Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Colli Mam

Oddi ar Wicidestun
← Dau Ganwr Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Galwad →

COLLI MAM
(MRS. MARGARET LEWIS, PENRHYN)

Ein hannedd aeth yn neuadd ddu,—oer wedd,
Ar ôl ei da-caru;
Mwynaf fam i ni a fu,
A theilwng gefn i'w theulu.

O'i Hafur diball llifodd—mêl iddi,
Am lwyddiant y brwydrodd;
Do, bu yn ddiwyd o'i bodd,
Segura'i hoes nis carodd.

Y dasg yw peidio â'i disgwyl—eto'n ôl
I'n tŷ ni am egwyl;
O! le gwag i dreulio gŵyl:
Mynwent yw tŷ'n mam annwyl.


Nodiadau

[golygu]