slysdid afler," &c.
TALU FFWTING.—Mae yn amlwg fod y gair Saesneg "footing" yn golygu sefyllfa, troediad neu gerddediad; ac mae y gair talu yn golygu fod' dyn i roi arian am y safle oedd ef yn gymmeryd.
Yr oedd yn arferiad i ofyn i ddyn wneyd y peth a elwid "talu ffwting" pan yn cael rhyw waith manteisiol, a phan yn myned yn mlaen o un gwaith i'r llall, neu yn gwneyd rhyw symudiad yn ei amgylchiadau. Yr oedd y tâl yn wahanol,. chwe' cheiniog, swllt, hanner coron, &c., ac yna yn gwario yr oll am gwrw.
TORI'R WAWR.—Mae'n ymddangos fod y gair gwawr yn dwyn yn ei fynwes gryn nifer o eir—liwiau prydferth, ac fod llinyn gwahaniaeth amlwg wedi ei dynu rhyngddynt oll, megis gwawr oleu—gwawr lwyd—gwineulwyd—gwawr goch, gwawr lâs, llwyd-oleu, ac hyd y nod gwawr dywyll, &c. Wrth gwrs, ystyr cyntaf y gair ydyw toriad y dydd. Y lliw yn lled droi at liw arall. Mae y dydd yn taflu ei lewyrch yn mhell o'i flaen. Nid yw yn ddidyst ganol nos, oblegid efe dywyna yn llygaid bychain y ser.
TRAC.—Yn ol y dyb gyffredin, ffurf boblogaidd yw trac o trace a track y Sais; neu tractum y Rhufeinwr, trac yr hwn sydd yn hawdd ei weled yma a thraw ar wyneb tir ac iaith Cymru. Ond rhag bod yn euog o fenthyca ac ymdrechu cael gwreiddiau estronol i eiriau Cymraeg heb eisiau, er yn gyfystyr â trace, track a tractum, &c. Eto, oni ellir tybied mai gair Cymraeg pur yw trac—trac trol—lliosrif traciau, sef rhigolydd olwynion trol; trac ysgyfarnog, sef ei llwybr aneglur, oddiwrth yr hwn yn reddfol, trwy naws ei harogl, y gall yr helgi fanwl ddilyn brisg ei thraed. Dyna ystyr wledig y gair; ond yn hytrach na dadlu achyddiaeth y cyfryw, gadawn ef heb ymhelaethu yn mhellach.
TRADWY.—Y trydydd diwrnod ar ol heddyw. Tri wedi troi yn tra, a dydd yn dwy.
TRANOETH.—Y diwrnod dilynol yw tranoeth. Tran yw yn rhanol, yn hytrach, o flaen, yn ddilynol.
TRENYDD. Y diwrnod ar ol efory. Tri dydd wedi troi yn tre nydd.
WIGSEN. Mioden—teisen fechan.
Y CROEN-GI.—Nid croen ci, ond y creadur ei hun wedi ei dynu i lawr drwy ryw anffawd—cam neu gymhwys, fel na byddo onid braidd groen o hono—yn ddrych o drueni a dibrisdod. Dysgrif -air wrth fodd gwerin ddig am ambell i gi deudroed yw—"Yr hen groen-gi sâl."
YSTRELGI. Creadur cythruddol ei nwyd, uchel ei glep, a pharod ei ddant; yn ysgyrnygu ar bawb ar yr achlysur lleiaf. Drel gydag ys yn flaenddawd grymusol, a'r Ci, pa un bynag ai pedwar-droed ai deudroed—fyddo i'w nodweddu felly.
Heb helaethu yn mhellach ar hyn, eir yn mlaen gyda'r Diarebion a'r Dywediadau, fel y soniwyd eisoes. Pe gellid dyfod o hyd i ffurf wreiddiol y rhai hyn, gellir tybied na byddai lle i bryderu yn nghylch eu hystyr, yn herwydd eu bod yn fwy hynafol na'n llenyddiaeth argraffedig; ac mai ychydig o honynt ellir olrhain at awduriaeth ddiddadl. Fodd bynag, rhaid iddynt gael eu barnu, fel pob hen lenyddiaeth, gyda llawer o amheuaeth o ran golwg ar eu ffurf foreuaf. Ond hyderwn fod eu sylwedd a'u prif ddyddordeb wedi eu cadw i ni; oddigerth eu bod wedi eu diosg o'u ffurf gyssefin, a'u dodi mewn gwisg fwy gwerinol, nes bod y bobl yn eu hadnabod a'u croesawu yn y wisg hono, ac yn cael yn eu mysg rai cymhwysiadol at bob amgylchiad mewn bywyd. Mae'n wir fod rhai o honynt ag iddynt darddiad hanesyddol. Dywedir mai perffeithrwydd Duw yn y ceugant mawr a barodd y ddiareb "Duw a digon," ac mai cwymp dyn yn abred a barodd y ddiareb "Heb Dduw, heb ddim." Yr oedd y diarebion boreuaf, fel y caneuon, yn hynod syml a chynnwysfawr. Ond fel y cynnyddai amaethiad a llenyddiaeth, yr oedd y diarebion syml yn cael eu gwneyd yn feithach a mwy addurnedig. Er enghraifft, yn y ddammeg am y "Gwr a'r Ebol," lle y darlunir dyn yn gallu cario ebol, wedi iddo dyfu i fyny yn geffyl, am ei fod yn arfer gwneyd hyny bob dydd er pan oedd yn ebol—"Arfer a wna feistrolaeth," ac "Arfer a wna'n hawdd y peth mwyaf anhawdd," "Arfer yw hanner y gwaith," "Arfer a drech ar bob trechaf," "Arfer a ddwg bob peth dan ei wedd," "Arfer a ddaw hanner y ffordd i gyfarfod a phob ymgais," fel y ceffyl yn dyfod at y gŵr ag oedd yn goddef yn esmwyth ei godi. Diarebion ereill "Nid nerth ond arfer "—"Nid nerth ond celfyddyd"—"Nid celfyddyd ond arfer," fel y dywed y bardd.
"Arfer ac ymgais
A drech ar bob trais."
Ac o hyn y mae'r ddiareb—"Codi'r ebol heddyw, codi'r ebol efory, codi'r ebol bob dydd, onid elo'n llawn ceffyl."
Nid yw y ffaith fod mynych ddefnyddiad yn cael ei wneyd o linell, neu linellau fel
"A wado hyn, aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."
yn gwneyd y rhai hyny yn ddiarebion, eithr yn hytrach yn arwyddeiriau, neu mottos mor hapus a tharawiadol, nes bod yn adnabyddus yn ngenau pob dosbarth o bobl.
Heblaw casglu yr oll a ellir o'r rhai sydd ar lafar gwlad, ag y dygwyd doethineb y prif-ffyrdd a'r caeau i mewn iddynt, dyddorol yw ymdrechu olrhain tarddiad cymmaint ellir o honynt, fel ag i geisio dangos yn ymarferol eu hystyr, cyn ei myned yn rhy ddiweddar. Er eu bod yn hen iawn, hwyrach y ceir rhyw eglurhad ar rai mewn un ardal, lle maent yn dywyll mewn ardal arall. Dengys hyn y gallwn ni wrth wrandaw ac ystyried ddeongli llawer o eirweddion preswylwyr yr hen oesoedd—po hynaf, mwyaf y gwerth. Dyma ychydig nifer allan o liaws:
- Abwyd i'r frech wen ydyw'r frech goch.
- Adwyog cae anhwsmon.
- Adnabod y bluen.
- Pysgotiaeth, yn golygu craffder i ddeall yr hudoliaeth, ac ymogelu, gan nad pa mor gelfydd y temtiwr.
- A echwyno gan arall, ef a gyll yr eiddo ei hun.
- A fyno fod yn llawen, yfed win.
- A fyno fod yn gryf, yfed gwrw.
- A fyno fod yn iach, yfed fedd.
- Diodydd arferol yr hen bobl oeddynt—dwfr, gwin, cwrw, bir, meddyglyn, osai[7], maidd glâs, &c.
- A garo gael, rhodded.
- Agoriad calon, cwrw da.
- Angen ddadguddia feddwl.
- A'i anadl yn ei wddf.
- A'i drwyn yn tân—bron rhynu.
- A ddygo lwy fo ddwg fwy.
- Amlaf ei gwys, amlaf ei ysgub.
- Aml gnau ar gyll, aml flyth ar ferched.
- Blyth yw blys, chwant, gwŷn, nwyd, &c. Esbonir y ddiareb yna gan un arall i'r un perwyl, "Llawer o gnau, llawer o blant ordderch." Dyna ystyr blyth.
- Amser a llanw nid arosant ar neb.
- Anfynych y marchoga y sawl fenthyco farch.
- Anhawdd diddyfnu yn hen.
- Ar fy nghydwybod i.
