Neidio i'r cynnwys

Llwyn Hudol (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Llwyn Hudol (testun cyfansawdd)

gan Hugh Emyr Davies (Emyr)

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Llwyn Hudol
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Emyr Davies
ar Wicipedia


LLWYN HUDOL.



Y mae syllu ar y fro sydd odditanom― ardal lwyswedd Abererch yn wledd i'r llygad.... Nid oes yng Nghymru breswylfa fwy addas i dderbyn gweledigaethau prydferthwch. Y mae yr olygfa o Lwyn Hudol yn ogoneddus ym mhob ystyr."

ANTHROPOS,
(Allan o'r "Cymru," Mehefin 1904.)

LLWYN HUDOL

Gan

H. EMYR DAVIES.



Rhagdraeth
gan
Y Prifathro Ellis Edwards, M.A.



Y BALA:
DAVIES AC EVANS
1907



Llwyn Hudol.

Mae llawer llwyn yn gartref hûd
Ym Mai a'i dŵf gwyryfol;
Ond tlws o hyd mewn hâf a storm
Yw cartref clŷd Llwyn Hudol.

Bu i encilfeydd yn gysgod im'
I goledd awenyddiaeth;
Ac yn ei ddwfn freuddwydiol hedd
Ces lawer gweledigaeth.

Lledaenai natur ger fy mron
Ei chyfoeth anfesurol—
Y mawr a'r cain, y pell a'r cêl,
Y tŵs a'r anherfynol!

I'r Dwyrain, saif y Wyddfa dál,
A'r eira 'n goron iddi;
A thŷf rhamantau 'n wyllt o hyd
Yng nghysgod ei chlogwyni.


Gerllaw, mae dyffryn tonnog glas
Eifionydd yn ymestyn;
Ag Abererch yn ymdeccäu
Yn siacced fraith y flwyddyn.

Islaw, gorwedda 'r culfor dwfn
A'r bryniau yn ei warchod;
A'i donnau'n sisial wrth y traeth
Gyfrinach Cantre 'r Gwaelod.

Draw, yng ngorwelion pell y De
Y gwelir arlliw 'r Frenni;
A llewyrch y Goleudy gwyn
Fel angel ar y weilgi!

Yn neildy 'r berllan derfyn dydd.
Mae boddiant yn cartrefu;
Ceir lliwiau'r nef hyd frig y coed,
A chlych y borfa 'n canu.

Gwyn fyd na bae ireidd dra 'r lle—
Barddoniaeth dirf ei dlysni;
A phersawr ei encilion cel
Yn cyfareddu'm cerddi.

Ddarllennydd mwyn, tyrd gyda ni,
I'r Llwyn 'rol cadw noswyl.
Mae llawer gweledigaeth hoff
Ym mrig y coed yn disgwyl.

Dymunaf iti orig twyn.
Dan gangau'r Llwyn cysgodol,
Yng nghwmni'r ysbrydolineth sydd
Yn gwneyd y Llwyn yn Hudol.


Yn wladgar,

Mehefin, 1907.H. EMYR DAVIES.

Rhag-air.

PWY draetha gyfoeth Natur a dyn, a gair yr Hwn a lefara drwyddynt? Clyw pob bardd ryw ran o'r sain, tery rhai ardderchog gynghanedd. Dyma eto fardd newydd, y mynnodd y lleisiau wneyd tafod ohono. O'u diderfyn gyweirnodau llawer a glywir yn y llinellau hyn. Y meusydd a'r blodau, yr heulwen a'r nos; y môr a'r erch graig, y gwanwyn a'r gauaf; miwsig llawen y plentyn bach, ymson brudd y methiantus; bywyd a'i hynt, y bedd a'i baid,—clywir yma oddiwrthynt oll ran o'r genadwri fawr. Brâd a ffyddlondeb, cariad a châs, hoew ddysgwyliad, syrthiedig siom; croch dwrf y pethau gweledig, gwŷs, nas dystewir, y pethau tragwyddol,—codant oll o'r tudalenau.

A ofyn neb,—Oes genad newydd? Atebwn fod y gŵr yn adseinio 'r hên yn aml gyda grymusder newydd, a dywedwn mai un peth rydd nodwedd arno. yw fod ymdrech, tristwch, dyoddefaint bywyd wedi cymeryd dwfn afael ynddo. Ymladdfeydd yn nghryffannau enaid, têg, twyllodrus ymddanghosiad, wedi ymblethu a'r harddwch pur, is—ofid dan arwyneb difyrwch, y coll, yr alaeth ddaw i fywyd dyn,—y ffordd sydd yn arwain drwy ddyoddefaint, y gair sydd addas i yfwyr chwerwedd, i'r hwn a sefydlwyd yn y gwirionedd mai sicred clwy a thro y rhôd, dyma y pynciau, os cywir ein meddwl, at y rhai y gogwydda calon y bardd.

Mawr yw cael y lli o ddisgleirdeb nad oes gyfathrach rhyngddo a'r gwyll, ond anhebgor hefyd i'r cyfryw â ni yw'r dysgleirdeb sy'n cyd-fod a düwch, ie, wna oleuni o'r düwch ei hun, ac a ddwed mai llawn gymodi a'r groes, ac ennill drwyddi yw'n bywyd ni.

"Nid yw'r trallodion esyd byd yn erbyn
Y gwron-ddyn ond grisiau iddo esgyn.
Mae carchar Bedford byth o flaen pob Bunyan,
Ac ni cheir Cromwell ond o faes cyflafan.
Rhyw Gethsemane unig deifl ei chysgod
Dros lwybr y Gwaredwr ym mhob cyfnod."


Bydd cyflawnder geiriau yr ysgrifennydd yn cyfoethogi parabl llawer. Weithiau dywed wirionedd dwys mewn ymadroddion byr ond cadarn. sydd fel cerfiadau ar y maen. Weithiau lleferir gydag urddas o awdurdod, na theimlir ef yn fynych yn ein plith. Dyry rhannau addewid eglur o gammrau breision eto 'n ol, ac o chwanegiad hyglyw a chryf at dreiddgarwch llais ein cenedl.

ELLIS EDWARDS.
Coleg Diwinyddol,
Bala, Mehefin, 1907.

Cynnwys.


I.
BREUDDWYDION MEBYD.

Breuddwydiais am fyd o hapusrwydd
A'i fryniau yn sanctaidd gan wlith,
Lle dawnsiai duwiesau'r cysgodion,
A wylais am fod yn eu plith.

Breuddwydiais am wlad a'i pherllannau
Yn gwrido gan winwydd a grawn,
Eu neithdar yn bêr ar fy ngwefus,
A phiol fy mywyd yn llawn.

Breuddwydiais am wlad a'i rhianedd
Am byth yn anfarwol a heirdd,
Eu gwisg o wnïadwaith cywreiniach
Na mentyll dychmygion y beirdd.

Breuddwydiais am lannerch a'i llynnoedd
Yn chwerthin yn llygad y dydd;
Marwolaeth a henaint tu allan
A minnau yn ifanc a rhydd.

Ond tynged â gwyntiad ei haden.
Ddinistriodd fy nghestyll o wawn,
A gwelais mai brau oedd breuddwydion
Y bore pan ddaeth y prydnawn.


II.
AMCANION DUW.

Daw Duw i'r Ardd o hyd
I baentio'r rhosyn,
Er tynnu sylw'r byd
At rin y blodyn.

Ond rhydd y Garddwr glwy'
I'r rhosyn weithiau,
Er mwyn i'r byd gael mwy
O'i beraroglau.

Pan dorir ambell waith
Y llonnaf denyn,
Danghosir mwy i'r byd
O werth y delyn.

'Does dim sy'n cyffwrdd mwy
Ar galon daear,
Na'r tannau dorodd Duw
Yn gynnar, gynnar.

Mae'n creu gobeithion lu
Mewn llawer calon,
Er mwyn eu troi ar fyrr
Yn bêr atgofion.

Nid yw arfaethau Duw 'n
Mynd heibio'n ofer,
Pan chwyth awelon siom
Dros erddi amser.


III.
EBRILL.

Daeth Ebrill dros y marian
I wisgo bryn a dôl,
A sŵn ei glychau arian
I alw'r gwyrdd yn ôl.

Daeth Ebrill drwy y dyffryn
Fel rhiain ddeunaw oed,
A blodau tlysa'r flwyddyn
Yn esgid am ei throed.

Daeth Ebrill heibio'r berllan
Fel prophwydoliaeth dlôs,
A'i gwisg o awel sidan
Oedd yn tyneru'r nôs.

Daeth Ebrill i'r gweirglodd-dir
I chware efo'r wyn,
A'r gwynt i ganu llawer cerdd
Ar leithion dannau'r brŵyn

Daeth Ebrill heibio beddrod
Myfanwy 'n erw'r Llan,
I ddweyd wrth serch, drwy wyrdd a chân,
Fod Duw yn cofio'r fan.


IV
HEN DRADDODIAD.

Ar fore Nadolig
Daeth Marchog glew,
I begwn y Gogledd
Dros feusydd rhew.

Ond gwelai greadur
Gresynus ei raen,
Yn eistedd ar glogwyn.
Rhewedig o'i flaen.

"Beth wyt," ebr y Marchog,
"Ai diafol ai dyn?"
"Myfi yw Iscariot,"
Attebai'r llûn!

"A mi yn ddisgybl
I'r Iuddew tlawd,
Gerddodd y ddaear
Yn Dduw mewn cnawd,

"Yn ninas Jericho
Rhag iâs yr hin,
Rhois fenthyg mantell
I grwydryn blin.


"A phan alltudiwyd
Fi'n fradwr gwyw
I'r tân aniffodd
Am werthu'm Duw.

"Medd Crist—'yn wobr
Am gofio'th frawd
Pan oedd y glasrew
Yn bwyta'i gnawd.'

"Unwaith bob blwyddyn
Cei ado'th gell,
A chrwydro i begwn.
Y Gogledd pell.'

"Cei leddfu'th boenau
Lliniaru'th blâ,
Yn oerni tragwyddol
Mynyddoedd iâ.'

'Daw bendith Nadolig
Drwy'r fantell lân,
Yn blygion rhyngot
A grym y tân.'"


V.
CLYCHAU'R LLYN.

Crwydrais gyda min y Llyn
Yng nghwmpeini Marion,
Llwydrew Chwefror dan ein traed—
Gaeaf yn y galon.

Di-beroriaeth oedd y lli',
Caled oedd ei fynwes,
Oer di-dostur ydoedd serch
Marion, fy angyles.

Unwaith wedyn law yn llaw
Crwydrem gyda'r glannau,
Pan oedd rhew y fron a'r Llyn.
Yn meirioli'n ddarnau.

Dan gyfaredd lloer a chwa
Dawnsiai'r tònnau sidan,
I beroriaeth feddal-fwyn
Myrdd o glychau arian.

Gwnaeth yr haul o'r darnau rhew
Glychau dirifedi—
Os yw serch yn bennyd oes
Melus yw ei gerddi.

Nef oedd rhodio min y Llyn.
Yng nghwmpeini Marion,
Awel Chwefror yn ei gwallt—
Canu yn y galon.


VI.
HIRAETH.

Gwenai blodyn cynta'r gwanwyn
Bore heddyw ger fy nhŷ,
Atgof ddug am dlysach gwrthrych
Wenai yn yr amser fu.

Canai mwyalch gyda'r plygain
Llwydwyn heddyw wrth fy nôr,
Meddwl wneis am lais pereiddiach
Glywais unwaith yn y côr.

Syllai gwawr lygadlas ieuanc
Heddyw'n nrych y gloew li',
Hiraeth ddaeth am lesni dyfnach
Llygad rhywun gerais i.

Beth yw hiraeth serch anfarwol?—
Ol-dywynion gwawrddydd dlôs;
Adlais y telynnau gollwyd
Yn dychwelyd gyda'r nos;


VII.
BRYNIAU CYMRU.

Dangnefeddus gewri natur!
Ceraint chwa ac awyr glir,
A gwylltineb a beiddgarwch
Ar eu trem a'u hanes hir;
Mae ysbrydion hên rammantau
Drwy eu hawyr yn ymwäu,
A chyfriniaeth y gorphennol
Am eu mawredd yn ymgau.

