Llinell neu Ddwy/Tanchwa Senghenydd
Gwedd
| ← Ddeilen Grin, Y (2) | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Cnu Gwlân → |
TANCHWA SENGHENYDD
Danchwa erch! dôi yn ei chôl—sydyn wŷs.
O dân ysol marwol;
Ow! dost drawiad distrywiol,
Galar hir glywir o'i hôl.
Yn y llosg genlli, esgud—'r oedd angau
Prudd ingol yn symud;
Byddin fawr i'w beddau'n fud
Anfonai mewn un funud.