Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Fanhadlen, Y

Oddi ar Wicidestun
← Llwyn Eithin, Y Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Frwynen, Y →



Y FANHADLEN

Addurnol wedd sydd arni,—a chochl werdd
Wych a chlyd sydd drosti;
Ei Hawdur fu'n cawodi
Barrug aur ar ei brig hi.

Un dirf a gwerdd ar Hydref gwyw—ei hoedl
Yw'r fanhadlen irfyw;
Llun meinwallt dillyn menyw
Neu lwyn o aur dilin yw.


Nodiadau

[golygu]