Os bu 'u bannau fel cleddyfau
Yn ysgaru Gwlad y Gân,
Os bu llid y Tywysogion
Yn ei throi'n dylwythau mân;
Mae'r mynyddau fu'n ei rhannu
Heddyw'n gwneyd y wlad yn un,
Ac yn cadw 'i thraddodiadau
A'i delfrydau fyth ynglŷn.

Anibyniaeth Cenedlaethol
Fagwyd ar eu llethrau hên,
Ac mae'r nefoedd ar rinweddau'u
Bywyd syml yn rhoi ei gwên;
Egwyddorion byw Rhyddfrydiaeth
Ddysgwyd gan eu creigiau hŷf,
Ac mae iawnder ar eu tyrrau'n
Gwylio'r wlad, a'i fwa'n gryf.


Gan eu hên glogwyni anwyl
Drylliwyd cryfder gormes wyw,
Yn nhawelwch eu hencilion
Y dechreuodd rhyddid fyw;
Ar eu hochrau y gadawodd
Ein henafiaid werth eu gwaed,
Ac mae'r awen ar y trummau'n
Tybio gweled ôl eu traed.

Cywir fel eu heira unos,
Gonest fel eu grûg a'u brŵyn,
Yw'r rhai fagwyd yn eu cysgod
Efo'r adar, efo'r ŵyn;
Gall y bannau guddio'r palas,
Gall y llethr oroesi'r stâd,
Magwyd pendefigion hanes
Ar ucheldir garw'n gwlad.

Fryniau anwyl! Boed i'ch hanes
Ddysgu gwers gwladgarwch im'
Ag edafedd aur eich rhammant
G'lymu'm henaid wrth eich trum;
Boed i'm dymuniadau esgyn
Hyd eich llethrau atto Ef,
A fy mywyd yn cyfeirio,
Fel eich bànnau, tua'r nef.


VIII.
LUNED.

Diflannodd cyfnod
Plentyndod gwŷn,
Fel dyfrgloch loew
Dros lesni'r llŷn.

Chwareuai Luned
Mor llòn a'r dydd,
A deuddeg gwanwyn
Yn gwrido'i grudd.

Ond fel y tyfai
Mwyhai y chwant
Am gwmni llawen
A masw dant.

Crwydrai i'r wyllnos
Ar ol y gerdd,
Fu'n arwain llawer
I'r goedlan werdd.

Lle cuddir angau
Gan hud y llwyn,
Lle tŷf crogbrennau
Dan ddeiliog swyn.


Dawnsiai i ganlyn
Y gwallgof dant,
Ag iaith gwamalrwydd
Oedd ar ei mant.

Tyfodd yn wyllt
Fel blodyn y cwm—
Mor dlŵs ar ddibyn
Y llecyn llwm!


IX.
Y DDAU GWMWL.

Dacw gwmwl yn ymledu
Fel drychiolaeth dros y wlad,
A bygythion lond ei fynwes
Yn dygyfor am ryddhâd;
Gylch y clogwyn mewn modrwyau
Gwaria 'i drydan llachar llym,
Ac yng nghanol llif o ddagrau
Rhuthra'n dymmestl dros y trum.

Dacw un arall fel pleserlong
A'i banerau'n aur i gyd,
Yn mordwyo'r eangderau
Fel yn dod o arall fyd;
Yn ei hwyliau gwŷn sidanog
Mae'r Jehofa'n cuddio'i Hun,
Gwlawio mae ei drugareddau
Drwy'r cymylau oll ar ddyn.


X.
Y GWANWYN.

Aros, wanwyn, beth yn hwy,
Paid a brysio i ddianc,
Hawdd cyweirio allor serch
Pan yw'r byd yn ieuanc.

Aros, wanwyn, beth yn hwy,
Mwyn yw'th wên a'th gusan;
Hawdd y gedy'r clâf ei dŷ,
Gedy'r tlawd ei gaban.

Aros, wanwyn, beth yn hŵy,
Ddyddiau tŵf a chynnydd,
Hawdd gobeithio pethau gwell
Pan yw'r wlad yn newydd.

Aros, wanwyn, beth yn hwy,
Yng nghynteddau'r dyffryn,
Mae prydferthwch heddyw'n byw
Rhwng y brieill melyn.

Aros, wanwyn, beth yn hŵy,
Ddyddiau hau a llyfnu,
Daw i'r byd gynhaeaf gwell
Drwy'th lafur di a'th ganu.


XI.
CADWYN BYWYD.


i. Hyd y Llawnt.
ii. Ar y Maes.
iii. Dan y Dderwen.
iv. Yn yr Ymdrech.
v. Ar y Forlan.
vi. Is yr Ywen.


HYD Y LLAWNT.

Hyd y llawnt o flaen y drws
Mor dlŵs yw serch yn gwarchod,
Cartref diniweidrwydd iach
Yw nefoedd fach plentyndod.

Difyr sŵn tegannau sydd
O'r llawnt trwy'r dydd yn dyfod,
Nis gall gofid groesi'r ffin
I chwerwi gwin plentyndod.

Dros y llawnt addewid ha'
Fel bwa deifl ei chysgod,
Tyner gan obeithion fyrdd
Yw gwanwyn gwyrdd plentyndod.
Ar y llawnt o flaen y tŷ

Gwna purdeb cu ei drigfod;
"Tybed mai rhyw ddarn o'r nen
Yw llannerch wèn plentyndod?


ii.
AR Y MAES.

Tlws yw tymmor glân ieuenctid
Dan belydrau heulwen rhyddid,
Cyfnod geni disgwyliadau
Ar adfeilion y tegannau.

Mor addawol yw'r breuddwydion,
Mor farddonol yw'r gobeithion;
Teflir hoender i bob delfryd
Gan yr asbri leinw'r ysbryd.

Calon ysgafn drwy 'i churiadau
Yrr ddiniwed wrid i'r gruddiau,
Teimla'r enaid fod ei wyneb
Tua rhandir pob tiriondeb.

Ar y maes a sŵn deffroad
Amgylch yn ysgogi'r cread,
Y dyfodol pell di-wybod
Fel yn cerdded i'w gyfarfod.

Ar y maes ag addewidion
Yn cyhoeddi dyddiau gwynion,
Prophwydoliaeth hyfryd, hyfryd,
Ysgrifenna dyddiau ie'nctid.


iii.
DAN Y DDERWEN.

Dan gangau'r dderwen eistedd 'rwyf
A chlwyf o dan fy nwyfron,
Mae rhywun wedi dwyn fy mryd,
Fy ngolud a fy nghalon.

Nis gallaf wadu yn fy myw
Nad wyf fi heddyw 'n hollol
Yng ngherwyn cariad dros fy mhen
O serch at Gwen y Wernol.

Mor dlŵs yw'r dydd mewn porphor claer
Yn croesi caer machludiad,
Mil tlysach, Gwen, yw gwrid dy rudd
A'r dydd sydd yn dy lygad.

Mae meill yn tyfu'n ôl dy droed
Drwy'r ddôl, y coed, a'r caeau,
A phan y gwelant di yn dod
Cŵyd swildod ar y blodau.

A gawn ni addunedu'n dau
Dan gangau llaes y dderwen,
I hwylio 'mlaen, beth bynag ddaw,
Yn llaw yn llaw yn llawen?

Mae cwlwm cariad yn tynhau,
Nis gall ond angau 'i dorri,
Rwy'n gweld addawol lesni'r nen
Ag ernes heulwen arni.


iv.
YN YR YMDRECH.

Llawn yw bywyd yn y byd
O flinfyd a threialon,
Profi'r chwerw'n fuan iawn
A gawn yn ddiogel ddigon:
Er mai'r goreu ddwedai'n rhwydd.
A'i ddedwydd addewidion.

Gwena llawer rhosyn cain
O fysg y drain yn dirion,
Cân ëosau'n nwfn y glyn
A phigyn dan eu dwyfron:
Na, ni lifa'r oes mor rhwydd
O ddedwydd addewidion.

Llawer breuddwyd gafwyd gynt
Fel esmwyth hynt angylion,
Sydd wedi newid erbyn hyn
Yn golyn yn y galon:
Ffoes disgwyliad llawer blwydd
O ddedwydd addewidion.

Rhaid yn awr ymdrechu byw,
Nid diogi yw cael digon,
Ymdrech galed ydyw'r oes,
Mae'r groes o flaen y goron:
Dringo'r rhiwiau raid i lwydd
A'i ddedwydd addewidion.


Nid yw'r oes yn groes i gyd
Na ffawd o hyd yn greulon,
Os rhaid diodde'r pigyn main
Nid drain i gyd yw'r goron:
Mae Beibl Duw yn addaw llwydd
Drwy 'i ddedwydd addewidion.


v.
AR Y FORLAN.

Wedi crwydro llwybrau bywyd.
Dyma finnau, er fy mraw,
Wedi cyrhaedd traethell einioes,
Swn y cefnfor sydd gerllaw;
Mae gobeithion a chyfeillion
Wedi cyd-ddiflannu'n llwyr,
Minnau'n gwrando'r dòn yn nesu
At y forlan, yn yr hwyr.

Beth yw cenadwri'r tonnau?
Beth ddywedant erbyn hyn?
A oes hwnt i'r gorwel, tybed,
Awgrym o ddyfodol gwyn?
Diri fu cymylau'r einioes
Daeth rhai dudew lawer pryd,
Tybed fod y rheiny'n gloewi
Wrth neshau at derfyn byd?


Sŵn murmurol broch ar brydiau
Ydyw'r sŵn a glywaf draw,
Ofnaf fod ystorm yn croni,
Croni gan dragwyddol fraw;
Ond daw is-lais tyner weithiau
Ar adenydd gobaith gwell,
Fel yn ernes o'r tangnefedd
Sydd tuhwnt i'r gorwel pell.

Os yw niwl yr awr ddiweddaf
Am fy llygad yn tewhau,
Os yw murmur tragwyddoldeb
Ar y forlan yn dwyshau,
Teimlaf fod fy holl amheuon
Yn diflannu fel y cwyr,
Dod yn ffaith mae'r hên addewid,―
"Bydd goleuni yn yr hwyr.'


vi.
IS YR YWEN.

Dan gysgod ywen bruddaidd
Eisteddai bardd yn lleddf,
A bronfraith yn y tewfrig
Yn canu wrth ei greddf.

Dyrchafai'r bardd ei lygad
Gofynai'n hanner syn—
"Paham aderyn ynfyd
Y ceni di fan hyn?"


"A wyddost ti mai'r fynwent
Yw'r llecyn prudda 'rioed?
A wyddost ti mai'r ywen
Yw'r goeden dan dy droed?"

Ond canai'r deryn eilwaith
Yn llonnach ac yn well,
Gan led awgrymu'n gynnil
Ryw ddrychfeddyliau pell.—

"Nid ydwyf wrth delori
Yn tremio i lawr mewn braw,
'Rwyf fi'n dyrchafu'm golwg
I'r nefoedd lâs uwchlaw."

"Pe gwyddet," ebai'r prydydd,
"Pwy sy'n y beddrod hwn,
A thithau heb dy gymmar
Fe deimlet tithau'r pwn."

"Rwy'n gweld y cymyl duon
Yn gado'r awyr lân,
A phrophwydoliaeth newydd
Yn cymmell llonnach cân."

"Rwy'n deall dy genhadaeth,"
Attebai'r prydydd prudd,
"Gadawaf finnau'r fynwent
Ar edyn dwyfol ffydd."


XII.
Y GROES.

Y GROES! arwyddlun melltith fu,
A drych o waeau 'n hoes—
Ar linell union hanes dyn
Daeth drwg yn llinell groes.


Ac wele croes ar ddwyfron y canrifoedd,
O hyd a bery 'n ddarlun o'r amseroedd,
O hanes dyn, a holl fwriadau 'i galon,
Lle ceir y drwg a'r da yn cyd-ymryson.


Ond ar uwchafnod amser,
Pwynt ucha'n daear ni,
Cyfodwyd darlun newydd.
Ar fynydd Calfari;
Y Groes geir yno'n ddelwedd.
O ras a chariad Duw,
Y da'n cael buddugoliaeth
A'r truan yn cael byw.
O ddwyfol Groes fy Ngheidwad,
Ymffrostiaf byth yn hon,
Newidiodd hanes amser
A hanes llawer bron;
Mae holl fwriadau'r Duwdod
Yn cynghaneddu 'n un,
O gylch y Groes lle torodd
Gwawr iachawdwriaeth dyn.


