Llwyn Hudol/Ysbryd Arthur
| ← Myfanwy Wynn | Llwyn Hudol gan Hugh Emyr Davies (Emyr) |
Enid → |
XXVIII.
YSBRYD ARTHUR.
Distaw yw'r Ogof
Yng nghil y cwm
Ag Arthur a'i filwyr
Yn cysgu'n drwm.
•••
Mae annibyniaeth
Gwerin dan draed,
A gormes gwladol
Yn sugno 'i gwaed.
Llwydni y plygain.
Sydd dros y tir,
Ag adar y cyfddydd
Yn oedi'n hir.
Ond dacw wawrddydd
Deffroad gwell
Yn dechreu gwynnu
Y bryniau pell.
O flaen y goleu
Mae'r nos yn ffoi,
A lluoedd Arthur
Yn cyd-ddeffroi.
Ond medd rhyw ysbryd―
"Rhy fore 'n awr,
Cysgwch, farchogion,
Nes tyrr y wawr."
Gorffwysa pob milwr
A'i gledd ar ei glûn,
Ond ysbryd Arthur
Sydd ar ddihûn.
Mae e'n ddylanwad
Ar faes y gwir,
Mewn diwygiadau
Yn ennill tir.
Mae'n arwain Cymru,
Yn hwylio'i cham
I fuddugoliaeth
A'i gledd yn fflam.
•••
Distaw yw'r milwyr
A'u hûn yn drwm,
Ond ysbryd Arthur
Sy'n llond pob cwm.