Llofrudd yn y Chwarel/Pennod VI
| ← Pennod V | Llofrudd yn y Chwarel gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod VII → |
PENNOD VI
DEFFRODD Huw Llwyd yn sydyn, ac am eiliad methai yn lân ddeall pa le yr oedd na pha beth a ddigwyddodd. Yr oedd ei holl gorff yn flinedig ac yn anafus ac yr oedd yn oer iawn. Yna cofiodd ei fod yn y chwarel o hyd, ei fod wedi cysgu ar astell y graig, a bod Jac Puw yn rhywle heb fod ymhell. Yr oedd yn dywyll o hyd, ond tybiai fod llwydni gwan yn y twll uchel ymhen y siambr, arwydd, efallai, fod y nos yn myned heibio. Gwrandawodd. Yr oedd y lle fel y bedd.
Na. Neidiodd Huw Llwyd ar ei draed, yn ddigon effro erbyn hyn. Yr oedd sŵn, a hwnnw yn sŵn yn ei ymyl. Yr oedd yn anodd ei leoli ac yn anodd hefyd gwybod pa beth ydoedd. Nid oedd dim i'w wneud ond aros yn ei unfan, gan fod yn barod am rywbeth a ddigwyddai. Yr oedd yn wan o eisiau bwyd, ond gwyddai y gallai ei fywyd ddibynnu ar iddo fod yn barod yn awr i wrthsefyll ymosodiad.
Daeth y sŵn drachefn, ac er ei syndod, deallodd yn awr mai sŵn dŵr ydoedd. Yr oedd rhywbeth yn symud yn y llyn. Nid oedd Huw Llwyd yn meddu ar ddychymyg byw iawn, ac nid oedd yn ŵr ofnus, ychwaith, ond daeth ias o fraw drosto wrth glywed y sŵn hwnnw. Tybed fod rhyw anghenfil yn llochesu ym merddwr y chwarel? Clywsai hen straeon am bethau felly, a daeth y rhai hynny yn ôl i'w feddwl yn awr. Gafaelodd yn ei ffon, a hiraethodd am olau dydd.
Nid oedd amheuaeth nad oedd yno rywbeth yn y llyn. Yr oedd y sŵn yn glir, ac yn agosáu. Ac yna, pan oedd Huw Llwyd ar fin mentro at ymyl y graig i geisio gweled beth oedd yno dyna dwrw rhywbeth fel pe'n ymgripio i'r graig o'r dŵr. A'r munud hwnnw sylweddolodd Huw Llwyd beth a oedd yn digwydd, a chamodd yn ôl i geg y lefel. Gwyddai i sicrwydd fod Jac Puw wedi nofio'r llyn a'i fod yn crafangu o'r dŵr ar yr ochr lle'r oedd yntau yn sefyll. Cofiodd am y gyllell a welodd yn llaw'r llofrudd, ac nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth nad dyfod yno i'w ladd a wnaeth yr adyn. Pa beth arall a allasai ei gymhell i nofio'r llyn a mentro ei fywyd ei hun? Trodd Huw Llwyd, a cherddodd ymhellach i mewn i'r lefel. Yr oedd yn dywyll iawn yn y fan honno, ond daliai ei law ar y graig wrth ei ochr, ac er bod y llwybr yn arw iawn, ac yn gul iawn llwyddodd i gerdded ymlaen am amryw lathenni. Ac yna baglodd ar draws rhywbeth, a syrthiodd ar ei wyneb.
Estynnodd ei ddwylo i'w arbed ei hun a theimlodd ei law chwith, a ddaliasai ar y graig, yn myned i wagle. Tybed fod yno agoriad arall ? Gwrandawodd am eiliad. Nid oedd yn clywed sŵn neb yn dyfod o'i ôl. Yna teimlodd am yr agoriad yn ofalus. Oedd, yr oedd yno rywbeth fel agoriad i lefel arall yn y graig, ac erbyn hyn nid oedd waeth gan Huw Llwyd mo'r llawer pa berygl a oedd yn ei aros yn y lle hwnnw os medrai fyned oddi ar ffordd y llofrudd. Ymgripiodd ar hyd y graig fel yr oedd, heb godi, ac fe'i cafodd ei hun, fel y tybiai, mewn lefel isel, arw, rhy isel o lawer iddo allu sefyll yn syth ynddi. Yr oedd y llawr yn anwastad ac yn llaith, ond credai Huw Llwyd y byddai'r lle yn ddigon iddo ef lechu ynddo tra fyddai Jac Puw yn pasio ar ei drywydd. Prin y tybiai y gallai'r llofrudd amau ei fod yn gorwedd yn y fan honno.