XIII.
SIOMIANT.

Beth yw siomiant? Cloch yr ewyn,
Yn breuddwydiol nofio'r lli',
Ond dan bwys yr awel leiaf,
Derfydd ei phrydferthwch hi.

Beth yw siomiant? Plisgyn prydferth,
Yn disgleirio oddi draw,
Ond fel tlws afalau Sodom,
Try yn llwch tra yn ein llaw.

Beth yw siomiant? Cwmmwl goleu'n
Hwylio'n hardd dros lâs y nen,
Ond yn llochi llidiog drydan,
Dyrr yn storom ar fy mhen.

Beth yw siomiant? Addewidion
Serch yn gwenu dan y gwlith,
Llwydrew 'r nos yn disgyn wedyn,
Yntau 'n marw yn eu plith.

Beth yw siomiant? Enaid euog
Wnaeth orchmynion Duw yn sarn,
O'i gysgadrwydd annystyriol,
Yn deffroi yng ngwres y Farn.


XIV.
SERCH.

Di-orffwys fel y llanw,
Anwadal fel y dòn,
Yw gorllif gwae a gwynfyd serch
Ar dyner draeth y fron.

Mae'r gerdd i arfod gofid
Yn cerdded gyda'r dydd,
A châs a chariad gledd yng nghledd
Ar lawer cadfaes prudd.

Mae serch fel blodyn draenen
A bidog dan ei glôg,
A gwaed ei fron ar aden chwim
Ffyddlondeb gwas y gog.

Gall blethu brwyn a rhedyn
Yn dorch am arlais Mair,
A chuddio pigyn llym 'run pryd.
Ym mhleth ei llaeswallt aur.

Gall daflu gwŷll a brieill
Yn balmant dan ei throed,
A gosod clwm o flodau'r glŷn.
Ar fedd yng nghudd y coed.


Pan fyddo'r byd yn casglu
Pêrlysiau yn y gwlith,
Bydd ef fel mûn lâs-lygad
Yn wylo yn eu plith.

Gall ganu fel yr eos,
A'i fron yn wain i gledd,
Gall greu rhosynnau gyda'i wên,
A'i law yn cloddio'u bedd.


XV.
NEWID DWYLAW.

Distawodd sŵn y gân
Ym Mhantycelyn,
Dan awel laith y glyn
Llonnyddai'r delyn.

Ond ni bu'n hir yn fud
Ar helyg galar,
Deffrôdd dan fysedd cain
Morwynig Dolwar.

Y delyn fu dan law
Y Pêr-ganiedydd,
A gaed yn Nolwar Fach
A'i salm yn newydd.


XVI.
LLWYN Y NEF.

Prudd oedd y Mynach.
Crynedig ei lef,
Dybiai doi henaint
Dros gerddi'r nef.

Un hwyrddydd tawel
O Hefin brŵd
Cerddai hyd lannau
Sidellog ffrwd.

Noswyliai anian
A'r ffrydlif ffri
Lithrai i fynwes
Y tonnog li'.

Yn sŵn ei dwndwr
I'r ceulwyn cudd
Ym mraich myfyrdod
Ai'r Mynach prudd.

Yn ebrwydd clywai
Gyfriniol gerdd
Meddalfwyn gantor
Ar gangen werdd.


Canai'r aderyn;
Ai amser ymlaen
A'i edyn cyflym
O hyd ar daen.

Aeth oesau heibio
Fel oriau mân,
Ac nid oedd diflasdod
Yn chwerwi'r gân.

Ond clywai feluslais
Yn galw'n glir,—
"Gysgadur, cais godi
O'th lesmair hir."

Hên oedd y Mynach
Ddoi'n ôl i'r byd,
A'r wlad yn newydd
O'i amgylch i gyd.

Ni thyrr amheuaeth
Gynghanedd gref,
Un enaid ddychwel
O Lwyn y Nef.


XVII.
DEILEN OLA'R HA'.

Draw yng nghil y derlwyn,
Yn yr iasol chwa,
Crynnai ffurf wywedig,
Deilen ola 'r Hâ'.

Os bu awel angau,
Yn melynnu 'i lliw,
Dàl yn dŷnn ei gafael,
Wnai y ddeilen friw.

Methodd nerth y gaeaf
A'i gawodydd iâ,
Daro i ddifancoll,
Ddeilen ola'r Ha'.

Ond daeth llanw Ebrill,
A'i dywynion poeth,
Llifodd bywyd eilwaith,
Drwy y gangen noeth.

Nerth y bywyd newydd.
Yn yr ysgafn chwa,
Dorodd fedd i weddill
Deilen Ola'r Ha'.


XVIII.
KIT.

Gyda Kit hyd làn Tryweryn,
Lifa heibio 'i chartref hi,
Crwydro wneis i gasglu blodau,
Gwyn y waen, a glâs y lli'

Awel feddal o'r mynydd-dir,
Siai rhwng y gwïail main,
Llanw bywyd Mai ymdorrai'n
Drochion gwyn ym mrig y drain.

Wrth ddychwelyd gyda'r gwyllnos,
Imi'n anrheg rhoes y fûn
Dorch o flodau aur y weirglodd,
Eiliw plêth o'i gwallt ei hun.

Meillion newydd sy'n prydferthu
Glàn Tryweryn erbyn hyn,
A bu llawer Mai yn gwisgo
Perthi'r fro mewn glâs a gwyn.
Deuoedd eraill bob dechreunos

Dan gyfaredd lloer a lli',
Rodiant hyd y llwybyrgŵyrgam
Gerddid gynt gan Kit a mi.
Ond os llithrodd blwyddi ymaith,

Nid yw'n cariad yn llesgâu,
Plentyn Mai yw serch ein calon,
Blodau'r gwanwyn ŷm ein dau.


XIX.
ELDORADO.

(Efel. E. A. P.)[1]

i.
Ar dir breuddwydion,
Ym mröydd hud,
Mae Eldorado
Dynoliaeth o hyd,


Pa sawl dyhead?
Sawl rhwyflong wan,
Fu'n croesi'r tonnau,
I geisio'r làn?

Ond sisial wna iarllod,
Y tonnau ffraeth:—
"Mae Eldorado
Tu hwnt i'r traeth."


ii.
Mae'r byd fel Marchog,
Ar ymdaith bell,
Yn ceisio hawddfyd
Y gwynfyd gwell.

Mae'n crwydro anhygyrch
Ddieithrol ffyrdd,
I sylweddoli
Delfrydau fyrdd.


Ond dwêd y caffaeliad,
Ar grib pob bryn,—
"Mae Eldorado
Ym mhellach na hyn."


iii.
Y meddwl ddyrcha
Ar aden wèn,
I chwilio'r eangder,
Am dlysach nen.

Y glâs diderfyn
Yn galw byth,
Ag yntau yn ceisio 'i
Dragwyddol nŷth.

Cyflyma heibio
Cysawdiau oer,
A hola am lennyrch
Dros fryniau 'r lloer.

Ond ettyb rhyw ysbryd
A'i edyn ar daen,—
"Mae Eldorado
Am byth ymlaen."


Ar dir breuddwydion,
Ym mröydd hud,
Mae Eldorado
Dynoliaeth o hyd.


XX.
HUNANABERTH.

Rhaid i Achilles dywallt gwaed ei frodyr,
I olchi Troia oddiwrth fradwyr ffôl,
A gwaed y prynnir prydles y teyrnasoedd,
Drwy dwrf y gâd daw c'lomen hedd yn ôl.

Mae'n rhaid i Aristeus ddod a'i deirw,
Mae'n rhaid cymysgu 'u gwaed â gwaed ei ferch,
Cyn dychwel atto y melusder gollodd―
Mewn Iawn o hyd mae ennill mwyaf serch.

Rhaid llosgi'r byd ar allor danllyd cariad,
I oleu heddwch i gynteddau 'i Dduw,—
Uwch bedd yr hedyn plŷg y lawn dywysen—
Mewn hunanaberth mae eithafnod byw.

Rhaid talu'n ddrud am glust a chalon cenedl,
Rhaid hoelio'r Crist os am ddyrchafu'r oes,
Mae ysgol bri a'i phwys ar fryn Golgotha,
A phorth y nef yn ymyl troed y groes.


XXI.
GOFID.





Cluda 'r awel nodau gofid
Attaf ar bob talar werdd,
Is-lais cûr o wern a maennol
Sy 'n tristhâu telynnau cerdd.
Lleddf yw 'r nodau, ond mae ynddynt
Süon pell wylofus swyn,
Fel hiraethgân noswynt Tachwedd
Rhwng henafol dderw'r llwyn.



GOFID.

I.
Atswn galarganau gofid
Glywir heddyw ar bob llaw,
Fel cwynfanus gri'r gwylanod
Yng nghilfachau'r forlan draw.
Ar y moelfra gyda'r wyllnos
Clywir atsain ddrylliog poen,
Ym mrefiadau'r ddafad unig
Wedi'r blaidd ysglyfio'r oen;
Ac o'r goedlan ennyd arall,
Udo'n dôst wna 'r blaidd ei hun,
Cwympwyd ei genawon yntau
Gan ergydion marwol dyn.
Cluda'r awel nodau gofid
Attaf ar bob talar werdd,
Islais cûr o wern a maennol
Sy 'n tristhau telynnau cerdd;
Lleddf yw'r nodau, ond mae ynddynt
Süon pell wylofus swyn,
Fel hiraethgân noswynt Tachwedd
Rhwng henafol dderw 'r llwyn.


II.
Er gadael teyrnas natur
A chodi'n uwch at ddyn,
Mae gofid megis hunllef wrth
Ei natur yntau 'nglŷn.

Ni chaiff y byd Fehefin
Heb brofi Hydref blin,
Daw'r iraidd dŵf i lasu'r ddôl
Dros fedd y ddeilen grin.
Os yw'r ymdeithydd ieuanc,
Ar drothwy gyrfa 'r byd,
Yn meddwl mai paradwys wèn
Yw'r einioes ar ei hyd,
Daw'r profiad wrth rodianna
Rhwng prennau gobaith hardd,
Cyn hir i weld fod llawer sarff
Wenwynig yn yr ardd.
Os tybia 'r sant mai gwynfyd
Digymmysg fydd ei oes,
Am fod y blodau'n cuddio'r drain
A'r llwyn yn cuddio'r groes,
Caiff deimlo dan y blodau,
Ar brydiau, loes y draen,
A gweld y groes ar amlwg fryn
Heb unrhyw lwyn o'i blaen.


III.
Ni faidd y byd wneyd cartref dan y coed,
Byrr fu parhad paradwys dyn erioed,
Ffŷ 'i oriau euraidd fel enfysau i ffwrdd,
Daw oriau araf poen yn lleng i'w gwrdd.
Breuddwydia'r oesau am ddyfodol gwyn,
A cherdd y beirdd mewn delfryd lethrau'r bryn;
A'u portrëadau 'n uchel ac yn heirdd
Ond ni ddaw'r ceunant du i gerddi'r beirdd.

Profiadau drylliog yw profiadau'r ceunant
Heb ddim ond adfail llwyd y cyn-ogoniant,
Cŵyd siom a chûr eu pebyll duon beunydd.
Ar finion llwybrau bywyd drwy'r ceunentydd,
Mae pob addewid yma 'n ddi-genhadaeth,
Y sicrwydd cynnar wedi troi'n amheuaeth.
Disgwyliad balch yn cerdded heb ei goron
A hyder gwyn yn trengu dan yr hoelion.
Amheuaeth yn pellhau pob buddugoliaeth
A llenni siom dros ffenestr prophwydoliaeth.


IV.
Ni welir gwanwyn byth yn glasu'r ddôl
Heb aeaf du yn canlyn ar ei ôl,
Mae'r nos o hyd yn dilyn camrau'r dydd
A theifl amheuaeth lwch i lygad ffydd,
Daw'r cyfnod du i gwrdd pob dynol brofiad
A thynged gref i groesi llawer bwriad.
Mae dafnau cûr yng nghwpan bugail gwrïdog
Ac orïog gŵsg ga'r uchel brif-weinidog;
Y wyryf gu na fedd ond ei rhinweddau
Raid gerdded dyffryn gofid ar adegau,
A'r t'wysog ieuanc wrth yr orsedd wèn
Gaiff weld ei gysgod trwm yn duo'i nen.
Gall gofid dreiddio mewn i lŷs y brenin
Mor ddi-droi-'nol ag iâs o farug gerwin.
Daw hwn i'r pentref llwyd sydd drwy'r blynyddau
Heb ddim yn newydd ond y plant a'r beddau,
Ac nid yw'r ddinas boblog yn rhy brysur
I weld ei gawod saethau'n duo'r awyr;

Daw hwn, fel Mair, yng nghyntaf at y bedd
A'r olaf yw i adael mangre'r hedd.
Mae ganddo gartref ar fynyddoedd iâ
A lluest rhwng y dail yng ngwlad yr ha'.
Mor eang, mor gwmpasog yw terfynnau
Tiriogaeth gofid ag yw teyrnas angau.
Mae sŵn ei dòn aflonydd ym mhob talaeth
Lle teifl beunyddiol ymchwydd llif marwolaeth.


