Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Blodau Ebrill

Oddi ar Wicidestun
Mwsog, Y Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Heddwch ym Myd Natur



BLODAU EBRILL

Llygaid Ebrill gwyd obry, a'r Goesgoch
O hir gysgu ddeffry;
Daw'r felen Friallen fry
Ar wedd haul o'i phrudd wely.

Gyda'i wên daw Llygad Dydd, yntau llon
Ddant y Llew ar ddolydd
Fel rhyw felen seren sydd,
Gem i olwg ymwelydd.

O dan gêl Blodeuyn y Gwynt—a leda'i
Feinion liwdeg emrynt;
Caiff Bwtsias Cog heulog hynt
Wedi gofid gaeafwynt.


Nodiadau

[golygu]