Llofrudd yn y Chwarel/Pennod II
| ← Llofrudd yn y Chwarel/Pennod I | Llofrudd yn y Chwarel gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod III → |
PENNOD II
CERDDODD Huw Llwyd yn gyflym ar hyd y llechwedd. Yr oedd gartref yn y mynydd ac yn hen gynefin â'i gerdded ar ei ben ei hun, ddydd a nos. Ond heddiw, am y tro cyntaf yn ei oes, teimlodd fath o anesmwythdra. Ni buasai yn cyfaddef fod arno ofn, ond eto buasai'n dda ganddo pe buasai ganddo gwmni neu pe buasai wedi dyfod â Pero'r ci defaid gydag ef. Methai ddyfalu sut y bu iddo anghofio Pero; y tebyg oedd ei fod mewn cymaint pryder ynghylch yr heffer werthfawr fel na chofiodd hyd yn oed am ei gi, y ci yr oedd mor falch ohono ac a oedd yn gymaint cyfaill iddo. Erbyn hyn yr oedd distawrwydd y mynydd wedi mynd yn feichus.
Wrth frasgamu i gyfeiriad Rhiw Goch a chilfach Llyn Hafren, dechreuodd Huw Llwyd feddwl am yr hyn a wyddai ac a glywsai am Jac Puw. Nid oedd y meddwl hwnnw yn hyfryd iawn. Gŵr a ddaeth i'r ardal yn gymharol ddiweddar, ynglŷn â rhyw waith, oedd Puw. Yn fuan iawn dechreuwyd ei amau ynglŷn â'r lladrata a fu yn rhai o'r ffermydd. Ni allai neb brofi dim pendant, ond yr oedd y sibrydion ar led yn dew ac yn denau. Mewn un achos yr oedd y lleidr—pwy bynnag oedd—wedi torri i dŷ unig yng Nghwm Pen 'Rallt ac wedi hanner lladd yr hen wraig a oedd yno yn byw ar ei phen ei hun. Pan ddaeth honno ati ei hun ni allai fynd ar ei llw mai Puw a fu yno, ond yr oedd yn amau hynny. Y diwedd fu iddo gael ei ddal un noson gan un ffarmwr, sef William Morgan, a oedd, gyda'i ddau was, yn gwylio, ac yn yr ymdrech i ddianc saethodd Puw William Morgan. Ond yr oedd y ddau was wedi ei adnabod y tro hwn, rhoddwyd y plismyn ar ei drywydd a daliwyd ef yn fuan iawn ar ôl iddo ddianc o'r ardal. Bu o flaen yr ynadon a bwriwyd ei achos i'r frawdlys, ond llwyddodd i gael ei draed yn rhydd, fel y dywedodd Aubrey. "Ac yn awr," meddai Huw Llwyd wrtho'i hun, yn bur anesmwyth, "y mae yn crwydro yn rhywle ar y mynyddoedd yma ac yn ffyrnicach nag erioed, y mae'n sicr."
Bu bron iddo anghofio am yr heffer las wrth feddwl am y llofrudd, ond bob hyn a hyn safodd i edrych trwy'r gwydrau rhag ofn ei bod yn y golwg yn rhywle. Nid oedd yr olygfa mor eang o'r fan lle'r oedd yn awr ag o ben Crib y Rhiw; yr oedd y cwm yn culhau a'r bryniau fel pe'n cau amdano. Ar un ochr yr oedd rhesi o glogwyni, heb fod yn uchel iawn ond yn ddigon serth i wneud diwedd ar ddyn neu anifail a syrthiai drostynt. Ar yr ochr arall yr oedd y moelydd yn llyfn ac yr oedd yn hawdd gweled popeth a oedd ar hyd eu llethrau. Defaid oedd yno gan mwyaf, gydag ambell geffyl a fu allan mor hir nes mynd yn wyllt i bob pwrpas. Edrychai Huw Llwyd yn graff ar y rhai hynny; gwyddai y gallai ambell geffyl fod yn beryglus o dan amgylchiadau felly. Ychydig iawn o wartheg a oedd yn y golwg, a gwyddai yntau gwartheg pwy oeddynt. Nid oedd yr heffer las yn eu plith.