- A ymachubo y blaen o bell, agos y caiff ei les.
- Bai bychan a gerdd yn mhell.
- Bara llygeidiog a chaws dall.
- Da ydynt yn ol yr hen air. Bara yn llawn codiad ac yn fân dyllau trwyddo, a chaws fel arall. Ymddengys fod llygeidiog i'r bara, a'r dall i'r caws, yn golygu yr un peth.
- Blaen Gogledd a diwedd De.
- A chymmeryd golwg athronyddol a chariadus ar wahanol deithi y gwynt, ystyrid gan yr hen bobl fod tymheredd y gwynt gogleddol, bob amser, ar ddechreu tymhestl yn rymusach ac yn fwy anhydrin na'i dymheredd tra yn lleddfu at lonyddu tua'r diwedd. Ond o wneyd casgliadau diamheuol oddiwrth y gwynt deheuol, gwireddid ei fod ef o anianawd hollol wahanol i'r gogleddol yn fwy nawsaidd ar ei ddechreu nag ar ei ddiwedd. Fodd bynag, os cywir y syniant am y naill a'r llall; y ffaith yw, mai yn llaw Natur y rhaid fod y mater, y mae ganddi hi ei rheolau arbenig.
- Bodd Duw a lwydd.
- Brâs âr, brâs ŷd.
- Brenin y bwyd ydyw'r bara.
- Bwrw heli yn y môr.
- Bwyta lon'd dy fol.
- Yr ateb arferol i'r cyfryw gymhelliad ydyw
- "Llon'd bol mochyn—digon i ddyn."
- Yr ateb arferol i'r cyfryw gymhelliad ydyw
- Byr feddwl wna hir ofal.
- Byw heb wybod i'r beili.
- Byw heb fod yn nyled neb o ddim.
- Cadw di dy ardd, ceidw dy ardd dithau.
- Canu crwth i fyddar.
- Canwyllbren dan y bwrdd hanner y Gwanwyn.
- Pan ddodid heibio weithio wrth ganwyll yn ngweithdai'r wlad, yr hyn wrth ddefod arferol ddigwyddai yr un adeg yn mhob cylch o weithfeydd ar yr 21ain o Fawrth. A dyna ddywedid yn y tŷ annedd—taflu neu ddodi y canwyllbren dan y bwrdd, am nad rheidiol wrth ei wasanaeth hyd yr 21ain o Fedi dilynol. Mae'r ystyr hwn i'r enw canwyllbren yn ystyr hen: a diau fod yr enw yn briodol pan roddwyd ef arno gyntaf, er nad yn briodol arno yn awr, tra heb fymryn o bren yn nglŷn âg ef er's amser maith. Rhyfedd na effeithiwyd ar ei enw gan amgylchiadau newyddion cyfnewidiol amserau diweddarach—fod ysbryd mud yr oesau gynt wedi dal cyhyd i ffynu o'i gwmpas—arferiaeth yw yr achos, fel yr achos o bob llafar gwlad.
- Ceisied pawb ddw'r i'w long.
- Celwydd goleu.
- Celwydd o ben un, gwir o ben pawb.
- Am mai dyfais un yw celwydd, a'r un hwnw a'i hedrydd i gychwyn, tra gwir yn bod i bawb yn gyffelyb o'i adrodd ganddynt fyth.
- Cesail bryn gwaela' talar.
- Codi yn foreu.
- Ymadrodd a ddefnyddir yn fynych, fel o'r un ystyr a bod yn ddiwyd, naill ai mewn drwg neu dda.
- Cuddir dyn dan ei dafod.
- Cyngor gan gall, barn gan ddeall.
- Cyn deneued a glasdwr.
- Hefyd, Fel glasdwr geifr.
- Cyn ddued a'r gadwen.
- Y gadwen yn yr hen Simde fawr, wrth yr hon y crogid y crochanau a phob offer coginiaeth yn yr hen amser; a duach na hono, yn nghanol yr huddygl gwastadol, ni allai dim na neb fod. Yn edrych fel pentan." Ffurf arall ar yr hen ddywediad, yn golygu dull—ymddygiad y taeog mud—sorllyd, diserch—" dweyd na bw na be wrth neb."
- Cyn feddwed ag olwyn, neu "Mor feddw ag olwyn."
- Cynhes fel pathew.
- Creadur bychan o rywogaeth y llygoden, o liw llwydwyn bawlyd. Y mae llawer o lên gwerin mewn cyssylltiad ag ef.
- Cyn wydned ag y dawnsia llydnod hyd-ddo.
- Llymru pur wedi ei wneyd o ruchion digymysg—ei ferwi am o awr a hanner i ddwy
awr, olygir yma. Dodid weithiau yn y rhuchion ychydig flawd haidd neu wenith; bryd arall, gyfran fechan o flawd ffa—y mwyaf cryfhaol o bob math o flawd. Can wyllted ag ysgyfarnogod yn Mawrth. Cyw tin y nyth.
- Dangos y llo, na ddangos y llaeth.
- Da y b'och a dibechod.
- Dengys y gauaf beth wnaed yr haf.
- Deilen ar ei dafod.
- Digon i bob dyn ei faich ei hunan.
- Dim newydd gymmaint a marw gwrach.
- Os difantais y digwyddiad, diwerth ei adrdrodd, olygir.
- Dim ond cael a chael.
- Diwrnod tywyll, noson oleu.
- 'Does dim yn dy ben mwy na meipen.
- Drwg pawb o'i wybod.
- Dwylo blewog.
- Dydd Sul y Môr.
- Diwrnod mawr a goreu y morwyr a elwid felly—diwrnod fyddai yn dyfod o amgylch yn flynyddol bob haf, ac yn parhau am chwech o Suliau yn olynol, a mawr y rhialtwch fyddai ar y môr—lanau yr adegau hyny, tra'r morwyr yn myned drwy eu chwareuon, a digon o gwrw wedi cael ei ddarllaw ar gyfer yr wyl. Dewisid dau ieuangc i fod yn arglwydd ac arglwyddes y cwrw, ffwl, cerddor, a chymmeriadau eraill.
- Dysgu cerdded y filldir.
- Mamaeth—air yn llafar gwlad yw hwn am y modd y dysgid i'r plentyn gerdded. Arfer y fam ddyddiau gynt fyddai eistedd yn ei chadair fagu—codi y bychan wedi ei drin i sefyll ar ei gliniau—wyneb yn wyneb a hi-a chan ddodi ei dwylaw dan ei geseiliau i'w gynnal yn lled ogwyddo wysg ei chefn, hi a'i caffai i symud troed heibio troed, o fodfedd i fodfedd, oddi yno hyd derfyn eithaf ei bron. Dyna hyd milldir hir y bychan; a dyna'r fel y dysgid i'w cherdded. Wedi hir a dygn arfer, yn gwneyd cynnydd o wythnos i wythnos—meistroli y gamp gyntaf yn hanes y dyn; ac ni bu fwy gorfoledd—o bob tu—yn ngorchestion Marathon erioed na pan gyrhaeddid pen y filldir hono. Y cyfarchiad arferol gan ymwelydd cyfeillgar â'r fam am gynnydd ei bychan fyddai "Ydi o wedi dysgu cerdded y filldir bellach?"
- Dyw amser ddim yn segur.
- Edrych fel delw.
- Fel llong ar dir sych.
- Fel 'stwc degwm.
- Fel y ddeial.
- "Y teclyn hwnw osodid yn agos i ddrws pob Eglwys, cyn amser clociau, i nodi yr amser wrth yr haul. Os gofynwch i rywun, "A ydyw eich watch chi yn cadw ei lle?" dywed yntau ar eiliad, "Fel y ddeiol." Mae yr hogyn yna sy gynoch chi hefo'r mul yn un diog iawn, Huw, onid ydi o? Ydi o yn o bynctiwal at ei bryde bwyd? "Ydi, decin i, fel deiol," ebe Huw. Wrth y ddeiol yr oedd Huw yn mesur ac yn pwyso pawb a phobpeth."
- Gadael pawb fel y b'ont.
- Gair garw gyffry gynen.—Beiblaidd.
- Gloewach y dw'r yn y ffynnon nag yn y ffrwd. Goreu bara po garwa gwellt.
- Goreu ceirch y breisgaf.
- Goreu cig medd meddyg yw mollt.
- Goreu gwêr, gwêr carw gwyllt.
- Goreu iau, iau bwch.
- Goreu llwdn, llwdn dafad.
- Goreu o'r gwenith y moelaf.
- Goreu o'r meirch y mwyaf.
- Goreu o'r moch y tewaf.
- Goreu un bwyd bara.
- Goreu un ddiod dwfr.
- Gorphwys cynnarol wna godi boreuol.
- Gwaethaf iau, iau hwch.
- Gwaethaf tân, tân gleuod.
