Neidio i'r cynnwys

Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Dysgeidiaeth

Oddi ar Wicidestun
Cyfeillgarwch Llyfr Darllen ac Ysgrifennu

gan John Lloyd

Y Wawr

XLIII.—DYSGEIDIAETH.

HAWDD fyddai dangos pa fodd i godi rhifedi digonol o ysgolion da yng Ngogledd a Deheudir Cymru; ond, os goddefir inni fenthyca cymhariaeth o eiddo Sophocles,[1] y mae cynlluniau teg ar bapur yn fwy disylwedd na chysgod mwg," hyd nes delo y wlad i deimlo yn deilwng yn yr achos. Ond gwyddom ar yr un pryd fod yn haws cael y wlad i deimlo ac i weithredu, na llawer o bersonau sydd yn cymeryd arnynt ei harwain. Pe argyhoeddid ein cydwladwyr i weld yn iawn pa beth yw dysgeidiaeth, ynghyda'r gwerth sydd ynddo, byddai yr alwad yn rhwym o greu moddion digonol yn fuan tuag at ddiwallu yr angen. Ceid gweld bechgyn doniol yn heidio i'r ychydig ysgolion ieithyddol sydd eisoes wedi eu codi. Adferid yr hen sefydliadau a'r arian sydd yn perthyn iddynt, i'w diben cyntefig. Byddai yn chwyldroad cyffredinol ym myd y pryf copyn, yr hwn sydd yn awr wedi cymeryd meddiant o lawer hen ysgoldy enwog; ac os digwyddai i ambell un fod yn ddigon cyfrwys i lechu yn guddiedig ynghanol y dinistr a oddiweddai ei dŷ a'i dylwyth, nid bychan yn ddiau fyddai ei syndod wrth glywed iaith ardderchog yr hen Homer yn cael ei pharablu unwaith eto, sŵn yr hon sydd yn ddigon i swyno creadur direswm. Ac ni fyddai hyn oll ond rhan o ganlyniadau daionus y cyfnewidiad hwn. Ceid gweld y gwŷr dysgedicaf yn holl drefydd Cymru yn ei chyfrif yn fraint ac yn anrhydedd i gael bod yn ysgolfeistri; a meibion y teuluoedd boneddigeiddiaf yn cael eu dwyn i fyny i'r swydd honno. Ond cyn y gwelir hyn oll, y mae llawer i'w wneuthur tuag at oleuo y genedl, ac ehangu ei golygiadau.

Mewn perthynas i ansawdd dysgeidiaeth, meddylia rhai ei fod yn gynwysedig mewn llaw—ysgrifen dda. Mae yn wir fod hon yn gelfyddyd ddefnyddiol, fel y mae y gelfyddyd o aredig, neu wneyd esgidiau; ond y mae y tu allan yn llwyr i gylch dysgeidiaeth. Meddylia eraill nad oes dim yn angenrheidiol i wneyd dyn yn ddysgedig ond medru rhes o eiriau mawrion, megis,—centrifugal a centripetal. Ac os bydd gan ddyn ryw grap o dair neu bedair o ieithoedd, y mae ei ddysgeidiaeth yn mynd yn anfesuradwy, ac edrychir arno fel yn meddu ar alluoedd gwyrthiol. Llawer un a welwyd yn marchog yn ogoneddus ar gefn y syniad twyllodrus hwn. Ond dealler o hyn allan nad oes neb yn meddu hawl i son am ei ddysgeidiaeth, os na fydd yn alluog i gyfieithu unrhyw lyfr Lladin neu Groeg heb gymorth gramadeg na geirlyfr. Dyma y dosbarth isaf, dyma y cyntedd nesaf allan. Cyn y dichon iddo gael derbyniad i'r dosbarth arall, yn yr hwn y mae y dysgedigion pennaf yn cartrefu, y mae yn rhaid iddo fedru ysgrifennu Lladin a Groeg yn gywir, heb gymorth gramadeg na geirlyfr, a hynny yn rhwydd ac yn rhydd. Dyma i chwi waith, lanciau Cymru, a gwaith y mae yn rhaid i chwi ymaflyd ynddo o ddifrif, os ewyllysiwch fod yn ddynion dysgedig.

Dr. Lewis Edwards.

GWERSI.

I. Ymhelaethwch ar yr ymadroddion hyn:—

(a) Y mae cynlluniau teg ar bapur yn fwy disylwedd na "chysgod mwg"; (b) Haws cael y wlad i deimlo ac i weithredu na llawer o bersonau sydd yn cymeryd arnynt ei harwain; (c) Mae yn wir fod hon yn gelfyddyd ddefnyddiol.

II. Atebwch y gofyniadau hyn mewn arddull mor gryno ag sydd gan yr awdwr:—

(1) Beth oedd prif angen Cymru yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

(2) Beth fuasai'r canlyniadau wedi cyflenwi'r angen hwnnw?

(3) Pa beth yw Dysgeidiaeth yn ol Dr. Edwards? A ydych yn cytuno âg ef? os nad ydych, rhoddwch eich rhesymau.

III.—Ysgrifennwch draethawd byr ar "Addysg," gan sylwi ar yr awgrymiadau canlynol:—

(1) Gwerth addysg i ddyn:—

"Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi; cadw hi; canys dy fywyd di yw hi."—Y Gwr Doeth.

(2) Gwerth dyn dysgedig i'w wlad:—

"Y mae dyn o athrylith yn werth mil o benbyliaid. Ymha gornel bynnag ac ymha ddiwyg bynnag y gwelwch ef, Gymry mwynlan, meithrinwch ef yn ofalus, fel y mae y gwenyn yn meithrin eu brenhines."—Dr. Lewis Edwards.

(3) Dyledswydd y rhieni tuagat addysg eu plant:—

"O flaen popeth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallent eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y nefoedd a'r ddaear o'u blaen trwy hyn."—Ieuan Gwynedd.

(4) Dyledswydd y plant at eu haddysg.

Nodiadau

[golygu]
  1. Un o feirdd Groeg (496—405 c.c.)