Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Walton
| ← Heddwch a Therfysg | Llyfr Darllen ac Ysgrifennu gan John Lloyd |
Cyflafan Morfa Rhuddlan → |
XXXIII.—WALTON.
FY ANNWYL GAREDIG GYDWLADWR,
Dyma fi yn Walton o'r diwedd, ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, ynghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae'r gŵr yn edrych yn ŵr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd ef yn ei ffordd. Mae y gwas a'r forwyn (yr hyn yw yr holl deulu a fedd) yn dywedyd mai cidwm[1] cyrrith,[2] anynad,[3] drwg—anwydus, aruthr yw. Ond pa beth yw hynny imi? Bid[4] rhyngddynt hwy ac yntau am ei gastiau teuluaidd; nid oes imi ond gwneyd fy nyledswydd, ac yna draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hŷf am dano, na chlywais erioed haiach[5] well pregethwr, na mwynach ymgomiwr. Cliniach[6] o ddyn amrosgo[7] ydyw—garan anfaintunaidd[8]—afluniaidd yn ei ddillad, hyd a lled aruthr, anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i ddrem[9] arwguch[10] yn tolcio ym mhen pob chwedl ddigrif, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil gennyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynnau duon fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong. Bellach e fyddai gymwys rhoi i chwi ryw gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond nis gwn eto ddim oddiwrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob ymborth. Eto fe gynhygiwyd imi le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu ataf) yn ol wyth bunt y flwyddyn; a pha faint rhatach y byrddiwn ym Môn? Nid yw y bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf fi, ond un radd uwchlaw Hottentots—rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir â hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd pwmp mwy na buwch. Eto yr wyf yn clywed mai llwynogod henffel,[11] cyfrwys—ddrwg, dichellgar ydynt. Ond yr achlod iddynt, ni'm dawr[12] i o ba ryw y bônt.
Pymtheg punt ar hugain yw yr hyn a addawodd fy mhatron imi, ond yr wyf yn deall y bydd yn beth gwell na'i air. Ni rydd imi ffyrling ychwaneg o'i boced, ond y mae yma Ysgol Râd, yr hon a gafodd pob Curad o'r blaen, ac a gaf finnau, oni feth, ganddo. Hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn, heblaw tŷ yn y fynwent i fyw ynddo. Fel hyn y mae. Pan fu farw y Curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi yr ysgol i'r clochydd; ac yn wir, y clochydd a fyddai yn ei chadw o'r blaen, ond bod y Curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoi hi i neb; ond i'r Person y perthyn hynny; ac y mae efe yn dwrdio gwario 300 neu 400 o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly, yr wyf yn o led sicr o'i chael hi.
GWERSI
I.—Defnyddiwch yr ymadroddion hyn mewn brawddegau cyfain:—
(a) yn fy nhaith; (b) yn groesawus ddigon; (c) fe orfu arnaf; (ch) o'r mwynaf; (d) rhyngddynt hwy a; (dd) draen yn ei gap; (e) ond ni waeth i chwi hynny na phregeth; (f) llygadrythu; (f) pwmp mwy na buwch; (g) y bônt; (ng) erbyn edrych; (h) ym mhen; (i) ymhen.
II.—Dodwch ansoddair neu enw, ar ol, neu o flaen, y geiriau hyn fel y bo'r angen:—
lludded; anynad; teuluaidd; ymgomiwr; amrosgo; afluniaidd; aruthr; trem; ffrwd; anferth; lle; creaduriaid; henffel.
III.—Disgrifiwch y pethau hyn mewn ychydig eiriau:—
(1) Person Walton,—ei faint, ei drem a'i arferion.
(2) Y wlad o amgylch Walton.
(3) Trigolion Walton yn amser Goronwy Owen.
IV.—Ysgrifennwch lythyr at eich cyfaill yn darlunio, mor fyw a naturiol ag y gwna Goronwy Owen, ryw gymeriad hynod sy'n byw yn eich ardal.