Neidio i'r cynnwys

Llinell neu Ddwy (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Llinell neu Ddwy (testun cyfansawdd)

gan John Jones (Ioan Brothen)


golygwyd gan John William Jones
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Llinell neu Ddwy



Llinell neu Ddwy


GAN


IOAN BROTHEN

(1868-1940)


YNGHYDA RHAGAIR GAN

T. GWYNN JONES, M.A., D.LITT.


GOLYGWYD GAN

JOHN W. JONES,

BLAENAU FFESTINIOG






BLAENAU FFESTINIOG:

ARGRAFFWYD GAN J D DAVIES A'I GWMNI,

SWYDDFA'R RHEDEGYDD

1942


AT Y DARLLENYDD

Gwnaed cais taer at IOAN BROTHEN i gyhoeddi cyfrol o'i englynion gan lawer o'i gyfeillion. Ofer fu'r cais. Gwneuthum gasgliad ohonynt ryw flwyddyn cyn iddo farw. Cafodd olwg arnynt pan oedd ar ein haelwyd am y tro olaf. Wedi iddo huno, anfonwyd y cwbl i'r DR. T. GWYNN JONES, a thrwy ei garedigrwydd mawr cawsom Ragair gwych i'r gyfrol ganddo, a llawer o help arall. Mawr yw ein diolch iddo am ei waith. Cawsom bob help a chynhorthwy hefyd gan ddau gyfaill i'r bardd, sef MR.J. W. THOMAS, B.A., a'r PARCH. D. TECWYN EVANS, M.A. Diolchwn iddynt hwythau.

Mab y mynydd oedd IOAN BROTHEN, labrwr yn chwarel y Rhosydd, ond gŵr bonheddig diwylliedig er hynny. Un o blant y Seiad a'r Ysgol Sul ydoedd. Bu'n athro da yn Ysgol Sul Siloam, Llanfrothen, am flynydd— oedd lawer. Wedi caledwaith y dydd, darllenai lyfrau da, a chyfansoddai ganeuon ac englynion. Barics y Rhosydd oedd ei Brifysgol ef. Dyn tawel, araf, a phwyll— og ydoedd, heb ynddo y radd leiaf o rodres ac ymffrost. Tebyg oedd i siop fechan yn y wlad, dim ond ffenestr fechan ac ychydig mwyddau yn yr amlweg ynddi. Oddi mewn, o'r golwg, yr oedd y stir o mwyddau. Wrth fyned trwy Gwm Croesor i'r Rhosydd, i chwilio am waith, gyda gweithwyr eraill, y cyfansoddodd ei englyn cyntaf ym mis Mai 1888:—

Lle diflas a chas i chwi—i deithio
::Yw'r ffordd deuthum drwyddi;
:Amynedd rhwng ei meini
:Ddylai fod feddyliaf fi.

Detholiad o'i englynion yn unig ydyw cynnwys y gyfrol hon. Efallai y daw cyfle ryw dro eto i gyhoeddi rhagor o'i ganeuon, ei englynion, a'i nodiadau ar ddail, blodau, ac adar etc., etc. Llanwodd ei fywyd â gwaith da. Gadawodd y byd yn well o'i ol. Melys yw ein myfyrdod amdano.

JOHN W. JONES

Awst 1942.

RHAGAIR

AR gais fy nghyfaill MR. JOHN W. JONES, casglydd a golygydd y llyfr hwn, addewais ysgrifennu Rhagair byr iddo. Er na chefais i mo'r cyfle i ddyfod yn gydnabyddus iawn â'r awdur, bùm yn ei gwmni dro neu ddau, a gadawodd yr argraff arnaf mai gŵr gwylaidd, tawel, cwrtais a bonheddig ei ffordd ydoedd, a chanddo ddiddordeb mewn llawer o bynciau heblaw prydyddiaeth, bod yn ei feddwl, yn wir, duedd ymchwilgar a gwyddorus at hanes dyn, arferion cymdeithas, creaduriaid a blodau a llysiau, ymhlith pethau eraill.

Wrth fynd trwy'r casgliad hwn, sy'n cynnwys ei bethau byrraf, sylwais fod yr ansoddau a nodwyd uchod i'w gweled yn glir yn ei waith, a'i fod ef, yn wir, yn etifedd teilwng o hen draddodiadau ei wlad ei hun. Yr oedd, er enghraifft, yn epigramydd wrth natur. Englynion ac ambell ddarn o gywydd yw cynnwys y llyfr hwn. Y mae ôl hen draddodiad ar y cwbl.

Cyfansoddwyd o leiaf lawer o'r Englynion ar gyfer cystadleuaeth, a fu'n beth cyffredin iawn yn ei gyfnod ef ar ei hyd. Gellid dyfod o hyd i gyfnod llawer ohonynt oddiwrthynt eu hunain, megis, "Y Llong Awyr," Y Mwgwd Nwy," etc., etc. Ymhlith eraill, mwy cyffredin, onid mwy cyffredinol, ceir rhai yn dynodi arferion neu ddiddordeb y bywyd gwlad yr oedd y pwyllgorau, a fyddai'n dewis testunau ar gyfer y cystadlu, yn perthyn iddo megis: Maen Llifo, Rhwyd, Magl, Nyth, Bach Pysgota, Mochyn, Mesen, Dyn y Ffordd, etc., etc. Yr anhawster fyddai cael testun y gellid dywedyd rhywbeth amdano, mewn pedair llinell a hwnnw'n un nad oedd eisoes wedi bod," o leiaf ers tro. Yn gyffredin, dull Englynion yr awdur ar destunau syml o'r fath yw mynegi pa beth fydd, neu debyg i ba beth fo'r testun. Dwg hynny fesur o debygrwydd i'r Englynion, y mae'n wir, ond odid fawr gael yn eu plith un na bydd dawn yr epigramydd yn ei gloi'n raenus. Er enghraifft, i'r "Fesen":—

"O gangen derwen mae'n dod—yn lân wy,
A del nyth i'w gwarchod;
Tlws ei gwedd, mae'n ddestlus god
A choeden yn ei cheudod."

Ni ellir amau nad yr Englynion a wnâi'r bardd nid er gwobr yw ei oreuon. Ymhlith y rhai hynny, daw mwy o ffansi i'r golwg, megis yn hwn, i "Hen Fwthyn":

"Gwnaed ei raen fel maen mynor—â golchiad
Y galchen anhepgor;
Fel eira nefol oror,
Fel oen Mai, fel ewyn môr."

Gellid dyfynnu llawer enghraifft, ond digoned un neu ddwy o'r casgliad helaeth.

Y MOR


"Fel enaid blin aflonydd—wedi brad
Yw, â'i brudd ru beunydd;
A dawnsia'i don nos a dydd,
Ni all huno yn llonydd.

Eto, i'r Gwymon":—

Rhywogaeth o dw'r eigion—yn addurn
Iddo, ydyw'r Gwymon;
A'i hirwallt du ar wyllt don
Yn llywethau main lleithion."

Pryd bynnag y cano efe i'r môr,ceir y ffansi hon ganddo, I'r Ddyfrgloch." —

"Y ddyfrgloch hardd dardd o'r don—lafoerog
Neu lifeiriant afon;
Un gron, gau, a brau lun bron,
A chwaer drych yw ar drochion."

neu eto i "Ewyn y Don:—

"Lliw angel o gylch llongau,—lluwch y môr
Ddaw'n llwch man i'r glarnau;
A dannedd enbyd dennau.
O ryw bell gefnfor a bau."


Ac yn olaf, i'r "Wylan" —

"Ar erwau'r môr câr aros,—i chwarae
Gyda'i cheraint agos;
Deniadol yw yr edn dios—
Târ wen fel eira unnos."

Ceir gwedd gymdeithasol ar ei Englynion Beddgraff a'i Gyfarchiadau personol ar achlysuron fel geni, priodi a marw, hen draddodiad eto. Tebyg iddo ef ei hun feddwl, cyn ei ddiwedd, ei fod wedi rhoi gormod. o amser at y math hwn o ganu, canys dywedodd un-waith:—

Ac yr ydwyf yn credu, —fe weriais
F'oriau i rigymu;
Mwy o wledd fydd gemau lu
Y to ifanc sy'n tyfu."

Pa un bynnag am hynny, ceir yn y pethau hyn ganddo gydymdeimlad ac ewyllys dda gwerin Gymreig hyd heddiw. Y mae'n ddiau ddefod yn y peth,"confensiwn," chwedl y "to ifanc,"—pethau i'w dywedyd efallai, ond bod yma lun ar y dywedyd hefyd:—

Ac os heb un wobr obry,
Yr hen frawd, cadd goron fry."
Un dewr a fu yn darian
Rhyngot ti a'r rhengau tân."

"A'r un mor wag yw'r annedd,
Noeth yw y bwich wnaeth y bedd."
Seren fach drwy'i siwrnai fer
Oedd oleuodd i lawer."

A'i gruddiau teg rhoddwyd hi
Yma'n drist a maen drosti."
Adwy fawr yn y Fedw fydd.
Lle unwaith bu llawenydd."

"A rhes hir o'i thrysorau
Sy ynghudd, a'i drws ynghau."
Yn ddi—os ewch yn ddau sant
O Gae Gwyn i'r gogoniant."


Ceir yma hefyd gasgliad o "Gwpledau" cynnil, arabedd diarhebwr, teilwng o waith y penceirddiaid gynt, pethau a barodd i un ohonynt (Edmund Prys) ddywedyd—

"Profais, ni fethais, yn faith,
O brif ieithoedd, brawf wythiaith,
Ni phrofais dan ffurfafen
Gwe mor gaeth, Gymraeg wen."


Gwych fyddai gan yr hen uchelwr wybod bod ym Meirion hyd heddiw rai a ŵyr we'r "Gymraeg wen.

Y mae dychan IOAN BROTHEN bob amser yn gynnil ac yn rhywiog a hael ei naws, gwaith gŵr a welai'r gwendid heb gasâu'r gwan. Dyd ef ei hun yn y bwndel hefyd yn aml.

TI—A MINNAU.

"'Rwyt ti, waeth sut bo'r tywydd,—yn huno.
Hyd hanner boreddydd;
'Rwyf innau fel iâr fynydd
Yn godwr da gyda'r dydd!"


BLAEN AC OL.

"Un digoll, hywaith hollol—yw ymlaen
Trwm lwyth â'n êgniol;
Yn y bôn mae'n unbennol,
A rhyw ddydd, fe drydd y drol."


PAWB OHONOM.

"Daliwn ar draed a dwylaw,—awn rhagom
Dros greigiau anhylaw
O dir isel di—roesaw—
Bai dyn yw bod yn y baw."

Ni welais un englyn llechwraidd yn yr holl gasgliad. Dengys ymryson y "Llo Tew" yr un naws, a'r bregeddu afieithus a fyddai mor gyffredin ac mor debyg yn nhraddodiad y Cymru a'r Gwyddyl gynt. Yn wir, ymhlith yr epigramyddion Cymreig, saif IOAN BROTHEN ar ei ben ei hun o ran urddas, chwaeth dda ac unplyg rwydd bryd, oblegid diddordeb eang a dynoliaeth rywiog.

T.G.J.

23: iv: '42.

CYNNWYS

Llinell neu Ddwy

YR HEN HAFOD MYNYDD

Ow! fy more gartre gynt,
Wylaf wrth weld ei helynt;
Brudded yw ei dynged wael
Wedi i'w blant ei adael;
Hwnt, heb barch, y gwynt o'i ben
A luchiodd amal lechen;
Adail lom andwyol, lwyd,
Yw, o dulath hyd aelwyd.
Ar ei bentan, tenant yw
Huddugl aflednais heddiw;
A'i aelwyd hoff a'i le tàn
Sy laith aflesol weithian.
Hyd ei fur ar rwydwe fain
Mae aelwyd copyn milain,
A gweddill ei gigyddiaeth
O dduon gyrff ynddi'n gaeth.
O'i falurion, aflerwch.
Doa'i lawr, a dudew lwch.
O wyn galch fu'n ei gylchu
Ei bared aeth o bryd du;
A'i drom ddôr fydd agored
Yn aml iawn yn ei llawn lled,
A'r praidd o'r ffridd ddaw'n ddiddos
Yma'n yrr, ar storm a nos,

Am nodded i mewn iddo,
Er ei rwyllog dyllog do.
Ow! gresyn i dyddyn del
Yr Hen Hafod droi'n hofel.

O'm mebyd, dyma 'mhabell—wir unig,
Rhwng bryniau anghysbell;
Oedd ddirodres gynnes gell,
A chystal im â chastell.

Yn holltau'r graig yn "wylltion"——ger ei ddôr
A'u gwyrdd ddail yn dlysion,
Y cyd—erys coed irion
Yma'n hedd—gwmni i hon.

