Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Barddas Wiliam Oerddwr

Oddi ar Wicidestun
J.W. Llundain Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Croeso Gwir

J.W. LLUNDAIN

Siôn Wiliam, mae sŵn wylo—yn y byd,
Ac mae'n boen ei wrando;
Daeth yr heldrin i'n blino,
Duw a'i gŵyr, mae'r byd o'i go',

Ystyriaf mai tosturi—a dwyster
Distaw ddylai'n sobri;
A thrwy boen a thrybini
Y lladdfa fawr, lleddf wyf fi.

Heb ryfel 'r oedd yn brafiach,—a byddwn,
Beiddiaf ddweud, yn llonnach;
I mi ni bydd hedd mwyach,
Heblaw bedd, "Jê Dybliw" bach.


Nodiadau

[golygu]