Llinell neu Ddwy/Gorffennaf
Gwedd
| ← Blodeuyn y Grug | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Plu'r Gweunydd → |
GORFFENNAF 1931
Oer a phoenus Orffennaf,—du ei wedd
Ydyw hwn fel gaeaf;
O! brudd hin, heb arwydd haf,
Am yr haul y mawr holaf.
Du yw'r wybren dan lenni—y miloedd
Cymylau sydd drosti;
Mae'r iach a'r afiach heb ri'
Eisiau'r haul i'w sirioli.