Llinell neu Ddwy/Pluen Eira
Gwedd
| ← Defni | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Eira → |
PLUEN EIRA
Hardd ddihalog oer ddeilen, —wen, wisgi,
Ysgafn, yw y bluen;
I'n dacar ni daw o'r nen,
O lys eira'n dlos seren.