- Gwaeth ei gyfarthiad na'i frath.
- Gwell Duw na drwg obaith.
- Gwell grot ymhwrs na disgwyl arall.
- Gwell hanner had na hanner haf.
- Gwell henffordd na ffordd newydd.
- Gwell maen garw na'r maen llyfn a ollyngo.
- Gwell plygu na thori.
- Gwell tŷ gwâg na thenant sal.
- Gwilia dy feistres pan byddo feinaf.
- Gwneyd dôr o balfau rhawiau.
- Gwynt i oen, haul i fochyn.
- Gwynt o'r môr_hinon fydd.
- Hach a binsia.
- Y mae tafod y werin megis yn petruso pa un ai hach ynte ach ddylai fod yn y cyfryw ymadrodd y mae'r naill a'r llall ar arfer, ac o ganlyniad, yn cael eu mynychu yn ddieithriad i olygu yr un peth—i hwtio ymddygiad fo annghymwys yn ngolwg y fam yn y plentyn, ac mewn cylchoedd uwch mewn oed a sefyllfa—yn bygwth poen o'r camymddygiad fel teimlad ewinwrth ewin yn clwyfo clust, &c.
- Haul tes melyn.
- Heb fod yn llawn llathen.
- Heb ymadael a'i glytiau.
- Magwraeth yn moreu bach mebyn olygir, a'r sèn geir yma i'r rhai fyddont yn rhy barod i ruthro i ofalon byd, &c., heb wybodaeth, medr. na phrofiad addfedrwydd oedran. "Mae Guto tŷ nesa yn myn'd i briodi." Cato pawb, taw a deyd! Ond oedd hi'n lwc ei fod wedi "gadael ei 'glytia'—os oedd o hefyd."
- Hyd y nawfed âch.
- Yn fynych, pan o sèn at unrhyw gymmeriad gwaradwyddus mewn unrhyw deulu, ceisir osgoi cydnabod perthynas â'r cyfryw trwy ddyweyd—Nid wyf fi na'm teulu yn perthyn iddo hyd y nawfed ách. Effeithiai hyn i raddau pell ar berthynasiaeth yn yr hen amser, er enghraifft, am bob achos o lofruddiaeth, gosodid dirwy ar berthynasau y llofrudd, yn rhanedig hyd y nawfed âch; ei frawd a dalai ran fwy, a'r nawfed ran lai yn ol y berthynas.
- I ganlyn llwybr ei drwyn.
- I'r goriwaered y treigla'r cerig.
- Lladd a llyfu.
- Defod gi-og geir yma. Pwy mor lym ei ddant i waedu; ac wedi hyny—pan yn gwel'd mai dyna ei fantais—pwy mor esmwythlyfn ei dafod i lyfu, ag ydyw'r ffalsgi? Helynt o beth mai troion sâl y ci ddynwaredir, yn lle ei ragoriaeth—pwy cyn ffyddloned a'r ci?
- Lladd â phluen.
- Mae addysg o fedydd hyd fedd.
- Dyna syniad ein tadau o barth dymunoldeb o graffu ac ymchwilio; o gofnodi a dwyn oddiamgylch wersi goleu a phwyllus oddiwrth ddynion a'u doniau.
- Mae blas ar beth, nid oes blas ar ddim.
- Mae cynffon gan y dydd.
- Ei ymestyniad—dechreu hwyhau.
- Mae gwaith tŷ fel tragwyddoldeb.
- Yn ddiddiwedd.
- Mae i bob câr ei gydgar.
- Mae'n ddigon a magu rickets ar ddyn.
- Ymddengys mai effaith nych—fagu ar fabanod yw hwn, yn effeithio ar y gewynau,
- gan achosi annghydffurfiad yn y corff, yn nghyd â'r pen o faintioli annghymesur. Gelwir ef mewn rhai manau yn "Llechau," yn golygu yr un anhwyldeb corfforol, y naill yn air Saesneg a'r llall yn Gymraeg.
- Mae pawb a'i hai arno.
- Mae piso dafad yn ganwaith mwy o werth na biswail buwch.
- Mae pob twf blwydd yn naill ai porthiant ai gwrtaith.
- Mae wedi myn'd yn goffi crystyn arno.
- Mae dau fath o ofid yn y byd—gofid y tlawd a gofid y cyfoethog; trallod y rhy fach a thrallod y gormod. Gofid a thrallod y rhy fach yw cymhwysiad priodol y "coffi crystyn" crybwylledig, fel y dengys y chwedl ganlynol, ag sydd ar ei haden hyd heddyw yn ardal Llanystumdwy, sef, ddarfod i ffermwr rhwydd lawn o gyfoeth, ag oedd yn byw yn y Berkin, mewn dibrisdod a thymher ddrwg dros fesur, sèn—gyfarch hen wraig dlawd a adnabyddid wrth yr enw Aels Glan 'r Afon, fel hyn:—" Mae nhw'n deydi mi eich bod yn eich tê a'ch tost bob dydd, Aels." Ac ebe'r hen wraig, o dipyn i beth yn yswil ac ofnus, eithr mewn ysbryd prudd ac isel, gan droi ei dwy fawd o gylch eu gilydd: "Gyda'ch cenad, syr, tost iawn ydi bwyta tipyn o fara haidd wedi ei grasu o flaen tân gleuod, a'i falu i ddw'r a halen neu ddw'r a thriog. Bryd arall, crystyn wedi mwy na hanner ei losgi i wneyd 'coffi crystyn o hono. Dyna'r tê a'r tost ydw i'n gael, syr." Haws dychymmygu na darlunio profiad yr hen wraig, tra'r oedd gofid ar ei oreu yn ei mynwes. Ai tybed fod y ffermwr crybwylledig yn ystyried ei chyflwr? Efallai ei fod; efallai nad oedd.
- Mae'r gwynt yn nhwll y gwlaw.
- Y Deau olygir wrth "Dwll y gwlaw." Mae gwynt y De yn dod a gwlaw gydag ef, am ei fod yn dyfod dros arwynebedd dirfawr o fôr. Hyn a barodd i'r hen bobl ddywedyd,
"Pan gwynt o'r De a ddaw,
Y mae yn ngenau'r gwlaw."
- Mae wedi chwech arno.—Ar ben arno.
- Mae wedi chwythu ei blwc.—Wedi myned i'r pen
- Mall dân, mall fara.
- Melusaf y gwellt agosaf i'r ddaear.
- Mor brysur a beili mewn Sesiwn.
- Mor chwim a gafr wanwyn.
- Yr un a gafr y gors, sef y giach, ysniten "sneipen" ar dafod gwlad, sef yr aderyn. chwim breswylia gorsydd gwlybion, ac a ymdröella ol a blaen drwy'r wybr—lasog uwchben, gan frefu yn grynedig o hirbell, ar noson glir ac oer o wanwyn.
- Mor dawel a'r tes.
- Mor ddig'wilydd a thalcen tâs.
- Mor galed a iau ychain.
- Mor gyfnewidiol a Gwrach y Rhibin.
- Mor llon a'r gog.
- Mwg syth-llawer o arian yn tŷ.
- Myn'd i'w groen fel draenog.
- Myn'd yn gidyll gwyllt.
- Naddu ato'i hun.
- Ni châr hen fuwch ddyniawed. :
- Ni cheir dâ heb lafur.
- Ni chroesawir oni wahoddir.
- Ni wel ynfyd ei fai.
- Nid cymmaint Bleddyn a'i drwst.
- Nid da siomi tir.
- Nid digon dymuno.
- Nid dryghin ond gwynt.
- Nid hawdd yr ardd ŷch heb gymhar.
- Nid oes dim gonestach na thir, fe ddengys yn gywir y driniaeth fo'n gael.
- Nid oes i bob ci ond ei ddydd.
- Nid pob dydd y lleddir mochyn.
- Nid rhodd a gymhellir.
- Ni lwydd ond cyfiawnder.
- Nis gellir cadw torth a'i bwyta.
- Ni wna'r môr waeth na boddi.
- Ni wyr y bore teg ba wrth-hin a lŷn wrth ei gynffon.
- O cheri fi câr fy nghi.
- Coelir mai y ci yw y callaf a'r mwyaf synwyrol o'r holl greaduriaid a gyfrifir yn ddireswm; a chydnabyddir ef yn gyffredin fel cydymaith a chyfaill ffyddlon ac anghyfnewidiol yn ei serch. Yr oedd yn un o'r creaduriaid hyny a addolid yn mhlith hen baganiaid y Dwyrain. Rhyfedd, onide, fel yr hoffa pobl o ryw fath ymlynu wrth hen arferion tebyg, hyd y nod yn ein dyddiau ni. Mor fynych y cura mynwesau coeg—foneddigesau ein gwlad yn erbyn penau cwn yn lle penau eu plant eu hunain, yn ddiystyr o'r ddyledswydd neillduol o fagu eu plant a'u dwyn i fyny fel y dylid dwyn i fyny blant—nid eu cyflwyno i ofal ac i fynwesau estroniaid.