V.
Ar draethell Meirion nid yw'r wendòn leddf
Yn diog-gysgu byth ym mreichiau deddf,
Di-orffwys hefyd fel y ddiflin dòn
Yw ymgyrch gofid ar y ddaear hon;
Nid plentyn cenedl yw, nid mab un oes,
Rhyw fyth-bresennol bennyd yw ei loes.
Teifi gofid ddafnau heillt i fwynder byd
Y bywyd bach sy'n gwenu yn ei gryd.
Ac er i'r plentyn dyfu o'i gadachau,
Ni lwydda byth i dyfu o'i ofidiau;
Er fod rhyw nef o swyn yng nghyfnod serch
Pan lifa hoen i fynwes mab a merch,
Angerddol ydyw fflammau'r serch siomedig
Sy'n ysu bron yr eneth wrthodedig.
Os tremio wnaf ar wyneb unrhyw ddyn
Câf weled gofid yno'n tynnu 'i lûn,
Mae 'i fron fel berwol för o ofid hallt
A'i ewyn gwyn yn glynnu yn ei wallt,
Ac fel mae grym yr henwr yn llesgau
Mae'n teimlo beichiau gofid yn trymhau,

Ac O mor aruthr! y mae gofid chwerw
Yn medru byw lle'r ydwyf fi yn marw.
Mor flin yw'r daith o'r cryd i'r fynwent lonnydd,
Mae dagrau byd yn mwydo llwybrau cynnydd.


VI.
Wrth droi dalennau prudd gofiantau pryder,
A dilyn camrau poen hyd "dywod amser,"
Rwy'n gweld mai'r gwron-ddyn yw'r merthyr mwyaf,
Mai'r da a'r pur raid gario'r croesau trymaf.
Mor fynych bydd cenfigen hagr, ystrywgar,
Yn rhwygo cymeriadau tlysa 'r ddaear;
A lluoedd trais yn dilyn yn ei chamrau
Fel bagad o anarchiaid di-reolau.
Ni chaiff yr oes un Socrates arwrol
I roi cyfeiriad uwch i'r meddwl dynol,
Na theimla fod ei ddiwedd prudd yn agos
Pan genfydd hwyliau'r llong yn dod o Delos.
Os am ro'i llàm yn ddyn i fyd y duwiau
Rhaid i Empedocles anturio'r fflammau;
Mae carchar Bedford byth o flaen pob Bunyan,
Ac ni cheir Cromwel ond o faes cyflafan;
Rhyw Gethsemane unig deift ei chysgod
Dros lwybyr y Gwaredwr ym mhob cyfnod;
Ac os ca'r Iesu-Frenin foliant claer,
Cableddau'r llu gaiff Iesu-Fab-y Saer,
"I dynged flin y ganed plant y duwiau,"
Medd Euripides gynt-medd profiad oesau!


VII.
Dacw dderwen unig wedi i
Amser hên ei gwneyd yn geubren,
Dacw hwnnw wedi'i hollti'n
Ddau gan aden gwibiog fellten.
Dacw graig ag ôl ystormydd
Wedi gwneyd ei gruddiau 'n gandryll,
Dacw agen yn ei mynwes
Rwygwyd gan ddaeargryn erchyll.
Trwm yw dyrnod ambell gorwynt,
Aden mellten dery ddyfnaf;
Hyd y wyneb cerdd ystormydd
Daear-gryn sy'n cerdded drymaf.
Beth yw'r gofid sydd yn gosod
Nodyn lleddf yng nghân aderyn?
Beth yw'r ing sy'n agor llifddor
Dagrau pryder mam dros blentyn?
Onid awel yn y cangau?
Onid creithiau ar y wyneb?
Gofid meddwl yw'r daeargryn—
Dyn yn teimlo 'i gyfrifoldeb !
Meddwl am bechodau'r ddinas
Barodd i'r Gwaredwr wylo,
Meddwl am y ddinas ddryllia
Lawer bron ddyngarol etto.
Ymofidia'r enaid cyfiawn
Uwch ymchwyddol fraw'r drygioni,
Bair i'w fynwes lednais chwyddo
Mewn anobaith, neu mewn gweddi.

Poen y gŵr sy'n meddwl ydyw 'r
Mellt sy'n rhwygo 'n ddwfn i'r galon,
Meddwl nes mae ei gwestiynau 'n
Troi yn ddrychiolaethau duon.


VIII.
Gwell yw'r oes o bawb sy'n dioddef
Mwy 'i dylanwad ar y byd,
Gofid arwyr sy 'n gweddnewid
Tueddiadau gwlad o hyd;
Ing y cedyrn ym mhob cyfnod
Sy'n dyrchafu 'r "brodyr llai,"
Blaenffrwyth daear i'w gwaredu
Roir yn aberth dros ei bai.
Nid aiff ingoedd ymdrech meddwl
Byth yn ofer ar eu hynt,
Medir heddyw gnŵd bendithion
Hauwyd yn yr amser gynt.
Pery ebyrth rhai i losgi
Wedi cau eu bedd er's talm,
Ocheneidiau oes ar wefus
Oes ddilynol dýrr yn salm.
Erys caredigrwydd Howard
Ar ei ôl i wella'r byd,
A'i ddylanwad mewn dilynwyr
Bery 'n fendith ym mhob tûd;
Mae crymannau Cymru 'n prysur
Fedi cnwd y breintiau fil,
Roddodd Charles wrth estyn iddi
Feibl Duw, ac Ysgol Sul.

Hên Ardderchog Lu'r Merthyrri
Wrth wynebu fflammau llid,
Wnaethant adnod dioddefaint
Yn ddatguddiad Duw i'r byd.-
Heb y Groes ni byddai gofid
Dyn ond hunanladdiad drud,
Ingoedd Iesu ar Galfaria
Roddodd werth yn niodde 'r byd.
Methodd oesau ddeall ystyr
Gofid ar y ddaear, cyn
I farwolaeth Crist esbonnio
Aberth ar Galfaria fryn.
Goruchwyliaeth Duw i'n puro.
Bellach yw pob cûr a loes,
Cafodd gofid ystyr newydd
Ar Galfaria, wrth y Groes.


IX.
Mae dwylaw'r byd wrth estyn drain a chroes
Yn paratoi'r Gwaredwr ym mhob oes,
Ag angerdd cûr wrth geisio difa cariad
Fel heb yn wybod yn perffeithio'r Ceidwad:
Nid yw'r trallodion esyd byd yn erbyn
Y gwron-ddyn, ond grisiau iddo esgyn,
Os teifl cenfigen rwystrau ar ei lwybr
Caiff deimlo'i fraich yn gryfach wedi'r frwydr:
Nid pa sawl hâf fu 'n glasu brig y dderwen
Ddwêd am gadernid boncyff prâff y goeden,

Y dymmestl honno wrth ysbeilio'r brigyn
Roes yr un pryd gadernid yn ei gwreiddyn―
Mae stormydd gofid byd yn gwella'r teithwyr,
Yn nyffryn llaith gofidiau megir arwyr,
Ond try gofidiau gyrfa'u pererindod
Yn ddechreu gwae i blant yr anufudd-dod.


Ac O! pwy ddwêd eu gofid
Ym more'r Farn a ddaw,
Am na bydd Duw yn gwrando cri
Cwrdd gweddi'r "aswy law,"
Eu cydwybodau rwygir
Gan ofid, gwae, a phoen,
Wrth weld y mellt yn llosgi'n fyw
Yn nhrem yr Addfwyn Oen.
Try'r Farn yn ddechreu diluw
Gofidiau iddynt hwy,
Ni ddaw'r golomen gylfin aur
A'r ddeilen iddynt mwy,
Ond egyr pyrth llawennydd.
O'r bedd i deulu Duw,
Bydd gwaed yr Oen ar lyfrau'r Farn
A'r Oen ei Hun yn fyw.


XXII.
Y CYWAIR NEWYDD.

Pêr yw salmau nablau'r cyfddydd
Olchwyd yn y gwaed;
Tlŵs yw grâs yn codi cenedl
Ar ei thraed.

Pefria'r llygad oedd yn loew
Gynt gan oleu hûd,
Erbyn hyn gan wawl dwyfolach
Arall fyd.

Dieithr ydyw 'r profiad newydd.
Ffrwyth y fendith fawr—
Rhag mai breuddwyd yw ei nefoedd
Ofna'r wawr.

Ond mae hyder bywyd gloewach
Yn cryfhau ei threm,
A maddeuant Duw 'n tyneru'r
Awel lèm.

Os daw cwmmwl i'w ffurfafen.
Ni bydd ynddo fellt,
Nef sy'n llond pob deigryn ddisgyn
Ar y gwellt.


Llifa'r dydd i'r hen freuddwydion
Chwilient am y wawr,
Duw sydd yn dehongli pobpeth
Iddi'n awr.

Ddarlun anwyl! Cenedl ieuanc
Fu'n cofleidio rhith
Yn yr awel, ar ei glinniau
Dan y gwlith.

Wedi gweled rhwng y myrtwydd.
Wrthrych hardd Ei wedd,
Clywch ei gweddi—"O am aros
Yn Ei hedd."

Wedi'r fendith, trengodd cerddi
Gwagedd ar ei mant—
Llaw fu dan yr hoelion, heddyw
Chwery'r tant.


XXIII.
DINAS Y DYFNDER.

Arianna'r lloergan
Binaclau càn,
Prif-ddinas y cantref
A'i thyrrau bàn.

Yng nghysgod y morglawdd
I drwmgwsg syrth,
A chaethwas Bacchus
Sy'n gwylio'r pyrth.

Ond troi i'r heolydd
Cyn torriad dydd
Mae cesyg ewynog
Gwyn ab Nudd.

Yn fore drannoeth
Daw 'r haul i'r làn,
Ni wêl y ddinas
A'i thyrrau bàn.

Mae'r môr-forwynion
O'r tonnog li'
Yn nofio 'n dawel
Drwy 'i llysoedd hi,


A llanw'r Iwerydd
Yn chware 'n rhydd,
Hyd loriau 'i neuaddau
Yng nglâs y dydd.

Ond ambell i noswaith
Serenog glir,
Clyw'r morwyr ei chlychau
Yn canu 'n hir.

Peroriaeth sy'n goglais
Pob llednais fron
Yw miwsig cyfriniol
Prif-ddinas y dòn,


Yn ymwybyddiaeth
Fy mynwes i
Mae adfail mawredd
O dan y lli'.

Ond ambell i hwyrnos.
Yng nghwmni Duw,
Daw miwsig y clychau
Yn ôl i'm clyw.


XXIV.
ELERI.

Chwery 'r ffrydlif rhwng y main
O lain i lain eleni,
Cân y gog o'r fawnog faith
Iaith llynedd yn y llwyni
Ednod hâf ar dynnaf dant
Delorant glod Eleri.

Arddwyr sydd ar gefn a rhŷch
Yn dewrwych dorri daear,
A daw'r drudwy dros yr âr
Fel brenin hyd ael braenar,
Llonni wnant pan welant wrid
Eleri deg o'r dalar.

Goreu miwsig dymmor hau
Sŵn ogau ar y marian,
Sŵn bugeiliaid hyd y ffridd
Yng nglås y dydd yn chwiban,
Ag Eleri cyn dyddhau 'n
Neshau drwy erwau arian.

Ond mae prudd-der heno 'nghain
Sain llinnos yn y llwynni,
Am nad yw y fûn yn dod
I'w rhodle ger y rhedli',
Gwanwyn llon a'i geinion gant
Alarant heb Eleri.


XXV.
YMSON.

Tlŵs yw cainc telynnau bywyd
Dan symudliw wawr y wledd,
Am fod blodau 'n cuddio'r helyg,
Am fod llwyni 'n cuddio'r bedd.

