Llinell neu Ddwy/Eifion Wyn (1)
Gwedd
| ← Rhieni Tyner | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Dyfod a Mynd → |
EIFION WYN
Efo Hydref a'i wywdra
A di-rif dlws flodau'r ha',
Gyda'r grug i dir gro—
Eifion Wyn gwsg fan honno.
Onid trist yw natur hen?
Cyd-wywodd coed â'i awen.
Yn goeth rhoes, yn gaeth a rhydd,—ei feddwl
Yn foddus a chelfydd;
Ac i lwyd, dlawd aelwydydd
Ei wlad fach, gwir olud fydd.
Eifion Wyn fydd fyw'n ei waith,—ni wywa
Yn awyr ei dalaith;
Ei emau yn ei famiaith
Fydd ar goedd am oesoedd maith.