Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Cymwynaswr

Oddi ar Wicidestun
← Yn y Môr Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Hedd Wyn →

CYMWYNASWR
(I'M HEWYTHR RICHARD)

At ei annedd y tynnid,—i'w alw
At filod mewn gwendid;
Ef â'i law a ddofai lid
Anifail dan ei ofid.

I fuwch a march neu fochyn—ardalwyr
Rhôi deilwng feddyglyn;
Un parod oedd pwy yw'r dyn
Rif rai fu ar ei ofyn?

Fy ewythr fu trwy'i fywyd—i gannoedd
Yn gweini yn ddiwyd;
A chafodd "ddiolch" hefyd,
Yna,—ei fedd, a Gwyn Fyd.


Nodiadau

[golygu]