Eiddil lwch yw y ddwy law—a'u rhoddodd
Mewn priddyn cyn hunaw;
'Nhad annwyl sy'n noswyliaw——
Lle'i hun drom yw y Llan draw.

Efo rhyw lyfr, pan fwriai law, i'w lofft
Dawel awn yn ddistaw;
I mi'n y llyfr oedd mewn llaw
Swyn ei gynnwys wnâi giniaw.

Poen aml iawn a wnawn, gwn i, i'm mam,
Am fy mod yn oedi;
Go ddi—hwyl y gwaeddai hi——
Yn wir, mae'r bwyd yn oeri."

Wedi trymwaith hirfaith haf,
A'r hin yn oeri'n araf,

Awn i hedd ffridd fynyddig—gyda'r hwyr
Ar gadair rug manfrig;
A gwnawn, os dôi'r ddawn heb ddig,
Englynion o'm congl unig.

I rwydo'r awn hwyr wedyn—â chi brych,
A brawd yn fy nilyn;
Rhodiem trwy rug a rhedyn
At le'r brad, tu ôl i'r bryn.

Ac yno lawer canwaith—y bu llwydd
Di—ball ar ein hymdaith;
Ac yno fwy nag unwaith
Ofer i gyd oll fu'r gwaith.

I lethr ffridd i lithro â phren,—hwyliem
Pan heulai'n blant llawen;
Dros fanwellt âi fel mellten
A rhyw bum bach ar ei ben.

Heb ddwndwr byddai undeb,—heb estron
Heb ystryw na geudeb;
Chwarae wnaem heb chwerwi neb—
'R oedd yno bob rhwyddineb.

Difyr oedd cylchu'r defaid,—a'u harwain
Trwy'r eira am damaid;
A bu ein gofal heb baid
Am yr ŵyn oedd mor weiniaid.

O! adeg lon a di-glwy—bore oes,
Bu raid croesi'r trothwy,
I afael blinfyd, fwyfwy—
Darfu gwynfyd mebyd mwy.


Nef fore fy nifyrion,—o'i harddwch,
Sy'n furddun yr awron;
Daw aml saeth-hiraeth am hon
I'm cól, a chlwyf i'm calon.

Trwy feddrod a phriodi,—ar wahân
Y mae'r holl gwmpeini;
Ar wahân mae rhieni,—
Aelwyd hoff! ffarwel i ti.

1912


YN Y WLAD
(AR NAWN TEG O HAF)

YM mhen y Gwyllt mwynhau gaf
Awyr iach y Goruchaf.

Er yn braf cadwaf o'r coed
O ofn neidr dan fy neudroed.

Ymwelwyr haf aml eu rhi'—ar y llwyn
A'r llawr gaf yn gwmni;
Rhai bychain heb sain na si,
Yn weinion ond llawn ynni.

Gwylio am saig o'i elyn—y gwelir
Dewrgalon bryf copyn;
I geisio dal (megis dyn)
Dyry rwyd ar y rhedyn.

Gwna yr awel fwyn delyn—o ddeilen
A'r eiddilaf welltyn;

A di-dâl y gwrendy dyn
Organau pêr y gwenyn.

Yn ddi—gêl, hawdd ei weled,—a gorwych
Uwch y gweiriau aeddfed,
Megis tawel angel hed
Gloyn, heb im ei glywed.

Hoyw'i sbonc ydyw'r Sioncyn—ar y gwair
O gyrraedd pob gelyn;
Ar y ddôl fe heria ddyn.
I'w ddala, wrth ei ddilyn.

Daeth yn bryd, a hithau'n braf—noswylio—
Neu sylwer, fe drengaf;
Os hyd nos yr arhosaf
I wybed dig abwyd âf.

A fu blin fyddin ryfeddach,—ryw oes
Yn drysu cyfeillach?
Ar wyneb croen gŵr hoeniach
Byd o boen wna'r gwybed bach.

Yn olaf, daeth i'm dilyn—bry' y wich,[1]
I'm brawychu wedyn;
Y gelach main ei golyn
A'r mwya' dewr am waed dyn.

1928


Y FRONFRAITH

Dy lais mwyn sy'n dlws i mi—ar ada
Hudol y rhagori;
Medal aur am delori
Yn lled hawdd enillit ti.


ROBIN GOCH

Cantor pêr, cilun gwerin,—ucha'i fraint,
Coch ei fron yw Robin;
Sai' yr haf neu iasoer hin
Yn ei hafod gynefin.



Y FWYALCHEN

Naturiol fwyn gantores,—a beunydd
Dderbyniol gymdoges;
Yn bêr, heb bryder am bres,
Rhaeadra'i chân heb rodres.



YR ALARCH

Glân edn dof a gâr nofio—yw'r alarch
Gwrolwedd ei osgo;
A theced, wyned yw o
A'r don a chwery dano.



GWYLAN

Ar erwau'r môr câr aros—i chwarae
Gyda'i cheraint agos;
Deniadol yw yr edn dlos—
Iâr wen fel eira unnos.


Y CREYR GLAS

Coesir bysgodwr cyson;—un dinod
Yn denau echryslon
Yw'r Creyr Glas, diflas ei dôn,
A'i nef yw llyn neu afon.


UNAWD ADERYN DU

A geir undyn fu'n gwrando—'deryn du
A'i 'run dón, yn blino?
Yr un sêl a'r un solo
Yn ddi—feth geir ganddo fo.



CUDYLL COCH

Angheuol lun llongawyr—chwim ydyw,
A chymydog eryr;
Caiff adar gwig, â'i big byr,
Brawf o'i hafog byrfyfyr.



Y BIOGEN

Chwimwth a sione ei chamau a'i hediad
Ydyw hyd fuarthau;
Un euog o ddwyn wyau,
Achos yw hyn i'w chasau.



ROBIN GOCH YN CANU YN IONAWR

I ben y goeden yn gawr—esgynnodd
A rhoes ganig swynfawr ;
Ces loniant a mwyniant mawr
O'i gan unig yn Ionawr.


NYTH YN Y DRAIN

Rhag bwystfil gwancus milain—fe wnaeth ef
Nyth hardd i'w rai bychain;
Nid gwaith saer yw'r gaer gywrain
Wrth y drws, ond perth o ddrain.


NYTH

Y crwn nyth hardd, cywreinwaith yw,—o glyd
A glan luniad deuryw;
A neuadd gél nodda gyw
O dan oed, dyna ydyw.



Y FALWEN

Un a gár laith, un hagr lom,—un ludiog
Yw'r falwoden, gwyddom;
Acara' deyrn cwr y dom
Drwy'i chyn yn edrych arnom.

Ymlusgiad heb droed nac aden,—heb blu
Na blew, trig mewn cragen;
Chwaer araf—caiff suraf sen,—
I ful ydyw'r falwoden.



Y GYLFINHIR

A'i big cam, bwaog hir,—adwaenom
Hen denant y corsdir:
Uwchben gwlad, â'i chwiban glir,
Glaw-fynag yw'r gylfinhir.


ADWY

Hwylus borth sy'n gynhorthwy—i bawb yw,
O bob oed i dramwy;
Ar ben clawdd hawdd derbyn clwy',
I droed gwell ydyw'r adwy.


STORM FAWR
(CHWEFROR 28, 1937)

Ar lechres hanes, enwir—ei heira
A'i mawrwynt trwy'r frodir;
Ar ei thaith dros for a thir,
Ei hafog nis anghofir.



Y GARREG FAWR
(HEN GARTREF J. R. JONES O RAMOTH)

Hon oedd gynt annedd i gawr—oedd enwog
Trwy ei ddoniau clodfawr;
A'i glod diddarfod dirfawr
Ar go' fydd tra'r Garreg Fawr.



CWM CROESOR
(YN YR HAF)

Bro uchel llwybrau iechyd,—erwau haul
A'r awelon hyfryd;
A'i afon wyrgam hefyd
O liw gem tryloyw i gyd.

Bro hudol yw i brydydd—i ddilyn
Drychfeddyliau newydd;
A'r gwir lenor gâr lonydd,—
O! mor fwyn ei dymer fydd.


Yn dalog cwyd o'r dolydd—y Moelwyn
Lwm aeliau dieilydd;
A'i gopa yn rhodfa rydd
Cymylau ac ymwelydd.

Rhoi urddas ar yr Arddu—mae y grug
Am ei greigiau penddu;
I'n hoedl mae'n fraint anadlu
Arogl iach y rhywiog lu.

(YN Y GAEAF)


Llain hir, bell, allan o'r byd;—bro uchel
Rhwng breichiau craig enbyd;
Anhafaidd gul hafn hefyd,—
Cam i gawr yw'r cwm i gyd.

Lle i fagu llifogydd, a chornel
Yw lle chwyrna stormydd;
Yn y gaeaf eira fydd
O'i du mewn yn domennydd.


DYFFRYN MAENTWROG

Maentwrog enwog annwyl, gorau fan
Garaf wyt fel preswyl
Olygus i gael egwyl
Ar orsedd gwir hedd a hwyl.

Ar frys awn i'r fro swynol—er edrych
Ar raeadrau nerthol;
Neu flodau fyrdd y ddifyr ddôl
A choed lennyrch adlonnol.


Ddwyryd laardd! hi a red hyd—ei waelod
Hyd wely tywodlyd;
A gwên heulwen am ennyd
Yrr ei gwedd fel aur i gyd.

O Faentwrog! fe anturiwn—i ddal
I ddweud hyd tra byddwn,
Nad oes wlad trwy'r cread crwn
Mwy swynol, neu mi synnwn.


CWMORTHIN

Isel bant yng nghesail bydyw—y Cwm
Ac oer le anhyfryd;
A chroenllom graig ddychrynllyd
Guddia haul rhagddo o hyd.



Y CEUNANT MAWR
(LLANFROTHEN)

Di-ferw le difyrrus,—llys anian,
Lle swynol rhamantus;
O fewn hwn fe welwn ôl
Anfeidrol law Duw'n fedrus.

I rai hoff o oriau hedd,—o derfysg
Dirfawr byd a'i wagedd,
Dyna fan anghyfannedd.
O ofal byd, mae fel bedd.


EIRA MAWR
(MAI 17, 1935)
(Wrth glywed y gog yn canu yn y storm)

Hynod wrol aderyn—yn y storm
Cenaist ti heb ddychryn;
Methodd iâ ag eira gwyn
Niweidio dy ddau nodyn.

I un rhywiog bron rhewi,—rhy anodd
Rhoi unawd mewn difri';
Gan gryndod dyrnod oerni
Sobr a dwys oedd f'ysbryd i.


LLUWCH EIRA

Uwch halog lwch o le glân—i waered
Daw eira esmwythlan,
Yn gymydog mwsog mân
Lle chwery fel llwch arian.



Y LLWYDREW

Llawdrwm yw y llwydrew mân—ar y byd,
Oera bawb ym mhobman;
Daw ar led i'n daear lân
I dynnu dillad anian.



DEFNI

Wrth ên craig serth yn crogi—neu geulan
Y gwelir y defni
Ariannaid sy rieni
I ddŵr ein holl ddaear ni.


PLUEN EIRA

Hardd ddihalog oer ddeilen, —wen, wisgi,
Ysgafn, yw y bluen;
I'n dacar ni daw o'r nen,
O lys eira'n dlos seren.


EIRA

Plu ogylch, gyda'r plygain,
Sy'n dlws ar y drws a'r drain.

Am y wlad yn ymledu—yn hulyn
Dihalog i'w harddu,
Calch unnos i'n cylchynu
Obry a ddaeth o'r wybr ddu.

Cwrlid mor wyn a'r carlwm
Sydd dan droed o goed i gwm.

Yn wen glog am flewyn glas—a thw'r ardd
Daeth ar hynt o gwmpas;
Mewn gwâl dwym, o'i rwym oer ias,
Gwynfyd yw bod dan gynfas.



YSBLANDER MACHLUD HAUL

Trwy dawch tew y gorllewin—yr haul aur
O'i lys oedd yn chwerthin;
A chlog goch o liw y gwin
Ar war yr hen bererin.


RHYD-DDU

Di-urddas gwinwd oerddu,—a gerwin
Gaerau yn ei gylchu;
Wirionedd,—lle i rynnu
Ar dywydd oer yw Rhyd-ddu.


Y BARRUG

Lleidr yw hwn,—dilladau'r ha'—a'i olud
Ysbeilia mewn hyfdra;
Lle bo ceinder, noethder wna
A'i law oer o liw eira.



Y LLWYN EITHIN

"E gâr elltydd gorwylltaf;—llwyn poenus
Yn llawn pinnau llymaf;
Ar war hwn cawn aur yr haf
Yn gawod yn y gaeaf.



Y FANHADLEN

Addurnol wedd sydd arni,—a chochl werdd
Wych a chlyd sydd drosti;
Ei Hawdur fu'n cawodi
Barrug aur ar ei brig hi.

