Neidio i'r cynnwys

Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Taith i Gardota

← Hel Llus Llyfr Darllen ac Ysgrifennu

gan John Lloyd

Cymru →

II.—TAITH I GARDOTA.

BU Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau,[1] a dychrynnwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw sŵn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod inni filltiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr ym Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan ohonynt, yn ein hysgrepan.[2] Heblaw hynny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd,[3] edau grydd, a morthwyl bychan, tuagat drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuagat drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hynny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na minnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned ymhell oddicartref. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Thowyn, Meirionnydd, deallasom y costiai inni ddwy geiniog bob un am groesi yr afon i Aberdyfi. Nid oedd gennym ni yr un ddimai o arian; gan hynny, bu raid inni werthu yr ychydig ŷd oedd gennym i gael pedair ceiniog i dalu i'r cwch. Gwerthasom y cwbl am bedair ceiniog. Cafodd rhywun fargen dda. Yr oedd yr ŷd yn werth hanner coron o leiaf, feddyliwn. Daethom i draeth yr afon Dyfi, ond bu raid inni aros am gryn ddwy awr am y cwch o'r ochr arall. Yr oedd yn drai; ond cyn i'r cwch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn. Daeth boneddwr tirion atom. Bob yn dipyn, holodd ni. Dywedasom ninnau ein holl hanes. Gwnaeth inni ddarllen o'r Beibl oedd gennym, ac adrodd pethau a ddysgasem. Wedi croesi yr afon, dywedodd wrth y cychwr,— "Yr wyf fi yn talu dros y plant bach." Ni ddeallasom ni ef ar y cyntaf, a phan oeddym a'r pres yn ein dwylaw yn eu cynnyg i'r cychwr, dywedodd hwnnw fod y boneddwr wedi talu drosom. Pwy ydoedd, ni wyddem ni; dyna yr olwg olaf a welsom ni arno; ond fe wnaeth weithred dda, pwy bynnag ydoedd, gweithred a goffeir yn nydd y farn ddiweddaf.

—Ap Vychan.

GWERSI.

I.—Defnyddiwch y geiriau bach hyn mewn brawddegau, gan sylwi'n fanwl pa fodd y defnyddir hwy yn y darn uchod:—

a, ac, ag, ar, a'r, er, i'r, o'r.

II.—Ysgrifennwch y dernyn hwn fel pe buasech chwi eich hunan ar daith:—

Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynnwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisom i gysgu. Rhyw sŵn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod inni filltiroedd lawer o ffordd,—naw, o leiaf."

III.—Ffurfiwch enwau o'r geiriau hyn:—

cardota; dychrynnodd; gorffwysasom; edau; croesi; cwch; bonedd; golwg.

IV. Cyfansoddwch frawddegau yn cynnwys y geiriau canlynol:—

ond odid; ohonynt; heblaw hynny; tuagat; gan hynny; bob yn dipyn; pa fodd bynnag; pwy bynnag.

V.—Ceisiwch wella y brawddegau yma:—

1. Ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem. 2. Bu Evan, sydd yn awr ym Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth. 3. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Towyn, Meirionnydd. 4. Ond cyn i'r cwch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ barns;
  2. ↑ côd, S., wallet;
  3. ↑ an awl.