Addewidion ffawd, fel pinwydd,
Wisg y bryniau pell â swyn,
Gwyrddion ddail sy'n cuddio gwylliaid
Lechant yn y prydferth lwyn.

Gwamal ydyw llwydd fel gwênau
Haul yr haf ar wëoedd gwawn,
Ansefydlog yw anrhydedd,
Brau fel cwmmwl gwyn y nawn.

Pan fo clych y gog yn gwahodd
Ifanc Fai i'r gwndwn glâs,
Gwelir ystryw dan y deri'n
Cloddio bedd yng nghoed y plâs.

Nis gall helyg yn eu blodau
Sicrhau parhâd y gerdd,
Nis gall llwyni cyfeillgarwch
Guddio brâd y fynwent werdd.


XXVI.
CYFRINACH Y GOEDWIG.

Cyfaredd dwfn yr hwyrnos brudd
Ddaeth dros y goedwig werdd,
A than ei haden lonydd hi
Y cysgai adar cerdd.

Ymrithiol fodau y cyhudd
Ymlonnent dan y coed,
Ac nid oedd clychau'r borfa lâs
Yn deffro dan eu troed.

Nid oedd ond cri'r ddylluan wèn
Yn swnio'n oer a gwàn,
A siffrwd pell wylofus dòn
Yn marw ar y làn.

Ond lloer y noswaith honno gaed
Yn syllu 'n ofnus syn
Ar ddafnau gwaed gwyryfol fron
Yn rhuddo'r barug gwŷn.

Y llofrudd fföi'n lladradaidd, fel
Y gwyllnos dros y ddôl,
Ond tynged, fel ei gysgod tàl,
Ymlidiai ar ei ôl.

Y lloergan droi y barug gwyn
Yn waed o dan ei droed,
A'i harian lif yn fedydd roi
Ar fedd yng nghudd y coed.


Daeth niwldarth lleithiog dros y wig
I guddio'i gamrau coll,
Ond llygad Rhywun drwy y sêr
A wyliai'r cwbl oll.


XXVII.
MYFANWY WYNN.

Mae'r bâd yn crynu ar y Llŷn,
A chryn fy nghalon innau,
Gan ofn na ddaw Myfanwy Wynn
I groesi 'r gleision donnau.

Mor hyfryd y mordwyem gynt,
A'r glaslyn yn breuddwydio,
Myfi yn rhwyfo 'r båd i'w hynt,
Myfanwy Wynn yn llywio.

Ond heno trymach yw y bâd,
A garwach yw y rhwyfau,
Rhyw alltud pell yw 'm cyn-fwynhâd,
Creulonnach yw y tonnau.

Mae pleser-fâd fy mywyd gwyn,
O wyll i wawr yn crwydro,
Heb nôd, na diben, am nad yw
Myfanwy Wynn yn llywio.


XXVIII.
YSBRYD ARTHUR.

Distaw yw'r Ogof
Yng nghil y cwm
Ag Arthur a'i filwyr
Yn cysgu'n drwm.


Mae annibyniaeth
Gwerin dan draed,
A gormes gwladol
Yn sugno 'i gwaed.

Llwydni y plygain.
Sydd dros y tir,
Ag adar y cyfddydd
Yn oedi'n hir.

Ond dacw wawrddydd
Deffroad gwell
Yn dechreu gwynnu
Y bryniau pell.

O flaen y goleu
Mae'r nos yn ffoi,
A lluoedd Arthur
Yn cyd-ddeffroi.


Ond medd rhyw ysbryd―
"Rhy fore 'n awr,
Cysgwch, farchogion,
Nes tyrr y wawr."

Gorffwysa pob milwr
A'i gledd ar ei glûn,
Ond ysbryd Arthur
Sydd ar ddihûn.

Mae e'n ddylanwad
Ar faes y gwir,
Mewn diwygiadau
Yn ennill tir.

Mae'n arwain Cymru,
Yn hwylio'i cham
I fuddugoliaeth
A'i gledd yn fflam.


Distaw yw'r milwyr
A'u hûn yn drwm,
Ond ysbryd Arthur
Sy'n llond pob cwm.


XXIX.
ENID.

Hwyrddydd hâf ar fin y Ddwyryd
Cwrddais Enid gynta 'rioed,
Blodau'r alaw lond ei dwylaw,
Glas y weirglodd dàn ei throed;
Llithrai 'n esmwyth fel gwanwynol
Loewyn byw dros flodau'r allt,
Gwawrddydd Ebrill yn ei llygad,
Aur Mehefin yn ei gwallt.

Hwyrddydd hâf ar làn y Ddwyryd
Gwelais Enid wedi hyn,
Draw dros felfed gwyrdd y gwaenydd
Yn dynesu yn ei gwyn;
Law yn llaw ar bwys y bontbren,
Siffrwd Medi ar y ddôl,
Rhois fy serch i ofal Enid,
Ces ei chalon hithau 'n ôl.

Hwyrddydd llym ym merw'r Ddwyryd,
Cochni Hydref ar y coed,
Crwydrais wedyn heb fanwylyd
Gafodd fedd yn ugain oed;
Murmur lleddf y Ddwyryd loew
Gyda chwyn fy hiraeth i
Bob dechreunos gynghaneddant
Uwch y bedd gerllaw y lli'.


XXX.
MERCH Y MORFA.

Merch y Morfa'n haner-clâf,
Lliw y gwmon ar ei grudd,
Ger ei chaban unig gáf
Yn cyniwair derfyn dydd.

Aeth y badwyr dros y lli',
Gyda'r llanw 'n llon i'w taith,
Enw Rhywun glywais i
Ar ei min, a'i grudd yn llaith.

Wedi'r ddrycin daeth y bâd
Dan ei greithiau'n ol i dir,
Cyflawn heno yw mwynhad
Serchog ddau dan awyr glir.

Unwaith etto ger y lli'
Nid yw'n ofni'r dòn a'i llid,
Enw Rhywun glywais i
Ar ei min, a'i grudd yn wrid.


XXXI.
Y TIR PELL.

Mae Paradwys hwnt i'r niwloedd
A'i gwinllannoedd oll yn ir,
Ac mewn ambell freuddwyd goleu
Câf fy hunan ar ei thir.

Tir o ryddid, ac o lawnder
Luniwyd gan ddychymyg beirdd,
Beulah bortreadwyd ganwaith
Yn eu drychfeddyliau heirdd.

Dyma'r Colchis hwyliodd Iason
Iddi yn ei Argo gynt,
Pan fordwyodd heibio'r creigiau
Gwgus i'w beryglus hynt.

I'r Afallon hon yr hwyliodd
Arthur Fawr yn sŵn y gerdd,
Dyma Wenfro Cleombrotus
Geisiodd yn y weilgi werdd.

Dyma dynfa 'm gobaith innau,
Cartref fy nelfrydau fyrdd,
Lle mae bywyd yn blaguro
Ac yn aros byth yn wyrdd.


Gwlad gyfriniol na chyrhaeddais
Ond mewn breuddwyd gwyn erioed,
Gwlad na faidd llaw greulon angau
Lwydo 'i thŵf na chrino 'i choed.

Nis gall fenaid mwy gartrefu
Ym mherllannau gwynfyd bâs,
Am fod nod fy nyheadau
Hwnt i'r wybren loew lâs.

Teimlaf hiraeth yn fy mynwes
Nas gall un daearol fri,
Dorri 'i newyn anniwallol
Na thawelu'i fythol gri.

Drwy ffenestri ffydd edrychaf,
Dros fynyddau'n wyn i gyd,
Yn fy awydd am ogoniant
Tlysach nèn, a gloewach byd.

Mae'r di—derfyn yn fy ngalw—
Yng ngorwelion bywyd gwell,
Mae Paradwys fy mreuddwydion
Yn y golwg, er ym mhell.


XXXII.
BEN BOWEN.

Ben Bowen anfarwol! Ffarweliodd yn gynnar,
Daeth llwydni y glŷn dros brydferthwch ei ddawn,
Os gwywodd ei fywyd a'i gân ar ei haner,
Mae'r bore 'n brydferthach lle nad oes prydnawn.

Os daeth ei bryd noswyl yng ngwawrddydd ei fywyd
Cyn rhoddi mynegiant i oreu ei fron,
Caiff ganu'r gân well oedd yn nyfnder ei enaid
Yng ngwlad y telynnau, tu arall i'r dòn.

Croesawyd e'n gynnar i fyd lle mae cariad
Yn tanio ei awen yn lloni ei lef,
Wrth weled y dwylaw groeshoeliwyd yn uno
Y tannau torredig yng ngwynddydd y nef.

Fe groesodd dan gânu trwy'r glyn sydd mor ddistaw,
Cyfanwyd ei delyn ar gyfer y wledd,
Mae'i lŵch a'i feddyliau dan sêl y cyfammod
A bwa'r addewid yn dlŵs ar ei fedd.


XXXIII.
ALWYN HENGWM.


Golygfa—Cwm Penmachno.
Amser—Tymmor y Gaeaf.
Cymeriadau—Alwyn Hengwm, bugail.
Arianwen, merch Blaenglasgwm.
Hyfreithon, etifedd Glasgwm Plas.
Ag eraill.


ALWYN HENGWM.

i
Mae bellach lawer blwyddyn.
A'i helynt gyda hi,
I ebargofiant wedi mynd
Fel dyfrgloch ar y lli',
Er pan fu Alwyn Hengwm
Yn swn y Gonwy lân,
Ar hyd llechweddau Machno gynt
Yn gwylio 'i ddefaid mân.

Drwy'r Cwm aeth ugain gaeaf
Mewn stormydd ar eu hynt,
A gwelwyd llawer tro ar fyd
Gan deulu'r Hengwm gynt.
Yn fugail ar y mynydd
'Roedd Alwyn erbyn hyn
A'i fugail-gerddi, fore glâs,
Yn deffro ecco'r glŷn.

Yng nghwmni'r wyn a'r defaid
Dymunai'i galon fyw.
'Run fath a'i dâd a'i deidiau gynt
Dan wybren lydan Duw;

Meddyliai yn ei nefoedd
Fynyddig uwch y byd,
Fod einioes bugail ar y bàn
Fel Gwynfa'n wèn i gyd.


ii.
Bu teulu Rhys Morgan, yr hên amser gynt
Yn byw ym Mhenmachno am flwyddi
A chlywid, drwy'r ardal, ryw si yn y gwynt
Fod arian Blaenglasgwm yn croni.
A chan fod ei rhïaint mor dda yn y byd
Arianwen gådd lu o fanteision;
Nes tyfodd yn wyryf ddeniadol ei phryd
A'i moes i'w phrydferthwch yn goron.
Disgynai ei gwallt yn fodrwyau o aur
Dros wddf oedd can wynned a'r ewyn
Y dydd, dan ei hemrynt, belydrai mor glaer
Nes taniodd yn fflammau serch Alwyn.


Ym mysg ei hedmygwyr fe enwid
Hyfreithon, etifedd yr Hall,
A thynodd y feinwen â'i glendid
Ei galon yn llwyr ar ei hôl—
Dychmygai y tyfai meillionen
Ym mhobman lle sangai 'n ei thro;
A cheisiodd berswadio Arianwen
I ddod yn Arglwyddes y fro.


iii.
Un bore oer drycinog
Pan gysgai'r wlad yn drwm,
Ceid gweled Alwyn Hengwm.
Yn dringo llethrau'r Cwm,
A "Thango" yn ei ganlyn.
I chwilio am y myllt
Oedd wedi'u claddu'r noswaith cynt
Dan iâ 'r mynydd-dir gwyllt.


Bu'n crwydro 'n flin am oriau
Drwy gnŵd o eira gwŷn,
Hyd ystlys Cwrt y Bugail
A ffriddoedd Pen y Bryn;
Ond wrth ddychwelyd adref
A'i galon braidd yn brudd
Hyd lwybyr Blaen y Glasgwm
Yng ngoleu cynta'r dydd,
Sŵn cân o'r fuches glywai'n
Dod dros yr eira gwŷn.
Ac megis balm i'w glwyfau ef
Disgynai'r geiriau hyn:—


"Os ydyw serch fel crwydryn pell
Heb gymmar ambell gyfnod
Fe genfydd draw ddyfodol gwyn
'Nid ydyw hyn ond cawod.'"


