Llinell neu Ddwy/Marw Mam
| ← Hen Bethau | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Noswyl (2) → |
MARW MAM
(AR YMWELIAD A'I HEN GARTREF)
Heddiw trwm oedd rhoddi tro—i'w hen fwth
A'm mwyn fam ddim ynddo;
Cadd breswyl i noswylio
Yn wael ei drych dan lwyd ro.
Garw dweud, agorwyd adwy—ym Mhen'rallt,
Mae'n rhwyg hirgofiadwy;
I drymwaith nac i dramwy
Ni ddaw mam i'n noddi mwy.
Ara' gur a wywai'i gwedd—a blin oedd
Blynyddau o lesgedd;
Da oedd cael mynd o waeledd
Heb radd o boen i bridd bedd.
Llanwodd ei didwyll enaid—yr enw mam
(Pa rin mwy?) yn ddibaid;
Ni chaem gam,—pob un tamaid
O'i bodd rôi os byddai raid.
Os tonnog fu'r estyniad ar ei hoes
Trwy yr hir wahaniad,
Eleni cadd ailuniad
O ddwfn hedd ym medd fy nhad.
Heddiw gwag oedd y gegin—hebddi hi
Mewn boddhad yn chwerthin;
Heddiw, heb loes dyddiau blin,
Hedd i lwch oedd ddilychwin.