Llwyn Hudol/Hen Draddodiad
| ← Ebrill | Llwyn Hudol gan Hugh Emyr Davies (Emyr) |
Clychau'r Llyn → |
IV
HEN DRADDODIAD.
Ar fore Nadolig
Daeth Marchog glew,
I begwn y Gogledd
Dros feusydd rhew.
Ond gwelai greadur
Gresynus ei raen,
Yn eistedd ar glogwyn.
Rhewedig o'i flaen.
"Beth wyt," ebr y Marchog,
"Ai diafol ai dyn?"
"Myfi yw Iscariot,"
Attebai'r llûn!
"A mi yn ddisgybl
I'r Iuddew tlawd,
Gerddodd y ddaear
Yn Dduw mewn cnawd,
"Yn ninas Jericho
Rhag iâs yr hin,
Rhois fenthyg mantell
I grwydryn blin.
"A phan alltudiwyd
Fi'n fradwr gwyw
I'r tân aniffodd
Am werthu'm Duw.
"Medd Crist—'yn wobr
Am gofio'th frawd
Pan oedd y glasrew
Yn bwyta'i gnawd.'
"Unwaith bob blwyddyn
Cei ado'th gell,
A chrwydro i begwn.
Y Gogledd pell.'
"Cei leddfu'th boenau
Lliniaru'th blâ,
Yn oerni tragwyddol
Mynyddoedd iâ.'
'Daw bendith Nadolig
Drwy'r fantell lân,
Yn blygion rhyngot
A grym y tân.'"