Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Bro Ann Griffiths
| ← Teilwriaid | Llyfr Darllen ac Ysgrifennu gan John Lloyd |
Hen Gwch Fy Nhad → |
X.—BRO ANN GRIFFITHS.
TOC, dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion, serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,—ni wiw i mi ddechreu enwi'r côr,— oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a ŵyr nad yn sŵn yr afon hon y canwyd gyntaf,—
"Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloew fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.”
Toc, gadawodd yr afonig a minnau gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais innau ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fyny'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gŵr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd, braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd—ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth_ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau, gwelwn Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r ty'n newydd, a golwg lân a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau,—yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol, rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.
GWERSI.
I.—Dodwch dy, fy, ei (gwrryw a benyw) o flaen pob un o'r geiriau hyn, a newid y llythyren gyntaf fel bo'r angen:— croesffordd; llaw; braich; pen; meddwl; cyfan nedd; gwrych; breuddwyd; twyn; dyffryn.
II.—Defnyddiwch yr ymadroddion hyn mewn brawddegau cyfain:— (1) ar yr ochr arall; (2) yn dryloew; (3) ar fin y dŵr; (4) ni wiw; (5) wedi ei dorri; (6) mai wrth syllu; (7) ymhellach bellach; (8) gwmni ein gilydd; (9) o bobtu; (10) y tu hwnt; (11) rhai ohonynt.
III.—Chwiliwch am eiriau a'u hystyr yn wrthgyferbyniol i'r rhain:—
gwaelod; ar y dde; serth; tawel; prydferthwch; miloedd; dechreu; dwfn; cyfoeth; glân a chysurus. poeth; gwastad;
IV.—Disgrifiwch a ganlyn gyda'r geiriau yn y dyfyniad neu â rhyw eiriau a gofiwch chwi:—
craig; cae; llecyn; rhedyn; llwybr; ffrwd; cwm; bryn; gwres; ffordd; dwfr.
V.—Gwnewch restr o'r blodau a enwir yn y darn uchod a disgrifiwch hwy yn fanwl.
VI.—Ewch chwithau am dro i gartref enwog yn eich cymdogaeth, ac ysgrifennwch hanes y daith mor fyw ag y gwna yr awdwr uchod.