- O ddilyn oferddyn ai dithau yn furgun.
- Ofer ymryson â gof yn ei efail.
- Oni wnawn dda na wnawn ddrwg.
- Os chwynu'r goesgoch, rhaid chwynu'r benboeth hefyd.
- Tyfolion gwylltion ydynt y goesgoch a'r benboeth. Chwŷn, enw lliosog; chwynog, ansoddair; ac yn drachefn ar dafod gwlad, yn ei droi i unig—chwynogyn, megis, a
- ddarfu i ti chwynu yn lân—Do, bobchwynogyn.
- Paid di a'm boddi, peidiaf fina rhynu.
- Hen ddywediad a ddodid megis yn ngenau gwenith. Y cymhwysiad yw, "Paid a hau ŷd mewn tir gwlyb, yna paid yr ŷd a. phydru tan y gwys.'
- Peidiwch a meddwl mai pabwyr yw pobol.
- Pob milyn yn ei elfen.
- Pob pwys a gaiff ei gydbwys.
- Pob rhyw a genedla ei ryw.
- Pry' oddiar faw ehed uchaf.
- 'Rown i'n meddwl ma' felna basa hi!
- Gan y bobl hunan-bwysig hyny a honant eu bod o dylwyth y prophwydi, ond a arosant heb gyhoeddi eu prophwydoliaeth hyd ar ol digwydd, y dywedir fel yna—a hyny, fynychaf, mewn dial. "Dydi'r Brenin Mawr ddim yn cysgu," ebai Harri Morys,. Bryn March, wrth Sian ei wraig, gan dynu llawes ei gôt ar draws ei drwyn; "a dyna'r hen Sion Solas wedi cael ei dâl am y tro nath o â mi stalwm. 'Rown i'n meddwl ma felna basa hi!"
- Sala us, us gwenith.
- Siaradwch ychydig ag eraill a llawer â chwi eich hunain.
- Sion llygad y geiniog.
- S'nachu dan ei ddannedd.
- Tafod drwg a dyr asgwrn.
- Tair oes mul.
- Syniad gwlad yw mai hirhoedlog iawn yr anifail hwn, fel braidd ei fod yn byw tu hwnt i gyfrif oes pedwar carnol cyffredin; a dywedir am rywun fyddo byw cyhyd a thair oes mul ei fod bron yn anfarwol. "Bywyd cath ynddo," olyga un anhawdd ei ladd drwy unrhyw ymosodiad neu
- gamdriniaeth, ond "tair oes mul"—byw yn hir—hirhoedledd olygir wrtho.
- Teila it' dy hun, calcha i'th fab, cleia i'th ŵyr.
- (1) Teila it' dy hun.—Os felly, gyda ffawd, ac estyniad dyddiau einioes, derbyniai y tad, yn bersonol, elw oddiwrth ei lafur. (2) Calcha i'th fab.—Parha effaith calch i ddwyn cynnyrch dros ystod ugain mlynedd. Pe y tad wedi cyrhaedd oriau prydnawn einioes, gallasai ei fab, yn unol â threfn amser, fel olynydd, feddu a medi ffrwyth ei lafur ef. (3) Hir, a braidd hwy na hir, yr ystyrid disgwyl unrhyw fath o gynnyrch oddiwrth gyffaeth clai; ond os tir ysgafn, llac, neu rydd, bernid gan ddoethion yr hen amser, fod clai, mewn ystod o amser lled faith, yn ardymheru ac yn addasu y cyfryw i ddwyn cnydau rhagorol. I le o'r fath, dygid ef yn domeni bychain ar hyd braenardir fel llosgedigion ereill, megis lludw aelwyd, calch, tywyrch, &c. Ceir ar hyd a lled y wlad, yma a thraw, weddillion ac enwau amryw fathau o hen odynau, megis odynau calch, odynau cywarch, odynau brag neu haer, odynau bracio, odynau clai, &c. Amlwg yw, yn mhlith ereill o fewn cylch cymharol ddiweddar, y gwneid defnydd ymarferol o'r odynau clai yn ardaloedd gorllewinol Lleyn, yn fwyaf neillduol oddeutu Penllech, a bod amledd y toriadau dyfnion a welir ogylch yn dwyn nodau eglur o'r hyn a gludwyd ymaith o'r clai i'r perwyl crybwylledig.
- Tra pisom yn loew cardoted y meddyg.
- Tri goleuni nos, niwl, gwynt, ac eira.
- Tywyll for a goleu fynydd wnelai hindda yn dragywydd.
- Wedi myn'd yn gocin glân.
- (Cocking). O cock, ymladd ceiliogod.
- Y ceffy! a bawr a bery.
- Yd mall, bara mall.
- Y fuwch mewn ymrafael â'r dâs wair.
- Y march a rech garia'i bwn.
- Ymladd dau fywyd.
- Yn benben-glustiau.
- Yn fwg ac yn dân i gyd.—Y ffwdanus.
- Yn llaw ac yn droed.
- Yr hen geubal bwyteig.
- Y sawl a gysgo heb swper a gyfyd heb ddyled.
- Y sawl fwytao fwyaf o botes gaiff fwyaf o gig.
- Y sawl ŵyr fwyaf a dwyllir fynychaf.
- Y tri math goreu o bysgod.
- Brithylliaid Cwmdwythwch, torgochiaid Llyn Tarddeni (Llyn Quellyn), a gleisiaid Aberglaslyn.
Yr oedd tri yn rhif cyssegredig gan ein hynafiaid. Byddent yn dra hoff o gael tri gwrthddrych o'u blaen i addoli, megis uniad tair afon, tri chrug ar rai o'n mynyddoedd, megis yr Eifl—y tair cromlech, gynt, ar lechwedd ddwyreiniol Mynydd y Rhiw yn Lleyn, a'r tair ger Ystumcegid yn Eifionydd, &c. Arferent, bryd arall, ddywediadau mewn ffurf odlyddol—wele ychydig o lawer o honynt:—
Ar hindda mae gweithio
Rhag newyn pan ddelo.
Caiff un pâr o dafodau
'N fynych sychu cant o glustiau.
Dysg i'th blentyn ennill da,
Cyn dysgu modd dyfetha.
Gyda'r cwn yn cysgu,
Gyda'r chwain yn codi.
Haul y borau byth ni bydd
Yn parhau drwy'r oll o'r dydd.
.
Mae un tad yn tra rhagori
Ar ddau cant o ysgolfeistri.
Rhin deu-ddyn cyfrin yw,
Rhin tri-dyn can-nyn a'i clyw.
Y doeth nid yw'n gofalu
Am yr hyn nas gallo feddu
PENNOD XII.
DYCHYMMYGION, DYRYS BARABLION DIGRIF, &c.
PLESERUS a diniwaid oedd arferion yr hen bobl, ac yr oedd y gydwybod yn dawel tra yn eu cyflawni. Treulient eu dechreunos yn hynod ddiddan yn gylch am y tân mawn mewn hen simdde fawr, yn dair cenhedlaeth,—y plant—y tad a'r fam, a'r taid a'r nain. Byddai yr hen langc cymhenllyd yno, a'r hen ferch wastad ei chwedl—un yn gwneyd llwy bren, arall yn gwau, ac arall drachefn yn cribo gwlân wrth oleu canwyll frwynen, yr hon, yn ddiau, oedd yn dysgu amynedd mawr iddynt; a thra wrth y gorchwylion hyn, llawer o ddifyrwch a fwynheid ganddynt, drwy roddi dychymmygion, dyrys-barablion digrif, gofyniadau mewn rhifyddiaeth, &c., er mwyn dysgu eu gilydd â champau o gywreinrwydd, canys y mae llên y werin yn dryfrith o amrywiaethau dyrysedig ag ydynt wedi eu trefnu fel camp i'r tafod, yn ogystal ag i'r meddwl, drwy iddynt gael eu hadrodd gyda'r cyflymdra prysuraf ag oedd ddichonadwy, "weithiau yn ddywenol, ac weithiau mewn sèn; un pryd yn ysgafn, a phryd arall yn llym ac yn gnoawl, dan gysgod geiriau mwys, ac ymadroddion dau-ystyr; a thrwy drawsfudiad geiriau mewn modd cyfrwys a hyawdl." Ac yr oedd pethau o'r fath, yn fynych, yn ddifyrus a llesol i bobl ieuaingc i ddysgu darllen, pryd yr oedd nifer fawr iawn o dlodion yn analluog i ddarllen nac ysgrifenu. Heblaw hyny, nid ydynt yn hollol ddiddefnydd i'r hynafiaethydd. Nid yw y naturiaethwr llwyddiannus yn cyfyngu ei sylw at y cawrfil, y llew, y lefiathan, &c., yn neillduol, ond cara ddarllen deddfau natur yn nghyfansoddiad yr abwydyn, y gwibedyn, a'r falwoden, ac yn fynych y mae wedi cael cymhorth annisgwyliadwy o'r cyfeiriadau hyny. Felly, na ddirmyger hyd y nod ddigrifon gwylltion llafar gwlad a gwerin. Gallant ymddangos yn ffol a distadl i lawer, ac eto fod yn ddefnyddiol i ddangos llwybr dyrchafiad y meddwl dynol, &c.
