Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Ceunant Mawr, Y

Oddi ar Wicidestun
Cwmorthin Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Eira Mawr



Y CEUNANT MAWR
(LLANFROTHEN)

Di-ferw le difyrrus,—llys anian,
Lle swynol rhamantus;
O fewn hwn fe welwn ôl
Anfeidrol law Duw'n fedrus.

I rai hoff o oriau hedd,—o derfysg
Dirfawr byd a'i wagedd,
Dyna fan anghyfannedd.
O ofal byd, mae fel bedd.


Nodiadau

[golygu]