Llinell neu Ddwy/Dyffryn Maentwrog
Gwedd
| ← Cwm Croesor | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Cwmorthin → |
DYFFRYN MAENTWROG
Maentwrog enwog annwyl, gorau fan
Garaf wyt fel preswyl
Olygus i gael egwyl
Ar orsedd gwir hedd a hwyl.
Ar frys awn i'r fro swynol—er edrych
Ar raeadrau nerthol;
Neu flodau fyrdd y ddifyr ddôl
A choed lennyrch adlonnol.
Ddwyryd laardd! hi a red hyd—ei waelod
Hyd wely tywodlyd;
A gwên heulwen am ennyd
Yrr ei gwedd fel aur i gyd.
O Faentwrog! fe anturiwn—i ddal
I ddweud hyd tra byddwn,
Nad oes wlad trwy'r cread crwn
Mwy swynol, neu mi synnwn.