- Pa beth sydd yn bod na welodd Duw erioed?—(Ei gyffelyb).
- Beth sy fwyaf gwylaidd o ddim, a'i ddwylaw dros ei wyneb?—(Cloc).
- Beth sydd yn myn'd efo throl—nis gall hi fyn'd hebddo, ac nid yw o ddim lles iddi? —(Twrw).
Beth sydd is wybren
Heb feddu dwy aden,
Yn cerdded ar ddau droedyn
Heblaw aderyn a dyn?—(Dynes).
Beth yw gwr bach pingc,
A gwraig fach siongc,
A'u plant yn dwmpathau,
Tebyg iddynt hwythau?
—(Y dryw, yn wryw a benyw, a'u cywion).
- Beth sydd yn myn'd heb symud o'i le?—(Cloc).
- Beth sydd ar fwrdd y brenin a'i droed yn ei d*n?—(Afal).
- Beth sydd yn tynu am dano ar y glaw ac yn gwisgo am dano ar dywydd teg?—(Deintyr).
- Beth sydd yn myn'd drwy'r clawdd a'i chynffon ar ei hol?—(Nodwydd ddur).
- Beth yw diod ceffyl y brenin? —(Dw'r).
- Beth sydd yn yr afon ar le-s-ych?—(Dw'r).
- Beth ddylai dyn ei gadw ar ol ei roddi i un arall? —(Ei air).
- Beth borodd yn y gors, a dyfodd yn y winllan, ag sydd ar hoel yn y ty?—(Gogr rhawn).
- Beth sydd a'i phen yn y mynydd a'i choes yn y nant? —(Ysgub rug).
- Beth yw hwnw nad yw byth yn defnyddio ei ddannedd at fwyta? —(Crib).
- Beth sy'n myn'd yn hwy wrth dori ei phen?—(Ffos).
- Beth sydd yn myn'd hyd y llawr, ac wedi gorphen, aiff i'r gongl? —(Ysgub).
- Beth yw pris pen heb ddim tafod? —(Crochan heb ddim gwaelod).
- Beth yw dyfn y môr?—(Ergyd careg).
- Pa beth a welir yn aml lle na byddo?—(Bai).
- Beth yw hwnw a ehed yn uchel, ehed yn isel, nad oes ganddo draed, ond er hyny a wisga esgidiau?—(Llwch).
- Beth â i fyny yn wŷn ac a ddisgyn i lawr yn felyn? —(Wy).
- Beth red yn gynt wedi tori ei choes?—(Rhedynen).
- Beth ydyw tŷ bach haiarn a drws yn ei dalcen? —(Haiarn smwddio).
- Beth dyr yn mhob tŷ ac a ddaw adre'n gyfa?—(Siswrn).
- Beth aiff i fyny ysgol a'i phen i lawr? —(Hoelen mewn esgid).
- Pa sawl cynffon buwch sy'n ddigon o hyd i gyrhaedd y lleuad? —(Un os yn ddigon hir).
- Paham y mae buwch yn gorwedd?—Am nas gall eistedd).
- Beth â i fyny yn felyn ac a ddaw i lawr yn wyn? —(Yd yn y felin).
- Beth sy mor hen a'r mynyddoedd?—(Y dyffrynoedd).
- Pa sawl pric wna nyth brân?—(Dim un)
- Beth yw y rheswm fod buwch yn edrych dros glawdd? —(Am nas gall edrych drwyddo).
- Beth yw y rheswm fod defaid gwynion yn pori mwy na defaid duon?—(Am eu bod yn lliosocach).
- Beth sydd heb ddwylaw ac heb draed, heb erioed ben na chorff, er hyny gall agor llidiart?—(Gwynt).
- Paham y mae Dwyfor yn afon ddiog?—(Am ei bod yn gorwedd yn ei gwely ddydd a nos).
- Pa un futraf, ai golchi y dwylo yn y dwfr tylino, ynte tylino heb olchi y dwylo.—(?).
- Beth sydd a llon'd ei fol o fwyd, a llon'd ei geg o faw? —(Pobty bricks, yn yr hwn y byddai bara, a'i geg wedi ei dubio â chlai, a elwid hefyd yn faw).
- Dyn yn myned i hela, a chymmaint ag a ddaliodd fe'i gadawodd ar ei ol, a chymmaint ag a fethodd ddal, daeth a hwy adref? —(Dyn yn cribo ei ben).
- Pa le yr oedd Moses pan ddiffodd y ganwyll arno? —(Yn y tywyllwch).
Beth aiff yn gynt na'r gwynt ac yn gynt na'r gwlaw,
O'r berllan hon i'r berllan draw?—(Meddwl dyn).
Wyth pen, a saith tafod,
A'r byw yn y marw'n gofyn diod?
—(Nyth aderyn a saith o gywion mewn penglog).
- Beth ydyw hwnw y gall pob dyn ei ranu, ond nas gall byth weled yn mha le y rhanwyd ef?—(Dwfr).
Pa beth yw bryn bach syth
Nas gall neb byth ei ddringo?—(Wy).
Beth ydyw tŷ bach pren
A'i ddrws ar ei ben?—(Buddai gnocio).
Beth sy'n dringo'r graig?
Nid gŵr, nid gwraig,
Nid march pedolog,
Nid 'deryn asgellog?
—(Malwoden, medd rhai;
niwl, medd ereill).
Y byw yn y blaen,
Y marw yn y canol,
A'r corph a'r enaid ar ol.
—(Dyn yn aredig).
- Ni chân y gôg ond a ganodd.—(Yr amser dyfodol a geir yn y geiriau "Ni chân y gôg," a’r amser gorphenol a geir yn "ond a ganodd." Felly nid all y gôg ganu dim yn y dyfodol ond yr hyn oedd wedi ei ganu yn y gorphenol, sef cwcw).
Mil o dani, a mil oddiarni,
Pedair yn nghrôg, a deg yn tynu.
—(Buwch yn cael ei godro).
- Y blew ydynt y "mil o dani, a mil oddiarni." Y "Pedair yn nghrôg," ydynt y pedair teth. Y "deg yn tynu" ydynt fysedd a bodiau'r ddwylaw.
- Pa beth y mae pawb trwy y byd yn ei wneyd ar unwaith? —(Myned yn hynach).
Beth yw pais ddu heb ddim hem,
Bol o gareg a choes bren?
—(Eirinen ddu).
Beth yw ladi wen lân
Yn eiste' o flaen tân,
Heb na migwrn nac asgwrn
Na dyferyn o waed?—(Torth geirch).
Beth sydd â thri throed heb gerdded,
A dwy glust, heb glywed,
A cheg fawr yn agored?—(Crochan).
Beth ydyw crochan melyn bach
A'i d*n yn ennill arian?—(Gwniadur).
Beth ydyw crochan melyn bach
Yn llawn o esgyrn pobol?—(Gwniadur).
Beth sydd yn sinc, sinc, yn y coed,
A phedwar llygad, ac wyth droed?
—(Caseg gyfeb yn ei charchar).
- Beth sydd yn ngweithdy'r saer nas gwelodd y saer erioed mohono?—(Min).
Beth yw ffynnon wen lefrith
Yn nghanol cae gwenith?—(Buwch).
Beth sydd wedi ei ladd ac wedi ei flingo
Yn cario corff ac enaid ynddo?
—(Par o esgidiau).
Beth ydyw cistan bach yn ngwaelod y nant
A'i llon'd o esgyrn pobol?—(Esgid).
Beth ydyw cistan bach yn ngwaelod y nant
A egyr un, ond na chaua cant?—(Cneuen).
Beth ydyw cistan bach yn ngwaelod y nant
A'i llon'd o esgyrn llygod?
—(Cath wedi marw).
Beth ydyw gastan bach yn ngwaelod y nant
Na chyfartha neb, ond a fratha gant?
—(Mieren).
Beth sydd yn limbyn lamber
A'i ben yn mhob siamber?
—(Agoriad).
Beth ydyw siamber wen galchog
A'i llon'd o fwyd marchog?—(Wy).
Beth sydd mewn môr ag sydd mewn mynydd,
Nid yw mewn geneth, lyweth lonydd?