Distawodd llais Arianwen;
Ond teimlai yn ei gôl
Ogleisiad serch, a than ei swyn
Fe ganai yntau'n ol:—

"Os yw'r tir yn llwm ag oerllyd
Os yw'r wybr a'i glesni'n glâf,
Tröant gyda thi fanwylyd
Fel boreuau hyfryd hâf.
Os yw'r teimlad yn ddolurus
Balm i'r clwyf yw cariad merch,
Os yw'r gwynt yn oer a throiog
Digyfnewid ydyw serch."
Cyfarfu Mab yr Hengwm
Arianwen wedi hyn
A theimlent fod dwy galon
Yn nesu 'n fwyfwy tŷn.
Ryw hwyr ar làn y Gonwy,
Dan gysgod derwen gêl
Tyngasant lŵ ffyddlondeb serch
A chusan arno'n sêl.


iv.
Tra 'roedd Ionawr fel drychiolaeth
Yn y wlad yn sangu'n drwm,
Torri 'n glafaidd wnaeth boreuddydd
Eu priodas yn y Cwm;
Daeth y bore disgwyliedig
Wedi nôs dymmestlog hir,
Ag effeithiau'r storm yn aros
Yn llifogydd dros y tir.


Gyda mintai o'i gyfeillion
At y Gonwy, gyda'r wawr,
Brysiai Alwyn, er ei ddychryn,
Nid oedd pontbren drosti 'n awr;
Yn ei bryder am Arianwen
Ceisiodd groesi'r cenllif cry'
Ond diffygiodd! suddodd! boddodd!
Er ymdrechion o bob tu!

O drychineb calonrwygol!
Aed yn ôl a'i farwol ran,
Yn lle'n holliach at yr allor
Tua'r Bettws, drwy y Llàn!
Yn ei wisg briodas newydd
Druan, wedi'r aflwydd trwm
Claddwyd ef, a'r gwynt yn dwnnad
Ei alarnad yn y Cwm!


v.
Mae'r chwerw mewn cariad ym mhob oes o'r byd,
Ac aros heb newid mae cariad o hyd.
Ar finion y Gonwy, bob Mawrth cynta 'r mîs,
Gerllaw'r fan lle collodd y perl o fawr bris,
Ceid gweled Arianwen yn codi cofadail
O gerrig claerwynion i Alwyn ei bugail.
Un bore Hyfreithon yn angerdd ei serch
Ddaeth yno i ofyn am galon y ferch.


"Na," medd hithau, "cerais Alwyn,
Os yw heddyw'n wyw ei wedd,
Mae fy serch yn para i losgi
Etto'n fyw ar lwch ei fedd."

Troi ymaith yn ysgogaidd
Mewn tymmer gibog gâs,
A'i falchter wedi'i glwyfo wnaeth
Etifedd Glasgwm Plâs;
Aeth hithau tuag adref
Yng nghwmni'i galar trwm,
A'i gwedd yn brudd a gwywol fel
Yr Hydref yn y Cwm.


vi.
Un diwedydd ddechreu'r flwyddyn
Wedi pedwar gaeaf blin,
Brysiai merch at làn y Gonwy
Er gerwined oedd yr hin;
Nid oedd blwyddi wedi oeri
Gwres ei sêl na thân ei serch,
Er fod aradr creulon amser
Wedi rhychu gruddiau'r ferch.

Brysiai rhagddi dros y weirglodd
At y bont yn llesg a gwàn,
Ond ni welai'r cerrig gwynion!—
Nid oedd golofn yn y fàn!

Yn ei fryntni annystyriol
Ddiwrnod cynt wrth groesi'r ddôl,
Taflu'r golofn waeth Hyfreithon
I li'r afon yn ei hôl.
Roedd yr ergyd mor drylethol;
Gerllaw dyfrllyd fedd ei serch,
Ar ei glinniau, lle bu'r golofn,
Torri 'i chalon wnaeth y ferch!

Drwy y Cwm, rai dyddiau wedyn
Araf deithiai angladd syn,
Hyd y gefnffordd gyda'r Glasgwm,
Heibio 'r Llàn drwy'r eira gwyn;
Os gwahanwyd hwy mewn einioes
Un yw 'r ddau yn nhrigfa'r hedd,
Huna'r fün yn nhir y Bettws.
Gyda'i bugail yn y bedd.

Tra bydd storm ar Gwrt y Bugail
Sonir am y "noswaith fawr,"
A danghosir "Crug Arianwen"
Wrth y bontbren hyd yn awr;
Ond os collwyd yn y Bettws,
Erbyn hyn, eu beddrod llwm,
Cadw'n fyw eu coffawdwriaeth
Mae traddodiad yn y Cwm.


XXXIV.
BREUDDWYD GLYNDWR.

Safodd Glyndwr ar fynyddoedd Meirionydd
A chysgod y plygain yn drwm ar ei wedd,
Clywodd ruddfannau yn esgyn o'r cymmoedd,
Plygodd i wrando, a'i bwys ar ei gledd.

Safodd yn hir ar fynyddoedd Meirionydd
A'i galon yn gwaedu dros gyflwr ei wlad;
Breuddwydiodd am uno ei genedl rannedig,
Chwifiodd ei gleddyf ym mhoethder y gâd.

Safodd yn hir ar fynyddoedd Meirionydd
A gwychder ei freuddwyd yn garnedd dan draed,
Gwelodd fradwriaeth yn düo 'r gorwelion
A gruddiau'r dyffrynoedd yn wridog gan waed.

Plygodd i farw dan gysgod y creigiau,
Canodd wrth huno, a gwenodd drwy 'i hûn;
Gwelodd y wawrddydd yn gwynnu 'r mynyddoedd,
A'i genedl yng ngoleu'r dyfodol yn Un.


XXXV.
Y DDAU FORE.

Codi ei bebyll mae'r gwanwyn
Ar feddau y gaeaf llwm,
Tarddu mae newydd eginyn,
Agor ei lygaid mae'r cwm;
Chware ei delyn mae bywyd,
Canu ei garol ddi-ail,
Ynni a sŵn sy'n ymsymud,
Dawnsio i'r miwsig mae'r dail.

Cyfrin a dwfn yw'r adfywiad
Ddeffry y ddaear o'i hûn,
Dyfnach yw 'r dwyfol ddylanwad
Ddeffry gydwybod mewn dyn;
Cenfydd ar lyfrau 'i chofnodion
Hanes ei fywyd bob darn,
Torri ar ddwfn ymwybyddiaeth
Enaid mae bore y Farn.

Marw er deffro mae'r blodau
Cilia disgleirdeb eu gwawr,
Pery yr enaid yn effro—
Erys tra'i babell ar lawr.
Etto 'r holl feirwon adferir
Cesglir dynoliaeth bob darn,
Gwelaf ar fore o wanwyn
Fore rhyfeddach y Farn.


XXXVI.
ARWEDDAU'R MOR.

Mor dawel ar fore hir-felyn o hâf
Breuddwydia'r cefnfor yn dawel brâf.
Mae'r llanw yn llifo i fynu 'r afon,
A'r llongau ollyngir i ryddid yr eigion.
O'u mewn mae calonnau yn curo 'ynghynt
Na'r tonnau sy'n hebrwng y llongau i'w hynt,
Mae rhywrai yn chwifio cadachau gwynion,
A'r morwyr yn canu wrth godi'r angorion.
Canant wrth ledu eu hwyliau i'r awel,
Ond cychwyn mae ambell i lestr na ddychwel.


Daeth y nôs fel profedigaeth dros yr aig ar aden laith,
Ac mae ysbryd storm yn düo llygad glâs y cefnfor maith.
Mae ysbrydion y dyfnderau yn ymgreinio a'r ddi-hûn,
Torwyd ar eu dydd-freuddwydion gan ruadau'r corwynt blin;
Utgorn braw yw rhů y weilgi wrth ymchwyddo tua 'r nef,
Ac mae cysgod angau 'n torri trwy ei hafnau dyfnion ef.
Iasau dychrynfeydd marwolaeth sy'n trywannu llawer bron
Wrth i'r dymmestl agor beddau nas adwaenir îs y dòn.
Brwydra'r morwyr fel gwroniaid ar y tonnau'n llesg a gwan,
A'u hanwyliaid yn dibynnu am gynhaliaeth ar y làn.
Fory bydd amddifaid tyner ag anobaith lond eu côl
Ar y tywod yn galaru am na ddaeth y llongau 'n ôl.

Daeth angel y wawr i ostegu'r môr,
A newid cywair ei donog gôr;
Diddannu 'r morwyr mae'r tonnau ffraeth
A chanu mae'r cregyn ar hyd y traeth;
I'r porthladd daw ambell i lestr golledig,
Ag olion ystorm yn ei hwyliau drylliedig.
Mae serch yn wallgof a chariad yn ffôl
Wrth weled y llongau yn dod yn ôl.
Ond tremia dychymyg ym mhellach na 'r llongau
A chenfydd briodas y wybr a'r tonnau :
Y storm yn huno, a nefoedd ac eigion
Yn cwrddyd eu gilydd draw yn y gorwelion.


XXXVII.
SONED.

Ti awel feddal fwyn, lawforwyn byd,
At Ddyddgu dós yn llatai drosof fi;
Dwêd yn ei chlust, mewn melus oediog sï,
Am ddwyfol serch ei bardd, a'i ofid mûd.
Cusana wefus win y dêg ei phryd,
Ar ei sibrydion melus gwrando di,
Dan gwmmwl aur o wallt y gweli hi,
Ar lŵth o irddail yn ei deildy clyd
Tröella blethwallt llaes y feinir dlôs,
Anadla 'm cariad llòsg i fron y ferch
Sy 'n siarad serch drwy gerddi 'r adar rhydd,
Yn gwenu arnaf drwy y gwull a'r rhôs;
Dwêd byddaf ffyddlon byth i fûn fy serch,
Y riain dàl lygatlas fel y dydd.


XXXVIII.
GWAITH A CHAN.

Gweithia dàn ganu, fy mrawd,
Cei felly fendith i'th ysbryd;
Mae cân yn esmwytho 'r gwaith,
A gwaith yn prydferthu'r bywyd.

Gweithia dan ganu, fy mrawd,
Mae'r byd yn rhy dlawd i'w hebgor,
Mae'r delyn, a'r fendith o hyd
Yn llechu yng nghysgod yr allor.

Gweithia dan ganu, fy mrawd,
Segurwyr y byd sydd yn grwgnach,
Mae gwaith yn gwneyd dynion yn well,
A chân yn gwneyd daear yn llonnach.

Canu mae'r engyl, fy mrawd,
Wrth weithio ar aden ddi-orphwys;
Mae cân yn cymmwyso i'r Nef,
A llafur yn hawl i Baradwys.

Gweithia dan ganu, fy mrawd,
Y gweithiwr all ganu bereiddiaf;
Canu bu'r Gweithiwr Mawr
Pan oedd cysgod Ei groesbren drymmaf.

Gweithia dan ganu, fy mrawd,
Mae 'th oes yn rhy fèr i'w gwastraffu;
Cei dragwyddoldeb i gyd
Yn fuan i orphwys a chanu.


XXXIX.
EMYN DIOLCH.

Diolch am gael gwlith y fendith,
Diolch am y cynnar wlaw
Yn gawodydd bendigedig
O wybrenni'r byd a ddaw;
Dyro etto,
Iesu anwyl, dyro fwy.

Diolch am y dylanwadau,
Diolch am y nerthol wynt,
I anadlu bywyd newydd
Ar yr esgyrn, megis cynt;
Dyro etto,
Iesu anwyl, dyro fwy.

Diolch am y bedydd tanllyd,
Doniau pur yr Ysbryd Glân,
Na foed hên allorau Seion
Mwyach heb y dwyfol dân;
Dyro etto,
Iesu anwyl, dyro fwy.


XL.
RHOSYN SARON.

Rosyn dihalog,
Rosyn dihalog,
Brenin rhosynau y ne';
Y mae ôl Ei aberth prid,
Ar Ei ruddiau 'n ddwyfol wrid,
A'i bersawredd yn llenwi pob lle.

Tlysni y Rhosyn,
Tlysni y Rhosyn
Bery 'n ddihalog o hyd;
Mae y nefoedd yn Ei wawr,
Iachawdwriaeth yn Ei sawr,
Yn ei wenau mae bywyd y byd.

