Llinell neu Ddwy/Yn y Wlad
| ← Yr Hen Hafod Mynydd | Llinell neu Ddwy gan John Jones (Ioan Brothen) golygwyd gan John William Jones |
Fronfraith, Y → |
YN Y WLAD
(AR NAWN TEG O HAF)
YM mhen y Gwyllt mwynhau gaf
Awyr iach y Goruchaf.
Er yn braf cadwaf o'r coed
O ofn neidr dan fy neudroed.
Ymwelwyr haf aml eu rhi'—ar y llwyn
A'r llawr gaf yn gwmni;
Rhai bychain heb sain na si,
Yn weinion ond llawn ynni.
Gwylio am saig o'i elyn—y gwelir
Dewrgalon bryf copyn;
I geisio dal (megis dyn)
Dyry rwyd ar y rhedyn.
Gwna yr awel fwyn delyn—o ddeilen
A'r eiddilaf welltyn;
A di-dâl y gwrendy dyn
Organau pêr y gwenyn.
Yn ddi—gêl, hawdd ei weled,—a gorwych
Uwch y gweiriau aeddfed,
Megis tawel angel hed
Gloyn, heb im ei glywed.
Hoyw'i sbonc ydyw'r Sioncyn—ar y gwair
O gyrraedd pob gelyn;
Ar y ddôl fe heria ddyn.
I'w ddala, wrth ei ddilyn.
Daeth yn bryd, a hithau'n braf—noswylio—
Neu sylwer, fe drengaf;
Os hyd nos yr arhosaf
I wybed dig abwyd âf.
A fu blin fyddin ryfeddach,—ryw oes
Yn drysu cyfeillach?
Ar wyneb croen gŵr hoeniach
Byd o boen wna'r gwybed bach.
Yn olaf, daeth i'm dilyn—bry' y wich,[1]
I'm brawychu wedyn;
Y gelach main ei golyn
A'r mwya' dewr am waed dyn.
1928
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gwybedyn llwyd.