Mae mewn pedwar mis o'r flwyddyn
A'r wyth ereill nid yw ynddyn':
Mawrth, Mai, Mehefin dawel,
A diwedd Medi mae'n ymadel?
—(Y llythyren M).
Beth sydd gryned a phec,
Yn ddued a'r check,
A chynffon hir, hir, a thwll yn ei blaen?
—(Padell ffrio).
Dychymmyg, dychymmyg mi gleddais fy mhlant,
Fesur saith ugain ac fesur saith gant,
Y nhw sydd i farw a minau sydd fyw,
Dyna ddychymmyg na ddyfeisiwch yn eich byw.
—(Coeden wedi colli ei hâd).
Can-gwys ar gan-gwys a chan' ugain ogwys,
A chan' deryn du dan bob cwys.
—(Ceirch du wedi ei hau).
- Yr oedd pump aderyn ar y pren, saethodd yr adarwr atynt, a gwelodd ddau yn cwympo, sawl un oedd ar y pren?—(Dim un—ehedodd y lleill ymaith).
Fe anwyd plentyn yn mhlwyf Llangan,
Heb fod yn fab i'w dad nac yn fab i'w fam;
Heb fod yn fab i Dduw nac yn fab i ddyn,
Ac fe anwyd hwnw fel pob un.—(Lodes).
Yr oeddwn yn myned, nis gwyddwn i b'le,
Cyfarfum â gŵr, nis gwyddwn i pwy, S
iaradodd â mi bart, nis gwyddwn i beth,
Fe roes i mi rôdd a bery i mi byth.
—(Plentyn wedi bod yn yr Eglwys yn cael ei fedyddio).
- Sut y gellir gosod canwyll ar fan mewn ystafell, fel y gall pawb ei gweled ar unwaith oddigerth un? —(Ei gosod ar ben yr un hwnw).
- Y tir yn wyn a'r hâd yn ddu, a'r gwr yn hel meddyliau? —(Dyn yn ysgrifenu ar bapyr gwyn).
Pedwar polyn ar ben bryn,
Bwried a fwrio ni wlychant hwy ddim?
—(Tethi buwch).
- Beth sy'n las, las fel y glaswelltyn, yn bigog, bigog fel y pin, yn felyn, felyn fel yr aur?—(Eithin a'u blodau).
Beth sydd yn bod er erioed
Ac nid yw eto ond mis oed?
—*(Y Lleuad).
- Beth sydd yn dyllau i gyd ac heb ddim un twll drwyddo?—(Gwniadur).
- Beth sydd na fu erioed, na fydd byth, ac mae o hefyd? —(Heddyw).
- Yr oedd dyn yn twymo llaeth—syrthiodd y llaeth i'r tân—cododd y dyn ef, golchodd ef, ac yfodd ef. —(Llaeth wedi rhewi).
Beth â'n gynt na'r gwynt, yn gynt na'r gwlaw,
O'r fan yma i'r fan draw? —(Meddwl dyn).
- Beth sydd yn cysgu a'i fys yn ei lygad?—(Aerwy).
Dywedwch y medrwch ddangos i unrhyw un o'ch cyfeillion yr hyn nas gwelodd erioed o'r blaen, yr hyn nas gwelsoch eich hunan ychwaith, a'r hyn nas gwelodd neb arall o'r blaen, a'r hyn, ar ol i chwi eich dau ei weled, nas gwel neb ef byth ar ol hyny.
Cymerwch un o'ch cyfeillion o'r neilldu, a thynwch gneuen allan o'ch llogell. Torwch hi, dangoswch iddo y cnewullyn, a gofynwch iddo, a welodd efe hwnw erioed o'r blaen? Yr ateb fydd, "Naddo." Dywedwch chwithau, "Na minau 'chwaith, na neb arall." Yna bwytewch ef, a dywedwch," Ac nis gwelwch chwi na mi, na neb arall, ef byth mwy.
Pa fodd y gall dyn, ac nid dyn,
Ladd aderyn, ac nid aderyn,
A chareg, ac nid a chareg,
Yn eistedd ar bren, ac nid pren.—(?).
Twrch o'r graig mewn torch gron;
Dery'n gras fel daear gryn;
Dodrefnyn drud mewn cryd crwn;
Llanc o'r ŷd yn llyncu ei ran.
—(Maen melin).
Beth sydd yn y môr nad yw yn y tir?
Nid yw yn y clawdd, y mae yn y ffos;
Nid yw yn y cae, y mae yn y rhos;
Nid yw yn y fuwch, y mae yn y llo.
—(Y llythyren O).
Miga-moga, i b'le'r âi di?
Moel ei goryn, 'waeth i ti:
Fe dŷf gwallt ar fy mhen i,
Cyn'r uniona d'arau ceimion di.
—(Y mynydd a'r afon).
Yr hwn a'i gwnaeth nid rhaid iddo wrtho,
Yr hwn a'i pryn ni fyn ef mo'no;
Yr hwn a'i ca'dd nis gŵyr ef eto,
Pa un a wnaeth a'i gael ai peidio.—(Arch).
Mae genyf filgi bolwyn brych,
Llydan ei gefn ac yn fawr ei wrych;
Ac mi ddywedais i chwi 'nghyffes,
Ac enw'r ci a enwais deirgwaith. —(Ac).
Bum yn claddu hen gydymaith,
Gododd yn fy mhen i ganwaith;
Yr wyf yn ofni er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.
—(Dyn yn dyfod o hau haidd).
- Gŵydd o flaen gŵydd—gŵydd ar ol gŵydd—a rhwng pob dwy ŵydd—gŵydd. Pa nifer o honynt oedd yno? —(Tair).
Fy mhen sy'n troi wrth fyn'd i'r daith,
Nid o herwydd henaint chwaith,
Pan b'wy'n rhodio pen ffordd fawr
Nid yw fy nhraed yn cwrdd â'r llawr.
—(Berfa olwyn).
Y weirglodd lâs lydan,
A'r buchod penchwiban;
Y tarw penwyn yn y canol,
A'r bugail aur yn eu troi allan.
—(Yr awyr, y sêr a'r lleuad, a'r
haul yn codi, yn codi, nes peri
iddynt ddiflanu, megis).
Deudroed ar drithroed yn crafu'r troed,
Daeth y pedwar-troed heibio, a dygodd y troed;
Cipiodd y ddeudroed y trithroed,
A tharawodd y pedwar—droed nes cafodd y troed.
—(Dyn oedd yn eistedd ar ystôl dri throed ас yn crafu troed mochyn, pryd y daeth ci i fewn gan ei ddwyn oddiarno; ac yna i'r dyn, yn ei lid, gipio yr ystôl a tharewo y ci â hi, am ei haerllugrwydd).
Yr oedd gan Sion y Cydau naw cŵd, a naw torth yn mhob cŵd, naw twll yn mhob torth, naw llygoden yn mhob twll, naw cyw gan bob llygoden, a naw dant gan bob cyw. Pa faint oedd nifer dannedd y cywion?—(531,441).
Yr oedd gan Nicolas nawclos, naw poced wrth bob clôs, naw pwrs yn mhob poced, naw cell yn mhob pwrs, a naw punt yn mhob cell. Pa nifer o bunoedd oedd ganddo?—(59,049).
Yr oedd dau dafarnwr yn byw yn Nghonwy, ac aeth y naill at y llall efo llestr pum—chwart a llestr tri—chwart, i ofyn benthyg wyth chwart o gwrw. Nid oedd yn y lle, ar y pryd, ddim ond wyth chwart o gwrw yn digwydd bod, ac ebai'r perchenog, ti gei hanner hwn os medri ei ranu efo'r llestr yma; ond pa sut yr oedd gwneyd?—(Tywallt llon'd y llestr tri—chwart yn gyntaf—tywallt y llestraid tri i'r pump wedi hyny—tywallt llon'd y llestr tri eto, a thywallt hwnw i'r pump; ond yr oedd un chwart ar ol yn ormod; yna yr oedd yn rhaid tywallt y pump yn ol i'r wyth, ac wedi hyny tywallt yr un i'r pump—yna tywallt llon'd y llestr tri-chwart, a'i dywallt i'r llestr pump, felly byddai ynddo bedwar chwart, a phedwar chwart yn y llestr wyth-chwart).
Aeth dyn i dafarndy â swm o arian yn ei law, a gofynodd am fenthyg yr un faint ag oedd ganddo. Eisteddodd i lawr a gwariodd hanner coron. Wedi hyny, aeth i dafarndy arall, a gofynodd am fenthyg yr un faint ag oedd ganddo. Eisteddodd i lawr yno, a gwariodd hanner coron. Aeth i'r trydydd lle, a gwnaeth yr un modd, sef eistedd i lawr a gwario hanner coron—y cwbl. Ond, attolwg, pa faint oedd ganddo ar y dechreu?—(Dau swllt a dwy geiniog a ffyrling).
