Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Llawer Camp

Oddi ar Wicidestun
A garai gynt Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Hen Bethau

LLAWER CAMP
(MR. PETER M. ROBERTS, PEDR BROTHEN)

O dŷ ing yn llwyd dy wedd—yn nwylo
Hen elyn tangnefedd,
Ti a wyraist i orwedd,
Wyl y Banc, i gôl y bedd.

Chwith i ŵr o'm chwaeth i—ydyw bod
Heb awr yn dy gwmni;
Pwy gâr sôn am farddoni
Yma'n awr fel byddem ni?

Gwnest lawer cain offeryn—abl i waith
Heblaw tôn ac englyn;
Nid oedd i waith neu dyddyn
Un gwell am gyllell neu gŷn.


Nodiadau

[golygu]