Ac ar hynny, clywodd sŵn yn ei ymyl. Gwyddai pa beth ydoedd; yr oedd yn adnabod y sŵn bellach, sŵn esgidiau rhwber Jac Puw ar y graig. Yr oedd Jac Puw yn myned heibio i'w loches, a heb amau dim. Daliodd Huw Llwyd ei anadl. Credai, os methai Jac Puw a chael o hyd iddo y troai'n ôl a nofio'r llyn drachefn, a gadael y chwarel. Hyd yn oed wedyn byddai ei dynged ef yn un digon difrif. Ni allai nofio, ac os oedd y llofrudd wedi difetha'r llwybr cul ar hyd glan y pwll—ac yr oedd yn rhaid ei fod wedi gwneud hynny, onide ni buasai'n nofio'r merddwr—yr oedd Huw Llwyd mewn carchar mor gaeth nad oedd obaith iddo ddyfod ohono, os na feddyliai rhywun am chwilio amdano yn y chwarel.
"A phwy sydd yn debyg o wneud hynny ?" meddai wrtho'i hun. Ac yna, yn sydyn, cofiodd am y plismyn a welodd ar y mynydd, ac am y gŵr craff ei lygaid a alwodd yr Arolygydd yn Aubrey. "Yr oedd hwnnw wedi amau rhywbeth pan soniwyd am y chwarel," meddai Huw Llwyd. "Os gwn i ddaw o i chwilio am Jac Puw i'r fan yma? Ac os daw o—diaist i!" daeth y syniad mor sydyn iddo fel y dywedodd hyn yn uchel, Tybed eu bod nhw o gwmpas rwan? Hwyrach mai cuddio rhagddyn' nhw yr oedd Jac, ac nid dwad ar fy ôl i."
Daeth y syniad a chysur iddo. Ymgripiodd yn ofalus iawn allan o'r lefel isel a throdd yn ôl tuag ystafell y llyn du. Cerddodd yn ofalus iawn; gwrandawodd bob hyn a hyn, rhag ofn i Jac Puw ddyfod ar ei warthaf yn sydyn.
Tybiodd ei fod yn clywed sŵn o'i flaen, sŵn lleisiau yn cael ei gludo trwy wagle yr hen chwarel. A oedd yno oleuni? Safodd Huw Llwyd a gwylio. Oedd, nid oedd amheuaeth am y peth. Yr oedd golau i'w weled yn y tywyllwch o'i flaen. Anghofiodd ei ofal a chychwyn- nodd gerdded ymlaen. Ac ar hynny teimlodd rywbeth yn disgyn ar ei ben a gwelodd fellt tanbaid yn gwibio heibio i'w lygaid. Ac yna aeth popeth yn ddu, a disgynnodd Huw Llwyd yn swp diymadferth ar y graig. Nid oedd yn gweled nac yn clywed dim mwyach.
Yr oedd Jac Puw wedi myned heibio iddo yn ei loches yn y lefel isel heb ddeall ei fod yno. Ond clywodd smic o'i sŵn pan ddaeth allan o'r lefel a dilynodd ef yn ddistaw. Gwyddai Puw fod rhywun neu rywrai yn dyfod i mewn i'r chwarel; penderfynodd ddianc i guddfan yn y pen pellaf, ond gwyddai os deuai'r chwilwyr o hyd i Huw Llwyd y buasai hwnnw yn dywedyd wrthynt iddo ei weled ef yn y lle. Syniad Jac Puw oedd y gallai guddio rhag y plismyn, ac y byddai iddynt hwythau, wedi methu cael hyd iddo, benderfynu ei fod wedi mynd i rywle arall. Ond os byddai Huw Llwyd yn fyw i fradychu ei gyfrinach byddai ar ben arno. Felly yr oedd yn rhaid i Huw Llwyd beidio â bod yn fyw.
