Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Dewisol Fan

Oddi ar Wicidestun
Anwadalwch Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Dannedd

DEWISOL FAN

Byw ar fin rhyw aber fach—hoffwn i,
A pha nef amgenach?
A llawenydd i'm llinach
Heb un ing, a phawb yn iach.


Nodiadau

[golygu]