Llinell neu Ddwy/Gwilym Deudraeth
Gwedd
| ← Cerddor | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Beddargraff Milwr → |
GWILYM DEUDRAETH
Heddiw gwelw ddigalon—yw Gwalia
Heb ei Gwilym radlon;
Eleni aeth saer englynion
O dir y byw, loes yw sôn.
Gwilym heb radd o goleg—a garai
Ein gwerin bob adeg;
Yn ein tir o'i rawnwin teg—
Ffrwyth ei ddawn—ni chawn 'chwaneg.
Ei enw yn hir yn ein hiaith—a seinir
Am wasanaeth hirfaith;
Mae'i emau yn ein mamiaith
I'w mawrhau am oesau maith.