Llwyn Hudol/Y Groes
Gwedd
| ← Is yr Ywen | Llwyn Hudol gan Hugh Emyr Davies (Emyr) |
Siomiant → |
XII.
Y GROES.
Y GROES! arwyddlun melltith fu,
A drych o waeau 'n hoes—
Ar linell union hanes dyn
Daeth drwg yn llinell groes.
Ac wele croes ar ddwyfron y canrifoedd,
O hyd a bery 'n ddarlun o'r amseroedd,
O hanes dyn, a holl fwriadau 'i galon,
Lle ceir y drwg a'r da yn cyd-ymryson.
Ond ar uwchafnod amser,
Pwynt ucha'n daear ni,
Cyfodwyd darlun newydd.
Ar fynydd Calfari;
Y Groes geir yno'n ddelwedd.
O ras a chariad Duw,
Y da'n cael buddugoliaeth
A'r truan yn cael byw.
O ddwyfol Groes fy Ngheidwad,
Ymffrostiaf byth yn hon,
Newidiodd hanes amser
A hanes llawer bron;
Mae holl fwriadau'r Duwdod
Yn cynghaneddu 'n un,
O gylch y Groes lle torodd
Gwawr iachawdwriaeth dyn.