Cyn bo hir daeth at le ar y llechwedd a oedd wedi ei gau i mewn—neu esgus o'i gau—oddi wrth weddill yr ochr. Yr oedd y pyst coed yn hen, a'u hanner wedi pydru, ac yr oedd llawn cymaint o'r gwifrau a oedd rhyngddynt yn gorwedd ar lawr ag a oedd yn parhau i wneud rhyw fath o ffens o gwmpas y llecyn. Yn y canol tyfai anialwch o redyn a brysglwyn, digon o ddrysi i guddio'r twll dwfn, gydag ochrau o graig serth, a oedd yno. Gwyddai Huw Llwyd yn dda am y lle er na bu yno ers blynyddoedd; un o dyllau hen chwarel Bwlch Glas oedd yno. O ran ymyrraeth taflodd garreg iddo, ac arswydodd wrth ei chlywed yn disgyn i'r dyfnderoedd du ac i ddŵr yn y diwedd.
"Y mae'r lle yma yn rhy beryglus i anifeiliaid," meddai, "ac i ddynion hefyd, o ran hynny. Pe buasai rhywun ar goll yma yn y nos gallai fynd i lawr yn ddigon hawdd—a pheth ofnadwy fuasai hynny. Mi ddylai'r Cyngor Plwy wneud gwell diogelwch o gwmpas y lle."
Beth bynnag am hynny, nid oedd yr un arwydd fod yr heffer las na'r un anifail arall wedi bod ar gyfyl y lle. Y mae gan y rhan fwyaf o greaduriaid direswm ryw reddf a'u ceidw rhag mynd i beryglon felly.
Daliodd Huw Llwyd i gerdded ymlaen nes dyfod at le gwlyb ar y llechwedd ac at ddisgyniad pur serth i hafn ddofn y Bwlch Glas. Yr oedd y ddaear yn gorsiog dan ei draed, a sylwodd, fel yr oedd yn disgyn, fod y pridd yn goch fel y bydd lle bo gwartheg wedi bod yn tramwy.
"Tybed," meddai wrtho'i hun, "fod gwartheg Llwynfryn yn mynd y ffordd yma?" Ac yna, cyn iddo orffen gofyn y cwestiwn iddo'i hun, safodd yn sydyn, gan rythu ar y tir gwlyb o'i flaen. Yr oedd ôl traed buwch yn glir yn y mwd yn y fan honno, weithiau yn llithro, a thro arall yn hollol glir fel pe buasai wedi cerdded yn sicr ei cham ar y disgyniad. Gwyddai Huw Llwyd yn eithaf da fod ugeiniau o wartheg ar y mynyddoedd o'i gwmpas; gwyddai hefyd fod gwartheg Llwynfryn yn eu cynefin yn y fan honno. Ond gwyddai hefyd nad oedd yr un fuwch na heffer nac eidion glas ymhlith gwartheg Llwynfryn, ac yn y mwd o'i flaen yr oedd tusw o flew glas.
"Blew oddi ar yr heffer las, mi gymra fy llw," meddai wrtho'i hun. Sut yn y byd mawr y daeth hi i le fel hyn?"
'Doedd dim rhyfedd ei fod yn gofyn; prin y buasai neb yn disgwyl i'r anifail mwyaf barus droedio ar hyd y llechwedd hwnnw. Yr oedd yn wlyb ac yn serth, ond heblaw hynny nid oedd yn arwain i le a fuasai'n debyg o ddenu anifail. Yr oedd y mynydd-dir agored fel pe'n darfod ar ael y rhiw; wedyn yr oedd yno nifer o glogwyni heb fod yn fawr nac yn uchel ond yn ddigon o ddisgyniad i'w gwneud yn amhosibl i fuwch, na hyd yn oed ddafad, eu tramwy. Yn y gwaelod yr oedd hafn gul a dofn y Bwlch Glas. Tyfai ychydig goed yn y fan honno, coed criafol a chyll a drain yn bennaf, fel na ellid gweled llawr yr hafn o'r lle yr oedd Huw Llwyd. A'r ochr draw i'r nant, ar wyneb y bryn gyferbyn, yr oedd hen chwarel Bwlch Glas a'i thomennydd rwbel a oedd yn dechrau tyfu'n rhedyn ac yn frysglwyn erbyn hyn.
Gwyddai Huw Llwyd nad oedd yno fawr o damaid i anifail o gwmpas y chwarel, ac nad oedd yn hawdd iawn myned o'r hafn unwaith yr eid yno ond ar hyd hen inclên y chwarel, ac yr oedd honno weithian yn malurio a braidd yn beryglus i'w cherdded. Yr oedd yno hen lwybr, hefyd, ond ychydig iawn o dramwy a oedd ar hwnnw. Ond yr oedd yn sicr yn ei feddwl ei hun mai blew yr heffer goll a welai wrth ei draed yn y mwd a phenderfynodd nad oedd dim i'w wneud ond dilyn y trywydd.