Un dirf a gwerdd ar Hydref gwyw—ei hoedl
Yw'r fanhadlen irfyw;
Llun meinwallt dillyn menyw
Neu lwyn o aur dilin yw.


Y FRWYNEN

Eiddilaidd dwf di-ddeilen;—aeres werdd
Y gors yw y frwynen;
A syth anela'i saethen
At ryw nod sy ta'r nen.


MESEN

O gangen derwen mae'n dod—yn lân wy,
A del nyth i'w gwarchod;
Tlws ei gwedd, mae'n ddestlus god
A choeden yn ei cheudod.



Y RHOSYN

Yn ei ysgeifn gain wisgoedd—y rhosyn
Gaiff wresog fawl oesoedd;
Rhydd o'i lân gwpan, ar goedd,
Ei sawr melys i'r miloedd.



RHOS MEHEFIN

Dilyw o flodau welaf,—a'i ros sydd
Bêr eu sawr aroglaf;
Dlysed ydyw teyrnged haf
Y gwrychoedd i'r Goruchaf !



BLODAU'R DRAIN

Yn y coed ar riniog ha',—y llwyn drain
Yn llawn drwch flodeua;
Rhoi lliw y nef gerllaw wna,
A dynwared haen eira.


LILI'R DWR

Tlws ar fron y llyn llonydd;—eilun haul
Yw'r lili ar hafddydd;
Aur ysnoden,— seren sydd
Em i olwg ymwelydd.

Beth ydwyt, ai bathodyn—arwydd serch
Roddes haf ar gorslyn?
Em wylaidd! 'r wyt fel melyn
Lygad aur i olwg dyn.


Y MWSOG

A'i fil myrdd o wyrdd-flew mân—wele dwf
Fel edafedd sidan;
Amwisg glws yw'r mwsog glân
A gudd henaint gwedd anian.



BLODAU EBRILL

Llygaid Ebrill gwyd obry, a'r Goesgoch
O hir gysgu ddeffry;
Daw'r felen Friallen fry
Ar wedd haul o'i phrudd wely.

Gyda'i wên daw Llygad Dydd, yntau llon
Ddant y Llew ar ddolydd
Fel rhyw felen seren sydd,
Gem i olwg ymwelydd.

O dan gêl Blodeuyn y Gwynt—a leda'i
Feinion liwdeg emrynt;
Caiff Bwtsias Cog heulog hynt
Wedi gofid gaeafwynt.


HEDDWCH YM MYD NATUR

A bron iach ar bren uchel—ni gawn gân
Gan y gog er rhyfel;
Ar y maes mae sawyr mêl
A bywyd ym mhob awel.


MIAREN

Un hirfain dan ei harfau—yw, dynn waed
Yn hyf o'n gwythiennau;
Syw arglwyddes ar gloddiau,
A'i mwyar hoff i'w mawrhau.

A mân gyrn miniog arni—miaren
Amhara'n gwaed—wythi;
A rhy hon fwyar inni
Yn nyddiau'r haf yn ddiri'.



YR HYDREF

O flaen gorfawr flin gawrfil—o gorwynt
Gyrrir y dail eiddil;
A syrth y mes wrth y mil
I'w tranc neu bant ar encil


Y DDEILEN GRIN

A gwedd wael mae'r gu ddeilen—oedd ddoe'n werdd,
Heddiw'n wyw ar gangen;
Hi ŵyra i'r ddaearen
O dan oed i fod yn hen.


RHEW

Diollwng glo di-allwedd—yw'r rhew oer,
Brawd i'r eira glanwedd;
Grisialog, wydrog ei wedd,
Distaw—ond mawr ei dostedd.

Gerwin gawr yw'n ei gaerau,—ddyry glir
Ddŵr gwlad mewn gefynnau;
A gyr hwn heb drugarhau
Ewinedd i'n gewynnau.



BLODEUYN Y GRUG

Gwridog gymydog rhedyn o—deg raen
Ydyw'r grug-flodeuyn;
Cyfoethog gunnog gwenyn,
A mail i ddal mêl i ddyn.


GORFFENNAF 1931

Oer a phoenus Orffennaf,—du ei wedd
Ydyw hwn fel gaeaf;
O! brudd hin, heb arwydd haf,
Am yr haul y mawr holaf.

Du yw'r wybren dan lenni—y miloedd
Cymylau sydd drosti;
Mae'r iach a'r afiach heb ri'
Eisiau'r haul i'w sirioli.


PLU'R GWEUNYDD

Arian blu mor wyn â blawd—a roes haf
Ar gors oer yn gatrawd;
Manwallt glân o anianawd,
A sidan tlws y dyn tlawd.



Y BERTH WEN

Yn dw hardd blodeua hi,—a gwenwisg
Y gwanwyn amdani;
Ac fel hon yn ffrwythloni
Yn lân wen bo 'nghalon i.



AFAL

Ffrwyth melys megis cusan,—a phêr, iach,
Hoffir yw, ym mhobman;
Efe â chlws gochfoch lân
Yw iarll yr ardd a'r berllan.


Y GWYBEDYN LLWYD

Ar rwysg haf a'i wresog hin—ymwelydd
Milain yw a chethin;
Ac er blinder i'r werin
Daw am waed—dyma ei win!

Gelyn na fyn wrthgilio,—rhy bigiad
Er bygwth ei daro;
Ei ladd, os gallwn lwyddo,
Hynny dâl i'w atal o.


GWYMON

Rhywogaeth o dw'r eigion—yn addurn
Iddo, ydyw gwymon,
A'i hirwallt du, ar wyllt don,
Yn llywethau main lleithion.



Y MOR

Fel enaid blin aflonydd—wedi brad
Yw, â'i brudd ru beunydd;
A dawnsia'i don nos a dydd,
Ni all huno yn llonydd.



Y MOR A'I DONNAU MAWRION

Rhuo a bwrw ewyn—yn ei fâr
A wna fo'n ddiderfyn;
Ar y graig mae'r aig mor wyn
A thonnau o laeth enwyn.


Y DON

Un ferhoedlog afradlawn—yw y don
Frigwen, dal a digllawn;
A'i hegr olwg yn greulawn—
Erys hi'n fradwrus iawn.


EWYN Y DON

Lliw angel o gylch llongau,—lluwch y môr
Ddaw'n llwch mân i'r glannau;
A dannedd enbyd donnau
O ryw bell gefnfor a bae.



Y GRUG

Ar sedd iach rhosydd uchel y mae'r grug
Dymor gwres ac oerfel;
Tw â'u gwawr fel teg gwrel—
Llwyni mân—gwinllan y mêl.



Y GWENITHYN

Gwir reidiol hygar hedyn,—a rhodd Iôr
I ddyn yw'r gwenithyn;
Rhag caled niwed newyn
O'i frig ef cawn fara gwyn.



PISTYLL

Ers oesoedd dan glir sisial,—yn wastad,
Pistyll sy'n was ardal;
I filyn a dyn, heb dâl,
Rhy' groeso o ddŵr grisial.


Y GARREG ATEB

Hen watwarwreg naturiol,—enwog yw,
O'n gŵydd yn wastadol;
Yn dynwared yn wrol
Eiriau ein hiaith ar ein hôl.


SEREN Y GOGLEDD

Gorwych bwynt hawddgar uwchben—i arwain
Morwyr ar wyllt elfen
A roes Iôr yw y seren,
Yn arwydd nod ar rudd nen.



DAEARGRYN

Gerwinol ddwfn ddirgryniad—daear yw
Dery ofn trwy'r cread;
Dryga lu—gwna dre a gwlad
Yn anialwch mewn eiliad.



Y GLOYN BYW

Yn nyddiau'r haf braf, tlws bryfyn—di-sŵn
Gâr des haul yw'r gloyn;
Cofleidia bob cu flodyn,
A'u drud fêl yn lladrad fyn.



Y MOCHYN

Swniwr uwch nag asynod,—a rheibiwr
Rhywbeth fo i'w ganfod;
Ac wedi llenwi'i geudod
Yn y baw mae'n mynnu bod.


Y FRONWEN

Hy clynes fileinig—yw'r fron wen;
Câr fryniau pell, unig;
Hoenus bryfes wenwynig
'Rioed â'i chwant ar waed a chig.


DYFRGI

Hy felyngoch fileingi,—heini, gwyllt,
Main ei gorff yw dyfrgi;
Dirybudd lofrudd dan li,
Ac ar bysgod câr besgi.



DRAENOG

Ei wisg oll fel ysgallen,—hir ei drwyn
Yw'r draenog—llun pelen;
O'i ymlid try'n ei amlen
Yn dy bach i gadw'i ben.



HAF GWLYB
1924

Trwm yw alaeth amaethwr,—ei gaeau
Sy'n gywir fel merddwr;
O'u hirbell uchel harbwr
Llongau Duw fu'n gollwng dŵr.



BLODEUDORCH AR FEDD

Er coffau am gau yn gudd—ein hoff rai
Sy'n ei phridd yn llonydd,
Wele ros dros farwol rudd
O law serch yn dlws orchudd.


MARW DYN TLAWD

Ni wybu hwn am neb hael—a'i cofiodd
Mewn cyfyng anghaffael;
Mae o wedi ymadael
I fyd gwell o'i fywyd gwael.


BWLCH ANGAU

Ow! rieni, mae'r annedd—yna, gwn,
Yn wag, oer a rhyfedd;
Gerwinol mewn gwirionedd
Yw agor bwlch i gau'r bedd.



CYFNEWIDIAD

Gwywodd blodeuog awen—y gŵr hoff
Garai hedd digynnen;
Gwaliau pridd a gwely pren
Yw lle un fu mor llawen.



NOSWYL

Diddig ddiweddglo'n dyddiau yw noswyl
O'n hysig flinderau;
Saib einioes yw o boenau—
Oedfa hun i'n hadfywhau.



SANT TLAWD

Os heb barch mewn eisiau bu,—gloyw sant
Di-glais oedd er hynny;
Ac os heb un wobr obry
Yr hen frawd, cadd goron fry.


DAU GANWR
(OWEN W. FRANCIS A'I FRAWD GRUFFYDD, NANTLLE)

Rhy dawel i roi deuawd—yw Owen;
Tawodd yr hoff gymrawd;
I Ruffydd, brydydd a brawd,
Anodd fydd canu unawd.


COLLI MAM
(MRS. MARGARET LEWIS, PENRHYN)

Ein hannedd aeth yn neuadd ddu,—oer wedd,
Ar ôl ei da-caru;
Mwynaf fam i ni a fu,
A theilwng gefn i'w theulu.

O'i Hafur diball llifodd—mêl iddi,
Am lwyddiant y brwydrodd;
Do, bu yn ddiwyd o'i bodd,
Segura'i hoes nis carodd.

Y dasg yw peidio â'i disgwyl—eto'n ôl
I'n tŷ ni am egwyl;
O! le gwag i dreulio gŵyl:
Mynwent yw tŷ'n mam annwyl.



GALWAD
Pasg 1936.

Oddi isod galwodd Iesu—y fach
I fysg nefol deulu;
Cyn i olion dyfnion du
Bechod ddod i'w chrebachu.


DYWEDDI'R BARDD

Rhois hon o barch i warchod—marwol lwch
Mari lân ddi-sorod;
O! rosyn daear isod,
Fy eiddo fi oedd i fod.


BEDD SANT TYNER

Otanom mewn oed tyner—gloyw sant
Di-glais gwsg o'i flinder;
Seren fach trwy'i siwrnai fer
Oedd oleuodd i lawer.



ADRODDWRAIG
(MRS. MARY EVANS, NEFYN)

A thwym hiraeth am Mari—wylo'r wyf
Lawer awr o'i cholli;
A'i gruddiau teg rhoddwyd hi
Yma'n drist â maen drosti.

Mawr ei llwydd ym mro y llawr,—am adrodd
Medrus oedd a chlodfawr;
A'r delyn uwch cur dulawr
Yn y nef mae'n canu'n awr.



HEN LAWENYDD
(MRS. KATE JONES, BRYN Y FEDW)

O'i hing hi a aeth ynghudd,—o'i thrymwaith
I rwymyn bedd llonydd;
Adwy fawr yn y Fedw fydd
Lle unwaith bu llawenydd.


NI DDOI'N OL

Un da, mwyn a dymunol—yma gawn
Mewn trwm gwsg heddychol;
A heddiw ni ddeuai'n ôl—
Nef a bedd sy'n fwy buddiol.


A GARAI GYNT
(YM MYNWENT PENMORFA)

Carodd ddisgyblu corau,—a chaled
Chwilio'r Ysgrythurau;
Ac fe roes hir oes i hau
I ddynion ffrwyth ei ddoniau.



LLAWER CAMP
(MR. PETER M. ROBERTS, PEDR BROTHEN)

O dŷ ing yn llwyd dy wedd—yn nwylo
Hen elyn tangnefedd,
Ti a wyraist i orwedd,
Wyl y Banc, i gôl y bedd.