Drylliwyd y Rhosyn,
Drylliwyd y Rhosyn,
Gan ddwylaw brâd ar y bryn;
Ond mae 'n perarogli 'n fwy,
Ar Galfaria dan Ei glwy'—
Yn Ei rin daw yr euog yn wyn.


XLI.
YR AFON OLAF.

Mae'r storm yn gwallgofi
O'm hamgylch yn awr,
A dail fy ngobeithion
Yn disgyn i'r llawr;
Cynlluniau fy mebyd
Yn garnedd ddi-hedd,
A siomiant yn plygu
Fy mywyd i'r bedd.

Mae'r afon yn ymyl!
A'i swn yn dwyshau,
Ei niwl yn fy nallu,
A'i llif yn dyfnhau;
Mae oerni byd arall
Yn fferu fy mron,
A dychryn marwolaeth
Yn nuwch y dòn.

Mae'r storm wedi cilio,
A'r dwfr yn fwy bâs,
Mae'r làn yn y golwg,
A'r awyr yn lâs;
Mae Rhywun Bendigaid
Yn nerthu fy ffydd,
Ei freichiau o dannaf
A'm hwyneb ar ddydd.


Y GROES
XLII.

Y Groes
Fu'n ddrych o waeau angau loes,
A delwedd o helbulon oes;
Ond wele troes ei hystyr hi,
Deil mwy i'r nef a'r ddaear lâs
Arwyddlun gras ar Galfari.


XLIII.
IESU HAWDDGARAF.

Iesu Hawddgaraf,
Iesu Hawddgaraf,
Dangos dy Hunan yn awr;
Dyro olwg ar Dy wedd
I dawelu 'n bron ddi-hedd,
O Anwylyd y Nef tyrd i lawr.

Plŷg ni a'th Gariad,
Plŷg ni a'th Gariad,
Plygu mae'r nef wrth Dy draed;
Mae profiadau'r nef yn awr,
Ar delynnau'r cystudd mawr,
Wedi golchi pob tant yn y Gwaed.


XLIV.
BRANWEN FERCH LLYR.


(Cyhoeddir y detholion hyn o Bryddest Goronog
Caernarfon drwy ganiatad caredig
Mr. Vincent Evans a Chymdeithas
yr Eisteddfod Genedlaethol).


BRANWEN FERCH LLYR.

i.
Ar gwrlid gwyrdd y dyffryn yn Ardudwy
Chwareuai'r hâf penfelyn yn y tês;
Roedd blodau'r eithin yn ei eurwallt tonnog,
A'i ddwyrûdd yn melynnu yn y gwrês.

Awelon peraroglus oedd ei wisgoedd,
Ac am ei wddf sidanwê dlôs o wawn;
A'r blodau gwylltion greai â'i gusanau
Yn harddu 'i fwrdd, a'u mêl-gwpannau'n llawn.

Duwiesau anian yn ei blasty tèsog,
Dan bêr-lesmeiriol hûd neuaddau'r mawl,
A blethent iddo goron wỳnlliw'r ewyn,
O rôs a blodau tlysaf deildai'r gwawl.

Yr huan gwridog, fel cariadlanc nwyfus,
A fynnai gellwair gyda'r wèndòn hallt;
A'r chwâ ddireidus yn dynesu 'n ofnus
I dynnu 'i llaw 'n lladradaidd drwy ei gwallt.

Ar orsedd dêg, mewn llys uwchben y weilgi,
Mewn hanner llesmair llêd-orweddai Bran,
Ei anferth ben gynhaliai goron Llundain
A'i meini rhuddliw 'n fyw gan gyfrin dân.


Nid trymmach hwylbren hir na 'i waew nerthol,-
Ac nid oedd Gwawl deyrneiddied ag efe;
Nid oedd i Fran un palas a'i cynnwysai,
Na thô i'w neuadd ragor glâs y nê'.

Ar esmwythfeinciau drud o bali rhûddgoch
Eisteddai'i frodyr mewn brenhinol barch,
A gwyrda lu o osgedd dywysogaidd
O'i gylch yn osgordd barod ar ei arch.

Marweidd-dra trwm y nawn oedd lond yr awyr,
Ac ar y llethrau lleddfai brêf y praidd,
O gil y llwyn doi trydar ysguthannod,
Ac ar y morfa mawr y crwydrai'r blaidd.

Gorweddai'r dydd ar linniau'r pell Orllewin
I farw yn ei waed, fel marchog clâf;
Ei gusan olaf wrïdai for Iwerddon,
A'i alar-gerddi ganai adar hâf.


••••••••••••

Drwy desni'r nawn, y gwyliwr ar y graig
A gerddai ôl a blaen uwch glasliw'r aig,
Chwareuai'r haul a phaladr hir ei waew,
A gwrid y machlud ruddai ractal gloew
Y dòn islaw, fel telyn arian gyfrin,
Wahoddai 'i drem bryderus i'r Gorllewin.
A'i law uwchben ei lygaid syllai 'n hir,
A gwelai 'n dringo dros y gorwel clir
Ryw lynges dêg, a'i hwyliau fel adenydd.
Y gwylain gwyn yn brysio tua'r glennydd.


Difwyn pob llestr a welsai ef cyn hynny
Wrth ddull a nwyf y llynges oedd yn nesu.
Blaenorai un y lleill o'r llestri clysion,
A gwelai godi tarian ar ei dwyfron,
A'i swch yn edrych tua'r glesni tawel
Lle cŵsg tangnefedd distaw a di-orwel.


••••••••••••

Disgynnai'r hwyr mewn esmwyth wisg o nifwl,
A'r chwa 'n rhy wàn i dorri breuddwyd cwmmwl.
Chwareuai'r tylwyth têg o dàn y lloer
Ar gylchog loriau 'r berlog wlithnos oer.
Ar ben pob un 'roedd helm o flodyn eithin,
A chlych y gôg wrth odrau 'u mentyll melyn.—
A hedd y nôs yn nwfn ei lygaid duon
I gynghor aethai Bran a'i dywysogion;
Ei waew wrth ei ystlys yn breuddwydio
Am ymwan chwerw'r cadau aethant heibio;
Ac ar bob llaw, calonnau 'i wŷr gosgeiddig
A gurent un gynghanedd fendigedig.

••••••••••••
Daeth oriau mân y bore i Ardudwy
Yn wridog fel cariadon dros y bryn,
A'u cael dan arian wlith yn dathlu'r undeb
Mor sione a'r tylwyth têg yng nghylchau'r glŷn.
Eu lleisiau llon dros sidan glâs y dyffryn
A gerddai'm mhell i ganlyn tinc y gerdd,
Wrth weld y llŷs yn codi tarian heddwch
Rhwng gwŷr yr Ynys Hon, a'r Ynys Werdd.


ii.
Hyd lannau Meirion, ger perllannau ir,
A theyrnas ddistaw Gwyddno Garanhir
Rhodiannai Branwen brydferth derfyn dydd
I wylio cesyg bywiog Gwyn Ab Nudd.
Dan goron dlós o wallt sidanog gloewddu
Delweddai'r nos oedd yn llywethau Dyddgu.
Ei thalaith oedd o irddail gerddi hud
A'i mantell o wnïadwaith aur i gyd,
Ei phryd fel awyr hâf dan eddi'r gwyllnos,
A'r dydd yng nghil ei llygad yn ymddangos;
A choched oedd porphorliw ei gwefusau
A'r gwaed brenhinol lanwai ei gwythiennau.
Ei danedd mân oe'nt unlliw blodau'r eira
Neu wastad-gnaif ddiadell wedi'r olchfa.
Ei llais fel tinc soniarus clychau arian,
Neu fiwsig pibau'r hâf yn lluest anian.
Ei dwyfron dan y rhôs yn esmwyth donni,
A'i gwddf mor gàn a gwynnaf ôd Eryri.
Sibrydai gŵyn ei serch i glust yr hwyrnos,.
A gwridai'n ddistaw dan gysgodau'r gwyllnos.

••••••••••••
Yng nghiliau'r dyffryn cysgai 'r hwyr yn dawel,
A sü ysbrydion yn dwyshau yr awel,
Drwy'r nos y dawnsiai 'r widdan dan y coed
Heb dorri hún glaswelltyn dan ei throed;
A bywyd wedi blino syrthiai i gysgu
A'i ben ar dlŵs obennydd o friallu.

A hi yn rhodio drwy y ceulwyn chwêg
Canfyddai Branwen un o'r tylwyth têg,
Dan gysgod madalch gwyn ar lâs y dyffryn,
A'i fysedd meinion yn cyweirio'i delyn.
Ei charfan oedd o welltyn aur y gwenith,
A'i thannau 'n arian eddi hûd a lledrith.
Gwrandawai Branwen ar gyfriniol ganiad
Telynor hûd, a'i bron yn glâf o gariad:—


"Mewn palas yng ngwlad y perllannau a'r gwin,
Lle nad oes un gangen wyw,
Dan oleu symudliw neuaddau hûd
Mae serch yn brenhinol fyw.

"Yn neuadd y palas ar finion y lli'
Mae cariad yn darpar ei wledd,
A'i lestri yn llawnion o neithdar y coed
Sy'n tyfu tu arall i'r bedd.

"Hyd lannau breuddwydiol y llynnau di-glwy'
Mae cariad yn rhodio yn rhydd,
A chusan ogleisiol brenhines y gwawl
Yn aros yn wrid ar ei rudd.

"I'r palas cyfriniol tu arall i'r lli'
Peryglus yw'r fordaith o hyd;
Y breichiau sy'n rhwyfo yn egwan a llesg,
A'r hwyliau 'n freuddwydion i gyd.


"Mae'r llestri yn ddrylliau ar finion y lli',
A serch yn anfarwol fyw,
A chariad a'i lygaid yn gochion gan win
Dewinol o winllan ei dduw."

Dadebrai Branwen!—Tawel oedd y dyffryn,
Heb ddim ond nosawl gân y ceiliog rhedyn.
Ei meddwl grwydrai 'm mhell dros for Iwerydd.
I geisio gwlad y gerdd, a'r llynnau llonnydd.

••••••••••••
Cyfodai'r lloer, fel nôs-wyliedydd unig
Ar feusydd pell ei hymerodraeth fûd:
Sylldremiai'r ddaear fry drwy ddagrau manwlith
A'r nef, drwy'r sêr, edrychai ar y byd.

Ar lurig gloew bron ei chariad-frenin
Gorphwysai plethwallt esmwyth Merch y Nôs,
A than y dûr y curai calon gynnes
Y gwrid i ruddiau clysion fel y rhôs.

Edrychai'r sêr ar bedair gwefus gwrel
Ar ymyl cwpan swyn yn mynd yn un,
A serch dwy wlad yn ffurfio 'n gwlwm euraidd
O dan gyffyrddiad serchog mab a mûn.

{••••••••••••
Ar lasiad dydd, y gwyliwr ar y creigiau
Edrychai 'n athrist dros y dòn ddi-daw,
With weld y llynges dêg, a'r hwyliau sidan
Yn cilio eilwaith dros y gorwel draw.


iii.
Yn Ynys Môn, dan gysgod llwyn tawelfrig
Chwareuai Dryad nawnol bibau cerdd,
A'i gwallt modrwyog euraidd yn ymdroelli
Yn süon encilfeydd y goedwig werdd.

Yng nghysegredig gylch y deri oesol,
Gerllaw ei allor, safai'r Derwydd hên;
Ei farf yn wèn, a'i wedd yn batriarchaidd,
A lliw tangnefedd yn ei sanctaidd wên.

Ond yng nghysegrfa cariad mwrllwch difrod
Fel mŵg yr ebyrth ddyrchai tua'r nen;
Roedd serch a brâd yn ymladd eu câd-gamlan
Ar ddaear sanctaidd, cylch yr allor wèn.

Dros beraroglus loriau'r wledd frenhinol,
Fel swynion serch, diflannai'r oriau mân;
Ym mhell i'r nôs y cerddai'r ddawns a'r gloddest;
Ac ar ddisberod crwydrai'r wallgof gân.

Gan faint ystŵr a dadwrdd y gyfeddach,
A'r dieithr hûd ordöai bebyll Bran,
Ni chlywid sŵn dinystrydd o'r tu allan
Yn troi 'n anghydsain boenus yn y gân.


Y lleuad daflai gysgod gŵr llechwraidd
Fel cwmmwl dros y glaswellt dan y coed;
Ystorm o lid oedd ar ei ael winneuddu,
A dedfryd angau oedd yn sŵn ei droed.