Aeth yn ei flaen yn ofalus, a sylwodd fod ôl traed yr heffer i'w weled o hyd, yn llithro weithiau ar le serth iawn ac yn gliriach dro arall. Unwaith safodd yn sydyn wrth dalcen un o'r clogwyni bychain a chraffodd ar y ddaear. Tybed ei fod wedi gweled ôl troed dyn yn y llaid? Nid oedd yn sicr; yr oedd llithriad yn y fan honno ac yr oedd yn anodd dywedyd. Ond tybiai fod yno ôl esgid, a gwasgodd ei wefusau.
"Tybed," meddai wrtho'i hun, "fod rhywun wedi ceisio ei dwyn?" Ond yr oedd yn adnabod ei gymdogion ar y mynydd bob un ac ni allai gredu y buasai'r un ohonynt yn gwneud peth o'r fath.
"Does dim i'w wneud," meddai, rhwng ei ddannedd, "ond mynd ymlaen bellach," ond gofidiai unwaith yn rhagor na buasai wedi dyfod â Pero gydag ef.
Gyda thipyn o ymdrech llwyddodd i gyrraedd gwaelod y nant yn ddiogel. Yr oedd ffrwd fechan yn rhedeg ar hyd y gwaelod ac yr oedd math o agoriad, prin y gallech ei alw yn llwybr, yn y coed. Yr oedd y ddaear yn feddal yn y fan honno hefyd, ac yr oedd ôl traed yr anifail yn myned ymlaen. Dilynodd Huw Llwyd ef, gan graffu ar dde ac ar aswy rhag ofn bod yr heffer wedi troi i'r coed yn rhywle. Ofnai, wedi gweled ei bod wedi dyfod i'r fath le, y gallai fod wedi torri ei choes ac yn methu dyfod oddi yno. Gwaeddodd "Drwi bach" unwaith neu ddwy ond nid oedd yno ddim i'w glywed ond y garreg ateb yn rhywle ar y llechwedd draw. Yr oedd rhyw ddistawrwydd trymllyd yn y lle, yn wahanol iawn i awel iach y mynydd agored. Yr oedd y ffrwd fechan yn sibrwd wrth fyned dros rwbel yr hen chwarel, ond dyna'r cwbl a glywai Huw Llwyd.
O'r diwedd daeth at ochr arall yr hafn ac at fan lle'r oedd y coed yn darfod a llanast rwbel y chwarel yn dechrau. Ac yno o'i flaen, fel genau ogof, yr oedd agoriad y lefel fawr, y twnel a dorrwyd dan y ddaear er mwyn cael at y llechfaen yng nghrombil y mynydd.
Nid oedd yn lle deniadol o lawer er ei fod yn dwnel uwch na'r cyffredin. Yr oedd yn dywyll i mewn; tyfasai rhedyn a grug o gwmpas yr agoriad gan gadw'r golau rhag cyrraedd ymhell i'r twll. Yr oedd y rheiliau a fu gynt yn gwneud ffordd haearn i'r gwagenni wedi hen rydu, y coed oddi tanynt wedi pydru a malurio, a'r rheiliau eu hunain wedi eu llusgo o'u lle. Yr oedd dŵr yn diferu o ben yr agoriad ac yn casglu yn byllau ar y llawr rhwng y rheiliau, a meddyliai Huw Llwyd mai sŵn annifyr oedd sŵn y defni.
Edrychodd o'i gwmpas. Methai weled unrhyw ffordd y gallasai'r heffer fod wedi troi o'r nant ond ar hyd y ffordd y daeth neu ar hyd yr hen inclên. Penderfynodd gael golwg ar honno a gwthiodd trwy'r rhedyn a'r danadl poethion nes cyrraedd brig yr inclên yng ngenau'r hafn. Yr oedd honno yn syth ac yn arw, ac er ei bod yn ffordd i gyrraedd y mynydd agored islaw yr oedd yn anodd credu y buasai'r un creadur wedi ei mentro.
"Fentrodd hi erioed mono fo," meddai Huw Llwyd, wrtho'i hun, "os nad oedd rhywbeth ar i hôl hi—ac o ran hynny, 'does yma ddim o'i hôl hi, chwaith. 'Does dim golwg fod dyn nac anifail wedi bod y ffordd yma ers talwm, os na bu ambell ddafad."