Yr oedd dyn â nifer o ddefaid ar ei daith, pryd y daeth dyn arall i'w gyfarfod, gan ei grybwyll fod ganddo nifer dda iawn o ddefaid—gryn ugain. "Nag oes," oedd y cyfarchiad yn ol, pe buasai genyf gymmaint â hyn eto, a hanner cymmaint â hyn, a dwy ddafad a hanner, buasai genyf ugain. Pa nifer oedd ganddo?—(Saith).
Rywbryd, er ys amser pell yn ol, yr oedd hen ŵr a hen wraig, â dau fachgen, eisieu croesi afon mewn cwch. Yr oedd yr hen ŵr yn dunell o bwysau, a'r hen wraig yn dunell, a'r bechgyn rhyngddynt yn dunell; ac ni chariai'r cwch ddim mwy na thunell; felly, pa sut yr aent drosodd?—(Y ddau fachgen fyned drosodd yn gyntaf, ac un dd'od â'r cwch yn ol, yna yr hen ŵr fyned drosodd yn gyntaf, a'r bachgen dd'od â'r cwch i nol y bachgen arall; yna yr oedd yr hen wraig yn myned wedi cael y bechgyn un bob tu i'r afon, a'r naill fachgen yn nol y llall).
Y Bwch a'r Blaidd a'r baich Eiddew.—
Aethai dyn at lan afon a chanddo fwch, blaidd, a baich o eiddew. Ni chariai y cwch oedd ar lan yr afon namyn un o honynt, ar unwaith, gyda'r dyn; a buasai yntau, y blaidd rheibus, yn bwyta y bwch, pe y gadawsid y ddau ar ol a myned â'r eiddew drosodd. Pe buasai'r dyn yn myned drosodd i ddanfon y blaidd, buasai'r bwch yn pori'r baich eiddew. Yn ngwyneb yr amgylchiad, pa sut yr elai â hwy drosodd mewn diogelwch?—(Myned a'r bwch yn gyntaf, a chroesi yn ol am y blaidd; yna dyfod a'r bwch yn ol drachefn, a myned a'r baich eiddew yn ol at y blaidd, ac yn y diwedd cyrchu y bwch)
Pais a mantell a thalaith dèn,
Bardd a derwydd yr ynys wen,
Y llo yn y beudy a'r gath ar y faingc,
Brenin Lloeger a brenin Fraingc,
Un mewn cwch a'r llall mewn sach,
A gwraig brenin Lloeger yn dod ag un bach,[10]
Yn fychan o faint,
Ar lan afon Saint,
A hithau yn wraig i frenin y byd;
Dicyn-docyn, twyll i gyd.
Brenin Ffraingc yn rholio i lawr
I ganol y môr o'r Penmaenmawr,
Brenin Cymru yn cael tori'i ben,
Yn mhell yn mhell o'r ynys wen.
Pry' pry' gerdded o, gerdded o,
Daliwch o, daliwch o, dyma fo.
Mewn llannerch ar fin llyn Pentre'r Felin, yn mhlwyf Ynyscynhaiarn, ceir Careg hir ar ei phen, ag y dywedid y byddai yn rhoddi tri thro o amgylch y Llyn bob tro y clywai hi gloch y Llan yn canu.—(Y mae yr ystori ddigrif—ddychymmygol yna yn ddigon gwir eto am bob careg arall yn ein hoes ni; oblegyd cudd-ergyd y syniad yw, pa gareg a ddichon glywed unrhyw swn?).
Mi a aethum i'r coed, ac a'i cefais; mi a eisteddais i lawr i chwilio am dano; dygais ef adref, am nas gallwn ddyfod o hyd iddo?—(Draen yn fy nhroed).
Tecell, tocell, a gradell, a gridil,
Gwenol a phrendol, a phedol a ffidil;
Pellen, troellen, mowden, Madog,
Gwiwer, coeswyn, a chyffylog.
Wala, wala, fe ddarfu'r afalau,
Wrth hir gnoi fe dderfydd y cnau.
Owen Goch o dan y Castell,
Brynodd i mi bais a mantell,
Bys coch, bys cam, bys y cogwrn allan.
Un yn gofyn—"Fedri di fyn'd i'r dre i werthu wyau heb ddweyd 'ie?'" Y llall yn dyweyd "Medraf." "Pa ffordd yr âi di?" Drwy'r drws ac allan." "Ai ffordd hono yr âi di?" "Ffordd hono yr af." "Ffordd wed'yn?" "Drwy'r buarth." Ai i'r dref y byddi yn cychwyn?" "I'r dref y byddaf yn cychwyn, &c., hyd oni ddychwelo adref,—neu hyd oni ddywedo "Ie' ar y daith."
Un dau tri—mi rho nhw i lawr yn ffri,—mi ddalia i am beint o gwrw—pwy bynag ddeil â minad oes yma na mwy na llai—ond union ugain firi.
Pwy ddaw, pwy ddaw drwy bont y seiri?—
(Y fi, y fi a'm holl gwmpeini).
Torti, torti, bara gwyn yn llosgi,
Dŵr ar tân i olchi'r llestri.
Toiti, toiti, tŷ tatws,
A'i ben draw heb un drws.
Sion a Sian o gylch y tân,
Yn bwyta blawd ac eisin mân.
Gwcw, meddai'r gog,
Ar y gangen gonglog;
Gwcw, meddai'r llall,
Ar y gangen arall.
Hwch goch a chwech o berchyll cochion bach.
Caseg wineu, coesau gwynion,
Ffroenwen deneu, carnau duon,
Carnau duon, ffroenwen deneu,
Coesau gwynion, caseg wineu.
Ceffyl melyn, coffa milwr,
Anglod englyn, telyn teiliwr,
Telyn teiliwr, anglod englyn,
Coffa milwr, ceffyl melyn.
Hirnant a Mochnant a Phennant a ffon;
Gwden ac aden, a branar ar y fron;
A'r ddaear ddu dopiog mor rywiog â'r rhew,
A mynydd a mawnog, a llwynog, a llew.
Llwy bren a llo brith,
Ci gwyn y cae gwenith;
Y forwyn gartre'n bwyta'r wyau,
A'r wraig yn rhegi'r iar na ddodwai.
Cwrw brâg haidd a'm gyrodd o'm co',
Dywedwch a fynoch chwi, cwrw yw o.
Aethym, aethym drwy y coed,
A gwelwn ryfeddod fwya 'rioed;
Gwel'd plant bach yn marw o henaint,
A'u tad a'u mam yn ddigon ieuangc.
—(Dail y coed yn syrthio).
A glywaist ti gân ein iar ni?—
Dodwy, dodwy er erioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond un-wy yn fy nyth.[11]
Taw'r ffolog, ebe'r ceiliog,
Wnaeth y crydd erioed esgid fforchog.
Aberdaron dirion dêg,
Morfa Nefyn, cau dy gêg.
Hai li-lwli lonydd
Sion Trawsfynydd,
Wedi cneifio un tu'i ên,
A chlôs o hen gobenydd.
Bwch gafr Gwnys a redodd y râs
Heibio Melin Garnguwch at 'sgubor y Plas.
Pwy fu farw?
Sion Ben Tarw.
Pwy gaiff y gwpan?
Sion Ben Tympan.
Pwy gaiff y llwy?
Person y plwy'.
Amaethwr, unwaith, a archai i'w was fyn'd a'r ceffyl i'r efail i'w bedoli, gan ddweyd wrth y gôf ei fod yn deisyf arno wneyd pedair pedol newydd â'r hen bedolau oedd dan y ceffyl ar y pryd pan yn myn'd i'r efail, ac am i'r gwâs ddyfod â'r hen bedolau gydag ef adref hefyd. Gwnaed yr hyn a geisid, ond pa fodd —(Tynodd y gof y pedair pedol o dan y ceffyl, a gwnaeth o honynt "fwrthwyl," ac a'r mwrthwyl hwnw gwnaeth bedair pedol newydd i'r ceffyl, ac yna rhoes y mwrthwyl i'r gwâs i fyn'd ag ef adref i'w feistr).
Wrth rodio draw ar hyd y dre',
I wel'd fath le oedd yno,
Cyfarfum ddyn rhyfedda 'rioed,
A baich o goed oedd ganddo;
'Doedd 'run yn grwn, na'r un yn 'sgwâr,
Er maint oedd darpar seiri;
Na'r un yn union nac yn gam,
Na'r un yn werth ei losgi.
—(Dyn a chanddo gydaid o flawd lli).
Beth sy'n grwn fel cosyn,
Yn ddu fel y frân,
A llathen o gynffon,
A thwll yn y blaen?—(Padell ffrio).
Lem, lem, lidiog,
Yn ffoi ar ol bedenog,
Pedenog yn ffoi heb draed o dano.—(?).