"Pe buaswn i'n medru'i gael o i'r llyn," meddai'r llofrudd wrtho'i hun, " dyna ddiwedd arno fo, a fyddai neb ddim doethach." Dechreuodd lusgo corff y ffarmwr ar hyd y graig, ond prin yr oedd wedi ei symud pan welodd y goleuni yn dyfod o'r twll mawr draw. Rhegodd, a gwrandawodd am funud. Nid oedd amheuaeth bellach. Yr oedd yn adnabod llais yr Arolygydd. Yr oedd y plismyn ar ei drywydd, ac nid oedd ganddo eiliad wrth gefn. Ofer bellach oedd meddwl am gael corff Huw Llwyd i'r llyn; yr oedd y plismyn wedi cyrraedd i'r fan honno, ac yr oedd eu lampau yn goleuo'r holl le. Ofnai y gallasai'r golau gyrraedd hyd at y fan lle safai ef yn y lefel, er y gwyddai, ac yr oedd yn ymfalchio wrth feddwl hynny, y byddai yn anodd iawn i'w erlidwyr groesi'r llyn heb wneud yr un peth ag a wnaeth yntau—ei nofio. 'Doedd dim amser i'w golli.
Gafaelodd yng nghorff diymadferth Huw Llwyd a llusgodd ef, cyn ddistawed ag y medrai, at enau'r lefel lle bu'r ffarmwr yn llochesu. Gwthiodd ef i mewn ; gwyddai am y lle, a gwyddai beth a oedd heb fod ymhell oddi wrth geg y lefel isel. Gwthiodd nes cael y corff tua dwylath oddi wrth yr agoriad. Yna rhoddodd un wth gref iddo, a disgynnodd Huw Llwyd i dwll a oedd yn llawr y lefel, o'r golwg.
Ni chan' nhw byth hyd iddo fo yn y fan yna," meddai Jac Puw, a throi yn ôl, ar flaenau ei draed, i'r lefel fwyaf, a cherdded, fel un a wyddai am bob cam o'r ffordd, yn ei flaen. Diflannodd heibio i dro yn y llwybr; gwyddai fod ysgwydd y graig yn ei guddio rhag y golau bellach. Gwyddai hefyd i ba le yr oedd yn bwriadu myned. Distawodd sŵn ysgafn ei wadnau rhwber ar y llawr craig. Yr oedd y lle yn hollol ddistaw, distawrwydd trwm, llethol lle a oedd ymhell o dan y ddaear a phwysau'r mynydd uwch ei ben.
Y peth cyntaf a welodd Aubrey a'r plismyn yn y chwarel oedd gweddillion yr heffer las. Yr oedd un olwg arnynt yn ddigon.
"Yr un crefftwr yn union ag a fu efo'r ddafad ar y Foel," meddai Bifan, a chytunodd Aubrey.
"Dyna a oedd arnoch chi ei ofn o'r dechrau, yntê ?" ychwanegai'r Arolygydd.
"Dwn i ddim sut na buaswn innau wedi meddwl am y peth. Ond yr wyf mor bryderus â chithau ynghylch Huw Llwyd erbyn hyn. Y mae arna'i ofn amdano."
"Y mae arnaf finnau ofn," meddai Aubrey yn ddifrifol. "Os ydi o yn y chwarel o gwbl, y mae mewn perygl mawr, os ydi o'n fyw. Mi wna Jac Puw rywbeth i drio osgoi'r crogbren bellach, ac y mae'n amlwg ei fod o'n greadur mentrus a medrus hefyd, yn ei ffordd."