Chwith i ŵr o'm chwaeth i—ydyw bod
Heb awr yn dy gwmni;
Pwy gâr sôn am farddoni
Yma'n awr fel byddem ni?

Gwnest lawer cain offeryn—abl i waith
Heblaw tôn ac englyn;
Nid oedd i waith neu dyddyn
Un gwell am gyllell neu gŷn.


HEN BETHAU
(MISS ELIZABETH JONES, TAN LAN)

O'i bwthyn llawn hen bethau,—yn wyw lesg
O Dan Lan aeth hithau;
A rhes hir o'i thrysorau
Sy ynghudd, a'i drws ynghau.


MARW MAM
(AR YMWELIAD A'I HEN GARTREF)

Heddiw trwm oedd rhoddi tro—i'w hen fwth
A'm mwyn fam ddim ynddo;
Cadd breswyl i noswylio
Yn wael ei drych dan lwyd ro.

Garw dweud, agorwyd adwy—ym Mhen'rallt,
Mae'n rhwyg hirgofiadwy;
I drymwaith nac i dramwy
Ni ddaw mam i'n noddi mwy.

Ara' gur a wywai'i gwedd—a blin oedd
Blynyddau o lesgedd;
Da oedd cael mynd o waeledd
Heb radd o boen i bridd bedd.

Llanwodd ei didwyll enaid—yr enw mam
(Pa rin mwy?) yn ddibaid;
Ni chaem gam,—pob un tamaid
O'i bodd rôi os byddai raid.


Os tonnog fu'r estyniad ar ei hoes
Trwy yr hir wahaniad,
Eleni cadd ailuniad
O ddwfn hedd ym medd fy nhad.

Heddiw gwag oedd y gegin—hebddi hi
Mewn boddhad yn chwerthin;
Heddiw, heb loes dyddiau blin,
Hedd i lwch oedd ddilychwin.


NOSWYL

(MR. EDWARD WILLIAMS, TALSARNAU)
Is hon mae hen was annwyl—Iesu Grist
Is y gro'n cael noswyl;
Hyd ei arch gwneud ei orchwyl
I Dduw o hyd oedd ei hwyl.



CHWAER DDUWIOL

Chwaer wiw dan ei choron—huna isod
Yn Iesu, heb loesion;
O'i chrud i'w harch rhodiai hon
Ar ddaionus ffordd union.



BUCHEDD LAN
(MR. ELIAS JONES, RHIWGOCH)

O'i fer yrfa i'r oerfedd,—Elias
Aeth yn loyw ei fuchedd;
Bu farw heb i oferedd
Staenio'i foes—Cristion i'w fedd.


BLAENOR
(MR. ROBERT ROBERTS, PEN'RALLT),

Yn ei ddydd, yn ôl ei ddawn—a'i ynni
Bu yn flaenor ffyddlawn;
Llanwodd ein cyfaill uniawn
Oes er lles, hyd fesur llawn.

Mewn hiraeth mae'i hen oror—ar ei ôl,
A byrhad ei dymor;
Gŵr â'i eisiau ar Groesor,
O lesâd yn Eglwys Iôr.


MAM DDA

Mam annwyl na fu mo'i mwynach —huna
Ennyd yma bellach;
Daw dydd bydd fil dedwyddach
Heb ôl ing, yn gwbl iach.



SYR OWEN M. EDWARDS

OWEN EDWARDS, un ydoedd—i Walia'n
Anwylyd ei miloedd;
Cannaid lamp ein cenedl oedd,
Rhôi ei llewych i'r lluoedd.



YN Y MOR

O'r chwarel arw ei cherrig—yr est ti
I'r ystorm fileinig;
Dan y dyfnion donnau dig
Heno yr huni'n unig.


CYMWYNASWR
(I'M HEWYTHR RICHARD)

At ei annedd y tynnid,—i'w alw
At filod mewn gwendid;
Ef â'i law a ddofai lid
Anifail dan ei ofid.

I fuwch a march neu fochyn—ardalwyr
Rhôi deilwng feddyglyn;
Un parod oedd pwy yw'r dyn
Rif rai fu ar ei ofyn?

Fy ewythr fu trwy'i fywyd—i gannoedd
Yn gweini yn ddiwyd;
A chafodd "ddiolch" hefyd,
Yna,—ei fedd, a Gwyn Fyd.


HEDD WYN

I ganol gwaedlyd gynnwr'—Hedd wylaidd
A alwyd yn filwr;
A gwarth amlwg oedd galw gŵr
O brydydd i waith bradwr.

Yn Ffrainc dlos ceidw noswyl,—yn drwm ei hun
Draw ymhell o'i breswyl;
I'w gadair wag wedi'r ŵyl
Ni ddihuna Hedd annwyl.

Mae'i awen glodfawr mwyach—yn y glyn,
Tan glo heb gyfeillach;
Hedd annwyl a fydd wynnach—
A mawr fydd yng Nghymru fach.


ER COF

Ei Phrynwr, hoff rieni,—a alwodd
Eich anwylaf Lisi;
Didrwst bu'n gwaedu drosti,
A'i eiddo Ef ydoedd hi.


GLAN TECWYN

Anrhaith i fro y Penrhyn—a Meirion
Fu marw Glan Tecwyn;
Ni ddaw mwy (ni wyddom hyn)
O'i gongl na chân nac englyn.

Hir oedi â Cheridwen—y bu ef
Heb ball, er yn fachgen;
Heddiw gwyw yw ei awen,
Daeth oes hardd y bardd i ben.

Un dewr oedd o du yr iawn—drwy ei oes,
Casai dreiswyr creulawn;
Gwnaeth ei ôl â'i ddeifiol ddawn
Ar reng ofer anghyfiawn.

Am berchen talent helaeth, a'i ddoniau'n
Ddiddanwch cymdogaeth,
O'i ddaearu bydd hiraeth
Yn ddu drist rhwng y Ddau Draeth.



LLYSFOEL

Yma rhoddwyd amryddawn—awenydd,
Oedd ŵr annwyl rhadlawn;
Am oes hir, gŵr cymwys iawn,
Fu flaenor difefl uniawn.


UN AEDDFED
(ER COF AM LIEUT. WILLIE JOHN ELLIS, CAE CLYD)

Un dreuliodd oes lân drylawn—oedd Wili,
Ddi-elyn lanc rhadlawn;
Un annwyl addfwyn uniawn
I fyd uwch oedd aeddfed iawn.


CERDDOR
(MR. RICHARD ROWLANDS, PENMORFA)

Wr annwyl, daeth awr hunaw;—rhy gynnar
Gennym oedd ymadaw;
A'i ergyd flin, brenin braw
A dawelodd dy alaw.

Cân a fu'n dy ddiddanu—heb unwaith
Dy boenus ddiflasu;
Er fod hwn yn oer fyd du
Gwynnaist dy hun wrth ganu.

Ardaloedd yn frwd wylant,—oriau dwys
Ar d'ôl, Risiart Rolant;
Gwnaeth gelyn delyn ddi-dant,
O'th symud di daeth siomiant.

Troist o gôr dy hen oror—am ganu
Amgenach, hoff gerddor;
O fyd drwg cei fod rhagor
Yn fil gwell mewn nefol gôr.


GWILYM DEUDRAETH

Heddiw gwelw ddigalon—yw Gwalia
Heb ei Gwilym radlon;
Eleni aeth saer englynion
O dir y byw, loes yw sôn.

Gwilym heb radd o goleg—a garai
Ein gwerin bob adeg;
Yn ein tir o'i rawnwin teg—
Ffrwyth ei ddawn—ni chawn 'chwaneg.

Ei enw yn hir yn ein hiaith—a seinir
Am wasanaeth hirfaith;
Mae'i emau yn ein mamiaith
I'w mawrhau am oesau maith.


BEDDARGRAFF MILWR

Ym more'i oes, er mawr resyn,—is hon
Y dwys huna glanddyn;
Ef fu lewaf dewraf dyn
Rhwng Gwalia a rheng gelyn.



MILWR DEWR

Is y llech ddinod, fechan,—ymwelydd,
Huna milwr, druan;
Un dewr a fu yn darian
Rhyngot ti a'r rhengau tân.


MARW YMHELL

O Walia annwyl hwyliodd,—ac ar dir
Teca'r De y glaniodd;
Ond Ow! efe—nid o'i fodd—
Yn New Zealand noswyliodd.


MORWR DIENW

O'r don laith rhoed annwyl un—dienw
Odani, i'w gyntun;
Câr ieuanc yw i rywun—
A maith hedd i'w esmwyth hun.



HYD YMYL HEDDWCH
(ER COF AM LIEUT. O. MORRIS JONES, PORTHMADOG)

Ymladdodd hyd ymyl heddwch,—ond Ow!
Daeth diwedd, a thristwch;
Gwyrodd yn llawn dyngarwch
Dros ei wlad i'r isel lwch.



DWY ENETH FECHAN

Wele fedd dwy lili fach—anwylaf
Na welwyd eu gwynnach;
Aeth y ddwy i fyw mwyach
I ardd y Nef—mae'r ddwy'n iach.



GWR ANNWYL

Yn ei wlad, Annwyl ydoedd, a'i enw
Oedd Annwyl gan filoedd;
A phan aeth ef i'r nefoedd
I gadw gŵyl, Annwyl oedd !


BOB

Am roi Bob yn rhwymau'r bedd,—y syniad
Sy inni'n dra rhyfedd;
Llonni gwlad yn well na gwledd
Wnai Robin â'i arabedd.

Aeth Ionawr â'i ffraethineb—i fro fud,
Ddifrif oer marwoldeb;
Y dyn hoff (ni wadai neb)
Oedd â'i eiriau'n ddihareb.


UN DEG IAWN

Yn deg iawn o bryd a gwedd—ein Elin
Alwyd trwy fyr waeledd; (
O'n hoer fyd, mewn cynnar fedd,
I lawr mae'n tawel orwedd.



RIHENI TYNER

Buont i ni trwy'u bywyd—rieni
Tyner, annwyl hefyd;
Mae'r ddau a fu mor ddiwyd
Heddiw 'nghôl y bedd ynghyd.



EIFION WYN

Efo Hydref a'i wywdra
A di-rif dlws flodau'r ha',
Gyda'r grug i dir gro—
Eifion Wyn gwsg fan honno.
Onid trist yw natur hen?
Cyd-wywodd coed â'i awen.


Yn goeth rhoes, yn gaeth a rhydd,—ei feddwl
Yn foddus a chelfydd;
Ac i lwyd, dlawd aelwydydd
Ei wlad fach, gwir olud fydd.

Eifion Wyn fydd fyw'n ei waith,—ni wywa
Yn awyr ei dalaith;
Ei emau yn ei famiaith
Fydd ar goedd am oesoedd maith.


DYFOD A MYND

I fyd oer llawn gofid daeth yn wen, wen,
Ac yn annwyl odiaeth;
Yn ôl o fro marwolaeth
Eich hoff Nel yn angel aeth.



MELLTEN
(DAVID TUDOR, CEFN CLAWDD, TRAWSFYNYDD, A LADDWYD GAN FELLTEN)

Dihangai o fyd ingoedd—trwy y mellt
A'r tra mawr dymhestloedd;
Pan alwyd ef i'r nefoedd
Gweini i'w rieni 'r oedd.



COLLED
(DAVID PARRY)

Ar ei ôl yr hir wylir,—fel uniawn.
Flaenor hynaws, cywir;
I'r Iesu rhoes einioes hir
Dan fawrhad yn ei frodir.


GYRFA WEN
(MR. EFFRAIM WILLIAMS, Y RHYD)

Gwely oer mewn gwael weryd—gâi Effraim
O gyffro a blinfyd;
Arweiniodd trwy'i fer ennyd
Yrfa wen trwy arw fyd.


GWLADUS MAI
(MERCH I'M CHWAER ELIN WILLIAMS, Y RHYD)

Yn wen iraidd, yn araf,—gwyw lwydodd
Gwladus ym myd gaeaf;
Anwylyd gadd hun olaf
Yn Ionawr oer, cyn yr haf.

Eilun oedd heb elyn iddi,—un bert,
Denai bawb i'w hoffi;
A'i chau mewn arch, mi wn i,
Siomai d'einioes amdani.

I frwd hin, Mai hyfryd iach,—ganed hi,
Er gwneud haf yn dlysach;
Boed Mai, yn ddibaid mwyach,
Yn hardd ei gwedd mewn bedd bach..



RHIENI
(HUGH AC ANN BUCKLEY)

Rhieni tyner hunant—islaw hon,
Noswyl hir a gadwant;
Yn y plwy' a chan y plant
A'r Eglwys, peraroglant.