Trodd yn ei ôl yn siomedig a daeth drachefn at enau'r lefel. Ac yna, o'r tywyllwch o'i flaen yn y lefel dyna sŵn a wnaeth iddo sefyll yn sydyn, fel delw. Amheuai ei glustiau ei hun, ond, ar hynny, dyna'r sŵn drachefn, ac nid oedd fodd amau y tro hwnnw. Bref buwch oedd—bref yn dyfod o dywyllwch yr ogof o'i flaen ac yn diasbedain yn y gwagle. Yr oedd Huw Llwyd yn gynefin â chlywed gwartheg yn brefu, a gwyddai fod nodau gwahanol yn y brefu weithiau. Yr oedd un nodyn pan frefai buwch am ei llo, ac un arall pan alwai eidion am ei fwyd, ac un arall drachefn gan wartheg mewn lle dieithr ac yn anesmwyth eu byd. Yr oedd yn bur sicr mai'r nodyn olaf a oedd yn y fref a ddaeth o'r ogof. Yr oedd yr heffer, os hi oedd yno, wedi dychrynu.
Beth oedd i'w wneud? Am eiliad petrusodd Huw Llwyd, gan ofyn iddo ef ei hun a fuasai'n well iddo fynd adref i gael dau o'r gweision i ddyfod gydag ef a chael y ci i'w gynorthwyo. Ond cofiodd y byddai'n nosi cyn bo hir ac y byddai'n rhaid iddo adael y creadur yno tan y bore. Cofiodd hefyd am y pris mawr a roddodd am yr heffer ac am y golled pe buasai yn marw, ond, chwarae teg iddo, y peth pennaf ar ei feddwl oedd y gallai yr heffer fod mewn poen neu enbydrwydd, ac yr oedd Huw Llwyd yn ŵr caredig wrth anifeiliaid. Penderfynodd fyned i'r lefel i weled beth a oedd wedi digwydd. Ond i ddechrau gwaeddodd "Drwi bach " un waith neu ddwy yng ngheg y lefel, ac unwaith tybiodd ei fod yn clywed sŵn fel pe buasai'r creadur yn dechrau brefu ac wedi peidio yn sydyn. Ond ni ddigwyddodd dim.
"Waeth imi i mentro hi'n fuan fwy nag yn hwyr", meddai, a chamodd trwy'r dŵr a oedd yng ngheg yr ogof ac i mewn i'r lle tywyll. Dychrynodd braidd pan ddaeth haid o ryw bethau i'w wyneb, ond deallodd yn y fan mai wedi aflonyddu ar ystlumod yr oedd. Nid yw ystlum yn greadur dymunol iawn ar y gorau, pan fydd yn ehedeg yn ôl a blaen yn yr ardd yn y gwyll, er enghraifft, ond yn y lle hwnnw yr oedd dwsin neu ddau ohonynt, yn taro yn ei ben a'i wyneb, yn bla, ym marn Huw Llwyd. Cyn pen hir gwelai ddau bwynt o dân yn y tywyllwch, ond yr oedd yn ddigon cynefin, fel pob ffarmwr arall, â pheth felly, a gwyddai mai llygoden fawr oedd yno ac nid oedd waeth ganddo am lygod mawr. Yr oedd yn dda hynny, canys cyn ei fod wedi cerdded ychydig lathenni ymhellach yr oedd yn amlwg fod yno heidiau ohonynt, yn rhedeg ar draws ei draed ac yn gwichian yn ffyrnig pan drawai un ohonynt â'i ffon.
Yr oedd un peth yn ddirgelwch iddo, er mor gynefin oedd â llygod. Buasai'n disgwyl iddynt ffoi rhagddo am noddfa ymhellach i mewn yn y lefel, ond dyfod i'w gyfarfod yr oeddynt. Tybiodd am foment eu bod am ymosod arno, canys gwna llygod mawr hynny weithiau os byddant wedi dychrynu digon, ond yr oedd yn amlwg nad dyna oedd eu hamcan. Yr oeddynt yn myned heibio iddo tua cheg y lefel a'r awyr agored, a phenderfynodd fod yn rhaid nad oedd y lefel yn rhedeg ymhellach ac na allent ddianc wrth redeg o'i flaen.
"Ond os felly," meddai, yn sefyll yn sydyn, ydi'r lefel yn darfod ymhen ychydig lathenni, ymh'le ar wyneb y ddaear—neu o dan y ddaear, o ran hynny—y mae'r heffer? 'Does dim dwywaith na chlywais i hi yn brefu. Dratia'r hen lygod yma!"
