Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Hedd Wyn

Oddi ar Wicidestun
Cymwynaswr Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Er Cof

HEDD WYN

I ganol gwaedlyd gynnwr'—Hedd wylaidd
A alwyd yn filwr;
A gwarth amlwg oedd galw gŵr
O brydydd i waith bradwr.

Yn Ffrainc dlos ceidw noswyl,—yn drwm ei hun
Draw ymhell o'i breswyl;
I'w gadair wag wedi'r ŵyl
Ni ddihuna Hedd annwyl.

Mae'i awen glodfawr mwyach—yn y glyn,
Tan glo heb gyfeillach;
Hedd annwyl a fydd wynnach—
A mawr fydd yng Nghymru fach.


Nodiadau

[golygu]