Yr oeddynt wedi myned trwy'r agoriad cyntaf ac wedi cerdded heibio i'r llyn cyn dyfod at gorff yr heffer las. Yn awr daethant at yr ail siambr, ac at y llyn nad oedd ond un llwybr heibio iddo. Yr oedd yn goleuo y tu allan erbyn hyn, a rhwng y llwyd-wyll trwy'r twll uwchben a'u lampau hwy eu hunain yr oedd y plismyn yn medru gweled yr holl le. Yr oedd un olwg ar y merddwr yn ddigon i ddangos na ellid myned ymhellach y ffordd honno, ac yr oedd y bwlch yn y llwybr erbyn hyn yn gyfryw fel na ellid cerdded ar hyd yr astell o gwbl.
Edrychodd Aubrey ar ddyfroedd duon y llyn. "Gallai hwn guddio unrhyw gyfrinach," meddai, a gobeithio nad yw corff Huw Llwyd druan ynddo. Ond edrychwch," ychwanegai, gan bwyntio at yr ochr draw, "y mae'r graig yn wlyb yn y fan acw. Y mae rhywun wedi bod yna yn bur ddiweddar."
Yr oedd hynny yn amlwg, ond y cwestiwn mawr yn awr oedd mynd dros y llyn neu heibio iddo. Yr oedd Parry, y plisman a oedd gydag Aubrey a Bifan, wedi cerdded ar hyd yr astell cyn belled ag y medrai ac yn edrych y lle yn fanwl. Dyn ifanc, heini, oedd Parry, wedi bod ar gomando yn ystod y rhyfel, ac apeliai'r broblem ato ef. Teimlai hefyd y byddai yn farc o'i blaid pe gallai weled ffordd i bontio'r bwlch.
"Wel, Parry," meddai Bifan, welwch chi ryw ffordd i fynd heibio'r bwlch yna?"
Pe cawn i ddarn go hir o garreg, syr," oedd yr ateb, "rhywbeth fel darn o rwbel, goelia' i y gallwn i wneud rhywbeth."
Edrychodd pob un ohonynt o gwmpas. Yr oedd yno gryn lawer o ddarnau rhydd, ond dim un, ym marn Parry, yn ddigon hir at y pwrpas.
"Mi af allan efo Parry i chwilio am garreg yn y domen rwbel," meddai'r Sarjant. "Fyddwn ni fawr o dro."
"Dyna fyddai orau," meddai Bifan, ac aeth y ddau blisman yn ôl ar hyd y lefel, gan adael Aubrey a'r Arolygydd eu hunain yn ymyl y llyn.
Dechreuodd Aubrey gerdded o gwmpas, a chraffu ar y graig. Yr oedd honno wedi ei naddu a'i saethu flynyddoedd yn ôl ac yr oedd ôl yr ebillion arni o hyd. Ond ni thybiai Aubrey y medrai neb ei dringo heb gymorth ebillion a rhaffau. Trodd at yr Arolygydd.
"Meddwl yr oeddwn i," meddai, "y gallai Jac Puw fod wedi dringo ar hyd y graig i'r agoriad a mynd allan ar y mynydd. Ond ni fuasai'r un mwnci yn medru dringo hon, os nad oes yma hen ebillion wedi eu gadael. Y mae acw ddarn o gadwyn draw, ond y mae'n amheus gen i a fedrai rhywun ei gyrraedd."
Fedrwn i ddim, beth bynnag," meddai Bifan, gan edrych yn ddiflas braidd ar y graig a oedd yn gwyro uwch ei ben. "Dalla' i aros dringo, a 'tydw i'n hitio dim am fod o dan y ddaear, chwaith."
Rydw i o'r un farn â chi yn gymwys," meddai Aubrey, "ond dyna fel y mae hi. Y mae'n gwaith ni yn mynd â ni i bob man. Na, 'does yma ddim arwydd fod neb wedi medru dringo'r graig, ond y mae'n eglur fod rhywun wedi nofio'r llyn. Fedrai Huw Llwyd nofio, tybed?"
