Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy/Rhosyn, Y

Oddi ar Wicidestun
Mesen Llinell neu Ddwy

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
Rhos Mehefin



Y RHOSYN

Yn ei ysgeifn gain wisgoedd—y rhosyn
Gaiff wresog fawl oesoedd;
Rhydd o'i lân gwpan, ar goedd,
Ei sawr melys i'r miloedd.


Nodiadau

[golygu]