DYN DA
(MR. JOHN WILLIAMS, PENRHYNDEUDRAETH)

O'i wirfodd treuliodd yrfa—i'w Iesu
A'i gysegr tra yma;
Diwyd oedd o blaid y da,
A'i wynfyd oedd Cymanfa.


RHWYD BYSGOTA

O dan y dŵr a'i donnau dig—y rhoir
Y rhwyd yn daenedig;
Ninnau gawn ohoni gig
Y pysg odiaeth pasgedig.



Y BACH PYSGOTA

Dirgelaidd arf dur—golyn—yw y bach,
A'i ben mewn abwydyn;
A'i saig huda bysgodyn
O waelod dŵr i law dyn.



MAEN LLIFO

Rhod garreg at raid gwerin—mewn llafur
Yw'r maen llifo hydrin;
I arfau heyrn a durfin
O'i droi mae yn awdur min.



GWNIADUR

I fys mae'n lles difesur—a nodded
Rhag beunyddiol ddolur;
Gweinidog yw gwniadur
Od o dda i nodwydd ddur.


CAWELL

Manwl bleth—wiail meinion—yw cawell;
Cywir was amaethon;
Ar dir ers oesau hirion—
A châr i sach yr oes hon.


Y GWELLAIF

Arf durol cryf ei doriad—yw gwellaif,
Fel dwy gyllell anfad;
A'i ddeufin dyr gnu'r ddafad
I'w roi'n glog am werin gwlad.



MAGL

Yn gêl, gas, caiff magl ei gosod—yn deg
O flaen dyn neu filod;
Ac â'r dwl ddifeddwl fod
I drwbwl diarwybod.



Y CLEDDYF

Llyn elyn yn llaw milwr—ydyw'r cledd—
Awdur clod rhyfelwr;
O'i doriad rhed gwaed arwr
Ar y ddôl fel aber ddŵr.


DUWIAU NEWYDD CYMRU

Social a dawns yw Sasiwn—yr ifanc
Digrefydd, feddyliwn;
Rhy fflat yw Seiat a'i sŵn;
A â Iesu o'r ffasiwn?

Whist drive o fro yr estron,—y cricet
A'r croci sy'r awron;
Ar y Sul ceir hwyl ar sôn
Am rasus ac ymryson.

Eraill sy'n treulio oriau—yn mwynhau
Dominôs neu gardiau;
Yn llain y golff mae llu'n gwau
Yn wŷr swel ar y Suliau.

Difyr eu byd efo'r bêl—yw heidiau
Ar Sadwrn mewn oerfel;
Trannoeth cânt nap mewn capel—
Yn dummy o saint—ond dim sêl.

Y botel gwrw a'r betio—I
A bowlio a gamblo;
A lwc y Football Echo
A i gyd â bryd pob bro.

Ym mhob ardal, er galar,—ar y Sul
Gwelir silod anwar
A'u hyf lefau aflafar—
Torri cut mewn Motor Car.

Mae'n bryd, O! mae'n briodol—arafu
Ein rhyfyg annuwiol;
A ddeuwn ni at Dduw'n ôl
O'n dirywiad direol?


YR HOEDEN

Hi, ddoe, a rôi ar ddeall,—ac ar lw,
Carai lanc yn ddiwall;
Rhoi ei llw heddiw i'r llall—
Yfory efo arall.


YR HEN FERCH

Câi hon yn ieuanc heini—ddigonedd
I gynnig amdani;
Ond er ei loes, ei hoes hi
Heibio red heb briodi.

Gwnâi meib gynt ryw egni mawr—i'w hennill'
Y dlos feinwen glodfawr;
Ond darfu'r egni dirfawr,
'Chwysa neb i'w cheisio'n awr.



GOLYGFA CHWITHIG

Gwarthus olwg, wrth sylwi,—a welir
Ar heolydd trefi;
Ceir Bob yn cario babi,
A'i wraig Kate yn cario ci.



TI A MINNAU

'R wyt ti, waeth sut bo'r tywydd,—yn huno—
Tan hanner boreddydd;
'R wyf innau, fel iâr fynydd,
Yn godwr da gyda'r dydd.


BLAEN AC OL

Un digoll, hywaith hollol—yw ymlaen,
Trwm lwyth â'n egniol;
Yn y bon mae'n unbennol,
A rhyw ddydd fe drydd y drol.


MR. WELWCH CHWI FI

Fe lŷn Siôn yn ei flaen sedd,—ni fyn
Efô fainc dinodedd;
A da fydd rhoi yn y diwedd
"Welwch chwi fi" ar lwch ei fedd.



LLAWYSGRIF ANEGLUR

Rhywbeth fel iaith Arabia—a welaf
Ar y ddalen yma;
Neu ôl traed ieir mewn eira
A yrr ddyn o'i dymer dda.



GWR Y GOD

Da yw cael gŵr hael, a rhydd—ei galon,
Dwg elw i grefydd;
A gwir falm i "bwyllgor" fydd
Cod aur o law'r Cadeirydd.



TEIMLO ANNWYD

Wirionedd, bron na rynnaf—is arfod
Cas oerfel ddaeth arnaf;
I boethi, mi obeithiaf,
Newidia'r hin cyn daw'r haf.


I DORROG SWYDDOG O SAIS

I gannoedd sy'n ei gynnal—ei ormes
Bair wermod di-gordial;
Heb wneud dim ond derbyn tâl
Hwn yw Lord amal ardal.


Y SEGUR SWYDDWYR

Aneirif yw rhif yr haid—sy heddiw'n
Segur-swyddwyr afraid
Yn eu rhwysg;—i ninnau rhaid.
Talu cost y locustiaid.



FY HOFF BETHAU

Mae rhai yn hoff o goffi,— mae eraill
Am wirod i feddwi;
O fwydydd dirifedi—
Bara haidd a maidd i mi.



CYFARWYDDYD

O bydd i bobol holi—fath un wyf,
'Fetha neb gyhoeddi
Uwch y fan mai bach wyf fi
Mewn talent a maintioli.



GWRAIG SIONC

Sara Huws sy, er ei hoed,—fel ewig
Fyw lawen ysgafndroed;
Nid yw'n blino cario coed,
Diwydrwydd yrr ei deudroed.


DYN TAL O'R PENRHYN

Gŵr tirf oedd Dei a hirfain,—gŵr uchel
Wrth gorachod bychain;
Pwy erioed o wŷr Prydain
Dyfodd fwy na Dafydd fain?


CWYN COLL AM FY NANNEDD

Ogo' noeth yw 'ngheg yn awr,—newynaf
Heb fy nannedd gwerthfawr,
Heb fwyd llwy, neu gael dwyawr
I gnoi 'mwyd mewn egni mawr.



YR HEN LANC

Ei hunan bach mae hwn yn byw,—ni fyn
Efô wraig i gydfyw;
A'i hen fregus esgus yw—
Dim 'mynedd gyda menyw.



Y MWGWD NWY

I warchae rhag nwy erchyll—wele arf
A ddei! i'w wrthsefyll;
Gyda hwn y mwgwd hyll—
'R wy'n hyllach na'r un ellyll.



TRETHGASGLYDD

Person sy'n tolli'n pyrsau;—gwas i ddeddf
A gwŷs ddaw i'n drysau;
A'r werin trwy'n gororau,
Agos oll yn ei gasau.


YN Y BARICS

Hunwn (a blin oedd hynny)—yn fy oer
Annifyrraf lety,
A theimlo brath amal bry'
Ar waelod y budr wely.


Y DIYMDRECH

Pinacl hwn yw pen y clawdd,—byw a wna
Heb nod uwch ei ansawdd;
Chwilia ef am orchwyl hawdd,—
Penyd yw pob camp anawdd.



Y LOCKUP

Lle di-dân, di-gân, digynnwr',—a chell
Heb na châr na noddwr;
Mewn tref a gwlad dyma dŵr
I swyddog gloi troseddwr.



HIRHOEDLEDD METHUSELAH

Oes, hir, sy ddihareb,—orffennodd
Ar ffiniau marwoldeb;
Bu ef, rhaid dweud heb eudeb,
Yn hen ŵr yn hwy na neb.



GWR HAEL

Haelionus i elynion—yw efô
Fel ei fwyn gyfeillion;
Yn wir, y Tori tirion
Yw Ifor Hael y fro hon.


Ei god aur wrth gadeirio—a swynodd
Ddwsinau i'w bleidio;
Medrus ŷnt am ei odro
O symiau bras ym mhob bro.

Os am aur y cais Meirion,—wele
Ddefnydd aelod ffyddlon;
Dyma ŵr i'r dim i hon,
Heb araith—e wna'n burion.


BORE-GODWR

Y mae sôn am Siôn trwy'r sir—na bu ŵr
Boreach trwy'n brodir;
Ef yn olaf ni welir—
Cas gan hwn yw cysgu'n hir.



HEN GARIADAU

Metha Huw â byw heb Ann,—a'i dilyn
Wna'n dalog i rywfan;
'Ran hynny, rhai'r un anian
Yw mab a merch ym mhob man.



HELBUL GWRAIG Y DIOGYN

Cyn uniad Siôn â Chadi—addawodd
Fyw yn ddiwall iddi
Ag egni teg, a'i gwneud hi
O lodes dlawd yn ledi.

Ar fyr i'w hen arferion—di-ras, sâl,
Fe droes Siôn yn union;
Mewn helbul mawr yr awron
Cadi sydd yn cadw Siôn !


DAN DDOLUR CEFN

Hynod iawn fum o heini,—ond dolur
A'm daliodd i'm poeni;
A'm cefn gwan fel cwman ci
Mae'n anodd ymunioni.


DAU BETH BLIN

Y pennaf peth i'n poeni—adeg cwsg
Ydyw cath yn rhegi;
Ac mae nâd ac udiad ci
Yn niwsans, wedi nosi.



GWYNFYD HERWR: HIRNOS

Oriau hwyr a gâr henwr,—i hela'n
Hwylus a di-ddwndwr;
Blysia wledd fel boneddwr,—
Gwledd a dynn o glawdd a dŵr.



PLANT PEDR BROTHEN

Dilys, Morys a Mari,—ac Alun,
Gwilym, Nesta, Magi;
Ifor, Owen a Myfi,—
Gwyndaf yn olaf gawn ni.



PLANT FY MRO

Gwilym, Gwyneth, ac Olwen,—a Morys,
Mai, Eurwen, a Rhydwen;
Glyn, Ifor, Gwynfor, a Gwen,
Dilys, Meirion, a Deilwen.


Morfudd, Tecwyn, a Merfyn, —Rhiannon,
Mair, Enid, a Moelwyn;
Emyr, Arwel, Llywelyn,
Bryn, Gruffydd, Gweirydd, a Gwyn.

Eluned, Megan, a Glennys,—a Haf,
Hefin, Maldwyn, Emrys,
Menna, Dewi, a Gwladus,
Morwen, Rhianwen, a Rhys.


DAU DDARLUN O'R UN PERSON

Hir yw Twist, nid rhaid tystio,—ac wyneb—
Fel geneth sydd ganddo;
Set esgyrn mewn siwt wisgo.
Yn denau'i farf—dyna fo!

Hir yw Twist, nid rhaid tystio,— ac wyneb—
Llawn gwenau sydd ganddo;
Un ysgafn hoyw ei osgo,
A dyn o farn—dyna fo!



Y BEL DROED

Un gron ei llun geir yn y llaid—o flaen
Torf fileinig danbaid
Yw y bêl, a hon, heb baid,
Yw hoff eilun y ffyliaid.



PAWB AT Y PETH Y BO

Siôn Ifan sy'n ceisio nofio,—a Mair
A Morys sy'n godro;
Torri'r gwair mae Guto'r Go',
A Now Ifan sy'n cneifio.


ENWAU
(PLANT BROTHENDY)

Mae Glyn, mae Tecwyn gen' ti,a'th hoyw
Fathias, a Magi;
Sioned, Sid, Eirlys, Siani,
A Men, a Brothen, mewn bri.


CARPIAU

Od ei wisgiad a'i osgo,—hoff o reg
A ffrwgwd a photio;
Hel esgyrn i'w hail wisgo,
A gwael rags, y gwelir o.



YN NHRAWSFYNYDD

Cŵn, ffermwyr, milwyr, moelydd,—a welais,
A chulion heolydd;
Dros y llyn ar derfyn dydd
Ias fain ddaeth o Drawsfynydd.



NAFI

Swyddi bras a ddibrisiodd,—ac heb rwysg
Caib a rhaw ddewisodd;
Yn llanc tiri aeth o'i wirfodd
I fyd drwg—yn nafi trôdd.



Y CNEIFIWR

Da'i fyd ym mysg defaid mân—nwyfus
Yw'r cneifiwr ger corlan;
Dilladu y byd llydan
Wna ef â'i glyd gneifiau gwlân.


