Llwyn Hudol/Myfanwy Wynn
Gwedd
| ← Cyfrinach y Goedwig | Llwyn Hudol gan Hugh Emyr Davies (Emyr) |
Ysbryd Arthur → |
XXVII.
MYFANWY WYNN.
Mae'r bâd yn crynu ar y Llŷn,
A chryn fy nghalon innau,
Gan ofn na ddaw Myfanwy Wynn
I groesi 'r gleision donnau.
Mor hyfryd y mordwyem gynt,
A'r glaslyn yn breuddwydio,
Myfi yn rhwyfo 'r båd i'w hynt,
Myfanwy Wynn yn llywio.
Ond heno trymach yw y bâd,
A garwach yw y rhwyfau,
Rhyw alltud pell yw 'm cyn-fwynhâd,
Creulonnach yw y tonnau.
Mae pleser-fâd fy mywyd gwyn,
O wyll i wawr yn crwydro,
Heb nôd, na diben, am nad yw
Myfanwy Wynn yn llywio.