Fel arian flodau'r dòn dan loer Mehefin
Disgleiriai'i gyllell lem yn genad brâd,
A'r wawr lâs-lygad welai ôl ei harfod
Yn aros yn dystiolaeth o'r sarhâd.

Ei hergyd ddofn agorodd rhwng dwy Ynys
Agendor lletach na'r Iwerydd maith;
Y cariad hwnw yfai waed ei galon
Roes egni yn ei fraich i wneyd y gwaith!

••••••••••••
••••••••••••
A gwaeau siom yn treiddio trwy ei natur
Y tröi Matholwch tua 'i longau 'n ôl;
Y serch ogleisiai aur linynau 'i galon
A losgai 'n dân eiddigedd yn ei gôl.

Ond os tywalltodd dial ei phiolau
Yn stormydd siomedigaeth ar ei ben,
Roedd gobaith gwella 'i glwyf ar fin y llynnau
Lle cysgai tangnef hir dan lasliw 'r nen.


iv
Brydnawngwaith têg, yn ôl i'r Ynys Werdd
Ai gwŷr Matholwch, yn sŵn melus gerdd.
Yng nghraidd y llong, a'i thresi 'n cuddio mynwes
Ei phriod dewr, eisteddai y Frenhines;
Ei bron yn esmwyth donni gan lawenydd
Wrth ganfod cartref dros y dòn aflonydd.
Ei bryd oedd sylweddoli 'i breuddwyd cynnar
Wrth weld y glannau 'n edrych mor wahoddgar.
Nid gwell oedd teyrnged Dyfed i Riannon
Na'r croeso fu i Franwen yn Iwerddon.

••••••••••••
Mae serch a'i frig yn cyrhaedd hyd y nefoedd,
A'i odrau'n llaith yng nghorsydd lleidiog ingoedd;
Os yw ei grib mewn awyr ddigymmylau,
Mae'r niwloedd oer yn aros ar ei lethrau.
Lle'r oedd a'i aradr yn gogleisio'r ddôl
A hithau'n chwerthin drwy ei chnŵd yn ôl,
Doi niwl tynghedfen, fal rhowd hud ar Ddyfed,
I droi y wlad yn anial noeth di-nodded.
Nid oedd i Franwen namyn orig dawel
Na chlywai atswn gofwy yn yr awel.

••••••••••••
Er tlysed aur y flwyddyn hyd yr allt
Mae iddi arall liw melynwawr prudd;
Er hardded merch a'r blodau yn ei gwallt
Llaw arall greulon liwia flodau 'i grudd.


A chwmmwl dû anobaith ar ei phryd,
Dan ddedfryd chwerw yng ngheginnau'r llys
Dihoenai bywyd tlysaf ferch y byd,
A'i modrwy'n llacio beunydd ar ei bŷs.

Ei llaes gudýnau gloewddu guddient fron
Oedd friw gan wae, oedd fyw gan ddwyfol serch,
Nis gall dialedd, a'i ddigofus dòn
Fyth ddiffodd fflam angerddol gariad merch.

Ei gofid mûd feithrinai wrthi'i hun;
Yn nwfn di-lais y nôs gruddfanai'n drwm
Fel sü'r Iwerydd yng nghilfachau Lleyn
Pan dry y mellt fel seirph am giliau'r cwm.

Aeth tair o flwyddi araf dros y dòn,
Ac nid oedd llong yn cerdded ffyrdd y lli'
O dir Iwerddon hyd i'r Ynys Hon
A wyddai hanes lleddf ei phennyd hi.

Er esmwythau ei gofid, dysgodd iaith
Gyfriniol i aderyn drudwen chwim:—
"Dos at fy mrawd," ebr hi, "dros donnau llaith,
I Wlad y Cedyrn bydd negesydd im'."

••••••••••••
Marchogai Gwyn ab Nudd ei gesyg gwynion.
Yn ewyn drostynt tua chreiglan Arfon;
Doi'r lleddf wylanod dros y cefnfor garw,
A'u hesgyll gwynion fel banerau'r llanw.

Gruddfanai 'r gwynt yn ogofeydd Eryri,
Fel cawr yn nerthol ysgwyd ei gadwyni,
Cymmylau beichiog deithient drwy'r wybrennau,
A'r mellt yn dresi glocwon ar eu bronnau.
Drwy'r wlad 'roedd trwst arfogion yn ymgynull
Ag angel barn. yn hofran uwch y pebyll—
Yr Ynys Hon dan ofal Saith Dywysog
Adawai Bran, a'i guwch yn ddů a llidiog,
I'r Ynys Werdd mordwyai draws y weilgi—
A chrwydrai'r storm yn wallgof drwy Eryri!


V.
Brydnawnddydd glâs ar ôl y glaw,
Ar lannau tir Iwerddon,
Gwŷr môch Matholwch, dan y coed
A yfent ffresni'r chwäon;
Dyrchafai 'r tawch o fron y tir
Fel anadl creadigaeth,
A'r ysgafn niwl ar fron y lli'
Ymledai fel cyfriniaeth.
Y genfaint gyd—fwytäent y mês
Dan dderi glâs y winllan,
A'r gwŷr chwedleuant am y tir
Tu hwnt i'r Lli a'r Archan.
O draw doi llongau tua'r tir,
A'u hwyliau gwyn yn wlybion,
Ac yn y symudliwiog darth
Edrychent fel ysbrydion.

I'r llys negesydd buan ddaeth
O'r glannau 'm mrig yr hwyrddydd,
Ac ebai'r brenin hŷf—"Fe'm dawr
O wybod beth yw 'th newydd."

••••••••••••
Yn flin gan ofid yn ei chil
Gorweddai'r dlôs Frenhines,
A'i gobaith dan ei phennyd hir
Farugai yn ei mynwes.
Ei gwallt ddisgynai megis gwyll
Diblygain dros ei hysgwydd,
Uwch pryd fradychai hanes hir
Gaeafol nos gwaradwydd.
Dychmygai fynd o'i chennad chwim
Yn aberth i anffodion,
Ac i'r duwiesau ddryllio brau
Edafedd ei gobeithion,
Ond gwelai fysedd gwynion ffawd
Yn dattod dryslyd bwythi,
Symudliw rwydwaith tynged groes
Oedd wedi'i gwau am dani.
Gwenoliaid serch ddychwelai 'n ôl
I'w nŷth o dan ei dwyfron,
A lliwiau'r machlud wedi'r glaw
Oreurai ei breuddwydion.
A serch a hyder yn ei threm
Neshâi i wydd y brenin,
A'i hwyneb unlliw tlysni'r haul
A'r gymmyl y Gorllewin.

"Arglwyddes dêg, moes wybod im'
Pa feddwl sydd i'r newydd
Lyfasa dorri hedd y llŷs
A süad ei adenydd?"

"Fy mrawd," ebr hi "o glywed am
Fy mhennyd trwm, a'm cwynfan
Yw'r mynydd anferth weli draw
Yn nyfroedd bâs yr Archan.
Gwernenau llongau yw y coed
Ganfyddai ar y weilgi,
A benyr pali rhuddgoch llid
Yn addurn i'w hwylbrenni.
Mae 'i gledd â newyn ar ei fin
Am frasder gwaed Iwerddon,
A'i wŷr yn dod a chyfiawn ddig
Yn tanio gwaed ei galon."


•••••••••••• ••••••••••••

Mae'r frwydyr drosodd!—Natur daenai fantell
O esmwyth wỳll dros le 'r gyflafan syn;
Dwy deyrnas gadarn, yn eu dû, alarant
Fel mammau llesg ar fedd eu cynfab gwyn.

Rhaid wrth y dymmestl gref yn nheyrnas natur,
Disgyna'r storm a'r fendith law yn llaw;
Mae'r ddôl yn lasach wedi'r gawod arw,
A glesni'r nef yn burach wedi'r glaw.


Os gyrwyd gweddill prin y gwledydd ysig
I geisio porth unigrwydd ogof bell,
Ar faes y gâd, yfasai waed y tadau,
Y caed cyweirnod cynta 'r deyrnas well.

vi.
Edrychai'r gaeaf dû fel barnedigaeth
Ar weddill hâf yn nhemlau glasgoed Môn;
Oernadai'r gwynt dros erwau llaith marwolaeth
A thelyn fawr yr aig oedd leddf ei thôn.

Drwy flin wylfeydd y nôs, dros fôr Iwerddon,
Ar bwys y rhwyfau preiff, a'r awel gref,
Y croesai unig long brif-ffordd yr eigion
Fel adain wèn aflonydd dan y nef.

O dan y llong gruddfanai 'r cefnfor garw,
A'r gwynt alarai yn ei hwyliau llaith;
Y môr ddyruai atswn tynged chwerw,
Ac nid oedd salm ar fron y dyfnder maith.

Y Saith Dywysog blygent wrth y rhwyfau,
Eisteddai y Frenhines dan yr hwyl,
Roedd ing yn siglo'i henaid i'w ddyfnderau,
A chwmmwl tristwch ar ei hwyneb gwyl.


Dinystriwyd nef ei breuddwyd yn Iwerddon,
Ac nid oedd cartref yn Eryri chwaith;
Pan lâs ei cheraint gan hûd-gledd Caswallon,
A throi o'r wlad yn anial-feusydd llaith.

Yr awel hallt gusanai 'i gruddiau gwelwon,
A'r ewyn balch orchuddiai'i bron liw 'r càn;
Ac ar linynau briw ei chlwyfus galon
Y crynai miwsig dyfnaf enaid gwan:-


"Lleddf yw sü yr eigion,
Oer yw min y chwa,
Trist yw galar-gerddi
Ysbryd gweddw'r hâ'."

"Trwm yw'm bywyd innau,
Briw yw'm serch yn awr,
Angladd fy ngobeithion
Lwydodd wrid fy ngwawr."

"Gwelais hedd yn siglo
Llaw o bobtu'r lli',
Ac yn rhoi y fendith
Ar fy modrwy i."

"O'r cyfammod hwnnw
Ganwyd eppil brâd;
Fflam fy nghariad cyntaf
Fu'n dinystrio'm gwlad."


"Dyfnion yw fy nghlwyfau—
Oes yn rhywle falm?
Droir anghydgord daear
Rywbryd etto 'n salm?"


O lwybrau'r lli' yn flin doi 'r dòn aflonydd
I geisio'i hendref glŷd ym mreichiau'r glennydd,
Ger Aber Alaw, megis hŷdd siomedig,
Y torrai 'i chalon ar y draethell unig.
Dyruai'r gwynt alargerdd tlysni anian,
A phrophwydoliaeth gwae oedd crawc y fôrfrân;
Ac, fel ffoadur llesg, yn ewyn trosti,
Tarawai'r llong y traeth, a'r wawr yn torri!
Hyd lannau'r Alaw crwydrai Merch yr Hwyrnos,
Fel enaid ar geulannau 'r bythol wyllnos.
Daeth atti un o dylwyth y cysgodion,
A chyda'i fingul wefus eiliw 'r mafon,
Sisialai yn ei chlust am ardal dlosgain
Tu hwnt i bell wyryfol wrid y Dwyrain.
Lle mae profiadau serch yn hedd di-ddiwedd
Heb dynged flin i dorri y gynghanedd;
Lle llithra 'r oriau fel munydau byrion
Dan sain feddalfwyn adar cân Rhiannon;
Lle chwery serch yn ifanc ac anfarwol,
A gofid fyth tu faes i'r drws cyfriniol.
Diflanai'r hûd! Murmurai llif yr Alaw
Fygythion tynged uwch ei hiraeth distaw,
Y llwydd a welodd yn ei breuddwyd cynnar
Oedd wedi troi i angerddoli 'i galar.

Fel sylla mam ar fedd o dan yr ywen
A'i henaid yn ei threm, edrychai Branwen
Dros wyn y dòn ar fryniau pell Iwerddon,
Ag anhreithiedig wedd Cadernid Arfon.
"Mae'r tir," ebr hi, "yn anial noeth o'm hachos
Nid oes i mi, ond ing fy serch yn aros."
O dan ei dirfawr gyni pwys ochenaid
Ddiwedda 'i chariad rwygodd wraidd ei henaid,
Ar edyn honno 'r dlysaf o'r rhianedd
A ffoes i fyd di-ofwy y gynghanedd.




Bala: Davies ac Evans
1907.



Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.