Neidio i'r cynnwys

Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Llys Imanuel

← Yr Haf Llyfr Darllen ac Ysgrifennu

gan John Lloyd

Y Bugail →

XXXVII.—LLYS IMANUEL.

"TYRD trwodd weithian," eb yr Angel, ac a'm tynnodd i mewn, lle gwelwn yn y porth, yn gyntaf, fedyddfaen[1] mawr; ac yn ei ymyl ffynnon o ddwr hallt. "Beth a wna hon ar lygad y ffordd? " ebr fi. Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys Imanuel; hi a elwir Ffynnon Edifeirwch. Uwch ben gwelwn yn ysgrifenedig,—Dyma borth yr Arglwydd," &c. Yr oedd y porth a'r ystryd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ymlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystryd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol,—" Dyna'r ffordd, rhodia ynddi." Yr oedd yr ystryd ar orifyny, eto'n bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nac yn y Ddinas Ddihenydd, eto'r oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mae hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd gennyf y distawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu a'r rhegi, a'r gwawdio a meddwi; yn lle balchder ac oferedd, y syrthni'n y naill gwrr, a thrawstni'n y cwrr arall; ie, yn lle'r holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd oedd yno'n pendifadu dynion yn ddibaid; ac yn lle'r aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder, a sirioldeb, heddwch a diolch— garwch, tosturi, diniweidrwydd, a boddlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddieithr ambell un a wylai'n ddistaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnnw; dim ofn ond rhag digio eu Brenin, a hwnnw'n barotach i gymodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn ond Salmau mawl i'w Ceidwad.

"Ertolwg,"[2] ebr fi, "f' Arglwydd, a gawn ni neshau i gael manylach golwg ar y brenhinlle godidog hwn?" Canys cyneshasai fy nghalon i wrth y lle er y golwg cyntaf. "Cei'n hawdd," eb yr Angel, oblegid yna mae fy lle, a'm siars, a'm gorchwyl innau." Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y rhyfeddwn uched, gryfed a hardded, laned a hawddgared oedd pob rhan ohoni, gywreinied y gwaith, a chariadused y defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethol oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hynny, wedi eu gosod a'u cysylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le ei hun.

—Ellis Wynne.

GWERSI.

I.—Rhoddwch y geiriau gwrthgyferbyniol eu hystyr i'r rhain:—

meddiannau; trwst; tyngu a rhegi; tosturi; cas; isod; seigiau.

II.—Gwnewch frawddegau cyflawn yn cynnwys y geiriau neu'r ymadroddion hyn:—

(a) ar lygad y ffordd; (b) fel yr elid; (c) ronyn; (ch) bu ryfedd; (d) wrth i waered; (dd) mwyfwy; (e) er y golwg cyntaf.

III.—Disgrifiwch a ganlyn mewn byr eiriau mor fyw ag y gwna Ellis Wynne:—

(1) Porth y ddinas; (2) Meini'r ddinas.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ S., christening font;
  2. ↑ atolwg.