Llinell neu Ddwy/Mwsog, Y
Gwedd
| ← Lili'r Dŵr | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Blodau Ebrill → |
Y MWSOG
A'i fil myrdd o wyrdd-flew mân—wele dwf
Fel edafedd sidan;
Amwisg glws yw'r mwsog glân
A gudd henaint gwedd anian.