"A welsoch chi ffarmwr mynyddig a fedrai? meddai'r Arolygydd, gan chwerthin. "Ond y mae Jac Puw yn nofiwr, ac y mae'n bur siwr i chi mai fo a aeth ar draws yr hen lyn annymunol yma. Hyd yn oed pe bawn i yn nofiwr da, chymerwn i ddim llawer a cheisio mynd ar draws hwn."
"Na," " meddai Aubrey, "'tydi o ddim yn lle deniadol o lawer, ac y mae braidd yn sicr ei fod o'n ddyfn iawn hefyd. Felly y mae'r hen dyllau chwarel yma fel rheol. Ond dyma'r Sarjant a Parry yn dwad yn ôl."
Yr oedd y ddau yn cludo darn hir a thrwchus o lechfaen y cawsant hyd iddo yn y domen rwbel o'r tu allan. Yr oedd yn drwm, ac yr oedd yn gymaint ag a fedrai'r ddau ei wneud ei osod ar y bwlch yn y llwybr. Yr oedd Parry yn sionc ac yn ysgafn, a llwyddodd ef i groesi'r bwlch ar hyd-ddo a'i sadio yr ochr draw trwy osod cerrig llai o dan un pen iddo.
"Mae o'n eithaf saff yn awr, syr," meddai'r plisman ifanc. Edrychai'r Arolygydd yn lled amheus ar y lle, ond mentrodd ar draws y bwlch, gyda Parry yn gafael yn un pen i'r garreg. Sylwodd Aubrey nad oedd Bifan yn troi ei lygaid ar y llyn o gwbl, ac ni welai ddim bai arno am hynny. Cul iawn oedd y garreg i sefyll arni a dŵr y llyn yn edrych yn ddu iawn, ac yn agos iawn atynt. Ond croesodd y tri yn ddiogel, gan adael Parry i wylio'r lle rhag i rywbeth ddigwydd i'r garreg fel na allent groesi'n ôl. Yr oedd y Sarjant wedi dyfod ag automatic gydag ef, ac wedi cael gair â'r Arolygydd, estynnodd ef i Parry.
"Peidiwch â'i ddefnyddio os na bydd yn rhaid," meddai Bifan," ond peidiwch â gadael i Jac Puw ddianc eto. Wyddom ni ddim beth sydd ymlaen."
Aethant i mewn i'r lefel lle bu Huw Llwyd yn cysgu. Yr oedd eu lampau yn dangos popeth iddynt, ac yr oedd llygaid Aubrey a Bifan yn cyniwair i bobman. Gwelodd y ddau y peth yr un pryd â'i gilydd ar y llawr craig yr oedd cetyn pren â llawer o ôl smocio arno. Yr oedd wedi llosgi ar hyd un ochr i'r fowlen. Cododd yr Arolygydd ef.
"Gallwn feddwl fod rhywun wedi smocio hwn yn bur ddiweddar," meddai, gan guro tipyn o 'faco wedi hanner ei losgi ar gledr ei law. "Bron na ddwedwn i fod y llwch yma yn gynnes o hyd."
"Ni synnwn i ddim," meddai Aubrey, "ond mi allai hwnna fod yn eiddo i unrhyw un. Cadwch eich golwg ar y llawr yma i edrych a gawn ni hyd i rywbeth arall." A chyn gynted ag y dywedodd y geiriau dyna'r Sarjant yn rhedeg gam neu ddau o'u blaen ac yn codi blwch tybaco.
Dyma flwch 'baco Huw Llwyd, mi gymra fy llw," meddai. "Mi gwelais o yn ei law o lawer gwaith."
Edrychodd y plismyn ar ei gilydd. Gwyddent nad oedd ond un peth yn cyfrif paham yr oedd cetyn a blwch 'baco Huw Llwyd wedi disgyn o'i boced. Pe buasai wedi eu gollwng o'i law tebyg oedd y buasent yn daclus gyda'i gilydd ar lawr, ond yr oedd dwylath beth bynnag rhwng y lle yr oedd y cetyn a'r man y codwyd y blwch.
"Y mae'n rhaid ei fod wedi ei lusgo ar hyd y fan yma," meddai Bifan.