Cerddodd ymlaen yn ofalus iawn; gwyddai rywbeth am chwareli dan y ddaear, a gwyddai fod tyllau dyfnion weithiau ar lwybrau fel yr un y cerddai ef ar hyd-ddo. Teimlai'r ffordd yn ofalus â'i ffon; trawodd ei ben yn y graig unwaith mewn lle isel ac yr oedd bron â thorri ei galon a throi'n ôl pan sylwodd fod y tywyllwch yn ysgafnu peth. A chyda hynny gwelai lwyd olau draw o'i flaen. Daliodd i gerdded. Yr oedd y llygod wedi darfod erbyn hyn, ond yr oedd yn parhau i ddeffro ystlumod o hyd ac yr oedd eu haroglau trymllyd yn ei ffroenau. Yr oedd y graig dan ei draed yn weddol sych yn awr, ac yn y man daeth yn ddigon golau, er na welai eto o ba le y deuai'r goleuni, iddo weled yr hen reiliau rhydlyd a'r slipars pydredig wrth ei draed. Safodd i wrando yn awr ac yn y man, ond nid oedd sŵn i'w glywed yn unman ond sŵn dŵr yn disgyn yn araf ac yn gyson yn rhywle o'i flaen.
Yn sydyn, disgynnodd carreg wrth ei droed, darn hir a phigfain o lechfaen. Digwyddodd y peth mor sydyn fel nad oedd yn sicr iawn sut y bu. Teimlai fel pe buasai'r garreg, fel y llygod, wedi dyfod i'w wyneb o rywle, os nad oedd hefyd wedi ei gyffwrdd ar ei ysgwydd.
"Ond 'dall hynny ddim bod," meddai wrtho'i hun. "Tydi darnau o lechi fel hyn ddim yn 'hedeg fel yr hen 'stlumod yma. Y mae'n rhaid fy mod i wedi'i tharo hi efo'r ffon." Ond er ceisio ei berswadio ei hun, teimlai braidd yn anesmwyth. Yr oedd yn gas ganddo fod dan y ddaear bob amser, ac ni buasai dim ond pryder am yr heffer wedi myned ag ef i le o'r fath yn awr. Ond yr oedd Huw Llwyd yn ŵr penderfynol, ac er ei fod yn teimlo'n anesmwyth, heb wybod yn iawn paham, ymlaen yr aeth tua'r goleuni gwan.
Ond yr oedd yn cerdded yn fwy gwyliadwrus nag erioed erbyn hyn. Nid oedd yn hoffi digwyddiad y garreg ac ni wyddai o ba le yr oedd y goleuni a oedd ymlaen yn dyfod. Mwy na hynny, ni chlywsai'r heffer yn brefu wedyn ac yr oedd yn dechrau amau erbyn hyn fod ei glust wedi ei dwyllo. Safodd i wrando drachefn. A oedd yn clywed rhywbeth? A fu rhyw sŵn ymhlith y llechi rhyddion o'i flaen yn rhywle? Ust! Daeth ias o ofn drosto, canys meddyliodd ei fod wedi clywed sŵn tebyg i sŵn troed yn y distawrwydd. Cofiodd yn sydyn am y llofrudd coll ac aeth yn anesmwyth iawn. Tybed fod hwnnw wedi cael cuddfan yn yr hen chwarel, ac yn ei wylio? Penderfynodd mai'r peth doethaf fyddai troi'n ôl a gadael llonydd i'r heffer tan drannoeth, ond meddyliodd wedyn y byddai'n well myned cyn belled â'r golau. Hwyrach fod agoriad arall allan o'r chwarel ymlaen a bod yr heffer wedi dyfod o hyd iddo.
Erbyn hyn nid oedd y ffordd at y lle goleuach yn hir. Aeth ymlaen yn ofalus iawn, ac ar ôl cerdded rhyw ddegllath arall fe'i cafodd ei hun mewn lle agored, fel twll mawr yn y graig. Yr oedd y lefel wedi darfod a medrai Huw Llwyd sefyll yn syth. Ymhell uwch ei ben yr oedd yr awyr i'w gweled fel darn glas, crwn, mewn ffram o redyn a mangoed, ac wrth weled hynny sylweddolodd ymh'le yr oedd. Yr oedd wedi cerdded i waelod yr hen dwll chwarel y bu'n taflu carreg iddo ar ochr y mynydd gynnau. Yr oedd yr agoriad ar lechwedd y mynydd, droedfeddi lawer uwch ei ben. Trwy hwnnw y deuai'r golau.