DADL Y LLO TEW

Dyma grynodeb o hanes dechreuad y ddadl ynghylch y llo tew. Yn y flwyddyn 1901, gwerthodd fy niweddar fam, JANE JONES, HAFOD Y MYNYDD, lo tew i EVAN LLOYD, Cigydd, Tanygrisiau, a chafodd ei gludo o orsaf Tan-y-bwlch i orsaf Tanygrisiau yn un o gerbydau Llinell Gul Ffestiniog. Rhyw fore, daeth WILLIAM EDWARDS (GWILYM BARLWYD) ag arian tál am y llo i mi i'r Rhosydd, i'w trosglwyddo i'm mam. Hefyd, cyflwynodd yr englyn cyntaf ar y rhestr i mi gyda'r arian. Gan ein bod yn gweithio yn yr un gwaith, buom yn gohebu a'n gilydd a'r englynion dilynol am amryw ddyddiau ar ôl hynny.—I.B.

LLO TEW


I Ioan am esgyrn llym osgo,—saith
Swllt ar hugain eto!
Hen gigydd gâdd ei gogio
Yrr yn llawn arian y llo.
——GWILYM BARLWYD

ATEB


Gwael oedd hau geiriau ar goedd—am y llo,
Mai llym esgyrn ydoedd;
Hwn wnâi ginio i gannoedd,
A llo da di-golled oedd.
——IOAN BROTHEN

AT IOAN BROTHEN


Na, llo tenau, llwyd hynod—oedd ei wedd
Wael, un o'r silod;
Ioan bach, y lleia'n bod,
A'i esgyrn trwy ei wasgod.


Mi brofais y llwm bryfyn,—a gwn i
Mai gwan oedd. 'R wyn gofyn
Mewn cyffraw, beth ddaw o ddyn
A folai'r fath drychfilyn?——G.B.

ODLAU LLYM AR DDADL Y LLO


Yn araf, fardd, anwiredd—a haerwch,
A'ch geiriau sy'n ffoledd;
Dewis "silod" di-sylwedd
Ni wnâi Lloyd i ni yn wledd.

Nid rhyw swp o natur sâl—oedd ein llo
Ddeuai'n llwyth i'ch ardal;
Y cwestiwn yw, ddaeth cystal
O lo tew am leied tâl?

Nid dyn a bryn "bryfyn" am bres—yw Lloyd,
I ladd peth mor afles;
A ar briffordd ei broffes,
Myn lo iawn er mwyn ei les.——I.B.

ATEB


Rhy annuwiol, 'r hen Ioan,—nodi "llwyth,"
Gwneud "llo tew" o'r bychan;
E wnaethai bro fel nyth brân
Y tro i guddio'r truan.

Diferu mae dy glodforedd—yn llif
Am y llo bach llymwedd;
Moli o hyd, sôn am "wledd,"
Ha! goblyn, dyma gabledd!——G.B.


"YR OLAF AR YR HELYNT" (Dyfed)


Er gwaethaf pob pregethu,—mae Gwilym,
Y gelach, yn haeru
Bod ein llo'n un digon du,
Yn warth i neb ei werthu.

Er i hwn gael ei sarhau,—'r oedd ei wedd
Yn bur dda hyd angau;
A digonwyd ugeiniau
O gegau brwd â'i gig brau.

Oferedd mawr, gufardd mwyn,—oedd y sen
Ddi-sail roed o'r cychwyn;
A gwn, 'ddaeth neb mewn gwenwyn
Heblaw chwi, o gwbl, â chŵyn.——I.B.

BLOEDD HEDDWCH UWCH LLWCH Y LLO


Wel, hoff wag, ar ôl ffugio—ysgarmes,
Ai gormod cydfloeddio
"Oes Heddwch" uwch llwch y llo?
Be' waeddwn? felly byddo.

Wedi atal ysmalio,—a'r brefwr
Brofais, gair da iddo;
Rhagorol wir! O! gyr lo
'R un natur i ni eto.——G.B.

AT GWILYM BARLWYD


Minnau, o'm bodd, os mynnwch,—er y "lladd"
Fu ar y llo, credwch,
Gyhoeddaf ddiddig heddwch
Yn uchel iawn uwch ei lwch.


Heddiw yn deg rhoddwn daw—ar y ffrae (?)
Gywir ffrind, yn ddistaw;
A dylem ysgwyd dwylaw
I ymlid drwg deimlad draw!


GWR AR DRAED
(Diolch i MR. EVAN REES, PENRHYN, am aml drip yn
rhad wrth fyned at fy ngwaith i'r Minffordd)}

I gyfaill am ei gofio,—rhydd Ioan
Fawr ddiolch a chroeso;
Ces amal drip i'm cipio
Yn ail i'r trên lawer tro.

Anniben i'ch cydnabod—y bùm i,
Er bai mawr 'r wy'n gwybod;
Bwndel o annibendod
Ydyw y bardd wedi bod.

I ŵr eiddil, mor addas—yw modur
Symudol mewn urddas;
A chan Siôn purion yw pass—
Mae hynny'n wir gymwynas.

Er fy mwyn dros forfa maith,—yn lle'r traed
Llawer tro ces wibdaith;
O fewn hwn byrhaf fy nhaith—
I'r Ynys af ar unwaith.

Er awydd cywir Ioan—i dalu
I chwi'n deilwng, Ifan,
Haws wrth gloi yw rhoi fy rhan
A geiriau nag ag arian.


GWLAD A THREF

Drwg gennyf droi i gwyno,—a llawn gwell
In i gyd yw peidio;
A dewrder rhaid yw dwrdio
Yn lled drwm ar ambell dro.

Am ddiogi ac ymddygiad—amharchus
Rhai merched 'r wy'n siarad;
Arwyddion eu diraddiad
Sy'n wir loes i ni o'r wlad.

Gwelir hwy yn ddigwilydd—yn y dref
Ar ben y drws beunydd;
Garsiwn gwaeth na Sipsiwn sydd
Yn fudron a thafodrydd.

Y low class uchel eu cloch,—â'u strywiau
Gwnânt straeon amdanoch;
A gwedd eu tai, fel gwyddoch,
A'u tu mewn fel cutiau moch.

Celfi sydd ym mhob cilfach,—a budron
Yw'r bedrooms ac afiach;
Ni cheir byth, ar chware bach,
Batrwm o unlle butrach.

O alarnad dilorni—â'r caswir
Ceisiaf eto'u llonni;
Boed eu tref a'u cartrefi
Yn nef fach ddymunaf fi.


HERWHELIWR

I lysoedd gwlad a phlasau,—drwy ei oes,
Bu fel draen lawn pigau;
Gan amledd ei droseddau.
E gâi Siôn ei wir gasau.

Di-fudd a fu rhybuddion, ac erchyll
Garchar a dirwyon;
Iddo ef yr oedd afon.
Yn fwy braf na Gwynfa bron.

Efo'i rwyd a'i dryfer âi—i'r afon
Oedd "breifat" i rywrai;
Nid oedd ofn a'i diddyfnai,
Hyd ei fedd, i ado'i fai.

Drwy y dŵr â'i draed ocrion, yn araf
Cyniweiriai'n fodlon;
Ac er amlhau sylltau Siôn
Llai o rif fullu'r afon.

A'i wn fe wnâi alanas, a'i olion
A welid o gwmpas;
A rhwydd y gwelai'r heddwas
Dyrrau plu ar dir y plas.

Yn ei dro câdd Siôn druan —ei alw
I'w olaf orweddfan;
Wedi i'r hen ffrind fynd o'r fan
Esmwyth fydd mwy ar blisman!

Er symud o fro'r samon—a'r adar,
A rhydio'r "hen afon,"
Nid oes sail dros ddweud bod Sion
Yng ngolwg yr angylion.


BWGAN BRAIN

Ar dalar aur y dolydd—â gwael wisg
Ail law, sai 'mhob tywydd;
Uwch y dau ffug warchodydd
I bob brân yn fwgan fydd.

Gwas rhad a hawdd ei gadw,—heb arwydd
O berygl bydd farw;
Ni ddaw o'i ben be na bw,
Un gair yn fwyn na garw.

Dydd gŵyl ei orchwyl ni âd,—nid â ef
I na ffair na marchnad;
Ni ddilyn un addoliad,
Na thro'n y Rhyl, na "thrên rhad."

Beunydd fe saif heb annwyd —nos a dydd
Yn was da diarswyd;
Fe dreulia ar fudr aelwyd
Oes i ben heb eisiau bwyd.

Heb dreth, heb rent, heb blentyn,—a heb wraig,
Heb bres a heb fwthyn;
Ar lain dôl ac ar lun dyn
Y gwylia heb ofn gelyn.

Heb achau a heb bechod,—heb enaid,
Heb boenus gydwybod;
Heb obaith, a heb wybod
Yr hen bwnc—fod marw'n bod.


Heb wely a heb waeledd—fe dderfydd
Ei yrfa o'r diwedd;
Fe wyra ef i orwedd
Obry'n y baw heb 'r un bedd.

Ni welir neb yn wylo,—nac angladd,
Nac englyn i'w gofio;
Y pridd a fydd nef iddo—
I fyd uwch ni chyfyd o.


COLLI AC ENNILL

Dwysau nid rhaid i Seion,—na wylo
Am anwyliaid ffyddlon;
Duw o hyd a gwyd i hon
Wŷr da i gau'r adwyon.



"GORAU I BLENTYN FOD GYDA'I RIENI, GORAU I DDYN
FOD GYDA'I DDUW."—(Morgan Llwyd)

Yn llaw mam yr oedd well i mi,—yn hoyw,
Un ieuanc llawn asbri;
Pan yn hen mewn penwynni,
Yn llaw Iôr mae fy lle i.



TRI CHYFNOD OES

Awr o wanwyn tirionaf—bore oes
Heibio'r aeth yn araf;
Hon yn wir yw awr nawn haf,
Awr noswyl ydyw'r nesaf.


ENW Y DRYGIONUS A BYDRA

I bridd oer yn ebrwydd iawn—yr af i
Fu'n wir fab afradlawn;
Anghofir fi, anghyfiawn,
A'i holl oes o feiau'n llawn.


ANGHREDINIAETH

Meddwl dan gwmwl du'n gaeth yw di—rym
A drwg anghrediniaeth;
Ei ffydd yn Nuw, diffodd wnaeth
Yn nos tir anystyriaeth.



DIWYDRWYDD

Anniflan elyn aflwydd, —ynni bair
I'n byd fod yn ddedwydd;
A sail iawn i oes o lwydd
I'w hydref yw diwydrwydd.



"GORAU CANNWYLL, PWYLL I DDYN"

Llawer o bwyll sy'n well i'r byd—na'i aur
Aneiri mewn bywyd;
Gall dyn, trwy fyrbwyll funud,
Suro ei oes ar ei hyd.



PETHAU I'W GOCHEL

Ymyrryd â miaren—a dynn waed
Yn wir o wythien;
A bu haerllug sarrug sen
Ganwaith yn fam i gynnen.


DISGYBLAETH DDOETH

Anian addfwynder ynom—a lariaidd
Loria'r rhai geryddom;
Camp bron i bawb ohonom
Yw gwella drwg â llaw drom.


"DAN FAEN Y MAE DYN I FOD"

Gwywo, dirywio, druan,—yr ydwyf,
Yn greadur egwan:
Mewn bedd du bydda' i'n fuan,
Yn rhan o lwch yr hen Lan.



ERFYNIAD

Diddanydd, tyrd i ddenu—gŵr ofer
Ymddigrifa'n pechu;
Trwy iawn dy waed tro un du
O liw nos yn lân, Iesu.



Y GRWGNACHWR

Ei sŵn drwg sy'n gyson dreth—ar glyw dyn,
Ni ry' glod am unpeth;
A beio pawb am bob peth
Yw brig a bôn ei bregeth.



POB BORE Y DEUANT O'R NEWYDD

Er fy mod mewn tylodi,—o ran aur
Neu arian aneiri;
O law Un llawn haelioni
Eiddo mawr a ddaw i mi.


HEDDWCH

Adeg euraid brawdgarwch,—a chariad
Heb chwerwedd na thristwch;
Pobloedd ddaw'n lluoedd o'r llwch
I lwyddiant yng nghôl heddwch.


BACH Y NYTH

I'w rieni, yr hynaf—ar aelwyd
Oedd yr eilun cyntaf;
Ar ei ôl, fe sicrhaf,
Rhyw angel yw'r ieuangaf.



GWEINIDOG NEWYDD

Pan ddaw, caiff groesaw gwresog,—a seinir
Hosanna 'n galonnog;
Am fyr hyd i fryd y fro
Gwyn ydyw pob gweinidog.



CYNGOR

O wirfodd rhed dy yrfa—trwy y byd
At ryw bwynt a'th lwydda;
Da yw cyfoeth ond cofia,
Mwy na dim yw enw da.



MAM

Duwies hoff, gariadus o hyd, yw mam,
A mwyn iawn ei hysbryd;
Hon alwaf yn anwylyd
Penna' o bawb yn y byd.