"Y mae ôl hynny ar y graig yn y fan hyn," meddai Aubrey. Yr oedd sgriffiadau ysgeifn ar y llawr yn y fan honno. Gallai llusgo corff dyn ar hyd y graig fod wedi gwneud marciau fel yna."
"Y mae yna geg lefel yn y fan yma, syr," meddai Sarjant Roberts. "A fyddai'n well imi ei hedrych?"
Yr oedd y lefel isel y llusgwyd Huw Llwyd iddi yn ymyl. Trodd Aubrey a'r Arolygydd eu lampau arni; yr oedd yn eglur mai lle cyfyng oedd yno, lefel, fel y dywedodd Sarjant Roberts, wedi hanner ei hagor ac wedi ei gadael heb ei chario ymhell. Ond yr oedd y sgriffiadau yn amlwg wrth yr agoriad; yr oedd yn rhaid ei chwilio.
"Cymerwch ofal," meddai Aubrey yn isel wrth y Sarjant. "Wyddom ni ddim pwy sydd yna." Yr oedd pob un ohonynt yn meddwl y gallai'r llofrudd fod yn llechu yno.
Trowyd y golau i mewn, ond nid oedd yno ddim i'w weled ond y graig noeth.
"Tydi hi ddim yn mynd ymhell, syr," meddai'r Sarjant. "'Rwy'n meddwl fy mod i'n cofio agor hon. Mae yna bant yn y gwaelod, os ydw i'n cofio'n iawn."
"I mewn â chi, ynteu, Roberts," meddai Bifan, gan ddal ei lamp fel ag i oleuo'r lefel i gyd, ac aeth y Sarjant i mewn ar ei grwcwd.
Ymhen ychydig eiliadau daeth ei lais yn ôl at y ddau swyddog.
"Y mae'r twll yma yn ddyfnach nag yr oeddwn i wedi meddwl," meddai. "Hylo, y mae yma rywbeth yma." Ac yna siaradodd yn gynhyrfus. "Inspector, fedrwch chi ddwad yma. Y mae Huw Llwyd yn y fan hyn!"
Aeth Bifan i mewn ar unwaith, ac wedi bwrw un olwg o'i gwmpas, gwyrodd Aubrey hefyd i ymgripio ar eu hôl orau y gallai. Yr oedd y lefel yn rhy gul iddynt sefyll ynddi ochr yn ochr, ond llwyddodd yr Arolygydd i gael lle wrth ochr y Sarjant ac edrych i lawr i'r twll. Nid oedd hwnnw ond tua llathen o ddyfnder, wedi ei dorri yn y graig fyw. Yno, yn llonydd, yr oedd Huw Llwyd. Trodd Bifan y lamp arno, ond er bod y golau yn gryf ni ddangosodd Huw Llwyd arwydd ei fod yn gwybod dim amdano.
"Ydi o wedi ei ladd?" meddai Bifan, yn bryderus. "Y mae ei galon yn dal i guro," meddai Aubrey, ond cafodd gnoc enbyd ar ei ben. Y mae'n syn ei fod yn fyw. Yn ara' deg, Sarjant; y mae'n rhaid bod yn ofalus iawn efo dyn wedi brifo ei ben fel yna."
Rhyngddynt llwyddasant i godi Huw Llwyd a'i osod yn dyner ar y llawr oer. Tynnodd yr Arolygydd ei gôt a gosododd hi dan ben y dyn diymadferth. Gwnaeth y Sarjant yr un peth â'i got yntau a thaenodd hi dros gorff Huw Llwyd.
'Y mae'n rhaid inni gael rhyw fath o glwyd i'w gario oddiyma," meddai Aubrey, "Ond fedrwn ni wneud dim nes cael y lleill i helpu—ac y mae'n rhaid inni orffen chwilio'r hen chwarel yma. Oes yma lawer ohoni hi eto, Sarjant Roberts?"
"Os ydw i'n cofio'n iawn," meddai'r Sarjant, "'rydan ni wedi mynd i'r pen draw bron. 'Does yna ddim ond rhyw ychydig lathenni eto."