Nis gwn beth yw y dychymmyg hwn. Yr ystlen fenywaidd yw beth bynag. Llym, llym, llidiog, yw yr ystlen wrywaidd. Ni cheir Pedenog mewn unrhyw Eiriadur. Y mae Pedionog yn ansoddair i'r enw Pedion, sef traed; ond dywed y dychymmyg fod y Pedenog hwn heb draed o dano pan yn ffoi.
Dwy afr gyfarfuent ar ganol pont bren gul, uwchben afon ddofn: y naill yn myned yn groes i'r llall. Ond yn lle ymrafaelio â'u gilydd am ffordd rydd, yr hyn, efallai, fuasai yn angeu i un, os nad i'r ddwy, gorweddodd un, fel y gallasai y llall fyned drosti; ac felly aeth y naill a'r llall yn ddiogel i'w ffordd ei hun.
Sion-holi'r Aelwyd.—Os nad yw chwaer eich ewythr yn fodryb i chwi, pa berthynas yw i chwi? —(Eich mam).
Robin ydyw Robert, a Jack ydyw John,
Stone ydyw careg, a stick ydyw ffon,
Pig ydyw mochon, sow ydyw hwch,
Pipe ydyw pibell, box ydyw blwch;
Bitch ydyw gast, a dog' ydyw ci,
Paid di a meddwl mai bitch ydw i.
Pesychwch fel y pesychasoch o'r blaen.
Y pren ar y bryn,
Y gainge ar y pren,
Y nyth ar y gaingc,
Yr ŵy yn y nyth,
A'r cyw yn yr ŵy,
A'r ŵy yn y nyth,
A'r nyth ar y gaingc,
A'r gaingc ar y pren,
A'r pren ar y bryn,
Ffeind a braf ydoedd y bryn,
Lle tyfodd y pren,
A ddaliodd y gaingc,
A ddaliodd y nyth,
A ddaliodd yr ŵy,
A'r deryn bach, bach.
Y gamp a gymhwysid yn nglŷn a'r llinellau uchod oedd eu dyweyd yn gyflym a chywir.
Tryfer a genwair a gwn,
Wna wr cyfoethog yn wr llwm;
Hwch a chwch a chaseg,
Wna wr llwm yn wr cyfoethog.
Bryn melyn a chelyn a chyrs,
Dyn byw o dan ei bwrs,
Nid â byth i dŷ Pyrs.
Gwrysgen gam-gam ar ben pont Wrexham,
'Sgwd o'r gôd i'r bont, 'sgwd o'r bont i'r gôd.
Ebol melyn, gwineu, talgoch, yn neidio'r calchbwlch yma a'r calchbwlch draw.
Pa'm mae'n arw blaen blewyn barf gafr?
Am ei bod yn pori gwyrdd gelyn ar glawdd gardd:
Dyna'r pa'm mae'n arw blaen blewyn barf gafr.
[Mae'r wers ganlynol i'w hadrodd ar yr un gwynt, fel y dywedir.] A ro'wch chwi fenthyg eisen o'ch baich esyth chwi i sythu 'maich esyth i? Mae 'maich esyth i'n gam. Pe buasai'ch baich esyth chwi'n gam, mi roeswn i eisen o'm baich esyth i, i sythu'ch baich esyth chwi.[12]
Gwydd lwyd radlon, cyn radloned a'r rhai rhadlonaf o ŵydd lwyd radlon.
Eto, mewn dull arall:—
Gwydd lwyd radlon, yn pori yn nglan yr afon,
Radloned a'r radlonaf ŵydd,
Dwy wydd radlon.
Naw gafr gorniog gynneu oedd geny',
Ar y bwlch arwflwch yr oeddynt yn pori;
Gafr wen, foel-wen,
Foel ystlyswen,
Fin-wen, fein-wen,
Foel, a cheden, a chynffon-wen.
Mae gafr eto, oes, heb ei godro;
Gafr las, foel-las,
Foel ystlyslas,
Finlas, feinlas,
Foel, a cheden, a chynffon-las.
Mae gafr eto, ond i mi chwilio,
Pa'r un ydyw hono ollyng'soch yn ango'?
Gafr ddu, foel-ddu;
Fin-ddu, feinddu,
Foel, gynffon-ddu,
Foel, a cheden, a chynffon ddu, ddu.
Mae'n amlwg fod amryw o'r dyfaliadau blaenorol mor aml â'r dyfalwyr, ac fod cynnifer o esboniadau arnynt ag sydd o esbonwyr; ond nid rhaid i neb ofni eu hadrodd, dan yr ymsyniad mai "swp o gelwydd" ydynt. Y mae tuedd ynddynt i egluro hanes yr ardaloedd y perthynant iddynt, yn ogystal a bod yn ddrychau eglur a syml, drwy y rhai y gallwn weled pobl yr hen amser yn symud ar lwyfan bywyd. Heblaw ymorchestu mewn ymadroddion digrifol, cywrain, a difyrus, megis yr anhawsdra o adrodd yn gyflym heb gymmysgu y seiniau, &c., ymgystadleuent mewn dychymmygurhamantu, a gweu rhyw fath o wir, nad oedd raid wrth ond ychydig iawn o hono i roddi boddlonrwydd i ffydd ofergoelus, megis y rhai dilynol:
(1). LLADRON MAELRHYS.—Gellir gweled dau faen o'r enw Lladron Maelrhys yn ffurfio rhan o glawdd ffiniol rhwng plwyfi Llanfaelrys a'r Rhiw —un ar ei orwedd, yn wyth droedfedd o hyd, a'r llall yn unionsyth. O ddilyn un o'r chwedlau rhyfeddaf ar lafar gwlad, ceir mai dau ddihiryn anystyriol oeddynt a aethant i Eglwys Llanfaelrhys, a lladrata arian oddiyno, ond pan oeddynt yn croesi ffin y ddeublwyf, gyda'r arian, ddarfod i farn Duw ddisgyn arnynt, a'u troi yn ddwy golofn o ithfaen am gysegr—ysbeilio, megis y trowyd gwraig Lot yn golofn o halen am anufudd—dod.
(2). CELWYDDAU YR HEN BOBL.—Daethum trwy wynt neithiwr na fu erioed ei fath yn y byd, yr oedd yn chwythu y pedolau oddiwrth draed y ceffyl! "Be' chwi'n son am hyny?" meddai f'ewyrth Gruffydd—" mi gwelais i hi yn gymmaint gwynt nes methodd y Lleuad a myn'd yn ei blaen, a thu cefn i fynyddoedd Sir Fflint yna y bu hi yn llechu trwy'r nos." "I ble'r aeth hi wed'yn, f'ewyrth Gruffydd?" "Ho, mi aeth yn ei blaen dranoeth wedi i'r gwynt ostegu!"
A gywiro, cywired; a chwanego, chwaneged.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Ys bydd yw Dybydd, sef Ys neu sicr bydd hinon wedi gwlaw.
- ↑ Cynnud yw briw-wydd neu goediach, a cynnuta yw hel neu gasglu briw-wydd.
- ↑ Dichon mai talfyriad o Byrio, neu ynte, Byrderio yw Berdio, neu, o'r tu arall, mai beard (barf) y Sais wedi ei Gymreigio ydyw Berdio sef barfio.
- ↑ Y mae Pryffwn yn air Cymraeg, yn golygu excellent, superior. Dichon mai o honynt hwy y tardda pryffesydd. Ond tebycach mai ei raniadau ydynt Pry—ffes—ydd. Pry ydyw cynnyrch, ffes yw trem, tremio, treiddio; ac ydd yn olddawd. Felly Cynnyrch Dremydd yw y gair tryffesydd.
- ↑ Enw benywaidd yw arch mewn llawer o fanau, ond gwrrywaidd ydyw, bron, yn ddieithriad, yn y sir yma.
- ↑ Lewis oedd enw cariad Gwenfron.
- ↑ Cwrw ffrwythau (seidr / perai &c) neu win ffrwythau (mwyar / ysgawen &c)—GPC
- ↑ Trontol a Trontel yw y glust neu y ddolen a osodir i ystên, piser, neu ddiod-lestr.
- ↑ Anhawdd gwybod beth yw wifil, os nad llygriad o gwegil, neu wefl—yn wefil.
- ↑ Cyfeiriad yw y rhigwm-ganu yma at enedigaeth Tywysog Cymru yn Nghastell Caernarvon, yn taflu amheuaeth ar y cyfryw draddodiad.
- ↑ Ffyddlondeb di-dâl a di-lwydd sydd yn cael ei sènganu yma, ar fesur yr iâr.
- ↑ Aseth, liosog esyth, yscolpen neu ddellten flaen-faen. Priciau oddeutu dwy droedfedd o hyd oeddynt yr "esyth," a arferid roddi ar adenydd tai tô gwellt i'w diogelu rhag i'r gwynt gael mantais i ddechreu codi'r tô.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.