Cofiodd Huw Llwyd am y sŵn dŵr a glywsai pan daflodd garreg i'r twll. Edrychodd, ac arswydodd braidd. Nid oedd y fan lle'r oedd ef ond math o silff lydan ac yr oedd twll dyfnach o lawer yn agor yn y canol yn union o dan yr agoriad yn ochr y mynydd y deuai'r goleuni trwyddo. Camodd Huw Llwyd yn ofalus at ochr y twll. Yr oedd yr ochrau wedi eu torri yn y graig ac yn disgyn yn syth. Ac yno, gryn ddwylath i lawr, yr oedd llyn dulas, llonydd; pe buasai rhywun yn disgyn dros yr ymyl buasai'n disgyn yn syth i'r dyfroedd bygythiol hynny. Gwyddai Huw Llwyd rywbeth am dyllau chwarel; gwyddai ei bod yn debyg fod y twll hwnnw yn myned yn ddwfn iawn ac arswydai wrth feddwl am ddyfnder y llyn llonydd, annymunol. I hwnnw yr oedd y garreg a daflasai ar ochr y mynydd wedi disgyn.
Ond nid oedd y llyn yn llond yr ystafell yn y graig. O gwmpas y twll lle'r oedd y dwfr gadawyd astell o graig. Yr oedd tua llathen o led mewn rhai mannau, ond yn gulach o gryn lawer na hynny mewn lleoedd eraill. Yr oedd y graig fel pe wedi gwisgo a threulio yn ambell fan, a'r cerrig rhyddion ar y mannau hynny fel pe ar ddisgyn i'r llyn. Yr ochr arall i'r llyn yr oedd lefel ac olion hen reiliau. Yr oedd yn amlwg fod y chwarel yn myned ymlaen ymhellach i grombil y mynydd.
Methai Huw Llwyd â gwybod yn iawn pa beth i'w wneud. Nid oedd yn hoffi lle'r oedd, ac yr oedd yn hoffi llai arno ar ôl gweled y llyn. Yr oedd yn tynnu ymlaen ar y dydd hefyd ac ni fynnai gael ei ddal gan y nos mewn lle felly. Ac ni welsai olwg ar yr heffer nac ar yr un creadur arall. Bron na chredai erbyn hyn fod ei glust wedi ei dwyllo pan feddyliodd iddo glywed y brefu wrth geg yr ogof.
"Sut yn y byd," meddai, "y buaswn i yn clywed yr heffer yn brefu hyd yn oed o'r fan yma? Ac y mae'n amlwg ei bod hi wedi mynd ymhellach na hyn—os oedd hi yma o gwbwl. Y mae'n anodd iawn credu fod yr heffer las wedi mynd heibio'r hen lyn yma. Tybed ei bod hi wedi llithro i'r dŵr wrth dreio myned ar hyd y silff yna?"
Aeth ymlaen at y fan lle'r oedd y silff letaf, a chraffodd. Tybiai ei fod yn gweled ôl rhywbeth ar y cerrig, ond yr oedd yn amhosibl bod yn sicr. Ac yna clywodd sŵn. Cyn hynny yr oedd y lle yn drymllyd o ddistaw ag eithrio sŵn annifyr dŵr yn disgyn o do'r lefel draw, ond y tro hwn yr oedd Huw Llwyd yn hollol sicr nad oedd ei glust yn ei dwyllo. Yr oedd y sŵn yn union o'i flaen, yn rhywle yn nhywyllwch y lefel yr ochr draw i'r llyn. A chredai mai ochenaid drom creadur mewn poen ydoedd.
Yr oedd hynny yn ddigon i Huw Llwyd. Er cased ganddo'r siwrnai, penderfynodd weled drosto'i hun beth oedd yn y lefel. Edrychodd tua'r agoriad uwch ei ben; yr oedd tipyn o oleuni o hyd, er bod yr haul wedi cilio oddi ar y rhedyn ar hyd ymyl y twll. Dewisodd y fan lle'r oedd y llwybr heibio i'r llyn letaf ac wedi treulio leiaf, a chychwynnodd. Ar un ochr iddo yr oedd y graig noeth. Ar yr ochr arall yr oedd disgyniad syth y twll chwarel i ddyfroedd dulas y llyn.