"Wel, rhaid cerdded yn ofalus," meddai Aubrey yn isel. "Y mae pob llygoden yn beryglus pan fydd wedi mynd i'r pen arni. Yn araf yn awr, ac yn ddistaw.
Gadawyd Huw Llwyd yn gorwedd yn llonydd ar lawr y lefel fach ac aeth y tri allan i'r lefel fwy. Cerddasant ymlaen, Aubrey â'i wn yn ei law, yn barod am ymosodiad Jac Puw wedi cyrraedd pen ei dennyn. Yn sydyn, cyn bod Aubrey na Bifan yn disgwyl hynny, daethant wyneb yn wyneb â'r talcen craig. Yr oedd y lefel yn darfod mewn lle ychydig yn uwch na'r lefel ei hun. Yr oedd yn amlwg i'r cyfarwydd y bwriadwyd myned ymlaen rywdro, ond naill ai am fod y llechfaen wedi darfod neu am fod yr arian wedi darfod, ni wnaed hynny. Yr oedd hen Chwarel Bwlch Glas yn darfod yn y fan honno, yng nghrombil y mynydd.
Ac yr oedd y lle yn wag. Nid oedd yno olwg am neb.
Edrychodd y tri ar ei gilydd, ac yna ar y talcen craig. Ni allasai gwybedyn ddianc o'r fan honno. Nid oedd yno unrhyw fath o guddfan, na cheg lefel arall na thwll na llyn. Yr oedd y lle yn hollol wag. Os bu Jac Puw yno o gwbl nid oedd yno mwy.
"Y mae'n rhaid i fod o'n rhywle," meddai'r Arolygydd, ei wyneb yn cochi gan ddicter. "Yr oedd o yma pan ymosododd o ar Huw Llwyd, beth bynnag."
Tybed i fod wedi mynd allan o'r chwarel cyn i ni gyrraedd?" meddai Sarjant Roberts. "A gafodd o amser?"
"Digon prin," meddai Aubrey, "yn enwedig pan gofiwch chi ôl rhywun yn glanio yr ochr yma i'r hen lyn hwnnw. 'Rwy'n bur sicr nad Huw Llwyd a wnaeth hynny. Na, y mae'n rhaid ei fod wedi medru'n hosgoi ni rywsut neu'i gilydd. Y mae arnaf ofn ein bod wedi camfesur Jac Puw." Ac yna trawodd ei law ar ei glun yn sydyn. "Debyg iawn!" meddai yn uchel. "'Does dim dirgelwch yn y peth."
"'Rydach chi'n gweld ymhellach na fi os ydach chi'n deud peth felly," meddai'r Arolygydd, yn gwta. Beth sydd yn eich meddwl?"
"Dim ond hyn," meddai Aubrey yn dawel," ein bod ni ein tri wedi bod yn brysur yn codi Huw Llwyd am tua munud neu ddau, yn rhy brysur, 'rwy'n siwr i sylwi ar fawr ddim arall am hynny o amser. Ac mi allasai Jac Puw fod wedi mynd yn ôl ar hyd y lefel yn ein gwrthgefn ni yn ystod yr amser hwnnw yn ddigon hawdd."
"Mi fedrai, hefyd," meddai Sarjant Roberts, ag yntau efo gwadnau rhwber ar ei 'sgidiau."
"Ond os dyna wnaeth o," meddai Bifan, "I b'le'r aeth o? Y mae Parry yn gwylio wrth y llyn a Huws a Thomas wrth geg yr ogof. Fedrai o ddim dianc yn ei fyw."
"Y mae'n wir na allai o ddim dianc heibio i'r dynion heb i ni wybod am hynny," meddai Aubrey, "ond efallai ei fod o'n gwybod am ryw loches arall, a'i fod
Torrwyd ar draws geiriau Aubrey gan sŵn ergyd. Yn y lle cyfyng hwnnw o dan y ddaear yr oedd y sŵn fel sŵn ergyd magnel ond gwyddai pob un ohonynt beth ydoedd. Yr oedd Parry, y plisman a oedd yn gwylio wrth y llyn, wedi gweled rhywbeth, ac wedi tanio.