CADW-MI-GEI

Cell i ddarbod rhag tlodi—yw y blwch;
Banc i blant drysori;
Ac o'i fewn ef, cofiwn ni,
A y geiniog yn gini.


IECHYD

Haul einioes, bywiol ynni,—yw iechyd
Di-ochain, llawn asbri;
Prisio'i werth a'i nerth i ni
Nis gallwn nes ei golli.



CYNGOR

Nid doeth i un fo'n teithio—yn y nos
Gamu'n hy' a brysio;
Cymer rybudd, hawdd suddo
I byllau drwg ambell dro.



YR ARIANGAR

Iddo'i hun di—ddaioni, ei hwyl ef
Yw hel aur o ddifri;
Yn fuan iawn, fe wn i,
Gwna ei geiniog yn gini!



YR ARIANGAR (2)

Cynnil fu'n hel pob ceiniog—enid aeth
Honno'n dwr godidog;
Yna hola yn hwyliog
Ym mha le mae mwy o log.


Y LLYTHYRWR DIENW

Ciaidd awdur cuddiedig;—ei ddannedd
Rydd ynom yn ffyrnig;
Dyd ar wen ddalen, yn ddig,
Annynol iaith wenwynig.


EIN DUWIAU

Awn ni yn llwyd deneuon—trwy wasaidd
Gynnal treiswyr hyfion;
Dyna brudd! rhoi gwaed ein bron
I'n duwiau fynd yn dewion.



PRYDER

Ing enaid pan fo 'nghanol—rhyw adwyth
Ydyw pryder llethol;
Ar ruddiau pawb yn raddol
Diryma wên â'i drwm ôl.



Y CECRYN

Dyn anynad yn ennyn—rhyw gynnen
Ddrygionus yw'r cecryn;
Ffrae ddi-hedd hyd fedd a fyn,
Gegog ŵr, gwag ei gorun!



BERW'R BYD

Ar eigionau mawr gynnwr',—! Dduw doeth,
Bydd Di yn Heddychwr;
Doed pob gwlad i stad ddi-stŵr
Dyddiau undeb di-ddwndwr.


CWSG

Oedfa ber 'r ôl blinderon, ydyw cwsg,
Adeg hedd plant dynion;
Saib felys heb ofalon
A wna lesg yn hoyw lon.


HAINT Y GAMBLO

Anniwall drachwant newydd a dloda
Aelwydydd y gwledydd;
Gelod ar waed ei gilydd
Ddydd a nos yn sugno sydd.



PENWYNNI

Tyst o bennyd tost boenau—ein henaid.
Yw penwynni'n ddiau;
Nod cystudd ar brudd gorff brau,
A hardd addurn hir ddyddiau.



PENWYNNI (2)

Eira einioes arianwedd—yw gwynwallt,
Neu gannaid edafedd;
Nod o boen, cennad y bedd,
Rhydd i henaint arddunedd.



DIHAREB

Moes air o'r hen amseroedd—sy gydnaws
Ag adnod i'r bobloedd;
Seml, wir ei gwers—aml ar goedd—
Yn cynnwys profiad cannoedd.


RHAIB

Brawd trachwant, ysbryd trechu—ydyw rhaib,
Yn dewr hy weithredu;
Chwant afiach yw, yn tyfu
Allan o dwyll enaid du.


BYWYD DI-DDUW

Dirywio a wnawn, druain,—heb i Dduw
Gael boddhad o'n harwain;
Buchedd ddrwg, fel baich o ddrain,
Sy'n achos inni ochain.



PROFIAD

Ffôl oeddwn, llawn o ffaeleddau—mawrion,
Ym more fy nyddiau;
Ond dal o hyd i leihau
Ychydig mae 'mhechodau.



URDD Y GROES GOCH

Urdd ddyngar—hedyn cariad—Iesu gwyn
Yw'r Groes Goch, o'i tharddiad;
Mwyn estyn balm mae'n wastad
I'w roi ar glwy' arwyr gwlad.



YR ENLLIBIWR

Mewn llwyn yn cynllwyn y cair,—i waedu.
Cymydog heb lesmair;
Ergyd gwn hwn yw anair,
A'i fidog ef ydyw gair.


RHYFEL

Cweryl yn oeri cariad yw rhyfel,
Mawr ei hafog anfad;
A dirywiol wrthdrawiad
Niweidiol yw rhwng dwy wlad.


DIGON O WAITH

Tra bo'n gwlad mewn stad a stŵr—annuwiol
Heb newid ei chyflwr;
Rhaid yw dweud, tra rhed y dŵr
Pery gwaith y pregethwr.



DYFAIS

O feddwl i gelfyddyd—y llaw gain
Deillia'i gwerth i fywyd;
Ar fyr, daw o'i harferyd
Felltith neu fendith i fyd.



Y LLEN-LEIDR

Rhyw afiach awydd rhyfedd—honni'i fod
Yn fardd yw ei drosedd;
Rhoer yn blaen ar faen ei fedd "
Dwyn gemau, dyna'i gamwedd."



PAWB OHONOM

Daliwn ar draed a dwylaw,—awn rhagom
Dros greigiau anhylaw
O dir isel di-roesaw—
Bai dyn yw bod yn y baw.


GRWGNACH

Pwysig at fyw'n hapusach—a di—boen
Ydyw byw heb rwngach;
Dan ofid, dwed un afiach,
"Byd o nef yw bod yn iach."


Y MEDI MAWR

Dyma deg adeg medi—diwyd waith
Duw a dyn i'n porthi;
Hyd erwau gwlad eurog li
Grawn tyner geir yn tonni.

Onid oes, bob ennyd awr,—hyd Ewrob
Fedi arall enfawr?
Diderfyn fedi dirfawr
Ein dewraf feib yn dorf fawr.

Cadfaes y fall yw'r cydfyd,—lle bu'r gwin,
Lle bu'r gwenith hyfryd;
Troir beunydd ei ddolydd ŷd
Yn arswydlawn gors waedlyd.

I'r rhengoedd trwy wŷr angall,—arweinir
Rhai annwyl yn ddiball;
Yn fil myrdd trwy'r rhyfel mall
A dewrion i fyd arall.

Y llynedd, yn llu heini—y troent,
Druain, o'u cartrefi;
Wedi brad, dan glod a bri,
Tawel hunant eleni.

Medi 1917.


GWEDDI MAM Y MORWR

Rheola donnau creulon—y môr dig,
Dduw mawr doeth a ffyddlon
Cadw'i lestr ar fôr estron,—
Gwarchod ef goruwch y don.


PRIODAS ALIS

Anodd oedd gwneud gwell uniad,—ie'n wir,
Ac ni waeth heb siarad;
Alis hoff fydd o lesâd
I gadw tŷ heddgeidwad.



NEWID BYD
(PRIODAS BOB OWEN, M.A., CROESOR)

Ei ieuo gâdd Bob Owen,—er oedi,
Fe'i rhwydwyd gan Elen;
Na phleserau llwybrau llên
Mwynach oedd cwmni meinwen.

Heddiw yr wyf yn ddirith,—i Elen
Yn eilio pob bendith;
Newid blas fydd naid i blith
Llyfrau'n lle llaeth a llefrith!



GRESYN

(AR BRIODAS MISS NESTA GRIFFITH, BEDDGELERT)

Rhywsut y mae yn resyn—i osteg
Ar lais Nesta ddilyn;
Rhoes ffarwel i'r Côr Telyn
Am ennyd awr er mwyn dyn.


TAN YR UN TO
(AR BRIODAS WILLIAM THOMAS A'M NITH MAGGIE WILLIAMS)

Tua'r Rhyd rhoist lawer tro,—am egwyl,
Pan oedd Magi yno;
Wedyn, fe fynnaist hudo
A gwir frys dy Fag o'r fro.

Yn gytun wedi'ch uno—yr ydych,
Aeth priodas heibio;
Eich hunain 'r ydych heno
Yn un o tan yr un to.

Os daw anfelys dywydd yn ei dro
Ac yn drwm annedwydd;
Dan eu baich cydweini bydd
Mag a Wiliam â'i gilydd.


CYLCH Y PEGWN

Tragywydd gartre' gaea', —aelwyd rhew,
A gwlad drist ddi-floda';
Llom oror lle mae eira
A nos hir heb hanes ha'.



DYFRGLOCH

Y ddyfrgloch hardd dardd o'r don—lafoeriog,
Neu lifeiriant afon;
Un gron, gau, a brau lun bron,
A chwaer drych yw ar drochion.


CYSGOD

Cysgod mewn ffurf ac osgedd—a welir
Lle bo golau glanwedd;
Yn ddelw wag, eiddil wedd,
Yn selog ddilyn sylwedd.


YR OLWYNFARCH

Un hwylus iawn i liaws yw,—hoywaf
Farch haearn diystryw;
Ar redeg campwr ydyw,
Amharcha barch y meirch byw.



YMHOLIAD

Ar y tes, pa sut 'r wyt ti—Ioan hoff,
Nid yw'n hawdd dal ati;
Yng ngwres haf fe fyddaf fi
Led-dueddol i doddi.



Y PIGWR LLOGELLAU

O ran gwisg ni bu'r un gwell—ei olwg,
Ond gwylier ei ddichell;
Mae'i fryd fel barcud, o bell,
A'i lygaid ar ryw logell.



Y PENBOETHYN

Dyma dad diwygiadau—yr oesoedd
Gyda'i wresog eiriau;
Hebddo ef ni byddai hau
Na wedyn fedi'r cnydau.


Y meddyg mwya' addas—yw, egyr
Lygaid dwl cymdeithas;
Gall hwn drosi culni cas
Y dyn oer yn dân eirias.


Y DIWYD

At y gloch trwy wynt a glaw—â efô,
Hoffa fod yn flaenllaw;
A thrwy orchwyl ei ddwylaw
O Ias o rwd nid ysa'i raw.



ADRE'N FYW

Wedi'r hir fod ar wahân,—adre'n fyw
O'r drin fawr doist, Ifan;
Heb glwy' na gwall, doist allan
Yn llaw Duw o'r llinell dân.



DYN DALL

Llwyr ddu i'r dall yw'r huan,—un nos hir
Yw einioes hwn, druan;
Er golau rhydd, dydd neu dân,
'Wel o mohono'i hunan.



CARDOTYN AMDDIFAD

Drwy fyd drwg o dref i dref—y symud
Mewn siomiant heb gartref;
Edrych fel deilen Hydref,
Yn wael, grin, dan awel gref.


BYWYD YR ESCIMO

O'n tu ôl mewn tawelwch—ar oerion
Fawr crwau'r diffeithwch,
Trig o gri trueni trwch
Gwareiddiad, mewn gwir heddwch.

Gwell na mur o ddur nawdd ywiâ caled
Rhag gelyn a'i ddistryw;
Ni all llaw wan yr annuw
Agor dór o gread Duw.

Yma o dwrw moduron—a thrên,
A thrwst a wna dynion;
Yn y llwch fe gân yn llon
Ryw alaw i'r awelon.

Byw yn rhad mewn caban rhew—y mae o
Heb dân, na mwg dudew;
A'i wisg fel cath neu bathew
O eirwon blaengrwyn a blew.

Ym mharlwr dwfn y morlo—y rhwyda
Bob creadur fedro;
Mwy o werth gan Escimô
Gig gwyn heb ei goginio.

Awr ei eni, ar unwaith—garw iâ
Fydd ei grud amherffaith;
A phan dynn at ffin ei daith
Ei wely fydd rhew eilwaith.


Y LLUSERN (1)

Yn fy llaw pan na fo lleuad,—llesol
Yw llusern i'm galwad;
A'i golau rhydd eglurhad
Yn lle, obry, bo'n llwybrad.

Buddiol ar hwyrol oriau—yw llusern,
A llesol i'n camau;
Dros y tir awn heb dristau
Heb ing, a heibio'i angau.


Y LLUSERN (2)

Llyw siriol a llaw-seren—yw llusern,
A llesol ei diben;
Pan ddaw'r nos, pan ddua'r nen,
Ei llewych a'n gwna'n llawen.



GOLAU TRYDAN

Olynydd i haul anian—a'i linach
Yw goleuni trydan;
Dunos drydd fel dydd a'i dân,
Ym mhen heol mae'n huan!



PRESEB BETHLEHEM

Wele adail ddi-oludoedd.—yma bu'r
Mab Bach ddaeth o'r nefoedd;
Crud i Aer y cread oedd,
A phreseb hoffa'r oesoedd.


HEN FWTHYN

Gwnaed ei raen fel maen mynor,—â golchiad
Y galchen anhepgor;
Fel eira nefol oror,
Fel oen Mai, fel ewyn môr.


