Llyfr Darllen ac Ysgrifennu/Y Bugail
| ← Llys Imanuel | Llyfr Darllen ac Ysgrifennu gan John Lloyd |
Y Gymraeg → |
XXXVIII.—Y BUGAIL.
WERINWR syml y bryniau,—ni rydd ef
Werth ar dda na moethau;
Yn fwy na'r oll câr fyw'n rhydd,
Câr llonydd y corlannau.
Llin[1] a gwlan wisg am dano,—edafedd
A lliw difalch arno;
Ni cheir sidan dan ei do,—nac ychwaith,
Ryw segur eddwaith[2] ar wisg o'i eiddo.
O ba werth ymhlith perthi—y mynydd
Fa'i meinwisg o bali?
Mewn diwrnod ei datod hi
Wnai'r marian[3] a'r mieri.[4]
Onid gwell un wedi'i gwau—o gnuog[5]
Gynhaea'r corlannau?
Ni eill llem hin ei llymhau,
Na gwyfyn[6] y gaeafau.
Troer i gel gartre'r gŵr,
I'w dyddyndŷ diddwndwr;
Gyda'i wledig frig o frwyn,
Ger cilwgus gwr clogwyn.
Is gwiail llwyn ysgawen,
O olwg byd, plyg ei ben
Fel o wylder, tra'i gerrig
Yr un gen[7] a phrennau gwig:
O liw arno, cen henoed
A lliw'r hin yw'r oll a roed.
Wedi hirnych[8] pob diwrnod
Iddo daw o'i fynydd, dod
Fel aderyn—derfyn dydd
O fe gâr ei fagwyrydd![9]
Ni cha yno gofio'i gur
Gan y gusan ga'n gysur.
Fab rhyddaf y boreuddydd,—ei ofal
A'i cyfyd o newydd;
Cyn llwydole'r bore bydd
Yn rhodiannwr hyd waenydd.
Foreued cwyd uchedydd
O'r rhedyn er derbyn dydd;
Heibio'i nyth â chwiban iach
A rhywun yn foreuach.
Trwy'r wlithog ddol dyddiol dyr
Ei wlyb blygeiniol lwybyr.
Gyda'i gi i'w adeg el—i'r mynydd,
Er meined yr awel;
O dawch rhyw gwmwd uchel,
Gwrid y wawl ar gread wel.
Ar gernau[10] a grug arnynt
Yf, fel geifr, lif haul a gwynt;
Cymydog i hebog_yw,
Ac i redyn câr ydyw.
Liw dydd tan wŷdd teneuddail
Yng nghysgod eisteddfod dail,
Fe wrendy ar fireinder[11]
Caethiwol pob cathlau pêr;
Neu beroriaeth ffraeth y ffrwd
Yn nhes Ebrill yn sibrwd
Wrthi 'i hun, ar ddechreu 'i thaith,
Am ei haber,—am obaith.
GWERSI.
I.—Gwnewch restr o'r seiniau a'r geiriau hynny yn y dyfyniad a rydd i chwi syniad o dawelwch.
II.—Disgrifiwch mewn ychydig linellau (a) gwisg y bugail; (b) ei gartref,—y tu mewn ac oddiallan; (c) diwrnod bugail ar y mynydd.
III.—Ysgrifennwch y brawddegau fel llinellau o farddoniaeth:—
(a) Car fyw'n rhydd, a llonydd y corlannau yn fwy na dim; (b) Am dano gwisga lin a gwlan; (c) plyg ei ben o dan wiail llwyn ysgawen, o olwg y byd; (ch) Nid yw yn cael cofio'i gur yno gan y gusan a gaiff yn gysur; (d) Tyr ei lwybr gwlyb a phlyg— einiol trwy ddôl bob dydd; (dd) Yr hebog yw ei gymydog a'i gâr yw'r rhedyn.
IV.—Ysgrifennwch draethawd ar "Y Bugail," gan sylwi ar a ganlyn:—
(1) Ei fywyd hapus:—
"Bywyd bugail, bywyd yw
Nas gŵyr y byd am dano."—Ceiriog.
(2) Cŵn y bugail:—
"Un o anhebgorion bugail yw ei gi."—Gwilym Marles.
(3) Adnabod ei ddefaid:—
"Un o'r profion goreu o fugail da yw y gŵyr os bydd un ddafad ar ddisperod heb rifo."
—Gwilym Marles.