Llinell neu Ddwy/Bywyd yr Escimó
Gwedd
| ← Cardotyn Amddifad | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Llusern, Y (1) → |
BYWYD YR ESCIMO
O'n tu ôl mewn tawelwch—ar oerion
Fawr crwau'r diffeithwch,
Trig o gri trueni trwch
Gwareiddiad, mewn gwir heddwch.
Gwell na mur o ddur nawdd ywiâ caled
Rhag gelyn a'i ddistryw;
Ni all llaw wan yr annuw
Agor dór o gread Duw.
Yma o dwrw moduron—a thrên,
A thrwst a wna dynion;
Yn y llwch fe gân yn llon
Ryw alaw i'r awelon.
Byw yn rhad mewn caban rhew—y mae o
Heb dân, na mwg dudew;
A'i wisg fel cath neu bathew
O eirwon blaengrwyn a blew.
Ym mharlwr dwfn y morlo—y rhwyda
Bob creadur fedro;
Mwy o werth gan Escimô
Gig gwyn heb ei goginio.
Awr ei eni, ar unwaith—garw iâ
Fydd ei grud amherffaith;
A phan dynn at ffin ei daith
Ei wely fydd rhew eilwaith.