Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Eira

Oddi ar Wicidestun
Pluen Eira Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Ysblander y Machlud



EIRA

Plu ogylch, gyda'r plygain,
Sy'n dlws ar y drws a'r drain.

Am y wlad yn ymledu—yn hulyn
Dihalog i'w harddu,
Calch unnos i'n cylchynu
Obry a ddaeth o'r wybr ddu.

Cwrlid mor wyn a'r carlwm
Sydd dan droed o goed i gwm.

Yn wen glog am flewyn glas—a thw'r ardd
Daeth ar hynt o gwmpas;
Mewn gwâl dwym, o'i rwym oer ias,
Gwynfyd yw bod dan gynfas.


Nodiadau

[golygu]