YMSON YR ANGHENOG

O! fyd tost! beth a fwytâf?—mae eisiau
Ar ymosod arnaf;
Ofni'r gelyn newyn wnaf
Wrth weled y dorth olaf.



BUDRELWA

Anonest lwybr annynol—i olud
Yw budrelwa damniol;
A blyg i'r chwant—ffuant ffôl,—
Sydd ufudd was i ddiafol.



PULPUD HUW LLWYD

Colofnog graig a lyfnwyd—heb help dyn
Yw'r pulpud od briglwyd;
A hwn, wedyn, hynodwyd
Bro y Llan â bri Huw Llwyd.



Y DDEILEN GRIN (2)

Lanaf iach ddeilen fechan,—'r oedd ddoe'n werdd.
Heddiw'n wyw a thruan;
A delw yw ei hoedl wan
Ohonof fi fy hunan.


TANCHWA SENGHENYDD

Danchwa erch! dôi yn ei chôl—sydyn wŷs.
O dân ysol marwol;
Ow! dost drawiad distrywiol,
Galar hir glywir o'i hôl.

Yn y llosg genlli, esgud—'r oedd angau
Prudd ingol yn symud;
Byddin fawr i'w beddau'n fud
Anfonai mewn un funud.


CNU GWLAN

Irwyn dwf ar groen dafad,—ac yn glyd,
Yw cnu gwlân, trwy'i wead
Drosir yn dlws ei drwsiad.
I'w roi'n glog am werin gwlad.



Y MOELWYN

Os chwaon iachus chwenychwn,—i ael
Y Moelwyn esgynnwn;
Gyrru ffisig o'r ffasiwn.
Wnai byw yn hir ar ben hwn.



MYNWENT RAMOTH

Dyma gaer lle mae'r meirwon,—yn Ramoth,
Mewn rhwymau yn fudion;
Ond rywddydd deuant ryddion,
Yn dirf a hardd dorf o hon.


YR HIR WLYBANIAETH

Sŵn glaw bob noson glywaf;—yna'r dydd
Yn wir dost fe'i teimlaf;
A phruddglwyfus ofnus af,
Am ddilyw y meddyliaf.


CWYN Y DI-WAITH

Du ofid, heb waith dyfal,—ddaw arnaf
A'i ddyrnod ddiatal;
Heb log ceiniog i'm cynnal,
Diwrnod du fydd "Sadwrn tâl."



Y CYBYDD EITHAFOL

Hwn, hyd ei olaf hunell,—a gafodd
Ei gyfoeth trwy ddichell;
Gŵr yn wir a garai'n well
Lwgu ag aur i'w logell.



MYNEGBOST

Odiaethol nod i deithiwr,—sydd â'i fys
Ddi—feth gymwynaswr;
Ym min ffyrdd mae'n hyfforddwr,
Athro yw i ddieithr ŵr.



COFGOLOFN

Maen cofiant i blant yr hen blwy'—yw hon,
A'u hanes clodadwy;
Dwed am werth eu haberth hwy
I fyd, fydd fythgofiadwy.


Y DI-WAITH

Mintai lwydaidd mewn tlodi—heddiw sydd.
A phrudd sain yn soddi;
Ein Tad, ni all neb ond Ti
Atal cwyn teulu cyni.


LLONGAU AWYR

Yn nydd rhyfel a'i helynt—ar wib ânt
A gwae'r byw fo danynt;
Adar y diafol ydynt
Uwch y llawr ar erchyll hynt.



Y BEIBLGLUDYDD.

Dan ei "bwn" hyd wyneb byd—â'n wrol
At anwariaid enbyd;
A Dwyfol Air Duw, fel ŷd,
Fwria i'w duaf weryd.



DYN Y FFORDD FAWR

Dan y ddrycin erwinol,—ei flinwaith
A gyflawna'n siriol;
Ow! druan ar fudr heol
Efo'i raw a'i overall!



URDD GOBAITH CYMRU

Cwyno fu lawer canwaith,—o lwyr ofn,
Mai i lawr âi'r heniaith;
Ond difyr gweled afiaith
Blodau'r oes o blaid yr iaith.


ANWADALWCH

Niweidiol ac annedwydd—ei nwydau
Yw nodwedd y tywydd;
'Fory serchus, felys, fydd,
A draenog afrwydd drennydd.


DEWISOL FAN

Byw ar fin rhyw aber fach—hoffwn i,
A pha nef amgenach?
A llawenydd i'm llinach
Heb un ing, a phawb yn iach.



DANNEDD

Miniog gynion mewn genau,—yn gyfan
Gafwyd fore'n gyrfa;
A rhag colled i'r cylla
Noddi dyn mae dannedd da.



Y GORON DDRAIN

Coron oedd wawd ac arwydd—o dermau
Dirmyg at ein Harglwydd;
Ar ei ben, o sen i'w swydd,
Hi a roed, O! waradwydd!



ELUSEN

Gwir rodd ddwg trugaredd wen—heb ystŵr
Na bost yw elusen;
I rengau llu mawr angen
Rhed â bwyd daw rhaid i ben.


Y GROGLITH

Dyma ŵyl i'w hanwylo,—a'i chadw
Yn barchedig eto;
Y dydd hwn, cadwn mewn co'
Groeshoeliad y gwir Seilo.


DIWYGIAD

Dechrau haf gyda chrefydd—a egyr
Diwygiad trwy'n broydd;
Odlau'r genedl ar gynnydd,
A mawl saint yn amlhau sydd.



ARCHESGOB CYMRU

Unfryd o falch yw'n henfro—o wisgiad
Archesgob o Gymro;
Ar ei swydd mawrhad roes o,
A swydd addas oedd iddo.



GELERT

Arwr oedd o'r dewra'i ryw,—i hy flaidd
Fu leiddiad digyfryw;
Haeddol o glod yw heddiw,
Enw'i fedd a'i ceidw'n fyw.

I flaidd, efe fu leiddiad ;—i achub
Aer bychan bu'n geidwad;
Hir ddeil tafod traddodiad
Gi fu lew ar gof ei wlad!


EIFION WYN

Eifion Wyn â bufen iaith,—i'w genedl
A roes geinion perffaith;
Maes a Môr am oesau maith
Sai'n un o dlysau'n heniaith.

Fêl—awdur, dyma flodyn—ei genedl
Am geinion arobryn;
Braint fawrwerth fyddai perthyn
Dafn o waed i Eifion Wyn.


J.W. LLUNDAIN

Siôn Wiliam, mae sŵn wylo—yn y byd,
Ac mae'n boen ei wrando;
Daeth yr heldrin i'n blino,
Duw a'i gŵyr, mae'r byd o'i go',

Ystyriaf mai tosturi—a dwyster
Distaw ddylai'n sobri;
A thrwy boen a thrybini
Y lladdfa fawr, lleddf wyf fi.

Heb ryfel 'r oedd yn brafiach,—a byddwn,
Beiddiaf ddweud, yn llonnach;
I mi ni bydd hedd mwyach,
Heblaw bedd, "Jê Dybliw" bach.



BARDDAS WILIAM OERDDWR

Hael estyn inni lastwr—wna rhai beirdd,
Rhai bach mawr eu dwndwr;
Mae dilychwin win i ŵr
Ym marddas Wiliam Oerddwr.


CROESO GWIR

O dir y De dyro daith—i'n hannedd
Eto'n hoenus unwaith;
Ar ein haelwyd rhown eilwaith
Groeso gwir mewn gwresog iaith.

Yn ddi-os, os tros y traeth—y deui
I'r dawel gymdogaeth,
Cei fwyd llwy, cei yfed llaeth,
Lond dy wydryn, Glan Deudraeth.


OEDFA DDAU

Frawd mwyn 'r un fryd â minnau,—da chwi'n wir
Dowch un nawn i'm ffiniau;
Da fydd im gael "oedfa ddau'
Am orig rhwng fy muriau.



GWAHODDIAD I FRYFDIR

Ar hafdaith deuwch Fryfdir—ryw adeg
I rodio'r hen frodir;
Gan fy ngwraig saig orau'r sir
Yn rhwydd o'ch blaen a roddir.



GWAHODDIAD

Dowch gyda'r bardd i'r Arddu,—haws ydyw
Ar Sadwrn eich denu,
Os bydd y tywydd o'n tu
A'n hiechyd heb wanychu.


SIOMI CYFAILL

Torrais amod trwy siomi—hen gyfaill
Fu'n gofyn fy nghwmni;
Ond dyna'r gwir amdani,—
Y glaw mawr fu fagl i mi.

Rhy arw, ie, rhy erwin—i minnau
Oedd myned trwy'r ddrycin;
Tollaswn dorth 'r hen Orthin
Yn bur hael oni bai'r hin.


CAIS AM RODD

Yn unol â'th anianawd—haelionus,
Gyr eleni, gymrawd,
(Heb geisio brol na molawd)
Gant o lo i hogyn tlawd.



RHODD
(gan MR. J. LLOYD HUMPHREYS, U.H., o Destament
a fu'n eiddo i ferch y PARCH. RICHARD JONES, Y WERN)

Daeth o law rhoddwr llawen—ei roesaw
Drysor foddia f'angen;
A mawrhaf hoff lyfr mor hen,
Hyd arch, o barch i'w berchen.

I ddyn oedd anhaeddiannol,—a gwael iawn,
Dyma glennig buddiol;
Arbennig o dderbyniol,
Uwchlaw pris i ni sy'n ôl.


DIOLCH AM FENTHYG

Am y Llenor i'm llonni—fe yrraf
Eiriau diolch ichwi;
Fe fu darllen ei lenni
Yn falm iach—yn fêl i mi.


I GYFAILL

At yr haf dof i Trefor,—os hwylus,
Heliaf bres i'w hepgor;
Haul a mwyn awel y môr
Actiant yn well na doctor.



CYFARCHIAD CALAN 1933

"Blwyddyn gron o ddaioni "—yn uniawn
Onest genadwri
I ŵr o fardd yrraf fi
Yn galonnog eleni.



ENGLYNWR

(R. J. ROBERTS, TANYRALLT)
Rhwyddineb i farddoni—yn gynnar
Sy gennych chwi, Bobi;
Gwn fod yr oes sy'n codi
Yn falch iawn o un fel chwi.

Gwir yw y gair mai gŵr gwych—o luniwr
Ar englynion ydych;
Gwir geinion a geir gennych,
Nid y sâl sonedau sych.


FY MHROFIAD
(MEWN LLYTHYR AT R. J. ROBERTS)

Treiodd serch at yr awen, —a main yw
Gwneud dim newydd, fachgen;
A throi wnes at hanes hen,
Yfaf fwyfwy o'i hufen.

Llonnach wyf fel "darllenydd,"—heb roi job
R. J. bach i'm 'menydd;
A mwy o swyn i mi sydd
Yn awen y beirdd newydd.

Ymlonni am ddeugain mlynedd—y bûm,
Heb ball, â'r gynghanedd;
Yn awr heb ddim anwiredd.
Nid oes hwyl,—'r wy'n dewis hedd.

Wedi'r oed llawn direidi,—a blasus
Bleser cyfansoddi;
Ymhen sbel fe ddowch fel fi
Efo'r ddawn o farddoni.

1933.


CWPLEDAU

Gorchest dyfod o garchar,
'Choelia'i byth, a chael ei barch.

Gofid gaiff gŵr o gyfoeth
Fel y dyn sy'n adyn noeth.

Ar hyd ein hoes rhaid i ni
Dorri gwinedd drygioni.

Anghofir yr anghyfiawn.
O fewn oes yn fuan iawn.

Os diystyrais dosturi,
O! Dduw mawr, maddau i mi.

Nid yw dda caci nodwydd ddur
Neu edau heb wniadur.

Rhedynen sy'n rhodianna
Yn flin ei chwrs o flaen chwa.

Cas, wrth yfed, gweled gŵr
A'i glustiau yn y glastwr.

Dyma dri'n mynd am y dref,
A deudroed yn mynd adref!

I aros trên, o'r ystryd
Tro i mewn, mae tri munud.

Er yr haul, oer yw yr hin
Ym mharthau gwyllt Cwmorthin.

Di-wenwyn wneud daioni
Ar hyd eich oes 'r ydych chwi.

Dduw pob dawn rho law neu wlith
I egino y gwenith.


DIRYWIAD

Britho mae Ioan Brothen,—a gwaelu
Mae'r golwg mewn niwlen;
Dirywia blodau'r awen,
Oes y bardd sy'n nes i ben."

Anodd yw cynganeddu—yn union,
A henaint yn nesu;
Hen anian sy'n diflannu,
Gwir bwl yw, rhagor y bu.

Ac yr ydwyf yn credu,—fe weriais
F'oriau i rigymu;
Mwy o wledd fydd gemau lu
Y to ifanc sy'n tyfu.






BLAENAU FFESTINIOG:

J. D. DAVIES A'I GWMNI, ARGRAFFWYR

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwybedyn llwyd.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.