Llinell neu Ddwy/Englynwr
Gwedd
| ← Cyfarchiad Calan | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Fy Mhrofiad → |
ENGLYNWR
(R. J. ROBERTS, TANYRALLT)
Rhwyddineb i farddoni—yn gynnar
Sy gennych chwi, Bobi;
Gwn fod yr oes sy'n codi
Yn falch iawn o un fel chwi.
Gwir yw y gair mai gŵr gwych—o luniwr
Ar englynion ydych;
Gwir geinion a geir gennych,
Nid y sâl sonedau sych.